2003 UNESCO Convention for the Safeguarding of the Intangible Cultural Heritage - Ymateb ymgynghori: Cymraeg
Updated 12 April 2025
Rhagair
Y ddogfen hon yw’r ymateb i’r ymgynghoriad ar y broses o sefydlu rhestrau o dreftadaeth fyw yn y DU fel rhan o’r broses o roi Confensiwn UNESCO 2003 ar Ddiogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol ar waith yn y DU.
Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys 16 o gyfarfodydd bwrdd crwn ar-lein a fynychwyd gan dros 500 o bobl, a dros 1,100 o ymatebion i’r arolwg a gyflwynwyd drwy’r porth ar-lein a thrwy e-bost.
Rydym wedi mynd ati i geisio ymateb i gynifer â phosibl o’r pwyntiau a chwestiynau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad. O ganlyniad, rydym yn ymwybodol bod hon yn ddogfen hir. Ar gam nesaf y broses o restrau, pan fyddwn yn agor yr alwad i gynnig eitemau, byddwn yn cyhoeddi canllawiau byrrach, mwy cryno a hygyrch ar gyfer ymgysylltu â’r rhestr.
Crynodeb gweithredol
Rydym am i’r broses o gadarnhau Confensiwn 2003 ddechrau sgwrs ledled y DU am ein treftadaeth ddiwylliannol – y llên gwerin, y perfformiadau, yr arferion a’r crefftau sydd â rhan bwysig o ran hunaniaeth, balchder a chydlyniant cymunedau ledled y DU – a sut rydym yn diogelu’r dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol hon gyda’n gilydd, y byddwn yn cyfeirio ati fel ‘treftadaeth fyw’.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi bod yn rhan o’r broses o ddechrau’r sgwrs am dreftadaeth fyw yn y DU ac rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Llywodraethau Datganoledig i gytuno ar yr ymateb hwn.
Mae treftadaeth fyw yn faes eang sy’n cwmpasu nifer o feysydd polisi gwahanol felly yn aml ni fydd un ateb sy’n addas i bob achos. Ond, byddwn yn ymdrin â’r rhestrau a’r gwaith ehangach o roi’r Confensiwn ar waith gan lynu at yr egwyddorion o fod yn gymunedol, yn gynhwysol, yn barchus ac yn agored.
Ein dull cyffredinol oedd canolbwyntio ar ba mor ymarferol yw sefydlu’r rhestrau, ac rydym wedi cytuno ar rai pwyntiau allweddol ynghylch y pwrpas:
-
Bydd y rhestrau’n helpu i adnabod a chydnabod treftadaeth fyw yn y DU drwy broses ‘cyfrif stoc’, ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth a chefnogi sgyrsiau diogelu yn y dyfodol.
-
Nid yw’r meini prawf ar gyfer cynhwysiant nwys eitem yn cynnwys barn ynglŷn â gwerth, asesu na chategoreiddio arwyddocâd, pwysigrwydd nac unrhyw fesur tebyg.
-
Mae manteision cynnwys eitem ar y rhestrau yn debygol o amrywio ar gyfer pob eitem a chymuned, ond gall gynnwys mwy o ymwybyddiaeth, cydnabyddiaeth, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer mwy o ymgysylltu a chydweithio.
-
Bydd fersiynau newydd o’r rhestrau a bydd ceisiadau agored rheolaidd i gymunedau gynnig eu treftadaeth fyw. Nid ydynt yn adnodd mapio, yn gofrestr nac yn gofnod o dreftadaeth fyw yn y DU ac nid yw’n fwriad iddynt fod yn wyddoniadur nac yn archif.
-
Os yw eitem sy’n cael ei chynnwys yn y rhestrau, nid yw’n golygu’n awtomatig bod unrhyw gyfrifoldeb neu rwymedigaeth gan unrhyw sefydliad, corff neu lywodraeth i gefnogi’r eitem honno’n uniongyrchol.
-
Proses ddomestig yw’r rhestrau o dreftadaeth fyw sydd ar wahân i’r rhestrau a gedwir yn UNESCO.
Byddwn yn parhau i gyfeirio at destun y Confensiwn ar gyfer y diffiniad y cytunwyd arno o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol neu dreftadaeth fyw, gan gydnabod bod modd dehongli’r diffiniad (efallai’n fwriadol) mewn ffyrdd gwahanol. Ond ni fyddwn yn defnyddio termau fel ‘traddodiadol’, ‘cyfoes’, ‘gwreiddiol’ na ‘threftadaeth’ wrth ddiffinio’r hyn sy’n dreftadaeth fyw a’r hyn nad yw’n dreftadaeth fyw, neu’r hyn y dylid ei gynnwys yn y rhestrau.
Byddwn yn glynu wrth y safbwynt a fabwysiadwyd gan y Confensiwn ac ni fyddwn yn derbyn cynigion ar gyfer crefyddau cyfundrefnol a systemau cred yn gyffredinol yn unig, ond rydym yn croesawu cynigion ar arferion diwylliannol sy’n ymwneud â chrefydd.
Byddwn yn croesawu cynigion sy’n defnyddio iaith fel cyfrwng, a byddwn yn cefnogi nifer o ieithoedd lleol, brodorol gyda chyfieithu (yn ogystal â gweithio yn Gymraeg yn unol â gofynion statudol), ond ni fyddwn yn cynnwys ieithoedd ynddynt eu hunain yn y rhestr.
Meini prawf
Roedd cefnogaeth gref yn yr ymatebion i’r arolwg i’r meini prawf arfaethedig gyda dros dri chwarter yr ymatebwyr o blaid. Gan nodi sylwadau ac awgrymiadau, rydym wedi cadw’r meini prawf arfaethedig, wedi uno dau ar gyfer elfennau ymarferol ac wedi ychwanegu tri arall i roi eglurder ychwanegol.
-
Rhaid iddo gael ei ymarfer ar hyn o bryd. Er mwyn cael ei ystyried ar gyfer y rhestr, rhaid i’r eitem fod â chymuned fyw sy’n meddu ar wybodaeth neu ddealltwriaeth am yr eitem sydd i’w chyflawni, ac sy’n gallu trosglwyddo’r eitem i genedlaethau’r dyfodol. Dylai cynigion ddarparu gwybodaeth am hyfywedd yr eitem ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a byddant yn gallu nodi a yw’r gymuned sy’n cynnig yr eitem yn ystyried ei bod dan fygythiad, e.e. bod perygl iddi farw allan heb newid sylweddol yn y lefel drosglwyddo bresennol.
-
Gall ddeillio o unrhyw le a bod o unrhyw gyfnod, ond rhaid iddo gynnwys gwybodaeth am ei hanes a’i drosglwyddiad yn y gymuned dan sylw. Nid oes angen i’r eitem fod ag isafswm oedran na fod wedi cael ei drosglwyddo nifer penodol o weithiau a gall ddeillio o unrhyw le a gan unrhyw un.
-
Rhaid iddo fod yn arfer byw ynddo’i hun. Dylai cynnig i’r rhestrau gynnwys gwybodaeth am elfennau cysylltiedig â’r eitem lle bo hynny’n berthnasol, ond ni ddylai’r eitem o dreftadaeth fyw fod yn offer, offerynnau, gwisgoedd, deunyddiau cysylltiedig ac ati yn unig, nac y cynnyrch, yr allbwn, y greadigaeth na’r canlyniad yn unig.
-
Rhaid iddynt fod yn gydnaws â’r safonau hawliau dynol presennol y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol. Er enghraifft, gyda hawliau pobl eraill i beidio â chael eu gwahaniaethu yn eu herbyn ac i gael eu trin yn gyfartal, gyda phreifatrwydd, rhyddid meddwl a mynegiant, a chymryd rhan mewn bywyd cymdeithasol a diwylliannol.
-
Rhaid cael cydsyniad rhydd, ymlaen llaw ac ar sail gwybodaeth gan y gymuned. Rhaid i’r cynnig ddarparu tystiolaeth bod y gymuned sy’n ymarfer wedi cydsynio i’r eitem o dreftadaeth fyw gael ei chynnig i’r rhestrau.
-
Rhaid i unrhyw fudd masnachol o’r eitem o dreftadaeth fyw fod er budd y gymuned yn bennaf.
Cod moeseg
Fe wnaethom hefyd glywed amrywiaeth o sylwadau ac awgrymiadau mewn perthynas â meini prawf eraill, ond roedd diffyg consensws neu sail wrthrychol i asesu eitem yn erbyn y meini prawf, felly yn lle hynny rydym wedi llunio cod moeseg. Mae angen i gymunedau sy’n gwneud cynigion ystyried y cod moeseg, a gall y cod eu helpu i lywio sgyrsiau yn y dyfodol ynghylch diogelu, ond ni fydd yn rhan o’r meini prawf ar gyfer cael eu cynnwys yn y rhestrau eitemau.
-
Dylent barchu anifeiliaid, natur a’r amgylchedd.
-
Dylai barchu fframweithiau cyfreithiol cenedlaethol presennol a hyrwyddo iechyd, lles a diogelwch cadarnhaol iddynt eu hunain ac eraill.
-
Dylent feithrin heddwch, parch, cydlyniant cymdeithasol a chynhwysiant, ac osgoi gwahaniaethu o fewn eu harfer/arferion treftadaeth fyw eu hunain, cymunedau ehangach, ac wrth gydweithio ag ymarferwyr treftadaeth fyw eraill.
Categorïau
Roedd y trafodaethau allweddol yn y pwnc hwn yn cynnwys dod o hyd i gydbwysedd rhwng cadw categorïau UNESCO er mwyn ei gwneud yn haws i gydweithio, a gwneud y categorïau a’r geiriad mor ddefnyddiol a hygyrch â phosibl ar gyfer cyd-destun y DU. Byddwn yn cadw pum categori UNESCO ac yn ychwanegu dau gategori arall ar ‘Chwaraeon a Gemau’ ac ‘Arferion Coginio’. Byddwn hefyd yn ailenwi ac yn symleiddio’r geiriad y categorïau, gan gynnwys ychwanegu cyfeiriad penodol at Dir a Chredoau.
-
Mynegi ar Lafar Treftadaeth fyw yn ymwneud â geiriau llafar a chyfathrebu di-eiriau a ddefnyddir i drosglwyddo gwybodaeth, gwerthoedd diwylliannol a chymdeithasol a chof ar y cyd. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys diarhebion, damhegion, caneuon, hwiangerddi, neu adrodd straeon.
-
Celfyddydau Perfformio Treftadaeth fyw sy’n ymwneud â pherfformio a chreadigrwydd dynol. Gallai enghreifftiau gynnwys gwahanol arferion cerddorol, dawns neu ddrama.
-
Arferion Cymdeithasol Treftadaeth fyw sy’n aml yn cael ei rhannu gan grŵp a’i hymarfer ganddynt. Gallai enghreifftiau gynnwys arferion ar y calendr neu rai tymhorol, gwyliau, dathliadau neu ddefodau.
-
Natur, Tir ac Ysbrydolrwydd Treftadaeth fyw sy’n ymwneud â’r amgylchedd a chred. Gallai’r enghreifftiau gynnwys technegau adeiladu, systemau rheoli tir, gwybodaeth am anifeiliaid, planhigion ac ecoleg penodol.
-
Crefftau Treftadaeth fyw sy’n ymwneud â sgiliau, gwybodaeth a gwneud pethau, naill ai â llaw neu gyda chymorth offer. Gallai’r enghreifftiau gynnwys arferion penodol o wehyddu, cerfio coed, crochenwaith, gwaith gof, neu waith saer maen.
-
Chwaraeon a Gemau Treftadaeth fyw sy’n ymwneud â gemau, cystadlaethau neu weithgareddau lle mae angen ymdrech gorfforol a/neu sgiliau. Gallai enghreifftiau gynnwys digwyddiadau chwaraeon neu gemau hamdden.
-
Arferion Coginio Treftadaeth fyw sy’n ymwneud â pharatoi a bwyta bwyd ac yfed diodydd. Gallai’r enghreifftiau gynnwys gwneud prydau penodol neu rannu bwyd a diod yn gymdeithasol.
Rhagarweiniad
1. Rydym am i’r broses o gadarnhau Confensiwn 2003 ddechrau sgwrs am yr hyn rydym yn ei werthfawrogi a sut rydym yn mynd ati ar y cyd i ddiogelu ein treftadaeth fyw.
2. Sefydlu rhestr – neu restrau fel y byddwn yn esbonio – o dreftadaeth fyw yn y DU yw un o brif rwymedigaethau’r Confensiwn ac yn gam cyntaf tuag at ei gweithredu. I gynnig yr ymateb hwn i’r Ymgynghoriad, roeddem am ddarparu rhagor o wybodaeth am gyd-destun a chwmpas y Confensiwn: gan nodi’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn meithrin cyd-ddealltwriaeth a disgwyliad o’r hyn y mae cadarnhau’r Confensiwn yn ei olygu, yn ogystal â’r hyn y gall – ac na all – y confensiwn ei gyflawni.
3. I ddechrau, mae’n ddefnyddiol edrych ar sut mae’r DU yn rheoli polisi diwylliannol. Pan fydd y DU yn cadarnhau Confensiwn UNESCO, mae adran benodol a pherthnasol o’r Llywodraeth yn gweithredu fel ‘Parti Gwladwriaethol’ i’r Confensiwn. Ar gyfer Confensiwn 2003, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) sy’n gweithredu fel ‘Parti Gwladwriaethol’ oherwydd ei chyfrifoldeb polisi penodol dros ddiwylliant a threftadaeth.
4. Yn y DU, mae diwylliant a threftadaeth yn feysydd polisi datganoledig sy’n golygu bod gan Lywodraethau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyfrifoldeb dros eu polisïau diwylliant a threftadaeth eu hunain. Mae’r polisi hwn wedi’i wasgaru ymhellach ar draws nifer o dimau ac adrannau mewnol ym mhob Llywodraeth. Er mai’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yw’r ‘Parti Gwladwriaethol’ i Gonfensiwn 2003, mae’n gofyn i’r gwahanol dimau ac adrannau hyn ar draws y pedair Llywodraeth i gynnig arweiniad a mewnbwn.
5. O ystyried y natur ddatganoledig hon, byddwn yn sefydlu rhestrau ar wahân (ar-lein) ar gyfer pob un o’r gwledydd a fydd yn cyfuno i greu un rhestr o dreftadaeth fyw yn y DU. Pan fydd grwpiau penodol eraill, gan gynnwys y rheini yn y Confensiwn Fframwaith ar gyfer Amddiffyn Lleiafrifoedd Cenedlaethol fel Cernyweg, byddwn yn cefnogi’r gwaith o’u cynnwys ac yn sicrhau bod modd gweld treftadaeth fyw’r grwpiau hyn gyda’i gilydd ar y rhestrau, ond ni fyddwn yn sefydlu rhestrau ar wahân y tu hwnt i’r llywodraethau datganoledig.
6. Mae Confensiwn 2003 yn un o sawl Confensiwn sydd gan UNESCO ac mae hefyd yn un o nifer o gytuniadau rhyngwladol y mae’r DU wedi ymrwymo iddynt. Mae’n un darn o jig-so ehangach o bolisi diwylliannol a threftadaeth rhyngwladol cyffredinol. Mewn theori, mae’r darnau jig-so hyn yn ffitio gyda’i gilydd i greu darlun cydlynol, ond yn aml mae bylchau neu orgyffwrdd. Mae treftadaeth fyw yn faes mor eang fel ei fod hefyd yn cwmpasu llawer o ddarnau jig-so polisi eraill, fel: yr amgylchedd, busnes a masnach, addysg a thechnoleg.
7. Mae gallu cysylltu, cydweithio a dylanwadu ar feysydd polisi eraill yn gallu bod yn gryfder o ran treftadaeth fyw, ond mae’n bwysig nodi nad yw’r Gweinidogion a’r adrannau sy’n gyfrifol am y darn jig-so treftadaeth fyw yn aml yn uniongyrchol gyfrifol am yr holl ddarnau eraill y pos.
8. Mae’r pwynt hwn hefyd yn ymwneud â meysydd polisi trawsbynciol, ehangach fel crefydd ac iaith. Er y gellid cytuno bod y ddau’n rhannau hanfodol o’n treftadaeth ddiwylliannol, mae’r cyfrifoldeb am y rhain yn bennaf y tu allan i’r Gweinidogion a’r adrannau sy’n gyfrifol am ddiwylliant a threftadaeth. Mae hyn yn golygu bod cyfyngiadau ar gwmpas neu raddau’r modd y gall y Confensiwn ddylanwadu ar y meysydd hyn.
9. Fodd bynnag, mae’r Confensiwn yn darparu fframwaith ar gyfer dechrau sgwrs sy’n rhychwantu’r jig-so polisi diwylliannol a threftadaeth ehangach. Dim ond un ffocws penodol i’r sgwrs honno yw proses y rhestr.
10. Un o brif fanteision y rhestrau yw eu bod yn cyfrannu at ddiogelu treftadaeth fyw drwy godi ymwybyddiaeth. Bydd yr ymwybyddiaeth gynyddol hon o dreftadaeth fyw yn helpu sgyrsiau o fewn a rhwng cymunedau, ardaloedd, sefydliadau, cyrff cyhoeddus, cenhedloedd a gwledydd.
11. Cafwyd nifer o sylwadau yn yr ymgynghoriad yn cyfeirio at y datganiad canlynol yn y papur ymgynghori: “nid yw cymeradwyo o reidrwydd yn rhoi unrhyw faich, dyletswydd na rhwymedigaeth ychwanegol ar unrhyw wneuthurwr polisi na chyllidwr”. Ni chafodd y Confensiwn ei gadarnhau gyda syniad o’r brig i lawr na rhagdybiaeth o sut beth ddylai gweithredu fod. Rydym yn cychwyn proses, a’r ymgynghoriad yw’r cam cyntaf yn hyn o beth. Ein gobaith yw parhau â’r broses gyda thrafodaeth agored, gydweithredol a chynhwysol.
12. Rydym yn croesawu trafodaeth gadarnhaol a pharchus. Mae trafod, anghytuno a rhannu barn a safbwyntiau yn elfen bwysig o weithredu: yn ddomestig ac yn rhyngwladol. Rydym eisiau codi proffil, dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o dreftadaeth fyw yn y DU ac rydym eisiau i gadarnhau’r Confensiwn ddechrau sgwrs yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol am yr hyn rydym yn ei werthfawrogi a sut gallwn ni ei ddiogelu ar y cyd.
13. Gyda’r fath amrywiaeth ac ehangder o dreftadaeth fyw yn y DU, ni fyddwn byth yn cael un ateb sy’n addas i bob achos. Byddwn yn parhau i chwilio am yr holl leisiau, o’r rhai mwyaf swnllyd neu’r rhai tawelaf, a sicrhau eu bod yn cael eu clywed a’u bod yn gallu cymryd rhan yn y sgwrs.
14. Fe wnaethom amlinellu egwyddorion ein dull gweithredu yn y ddogfen ymgynghori. Mae’r rhain yn seiliedig ar rai o egwyddorion UNESCO, wedi’u cymryd o’u diffiniad. Hoffem eu hailadrodd yma a phwyso a mesur rhai o’r sylwadau.
Yn y gymuned, o’r gwaelod i fyny
Yr unig ffordd y gall Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol fod yn dreftadaeth yw drwy gael ei chydnabod felly gan y cymunedau, y grwpiau neu’r unigolion sy’n ei chreu, ei chynnal a’i throsglwyddo – heb eu cydnabyddiaeth, ni all neb arall benderfynu drostynt mai mynegiant neu arfer penodol yw eu treftadaeth hwy.
Cynhwysol a pharchus
Rydym yn rhannu’r farn bod dealltwriaeth o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol pobl eraill yn helpu gyda deialog ryngddiwylliannol, yn annog parch at ffyrdd eraill o fyw, ac yn helpu pobl i deimlo’n rhan o un gymuned neu o wahanol gymunedau ac i deimlo’n rhan o gymdeithas yn gyffredinol.
Efallai y byddwn yn rhannu mynegiant o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol sy’n debyg i’r rhai a ddefnyddir gan eraill. P’un a ydynt yn dod o bentref cyfagos, o ddinas bendraw’r byd, neu wedi cael eu haddasu gan bobl sydd wedi mudo ac ymgartrefu mewn rhanbarth gwahanol, mae’r cyfan yn dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol: maent wedi cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall, wedi esblygu mewn ymateb i’w hamgylcheddau ac maent yn cyfrannu at roi ymdeimlad o hunaniaeth a pharhad i ni, gan ddarparu cyswllt â’n gorffennol, drwy’r presennol, ac i’n dyfodol.
Agored ac yn ymgysylltu
Oherwydd natur eang Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol a’r amrywiaeth eang o Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol ar draws pob rhan o’r DU a’n Tiriogaethau Tramor a Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron, bydd angen cydweithio er mwyn rhoi’r Confensiwn ar waith. Nid oes un Llywodraeth na sefydliad sy’n gyfrifol am weithredu ar draws y DU, felly bydd yn hanfodol cael deialog a thrafodaeth agored i sicrhau bod yna amrywiaeth o leisiau a safbwyntiau.”
15. Hoffem adeiladu ar yr egwyddorion hyn gyda rhywbeth a allai ymddangos yn amlwg ond sydd, serch hynny, yn werth ei ddweud; mae ein gwaith o roi’r Confensiwn ar waith yn agored i bawb beth bynnag fo’r agweddau megis rhyw, rhywedd, hil, ethnigrwydd, gallu, cefndir neu gred.
16. Rydym wedi datgan ein bwriad i’r gymuned arwain y dull hwn o’r gwaelod i fyny. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod UNESCO, y Confensiwn a’n gweithrediad, yn ôl eu natur, yn brosesau sy’n cael eu cydlynu gan y Llywodraeth.
17. Yn hanesyddol, nid yw llawer o gymunedau a grwpiau wedi bod yn barod i ymgysylltu â phrosesau’r Llywodraeth ac wedi gweld gweithredoedd y Llywodraeth fel rhai nad ydynt yn cefnogi nac yn cynrychioli eu buddiannau. At hynny, rydym yn nodi bod llawer o lên gwerin, traddodiadau neu arferion wedi datblygu o safbwynt gwrth-awdurdod, wedi’i sbarduno gan brotest.
18. Rydym yn cydnabod y tensiynau sy’n gynhenid i hyn yn y broses a byddwn yn cymryd camau i wahodd, croesawu a darparu ar gyfer pob cymuned. Byddwn yn parchu’r cymunedau hynny a allai ddewis peidio ag ymgysylltu. Rydym hefyd yn pwysleisio nad yw dewis peidio â chymryd rhan yn arwydd mewn unrhyw ffordd bod y dreftadaeth fyw honno’n llai ystyrlon neu’n llai gwerthfawr.
19. Yn dilyn ein hegwyddor o fod yn agored ac ymgysylltu, yn ogystal â’r pwynt ein bod yn dechrau ar daith, rydym am bwysleisio bod hon yn broses ailadroddol. Yn union fel y byddwn yn parhau i wahodd cynigion a diweddariadau ar gyfer fersiynau o’r rhestr yn y dyfodol, rydym yn disgwyl i’r gweithredu esblygu a datblygu, gan adlewyrchu natur treftadaeth fyw a phrofiadau Partïon Gwladwriaethol eraill i’r confensiwn.
20. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu a gwella wrth fynd o un fersiwn i’r llall. Rydym yn cydnabod y gall fod bylchau, camgymeriadau a hepgoriadau a byddwn yn ceisio derbyn, cydnabod ac ymateb i’r rhain wrth i ni fynd yn ein blaenau.
21. Yr ymgynghoriad hwn yw fersiwn gyntaf y gweithredu hwn. Rydym yn cydnabod y camgymeriadau, y diffyg eglurder a’r camddealltwriaeth a oedd i’w gweld yn y ddogfen ymgynghori gychwynnol isod.
22. Roedd rhai o’r rhain yn gamgymeriadau diofal fel peidio â gwirio’r opsiwn i ganiatáu i ymatebwyr gysylltu eu hunain â mwy nag un o barthau’r Confensiwn. Roedd eraill yn ganlyniad i esboniad annigonol neu danamcangyfrif y canfyddiadau pwerus o eiriau neu dermau penodol, a’r hyn sy’n cael ei gysylltu â nhw. Rydym yn gobeithio ein bod wedi rhoi sylw i bob un o’r rhain yn yr ymateb hwn i’r ymgynghoriad.
23. Fodd bynnag, bydd bob amser adegau pan na fydd modd cysoni safbwyntiau gwahanol a nodwn na fydd pawb yn cytuno â’r farn gonsensws rydym wedi’i mabwysiadu ar hyn o bryd. Ond byddwn yn parhau i wrando, creu fersiynau a chefnogi’r drafodaeth am dreftadaeth fyw sydd i’w chael yn sgil cadarnhau’r Confensiwn.
24. Nodwn y gallai teitl y Confensiwn ‘Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol’ fod yn aneglur. Yn dilyn llawer o sgyrsiau dilynol, a nodi bod Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn yn cyfeirio at eu tîm yn UNESCO fel yr uned ‘Treftadaeth Fyw’, byddwn fel arfer yn defnyddio’r term ‘treftadaeth fyw’, ac eithrio wrth gyfeirio at destun y Confensiwn neu pan fyddwn yn trafod meysydd eraill lle mai Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol yw’r term a ddefnyddir yn gyffredin. Nodwn y gellir defnyddio’r termau’n gyfnewidiol ac nad oes gwahaniaeth rhyngddynt yn ymarferol.
Rhestr o dreftadaeth fyw
Cyfri stoc
25. Mae sawl ffordd i chi ystyried neu ddeall rhestr o dreftadaeth fyw. Yn ein hymchwil, fe wnaethom edrych ar lawer o wledydd sydd wedi mabwysiadu dulliau gwahanol o ymdrin â’u rhestrau cenedlaethol. Fel rhan o’r ymgynghoriad, buom yn gwrando ar yr uchelgeisiau a’r gobeithion y mae pobl wedi’u rhannu â ni ar gyfer y rhestrau o bethau.
26. Rydym am ddechrau drwy ddiffinio’r rhestr: yr hyn y bydd yn ei wneud a’r hyn na fydd yn ei wneud.
27. Swyddogaethau sylfaenol y rhestr yw diogelu o safbwynt dynodi a chydnabod treftadaeth fyw yn y DU, drwy broses ‘gyfri stoc’. Diogelu, fel y mae ei enw’n egluro, yw prif ffocws y Confensiwn. Byddwn yn edrych yn fanylach ar beth yw ystyr diogelu yn nes ymlaen, ond un esboniad sylfaenol rydym yn ei ddefnyddio yw ‘sicrhau hyfywedd parhaus’. Er mwyn cael sgwrs am ddiogelu, yn gyntaf mae angen i ni wybod pa dreftadaeth fyw sy’n bodoli, ble y mae i’w chawl, pwy sy’n ei gwneud, ac ati. Rydym hefyd yn nodi bod yn rhaid i’r wybodaeth rydym yn ei chasglu fod ar gael i bawb er mwyn i’r sgwrs honno fod yn gynhwysol.
28. Rydym hefyd eisiau bod yn glir bod y rhestr yn broses fyw, barhaus ac nid ymarfer untro yn unig. Byddwn yn cynnal galwadau rheolaidd i’w gynnig eitemau ac yn diweddaru’r rhestrau’n rheolaidd. Mae hyn yn golygu nad dim ond un cyfle sydd i gymunedau gynnig eitemau i’w cynnwys ar y rhestrau a bod modd ychwanegu treftadaeth fyw newydd sy’n esblygu. Yn yr un modd, bydd treftadaeth fyw nad yw’n cael ei harfer mwyach yn cael ei thynnu oddi ar y rhestrau. Rydym yn rhoi sylw i hyn yn yr adran adolygu isod.
29. Nid ydym yn bwriadu cael proses dreigl ar gyfer cynnig pethau a chyhoeddi. Bydd gennym gyfnod penodol ar gyfer cynnig pethau, a byddwn yna’n cyhoeddi’r fersiwn newydd. Byddwn yn dysgu o’r cais cychwynnol i gynnig eitemau ynghylch pa mor aml y byddwn yn gwneud ceisiadau i gynnig eitemau yn y dyfodol a pha mor aml y byddwn yn cyhoeddi diweddariad o’r rhestr, ond rydym yn rhagweld y gallai’r rhain ddigwydd yn flynyddol.
Cyd-destun
30. Nid yw’r rhestr yn adnodd mapio, yn gofrestr nac yn gofnod o dreftadaeth fyw yn y DU ac nid yw’n fwriad iddo fod yn wyddoniadur nac yn archif. Ni fyddwn yn gofyn am ddisgrifiad cynhwysfawr o bob eitem oherwydd nad oes bwriad i’r rhestr ddisodli, atgynhyrchu na dyblygu ffynonellau gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli ar-lein. Mae archifau, gwyddoniaduron a lleoliadau cyffelyb sy’n gynhwysfawr ac yn rhagorol yn bodoli eisoes; ein bwriad yw fod yr eitemau ar y rhestrau’n cyfeirio at y safleoedd penodol hyn.
31. Bydd cadw lefel y wybodaeth sydd ei hangen i lefel hylaw yn sicrhau bod y broses gynigion yn un hawdd ac yn un hygyrch. Bydd hyn yn annog cynifer o bobl â phosibl i ymgysylltu â’r broses.
32. Fodd bynnag, rydym hefyd yn ymwybodol na fydd pob cymuned eisiau – ac na fyddant yn gallu – cynnig eu heitemau o dreftadaeth fyw a bod yr eitemau hyn yn esblygu dros amser. Felly, rydym yn cydnabod na fydd y rhestrau byth yn gofnod ‘cyflawn’ na chynhwysfawr o dreftadaeth fyw yn y DU. Nid dyma’r bwriad.
33. Rydym hefyd yn cydnabod nad yw cael rhestr o dreftadaeth fyw yn y DU yn syniad newydd ac nad yw’n bodoli mewn gwagle. Cafwyd sawl enghraifft o greu rhestrau o dreftadaeth fyw yn y DU sydd wedi dylanwadu ar y gwaith hwn. Roedd dull rhestr-wici yr Alban a ddatblygwyd gan Museums Galleries Scotland yn defnyddio dull mynediad agored wici arloesol ac yn cyfuno hyn â seilwaith gwybodaeth hawdd ei ddefnyddio. Yn yr un modd, mae rhestr goch Heritage Craft o grefftau sydd dan fygythiad yn ddarn o waith o fri rhyngwladol sydd wedi gwneud cyfraniad mawr at ddiogelu drwy godi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth. Rydym yn bwriadu parhau i weithio’n agos gyda’r ddau sefydliad i gysoni ein gwaith.
34. At hynny, yn ogystal â chyfeirio a chysylltu â ffynonellau data eraill, rydym yn cydnabod y bydd y rhestrau hefyd yn dod yn set ddata a all fod yn ddefnyddiol i ymchwilwyr, academyddion ac eraill. Rydym am i’r rhestrau fod mor ddefnyddiol â phosibl ac felly fod mor hygyrch â phosibl. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am hyn yn y canllawiau wrth wneud cais i gynnig pethau. ### Domestig
35. Mae’r rhestr o dreftadaeth fyw yn broses ddomestig sydd ar wahân i’r rhestrau a gedwir gan UNESCO. Mae’r rhestr yn un o brif rwymedigaethau’r Confensiwn, ond mater i wledydd unigol (neu Wladwriaethau sy’n Barti i’r Confensiwn) yw sefydlu a rheoli’r rhestrau. Er ein bod wedi dilyn canllawiau ac arferion gorau UNESCO yn y rhan fwyaf o achosion, nid UNESCO (h.y. yr Ysgrifenyddiaeth neu’r Pwyllgor ar gyfer Confensiwn 2003) sy’n gwneud y penderfyniadau a nodir isod ynghylch sut rydym yn sefydlu’r rhestrau, ac fe’u cynigiwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae’r penderfyniadau hyn yn seiliedig ar ein hymgynghoriad cyhoeddus, ein hymgysylltiad â gwledydd eraill, ac yn cael eu datblygu ar y cyd â chynrychiolwyr o’r Llywodraethau Datganoledig.
36. Mae’r Confensiwn yn cynnwys Rhestr o Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol sydd Angen ei Ddiogelu ar Frys a Rhestr Gynrychioladol o Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol Dynoliaeth. Gall Partïon Gwladwriaethol gynnig un eitem o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol bob blwyddyn i’r rhestri hyn, i’w gwerthuso gan Bwyllgor y Confensiwn. Rhestrau rhyngwladol yw’r rhain sy’n cael eu cadw yn UNESCO ac maent ar wahân i’r rhestrau domestig o dreftadaeth fyw yn y DU.
37. Fel y nodwyd gennym yn yr ymgynghoriad, bydd y DU yn canolbwyntio ar y rhestrau yn y DU. Ni fyddwn yn cynnig eitemau i’w cynnwys ar Restrau rhyngwladol UNESCO, am yr ychydig flynyddoedd cyntaf ar ôl cadarnhau o leiaf. Cafodd y penderfyniad hwn ei herio yn ystod yr ymgynghoriad ac rydym yn cydnabod bod nifer o randdeiliaid yn awyddus i’r DU ymuno â’r gwaith o gynnig eitemau i’r rhestrau rhyngwladol.
38. Rydym hefyd yn cydnabod bod y penderfyniad hwn o beidio â chynnig eitemau i’r rhestrau yn mynd yn groes i’r norm ar gyfer Partïon Gwladwriaethol i’r Confensiwn. Fodd bynnag, rydym yn dal o’r farn bod yr amser, yr ymdrech a’r anghydfodau posibl er mwyn dewis un eitem y flwyddyn (a fydd yn arwain at ychydig o enillwyr a llawer o bobl ar eu colled) yn anghymesur â’r gwerth y byddai’n ei roi i’r ychydig eitemau a ddewiswyd.
39. Nid yw’r ymagwedd hon yn dangos ein diffyg diddordeb mewn cysylltu â chydweithio rhyngwladol ac nid yw’n atal cymunedau yn y DU rhag cysylltu â chydweithio â phartneriaid rhyngwladol. Nodwn fod llawer eisoes yn gwneud hynny. Byddwn yn ceisio cefnogi’r cysylltiadau presennol a newydd hyn fel rhan o’r sgyrsiau diogelu.
40. Ein barn ni yw ei fod yn cyd-fynd yn well â’n dull cynhwysol o osgoi dewisiadau o’r brig i lawr ac yn codi ymwybyddiaeth o’r rhestrau a’r holl dreftadaeth fyw yn y DU. Rydym yn defnyddio’r ymadrodd ‘codi nid rhestru’ i ddisgrifio’r dull hwn.
Statws
41. Nid yw’r meini prawf ar gyfer cynnwys eitemau’n cynnwys barn ynglŷn â gwerth, asesu na chategoreiddio arwyddocâd, pwysigrwydd nac unrhyw fesur tebyg. Nid yw’r rhestrau’n cael eu llunio er mwyn cael cofnod neu restr swyddogol neu gymeradwy o dreftadaeth fyw yn y DU. Mae hyn yn golygu nad yw cynnwys eitem yn y rhestr yn rhoi statws penodol iddi fel pe bai wedi’i chymeradwyo neu ei hardystio. Ei statws yw ei bod yn cael ei chydnabod o fewn y rhestrau o dreftadaeth fyw yn y DU.
42. Fel y mae’r Egwyddorion Moesegol ar gyfer Diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol yn cynnwys:
Dylai pob cymuned, grŵp neu unigolyn asesu gwerth ei dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol ei hun ac ni ddylai’r dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol hon fod yn destun barn allanol am ei gwerth.
43. Rydym yn gwerthfawrogi’n llwyr y bydd llawer o bobl yn credu bod arwyddocâd, pwysigrwydd neu werth rhai eitemau’n fwy neu’n llai nag eraill a bod y dyfarniadau hynny’n cyd-fynd ag oedran, maint, neu syniadau o ddilysrwydd. Rydym wedi clywed y dadleuon y bydd cael llai o rwystrau i fynediad yn arwain at nifer fwy o eitemau yn y rhestrau ac felly y gallai eu gwneud yn llai unigryw neu leihau maint y wobr o gael eu cynnwys.
44. Ond rydyn ni eisiau dechrau’r sgwrs am sut rydym, gyda’n gilydd, yn diogelu treftadaeth fyw yn y DU. Mae’r sgyrsiau hyn yn debygol o gynnwys cwestiynau ynghylch blaenoriaethu, ond er mwyn dechrau’r sgyrsiau hynny, rydyn ni eisiau cynnwys cynifer o eitemau â phosibl drwy fabwysiadu dull agored a chynhwysol.
45. Rydym yn manylu ar broses y panel ymhellach isod, ond mae’r egwyddor o gynnwys eitem wedi’i geirio’n dda gan un o’r ymatebion i’r ymgynghoriad:
Os yw ymarfer i gael ei ‘ddiffinio gan y gymuned’, mae’n bosibl iawn y bydd pryderon fel proses gymeradwyo yn gweithredu fel rhwystr rhag rhestru arferion. Efallai y byddai’n fwy effeithiol ac yn fwy cydnaws ag ysbryd y syniad o dreftadaeth ddiwylliannol fyw fel rhywbeth ‘wedi’i ddiffinio gan y gymuned’ er mwyn cael rhagdybiaeth y bydd ymarfer yn cael ei restru. Yna, gallai panel adolygu archwilio a oes rhesymau da dros beidio â rhestru arfer penodol.
46. Mae hyn yn codi pwynt allweddol am hunanbenderfyniad sy’n cyd-fynd â’n dull gweithredu i fod yn un sy’n cael ei arwain gan y gymuned ac o’r gwaelod i fyny, gan nodi a dangos yn glir lle mae terfynau neu gyfyngiadau ymarferol angenrheidiol i ddull gweithredu’r Confensiwn.
47. Rydym yn llwyr ymwybodol y bydd y dull hwn yn arwain at restr lawer hirach na rhestrau’r rhan fwyaf (ond nid pob un) o’r gwledydd eraill sydd wedi cadarnhau’r confensiwn. Fodd bynnag, rydym yn credu fod hyn yn cyd-fynd yn well ag ysbryd y Confensiwn:
Mae Erthygl 15 o Gonfensiwn 2003 yn trafod cyfranogiad cymunedau, grwpiau ac unigolion: ‘bydd pob Gwladwriaeth sy’n Barti yn ymdrechu i sicrhau’r cyfranogiad ehangaf posibl gan gymunedau, grwpiau a, lle bo’n briodol, unigolion sy’n creu, yn cynnal ac yn trosglwyddo treftadaeth o’r fath, ac yn mynd ati i’w cynnwys yn y gwaith o’i rheoli.
48. Rydym yn credu y bydd rhestr hir hefyd yn dangos ehangder ac amrywiaeth gyfoethog treftadaeth fyw’r DU, ac yn cynnwys llawer mwy o bobl a chymunedau. Rydym yn teimlo ei bod yn bwysig mabwysiadu dull sy’n cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd, o ystyried bod y DU newydd gadarnhau’r Confensiwn hwn ac nad oes dealltwriaeth mor eang o beth yw treftadaeth ac nad yw mor gyfarwydd â threftadaeth adeiledig ddiriaethol.
49. Nodwn y bydd cael mwy o eitemau yn golygu bod angen trefn ganfod dda ar y wefan er mwyn ei gwneud yn hawdd dod o hyd i eitemau. Rydym wedi bod yn edrych yn fanwl ar y maes hwn a byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth pan fyddwn yn agor y cais am gynnig eitemau.
Manteision
50. Mae’r manteision o gael eu cynnwys ar y rhestrau’n debygol o amrywio o un eitem i’r llall. Un pwynt clir a glywsom dro ar ôl tro drwy’r ymgynghoriad oedd bod angen i ni ddangos mantais neu werth y rhestr er mwyn i bobl fod eisiau cymryd rhan yn y broses. Rydym yn cydnabod nad yw hyn i’w weld i raddau helaeth yn y ddogfen ymgynghori, ond ar ôl clywed gan amrywiaeth o randdeiliaid yn ystod y cyfarfodydd bwrdd crwn yr ymgynghoriad, rydym mewn sefyllfa well i nodi’r hyn rydym yn credu y gellir ei gael o’r broses.
51. Fel y nodwyd uchod, nod craidd y rhestr yw cefnogi diogelu: fel ffordd o alluogi sgwrs am sut rydym yn diogelu ein treftadaeth fyw gyda’n gilydd ac fel cam cyntaf allweddol ar gyfer nodi, cydnabod a chodi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o dreftadaeth fyw sy’n bodoli yn y DU.
52. Mae diogelu’n derm eang sy’n cwmpasu nifer o feysydd. Mae testun y Confensiwn yn datgan:
3. Ystyr ‘diogelu’ yw mesurau sy’n ceisio sicrhau hyfywedd y dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol, gan gynnwys adnabod, cofnodi, ymchwil, cadwraeth, diogelu, hyrwyddo, gwella, trosglwyddo, yn enwedig drwy addysg ffurfiol ac anffurfiol, yn ogystal ag adfywio gwahanol agweddau ar dreftadaeth o’r fath.
53. Bydd pob eitem o dreftadaeth fyw yn wynebu heriau gwahanol o ran sicrhau ei hyfywedd, felly mae’n debygol y bydd angen gwahanol fathau o ddiogelu ar gyfer pob eitem.
54. O’r herwydd, mae manteision cael eu cynnwys yn y rhestrau’n debygol o amrywio o un eitem i’r llall, ond maent yn canolbwyntio ar ddechrau sgyrsiau – boed hynny mewn cymuned, neu gyda’r rheini sydd gerllaw neu’n bell i ffwrdd. Dyma rai o fanteision posibl cydlynu’r gwaith o gynnig eitem:
-
Ymgysylltu yn y gymuned drwy drafod a chydweithio ag ymarferwyr i gytuno ar gynnwys yr eitem sy’n cael ei chynnig, gan gynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth neu werthfawrogiad o’r eitem;
-
Ymgysylltu a thrafod gyda chymunedau eraill tebyg, er mwyn deall a diffinio nodweddion tebyg a gwahaniaethau, gan greu mwy o gysylltiadau a rhwydweithiau.
Er y gallai’r manteision o gael eu cynnwys ar y rhestr a gyhoeddwyd gynnwys y canlynol:
-
Cydnabyddiaeth fel rhan o lwyfan a phroses ledled y DU;
-
Codi ymwybyddiaeth o’r eitem y tu allan i’r gymuned sy’n ei chynnig;
-
Cyfle i gysylltu ag eitemau eraill a oedd yn arfer bod yn anhysbys yn y rhestrau;
-
Amlygrwydd yr eitem ar gyfer unrhyw ymchwilwyr neu bartïon tebyg sydd â diddordeb.
Anfanteision
55. Os yw eitem sy’n cael ei chynnwys yn y rhestrau, nid yw’n golygu’n awtomatig bod unrhyw gyfrifoldeb neu rwymedigaeth gan unrhyw sefydliad, corff neu lywodraeth i gefnogi’r eitem honno’n uniongyrchol. Gall yr holl fanteision posibl uchod helpu i sicrhau hyfywedd yr eitem a gellid eu hystyried yn fath o ddiogelu ynddynt eu hunain, ond hefyd darparu ffocws i ddechrau’r sgwrs am gamau diogelu pellach. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod y drafodaeth am ddiogelu yn y dyfodol ar wahân i’r broses o lunio rhestr. Byddwn yn edrych ar y dulliau a’r prosesau posibl ar gyfer diogelu fel rhan o’r Confensiwn yn y canllawiau pan fyddwn yn agor y cais i gyflwyno eitemau.
56. Clywsom hefyd lawer o bwyntiau am oblygiadau ac anfanteision negyddol posibl cael eu cynnwys yn y rhestrau, a sut y gellid lliniaru’r rhain. Y rhai allweddol a nodwyd oedd gor-dwristiaeth neu dwristiaeth digroeso, camfanteisio’n fasnachol neu feddiannu diwylliannol ar eitem, yn ogystal â’r ffaith efallai na fydd rhai cymunedau am weld eu treftadaeth fyw yn cael ei brandio fel treftadaeth fyw “y DU”.
57. Rydym yn cydnabod y gall yr olaf o’r rhain fod yn destun pryder er gwaethaf ein sefyllfa. Yn dilyn UNESCO a gwledydd eraill, bydd y rhain yn rhestrau o unrhyw dreftadaeth fyw yn y DU, yn hytrach na bod o’r DU, gan gydnabod mudo a datblygiad diwylliant a threftadaeth fyw.
58. Rydym hefyd yn cydnabod y gall twristiaeth gynyddu o ganlyniad i godi ymwybyddiaeth o eitem a hyrwyddo gwybodaeth amdani. I rai, gall twristiaeth fod yn gyfle i gynyddu cyfranogiad a chynyddu cynulleidfaoedd a, thrwy wneud hynny, cynyddu ymwybyddiaeth, gwybodaeth neu incwm i gynnal yr eitem, yn ogystal â darparu manteision posibl i’r gymuned neu’r grŵp.
59. Ond roedd llawer o straeon am or-dwristiaeth – gormod o dwristiaid o’r tu allan i’r gymuned yn effeithio ar yr eitem neu’r arfer – yn enwedig ar gyfer defodau cyhoeddus mawr, digwyddiadau, gwyliau, ac ati.
60. Rydym yn cydnabod yr anfantais bosibl hon a byddem yn annog y rheini sydd â phryder cryf am y posibilrwydd o or-dwristiaeth o ganlyniad i gael eu cynnwys yn y rhestr i ystyried a yw manteision cael eu cynnwys yn y rhestrau yn drech na’r anfanteision. Yn yr un modd ag rydym yn datgan uchod nad yw cael eu cynnwys yn y rhestr yn darparu statws na sêl bendith penodol, nid yw peidio â chael eu cynnwys yn y rhestr yn dibrisio nac yn annilysu eitem o dreftadaeth fyw.
61. Rydym hefyd yn nodi rôl y rhestrau wrth annog arferion da yn y maes hwn, ac yn cynnwys cyfeiriad at dwristiaeth gynaliadwy yn y meini prawf isod.
62. Wrth symud ymlaen, gallai mwy o gysylltiadau yn y maes hwn a mwy o rannu gwybodaeth rhwng eitemau o dreftadaeth fyw yn y DU, neu gyda gwledydd eraill sydd wedi ymrwymo i’r Confensiwn hwn ac sydd wedi wynebu heriau tebyg, fod yn faes ffocws defnyddiol a gall fod yn rhan o’r drafodaeth barhaus ar ddiogelu.
Diffinio termau
63. Cafwyd cryn dipyn o drafodaeth fywiog am ddiffiniadau yn ystod yr ymgynghoriad, yn enwedig yn y trafodaethau bwrdd crwn. Felly, hoffem egluro ein safbwynt ynghylch y diffiniadau o rai o’r prif gysyniadau.
64. Yn gyntaf, mae nifer o dermau, fel ‘treftadaeth’, ‘traddodiadol’, ‘cyfoes’ a ‘dilys’, sy’n cael eu defnyddio’n aml mewn perthynas â threftadaeth. Fodd bynnag, er bod dealltwriaeth gyffredin o bob term, roedd llawer o wahaniaeth barn wrth eu cymhwyso i dreftadaeth fyw. Yn benodol, rydym yn nodi bod termau fel ‘dilys’ wedi bod peri problemau pan fod aelodau’n eu defnyddio mewn trafodaethau yng nghyfarfodydd y Confensiwn.
65. Er enghraifft, os deellir bod ‘treftadaeth’ yn golygu’r hyn a etifeddwyd, sut y dylid diffinio’r hyn a etifeddwyd? O un genhedlaeth i’r llall, o fewn teulu, o fewn cymuned (boed yn gymuned leol, cymuned sy’n seiliedig ar le neu fathau eraill o gymuned); faint y gall esblygu neu newid a chael ei ystyried i fod wedi’i etifeddu o hyd; sawl gwaith y dylai gael ei etifeddu? Arweiniodd y cwestiynau hyn ac eraill at amrywiaeth o safbwyntiau, barn a sgyrsiau gwahanol.
66. Fel y nodwyd gennym yn y cyflwyniad, rydym yn croesawu’r sgyrsiau ynghylch y nodweddion hyn. Credwn ei bod yn bwysig ystyried y dreftadaeth fyw ledled y DU gyfan er mwyn cydnabod a dathlu’r gwahaniaethau, yn ogystal â’r tebygrwydd a’r gorgyffwrdd.
67. Rydym hefyd yn amharod i orfodi diffiniadau o dermau fel ‘treftadaeth’, ‘traddodiadol’ neu ‘gyfoes’ gan y byddai hyn yn digwydd o’r brig i lawr ac yn groes i ysbryd y Confensiwn. Nid ydym yn credu bod angen y diffiniadau hyn ar gyfer y broses o sefydlu’r rhestrau o dreftadaeth fyw. Byddai cael diffiniadau penodol ar gyfer termau, yn anochel yn golygu na fyddai dehongliadau neu ddealltwriaeth rhai cymunedau yn cyd-fynd â’i gilydd ac y gallent gael eu heithrio heb fod angen.
68. Rydym wedi ceisio gwneud y meini prawf ar gyfer cynnwys eitem yn y rhestrau yn rai mor niwtral â phosibl, er mwyn creu consensws a sefydlu dealltwriaeth gyffredin. Ni fyddwn felly’n defnyddio termau fel ‘traddodiadol’, ‘cyfoes’, ‘gwreiddiol’ na ‘threftadaeth’ wrth ddiffinio’r hyn sy’n dreftadaeth fyw a’r hyn nad yw’n dreftadaeth fyw, neu’r hyn y dylid ei gynnwys yn y rhestrau.
69. I fod yn glir, nid yw hyn yn awgrymu ein bod am annog pobl i beidio â defnyddio’r termau hyn, na’u hatal rhag eu defnyddio, a chydnabod y byddwn yn dal i ddefnyddio ‘treftadaeth’ wrth gyfeirio at ‘dreftadaeth fyw’ neu ‘dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol’. Ar gyfer y broses o sefydlu meini prawf ar gyfer y rhestr, rydym yn credu y bydd yn haws osgoi defnyddio’r termau hyn a’r angen i greu geirfa o dermau treftadaeth fyw.
Paramedrau treftadaeth fyw
Diffiniad
70. Mae erthyglau’r Confensiwn yn cynnwys y diffiniad canlynol:
Mae’r ‘treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol’ yn golygu’r arferion, sylwadau, mynegiant, gwybodaeth, sgiliau – yn ogystal â’r offerynnau, y gwrthrychau, yr arteffactau a’r gofodau diwylliannol sy’n gysylltiedig â hynny – y mae cymunedau, grwpiau ac, mewn rhai achosion, unigolion yn eu hadnabod fel rhan o’u treftadaeth ddiwylliannol. Mae’r dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol hon, sy’n cael ei throsglwyddo o un genhedlaeth i’r llall, yn cael ei hail-greu drwy’r amser gan gymunedau a grwpiau mewn ymateb i’w hamgylchedd, eu rhyngweithio â natur a’u hanes, ac mae’n rhoi ymdeimlad o hunaniaeth a pharhad iddynt, gan hyrwyddo parch at amrywiaeth ddiwylliannol a chreadigrwydd dynol.
71. Fodd bynnag, roedd y cwestiwn ynglŷn â ‘beth yw treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol?’ yn sail i lawer o’r ymatebion i gwestiynau’r meini prawf – e.e. ‘dylid fframio’r maen prawf penodol hwn mewn ffordd sy’n eithrio x, oherwydd nad ydym yn ystyried fod x yn dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol’.
72. O ran y diffiniad o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol neu dreftadaeth fyw, hoffem gydnabod bod diffiniad y Confensiwn yn eithaf hyblyg. Nid ydym yn ceisio tynhau’r diffiniad hwnnw, ond rydym yn ceisio egluro’r hyn a allai fod yn y rhestr. Mae’r rhesymau dros hyn yn deillio o’r ffaith nad oes bwriad i’r rhestr fod yn rhestr swyddogol neu gymeradwy o dreftadaeth fyw yn y DU ac mae hefyd yn cydnabod natur gymunedol treftadaeth fyw, yn hytrach na dull o’r brig i lawr. Ar gyfer gweithredu’r Confensiwn, credwn ei bod yn well cadw diffiniad llac yn hytrach na gosod ffiniau caeth oherwydd ein dull agored a chynhwysol. Unwaith eto, hoffem nodi nad yw dull mwy agored a chynhwysol yn arwydd o ddyfarniad o werth, ac mae’n dal i ganiatáu gwahaniaethau barn a safbwyntiau.
73. Fe wnaeth un ymateb penodol grynhoi hyn yn dda iawn:
…nid yw treftadaeth bwysig yn cael ei diffinio mewn ffordd gyfyngol / gall y cysyniad olygu gwahanol bethau i wahanol bobl / rydym yn parchu’r hyn y mae pobl yn teimlo y mae treftadaeth yn ei olygu iddynt a’r hyn y maent yn ei werthfawrogi o’r gorffennol y maent yn dymuno ei drosglwyddo ymlaen
74. Byddem yn pwysleisio ein bod yn ystyried bod ehangder ac amrywiaeth treftadaeth fyw y DU yn gryfder. Bydd gwahaniaeth barn, gwahanol bryderon, gwahanol fanteision, gwahanol anghenion, gwahanol gyfleoedd a gwahanol lefelau o ymgysylltu â’r Confensiwn. Rydym am groesawu a chynnwys y gwahaniaethau hyn yn y sgyrsiau am dreftadaeth fyw yn y DU.
75. Byddwn yn parhau i gyfeirio at destun y Confensiwn ar gyfer y diffiniad y cytunwyd arno o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol neu dreftadaeth fyw, gan gydnabod bod modd dehongli’r diffiniad (efallai’n fwriadol) mewn ffyrdd gwahanol.
Ymarfer
76. Hoffem hefyd ystyried y ffordd y gwnaethom ddisgrifio treftadaeth fyw yn nhestun yr Ymgynghoriad. Defnyddiom y gyfatebiaeth o ferf ac ‘ymarfer’ fel ffordd o wahaniaethu treftadaeth fyw oddi wrth y dreftadaeth ddiriaethol, adeiledig a sefydlog y mae gwell dealltwriaeth ohoni.
77. Er bod hyn yn dal yn ffordd ddefnyddiol o edrych ar dreftadaeth, rydym yn cydnabod bod hon yn farn or-syml ac yn ystyried bod y term ‘treftadaeth fyw’ yn fwy priodol.
78. Mae treftadaeth fyw’n cynnwys eitemau sy’n cael eu ‘hymarfer’ a rhai sy’n esblygu. Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, nad oes rhaid i rywbeth gael ei arfer er mwyn iddo fod yn fyw; mae’r wybodaeth am sut i wneud ymarfer a’r gwerthoedd sy’n gysylltiedig ag ef yr un mor bwysig.
79. Ar yr un pryd, byddem yn pwysleisio bod treftadaeth fyw yn rhywbeth sy’n bodoli i’r graddau y gellir ei throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth o ystyr a gwerth sy’n ffurfio treftadaeth fyw a gellir eu trosglwyddo o un person i’r llall. Ar yr un pryd, byddem yn pwysleisio bod angen i dreftadaeth fyw gael ei throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Felly, dyma’r elfennau y gellir eu trosglwyddo o un person i’r llall – e.e. y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth o ystyr a gwerth – sy’n ffurfio’r dreftadaeth fyw.
80. Er mwyn disgrifio sut mae eitem o dreftadaeth fyw’n cael ei ‘chyflawni’, ei ‘ddeddfu’, ei ‘throsglwyddo’ neu unrhyw ymadrodd tebyg, byddwn yn parhau i ddefnyddio ‘ymarfer’ ond pan fyddwn yn defnyddio hyn, ymhlyg yn hynny rydym yn cynnwys yr wybodaeth a’r gwerthoedd (neu ‘wybodaeth ymarferol’) sy’n gysylltiedig â’r eitem.
81. Yn yr un modd, byddwn hefyd yn defnyddio ‘ymarferydd’ ac ymhlyg yn hyn mae ffyrdd eraill o ddisgrifio’r gwaith o gyflawni treftadaeth fyw, fel gweithredu neu berfformio.
Treftadaeth ddiriaethol
82. Rydym yn cydnabod bod tynnu llinell rhwng treftadaeth diriaethol a threftadaeth fyw neu dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn or-syml ac, a fod perygl ei fod yn cyfyngu neu’n eithrio eitemau neu feysydd o dreftadaeth. Rydym yn cydnabod bod llawer o feysydd lle nad oes llinell glir rhwng y ddau.
83. Un enghraifft yw faint o fathau o dreftadaeth fyw sy’n cynhyrchu eitemau neu arteffactau diriaethol neu sydd angen offer, offerynnau ac ati i’w cynhyrchu. Yn yr un modd, mae gan lawer o safleoedd treftadaeth ddiriaethol arferion treftadaeth fyw unigryw a chysylltiedig. Mae rôl treftadaeth ddiriaethol yn amlwg yn rhan hanfodol o dreftadaeth fyw ac rydym yn llwyr gydnabod hyn a’r rôl y gall sefydliadau fel amgueddfeydd ei chwarae wrth gwmpasu sbectrwm gyfan treftadaeth. Mae’r meini prawf isod yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth rhwng treftadaeth fyw a gwrthrychau a chynnyrch.
84. Rydym hefyd yn cydnabod yr ymatebion sy’n ymwneud ag elfen gymunedol treftadaeth ddiriaethol a’r cysylltiadau agos, yr atgofion, y cysylltiadau a’r wybodaeth gysylltiedig. Fel y nodwyd yn ystod trafodaeth bwrdd crwn – ‘cafodd pob treftadaeth ddiriaethol ei chreu (ac mae’n dal i gael ei chreu) gan ddefnyddio treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol’ – ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned a gwerth treftadaeth ddiwylliannol ddiriaethol ac anniriaethol (treftadaeth fyw).
85. Yn fwy cyffredinol, rydym yn cydnabod bod treftadaeth yn y DU yn cwmpasu amrywiaeth eang o elfennau a meysydd gyda llawer o orgyffwrdd, cysylltiadau ac yn aml dim ffiniau na gwahaniaethau clir rhyngddynt.
86. Wrth symud ymlaen, nid ydym yn dymuno ceisio cael diffiniad o dreftadaeth ddiriaethol, fwy nag ydym am gael diffiniad cynhwysfawr o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol (treftadaeth fyw). Byddwn yn ceisio osgoi hollt ffug rhwng treftadaeth ddiriaethol ac anniriaethol wrth siarad am dreftadaeth fyw ac eitemau i’w cynnwys yn y rhestrau.
Treftadaeth ehangach
87. Cafwyd nifer o gwestiynau neu sylwadau yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad am ddehongliadau ehangach neu brofiadau personol o dreftadaeth. Er enghraifft: teimlad neu brofiad o le o safbwynt diwylliant neu dreftadaeth (sydd hefyd yn cael ei ddisgrifio fel ‘ysbryd lle’), gweithgaredd neu ddigwyddiad; lleoliad adeilad neu le hanesyddol; bod mewn cynulleidfa; y weithred o ymweld â safle treftadaeth; arogleuon neu dreftadaeth arogleyol; atgofion sy’n gysylltiedig â gwrthrychau; nodweddion naturiol sydd ar hyn o bryd y tu allan i ddynodidau treftadaeth adeiledig a naturiol presennol; treftadaeth naturiol – pwysigrwydd bridiau brodorol i’n hunaniaeth / diwylliant; hanes gwleidyddiaeth a pherchnogaeth tir; a phensaernïaeth a thirluniau cynhenid.
88. Rydym yn cydnabod bod pob un o’r rhain yn bodoli o dan ddealltwriaeth eang o ‘dreftadaeth’ ac y gallent fod y tu allan i ddiffiniadau traddodiadol o dreftadaeth neu gael eu cynrychioli’n llai mewn ymgysylltiad â threftadaeth gyfredol. Gallant hefyd fod ag elfen anniriaethol neu fod o natur anniriaethol.
89. Fodd bynnag, nid yw’n fwriad i’r Confensiwn i gwmpasu pob math o dreftadaeth, ac mae’n canolbwyntio’n benodol, ac mae trosglwyddo’n bwynt allweddol ar gyfer ystyried diogelu treftadaeth fyw. Wrth weithredu’r Confensiwn, rydym yn bwriadu aros o fewn paramedrau diffiniad y Confensiwn o dreftadaeth fyw a chanolbwyntio’n unig ar dreftadaeth fyw y gellir ei hymarfer, ei phasio ymlaen neu ei ‘throsglwyddo’. Credwn fod y gwahaniaeth allweddol hwn yn golygu na fyddai’r enghreifftiau uchod o brofiadau neu deimladau sy’n gysylltiedig â lleoedd, ac ati, yn cael eu cynnwys. Nodwn hefyd y byddai llawer o’r enghreifftiau hyn yn dal i fod yn gysylltiedig ag eitemau o dreftadaeth fyw y byddem yn disgwyl iddynt gael eu cynnwys yn y rhestrau – e.e. yr arferion, y sgiliau a’r wybodaeth i adeiladu pensaernïaeth a gweithio gyda natur ac ati. Pan fyddwn yn gwneud cais i bobl gyflwyno eitemau i fod ar y rhestrau, byddwn yn cynnwys canllawiau clir ar y meysydd hyn.
90. Nid yw hyn yn lleihau nac yn tanseilio gwerth a phwysigrwydd penodol yr enghreifftiau uchod, ac nid ydym ychwaith am ddweud nad oes yr un o’r rhain yn rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol. Fel uchod, nid ydym yn ceisio cynhyrchu un diffiniad cynhwysfawr o dreftadaeth fyw, ond ein nod yw cytuno ar y meini prawf ar gyfer yr hyn sydd o fewn y cwmpas o ran rhoi’r Confensiwn ar waith.
91. Rydym yn cydnabod nad dyma fydd yr ateb y bydd y rheini sy’n awgrymu’r enghreifftiau uchod yn gobeithio amdano, gan eu bod yn teimlo y dylid cael cynrychiolaeth well o’r meysydd hyn mewn ymgysylltu â threftadaeth ar hyn o bryd ac yn gweld y Confensiwn fel ffordd o wneud hyn.
92. Rydym yn cydnabod y dadleuon hyn ac yn gobeithio y gallai’r sgwrs gynyddol am dreftadaeth fyw hefyd arwain at ragor o sgyrsiau am feysydd treftadaeth eraill y mae pobl yn teimlo sy’n cael eu hanwybyddu.
Iaith
93. Cafwyd llawer o ymatebion i gefnogi cynnwys iaith yn y broses rhestr o dreftadaeth fyw. Rydym yn cytuno bod iaith yn rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol, ond rydym yn ystyried bod cynnwys iaith ynddi’i hun yn rhywbeth sydd y tu allan i gwmpas y rhestrau.
94. Mae cwmpas yr hyn y gellid ei ystyried yn dreftadaeth fyw eisoes yn eang iawn, gan gynnwys grwpiau confensiynol o dreftadaeth, y celfyddydau, diwylliant, diwydiannau creadigol, cymunedau a’r campau. Amlinellwyd rhai meysydd o dreftadaeth rydym yn ystyried eu bod y tu allan i gwmpas y rhestrau a’n hymagwedd at y Confensiwn uchod. Yn yr un modd, fel yr amlinellwn yn ein hymateb i Gwestiwn 1d isod, rydym yn canolbwyntio ar yr ymarfer a’r wybodaeth ymarferol yn hytrach na’r cynnyrch neu’r offer a ddefnyddir i gyflawni’r dreftadaeth fyw.
95. Bydd ein dull gweithredu yn dilyn safbwynt y Confensiwn Traddodiadau a mynegiant llafar:
Er bod iaith yn sail i dreftadaeth anniriaethol llawer o gymunedau, mae diogelu a gwarchod ieithoedd unigol y tu hwnt i gwmpas Confensiwn 2003, er eu bod wedi’u cynnwys yn Erthygl 2 fel ffordd o drosglwyddo treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol. Mae gwahanol ieithoedd yn siapio sut mae straeon, cerddi a chaneuon yn cael eu hadrodd, a hefyd yn effeithio ar eu cynnwys. Mae’n anochel y bydd tranc iaith yn arwain at golli traddodiadau a mynegiant llafar am byth. Fodd bynnag, y mynegiant llafar hwn ynddo’i hun a’r ffordd y caiff ei berfformio’n gyhoeddus sy’n helpu orau i ddiogelu iaith yn hytrach na geiriaduron, gramadeg a chronfeydd data. Mae ieithoedd yn byw mewn caneuon a straeon, damhegion a rhigymau ac felly mae cysylltiad agos iawn rhwng diogelu ieithoedd a throsglwyddo traddodiadau ac ymadroddion llafar.
96. Mae iaith yn gyfrwng ar gyfer sawl math o dreftadaeth fyw (gweler Erthygl 2,2). Bydden yn rhoi croeso mawr i gynigion am dreftadaeth fyw a fynegir mewn unrhyw iaith, amrywiaeth o ieithoedd, neu dafodiaith, neu gyfuniad o’r rhain. Rydym yn rhagweld y bydd yr ieithoedd a ddefnyddir yn cynnwys Saesneg, ieithoedd brodorol, ieithoedd lleol a/neu ieithoedd lleiafrifol y DU, ac ieithoedd perthnasol eraill, gan gynnwys ieithoedd cymunedol a ddaeth i’r DU yn sgil mudo. Er enghraifft, caiff treftadaeth ddiwydiannol glowyr neu weithwyr les, ei fynegi’n rhannol, yn yr eirfa y maent yn ei defnyddio i siarad am eu gwaith. Gallai rhigymau a gemau plant gynnwys cymysgedd o Saesneg safonol, tafodieithoedd lleol, ac ieithoedd mudol eraill a siaredir gan blant.
97. Nid yw cynnwys enghraifft o dreftadaeth fyw yn y rhestrau’n golygu bod yr iaith y mynegir yr elfen dan sylw ynddi yn cael ei diogelu gan y Confensiwn. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn cynnwys iaith, tafodiaith neu lecsicon penodol fel eitem o dreftadaeth fyw yn y rhestrau. Mae’r iaith ei hun yn cael ei diogelu mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, mae ymrwymiad y DU i Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop yn cynnwys ieithoedd lleiafrifol sy’n cael eu cydnabod yn ffurfiol fel Sgoteg Ulster, Cernyweg a Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol ochr yn ochr â’r Saesneg yng Nghymru, fel y mae’r Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon a Gaeleg yn yr Alban, lle mae polisi iaith hefyd yn cefnogi Sgoteg.
98. Nodwn fod iaith yn aml yn rhan sylfaenol o drosglwyddo treftadaeth fyw o un genhedlaeth i’r llall, ac felly’n cydnabod pwysigrwydd iaith fel rhan hanfodol o’r dull diogelu.
99. Byddwn yn annog cyflwyno eitemau o dreftadaeth fyw mewn ieithoedd ar wahân i Saesneg i’w cynnwys yn y rhestrau. I’r graddau hyn, rydym wedi ystyried yn ofalus y defnydd o wahanol ieithoedd yn holl gamau’r broses o lunio rhestr, a byddwn yn ceisio gwneud y broses gyfan mor hygyrch â phosibl ar gyfer nifer o ieithoedd lleiafrifol ac ieithoedd heb law am y Saesneg. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth ac arweiniad pan fyddwn yn gwneud cais i bobl gyflwyno eitemau yn nes ymlaen eleni.
Crefydd
100. Nodwn hefyd, fel yr eglura UNESCO Cwestiynau Cyffredin;
…ni ellir enwebu crefyddau cyfundrefnol yn benodol fel elfennau i’w cynnwys, er bod agweddau ysbrydol i lawer o dreftadaeth anniriaethol.
101. Rydym yn bwriadu dilyn y dull hwn o roi’r Confensiwn ar waith, gyda chrefyddau cyfundrefnol a systemau cred fel y cyfryw y tu allan i gwmpas y rhestrau yn y DU.
102. Unwaith eto, rydym yn cydnabod bod llawer yn ystyried y rhain yn rhannau hanfodol o’u treftadaeth ddiwylliannol, ac nid ydym yn dymuno anghytuno â hynny. Ond o fewn paramedrau rhoi’r Confensiwn hwn ar waith, gyda golwg ar sefydlu’r rhestrau er mwyn cefnogi trafodaeth am ddiogelu, byddwn yn glynu wrth safbwynt y Confensiwn ac ni fyddwn yn derbyn cyflwyniadau ar gyfer crefyddau cyfundrefnol a systemau cred yn unig.
103. Fodd bynnag, byddwn yn croesawu arferion sy’n ymwneud â chrefyddau a chredoau trefnedig lle’u bod yn bodloni’r meini prawf. Rydym hefyd yn nodi bod llawer o dreftadaeth fyw yn ymwneud â’r gwerthoedd ysbrydol neu ynghlwm yn gynhenid â nhw, ac rydym hefyd yn croesawu gwybodaeth am y cyd-destun hanesyddol fel rhan o gyflwyno unrhyw dreftadaeth fyw i’r rhestrau.
Eiddo deallusol
104. Mae eiddo deallusol a hawliau diwylliannol mewn perthynas â threftadaeth ddiwylliannol anniriaethol neu dreftadaeth fyw yn faes cymhleth sydd wedi bod yn destun cryn drafod a dadlau. Fodd bynnag, nid yw’r modd rydym wedi rhoi’r Confensiwn ar waith, gan gynnwys y broses o sefydlu rhestrau, yn effeithio ar safbwynt presennol y DU ynghylch Eiddo Deallusol a hawliau diwylliannol.
105. Mewn perthynas â phroses y rhestr, mae Eiddo Deallusol y tu allan i gwmpas y rhestr, sy’n golygu nad yw cynnwys eitem yn y rhestr yn darparu unrhyw amddiffyniad Eiddo Deallusol ar gyfer eitem honno.
106. Rydym yn cydnabod y gall defnyddio Eiddo Deallusol fod yn dechneg ar gyfer diogelu treftadaeth fyw o ran gwneud yr arfer o dreftadaeth fyw yn gynaliadwy yn ariannol, ond mae’r dreftadaeth fyw ei hun yn parhau i fod y tu allan i gwmpas eiddo deallusol.
107. Cafodd y pwnc hwn ei drafod mewn llawer o’r trafodaethau bwrdd crwn, gyda rhanddeiliaid yn mynegi pryder y gallai natur gyhoeddus y rhestrau, a allai fod â phroffil uchel, gynyddu’r risg o gamfanteisio neu feddiannu creadigaethau cysylltiedig treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol yn y rhestrau heb ganiatâd cymunedol.
108. Ein barn ni yw y gall proffil a gwelededd y rhestrau gadarnhau’r cysylltiadau rhwng cymunedau a’u treftadaeth fyw, a gall hyn gefnogi cymunedau, grwpiau ac unigolion cysylltiedig i ddiogelu eu treftadaeth fyw.
109. Byddwn yn sicrhau bod rhan o’r sgwrs sydd i ddod am ddiogelu yn cynnwys trafod materion sy’n ymwneud â chamfanteisio masnachol, neu feddiannu diwylliannol o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol heb gydsyniad cymunedol.
Sgil
110. Y pwynt olaf i ymateb iddo yn yr adran hon yw’r mater o sgiliau. Roedd hwn yn faes arall lle cafwyd barn gref, yn enwedig o ran treftadaeth fyw yn ymwneud â chrefft, gyda chyfeiriadau’n cael eu gwneud at ymarferwyr yn dangos bod angen sgiliau neu arbenigedd.
111. Cydnabyddwn fod angen sgiliau i gyflawni llawer o grefftau neu dreftadaeth fyw a bod trosglwyddo’r sgiliau hyn yn elfen bwysig o ddiogelu.
112. Er ein bod wedi cydnabod gwerth sefydlu’r rhestrau a manteision cynnwys eitemau arnynt, rydym wedi nodi nad y bwriad wrth gynnwys eitemau yn y rhestrau yw cydnabod eu pwysigrwydd cymharol. Yn yr un modd, nid yw’n fwriad gennym fod cynnwys eitem yn arwydd o gydnabyddiaeth o ansawdd neu arbenigedd y dreftadaeth fyw.
113. Fel y nododd un ymateb: ‘Mae gwahaniaeth mawr rhwng crefft uchel a chrefft bob dydd ac mae gwahanol anghenion cymorth ar gyfer y ddau.’ Mae hon yn ystyriaeth ddefnyddiol a gall gyfeirio at wahanol fathau o dreftadaeth fyw sy’n ymwneud â chrefftau. Ond dylai’r gwahaniaethau rhwng unrhyw fathau o dreftadaeth fyw ymwneud â’r ymarfer ac nid rhwng meistr ac ymarferydd amatur neu ymarferydd amser sbâr. Ar ben hynny, rydym yn cytuno y gall anghenion cymorth amrywio o un gymuned o ymarferwyr i’r llall, ond rydym yn nodi y bydd hyn yn rhan o’r drafodaeth o safbwynt ddiogelu yn hytrach na mater i’w drafod yn y cam llunio rhestrau.
114. Ein safbwynt ni yw bod croeso i unrhyw eitem o dreftadaeth fyw a gyflwynir i’r rhestrau gyfeirio at sgiliau neu arbenigedd ymarferwyr, ac os yw’n briodol, cyfeirio at wahanol lefelau o gymhwysedd. Fodd bynnag, rydym yn mabwysiadu dull cynhwysol ac ni fyddwn yn eithrio unrhyw gymuned ar sail lefel sgiliau nac ansawdd yr eitem o dreftadaeth fyw. Mae hyn yn debyg i Grefftau Treftadaeth, sy’n siarad am y gwahanol fathau o ymarfer, o ddiddordebau achlysurol, i ymarfer amatur difrifol, i fusnesau masnachol, sydd eu hangen i gynnal yr ecosystem yn ei chyfanrwydd ac i gynnal y genhedlaeth nesaf o ymarferwyr. Rydym yn edrych ar faterion yn ymwneud â masnacheiddio ymhellach yn nes ymlaen.
Meini prawf
115. Mae’r meini prawf ar gyfer cynnwys eitemau yn y rhestrau wedi’u cynllunio i fod mor wrthrychol neu niwtral â phosibl. Mae hyn er mwyn darparu set o egwyddorion sefydliadol a pharamedrau clir i’w cynnwys yn y rhestrau, er mwyn cael dealltwriaeth glir o ba fath o dreftadaeth fyw y gellir ei gynnwys.
116. Drwy’r drafodaeth a’r sylwadau, roedd hi’n amlwg bod gan rai rhanddeiliaid safbwyntiau penodol am safonau neu ddulliau gweithredu y dylai meysydd sy’n cynnwys parch at natur, cynaliadwyedd a diogelwch eu bodloni. Roedd y meysydd hyn yn fwy goddrychol ac nid oedd rhanddeiliaid a chymunedau ehangach bob amser yn gallu dod i gytundeb na chonsensws llawn yn eu cylch. Serch hynny, rydym yn cydnabod y gall y rhain fod yn ddefnyddiol i’w nodi ac rydym yn credu mai’r meysydd rydym wedi’u nodi yw’r rhai y dylai ymarferwyr eu hystyried.
117. Rydym wedi galw’r rhain yn god moeseg. Ni fydd y cod moeseg yn rhan o’r meini prawf i’w cynnwys yn y rhestr. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran isod yn dilyn yr adran meini prawf.
118. Bydd y meini prawf yn parhau i fod yn ganllaw i’r hyn y bydd angen i eitem o dreftadaeth fyw ei dangos er mwyn cael ei chynnwys yn y rhestrau a rôl y paneli cynigion fydd gwirio a yw eitem yn bodloni’r meini prawf. Yn yr adrannau isod rydym yn nodi ein hymatebion i’r meini prawf a gynigiwyd yn yr ymgynghoriad, yn ogystal ag amlinellu tri maen prawf ychwanegol a fydd yn cael eu defnyddio.
Cwestiwn 1a
Meini prawf arfaethedig
Rhaid iddo gael ei ymarfer ar hyn o bryd.
Ymatebion i’r arolwg: 78.2% yn cytuno, 6.4% yn niwtral, 14.5% yn anghytuno
119. Cawsom nifer o gwestiynau yn y trafodaethau bwrdd crwn a’r ymatebion i’r ymgynghoriad am dreftadaeth fyw sydd ar fin diflannu neu sydd wedi cael ei hadfer yn ddiweddar, gyda galwadau mawr am ddiffiniad ehangach, mwy cynhwysol.
120. Yn yr un modd ac nad yw’n fwriad i’r rhestr fod yn archif neu gofnod hanesyddol, nid ydym yn credu bod cynnwys treftadaeth fyw nad yw’n cael ei throsglwyddo mwyach yn cyd-fynd â’r syniad o dreftadaeth ‘fyw’ na’r diffiniad o ddiogelu fel ‘sicrhau hyfywedd’ Erthygl 2.3.
121. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad oes rhaid i rywbeth gael ei arfer yn ymarferol er mwyn iddo fod yn fyw; mae’r wybodaeth am sut i wneud rhywbeth a’r gwerthoedd sy’n gysylltiedig â’r arfer yr un mor bwysig.
122. Rydym hefyd yn cydnabod rôl archifau a phethau tebyg wrth gofnodi treftadaeth fyw a’r ffordd y gall y cofnodion hyn gefnogi ymdrechion i ddiogelu, ond yn nodi nad bwriad y rhestrau yw bod yn archifau a’u bod yn gallu eistedd ochr yn ochr â’r adnoddau presennol a chyfeirio atynt.
123. Rydym hefyd yn cydnabod, ar gyfer llawer o hanesion llafar, yn enwedig straeon, bod y stori ei hun yn elfen bwysig o’r dreftadaeth fyw. Fodd bynnag, bwriad y rhestrau yw nodi treftadaeth fyw straeon a thraddodiadau llafar sy’n dal i gael eu hadrodd, yn hytrach na bod yn rhestr neu’n ystorfa o straeon hanesyddol.
124. Nid ein bwriad yw defnyddio’r Confensiwn i adfywio treftadaeth fyw hanesyddol, hyd yn oed os yw gwybodaeth am y dreftadaeth fyw honno’n cael ei chadw mewn dogfennau hanesyddol. Ond pe bai eitem o dreftadaeth fyw wedi marw ac wedi cael ei hadfywio, ni fyddai hynny’n rhwystr i’w chynnwys yn y rhestrau.
125. Ni fyddwn yn pennu isafswm nac uchafswm o ran nifer y bobl sy’n ymarfer neu sydd â’r wybodaeth i ymarfer yr eitem o dreftadaeth fyw. Mae’n debygol bod mwy o angen diogelu’r rheini sydd â llai o ymarferwyr, ond nid yw eu bod dan fygythiad yn faen prawf i’w cynnwys yn y rhestrau. Fodd bynnag, gan ein bod yn edrych ar sefydlu’r rhestrau fel cam tuag at y sgwrs am ddiogelu, byddwn yn croesawu gwybodaeth ar y rhestr ynglŷn â hyfywedd yr eitem ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Bydd rhagor o wybodaeth a thrafodaeth am ddiogelu yn dilyn mewn canllawiau yn y dyfodol.
126. Ar y sail bod cefnogaeth aruthrol i’r ymatebion i’r arolwg ar-lein a’r esboniadau a nodir uchod, ni fyddwn yn newid y meini prawf, ond byddwn yn gofyn am ragor o fanylion am hyfywedd yr eitem.
Meini prawf y cytunwyd arnynt
Rhaid iddo gael ei ymarfer ar hyn o bryd
Er mwyn cael ei ystyried ar gyfer y rhestr, rhaid i’r eitem fod â chymuned fyw sy’n meddu ar wybodaeth neu ddealltwriaeth am yr eitem sydd i’w chyflawni, ac sy’n gallu trosglwyddo’r eitem i genedlaethau’r dyfodol.
Dylai cyflwyniadau ddarparu gwybodaeth am hyfywedd yr eitem ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a dylent nodi a yw’r gymuned sy’n cyflwyno’r eitem yn ystyried ei bod dan fygythiad, e.e. bod perygl iddi farw allan heb newid sylweddol yn y lefel drosglwyddo bresennol.
Cwestiwn 1b
Meini prawf arfaethedig
Gall fod o unrhyw gyfnod.
Ymatebion i’r arolwg: 88.2% yn cytuno, 4.7% yn niwtral, 5.2% yn anghytuno
127. Roedd hwn yn un o’r meysydd mwyaf dadleuol yn y trafodaethau bwrdd crwn, gyda rhai’n cefnogi diffiniad hŷn, hanesyddol ac eraill yn cefnogi dull mwy cyfoes. Codwyd nifer o bwyntiau hefyd ynghylch beth oedd ‘unrhyw bryd’ yn ei olygu.
128. Rydym yn cydnabod mai’r diffiniad sylfaenol o ‘dreftadaeth’ yw rhywbeth sy’n cael ei etifeddu, a fyddai’n golygu y byddai angen i’r eitem gael ei throsglwyddo gan genedlaethau blaenorol, a deellir bod hyn yn aml (ond nid bob amser) yn golygu ei fod yn digwydd o fewn teulu yn bennaf.
129. Rydym hefyd yn cydnabod yr ystyrir fel arfer, mewn perthynas â’r Confensiwn, y dylai eitem o dreftadaeth fyw fod wedi cael ei phasio 3-4 gwaith, er nad yw hon yn rheol glir nac yn faen prawf y cytunwyd arno.
130. Fodd bynnag, yn y trafodaethau bwrdd crwn a’r ymatebion i’r arolwg, nid oedd consensws clir ynghylch y rhesymeg na’r cyfiawnhad dros osod oedran penodol na nifer penodol o weithiau yr oedd angen i eitem gael ei throsglwyddo, na dealltwriaeth glir o sut i ddiffinio sut mae trosglwyddo rhywbeth, boed hynny o un genhedlaeth i’r nesaf yn unig, neu a fyddai rhwng gwahanol fathau o gymunedau neu gymunedau mewn gwahanol leoliadau’n cyfrif fel rhywbeth sy’n cael ei throsglwyddo.
131. Nodwyd hefyd nad oes unrhyw dreftadaeth fyw yn dechrau mewn gwagle a bod gan bob eitem wreiddiau mewn treftadaeth fyw arall ac wedi’i dylanwadu ganddynt. Yn yr ystyr hwn, gellid dweud bod pob treftadaeth fyw wedi esblygu o’r dreftadaeth fyw a’i rhagflaenodd.
132. Yn yr un modd, rhoddwyd enghreifftiau o arferion sy’n cael eu hystyried yn rhai traddodiadol sydd wedi codi o fewn cof byw, fel Gwisg Ffansi Gŵyl San Steffan yn Wigan. Nodwyd hefyd, oherwydd ei natur, bod ‘pob ymarfer yn gyfoes’, ac y ‘gellir defnyddio sgiliau hyfforddi mewn ymarfer cyfoes iawn ac i’r gwrthwyneb.’
133. Rydym hefyd yn nodi, fel yr eglurwyd mewn adrannau blaenorol, nad bwriad drwy roi’r Confensiwn ar waith yw darparu diffiniad penodol o dermau fel traddodiadol neu dreftadaeth ac mai ein hegwyddorion yw mabwysiadu dull agored, cynhwysol a chynrychioladol, o fewn paramedrau’r hyn sy’n ymarferol ei gynnwys yn ein barn ni.
134. Felly, rydym yn cydnabod y bydd maen prawf agored ar oedran yn arwain at gymysgedd o dreftadaeth fyw hen iawn a threftadaeth fyw llawer mwy newydd yn y rhestrau. Rydym yn ystyried bod hyn yn gadarnhaol ar gyfer y rhestrau, gan ddangos amrywiaeth gyfoethog y dreftadaeth fyw yn y DU.
135. Fodd bynnag, fel yr amlinellwyd yn gynharach hefyd, rydym yn nodi mai pwrpas y rhestrau yw nodi’r ystod ehangaf o dreftadaeth fyw yn y DU, heb roi barn ar gwestiynau ynghylch pwysigrwydd a gwerth. Rydym yn cydnabod bod angen ystyried agweddau fel arwyddocâd a gwerth mewn sgyrsiau ynghylch diogelu, wrth ystyried beth sy’n cael ei ddiogelu, sut, a chan bwy, a bod oedran cymharol yr eitem yn debygol o fod yn ffactor.
136. Byddem hefyd yn disgwyl y dylai unrhyw eitem o dreftadaeth fyw sy’n fwy diweddar neu sydd wedi cael ei hymarfer am gyfnod byrrach ddangos bod disgwyliad iddi barhau a chael ei throsglwyddo. I’r graddau hyn, byddwn yn gofyn am wybodaeth yn y cyflwyniad am ba mor hir mae’r eitem wedi cael ei hymarfer a sut y disgwylir iddi gael ei throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.
137. Ar y sail bod canlyniadau’r arolwg yn cefnogi’r sefyllfa hon, lle’r oedd y meini prawf ‘unrhyw bryd’ arfaethedig yn cael canran uwch o gefnogaeth na’r 3 maen prawf arfaethedig arall, sef 88.2%, byddwn yn cadw’r meini prawf hyn.
138. Fodd bynnag, gan nodi’r ychydig ddryswch oedd yna gyda’r term ‘unrhyw bryd’, byddwn yn gwneud y geiriad yn gliriach ac yn cyfeirio at hyd y cyfnod y mae’r eitem wedi cael ei hymarfer.
139. Hefyd, gan nodi nad yw hwn yn faen prawf yn union, ond i bob pwrpas yn rhywbeth ‘nad yw’n faen prawf’, byddwn yn cyfuno hwn â’r pethau eraill ‘nad ydyn yn feini prawf’ isod.
Cwestiwn 1c
Meini prawf arfaethedig
Gall ddeillio o unrhyw le.
Ymatebion i’r arolwg: 83.7% yn cytuno, 7.7% yn niwtral, 7.2% yn anghytuno
140. Rydym eisiau dathlu amrywiaeth y DU: o’r dreftadaeth fyw sydd wedi bodoli mewn gwahanol ffurfiau ers cannoedd o flynyddoedd i’r hyn sydd wedi dod i’r amlwg yn fwy diweddar yn y DU.
141. Fel rydym wedi’i nodi yn y meini prawf uchod, mae symudiad pobl a syniadau yn aml yn dylanwadu ar dreftadaeth fyw ac yn effeithio arni. Gall y rhain fod yn y DU neu o wledydd eraill.
142. Er y codwyd pryderon ynghylch yr hyn a allai fod yn dreftadaeth byw unigryw neu hanesyddol yn y DU, rydym yn cyfeirio eto at rôl y rhestrau fel dull o gyfri stoc er mwyn llywio trafodaethau ynghylch diogelu yn y dyfodol am yr hyn rydym ni, gyda’n gilydd, yn ei werthfawrogi a’i ddiogelu, yn hytrach na rhoi unrhyw farn am werth cymharol neu arwyddocâd yr hyn sy’n cael ei gynnwys.
143. Cafwyd nifer o drafodaethau a sylwadau yn ystod yr ymgynghoriad am gyfeddiant diwylliannol, lle mae cymuned arall yn mabwysiadu eitem o dreftadaeth fyw, yn enwedig pan gaiff ei mabwysiadu o ddiwylliant lleiafrifol mewn ffordd sy’n cael ei hystyried yn amharchus neu’n gamfanteisiol.
144. Ein barn, mewn perthynas â phroses y rhestr, yw bod Eiddo Deallusol y tu allan i gwmpas y rhestr, sy’n golygu nad yw cynnwys eitem yn y rhestr yn darparu unrhyw gydnabyddiaeth nac amddiffyniad Eiddo Deallusol ar gyfer eitem honno.
145. Ni fydd cynnwys eitem yn y rhestrau’n darparu unrhyw amddiffyniad ffurfiol yn erbyn meddiannu diwylliannol, ac fel y nodwyd uchod, rydym yn deall na fydd rhai cymunedau nad am weld eu heitem yn cael ei chynnwys mewn rhestrau cyhoeddus am y rheswm hwn ac am resymau eraill. Fodd bynnag, er nad yw ymwybyddiaeth ehangach o dreftadaeth fyw cymuned a hanes a tharddiad y dreftadaeth fyw honno drwy ei chynnwys yn y rhestrau yn atal meddiannu diwylliannol, gallai gefnogi’r gwaith o nodi ac ymdrechu i fynd i’r afael ag achosion lle mae’n digwydd. Gall proffil a gwelededd y rhestr hefyd gadarnhau’r cysylltiadau rhwng cymunedau a’u treftadaeth fyw, a gall hyn gefnogi cymunedau, grwpiau ac unigolion cysylltiedig i ddiogelu eu treftadaeth fyw.
146. Felly, rydym yn annog cymunedau i gynnwys gwybodaeth am darddiad neu esblygiad yr eitem, yn yr un modd ag y byddem yn disgwyl i gynigion ar gyfer y rhestrau gynnwys gwybodaeth am oedran a hanes yr eitemau, fel agwedd bwysig ar yr eitem honno o dreftadaeth fyw.
147. Byddwn hefyd yn ceisio cynnwys mater meddiannu diwylliannol mewn sgyrsiau diogelu yn y dyfodol.
148. Ar y sail bod y maen prawf hwn yn cael ei gefnogi’n dda yn yr ymatebion i’r arolwg ar-lein, byddwn yn ei gadw. Rydym hefyd wedi penderfynu ei gyfuno â’r meini prawf uchod, ac oherwydd y lefel uchel o ddiddordeb yn y meysydd hyn, rydym yn cynnwys y gofyniad bod y cyflwyniad yn darparu gwybodaeth am ble mae’r dreftadaeth fyw wedi tarddu, a phryd.
149. Rydym hefyd yn nodi awgrym, pan fyddwn yn cyfeirio at dreftadaeth fyw yn y DU sy’n tarddu o unrhyw le, ein bod yn nodi’n glir y gall hefyd ddeillio o unrhyw un. Roedd hyn yn ymhlyg yn ein geiriad ond rydym yn croesawu’r awgrym i nodi hyn yn glir ac atgyfnerthu natur gynhwysol treftadaeth fyw, a byddwn yn diwygio’r geiriad i adlewyrchu hyn.
Meini prawf y cytunwyd arnynt
Gall ddeillio o unrhyw le a bod o unrhyw gyfnod, ond rhaid iddo gynnwys gwybodaeth am ei hanes a’i drosglwyddiad yn y gymuned dan sylw.
Nid oes angen i’r eitem fod ag isafswm oedran neu fod wedi cael ei basio i lawr nifer gofynnol o weithiau a gall ddeillio o unrhyw le a gan unrhyw un
Cwestiwn 1d
Meini prawf arfaethedig
Rhaid iddo fod yn arfer byw ac ni all fod yn gynnyrch neu’n wrthrych perthnasol
Ymatebion i’r arolwg: 76.7% yn cytuno, 7.7% yn niwtral, 13.4% yn anghytuno
150. Roedd hwn yn faes arall a gafodd lawer o sylw a sylwadau yn yr ymgynghoriad. Yn gyntaf, dylem egluro nad bwriad y meini prawf hyn oedd lleihau na diystyru gwerth na phwysigrwydd y cynhyrchion a’r gwrthrychau sy’n ymwneud â threftadaeth fyw ac yn cael eu creu ohoni. Mewn sawl maes o dreftadaeth fyw, yn enwedig crefftau, mae’n hawdd iawn i adnabod a deall yr hyn sy’n cael ei greu gan y dreftadaeth fyw fel darn o ddiwylliant neu dreftadaeth, a gall fod gwerth neu bwysigrwydd sylweddol ynghlwm wrthynt.
151. Fodd bynnag, yn y ffordd rydym yn siarad am y rhestrau fel ffordd o gael y sgwrs am ddiogelu, y ffocws wrth roi’r Confensiwn ar waith yw sicrhau hyfywedd treftadaeth fyw yn y DU – y gellir trosglwyddo’r wybodaeth a’r sgiliau i’r cenedlaethau i ddod. Rydym yn cydnabod y gall fod yn bwysig bod offer, gwisgoedd, offerynnau ac ati hefyd yn cael eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol ac, er enghraifft, y gall gwrthrych crefft ddangos gwybodaeth a sgiliau’r crefftwr. Fodd bynnag, rydym yn edrych ar y rhestrau a’r trafodaethau ynghylch diogelu drwy ddechrau gyda’r ymarfer a’r wybodaeth a’r sgiliau i gyflawni’r dreftadaeth fyw.
152. Mae testun y Confensiwn yn cyfeirio at ‘yr offerynnau, y gwrthrychau, yr arteffactau a’r gofodau diwylliannol sy’n gysylltiedig â hynny’ a byddem yn sicr yn disgwyl cyfeiriad clir ar yr agweddau hyn mewn unrhyw gynigion perthnasol i gynnwys eitemau yn y rhestrau. Rydym hefyd yn disgwyl iddynt fod yn hanfodol i sgyrsiau am ddiogelu a hyfywedd. Ond mae’n bwysig nodi bod angen iddynt fod yn gysylltiedig â’r eitem o dreftadaeth fyw – nid ydym yn eu hystyried, ynddynt eu hunain, fel eitemau o dreftadaeth fyw a ddylai gael eu cofnodi yn y rhestrau.
153. Nod y meini prawf hyn yw pwysleisio bod yn rhaid i’r eitem o dreftadaeth fyw fod yn fyw – rhaid iddi fod yn ymarfer, mynegiant, gwybodaeth neu sgil – nid y cynnyrch, y deilliant, y greadigaeth na’r canlyniad.
154. Mae’r meini prawf hyn yn berthnasol i gynnyrch bwyd a diod. Y dreftadaeth fyw yw’r holl wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i greu math neu arddull o fwyd a diod, nid y cynnyrch terfynol.
155. Dau ychwanegiad diweddar at Restr Gynrychioladol y Confensiwn o Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol Dynoliaeth yw celfyddyd ‘Pizzaiuolo’ Naplaidd a gwybodaeth a diwylliant Artisan bara baguette. Y pwynt yw mai’r dreftadaeth fyw sy’n cael ei chydnabod – y grefft a’r wybodaeth a’r diwylliant, yn hytrach na’r cynnyrch ei hun (e.e. y pizza Naplaidd neu’r baguette).
156. O dan gynlluniau Dynodiad Daearyddol Llywodraeth y DU, gellir cofrestru a gwarchod enwau bwydydd, diodydd a chynnyrch amaethyddol sydd â chysylltiad daearyddol neu sy’n cael eu creu gan ddefnyddio dulliau traddodiadol. Fodd bynnag, dylid nodi mai enw’r cynnyrch ac nid yr ymarfer, y wybodaeth neu’r sgil sy’n cael eu gwarchod. Ni fyddem yn ystyried bod y cynhyrchion a restrir o dan y cynlluniau hyn yn gymwys ar gyfer y rhestrau treftadaeth fyw.
157. I grynhoi, gellir cysylltu amrywiaeth o wrthrychau neu gynhyrchion ag eitem o dreftadaeth fyw ac maent yn rhan hanfodol ac annatod o ymarfer y dreftadaeth honno neu ei mynegi naill ai drwy eu defnyddio neu drwy eu cynhyrchu.
158. Er y byddem yn croesawu cyfeiriad at yr elfennau cysylltiedig hyn mewn perthynas ag eitemau o dreftadaeth fyw, ni fyddwn yn cynnwys y rhain fel eitemau unigol o dreftadaeth fyw yn y rhestrau. Dim ond y dreftadaeth fyw ei hun y byddwn yn ei chynnwys – yr ymarfer, y mynegiant, yr wybodaeth neu’r sgil, y gellir eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.
Meini prawf y cytunwyd arnynt
Rhaid iddo fod yn arfer byw ynddo’i hun.
Dylai cynnig i’r rhestrau gynnwys gwybodaeth am elfennau cysylltiedig yr eitem lle bo hynny’n berthnasol, ond ni ddylai’r eitem o dreftadaeth fyw fod yn offer, offerynnau, gwisgoedd, deunyddiau cysylltiedig ac ati yn unig, nac y canlyniad, yr allbwn, y greadigaeth a’r cynnyrch yn unig.
Cwestiwn 2
Diwrnod
159. Roedd nifer o ymatebion i’r ymgynghoriad yn cyfeirio at bwysigrwydd hawliau dynol a pharch pobl at ei gilydd, gan nodi bod hyn yn amlwg yn nhestun y Confensiwn:
At ddibenion y Confensiwn hwn, rhoddir ystyriaeth yn unig i’r fath dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol sy’n gydnaws ag offerynnau hawliau dynol rhyngwladol presennol, yn ogystal â gofynion parch ar y cyd rhwng cymunedau, grwpiau ac unigolion, a datblygu cynaliadwy.
160. Rydym yn llwyr gefnogi pwysigrwydd sylfaenol hawliau dynol ac yn nodi bod testun y Confensiwn hefyd yn cyfeirio at offerynnau hawliau dynol penodol, y byddwn yn eu defnyddio fel sail wrthrychol ar gyfer y meini prawf:
Cyfeirio at offerynnau hawliau dynol rhyngwladol presennol, yn arbennig Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948, Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol 1966 a’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol 1966.
161. O fewn y meini prawf ar gyfer cynnwys eitem yn y rhestrau, byddwn yn defnyddio’r hawl amodol i ryddid mynegiant fel sail ar gyfer diffinio’r maes hwn, gan eithrio unrhyw eitem o dreftadaeth fyw yr ystyrir yn benodol nad yw’n parchu hawliau pobl eraill Deddf Hawliau Dynol, Erthygl 10
Meini prawf y cytunwyd arnynt
Rhaid iddynt fod yn gydnaws â’r safonau hawliau dynol presennol y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol.** Er enghraifft, gyda hawliau pobl eraill i beidio â chael eu gwahaniaethu yn eu herbyn ac i gael eu trin yn gyfartal, gyda phreifatrwydd, rhyddid meddwl a mynegiant, a chymryd rhan mewn bywyd cymdeithasol a diwylliannol.
Masnacheiddio
162. Roedd maes dadlau a thrafod arall yn ystod y trafodaethau bwrdd crwn, a gafodd lawer o ymatebion drwy’r arolwg, yn ymwneud â masnacheiddio.
163. Roedd teimlad cryf nad oedd mathau o ecsbloetio masnachol neu fasnacheiddio yn gydnaws â natur a sail gymunedol treftadaeth fyw.
164. Fodd bynnag, nid oedd tynnu llinell benodol rhwng treftadaeth fyw fasnachol ac anfasnachol yn wahaniaeth defnyddiol o ystyried bod llawer o ymarferwyr treftadaeth fyw yn gwneud bywoliaeth ohoni ac yn ceisio gwneud elw. Roedd cytundeb cyffredinol ar bwysigrwydd ystyried rhai mathau o dreftadaeth fyw fel proffesiwn a’r ymarferwyr fel gweithwyr proffesiynol a bod hyfywedd parhaus yr eitem yn dibynnu ar gynaliadwyedd ariannol neu fasnachol.
165. Wrth geisio tynnu’r llinell rhwng yr hyn a allai fod yn ffurfiau derbyniol o fasnacheiddio a’r rhai yr ystyrir eu bod yn ecsbloetiol ac yn annerbyniol, cafwyd trafodaethau hefyd am fwriad a pherchnogaeth. Er enghraifft, os yw bwriad neu nod yr ymarferydd (boed yn unigolyn neu fel sefydliad) yn cael ei arwain yn bennaf gan yr awydd i arddangos y dreftadaeth fyw, yn hytrach na chan nodau masnachol, a fyddai hynny’n ddigonol? Ac os mai sefydliad sy’n eiddo’n bennaf i’r gymuned neu’n cael ei reoli gan y gymuned sy’n ymarfer y dreftadaeth fyw, ydy hynny’n ffordd o ddiffinio ffin masnacheiddiwch derbyniol?
166. Awgrymwyd paragraff Datganiad Polisi. Amgylchedd Hanesyddol yr Alban ar Fudd Cymunedol fel dull gweithredu:
Rydym yn cydnabod bod Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol yn ymwneud yn bennaf â’r cymunedau a’r grwpiau sy’n ei greu, ei gynnal a’i drosglwyddo. Rydym wedi ymrwymo i rymuso a chryfhau cymunedau’r Alban i sicrhau’r manteision y gall Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol eu cynnig i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol, ac i gydweithio â chymunedau i’w helpu i ddeall a rhannu eu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol. Os bydd ein gwaith gyda chymunedau yn arwain at gyfleoedd i gynhyrchu incwm, byddwn yn sicrhau bod y cymunedau eu hunain yn elwa o hyn.
167. Rydym yn credu fod canolbwyntio ar y cymunedau sy’n fuddiolwyr yn crisialu’r cwestiynau o fwriad a pherchnogaeth yn dda a’i fod yn haws ei ddeall. Er y bydd amrywiaeth yng ngwahanol gyd-destunau masnachol ymarferwyr unigol a / neu o ran defnyddio offer a pheiriannau awtomataidd ar draws cymuned (e.e. bydd rhai crefftwyr yn fwy masnachol nag eraill a bydd rhai’n defnyddio mwy o beiriannau nag eraill), yn gyffredinol, mae bod o brif fudd masnachol i’r ymarferydd yn safbwynt defnyddiol.
168. Clywsom hefyd am faterion sy’n ymwneud â gor-dwristiaeth, yn enwedig ar gyfer gwyliau a digwyddiadau cyhoeddus mawr. Er bod llawer yn cydnabod effaith gadarnhaol twristiaeth o ran codi ymwybyddiaeth ehangach o’r dreftadaeth fyw a chynyddu cynaliadwyedd ariannol yr eitem, roedd pryderon y gallai gormod o dwristiaeth wanhau natur leol, gymunedol rhywfaint o’r dreftadaeth fyw a chreu problemau eraill i’r cymunedau lleol fel gorlenwi, tagfeydd, aflonyddwch ac ati.
169. Fodd bynnag, nodwn fod safbwyntiau gwahanol yn aml am dwristiaeth ymhlith cymunedau, sy’n ei gwneud yn anodd iawn dod o hyd i feini prawf gwrthrychol neu niwtral i sicrhau consensws. Felly, rydym yn cynnwys twristiaeth gynaliadwy fel rhan o’n cod moeseg.
170. O ran masnacheiddio, ein barn ni yw ei bod yn hanfodol bod yr ymarfer yn cael ei gyflawni er budd y gymuned a’r ymarferydd yn bennaf, ac y gellir pennu hyn yn wrthrychol. Felly, byddwn yn cynnwys maen prawf ychwanegol ar y pwynt hwn.
Meini prawf y cytunwyd arnynt
Rhaid i unrhyw fudd masnachol o’r eitem o dreftadaeth fyw fod er budd y gymuned yn bennaf.
Cymuned
Cwestiwn 3
Ydych chi’n cefnogi’r cysyniad o gynrychiolaeth gymunedol? Os na, pam ddim? Pa awgrymiadau sydd gennych ar gyfer cefnogi cymuned i gynnig eitem i’r Rhestr?
Ymatebion i’r arolwg: 91.3% yn cytuno, 5.9% yn niwtral, 2.8% yn anghytuno
171. Roedd cefnogaeth fawr, sylweddol i’r maes hwn mewn egwyddor ac roedd llawer o drafod a sylwadau ynghylch manylion a gweithredu cynrychiolaeth gymunedol.
172. Yn y bôn, rydym yn cydnabod mai’r gymuned sy’n nodi’r dreftadaeth fyw, ac mae’n rhaid mai’r gymuned sy’n ei chyflwyno i’r rhestrau:
…yr unig ffordd y gall treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol fod yn dreftadaeth yw drwy gael ei chydnabod felly gan y cymunedau, y grwpiau neu’r unigolion sy’n ei chreu, ei chynnal a’i throsglwyddo – heb eu cydnabyddiaeth, ni all neb arall benderfynu drostynt mai mynegiant neu arfer penodol yw eu treftadaeth hwy.
173. Yr hyn sy’n bwysig yw sut mae hyn yn cael ei ddeall, ei gyflawni a’i ddangos, yn ogystal â phrosesau i ddatrys problemau neu anghytundebau. Roedd llawer o gefnogaeth i’r Llywodraeth i sicrhau bod arweiniad a chefnogaeth glir i gymunedau ar y broses.
174. Rydym yn nodi rhai egwyddorion polisi allweddol isod, a byddwn yn darparu rhagor o arweiniad a gwybodaeth pan fyddwn yn gwneud cais i eitemau gael eu cynnig ar gyfer y rhestrau.
Diffiniad o gymuned
175. Nodwyd mewn ymateb i’r arolwg mai diffiniad UNESCO Y Sefydliad Ystadegau o ‘gymuned’ oedd:
Grŵp o bobl yn rhannu nodweddion neu ddiddordebau cyffredin. Gall cymuned fod naill ai’n grŵp o bobl ar sail ddaearyddol neu’n grŵp sydd â diddordebau cyffredin neu gyfansoddiad demograffig cyffredin ni waeth beth yw eu lleoliad ffisegol mewn gwlad.
176. Er bod hwn yn ddiffiniad gan Sefydliad Ystadegau UNESCO mewn perthynas â dosbarthiad, mae’n tanlinellu pwynt pwysig y gall cymuned fod yn un ddaearyddol, ond hefyd yn un sydd â buddiannau cyffredin. Gallai’r rhain fod yn seiliedig ar thema neu gred, neu’n seiliedig ar nodwedd bersonol neu grwpiau eraill. Byddwn yn cynnwys pob diffiniad o gymuned yn hyn o beth.
177. Ymhellach, mae’r Confensiwn yn cyfeirio at ‘Gymunedau, grwpiau ac unigolion’. Er nad oes diffiniad yn y Confensiwn, daeth cyfarfod arbenigol yn 2006 i’r casgliad bod hierarchaeth gynhenid rhwng y tri a rhoi’r diffiniad yma ohonynt:
Mae cymunedau’n rhwydweithiau o bobl sydd â’u hymdeimlad o hunaniaeth neu gysylltiad yn deillio o berthynas hanesyddol a rennir sydd wedi’i seilio ar yr arfer a throsglwyddo, neu ymgysylltu â, eu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol;
Mae grwpiau’n cynnwys pobl mewn cymunedau neu ar draws cymunedau sy’n rhannu nodweddion fel sgiliau, profiad a gwybodaeth arbennig, ac sydd felly’n cyflawni rolau penodol yn arfer, ail-greu a/neu drosglwyddo eu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol fel, er enghraifft, ceidwaid diwylliannol, ymarferwyr neu brentisiaid.
Unigolion yw’r rheini o fewn neu ar draws cymunedau sydd â sgiliau, gwybodaeth, profiad neu nodweddion penodol eraill, ac sydd felly’n cyflawni rolau penodol wrth arfer, ail-greu a/neu drosglwyddo eu treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol fel, er enghraifft, ceidwaid diwylliannol, ymarferwyr a, lle bo’n briodol, prentisiaid.
178. Byddwn yn defnyddio’r diffiniadau hyn. Pan fyddwn yn defnyddio’r term ‘cymunedau’ ar ei ben ei hun, mae’n cynnwys grwpiau ac unigolion yn benodol, a byddwn yn derbyn cynigion gan unrhyw un o’r tri (rhagor o wybodaeth isod o dan ‘Pwy sy’n Cynnig’) heb fynnu bod y sawl sy’n eu cynnig yn categoreiddio neu’n diffinio ei hun.
179. Cafwyd trafodaeth a sylwadau hefyd am ‘berchnogaeth’ ar dreftadaeth fyw. Nid yw’r diffiniad uchod o gymunedau’n cynnwys cyfeiriad at berchnogaeth ac rydym yn cytuno nad yw cyflwyno eitem i’r rhestr yn cyfleu ymdeimlad o berchnogaeth ar yr eitem honno. Rydym hefyd yn cydnabod bod y term ‘caniatâd’ yn awgrymu perchnogaeth ac yn cynnig defnyddio’r term ‘cydsyniad’ yn lle hynny.
Cynrychiolaeth / Cydsyniad
180. Ffordd gliriach o ddiffinio ‘cydsyniad’ gan gymuned yw ‘cydsyniad rhydd, ymlaen llaw ac ar sail gwybodaeth’.. Dyma ymadrodd a ddiffiniwyd gan y Cenhedloedd Unedig i’w ddefnyddio mewn perthynas â datblygu neu ddefnyddio adnoddau yn nhiriogaeth Pobl Frodorol ac mae’n golygu y dylai’r gymuned allu gwneud penderfyniad yn rhydd cyn y gweithgaredd a chyda digon o wybodaeth.
181. Mae hefyd yn golygu bod cydsyniad yn benderfyniad ar y cyd, e.e. drwy gonsensws neu sicrhau mwyafrif drwy brosesau arferol y gymuned o wneud penderfyniadau.
182. Byddwn yn defnyddio’r ymadrodd ‘cydsyniad rhydd, ymlaen llaw ac ar sail gwybodaeth’ i egluro’n well sut rydym yn disgwyl i’r gymuned roi ei chefnogaeth i eitem sy’n cael eu cyflwyno i’r rhestrau. Byddwn yn ceisio darparu hwyluso ac arweiniad ar sut y dylai grŵp cymunedol neu unigolyn gael cydsyniad rhydd, ymlaen llaw ac ar sail gwybodaeth i gyflwyno’r eitem o dreftadaeth fyw a beth i’w wneud pan nad oes modd cael gafael arni ar gyfer enghreifftiau lle gallai hyn fod yn anodd, fel gemau plant neu pan fydd y gymuned sy’n ymarfer yn rhy fawr (e.e. ar gyfer treftadaeth fyw gyffredin fel canu carolau).
Dealltwriaeth a chefnogaeth
183. Nodwn y sylwadau a’r drafodaeth am yr angen i ddarparu cefnogaeth er mwyn galluogi a grymuso cymunedau, grwpiau ac unigolion i nodi neu gydnabod eu treftadaeth fyw, yn ogystal â chael cydsyniad a chyflwyno eitem i’r rhestr, yn enwedig ar gyfer cymunedau sydd wedi ymgysylltu llai â phrosesau ffurfiol fel hyn.
184. Pan fyddwn gwneud cais i gyflwyno eitemau ar gyfer y rhestrau rydym yn bwriadu eu darparu, gan dynnu ar randdeiliaid a chefnogwyr y sector, rhaglen allgymorth ac ymgysylltu i sicrhau bod cynifer o gymunedau â phosibl yn gallu clywed am y broses rhestrau treftadaeth fyw ac ymgysylltu â hi.
185. Nod y rhaglen hon fydd codi ymwybyddiaeth ac mae’n cynnwys helpu cymunedau nad ydynt efallai wedi’i hystyried, i nodi eu treftadaeth fyw fel y cyfryw, yn ogystal â rhoi eglurder ynghylch pwrpas a gwerth y rhestr, a chefnogaeth ar gyfer y broses gynigion.
Arddangosiad
186. Byddwn yn gofyn i’r rheini sy’n cyflwyno eitem ddatgan dros eu hunan eu bod yn ei ddeall yn llawn, eu bod wedi cael cydsyniad rhydd, ymlaen llaw ac ar sail gwybodaeth gan y gymuned i gyflwyno’r eitem, ac i ddarparu tystiolaeth o sut maen nhw wedi cynnwys y gymuned yn y broses gynigion.
187. Byddwn yn darparu rhagor o arweiniad ar ffyrdd o gael cydsyniad rhydd, ymlaen llaw ac ar sail gwybodaeth, ond byddwn yn dilyn ein hegwyddorion gweithredu cyffredinol, gan y dylai fod yn cael ei arwain gan y gymuned, yn agored, yn ymgysylltu, yn dryloyw ac yn gynhwysol.
188. Yn yr un modd ag y mae i’r cymunedau eu hunain yn nodi treftadaeth fyw, mater i’r cymunedau eu hunain yw dod i gonsensws ynghylch cydsyniad. Mae’r pwyslais yma ar ddangos ac ar dystiolaeth o gydsyniad (drwy’r ffurflen gynnig) ac rydym yn nodi bod hyn yn debygol o fod yn wahanol i’r gwahanol fathau o grwpiau cymunedol ac unigolion a allai eu gwneud cynnig.
Pwy sy’n gwneud cynnig?
189. Wrth gynnig eitem o dreftadaeth fyw, bydd y ffurflen yn gofyn am bwynt cyswllt rhag ofn y bydd unrhyw ddilyniant.
190. Er y gall unrhyw un gynnig eitem, yn amodol ar sicrhau cydsyniad rhydd, ymlaen llaw ac ar sail gwybodaeth gan y gymuned, byddem yn disgwyl i’r cynnig gael ei gydlynu mewn llawer o sefyllfaoedd gan gorff llywodraethu, clwb masnach neu aelodaeth, cymdeithas, sefydliad neu urdd, lle mae corff o’r fath yn bodoli. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu fel rhan o’r gwaith ymgysylltu ac allgymorth cymunedol, gan gynnwys pan nad yw’n glir pwy ddylai wneud cynnig.
Natur unigryw / gorgyffwrdd
191. Cafwyd trafodaeth helaeth hefyd ynghylch lefel y manylder y dylai’r rhestr ei gymryd o ran pa mor benodol neu unigryw y dylai eitem yn y rhestrau fod. A ddylai fod llawer o gynigion ar wahân ar gyfer eitemau o dreftadaeth fyw sy’n debyg i’w gilydd, neu a ddylai fod llai o geisiadau sy’n edrych yn ehangach ar genre neu fath o dreftadaeth fyw?
192. Nid ydym yn credu bod ateb pendant i’r cwestiwn hwn a hoffem daro cydbwysedd rhwng y ddau ddull. Rydym eisiau sicrhau bod cymunedau’n gallu cynrychioli eu treftadaeth yn ddigonol os yw’n wahanol i ffurfiau eraill, ond rydym hefyd eisiau sicrhau bod y rhestrau’n ymarferol i bobl ymgysylltu â nhw ac yn ddefnyddiol fel canllaw ar gyfer sgyrsiau diogelu, felly gallai cael gormod o eitemau sy’n debyg iawn i’w gilydd effeithio ar y nodau hynny.
193. Er nad yw’r wefan ar gyfer y rhestrau wedi cael ei dylunio eto, byddwn yn sicrhau bod strwythur ar gael i alluogi cysylltiadau rhwng eitemau tebyg o dreftadaeth fyw fel bod defnyddwyr yn gallu dod o hyd iddynt yn hawdd ar sail priodoleddau penodol (e.e. lleoliad / math ac ati) ac i ddeall y cysylltiadau rhyngddynt.
194. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o arweiniad am hyn yn y canllawiau wrth wneud cais i gynnig eitemau.
Anghytuno
195. Cafwyd trafodaeth a sylwadau hefyd am anghytundebau, gyda llawer yn nodi bod gwahaniaeth barn ynghylch ‘perchnogaeth’, natur unigryw neu eitem sy’n siarad ar ran cymuned ehangach. Byddwn yn darparu rhagor o arweiniad a gwybodaeth am hyn pan fyddwn yn galw am geisiadau.
Ymateb i Gwestiwn 3
196. Byddwn yn canolbwyntio ar y prosesau ar gyfer penderfynu pwy sy’n cynnig eitem i’r rhestr a sut maent yn cael cydsyniad gan y gymuned fel rhan o raglen allgymorth ac ymgysylltu a fydd yn cyd-fynd â’r alwad am gynigion.
197. Byddwn yn cyflwyno meini prawf yn nodi bod yn rhaid cael cydsyniad y gymuned ar gyfer pob cynnig.
Meini prawf y cytunwyd arnynt
Rhaid cael cydsyniad rhydd, ymlaen llaw ac ar sail gwybodaeth gan y gymuned.
Rhaid i’r cyflwyniad ddarparu tystiolaeth bod y gymuned sy’n ymarfer wedi cydsynio i’r eitem o dreftadaeth fyw gael ei chyflwyno i’r rhestrau.
Cod moeseg
198. Fel y gwnaethom ei gyflwyno uchod, cafwyd nifer o awgrymiadau ynghylch meini prawf ar gyfer y rhestrau yn ychwanegol at y rhai a gynigiwyd yn nhestun yr Ymgynghoriad. Ar wahân i’r meini prawf ar gyfer hawliau dynol a masnacheiddio, roeddem yn teimlo na fyddai digon o gonsensws ar gyfer unrhyw feini prawf pellach sydd â sail wrthrychol – sy’n golygu meini prawf y gellid barnu eu bod yn cael eu bodloni’n glir neu’n ddiamheuol.
199. Fodd bynnag, rydym yn cytuno bod gwerth tynnu sylw at feysydd ychwanegol a awgrymir drwy’r broses y rhestr treftadaeth fyw. Mae’r Cyfarwyddebau Gweithredol yn annog Partïon Gwladwriaethol i ddatblygu a mabwysiadu codau moeseg. Byddwn yn defnyddio’r term ar gyfer y meysydd rydym yn dymuno tynnu sylw atynt. Bwriedir i’n cod moeseg gael ei ystyried drwy gyflwyniadau i’r rhestrau ac nid yw bodloni’r cod moeseg hwn yn ofyniad hanfodol.
200. Os nad yw eitem yn bodloni’r cod moeseg, nid yw hyn yn golygu y byddant yn cael eu heithrio o’r rhestrau. Dim ond eitemau nad ydynt yn bodloni’r meini prawf fydd yn cael eu gwrthod.
201. Rydym yn defnyddio’r dull hwn i sicrhau, os oes diffyg consensws ynghylch agweddau ar yr ymarfer, y gellir cynnwys yr eitemau hynny o dreftadaeth fyw o hyd. Mae’r rhain yn feysydd lle mae barn yn oddrychol yn bennaf a lle nad yw’n debygol y bydd consensws. Serch hynny, yn dilyn ein dull agored a chynhwysol, credwn ei bod yn bwysig cynnwys yr eitemau, gan gydnabod gwahaniaeth barn.
202. Mae rhagor o wybodaeth am y paneli cynigion wedi’i chynnwys isod, a bydd yn rhoi rhagor o eglurhad ar y maes hwn fel rhan o’r canllawiau pan fyddwn yn galw am gynigion.
Dylent barchu anifeiliaid, natur a’r amgylchedd
203. Arweiniodd trafodaethau yn ystod y cyfnod ymgynghori o blaid meini prawf i gefnogi anifeiliaid, natur a’r amgylchedd at ragor o ymchwil i’r maes hwn.
204. Er nad yw testun y Confensiwn yn sôn yn benodol am anifeiliaid, natur a’r amgylchedd, mae yna nifer o gonfensiynau rhyngwladol a fframweithiau cyfreithiol cenedlaethol, gan gynnwys y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a’r Ddeddf Lles Anifeiliaid.
205. O ran parch at anifeiliaid, byddwn y cod moeseg yn nodi na ddylai treftadaeth fyw roi anifeiliaid mewn perygl o newyn, syched na diffyg maeth; ofn a gofid; anghysur corfforol a thermol; poen, anaf a chlefydau; marwolaeth, neu mewn sefyllfa a fydd yn annog patrymau ymddygiad nad ydynt yn rhai normadol.
206. O ran natur a’r amgylchedd, rydym yn cydnabod galwadau UNESCO am gynaliadwyedd amgylcheddol ac addasu a lliniaru newid yn yr hinsawdd, gan nodi bod arferion treftadaeth fyw a gweithgareddau diogelu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol sy’n gallu effeithio ar y rheini sy’n ymwneud â’r dreftadaeth fyw yn ogystal â’r gymuned ehangach.
Dylent feithrin heddwch, parch, cydlyniant cymdeithasol a chynhwysiant, ac osgoi gwahaniaethu o fewn eu harfer/arferion treftadaeth fyw eu hunain, cymunedau ehangach, ac wrth gydweithio ag ymarferwyr treftadaeth fyw eraill
207. Roedd nifer o ymatebion i’r ymgynghoriad a thrafodaethau yn canolbwyntio ar sicrhau bod y berthynas rhwng cymunedau a’u harferion yn un gynhwysol. Nid yw hwn yn faes roeddem wedi’i gynnwys yn benodol yn y meini prawf ar gyfer testun yr Ymgynghoriad, ond fe wnaethom ei gynnwys fel rhan o’n hegwyddorion gweithredu (‘cynhwysol a pharchus’).
208. Mae’r Confensiwn yn pwysleisio pwysigrwydd heddwch, cydlyniant cymdeithasol a chynwysoldeb yn nhestun y Confensiwn a’r canllawiau cysylltiedig. Er enghraifft, mae’r Cyfarwyddebau Gweithredol, yn annog arferion, cynrychiolaethau a mynegiadau o Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol ‘sydd â chreu heddwch ac adeiladu heddwch wrth eu gwraidd’. Maent yn datgan y dylai Partïon Gwladwriaethol gydnabod a hyrwyddo cyfraniad Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol ‘at gydlyniant cymdeithasol, goresgyn pob math o wahaniaethu a chryfhau gwead cymdeithasol cymunedau a grwpiau mewn ffordd gynhwysol’ - un sy’n helpu i ‘fynd y tu hwni wahaniaethau a mynd i’r afael â nhw’ ymhlith ymarferwyr.
209. Rydym hefyd yn nodi bod y cod moesegol hwn o feithrin heddwch, parch, cydlyniant cymdeithasol a chynhwysiant, ac mae osgoi gwahaniaethu yn ymgorffori dyhead twristiaeth gynaliadwy yn anuniongyrchol. Rydym yn cefnogi twristiaeth lle mae’n cyfrannu at ddiogelu neu hyfywedd parhaus y dreftadaeth fyw, drwy godi ymwybyddiaeth a sicrhau ei gynaliadwyedd ariannol. Fodd bynnag, rhaid ystyried y manteision hyn yn sgil twristiaeth ochr yn ochr â’r hyn sy’n cael ei ystyried yn or-dwristiaeth, sy’n effeithio ar gydlyniant cymdeithasol y gymuned ac yn arwain at effeithiau negyddol. Rydym yn cefnogi twristiaeth gynaliadwy ar gyfer treftadaeth fyw sy’n parchu’r gymuned leol ehangach.
210. Felly, byddwn yn ymhelaethu ar y meini prawf y cytunwyd arnynt sef ‘rhaid iddynt fod yn gydnaws ag offerynnau hawliau dynol presennol’ ac yn cynnwys yn y cod moeseg i bob cymuned er mwyn meithrin heddwch, parch, cydlyniant cymdeithasol, a chynwysoldeb yn eu harferion/arferion treftadaeth fyw eu hunain, y gymuned ehangach, ac wrth gydweithio ag ymarferwyr treftadaeth fyw eraill.
Dylai barchu fframweithiau cyfreithiol cenedlaethol presennol a hyrwyddo iechyd, lles a diogelwch cadarnhaol iddynt eu hunain ac eraill
211. Un o’r pwyntiau a wnaethpwyd yn yr ymgynghoriad oedd bod llawer o arferion treftadaeth fyw wedi deillio o brotestio. Nodwyd hefyd bod treftadaeth fyw llawer o gymunedau wedi cael ei gwahardd yn hanesyddol.
212. Er ein bod yn disgwyl i’r holl dreftadaeth fyw bresennol fod yn gyfreithlon ac yn nodi nad yw’n debygol o fod yn gynaliadwy nac yn cael ei diogelu’n effeithiol os yw’n anghyfreithlon, nid ydym am fynnu bod y paneli cynigion yn gwneud penderfyniadau cyfreithiol am eitemau a gynigir. Felly, mae ein cod moeseg yn cynnwys y disgwyliad y dylai eitemau o dreftadaeth fyw barchu fframweithiau cyfreithiol cenedlaethol cyfredol.
213. Ar ben hynny, nid ydym yn dymuno annog unrhyw dreftadaeth fyw a allai fod yn niweidiol i bobl, boed yn gyfranogwyr, cynulleidfaoedd, gwylwyr neu’r rheini yr effeithir arnynt yn anuniongyrchol. Ond fel y soniwyd, ni fyddwn yn eithrio eitem o dreftadaeth fyw a gynigir i’r rhestrau ar y sail hon o’r codau moeseg hyn (rhaid i’r eitemau fodloni’r meini prawf, sy’n cynnwys bod yn gydnaws â’r safonau hawliau dynol presennol y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol).
214. Nodwn fod arferion gofal iechyd yn amrywiol; gall syniadau cymunedau, grwpiau ac unigolion am eu hanghenion iechyd a lles eu hunain amrywio o un i’r llall. Felly, byddwn yn nodi yn y cod moeseg y dylai treftadaeth fyw hyrwyddo iechyd, lles a diogelwch cadarnhaol i’r ymarferwyr ac i eraill.
Crynodeb o’r meini prawf a’r cod moeseg
215. Mae’r adran hon yn cynnwys y set derfynol o feini prawf a’r cod moeseg ar gyfer cynnwys eitemau o dreftadaeth fyw ar y rhestrau arfaethedig. Rhaid i eitem fodloni’r holl feini prawf i gael ei chynnwys yn y rhestrau a bydd panel cyflwyniadau’n gwirio’r holl gyflwyniadau i sicrhau hyn. Dylai’r cod moeseg gael ei ystyried gan gynigwyr ond nid yw’n feini prawf y bydd yr eitem yn cael ei gwirio yn eu herbyn.
216. Meini prawf
- Rhaid iddo gael ei ymarfer ar hyn o bryd. Er mwyn cael ei ystyried ar gyfer y rhestr, rhaid i’r eitem fod â chymuned fyw sy’n meddu ar wybodaeth neu ddealltwriaeth am yr eitem sydd i’w chyflawni, ac sy’n gallu trosglwyddo’r eitem i genedlaethau’r dyfodol. Dylai cyflwyniadau ddarparu gwybodaeth am hyfywedd yr eitem ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a byddant yn gallu nodi a yw’r gymuned sy’n cyflwyno’r eitem yn ystyried ei bod dan fygythiad, e.e. bod perygl iddi farw allan heb newid sylweddol yn y lefel drosglwyddo bresennol.
- Gall ddeillio o unrhyw le a bod o unrhyw gyfnod, ond rhaid iddo gynnwys gwybodaeth am ei hanes a’i drosglwyddiad yn y gymuned dan sylw. Nid oes angen i’r eitem fod ag isafswm oedran na fod wedi cael ei drosglwyddo nifer penodol o weithiau a gall ddeillio o unrhyw le a gan unrhyw un.
- Rhaid iddo fod yn arfer byw ynddo’i hun. Dylai cynnig i’r rhestrau gynnwys gwybodaeth am elfennau cysylltiedig â’r eitem lle bo hynny’n berthnasol, ond ni ddylai’r eitem o dreftadaeth fyw fod yn offer, offerynnau, gwisgoedd, deunyddiau cysylltiedig ac ati yn unig, nac y canlyniad, yr allbwn, y greadigaeth na’r cynnyrch yn unig.
- Rhaid iddynt fod yn gydnaws â’r safonau hawliau dynol presennol y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol. Er enghraifft, gyda hawliau pobl eraill i beidio â chael eu gwahaniaethu yn eu herbyn ac i gael eu trin yn gyfartal, gyda phreifatrwydd, rhyddid meddwl a mynegiant, a chymryd rhan mewn bywyd cymdeithasol a diwylliannol.
- Rhaid cael cydsyniad rhydd, ymlaen llaw ac ar sail gwybodaeth gan y gymuned. Rhaid i’r cyflwyniad ddarparu tystiolaeth bod y gymuned sy’n ymarfer wedi cydsynio i’r eitem o dreftadaeth fyw gael ei chyflwyno i’r rhestrau.
- Rhaid i unrhyw fudd masnachol o’r eitem o dreftadaeth fyw fod er budd y gymuned yn bennaf.
217. Cod moeseg
- Dylent barchu anifeiliaid, natur a’r amgylchedd.
- Dylai barchu fframweithiau cyfreithiol cenedlaethol presennol a hyrwyddo iechyd, lles a diogelwch cadarnhaol iddynt eu hunain ac eraill.
- Dylent feithrin heddwch, parch, cydlyniant cymdeithasol a chynhwysiant, ac osgoi gwahaniaethu o fewn eu harfer/arferion treftadaeth fyw eu hunain, cymunedau ehangach, ac wrth gydweithio ag ymarferwyr treftadaeth fyw eraill.
Categorïau
Cwestiynau 4 - 7
C4 Beth yw eich barn am y 5 categori?
Ymatebion i’r arolwg:
- traddodiadau ac ymadroddion llafar, gan gynnwys iaith fel cyfrwng i’r dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol: 93.7% yn cytuno, 3.9% yn niwtral, 1.3% yn anghytuno
- celfyddydau perfformio: 90.7% yn cytuno, 5.6% yn niwtral, 1.4% yn anghytuno
- arferion cymdeithasol, defodau a digwyddiadau gwyliau: 94.1% yn cytuno, 3.6% yn niwtral, 0.7% yn anghytuno
- gwybodaeth ac arferion sy’n ymwneud â natur a’r bydysawd: 88.1% yn cytuno, 8.3% yn niwtral, 1.9% yn anghytuno
- crefftwaith traddodiadol: 95.6% yn cytuno, 1.7% yn niwtral, 0.9% yn anghytuno
C5 - Beth yw eich barn am y categori ychwanegol o gemau a chwaraeon traddodiadol?
Ymatebion i’r arolwg: 85.1% yn cytuno, 9.7% yn niwtral, 5.2% yn anghytuno**
C6 - Beth yw eich barn am y categori ychwanegol o wybodaeth / traddodiadau coginio?
Ymatebion i’r arolwg: 79.9% yn cytuno, 13.3% yn niwtral, 6.8% yn anghytuno**
C7 - Yn eich barn chi, a ddylid cael unrhyw gategorïau ychwanegol? Os felly, pa gategorïau hoffech chi iddynt gael eu cynnwys?
218. Cafwyd cryn drafodaeth a sylwadau fel rhan o’r broses ymgynghori ynghylch y categorïau, gydag amrywiaeth o safbwyntiau’n cael eu mynegi ynghylch a ddylem wyro oddi wrth gategorïau safonol UNESCO (neu ‘feysydd’ fel y mae UNESCO yn eu galw) a disgrifiadau.
219. Fel y nodwyd gennym yn yr ymgynghoriad, mae gwledydd eraill wedi gwyro oddi wrth y pum categori safonol, felly ni fyddai’r DU ar ben ei hun wrth wneud newidiadau, ond rydym am sicrhau bod sail resymegol glir ar gyfer unrhyw newidiadau.
220. Y prif reswm dros gadw’r categorïau mor debyg â phosibl i bum categori presennol UNESCO yw ei fod yn hwyluso trafodaeth gyda gwledydd eraill pan fydd dealltwriaeth gyffredin. Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi hyn, ac yn cydnabod y byddai llawer o drafodaeth ac ystyriaeth wedi bod wrth ddatblygu pum categori UNESCO a’u henwi.
221. Fodd bynnag, clywsom hefyd ar sawl achlysur yn ystod yr ymgynghoriad ei bod yn bwysig pwyso a mesur yr iaith a ddefnyddir wrth roi’r rhestrau ar waith er mwyn iddi fod ar gael i’r cyhoedd. Rydym yn cydnabod yr hygyrchedd hwn mewn dwy ran – gan ddefnyddio iaith syml a chyffredin, a bod yn ymwybodol o arwyddocâd a chysylltiadau geiriau penodol (gweler yr adran uchod ynglŷn â diffinio termau).
222. Felly, rydym wedi mynd ati i ddiwygio ac ailenwi categorïau gyda’r ystyriaethau hyn mewn golwg ac rydym yn anelu at gadw tebygrwydd cryf â’r pum categori presennol, gan ddod o hyd i iaith sydd mor hygyrch â phosibl i gymunedau cyfoes y DU.
223. Mewn trafodaeth mewn un cyfarfod bwrdd crwn, roeddem yn cwestiynu’r angen sylfaenol i gael unrhyw gategorïau o gwbl. Roedd cytundeb cyffredinol bod cael rhywfaint yn well na dim, fel y gellid cael ymdeimlad o grwpio er mwyn helpu i lywio neu wneud synnwyr o’r gwahanol fathau o dreftadaeth fyw.
224. Rydym yn defnyddio’r diben hwn ‘i helpu llywio drwy’r gwahanol fathau o dreftadaeth fyw’ fel y rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniadau ynghylch y categorïau a’r pedwar cwestiwn a gynigir yn yr ymgynghoriad.
225. Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw’r categorïau hyn yn rhai cyfyngedig. Rydym yn cydnabod y dylai hyn fod wedi cael ei nodi’n gliriach yn yr ymgynghoriad, ac y dylai ymatebwyr fod wedi gallu ticio mwy nag un categori pan ofynnwyd y cwestiwn iddynt ynghylch pa un oeddent yn uniaethu ag o. Mae’n annhebygol y bydd eitem o dreftadaeth fyw yn perthyn i un categori yn unig a gall fod mewn mwy nag un categori os yw’n berthnasol. Ar ben hynny, caiff eitemau eu categoreiddio gan y gymuned sy’n cyflwyno’r eitem – e.e. Y gymuned fydd yn penderfynu pa gategorïau yr hoffent fod ynddynt. Er y gall y paneli cymeradwyo wneud awgrymiadau, y gymuned fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Byddwn yn darparu rhagor o fanylion ac arweiniad ar hyn pan fyddwn yn gwneud galw ar bobl i gynnig eitemau yn nes ymlaen eleni.
226. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion i’r arolwg yn gefnogol iawn i’r 5 categori a’r 2 gategori arfaethedig ychwanegol, er bod mwy o gydbwysedd yn y trafodaethau bwrdd crwn rhwng glynu at y 5 presennol neu ychwanegu’r 2 o rai arfaethedig ychwanegol.
227. Ar y sail mai pwrpas y categorïau yw helpu i lywio drwy’r mathau o dreftadaeth fyw, y sail resymegol dros gynnwys y categorïau ychwanegol arfaethedig (Chwaraeon a Gemau Traddodiadol, Traddodiadau Coginio) yw y byddent yn helpu gyda’r gwaith hw o lywio. Er y byddai Traddodiadau Coginio yn perthyn i gategori ‘Arferion Cymdeithasol, Defodau a Digwyddiadau Gwyliau’ UNESCO, rydym wedi gweld mewn gwledydd eraill bod gwybodaeth a sgiliau wrth baratoi bwyd a diod ymhlith yr eitemau mwyaf cyffredin ar y rhestrau. Gan nodi’r amrywiaeth o fwyd a diod yn y DU, byddem yn disgwyl gweld nifer uchel tebyg o eitemau’n cael eu cyflwyno i’r rhestrau yn y DU. Byddai gwahanu’r categori hwn yn helpu i grwpio’r eitemau hyn a rhoi hunaniaeth gliriach i’r categori Arferion Cymdeithasol, Defodau a Digwyddiadau Gwyliau.
228. Roedd rhesymeg debyg dros Chwaraeon a Gemau Traddodiadol, ond yn seiliedig ar y disgwyliad y gallai fod gan y DU fwy na llawer o wledydd eraill, o ystyried ein hanes yn y maes hwn. Unwaith eto, er y byddai’r rhain yn perthyn i gategori ‘Arferion Cymdeithasol, Defodau a Digwyddiadau Gwyliau’ UNESCO, credwn y byddai’n ddefnyddiol eu gwahanu.
229. Roedd meysydd trafod a sylwadau eraill mewn perthynas â chategorïau. Yn benodol, a ddylid gwahanu’r Celfyddydau Perfformio yn is-gategorïau llai (e.e. cerddoriaeth / dawns ac ati) ac a ddylid cael categori ar gyfer eitemau o dreftadaeth fyw sydd wedi’u diffinio fwy drwy fod yn seiliedig ar le neu ffordd o fyw.
230. Roedd galwadau eraill am gategorïau unigol a fyddai’n gweithio i roi mwy o amlygrwydd neu eglurder i faes penodol fel Llen Gwerin, Ieuenctid, Isddiwylliant, Trefol, Pensaernïaeth neu Iechyd a Llesiant. Er y gellir ystyried y rhain yn ffyrdd defnyddiol o edrych ar fathau o dreftadaeth fyw a’u cysylltu â’i gilydd, mae llawer ohonynt yn llai penodol fel meysydd unigol a byddent yn cwmpasu nifer o’r 7 categori arfaethedig, a allai olygu bod y gwahanol grwpiau’n fwy dryslyd. Roedd dadleuon hefyd yn cael eu cyflwyno ar gyfer pob un, ond heb gonsensws na chefnogaeth ar lefel uchel ar gyfer unrhyw un penodol byddai wedi bod yn anodd dewis un neu ddau, ac o ystyried mai ychydig iawn o awydd oedd i ychwanegu nifer fawr o gategorïau ychwanegol, penderfynwyd peidio ag ychwanegu unrhyw gategorïau pellach na’r 7.
Diwygio categorïau
231. Roedd nifer o gwestiynau hefyd ynghylch pa gategori y byddai rhai eitemau’n eistedd ynddo, yn benodol o ran lle a defnydd tir a ffyrdd o fyw, fel tiroedd comin a mynd ar gychod camlas. Y categori agosaf fyddai ‘Gwybodaeth ac Arferion sy’n ymwneud â Natur a’r Bydysawd’, ond rydym yn cydnabod nad oedd hyn yn ffitio’n glir, ac mai’r categori hwn gafodd y gymeradwyaeth isaf o ran canran cymeradwyaeth yn yr arolwg o unrhyw un o’r 5 categori (88%).
232. Gwnaethom hefyd nodi’r dryswch ynghylch ‘y Bydysawd’ y deallwn sy’n cyfeirio at unrhyw gredoau ysbrydol ehangach am yr amgylchedd naturiol: cosmoleg, shamaniaeth, neu systemau iachau traddodiadol, er enghraifft.
233. Felly, rydym yn diwygio’r categori i ‘Natur, Tir ac Ysbrydolrwydd’ i ddarparu grŵp ehangach a mwy cynhwysol o arferion yn y meysydd hyn. Sylwch, fel y gwnaethom archwilio yn yr adran ar grefydd, nid ydym yn cynnwys crefydd yn ei chyfanrwydd nac o ran ei hun yn y rhestrau, ond byddem yn derbyn eitemau o dreftadaeth fyw sy’n gysylltiedig â chrefydd.
234. Tynnodd llawer o bobl sylw hefyd at y ffaith bod ‘Coginio’ yn ymwneud yn benodol â bwyd ac y dylid rhoi cydnabyddiaeth gyfartal i ymarfer sy’n gysylltiedig ag yfed. Er ein bod yn cytuno’n llwyr wrth gyfeirio at yr arfer o wneud mathau o ddiodydd, nid oeddem yn gallu dod o hyd i derm cyffredinol tebyg. Nid oeddem chwaith eisiau defnyddio’r ymadrodd cyffredin ar y cyd ‘bwyd a diod’ er mwyn peidio ag achosi dryswch ynghylch yr ymarfer o’i gymharu â’r cynnyrch. Rydym felly’n cadw’r gair coginio, ond yn nodi ei fod yn cynnwys arferion sy’n gysylltiedig ag yfed.
235. Un o’r beirniadaethau cyntaf o enwau presennol y categorïau oedd y term ‘crefftwr’ sy’n cyfeirio ar ryw. Er ein bod yn cydnabod bod hwn yn derm sy’n cael ei ddefnyddio’n hanesyddol, rydym yn cytuno nad yw hyn yn adlewyrchu dull gweithredu’r Confensiwn mewn perthynas â chynhwysiant. ‘Crefftydd’ yw’r term cyfoes a ddefnyddir yn gyffredin, ond holwyd ymhellach a fyddai ‘Crefftau’ yn ddigonol. Byddwn felly’n defnyddio ‘Crefftau’.
236. Ar ben hynny, yn dilyn trafodaethau ynghylch y broblem o ddiffinio’r term ‘traddodiad’, nodwyd bod y term yn ymddangos mewn 4 o’r 7 enw categori arfaethedig. Ar gyfer crefft yn benodol, teimlwyd y gallai rhai syniadau o ‘draddodiadol’ eithrio’r hyn a fyddai’n cael ei ystyried yn grefft fwy cyfoes, ac nad yw ‘traddodiadol’ o reidrwydd yn hen ffasiwn ac y gall aros yn fodern iawn wrth iddo ddatblygu. Nodwyd hefyd bod offer ac arferion ‘cyfoeso’ yn cael eu defnyddio’n aml i greu crefftau ‘traddodiadol’, ac i’r gwrthwyneb. Felly, byddwn yn dileu’r term ‘traddodiadol’ o enwau’r categorïau.
237. Yng ngoleuni’r ystyriaethau uchod, rydym wedi penderfynu symleiddio enwau’r categorïau er mwyn eu gwneud yn fwy agored, cynhwysol ac yn haws eu deall. Fel y nodwyd uchod, gall eitemau o dreftadaeth fyw eistedd mewn mwy nag un categori a’r gymuned sy’n gwneud y cais fydd yn penderfynu pa gategori o hyd.
Ymateb i gwestiynau 4-7
238. Byddwn yn cadw’r pum categori ac yn ychwanegu categorïau eraill ar Chwaraeon a Gemau ac Arferion Coginio. Byddwn hefyd yn ailenwi ac yn symleiddio’r geiriad y categorïau, gan ychwanegu cyfeiriad penodol at Dir ac Ysbrydolrwydd.
Enwau diwygiedig y categorïau
239. Enw arfaethedig - Traddodiadau a Mynegiant Llafar
Enw y cytunwyd arno - Mynegiant Llafar
Treftadaeth fyw yn ymwneud â geiriau llafar a chyfathrebu di-eiriau a ddefnyddir i drosglwyddo gwybodaeth, gwerthoedd diwylliannol a chymdeithasol a chof ar y cyd. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys diarhebion, damhegion, caneuon, hwiangerddi, neu adrodd straeon.
240. Enw arfaethedig - Celfyddydau Perfformio
Enw y cytunwyd arno - Celfyddydau Perfformio
Treftadaeth fyw sy’n ymwneud â pherfformio a chreadigrwydd dynol. Gallai enghreifftiau gynnwys gwahanol arferion cerddorol, dawns neu ddrama.
241. Enw arfaethedig - Arferion Cymdeithasol, Defodau a Digwyddiadau Gwyliau
Enw y cytunwyd arno - Arferion Cymdeithasol
Treftadaeth fyw sy’n aml yn cael ei rhannu gan grŵp a’i hymarfer ganddynt. Gallai enghreifftiau gynnwys arferion ar y calendr neu rai tymhorol, gwyliau, dathliadau neu ddefodau.
242. Enw arfaethedig - Gwybodaeth ac Arferion sy’n Ymwneud â Natur a’r Bydysawd
Enw y cytunwyd arno - Natur, Tir ac Ysbrydolrwydd
Treftadaeth fyw sy’n ymwneud â’r amgylchedd a chred. Gallai’r enghreifftiau gynnwys technegau adeiladu, systemau rheoli tir, gwybodaeth am anifeiliaid, planhigion ac ecoleg penodol.
243. Enw arfaethedig - Crefftwaith Traddodiadol
Enw y cytunwyd arno - Crefftau
Treftadaeth fyw sy’n ymwneud â sgiliau, gwybodaeth a gwneud pethau, naill ai â llaw neu gyda chymorth offer. Gallai’r enghreifftiau gynnwys arferion penodol o wehyddu, cerfio coed, crochenwaith, gwaith gof, neu waith saer maen.
244. Enw arfaethedig - Gemau a Chwaraeon Traddodiadol
Enw y cytunwyd arno - Chwaraeon a Gemau
Treftadaeth fyw sy’n ymwneud â gemau, cystadlaethau neu weithgareddau lle mae angen ymdrech gorfforol a/neu sgiliau. Gallai enghreifftiau gynnwys digwyddiadau chwaraeon neu gemau hamdden.
245. Enw arfaethedig - Traddodiadau Coginio
Enw y cytunwyd arno - Arferion Coginio
Treftadaeth fyw sy’n ymwneud â pharatoi a bwyta bwyd ac yfed diodydd. Gallai’r enghreifftiau gynnwys gwneud prydau penodol neu rannu bwyd a diod yn gymdeithasol.
Paneli Cyflwyno
Cwestiwn 8
Ydych chi’n cefnogi ein dull gweithredu arfaethedig ar gyfer y broses gymeradwyo?
Ymatebion i’r arolwg: 86.3% yn cytuno, 10.3% yn niwtral, 3.5% yn anghytuno
246. Yn yr ymgynghoriad, fe wnaethom amlinellu y byddai paneli’n cael eu creu ar gyfer pob gwlad er mwyn gwirio cynigion yn erbyn y meini prawf. Roeddem yn cynnig y byddai ganddynt wybodaeth ac arbenigedd digon eang.
247. Roedd canran uchel yn cytuno â’r broses hon, er bod nifer o gwestiynau am y manylion. Rydym wedi archwilio ac adolygu’r broses hon ymhellach, gan ystyried sylwadau a thrafodaethau o’r ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod y broses:
-
Ar y sail bod cynigion yn cael eu cynnwys os ydynt yn bodloni’r meini prawf, yn amodol ar unrhyw amgylchiadau esgusodol;
-
Mor ysgafn â phosibl - h.y. yn hygyrch ac yn syml;
-
Yn dilyn yr un broses ar gyfer pob un o’r rhestrau – h.y. yr un fath yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr;
-
Yn cynnwys cynrychiolaeth ddigonol o amrywiaeth o gymunedau; ac
-
Yn deg ac yn agored.
Ymateb i gwestiwn 8
248. Byddwn yn parhau â’n dull gweithredu arfaethedig ac yn darparu manylion gyda’r alwad am gynigion.
Adolygu
Cwestiwn 9
Ydych chi’n cefnogi ein dull gweithredu arfaethedig ar gyfer adolygu’r rhestr?
Ymatebion i’r arolwg: Mae 9% am iddo fod yn amlach, mae 51% am iddo fod fel y cynigiwyd, 34% am iddo fod yn llai aml, nid yw 5% eisiau cyfnod adolygu.
249. Yn yr ymgynghoriad, fe wnaethom amlinellu dull gweithredu lle byddai pob eitem yn cael ei hadolygu bob dwy flynedd, gan y gymuned a gynigiodd yr eitem, er mwyn i fanylion y cofnod fod yn gyfredol.
250. Roedd prif faes y sylwadau a thrafodaeth yn ymwneud â beth fyddai ‘adolygiad’ yn ei olygu: yn amrywio o gymariaethau ag adroddiadau cyfnodol UNESCO gyda phryderon am faint o waith sydd ei angen gan y cynigydd, i drefniant gwirio llawer ysgafnach ynghylch a oedd unrhyw fanylion wedi newid neu wedi dyddio.
251. Ein hymateb yw nad yw’n fwriad i’r rhestrau fod yn gofnod archifol na hanesyddol ac y dylent fod yn rhestrau ‘byw’ o dreftadaeth fyw. Fel uchod, roeddem hefyd yn cydnabod bod treftadaeth fyw yn parhau i esblygu ac nad yw’n sefydlog.
252. Mae’n bwysig felly sicrhau bod yr eitemau yn y rhestrau yn dal i gael eu hymarfer, bod y disgrifiad o’r eitem yn gyfredol, a bod y gymuned yn parhau i gydsynio i’w cynnwys yn y rhestrau. Felly, fe wnaethom gynnig ‘adolygu’ y rhestrau.
253. Rydym yn cydnabod y dryswch ynghylch y term ‘adolygu’ a byddwn yn cyfeirio at y broses hon fel ‘diweddaru’ yn lle hynny.
254. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno â’r cyfnod adolygu 2 flynedd, er bod cymaint â 34% yn dymuno i hynny ddigwydd yn llai aml. Ein dealltwriaeth ni yw bod y rhan fwyaf o bobl a oedd eisiau cyfnod diweddaru hirach wedi dweud hynny ar sail disgwyliad am ddiweddariad manylach.
255. Felly, byddwn yn cadw’r cyfnod o 2 flynedd, ond byddwn yn ailenwi’r broses hon yn ‘ddiweddariad’ bob dwy flynedd. Bob 2 flynedd, gofynnir i bob person a gyflwynodd gynnig a yw’r eitem yn dal i gael ei hymarfer, a yw’r gymuned yn parhau i gydsynio i’w chynnwys yn y rhestrau ac a oes angen diweddaru unrhyw ran o’r wybodaeth a gyflwynwyd.
256. Bydd yr eitem yn cael ei thynnu o’r rhestrau dan unrhyw un o’r amgylchiadau a ganlyn: os nad yw eitem yn cael ei hymarfer mwyach ac nad yw’r wybodaeth i’w hymarfer yn bodoli mwyach, os bydd cymuned yn penderfynu nad yw’n dymuno cynnal ei chydsyniad i gynnwys yr eitem yn y rhestrau (gall hynny fod am unrhyw reswm), neu os na allwn gysylltu â’r gymuned a gynigiodd yr eitem.
257. Rydym hefyd yn nodi bod gan y gymuned sy’n cynnig yr hawl i ddiddymu cydsyniad i gynnwys yr eitem yn y rhestrau ar unrhyw adeg. Byddwn yn darparu rhagor o fanylion am y broses hon yn y canllawiau sy’n cyd-fynd ar alwad am gynigion.
Ymateb i gwestiwn 9
258. Bydd gofyn i’r gymuned a gynigiodd yr eitem roi’r wybodaeth ddiweddaraf amdani bob 2 flynedd. Bydd hyn yn cynnwys a yw’r eitem yn dal i gael ei hymarfer, a yw’r gymuned yn parhau i gydsynio i’w chynnwys yn y rhestrau ac a oes angen diweddaru unrhyw ran o’r wybodaeth a gyflwynwyd.
Allgymorth ac ymgysylltu
Cwestiwn 10
Sylwadau eraill
259. Fe wnaethom hefyd wahodd sylwadau eraill a thrafodaeth fel rhan o’r sesiynau bwrdd crwn a’r arolwg. Un o’r prif feysydd y cafwyd ymateb yn ei gylch oedd allgymorth ac ymgysylltu cymunedol.
260. Clywsom pa mor bwysig yw cynnwys pob cymuned ledled y DU a’u gwahodd i gymryd rhan ym mhroses y rhestrau. Mae hefyd yn bwysig darparu digon o arweiniad, gwybodaeth a chefnogaeth er mwyn i gymunedau ddeall y broses yn llawn a’u cyfranogiad ynddi. Bydd y canllawiau’n helpu’r rheini sydd â gwahanol anghenion a gofynion mynediad. Ar ben hynny, mae meithrin ymddiriedaeth a gwrando yn hanfodol, fel rhan o unrhyw waith allgymorth ac ymgysylltu.
261. Clywsom hefyd fod amrywiaeth o sefydliadau, rhwydweithiau a grwpiau ledled y DU sy’n awyddus i chwarae rhan yn y gwaith o gynorthwyo, hwyluso a darparu allgymorth ac ymgysylltu, yn ogystal â chefnogi cymunedau lleol. Clywsom hefyd efallai na fydd llawer o gymunedau’n ystyried eu harferion i fod yn enghreifftiau o dreftadaeth fyw, felly mae gan sefydliadau ac unigolion rôl bwysig wrth helpu i hwyluso’r sgwrs hon ynghylch yr hyn sy’n ‘cyfrif’ fel treftadaeth fyw.
262. Rydym yn cydnabod ac yn croesawu’r holl bwyntiau ac awgrymiadau hyn a byddwn yn ceisio datblygu cynllun allgymorth ac ymgysylltu ar y cyd i geisio cyrraedd cynifer o gymunedau â phosibl ac ymgysylltu â nhw.
263. Fel y nodwyd, cynnyrch byw yw’r rhestrau a fydd yn cael eu diweddaru’n rheolaidd. Bydd adolygiad a dadansoddiad o’r rhestrau cyntaf yn llywio’r gwaith o ddiwygio allgymorth ac ymgysylltu wedi’u targedu yn y dyfodol ar gyfer grwpiau a allai fod wedi methu â chymryd rhan yn y rownd gyntaf ac y gallai eu treftadaeth fyw gael ei thangynrychioli wedyn yn y rhestrau cyntaf. Rydym hefyd yn nodi ac yn cytuno â’r awgrym y byddai’n ddefnyddiol darparu astudiaethau achos ar gyfer fersiynau yn y dyfodol.
264. Cawsom hefyd amrywiaeth o sylwadau, cwestiynau ac awgrymiadau am ddiogelu. Dyma bwrpas craidd, parhaus y Confensiwn a rhoddwyd amlinelliad gennym o’n syniadau cychwynnol ar hyn yn y testun ymgynghori. Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth am hyn fel rhan o’r canllawiau pan fyddwn yn galw am gynigion am eitemau i’w cynnwys yn y rhestr.
265. Cafwyd nifer o sylwadau hefyd am wybodaeth / data’r rhestrau, yn benodol o ran safonau data, egwyddorion data FAIR, mynediad agored a data cysylltiedig, er mwyn caniatáu mwy o ddadansoddi, ymchwil a chysylltu. Rydym wedi ystyried yr holl sylwadau hyn a byddwn yn cynnwys gwybodaeth am hyn fel rhan o’r canllawiau pan fyddwn yn galw am gynigion am eitemau i’w cynnwys yn y rhestrau.