Ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad a oedd yn ceisio barn ar ddiwygiadau i’r Cynllun Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol Cenedlaethol
Updated 8 March 2022
Rhagair
Rydym yn falch o gyflwyno’r ymateb i’r ymgynghoriad ar ddiwygiadau i’r cynllun Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol cenedlaethol, i’w ailenwi’n Ddyfarniadau Effaith Glinigol Cenedlaethol (NCIAs). Mae’r ailenwi hwn yn fwy na chosmetig, gan ganolbwyntio’n fwriadol ar gydnabod yr effeithiau cenedlaethol cadarnhaol sy’n deillio o weithgareddau uwch glinigwyr sy’n cyfrannu uwchlaw disgwyliadau eu swydd.
Er bod yr ymarfer ymgynghori wedi’i ohirio oherwydd y pandemig, mae ein ffocws ar ei amcanion i ehangu amrywiaeth a’r niferoedd y rhoddir dyfarniadau iddynt yn parhau i fod mor gryf ag erioed. Ein nod yw cynyddu cwmpas effaith y dyfarniadau ar gadw a chydnabod yr uwch glinigwyr sy’n perfformio orau. Mae’r clinigwyr hyn yn gweithredu fel athrawon, hyfforddwyr, arloeswyr ac ymchwilwyr; yn bwysicaf oll hefyd yw bod yn weithredwyr ac yn ddosbarthwyr arferion gorau ar draws y GIG, gan weithredu fel modelau rôl i’w cymheiriaid a’u cydweithwyr wrth hyfforddi.
Disgwyliwn y bydd cynyddu nifer y dyfarniadau, gan ganolbwyntio ar amrywiaeth ymgeiswyr a deiliaid y dyfarniadau yn sicrhau bod y dyfarniadau nid yn unig yn adlewyrchu poblogaeth gymwys uwch glinigwyr y GIG i raddau llawer mwy, ond y byddant yn cael eu hystyried fel dyheadau mwy perthnasol a chyraeddadwy i lawer mwy o glinigwyr.
Er na ellir gweithredu’r holl ddiwygiadau hyn ar unwaith, fel y disgrifir yng nghorff yr ymateb, rydym yn hyderus y bydd y cynllun newydd a’i newidiadau gweithredol yn gwella mynediad at ddyfarniadau lefel uwch yn gyflymach, gan gynyddu nifer yr uwch glinigwyr a fydd yn cael dyfarniad effaith cenedlaethol yn ystod eu gyrfa broffesiynol yr un pryd. Bydd hyn yn gwella trosiant, amrywiaeth ac ystwythder y cynllun i adlewyrchu gweithlu modern y GIG, ei anghenion a’i flaenoriaethau, gan barhau i fod yn berthnasol i’r rolau mwy a mwy amrywiol y mae uwch glinigwyr yn eu cyflawni.
Nod Dyfarniadau Effaith Glinigol Cenedlaethol yw cadw clinigwyr medrus, ymroddedig sy’n arwain o ran darparu a gwella gofal cleifion trwy eu harloesedd a’u partneriaeth ar draws y GIG, y diwydiannau gwyddorau bywyd a thrwy gynnwys cleifion. Ein nod yw cydnabod yr effeithiau hynny sy’n cael effaith genedlaethol i wella canlyniadau ac effeithlonrwydd systemau, yn enwedig lle’r ymdrinir ag anghydraddoldebau iechyd.
Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y mewnbwn manwl ac adeiladol gan bawb a gymerodd amser i adolygu a chyfrannu at yr ymgynghoriad hwn, yn yr ymgynghoriad ffurfiol ac mewn grwpiau ffocws a chyfarfodydd eraill lle roedd blaenoriaethau’r rhanddeiliaid hynny yn sail i’r agweddau allweddol ar gyfer diwygio. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi ymroddiad tîm y Pwyllgor Cynghori ar Ddyfarniadau Effaith Glinigol (ACCEA) a chydweithwyr yr AIGC (DHSC) wrth ddadansoddi a llunio cynigion ymarferol yn seiliedig ar yr ymatebion a dderbyniwyd.
Dr Stuart Dollow,
Cadeirydd
Yr Athro Kevin Davies,
Cyfarwyddwr Meddygol
1. Cyflwyniad
Mae Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol Cenedlaethol (CEAs) yn gymhellion ariannol, a ddyfernir trwy gystadleuaeth agored flynyddol, i feddygon ymgynghorol, deintyddion ymgynghorol ac academyddion clinigol. Eu pwrpas yw cydnabod cyflawniadau uwch glinigwyr' o bwysigrwydd cenedlaethol neu ryngwladol, y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir fel rhan o’u cynllun swydd. Mae cynlluniau ar wahân yn gweithredu yng Nghymru a Lloegr gan ddefnyddio’r un egwyddorion bras a llwyfan sy’n cael ei rannu. Mae’r cynllun hwn yn rhan o’r pecyn gwobrwyo ymgynghorwyr ac mae’n helpu i gadw talent yn y GIG ac annog rhagoriaeth glinigol.
Mae’r cynllun wedi gweld nifer o fersiynau ers ei sefydlu ym 1948, a’r un mwyaf diweddar oedd disodli pwyntiau dewisol a dyfarniadau rhagoriaeth yn 2004 gyda’r cynllun Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol mwy graddedig. Nod y diwygiadau hyn yw ehangu mynediad i’r cynllun, gwneud y broses ymgeisio yn decach ac yn fwy cynhwysol, a sicrhau bod y cynllun yn gwobrwyo ac yn ysgogi rhagoriaeth ar draws ystod ehangach o waith ac ymddygiadau.
Yn allweddol i’r diwygiadau mae’r argymhellion a wnaed gan y Cordd Adolygu ar Dâl Meddygon' a Deintyddion' (DDRB) yn 2012 yn ei Review of compensation levels, incentives and the Clinical Excellence and Distinction Award schemes for NHS consultants[footnote 1].
Mae’r diwygiadau hefyd yn adlewyrchu demograffeg newidiol y gweithlu meddygol a rhoi ystyriaeth i farn rhanddeiliaid a thystiolaeth ehangach gan gynnwys Mend the Gap: an independent review of the gender pay gaps in medicine in England. Cynhaliwyd cyfres o grwpiau ffocws anffurfiol yn Haf 2020 yn gofyn barn gan ystod o randdeiliaid gan gynnwys Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA), NHS England ac NHS Improvement a’r Colegau Brenhinol i fod yn sail i ddatblygu ein cynigion.
Gellir gweld manylion llawn dyluniad terfynol y cynllun yn Adran 4, ymateb y llywodraeth a chrynodeb. I grynhoi byddwn yn:
-
cynyddu nifer y dyfarniadau sydd ar gael. Ar ôl i’r broses drosglwyddo ddod i ben, bydd hyd at 600 o ddyfarniadau yn cael eu rhoi bob blwyddyn yn Lloegr a thua 37 yn cael eu dyfarnu yng Nghymru
-
ail-frandio’r cynllun. Bydd y dyfarniadau’n cael eu hail-frandio fel y 'Dyfarniadau Effaith Glinigol Cenedlaethol'
-
ailstrwythuro’r lefelau dyfarnu. Yn Lloegr, bydd y cynllun newydd yn gweithredu fel system ddyfarnu tair lefel: Cenedlaethol 1 (isaf), Cenedlaethol 2 a Chenedlaethol 3 (uchaf)
-
adnewyddu’r meysydd asesu – bydd y meysydd asesu cyfredol yn cael eu datblygu, gan gyfuno Meysydd 1 a 2 a chyflwyno pumed maes newydd
- symleiddio’r broses ymgeisio – bydd proses ymgeisio un lefel yn cael ei chyflwyno gyda hunan-enwebiad yn cael ei gadw
- dileu dyfarniadau sy’n seiliedig ar dâl pro rata – ni fydd y rhai sy’n gweithio Llai nag Amser Llawn (LTFT) yn cael eu dyfarniadau yn seiliedig ar dâl pro rata mwyach
- dileu’r broses adnewyddu – ni fydd y broses adnewyddu yn parhau yn y cynllun newydd; cedwir dyfarniadau am gyfanswm o bum mlynedd, ac yna bydd angen i ymgeiswyr ailymgeisio
- dileu’r drefn lle mae dyfarniadau yn bensiynadwy – ni fydd dyfarniadau bellach yn bensiynadwy nac wedi’u cydgrynhoi
- symleiddio’r broses i gyflogwyr – bydd angen i gyflogwyr nodi eu cefnogaeth i gais a bydd gofyn iddynt ddarparu geirda i bob ymgeisydd. Ni fydd angen sgorio a graddio gan gyflogwyr mwyach.
Yng Nghymru, gweithredir yr holl ddiwygiadau uchod gyda’r eithriadau isod (gweler Adran 4, ymateb y llywodraeth a chrynodeb):
- nifer y dyfarniadau sydd ar gael – yng Nghymru bydd cyfanswm o 37 dyfarniad yn cael eu rhoi bob blwyddyn ar ôl i’r broses drosglwyddo ddod i ben, yn gymesur â maint y gweithlu o ymgynghorwyr
- bydd cyfanswm y dyfarniadau a roddir yn cael ei addasu bob blwyddyn yn dibynnu ar lefel y dyfarniadau ymrwymiad y mae ymgynghorwyr yn eu dal oherwydd o dan y trefniadau newydd bydd ymgynghorwyr yng Nghymru yn gallu dal dyfarniad cenedlaethol a chadw eu dyfraniad ymrwymiad
- strwythur lefelau’r gwobrau – yng Nghymru bydd y cynllun yn parhau gyda phedair lefel: Lefel 0, Lefel 1, Lefel 2 a Lefel 3.
Yng Nghymru, bydd ymgynghorwyr yn gallu cael dyfarniadau ymrwymiad a chael Dyfarniad Effaith Glinigol Cenedlaethol ar yr un pryd o 2022 ymlaen.
2. Y broses ymgynghori ac adolygu ymatebion
Y broses ymgynghori
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 24 Mawrth 2021 a 16 Mehefin 2021 ac fe’i cynhaliwyd yn unol ag Egwyddorion Ymgynghori Swyddfa’r Cabinet.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llywodraeth EM) a Llywodraeth Cymru. Cafodd yr ymgynghoriad ei gyfathrebu trwy amrywiaeth o lwyfannau, gan gynnwys Tudalen GOV.UK yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gwefan ACCEA, gyda hysbysiadau yn mynd at ddeiliaid dyfarniadau presennol, Cyrff Enwebu Cenedlaethol, Cymdeithasau Arbenigol ac is-bwyllgorau a phrif bwyllgorau ACCEA ar draws y ddwy wlad.
Canolbwyntiodd mwyafrif y cwestiynau ymgynghori ar y cynllun yng Nghymru a Lloegr, ond roedd rhai o’r cwestiynau’n ymwneud â Chymru yn unig. Mae Adran 3 yn gwahaniaethu rhwng y ddwy set o gwestiynau.
Gofynnodd yr ymgynghoriad gwestiynau o dan dair thema allweddol:
- ehangu mynediad i’r cynllun
- gwneud y broses ymgeisio yn decach ac yn fwy cynhwysol
- newid y broses ymgeisio gyfredol fel y gallai wobrwyo ac ysgogi rhagoriaeth yn well ar draws ystod o waith ac ymddygiadau
Gellir gweld cyd-destun a rhesymeg bellach dros yr ymgynghoriad yn y ddogfen ymgynghoriad caeedig.
Mae’r rhestr lawn o gwestiynau hefyd yn y ddogfen ymgynhgori.
Rhannwyd yr ymatebion a’r cynigion â Phrif Bwyllgor ACCEA ar 3 Medi 2021 i’w trafod a’u cytuno.
Trosolwg o’r ymatebion
Derbyniodd yr adran gyfanswm o 439 o ymatebion (Cymru a Lloegr), a daeth 40 ohonynt gan sefydliadau. Gellir gweld y sefydliadau a gyflwynodd ymatebion ar ran eu gweithwyr yn Atodiad A.
Roedd y safbwyntiau yn yr ymatebion yn amrywiol iawn, o’r rhai oedd yn awgrymu diddymu’r cynllun hyd at y rhai oedd yn dadlau dros gynnal y cynllun yn ei ffurf bresennol. Ond roedd mwyafrif yr ymatebion yn cefnogi ein cynigion penodol ac yn cytuno â’n huchelgeisiau i gyflwyno cynllun sy’n decach ac yn fwy cynhwysol.
Arweiniodd peth o’r adborth a gawsom o’r ymgynghoriad at wneud newidiadau i ddyluniad terfynol y cynllun. Mae Adran 4, Ymateb y llywodraeth a chrynodeb yn nodi dyluniad terfynol y cynllun.
3. Crynodeb o’r cynigion a dadansoddiad o ymatebion i’r ymgynghoriad
Mae’r adran hon yn crynhoi’r cynigion fel yr amlinellwyd hwy yn y ddogfen ymgynghori gyntaf ac yn rhoi dadansoddiad o’r atebion i’r cwestiynau ymgynghori. Mae’r ddogfen hon yn adlewyrchu llawer o’r sylwadau a gawsom ond oherwydd nifer yr ymatebion nid yw’n cynnwys pob ymateb. Gellir gweld ein hymatebion ffurfiol yn adran 4, Ymateb y llwyodraeth a chrynodeb.
Nifer y NCEAs sydd ar gael
Cynigiodd yr ymgynghoriad y dylid dileu lefel efydd gyfredol y dyfarniadau cenedlaethol yn Lloegr.
Amlinellodd y cynnig, unwaith y bydd y newid o’r cynllun cyfredol wedi’i gwblhau, yn Lloegr y dylid dyfarnu dyfarniadau i oddeutu 6% o’r boblogaeth o ymgynghorwyr cymwys. Byddai hyn yn cyfateb i:
- 1% (tua 500) yn dal yr hyn sy’n cyfateb i ddyfarniad platinwm, sy’n werth o leiaf £40,000 y flwyddyn
- 2% (tua 1000) yn dal yr hyn sy’n cyfateb i ddyfarniad aur, sy’n werth o leiaf £30,000 y flwyddyn
- 3% (tua 1500) yn dal yr hyn sy’n cyfateb i ddyfarniad arian, sy’n werth o leiaf £20,000 y flwyddyn
Fel y nodir yn y Cyflwyniad ac adran 2, mae’r cynllun cenedlaethol yn cael ei weithredu ar wahân yng Nghymru. Cynigiodd Llywodraeth Cymru gadw’r pedair lefel o ddyfarniad. Mae hyn yn golygu yng Nghymru y byddai nifer y dyfarniadau yn cyfateb i’r canlynol:
- Gallai 1% (26) ddal yr hyn sy’n cyfateb i ddyfarniad platinwm, sy’n werth o leiaf £40,000 y flwyddyn
- Gallai 2% (52) ddal yr hyn sy’n cyfateb i ddyfarniad aur, sy’n werth o leiaf £30,000 y flwyddyn
- Gallai 3% (78) ddal yr hyn sy’n cyfateb i ddyfarniad arian, sy’n werth o leiaf £20,000 y flwyddyn a
- Gallai 4% (104) ddal yr hyn sy’n cyfateb i ddyfarniad efydd, sy’n werth o leiaf £10,000 y flwyddyn
Cwestiwn: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid cynyddu nifer y CEAs sydd ar gael fel y gallai 1% o’r boblogaeth o glinigwyr cymwys ddal dyfarniad platinwm, 2% o glinigwyr ddal dyfarniad aur a 3% o glinigwyr ddal dyfarniad arian?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Cytunai 68% â’r cynnig i gynyddu nifer y dyfarniadau i 6% o’r boblogaeth o ymgynghorwyr cymwys.
Cwestiwn: Yn eich barn chi, faint o CEAs ddylai fod ar gael, ar ba lefel a pham, gan gydnabod y bydd costau’r cynllun yn aros yn fras yr un fath?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Roedd y safbwyntiau’n amrywiol iawn gyda llawer yn cytuno bod y cynigion yn briodol.
Roedd ymatebion hefyd yn amrywio rhwng y rhai a oedd yn galw am gadw nifer a lefel y dyfarniadau o dan y cynllun cyfredol i’r rhai oedd yn galw am leihau nifer y dyfarniadau a chynyddu’r gwerth.
Awgrymodd ychydig o ymatebwyr y dylid cynyddu nifer y dyfarniadau sydd ar gael hyd yn oed ymhellach.
Roedd nifer fach o sefydliadau’n ystyried, er eu bod yn cytuno â chynigion i sicrhau bod dyfarniadau ar gael yn ehangach, y dylid gwneud unrhyw gynnydd yn nifer y dyfarniadau gydag amlen ariannu fwy. Yn yr un modd, awgrymodd y BMA y dylai’r cynllun ddychwelyd yn ôl at niferoedd y dyfarniadau cyn-2010 (600) tra dylid cynnal gwerthoedd y dyfarniadau presennol hefyd.
Nododd eraill y byddent am weld hyblygrwydd yn cael ei ymgorffori yn y system i sicrhau y gellid cynnig mwy o ddyfarniadau, yn seiliedig ar deilyngdod, yn hytrach na gorfod cadw at nifer penodol.
Mynegodd rhai yr angen i ail-gydbwyso’r dyfarniadau fel eu bod yn cael eu pwysoli’n fwy tuag at lefel mynediad. Ychwanegodd rhai ymatebwyr eu bod yn teimlo bod y dyfarniad lefel platinwm y tu hwnt i gyrraedd llawer ac felly y dylid ei dileu.
Roedd diffyg mynediad at ddyfarniadau lleol ar gyfer Meddygon Teulu academaidd yn ymateb a roddwyd droeon trwy gydol yr ymgynghoriad
Cwestiynau penodol i Gymru
Cwestiwn: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r lefelau dyfarnu arfaethedig o ystyried y ffaith na cheir unrhyw gynllun CEA lleol (LCEA) yng Nghymru?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Roedd 51% yn cytuno a 49% yn anghytuno.
Er bod cefnogaeth gref i ehangu nifer y dyfarniadau sydd ar gael a’r egwyddorion y tu ôl i’r gymhareb 1: 2: 3: 4, dywedodd rhai na ddylid ystyried hyn fel cap mympwyol, nac arwain at adnodd nad oedd yn cael ei ddefnyddio o fewn system NCEA.
Lleisiodd y BMA bryderon nad yw’r cynnig hwn yn ystyried yn llawn y strwythur talu a gwobrwyo gwahanol yng Nghymru, ac y gallai effeithio ar y nifer sy’n derbyn dyfarniadau a hygyrchedd i’r cynllun.
Nododd y BMA hefyd pe bai’r cynigion yn cael eu gweithredu y byddai’n bwysig sicrhau y gellir cynnal Dyfarniadau Ymrwymiad yr un pryd gyda NCEAs. Dywedasant y dylai unrhyw drefniadau o’r fath fod yn berthnasol i ddeiliaid NCEA presennol y bu’n rhaid iddynt ildio’u Dyfarniad Ymrwymiad yn y gorffennol.
Cwestiwn Yng Nghymru, rydym yn cynnig cadw’r cynllun dyfarniad lefel efydd am nad oes unrhyw gynllun LCEA ar waith. Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod hyn yn ddewis da?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Cytunai 76% o’r ymatebwyr.
Cwestiwn: Pa gynllun arall yr hoffech chi ei weld yn ei le?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Mynegodd 31 o ymatebwyr yr angen am gydraddoldeb yn y cynlluniau cenedlaethol a lleol a weithredir ledled Cymru a Lloegr, i gyfyngu ar unrhyw broblemau anghydraddoldeb wrth drosi lefelau dyfarniadau a gwerthoedd rhwng gwaith yng Nghymru a Lloegr.
Roedd safbwyntiau eraill yn awgrymu bod angen i’r cymarebau ganolbwyntio llai ar y lefelau uchaf gyda chamau mwy rhwng pob lefel fel bod dilyniant yn cael ei nodi’n glir.
Dyfarniadau perfformiad lleol a NCEAs
Amlinellodd yr ymgynghoriad, pan gyflwynwyd y cynllun Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol, fod ganddo 12 lefel, gyda lefelau 1 i 9 yn cael eu dyfarnu’n lleol a lefelau 9 i 12 yn ffurfio’r gwobrau cenedlaethol. Bwriedid i’r gorgyffwrdd ar lefel 9 (LCEAs) ac 'efydd' (NCEAs) fod yn rhyngwyneb rhwng y cynlluniau lleol a chenedlaethol. Fodd bynnag, roedd hyn wedi creu rhywfaint o ddryswch ers hynny.
Felly roedd yr ymgynghoriad yn cynnig gostwng lefel efydd y dyfarniadau cenedlaethol, gyda’r lefelau sy’n weddill yn cael eu hasesu trwy broses ymgeisio un haen i wobrwyo cyflawniadau cenedlaethol a rhyngwladol. Amlygodd yr ymgynghoriad hefyd y bydd cyflawniad lleol yn parhau i gael ei gydnabod gan y cynllun gwobrau lleol, sydd wrthi’n cael ei ddiwygio ar hyn o bryd. Yn amodol ar ganlyniad trafodaethau, gallai’r cynllun lleol hefyd gydnabod ymdrechion rhanbarthol.
Nododd ein cynnig y bydd Meddygon Teulu academaidd yn parhau i fod yn gymwys i gael dyfarniad cenedlaethol ond nad oes gan Feddygon Teulu academaidd sy’n gweithio yn Lloegr fynediad at gynlluniau tâl perfformiad lleol.
Nododd yr ymgynghoriad nad oes cynllun dyfarnu lleol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae ymgynghorwyr yn gymwys i dderbyn Dyfarniadau Ymrwymiad dair blynedd ar ôl i ymgynghorydd gyrraedd brig y raddfa gyflog. Nododd yr ymgynghoriad y byddai dal dyfarniad cenedlaethol yng Nghymru o dan y cynllun diwygiedig yn parhau i atal cymhwysedd i ddal Dyfarniad Ymrwymiad.
Cwestiwn: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r gwerth a gynigir ar gyfer yr NCEAs ar y gwahanol lefelau, sef o leiaf: £20,000 - arian, £30,000 - aur, a £40,000 - platinwm, o gofio y bydd dyfarniadau perfformiad lleol hefyd ar gael i ddeiliaid NCEA o 2022?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Atebodd 274 o ymatebwyr y cwestiwn hwn, ac roedd 55% yn cytuno a 45% yn anghytuno.
O’r rhai a oedd yn anghytuno, barn y rhan fwyaf oedd y dylid pwysoli’r balans yn fwy tuag at y lefel mynediad. Awgrymodd nifer fach y dylid lleihau neu ddileu dyfarniadau ar y lefel platinwm.
Mynegodd rhai ymatebwyr eu barn am y neges y byddai gostwng gwerth dyfarniadau yn ei hanfon, gyda rhai ymatebwyr yn awgrymu y gallai hyn beri i ymgeiswyr beidio ag anfon ceisiadau a lleihau pŵer y dyfarniadau i gymell gweithgaredd ychwanegol parhaus.
Ystyriai eraill y gallai gostyngiad mewn gwerth annog pobl i beidio â dewis llwybr gyrfa academaidd.
Gofynnodd nifer am fwy o eglurder ynghylch y rhesymeg dros ddileu’r dyfarniad lefel efydd. Cyfeiriodd rhai at bryderon mewn perthynas ag academyddion clinigol a’u hanhawster i gael mynediad at CEAs lleol. Daeth pryderon tebyg gan Feddygon Teulu academaidd nad oes CEAs lleol ar gael ar eu cyfer. Mynegodd rhai Colegau Brenhinol bryderon y gallai hyn roi anfantais i’r arbenigeddau meddygol hynny sydd â chyfrannau mwy o ddyfarniadau efydd. Rydym wedi egluro ein bwriad yma yn Adran 4.
Cymysg oedd y safbwyntiau ar alluogi ymgeiswyr i ddal gwobrau lleol a chenedlaethol yr un pryd. Er bod llawer o ymatebwyr yn croesawu’r egwyddor y tu ôl i’r cynnig hwn, dadleuai rhai mai’r un bobl yn aml fydd yn dal dyfarniadau cenedlaethol a lleol, ac y gallai pobl gael canmoliaeth am yr un dystiolaeth ddwywaith.
Roedd rhai yn cwestiynu sut y byddai cyllid yn symud rhwng cynlluniau lleol a chenedlaethol, gan bryderu ynghylch rhoi ymgeiswyr cenedlaethol neu leol dan anfantais. Roedd safbwyntiau eraill yn canolbwyntio ar drosglwyddo cyllid o un cynllun i’r llall a’r perygl y byddai llai o ddyfarniadau lleol ar gael pe bai’r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i gynyddu nifer y dyfarniadau cenedlaethol.
Mynegodd ymatebwyr eraill bryderon y gallai fod gan Ymddiriedolaethau farn wahanol ar yr hyn sy’n cyfateb i ragoriaeth, a allai gynyddu’r amrywiad yn y modd y gweithredir ac yn y modd y rhoddir cydnabyddiaeth ar lefel leol. Er enghraifft, gallai meddygon teulu a meddygon sydd â gyrfaoedd portffolio fod yn llai tebygol o dderbyn cydnabyddiaeth cyflogwr, er eu bod wedi datblygu sgiliau a diddordebau amrywiol sydd o fudd i gleifion a chymunedau.
Newidiadau i feysydd ar gyfer asesu ceisiadau NCEA
Nododd yr ymgynghoriad nad yw’r ‘meysydd’ tystiolaeth cyfredol wedi eu hadolygu’n sylweddol ers i CEAs cenedlaethol ddisodli Dyfarniadau Rhagoriaeth yn 2004. O’r herwydd, cynigiodd yr ymgynghoriad eu hadnewyddu a’u haddasu.
I grynhoi, y cynigion oedd:
- cyfuno meysydd 1 a 2 i gwmpasu datblygu a darparu gwasanaeth
- pwysleisio rôl arweinyddiaeth wrth arddangos rhagoriaeth ym maes 2
- rhoi ffocws cryfach ar addysg, hyfforddiant a datblygu pobl ym maes 3;
- ymdrin ag arloesi ac ymchwil ym maes 4 a
- chyflwyno pumed maes newydd[footnote 2]
Cwestiwn: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r meysydd hyn sydd wedi’u haddasu?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Cytunai 79% o’r ymatebwyr
Nododd safbwyntiau fod y meysydd newydd yn rhoi’r ffocws cywir ar ofynion ar gyfer effaith genedlaethol a chyflawni 'yn ychwanegol at' yr hyn a amlinellir mewn cynlluniau swyddi.
Mynegodd ymatebion sefydliadol bryderon efallai na fydd y cynigion yn dal ehangder yr ymarfer yn llawn yng nghyd-destun gyrfaoedd sy’n seiliedig yn gynyddol ar bortffolio.
Atgyfnerthwyd hyn gan eraill gan nodi y byddai datblygu’r disgrifyddion yn allweddol i sicrhau ffocws eang, cynhwysol.
Roedd pryderon eraill yn ymwneud ag a allai gofyn am dystiolaeth ar draws pob un o’r pum maes fod yn anfantais i’r rhai sy’n gweithio Llai nag Amser Llawn, neu sydd â rolau nad ydynt yn rhoi cyfleoedd i ddarparu tystiolaeth o dan un neu fwy o feysydd. O’r herwydd, awgrymodd rhai mai dim ond dros 3 neu 4 maes y byddai’n ofynnol i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth.
Awgrymodd nifer fach o ymatebwyr y dylem gadw a datblygu’r meysydd presennol yn hytrach na newid ac ychwanegu pumed maes newydd.
Cwestiwn: Pa feysydd yr hoffech eu gweld a pham, a/neu sut fyddech chi’n addasu’r disgrifyddion a ddarperir ar gyfer y 5 maes arfaethedig?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Mynegodd 45 o ymatebwyr farn a cheir crynodeb o’r rhain isod
Maes 1: datblygu a darparu eich gwasanaeth
Ymateb i’r ymgynghoriad:
- roedd cefnogaeth i uno meysydd 1 a 2 gydag ymatebwyr yn dweud y byddai hyn yn helpu i ddileu rhywfaint o’r gorgyffwrdd yn y meysydd cyfredol rhwng darparu tystiolaeth am 'ddatblygu' a 'darparu' gwasanaeth o ansawdd uchel
- roedd pryderon y gellir ystyried bod maes 1 yn canolbwyntio mwy ar waith a ddarperir yn lleol yn hytrach nag yn rhanbarthol / yn genedlaethol, a bod angen canllawiau clir ynghylch tystiolaeth
- pwysleisiodd eraill yr angen i fod yn glir nad yw 'gwasanaeth' bob amser yn glinigol nac yn wynebu cleifion – dywedwyd y gallai diffyg eglurder rwystro rhai ymgeiswyr rhag ymgeisio
Maes 2: arweinyddiaeth
Ymateb i’r ymgynghoriad:
- croesawyd yn fras ymestyn y ffocws ar arweinyddiaeth
- nododd sefydliadau y manteision o ran sut y gallai arwain hyfforddiant sbarduno effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd clinigol
- croesawyd gofyn am dystiolaeth am sut mae’r ymgeisydd wedi chwarae rhan weithredol yn y gwaith o sbarduno cynwysoldeb ac amrywiaeth
- ystyrid bod gofyniad i ymgeiswyr ddangos sut y gallent fod wedi datblygu neu ddylanwadu ar newidiadau sy’n adlewyrchu diwylliant a gwerthoedd disgwyliedig ac uchelgeisiol y GIG ar lefel ranbarthol neu genedlaethol yn ddefnyddiol
- mynegodd eraill yr angen i ofyn am dystiolaeth o sut mae cyfraniadau wedi helpu i sefydlu timau amlddisgyblaeth a darparu ffyrdd newydd o weithio i wella gofal cleifion
- awgrymodd rhai ymatebwyr y gallai’r Fframwaith Cymhwysedd Arweinyddiaeth Feddygol fod yn ddefnyddiol i nodi meysydd rhagoriaeth sy’n gysylltiedig â gweithio gydag eraill, rheoli gwasanaethau a gwella gwasanaethau
Maes 3: addysg, hyfforddiant a datblygu pobl
Ymateb i’r ymgynghoriad:
- awgrymodd ymatebion sefydliadol yr angen i sicrhau bod y maes hwn yn cydnabod addysg drawsnewidiol effeithiol
- roedd cefnogaeth hefyd i sicrhau bod y maes hwn yn cydnabod yr ymgeiswyr hynny sy’n sbarduno arloesedd mewn addysg feddygol ôl-raddedig (PGME) ac wrth optimeiddio a gwella cyfleoedd hyfforddi
Maes 4: arloesedd ac ymchwil
Ymateb i’r ymgynghoriad:
- mynegodd nifer fach o ymatebwyr farn fod y maes hwn yn gwyro’n ormodol tuag at y byd academaidd ac y gallai roi clinigwyr ar y rheng flaen o dan anfantais neu beri iddynt beidio ag ymgeisio
- roedd rhai safbwyntiau hefyd yn ystyried bod ymchwil yn aml yn weithgaredd 'taledig' o’i gymharu â 'gweithgaredd y GIG' ac y byddai angen eglurder ychwanegol mewn canllawiau i sicrhau nad oedd unigolion yn cael eu gwobrwyo am weithgaredd taledig
Maes 5: maes newydd ar wella ansawdd a gydnabyddir yn genedlaethol neu’n rhyngwladol
Ymateb i’r ymgynghoriad:
- nododd 12 ymatebydd, er eu bod yn cytuno â’r egwyddorion y tu ôl i gynnwys maes 'i gynnwys popeth', y byddai ganddynt bryderon ynghylch goddrychedd sgorio ac y byddai angen arweiniad clir i sicrhau tegwch wrth asesu a sgorio
- gofynnodd nifer o ymatebwyr am eglurder ynghylch ai ffocws y maes hwn oedd caniatáu i ymgeiswyr ymhelaethu neu ymestyn yr hyn yr oeddent eisoes wedi’i gyflwyno ar draws y pedwar maes arall, neu a oedd yn ymwneud â dal blaenoriaethau cenedlaethol ehangach nad oeddent yn ffitio mewn man arall
- mynegodd rhai yr hoffent weld y maes hwn yn cynnwys gwaith cefnogi mewn elusennau meddygol ac iechyd er mwyn gwella canlyniadau i gleifion.
Gwella mynediad i’r cynllun cenedlaethol
Nododd yr ymgynghoriad fod yr AIGC (DHSC) a Llywodraeth Cymru yn dymuno archwilio opsiynau ar gyfer gwella’r broses ymgeisio gyfredol. Amcanion allweddol y ddau sefydliad yw annog yr ymgeiswyr mwyaf haeddiannol i wneud cais am ddyfarniad a bod yn deg, heb roi unrhyw grŵp cymwys o ymgeiswyr dan anfantais.
Mae AIGC (DHSC) a Llywodraeth Cymru yn dymuno annog cyflogwyr i sicrhau bod ymgeiswyr o’u sefydliad yn adlewyrchu amrywiaeth eu gweithlu o ymgynghorwyr, gyda chefnogaeth i fwy o ymgynghorwyr benywaidd a rhai o leiafrifoedd ethnig. Fel rhan o hyn, dylent ystyried annog ceisiadau gan grwpiau arbenigedd a dangynrychiolwyd yn draddodiadol, gan adrodd ar amrywiaeth y ceisiadau yn erbyn meincnodau priodol.
Tynnodd yr ymgynghoriad ar argymhellion o adolygiad Mend the Gap ac argymhellodd y dylid derbyn ei argymhellion i:
- fonitro ceisiadau yn agosach a gwella mecanweithiau adrodd i helpu i hwyluso ceisiadau gan arbenigeddau sydd fel rheol yn derbyn dyfarniadau is a
- thalu dyfarniadau ar y gwerth llawn ni waeth a yw ymgeiswyr yn gweithio Llai nag Amser Llawn
Cwestiwn: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’n cynigion i wella mynediad at y gystadleuaeth NCEA?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Cytunai 80%.
Croesawyd y dull o asesu ceisiadau fel un defnyddiol i ymdrin â’r bwlch rhwng y rhywiau a’r bwlch ethnigrwydd mewn CEAs.
Crybwyllodd ymatebwyr bwysigrwydd sicrhau bod system ar-lein y dyfodol yn gydnaws â thechnolegau cynorthwyol.
Cwestiwn: A oes gennych chi awgrymiadau ynghylch sut y gallwn wella mynediad gan fenywod a rhai â nodweddion gwarchodedig i’r cynllun?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Cafwyd 139 o ymatebion i’r cwestiwn hwn.
Mynegodd nifer fawr yr angen i gofnodi nodweddion gwarchodedig yn fwy manwl a oedd yn ymestyn y tu hwnt i ryw a lleiafrifoedd ethnig.
Roedd safbwyntiau eraill yn ystyried na ddylid cyfyngu dadansoddiad i asesu’r amrywiaeth rhwng ymgeiswyr llwyddiannus ac ymgeiswyr aflwyddiannus yn unig, ond y dylid cynnal dadansoddiad hefyd ar amrywiaeth yr holl ymgeiswyr o’i gymharu ag amrywiaeth y gweithlu o ymgynghorwyr cymwys.
Nododd y BMA, fel y mae pethau ar hyn o bryd, fod pob meddyg lleiafrifol ethnig yn cael ei ddosbarthu o dan ymbarél BAME. Dywedwyd, lle bo hynny’n bosibl, y dylid rhannu’r data hwn ymhellach gan y gallai 'BAME' guddio grwpiau lleiafrifol ethnig.
Roedd ymatebion gan sefydliadau yn cefnogi’r cynigion i weithredu mecanweithiau tecach a mwy tryloyw ar gyfer mesur, cydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth. Dywedasant y byddai’r cynigion yn ddefnyddiol wrth ymdrin â rhai o’r rhagfarnau hanesyddol ynghylch dyfarniadau ac wrth gynyddu cyrhaeddiad i’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig.
Roedd ymatebion eraill yn cefnogi’r angen i gynnal asesiad manwl o effaith ar gydraddoldeb er mwyn deall yn well effaith bosibl y cynigion ar y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig.
Trafododd rhai ymatebion i’r ymgynghoriad addysg i sgorwyr ar gydnabod a gwrthweithio rhagfarn anymwybodol, yn enwedig ynghylch geirdaon a chefnogaeth cyflogwyr i geisiadau.
Awgrym arall yn yr ymatebion oedd cuddio enwau’r rhai oedd yn ymgeisio i ymdrin â rhagfarn anymwybodol.
Roedd barn gymysg am ymgeiswyr cymwys yn parhau i hunan-enwebu. Teimlai rhai ymatebwyr fod hyn yn ddefnyddiol i ddileu unrhyw ragfarnau a allai fod yn gysylltiedig â chyflogwr neu ddulliau enwebu eraill. Awgrymodd eraill y gallai ymgeiswyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, yn enwedig lle nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, gael eu digalonni trwy orfod hunan-enwebu.
Roedd barn gref y dylid cryfhau canllawiau i bwysleisio rôl cyflogwyr wrth annog a chefnogi ceisiadau yn rhagweithiol. Awgrymodd rhai y dylai ymgeiswyr nad ydynt yn llwyddo i ennill dyfarniad dderbyn adborth ar eu cais a chael anogaeth a chymorth i’w helpu i ailymgeisio.
Cwestiwn: I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai rhai sy’n gweithio Llai Nag Amser Llawn dderbyn gwerth y dyfarniad yn llawn yn hytrach na’r dyfarniad cyfredol sy’n seiliedig ar dâl pro rata?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Atebodd 265 o ymatebwyr y cwestiwn hwn gyda chonsensws cryf ei bod yn bwysig sicrhau nad yw’r rhai sy’n gweithio Llai Nag Amser Llawn yn cael eu cosbi.
Roedd barn gymysg ynghylch a ddylid dyfarnu gwerth y dyfarniad llawn i ymgeiswyr Llai Nag Amser Llawn yn hytrach na chael eu talu pro rata - gyda 42% yn cytuno a 36% yn anghytuno. Ni nododd 22% farn gref y naill ffordd neu’r llall. Dadleuai’r rhai a gytunai fod y dyfarniad pro rata yn ffactor a gyfrannodd at gynyddu problemau o ran anghydraddoldeb rhywiol.
Dywedodd y BMA, yn dilyn arolwg o ymgynghorwyr yng Nghymru gan ofyn beth fyddai’r effaith y byddai cynigion penodol yn ei chael ar eu tebygolrwydd o wneud cais am CEAs - dywedodd 1 o bob 8 ymatebydd gwrywaidd ac 1 o bob 5 ymatebydd benywaidd y byddent yn fwy tebygol o wneud cais am CEAs pe bai’r elfen pro rata yn cael ei dileu. Adlewyrchwyd safbwyntiau tebyg gan yr Academïau.
Dywedodd rhai ymatebwyr y byddai’n bwysig cael arweiniad clir ar gyfer sgorwyr i sicrhau bod cyflawniadau’n cael eu marcio gyda chynlluniau swyddi ymgeiswyr mewn golwg. Byddai hyn yn osgoi annhegwch pe bai ymgeiswyr yn cael eu barnu yn ôl maint yn hytrach nag ansawdd y gwaith gan arwain at elfen o annhegwch.
Dadleuai rhai ymatebwyr yn erbyn dod â’r dyfarniad pro-rata i ben, gan ddweud y gallai’r safon rhagoriaeth fod yn anghyraeddadwy i ymgynghorwyr Llai Nag Amser Llawn, felly dylid sicrhau cydbwysedd wrth sicrhau bod y swm a delir yn deg i’r rhai sy’n gweithio Llai Nag Amser Llawn wrth sicrhau nad yw’r rhai sy’n gweithio’n rhan-amser o dan anfantais o ran sicrhau dyfarniadau.
Gofynnodd dau ymatebydd inni ystyried y gwahaniaeth i’r rheini a allai weithio Llai Nag Amser Llawn yn y GIG ond sydd â rôl daledig mewn man arall, yn erbyn y rhai sy’n gweithio Llai Nag Amser Llawn sydd ddim â rôl daledig mewn man arall.
Cynnal rhagoriaeth yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan ddyfarniad cenedlaethol
Nododd yr ymgynghoriad yr uchelgais bod rhagoriaeth glinigol yn cael ei chynnal am y cyfnod y mae’r CEA ar waith.
Cynigiodd yr ymgynghoriad y dylid gofyn i ymgeiswyr, fel rhan o’r broses ymgeisio, ddarparu cynllun amlinellol yn cwmpasu’r cyfnod y byddai’r CEA, pe bai’n llwyddiannus, yn cael ei dalu amdano.
Cwestiwn: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod hyn yn ffordd briodol o gymell deiliaid i gynnal rhagoriaeth hyd ddiwedd cyfnod y CEA?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Atebodd 255 o ymatebwyr y cwestiwn hwn. Cytunai 48% ac roedd 52% yn anghytuno.
Roedd cytundeb cyffredinol ymhlith ymatebwyr ynghylch pwysigrwydd parhau i ddangos rhagoriaeth trwy gydol y cyfnod dyfarnu.
Roedd gan y rhai a oedd yn anghytuno amheuon ynghylch y baich gweinyddol ychwanegol o ddarparu mwy o ddeunydd. Roedd barn gref mai bwriad y cynllun dyfarnu oedd cydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth a gyflawnwyd eisoes yn hytrach na chanlyniadau’r dyfodol, gyda phryderon na fyddai’n bosibl gwneud hyn yn ddim byd mwy nag ymarferiad 'ticio blychau'.
Roedd barn hefyd bod cyfraniadau sy’n mynd 'uwchlaw a thu hwnt' yn aml yn gyfyngedig gan amser ac mewn ymateb i anghenion newidiol y GIG.
Cwestiwn: Pa gynigion sydd gennych i sicrhau bod deiliaid CEA yn cynnal rhagoriaeth glinigol hyd ddiwedd cyfnod y dyfarniad?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Gwnaeth 130 o ymatebwyr awgrymiadau mewn ymateb i’r cwestiwn hwn.
Awgrymodd nifer fawr o ymatebwyr y gallai cysylltiadau cryfach ag arfarniad blynyddol, adolygiad cymheiriaid ac ail-ddilysu fod yn un ffordd i sicrhau bod rhagoriaeth glinigol yn cael ei chynnal, a’r angen i bwysleisio rôl cyflogwyr wrth gyflawni hynny o fewn unrhyw ganllawiau.
Roedd safbwyntiau eraill yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i ddeiliaid dyfarniadau ddangos rhagoriaeth barhaus yn eu maes/meysydd cryfaf neu farnu cyflawniadau a gyflawnwyd ers eu dyfarniad diwethaf.
Diwedd ar y broses adnewyddu
Cynigiodd yr ymgynghoriad gadw’r cyfnod dyfarnu pum mlynedd ond diweddu’r broses adnewyddu gyfredol ar gyfer dyfarniadau, gan gynnig yn lle hynny y byddai’n ofynnol i glinigwyr wneud cais am ddyfarniad newydd wrth i’r dyfarniad ddod i ben.
Nod y cynnig hwn oedd gosod disgwyliadau cliriach bod pob ymgeisydd yn cystadlu â’i gilydd adeg y cais, ac ysgogi deiliaid dyfarniadau presennol i gynnal safonau uchel pe baent yn dymuno ennill dyfarniad yn y rownd nesaf. Awgrymodd yr ymgynghoriad y gallai hyn wella amrywiaeth, a gwella mynediad at ddyfarniadau lefel uwch i ymgynghorwyr iau sy’n perfformio’n dda.
Amlygodd yr ymgynghoriad fod y weithdrefn ar gyfer gwneud cais i adnewyddu CEA cenedlaethol o dan y cynllun presennol yn ei hanfod yn union yr un fath â’r broses ar gyfer gwneud cais am ddyfarniad newydd. Fodd bynnag, mae cynnal y gwahaniad rhwng y ddau fath o gais yn feichus yn weinyddol ac yn gofyn am broses sgorio ar wahân.
Cwestiwn: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid parhau i gynnal y dyfarniad dros 5 mlynedd, ond y dylid dod â’r broses adnewyddu ar gyfer dyfarniadau i ben, gyda chlinigwyr yn gwneud cais am ddyfarniad newydd wrth i’r dyfarniad blaenorol ddod i ben?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Cytunai 72% o’r 253 a ymatebodd.
Roedd yr ymatebwyr a gefnogodd y cynnig hwn yn ystyried bod y weithdrefn ar gyfer gwneud cais i adnewyddu CEA cenedlaethol o dan y cynllun presennol yn ei hanfod yn union yr un fath â’r broses ar gyfer gwneud cais am ddyfarniad newydd. Felly roedd yr ymatebwyr hyn yn teimlo ei bod yn amherthnasol a yw clinigwyr yn gwneud cais newydd yn ffurfiol, neu’n gwneud cais am adnewyddiad.
Roedd barn gymysg ynghylch y cyfnod dyfarnu. Awgrymodd rhai y dylid ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ailymgeisio’n amlach i annog rhagoriaeth barhaus. Roedd eraill yn ofni y byddai hyn yn digalonni ymgeiswyr, yn enwedig rhai o blith menywod a grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol.
Statws pensiynadwy NCEAs
Nododd y DDRB, yn ei adolygiad yn 2012, nad oedd bellach yn briodol i’r dyfarniadau fod yn bensiynadwy. Roeddent yn gweld hyn fel etifeddiaeth o adeg pan oeddent yn cael eu trin fel codiadau cyflog parhaol.
Nododd yr ymgynghoriad nad yw statws pensiynadwy NCEAs bellach yn cyd-fynd â’r syniad o gynllun gwobrwyo modern, heb ei gyfuno. Mae gan statws pensiynadwy cyfredol CEAs oblygiadau treth i rai sydd wedi bod yn dal dyfarniadau cenedlaethol lefel uwch am amser hir. Mae hyn wedi arwain at y ffaith fod rhai sy’n dal dyfarniadau yn ildio eu CEAs am resymau ariannol neu’n lleihau eu horiau neu’n ymddeol yn gynnar. Efallai ei fod hefyd wedi annog pobl i beidio ag ymgeisio ac wedi lleihau gallu’r cynllun i hyrwyddo cadw uwch glinigwyr sy’n perfformio’n dda yn y GIG.
Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai gwneud CEAs yn rhai nad ydynt yn bensiynadwy effeithio ar ymgynghorwyr yng nghyfnodau cynharach eu gyrfaoedd. Nododd yr ymgynghoriad ein bod yn disgwyl y byddai hyn yn cael ei wrthbwyso gan fynediad cynyddol i gyfran a nifer lawer mwy o ymgynghorwyr sy’n fenywod ac yn ddu, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig i ddyfarniadau, lle nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd.
Yn hynny o beth, dywedodd yr ymgynghoriad fod Cymru a Lloegr yn cytuno ag argymhelliad DDRB y dylai dyfarniadau fod heb eu cydgrynhoi a heb fod yn bensiynadwy.
Cwestiwn: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno na ddylai NCEAs cenedlaethol fod yn bensiynadwy?
Dadansoddiad o’r ymatebion:
Ymatebodd 257 i’r cwestiwn hwn. Cytunai 57% ac roedd 43% yn anghytuno.
Cydnabuwyd yn eang y bwriad i wneud dyfarniadau cenedlaethol yn rhai nad ydynt yn bensiynadwy i gynyddu nifer y dyfarniadau sydd ar gael. Ond roedd rhai o’r farn y byddai’r cynllun yn cael ei ddibrisio.
Nododd ymatebion sefydliadau fod gan eu haelodau farn gymysg ar y cynnig hwn.
Cododd eraill bryderon ynghylch yr effaith ar y rhai sy’n agosach at oedran ymddeol y gallai hyn eu cymell i ymddeol neu adael y GIG yn gynamserol. Nid ydym yn credu bod hyn yn wir - gweler Adran 4, Ymateb y llywodraeth a chrynodeb.
Roedd y BMA yn gwrthwynebu’n gryf. Dadleuent y byddai gwneud dyfarniadau yn rhai nad oeddent yn bensiynadwy yn gwreiddio’r bwlch pensiynau rhyw gan na fydd ymgynghorwyr iau (y mae cyfran uwch ohonynt yn fenywod ac o leiafrifoedd ethnig o gymharu ag ymgynghorwyr hŷn) yn gallu cyrchu NCEAs pensiynadwy mwyach.
Roedd diffyg eglurder cyffredinol ynghylch a fyddai hyn yn berthnasol yn ôl-weithredol i ddeiliaid NCEA cyfredol neu a fyddai hyn yn effeithio ar ddeiliaid dyfarniadau newydd o dan y cynllun newydd yn unig. I egluro: diogelir pob hawl cronedig.
Rôl a gwerth graddio a geirdaon yn y broses ddyfarnu
Roedd y ddogfen ymgynghori yn nodi ei bod yn ofynnol yn y cynllun presennol i gyflogwyr sgorio a chymeradwyo pob cais gan eu gweithwyr, gan ddarparu datganiad cyflogwr a nodi lefel eu cefnogaeth (cefnogaeth, cefnogaeth gyfyngedig, dim cefnogaeth). Mae rhai cyflogwyr hefyd yn rhoi graddfeydd yr ymgeiswyr y maent yn eu cefnogi. Addaswyd hyn yn rownd 2021 gyda chyflogwyr yn nodi lefel eu cefnogaeth yn unig.
Amlinellodd yr ymgynghoriad fod rhai Cyrff Enwebu Cenedlaethol (NNBs) a Chymdeithasau Arbenigol (SSs) wedi’u hachredu a’u caniatáu i ddarparu graddfeydd a geirdaon i’w haelodau. Mae sefydliadau achrededig yn derbyn nifer o 'lefydd graddio' yn seiliedig ar faint eu haelodaeth a’u statws cenedlaethol. Mae’r 28 NNB yn Golegau Brenhinol yn bennaf. Mae yna ryw 130 o SSs achrededig o wahanol feintiau, sy’n cwmpasu ystod eang o arbenigeddau ac is-arbenigeddau. Yn 2019 gwnaed dros 1,600 o enwebiadau ar gyfer y 300 o wobrau a oedd ar gael.
Nododd yr ymgynghoriad hefyd fod ymgeiswyr yn gallu gofyn am eirdaon trydydd parti cefnogol gan unrhyw unigolyn neu sefydliad arall pe dymunent (gan nodi bod y gallu i ofyn am eirdaon trydydd parti wedi’i ddileu dros dro yn rownd 2021).
Nododd yr ymgynghoriad fod yna achosion o ymgeiswyr â niferoedd uchel o eirdaon nad ydynt yn ddigon ar gyfer triongli tystiolaeth a’n bod yn dymuno lleihau’r llwyth gwaith ar gyfer ymgeiswyr, sgorwyr a darparwyr geirdaon.
Felly cynigiodd yr ymgynghoriad:
-
cadw cymeradwyaeth, lefelau cefnogaeth a darparu datganiadau gan gyflogwr. Yn ogystal, gofynnir i gyflogwyr ddarparu datganiad o’u proses i ACCEA, er mwyn sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth a chynrychiolaeth gytbwys o ymgeiswyr o blith eu poblogaeth gymwys o uwch glinigwyr. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig dileu graddio ymgeiswyr gan gyflogwyr
-
adolygu’r rhestr o NNBs ac SSs achrededig i sicrhau nad oes unrhyw arbenigedd / is-arbenigedd yn cael ei gynrychioli gan nifer o wahanol gyrff, gan o bosibl or-bwysleisio ei ddylanwad, a bod unrhyw NNB neu SS achrededig o statws a dylanwad cenedlaethol. Fel uchod, cynigiodd yr ymgynghoriad y gofynnir i NNBs a SS ddarparu datganiad o’u proses i sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth a chynrychiolaeth gytbwys o ymgeiswyr o blith eu haelodaeth a’r arbenigedd ehangach
-
cyfyngu nifer y geirdaon trydydd parti i uchafswm o ddau – nododd yr ymgynghoriad ein bod mewn llawer o achosion yn gweld testun geirda sydd yn union yr un fath o wahanol ffynonellau, gan nad oes proses sicrhau ansawdd yn bosibl ar gyfer geirdaon 'personol' o’r fath
Cwestiwn: Ydych chi’n cefnogi’r newidiadau a gynigir i rôl cyflogwyr?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Ymatebodd 250 i’r cwestiwn hwn. Cytunai 81%.
Cwestiwn: Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill ynghylch y rôl y dylai cyflogwyr ei chyflawni mewn proses dyfarniadau cenedlaethol newydd?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Rhoddodd 87 o ymatebwyr sylwadau ychwanegol.
Roedd cefnogaeth i ddileu’r gofyniad i gyflogwyr raddio a sgorio ceisiadau, gyda rhai ymatebwyr yn ystyried bod hwn yn ffactor a oedd yn aml yn atal ymgeiswyr rhag gwneud cais, gan arwain at anghydraddoldeb.
Roedd mwyafrif yr ymatebwyr serch hynny yn cefnogi’n gryf yr angen i gyflogwyr ddilysu cywirdeb y wybodaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd.
Cododd rhai ymatebwyr faterion yn ymwneud â Meddygon Teulu academaidd nad oes ganddynt efallai fynediad rhwydd at gyfarwyddwr meddygol, ac felly gallai cefnogaeth a chymeradwyaeth fod yn fwy heriol, gan awgrymu bod angen mwy o arweiniad.
Nodwyd pryderon ynghylch yr amrywiant mewn prosesau a lefelau cefnogaeth gan gyflogwyr, a chafodd hyn ei nodi fel problem gan sefydliadau.
Roedd llawer yn nodi pwysigrwydd rôl y cyflogwyr wrth gefnogi ymgeiswyr o ystyried bod strwythurau llywodraethu ac arfarnu yn gweithredu ar lefel leol. Byddai hyn yn arbennig o bwysig wrth annog ceisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Cafwyd rhywfaint o awgrym hefyd nad oedd y cynigion fel yr amlinellwyd hwy yn mynd yn ddigon pell i atal y posibilrwydd o arfer gwael mewn is-bwyllgorau, gan ddyfnhau problemau sy’n bodoli ynghylch cydraddoldeb.
Roedd unigolion a sefydliadau o’r farn y dylai’r ACCEA ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr fod yn fwy tryloyw ynghylch eu rhesymau dros beidio â chymeradwyo ceisiadau, ac i hyn gael ei archwilio i sicrhau bod cyflogwyr wedi rhoi ystyriaeth a chefnogaeth deg.
Cododd rhai y cwestiwn ynghylch pwy ddylai gymeradwyo ceisiadau, gan awgrymu mai clinigwr ddylai fod yn gwneud hynny, neu rywun sy’n gyfarwydd â gwaith yr ymgeisydd, gan eu galluogi i gydlofnodi a dilysu cywirdeb datganiadau a wnaed yn y cais.
Roedd nifer o ymatebion yn cefnogi parhau â’r broses a gyflwynwyd yn rownd dyfarnu 2020, gan ddweud y dylid ei chadw mor syml â phosibl.
Cwestiwn: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r newidiadau a gynigiwyd i nodi pwy ddylai fod yn NNB ac SS achrededig ac i leihau’r posibilrwydd y gallai arbenigeddau ac is-arbenigeddau gael eu gorgynrychioli?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Ymatebodd 247. Cytunai 84%.
Mynegodd ymatebwyr oedd yn cytuno hefyd ei bod yn bwysig sicrhau nad oedd unrhyw un arbenigedd yn cael ei orgynrychioli.
Roedd ymatebion gan sefydliadau oedd yn cytuno yn ystyried bod y dewis cyfredol o gyrff achrededig yn hanesyddol ac nad oedd yn adlewyrchu’r ystod o weithgaredd y mae llawer o ymgynghorwyr yn ei ddarparu i’r GIG ehangach
O’r 16% a oedd yn anghytuno, awgrymodd nifer fach fod NNBs a SSs yn lleihau tryloywder a thegwch y cynllun, ac er bod cynigion i leihau eu dylanwad yn gam cadarnhaol, roeddent yn cynnig eu tynnu o’r broses yn llwyr.
Nododd sefydliadau a oedd yn anghytuno fod gan NNBs a SSs rôl bwysig wrth asesu effaith gwaith ymgeisydd. Dywedasant fod llawer o ymgeiswyr yn gweithio mewn meysydd cymharol arbenigol ac nid yw bob amser yn bosibl i sgorwyr werthfawrogi arwyddocâd ac effaith genedlaethol eu gwaith yn llawn.
Gofynnodd nifer fach o ymatebwyr i’r rhestr amlinellu cyrff achrededig yn glir ar gyfer Meddygon Teulu academaidd.
Cwestiwn: Pa feini prawf y dylid eu defnyddio i benderfynu a ddylid achredu NNB neu SS?
Dadansoddiad o’r ymatebion:
Rhoddodd 94 o ymatebwyr sylwadau mewn ymateb i’r cwestiwn hwn.
Roedd cefnogaeth gref i gael proses gyson ar gyfer achredu NNBs a SSs.
Roedd rhai awgrymiadau ynghylch sail y meini prawf y dylid eu defnyddio i achredu NNBs a SSs yn cynnwys:
- bod yn gorff o statws a dylanwad cenedlaethol / cael ei gydnabod yn swyddogol gan ei aelodau
- gallu dangos cyfran yr ymgynghorwyr cymwys sy’n aelodau
- gallu dangos proses deg a chyfiawn ar gyfer enwebu a gallu darparu data ar amrywiaeth a chynhwysiant
- cael eu dewis ar y sail y gellir rhoi pwysau cyfartal i gyffredinolwyr ac arbenigwyr
- bod â sail aelodaeth sy’n gymesur â chyfanswm yr ymgynghorwyr yn yr arbenigedd penodol hwnnw
- cael ei ddiffinio gan allbynnau, er enghraifft, ar addysg, ymchwil, arweinyddiaeth ac ati
- being bod yn gorff neu’n gymdeithas y gallai unrhyw ryw, hil neu grefydd ymuno ag ef/hi, hy nad yw’n grŵp cynrychioliadol wedi’i seilio’n bennaf ar unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig
- gallu tystio i feini prawf clir ar gyfer asesu ceisiadau aelodau gyda data EDI priodol i ddangos eu bod yn cael eu hystyried yn deg ac yn agored
O’r ymatebion gan sefydliadau, roedd cefnogaeth eang i fynnu bod NNBs / SSs yn cyhoeddi eu data, eu methodoleg sgorio a’u dulliau cyfiawnhau, i roi’r sicrwydd angenrheidiol bod prosesau’n dryloyw ac yn deg.
Roedd eraill yn cefnogi’r angen i safoni prosesau, i sicrhau bod paneli sgorio yn adlewyrchu eu sail aelodaeth ac wedi cael hyfforddiant priodol mewn cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Dywedodd rhai y dylai NNBs a SS barhau i gynhyrchu rhestrau wedi’u graddio ac asesu cyfraniad cyffredinol yr ymgeisydd i’w arbenigedd / y GIG ehangach i ddileu unrhyw ragfarnau neu duedd tuag at flaenoriaethu gwaith sy’n cael effaith uniongyrchol ar eu sefydliad eu hunain.
Cwestiwn: I ba raddau ydych chi’n cefnogi’r newidiadau a gynigir ar gyfer geirdaon trydydd parti?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Ymatebodd 252. Cytunai 66%. Nid oedd 25% o’r ymatebwyr yn cytuno nac yn anghytuno. Roedd 9% o’r ymatebwyr yn anghytuno.
Roedd consensws cyffredinol bod gan y rhain rôl bwysig o ran sicrhau ansawdd ceisiadau.
Croesawyd yn eang gyfyngu geirdaon i uchafswm o ddau, gydag eraill yn awgrymu na ddylai ymgeiswyr allu cyfeirio at fwy nag un NNB am eirda, gan ddweud y gallai hyn leihau unrhyw fanteision posibl i’r rheini a allai fod yn gysylltiedig â nifer o gyrff cenedlaethol dros y rhai oedd yn gysylltiedig â dim ond un.
Teimlid hefyd y byddai’n ddefnyddiol i ACCEA ail-egluro pwrpas geirdaon o fewn unrhyw ganllawiau newydd, gan fod diffyg dealltwriaeth ynghylch a ddylid defnyddio’r rhain i wirio’r datganiadau a wnaed gan ymgeisydd, neu wrth lunio barn am eu cais.
Awgrymid hefyd y dylai canllawiau pellach amlinellu math a lefel y pwysoli y dylid ei roi i eirdaon trydydd parti.
Unrhyw sylwadau eraill ar y trefniadau ar gyfer NCEAs yn y dyfodol
Cwestiwn: Oes gennych chi unrhyw gynigion ychwanegol neu sylwadau pellach ar drefniadau’r cynllun NCEA yn y dyfodol?
Dadansoddiad o’r ymatebion
Rhoddodd 156 o ymatebwyr sylwadau mewn ymateb i’r cwestiwn hwn.
Roedd cyfanswm o 17 o ymatebwyr o’r farn y dylid diddymu Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol, gyda rhywfaint o her ynghylch pam na ofynasom y cwestiwn penodol hwn yn yr ymgynghoriad.
Roedd cais am fwy o eglurder ynghylch y broses ar gyfer ystyried dyfarniadau cenedlaethol gan gynnwys y broses ymgeisio un haen a sut y byddai’r broses sgorio ranbarthol yn cael ei defnyddio i bennu pa lefel o ddyfarniad roedd yr ymgeisydd yn ei derbyn. Yn benodol, dymunai’r Colegau Brenhinol a’r Academïau ddeall a fyddai’r broses newydd yn disodli neu’n gweithredu ochr yn ochr â’u trefniadau cyfredol ar gyfer dyfarniadau platinwm.
Awgrymodd llawer o ymatebwyr yr angen i godi ymwybyddiaeth am y cynllun, er enghraifft trwy sôn amdano wrth grwpiau proffesiynol / cyrff aelodau.
Awgrymodd nifer fach o ymatebwyr yr angen i ddileu hunan-enwebiad sydd hefyd wedi’i nodi o dan 'Gwella Mynediad', yn enwedig ar gyfer menywod neu grwpiau lleiafrifol ethnig y gellid dadlau sy’n llai tebygol o hunan-enwebu.
Mynegodd nifer o ymatebwyr bryderon ein bod wedi cyfeirio at ymgynghorwyr ond nid Meddygon Teulu academaidd, ac awgrymwyd bod y grŵp hwn o bobl wedi’u hepgor o unrhyw ymgysylltu neu nas ymgynghorwyd â hwy.
4. Ymateb y llywodraeth a chrynodeb
Mae’r adran hon yn crynhoi ymateb y llywodraeth i’r cynigion fel yr amlinellir hwy yn y ddogfen ymgynghori. Mae’n nodi sut y byddwn yn cyflwyno cynllun newydd sy’n gwobrwyo’r ymgynghorwyr sy’n perfformio orau, wrth fod yn fwy cynhwysol ac yn adlewyrchu’r ffyrdd newydd o weithio ar draws meddygaeth.
Ail-frandio’r cynllun
Enw’r gwobrau newydd o 2022 fydd 'Dyfarniadau Effaith Glinigol Cenedlaethol' (NCIAs). Maes o law, bydd ACCEA yn dod yn ACCIA (Pwyllgor Cynghori ar Ddyfarniadau Effaith Glinigol).
Diogelu cyflog a’i effaith ar y cynllun
Yn 2018, cymeradwyodd y llywodraeth Atodlen 30 o gontract Ymgynghorwyr Lloegr 2003, a gafodd ei negodi a’i gytuno rhwng Cyflogwyr y GIG a’r BMA. Mae’r atodlen yn darparu amddiffyniad cyflog trosiannol lle cyflwynir cynllun Cenedlaethol newydd sydd â gwerthoedd dyfarnu is. Mae’r amddiffyniad hwn yn gostus, gan gyrraedd uchafbwynt o dros £30 miliwn yn 25/26. Rhaid i gynllun NCIA aros yn fforddiadwy o fewn y gyllideb flynyddol sydd ar gael ac felly bydd amddiffyniad cyflog yn arwain at ganlyniadau i’r arian sydd ar gael ar gyfer dyfarniadau newydd yn y tymor byr a’r tymor canolig.
Dim ond trwy gytundeb ar y cyd â’r undebau llafur cydnabyddedig y gellir newid y trefniadau cytundebol ar gyfer amddiffyn cyflog. Hyd yma nid yw’r BMA wedi bod yn barod i gychwyn trafodaethau i aildrafod y telerau, ond rydym yn parhau i fod yn agored i ailystyried y trefniadau amddiffyn cyflog mewn partneriaeth pe bai eu sefyllfa’n newid.
Mae cost y trefniadau amddiffyn cyflog wedi’i chynnwys yn y cynlluniau ar gyfer y cynllun diwygiedig, gan newid dyluniad y cynllun mewn rhai mannau. Ond y mae ansicrwydd ynghylch y costau hyn. Bydd gwir gostau amddiffyn cyflog yn cael eu hadolygu o bryd i’w gilydd, gydag addasiadau’n cael eu gwneud bob blwyddyn, er enghraifft i nifer y dyfarniadau sydd ar gael, o ganlyniad.
Mae ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad yn amlinellu amlinelliad terfynol arfaethedig y cynllun a, lle bo hynny’n berthnasol, y trefniadau a fydd yn berthnasol tra bydd effeithiau ariannol amddiffyn cyflog yn arwain at gyfyngiadau.
Nodwch nad yw hyn yn berthnasol i Gymru.
Ehangu mynediad i’r Cynllun Dyfarniadau Rhagoriaeth Glinigol Cenedlaethol
Cynyddu nifer y dyfarniadau
Yn Lloegr, ein nod yw dyfarnu hyd at 600 o ddyfarniadau’r flwyddyn.
Mae’r darpariaethau amddiffyn cyflog a ddisgrifir uchod yn golygu efallai na fyddwn yn gallu dyfarnu’r 600 dyfarniad llawn yn ystod blynyddoedd cyntaf y cynllun gan ystyried gwir gostau amddiffyn cyflog wrth iddynt ddod yn glir bob blwyddyn.
Yn dilyn trafodaeth â GIG Lloegr a NHSEI, rydym wedi cytuno ar y gyllideb ar gyfer y dyfarniadau hyn dros y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn darparu sicrwydd cynllunio ar gyfer y GIG ac ACCEA.
Blwyddyn | 2022 i 2023 | 2023 i 2024 | 2024 i 2025 | 2025 i 2026 | 2026 i 2027 | 2027 i 2028 |
---|---|---|---|---|---|---|
Cyllideb y cynllun (£m) | 127 | 128.5 | 130 | 131.5 | 133 | 134.5 |
Byddwn yn adolygu nifer y dyfarniadau sydd ar gael yn 2025 gyda’r bwriad o gynyddu’r nifer, gan gydnabod y bydd y gweithlu ymgynghorol yn debygol o fod wedi cynyddu. Bydd p’un a yw hyn yn bosibl yn dibynnu ar gost amddiffyn cyflog, yr ydym yn rhagweld fydd yn dechrau gostwng o 2026 i 2027 ymlaen.
Yng Nghymru byddwn yn cynyddu nifer y dyfarniadau i tua 37 y flwyddyn wedi i’r cyfnod trosglwyddo ddod i ben. Yn y cyfamser, bydd niferoedd y dyfarniadau sydd ar gael yn amrywio yn ystod y cyfnod trosglwyddo gan y byddant yn dibynnu ar ddyfarniadau o’r cynllun blaenorol yn dod i ben ac arian yn dod ar gael i ariannu’r dyfarniadau diwygiedig ynghyd â chostau deiliaid dyfarniadau newydd yn cadw dyfarniadau ymrwymiad.
Gwerth y dyfarniadau
Mae cynyddu nifer y dyfarniadau yn bosibl trwy ostwng eu gwerth. Rydym yn cydnabod safbwyntiau a fynegwyd am y gostyngiad yng ngwerth dyfarniadau ac a allai hyn beri i ymgeiswyr benderfynu peidio â gwneud cais. Fodd bynnag, byddem yn rhagweld y byddai cynnydd yn nifer y dyfarniadau a ddarperir a’r sefydlogrwydd a gynigir gan y cyfnod dyfarnu pum mlynedd yn gwrthbwyso hyn.
Mae’r gwobrau hyn yn rhai sy’n cael eu parchu i wobrwyo ymgynghorwyr sy’n gwneud cyfraniadau cenedlaethol sylweddol, ac i nodi eu statws proffesiynol. Bydd y parch hwn yn ddeniadol i ddarpar ymgeiswyr. Bydd gwerthoedd y dyfarniad yn ddarostyngedig i argymhellion gan y DDRB, a byddant yn cael eu hadolygu.
Enwau a gwerthoedd y dyfarniad yn Lloegr fydd:
- Cenedlaethol 1 - £20,000 y flwyddyn am 5 mlynedd
- Cenedlaethol 2 - £30,000 y flwyddyn am 5 mlynedd
- Cenedlaethol 3 - £40,000 y flwyddyn am 5 mlynedd
Rydym yn rhagweld y bydd y rhaniad rhwng lefelau fel a ganlyn:
- Cenedlaethol 1 - 330
- Cenedlaethol 2 - 200
- Cenedlaethol 3 - 70
Mae hyn yn dilyn derbyn adborth a gynigir trwy’r ymgynghoriad y dylid pwysoli niferoedd dyfarniadau tuag at y lefel Cenedlaethol 1. Gallai’r cyfrannau a’r niferoedd hyn newid yn dibynnu ar gyfyngiadau ariannol blynyddol fel y disgrifir uchod.
Bydd Cymru yn gweithredu cynllun pedair lefel, a byddai’n disgwyl sicrhau bod y nifer ganlynol o ddyfarniadau newydd ar gael bob blwyddyn erbyn diwedd y cyfnod trosglwyddo:
- Lefel Genedlaethol 0 – £10,000 y flwyddyn am 5 mlynedd. 20 dyfarniad ar gael bob blwyddyn
- Lefel Genedlaethol 1 – £20,000 y flwyddyn am 5 mlynedd. 10 dyfarniad ar gael bob blwyddyn
- Lefel Genedlaethol 2 – £30,000 y flwyddyn am 5 mlynedd. 5 dyfarniad ar gael bob blwyddyn
- Lefel Genedlaethol 3 – £40,000 y flwyddyn am 5 mlynedd. 2 ddyfarniad ar gael bob blwyddyn
Ar ôl ystyried ymatebion yr ymgynghoriad, ynghyd ag ymgysylltu â rhanddeiliaid, caniateir i ymgynghorwyr yng Nghymru ddal dyfarniad NCIA a dyfarniad ymrwymiad ar yr un pryd. O ganlyniad, mae nifer y dyfarniadau sydd ar gael yng Nghymru wedi lleihau er mwyn galluogi ymgynghorwyr i ddal y ddau ddyfarniad yn y dyfodol.
Bydd nifer y dyfarniadau sydd ar gael yn amrywio ychydig o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar y pwynt dyfarnu ymrwymiad y bydd ymgynghorwyr llwyddiannus arno.
Nodwch y bydd ymgynghorwyr sy’n dal dyfarniad ymrwymiad a NCIA yn parhau i symud ymlaen drwy raddfa eu dyfarniad ymrwymiad. Er nad yw dyfarniadau’r NCIA yn bensiynadwy bydd y dyfarniadau ymrwymiad yn parhau i fod yn bensiynadwy.
Dyfarniadau perfformiad lleol a NCEAs
Y cyswllt â’r cynllun lleol
Fel y nodwyd uchod, bydd y cynllun cenedlaethol newydd yn Lloegr yn gweithredu fel cynllun dyfarnu tair lefel. Cyfunodd y defnydd o enwau dyfarniadau cyfredol a chyfeiriad at drosglwyddo’r dyfarniad lefel efydd i gynllun perfformiad lleol newydd i greu argraff anfwriadol yn yr ymgynghoriad y byddai’r diwygiadau hyn yn lleihau mynediad at ddyfarniadau. Mae’r cynllun newydd yn gwella hygyrchedd at ddyfarniadau, gan gynnwys ar y lefel mynediad, ac rydym am gynnig sicrwydd mai dyma ein dull gweithredu.
Mae gwaith yn parhau gyda’r cyrff perthnasol sy’n arwain y trafodaethau i ddatblygu cynllun perfformiad lleol newydd, i gydnabod cysylltiadau a chyd-ddibyniaethau rhwng y cynlluniau. Byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod effaith leol, ranbarthol a chenedlaethol yn cael ei chydnabod a’i gwobrwyo yn y ffordd fwyaf priodol.
Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd ynghylch mynediad gwahaniaethol i ddyfarniadau lleol a chenedlaethol ar gyfer Meddygon Teulu academaidd ar sail cytundebau contract gwahanol. Mae gan Feddygon Teulu academaidd fynediad i’r cynllun cenedlaethol; roedd materion yn ymwneud â’r cynllun lleol y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad hwn.
A small number of respondents raised that academic GPs had not been explicitly referred to during the consultation, and felt they may have been excluded. We referred to 'consultants' or 'clinicians' generally throughout the consultation for ease of reading, and these terms should be seen to include academic GPs. Nododd nifer fach o ymatebwyr na chyfeiriwyd yn benodol at Feddygon Teulu academaidd yn ystod yr ymgynghoriad, ac roeddent yn teimlo y gallent fod wedi’u heithrio. Gwnaethom gyfeirio at 'ymgynghorwyr' neu 'glinigwyr' yn gyffredinol trwy gydol yr ymgynghoriad er hwylustod i’r darllen, a dylid ystyried bod y telerau hyn yn cynnwys Meddygon Teulu academaidd.
Dyfarniadau cenedlaethol a dyfarniadau lleol i’w dal yr un pryd
Y bwriad y tu ôl i’r cynnig i ganiatáu i ymgynghorwyr ddal dyfarniad lleol a chenedlaethol yr un pryd yn Lloegr oedd ysgogi rhagoriaeth unigol yn lleol ac yn genedlaethol. Mae llawer o ymgynghorwyr yn cyfrannu at weithrediad eu darparwr lleol ac ar y llwyfan cenedlaethol, a dylid gwobrwyo’r unigolion hyn yn unol â hynny. Cafodd y ddwy system gyflenwol eu cynllunio i annog ac atgyfnerthu ymddygiad rhagorol ar draws yr ystod eang o weithgaredd ymgynghorwyr, gan arwain at lif rhwng y ddau gynllun.
Mewn adborth i’r ymgynghoriad mynegodd rhai ymatebwyr bryderon ynghylch unigolion yn defnyddio’r un dystiolaeth ar gyfer y ddau gynllun ac yn cael eu 'talu’n ddwbl' am yr un gwaith. Fodd bynnag, credwn y byddai’r pryderon hyn yn rhai y gellid eu goresgyn gyda chanllawiau da i ymgeiswyr ac aseswyr a phrosesau sicrwydd priodol.
Byddai gwneud deiliaid gwobrau cenedlaethol yn gymwys ar gyfer dyfarniadau lleol yn gorfod cael ei gefnogi gan drosglwyddo cyllid o’r cynllun cenedlaethol i gynllun lleol. Yng nghyd-destun sefyllfa ariannu genedlaethol sefydlog, a lle mae ymrwymiad eisoes i ddarparu amddiffyniad cyflog i ddeiliaid dyfarniadau cenedlaethol presennol, byddai hyn yn lleihau ymhellach y cyllid sydd ar gael ar gyfer dyfarniadau cenedlaethol newydd.
Gan ystyried hyn, gwnaed y penderfyniad i barhau â’r meini prawf cymhwysedd cyfredol. Bydd hyn yn golygu na fydd ymgynghorydd yn gallu dal dyfarniad lleol a chenedlaethol ar yr un pryd.
Rydym yn bwriadu adolygu’r sefyllfa hon unwaith y bydd sefyllfa ariannol y cynllun yn gliriach, ac unwaith y bydd cost amddiffyniadau yn dechrau lleihau, er mwyn penderfynu a fydd yn bosibl gwireddu’r buddion a fwriadwyd sy’n deillio o ymgynghorwyr yn gallu dal y ddau fath o ddyfarniad. Ni fydd hyn yn digwydd yn gynharach na 2025.
Newidiadau i feysydd ar gyfer asesu ceisiadau NCIA
Bydd Cymru a Lloegr yn adolygu’r disgrifyddion ar draws pob maes i ddarparu eglurder bod yn rhaid i dystiolaeth ddisgrifio’r hyn sydd wedi’i gyflawni a’i effaith genedlaethol, ymwneud â gwaith sy’n ychwanegol at gynllun y swydd, a chynnwys dyddiadau. Bydd system ymgeisio ar-lein wedi’i diweddaru yn darparu gwell cefnogaeth i ymgeiswyr ac aseswyr, gan helpu i leihau’r tebygolrwydd o ailadrodd neu hepgor manylion ategol yn anfwriadol.
Ar ôl ystyried, byddwn yn cadw’r gofynion i gyflwyno tystiolaeth ar draws pob un o’r pum maes, yn hytrach na gofyn am dystiolaeth mewn tri neu bedwar yn unig. Byddai lleihau nifer y meysydd fel hyn yn cynyddu cymhlethdod y gwaith asesu, yn ogystal â chynyddu’r risg y bydd ymgeiswyr yn tanamcangyfrif cryfder cymharol y dystiolaeth ym mhob maes ac o bosibl yn colli cyfleoedd sgorio o ganlyniad. Mae’n bosibl yn y cynllun cyfredol ennill dyfarniad trwy ragori mewn dau, tri neu bedwar maes. Bydd ein canllaw newydd yn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn glir yn benodol ac yn cael ei gefnogi gan astudiaethau achos deiliaid dyfarniadau o’r fath.
Rhoddir mwy o eglurder am ddatblygiadau o dan ddisgrifydd pob maes a chanllawiau isod.
Maes 1: datblygu a darparu eich gwasanaeth
We are satisfied that there is strong support for merging domains 1 and 2 which will remove the potential for confusion or duplication of evidence around 'delivering' and 'developing' a service. More emphasis on the national impact will be captured in the new guidance with additional clarity around the term 'service', which is intended to relate to the individual's job plan. Rydym yn fodlon bod cefnogaeth gref i uno meysydd 1 a 2 a fydd yn dileu’r posibilrwydd o ddryswch neu ddyblygu tystiolaeth ynghylch 'darparu' a 'datblygu' gwasanaeth. Bydd mwy o bwyslais ar yr effaith genedlaethol yn cael ei nodi yn y canllawiau newydd gydag eglurder ychwanegol ynghylch y term 'gwasanaeth', y bwriedir iddo ymwneud â chynllun swydd yr unigolyn.
Maes 2: arweinyddiaeth
Credwn fod y newid i 'arweinyddiaeth' yn hytrach na 'rheoli' yn fwy priodol i ddal effaith, a bydd ein canllawiau yn cryfhau hyn. Byddwn yn cynnwys pwyslais cryfach ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y maes hwn gyda geiriad priodol ynghylch arddangos gwerthoedd y GIG.
Maes 3: arloesi ac ymchwil
Mae rolau academaidd a chynlluniau swyddi cysylltiedig yn amrywiol, gyda rhai â mwy o bwyslais ar addysgu, ac eraill ar ymchwil. Mae llawer o waith ymchwil a threialon clinigol o ansawdd uchel a gefnogir gan NIHR yn cael ei ddarparu gan ymgynghorwyr y GIG, sy’n sgorio’n uchel yn y maes hwn. Darperir arweiniad cliriach ar yr hyn a ystyrir yn 'uwch' na disgwyliadau’r rôl, gan ystyried yr hyn sy’n cael ei dalu eisoes trwy gyllid ymchwil.
Bydd ffocws ar allbwn ac effaith ymchwil fel tystiolaeth berthnasol, yn hytrach na rhoi arian ar gyfer ymchwil. Byddwn hefyd yn darparu canllawiau cliriach yn ymwneud â pherthnasedd ac effaith cyhoeddiadau, ynghyd â lle ychwanegol ar y ffurflen ar gyfer geirdaon, gyda phwyslais penodol ar ansawdd yn hytrach na nifer.
Maes 4: addysg, hyfforddiant a datblygu pobl
Byddwn yn darparu mwy o eglurder yn y disgrifydd a’r arweiniad ynghylch yr hyn a gymerir fel tystiolaeth yn y maes hwn – yn benodol, pwysigrwydd darparu cyd-destun o amgylch cynulleidfa, effaith, safon, dysgu a gwybodaeth, gan gynnwys unrhyw adborth a allai fod wedi’i dderbyn ar yr hyn a gyflwynwyd.
Rydym wedi cydnabod ymatebion a oedd yn pwysleisio’r angen i annog unigolion i ymgymryd â hyfforddiant addysg feddygol ôl-raddedig a gweithgareddau asesu a byddwn yn nodi hyn yn ein canllawiau.
Maes newydd 5: effaith genedlaethol ychwanegol
Byddwn yn darparu eglurder mewn canllawiau am yr hyn yw rhagoriaeth o dan y maes hwn i sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol, megis rhoi rhai ymgeiswyr dan anfantais os oes ganddynt dystiolaeth ychwanegol gyfyngedig.
Byddwn yn dymuno galluogi ymgeiswyr i gynnwys unrhyw waith i sefydliadau elusennol, ochr yn ochr â gwaith a allai fod â mwy o ffocws ar gleifion, sydd o fantais glir i’r GIG, er enghraifft:
- mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac yn y gweithle
- meithrin adeiladu timau rhyngbroffesiynol
- ffyrdd newydd o weithio
- gwaith rhyngwladol ym maes hyfforddi, ymchwil neu recriwtio
Gwella mynediad i’r cynllun cenedlaethol
Symleiddio’r broses
Mae Cymru a Lloegr yn fodlon bod yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cefnogi’r symudiad tuag at gais un lefel. Byddwn yn datblygu gwell deunyddiau canllaw, ochr yn ochr â strategaeth gyfathrebu i godi mwy o ymwybyddiaeth am y cynllun. Bydd cyflwyno system TG newydd a fydd yn ein galluogi i ddarparu canllawiau ac anogeiriau ychwanegol yn y ffurflen gais ar-lein yn sicrhau mwy o eglurder a thryloywder yn y broses ymgeisio.
Gwella mynediad i fenywod, grwpiau du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig
Mae Cymru a Lloegr yn cydnabod yr angen i adolygu hyfforddiant ac arweiniad i aseswyr i sicrhau bod y datganiadau angori, y meini prawf asesu, a meincnodi asesiadau yn glir ac yn dryloyw.
Roedd ymatebion yn glir ynghylch pwysigrwydd sicrhau bod y cynllun newydd yn cael ei gyfathrebu a’i hyrwyddo’n ehangach, yn enwedig i’r rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y cynllun cyfredol. Bydd Cymru a Lloegr yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr a rhanddeiliaid eraill i hyrwyddo’r cynllun newydd.
Mae Cymru a Lloegr hefyd yn cydnabod sylwadau o’r ymgynghoriad a awgrymodd yr angen am guddio enwau. Mae yna heriau o ran asesu tystiolaeth ymgeisydd os caiff yr holl wybodaeth sy’n peri y gellir adnabod yr ymgeisydd ei dileu, ond rydym yn parhau i ystyried y ffordd orau y gallwn leihau’r potensial am ragfarn anymwybodol wrth asesu. Bydd cyflwyno hyfforddiant ac arweiniad ychwanegol newydd ar gyfer sgorwyr yn helpu i leddfu’r materion hyn, ac rydym yn parhau i ymdrechu i gynyddu amrywiaeth ein grwpiau sgorio rhanbarthol.
Mae Cymru a Lloegr yn cytuno ag adborth ynghylch yr angen i wella’r gwaith o gasglu a monitro data cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn cytuno â’r farn nad yw’r term 'BAME' yn disgrifio’r holl leiafrifoedd ethnig, ond mae hyn wedi’i godio’n galed i systemau’r GIG ac nid yw’n rhywbeth y gallai ACCEA ddylanwadu’n uniongyrchol arno. Rydym felly yn dibynnu ar barodrwydd ymgeiswyr i ddarparu gwybodaeth i ni. Er mwyn annog mwy o ddatgelu, byddwn yn ailedrych ar ein rhwymedigaethau diogelu data ac yn darparu arweiniad a sicrwydd pellach yn cyfiawnhau pam mae angen i ni gasglu’r math hwn o wybodaeth. Byddwn yn casglu mwy o ddata amrywiaeth nag a wnawn ar hyn o bryd a byddwn yn parhau i adrodd ac ehangu ar hyn i ddarparu mwy o dryloywder fesul rhanbarth ac arbenigedd lle bo modd. Byddwn hefyd yn ystyried datblygu canllawiau i gynnwys gofynion i gyflogwyr gyhoeddi eu data am amrywiaeth ymgeiswyr gan ddefnyddio data amrywiaeth NHS Digital fel meincnod.
Mae Prifysgol Caerwysg wedi cael ei chomisiynu gan NIHR trwy broses gystadleuol i ymgymryd ag ymchwil i’n mecanweithiau sgorio. Bydd hyn yn sail i benderfyniadau ar fformat a gweithrediad llawer o gydrannau’r system newydd. Dylai’r adolygiad ein helpu i sicrhau bod ein prosesau sgorio yn deg ac yn anwahaniaethol, yn adlewyrchu’r cydbwysedd cywir o ehangder a dyfnder cyflawniad a bod y broses sgorio fel y’i defnyddir yn y cynllun cyfredol yn ddealladwy i ymgeiswyr ac aseswyr. Gallwn ddefnyddio’r allbynnau ymchwil i lywio ein hasesiad a’n dilysiad o’r prosesau sgorio diwygiedig yn y cynllun newydd.
Llai nag Amser Llawn (LTFT)
Rydym yn fodlon fod yr ymateb i’r ymgynghoriad yn cefnogi ein cynnig i ddileu elfen pro rata y dyfarniadau i’r rhai sy’n gweithio Llai nag Amser Llawn. Mae hyn yn cyd-fynd â chynlluniau cydnabyddiaeth eraill lle nad yw dyfarniadau’n cael eu talu gydag elfen pro rata ac roedd yn faes arbennig o bwysig i Brif Bwyllgor ACCEA. Mae Cymru a Lloegr yn cydnabod yr angen i ystyried y newid hwn yn ofalus er mwyn sicrhau nad oes gan ein dull gweithredu unrhyw ganlyniadau anfwriadol o sgorio cyflawniadau ymgeiswyr Llai nag Amser Llawn yn wahanol i’r rhai sy’n gweithio’n amser llawn. I leddfu hyn, darperir canllawiau newydd i egluro y bydd y broses asesu yr un fath ar gyfer ymgeiswyr amser llawn a’r rhai sy’n gweithio Llai nag Amser Llawn. Fodd bynnag, rhoddir mwy o bwyslais ar yr angen i asesu ansawdd y cyfraniad a’i effaith yn y cynllun swydd ac a yw’n ychwanegol at yr hyn sy’n ofynnol o dan gontract.
Er mwyn bod yn gymwys, bydd canllawiau’n nodi bod angen o leiaf 3 PA sy’n glinigol berthnasol a 5 PA i gyd ar ymgeiswyr, gan sicrhau pwysigrwydd cyfrannu’n uniongyrchol at y GIG. Byddwn hefyd yn ystyried ymestyn y gofyniad i ddarparu tystiolaeth dros gyfnod wedi’i addasu mewn amgylchiadau penodol hy, er mwyn ymdrin â materion posibl yn ymwneud ag absenoldeb rhieni a salwch.
Cynnal rhagoriaeth yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan CEA cenedlaethol.
Rydym wedi ystyried adborth i’r ymgynghoriad ac, er ein bod yn dal i gredu bod rhinwedd mewn gofyn i ymgeiswyr amlinellu dyheadau mewn cynllun swydd, rydym yn cytuno na ellir defnyddio dyheadau a chanlyniadau yn y dyfodol fel dangosydd rhagoriaeth nac effaith ac na ddylid eu sgorio. Rydym hefyd yn cydnabod safbwyntiau ynghylch yr anhawster o ran sicrhau nad yw gwybodaeth yn dylanwadu ar wneud penderfyniadau. Ni fyddwn yn symud ymlaen gyda’r cynnig i ofyn i ymgeiswyr amlinellu eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol fel rhan o’u cais.
Diwedd ar y broses adnewyddu
Yng Nghymru a Lloegr byddwn yn dileu’r gallu i ddeiliaid dyfarniadau adnewyddu, sy’n golygu y bydd angen i ddeiliaid dyfarniadau cyfredol wneud cais am ddyfarniad newydd cyn y bydd eu dyfarniad cyfredol yn dod i ben. Credwn y bydd hyn, ochr yn ochr â pheidio ei gwneud yn ofynnol i unigolion ddringo trwy lefelau dyfarniadau cynyddrannol neu nodi pa lefel o ddyfarniad y maent yn anelu at ei hennill, yn ehangu cyfle i’r rheini na fyddent fel arall yn ceisio am ddyfarniad oherwydd y cymhlethdodau cyfredol ynghylch adnewyddu, yn caniatáu i unigolion symud ymlaen trwy’r lefelau’r dyfarniad yn haws, ac o bosibl dderbyn dyfarniad lefel uchaf yn gynharach yn eu gyrfa.
Gwneud NCEAs yn rhai nad ydynt yn bensiynadwy
Rydym yn cydnabod y sylwadau a wnaed am yr effaith bosibl ar ymgynghorwyr sydd ar hyn o bryd yn dal dyfarniadau cenedlaethol yng nghamau cynharach eu gyrfaoedd, mewn perthynas â’u buddion cyflog terfynol blaenorol. Mae’n bwysig cydnabod y bydd yr holl aelodau, o Ebrill 2022, yng nghynllun pensiwn cyfartaledd gyrfa 2015 a bydd effaith tâl pensiynadwy terfynol ar fuddion pensiwn cyffredinol yn lleihau wrth i gyfran yr arbedion pensiwn cyffredinol a ffurfir gan fuddion cyflog terfynol blaenorol leihau.
Rydym yn anghytuno y gallai gwneud dyfarniadau yn rhai nad ydynt yn bensiynadwy greu cymhelliant i’r rhai sy’n agos at ymddeoliad i ymddeol yn gynnar. Bydd yr amddiffyniad a nodir yn Atodlen 30 contract yr ymgynghorwyr yn golygu y bydd gan feddygon sy’n derbyn amddiffyniad pensiwn bensiwn llawn am hyd at 10 mlynedd (gan y bydd dyfarniadau presennol yn parhau am y tymor sy’n weddill) ac amddiffyniad sy’n gysylltiedig â CPI ar ôl hynny nes byddant yn cymryd eu pensiwn.
O dan y cynllun newydd, yng Nghymru a Lloegr byddwn yn gwneud NCIAs yn rhai nad ydynt yn bensiynadwy ac yn rhai heb eu cydgrynhoi. Er y gallai gwneud dyfarniadau newydd yn bensiynadwy fod o fudd i grŵp mwy amrywiol o ymgynghorwyr, rydym yn rhagweld y bydd dileu buddion pensiwn ar gyfer dyfarniadau newydd yn gwrthbwyso hyn trwy ehangu mynediad i’r cynllun. Credwn fod ymdrin â mynediad i’r cynllun o’r pwys mwyaf i’r diwygiadau hyn.
Mae hyn yn gyson ag arfer ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat ac mae’n cyd-fynd â dyfarniadau lleol na fu’n bensiynadwy ers 2018. Hefyd, o gofio bod polisi treth pensiynau yn effeithio ar lawer o ymgynghorwyr, mae’n gwneud synnwyr cynnig gwobr nad yw’n bensiynadwy, gyda chyfraniadau pensiwn y cyflogwr ar gael i alluogi mwy o ddyfarniadau.
Mae’n agored i’r ymgynghorwyr hynny sydd am gynyddu eu cynilion pensiwn i brynu pensiwn ychwanegol gyda gwerth eu dyfarniadau.
Bydd CIAs heb eu cydgrynhoi yn cael eu cyfrif fel incwm trethadwy ac o’r herwydd gallai fod goblygiadau o ran lwfans blynyddol i rai deiliaid dyfarniadau o hyd. Ond o ganlyniad i’r ffaith fod y llywodraeth wedi cynyddu trothwyon tapr y lwfans blynyddol o 6 Ebrill 2020, gall deiliaid dyfarniadau ennill £200,000 mewn incwm trethadwy cyn i derfyn eu lwfans blynyddol gael ei gwtogi.
Rôl a gwerth graddfeydd a geirdaon yn y broses ddyfarniadau:
Mae’n hanfodol bod y cynllun yn parhau i fod yn ddull cadarn ac effeithiol o sicrhau bod y wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno gan ymgeisydd yn wir ac yn gywir, wrth gydbwyso’r angen i wella profiad yr ymgeisydd. Felly rydym wedi cytuno ar y canlynol yng Nghymru a Lloegr:
- er mwyn gwella a symleiddio prosesau, byddwn yn dileu unrhyw ofynion i gyflogwyr sgorio a graddio ceisiadau, ond byddwn yn cadw’r gofyniad iddynt ddarparu dilysiad bod y wybodaeth a gyflwynir gan ymgeiswyr yn adlewyrchiad gwir a chywir o’u cyfraniad a’u cyflawniad
- bydd y canllawiau yn rhoi eglurder ynghylch cyfrifoldebau cyflogwyr i annog a chefnogi ceisiadau am ddyfarniadau yn rhagweithiol ac yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ddarparu datganiad i’r ACCEA yn amlinellu eu prosesau. Dylai’r datganiad hwn helpu i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynrychiolaeth gytbwys o ymgeiswyr o’u poblogaeth gymwys o uwch glinigwyr
- rydym wedi adolygu’r rhestr o NNBs ac SSs achrededig (ar ôl cyhoeddi holiadur yn gofyn am adborth gan NNBs a SSs cyfredol a phosibl am eu prosesau a’u meini prawf aelodaeth). Byddwn yn sicrhau na chynrychiolir unrhyw arbenigedd / is-arbenigedd gan sawl corff gwahanol ac mai dim ond un radd NNB neu SS a ddarperir i bob ymgeisydd
- fel gyda gofynion cyflogwyr, gofynnir i NNBs ac SSs ddarparu datganiad o’u prosesau i sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth a chynrychiolaeth gytbwys o ymgeiswyr o blith eu haelodaeth a’r arbenigedd ehangach
- rydym wedi cydnabod yr anawsterau o gael geirdaon dibynadwy a gwrthrychol a’r rhagfarnau ymwybodol ac anymwybodol posibl a allai ymddangos ar adegau. Er mwyn ymdrin â’r pryderon hyn a gwerth amheus llawer o’r geirdaon ychwanegol ' trydydd parti' hyn, byddwn yn dileu’r dewis ar gyfer cyflwyno geirdaon trydydd parti.
Prosesau sgorio
Mae ACCEA wedi parhau i weithio gydag is-bwyllgorau sgorio i wella cynrychiolaeth menywod a rhai o leiafrifoedd ethnig, gyda’r aelodaeth yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Byddwn yn parhau i weithio gyda Cholegau Brenhinol Meddygol, Cymdeithasau Arbenigol a chyflogwyr y GIG i annog mwy o amrywiaeth rhyw ac ethnig ymhlith aelodau proffesiynol, cyflogwyr ac aelodau lleyg is-bwyllgorau i sicrhau eu bod yn fwy cynrychioliadol o’r GIG a’r boblogaeth ehangach.
Paratowyd adroddiad interim gan Brifysgol Caerwysg sydd wedi ymgymryd â phrosiect ymchwil wedi’i ariannu gan NIHR i werthuso goblygiadau gwahanol gynlluniau sgorio a sut maent yn perfformio gyda cheisiadau heb haenau a’r meysydd diwygiedig arfaethedig. Bydd hyn yn sail i weithredu cynllun sgorio priodol a sensitif a bydd yn ein cynorthwyo ni i ddatblygu canllawiau sy’n helpu i gyflawni asesiadau dilys a theg o’r holl geisiadau.
Byddwn yn cadw’r cyfleuster ar gyfer ail-sgorio ceisiadau gan ein Is-bwyllgor Wrth Gefn Cenedlaethol (NRES) lle mae ceisiadau sydd wedi’u clymu wrth y pwynt terfyn, neu sydd ag ymholiadau sy’n disgwyl am sylw na ellir eu datrys. Bydd y broses hon yn cael ei chadw fel rhan o’n prosesau sicrhau ansawdd.
Byddwn yn sicrhau bod hyfforddiant gwell yn ei le i gefnogi pawb a fydd yn rhan o’r cynllun newydd. Bydd hwn yn orfodol i holl aelodau’r is-bwyllgor. Bydd hwn hefyd yn hysbysu cyflogwyr, ymgeiswyr a chyrff enwebu sut i ddefnyddio’r cynllun newydd a’r system defnyddwyr TG.
Llywodraethu
Bydd trefniadau sgorio a llywodraethu newydd sy’n briodol i ddyluniad y cynllun newydd yn ein galluogi i reoli’r cynnydd mewn ceisiadau yn effeithiol, gan sicrhau tegwch a thryloywder yn y broses sgorio yr un pryd. Bydd llywodraethu cenedlaethol yn parhau i fod trwy’r Prif Bwyllgor; mae ei oruchwyliaeth yn parhau i fod yn offeryn sicrhau ansawdd pwysig a sefydledig ac mae’n goruchwylio camau olaf y rownd ddyfarnu cyn i argymhellion gael eu gwneud i Weinidogion.
Atodiad A: sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad
Academi Addysgwyr Meddygol (AoME)
Academi Colegau Brenhinol Meddygol (AoMRC)
Academi Gwyddorau Meddygol
Cymdeithas Llawfeddygon Wrolegol Prydain (BAUS)
Cymdeithas Anesthetyddion
Cymdeithas Diabetolegwyr Clinigol Prydain (ABCD)
Cymdeithas Ysbytai Deintyddol
Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA)
Cymdeithas Hernia Prydain
Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA)
Cymdeithas Haematoleg Prydain (BSH)
Cymdeithas Thorasig Prydain
Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Caergrawnt
Coleg Deintyddiaeth Gyffredinol
Cynhadledd Deoniaid Meddygol Ôl-raddedig (COPMeD)
Cyngor Ysgolion Deintyddol
ENT UK
HEART UK – Yr Elusen Colesterol
Addysg Iechyd Lloegr (HEE)
Cymdeithas Ymgynghorwyr ac Arbenigwyr Ysbytai (HCSA)
Cyngor Ysgolion Meddygol
Ffederasiwn Merched Meddygol
Prifysgol Newcastle
Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE)
Coleg Brenhinol Anesthetyddion (RCoA)
Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu (RCGP)
Coleg Brenhinol yr Obstetregwyr a’r Gynaecolegwyr (FCOG)
Coleg Brenhinol y Patholegwyr
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
Coleg Brenhinol y Radiolegwyr (RCR)
Coleg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin
Grŵp Shelford
Cymdeithas Gofal Sylfaenol Academaidd (SAPC) (yn ymateb yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd)
Cymdeithas Endocrinoleg
Grŵp Sefydlog ar Dimau Iechyd Cyhoeddus Lleol yn Lloegr
Cymdeithas Astudio Deintyddiaeth Gymunedol Prydain (BASCD)
Y Gymdeithas Gofal Dwys
Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant
Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU
Cymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau (UCEA)
Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Whittington
O’r 40 sefydliad a ymatebodd, nododd 71% eu bod yn cynrychioli ymateb ar draws y DU, nododd 26% eu bod yn ymateb ar ran Lloegr yn unig a 3% eu bod yn ymateb ar ran yr Alban yn unig.
-
Roedd argymhellion a chynigion DDRB’s yn cynnwys: newidiadau i nifer a gwerth NCEAs a chyfansoddiad pwyllgorau; ailedrych ar feysydd a phwysiadau ar gyfer asesu NCEAs; gwneud NCEAs yn rhai nad ydynt yn bensiynadwy; y dylai NCEAs gael eu cysylltu’n gryfach â pherfformiad cyson ac ymrwymiad parhaus i’r GIG ac y dylent gydnabod cyflawniadau o bwysigrwydd cenedlaethol neu ryngwladol; y dylai’r system a’r broses ymgeisio fod yn dryloyw, ac yn deg; y dylai rhai sy’n dal dyfarniadau fod yn gallu dal NCEAs ac LCEAs yr un pryd; ac y dylid dal dyfarniadau am gyfnod o hyd at uchafswm o 5 mlynedd yn unig. ↩
-
Argymhellodd yr ymgynghoriad y byddai’r pumed maes newydd yn cydnabod rhagoriaeth mewn meysydd fel cynnwys cleifion a’r cyhoedd, hyrwyddo iechyd yn ehangach neu anghydraddoldebau iechyd. Byddai’r maes hwn hefyd yn caniatáu i ymgeiswyr fod yn fwy rhydd i gynnwys yr effaith a gawsant mewn meysydd o flaenoriaethau strategol cenedlaethol eraill, fel cyflwyno Cynllun Pobl y GIG a datblygu systemau gofal integredig yn Lloegr, neu weithio ar ymrwymiad Cymru Iachach yng Nghymru. ↩