Publication

Crynodeb o'r ymatebion ac ymateb y llywodraeth

Updated 12 March 2025

Cyflwyniad

Rhwng 12 Tachwedd a 23 Rhagfyr 2024, cynhaliodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynglŷn â chynigion i ddiwygio Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013.

Cynigiwyd newidiadau i 3 diwygiad craidd, yn cynnwys dileu’r ddarpariaeth dad-ddynodi awtomatig o’r Rheoliadau (diwygiad craidd 1); y posibilrwydd o wella ansawdd dŵr safle i o leiaf ‘digonol’ gan ystyried diogelwch corfforol a mesurau diogelu amgylcheddol cyn dynodi’n derfynol (diwygiad craidd 2); a chael gwared â dyddiadau penodol y tymor ymdrochi sy’n cael ei fonitro o’r Rheoliadau (diwygiad craidd 3).

Hefyd, ymgynghorwyd ynglŷn â 9 diwygiad technegol (gweler isod), a 2 ddiwygiad ehangach y gellid eu cynnwys mewn camau diwygio yn y dyfodol, yn cynnwys egluro ac ehangu’r diffiniad o ‘ymdrochwyr’ i gynnwys defnyddwyr dŵr eraill (diwygiad ehangach 1), a defnyddio nifer o bwyntiau monitro ym mhob safle dŵr ymdrochi lle bo’n ddefnyddiol i ddosbarthu ansawdd dŵr (diwygiad ehangach 2). Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r adborth a gafwyd ynglŷn â’r ymgynghoriad hwnnw, ynghyd ag ymateb Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i’r adborth.

Cefndir

Rheolir dyfroedd ymdrochi ar hyn o bryd o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ( ‘y Rheoliadau’) sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr. Fe wnaeth y Rheoliadau drosi Cyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi’r UE 2006 yn gyfraith ddomestig ac fe’u cymhathwyd i gyfraith y DU o dan Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023.

Ar ôl cael eu dynodi’n derfynol fel dyfroedd ymdrochi, mae dyfroedd arfordirol a mewndirol yn cael eu monitro gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r gwaith monitro hwn i lywio negeseuon iechyd y cyhoedd ar y risgiau iechyd sy’n gysylltiedig ag ymdrochi, yn ogystal â nodi lle mae angen gwelliannau.

Mae newidiadau wedi bod o ran sut a ble mae pobl yn defnyddio dyfroedd ymdrochi ers cyflwyno’r Rheoliadau. Ar eu ffurf bresennol, mae’r Rheoliadau’n defnyddio dull ‘un ateb i bawb’ yn gyffredinol ar gyfer dynodiadau dyfroedd ymdrochi, monitro ansawdd dŵr a’r broses dad-ddynodi. Efallai y bydd manteision i ddiwygio’r Rheoliadau er mwyn rhoi mwy o ystyriaeth i ffactorau safle-benodol yn y prosesau hyn. Diben y Rheoliadau yw sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu drwy ddefnyddio dulliau monitro a system ddosbarthu. Bwriad llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yw mynd ar drywydd cynnydd yn y gwaith o ddynodi safleoedd dŵr ymdrochi diogel.

Am y rhesymau hyn, mae Defra a Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y cyd ar fesurau diwygio posibl i wella’r Rheoliadau presennol a chynyddu hyblygrwydd. Bydd y penderfyniadau ynghylch a ddylid gwneud deddfwriaeth i gyflwyno diwygiadau yn cael eu gwneud yn annibynnol gan Weinidogion perthnasol mewn perthynas â’u hawdurdodaethau cenedlaethol eu hunain. Mae’r Rheoliadau’n cael eu rhannu ar hyn o bryd, ond mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli dyfroedd ymdrochi yn annibynnol o fewn eu hawdurdodaeth genedlaethol eu hunain.

Rydym wedi cynnig 3 diwygiad craidd a 9 diwygiad technegol ac rydym wedi ceisio barn ynglŷn â 2 ddiwygiad ehangach.

Cwmpas yr ymgynghoriad

Rhoddwyd yr ymgynghoriad ar waith ar 12 Tachwedd 2024 a daeth i ben ar 23 Rhagfyr 2024. Fe’i cyhoeddwyd ar Citizen Space ac roedd ar agor i’r holl gyfranogwyr.

Methodoleg

Cafodd yr ymatebion ar Citizen Space eu lawrlwytho a’u casglu ynghyd er mwyn esgor ar ganlyniadau.

Roedd tîm o bobl yn gyfrifol am ddadansoddi’r ymatebion ar Citizen Space ac ar e-bost. Darllenwyd pob ymateb yn ei gyfanrwydd o leiaf ddwywaith, unwaith er mwyn nodi thema gychwynnol ac o leiaf unwaith gan berson gwahanol er mwyn sicrhau ansawdd.

Cafodd y templed ymateb ar e-bost ei gynnwys gyda’r ddogfen ymgynghori ar Citizen Space. Roedd hyn yn golygu bod modd dadansoddi cwestiynau meintiol ac ansoddol a oedd yn cyrraedd trwy e-bost.

Trosolwg o’r ymatebwyr

Cafwyd cyfanswm o 1526 o ymatebion yn Citizen Space a thrwy e-bost. Darparwyd templed e-bost i ymatebwyr ei lenwi yn dilyn yr un patrwm â’r arolwg ar-lein. Mae’r  canlyniadau hynny wedi eu cynnwys ochr yn ochr â’r ymatebion o Citizen Space. Cafwyd cyfanswm o 1333 o ymatebion yn Citizen Space ac ymatebion yn defnyddio’r templed e-bost.

Math o Ymatebwyr (Citizen Space a thempledi e-bost yn unig) Cyfanswm Canran o gyfanswm yr ymatebion (%)*
Fel aelod o’r cyhoedd â buddiant mewn dyfroedd ymdrochi 1084 81
Fel sefydliad anllywodraethol neu grŵp nid-er-elw arall sy’n ymhél â budd y cyhoedd 135 10
Fel awdurdod lleol 48 4
Fel busnes y gallai’r newidiadau yn y rheoliadau dyfroedd ymdrochi effeithio arno 29 2
Fel tirfeddiannwr preifat â dyfroedd ymdrochi neu ddyfroedd ymdrochi posibl ar ei dir 20 2
Fel cynrychiolydd cwmni dŵr 11 1
Fel ffermwr neu reolwr tir y gallai ei dir effeithio ar ansawdd dyfroedd ymdrochi lleol 3 0
Cymdeithas fasnach 1 0
Fel rhywun sy’n cynrychioli’r cyhoedd (er enghraifft, cynghorydd, AS) 0 0

*Sylwer: talgrynnwyd y canrannau i gyfanrifau ac efallai na fyddant yn gwneud cyfanswm o 100%. Ni wnaeth pawb a ymatebodd lenwi hwn, sy’n golygu ei fod 2 yn fyr

Yn ychwanegol at yr uchod, derbyniwyd ac archwiliwyd 185 o e-byst gan y cyhoedd a grwpiau pysgota (heb ddefnyddio templed yr ymgynghoriad), lle tynnwyd sylw at bryderon ynglŷn ag effaith bosibl y diwygiadau ar bysgotwyr. Canolbwyntiwyd yn bennaf ar Ddiwygiad Ehangach 1 (ehangu’r diffiniad o ‘ymdrochwyr’). Hefyd, derbyniwyd 10 o ymatebion eraill trwy e-bost – ni ddefnyddiwyd y templed ar gyfer yr ymatebion hyn ac nid oeddynt yn rhan o’r ymateb ymgyrch; cafodd yr ymatebion hyn eu dadansoddi ar wahân.

Trosolwg o’r ymatebion

O blith y 1526 o ymatebion a dderbyniwyd, cyflwynwyd 1274 trwy gyfrwng Citizen Space a chyflwynwyd 252 trwy e-bost.

Yn achos y rhai a ymatebodd trwy Citizen Space neu a gyflwynodd dempled e-bost, gofynnwyd iddynt ateb cymysgedd o gwestiynau testun agored a chaeedig. Nid atebwyd pob cwestiwn gan yr holl ymatebwyr, felly ni fydd y manylion isod bob amser yn cyrraedd y cyfanswm ar gyfer pob cwestiwn. Cafodd cwestiynau’r adran Asesiad Effaith (19-26) eu cyfyngu i fusnesau, cwmnïau dŵr, tirfeddianwyr, ffermwyr, awdurdodau lleol a sefydliadau anllywodraethol, ond fe wnaeth rhai unigolion ateb y cwestiynau hyn yn y templed e-bost a gyflwynwyd ganddynt.

Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr o blaid y 3 diwygiad craidd yr ymgynghorwyd yn eu cylch. Cafwyd ymateb cadarnhaol mewn perthynas â diweddaru’r system dyfroedd ymdrochi, yn enwedig ar gyfer y diwygiadau arfaethedig i ddileu’r ddarpariaeth dad-ddynodi awtomatig a chael gwared â dyddiadau penodol y tymor ymdrochi o’r Rheoliadau.

Mynegwyd ymatebion cadarnhaol a negyddol ynglŷn â’r 9 diwygiad technegol; ond roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr yn cytuno, yn hytrach nag yn anghytuno, â’r cynigion.

Ar ôl ceisio barn ynglŷn â’r ddau ddiwygiad ehangach, gwelwyd bod y mwyafrif o’r ymatebwyr yn gefnogol iddynt.

Nid yw’r crynodeb isod o’r ymatebion yn rhestr hollgynhwysfawr o’r holl syniadau a gyflwynwyd gan yr ymatebwyr, ond mae’n crynhoi’r pryderon, y safbwyntiau a’r allbwyntiau perthnasol mwyaf cyffredin. O’r herwydd, defnyddir amrywiaeth o dermau ansoddol, megis ‘nifer’, ‘rhai’, ‘mwyafrif/rhan fwyaf’, ‘ychydig’. Ceir manylion llawn am yr ymatebwyr yn Atodiad B.

Ymatebion fesul cwestiwn

Sylwer: talgrynnwyd y canrannau i gyfanrifau ac efallai na fyddant yn gwneud cyfanswm o 100%. Dim ond yr ymatebion meintiol ac ansoddol yn Citizen Space ac ar y templed e-bost y mae’r canlyniadau hyn yn eu cynrychioli. Cyfeirir at e-byst mewn mwy o fanylder yn nes ymlaen yn y ddogfen.

Diwygiad Craidd 1

Dileu’r ddarpariaeth dad-ddynodi awtomatig o’r Rheoliadau. Ar hyn o bryd, mae dyfroedd ymdrochi’n cael eu dad-ddynodi’n awtomatig ar ôl pum mlynedd o ddosbarthiad ‘gwael’ yn olynol.

Roedd 72% o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r cynnig hwn.

Roedd 17% o’r ymatebwyr yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf.

Dywedodd gweddill yr ymatebwyr nad oeddynt yn cytuno nac yn anghytuno, neu nad oeddynt yn gwybod.

Yn achos y busnesau a’r sefydliadau a gyflwynodd ymateb, roedd 66% ohonynt o blaid y diwygiad hwn ac roedd 15% ohonynt yn ei erbyn. Dywedodd y gweddill nad oeddynt yn cytuno nac yn anghytuno, neu nad oeddynt yn gwybod.

Y thema fwyaf cyffredin oedd bod y Rheoliadau cyfredol yn cefnogi diffyg gweithredu neu’n cefnogi’r arfer o roi’r gorau i geisio gwella safleoedd ymdrochi cyn cyrraedd y terfyn amser 5 mlynedd. Hefyd, nodwyd nad yw’r Rheoliadau’n ystyried y cylchoedd cyllido na’r amser a gymerir i’r gwelliannau ddechrau dangos effaith.

Diwygiad Craidd 2

Cynnwys y posibilrwydd o wella ansawdd dŵr safle i o leiaf ‘digonol’ yn ogystal â chaniatáu i ddiogelwch corfforol a mesurau diogelu amgylcheddol gael eu hystyried cyn dynodi’n derfynol.

Roedd 56% o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r cynnig hwn.

Roedd 32% o’r ymatebwyr yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf.

Dywedodd gweddill yr ymatebwyr nad oeddynt yn cytuno nac yn anghytuno, neu nad oeddynt yn gwybod.

Yn achos y busnesau a’r sefydliadau a gyflwynodd ymateb, roedd 50% ohonynt o blaid y diwygiad hwn ac roedd 37% ohonynt yn ei erbyn. Dywedodd y gweddill nad oeddynt yn cytuno nac yn anghytuno, neu nad oeddynt yn gwybod.

Iechyd a diogelwch oedd y mater a grybwyllwyd amlaf wrth ymateb i’r diwygiad arfaethedig hwn; yr ail fater a grybwyllwyd oedd pryderon ynglŷn â’r broses asesu dichonoldeb, yn benodol felly o ran tryloywder, cyfathrebu a’r adnoddau y byddai eu hangen.

Yn achos safleoedd heb eu dynodi, roedd yr ymatebwyr yn fwyaf pleidiol i ddefnyddio platfformau digidol a chyfathrebu amlsianel ar gyfer hysbysu’r cyhoedd ynglŷn â’r penderfyniad.

Diwygiad Craidd 3

Cael gwared â dyddiadau penodol y tymor ymdrochi sy’n cael ei fonitro o’r Rheoliadau. Byddai dyddiadau tymhorau’n cael eu symud i ganllawiau a fyddai’n caniatáu i Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru addasu’r dyddiadau i gyd-fynd yn well ag anghenion lleol yn y dyfodol.

Roedd 70% o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r cynnig hwn.

Roedd 19% o’r ymatebwyr yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf.

Dywedodd gweddill yr ymatebwyr nad oeddynt yn cytuno nac yn anghytuno, neu nad oeddynt yn gwybod.

Yn achos y busnesau a’r sefydliadau a gyflwynodd ymateb, roedd 66% ohonynt o blaid y diwygiad hwn ac roedd 19% ohonynt yn ei erbyn. Dywedodd y gweddill nad oeddynt yn cytuno nac yn anghytuno, neu nad oeddynt yn gwybod.

Y thema fwyaf cyffredin a grybwyllwyd gan yr ymatebwyr oedd y ffaith bod dyfroedd yn cael eu defnyddio at ddibenion hamdden drwy gydol y flwyddyn, a hefyd mynegodd nifer o’r ymatebwyr ddymuniad i fonitro a phrofi safleoedd ymdrochi drwy gydol y flwyddyn.

Diwygiadau Technegol 1-9

  1. Bod ag ardal ddiffiniedig ar gyfer pob dŵr ymdrochi
  2. Dileu’r gofyniad i gymryd sampl i ddod â digwyddiadau llygredd tymor byr (STP) i ben
  3. Cael gwared â’r terfyn amser o 7 diwrnod lle mae’n rhaid cymryd sampl newydd dan STP
  4. Dileu’r gofyniad i gymryd sampl cyn y tymor
  5. Pennu gwerth z y 95ed canradd i dri lle degol, yn hytrach na’r 2 le presennol
  6. Dileu’r gofyniad i nodi a darparu manylion cyswllt unrhyw berson sy’n gyfrifol am weithredu mewn perthynas ag STP mewn proffil dŵr ymdrochi
  7. Dileu gofyniad penodol i adnabod sampl a gwaith papur gan ddefnyddio inc annileadwy
  8. Dileu’r gofyniad i gymryd samplau eraill yn lle rhai a gollir yn ystod Sefyllfaoedd Anarferol
  9. Diwygio rheoliad 5(1)(a) i bennu dyddiad targed newydd ar gyfer dosbarthu’r holl ddyfroedd ymdrochi fel rhai ‘digonol’ o leiaf

Roedd 45% o’r ymatebwyr yn fodlon â’r 9 diwygiad technegol arfaethedig.

Nid oedd 36% o’r ymatebwyr yn fodlon â’r 9 diwygiad technegol arfaethedig.

Dywedodd gweddill yr ymatebwyr nad oeddynt yn gwybod.

Yn achos y busnesau a’r sefydliadau a gyflwynodd ymateb, roedd 39% ohonynt yn fodlon â’r diwygiadau technegol; nid oedd 42% ohonynt yn fodlon.

O blith y rhai a ddywedodd nad oeddynt yn fodlon, diwygiad technegol 2 – sef dileu’r gofyniad i gymryd sampl i ddod â digwyddiadau llygredd tymor byr (STP) i ben – oedd y diwygiad y soniwyd amdano yn fwyaf mynych (18%). Y diwygiad y soniwyd amdano yn fwyaf mynych wedyn oedd diwygiad 4, sef dileu’r gofyniad i gymryd sampl cyn y tymor (17%).

Yr opsiwn a ddewiswyd yn fwyaf mynych gan y rhai nad oeddynt yn fodlon oedd y gallai’r diwygiadau leihau’r wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd ynghylch pryd mae’n ddiogel iddynt ddefnyddio dŵr ymdrochi (25%). Hefyd, dywedodd 23% y gallai’r diwygiadau leihau trylwyredd y dulliau monitro.

Diwygiad Ehangach 1

Esbonio ac ehangu’r diffiniad o ‘ymdrochwyr’ i gynnwys defnyddwyr dŵr eraill. Ar hyn o bryd, caiff y gair ‘ymdrochwyr’ ei ddeall yn ôl ei ystyr gyffredin, sef nofwyr yn unig.

Roedd 90% o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r cynnig hwn.

Roedd 8% o’r ymatebwyr yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf.

Dywedodd gweddill yr ymatebwyr nad oeddynt yn cytuno nac yn anghytuno, neu nad oeddynt yn gwybod.

Yn achos y busnesau a’r sefydliadau a gyflwynodd ymateb, roedd 77% o blaid y diwygiad hwn ac roedd 18% yn ei erbyn. Dywedodd y gweddill nad oeddynt yn cytuno nac yn anghytuno, neu nad oeddynt yn gwybod.

Y thema fwyaf cyffredin ymhlith yr ymatebwyr oedd y dylai’r diffiniad gwmpasu’r holl ddefnyddwyr y gallai ansawdd dŵr y safle ymdrochi effeithio arnynt. Hefyd, nododd yr ymatebwyr fathau eraill o ddefnyddwyr dŵr nad oeddynt wedi’u cynnwys yng Nghwestiwn 27.

Cafwyd 1331 o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn ond roedd modd iddynt glicio ar sawl ateb sy’n egluro pam y mae cynifer o ymatebion.

Yn y tabl nodir y defnyddwyr dŵr y dywedodd yr ymatebwyr y dylid eu cynnwys yn y diffiniad o ‘ymdrochwyr’ yng Nghwestiwn 27.

Math o ddefnyddwyr O blith 1331 o ymatebwyr % o’r ymatebwyr
Pysgotwyr (pysgota) 742 56%
Caiacwyr/Canŵ-wyr 1166 88%
Padlfyrddwyr 1190 89%
Padlwyr (y rhai sydd yn y dŵr ond heb fod yn llwyr dan y dŵr) 1161 87%
Rhwyfwyr 1050 79%
Defnyddwyr cychod bach 876 66%
Syrffwyr 1193 90%
Nofwyr 1265 95%
Bordhwylwyr 1158 87%
Eraill* 360 27%

*Mae ‘eraill’ yn cynnwys chwaraeon a grybwyllwyd gan yr ymatebwyr ac na chawsant eu cynnwys yn y cwestiwn amlddewis, megis deifwyr, pobl gerllaw’r dŵr a defnyddwyr dŵr eraill.

Roedd y diwygiad hwn yn destun cryn bryder i bysgotwyr a grwpiau pysgota, a gyflwynodd ymatebion ymgyrch i’r ymgynghoriad. Byddwn yn mynd i’r afael â hyn yn ddiweddarach yn y ddogfen.

Diwygiad Ehangach 2

Defnyddio pwyntiau monitro niferus ym mhob safle dŵr ymdrochi i ddosbarthu ansawdd dŵr.

Roedd 91% o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r cynnig hwn.

Roedd 2% o’r ymatebwyr yn anghytuno neu’n anghytuno’n gryf.

Dywedodd gweddill yr ymatebwyr nad oeddynt yn cytuno nac yn anghytuno, neu nad oeddynt yn gwybod.

Yn achos y busnesau a’r sefydliadau a gyflwynodd ymateb, roedd 78% o blaid y diwygiad hwn ac roedd 6% yn ei erbyn. Dywedodd y gweddill nad oeddynt yn cytuno nac yn anghytuno, neu nad oeddynt yn gwybod.

Wrth esbonio eu cefnogaeth i’r diwygiad arfaethedig hwn, cyfeiriodd yr ymatebwyr yn fwyaf mynych at well cywirdeb, trylwyredd y data a gwell treiddgarwch; yr ail reswm mwyaf cyffredin a nodwyd oedd hyder ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Cyflwyniadau ychwanegol ac ymatebion e-bost a gyflwynwyd heb ddefnyddio’r templed

Derbyniwyd amrywiaeth eang o ymatebion ynglŷn â’r dystiolaeth a ddefnyddiwyd i lywio safbwyntiau.

Mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, awgrymodd nifer o ymatebwyr y gellid newid y drefn fonitro, megis yr hyn a gaiff ei brofi yn y samplau dŵr a’r modd y cynhelir y profion hynny. Hefyd, mynegwyd cefnogaeth a rhesymau dros ehangu’r diffiniad o ‘ymdrochwyr’. Byddwn yn ystyried y dystiolaeth hon wrth ddatblygu diwygiadau yn y dyfodol.

Ymatebion ymgyrch

Derbyniwyd 196 o ymatebion e-bost gan unigolion a grwpiau pysgota. Roedd y pryderon yn ymwneud yn bennaf â diwygiad ehangach 1, sy’n cynnig ehangu’r diffiniad o ‘ymdrochwyr’. Roedd a wnelo’r pryderon â’r risgiau amgylcheddol yn sgil y diwygiad arfaethedig; esgeulustod cyfreithiol ac ecolegol posibl a allai gynyddu’r pwysau ar rywogaethau dan fygythiad, megis yr Eog; a’r effaith ar hawliau a mwynhad pysgotwyr.

Roedd rhai o’r ymatebion e-bost hyn yn cynnwys templed e-bost a ddadansoddwyd ac a gynhwyswyd yn y canlyniadau swyddogol. Ceir rhagor o wybodaeth am Ddiwygiad Ehangach 1 isod.

Asesiad effaith

Gofynnwyd i’r rhai a oedd yn ymateb ar ran busnesau, cwmnïau dŵr, tirfeddianwyr, ffermwyr, awdurdodau lleol a sefydliadau anllywodraethol lenwi asesiad effaith yn ymwneud â’r diwygiadau arfaethedig.

O blith y rhai a atebodd:

  • Roedd 27% ohonynt o’r farn y byddai’r diwygiadau arfaethedig yn cael effaith economaidd gadarnhaol yn gyffredinol.
  • Roedd 15% ohonynt o’r farn y byddai’r diwygiadau arfaethedig yn cael effaith economaidd negyddol yn gyffredinol.
  • Roedd 30% ohonynt o’r farn y byddai’r diwygiadau arfaethedig yn cael cymysgedd o effeithiau cadarnhaol a negyddol.
  • Dywedodd 29% nad oeddynt yn gwybod neu eu bod o’r farn na fyddai’r diwygiadau arfaethedig yn arwain at unrhyw newid.

Effaith negyddol

O blith y rhai a ddywedodd y byddai’r diwygiadau arfaethedig yn cael effaith negyddol yn gyffredinol ac a atebodd gwestiwn 21, roedd 24% o’r farn y byddent yn cael effaith sylweddol iawn, roedd 52% o’r farn y byddent yn cael effaith sylweddol ac roedd 12% o’r farn y byddent yn cael effaith fach. Dywedodd gweddill yr ymatebwyr nad oeddynt yn gwybod.

Ymhlith y rhai a atebodd gwestiwn 20, roedd 12% o’r farn y byddai’r diwygiadau’n arwain at fwy na £1,000,000 o effaith negyddol bob blwyddyn pe baent yn cael eu cyflwyno.

Roedd 17% o’r farn y byddai’r diwygiadau’n arwain at lai na £10,000 o effaith negyddol bob blwyddyn pe baent yn cael eu cyflwyno.

Y pryder mwyaf cyffredin ymhlith yr ymatebwyr mewn perthynas â’r asesiad effaith oedd effaith y diwygiadau ar fioamrywiaeth a bywyd gwyllt. Yr ail bryder mwyaf cyffredin oedd effaith negyddol yn sgil defnydd cynyddol o ddyfroedd ymdrochi.

Effeithiau cadarnhaol a chymysg

O blith yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod o’r farn y byddai’r diwygiadau arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol yn gyffredinol ac a atebodd gwestiwn 24, roedd 7% o’r farn y byddent yn cael effaith sylweddol iawn, roedd 25% o’r farn y byddent yn cael effaith sylweddol ac roedd 22% o’r farn y byddent yn cael effaith fach. Dywedodd gweddill yr ymatebwyr nad oeddynt yn gwybod.

Ymhlith y rhai a atebodd gwestiwn 23, roedd 5% o’r farn y byddai’r diwygiadau’n arwain at fwy na £1,000,000 o effaith gadarnhaol bob blwyddyn pe baent yn cael eu cyflwyno.

Roedd 18% o’r farn y byddai’r diwygiadau’n arwain at lai na £10,000 o effaith gadarnhaol bob blwyddyn pe baent yn cael eu cyflwyno.

Wrth egluro pam y byddai’r diwygiadau’n cael effaith gadarnhaol, soniodd yr ymatebwyr yn fwyaf mynych am bwysigrwydd ansawdd dŵr. Pwysigrwydd iechyd a diogelwch y cyhoedd oedd yr ail reswm mwyaf cyffredin.

O blith yr ymatebwyr a ddywedodd y byddai’r diwygiadau arfaethedig yn cael cymysgedd o effeithiau cadarnhaol a negyddol, roedd y prif bryderon a grybwyllwyd yn ymwneud â monitro, cynnal profion a gorfodi. Y thema fwyaf cadarnhaol oedd effaith y diwygiadau ar y defnyddwyr dŵr eu hunain.

Ymateb llywodraeth y DU a’r camau nesaf

Yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol, mae Defra yn bwriadu bwrw ymlaen â’r diwygiadau rheoleiddio arfaethedig ar gyfer y 3 diwygiad craidd a’r 9 diwygiad technegol a nodir yn yr ymgynghoriad hwn.

Mae’r ymgynghoriad yn dangos mwyafrif mawr o blaid y ddau ddiwygiad ehangach (ehangu’r diffiniad o ‘ymdrochwyr’ a chyflwyno’r defnydd o bwyntiau monitro niferus ar safleoedd dŵr ymdrochi dynodedig). Yn awr, byddwn yn dechrau datblygu polisi ac yn cynnal gwaith ymchwil, gan gynnwys cynnal astudiaethau epidemiolegol, i benderfynu ar y ffordd orau o roi’r diwygiadau hyn ar waith yn y dyfodol a chymryd i ystyriaeth unrhyw effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol posibl. Rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda rhanddeiliaid lleol a chenedlaethol a chael eu barn ar y diwygiadau hyn.

Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n gyfrifol am fonitro safleoedd dŵr ymdrochi dynodedig. Byddwn yn bwrw ymlaen â’r 9 diwygiad technegol arfaethedig er mwyn moderneiddio’r ymarfer. Nid yw’r diwygiadau technegol hyn yn eithrio’r posibilrwydd o gyflwyno rhagor o ddiwygiadau technegol yn y maes hwn yn y dyfodol. Yn benodol, o ran Diwygiad Technegol 2, mae Asiantaeth yr Amgylchedd o’r farn nad yw’r system gyfredol – sef cymryd sampl i ddod â digwyddiadau STP i ben – yn addas i’r diben mwyach. Gwyddys fod ansawdd bacterol dŵr yn amrywio’n fawr, a gall gymryd 3-5 diwrnod i ddadansoddi samplau. Felly, pan fo’r canlyniadau ar gael, ni all Asiantaeth yr Amgylchedd lywio penderfyniadau’n ymwneud â digwyddiadau STP. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn defnyddio dulliau modelu i roi gwybodaeth i ymdrochwyr; caiff yr wybodaeth hon ei diweddaru bob bore ar blatfform Swimfo Asiantaeth yr Amgylchedd.

Rydym yn ddiolchgar iawn am yr holl ymatebion a gafwyd ar gyfer cwestiwn 32 a’r holl ymatebion a anfonwyd trwy e-bost i lywio’r ymgynghoriad a’r diwygiadau yn ehangach. Byddwn yn ystyried yr ymatebion hyn wrth ddatblygu polisïau yn y dyfodol.

Diben Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 yw diogelu iechyd y cyhoedd drwy ddefnyddio dulliau monitro a chategoreiddio. Mae’r diwygiadau arfaethedig yn canolbwyntio ar welliannau penodol i weithrediad a rheolaeth y system dyfroedd ymdrochi. Mae’r Comisiwn Dŵr Annibynnol yn canolbwyntio ar wneud argymhellion i lywodraeth y DU a llywodraeth Cymru er mwyn cryfhau’r sector dŵr a’i fframwaith rheoleiddio. Bydd yr argymhellion terfynol gan y Comisiwn Dŵr Annibynnol yn cael eu gwneud i’w llywodraeth ym mis Mehefin, wedi i’r dystiolaeth a gasglwyd gael ei ddadansoddi’n fanwl. Byddwn yn ystyried unrhyw argymhellion gan y Comisiwn mewn unrhyw waith datblygu polisi yn y dyfodol.

Cyfnod ymgeisio ar gyfer dynodi dyfroedd ymdrochi newydd

Ar ôl dadansoddi’r ymatebion, bydd y Llywodraeth yn ailagor y cyfnod ymgeisio ar gyfer dynodi dyfroedd ymdrochi newydd. Bydd y cyfnod ymgeisio yn dechrau ar 15 Mai 2025, a byddwn yn cyhoeddi canllawiau ymgeisio newydd ochr yn ochr ag ailagor y cyfnod ymgeisio.

Ymateb Llywodraeth Cymru a’r camau nesaf

Ar ôl yr ymgynghoriad ynglŷn â Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r adborth a gafwyd. Rydym wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â’r diwygiadau craidd a’r diwygiadau technegol arfaethedig er mwyn sicrhau y bydd modd diogelu a gwella ein dyfroedd ymdrochi. Mae ein hymateb fel a ganlyn.

Diwygiadau Craidd

  1. Dileu’r Ddarpariaeth Dad-ddynodi Awtomatig: Rydym yn cydnabod y gefnogaeth gref ar gyfer dileu’r ddarpariaeth hon, gan arwain at ddull mwy hyblyg a safle-benodol o reoli dyfroedd ymdrochi a chan sicrhau na roddir y gorau yn rhy gynnar i geisio gwella ansawdd dŵr.
  2. Ystyried Dichonoldeb Gwelliannau Ansawdd Dŵr: Rydym yn cefnogi’r syniad o gyflwyno asesiad dichonoldeb er mwyn gwella ansawdd dŵr i safon ‘ddigonol’ o leiaf a sicrhau yr ystyrir nodau mewn perthynas â mesurau diogelu amgylcheddol a diogelwch y cyhoedd. Bydd y dull hwn hefyd yn sicrhau bod dynodiadau’n seiliedig ar ddyfroedd ymdrochi cyraeddadwy, realistig.
  3. Dyddiadau Hyblyg ar gyfer y Tymor Ymdrochi: Rydym yn cytuno y dylid symud dyddiadau penodol y tymor ymdrochi o’r Rheoliadau i ganllawiau, gan arwain at dymhorau byrrach neu hwy y gellir eu haddasu’n lleol ac a fyddai’n seiliedig ar anghenion ac ystyriaethau ehangach.

Diwygiadau Technegol

Bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’r naw diwygiad technegol er mwyn moderneiddio’r ymarfer, gan sicrhau y bydd y Rheoliadau’n parhau i fod yn addas i’r diben tra’n lleihau unrhyw faich diangen ar reoleiddwyr.

Y Camau Nesaf

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu’r diwygiadau craidd a’r diwygiadau technegol hyn yn llwyddiannus. Ar ôl cadarnhau cyfrwng deddfwriaethol addas a chael cymeradwyaeth y Senedd, bydd Offeryn Statudol yn cael ei ddefnyddio i ddiwygio Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013. Rhagwelir y bydd yr Offeryn Statudol yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn ddiweddarach eleni, a disgwylir i’r diwygiadau ddod i rym yn ystod Hydref 2025.

Yn ychwanegol at y diwygiadau arfaethedig, roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ynglŷn â dau ddiwygiad ehangach, sef: ehangu’r diffiniad o ‘ymdrochwyr’ a chyflwyno pwyntiau monitro niferus ar safleoedd dŵr ymdrochi dynodedig. Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar iawn am yr adborth a gafwyd ar y materion hyn – adborth a fydd, o bosibl, yn llywio cyfnodau diwygio yn y dyfodol.

Er mwyn sicrhau y cyflwynir y newidiadau hyn yn effeithiol, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Defra, cyrff rheoleiddio a rhanddeiliaid yng Nghymru i lunio canllawiau a phrosesau asesu clir a fydd yn adlewyrchu natur amrywiol ein dyfroedd ymdrochi.

Rydym yn gwerthfawrogi’r adborth gwerthfawr a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad ac edrychwn ymlaen at weithio gyda phob rhanddeiliad i wella’r modd y rheolir ein dyfroedd ymdrochi.

Atodiad A

Rhestr o sefydliadau a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Sylwer: nid ydym wedi cynnwys sefydliadau a nododd fod eu cyflwyniad yn gyfrinachol.

Sefydliadau’r lywodraeth

Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd

Cyfoeth Naturiol Cymru

Diwydiant dŵr y DU

Anglian Water Services

Dŵr Cymru Cyfyngedig (Welsh Water) 

Northumbrian Water Group

Hafren Dyfrdwy Cyfyngedig /Severn Trent Water Limited

South West Water

Southern Water

Thames Water Utilities Ltd.

United Utilities Water (UUW)

Water UK

Wessex Water

Yorkshire Water

Awdurdodau Lleol

Cynghorau Adur a Worthing

Cyngor Cymuned Amroth

Cyngor Plwyf Bigbury

Awdurdod y Broads

Cyngor Bwrdeistref Castle Point

Cyngor Plwyf Dartington

Cyngor Tref Deal

Cyngor Sir Dyfnaint

Cyngor Dosbarth Dofr

Durham Heritage Coast Partnership, a gynhelir gan Gyngor Sir Durham

Cyngor Dosbarth Dwyrain Dyfnaint

Cyngor Dwyrain Suffolk

Cyngor Tref Exmouth

Cyngor Tref Faversham

Cyngor Fylde

Cyngor Bwrdeistref Havant

Cyngor Tref Henley on Thames

Cyngor Tref Kingsbridge

Awdurdod Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd

Cyngor Dosbarth Lewes

Cyngor Tref Looe

Cyngor Tref Lyme Regis

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Cyngor Gogledd Gwlad yr Haf

Awdurdod Parc Cenedlaethol Gweunydd Gogledd Swydd Efrog

Cyngor Gogledd Swydd Efrog

Cyngor Sir Penfro

Cyngor Dinas Plymouth

Cyngor Plwyf Rattery

Cyngor Bwrdeistref Redcar a Cleveland

Cyngor Dosbarth Rother

Cyngor Dosbarth De Swydd Rydychen

Cyngor De Tyneside

Cyngor Dinas Southampton

Cyngor Cymuned Saint-y-brid, Southerndown ac Aberogwr

Cyngor Bwrdeistref Stevenage

Cyngor Abertawe

Cyngor Tref Taunton

Cyngor Dosbarth Thanet

Cyngor Dosbarth Vale of White Horse

Sefydliadau anllywodraethol neu grwpiau nid-er-elw eraill

1st Cuddington Sea Scouts

6th Tolworth Scout Troop

Afonydd Cymru

Angling Trust

Banbury Community Action Group

Bidwell Brook Partnership

Blueprint for Water – Environment and Countryside Link

Triathlon Prydain a’r Gynghrair Chwaraeon Dŵr Glân

Bromley Friends of the Earth

Cam Valley Forum

Cambridge University Combined Boat Clubs

Canoe Camping Club, adran diddordeb arbennig o’r Camping and Caravanning Club

Canŵ Cymru

Clwb Canŵ Caerdydd / Cardiff Canoe Club

Centre for Outdoor Activity and Community Hub

Clean River Kent Campaign (CRKC), Cumbria

Clean Water Action Group: Hastings a St Leonards

Cleaner Coastlines: Ymgyrch dim plastig Weston a Gogledd Gwlad yr Haf (a elwir hefyd yn ‘Plastic-free Westons-super-Mare’)

Colne Valley Fisheries Consultative

Combe Martin Water Watch Group

Y Gynghrair Cefn Gwlad

Cullercoats Harbour Working Group

Dorset Green Party

Earthwatch Europe

East Looe Town Trust (CIO)

ESCAPE Exmouth

Evesham Rowing Club

Faversham and Villages Water Testing – FAVWAT

Faversham Creek Trust

Fish Legal

FoE Newbury

For the love of water (FLOW) CIC

Friends of Castle Cove Beach Charity

Friends Of the Dart

Friends of the Lake District

Friends of the River Exe (FORE)

Friends of the River Teign

Ffrindiau’r Afon Gwy

Friends of the Salcombe-Kingsbridge Estuary

Girlguiding (Cymdeithas y Geidiau)

Glasbury to Hay River Wye Alliance

Guash Fishing Club

Pysgotwyr Cwningar y Gelli + Grŵp Coetir Cymunedol y Gelli

Henley Mermaids

Ilkley Clean River Group, grŵp cymunedol sy’n cynrychioli tref Ilkley

Cadwch Gymru’n Daclus

Lakeland Canoe Club

Leicester Rowing Club

LGA Coastal SIG

Llangorse Sailing Club

London Waterkeeper

Lune Rivers Trust

Maidenhead to Teddington Catchment Partnership

Y Gymdeithas Cadwraeth Forol

Merseyside Sports Partnership (MSP) – y bartneriaeth weithredol ar gyfer Rhanbarth Dinas Lerpwl

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Newnham River Bank Club

NFU Cymru

Nidd Action Group

Oblique Arts

Outdoor Swimming Society

Paddle UK

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Peterborough & District Angling Association

Parc Morol Cenedlaethol Plymouth Sound

Pool Water Treatment Advisory Group

Port Sunlight Angling Club

Pupils 2 Parliament

Ribble Fisheries Consultative Association

Ribble Rivers Trust Ltd

River Lim Action Group

River Sid Catchment Group

River User Group, RUG8

River Yealm Water Quality Working Group

Roding, Beam and Ingrebourne Catchment Partnership

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub

Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd

Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol

‘Save The Deben’ Campaign Group, Afon Deben yn Woodbridge a Waldringfield, Suffolk

Skegness Coastal Access for All

SOLAR (Save Our Lands and River)

South Chilterns Catchment Partnership

Grŵp Darparwyr Gweithgareddau Awyr Agored De Cymru a Chymdeithas Twristiaeth Antur Cymru

Sport and Recreation Alliance

Sport England

Sports and Recreation Alliance

Stop Ure Pollution

Stratford Upon Avon Boat Club

Sudbury Canoe Club

Surfers Against Sewage

Swim England

Tavy Walkham and Plym Fishing Club

Thame Valley Fisheries Preservation Consultative

Thames21- London Lea Catchment Host

Y Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a’r Amgylchedd (CIWEM)

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW)

The Ithon Fishery

Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched

Y Bartneriaeth Awyr Agored

The Outdoor Swimming Society

The River Waveney Trust

Yr Ymddiriedolaeth Afonydd

Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA)

The Saracen’s Head Angling Group

The Wild Trout Trust

Tidelines

Trout in the Trym

Up Sewage Creek

Cymdeithas Bysgota Afon Wysg

Visit Kent

Watchet Boat Owners Association

Diogelwch Dŵr Cymru

Dyfroedd Cymru – Waters of Wales

Cymdeithas Genweirwyr Eogiaid a Brithyll Cymru

Wembury Marine Conservation Area Advisory Group

West Cumbria Rivers Trust

Westcountry Rivers Trust

Siambr Fasnach Weston-super-Mare

Whitburn Neighbourhood Forum

Whoosh Explore Canoe Club, a leolir yn Sawbridgeworth

Wild About the Erme River

Wildheart Trust

Wylam Clean Tyne

Yealm Estuary to Moor

Busnesau

Pysgotwyr a pherchnogion pysgodfeydd

Arlesford Angling Association

Brighton Watersports

British Marine

Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion

Y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad

Cymdeithas Bysgota Crucywel a’r Cylch

Dereham and District Angling Club

Eastleigh and District Angling Club

Clwb Pysgota Ffynnon Taf

Hampton Court Paddle Sports

Huby Angling Club, Afon Wharfe, Arthington, Swydd Efrog

Lakefield Angling Society

Marlow Canoe Club

McConks Outdoors

Navigational Intelligence Ltd

Northumbrian Anglers Federation Limited

Planet Ocean Ltd

Snowdonia Watersports

Summerleaze Lake Residents Ltd

Tadcaster Angling and Preservation Association

The Adventure Paddle Company Ltd

The River Yealm Harbour Authority

Atodiad B – Set ddata lawn Citizen Space a thempledi e-bost

Gwybodaeth am yr ymatebwyr

Ym mha rinwedd ydych chi’n ymateb i’r ymgynghoriad hwn? Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Fel tirfeddiannwr preifat â dyfroedd ymdrochi neu ddyfroedd ymdrochi posibl ar ei dir 20 1.5
Fel ffermwr neu reolwr tir y gallai ei dir effeithio ar ansawdd dyfroedd ymdrochi lleol 3 0.2
Fel cynrychiolydd cwmni dŵr 11 0.8
Fel busnes y gallai’r newidiadau yn y rheoliadau dyfroedd ymdrochi effeithio arno 29 2.2
Fel awdurdod lleol 48 3.6
Fel sefydliad anllywodraethol neu grŵp nid-er-elw arall sy’n ymhél â budd y cyhoedd 135 10.1
Fel aelod o’r cyhoedd â buddiant mewn dyfroedd ymdrochi 1084 81.4
Fel rhywun sy’n cynrychioli’r cyhoedd (er enghraifft, cynghorydd, AS) 0 0.0
Cymdeithas fasnach 1 0.1
Cyfanswm 1,331 100
Ble ydych chi wedi eich lleoli ar hyn o bryd? Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Lloegr 1215 91.3
Yr Alban 9 0.7
Cymru 102 7.7
Gogledd Iwerddon 1 0.1
Oddi allan i’r DU, oddi allan i’r UE 3 0.2
Oddi allan i’r DU, oddi mewn i’r UE 1 0.1
Cyfanswm 1331 100
Ble mae eich busnes neu eich sefydliad yn gweithredu? Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Lloegr 212 57
Yr Alban 28 7.5
Cymru 81 21.8
Gogledd Iwerddon 25 6.7
Oddi allan i’r DU, oddi mewn i’r UE 12 3.2
Oddi allan i’r DU, oddi allan i’r UE 10 2.7
Amherthnasol 4 1.1
Cyfanswm 372 100

Ymatebion fesul cwestiwn

Nodwch, mae’r canrannau wedi’u talgrynnu i un lle degol ac felly efallai na fyddant yn creu cyfanswm o 100% ar y tablau hyn.

Cwestiwn 9: Diwygiad Craidd 1

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gael gwared â dad-ddynodi awtomatig o Reoliadau Dŵr Ymdrochi 2013 ar gyfer Cymru a Lloegr?

Ateb Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Cytuno’n gryf 571 42.9
Cytuno 387 29.1
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 108 8.1
Anghytuno 85 6.4
Anghytuno’n gryf 141 10.6
Ddim yn gwybod 38 2.9
Nid atebwyd y cwestiwn 1 0.1
Cyfanswm 1,331 100

Cwestiwn 11: Diwygiad Craidd 2

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai ansawdd dŵr, y posibilrwydd o wella ansawdd dŵr i safon ‘digonol’, diogelwch corfforol a gwarchodaeth amgylcheddol gael ei ystyried cyn penderfynu a ddylid dynodi safle yn ddŵr ymdrochi o dan Reoliadau Dŵr Ymdrochi 2013 ar gyfer Cymru a Lloegr?

Ateb Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Cytuno’n gryf 375 28.2
Cytuno 363 27.3
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 128 9.6
Anghytuno 155 11.6
Anghytuno’n gryf 272 20.4
Ddim yn gwybod 37 2.8
Nid atebwyd y cwestiwn 1 0.1
Cyfanswm 1331 100

Cwestiwn 13: Diwygiad Craidd 2

Sut dylid hysbysu’r cyhoedd bod safle wedi cael ei ystyried fel dŵr ymdrochi ond nad yw wedi’i ddynodi ar y sail nad os posibilrwydd o wella ansawdd y dŵr i safon ‘digonol’? Sut dylid hysbysu’r cyhoedd am safleoedd?

Ateb: Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Arwyddion ar y safle 1055 25.7
Hysbysiad ar wefan Swimfo yn Lloegr neu wefan Bathing Waters Explorer yng Nghymru 938 22.9
Hysbysiad ar GOV.UK neu    
LLYW.CYMRU 858 20.9
Hysbysiad ar wefan dŵr ymdrochi Asiantaeth yr Amgylchedd neu Cyfoeth Naturiol Cymru 921 22.4
Dim hysbysiad ychwanegol 42 1.0
Arall (rhowch fanylion) 291 7.1
Cyfanswm 4105*  

*Roedd y cwestiwn hwn yn caniatáu mwy nag un ateb.

Cwestiwn 14: Diwygiad Craidd 3

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gynyddu hyblygrwydd dyddiadau’r Tymor Ymdrochi a ragnodir yn Rheoliadau Dŵr Ymdrochi 2013 ar gyfer Cymru a Lloegr?

Ateb: Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Cytuno’n gryf 637 47.9
Cytuno 287 21.6
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 111 8.3
Anghytuno 122 9.2
Anghytuno’n gryf 133 10.0
Ddim yn gwybod 36 2.7
Nid atebwyd y cwestiwn 2 0.2
Cyfanswm 1331 100

Cwestiwn 16: Diwygiadau Technegol

Ydych chi’n fodlon â’r 9 diwygiad technegol arfaethedig a restrir uchod? – Ydych chi’n fodlon â’r diwygiadau technegol? 

Ateb Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Ydw 592 44.5
Nac ydw 480 36.1
Ddim yn gwybod 256 19.2
Ni atebwyd y cwestiwn 2 0.2
Cyfanswm 1330 100

Cwestiwn 17: Diwygiadau Technegol

Pa rai o’r 9 diwygiad technegol arfaethedig, yn eich barn chi, sy’n codi pryderon neu a allai gael effeithiau negyddol? – Ydych chi’n pryderu am unrhyw rai o’r diwygiadau?

Ateb Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
1. Bod ag ardal ddiffiniedig ar gyfer pob dŵr ymdrochi 275 8.9
2. Dileu’r gofyniad i gymryd sampl i ddod â digwyddiadau llygredd tymor byr (STP) i ben 556 17.9
3. Cael gwared â’r terfyn amser o 7 diwrnod lle mae’n rhaid cymryd sampl newydd dan STP 448 14.4
4. Dileu’r gofyniad i gymryd sampl cyn y tymor 526 16.9
5. Pennu gwerth z y 95ed canradd i dri lle degol, yn hytrach na’r 2 le presennol 103 3.3
- 6.    Dileu’r gofyniad i nodi a darparu manylion cyswllt unrhyw berson sy’n gyfrifol am weithredu mewn perthynas ag STP mewn proffil dŵr ymdrochi 319 10.3
1. Dileu gofyniad penodol i adnabod sampl a gwaith papur gan ddefnyddio inc annileadwy 198 6.4
1. Dileu’r gofyniad i gymryd samplau eraill yn lle rhai a gollir yn ystod Sefyllfaoedd Anarferol 376 12.1
1. Diwygio rheoliad 5(1)(a) i bennu dyddiad targed newydd ar gyfer dosbarthu’r holl ddyfroedd ymdrochi fel rhai ‘digonol’ o leiaf 303 9.8
Cyfanswm 3104*  

*Roedd y cwestiwn hwn yn caniatáu mwy nag un ateb.

Cwestiwn 18: Diwygiadau Technegol

Pa effeithiau negyddol ydych chi’n eu rhagweld o ganlyniad i’r diwygiad(au) technegol?

Ateb Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Mae’r diwygiad(au) yn lleihau’r gofynion monitro statudol cyffredinol 525 22.9
Gallai’r diwygiad(au) leihau’r wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd ynghylch pryd y mae’n ddiogel iddynt ddefnyddio dŵr ymdrochi 564 24.6
Mae’r diwygiad(au) yn lleihau’r atebolrwydd cyffredinol ar Asiantaeth yr Amgylchedd neu Cyfoeth Naturiol Cymru 510 22.2
Gallai’r diwygiad(au) leihau trylwyredd y dulliau monitro 537 23.4
Arall (rhowch fanylion) 160 7.0
Cyfanswm 2296*  

*Roedd y cwestiwn hwn yn caniatáu mwy nag un ateb.

Cwestiwn 19: Asesiad Effaith

Ydych chi’n credu ei bod yn debygol y bydd unrhyw un o’r diwygiadau arfaethedig

yn cael effaith economaidd negyddol neu gadarnhaol ar eich sefydliad?

Ateb Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Cadarnhaol yn Gyffredinol (Gallai hyn gynnwys cynnydd mewn elw/refeniw neu lai o wariant, ond nid yw wedi’i gyfyngu i hynny) 66 5
Negyddol yn Gyffredinol (Gallai hyn gynnwys colled mewn elw/refeniw neu fwy o wariant, ond nid yw wedi’i gyfyngu i hynny) 35 2.7
Cymysgedd o effeithiau cadarnhaol a negyddol 73 3.2
Dim newid 42 3.2
Nid atebwyd y cwestiwn 1070 81.5
Ddim yn gwybod 27 2.1
Cyfanswm 1313 100

Cwestiwn 20: Asesiad Effaith

[Os ‘Negyddol’ i C19] Ar hyn o bryd, pa ystod sy’n disgrifio orau’r effeithiau negyddol blynyddol a amcangyfrifir ar eich busnes neu’ch sefydliad pe bai diwygiadau’n cael eu cyflwyno?

Ateb Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Llai na £10,000 y flwyddyn 7 0.5
£10,001 - £50,000 y flwyddyn 8 0.6
£50,001-£100,000 y flwyddyn 3 0.2
£100,001-£1,000,000 y flwyddyn 1 0.1
Mwy na £1,000,000 y flwyddyn 5 0.4
Ddim yn gwybod 17 1.3
Mae’n well gen i beidio â dweud 2 0.2
Nid atebwyd y cwestiwn 1250 96.7
Cyfanswm 1293 100

Cwestiwn 21: Asesiad Effaith

[Os ‘Negyddol’ i C19] Sut fyddech chi’n disgrifio hyd a lled yr effaith ddisgwyliedig ar eich busnes neu eich sefydliad?

Ateb Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Effaith fach 6 0.5
Effaith sylweddol 22 1.7
Effaith sylweddol iawn 10 0.8%
Ddim yn gwybod 5 0.4
Nid atebwyd y cwestiwn 1249 96.7
Cyfanswm 1292 100

Cwestiwn 23: Asesiad Effaith

[Os ‘Cadarnhaol’ i C19] Ar hyn o bryd, pa ystod sy’n disgrifio orau’r effeithiau cadarnhaol blynyddol a amcangyfrifir ar eich busnes neu eich sefydliad pe bai diwygiadau’n cael eu cyflwyno? (ddim yn ofynnol)

Ateb Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Llai na £10,000 y flwyddyn 12 0.9
£10,001 - £50,000 y flwyddyn 6 0.5
£50,001-£100,000 y flwyddyn 2 0.2
£100,001-£1,000,000 y flwyddyn 2 0.2
Mwy na £1,000,000 y flwyddyn 3 0.2
Ddim yn gwybod 42 3.3
Mae’n well gen i beidio â dweud 1 0.1
Nid atebwyd y cwestiwn 1212 94.7
Cyfanswm 1280 100

Cwestiwn 24: Asesiad Effaith

[Os ‘Cadarnhaol’ i C19] Sut fyddech chi’n disgrifio hyd a lled yr effaith ddisgwyliedig ar refeniw eich busnes?

Ateb Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Effaith fach 15 1.2
Effaith sylweddol 18 1.4
Effaith sylweddol iawn 5 0.4
Ddim yn gwybod 31 2.4
Nid atebwyd y cwestiwn 1212 94.6
Cyfanswm 1281 100

Cwestiwn 27: Diwygiad Ehangach 1

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai’r llywodraeth fynd ati i ddiwygio’n ehangach Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar gyfer Cymru a Lloegr i gynnwys ehangu’r diffiniad o ‘ymdrochwyr’?

Ateb Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Cytuno’n gryf 982 73.8
Cytuno 207 15.6
Heb gytuno nac anghytuno 33 2.5
Anghytuno 18 1.4
Anghytuno’n gryf 82 6.2
Ddim yn gwybod 7 0.5
Nid atebwyd y cwestiwn 1 0.1
Cyfanswm 1330 100

Cwestiwn 29: Diwygiad Ehangach 1

Pa ddefnyddwyr dŵr ddylai gael eu cynnwys yn y diffiniad o ‘ymdrochwyr’?

Ateb Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Pysgotwyr (pysgota) 742 7.3
Caiacwyr/Canŵ-wyr 1166 11.5
Padlfyrddwyr 1190 11.7
Padlwyr (y rhai sydd yn y dŵr ond heb    
fod yn llwyr dan y dŵr) 1161 11.4
Rhwyfwyr 1050 10.3
Defnyddwyr cychod bach 876 8.6
Syrffwyr 1.193 11.7
Nofwyr 1265 12.4
Bordhwylwyr 1158 11.4
Arall (rhowch fanylion) 360 3.5
Cyfanswm 10161*  

*Roedd y cwestiwn hwn yn caniatáu mwy nag un ateb.

Cwestiwn 30: Diwygiad Ehangach 2

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai’r llywodraeth fynd ati i ddiwygio’n ehangach Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar gyfer Cymru a Lloegr i gynnwys defnyddio pwyntiau monitro niferus ar safleoedd dŵr ymdrochi?

Ateb Nifer Cyfran o’r cyfanswm (%)
Cytuno’n gryf 938 70.5
Cytuno 273 20.5
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno 66 5.0
Anghytuno 15 1.1
Anghytuno’n gryf 15 1.1
Ddim yn gwybod 22 1.7
Nid atebwyd y cwestiwn 1 0.1
Cyfanswm 1330 100