Bron £125,000 ar gyfer Canolfan Adnoddau a Hyfforddiant
Dyrannodd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol £124,258 i Ganolfan Adnoddau a Hyfforddiant CANA. Mae’r ganolfan mewn capel wedi’i drawsnewid o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ystad Pen-y-Waun yn Rhondda Cynon Taf.
Bydd y cyllid yn:
- rhoi sgiliau a chymwysterau priodol i bobl leol
- sefydlu canolfan hyfforddiant
Rhoi sgiliau i bobl leol ar gyfer swyddi lleol
Bydd y ganolfan hyfforddiant hon yn helpu pobl leol i ennill y sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer swyddi yn yr ardal, ac ar gyfer y rhai hynny y disgwylir y bydd galw amdanynt yn y dyfodol.
Bydd y buddsoddiad yn helpu i adnewyddu strwythur ffisegol yr adeilad. Bydd hefyd yn darparu cyfleuster sy’n cynhyrchu incwm. Bydd hyn yn sicrhau cynaliadwyedd y ganolfan yn y tymor hir.
Dysgwch fwy am ffyniant bro.