Canllawiau ar gadw gwartheg, buail a byfflos ym Mhrydain Fawr
Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n gyfrifol am wartheg neu anifeiliaid buchol eraill ddilyn y rheolau a'r gweithdrefnau sy'n berthnasol i bob ceidwad gwartheg.
Ystyr ceidwad gwartheg yw unigolyn sy’n gyfrifol am wartheg, buail neu fyfflos ar sail barhaol neu dros dro. Mewn canllawiau swyddogol, mae’r term ‘gwartheg’ bob amser yn cynnwys y tair rhywogaeth.
Mae ceidwaid gwartheg yn cynnwys:
- ffermwyr
- pobl sy’n rhedeg marchnadoedd da byw a chanolfannau cynnull lloi
- cludwyr
- delwyr sy’n cadw anifeiliaid
- pobl sy’n rhedeg lladd-dai a llociau
Ceir cyfreithiau manwl yn nodi’r tasgau y mae’n rhaid i geidwaid gwartheg eu cyflawni, cyn iddynt gymryd cyfrifoldeb dros anifeiliaid ac unwaith y bydd yr anifeiliaid o dan eu gofal.
Beth i’w wneud cyn y gallwch gadw gwartheg
Er mwyn cadw gwartheg, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- cofrestru’r man lle byddwch yn eu cadw a chael Rhif Daliad ar ei gyfer
- cofrestru’n geidwad â swyddfa leol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol (AHVLA) a fydd yn rhoi nod buches i chi
- cofrestru â Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) sy’n cadw cronfa ddata’r System Olrhain Gwartheg (SOG)
Beth y mae’n rhaid i chi ei wneud pan fyddwch yn cadw gwartheg
Unwaith y byddwch yn gyfrifol am anifeiliaid, mae’n rhaid i chi ddilyn y gweithdrefnau priodol ar gyfer:
- nodi anifeiliaid a chadw cofnodion
- rhoi gwybod am ddigwyddiadau penodol (genedigaethau, symudiadau, marwolaethau, ac anifeiliaid a aiff ar goll neu a gaiff eu dwyn) i GSGP
Rheoliadau perthnasol
Yn Lloegr, y rheoliadau ar adnabod gwartheg yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg 2007, fel y’u diwygiwyd gan Reoliad Sgil-gynhyrchion Iechyd Anifeiliaid (Gorfodi) Lloegr (OS 2013/295) a Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Diwygio) 2013 (OS 2013/295).