Hwb gan fuddsoddiad gwerth £18m i Bafiliwn y Grand
Mae gwaith i ailddatblygu Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl wedi cael hwb o £18 miliwn o gyllid Ffyniant Bro. Bydd yr arian yn helpu i arbed yr adeilad rhag dirywiad pellach ac yn sicrhau ei le tymor hir yn y gymuned.
Achub yr adeilad
Mae’r adeilad rhestredig Gradd II yn rhan allweddol o dreftadaeth ddiwylliannol a chymdeithasol Porthcawl a’r rhanbarth ehangach. Yn anffodus, mae Pafiliwn y Grand wedi dirywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae angen adfywiad sylweddol. Bydd y Gronfa Ffyniant Bro yn cefnogi ei thrawsnewidiad.
Mae’r gwelliannau i’r adeilad yn cynnwys:
- sicrhau bod y lleoliad yn gwbl hygyrch i ymwelwyr, staff a pherfformwyr
- sicrhau bod yr adeilad yn ynni-effeithlon
- creu theatr stiwdio newydd ag ynddi 150 o seddi
- creu oriel gelf weledol
- gwaith cynnal a chadw sylweddol
Rhan bwysig o’r gymuned
Mae Pafiliwn y Grand yn galon i’r gymuned ac mae’n gyrchfan allweddol i ymwelwyr.
Bydd y gwelliannau hyn yn:
- dathlu pensaernïaeth eiconig Pafiliwn y Grand trwy ei adfer i’w hen ogoniant
- creu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth, gwirfoddoli a hyfforddiant
- datblygu’r lleoliad fel canolfan rhagoriaeth artistig
Darganfyddwch fwy am Levelling Up