Closed call for evidence

Strwythur ffïoedd a chodi tâl Cofrestrfa Tir EF

Published 8 March 2024

Applies to England and Wales

Cwmpas yr alwad am dystiolaeth

Pwnc y cais hwn am dystiolaeth

Mae Cofrestrfa Tir EF (CTEF) yn ymgynghori ar strwythur ffïoedd a chodi tâl y sefydliad ar gyfer y dyfodol.

Cwmpas yr alwad hon am dystiolaeth

Mae’r cais hwn am dystiolaeth yn ceisio barn ar sut gallai CTEF gynyddu’r ffyrdd o gyrchu data’n ymwneud â thir ac eiddo er mwyn sicrhau mwy o dryloywder tir a diweddaru ei strwythur ffïoedd a chodi tâl i’w gwneud yn symlach i gwsmeriaid a chreu effeithlonrwydd gweithredu. Mae’n ceisio barn benodol ar gefnogi’r agenda gwybodaeth am dir ac eiddo ac annog arloesedd trwy ddulliau gwell a mwy agored o gyrchu data CTEF, moderneiddio a symleiddio ei strwythur ffïoedd a sicrhau bod ffïoedd yn deg ac yn rhesymol ar draws ei sylfaen cwsmeriaid.

Cwmpas daearyddol

Byddai’r newidiadau canlyniadol yn gymwys i ffïoedd CTEF yng Nghymru a Lloegr, gan fod cofrestru tir yn fater a gedwir yn ôl yng Nghymru. Mae cofrestru tir yn bŵer datganoledig yng ngwledydd eraill y DU.

Asesiad effaith

Nid yw’r cais hwn am dystiolaeth yn cynnig unrhyw atebion polisi. Byddwn yn ymgynghori ymhellach ar unrhyw gynigion ar gyfer newid.

Gwybodaeth sylfaenol

Corff/cyrff sy’n gyfrifol am yr alwad am dystiolaeth:

Cyhoeddir y cais hwn am dystiolaeth gan CTEF.

Hyd

Bydd y cais hwn am dystiolaeth yn para am 4 wythnos o 8 Mawrth 2024. Bydd yn cau ar 5 Ebrill 2024.

Ymholiadau

Am unrhyw ymholiadau am yr alwad am dystiolaeth, cysylltwch â: feesandchargingstructure@landregistry.gov.uk

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r cyswllt arolwg hwn.

Rydym yn annog yn gryf ymatebion trwy’r arolwg ar-lein. Mae defnyddio’r arolwg ar-lein yn gymorth mawr i’n dadansoddiad o’r ymatebion, gan alluogi ystyriaeth fwy effeithlon ac effeithiol o’r wybodaeth a ddarperir.

Fodd bynnag, os nad yw’n bosibl ichi ddefnyddio’r arolwg ar-lein, cysylltwch â ni i drafod fformatau eraill gan ddefnyddio’r cyfeiriad ebost: feesandchargingstructure@landregistry.gov.uk neu trwy ysgrifennu at:

Strategic Finance Team 
HM Land Registry 
7th Floor 
Trafalgar House 
1 Bedford Park 
Croydon 
CR0 2AQ

Rhagair

Mae Cofrestrfa Tir EF yn lansio’r alwad hon am dystiolaeth i gasglu eich barn ar sut y gallem ailstrwythuro ein fframwaith ffïoedd a chodi tâl er mwyn gwella’n gwasanaethau i gwsmeriaid a chynyddu tryloywder data tir ac eiddo. Rydym yn gobeithio cael barn gan gynulleidfa eang, nid yn unig ein cwsmeriaid uniongyrchol, ond unrhyw un sy’n rhyngweithio â ni ac yn defnyddio gwybodaeth, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, nawr ac yn y dyfodol.

Nid yw ein strwythur ffïoedd a chodi tâl wedi newid yn sylweddol ers ei gyflwyno 160 mlynedd yn ôl, ac o ganlyniad, nid yw bellach yn cyd-fynd yn iawn â’r ffordd y mae’r byd a’r farchnad eiddo yn gweithio. Mae’n ddiangen o gymhleth, yn anodd i gwsmeriaid proffesiynol ac eraill ei ddeall, ac nid yw’n gweithio i gefnogi ein hamcanion ehangach. Teimlwn fod hon yn farn a rennir yn weddol eang ar draws y sector.

Wrth wneud y newidiadau hyn a symleiddio’r fframwaith, rydym am gefnogi’r gwaith o gyflawni ein Strategaeth 2022+ sy’n nodi’n gweledigaeth ar gyfer marchnad eiddo sy’n arwain y byd fel rhan o economi ffyniannus a dyfodol cynaliadwy. Yn draddodiadol, mae CTEF wedi canolbwyntio ar wasanaethau trafodion. Er bydd y rheini’n parhau’n hanfodol, mae’r strategaeth yn ein galluogi i newid arbenigedd a chapasiti er mwyn inni wella tryloywder tir a sicrhau gall ein gwybodaeth fod yn gonglfaen i economi gynaliadwy sy’n cael ei hysgogi gan ddata. Rydym am ddod yn alluogwr a dylanwadwr sy’n hollbwysig i wireddu potensial y farchnad eiddo ledled y wlad, gan sicrhau bod data eiddo yn fwy cyfartal, gwneud trafodion eiddo mor esmwyth â phosibl, a thyfu’r economi mewn modd cynaliadwy.

Diolch ichi am gymryd yr amser i ddarllen ac ymgysylltu â’r alwad hon am dystiolaeth. Edrychwn ymlaen at glywed eich barn.

Simon Hayes
Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir, Cofrestrfa Tir EF

Crynodeb gweithredol

Adran anweinidogol sy’n gyfrifol am warchod yr hawl i eiddo a darparu gwasanaethau a data sy’n sail i farchnad eiddo effeithlon a gwybodus yw Cofrestrfa Tir EF (CTEF). Trwy gadw’r cofnod pendant a gwarantedig o berchnogaeth eiddo yng Nghymru a Lloegr, rydym yn caniatáu i eiddo gael ei drin yn ddiogel ac yn hyderus.

Er 1 Mehefin 2023, mae CTEF wedi bod yn gorff partner i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.

Amcan CTEF yw darparu gwasanaeth digidol, effeithlon a diogel i’r farchnad eiddo a gwneud y mwyaf o botensial y data sydd ganddi. Rydym yn parhau i archwilio ffyrdd y gallwn ddarparu mwy o dryloywder a chyrchu’n gwybodaeth perchnogaeth ar-lein yn haws, gan ystyried risgiau twyll a moeseg data.

Mae CTEF yn codi tâl am rai o’r gwasanaethau a ddarperir gennym. Mae’r ffïoedd ar gyfer ein gwasanaethau statudol wedi eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth (Gorchymyn Ffïoedd) a chaiff y ffïoedd ar gyfer ein setiau data a’n gwasanaethau data eu pennu mewn ymgynghoriad â Thrysorlys EF ac yn unol â chanllawiau Rheoli Arian Cyhoeddus.

Mae cwsmeriaid yn talu am gael gwybodaeth am berchnogaeth eiddo ac elfennau eraill sy’n effeithio ar ddefnydd tir, megis amodau cynllunio a statws adeilad rhestredig, yn aml cyn prynu tir neu eiddo.

Fel arfer, mae angen i drafodiad tir neu eiddo gael ei gofnodi gan CTEF, a thelir ffi i ddiweddaru’r gofrestr yn dibynnu ar y math o drafodiad (newid perchnogaeth, morgeisi a hawliau eraill), ei werth a sut caiff ei gyflwyno (ar-lein neu trwy’r post).

Mae ein strwythur ffïoedd a chodi tâl presennol yn gymhleth ac nid yw wedi cael ei ddiwygio’n sylweddol ers ei gyflwyno. Mae hyn yn aml yn arwain at dalu’r ffïoedd anghywir. Yn 2023, anfonodd CTEF tua 141,000 o ymholiadau (ceisiadau am ragor o wybodaeth neu eglurhad) yn ymwneud â ffïoedd, yn ysgrifenedig a thros y ffôn, ac arweiniodd hyn at oedi i’r ceisiadau.

Rydym felly’n ceisio barn ar sut gallem gynyddu’r ffyrdd o gyrchu data’n ymwneud â thir ac eiddo er mwyn sicrhau mwy o dryloywder tir yn ogystal ag ailstrwythuro’n ffïoedd i’w gwneud yn symlach i gwsmeriaid ac i greu arbedion effeithlonrwydd wrth sicrhau bod ein costau’n cael eu talu a’n bod yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau modern ac effeithlon mae cwsmeriaid yn awyddus i’w cael.

I helpu i ymateb i’r cais hwn am dystiolaeth, rydym wedi darparu rhestr termau y cyfeirir ati yn y ddogfen hon. Mae’r cwestiynau rydym yn eu gofyn yn y cais hwn am dystiolaeth wedi eu crynhoi isod. Mae manylion ar sut i ymateb i’r cwestiynau hyn wedi eu nodi uchod. Rydym yn argymell eich bod yn ymateb ar-lein gan ddefnyddio’r arolwg.

Thema 1 – Cefnogi’r agenda gwybodaeth am dir ac eiddo ac annog arloesedd trwy ddulliau gwell a mwy agored o gyrchu data CTEF

Cwestiwn 1: Sut ydych chi neu eich sefydliad yn defnyddio data CTEF? Pa mor bwysig yw data CTEF i chi neu eich sefydliad? Sut rydym yn cymharu â’r pum sefydliad rydych chi’n eu defnyddio amlaf i gael data tir ac eiddo?  

Cwestiwn 2: Pa ddata arall fyddai’n ddefnyddiol ichi pe bai ar gael (gan gynnwys data a gedwir yn rhywle arall neu nad yw wedi ei gasglu ar hyn o bryd) ac ar gyfer beth fyddech chi’n ei ddefnyddio? Pa mor bwysig yw’r data hwn ichi?

Cwestiwn 3: Pa bryderon, risgiau neu gyfleoedd ydych chi’n eu rhagweld wrth wneud ein data tir ac eiddo yn fwy agored neu ar gael yn well?

Cwestiwn 4: A yw talu am ddata yn rhwystr?

Cwestiwn 5: Oes unrhyw rwystrau neu heriau eraill wrth gael a defnyddio data CTEF? Rhowch enghreifftiau.

Thema 2 – Moderneiddio a symleiddio ein strwythur ffïoedd

Cwestiwn 6: I ba raddau byddech chi’n cytuno ei bod yn hawdd cyfrifo union ffïoedd a chodi tâl gwasanaethau CTEF?

Cwestiwn 7: Ydy strwythur ffïoedd a chodi tâl CTEF yn creu rhwystrau a heriau? Rhowch enghreifftiau inni.

Cwestiwn 8: Pe byddech yn creu strwythur ffïoedd newydd, pa fath o strwythur fyddai hwn? Er enghraifft, gallai hyn olygu cyflwyno un ffi ar gyfer digwyddiad trafodiad eiddo yn hytrach na chodi tâl am wasanaethau unigol, neu ffïoedd safonol, neu ffïoedd ar raddfa.

Cwestiwn 9: Pa mor hawdd neu anodd yw talu am wasanaethau CTEF? (Meddyliwch am wneud taliadau a sianeli talu ond nid cyfrifo’r ffi.) Sut mae CTEF yn cymharu â sefydliadau eraill?

Cwestiwn 10: Ydych chi’n rhagweld unrhyw effeithiau negyddol pe byddem yn rhoi’r gorau i gymryd sieciau ac archebion post fel dull talu? Beth fyddai’n helpu i liniaru’r effeithiau hyn?

Thema 3 – Sicrhau bod ein ffïoedd yn deg ac yn rhesymol ar draws ein sylfaen cwsmeriaid

Cwestiwn 11: A ddylai CTEF osod ffïoedd gwahanol ar gyfer grwpiau o gwsmeriaid neu wasanaethau penodol? Os dylai, pa grŵp/gwasanaethau ddylai dalu mwy yn eich barn chi? Er enghraifft, unigolion, perchnogion ail gartrefi, diwydiant datblygu eiddo, awdurdodau lleol, trawsgludwyr, PropTech neu lwybr cyflym, cymorth gyda rheoli cyfrifon, gwirio cyn cyflwyno, ac ati.

Cwestiwn 12: Mae ein strwythur ffïoedd yn gymhleth. Ydych chi neu eich sefydliad yn defnyddio neu’n ymwybodol o fodelau ffïoedd a chodi tâl eraill (ar sail tanysgrifiad er enghraifft) mae sefydliadau eraill yn eu defnyddio ac a allai weithio i CTEF yn eich barn chi? Rhowch fanylion y modelau ffïoedd a chodi tâl gan gynnwys enw’r sefydliadau a’u manteision a’u hanfanteision.

Cwestiwn 13: A ddylai cwsmeriaid sy’n darparu data cais cyflawn a chywir, sy’n gofyn am lai o amser gwirio gan staff CTEF, dalu ffïoedd is am wneud ceisiadau? A fyddai ffïoedd is yn eich cymell chi neu eich sefydliad i gofrestru ar gyfer proses sy’n galluogi hyn?

Cwestiwn 14: Oes unrhyw wasanaethau ychwanegol neu gynigion masnachol y gallai CTEF eu datblygu i’ch cefnogi chi a/neu’n ehangach na hynny, gwelliannau yn y farchnad eiddo?

Rhagymadrodd

Gwaith CTEF

Adran anweinidogol yw CTEF ac er 1 Mehefin 2023, mae wedi bod yn gorff partner i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Rydym yn diogelu perchnogaeth tir ac yn darparu gwasanaethau a data sy’n sail i farchnad eiddo effeithlon a gwybodus.

Tir yw sylfaen diriaethol ein bywydau. Mae’n darparu ein bwyd, ein hecosystem, lle i fyw, gweithio a chwarae ynddo a’r holl seilwaith rhyngddynt. Mae cadw hawliau perchennog eiddo yn ddiogel yn gonglfaen cymdeithas ddemocrataidd. Mae marchnad eiddo weithredol yn sail i economi lwyddiannus a chynaliadwy. Amcangyfrifir bod gwerth tir yng Nghymru a Lloegr dros £8 triliwn, sy’n fwy na hanner cyfoeth y genedl. Gyda gwerth dros £260 biliwn o eiddo yn cael ei drin bob blwyddyn, mae marchnad eiddo’r DU yn un o’r rhai mwyaf yn y byd.

Mae CTEF wedi gwasanaethu fel y sefydliad hollbwysig sy’n gwarchod yr hawl i eiddo ac yn galluogi’r farchnad i weithredu am 160 o flynyddoedd. Trwy gadw’r cofnod pendant a gwarantedig o berchnogaeth eiddo yng Nghymru a Lloegr, rydym yn caniatáu i eiddo gael ei drin yn ddiogel ac yn hyderus.

Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar CTEF i indemnio am golledion sy’n deillio o wallau neu hepgoriadau yn y gofrestr teitl. Mae hyn yn cynnwys gwallau sy’n deillio o dwyll a gyflawnwyd gan drydydd partïon.

Ceir mwy na 26 miliwn o deitlau tir ac eiddo, yn cwmpasu tua 88% o arwynebedd tir Cymru a Lloegr. Mae gwybod pwy sy’n berchen ar ddarn o dir neu adeilad neu pwy sy’n ei feddiannu, beth sydd yno, a’r hyn y gellir neu na ellir ei wneud ag ef, yn llywio penderfyniadau pwysig bob dydd. Mae cyrchu gwybodaeth am dir yn galluogi unigolion, busnesau a’r Llywodraeth i gynllunio ar gyfer dyfodol sy’n ateb heriau heddiw, megis newid yn yr hinsawdd, yr angen am dai ac economi ffyniannus.

Yn Awst 2022, cyhoeddwyd ein Strategy 2022+, ‘Enabling a world-leading property market’. Mae’n amlinellu’n huchelgais i ddod yn alluogwr a dylanwadwr sy’n hollbwysig i wireddu potensial y farchnad eiddo, trwy wneud trafodion eiddo mor esmwyth â phosibl, darparu gwell ffyrdd o gyrchu data’n ymwneud ag eiddo a chefnogi twf economaidd cynaliadwy yn y DU. Ceir 5 piler i gyflawni ein strategaeth fel a ganlyn:

1 Darparu cofrestriad tir diogel ac effeithlon

Byddwn yn:

  • gwella cyflymder ein gwasanaeth fel mater o flaenoriaeth
  • cyflwyno gwasanaethau awtomeiddio a digidol sy’n integreiddio â thrawsgludo, i greu gwasanaeth cwsmeriaid gwirioneddol ragorol
  • cynnal ymddiriedaeth a hyder trwy fuddsoddi mewn arbenigedd a phroffesiynoldeb
  • gweithio gyda’r sector eiddo i gynyddu’r gallu i wrthsefyll twyll a bygythiadau seiber
  • archwilio manteision mapio tir digofrestredig i gynyddu tryloywder

2 Galluogi eiddo i gael ei brynu a’i werthu’n ddigidol

Byddwn yn:

  • gweithio gyda’r sector eiddo i ysgogi’r trawsnewidiad i broses gwbl ddigidol ar gyfer prynu a gwerthu eiddo
  • datblygu’n gwasanaethau i fod yn gwbl ddigidol ac wedi eu cysylltu’n hawdd ag elfennau digidol eraill y farchnad eiddo yng Nghymru a Lloegr
  • defnyddio’n gofynion ymarfer i hyrwyddo system ddigidol ddiogel a chynhwysol o drawsgludo, gyda safonau data a chysylltedd cyffredin

3 Darparu gwybodaeth eiddo sydd bron yn amser real

Byddwn yn:

  • cefnogi trawsgludwyr gyda chynllun i awtomeiddio’n gwasanaethau gwybodaeth, gan weithio tuag at gofrestr tir gwbl ddigidol wedi ei hintegreiddio o fewn system drawsgludo ddigidol lawn
  • blaenoriaethu’r gwaith o ddigideiddio’r wybodaeth gofrestr fwyaf defnyddiol
  • archwilio darparu mwy o dryloywder a chyrchu gwybodaeth am eiddo ar-lein
  • cwblhau’r gofrestr pridiannau tir lleol newydd, lle gellir cyrchu gwybodaeth ar unwaith

4 Darparu data cofrestr ddigidol hygyrch

Byddwn yn:

  • gwneud ein data yn fwy hygyrch, yn haws dod o hyd iddo, yn rhyngweithredol â data arall ac yn ailddefnyddiadwy i gynyddu ei werth ehangach
  • trwy ein rhaglen Cyflymydd Geovation, noddi busnesau newydd sydd am ddefnyddio’n data i arloesi cynnyrch a gwasanaethau newydd
  • parhau i helpu i gyflawni amcanion y Strategaeth Geo-ofodol Genedlaethol

5 Arwain ymchwil a chyflymu newid gyda phartneriaid yn y farchnad eiddo

Byddwn yn:

  • gweithio mewn partneriaeth gydag eraill yn y sector i adeiladu gweledigaeth a rennir ar gyfer y farchnad eiddo, ymchwilio ar y cyd a chyd-ddylunio newidiadau i’r system
  • adeiladu ar lwyddiant ein cymuned ymchwil Digital Street, i barhau i archwilio manteision posibl technolegau newydd

Y wybodaeth a data sydd gennym

Cofrestri

Mae gennym bedair cofrestr o wybodaeth yn ymwneud â thir ac eiddo sydd, gyda’i gilydd, yn cynrychioli un o’r cronfeydd data eiddo geo-ofodol trafodaethol mwyaf yn Ewrop, gan gynnwys yr holl fenthyciadau gwarantedig a hawliau eiddo eraill yng Nghymru a Lloegr. Mae’r cofrestri fel a ganlyn:

Mae ein Cofrestri Teitl yn rhoi gwybodaeth yn ymwneud â pherchnogaeth tir cofrestredig, ynghyd â manylion materion cyfreithiol cofrestredig sy’n effeithio arno. Mae’n cwmpasu tua 88% o arwynebedd tir Cymru a Lloegr, wedi ei rannu rhwng dros 26 miliwn o gofnodion cofrestredig. Mae gan y tir cofrestredig werth dros £8 triliwn a gwerth dros £1.5 triliwn o fenthyciadau wedi eu gwarantu yn ei erbyn. Mae cwsmeriaid yn talu ffi i gael y data llawn ar deitlau unigol ac i ddiweddaru’r gofrestr.

Mae ein Cofrestr Pridiannau Tir yn darparu gwybodaeth am dir digofrestredig fel morgeisi, a gall ddatgelu a oes cyfyngiadau ar ddefnydd eiddo digofrestredig. Mae dros 5.7 miliwn o gofnodion yn y gofrestr hon. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys y mynegai methdaliad ar gyfer Cymru a Lloegr hefyd. Mae cwsmeriaid yn talu ffi i gael y data a gedwir ac i ddiweddaru’r gofrestr.

Mae ein Cofrestr Credydau Amaethyddol yn rhoi manylion pridiannau dros asedau fferm, megis da byw neu offer. Mae’r gofrestr yn cynnwys dros 50,000 o gofnodion. Mae cwsmeriaid yn talu ffi i gael y data a gedwir ac i gofnodi pridiannau.

Mae ein Cofrestr Pridiannau Tir Lleol yn rhoi gwybodaeth gan awdurdodau lleol am ddefnydd a mwynhad eiddo. Mae hyn yn cynnwys statws adeilad rhestredig, gorchmynion cadw coed, a mesurau diogelu amgylcheddol eraill ymhlith eraill. Ar hyn o bryd, mae’r gofrestr Pridiannau Tir Lleol yn cynnwys dros 4.3 miliwn o bridiannau o’r 85 awdurdod lleol sydd wedi mudo. Mae 120+ arall yn y broses o fudo ac ar ôl cwblhau’r rhaglen, bydd tua 26 miliwn o bridiannau gan 331 o awdurdodau lleol ar gael ar unwaith. Mae cwsmeriaid yn talu ffi i gael y data llawn a gedwir.

Setiau data

Gan ddefnyddio gwybodaeth a gedwir yn ein cofrestri, mae tair ar ddeg set ddata ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio ar hyn o bryd. Mae’r farchnad ar gyfer ein data yn amrywiol. Mae cwsmeriaid setiau data CTEF yn sefydliadau sy’n casglu llawer iawn o wybodaeth ynghyd mewn un lle ac yn cynnig gwasanaethau i ystod eang o ddefnyddwyr terfynol, megis Cyfreithwyr Eiddo Tiriol, Gwerthwyr Tai, Llywodraeth Leol, Datblygwyr a Gweithwyr Eiddo Proffesiynol, Yswirwyr Teitl a Thrawsgludwyr. Mae’r setiau data yn rhan sylweddol o’r llu o lwyfannau unedig, integredig, sy’n darparu ‘siop un stop’ o atebion rheoli llif gwaith wedi eu pecynnu, wedi eu hanelu’n bennaf at leihau costau gweinyddol a chostau sy’n gysylltiedig â’r broses roi benthyg a thrawsgludo. Gellir dod o hyd i restr lawn o’r data rydym yn ei ddarparu a’r prisiau ar ein gwefan data tir ac eiddo. Disgrifir rhai enghreifftiau o’r data hwn isod:

Mae setiau data geo-ofodol yn dangos siâp a lleoliad teitlau cofrestredig ar fap daearyddol. Cânt eu defnyddio’n helaeth mewn ymchwil academaidd, gan weithwyr eiddo proffesiynol i wella eu gweithrediadau, ymgynghorwyr tir ac eiddo i roi ardaloedd tir cymhleth yn eu cyd-destun ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus a PropTech at ystod o ddibenion arloesol. Gall data CTEF sy’n gysylltiedig ag ystod eang o ffynonellau data eraill greu ‘achosion defnydd’ a all leihau costau datblygu cyfnod cynnar yn sylweddol. Yn ogystal, mae asiantaethau’r llywodraeth yn defnyddio’r data hwn ar gyfer tasgau hanfodol, megis cyflawni cynlluniau cynllunio, tai ac adfywio, rheoli asedau cyhoeddus, tai a pholisi cymdeithasol, cynnal iechyd a diogelwch y cyhoedd a nodi cyfleoedd lefelu.

Mae data perchnogaeth cwmnïau ar berchnogaeth tir cwmnïau yn y DU a’r tu allan i’r DU yn galluogi dadansoddiad gwell o batrymau perchnogaeth a rôl cwmnïau’r DU a thramor yn y farchnad dai a’r economi yn gyffredinol. Fe’i defnyddir i frwydro yn erbyn twyll a throseddau eiddo, deall defnydd tir, asesu tir ar gyfer datblygiad posibl a deall demograffeg diwydiant.

Mae ein data ar brydlesi cofrestredig a chyfamodau cyfyngu yn rhoi mwy o dryloywder ynghylch sut gellir defnyddio, rheoli neu ddatblygu tir ac eiddo. Fe’i defnyddir i gyflymu’r broses drawsgludo trwy helpu i nodi problemau posibl yn gynharach a lleihau’r risg i roddwyr benthyg, buddsoddwyr, darpar brynwyr a gwerthwyr.

Ein data prisiau gwerthu eiddo hanesyddol a diweddar yw’r mesur a ffefrir a ddefnyddir gan Fanc Lloegr ar gyfer chwyddiant prisiau tai. Mae’n cefnogi aelodau’r cyhoedd yn eu penderfyniadau prynu a gwerthu eiddo, yn darparu gwybodaeth i weithwyr proffesiynol prisio eiddo gan gynnwys arolygwyr tir, rhoddwyr benthyg a gwerthwyr tai, dadansoddwyr sy’n edrych ar dueddiadau’r farchnad sy’n benodol i leoliad a fforddiadwyedd tai, a phenderfynwyr allweddol wrth wneud rhaglenni tai, adfywio a chymunedol.

Mae’r data a gofnodwyd yn y gofrestr tir gyntaf, sef set ddata Deddf 1862 a grëwyd gan CTEF, yn cael ei ddefnyddio gan haneswyr ac achyddion i ddeall ardaloedd lleol, pobl a’u hynafiaid ac mae hyd yn oed wedi helpu i ddehongli a dyddio dogfennau hanesyddol.

Mae llawer o’n setiau data ar gael am ddim o dan y Drwydded Llywodraeth Agored ond codir tâl am rai yn flynyddol.

Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi lansio ymgynghoriad ar adeiladu set ddata newydd yn cynnwys data am reolaethau cytundebol dros dir. Mae’r ymgynghoriad hwn, Rheolaethau cytundebol ar dir: ymgynghoriad, ar agor tan 20 Mawrth 2024.

Gwasanaethau Data

Mae pob gwasanaeth wedi ei deilwra yn unol ag anghenion cwsmeriaid ac yn canolbwyntio ar ddarparu data mewn fformat hygyrch at ddefnydd masnachol. Codir tâl am bob eitem o ddata a gyflenwir neu bob mis am yr opsiynau hunanwasanaeth. Disgrifir rhai enghreifftiau o’r gwasanaethau data isod:

Cadarnhau – mae cwsmeriaid yn defnyddio data CTEF i gadarnhau eu cofnodion data eu hunain. Mae defnyddiau cyffredin y gwasanaeth hwn yn cynnwys pennu tueddiad unigolyn i dalu dyledion heb eu talu; cadarnhau cyfeiriad unigolyn cyn darparu credyd neu unrhyw wasanaethau; amlygu hawliadau twyllodrus posibl neu gadarnhau bod arwystl wedi ei gofrestru.

Ceisiadau swmpus – archebion mawr ar gyfer Gwasanaethau Gwybodaeth (copi o’r gofrestr a data gofodol) wedi eu darparu mewn fformat mwy hygyrch i gwsmeriaid fel rheolwyr portffolio tai mawr.

Data integredig – trwy rwydweithiau preifat rhithwir, mae hysbysiadau electronig yn ymwneud â gwybodaeth am forgeisi yn cael eu trosglwyddo rhwng cwsmeriaid sydd wedi cofrestru a CTEF, sy’n ceisio sicrhau arbedion effeithlonrwydd.

Ariannu’n gwasanaethau  

Mae CTEF wedi ei hariannu trwy’r broses Amcangyfrifon Seneddol ers dirymu statws cronfa fasnachu ar 1 Ebrill 2020. Mae CTEF yn casglu’r holl ffïoedd a chodi tâl ar adeg gwneud cais ac yn eu hildio i Drysorlys EF ar ôl cwblhau’r gwaith. Ein nod yw bod yn gost-niwtral i drethdalwyr y DU.

Yn Adolygiad o Wariant yr Hydref 2021, derbyniodd CTEF setliad tair blynedd ar gyfer Terfynau Gwariant Adrannol Adnoddau a Therfynau Gwariant Adrannol Cyfalaf. Yn 2022-23, gwariodd CTEF £423m. Mae mwyafrif helaeth y gwariant (tua 75%) ar ein pobl, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn prosesu gwaith cais yn uniongyrchol. Caiff y gweddill ei wario ar gynnal a chadw a datblygu ein seilwaith TG a diriaethol a’n gwarchodaeth o ran indemniad.

Diwygio’n strwythur ffïoedd

Rydym wedi ymrwymo hefyd i ailwampio’n ffïoedd yn fwy sylweddol yn y tymor hwy, sef canolbwynt yr ymgynghoriad hwn, a bydd yn creu sylfaen dystiolaeth amhrisiadwy wrth inni gwblhau ein cynigion. Mae angen yr ailstrwythuro hwn i ddatgloi’r potensial sydd gan ein data ar gyfer yr economi a mwy o dryloywder tir, i symleiddio’r strwythur ar gyfer ein cwsmeriaid, a sicrhau bod gwasanaethau CTEF yn esblygu yn unol â gofynion ein holl fudd-ddeiliaid. Byddai diwygio’n ffïoedd yn cefnogi amcanion ehangach y llywodraeth i wella’r broses o brynu a gwerthu cartrefi.

Galwad am Dystiolaeth

Thema 1 – Cefnogi’r agenda gwybodaeth am dir ac eiddo ac annog arloesedd trwy ddulliau gwell a mwy agored o gyrchu data CTEF

Mae ein data yn ased cenedlaethol. Yn ogystal â chynyddu tryloywder, rydym yn gwybod y gallai sicrhau bod mwy o’n data ar gael yn haws arwain at fanteision llawer ehangach. Dyna pam mae darparu data cofrestr ddigidol hygyrch yn rhan allweddol o’n Strategaeth 2022+ gyfredol.

Amcangyfrifodd prisiad cychwynnol o bedair o’n tair ar ddeg o setiau data cyhoeddedig eu bod yn ychwanegu tua £300 miliwn at yr economi bob blwyddyn. Rydym eisoes wedi gweld manteision ehangach uniongyrchol gyda llwyddiant y rhaglen Geovation Accelerator. Rydym yn cefnogi busnesau newydd yn ariannol a thrwy eu galluogi i weld ein data geo-ofodol. Mae ein busnesau newydd Geovation wedi datblygu ac yn parhau i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau sydd o fudd i fusnesau, i bobl ac i’n planed. I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adran “Arwain ymchwil a chyflymu newid gyda phartneriaid yn y farchnad eiddo” yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CTEF.

Rydym yn cydnabod bod gan ein data’r potensial i gael ei gyfuno â setiau data eraill i roi cipolwg sy’n helpu’r Llywodraeth ac eraill i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd cymhleth. Rydym yn gwerthfawrogi bod angen cydbwysedd rhwng datgloi’r buddion a ddaw o wneud ein data yn fwy hygyrch ac ar gael yn amlach, a rheoli risgiau a allai godi oherwydd hyn.

Mae rhyddhau gwerth y data sydd gennym yn cyd-fynd â’n nodau strategol, ond rydym yn ymwybodol y gallai gwneud data’n fwy agored ac ar gael yn fwy arwain at ragor o risgiau o ran twyll a moeseg data/ansawdd megis toriadau preifatrwydd a chyfrinachedd ac y gallai’r data gael ei gamddehongli.

Rydym yn cydnabod hefyd nad yw llawer o’r wybodaeth sydd gennym, sydd wedi cronni dros 160 mlynedd, wedi ei digideiddio eto ac felly nid yw ar gael yn hawdd. Mae hyn yn cynnwys rhannau sylweddol o wybodaeth y gofrestr tir.

Ar hyn o bryd, rydym yn codi tâl am ddata yn seiliedig ar gymysgedd o’r bwriad strategol (i ysgogi twf economaidd), sensitifrwydd y data (er enghraifft, gallai codi tâl fod yn ‘rhwystr rhag mynediad’ bwriadol) a sut y defnyddir y data, (er enghraifft, codi tâl am unrhyw un sy’n gwneud elw masnachol o’r data). Rydym yn defnyddio ‘bod yn agored’ o ran ein data fel egwyddor arweiniol. Ein bwriad strategol bob amser oedd gwneud ein cyhoeddiadau data mor ‘agored’ â phosibl. Ceir amrywiol ddiffiniadau o ran data agored ond mae pob un ohonynt yn cynnwys pedair nodwedd sylfaenol: (1) rhaid i’r data fod ar gael yn gyhoeddus i unrhyw un ei ddefnyddio (2) rhaid iddo gael ei drwyddedu mewn ffordd sy’n caniatáu ei ailddefnyddio (3) dylai fod yn gymharol hawdd i’w ddefnyddio a (4) bod cytundeb cyffredinol y dylai data agored fod ar gael yn rhad ac am ddim neu am gost isel.

Mae’r strategaeth brisio ar gyfer ein setiau data a’n gwasanaethau data yn seiliedig ar fodel sy’n seiliedig ar werth, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn talu’r holl gostau. Mae nifer o ffactorau gwahanol yn cael eu hystyried wrth osod y pris. Mae’r rhain yn cynnwys ein dealltwriaeth o segmentau cwsmeriaid, eu gallu a’u parodrwydd i dalu, amodau’r farchnad, a’r galw a ragwelir.

Rydym am archwilio sut rydym yn gwneud y mwyaf o sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn haws a chodi tâl lle bo’n briodol i wneud hynny – gan gynnwys setiau data cyfan – gan sicrhau diogelwch a chywirdeb ein cofrestri ar yr un pryd, a pha fodel(au) y gallwn eu defnyddio i godi tâl am y data lle bo’n berthnasol.

Cwestiwn 1: Sut ydych chi neu eich sefydliad yn defnyddio data CTEF? Pa mor bwysig yw data CTEF i chi neu eich sefydliad? Sut rydym yn cymharu â’r pum sefydliad rydych chi’n eu defnyddio amlaf i gael data tir ac eiddo?  

Cwestiwn 2: Pa ddata arall fyddai’n ddefnyddiol ichi pe bai ar gael (gan gynnwys data a gedwir yn rhywle arall neu nad yw wedi ei gasglu ar hyn o bryd) ac ar gyfer beth fyddech chi’n ei ddefnyddio? Pa mor bwysig yw’r data hwn ichi?

Cwestiwn 3: Pa bryderon, risgiau neu gyfleoedd ydych chi’n eu rhagweld wrth wneud ein data tir ac eiddo yn fwy agored neu ar gael yn well?

Cwestiwn 4: A yw talu am ddata yn rhwystr?

Cwestiwn 5: Oes unrhyw rwystrau neu heriau eraill wrth gael a defnyddio data CTEF? Rhowch enghreifftiau.

Thema 2 – Moderneiddio a symleiddio ein strwythur ffïoedd

Mae darparu cofrestru tir diogel ac effeithlon yn allweddol i sicrhau bod ein data yn gyfredol ac yn gywir wrth sicrhau ei fod ar gael yn haws.

Mae CTEF yn codi tâl am y gwasanaethau a ddarperir gennym. Mae’r ffïoedd ar gyfer ein gwasanaethau statudol wedi eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth (Gorchymyn Ffïoedd) a chaiff y ffïoedd ar gyfer ein setiau data a’n gwasanaethau data eu pennu mewn ymgynghoriad â Thrysorlys EF ac yn unol â chanllawiau Rheoli Arian Cyhoeddus. Does dim tâl ar gyfer rhai gwasanaethau, fel cofnodi newid enw neu ddileu morgais.

Mae cwsmeriaid yn talu am gael gwybodaeth am berchnogaeth eiddo ac elfennau eraill sy’n effeithio ar ddefnydd tir, megis amodau cynllunio a statws adeilad rhestredig, yn aml cyn prynu tir neu eiddo.

Fel arfer, mae angen i drafodiad tir neu eiddo gael ei gofnodi gan CTEF, a thelir ffi i ddiweddaru’r gofrestr yn dibynnu ar y math o drafodiad (newid perchnogaeth, morgeisi a hawliau eraill), ei werth a sut caiff ei gyflwyno (ar-lein neu trwy’r post).

Mae strwythur ffïoedd presennol CTEF yn gymhleth hyd yn oed i gwsmeriaid proffesiynol ei ddeall a’i gymhwyso, felly rydym yn ymwybodol iawn y gall fod yn arbennig o heriol i aelodau’r cyhoedd sy’n defnyddio’n gwasanaethau gyfrifo’r ffi briodol yn gywir. Gan weithio ar y dybiaeth y bydd CTEF yn parhau i adennill y gost o ddarparu ein gwasanaeth, mae ailstrwythuro ffïoedd yn sylweddol yn cynnig y cyfle i symleiddio a gwella effeithlonrwydd gweithredu ar gyfer ein cwsmeriaid a CTEF fel sefydliad.

Mae’r cymhlethdod yn deillio’n rhannol o’r ffaith nad yw’r strwythur wedi newid yn sylweddol ers ein sefydlu ym 1862, sy’n cynnwys:

  • ffïoedd ar raddfa, sy’n seiliedig ar werth yr eiddo. Cyflwynir y rhain mewn bandiau ffïoedd; po uchaf yw gwerth yr eiddo, yr uchaf yw’r ffi. Mae’r ffïoedd hyn yn berthnasol i geisiadau i gofrestru tir digofrestredig ac i gofrestru trosglwyddiadau, prydlesi a morgeisi eiddo. Ar hyn o bryd, mae ffïoedd ar raddfa yn darparu tua 75% o incwm ffïoedd cofrestru tir

  • ffïoedd sefydlog, sy’n berthnasol i fathau eraill o geisiadau, er enghraifft, cofrestru rhybuddion neu gyfyngiadau yn erbyn teitl cofrestredig, gwneud cais am chwiliadau neu am gopïau o’r gofrestr

Rhennir ffïoedd ar raddfa i ddau gategori:

Ffïoedd graddfa 1. Mae’r rhain yn ffïoedd uwch, yn seiliedig ar werth y tir neu’r trafodiad (er enghraifft, pris prynu). Maent yn berthnasol i geisiadau i gofrestru tir digofrestredig, trosglwyddiadau neu brydlesi mewn pryniant eiddo neu brydlesu eiddo am rent marchnad.

Ffïoedd graddfa 1
Gwerth neu swm Gwneir cais trwy’r post a/neu gan ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway, i gofrestru’r holl brydlesi a throsglwyddiadau neu ildiadau sy’n effeithio ar ran o deitl cofrestredig Gwneir cais gan ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway, ar gyfer trosglwyddiadau neu ildiadau sy’n effeithio ar deitl cofrestredig cyfan  
0 i £80,000 £45 £20  
£80,001 i £100,000 £95 £40  
£100,001 i £200,000 £230 £100  
£200,001 i £500,000 £330 £150  
£500,001 i £1,000,000 £655 £295  
£1,000,001 ac  uwch £1,105 £500  

Ffïoedd Graddfa 2. Mae’r rhain yn ffïoedd is sy’n seiliedig ar werth y tir (neu werth y gyfran yn y tir) neu, ar gyfer morgeisi, y swm a sicrhawyd gan y morgais. Maent yn berthnasol i drosglwyddiadau eiddo nad ydynt yn werthiannau, er enghraifft, rhoddion, trosglwyddiadau i fuddiolwyr o dan ewyllys neu drosglwyddiad ar ysgariad neu ddiwedd partneriaeth sifil. Mae ffïoedd Graddfa 2 yn gymwys i gofrestru morgeisi hefyd.

Ffïoedd graddfa 2
Gwerth neu swm Gwneir cais trwy’r post a neu gan ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway i gofrestru trosglwyddiadau o ran, a phob cais Graddfa 2 nad ydynt yn effeithio ar y teitl cofrestredig cyfan Gwneir cais gan ddefnyddio’r porthol neu Business Gateway, ar gyfer trosglwyddiadau o’r cyfan, trosglwyddiadau arwystlon a cheisiadau teitlau cofrestredig cyfan eraill
0 i £100,000 £45 £20
£100,001 i £200,000 £70 £30
£200,001 i £500,000 £100 £45
£500,001 i£1,000,000 £145 £65
£1,000,001 ac uwch £305 £140

Er mwyn pennu’r ffi sydd i’w thalu, rhaid i gwsmer ystyried:

  • Natur y trafodiad. A yw ffi ar raddfa, ffi sefydlog neu eithriad yn berthnasol i’r math hwn o drafodiad
  • Os yw’n gais ffi sefydlog, a yw gostyngiad yn gymwys (er enghraifft, os yw’r cais yn cyd-fynd â chais y mae ffi ar raddfa yn gymwys iddo)
  • Sut caiff y cais ei gyflwyno (er enghraifft, yn electronig neu trwy’r post)
  • Pa ffïoedd ar raddfa i’w gweithredu
  • Os Graddfa 1, beth yw gwerth y tir, neu’r trafodiad (er enghraifft, y pris prynu) ac i ba fand ffi mae’n perthyn
  • Os Graddfa 2, a chofrestru morgais yw’r cais, beth yw’r swm a sicrhawyd gan y morgais ac i ba fand ffi mae’n perthyn. A yw gostyngiad mewn ffi yn gymwys (er enghraifft, pan fo wedi ei gynnwys gyda chais i gofrestru trosglwyddiad neu brydles)
  • Os Graddfa 2, ac mae’r eiddo cyfan yn cael ei drosglwyddo, beth yw gwerth y tir (efallai nad yw hyn yn amlwg o’r ddogfen drosglwyddo) ac i ba fand ffi mae’n perthyn
  • Os Graddfa 2, a dim ond cyfran yn yr eiddo sy’n cael ei drosglwyddo, beth yw gwerth y cyfranddaliad (efallai nad yw hyn yn amlwg o’r ddogfen drosglwyddo) ac i ba fand ffi mae’n perthyn
  • Os, yn y naill sefyllfa neu’r llall o’r ddwy uchod mae morgais wedi ei warantu ar yr eiddo ac nid yw’n cael ei ad-dalu ar ôl cwblhau’r trosglwyddiad, rhaid pennu’r swm sy’n ddyledus a’i dynnu o werth llawn yr eiddo i benderfynu ar y gwerth i’w ddefnyddio i bennu’r band ffi mae’r trafodiad yn perthyn iddo (gweler yr enghraifft isod)

Enghraifft

Mae Gareth Evans yn trosglwyddo eiddo fel rhodd i’w hunan ac Elinor Jones mewn cyfrannau cyfartal. £200,000 yw gwerth yr eiddo ac mae’n ddarostyngedig i forgais i Gymdeithas Adeiladu Rhiw-las lle mae £100,000 yn weddill ac nid yw’n cael ei ad-dalu ar ôl cwblhau’r trosglwyddiad. Yn gyntaf, dylid pennu gwerth y gyfran trwy dynnu’r swm sy’n weddill ar y morgais (£100,000) o werth llawn yr eiddo, sef £200,000. Yna dylid rhannu’r canlyniad (£100,000) yn ei hanner i adlewyrchu’r cyfrannau cyfartal, sef £50,000. Asesir y ffi ar y ffigur hwn, sef £50,000, ac mae’n daladwy o dan Raddfa 2.

Rhaid cyfuno mwy nag un o’r senarios hyn i gyfrifo llawer o ffïoedd, a gall y cymhlethdod greu dryswch ymhlith cwsmeriaid, yn ogystal â’r posibilrwydd o dalu ffïoedd anghywir. Yn 2023, anfonodd CTEF tua 141,000 o ymholiadau (ceisiadau am ragor o wybodaeth neu eglurhad) yn ymwneud â ffïoedd, yn ysgrifenedig a thros y ffôn, ac arweiniodd hyn at oedi i’r ceisiadau.

Rydym yn buddsoddi yn ein sianeli digidol i’n galluogi i arfer lefel o reolaeth dros ansawdd data ceisiadau gan gwsmeriaid rydym yn dewis ei gael. Ychwanegwyd swyddogaeth cyfrifo ffïoedd o fewn ein Gwasanaeth Cofrestru Digidol (DRS) llynedd, ac rydym yn dechrau gweld effaith hyn gyda gostyngiad mewn gwallau o ran ffïoedd.

Mae’r dulliau talu rydym yn eu derbyn wedi eu nodi yn ein Gorchymyn Ffïoedd ac maent yn cynnwys debyd uniongyrchol, cerdyn credyd neu ddebyd, siec neu archeb bost, neu arian parod. Rhaid i gwsmeriaid busnes sefydlu debyd uniongyrchol i allu cyflwyno ceisiadau yn electronig trwy borthol i gwsmeriaid, a chaiff dros 95% o ffïoedd eu talu gan ddefnyddio’r dull hwn. Ni all cwsmeriaid heb drefniant debyd uniongyrchol gyflwyno ceisiadau yn electronig trwy’r porthol i gwsmeriaid, a rhaid iddynt ddefnyddio dull talu arall. Gwneir taliadau cardiau credyd a debyd ar-lein ar gyfer darparu copïau swyddogol o’r gofrestr a chynlluniau teitl, neu ar gais CTEF.

Byddai strwythur ffïoedd symlach yn lleihau costau ac yn gwella effeithlonrwydd gweithredu ar gyfer ein cwsmeriaid a CTEF fel sefydliad. Gallai olygu:

  • cost un-tro a syml ar gyfer cysylltu â CTEF yn ystod trafodiad penodol yn hytrach na sawl taliad unigol ar wahanol gamau o’r broses. Er enghraifft, yn hytrach na thalu’n unigol am gopïau swyddogol, chwiliadau a chofrestru gwerthiant eiddo, byddai un ffi i’w thalu a fyddai’n rhoi’r hawl i weld yr holl wybodaeth berthnasol sy’n cael ei chadw, ac i gofrestru gwerthiant yr eiddo unwaith i’r trafodiad gael ei gwblhau;
  • lleihau nifer y mathau penodol o geisiadau;
  • cyfuno ffïoedd ar raddfa; neu,
  • cynnig model yn seiliedig ar danysgrifiad, er enghraifft, codi swm blynyddol er mwyn defnyddio rhai o’r gwasanaethau

Hoffem wybod sut gallem symleiddio’n strwythur ffïoedd i’w gwneud yn haws i gwsmeriaid, boed yn weithwyr proffesiynol neu’n aelodau o’r cyhoedd, gael y ffi yn gywir y tro cyntaf a chreu arbedion effeithlonrwydd i CTEF a’n cwsmeriaid.

Cwestiwn 6: I ba raddau byddech chi’n cytuno ei bod yn hawdd cyfrifo union ffïoedd a chodi tâl gwasanaethau CTEF?

Cwestiwn 7: Ydy strwythur ffïoedd a chodi tâl CTEF yn creu rhwystrau a heriau? Rhowch enghreifftiau inni.

Cwestiwn 8: Pe byddech yn creu strwythur ffïoedd newydd, pa fath o strwythur fyddai hwn? Er enghraifft, gallai hyn olygu cyflwyno un ffi ar gyfer digwyddiad trafodiad eiddo yn hytrach na chodi tâl am wasanaethau unigol, neu ffïoedd safonol, neu ffïoedd ar raddfa.

Cwestiwn 9: Pa mor hawdd neu anodd yw talu am wasanaethau CTEF? (Meddyliwch am wneud taliadau a sianeli talu ond nid cyfrifo’r ffi.) Sut mae CTEF yn cymharu â sefydliadau eraill?

Cwestiwn 10: Ydych chi’n rhagweld unrhyw effeithiau negyddol pe byddem yn rhoi’r gorau i gymryd sieciau ac archebion post fel dull talu? Beth fyddai’n helpu i liniaru’r effeithiau hyn?

Thema 3 – Sicrhau bod ein ffïoedd yn deg ac yn rhesymol ar draws ein sylfaen cwsmeriaid

Mae ein ffïoedd yn seiliedig ar y gwasanaethau a ddarperir ac nid ydynt bob amser yn ystyried cymhlethdod neu gymorth ychwanegol a ddarperir gan CTEF. Enghraifft o hyn yw cofrestru ceisiadau ar raddfa fawr a gyflwynir fel rheol gan gwsmeriaid masnachol ac sydd fel arfer yn cynnwys dros 200 o deitlau cofrestredig neu dros 50 o eiddo digofrestredig. Mae gennym dîm ymroddedig sy’n cefnogi cwsmeriaid i gyflwyno a rheoli’r cofrestriad heb unrhyw gost ychwanegol.

Mae’r tabl yn dangos canran y refeniw a gynhyrchir gan y gwahanol wasanaethau (gweler yr eirfa a ddarperir am ddiffiniadau o’r gwasanaethau hyn).

Gwasanaethau Canran cyfanswm yr incwm
Gwasanaethau newidiadau i’r gofrestr 74.9%
Ymholiadau gwarantedig   
Copïau swyddogol  14.3%
Chwiliadau swyddogol 2.2%
Chwiliadau o’r Map Mynegai 0.3%
Ymholiadau heb eu gwarantu   
Golwg o’r gofrestr  5.3%
MapSearch  Am ddim
Crynodeb o Eiddo   Am ddim
Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol   1.7% 
Pridiannau Tir Lleol   0.2%
Gwasanaethau data   1.1% 

Nid yw ein ffïoedd ar hyn o bryd yn ystyried gwahanol grwpiau o gwsmeriaid na’u parodrwydd i dalu am bremiwm neu fath gwahanol o wasanaeth neu gynnig masnachol.

Nid oes ffi ar gyfer rhai cofrestriadau, megis cofrestru newid enw neu ddileu morgais unwaith bydd wedi ei dalu. Mae’r ceisiadau hyn yn helpu i gynnal cywirdeb y gofrestr a’i chadw’n gyfredol. Rydym am sicrhau bod cwsmeriaid yn parhau i gyflwyno’r newidiadau hyn. Cwsmeriaid sy’n talu ffi sy’n talu’r gost o brosesu’r ceisiadau hyn.

Mae’r tabl isod yn nodi prif gwsmeriaid CTEF fesul gwasanaeth (gweler yr eirfa a ddarperir am ddiffiniadau o’r gwasanaethau hyn):

Gwasanaethau  Prif Gwsmeriaid 
Gwasanaethau newidiadau i’r gofrestr Trawsgludwyr (ar ran cleientiaid)                
Ymholiadau gwarantedig     
Copïau swyddogol Person cyfryngol/Trawsgludwyr (ar ran cleientiaid)        
Chwiliadau swyddogol  Trawsgludwyr (ar ran cleientiaid)  
Chwiliadau o’r Map Mynegai  Trawsgludwyr (ar ran cleientiaid)   
Ymholiadau heb eu gwarantu     
Golwg o’r gofrestr    Defnyddwyr nad ydynt yn fusnesau, megis y cyhoedd  
MapSearch   Defnyddwyr nad ydynt yn fusnesau, megis y cyhoedd  
Crynodeb o Eiddo   Defnyddwyr nad ydynt yn fusnesau, megis y cyhoedd    
Pridiannau Tir    Banciau/Awdurdodau Lleol/Cyfreithwyr  
Credydau Amaethyddol   Banciau  

Gallai ailddosbarthu’r baich ffïoedd ar draws ein sylfaen cwsmeriaid gynnwys:

  • Codi ffi uwch ar rai cwsmeriaid nag eraill – gallai segmentu cwsmeriaid gynnwys dull gwasanaeth wedi ei reoli’n well ar gyfer ein cwsmeriaid mwyaf, gan gynnwys y rheiny sy’n ymwneud â datblygiadau ar raddfa fawr a phrosiectau seilwaith mawr y gallem godi premiwm amdanynt, neu’r rhai sy’n defnyddio’n data at ddibenion elw masnachol.

  • System haenog, er enghraifft, dyblu ffïoedd ar gyfer trafodion drud ond lleihau ffïoedd sy’n llai na £500k.
  • Eithrio rhai cwsmeriaid, er enghraifft, sefydliadau sector cyhoeddus a sefydliadau dielw, rhag rhai ffïoedd.

Hoffem gael eich barn ar sut y gallem ailddosbarthu baich ffïoedd ond cynnal strwythur ffïoedd teg a rhesymol ar gyfer ein holl gwsmeriaid.

Cwestiwn 11: A ddylai CTEF osod ffïoedd gwahanol ar gyfer grwpiau o gwsmeriaid neu wasanaethau penodol? Os dylai, pa grŵp/gwasanaethau ddylai dalu mwy yn eich barn chi? Er enghraifft, unigolion, perchnogion ail gartrefi, diwydiant datblygu eiddo, awdurdodau lleol, trawsgludwyr, PropTech neu lwybr cyflym, cymorth gyda rheoli cyfrifon, gwirio cyn cyflwyno, ac ati.

Cwestiwn 12: Mae ein strwythur ffïoedd yn gymhleth. Ydych chi neu eich sefydliad yn defnyddio neu’n ymwybodol o fodelau ffïoedd a chodi tâl eraill (ar sail tanysgrifiad er enghraifft) mae sefydliadau eraill yn eu defnyddio ac a allai weithio i CTEF yn eich barn chi? Rhowch fanylion y modelau ffïoedd a chodi tâl gan gynnwys enw’r sefydliadau a’u manteision a’u hanfanteision.

Cwestiwn 13: A ddylai cwsmeriaid sy’n darparu data cais cyflawn a chywir, sy’n gofyn am lai o amser gwirio gan staff CTEF, dalu ffïoedd is am wneud ceisiadau? A fyddai ffïoedd is yn eich cymell chi neu eich sefydliad i gofrestru ar gyfer proses sy’n galluogi hyn?

Cwestiwn 14: Oes unrhyw wasanaethau ychwanegol neu gynigion masnachol y gallai CTEF eu datblygu i’ch cefnogi chi a/neu’n ehangach na hynny, gwelliannau yn y farchnad eiddo?

Amdanoch chi

Ydych chi’n ymateb i’r cais hwn am dystiolaeth fel unigolyn neu ar ran sefydliad?

Ym mha sector ydych chi’n gweithio?

Ym mha rai o’r rhanbarthau canlynol ydych chi neu’ch sefydliad yn gweithredu?

  • Cymru
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr
  • Gogledd Orllewin Lloegr
  • Swydd Efrog a Humber
  • Dwyrain Canolbarth Lloegr
  • Gorllewin Canolbarth Lloegr
  • Dwyrain Anglia
  • De Orllewin Lloegr
  • De Ddwyrain Lloegr
  • Llundain
  • Yr Alban
  • Gogledd Iwerddon
  • Y DU gyfan
  • Tramor

Geirfa

Agenda Tryloywder Tir Diddordeb presennol y Llywodraeth i gynyddu tryloywder perchnogaeth a rheolaeth tir yn y Deyrnas Unedig.  
Business Gateway Mae Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau Business Gateway yn galluogi cwsmeriaid i gyrchu gwasanaethau o fewn eu systemau rheoli achosion nhw’n ddi-dor ac awtomeiddio prosesau ailadroddus.  
Cais ffi ar raddfa  Trafodion tir ac eiddo lle mae’r ffi yn seiliedig ar werth yr eiddo. Cyflwynir y rhain mewn bandiau ffi – po uchaf yw gwerth yr eiddo, yr uchaf yw’r ffi.  
Cais Ffi Sefydlog Trafodion sy’n gwarchod budd mewn tir ac eiddo heblaw am newid perchnogaeth sy’n denu ffi sefydlog waeth beth fo’i werth.  
Cofrestr Credydau Amaethyddol Cofrestr sy’n rhoi manylion am newidiadau dros asedau fferm, megis da byw neu offer.  
Cofrestriad cyntaf Y gofyniad i gofrestru ystadau rhydd-ddaliol a phrydlesol digofrestredig mewn tir.  
Cofrestr Pridiannau Tir Cofrestr sy’n cynnwys y wybodaeth ganlynol: cofrestr o bridiannau tir, cofrestr o weithredoedd arfaethedig ac achosion mewn methdaliad arfaethedig, cofrestr o writiau a gorchmynion sy’n effeithio ar dir a gwritiau a gorchmynion mewn methdaliad, cofrestr o weithredoedd trefniant sy’n effeithio ar dir a chofrestr blwydd-daliadau.  
Cofrestr Pridiannau Tir Lleol Cofrestr statudol sy’n cynnwys gwybodaeth awdurdod lleol am ddefnydd a mwynhad eiddo. Mae’n cynnwys pethau fel statws adeilad rhestredig, gorchmynion cadw coed a mesurau diogelu amgylcheddol eraill.  
Cofrestr Tir  Cofnodion perchnogaeth tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr.  
Copi swyddogol Copïau o weithredoedd a dogfennau sy’n cael eu ffeilio gyda ni, gan gynnwys cofrestri teitl a chynlluniau teitl, y gwarantir eu bod yn gywir ac y gellir eu cyflwyno fel tystiolaeth fel pe baent yn ddogfennau gwreiddiol.  
Crynodeb o Eiddo Gwasanaeth di-dâl sy’n galluogi defnyddwyr i weld cyfeiriad eiddo, disgrifiad o’r eiddo, a’r math o ddaliadaeth.  
Chwiliad o’r Map Mynegai Gwasanaeth sy’n galluogi defnyddwyr i weld a yw’r tir a chwiliwyd yn gofrestredig, y rhifau teitl sy’n cael effaith a’r math o gofrestriad sydd wedi ei ddatgelu.  
Chwiliad swyddogol Cynnig modd i bobl megis prynwyr tai neu roddwyr benthyg morgeisi gael blaenoriaeth ar gyfer cwblhau eu pryniant, prydles neu arwystl cyn ceisiadau a gyflwynir wedi hynny.  
Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo Gwasanaeth di-dâl sy’n galluogi cwsmeriaid i lawrlwytho copïau o’r crynodeb eiddo ar gyfer eiddo yng Nghymru a Lloegr.  
Diweddaru’r gofrestr Unrhyw gais i newid cofrestr teitl cyfan eiddo sy’n bodoli, gan gynnwys morgeisi newydd, newid enw, trosglwyddiadau a rhyddhau.  
Ffi Graddfa 1 Math o gais ffi ar raddfa. Ffi uwch yn seiliedig ar werth y tir neu’r trafodiad. Maent yn berthnasol i geisiadau i gofrestru tir digofrestredig, trosglwyddiadau neu brydlesi mewn pryniant eiddo neu brydlesi eiddo am rent marchnad.  
Ffi Graddfa 2 Math o gais ffi ar raddfa. Ffi is yn seiliedig ar werth y tir (neu gyfran yn y tir) neu, ar gyfer morgeisi, y swm a sicrhawyd gan y morgais. Maent yn berthnasol i drosglwyddiadau eiddo nad ydynt yn werthiannau, er enghraifft, rhoddion, trosglwyddiadau i fuddiolwyr o dan ewyllys neu drosglwyddiad ar ysgariad neu ddiwedd partneriaeth sifil.  
Geo-ofodol Data a gwybodaeth sy’n gysylltiedig â lleoliad neu le pendol.  
Geovation Yr arfer o ddefnyddio data a gwybodaeth lleoliad i helpu i nodi cyfleoedd a chreu datrysiadau.  
Golwg o’r Gofrestr Gwasanaeth sy’n caniatáu i gwsmeriaid lawrlwytho copïau o’r gofrestr teitl a chynllun teitl ar gyfer eiddo yng Nghymru a Lloegr am ffi.  
Gwasanaethau Data Pedair cyfres o wasanaethau, pob un wedi eu teilwra yn unol ag angen y cwsmer, ac yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r allbynnau’n cael eu creu a’u cyflenwi â llaw gan y Tîm Gwasanaethau Data.  
Gwasanaethau Gwybodaeth Ceisiadau cyn-gwblhau sy’n darparu gwybodaeth i fodloni llog y farchnad ac i gefnogi trafodion eiddo. Mae hyn yn cynnwys ymholiadau gwarantedig, ymholiadau heb eu gwarantu, pridiannau tir a chredydau amaethyddol.  
Gwasanaethau newid y gofrestr Unrhyw gais i naill ai ddiweddaru teitl eiddo sy’n bodoli (diweddaru’r gofrestr) neu un sy’n arwain at greu cofrestr hollol newydd megis trosglwyddo rhan o deitl sy’n bodoli, prydles newydd neu gofrestru tir am y tro cyntaf.  
Gwasanaeth Cofrestru Digidol Gwasanaeth porthol CTEF sy’n caniatáu i geisiadau gael eu cyflwyno’n ddigidol lle mae’r data’n cael ei wirio’n awtomatig cyn ei gyflwyno.  
MapSearch Offeryn mapio ar-lein di-dâl o fewn porthol CTEF sy’n galluogi cwsmeriaid i weld yn gyflym a yw tir ac eiddo yng Nghymru neu Loegr wedi ei gofrestru.  
Pridiannau Tir Buddion mewn tir digofrestredig a all gael eu gwarchod gan gofnod yn y Gofrestr Pridiannau Tir.  
PropTech Y defnydd o dechnoleg i helpu unigolion a chwmnïau i ymchwilio, prynu, gwerthu a rheoli eiddo tiriol.  
Proses Amcangyfrifon Seneddol Y broses o amlinellu gwariant y Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol a gyflwynir gan y cabinet i’r Senedd.  
Rhaglen Cyflymydd Geovation Cynllun a gefnogir gan CTEF a’r Arolwg Ordnans sy’n darparu cyllid grant, dull i gyrchu data, arbenigedd geo-ofodol a mewnwelediad eiddo i ddata lleoliad a busnesau newydd PropTech.  
Setiau Data Cofrestr neu wybodaeth ofodol a gyhoeddir yn fisol dan amrywiaeth o delerau trwyddedu yn dibynnu ar sensitifrwydd y data.  
Strategaeth Geo-ofodol Genedlaethol Hyrwyddo a diogelu’r defnydd o ddata lleoliad i ddarparu barn yn seiliedig ar dystiolaeth o werth marchnadol data lleoliad, gosod canllawiau clir ar gyrchu data, preifatrwydd, moeseg a diogelwch, a hyrwyddo’r defnydd gwell o ddata lleoliad. Y Comisiwn Geo-ofodol sy’n berchen ar y strategaeth.  
Terfynau Gwariant Adrannol Adnoddau Terfyn net yn cynnwys costau rhedeg o ddydd i ddydd adran o’r llywodraeth.  
Terfynau Gwariant Adrannol Cyfalaf Buddsoddi mewn meddalwedd a gynhyrchir yn fewnol, offer TG ac ystadau.  
Trwydded Llywodraeth Agored Set o delerau ac amodau sy’n hwyluso defnyddio ac ailddefnyddio ystod eang o wybodaeth sector cyhoeddus yn rhad ac am ddim.  
Ymholiadau gwarantedig Gwasanaethau sy’n darparu gwybodaeth a chanlyniadau sy’n dod gyda gwarant. Mae hyn yn cynnwys copïau swyddogol, chwiliadau swyddogol, a chwiliadau o’r map mynegai.  
Ymholiadau heb eu gwarantu Gwasanaethau sy’n darparu gwybodaeth a chanlyniadau nad ydynt yn dod gyda gwarant. Mae hyn yn cynnwys golwg o’r gofrestr, MapSearch a chrynodeb o eiddo.  
Ymholiad/cais am wybodaeth Sefyllfa lle mae’n rhaid i CTEF wneud ymholiadau i’r ceisydd ynghylch cais oherwydd bod gwybodaeth neu dystiolaeth ar goll neu’n anghywir ac felly ni ellir ei brosesu.  
Y Stryd Ddigidol Dull ymchwil a datblygu sy’n bodoli eisoes, gan gydweithio â chymuned gref o arweinwyr arloesi, entrepreneuriaid ac aflonyddwyr creadigol i wthio ffiniau disgwyliadau’r farchnad eiddo.  

Ynglŷn â’r alwad hon am dystiolaeth

Mae’r ddogfen galwad am dystiolaeth hon a’r broses galwad am dystiolaeth wedi eu cynllunio i gadw at egwyddorion y cais am dystiolaeth a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Cabinet.

Gofynnir i grwpiau cynrychioliadol roi crynodeb o’r bobl a’r sefydliadau maent yn eu cynrychioli, a lle bo’n berthnasol, pwy arall y maent wedi ymgynghori â nhw wrth ddod i’w casgliadau pan fyddant yn ymateb.

Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r cais hwn am dystiolaeth gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â chyfundrefnau cyrchu gwybodaeth (Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004) ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data’r DU.

Os ydych am i’r wybodaeth a roddir gennych gael ei thrin yn gyfrinachol, gwnewch yn siwr eich bod yn nodi hyn yn glir, fel y gellir ystyried hyn os daw cais am wybodaeth i law. Eglurwch pam rydych yn ystyried bod y wybodaeth a ddarperir gennych yn gyfrinachol. Os cawn gais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cadw cyfrinachedd o dan bob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo’i hun, yn cael ei ystyried yn rhwymol ar yr adran.

Bydd CTEF bob amser yn prosesu eich data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data’r DU, ac fel rheol, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon. Mae hysbysiad preifatrwydd llawn wedi ei gynnwys isod.

Mae eich barn yn werthfawr inni. Diolch am gymryd yr amser i ddarllen y ddogfen hon ac ymateb iddi. Sylwer na fydd ymatebion unigol yn cael eu cydnabod oni bai y gofynnir yn benodol amdanynt.

Ydych chi’n fodlon bod y cais hwn am dystiolaeth wedi dilyn egwyddorion y cais am dystiolaeth? Os nad ydych, neu os oes gennych unrhyw sylwadau eraill ynghylch sut y gallwn wella’r broses, cysylltwch â ni trwy’r weithdrefn gwyno.

Data personol

Pwrpas yr hysbysiad hwn yw esbonio sut y byddwn yn prosesu eich data personol a’ch hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data’r DU.

Sylwer mai dim ond at ddata personol mae’r adran hon yn cyfeirio (eich enw, manylion cyswllt ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud â chi neu unigolyn arall adnabyddadwy neu sy’n adnabyddadwy’n bersonol) ac nid at gynnwys fel arall eich ymateb i’r alwad am dystiolaeth.

1. Enw’r rheolydd data a manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data

Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a CTEF yw’r cyd-reolwyr data ar gyfer y gweithgaredd prosesu hwn. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data dynodedig trwy mailto:dataprotection@landregistry.gov.uk neu trwy ysgrifennu i’r cyfeiriad canlynol:


Data Protection Officer 
HM Land Registry 
Trafalgar House 
1 Bedford Park 
Croydon 
CR0 2AQ

2. Pam rydym yn casglu eich data personol

Mae eich data personol yn cael ei gasglu fel rhan hanfodol o’r broses cais am dystiolaeth, er mwyn inni allu cysylltu â chi ynglŷn â’ch ymateb ac at ddibenion ystadegol. Efallai byddwn hefyd yn ei ddefnyddio i gysylltu â chi am faterion cysylltiedig.

Byddwn yn casglu eich cyfeiriad IP os ydych yn cwblhau galwad am dystiolaeth ar-lein. Byddwn yn defnyddio’r data hwn i sicrhau mai dim ond unwaith bydd pob person yn cwblhau arolwg. Ni fyddwn yn defnyddio’r data hwn at unrhyw ddiben arall.

Mathau sensitif o ddata personol

Peidiwch â rhannu data personol categori arbennig neu ddata troseddau os nad ydym wedi gofyn am hyn oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol at ddibenion eich ymateb galwad am dystiolaeth. Mae ‘data personol categori arbennig’ yn cynnwys data personol sy’n datgelu gwybodaeth am:

  • ras
  • tarddiad ethnig
  • barn wleidyddol
  • credoau crefyddol neu athronyddol
  • aelodaeth undeb llafur
  • geneteg
  • biometreg
  • iechyd (gan gynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag anabledd)
  • bywyd rhywiol
  • cyfeiriadedd rhywiol

Wrth ‘ddata troseddau’, rydym yn golygu gwybodaeth sy’n ymwneud ag euogfarnau neu droseddau unigolyn byw neu fesurau diogelwch cysylltiedig.

3. Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Mae casglu eich data personol yn gyfreithlon o dan erthygl 6(1)(e) o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU gan ei fod yn angenrheidiol er mwyn i CTEF gyflawni tasg er budd y cyhoedd/wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd data. Mae adran 8(d) o Ddeddf Diogelu Data 2018 yn nodi y bydd hyn yn cynnwys prosesu data personol sy’n angenrheidiol ar gyfer arfer un o swyddogaethau’r Goron, Gweinidog y Goron neu un o adrannau’r llywodraeth, hynny yw, yn yr achos hwn, galwad am dystiolaeth.

Lle bo’n angenrheidiol at ddibenion y cais hwn am dystiolaeth, mae ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol categori arbennig neu ddata ‘trosedd troseddol’ (termau a esbonnir o dan ‘Mathau Sensitif o Ddata’) a gyflwynir gennych mewn ymateb i’r cais hwn am dystiolaeth fel a ganlyn.

Y sail gyfreithiol berthnasol ar gyfer prosesu data personol categori arbennig yw Erthygl 9(2)(g) GDPR y DU (‘budd cyhoeddus sylweddol’), ac Atodlen 1 paragraff 6 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (‘statudol etc a dibenion y llywodraeth’).

Mae’r sail gyfreithiol berthnasol mewn perthynas â data personol sy’n ymwneud â data collfarnau a throseddau wedi ei darparu gan Atodlen 1 paragraff 6 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (‘dibenion statudol ac ati a’r llywodraeth’).

4. Gyda phwy byddwn yn rhannu eich data personol

Mae’n bosibl byddwn yn rhannu eich data â sefydliadau eraill sydd â diddordeb uniongyrchol yn y polisi rydym yn ymgynghori arno, er enghraifft: Cyrff y Goron, adrannau’r llywodraeth neu sefydliadau partner CTEF.

Gall yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a CTEF benodi ‘prosesydd data’, yn gweithredu ar ran yr adran ac o dan ein cyfarwyddyd, i helpu i ddadansoddi’r ymatebion i’r cais hwn am dystiolaeth. Lle byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn sicrhau bod prosesu eich data personol yn parhau i fod yn gwbl unol â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data.

5. Am ba mor hir byddwn yn cadw eich data personol, neu’r meini prawf a ddefnyddir i benderfynu ar y cyfnod cadw

Caiff eich data personol ei gadw am o leiaf 2 flynedd ar ôl i’r alwad am dystiolaeth ddod i ben, oni bai ein bod yn nodi nad oes angen ei gadw’n barhaus cyn hynny.

6. Eich hawliau, gan gynnwys cyrchu, cywiro, cyfyngu a gwrthwynebiad

Lle mai eich data personol yw’r data rydym yn ei gasglu, mae gennych yr hawliau canlynol:

a. i ofyn i weld copïau o’ch data personol

b. i ofyn inni ddileu eich data personol

c. i ofyn inni gyfyngu ar brosesu eich data personol

ch. i ofyn i’ch data gael ei gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn

d. i wrthwynebu’n defnydd o’ch data personol o dan rai amgylchiadau

dd. i gyflwyno cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth Annibynnol os ydych yn meddwl nad ydym yn trin eich data yn deg neu’n unol â’r gyfraith. Gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth Annibynnol trwy https://ico.org.uk/, neu trwy ffonio 0303 123 1113.

Cysylltwch â ni yn y cyfeiriad canlynol os hoffech arfer yr hawliau a restrir uchod, ac eithrio’r hawl i gyflwyno cwyn i’r ICO: dataprotection@landregistry.gov.uk neu Data Protection Officer, HM Land Registry, Trafalgar House, 1 Bedford Park, Croydon CR0 2AQ

7. Ni fydd eich data personol yn cael ei anfon dramor

8. Ni fydd eich data personol yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniadau awtomataidd

9. Caiff eich data personol ei storio mewn system TG y llywodraeth ddiogel

Rydym yn defnyddio prosesydd trydydd parti, Citizen Space, i gasglu ymatebion i alwadau am dystiolaeth, sy’n prosesu eich data mewn gweinydd diogel yn y DU. Unwaith bydd eich data personol wedi ei gasglu, caiff ei drosglwyddo i system TG y llywodraeth ddiogel cyn gynted â phosibl, lle caiff ei storio am 2 flynedd cyn iddo gael ei ddileu’n barhaol.