Astudiaeth achos

Gwaith adfer Camlas Trefaldwyn yn cael ei gefnogi gan £14 miliwn o gyllid Ffyniant Bro

Bydd bron £14 miliwn o’r Gronfa Ffyniant Bro yn helpu i adfer Camlas Trefaldwyn 33 milltir o hyd yn nwyrain Powys a gogledd-orllewin Swydd Amwythig.

Bydd y buddsoddiad yn adfer rhan 4.4 milltir o’r gamlas ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Mae’r gamlas, a adwaenir yn annwyl fel ‘Monty’, wedi gwasanaethu fel:

  • dull trafnidiaeth hollbwysig
  • atyniad twristiaid ac ymwelwyr

Bydd y cyllid yn helpu i:

  • warchod yr amgylchedd lleol ar hyd y gamlas
  • creu tair gwarchodfa natur wedi’u seilio ar ddŵr
  • adfer y gamlas

Rhoddwyd ystyriaeth i wrthbwyso effaith amgylcheddol y gwaith adfer. Bydd y gwarchodfeydd natur yn helpu i wneud iawn am y cynnydd disgwyliedig mewn traffig ar y gamlas.

Buddion adfywio cynaliadwy

Dywedodd Cadeirydd Partneriaeth Camlas Trefaldwyn, John Dodwell:

Bydd y cyllid yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at adfer ac ailagor y Gamlas fesul cam rhwng Llanymynech a’r Trallwng, a fydd yn arwain at lawer o fuddion i’r ardal.

Bydd y buddsoddiad yn rhoi hwb i’r ardal leol trwy:

  • wella iechyd a lles pobl
  • gwella’r dreftadaeth naturiol ac adeiledig
  • cynyddu twristiaeth

Croesawodd Dodwell y canlyniad:

Mae’r grant hwn a’r gwaith cysylltiedig yn enghraifft wych o’r gymuned yn cydweithio er budd pawb.

Dysgwch fwy am ffyniant bro.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 January 2023