Publication

Crynodeb o’r ymatebion ac ymateb y llywodraeth

Updated 18 December 2024

Cyflwyniad

Ym mis Hydref 2024, lansiodd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd, yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon (DAERA), ymgynghoriad 6 wythnos ar welliannau i Atodiad A o’r Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd. Cafodd y drafft diwygiedig Atodiad A o’r Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd, a oedd yn destun ymgynghoriad, ei baratoi ar y cyd gan yr awdurdodau polisi pysgodfeydd.

Mae’r ddogfen hon yn darparu’r ‘crynodeb o ymatebion’ a gafwyd i’r ymgynghoriad hwnnw, yn ogystal â chyd-ymateb llywodraethau’r DU.

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a DAERA yn cydweithio’n gynhyrchiol ar reoli pysgodfeydd, yn unol â’r Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd er mwyn cyfrannu at gyflawni amcanion pysgodfeydd Deddf Pysgodfeydd 2020 (y Ddeddf). Yn ei dro, bydd hyn yn gwireddu gweledigaeth y DU ar gyfer cefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel a biolegol-amrywiol.

Cefndir

Mae’r Ddeddf yn darparu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer rheoli stociau pysgod ac amgylchedd morol y DU yn gynaliadwy trwy 8 amcan pysgodfeydd. O dan y Ddeddf, mae’n ofynnol i’r awdurdodau polisi pysgodfeydd nodi polisïau ar gyfer cyflawni’r amcanion hyn, neu gyfrannu at gyflawni’r amcanion hyn mewn Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd. Cyhoeddwyd y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd cyntaf, a’r un cyfredol, ar 23 Tachwedd 2022.

Un o’r dulliau allweddol o wireddu’r dyheadau polisi a nodir yn y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd yw’r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd. Mae’r Ddeddf yn diffinio Cynllun Rheoli Pysgodfeydd fel dogfen sy’n amlinellu’r polisïau sydd â’r nod o adfer un neu fwy o stociau pysgod môr i lefelau cynaliadwy, neu eu cadw ar lefelau cynaliadwy.

O dan y Ddeddf, mae’n rhaid i awdurdodau polisi pysgodfeydd baratoi a chyhoeddi pob Cynllun Rheoli Pysgodfeydd yn unol â’r amserlen a nodir yn Atodiad A y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd. Mae’r Atodiad hwn hefyd yn darparu’r rhestr a gynigir i’r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd; pa awdurdod polisi pysgodfeydd sy’n gyfrifol am gydlynu’r gwaith o baratoi a chyhoeddi pob Cynllun Rheoli Pysgodfeydd; pa stociau, math o bysgota ac ardal ddaearyddol sydd wedi’u cynnwys ym mhob Cynllun Rheoli Pysgodfeydd.

Roedd yr ymgynghoriad yn ymwneud yn unswydd â’r manylion yn yr Atodiad ac, yn benodol, yn cynnig diwygio terfynau amser cyhoeddi’r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd. O ganlyniad i brofiad yr awdurdodau polisi pysgodfeydd hyd yma o gyflawni rhaglen waith y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd (gan gynnwys cyhoeddi’r 5 Cynllun cyntaf ym mis Rhagfyr 2023), daeth yn amlwg nad oedd bellach yn bosibl cyhoeddi’r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd sy’n weddill yn unol â’r terfynau amser gwreiddiol a nodwyd yn Atodiad A y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd. Cafodd yr amserlenni eu heffeithio gan amryw ffactorau, gan gynnwys yr angen am amser digonol i ymgysylltu â rhanddeiliaid, newidiadau i gyngor gwyddonol a’r saib gofynnol yn y gwaith yn sgil cyfnod Etholiad Cyffredinol 2024 y DU.

Yn ogystal, roedd yr ymgynghoriad yn cynnig Cynllun Rheoli Pysgodfeydd newydd yng Ngogledd Iwerddon, ac roedd yn ceisio barn ynghylch a ddylai Gweinidogion Cymru barhau fel awdurdod cyfrifol am baratoi a chyhoeddi’r Cynlluniau hynny sy’n cwmpasu parth Cymru yn unig.

Roedd ymgynghori ar y diwygiadau arfaethedig hyn i Atodiad A y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd yn gyfle hefyd i wneud rhai newidiadau technegol a newidiadau eraill i rai Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd, er enghraifft, i’r stociau a’r ardaloedd daearyddol a oedd wedi’u cynnwys, er mwyn sicrhau bod y cynlluniau’n cyd-fynd â realiti rheoli pysgodfeydd a’r wyddoniaeth sydd ar gael.

Trosolwg o ymatebion

Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar ddiwygiadau i Atodiad A o’r Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd ddydd Iau 10 Hydref 2024 am 6 wythnos, gan gau ddydd Iau 21 Tachwedd. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad gan ddefnyddio CitizenSpace (offeryn ymgynghori ar-lein Defra).

Daeth cyfanswm o 39 o ymatebion i law, 32 trwy CitizenSpace a 7 drwy e-bost, gan amryw o sefydliadau ac unigolion. Maent wedi’u grwpio’n gategorïau yn seiliedig ar sut y gwnaeth ymatebwyr nodi eu hunain yn eu hymatebion:

Buddiant yr ymatebwyr Nifer yr ymatebwyr
Sector dal 12
Sefydliad Cynhyrchwyr 5
Pysgota Môr Hamdden 3
Llywodraeth neu lywodraeth leol 5
UE amgylcheddol neu arfordirol arall 1
Ddim yn unigolyn (yn ymateb ar ran cwmni neu grŵp buddiant) 11
Arall 2
Cyfanswm 39

Nodir rhestr o’r sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn Atodiad 1.

Methodoleg

Roedd pob cwestiwn ymgynghori yn rhoi opsiwn “ydw”, “nac ydw” neu “dim barn” i ymatebwyr, yn ogystal â’r cyfle i nodi sylwadau ysgrifenedig. Mae’r ymatebion “ydw”, “nac ydw” a “dim barn” wedi’u meintioli yn y crynodeb o’r ymatebion dan sylw isod. Ochr yn ochr â hynny, mae unrhyw sylwadau ysgrifenedig a ddarparwyd gan ymatebwyr (ymatebion ansoddol) wedi cael eu dadansoddi a’u hystyried yn llawn gan yr awdurdodau polisi pysgodfeydd. Mae’r crynodeb o’r ymatebion i bob cwestiwn yn cyfuno’r dadansoddiad meintioledig ac ansoddol o’r ymatebion a ddaeth i law.

Crynodeb o’r ymatebion fesul cwestiwn

Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno â’r dyddiadau cyhoeddi newydd arfaethedig ar gyfer yr FMPs a nodir yn Nhabl 1 yn y ddogfen ymgynghori hon?

Ymateb Nifer yr ymatebion
Ydw 31
Nac ydw 7
Dim barn 1

O’r 38 ymatebydd a roddodd farn ar y cwestiwn hwn, roedd 31 yn cefnogi’r cynnig i ddiwygio’r terfynau amser cyhoeddi ar gyfer y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd fel y nodir yn Nhabl 1 y ddogfen ymgynghori.

O’r 31 ymateb cefnogol hynny, dywedodd 6 ymatebydd fod terfynau amser cyhoeddi’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd presennol, a gyhoeddwyd yn y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd yn 2022, yn rhy uchelgeisiol ac yn afrealistig yn y pen draw. Eu barn nhw oedd y byddai cael yr amser ychwanegol hwn, yn sgil estyn y terfynau amser cyhoeddi, yn arwain at gynlluniau mwy cadarn, mwy addas i’r diben ac o ansawdd uwch. Roedd rhai ymatebwyr o blaid y cynnig yn cydnabod nad yw’r oedi yn golygu nad oes modd rheoli pysgodfeydd yn y cyfamser. Dywedodd pum ymatebydd y byddai estyn y terfynau amser ar gyfer cyhoeddi yn caniatáu lefelau priodol o ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyfle i asesu’r dystiolaeth yn llawn fel bod y cynlluniau sy’n cael eu cyhoeddi yn effeithiol. Dywedodd sawl ymatebydd y byddent am i’r terfynau amser newydd hyn fod yn ddiwedd ‘cyfnod cyflawni’ gyda’r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn cael eu paratoi a’u cyhoeddi cyn gynted â phosibl o fewn y cyfnod hwnnw. Dylai’r estyniad fod yn gyfle i wella ansawdd y cynlluniau, gan sicrhau eu bod yn cyflawni amcanion y Ddeddf, ac na ddylai gael ei ddefnyddio i ohirio unrhyw benderfyniadau a wneir.

O’r 7 a ymatebodd ‘nac ydw’ i’r cwestiwn hwn, tynnwyd sylw at nifer o themâu cyffredin. Dywedodd rhai ymatebwyr y byddai unrhyw oedi yn cael effaith negyddol ar allu’r awdurdodau polisi pysgodfeydd i reoli stociau pysgod yn gynaliadwy. Roedd ymatebwyr eraill yn teimlo, oherwydd bod yr awdurdodau polisi pysgodfeydd eisoes ar ei hôl hi o ran ymrwymiadau amgylcheddol eraill, ei bod hi’n bwysig cadw at y terfynau amser a gyhoeddwyd yn flaenorol. Ar y llaw arall, awgrymodd nifer o ymatebwyr ddull amgen, megis cyhoeddi Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd gam wrth gam. Gofynnodd rhai ymatebwyr am sicrwydd bod Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn dal i gael eu blaenoriaethu, gan ofyn am eglurhad ar y terfynau amser a’r cynllun gwaith arfaethedig newydd i’w cyflawni. Hefyd, bod y mesurau hynny sydd wedi’u cynnwys yn y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn effeithiol wrth symud ymlaen.

Cwestiwn 3: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i gyflwyno’r newidiadau technegol a’r newidiadau eraill i FMPs arfaethedig fel y’u nodir yn Nhabl 2 yn y ddogfen ymgynghori hon?

Ymateb Nifer yr ymatebion
Ydw 29
Nac ydw 4
Dim barn 6

O’r 33 ymatebydd a roddodd farn ar y cwestiwn hwn, roedd 29 yn cefnogi’r cynnig i wneud y newidiadau technegol a’r newidiadau eraill i’r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd arfaethedig a nodwyd yn Nhabl 2 y ddogfen ymgynghori.

O’r 29 ymateb cefnogol hynny, dywedodd un ymatebydd y byddai’r newidiadau arfaethedig yn golygu bod y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd arfaethedig yn cyd-fynd â dull mwy synnwyr cyffredin. Nododd ymatebwyr eraill y byddai’r newidiadau arfaethedig yn helpu i addasu strategaethau rheoli pysgodfeydd gan ragweld heriau yn y dyfodol. Fe wnaeth llawer o ymatebwyr sylwadau hefyd ar newidiadau penodol a awgrymwyd i Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd arfaethedig, gyda nifer yn croesawu rhai newidiadau daearyddol fel cyfle i gefnogi datblygiad gwynt ar y môr, er enghraifft.

O’r 4 a ymatebodd ‘nac ydw’ i’r cwestiwn hwn, tynnwyd sylw at sawl thema gyffredin. Roedd nifer o’r ymatebwyr yn teimlo nad yw’r newidiadau arfaethedig yn cyd-fynd â’r cyngor gwyddonol presennol. Roedd ymatebwyr eraill yn anghytuno â’r cynnig o newidiadau penodol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ailenwi ac uno rhai Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd. Cynigiodd rhai ymatebwyr newidiadau atodol hefyd, gan awgrymu bod yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn ymestyn cylch gwaith ambell Gynllun Rheoli Pysgodfeydd, neu’n creu cynlluniau newydd, i gwmpasu rhywogaethau ychwanegol.

Cwestiwn 4: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i greu FMP newydd ar gyfer Gwichiaid yng Ngogledd Iwerddon fel y’i nodir yn Nhabl 3 yn y ddogfen ymgynghori hon?

Ymateb Nifer yr ymatebion
Ydw 11
Nac ydw 2
Dim barn 26

O’r 13 ymatebydd a roddodd farn ar y cwestiwn hwn, roedd 11 yn cefnogi’r cynnig i greu Cynllun Rheoli Pysgodfeydd newydd ar gyfer Gwichiaid yng Ngogledd Iwerddon.

O’r 11 ymateb cefnogol hynny, dywedodd un ymatebydd nad yw casglu gwichiaid yn cael ei reoleiddio yng Ngogledd Iwerddon a dywedodd, er nad yw’n cael ei gydnabod yn ffurfiol fel rhywogaeth ysglyfaethus allweddol ar gyfer adar hirgoes yn yr ardal, bod casglu gwichiaid yn cael effaith ar adar môr ac adar dŵr, o safbwynt cystadleuaeth am ysglyfaeth a tharfu cyffredinol ar y safleoedd dan sylw. Ychwanegodd yr ymatebydd hwnnw fod angen ystyried yr effeithiau amgylcheddol ehangach hyn wrth ddatblygu a gweithredu Cynllun Rheoli Pysgodfeydd newydd ar gyfer gwichiaid. Ni wnaeth saith o’r 11 ymatebydd roi unrhyw sylw penodol, gyda’r tri ymatebydd arall yn darparu sylwadau y tu allan i gwmpas y cwestiwn hwn. 

Mewn gwirionedd, dangosodd dadansoddiad o’r 2 ymateb nad oedd y ddau’n cefnogi’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd newydd ar gyfer gwichiaid am eu bod yn poeni nad oedd y cynnig yn mynd yn ddigon pell. O ystyried hyd a lled yr arfer heb ei reoleiddio o gynaeafu pysgod cregyn yng Ngogledd Iwerddon, awgrymodd y ddau y dylai’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd newydd gwmpasu rhywogaethau eraill o bysgod cregyn sy’n cael eu casglu â llaw megis wystrys, cregyn gleision a chocos, yn ogystal â gwichiaid. Eu barn nhw oedd y byddai’r dull hwn yn hwyluso strategaeth reoli ragweithiol a chynhwysfawr ar gyfer y prif rywogaethau o bysgod cregyn sy’n cael eu casglu â llaw.

Cwestiwn 5: Ydych chi’n cytuno â’r cynnig y dylai Gweinidogion Cymru fod yn awdurdod sy’n gyfrifol am baratoi a chyhoeddi FMPs sy’n cwmpasu parth Cymru yn unig?

Ymateb Nifer yr ymatebion
Ydw 13
Nac ydw 2
Dim barn 24

O’r 15 ymatebydd a roddodd farn ar y cwestiwn hwn, roedd 13 yn cefnogi’r cynnig y dylai Gweinidogion Cymru barhau’n awdurdod sy’n gyfrifol am baratoi a chyhoeddi’r Cynlluniau hynny sy’n cwmpasu parth Cymru yn unig.

Nid oedd dau ymatebydd yn cefnogi’r cynnig, ac ni chynigiodd un unrhyw sylwadau ychwanegol i esbonio’r rhesymeg y tu ôl i’w ymateb. Cododd yr ail ymatebydd bryderon am natur dros dro stociau pysgod a’r angen i Lywodraeth Cymru ymwneud â dyfroedd cyfagos.

Sylwadau a wnaed y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad

Cododd rhai ymatebwyr bynciau y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad hwn, nad oeddent yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar Atodiad A y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd. Felly, nid ydynt wedi cael eu hystyried yn yr ymateb hwn, ond mae’r holl sylwadau wedi’u trosglwyddo i’r timau polisi perthnasol ledled y DU. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y rhain yn faterion a fydd yn cael eu hystyried fel rhan o’r gwaith o baratoi a gweithredu Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd unigol. Roedd y materion a godwyd y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad yn cynnwys:

  • datblygu cynllun tystiolaeth a strategaeth dystiolaeth ar gyfer pob Cynllun Rheoli Pysgodfeydd
  • ystyried effaith dyfroedd cyfagos mewn awdurdodaethau y tu allan i’r DU
  • cyllid ar gyfer bylchau mewn tystiolaeth am stociau di-gwota
  • datblygu datblygiadau ynni gwynt ar y môr yng Ngogledd Iwerddon
  • ystyried ynni adnewyddadwy wrth ddatblygu mesurau rheoli Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Pysgod Cregyn di-gwota Gogledd Iwerddon

Ymateb y Llywodraeth

Er bod mwyafrif yr ymatebion yn cefnogi’r gwelliannau i Atodiad A, codwyd pryderon gan rai ymatebwyr ar ystod o faterion. Nodir ymatebion awdurdodau polisi pysgodfeydd i rai o’r themâu a’r pwyntiau allweddol isod yn unol â chwestiynau’r ymgynghoriad.

a) Newid dyddiadau ar gyfer cyhoeddi Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd

Mater:  Bydd estyn terfynau amser cyhoeddi Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn cael effaith negyddol ar allu awdurdodau polisi pysgodfeydd i reoli stociau pysgod yn gynaliadwy

Nid ydym o’r farn bod hynny’n wir. Mae gan yr awdurdodau polisi pysgodfeydd eisoes ddulliau hirsefydlog o reoli pysgodfeydd. Mae ein pysgodfeydd yn cael eu rheoleiddio’n effeithiol gyda rheolau, rheoliadau ac arferion rheoli sy’n cefnogi cyflawniad, neu’n cyfrannu at gyflawniad yr Amcanion Pysgodfeydd sydd yn y Ddeddf i wella cynaliadwyedd hirdymor ein stociau. 

Mae Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn fecanwaith pwysig ar gyfer sicrhau bod ein harferion rheoli yn gadarn a’u bod yn gallu sicrhau cynaliadwyedd ein stociau pysgod yn y tymor hwy. Bydd darparu amser ychwanegol i ddatblygu’r cynlluniau gydag ymgysylltu cryf gan ddiwydiant a’r holl asesiadau angenrheidiol, yn galluogi’r awdurdodau polisi pysgodfeydd i ystyried effeithiau posibl, diogelu rhag canlyniadau anfwriadol a chreu cynlluniau cadarn a fydd yn effeithiol wrth baratoi ein pysgodfeydd ar gyfer y dyfodol.

Gellir cyflwyno mesurau yr un fath i reoli ein pysgodfeydd yn gynaliadwy a diogelu’r stociau pysgod os bydd angen cyn rhoi’r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd ar waith.

Mater: Sut gall grwpiau â buddiant fod yn hyderus y bydd y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd sy’n weddill yn cael eu cyhoeddi o fewn y terfynau amser diwygiedig? A fyddai modd byrhau estyniad y terfynau amser cyhoeddi i ddiwedd 2025 yn hytrach na diwedd 2026 fel y cynigir yn yr ymgynghoriad?

Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i sicrhau bod y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn cyflawni’r gofynion a amlinellir yn y Ddeddf. Fodd bynnag, yn sgil ein profiad gyda’r cynlluniau hynny a gyhoeddwyd yn 2023, rydym wedi dysgu bod eu cyflawni yn broses gymhleth. Bydd estyn y terfynau amser ar gyfer cyhoeddi’r rhan fwyaf o’r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd o 2 flynedd yn rhoi digon o amser i’r awdurdodau polisi pysgodfeydd lunio’r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi datblygiad y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau mewnbwn amlasiantaethol, bydd yn darparu cyfle i gynhyrchu asesiadau, er enghraifft Asesiadau Amgylcheddol Strategol, ac i ymgysylltu’n ystyrlon â rhanddeiliaid. 

Deallwn fod rhanddeiliaid yn awyddus i’r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd fod ar waith. Fodd bynnag, mae rhanddeiliaid hefyd am gael gwrandawiad ac mae’n bwysig ein bod yn darparu’r gofod i hynny ddigwydd ac i’r safbwyntiau hynny gael eu hystyried yn iawn. Roedd sawl ymateb i’r ymgynghoriad yn adlewyrchu’r pwynt hwn, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cymryd digon o amser i sicrhau Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd addas i’r diben, sy’n adlewyrchu gofynion y Ddeddf yn gywir. Croesawyd yr ymrwymiad i broses ymgysylltu ystyrlon â rhanddeiliaid fel sbardun ar gyfer yr estyniad. Serch hynny, roedd rhai ymatebwyr yn glir y dylid cyhoeddi pob Cynllun cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl ac na ddylid oedi y tu hwnt i’r terfynau amser diwygiedig. 

Gan bwyso ar y profiad a gafwyd wrth gyhoeddi’r 5 Cynllun Rheoli Pysgodfeydd cyntaf ym mis Rhagfyr 2023, credwn fod cwblhau pob un o’r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd sy’n weddill o fewn 2 flynedd fan bellaf i’w terfynau amser gwreiddiol yn realistig.

Roedd rhai ymatebion am weld llinell amser yn cael ei chyhoeddi gyda cherrig milltir yn olrhain cynnydd Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd dros y 24 mis nesaf. Roedd eraill am weld cynllun ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y dyfodol, gan bwysleisio ei bwysigrwydd a’r angen i ddefnyddio’n llawn gyfnod y dyddiad cau estynedig. Bydd y ddau bwynt pwysig hyn yn cael eu codi fel rhan o ddatblygiad pob cynllun unigol.

Roedd rhai am weld terfyn amser o flwyddyn yn hytrach na 2 yn achos rhai o’r cynlluniau. Ni fyddai estyniad o flwyddyn yn unig yn rhoi digon o amser i’r awdurdodau polisi pysgodfeydd gwblhau’r gwaith sydd ei angen i baratoi Cynllun Rheoli Pysgodfeydd a fyddai’n cynnwys ymgysylltu’n ystyrlon â rhanddeiliaid. Fodd bynnag, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i gamau nesaf y gwaith ar y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd sydd eto i’w cyhoeddi cyn gynted â phosibl. Gwneir pob ymdrech i’w cyflawni cyn y dyddiadau cyhoeddi diwygiedig.

b) Newidiadau technegol a newidiadau eraill i Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd arfaethedig

Roedd y materion a godwyd mewn ymateb i’r cwestiwn ar newidiadau technegol yn cynnwys:

Mater: Pryder ynghylch creu Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Penfras Môr y Gogledd

Codwyd rhai pryderon am uno Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd Penfras Môr y Gogledd a Gorllewin yr Alban, er bod ymatebwyr yn cydnabod ei fod yn adlewyrchu’r cyngor gwyddonol diweddaraf. Roeddent yn teimlo y gellid colli manylion sy’n berthnasol i rai o’r is-stociau a bod yn rhaid i’r cynllun cyfun ystyried y gwahaniaethau yn yr is-bysgodfeydd hyn megis y Clyde, Minch a’r Hebrides Mewnol.

Mae’r cynnig hwn yn adlewyrchu’r ddealltwriaeth wyddonol ddiweddaraf o’r stoc, gan sicrhau bod y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn cyd-fynd â strwythurau Cyngor Rhyngwladol ar gyfer Archwilio’r Môr (ICES) Bydd unrhyw fesurau rheoli perthnasol, ardal-benodol, ar gyfer Môr y Gogledd a Gorllewin yr Alban yn cael eu hystyried, yn ôl y gofyn, wrth i’r cynllun gael ei ddatblygu.

Mater: Galw ar rai Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd i gwmpasu rhywogaethau ychwanegol

Roedd yna alw am i Gynllun Rheoli Pysgodfeydd pysgod cregyn di-gwota Gogledd Iwerddon beidio â chael ei gyfyngu i gynnwys dim ond crancod, cimychiaid a chregyn bylchog.  

Mae’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd yn cynnwys y 5 prif rywogaeth pysgod cregyn (sy’n stociau di-gwota ar hyn o bryd) sy’n cael eu glanio yng Ngogledd Iwerddon, gyda’r  Sefydliad Bwyd-amaeth a’r Biowyddorau yn cyhoeddi asesiadau stoc blynyddol ar eu cyfer. Mae’r rhywogaethau pysgod cregyn di-gwota presennol hyn yn cynnwys cranc coch, cranc llygatgoch, cimwch, cregyn y brenin a chregyn y frenhines.

Efallai y bydd Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd ar gyfer pysgod di-gwota eraill a ddelir yn nyfroedd Gogledd Iwerddon yn cael eu hystyried yn y dyfodol os bodlonir meini prawf y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd ar gyfer cynnwys stoc benodol mewn Cynllun Rheoli Pysgodfeydd a bod y wyddoniaeth sydd ar gael yn cefnogi’r gwaith paratoi a chyhoeddi.

Mae teitl y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd hwn yn adlewyrchu’r ffaith bod y rhywogaethau a gwmpesir yn stociau “di-gwota” ar hyn o bryd ac nid yw o reidrwydd yn awgrymu na fydd rheolaeth ar ffurf cwotâu yn cael ei hystyried yn y dyfodol.

Mater: Creu Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd newydd

Roedd yna alw am greu Cynllun ychwanegol newydd ar gyfer Gogledd Iwerddon i gynnwys morgathod (‘skates’ a ‘rays’). Mae ffocws presennol DAERA ar reoli’n effeithiol gadwraeth rhywogaethau elasmobraciaid â blaenoriaeth cwota a di-gwota.

Er mwyn datblygu cyngor rheoli cadwraeth penodol, gofynnir am wybodaeth allweddol ar rywogaethau morgathod yn nyfroedd Gogledd Iwerddon drwy Strategaeth Gadwraeth Elasmobranciaid DAERA. Mae rhai rhywogaethau sydd wedi’u cynnwys yn y strategaeth yn rhan o’r ddalfa fwyaf a ganiateir (TAC) ar gyfer morgathod o fewn ardaloedd ICES 6a a 7a a gellid o bosibl eu cynnwys mewn Cynllun Rheoli Pysgodfeydd morgathod yn y dyfodol pe bai’r meini prawf a nodir yn y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd ar gyfer cynnwys stoc benodol mewn Cynllun Rheoli Pysgodfeydd yn cael eu bodloni. 

Roedd awgrym hefyd y gellid dod â’r ci pigog i mewn i Gynllun Rheoli Pysgodfeydd. Cynghorwyd pennu TAC 2 flynedd gychwynnol yn dilyn cynnydd nodedig mewn stoc er mwyn osgoi gorbysgota. Am y rheswm hwn, mae wedi’i gynnwys yn Strategaeth Cadwraeth Elasmobranciaid. Os caiff digon o ddata ei gasglu ar lefelau stoc yn dilyn y cyfnod TAC 2 flynedd, a bod y meini prawf a nodir yn y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd yn cael eu bodloni ar gyfer cynnwys stoc benodol mewn Cynllun Rheoli Pysgodfeydd, gallai DAERA ystyried cynllun ar gyfer y ci pigog.

Mater: Dylai enwau rhai Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd newid

Sylwodd un ymatebydd fod y cyfeiriad yn nheitl y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn Moch yn cyfeirio at ddyfroedd Cymru yn hytrach nag ardal neu barth Cymru a bod hynny’n anghyson â hyd a lled deddfwriaeth bresennol Cymru ar reoli’r stociau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod y defnydd o ‘barth Cymru’ yn fwy cywir a bydd yn gwneud y newid hwn. Felly bydd y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn Moch yn nyfroedd Cymru yn troi’n Gynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn Moch ym mharth Cymru. Er cysondeb, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn newid enw’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd  Crancod a Chimychiaid Cymru i fod yn Gynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid ym mharth Cymru, ar yr un sail.

Mater: A yw’r gwelliannau arfaethedig yn cyd-fynd â chyngor gwyddonol?

Holodd un ymatebydd a oedd y gwelliannau i Atodiad A y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd a gynigiwyd yn yr ymgynghoriad yn cyd-fynd â chyngor gwyddonol. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn ymwybodol o’r ffaith nad yw rheoli pysgodfeydd yn gweithredu mewn amgylchedd digyfnewid. Mae stociau pysgod yn newid yn barhaus, ac mae gwyddoniaeth yn esblygu’n gyson. Rydym yn ystyried hynny wrth ddatblygu Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd fel eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn adlewyrchu’r sefyllfa ehangach. Cyn belled ag y bo modd, byddwn yn sicrhau bod ein dull rheoli yn ymatebol i gyngor gwyddonol sy’n esblygu.

Mater: Dim diweddariad i’r Asesiad Effaith Naratif (NIA)

Roedd un ymatebydd yn teimlo y dylid gwneud asesiad o effaith gohirio’r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd am 2 flynedd oherwydd gallai’r stociau neu’r amodau amgylcheddol fod wedi gwaethygu yn y cyfnod hwnnw.

Rydym yn gwerthfawrogi’r pwynt hwn a bydd effaith estyn amserlen y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn cael ei hystyried fel rhan o’r asesiadau effaith a gaiff eu paratoi ar gyfer y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd unigol neu wrth eu paratoi ar wahân ar gyfer polisïau penodol.

c) Cynllun Rheoli Pysgodfeydd newydd ar gyfer Gwichiaid yng Ngogledd Iwerddon

O ystyried y bygythiad a geir o gasglu â llaw heb ei reoleiddio yng Ngogledd Iwerddon, roedd galw am ehangu’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd newydd ar gyfer Gwichiaid yng Ngogledd Iwerddon i gynnwys rhywogaethau eraill a gesglir yn y parth rhynglanwol fel cregyn gleision, wystrys a chocos.

Mae DAERA yn derbyn y cais i ehangu cwmpas y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Gwichiaid i gynnwys rhywogaethau eraill o bysgod cregyn sy’n cael eu casglu â llaw. Adlewyrchir hyn yn enw’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd newydd a fydd yn ymddangos yn Atodiad A y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd: Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Casglu Pysgod Cregyn â llaw yn ardal rhynglanwol Gogledd Iwerddon. Bydd rhestr y rhywogaethau yn y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd hwn nawr yn cynnwys cregyn gleision, wystrys, cocos a chyllyll môr.

d) Newidiadau i’r awdurdodau sy’n gyfrifol am baratoi a chyhoeddi Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd

Gyda’r cwestiwn hwn, codwyd pryder am i ba raddau mae pysgod yn symud ar draws ffiniau. Roedd yn ystyriaeth ganolog a lywiodd y cynnig i Lywodraeth Cymru aros fel cyd-awdurdod yn y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd hynny, a gydlynir gan Weinidogion yr Alban, lle maen nhw’n ymestyn i barth Cymru neu’n gyfagos iddynt. Mae Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i fabwysiadu ymagwedd gymesur tuag at reoli pysgodfeydd. Fel y noda’r ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru o’r farn mai’r awdurdodau hynny sydd â chyfrifoldebau rheoleiddio a/neu fuddiant uniongyrchol mewn pysgodfeydd yn yr ardaloedd sydd â stociau a gwmpesir gan y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd ddylai ddylanwadu ar gamau rheoli sy’n ymwneud â gorbysgota, agweddau economaidd-gymdeithasol a rhyngweithiadau ecosystemau.  

O ran cydbwysedd, ac am y rhesymau a nodir yn yr ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â’r cynigion yr ymgynghorwyd yn eu cylch.

Crynodeb o’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i Atodiad A y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd

a) Newid dyddiadau cyhoeddi Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd

Bydd terfynau amser pob Cynllun Rheoli Pysgodfeydd yn cael eu diwygio fel y nodir yn y ddogfen ymgynghori. Mae’r rhain wedi’u nodi yn y fersiwn ddiwygiedig o Atodiad A o’r Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd.

b) Newidiadau technegol a newidiadau eraill i Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd arfaethedig

Bydd yr holl newidiadau technegol a newidiadau eraill yn cael eu mabwysiadu fel y nodir yn y ddogfen ymgynghori. Mae’r rhain wedi’u nodi yn y fersiwn ddiwygiedig o Atodiad A o’r Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd.

c) Cynllun Rheoli Pysgodfeydd newydd ar gyfer Gwichiaid yng Ngogledd Iwerddon

Bydd cwmpas y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Gwichiaid yng Ngogledd Iwerddon a gynigiwyd yn yr ymgynghoriad yn cael ei ehangu i gynnwys pysgod cregyn eraill a gesglir â llaw gyda theitl newydd ar gyfer y cynllun: Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Casglu Pysgod Cregyn â llaw yn ardal rhynglanwol Gogledd Iwerddon.

d) Newidiadau i’r awdurdodau sy’n gyfrifol am baratoi a chyhoeddi Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd

Bydd diwygiadau’n cael eu gwneud i’r awdurdodau sy’n gyfrifol am baratoi a chyhoeddi Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd fel y nodir yn yr ymgynghoriad ac yn Atodiad A y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd. O ganlyniad, ni fydd Gweinidogion Cymru bellach yn cael eu rhestru fel awdurdod sy’n gyfrifol am baratoi a chyhoeddi’r 18 o Gyd-Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd (y mae Gweinidogion yr Alban yn Awdurdod Cydlynu arnynt) ac nad ydynt yn berthnasol i barth Cymru nac i ddyfroedd cyfagos Cymru.

e) Newidiadau eraill sy’n deillio o ymatebion i’r ymgynghoriad

Bydd Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn Moch yn nyfroedd Cymru yn cael ei ailenwi’n Gynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn Moch ym mharth Cymru. Er cysondeb, bydd enw Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid Cymru yn cael ei newid i Gynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid ym mharth Cymru.

Bydd yr holl newidiadau a restrir uchod, a geir yn yr Atodiad A diwygiedig i’r Cyd-ddatganiadar Bysgodfeydd yn berthnasol ar unwaith.

Y camau nesaf

Mae’r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn fecanwaith pwysig ar gyfer cyflawni uchelgeisiau’r DU i sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy o’r radd flaenaf. Bydd gwaith i gyflawni hyn yn parhau gan gadw at y terfynau amser ar gyfer cyhoeddi a nodir yn Atodiad A diwygiedig y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd. Fodd bynnag, ni fydd y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn aros yn ddigyfnewid. Bydd y cynlluniau yn addasu ac yn esblygu dros amser wrth i dystiolaeth bellach ddod i’r fei ac wrth i’r mesurau sydd wedi’u cynnwys yn y cynlluniau gael eu rhoi ar waith. 

Rhaid adolygu pob cynllun o leiaf bob 6 blynedd ar ôl ei gyhoeddi, neu’n gynt os oes angen, a’i ddiwygio neu ei ddisodli (yn dilyn ymgynghoriad) er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n addas i’r diben o gyflawni ei ganlyniadau bwriedig.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau polisi pysgodfeydd adrodd ar sut y caiff y polisïau a gynhwysir yn y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd eu gweithredu a hefyd sut y mae’r polisïau Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd hynny wedi cyflawni, neu wedi cyfrannu at gyflawni’r 8 amcan pysgodfeydd 3 blynedd ar ôl cyhoeddi’r Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd. Disgwylir cyhoeddi’r adroddiad ym mis Tachwedd 2025. Hefyd, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r adroddiad hwn nodi’r cynnydd sy’n cael ei wneud i weithredu’r polisïau sy’n rhan o’r Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd a sut mae’r polisïau hynny wedi effeithio ar lefelau stociau pysgod môr.

Atodiad 1: Rhestr o’r sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad

Cyflwynir y rhain yn nhrefn yr wyddor. Sylwch nad yw rhai ymatebwyr a oedd am aros yn gyfrinachol, neu na wnaeth ddarparu ymateb i’r cwestiwn cyfrinachedd, yn ymddangos ar y rhestr hon. Fodd bynnag, mae eu barn yn dal i fod yn sail i’r dadansoddiad o’r ymgynghoriad hwn ac maent wedi’u cynnwys yn y tablau a gyflwynir drwyddi draw.

  • Angling Cymru
  • Angling Trust
  • Anglo Northern Ireland Fish Producers Organisation (ANIFPO)
  • Benone Fishing Company LTD
  • Blue Marine Foundation
  • Community of Arran Seabed Trust (COAST)
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cymdeithas Pysgotwyr Cymru
  • Humberside Fish Producers Organisation
  • Institute of Fisheries Management
  • National Federation of Fishermen’s Organisations
  • Natural England
  • North Channel Wind
  • North Sea Shellfish
  • Oceana UK
  • Open Seas
  • RenewableNI
  • Scottish Fishermen’s Federation
  • Scottish Pelagic Fishermen’s Association
  • Scottish White Fish Producers Association
  • Shark Trust
  • Shetland Fishermen’s Association
  • South Coast Angling Club
  • South Western Fish Producers Organisation
  • Southern Inshore Fisheries & Conservation Authority (IFCA)
  • SSE Renewables
  • Sustainable Inshore Fisheries Trust (SIFT)
  • Ulster Wildlife
  • Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)