Casgliad

Atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus: enghreifftiau dilys

Samplau swyddogol o atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn diogelu pobl yng Nghymru a Lloegr nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol dros eu hunain o bosibl. Rydym hefyd yn helpu pobl i gynllunio ymlaen llaw bod rhywun arall yn gwneud penderfyniadau ar eu rhan os ydynt yn ei chael yn anodd gwneud hynny, neu os nad ydynt yn gallu gwneud hynny, am nad oes ganddynt alluedd meddyliol bellach.

Mae atwrneiaethau arhosol (LPAs) ac atwrneiaethau parhaus (EPAs)  yn ddogfennau cyfreithiol sy’n caniatáu i rywun roi’r pŵer i unigolyn arall wneud penderfyniadau o’r fath ar eu rhan. Gall LPA fod naill ai ar gyfer penderfyniadau iechyd a lles neu benderfyniadau eiddo a materion ariannol. Gall EPA fod ar gyfer penderfyniadau eiddo a materion ariannol yn unig.

Gallwch ddod o hyd i samplau o LPAs ac EPAs isod i’ch helpu i ganfod atwrneiaethau dilys.

Mae nodiadau o dan bob math o ddogfen yn egluro’r marciau a manylion eraill sy’n gwneud y ddogfen yn ddilys. Hefyd, mae dolenni sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am yr awdurdod y mae pob dogfen yn ei roi i’r defnyddiwr.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Atwrneiaeth arhosol

Atwrneiaeth barhaus

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 July 2024