Cynllun Blynyddol Drafft yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) 2025 i 2026
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
View this consultation in English
Mae holl gwestiynau’r ymgynghoriad wedi’u nodi ar ddiwedd adran berthnasol y Cynllun Blynyddol drafft hwn, fel a ganlyn:
Cystadleuaeth a Diogelu Defnyddwyr i sbarduno twf economaidd, cyfleoedd a ffyniant i’r DU
- ym mha sectorau neu farchnadoedd y mae angen ymyriadau o blaid cystadleuaeth iddatgloi twf a ffyniant hirdymor
- sut gallai’r CMA ddefnyddio ein swyddogaethau statudol yn fwyaf effeithiol i helpu iwireddu’r cyfleoedd hyn
- sut y gellir defnyddio pŵer cystadleuaeth, a gwaith y CMA, yn fwyaf effeithiol i gefnogiStrategaeth Ddiwydiannol llywodraeth y DU
Diweddaru ein Cynllun Strategol a Blynyddol
- ydych chi’n cytuno â Blaenoriaethau Tymor Canolig a Meysydd Ffocws arfaethedig yrAwdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar gyfer 2025 i 2026
- a oes unrhyw feysydd eraill y dylem eu blaenoriaethu yn ystod 2025 i 2026
- pa dueddiadau neu rymoedd tymor canolig i dymor hir y dylem eu hystyried wrth i niadolygu ein strategaeth
Esblygu’r ffordd rydym yn gweithio
pa agweddau ar brosesau’r CMA sy’n gweithio’n dda yn eich barn chi? Pa feysydd syddangen eu gwella yn eich barn chi, a sut
- ydych chi’n gweld cyfleoedd i’r CMA gryfhau cymesuredd, rhagweladwyedd, effeithiolrwydd gweithdrefnol a chyflymder ein gwaith ymhellach, sy’n cyd-fynd âchyflawni ein rhwymedigaethau statudol
- pa enghreifftiau perthnasol o arferion gorau rhyngwladol o ran rheoli uno, gorfodicystadleuaeth neu feysydd eraill y gallem ddysgu ohonynt (gan gofio gwahaniaethaucyfreithiol a gweithredol mewn cyfundrefnau ledled y byd)
- pa opsiynau y dylem eu hystyried wrth i ni fonitro, darparu tystiolaeth ac adrodd ar einheffaith gadarnhaol ar dwf economaidd, gan gynnwys yn ein Hadroddiad Blynyddol a’nCyfrifon