Dyfarnu £13.3 i Safle Treftadaeth y Byd i wneud gwelliannau ar gyfer ymwelwyr
Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte, ardal hon o harddwch naturiol eithriadol wedi cael £13.3 miliwn gan y Gronfa Ffyniant Bro.
Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn gampwaith peirianegol ac yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr. Mae’r draphont ddŵr yn brif ganolbwynt ar y rhan 11 milltir o’r Safle Treftadaeth y Byd. Mae’r ardal hon o harddwch naturiol eithriadol wedi cael £13.3 miliwn gan y Gronfa Ffyniant Bro.
Bydd y cyllid yn helpu i:
- sicrhau ei dyfodol fel prif ased treftadaeth
- cynyddu potensial y safle i’r eithaf
Cynllun Basn Trefor i gynyddu buddion twristiaeth
Bydd camau cychwynnol Prif Gynllun Technegol Basn Trefor yn:
- ailganolbwyntio’r safle o amgylch Traphont Ddŵr Pontcysyllte
- darparu amrywiaeth o welliannau ar gyfer ymwelwyr
Bydd hyn yn cynnwys buddsoddiad i:
- ddatblygu llwybr cerdded newydd yn Nyffryn Dyfrdwy a’r ardal o amgylch y draphont ddŵr
- sefydlu ardal addysg a gweithgarwch coetir
- ailwylltio hen dir diwydiannol
- creu ardal gyrraedd newydd
Uwchraddio profiad ymwelwyr
Bydd y buddsoddiad yn gwella cysylltedd, gan gynnwys:
- gwella cysylltiadau rhwng Llangollen a Gwarchodfa Natur Wenffrwd
- llwybr teithio llesol ar gyfer cerdded a beicio ar hyd llinell reilffordd nad yw’n cael ei defnyddio mwyach
- man cyhoeddus newydd ar gyffordd Castle Street ac Abbey Road yn Llangollen
- cyfleusterau newydd i ymwelwyr yn Rhaeadr y Bedol
Bydd mynediad gwell ar draws y safle yn darparu buddion iechyd a lles i ymwelwyr yn y dyfodol.
Gwelliannau i Orsaf Corwen
Bydd gwaith uwchraddio i’r orsaf a’r maes parcio yn cynnwys:
- llwybr teithio llesol ar hyd yr hen linell reilffordd rhwng Corwen a Chynwyd
- mannau gwefru cerbydau trydan
Bydd y gwelliannau hyn yn:
- rhoi bywyd newydd i’r ardal fel atyniad twristiaid byd-eang
- rhoi hwb mawr i’r economi leol
Dysgwch fwy am ffyniant bro.