Cynhaliaeth Plant: Cyflymu Gorfodaeth: Ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad
Updated 12 February 2024
Rhagair y gweinidog
Teuluoedd yw conglfaen ein cymunedau. Mae’r llywodraeth hon wedi ymrwymo i hyrwyddo cydlyniant teuluol a lleihau gwrthdaro fel bod plant yn tyfu i fyny gyda’r cariad a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Mae hynny’n cynnwys amddiffyn plant mewn teuluoedd sydd wedi gwahanu, fel bod ganddynt sylfaen ariannol gadarn.
Yn 2022, amcangyfrifwyd bod 4 miliwn o blant ym Mhrydain Fawr yn rhan o deuluoedd sydd wedi gwahanu.
Mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau cefnogaeth ariannol i blant lle mae rhieni wedi gwahanu - gan gyfarwyddo, a lle bo angen, gorfodi trefniadau.
Yn y chwarter a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, bu’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn goruchwylio 694,700 o gytundebau yn cynnwys 633,800 o rieni ac sy’n talu cynhaliaeth ac wedi bod o fudd i 953,000 o blant.
Yn nodedig, mae taliadau Cynhaliaeth Plant wedi cadw tua 160,000 o blant rhag mynd i dlodi bob blwyddyn.
Mae’r rhan fwyaf o rieni eisiau gwneud y peth iawn a chefnogi eu plant. I’r rhai sy’n osgoi eu rhwymedigaethau’n barhaus, gellir cymryd camau cryf, gan gynnwys defnyddio beilïaid, gorfodi gwerthu eiddo, neu waharddiad rhag dal trwydded yrru neu basbort y DU, ac yn y pen draw carchar.
Fodd bynnag, mae’r broses orfodi bresennol yn araf ac wedi dyddio, sy’n aml yn gofyn am broses llys hirfaith. O ganlyniad, gall gymryd misoedd lawer i sicrhau bod rhieni sy’n cael cynhaliaeth yn cael yr arian sy’n ddyledus iddynt. Mae hyn yn cael effaith negyddol ddifrifol ar sicrwydd ariannol teuluoedd a’r rhagolygon ar gyfer plant.
Dyna pam y mae cyflwyno’r Gorchmynion Atebolrwydd Gweinyddol newydd yn bwysig. Maent yn caniatáu i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant weithredu’n gyflym yn erbyn y rhieni hynny nad ydynt yn cyflawni eu dyletswyddau ariannol. Drwy gymryd camau gorfodi cyflym, gallwn adennill ôl-ddyledion yn llwyddiannus. Mae’r newidiadau hyn yn cyflymu’r broses, gan ei gwneud yn symlach, yn decach ac yn gyflymach. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau taliadau’n gynt, yn atal ôl-ddyledion rhag cynyddu, ac yn sicrhau bod arian yn llifo’n gyflymach i rieni sy’n cael cynhaliaeth.
Mae’r newid hwn yn rhan o’n gwelliannau ehangach i foderneiddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Mae’r rhain yn cynnwys gwella ein gwasanaethau ar-lein i gyflogwyr gyflymu didyniadau o enillion, lleihau’r amser a gymerir i symud achosion i feilïaid a gweithio gyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF i gwtogi ar amserlenni pan fydd camau gorfodi’n cael eu cymryd drwy’r llysoedd. Rydym hefyd wedi gwneud y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn fwy hygyrch, yn enwedig i deuluoedd tlotach, trwy ddileu’r ffi gwneud cais o £20.
Rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i gyfrannu at yr ymgynghoriad. Ar ôl ystyried y rhain, mae’r ymateb hwn yn nodi sut y byddwn yn symud ymlaen â gweithredu Gorchmynion Atebolrwydd Gweinyddol drwy reoliadau.
Crynodeb gweithredol
1. Ar 2 Hydref 2023, cyhoeddodd y Llywodraeth ymgynghoriad Cynhaliaeth Plant: Cyflymu Gorfodaeth, a oedd yn ceisio barn ar sut y gallem symleiddio ein prosesau gorfodi a chael arian i blant yn gyflymach. Yn benodol, roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar reoliadau arfaethedig i gefnogi cyflwyno gorchmynion atebolrwydd gweinyddol a’r weithdrefn ar gyfer ymdrin â’r broses apelio.
2. Byddai’r newidiadau hyn yn golygu na fyddai angen i’r CMS mwyach wneud cais i’r llys am orchymyn atebolrwydd, gan symleiddio’r broses weinyddol a galluogi’r CMS i gymryd camau cyflymach yn erbyn rhieni sy’n talu cynhaliaeth sy’n osgoi eu cyfrifoldebau yn weithredol.
3. Roedd yr ymgynghoriad ar agor am 8 wythnos o 2 Hydref tan 24 Tachwedd. Derbyniwyd cyfanswm o 87 o ymatebion: 14 gan rieni sy’n talu cynhaliaeth, 14 gan rieni sy’n cael cynhaliaeth a 49 gan aelodau o’r cyhoedd na nododd a oeddent yn gwsmer Cynhaliaeth Plant.
4. Ochr yn ochr â sicrhau bod yr ymgynghoriad ar gael ar GOV.UK, gwahoddodd y Llywodraeth yn benodol adborth gan sefydliadau yn y sector gwirfoddol a chymunedol sydd â diddordeb hysbys mewn cynhaliaeth plant. Mae rhestr o’r sefydliadau a roddodd adborth i’w gweld yn Atodiad A. Derbyniwyd pob ymateb drwy e-bost.
5. Cyflwynodd yr ymgynghoriad hwn y cynigion canlynol:
- rhoi cyfnod rhybudd o 7 diwrnod o leiaf (neu 28 diwrnod os yn byw dramor) i riant sy’n talu cynhaliaeth cyn gwneud gorchymyn atebolrwydd gweinyddol.
- pan fo rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn talu’r swm cyfan o’r ôl-ddyledion o fewn y cyfnod rhybudd, ni fydd y gorchymyn atebolrwydd gweinyddol yn dod i rym
- caniatáu i orchymyn atebolrwydd gweinyddol gael ei ryddhau lle:
- mae’r cyfrifiad cynhaliaeth y seiliwyd y gorchymyn arno (swm yr ôl-ddyledion) wedi newid ers i’r gorchymyn gael ei wneud; neu
- gwneir apêl yn erbyn y cyfrifiad cynhaliaeth i’r tribiwnlys haen gyntaf am gyfnod a gwmpesir gan orchymyn atebolrwydd gweinyddol.
6. Roedd yr ymgynghoriad yn gwahodd ymatebion i 8 cwestiwn yn ymwneud â’n cynigion.
7. Roedd cytundeb cyffredinol y byddai’r cynigion a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad yn caniatáu i’r CMS symud yn gyflymach i gael arian i rieni sy’n cael cynhaliaeth. Yn ôl y disgwyl, roedd y farn hon yn fwy cyffredin ymhlith rhieni sy’n cael cynhaliaeth a sefydliadau sy’n cefnogi rhieni sy’n cael cynhaliaeth na rhieni sy’n talu cynhaliaeth. Ymhlith aelodau eraill o’r cyhoedd roedd ymatebion wedi’u rhannu’n gyfartal.
8. Er bod yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio’n benodol ar reoliadau arfaethedig yn ymwneud â gorchmynion atebolrwydd gweinyddol a’r weithdrefn ar gyfer ymdrin â’r apeliadau, dewisodd rhai ymatebwyr ddefnyddio’r cyfle hwn i leisio eu barn ar y CMS yn ehangach. Roedd y rhain yn cynnwys sylwadau yn ymwneud â’r broses gyfrifo, gwasanaeth cwsmeriaid, ôl-ddyledion, iechyd meddwl a cham-drin domestig. Mae adrannau 60-85 yn mynd i’r afael â’r ymholiadau hyn ac yn ymdrin â rhai o’r gwelliannau mwy diweddar a wnaed gan y CMS.
9. Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r prif bwyntiau a wnaed gan ymatebwyr ac yn rhoi trosolwg o’r camau nesaf, gan gynnwys sut y bydd y Llywodraeth yn bwrw ymlaen â’r cynigion hyn.
10. Mae’n bwysig nodi na ddylai safbwyntiau a gesglir drwy ymgynghoriad cyhoeddus gael eu hystyried o reidrwydd fel rhai sy’n cynrychioli safbwyntiau’r boblogaeth ehangach. Yn hytrach, dyma farn grŵp hunan-ddethol o bobl a oedd yn ymwybodol o’r ymgynghoriad, sydd â diddordeb yn y pwnc, ac a ddewisodd gymryd rhan.