Buddsoddiad gwerth £50 miliwn ar gyfer Crossrail Caerdydd
Mae £50 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro wedi cael ei ddyrannu dros dro i Gyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru, i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas. Bydd y cyllid yn gwella cysylltedd i, ac o, ardal Bae Caerdydd.
Gwelliannau Crossrail Caerdydd
Bydd y cyllid yn cefnogi cam cyntaf Crossrail Caerdydd - a fydd yn rhedeg o Gaerdydd Canolog i Orsaf Drenau Bae Caerdydd.
Mae’r prosiectau y cynlluniwyd iddynt gael cyllid fel rhan o gam 1 yn cynnwys:
- rheiliau tramffordd newydd i gysylltu Caerdydd Canolog â llinell Bae Caerdydd
- platfform newydd yng Ngorsaf Caerdydd Canolog
- trenau newydd
- platfform newydd yng Ngorsaf Bae Caerdydd
- gwelliannau i’r parth cyhoeddus rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd
Buddion i’r ardal leol
Bydd y prosiectau hyn yn cynnig llawer o fanteision fel:
- rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus mwy cynaliadwy i Gaerdydd
- cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol
- cysylltedd gwell â chanol y ddinas
- creu lle bywiog i fyw, gweithio, buddsoddi ac ymweld ag ef
Mae rhaglen Crossrail Caerdydd yn rhan o brosiect ehangach Metro De Cymru
Darganfyddwch fwy am Levelling Up