Call for evidence outcome

Government response to call for evidence: violence and abuse toward shop staff (Welsh translation) (accessible version)

Updated 9 August 2021

Rhagair y Gweinidog

Mae’r Llywodraeth hon yn cydnabod y gall y cam-drin a’r trais corfforol a wynebir gan staff siop gael effaith fawr ar eu hiechyd, nid yn unig yn gorfforol ond yn feddyliol ac emosiynol. Mae siopau yn rhan ganolog o’n cymunedau a chymdogaethau, ac yn y misoedd diwethaf yn fwy nag erioed yn ystod y pandemig coronafeirws. Yn syth ar ôl i’r Llywodraeth gyflwyno mesurau i reoli lledaeniad y feirws, gweithiodd staff siop yn ddiflino i fwydo’r genedl, wrth weithredu mesurau ymbellhau cymdeithasol i gadw’r cyhoedd yn ddiogel. Wrth i gyfyngiadau lacio, a mwy o siopau a busnesau ailagor, maent wedi parhau i wneud yn siŵr y gall pobl siopa’n ddiogel i helpu i gael yr economi i symud unwaith eto. Hoffwn ddiolch iddynt am eu gwaith caled a phwysleisio pa mor bwysig yw hi fod y rheiny sy’n gweithio mewn siopau yn rhydd rhag ofni trais neu fygythion.

Mae’r Alwad am Dystiolaeth wedi bod yn gam pwysig wrth adeiladu ein dealltwriaeth o’r broblem. Mae wedi rhoi cyfle i bartïon perthnasol leisio eu barn ac rwy’n ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ymateb. Mae’r gwaith caled, angerdd ac agwedd benderfynol i fynd i’r afael â’r broblem hon yn glir ac rwy’n hyderus y gallwn drwy gydweithio, fynd i’r afael â’r problemau sy’n codi yn yr ymatebion. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Mehefin 2019, ac felly mae’r ymatebion yn adlewyrchu profiadau manwerthwyr a gweithwyr siop cyn y pandemig. Yng nghyfarfod diweddar y Grŵp Llywio Trosedd Manwerthu Cenedlaethol, dywedodd manwerthwyr wrthyf eu bod wedi dioddef cynnydd yn yr achosion o gam-drin tuag at eu staff yn ystod y prynu brys ym mis Mawrth, ac yn ystod y misoedd dilynol tra mae’r mesurau ymbellhau cymdeithasol wedi bod yn eu lle. Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysicach fyth i gyhoeddi ymateb y Llywodraeth a dechrau mynd i’r afael â’r math hwn o drosedd.

Yng ngoleuni’r ymatebion a gafwyd i’r Alwad am Dystiolaeth, rwy’n glir mai dim ond dechrau’r broses yw hyn. Rwy’n gweithio gyda’r Grŵp Llywio Trosedd Manwerthu Cenedlaethol (NRCSG), yr ydym yn ei gyd-gadeirio gyda Chonsortiwm Manwerthu Prydain, i ddatblygu a chyflwyno rhaglen o waith i hybu llai o gam-drin a thrais. Mae’r grŵp hwn yn dwyn ynghyd sefydliadau masnach, partneriaid gorfodi, y Llywodraeth ac eraill i greu cyd-ddealltwriaeth o’r broblem a chydweithio i ddod o hyd i ddatrysiadau. Mae’r ymatebion i’r Alwad am Dystiolaeth wedi amlygu bod yna rai problemau allweddol, a dim ond drwy’r Llywodraeth yn gweithio gyda’r sector y gellir mynd i’r afael â nhw. Rwy’n falch o ddweud ein bod eisoes wedi dechrau ar y gwaith pwysig hwn. Wrth i’r gwaith hwnnw fynd rhagddo, byddwn hefyd yn ystyried unrhyw wersi a phrofiadau newydd gan fanwerthwyr yn ystod y pandemig coronafeirws.

Rwy’n bryderus yn arbennig o glywed nad yw unigolion yn rhoi gwybod am droseddau manwerthu, gan eu bod yn eu hystyried fel rhan o’u swydd neu oherwydd nad oes ganddynt yr hyder yn yr ymateb y byddent yn ei gael petaent yn rhoi gwybod. Rhaid i hyn newid: mae’r Llywodraeth yn disgwyl i’r holl droseddau gael eu hadrodd i’r heddlu ac iddynt gael eu hymchwilio yn unol â hynny. Mae’n annerbyniol bod pobl sydd wedi dioddef trais naill ai ddim yn hyderus yn eu heddlu lleol, neu’n gyndyn o adrodd am droseddau a gyflawnir yn eu herbyn gan eu cyflogwyr.

Rwyf hefyd yn awyddus i wella ymateb y system cyfiawnder troseddol i droseddau yn erbyn staff siop a sicrhau bod dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cefnogi. I gyflawni hyn, rhaid i ni sicrhau bod y dulliau a’r mecanweithiau ar gyfer adrodd troseddau o’r fath, yn gyson a bod yr ystod lawn o ganlyniadau cyfiawnder troseddol yn cael eu defnyddio’n effeithiol. Mae hyn yn mynnu bod y Llywodraeth, busnesau, yr heddlu a phartneriaid eraill yn cydweithio i fynd i’r afael â’r problemau hyn.

Edrychaf ymlaen at weld effaith y gwaith hwn.

Kit Malthouse AS

Gweinidog dros Drosedd a Phlismona

1. Cefndir

1. Ar 5 Ebrill 2019, lansiodd y Llywodraeth Alwad am Dystiolaeth ar y broblem o drais a cham-drin tuag at staff siop. Cyhoeddwyd yr Alwad am Dystiolaeth yn dilyn dadleuon yn ystod hynt Deddf Arfau Ymosodol 2019, yn benodol mewn perthynas â’r mater p’un a ddylai ymosod ar aelod o staff siop gael ei gyfrif fel trosedd. Crëwyd model ar gyfer trosedd o’r fath dan Ddeddf Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) 2018. Dadleuodd y rheiny o blaid cyflwyno trosedd newydd, fod staff siop yn aml ar flaen y gad o ran ymdrechion i orfodi’r gyfraith. Er i’r ddadl ddigwydd yng nghyd-destun creu trosedd newydd o werthu sylwedd cyrydol i unigolyn dan 18 oed, mae gan y ddadl dros gyflwyno trosedd o ymosod ar weithiwr siop gymhwysiad posib i’r gweithgarwch a wna gweithwyr siop wrth orfodi cyfyngiadau ar ystod o nwyddau sydd â chyfyngiadau oed arnynt. Daeth yr Alwad am Dystiolaeth i ben ar 28 Mehefin 2019 ac estynnwyd gwahoddiad am sylwadau gan aelodau o’r cyhoedd, y rheiny’n gweithio yn y sector, busnesau, yr heddlu a phartïon eraill sydd â diddordeb.

2. Nod yr Alwad am Dystiolaeth oedd galluogi’r Llywodraeth i ddeall gwir raddfa’r broblem o drais a cham-drin tuag at siop staff, y mesurau a all helpu i atal y troseddau hyn a’r raddfa y mae deddfwriaeth bresennol yn cael ei defnyddio i fynd i’r afael â nhw, ac adnabod enghreifftiau o arferion da.

3. Canolbwyntiodd ar drais a cham-drin tuag at yr holl staff sy’n gweithio mewn lleoliad manwerthu (yn cynnwys, er enghraifft, y rheiny’n gweithio mewn allfeydd manwerthu megis gorsafoedd trên, canol trefi a chanolfannau siopa) a gyflawnir gan aelodau o’r cyhoedd. Er bod y broblem o drais ac ymosodiadau a gyflawnir yn erbyn y rheiny yn y gwaith yn ymestyn y tu hwnt i staff siop ac y gall effeithio ar ystod o bobl yn darparu gwasanaeth i’r cyhoedd, prif ffocws yr Alwad hon am Dystiolaeth oedd digwyddiadau mewn lleoliad manwerthu, gan adlewyrchu’r adroddiadau am ddigwyddiadau cynyddol tuag at staff siop yn y blynyddoedd diweddar.

4. Roedd yr Alwad am Dystiolaeth yn ceisio gwybodaeth mewn ymateb i 22 cwestiwn yn erbyn pedwar maes:

a) cyffredinolrwydd a data;

b) atal a chefnogaeth;

c) gorfodi a’r system cyfiawnder troseddol; ac

d) arferion gorau.

Mae’r ymateb hwn i’r Alwad am Dystiolaeth yn crynhoi’r ymatebion yn erbyn pob un o’r pedwar maes. Cynhwysir rhestr o’r ymatebwyr yn Atodiad A.

2. Crynodeb o’r ymatebion

5. Derbyniodd y Swyddfa Gartref gyfanswm o 800 o brif ymatebion, er yr oedd rhai o’r rhain wedi’u llywio gan ymgynghori ehangach, yn cynnwys gydag aelodau o sefydliadau penodol a phartïon eraill sydd â diddordeb. Rydym yn amcangyfrif bod bron i 3,500 o unigolion, busnesau a sefydliadau eraill, megis elusennau a chyrff masnach, wedi ymgysylltu â’r Alwad am Dystiolaeth i ryw raddau. Yn ogystal, darparodd rhai ymatebwyr gofnodion dienw ac erthyglau papur newydd yn manylu digwyddiadau penodol yn cynnwys gweithwyr siop, a oedd yn amrywio o fygythiadau ar lafar i ladrad arfog. Digwyddodd y rhain mewn ystod o ardaloedd ac ar draws ystod o leoliadau, yn cynnwys parciau manwerthu a siopau cyfleustra gorsafoedd petrol.

6. Mae’r ymatebion o’r Alwad am Dystiolaeth yn disgyn o fewn tair prif thema: -

a) Y lefel a’r raddfa o gam-drin a wynebwyd gan y rheiny’n gweithio yn y sector. Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yn credu bod trais a cham-drin tuag at staff siop wedi cynyddu yn y blynyddoedd diweddar. Roedd ymatebwyr yn credu bod y cynnydd o ganlyniad i: -

  • gynnydd mewn lladrata o siopau a pharodrwydd cynyddol ymysg troseddwyr i ddefnyddio trais a cham-drin pan maent yn cael eu herio gan staff;
  • cynnydd mewn camddefnyddio alcohol a chyffuriau ymysg troseddwyr; a,
  • lleihad yn nifer y swyddogion diogelwch sy’n gweithio ar safleoedd.

Nododd nifer o ymatebwyr eu bod hefyd wedi profi bygythiadau ac ymosodiadau lle defnyddiwyd gwrthrych miniog.

b) Colli ymddiriedaeth yn yr ymateb i’r troseddau hyn, gan yr heddlu, y system cyfiawnder troseddol ehangach a chyflogwyr. Dywedodd nifer fawr o ymatebwyr na wnaethant roi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiadau. Ymhlith y rhesymau dros beidio â rhoi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiadau oedd: -

  • diffyg ymateb gan yr heddlu i ddigwyddiad blaenorol;
  • cyflogwyr yn annog eu gweithlu i beidio â rhoi gwybod am ddigwyddiadau;
  • digwyddiadau ddim yn cael eu hystyried yn ddigon difrifol i roi gwybod amdanynt i’r heddlu gan y gweithwyr a’r cyflogwyr; ac,
  • ymdeimlad cyffredinol bod cam-drin yn ‘rhan o’r swydd’.

c) Ymateb annigonol gan y System Cyfiawnder Troseddol. Er mai’r prif fater i lawer oedd yr angen i greu trosedd newydd, nid dyma’r unig fater a godwyd gan yr ymatebwyr. Ymhlith y materion eraill a godwyd oedd:

  • pryder ynglŷn ag a oedd yr adnoddau sifil dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2014 yn ddigonol i fynd i’r afael ag aflonyddwch, neu ymddygiad a all ddychryn a chodi gofidiau ac atal aildroseddu;
  • diffyg dealltwriaeth o sut all, neu gyfle ar gyfer, dioddefwyr egluro sut maent wedi cael eu heffeithio gan y troseddau a gyflawnwyd yn eu herbyn naill ai drwy Ddatganiad Personol Dioddefwr neu Ddatganiad o Effaith ar Fusnes; a
  • chred nad oedd dioddefwyr yn mynd i allu cael cyfiawnder am y troseddau a gyflawnwyd yn eu herbyn.

3. Adran Un: Cyffredinolrwydd a Data

7. Roedd adran un o’r Alwad am Dystiolaeth yn ceisio gwybodaeth i’n helpu i lenwi bylchau yn ein dealltwriaeth o’r broblem ac i lunio darlun cywirach o natur y trais a’r cam-drin tuag at staff. Anogwyd ymatebwyr i ganolbwyntio ar wybodaeth mewn perthynas â digwyddiadau sy’n digwydd yng Nghymru a Lloegr.

8. Roedd adran un yn ceisio gwybodaeth mewn ymateb i bum prif gwestiwn. Roedd y cwestiynau hynny yn canolbwyntio ar: raddfa’r broblem; natur y broblem; effaith y lleoliad daearyddol; sut mae sefydliadau yn cofnodi digwyddiadau; ac effaith bosib ar staff.

Crynodeb o’r ymatebion

a) Graddfa’r broblem

9. Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yn credu bod trais a cham-drin tuag at staff siop wedi cynyddu yn y blynyddoedd diweddar. Y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd am y cynnydd oedd o ganlyniad i gynnydd ym mharodrwydd unigolion i droi at drais, yn enwedig pan maent yn cael eu herio am ladrata o siop neu eu hamau o ladrata o siop. Adroddodd ymatebwyr fod lladratwyr o siopau yn fwy penderfynol o ddwyn eitemau, o bosib o ganlyniad i ddibyniaeth ar gyffuriau a/ neu alcohol, ac, o ganlyniad, yn fwy tebygol o ymosod ar weithwyr siop os cânt eu dal.

10.Roedd ymatebwyr yn teimlo bod diffyg atalfeydd i’r rheiny sy’n benderfynol o gyflawni troseddau yn erbyn busnes. Cynigwyd sawl rheswm dros pam y gallai hyn fod yn wir, yn cynnwys pwysau cynyddol ar heddlu llai, ac ymateb araf, neu ar brydiau, diffyg ymateb yr heddlu i adroddiadau am droseddau yn erbyn busnesau. Roedd ymatebwyr hefyd yn bryderus bod adroddiadau’r heddlu yn y wasg am y lefel o flaenoriaeth a fyddai’n cael ei rhoi i droseddau a gyflawnir yn erbyn busnesau yn creu awyrgylch lle mae troseddwyr yn wynebu llai o risgiau. Roedd ymatebwyr hefyd yn bryderus bod y newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014, lle rhoddwyd y pwerau i’r heddlu erlyn troseddwyr am ladrata o siop lle’r oedd cyfanswm gwerth y nwyddau a gafodd eu dwyn yn llai na £200, wedi rhoi’r argraff na fyddai troseddau o’r fath yn cael eu hymchwilio iddynt gan yr heddlu mwyach.

11.Yn ogystal, roedd ymatebwyr hefyd yn credu bod y cynnydd mewn trais ac ymosodiadau yn rhan o broblem ehangach yn ymwneud â safle staff siop. Awgrymodd rhai ymatebwyr fod y farn bod ‘y cwsmer bob amser yn iawn’ wedi creu amgylchedd lle’r oedd rhai cwsmeriaid yn llai parchus tuag at weithwyr siop nag yr oeddent wedi bod yn y gorffennol. Awgrymodd ymatebwyr hefyd fod rheolwyr hefyd yn llai parod i herio ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid. Amlygodd ymatebwyr fod anghydfodau gyda chwsmeriaid, megis y rheiny’n deillio o amseroedd aros i gael eu gweini, yn ogystal â materion yn ymwneud ag ad-dalu a dychwelyd nwyddau, hefyd wedi cyfrannu at drais a cham-drin.

b) Natur y broblem

12.Rhoddodd ymatebwyr nifer fawr o enghreifftiau o’r mathau o ymddygiad yr oeddent yn eu hwynebu yn y gwaith. Yr enghreifftiau a nodwyd amlaf oedd trais neu gam-drin a godai yng nghyd-destun atal lladrata o siop. Roedd problemau eraill a nodwyd yn aml yn cynnwys ymosodiadau, neu fygwth ymosod, yn cynnwys arf.

13.Rhoddodd ymatebwyr hefyd dystiolaeth o ddigwyddiadau lle’r oedd ymosodiad a/neu anaf wedi digwydd yng nghyd-destun gwrthod gweini cwsmer, naill ai oherwydd eu bod dan oed, neu’n feddw.

14.Rhoddodd ymatebwyr hefyd wybodaeth am ystod eang o fathau eraill o ymddygiad a digwyddiadau a ddioddefwyd ganddynt;

  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel rheol yn cael ei gyflawni gan bobl ifanc;
  • Gweithgarwch troseddol wedi’i drefnu gan gangiau neu grwpiau o unigolion;
  • Cam-drin hiliol;
  • Lladrata arfog;
  • Difrod troseddol;
  • Aflonyddu rhywiol;
  • Poeri;
  • Brathu; a,
  • Gweithredoedd treisgar, neu fygwth cyflawni gweithredoedd treisgar, yn cynnwys defnyddio, neu fygwth defnyddio, arf;

c) Effaith daearyddiaeth

15.Er i dros hanner yr ymatebwyr gytuno bod y broblem hon yn effeithio ar eu safleoedd yn gyfartal, aeth sawl ymatebwr ymlaen i nodi bod ardaloeddd dinesig a chanol dinasoedd yn fwy tebygol o gael eu heffeithio nag ardaloedd gwledig. Cysylltodd ymatebwyr hyn â chymhelliant i droseddu yn wahanol mewn strydoedd mawr dinesig, gyda dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol yn aml yn ffactor.

16. Cysylltodd ymatebwyr trais a cham-drin yn digwydd mewn ardaloedd gwledig gydag amseroedd ymateb arafach a diffyg presenoldeb gweledol gan yr heddlu. Awgrymodd rhai ymatebwyr fod gwahaniaethau yn y troseddau a gyflawnir yn erbyn gweithwyr siop yn dibynnu ar p’un a oeddent yn gweithio mewn ardaloedd dinesig neu wledig, gyda’r rheiny mewn ardaloedd dinesig yn fwy tebygol o ddioddef trais, gyda’r rheiny mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o ddioddef cam-drin ar lafar, yn cynnwys cam-drin hiliol.

d) Problemau o ran sut mae sefydliadau yn cofnodi trais a cham-drin

17. Thema gyffredin drwy’r ymatebion oedd y diffyg cefnogaeth a gafodd gweithwyr siop gan eu cyflogwr. Adroddodd unigolion eu bod wedi cael gorchymyn i ‘barhau â’u swydd’ ar ôl adrodd achosion o gam-drin ar lafar a diwylliant lle’r oedd rheolwyr yn tueddu i ochri â chwsmeriaid yn hytrach na gweithwyr, o bosib o ganlyniad i gredu bod y cwsmer ‘bob amser yn iawn’. Roedd rhai ymatebwyr hefyd yn teimlo bod rheolwyr yn tueddu i ganolbwyntio ar enw da’r siop a ddim bob amser yn herio ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid.

18.Roedd diffyg cefnogaeth gan reolwyr hefyd yn cyfrannu at ddiffyg adrodd gan weithwyr. Ymhlith y ffactorau eraill pam nad oedd achosion wedi cael eu hadrodd oedd diffyg amser, yn ogystal â diffyg ymateb gan yr heddlu, gyda rhai ymatebwyr yn teimlo os nad oedd yr heddlu’n ymateb yn gadarnhaol i achos, yna roedd yn anhebygol fod y rheolwyr am wneud hynny.

19.Pan adroddwyd am ddigwyddiadau, ac eithrio ffonio 999 neu 101, gwnaed hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd, a oedd yn cynnwys recordiadau a wnaed gan CCTV, adroddiadau a roddwyd i iechyd a diogelwch neu AD, cofnod papur a gedwid gan fusnesau, galwad neu e-bost i’r brif swyddfa neu’r adran ddiogelwch ganolog neu gofnod ar system gyfrifiadurol.

e) Effaith trais a cham-drin ar weithwyr siop

20.Rhestrodd dros hanner yr ymatebwyr oblygiadau ariannol sylweddol o ganlyniad i drais a cham-drin i’w sefydliad. Roedd hyn yn cynnwys canlyniad uniongyrchol colli stoc, buddsoddi’n ofynnol i wella diogelwch ac offer a mesurau ataliol, trosiant staff uchel neu staff yn gorfod cymryd amser i ffwrdd yn sgil digwyddiadau, yn ogystal â difrod i enw da’r sefydliad gan effeithio ar fusnes.

21.Rhestrwyd effaith emosiynol ar staff, yn enwedig ar eu hiechyd a llesiant, hefyd fel effeithiau allweddol o ganlyniad i drais a cham-drin, gyda staff yn gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith, ceisio cwnsela neu’n teimlo’n ofnus neu’n bryderus i ddod i’r gwaith.

4. Adran Dau: Atal a Chefnogaeth

22.Roedd adran dau o’r Alwad am Dystiolaeth yn ceisio gwybodaeth i helpu i ddeall sut y gellir atal digwyddiadau, yn cynnwys mewn perthynas â’r hyfforddiant a’r gefnogaeth a ddarperir i staff.

23.Roedd adran dau yn ceisio gwybodaeth mewn ymateb i dri phrif gwestiwn. Roedd y cwestiynau hynny yn canolbwyntio ar fesurau ataliol yr oedd busnesau wedi’u defnyddio neu ystyried eu defnyddio; awgrymiadau am unrhyw ddatrysiadau anneddfwriaethol y gallai’r Llywodraeth/ busnesau/ yr heddlu/ eraill eu rhoi ar waith i godi ymwybyddiaeth; a gwybodaeth am unrhyw hyfforddiant/ arweiniad/ cefnogaeth a ddarperir i staff ynglŷn â sut i ddelio â digwyddiadau posib neu wirioneddol o drais a cham-drin.

Crynodeb o’r ymatebion

24.Rhestrodd ymatebwyr sawl mesur ataliol yr oeddent wedi’u defnyddio, yn cynnwys CCTV, casys arddangos sigarennau wedi’u cloi, tagio eitemau, a buddsoddi mewn sêffs. Cyfeiriodd rhai sefydliadau at gytundebau rhannu data, naill ai gyda’r heddlu neu gydag Ardaloedd Gwella Busnes lleol yn cefnogi mentrau atal troseddau lleol.

25.Darparwyd rhai enghreifftiau o hyfforddiant staff, yn benodol ar ddiogelwch, gwasanaeth cwsmer, a datrys anghydfod, yn arbennig mewn perthynas â delio â chwsmeriaid a oedd naill ai’n feddw neu wedi cymryd cyffuriau.

26.Darparwyd hyfforddiant mewnol mewn rhai achosion, er yr oedd yn aml yn canolbwyntio ar reoli anghydfod ac osgoi gwrthdaro. Nid oedd rhai ymatebwyr yn ymwybodol o, neu heb dderbyn, hyfforddiant nac arweiniad gan eu cyflogwyr, a gyfrannodd fwy at yr ymdeimlad ymhlith gweithwyr fod disgwyl iddynt oddef cam-drin.

27.Roedd amrywiaeth o fesurau a gafodd eu hawgrymu i’r Llywodraeth/ busnesau/ yr heddlu eu gweithredu mewn ymateb i’r broblem o drais a cham-drin tuag at weithwyr siop. I’r Llywodraeth, roedd y rhain yn cynnwys buddsoddi yn yr heddlu neu wasanaethau cyhoeddus eraill; i gyflogwyr, roedd awgrymiadau yn cynnwys cyflogi mwy o staff diogelwch, mesurau diogelwch gwell a mwy amlwg y tu mewn i’r adeilad a therfyn ar weithio ar eich pen eich hun mewn siopau. O ystyried y cefndir i’r Alwad am Dystiolaeth, galwodd nifer o ymatebwyr hefyd am nifer o newidiadau i’r gyfraith i greu arf ataliol mwy effeithiol i’r rheiny a all ymosod ar weithwyr siop, neu eu cam-drin.

5. Adran Tri: Gorfodi a’r System Cyfiawnder Troseddol

28.Roedd adran tri o’r Alwad am Dystiolaeth yn ceisio gwybodaeth i helpu i ddatblygu dealltwriaeth y Llywodraeth o adrodd am ddigwyddiadau, defnydd o’r fframwaith deddfwriaethol cyfredol, ac ymateb gan yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol ehangach i alluogi’r Llywodraeth i ddeall p’un a oes unrhyw fylchau mewn deddfwriaeth gyfredol ac ystyried yr achos dros ddiwygio.

29.Roedd adran tri yn ceisio gwybodaeth mewn ymateb i un ar ddeg prif gwestiwn. Roedd y cwestiynau hynny yn canolbwyntio ar p’un a oedd dioddefwyr wedi adrodd am ddigwyddiadau i’r heddlu a’u profiad o ddelio â’r system cyfiawnder troseddol; y rhwystrau i adrodd am ddigwyddiadau; a ph’un a oedd unigolion, neu fusnesau, wedi cael cyfle i amlygu effaith troseddu. Roedd y cwestiynau hefyd yn ceisio gwybodaeth am y ffordd yr ymdriniwyd â thrais neu gam-drin yn erbyn gweithwyr siop dan ddeddfwriaeth gyfredol, yn cynnwys Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014.

Crynodeb o’r ymatebion

30.Dywedodd y mwyafrif o’r staff siop a ymatebodd eu bod wedi dioddef trais a cham-drin. Dywedodd y mwyafrif o’r grŵp hwn eu bod wedi adrodd am y digwyddiad i’w rheolwr neu oruchwyliwr.

31.O’r ymatebwyr a oedd wedi adrodd am ddigwyddiad o drais neu gam-drin, nid oedd mwy na hanner yn hapus gyda’r ymateb a gawsant. Fel y crybwyllwyd uchod, roedd cred gyffredinol bod ymateb yr heddlu yn annigonol a arweiniodd at ddiffyg parodrwydd ar ran rheolwyr i weithredu. O ganlyniad, byddai gweithwyr siop yn gweld troseddwyr, yn cynnwys aildroseddwyr, yn dychwelyd i siopau lle’r oeddent wedi bod yn rhan o ddigwydiadau yn erbyn staff yn y gorffennol. Arweiniodd aildroseddwyr at rai ymatebwyr yn gweithio yn y sector yn dod i’r casgliad bod hawliau’r cwsmer yn bwysicach i reolwyr a goruchwylwyr na lles eu staff. Roedd troseddwyr yn dychwelyd yn atal unigolion rhag gwneud adroddiadau yn y dyfodol oherwydd nid oeddent yn credu y byddai eu hadroddiadau yn cael eu gweithredu arnynt.

32.Darparodd rhai ymatebwyr fanylion eu profiad o ymgysylltu â’r system cyfiawnder troseddol. Adroddodd rhai eu bod wedi cael cyngor gan yr heddlu i beidio ag adrodd am fân-ladrad gan na fyddai llysoedd yn delio â digwyddiadau o’r fath. Lle’r oedd hyn wedi digwydd, dywedodd ymatebwyr fod hyn wedi’u hatal rhag adrodd am ddigwyddiadau eraill. Adroddodd rhai busnesau eu bod hefyd yn bryderus am effaith bosib adrodd am ddigwyddiadau i’r heddlu, yn benodol y rheiny gyda thrwyddedau alcohol, a oedd yn bryderus y byddai adrodd am ddigwyddiadau yn rheolaidd ar eu safle neu’n agos ato, yn arwain at eu trwydded yn cael ei hadolygu.

33.Fodd bynnag, ni wnaeth llai na hanner yr ymatebwyr adrodd am y digwyddiad oherwydd diffyg tystiolaeth, neu eu bod yn derbyn cam-drin fel rhan o’u swydd. Adroddodd rhai ymatebwyr hefyd ofn na fyddent yn cael eu cymryd o ddifrif gan eu rheolwyr neu oruchwylwyr neu, mewn rhai achosion eithafol, y byddent hwy eu hunain yn destun gweithredu cosbol gan eu cyflogwr gan y byddai adrodd am ddigwyddiadau yn achosi niwed i enw da’r sefydliad. Mewn achosion eithafol o’r fath, ni wnaethpwyd yn glir p’un a oedd y digwyddiad dan sylw yn ymosodiad neu’n ffurf arall ar gam-drin.

34.Dywedodd ymatebwyr hefyd nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael digon o gyfle i dynnu sylw at effaith unrhyw ddigwyddiad wedi iddynt adrodd amdano. Roedd hyn yn wir am ddioddefwyr unigol, gyda dros hanner yr ymatebwyr yn dweud na chawsant gynnig y cyfle i wneud datganiad o effaith ar y dioddefwr, a busnesau, lle dywedodd sawl ymatebwr nad oeddent yn ymwybodol o Ddatganiadau o Effaith ar Fusnes.

35.Roedd dros hanner yr ymatebwyr yn ymwybodol o bwerau dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 y gellid eu defnyddio i ddelio â throseddwyr. Fodd bynnag, nid oeddent yn teimlo bod y pwerau yn ddigonol i ddelio â rhai o’r problemau yr oeddent hwy, neu eu gweithwyr, yn eu hwynebu.

6. Adran Pedwar: Arferion Gorau

36.Roedd adran olaf yr Alwad am Dystiolaeth yn gwahodd ymatebwyr i rannu arferion da neu orau i fynd i’r afael â digwyddiadau. Ceisiwyd arferion da i helpu i sefydlu beth sy’n gweithio, ac ystyried datrysiadau anneddfwriaethol posib.

Crynodeb o’r ymatebion

37.Gweithio mewn partneriaeth rhwng yr heddlu a busnesau, megis drwy fentrau megis Pubwatch neu Shopwatch oedd yr enghraifft o arferion da y cyfeiriwyd ati amlaf. Roedd enghreifftiau eraill yn cynnwys gwaith rhwng yr heddlu a chwmni yn arbenigo mewn arloesi technolegol ar gyfer diogelwch, yn cynnwys CCTV, a oedd wedi arwain at oddeutu 150 o arestiadau am 1,500 o droseddau unigol. Lle’r oedd erlyniadau wedi dilyn, roedd cyfradd gollfarnu o 100%.

38.Amlygodd ymatebwyr hefyd y Ganolfan Trosedd Busnes Cenedlaethol fel ffynhonnell werthfawr o wybodaeth, arweiniad ar arferion gorau a phwynt cyswllt i’r gymuned fusnes i godi eu pryderon am drais a cham-drin manwerthu.

39.Yn olaf, cyfeiriodd rhai ymatebwyr hefyd at Ddatrysiadau Trosedd Busnes Cenedlaethol, sefydliad aelodaeth sy’n darparu dull i fanwerthwyr rannu gwybodaeth am droseddwyr gweithredol fel y gellir gosod offer ataliol, neu roi gwybod i staff am y risgiau i’w busnes. Un enghraifft o waith y mae Datrysiadau Trosedd Busnes Cenedlaethol wedi’i wneud i’w aelodau yw cyflwyno gwaharddeb sifil yn erbyn nifer o aildroseddwyr a throseddwyr treisgar am leiafswm o ddwy flynedd, gan atal y troseddwyr hyn rhag achosi rhagor o ddifrod i fusnesau.

7. Ymateb y Llywodraeth

40.Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y gall y cam-drin a’r trais a wynebir gan staff siop gael effaith fawr, nid yn unig yn gorfforol ond yn feddyliol ac emosiynol. Yr Alwad am Dystiolaeth oedd y cam cyntaf wrth ddatblygu dealltwriaeth well o’r broblem i helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu ymateb effeithiol. Cynhyrchodd yr Alwad am Dystiolaeth lefel uchel o ddiddordeb a hoffai’r Llywodraeth ddiolch i’r holl rai a gymerodd ran. Mae’r dystiolaeth a’r sylwadau a gafwyd wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddatblygu dealltwriaeth gryfach o’r broblem. Er bod darlun clir yn dod i’r amlwg, dim ond dechrau’r broses yw hyn, ac mae rhaglen barhaus o waith yn ofynnol i sicrhau ein bod yn datblygu ac yn darparu ymateb sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’r troseddau hyn.

41.Cynhaliwyd yr Alwad am Dystiolaeth yng nghyd-destun dadl ynglŷn ag a ddylid newid y gyfraith i greu trosedd newydd o ymosod ar weithiwr siop, ar batrwm y drosedd o ymosod ar weithiwr gwasanaethau brys a grëwyd gan Ddeddf Ymosodiadau ar Weithwyr y Gwasanaethau Brys (Troseddau) 2018. Awgrymodd y rheiny o blaid trosedd newydd, ei bod yn ofynnol i rwystro troseddwyr posib a sicrhau ymateb cyfiawnder troseddol effeithiol i’r troseddau hyn pan maent yn digwydd. Er bod y Llywodraeth yn cydnabod y cymhelliannau y tu ôl i’r awgrym hwn, nid yw’n ystyried bod yr achos yn glir eto dros newid y gyfraith.

42.Wrth wneud penderfyniadau dyfarnu, rhaid i’r llysoedd ddilyn unrhyw ganllawiau dyfarnu perthnasol, a gynhyrchir gan y Cyngor Dyfarnu annibynnol. Mae Overarching Principles: Seriousness Guideline and Assault Guideline, yn ei gwneud yn ofynnol i’r llys drin y ffaith bod trosedd wedi’i chyflawni yn erbyn y rheiny’n gweithio yn y sector cyhoeddus neu’n darparu gwasanaeth i’r cyhoedd fel ffactor gwaethygol, gan wneud y drosedd yn fwy difrifol. Cynhyrchodd y Cyngor eglurhad estynedig yn 2019 a wnaeth hi’n glir bod y ffactor hwn “yn berthnasol p’un a yw’r dioddefwr yn weithiwr cyhoeddus neu breifat neu’n ymddwyn yn wirfoddol”. Cyhoeddodd y Cyngor Dyfarnu ganllawiau dros dro hefyd ar gyfer dyfarnwyr ym mis Ebrill 2020, yng nghyd-destun y pandemig Covid-19. Mae’r canllawiau dros dro yn egluro wrth ddyfarnu troseddau ymosodiad cyffredin yn cynnwys bygythiadau neu weithgarwch yn ymwneud â throsglwyddo Covid-19 (er enghraifft, ymosodiadau yn cynnwys poeri neu besychu), dylai’r llysoedd drin hyn fel nodwedd waethygol o’r drosedd. Mae’r Cyngor Dyfarnu yn adolygu ei ganllawiau ar ymosodiad ac mae ymgynghoriad ar ganllawiau diwygiedig yn mynd rhagddo. O ran y ddeddfwriaeth bresennol y gellir ei chymhwyso i drais a cham-drin a gyflawnir yn erbyn gweithwyr siop, mae’r Llywodraeth yn ystyried y gweithredu hwn yn ddigonol.

43.Yn ogystal, ac fel yr amlinellir yn yr adrannau uchod, adroddodd ymatebwyr i’r Alwad am Dystiolaeth ddiffyg ymddiriedaeth gyffredinol yn y ffordd yr ymdriniwyd â’r troseddau hyn, naill ai gan yr heddlu neu eu cyflogwr. Yn rhy aml, roedd yr ymateb i weithwyr siop yn annigonol, gan arwain at unigolion yn penderfynu peidio ag adrodd am ddigwyddiadau eraill. Cred y Llywodraeth fod y broblem hon yn un sy’n mynnu gweithredu mwy brys na newid yn y gyfraith.

44.I fynd i’r afael â’r problemau a godwyd gan yr ymatebion i’r Alwad am Dystiolaeth, bydd y Llywodraeth yn datblygu rhaglen o waith a fydd yn mynd i’r afael â phob un o’r tair thema a nodir ym mharagraff 6 yr ymateb hwn. Wrth ddatblygu’r gwaith hwnnw, bydd y Llywodraeth yn anelu at:

a. gynyddu ei dealltwriaeth a mynd i’r afael ag ysgogwyr trais a cham-drin yn erbyn gweithwyr siop;

b. anfon neges glir na oddefir troseddau o’r fath ac y dylid eu cofnodi pryd bynnag a lle bynnag y maent yn digwydd; a,

c. darparu cefnogaeth effeithiol i’r gweithwyr siop hynny sy’n dioddef trais a cham-drin.

a) Cynyddu dealltwriaeth y Llywodraeth a mynd i’r afael ag ysgogwyr trais a cham-drin yn erbyn gweithwyr siop.

45.Awgrymodd adborth gan ymatebwyr y gall cyffuriau chwarae rhan allweddol yn y trais a ddioddefir gan staff siop. Yn benodol, awgrymodd ymatebwyr y gall y rheiny sy’n defnyddio cyffuriau fod yn fwy parod i ddefnyddio trais pan maent yn cael eu herio am ladrata o siop. I ddarparu ymateb effeithiol, mae’n bwysig ein bod yn adeiladu dealltwriaeth well o ba rôl mae cyffuriau, yn ogystal ag alcohol a ffactorau eraill, yn ei chwarae wrth hybu trais a cham-drin tuag at weithwyr siop. Byddwn felly yn gweithio’n agos ag aelodau o’r Grŵp Llywio Trosedd Manwerthu Cenedlaethol i ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth ymhellach.

46.Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod cyffuriau yn chwarae rhan sylweddol mewn nifer fawr o droseddau a gyflawnir. Dyna pam y comisiynodd y Swyddfa Gartref adolygiad annibynnol mawr, dan arweiniad Y Fonesig Carol Black, i archwilio’r ffyrdd y mae cyffuriau yn hybu trais difrifol, y niwed yr achosant a’r ffyrdd gorau i atal cymryd cyffuriau. Cyhoeddwyd canfyddiadau’r adolygiad ar 27 Chwefror. Bydd adolygiad pellach, a gomisiynwyd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, dan arweiniad Y Fonesig Carol Black yn canolbwyntio ar atal, triniaeth ac adfer. Bydd yn adeiladu ar waith y Fonesig Carol i sicrhau bod pobl fregus gyda phroblemau camddefnyddio sylweddol yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i wella a thrawsnewid eu bywydau. Bydd yn edrych ar driniaeth yn y gymuned ac yn y carchar, a sut mae gwasanaethau triniaeth yn gweithio gyda gwasanaethau ehangach sy’n galluogi person gyda dibyniaeth ar gyffuriau i gyflawni a chynnal adferiad, yn cynnwys iechyd meddwl, tai, cyflogaeth, a’r system cyfiawnder troseddol.

47.Yn ogystal, mae gwaith gwerthfawr yn cael ei wneud dan arweiniad aelodau’r NRCSG yn edrych ar gyfleoedd o amgylch triniaeth cyffuriau wedi’i thargedu i geisio mynd i’r afael ag anghenion troseddwyr cyson. Bydd y Llywodraeth yn gweithio’n agos â’r aelodau hynny dros y flwyddyn i ddod i ddeall yn well effaith y gwaith a wnant i fynd i’r afael ag anghenion troseddwyr cyson, ac os ydynt yn llwyddiannus, sut y gellir atgynhyrchu’r hyn a wnant mewn rhannau eraill o’r wlad.

b) Anfon neges glir na oddefir troseddau o’r fath ac y dylid eu cofnodi pryd bynnag a

lle bynnag y maent yn digwydd

48.Dywedodd nifer fawr o ymatebwyr na wnaethant roi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiadau. Mae’r Llywodraeth yn glir lle mae’r troseddau hyn yn digwydd, y dylid eu hadrodd i’r heddlu fel y gellir ymchwilio iddynt yn briodol.

49.Fel bod gweithwyr siop sy’n dioddef trais neu gam-drin yn teimlo’n hyderus i ddod ymlaen ac adrodd am ddigwyddiadau naill ai i’r heddlu neu eu cyflogwr, bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda’r NRSCG i ddatblygu cyfathrebiadau i weithwyr a chyflogwyr i wneud hi’n glir na oddefir trais na cham-drin yn erbyn gweithwyr siop. Byddwn yn cymryd i ystyriaeth arferion gorau o sectorau gwahanol ac yn gwneud defnydd o aelodaeth NRSCG i ddatblygu a phrofi negesu cyn cefnogi unrhyw gyflwyniad cenedlaethol.

50.Mae’r Llywodraeth yn ymwybodol o arferion da, o ran annog staff i adrodd am ddigwyddiadau, yn ogystal â rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ddelio ag effaith trais a cham-drin. Gan weithio gyda phartneriaid drwy’r NRCSG, bydd y Llywodraeth yn datblygu canllaw arferion gorau sy’n anelu at gefnogi staff wrth adrodd am y troseddau hyn pan maent yn digwydd i sicrhau y gellir cyflawni ymateb addas.

51.Yn ogystal, bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda’r NRCSG a’r Ganolfan Trosedd Busnes Cenedlaethol i edrych ar rwystrau i rannu data effeithiol rhwng busnesau a’r heddlu i sicrhau y gellir defnyddio gwybodaeth i ddeall y broblem yn well, gan gynnwys safleoedd sy’n gwerthu alcohol ddim yn teimlo dan anfantais, yn benodol mewn perthynas ag olrhain troseddwyr cyson.

52.Yn olaf, mae’n hanfodol nad ydym yn creu rhwystrau anfwriadol i adrodd, felly byddwn yn gweithio gyda’r NRCSG i ddeall beth all fod yn atal busnesau rhag adrodd am droseddau.

c) Darparu cefnogaeth effeithiol i’r gweithwyr siop hynny sy’n dioddef trais a cham-drin

53.Un o’r prif resymau dros ddiffyg adrodd oedd ymdeimlad na fyddai yna ymateb cyfiawnder troseddol priodol. Mae eisoes ystod eang o droseddau y gall person gael ei gyhuddo ohonynt y gellir eu cyflawni yn erbyn gweithiwr siop. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, lladrata, byrgleriaeth ac ymosodiad, sydd ag uchafswm cosbau gwahanol, fel y pennir gan y Senedd, i adlewyrchu difrifoldeb y troseddau. Mae’r rhain yn cynnwys carchar am oes am y troseddau ymosod mwyaf difrifol neu fyrgleriaeth waethygedig.

Ymateb yr heddlu i gam-drin a thrais tuag at weithwyr siop

54.Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddau, fel arweinwyr gweithredol a chynrychiolwyr etholedig lleol, sydd i benderfynu sut orau i ymateb i droseddau unigol a blaenoriaethau troseddau lleol. I helpu i sicrhau bod gan yr heddlu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt, mae’r Llywodraeth yn recriwtio 20,000 o swyddogion dros y tair blynedd nesaf. Bydd £750 miliwn yn cael ei ddarparu i gefnogi lluoedd i recriwtio 6,000 o swyddogion ychwanegol erbyn diwedd Mawrth 2021 ar draws 43 llu yng Nghymru a Lloegr fel rhan o ymgyrch i gynyddu eu rhengoedd. Yn ogystal, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cael £85 n17 miliwn yn rhagor i sicrhau y gall y system cyfiawnder troseddol gefnogi gwaith y swyddogion ychwanegol hyn.

55.Fodd bynnag, fel y dengys yr ymatebion i’r Alwad am Dystiolaeth, mae lefelau adrodd yn isel ac efallai nad yw blaenoriaethu lleol yn adlewyrchu’r lefel o angen lleol yn ddigonol. Bydd y Gweinidog dros Drosedd a Phlismona felly yn ysgrifennu at bob Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau a Phrif Gwnstabl yn amlygu’r broblem hon ac yn gofyn iddynt i barhau i weithio’n agos â busnesau lleol i ddeall graddfa’r broblem yn lleol a datblygu ymatebion priodol iddi.

56.Cododd ymatebwyr bryderon am effeithiolrwydd Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014. Roedd a176 o’r Ddeddf, a noda fod dwyn nwyddau gwerth hyd at £200 o siopau yn drosedd ddiannod ond bai fod y diffynydd, os yw’n oedolyn, yn dewis sefyll ei brawf yn Llys y Goron, yn destun pryder neilltuol. Lle cyflawnir trosedd ddiannod, gellir ymdrin â’r achos fel erlyniad dan arweiniad yr heddlu. Roedd rhai ymatebwyr yn ystyried bod y newid hwn yn y gyfraith wedi creu ymdeimlad ymhlith troseddwyr na fyddai’r heddlu yn ymdrin â lladrata o siop, lle mae gwerth y nwyddau a ddygir o dan £200. Roedd rhai ymatebwyr hefyd yn teimlo bod hyn yn ffactor cyfrannol y tu ôl i haerllugrwydd cynyddol ymhlith troseddwyr.

57.Gall a dylai troseddau lladrata o siop sy’n cynnwys dwyn nwyddau o hyd at £200, gael eu canlyn fel trosedd gan yr heddlu o hyd. Nid yw a176 yn effeithio ar allu Gwasanaeth Erlyn y Goron i erlyn person am ddwyn o siop, neu ar bwerau’r llysoedd i gosbi troseddwyr. Gall troseddwr sy’n cael ei gyhuddo o ddwyn yn Llys Ynadon wynebu cosb o hyd at chwe mis o garchar am drosedd sengl o hyd.

58.I sicrhau bod hyn yn glir, bydd y Gweinidog dros Drosedd a Phlismon yn ysgrifennu at Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddau a Phrif Gwnstabliaid yn amlinellu y dylid erlyn dwyn nwyddau gwerth hyd at £200 o siop fel trosedd ac felly ni ddylai gyfyngu ar allu’r heddlu i arestio neu erlyn rhywun yn y ffordd y teimlant sydd fwyaf priodol.

59.Bydd y Llywodraeth hefyd yn edrych ar y broblem o effeithiolrwydd a176 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 fel rhan o graffu ar ôl deddfu’r Ddeddf.

Dedfrydu

60.Mae’r Llywodraeth hon o ddifrif am atal troseddu ac amddiffyn y cyhoedd rhag ei oblygiadau trychinebus. Dyna pam y cyhoeddasom gyfreithiau dedfrydu newydd yn Araith y Frenhines. Bydd y ddeddfwriaeth yn cynnwys cynigion wedi’u targedu at y troseddwyr mwyaf difrifol i sicrhau bod eu cosb yn adlewyrchu difrifoldeb eu trosedd.

61.Gwyddom fod gan droseddwyr cyson, gan gynnwys lladron, anghenion lluosog a chymhleth yn gyffredinol sy’n gysylltiedig â’u hymddygiad troseddu. Bydd y ddeddfwriaeth felly hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer cosbau cymunedol sy’n cynnig lefel briodol o gosb, fel y gall y cyhoedd ymddiried ynddynt, wrth fynd i’r afael ag ysgogwyr sy’n sail i droseddu a mynd i’r afael â phroblemau megis iechyd meddwl a bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol.

62.Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn cyn deddfu ar ddedfrydu. Bydd hyn yn cynnwys cynigion ar gyfer dedfrydau cymunedol mwy llym.

Cefnogi Dioddefwyr

63.Mae’r ymatebion i’r Alwad am Dystiolaeth hefyd yn amlygu ymdeimlad bod gweithwyr siop sy’n dioddef troseddau yn teimlo bod diffyg cyfleoedd iddynt egluro eu heffaith. Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar Ddatganiad Personol Dioddefwr, sy’n rhoi cyfle i ddioddefwyr egluro sut mae’r drosedd wedi effeithio arnynt, yn gorfforol, emosiynol, seicolegol, ariannol ac mewn unrhyw ffordd arall, ac ar y defnydd o Ddatganiadau o Effaith ar Fusnes, sy’n rhoi cyfle i ddioddefwyr ddweud wrth y llysoedd am yr effaith mae’r drosedd wedi’i chael ar eu busnes, yn cynnwys unrhyw oblygiadau ariannol neu i enw da’r sefydliad.

64.I sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio’n effeithiol, bydd y Gweinidog dros Drosedd a Phlismona yn ysgrifennu at bob Prif Gwnstabl yn eu hatgoffa o’r angen i roi cyfle i’r dioddefwyr ddefnyddio naill ai un neu’r ddau ddatganiad. Bydd hyn yn sicrhau bod asiantaethau cyfiawnder troseddol yn defnyddio’r wybodaeth i ddod i farn gadarn ynglŷn â pha gamau y dylid eu cymryd yn erbyn troseddwr, yn ogystal â gwneud penderfyniadau ar y cymorth a’r gwasanaethau y gall troseddwyr fod eu hangen.

65.Yn fwy eang, mae’r Llywodraeth yn cymryd camau i wella cymorth i bob dioddefwr trosedd, yn cynnwys gweithwyr siop. Mae’n ymgynghori ar God Ymddygiad diwygiedig i Ddioddefwyr Troseddau (Cod Dioddefwyr) i fynd i’r afael â’i gymhlethdod, hygyrchedd a diweddaru hawliau dioddefwyr fel eu bod yn fwy adlewyrchol o’u hanghenion.

66.Bydd ymgynghoriad ar Gyfraith Dioddefwyr, yn gwarantu hawliau dioddefwyr, yn dilyn yn fuan ar ôl yr ymgynghoriad ar God Dioddefwyr. Bydd y Llywodraeth yn ystyried deddfu i sicrhau lle mae asiantaethau wedi methu â rhoi eu hawliau i ddioddefwyr, eu bod yn cael eu gwneud yn atebol. Bydd y gyfraith yn cryfhau pwerau’r Comisiynydd Dioddefwyr, sydd eisoes yn llais pwerus dros ddioddefwyr.

67.Mae’n glir bod gwaith i’w wneud o hyd ond mae hefyd yn amlwg bod cefnogaeth sylweddol gan y rheiny a ymatebodd i’r ymgynghoriad, a’r rheiny y maent yn eu cynrychioli ac sy’n fodlon gwneud mwy i fynd i’r afael â’r problemau a gododd yn sgil yr ymateb i’r Alwad am Dystiolaeth. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i weithio gyda’r sector i sicrhau yr ymdrinnir â’r problemau hyn, fel bod gweithwyr siop yn teimlo’n ddiogel yn eu gweithleoedd, a bod eu busnesau yn ffynnu a bod y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu’n teimlo’n ddiogel.

Atodiad A - Crynodeb o’r gweithredoedd

1. Bydd y Llywodraeth yn gweithio’n agos ag aelodau’r Grŵp Llywio Trosedd Manwerthu Cenedlaethol i ddatblygu ymhellach y sylfaen dystiolaeth o ran y rôl mae cyffuriau, yn ogystal ag alcohol a ffactorau eraill, yn ei chwarae yn hybu trais a cham-drin tuag at weithwyr siop (paragraff 45).

2. Bydd y Llywodraeth yn gweithio’n agos ag aelodau’r NRCSG dros y flwyddyn i ddod i ddeall yn well effaith y gwaith a wnant i fynd i’r afael ag anghenion troseddwyr cyson, ac os ydynt yn llwyddiannus, sut y gellir atgynhyrchu’r hyn a wnant mewn rhannau eraill o’r wlad (paragraff 47).

3. Bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda’r NRSCG i ddatblygu cyfathrebiadau i weithwyr a chyflogwyr i wneud hi’n glir na oddefir trais na cham-drin yn erbyn gweithwyr siop. Byddwn yn cymryd i ystyriaeth arferion gorau o sectorau gwahanol ac yn gwneud defnydd o aelodaeth NRSCG i ddatblygu a phrofi negesu cyn cefnogi unrhyw gyflwyniad cenedlaethol (paragraff 49).

4. Bydd y Llywodraeth, gan weithio gyda phartneriaid drwy’r NRCSG, yn datblygu canllaw arferion gorau sy’n anelu at gefnogi staff wrth adrodd am y troseddau hyn pan maent yn digwydd i sicrhau y gellir cyflawni ymateb addas (paragraff 50).

5. Bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda’r NRCSG a’r Ganolfan Trosedd Busnes Cenedlaethol i edrych ar rwystrau i rannu data effeithiol rhwng busnesau a’r heddlu i sicrhau y gellir defnyddio gwybodaeth i ddeall y broblem yn well, gan gynnwys safleoedd sy’n gwerthu alcohol ddim yn teimlo dan anfantais, yn benodol mewn perthynas ag olrhain troseddwyr cyson (paragraff 51).

6. Bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda’r NRCSG i ddeall beth all fod yn atal busnesau rhag adrodd am droseddau (paragraff 52).

7. Bydd y Gweinidog dros Drosedd a Phlismona yn ysgrifennu at bob Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau a Phrif Gwnstabl yn amlygu’r broblem o drais a chamdrin tuag at weithwyr siop ac yn gofyn iddynt i barhau i weithio’n agos â busnesau lleol i ddeall graddfa’r broblem yn lleol a datblygu ymatebion priodol iddi (paragraff 55).

8. Bydd y Gweinidog dros Drosedd a Phlismona yn ysgrifennu at Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddau a Phrif Gwnstabliaid yn amlinellu y dylid erlyn dwyn nwyddau gwerth hyd at £200 o siop fel trosedd ac felly ni ddylai gyfyngu ar allu’r heddlu i arestio neu erlyn rhywun yn y ffordd y teimlant sydd fwyaf priodol (paragraff 58)

9. Bydd y Llywodraeth hefyd yn edrych ar y broblem o effeithiolrwydd a176 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014 fel rhan o graffu ar ôl deddfu’r Ddeddf (paragraff 59).

10. Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer cosbau cymunedol sy’n cynnig lefel briodol o gosb, fel y gall y cyhoedd ymddiried ynddynt, wrth fynd i’r afael ag ysgogwyr sy’n sail i droseddu a mynd i’r afael â phroblemau megis iechyd meddwl a bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol (paragraff 61).

11. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn cyn deddfu ar ddedfrydu, a fydd yn cynnwys cynigion am ddedfrydau cymunedol mwy llym (paragraff 62).

12. Bydd y Gweinidog dros Drosedd a Phlismona yn ysgrifennu at bob Prif Gwnstabl yn eu hatgoffa o’r angen i roi cyfle i’r dioddefwyr ddefnyddio naill ai un neu’r ddau ddatganiad (paragraff 64).

13. Bydd y Llywodraeth yn ystyried deddfu i sicrhau lle mae asiantaethau wedi methu â rhoi eu hawliau i ddioddefwyr, eu bod yn cael eu gwneud yn atebol. Bydd y gyfraith hefyd yn cryfhau pwerau’r Comisiynydd Dioddefwyr, sydd eisoes yn llais pwerus dros ddioddefwyr (paragraff 66).

Atodiad B – Rhestr o’r ymatebwyr

  • Age Check Certification Scheme
  • Cymdeithas Siopau Cyfleustra Cyf
  • Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain
  • Consortiwm Manwerthu Prydain
  • Arolygiaeth CCTV
  • Cymdeithas Manwerthu Elusennol
  • City, University of London
  • Siopau Cyfleustra
  • Cooperative
  • Heart of London Business Alliance
  • Janine Green ASB
  • JD fashion group plc.
  • Cymdeithas Genedlaethol Partneriaethau Trosedd Busnes
  • Ffederasiwn Cenedlaethol Manwerthwyr Annibynnol
  • National Pubwatch
  • One Stop Stores Limited
  • Cymdeithas Amddiffyn y Fferyllwyr
  • Savills
  • Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol
  • UNSAIN

Cafwyd ymatebion gan aelodau’r cyhoedd hefyd yn uniongyrchol neu drwy sefydliadau y maent yn aelodau ohonynt.