Cofrestru cerbydau hanesyddol, clasurol, wedi’u hailadeiladu a cherbydau a drosir i drydan
Published 9 May 2024
Rhagair
Mae cerbydau clasurol a hanesyddol yn dyst treigl i arloesi ym Mhrydain ac mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gefnogi’r sector hwn. Er bod yn rhaid i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) gyflawni ei dyletswydd i sicrhau diogelwch ar y ffyrdd a diogelu prynwyr yn y dyfodol pan wneir addasiadau i gerbydau, rydym wedi ymrwymo i archwilio newidiadau a fydd yn ei gwneud yn haws i geidwaid sy’n addasu eu cerbydau i sicrhau eu bod yn addas i’r ffordd ac yn ddiogel.
Rydym yn cydnabod bod technoleg yn newid y ffordd mae cerbydau’n cael eu hailadeiladu a’u hadfer, yn ogystal ag yn ysgogi symudiad cynyddol tuag at drosi cerbydau hŷn i drydan. Yn sgil hyn, mae llywodraeth y DU yn credu bod yr amser yn gywir i adolygu’r polisïau a’r gweithdrefnau presennol ynghylch sut mae’r cerbydau hyn yn cael eu cofrestru â DVLA.
Mae llawer o bobl a sefydliadau ag amrediad o arbenigedd ac amrediad eang o safbwyntiau gwahanol ar y materion hyn. Nod yr alwad hon am dystiolaeth yw manteisio ar yr amrediad hwnnw o brofiad, safbwyntiau ac ymchwil i’n helpu i adnabod meysydd newid posibl.
Y Gwir Anrhydeddus Mark Harper AS, Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth
Crynodeb gweithredol
Mae DVLA, yn gweithredu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, yn gyfrifol am gofrestru a thrwyddedu cerbydau ledled y DU.
Mae’r gyfraith yn datgan bod rhaid i bob ceidwad cerbyd hysbysu DVLA am unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud i’w cerbyd (beth bynnag y bo oedran y cerbyd) sy’n arwain at y manylion a amlinellir yn y dystysgrif gofrestru cerbyd (V5CW) yn dod yn anghywir. Mae’r prosesau mewn grym yn caniatáu i ddiweddariadau gael eu gwneud i gofnod y cerbyd a ddelir yn DVLA, sydd wedyn yn cael eu rhoi ar y V5CW a’u rhannu â phartneriaid gorfodi’r gyfraith.
Mae DVLA yn derbyn hysbysiadau o newidiadau a wneir i gerbydau sydd wedi cael eu hailadeiladu, eu trosi i drydan neu eu newid yn llwyr i’r fath raddau y gall effeithio ar hunaniaeth y cerbyd.
Wrth asesu’r cerbydau hyn, prif ddiddordeb DVLA yw sefydlu a yw cerbyd wedi cael ei ailadeiladu o’r newydd ac nad yw diogelwch y ffordd wedi cael ei gyfaddawdu o ganlyniad. Er enghraifft, cerbyd wedi’i adeiladu o git neu un sydd wedi cael ei adfer neu ei ailadeiladu i’w fanyleb gwreiddiol gan ddefnyddio digon o’r cerbyd gwreiddiol i gadw ei rif cofrestru gwreiddiol. Mae DVLA hefyd yn asesu a yw newidiadau helaeth neu luosog dros amser yn golygu nad yw cerbyd yn gallu cael ei ddisgrifio’n gywir bellach fel y cerbyd gwreiddiol ac asesu bod y rhain yn ddiogel i gael eu defnyddio ar y ffordd gyhoeddus. Mae’n wir wrth gwrs y bydd angen i lawer o gydrannau mewn cerbydau gael eu newid trwy draul fel teiars, sychwyr ffenestri a goleuadau, er enghraifft, i barhau i gael eu defnyddio’n ddiogel ar y ffyrdd a fel y bo’n briodol. Mae’r polisïau hyn wedi cael eu cynllunio i sicrhau nad yw traul cyffredinol yn ysgogi hunaniaeth newydd. Mewn rhai achosion, gan ddibynnu ar ymddangosiad y cerbyd gall disgrifiad diwygiedig ar y cofnod a ddelir gan DVLA a’r V5CW fod yn briodol. Er enghraifft, lle tynnir to car i ddod yn gar codi to.
Mae’r alwad hon am dystiolaeth yn esbonio’r polisïau presennol a ddefnyddir ar gyfer adnabod cerbydau o’r fath a’r prosesau cofrestru ar eu cyfer, sydd wedi bod mewn grym ers llawer blwyddyn.
Rydym yn ceisio eich gwybodaeth arbenigol am a oes angen i’r polisïau hyn gael eu diweddaru, yn enwedig i adlewyrchu technolegau sy’n esblygu sy’n cynorthwyo adfer ac ailadeiladu cerbydau, ynghyd â cherbydau sy’n cael eu trosi i drydan. Mae eisiau gwybod arnom hefyd os oes gennych unrhyw awgrymiadau yn seiliedig ar eich gwybodaeth ac arbenigedd yn y maes hwn a all helpu i wella’r broses gofrestru ar gyfer y cerbydau hyn.
Sut i ymateb
Dechreuodd cyfnod yr alwad am dystiolaeth ar 9 Mai 2024 a bydd yn rhedeg am 8 wythnos hyd 4 Gorffennaf 2024.
Wrth ymateb i’r alwad hon am dystiolaeth, bydd o gymorth os byddwch yn rhoi rhywfaint o wybodaeth amdanoch eich hun. Dywedwch wrthym a ydych yn ymateb fel unigolyn neu’n cynrychioli safbwyntiau sefydliad.
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad mwy, eglurwch pwy mae’r sefydliad yn eu cynrychioli a, lle bo’n gymwys, sut y cafodd safbwyntiau’r aelodau eu casglu.
Wrth ateb y cwestiynau, rhowch unrhyw enghreifftiau ymarferol, data perthnasol, tystiolaeth ymchwil neu brofiad sy’n cefnogi’ch safbwyntiau.
Peidiwch â theimlo rheidrwydd i ymateb i’r holl gwestiynau.
Gallwch ymateb i’r alwad hon am dystiolaeth gan ddefnyddio teclyn SNAP Survey Ltd DVLA.
Fel arall, gallwch ymateb trwy anfon e-bost atom yn cfe.vehicles@dvla.gov.uk
Neu gallwch bostio eich ymateb i:
Polisi Cofrestru Cerbydau
Galwad am Dystiolaeth
C2 Dwyrain
DVLA
Abertawe
SA6 7JL
Sicrhewch fod eich ymateb yn ein cyrraedd cyn y dyddiad cau. Gallwch gysylltu â cfe.vehicles@dvla.gov.uk os oes angen fformatau amgen arnoch. Er enghraifft, copïau papur, fformatau sain.
Rhyddid Gwybodaeth
Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r alwad hon am dystiolaeth fod yn ddarostyngedig i gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
Os ydych am i wybodaeth rydych yn ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fod Cod Ymarfer statudol y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef ac sy’n ymdrin, ymhlith pethau eraill, â rhwymedigaethau cyfrinachedd.
Yn sgil hyn byddai o gymorth pe gallech esbonio inni pam rydych yn ystyried y wybodaeth rydych wedi ei darparu yn gyfrinachol. Os byddwn yn derbyn cais am ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gall cyfrinachedd gael ei gynnal mewn pob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ohono’i hun, yn cael ei ystyried fel un rhwymol ar yr adran.
Bydd yr adran yn prosesu eich data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data 2018 (DPA) ac yn y rhan fwyaf o amgylchiadau bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael eu datgelu i drydydd partïon.
Diogelu data
Mae’r alwad hon am dystiolaeth gan DVLA, asiantaeth weithredol o’r Adran dros Drafnidiaeth (DfT), yn ceisio barn i ffurfio ein hystyriaethau o newidiadau posibl i’r fframwaith cofrestru presennol a phroses ar gyfer ymdrin â hysbysiadau am gerbydau a addaswyd neu ailadeiladwyd.
Yn yr alwad hon am dystiolaeth, rydym yn gofyn am:
- eich enw a’ch e-bost, rhag ofn fod angen inni gysylltu â chi am eich ymatebion (nid oes rhaid ichi roi gwybodaeth bersonol inni, ond os byddwch yn ei darparu, byddwn yn ei defnyddio yn unig at ddiben gofyn cwestiynau dilynol os oes angen inni wneud)
I sefydliadau, rydym yn gofyn am:
- ddisgrifiad cryno o’ch sefydliad i ddeall y berthynas rhwng gwaith eich sefydliad a’r pwnc yn well
Mae’r alwad hon am dystiolaeth a’r prosesu data personol mae’n ei chynnwys yn angenrheidiol ar gyfer gweithredu’n swyddogaethau fel adran lywodraeth. Os bydd eich atebion yn cynnwys unrhyw wybodaeth sy’n caniatáu ichi gael eich adnabod, bydd DVLA, o dan gyfraith diogelu data, yn rheolwr ar gyfer y wybodaeth hon.
Os yn ymateb i’r alwad hon am dystiolaeth ar-lein, bydd eich data personol yn cael eu prosesu ar ran DVLA gan SNAP Surveys Ltd, sy’n rhedeg y feddalwedd casglu arolygon. Mae SNAP Surveys Ltd. yn cynnal casglu’r arolygon yn unig, ac ni fydd eich data personol yn cael eu rhannu ag unrhyw drydydd partïon. Os ydych chi eisiau deall sut mae SNAP Surveys Ltd yn defnyddio’ch data, efallai y byddwch am ddarllen eu datganiad preifatrwydd.
Mae’ch ymateb a phrosesu data personol mae’n ei gynnwys yn angenrheidiol ar gyfer gweithredu’n swyddogaethau fel adran lywodraeth. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw perfformio tasg a gyflawnir er budd cyhoeddus neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir yn y rheolwr.
Ni fyddwn yn defnyddio’ch enw na manylion personol eraill a allai eich adnabod pan adroddwn ganlyniadau’r alwad am dystiolaeth. Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw’n ddiogel ac yn cael ei dinistrio o fewn 12 mis o’r dyddiad cau. Bydd unrhyw wybodaeth a roddir trwy’r holiadur ar-lein yn cael ei symud i’n systemau mewnol o fewn 2 fis o gyfnod dyddiad cau yr alwad am dystiolaeth.
Mae gan bolisi preifatrwydd DVLA ragor o wybodaeth am eich hawliau mewn perthynas â’ch data personol, sut i gwyno a sut i gysylltu â’r Rheolwr Diogelu Data.
1. Cyflwyniad
Hanes cofrestru a thrwyddedu cerbydau
Mae’n rhaid i’r holl gerbydau gael eu trethu, eu hyswirio a’u cofrestru’n gywir ac yn gyfreithlon cyn iddynt allu cael eu defnyddio neu eu cadw ar ffyrdd cyhoeddus. Cyn y gellir cofrestru cerbyd, mae’n rhaid fod ganddo Rif Adnabod Cerbyd (VIN), sy’n cael ei ddyrannu yn y rhan fwyaf o achosion gan y gwneuthurwr. Pan fydd cerbyd yn cael ei gofrestru gyntaf, mae’n cael ei aseinio â rhif cofrestru sy’n gorfod cael ei arddangos ar blât rhif y cerbyd. Mae’r rhif cofrestru fel arfer yn aros gyda’r cerbyd hyd y mae’n cael ei dorri, ei ddinistrio, ei allforio’n barhaol neu ei drosglwyddo i gerbyd arall trwy broses drosglwyddo rhif cofrestru DVLA. Hyd yn oed os yw plât rhif personol yn cael ei drosglwyddo ar gerbyd, mae’r rhif cofrestru gwreiddiol yn aros ar gofnod DVLA i alluogi sicrwydd hunaniaeth pob cerbyd.
Mae DVLA yn gyfrifol am gofrestru a thrwyddedu cerbydau ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, gan gymryd y cyfrifoldeb ar gyfer cofrestru a thrwyddedu cerbydau oddi wrth awdurdodau lleol yn y 1970au cynnar. Mae’r gweithdrefnau presennol mewn grym ar gyfer cerbydau sydd wedi cael eu hailadeiladu, eu trosi â chit neu eu newid yn llwyr o fanyleb wreiddiol y gwneuthurwr wedi aros yr un peth i raddau helaeth ers y 1980au ac nid ydynt yn ystyried cerbydau a drosir i drydan.
Bwriedir i’r rheolau helpu sicrhau’r canlynol:
- mae’r manylion a ddelir ar gofnod y cerbyd a’r V5CW yn adlewyrchu’r cerbyd yn gywir
- mae cerbydau sydd wedi cael eu hailadeiladu ac sy’n gofyn am ailgofrestru (gan yr ystyrir eu bod yn gerbydau gwahanol) yn ddiogel i’w defnyddio ar y ffordd gyhoeddus
- cedwir at y gyfraith mewn perthynas â threth cerbyd (VED), cymeradwyaeth math cerbyd a gofynion cofrestru
- mae digon o’r cerbyd gwreiddiol wedi’i ymgorffori yn yr un a ailadeiladwyd iddo gael cadw ei rif cofrestru gwreiddiol
- mae prynwyr posibl yn ymwybodol y gall cerbyd fod wedi cael ei ailadeiladu, ei ddifrodi neu ei addasu’n helaeth trwy nodwr gweinyddol cerbyd a ailadeiladwyd ar y V5CW a, lle’n briodol, dyrannu rhif cofrestru Q
2. Deddfwriaeth
Mae’r Ddeddf Trethu a Chofrestru Cerbydau 1994 a’r Rheoliadau Cerbydau Ffordd (Cofrestru a Thrwyddedu) 2002 yn amlinellu rhwymedigaethau penodol ceidwad cerbyd a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ynglŷn a chofrestru cerbydau, trwyddedu a chadw cerbyd.
Mae’r Rheoliadau Cerbydau Ffordd (Cymeradwyaeth) 2020 a’r Rheoliadau Beiciau Modur Ac Ati (Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol) 2003 yn amlinellu’r gofyniad am Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) a Chymeradwyaeth Cerbyd Unigol Beic Modur (MSVA) yn y drefn honno.
Mae’r Rheoliadau Cerbydau Ffordd (Adeiladwaith a Defnydd) 1986 yn cwmpasu dyluniad, gwneuthuriad, cynnal a chadw a defnydd cerbydau modur. Mae angen i’r safonau hyn gael eu hateb cyn y gall cerbyd gael ei gofrestru.
3. Proses bresennol
Yn dilyn ymgynghori â’r diwydiant yn y 1980au, cytunwyd ar y cyd y byddai cadw’r siasi wreiddiol heb ei newid (yn achos cerbydau â siasi ar wahân) neu gragen corff unigol, a 2 brif gydran arall o’r canlynol: injan, trawsyriant, offer llywio, hongiad blaen ac ôl, y ddwy echel, yn ddigonol i gerbyd gadw ei rif cofrestru gwreiddiol.
Mae’r tabl canlynol yn dangos y newidiadau sy’n cael eu gwneud i gerbydau a sut mae’r rheolau yn cael eu cynhwyso pan fydd DVLA yn asesu’r newidiadau hyn.
Newidiadau cerbydau a wneir | Rheolau presennol a ddefnyddir i asesu’r newidiadau hyn |
---|---|
Yn ystod adfer, mae adrannau o’r siasi neu gragen corff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) o’r cerbyd gwreiddiol yn cael eu hamnewid. Mae cwsmeriaid am i’r cerbyd gadw’r rhif cofrestru gwreiddiol i gefnogi tarddiad hanesyddol y cerbyd a chadw cymhwyster dosbarth treth hanesyddol y cerbyd. | Gall cerbyd gadw ei rif cofrestru yn unig lle nad oes newidiadau wedi cael eu gwneud i’r siasi neu gragen corff unigol wreiddiol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur). Mae unrhyw addasiadau a wneir i’r siasi neu gragen corff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) ar hyn o bryd yn gofyn i’r cerbyd gael ei ailgofrestru â rhif cofrestru Q. |
Cerbydau newydd sy’n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio cydrannau a ailgynhyrchwyd o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys cerbydau sy’n rhoi. Gan fod y cydrannau wedi’u hailgynhyrchu i gyflwr “fel newydd”, mae cwsmeriaid am i’r rhain gael eu cofrestru fel cerbydau hollol newydd â rhif cofrestru cyfredol. | Er mwyn aseinio rhif cofrestru cyfredol i’r cerbydau hyn, dim ond un gydran a ailgyflyrwyd (i safon “fel newydd”) y gellir ei defnyddio. Os oes mwy nac un gydran yn cael eu defnyddio, gellir cofrestru cerbyd â rhif cofrestru Q yn unig. Fodd bynnag, ar gyfer cerbydau wedi’u trosi o git, ar yr amod bod o leiaf 2 gydran wreiddiol o’r un cerbyd sy’n rhoi yn cael eu defnyddio, mae’r rhif cofrestru yn seiliedig ar oedran y cerbyd sy’n rhoi. |
Cerbydau clasurol sy’n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio’r siasi neu gragen corff (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) cerbyd heb ei gofrestru’n flaenorol a phrif gydrannau oll dros 25 mlwydd oed. Mae’r clwb arbenigol perthnasol yn archwilio’r cerbyd a gwblhawyd i asesu a yw’n wir adlewyrchiad o’r gwneuthuriad a model. | Bydd rhif cofrestru yn cael ei aseinio i’r cerbydau hyn yn seiliedig ar oedran y gydran ieuengaf. Bydd rhif cofrestru Q yn cael ei aseinio i gerbydau sy’n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio cymysgedd o gydrannau newydd a rhai a ddefnyddiwyd. |
Cerbydau sy’n cael eu hailadeiladu neu eu hadfer gan ddefnyddio’r cydrannau gwreiddiol a siasi neu gragen corff unigol newydd (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) fel yr un fanyleb â’r wreiddiol ond wedyn yn newid y rhain i wella neu estyn oes cerbyd. | Bydd amnewid siasi neu gragen corff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) a addaswyd o’r fanyleb wreiddiol yn arwain at aseinio rhif cofrestru Q i’r cerbyd. |
Mae gofyn i gerbydau sy’n cael eu trosi o injan llosgi mewnol i yriant trydan gael tynnu’r injan a’r trawsyriant ac i addasiadau gael eu gwneud i dderbyn motor trydan a phecyn batri. Mae hyn fel arfer yn gofyn i’r siasi neu gragen corff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) gael ei ddrilio neu ei asio. | Gall cerbyd gadw ei rif cofrestru yn unig lle nad oes dim newidiadau wedi cael eu gwneud i’r siasi neu gragen corff unigol wreiddiol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur). Mae unrhyw addasiadau a wneir i’r siasi neu gragen corff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) ar hyn o bryd yn gofyn i’r cerbyd gael ei ailgofrestru â rhif cofrestru Q. |
Cerbydau hanesyddol a chlasurol
Pennir dyraniad rhifau cofrestru yn bennaf gan ddyddiad cynhyrchu’r cerbyd neu ddyddiad cofrestru cyntaf. Nid yw’r gyfraith yn diffinio cerbyd yn benodol fel hanesyddol neu glasurol, ond gall cerbyd fod wedi’i eithrio rhag talu VED os yw’n fwy na 40 mlwydd oed ac mae’n gymwys ar gyfer y dosbarth treth cerbyd hanesyddol. Mae tua 1.1 miliwn o gerbydau yn y dosbarth treth cerbyd hanesyddol, a 600,000 ohonynt wedi’u trwyddedu ar hyn o bryd.
Mae’n gyfreithiol ofynnol i geidwad cerbyd hysbysu DVLA os yw wedi gwneud newidiadau mawr i’w gerbyd neu os yw wedi adeiladu cerbyd newydd. Nid yw’r gofyniad hwn yn benodol i gerbydau hŷn ac mae’n gymwys i bob cerbyd, heb ystyried oedran.
Cwestiynau galwad am dystiolaeth – cerbydau hanesyddol a chlasurol
3.1. Beth ydych chi’n ystyried i fod yn gerbyd hanesyddol neu glasurol? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.2. Os ydych chi’n meddwl y dylai fod proses gofrestru ar wahân i gerbydau hanesyddol a chlasurol, beth fyddai’r broses gywir ar gyfer y cerbydau hyn? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.3. Os ydych chi’n meddwl y dylai fod cyfres o rifau cofrestru yn benodol ar gyfer cerbydau hanesyddol a chlasurol, sut ydych chi’n dychmygu y byddai hyn yn gweithio? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.4. A ddylai fod math newydd o wiriad diogelwch ar waith sy’n ystyried oedran cerbyd hanesyddol neu glasurol? Os felly, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.5. A ddylid gwahaniaethu rhwng gwaith adfer, lle mae cerbyd sydd wedi’i gofrestru ar hyn o bryd â hanes sefydlog yn cael ei adnewyddu, o bosibl â rhai rhannau newydd, a cherbydau wedi’u hadeiladu fel replica heb fod yn seiliedig ar gerbyd cofrestredig, ond wedi’u hadeiladu o hen rannau? Os felly, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
Cynllun cerbydau clasurol wedi’u hailadeiladu
Bwriad y cynllun cerbydau clasurol yw cefnogi adfer cerbydau clasurol nad ydynt wedi cael eu cofrestru’n flaenorol.
Er mwyn cael eu haseinio rhif cofrestru perthynol i oedran, mae’n rhaid i gerbydau clasurol a ailadeiledir gynnwys pob cydran cyfnod gwirioneddol, pob un ohonynt yn gorfod bod yn fwy na 25 mlwydd oed ac â’r un fanyleb a phan gafodd y cerbyd gwreiddiol ei gynhyrchu. Mae’n rhaid i’r clwb selogion cerbyd priodol gyflawni archwiliad o’r cerbyd a chadarnhau ei fod yn wir adlewyrchiad o wneuthuriad a model y cerbyd hwnnw a’i fod yn bodloni’r meini prawf uchod. Bydd y rhif cofrestru perthynol i oedran yn cael ei seilio ar oedran y gydran ieuengaf a ddefnyddir.
Cyhoeddir rhif cofrestru Q i gerbydau clasurol wedi’u hailadeiladu neu gerbydau clasurol replica a adeiladwyd i fanylebau gwreiddiol ond gan ddefnyddio cymysgedd o gydrannau newydd ac wedi’u defnyddio (neu QNI i gerbydau a gofrestrir yng Ngogledd Iwerddon). Mae’n rhaid fod gan y cerbydau hyn Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) neu Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol Beic Modur (MSVA) gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) cyn iddynt allu cael eu cofrestru.
Cwestiynau galwad am dystiolaeth – cerbydau clasurol wedi’u hailadeiladu
3.6. Os ydych chi’n meddwl bod y canllawiau presennol yn berthnasol o hyd, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.7. Beth ydych chi’n meddwl ddylai fod y diffiniad o gerbyd clasurol wedi’i ailadeiladu? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.8. Os ydych chi’n meddwl ei bod yn briodol sicrhau bod rhaid i’r cydrannau a ddefnyddir i adeiladu cerbyd fod yn fwy na 25 mlwydd oed ac o fewn y cyfnod y cynhyrchwyd y model cerbyd yn wreiddiol, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.9. Ydych chi’n meddwl y dylai’r cynllun cerbydau clasurol wedi’u hailadeiladu fod yn benodol i gerbydau nad ydynt wedi’u cofrestru o’r blaen, neu a ddylai’r cynllun fod yn gymwys hefyd i gerbydau a gofrestrwyd eisoes sydd wedi cael eu hailadeiladu neu eu hadfer? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.10. Beth ydych chi’n ystyried i fod yn gerbyd replica yn hytrach na cherbyd clasurol neu hanesyddol wedi’i ailadeiladu? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
Cerbydau wedi’u hailadeiladu
Cerbydau yw’r rhain sydd wedi cael eu hailadeiladu i fanyleb wreiddiol y gwneuthurwr gan ddefnyddio rhannau newydd neu wedi’u defnyddio. Mae llinell fain rhwng atgyweirio a chryfhau rhannau sydd wedi’u gwanhau trwy eu newid am gydrannau ‘tebyg am debyg’ ac ailadeiladu cerbyd i’r fath raddau na ddygir hunaniaeth cerbyd i gwestiwn.
Er mwyn cadw’r rhif cofrestru gwreiddiol, mae’n rhaid i geir a faniau ysgafn ddefnyddio’r siasi neu gragen corff unigol gwreiddiol, cyflawn a heb eu newid neu siasi newydd neu gragen corff unigol o’r un fanyleb â’r gwreiddiol (â derbynneb oddi wrth y gwerthwr neu’r gwneuthurwr). Hefyd mae’n rhaid fod gan y cerbyd 2 brif gydran arall o’r cerbyd gwreiddiol: hongiad blaen ac ôl, y ddwy echel, trawsyriant, offer llywio neu injan. Pan ddefnyddir siasi neu gragen corff unigol newydd, nid yw’r VIN gwreiddiol yn gallu cael ei gadw ac mae VIN DVLA yn cael ei ddyrannu i’r cerbyd.
Er mwyn i feic modur gadw ei rif cofrestru gwreiddiol, mae’n rhaid i’r ffrâm fod yr un gwreiddiol ac heb ei newid neu’n ffrâm newydd o’r un fanyleb yn union â’r gwreiddiol (ac mae’n rhaid i VIN DVLA gael ei ddyrannu i’r cerbyd). Mae’n rhaid fod gan y cerbyd hefyd 2 brif gydran fawr arall o’r cerbyd gwreiddiol: ffyrc, olwynion, injan/gerflwch.
Pan ddefnyddir siasi neu gragen corff unigol neu ffrâm ail law neu wedi’i newid (wedi’i ddrilio, torri neu asio) neu nad oes digon o gydrannau’n weddill o’r cerbyd gwreiddiol, yna bydd angen ailgofrestru’r cerbyd â VIN DVLA, archwiliad Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) neu Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol Beic Modur (MSVA) a rhif cofrestru Q.
Cwestiynau galwad am dystiolaeth – cerbydau wedi’u hailadeiladu
3.11. Beth ydych chi’n meddwl ddylai fod y diffiniad o gerbyd wedi’i ailadeiladu? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.12. Ydych chi’n meddwl bod y canllawiau presennol yn berthnasol o hyd? Er enghraifft, a yw’n cymryd technolegau ac arloesedd newydd sy’n dod i’r amlwg i ystyriaeth. Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.13. Os ydych chi’n meddwl y dylai fod polisïau ailadeiladu ar wahan ar gyfer gwahanol fathau o gerbydau (beiciau modur, ceir, faniau, ac ati), rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.14. I ba raddau ddylai cerbyd gael ei ailadeiladu cyn bod angen hysbysu DVLA? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.15. A yw rhoi’r prif bwyslais ar gyfer asesu cerbyd wedi’i ailadeiladu ar addasiadau i’r siasi neu gorff cragen unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) yn briodol o hyd? Os nad yw, beth arall y dylid ei ystyried? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.16. Ar ba bwynt ddylai addasiad siasi neu gorff cragen unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) effeithio ar hunaniaeth y cerbyd sydd wedi cael ei ailadeiladu? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.17. Os ydych chi’n ystyried ei bod yn bwysig i ddefnyddiwr sy’n prynu cerbyd wybod os yw wedi cael gwaith ailadeiladu neu adfer mawr wedi’i wneud iddo, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
Cerbydau wedi’u hadfer
Nid oes polisi ar wahân ar hyn o bryd mewn grym ar gyfer asesu cerbydau sy’n bodoli sydd wedi cael eu hadfer. Mae’r rhain yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn unol â’r rheolau ar gyfer cerbydau wedi’u hailadeiladu.
Cwestiynau galwad am dystiolaeth – cerbydau wedi’u hadfer
3.18. Ydych chi’n meddwl y dylai cerbydau wedi’u hadfer barhau i gael eu hasesu yn unol â’r polisi presennol ar gyfer cerbydau wedi’u hailadeiladu neu a ddylai fod proses benodol ar gyfer asesu cerbydau wedi’u hadfer? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.19. Beth ydych chi’n meddwl ddylai fod y diffiniad o gerbyd wedi’i adfer? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.20. Os ydych chi’n meddwl y dylai fod polisïau ar wahân ar gyfer gwahanol fathau o gerbydau (beiciau modur, ceir, faniau ac ati), rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.21. Ar ba bwynt ddylai addasiad siasi neu gragen corff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) effeithio ar hunaniaeth cerbyd sydd wedi cael ei adfer? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.22. Os ydych chi’n ystyried ei bod yn bwysig i ddefnyddiwr sy’n prynu cerbyd wybod os yw wedi cael gwaith adfer mawr wedi’i wneud iddo, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
Cerbydau wedi’u hadeiladu o git neu wedi’u trosi o git
Cerbyd wedi’i adeiladu o git yw cerbyd hollol newydd wedi’i adeiladu o git o rannau wedi’i gyflenwi gan wneuthurwr citiau.
Os yw holl rannau cerbyd wedi’i adeiladu o git yn cael eu cyflenwi’n newydd gan y gwneuthurwr, bydd rhif cofrestru cyfredol yn cael ei aseinio i’r cerbyd os oes derbynebau boddhaol a Thystysgrif Newydd-deb yn cael eu darparu. Bydd ceir cit sydd wedi cael eu hadeiladu gan ddefnyddio dim mwy nac un gydran fawr wedi’i hailgyflyru (er enghraifft injan, echel, gerflwch, hongiad blaen) hefyd yn cael eu haseinio â rhif cofrestru cyfredol os darperir tystiolaeth foddhaol fod y gydran wedi cael ei hailgyflyru i safon ‘fel newydd’. Mae’n rhaid fod gan y cerbyd Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) neu Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol Beic Modur (MSVA) gan DVSA.
Cerbyd wedi’i drosi o git yw lle mae cit o ddarnau newydd wedi cael ei ychwanegu at gerbyd sy’n bodoli, neu mae hen rannau yn cael eu hychwanegu at git corff wedi’i gynhyrchu, siasi neu gragen corff unigol. Bydd ymddangosiad y cerbyd yn newid ac yn arwain at ddisgrifiad gwahanol yn cael ei roi ar y V5CW. Bydd cerbyd yn cadw rhif cofrestru’r cerbyd gwreiddiol os yw’r siasi neu gragen corff unigol gwreiddiol heb ei newid wedi cael ei defnyddio, ynghyd â 2 brif gydran arall o’r cerbyd gwreiddiol.
Os yw cragen corff unigol neu siasi newydd gan wneuthurwr citiau arbenigol (neu siasi neu gragen corff wedi’i newid o gerbyd sy’n bodoli) yn cael ei defnyddio gyda 2 gydran fawr wreiddiol o’r cerbyd sy’n rhoi, bydd rhif cofrestru newydd yn cael ei gyflwyno yn seiliedig ar oedran y cerbyd sy’n rhoi. Mae’n rhaid i’r cerbyd gael Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) neu Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol Beic Modur (MSVA) gan DVSA. Bydd dyddiad cynhyrchu’r cerbyd yn cael ei gymryd o’r dystysgrif Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) neu Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol Beic Modur (MSVA).
Lle mae rhannau annigonol o gerbyd sy’n rhoi yn cael eu defnyddio neu mewn achosion lle mae’r rhif cofrestru gwreiddiol yn anhysbys, bydd gofyn am Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) neu Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol Beic Modur (MSVA) i gofrestru’r cerbyd a bydd rhif cofrestru Q yn cael ei aseinio.
Cwestiynau galwad am dystiolaeth – cerbydau wedi’u hadeiladu o git a cherbydau wedi’u trosi o git
3.23. Os ydych chi’n meddwl bod y canllawiau presennol yn berthnasol o hyd, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.24. Os ydych chi’n meddwl y dylid ystyried cydrannau wedi’u hatgyflyru neu eu hailgynhyrchu yr un fath â chydrannau newydd sbon, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.25. A ddylai cydrannau wedi’u hailgyflyru neu eu hailgynhyrchu gael eu hasesu i sicrhau eu bod yn bodloni’r manylebau i’w defnyddio ar gerbyd gwahanol i’r un y cawsant eu cynllunio ar ei gyfer? Os felly, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.26. Os ydych chi’n meddwl y dylai cerbydau wedi’u hadeiladu o git gael eu cofrestru fel cerbydau newydd os oes ganddynt fwy nac un gydran wedi’i hailgyflyru neu wedi’i hailgynhyrchu, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.27. Os ydych chi’n meddwl y dylai’r V5CW ddangos bod y cerbyd wedi cael ei adeiladu gan ddefnyddio cydrannau a ailgyflyrwyd neu a ailgynhyrchwyd, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.28. Os ydych chi’n meddwl ei bod yn bwysig darparu tystiolaeth i ddangos o ble mae rhannau a ailgyflyrwyd neu a ailgynhyrchwyd yn cael eu caffael, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
Cerbydau a newidiwyd yn llwyr
Mae cerbydau a newidiwyd yn llwyr yn cael eu diffinio fel cerbydau sydd wedi newid yn sylweddol o’u manyleb wreiddiol ond nad ydynt wedi defnyddio cit o rannau gan wneuthurwr neu gyflenwr yn y newid. Er enghraifft, car salŵn sydd wedi cael ei dorri a’i estyn i gar limosîn, neu gar sydd wedi cael tynnu ei do i gael ei newid yn llwyr i gar codi to neu gerbyd top agored.
Mae DVLA yn archwilio ffotograffau a ddarparwyd gan y cwsmer i asesu’r newidiadau a wnaed i’r cerbyd a rhoddir gwerth rhifol i’r cydrannau sy’n weddill o’r cerbyd gwreiddiol. Er mwyn cadw’r rhif cofrestru gwreiddiol, mae’n rhaid i’r cerbyd sgorio 8 pwynt neu ragor. Mae’n rhaid i’r cyfanswm hwn gynnwys 5 pwynt ar gyfer y siasi neu gragen corff unigol gwreiddiol heb ei newid neu newydd. Os bydd siasi neu gragen corff unigol yn cael ei defnyddio, i gymhwyso ar gyfer 5 pwynt mae’n rhaid iddi fod yn amnewid uniongyrchol o’r gwneuthurwr.
Cydrannau | Pwyntiau |
---|---|
Siasi neu gragen corff unigol gwreiddiol heb ei newid neu newydd* | 5 |
Hongiad (blaen a chefn) | 2 |
Echelydd (y ddwy) | 2 |
Trawsyriant | 2 |
Offer llywio | 2 |
Injan | 1 |
*Amnewid uniongyrchol o’r gwneuthurwr
Os oes gan y cerbyd lai nac 8 pwynt neu os defnyddir siasi neu gragen corff unigol ail law neu wedi’i newid (wedi’i ddrilio, torri neu asio), yna bydd angen ailgofrestru’r cerbyd â VIN DVLA, archwiliad Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) neu Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol Beic Modur (MSVA) a rhif cofrestru Q.
Cwestiynau galwad am dystiolaeth – cerbydau a newidiwyd yn llwyr
3.29. Beth ydych chi’n meddwl ddylai fod y diffiniad o gerbyd wedi’i newid yn llwyr a pham? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.30. Os ydych chi’n meddwl bod y canllawiau presennol yn berthnasol o hyd, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.31. I ba raddau ddylai cerbyd gael ei newid yn llwyr cyn bod angen rhoi gwybod i DVLA? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.32. A ddylai’r prif bwyslais ar gyfer asesu cerbyd wedi’i newid yn llwyr fod ynghylch addasiadau i’r siasi neu gragen gorff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) neu a ddylai cydrannau eraill gael eu hystyried hefyd? Os felly, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
Cerbydau wedi’u trosi i yriant trydan
Mae proses drosi trydan cerbyd ag injan llosgi mewnol i yriant trydan yn gofyn i’r injan a’r trawsyriant gael eu tynnu ac addasiadau sylweddol i brif systemau rheoli cerbyd, gan gynnwys cymorth brecio a llywio, yn ogystal â newidiadau i dderbyn motor trydan a phecyn batri. Mae gosod y cyfarpar hwn i siasi neu gragen corff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) na chafodd ei dylunio ar ei gyfer fel arfer yn gofyn iddo gael ei asio neu ei folltio i’w le.
Ar hyn o bryd, mae cerbydau sy’n bodoli sy’n cael eu trosi i yriant trydan yn cael eu hystyried o dan yr un rheolau â cherbydau wedi’u hailadeiladu.
Os yw’r cerbyd yn cadw ei siasi neu gragen corff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) heb ei newid a bod digon o gydrannau gwreiddiol mawr yn weddill, nid yw rhagor o weithredu yn ofynnol.
Lle mae tystiolaeth o addasu strwythurol i’r siasi neu gragen corff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) neu nad yw’r cerbyd yn cadw digon o gydrannau mawr gwreiddiol, bydd angen i’r cerbyd gael ei ailgofrestru â VIN DVLA, archwiliad Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) neu Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol Beic Modur (MSVA) a rhif cofrestru Q.
Cwestiynau galwad am dystiolaeth – cerbydau wedi’u trosi i yriant trydan
3.33. Os ydych chi’n meddwl y dylai fod polisi penodol ar wahân ar gyfer asesu cerbydau sydd wedi cael eu trosi i drydan, sut fyddai’r polisi neu broses yn edrych? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.34. Os ydych chi’n meddwl y dylai fod profion diogelwch penodol i gerbydau sydd wedi cael eu trosi i drydan, beth ddylai’r profion hyn eu cynnwys? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.35. Ar ba bwynt ddylai addasiad siasi neu gragen corff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) effeithio ar hunaniaeth y cerbyd sydd wedi cael ei drosi i drydan? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
Rhifau cofrestru Q a QNI
Mae rhifau cofrestru Q (QNI i gerbydau a gofrestrir yng Ngogledd Iwerddon) yn ddangosydd gweladwy nad yw oedran na hunaniaeth y cerbyd yn hysbys neu fod y cerbyd wedi cael ei addasu o’i fanyleb wreiddiol.
Cwestiynau galwad am dystiolaeth – rhifau cofrestru Q a QNI
3.36. Os ydych chi’n ystyried y dylai rhif cofrestru Q gael ei aseinio yn unig i gerbydau lle nad yw’r hunaniaeth yn hysbys neu nad yw’n gallu cael ei bennu, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.37. Ar hyn o bryd, bydd unrhyw addasiad i’r siasi neu gragen corff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) yn arwain at rif cofrestru Q yn cael ei aseinio i’r cerbyd. Ydych chi’n cytuno â’r polisi hwn? Os nad ydych, i ba raddau ydych chi’n ystyried y bydd yn dderbyniol i gerbyd gael ei addasu cyn aseinio rhif cofrestru Q iddo? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.38. Os ydych chi’n ystyried ei bod yn bwysig i ddefnyddiwr sy’n prynu cerbyd wybod os yw wedi cael ei addasu, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.39. A ddylid aseinio rhif cofrestru perthynol i oedran i gerbydau hanesyddol a chlasurol sydd wedi cael eu hailadeiladu neu eu hadfer yn hytrach na rhif cofrestru Q? Os felly, rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
Y Rhif Adnabod Cerbyd (VIN)
Mae’r gyfraith yn gofyn bod gan bob cerbyd a ddefnyddir ar y ffordd VIN, sy’n rhif unigryw cysylltiedig â phob cerbyd unigol. Mae VIN yn cynnwys 17 nod sy’n gwasanaethu fel “ôl bys” i’r cerbyd gan na ddylai unrhyw 2 gerbyd fod â’r un VIN. Mae VIN yn arddangos nodweddion unigryw, manylebau a gwneuthurwr cerbyd ac mae’n gallu cael ei ddefnyddio i olrhain adalwadau, rhifau cofrestru, hawliadau gwarant, lladradau, a gwarchodaeth yswiriant. Mae’r VIN hefyd yn cefnogi atal troseddu cerbydau fel clonio.
Cafodd fformat y VIN ei safoni yn 1981 ac mae’n cael ei ddefnyddio yn fyd-eang. Cyn hyn, nid oedd safon a dderbyniwyd ar gyfer VINau, felly defnyddiodd gynhyrchwyr gwahanol fformatau gwahanol a’u lleoli ar ardaloedd amrywiol y cerbyd. Cyn y VIN safonedig, byddai gan gerbydau naill ai rif siasi neu rif ffrâm.
VIN wedi’i ddyrannu gan DVLA
Mae senarios amrywiol lle mae VIN DVLA yn cael ei ddyrannu i alluogi cerbyd i gael ei gofrestru, mae’r rhain yn cynnwys:
- cerbydau clasurol wedi’u hadeiladu o git ac wedi’u hailadeiladu nad oes ganddynt VIN
- cerbydau a adeiladwyd yn y 1900au cynnar lle nad oedd VIN yn cael ei ddyrannu ar adeg y cynhyrchu
- cerbydau lle mae’r siasi neu gragen corff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) wedi cael ei hamnewid neu mae’r VIN wedi cael ei dynnu
- cerbydau lle mae’r siasi neu gragen corff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) wedi cael ei haddasu i ganiatáu i’r cerbyd gael ei ailgofrestru
- cerbydau lluosog yn arddangos yr un VIN lle, yn dilyn ymchwiliadau, mae VIN DVLA yn cael ei ddyrannu i alluogi cerbyd arall i gael ei gofrestru
Mae DVLA yn cyhoeddi VIN a llythyr awdurdodi i alluogi’r VIN i gael ei stampio i mewn i’r cerbyd gan garej neu ddeliwr moduron sy’n darparu’r gwasanaeth. Mae hyn yn caniatáu i gerbyd fynd trwy Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) neu Gymeradwyaeth Cerbyd Unigol Beic Modur (MSVA).
Cwestiynau galwad am dystiolaeth – dyrannu VIN DVLA
3.40. Ym mha amgylchiadau ydych chi’n meddwl y dylai DVLA ddyrannu VIN? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.41. Mae VIN yn ddynodwr unigryw i gerbyd a chaiff ei ddefnyddio gan DVLA wrth asesu gwreiddioldeb a hunaniaeth cerbyd. Gwneir hyn trwy wirio archifau a chael gwybodaeth gan arbenigwyr yn y maes. Lle nad yw’r VIN gwreiddiol yn bresennol bellach, sut allai DVLA ddilysu hunaniaeth a tharddiad cerbyd yn hytrach na dyrannu VIN DVLA? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.42. Os ydych yn wneuthurwr cerbydau, fyddai gennych bryderon am y VIN gwreiddiol yn cael ei gadw neu ei ailstampio ar y cerbyd, lle nad yw’r gwneuthurwr wedi cymeradwyo’r newidiadau i’r cerbyd? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
3.43. Ar hyn o bryd rydym yn dyrannu VIN DVLA lle mae siasi neu gragen corff unigol (neu ffrâm ar gyfer beiciau modur) wedi cael ei amnewid neu ei addasu. Mae cerbydau modern yn cael VIN wedi’i godio’n galed yn eu hunedau rheoli electronig ac o bosibl wedi’u stampio neu eu hysgythru ar gydrannau eraill. Yn yr enghreifftiau hyn, ydych chi’n meddwl bod VIN DVLA yn berthnasol o hyd? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
4. Beth mae gwledydd eraill yn ei wneud
Rydym wedi ceisio barn awdurdodau cofrestru eraill i ddeall yr hyn maen nhw’n ei wneud wrth gofrestru cerbydau hanesyddol a rhai wedi’u hailadeiladu.
O blith y rhai a ymatebodd, roedd gan y rhan fwyaf gynllun ar wahân ar gyfer cofrestru cerbydau hanesyddol, a dueddai i fod i gerbydau mwy na 30 oed. Er bod rhai gwledydd yn gosod cyfyngiadau, er enghraifft cyfyngu defnydd y cerbyd, mae’r rhan fwyaf yn gofyn i gerbydau gadw eu hymddangosiad, adeiladwaith neu fanylebau technegol gwreiddiol ac i gael rhyw ffurf o wiriad diogelwch.
Mewn perthynas â cherbydau sydd wedi cael eu hailadeiladu, ar y cyfan, gosododd gwledydd eraill rywfaint o bwyslais ar gadw cydrannau gwreiddiol, er enghraifft y siasi neu gragen corff unigol. Roedd y rhan fwyaf hefyd yn gofyn am ryw fath o archwiliad neu wiriad diogelwch lle mae cerbyd wedi cael ei ailadeiladu. Cytunai pawb mai’r VIN oedd y brif ffynhonnell hunaniaeth.
Cwestiynau galwad am dystiolaeth – beth mae gwledydd eraill yn ei wneud
4.1. Ydych chi’n meddwl bod unrhyw arferion gorau o wledydd eraill y gellid eu gweithredu yma? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
5. Sefydlu grwpiau cynghori annibynnol
Gofynnwyd i DVLA gan aelodau’r Grŵp Defnyddwyr Cerbydau Hanesyddol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’r sector, i ystyried y posibilrwydd o sefydlu grwpiau cynghori fel ffordd o wella’n prosesau ar gyfer ymdrin â cherbydau hanesyddol. Byddai’r grwpiau cynghori yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’r diwydiant cerbydau hanesyddol yn ogystal â thrydydd partïon eraill â diddordeb lle’n briodol.
Gallai grwpiau cynghori ddarparu cyngor annibynnol yn ogystal â her adeiladol ac ystyriol i’r polisïau ar gofrestru cerbydau hanesyddol penodol. Eu rôl fyddai cynnig cyngor ar rai o’r ceisiadau cymhleth ac yn aml dadleuol mae DVLA yn eu derbyn ar gyfer cerbydau wedi’u hailadeiladu a’u newid yn llwyr. Yn yr enghreifftiau hyn, byddai’r penderfyniad cofrestru terfynol yn aros gyda DVLA, yn gweithredu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.
Cwestiynau galwad am dystiolaeth – grwpiau cynghori annibynnol
5.1. Ydych chi’n meddwl y dylai DVLA archwilio’r opsiwn o sefydlu grwpiau cynghori annibynnol i gefnogi’r broses gofrestru ar gyfer cerbydau hanesyddol? Rhowch dystiolaeth a rhesymau i gefnogi eich barn.
Cwestiwn ychwanegol
5.2. Os ydych chi’n dymuno cyflwyno unrhyw dystiolaeth, awgrymiadau neu syniadau na chafodd eu crybwyll eisoes ynghylch y prosesau cofrestru, rhannwch eich meddyliau ynglŷn a sut y gallai’r rhain weithio.