Astudiaeth achos

Dyffryn Conwy yn derbyn hwb i drafnidiaeth gwerth £18.6m

Mae £18.6m o'r Gronfa Ffyniant Bro wedi cael ei ddyrannu i Gyngor Conwy i greu llwybr beicio diogel ac uniongyrchol rhwng Cyffordd Llandudno a Betws y Coed trwy Ddyffryn Conwy. Bydd cyllid yn cael ei ddefnyddio hefyd i helpu atal llifogydd yn yr ardal.

O’r Arfordir i’r Dyffryn

Ar hyn o bryd, nid oes llwybr i feicwyr trwy Ddyffryn Conwy o Gyffordd Llandudno i Fetws y Coed. Bydd cyllid ar gyfer y cynllun o’r Arfordir i’r Dyffryn yn helpu i greu llwybr 16km newydd ar gyfer beicwyr a cherddwyr sy’n ddiogel, ar wahân, yn uniongyrchol ac yn ddeniadol.

Bydd y llwybr beicio newydd yn gwella cysylltiadau rhwng arfordir gogledd Cymru ac atyniadau twristaidd mewndirol fel Parc Cenedlaethol Eryri.

Gwella gwydnwch llifogydd Trefriw

Mae Trefriw yn cael ei thorri i ffwrdd o’r ardaloedd cyfagos yn ystod llifogydd. Bydd cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella’r B5106 i’r gogledd o Ddolgarrog ac i’r de o Lanrwst a Betws y Coed.

Bydd y gwelliannau hyn yn:

  • gwella hygyrchedd y pentref yn ystod llifogydd
  • cysylltu Trefriw â’r rhwydwaith o’r Arfordir i’r Dyffryn
  • cynyddu gwydnwch hinsawdd yn yr ardal

Mae’r cynlluniau cyflenwol yn ffurfio rhan o strategaeth ehangach yr Arfordir i’r Dyffryn.

Darganfyddwch fwy am Levelling Up

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 November 2023