Datganiad Polisi Cenedlaethol ar Gynhyrchu Ynni Niwclear, EN-7: Ymateb ac Ymgynghoriad newydd (HTML)
Updated 11 February 2025
Applies to England and Wales
Rhagair
Ym marn y llywodraeth hon, mae gan niwclear ran hanfodol i’w chwarae yn ein cenhadaeth i wneud Prydain yn uwch-bŵer ynni glân. Fel ffynhonnell pŵer glân, sefydlog a dibynadwy, mae’n cynnig cyfleoedd enfawr i gyflawni diogelwch ynni a diogelwch hinsawdd, yn ogystal â diogelwch economaidd i weithwyr a chymunedau ledled y wlad.
Ein cenhadaeth yw disodli dibyniaeth Prydain ar farchnadoedd tanwydd ffosil a reolir gan unbeniaid a gwladwriaethau sy’n ddibynnol ar olew, gyda phŵer glân y gallwn ei gynhyrchu a’i reoli dros ein hunain. Rydym ar drothwy oes lle mae trydan glân yw sylfaen ein system ynni ac, yn y cyd-destun hwnnw, mae arnom angen cymaint â phosibl o ffynonellau pŵer glân.
O ganlyniad, bydd niwclear yn chwarae rhan bwysig iawn yn y system ynni rydyn ni’n ei chreu – ond mae hefyd yn rhan hanfodol o’r math o economi rydyn ni’n ceisio ei greu. Mae’r diwydiant yn falch o’i hanes o gefnogi degau o filoedd o swyddi medrus iawn gyda chyflogau da, ac yn caniatáu aelodaeth o undebau. Rydym yn benderfynol o sicrhau ei fod yn parhau i fod yn rym economaidd i gymunedau ledled ein gwlad.
Dyna pam ein bod yn bwrw ymlaen â Hinkley Point C, Sizewell C a chystadleuaeth Adweithyddion Modiwlaidd Bach Great British Nuclear. Ar yr un pryd, rydym yn gweithio gyda’r diwydiant i chwalu’r rhwystrau rhag buddsoddi mewn ynni niwclear, gan gynnwys cynllunio, y grid, cadwyni cyflenwi a sgiliau. Mae’r Datganiad Polisi Cenedlaethol newydd hwn, o’r enw EN-7, yn rhan hollbwysig o’r gwaith hwnnw. Yn ôl yn 2009, fel Ysgrifennydd Ynni, fe wnes i nodir 8 safle ar gyfer datblygiadau niwclear newydd, sy’n dal i gael eu cydnabod yn y fframwaith cynllunio presennol. Mae’r safleoedd hyn yn dal mewn sefyllfa dda i gynnal prosiectau newydd, ond mae datblygiadau ers hynny’n golygu bod bellach angen fframwaith cynllunio newydd.
Drwy fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar feini prawf, bydd EN-7 yn galluogi datblygiadau niwclear mewn mwy o leoedd ochr yn ochr â’r 8 safle a nodwyd yn flaenorol, gan gynnal y safonau uchaf o ran diogelwch a diogelu’r amgylchedd. Wrth wneud hynny, bydd yn cefnogi technolegau arloesol, fel Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch, yn ogystal â gorsafoedd ar raddfa gigawat – gan helpu i ddatgloi potensial niwclear i roi hwb i’n diogelwch ynni, creu swyddi da, sbarduno twf a chefnogi gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd.
Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â buddsoddwyr, datblygwyr, gweithgynhyrchwyr, undebau llafur, cymunedau a’r diwydiant niwclear cyfan i wireddu’r potensial hwn. Rydym yn croesawu eich safbwyntiau mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn wrth i ni fanteisio ar y cyfleoedd mae pŵer niwclear yn eu cynnig i’n gwlad.
Y Gwir Anrhydeddus Ed Miliband AS,
Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net
Gwybodaeth Gyffredinol
Manylion yr ymgynghoriad
Cyhoeddwyd:
6 Chwefror 2025
Ymateb erbyn:
3 Ebrill 2025 am 12pm (hanner dydd)
Ymholiadau i:
newnuclearnps.consultation@energysecurity.gov.uk
Peidiwch ag anfon ymatebion i’r ymgynghoriad i’r cyfeiriad e-bost hwn, gweler y manylion isod am ymateb drwy Citizen Space.
Cyfeirnod yr ymgynghoriad:
Lleoli Datganiad Polisi Cenedlaethol Niwclear Newydd
Cynulleidfa:
Mae’r llywodraeth eisiau clywed gan aelodau o’r cyhoedd, diwydiant, sefydliadau anllywodraethol, cyrff a sefydliadau cyhoeddus sydd â diddordeb, a gwladwriaethau cyfagos.
Rhychwant tiriogaethol:
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud ag arfer pwerau yng Nghymru a Lloegr. Mae polisi ynni fel arfer yn fater a gedwir yn ôl i Weinidogion y DU ond nid yw’r pwerau sy’n berthnasol i’r ymgynghoriad hwn yn berthnasol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon oherwydd bod y pŵer cyfreithiol i gydsynio i adeiladu gorsafoedd cynhyrchu trydan sy’n fwy na 50 MW o gapasiti wedi’i ddatganoli’n weithredol i Weinidogion yr Alban ac mae hefyd wedi’i ddatganoli yng Ngogledd Iwerddon. Ar ben hynny, mae Deddf Cymru 2017 yn rhoi’r cyfrifoldeb i Weinidogion Cymru ganiatáu adeiladu gorsafoedd cynhyrchu trydan gyda chapasiti cynhyrchu rhwng 10 MW a 350 MW.
Sut mae ymateb
Rydym yn gwahodd ymatebion i’r Ymgynghoriad hwn, lle bo’n bosibl, drwy’r llwyfan e-ymgynghori ar-lein, Citizen Space.
Yn yr Ymgynghoriad hwn, mae’r llywodraeth eisiau clywed gan aelodau o’r cyhoedd, diwydiant, cyrff anllywodraethol, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sydd â diddordeb, a gwladwriaethau cyfagos. Wrth ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu a ydych yn cynrychioli barn sefydliad. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, esboniwch y buddiannau sy’n cael eu cynrychioli gan y sefydliad a, lle bo hynny’n berthnasol, sut gwnaethoch chi gasglu barn yr aelodau.
Bydd eich ymateb yn ddefnyddiol iawn os yw’n ymateb uniongyrchol i’r cwestiynau a ofynnir, er y croesewir rhagor o sylwadau a thystiolaeth hefyd. Wrth ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad hwn bydd y llywodraeth yn rhoi mwy o bwys ar ymatebion sy’n seiliedig ar ddadl a thystiolaeth nag ymatebion sydd ddim ond yn mynegi cefnogaeth neu wrthwynebiad. Mae ymgynghoriadau yn denu llawer iawn o ddiddordeb ar draws nifer o sectorau. Mae defnyddio’r gwasanaeth ar-lein yn helpu ein dadansoddiad o’r ymatebion, gan alluogi ystyriaeth fwy effeithlon ac effeithiol o’r materion a godwyd. Felly, rydym yn annog yn gryf bod ymatebion yn dod drwy Citizen Space. Cysylltwch â ni os ydych yn bwriadu ymateb gan ddefnyddio dull arall.
Fel arall, trafodwch ddulliau eraill o ymateb gyda ni:
E-bost:
newnuclearnps.consultation@energysecurity.gov.uk
Llythyr:
New Nuclear NPS Team
Department for Energy Security and Net Zero
3-8 Whitehall Place
London
SW1A 2AW
Cyfrinachedd a Diogelu Data
Gall yr wybodaeth a roddir gennych mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, cael ei datgelu’n unol â’r deddfwriaethau y DU (Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018, a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).
Os ydych am i wybodaeth a ddarperir gennych gael ei thrin yn gyfrinachol, rhowch wybod i ni, ond byddwch yn ymwybodol ni allwn roi sicrwydd y gellir cadw cyfrinachedd ym mhob sefyllfa. Ni fyddwn yn ystyried ymwrthodiad cyfrinachedd awtomatig a gynyrchir gan eich system TG yn gais i gadw cyfrinachedd.
Byddwn yn prosesu eich data personol yn unol â’r holl gyfreithiau deddfau diogelu data. Gweler ein polisi preifatrwydd.
Byddwn yn crynhoi’r holl ymatebion ac yn cyhoeddi’r crynodeb hwn ar GOV.UK. Bydd y crynodeb yn cynnwys rhestr o enwau neu sefydliadau a oedd wedi ymateb, ond ni fydd yn cynnwys enwau personol pobl, cyfeiriadau na manylion cyswllt eraill.
Sicrhau ansawdd
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn yn unol ag egwyddorion ymgynghori’r llywodraeth.
Os oes gennych chi unrhyw gwynion am y ffordd y mae eich cais wedi cael ei drin, anfonwch e-bost at: bru@energysecurity.gov.uk.
1. Cyflwyniad
1.1 Cefndir
1.1.1 Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod y DU ar flaen y gad ym maes ynni glân drwy gyflymu tuag at sero net, diogelu defnyddwyr a chefnogi swyddi ledled y wlad. Bydd ynni niwclear yn hanfodol yn y newid hwn ac mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i yrru niwclear yn ei flaen, gan gynnwys drwy roi eglurder i’r diwydiant ar ein cynlluniau hirdymor ar gyfer niwclear a sut rydym yn gweld ei rôl mewn system ynni glân. Rhan allweddol o hyn yw cael system gynllunio effeithiol sy’n rhoi sicrwydd i ddatblygwyr drwy wneud y safonau’n glir o’r cychwyn cyntaf, gan sicrhau bod y broses mor ddidrafferth â phosibl i ddatblygwyr niwclear ddod â phrosiectau niwclear newydd diogel a chynaliadwy drwy’r gyfundrefn cydsyniad datblygu.
1.1.2 Mae Datganiad Polisi Cenedlaethol 2011 ar Gynhyrchu Ynni Niwclear (EN-6) yn berthnasol i brosiectau niwclear y gellir eu defnyddio erbyn diwedd 2025. Bydd y Datganiad Polisi Cenedlaethol newydd hwn ar Gynhyrchu Ynni Niwclear (EN-7) yn nodi’r meini prawf y mae’n rhaid i ddatblygwyr eu bodloni yn eu cais am Gydsyniad Datblygu, gan gynnwys asesiad ar y safle a dyluniad y seilwaith niwclear arfaethedig, gan gyflwyno fframwaith polisi cadarn i lywio’r broses o wneud penderfyniadau.
1.1.3 Mae angen i’r system gynllunio ar gyfer seilwaith mawr fod yn gyflym, yn gyson ac yn atebol. Mae’r Datganiad Polisi Cenedlaethol ar Gynhyrchu Ynni Niwclear yn nodi polisi’r llywodraeth ar sut yr ymdrinnir â cheisiadau am Ganiatâd Datblygu i adeiladu seilwaith niwclear. Mae’n amlinellu’n glir yr ystyriaethau a’r safonau y bydd angen i ymgeiswyr a rhanddeiliaid eraill roi sylw iddynt, gan sicrhau tryloywder a dealltwriaeth drwy gydol y broses.
1.1.4 Dan Ddeddf Cynllunio 2008, mae Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn arweiniad hollbwysig i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gan amlinellu’r angen am seilwaith ac amlinellu’r fframwaith polisi ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio ar brosiectau seilwaith cenedlaethol eu harwyddocâd. Mae’r Datganiad Polisi Cenedlaethol cyffredinol ar Ynni (EN-1), a gafodd ei ail-ddynodi ym mis Ionawr 2024 (a ddynodwyd yn wreiddiol ym mis Gorffennaf 2011), yn egluro bod prosiectau Blaenoriaeth Genedlaethol Hanfodol (CNP) yn hanfodol er mwyn cyflawni nodau ynni’r DU. Rhoddir pwys arbennig ar y prosiectau hyn oherwydd eu bod yn helpu gyda diogelwch gwladol, twf economaidd, a chyrraedd allyriadau sero net. Yn ei hanfod, ystyrir bod manteision y prosiectau hyn yn drech na’r effeithiau negyddol sy’n weddill na ellir eu lliniaru’n llawn.
1.1.5 Lansiwyd rownd gyntaf yr ymgynghoriad ym mis Ionawr 2024 (‘A National Policy Statement for new nuclear power generation: new approach to siting beyond 2025’)[footnote 1] ac roedd yn trafod meini prawf asesu safleoedd a’r broses ar gyfer datblygu Datganiad Polisi Cenedlaethol newydd ar Gynhyrchu Ynni Niwclear. Dyma oedd y cam cyntaf tuag at ddynodi Datganiad Polisi Cenedlaethol newydd ar Gynhyrchu Ynni Niwclear ar ôl 2025, EN-7. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar 11 Ionawr a daeth i ben ar 10 Mawrth 2024, ac roedd 141 o ymatebwyr. Mewn ymateb i’r ymgynghoriad, roedd y diwydiant a rhanddeiliaid yn awgrymu cefnogaeth gadarnhaol i’r dull gweithredu arfaethedig ar gyfer EN-7.
- 1.1.6 Mae ail rownd yr ymgynghoriad a’r drafft EN-7 yn amlinellu dull strategol o gynllunio i helpu i lywio’r dirwedd niwclear sy’n newid yn y DU ers i EN-6 gael ei ddynodi yn 2011. Bydd y drafft EN-7 yn gwneud y canlynol:
- i. darparu ar gyfer Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Uwch, yn ogystal â seilwaith niwclear ar raddfa GW
- ii. sicrhau bod gorsafoedd niwclear yn cyd-fynd â seilwaith ynni arall a rhoi meini prawf cadarn i ymgeiswyr ar gyfer dewis safle
- iii. dileu terfynau amser o ran gosod o’r fframwaith cynllunio ar gyfer gorsaf niwclear newydd
- 1.1.7 Gan fod y dull polisi wedi’i ddiffinio’n well erbyn hyn, mae ail rownd yr ymgynghoriad yn defnyddio terminoleg yn wahanol i rownd gyntaf yr ymgynghoriad:
- i. ‘Seilwaith niwclear’ yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio yn EN-7 yn ogystal ag ail rownd yr ymgynghoriad i gyfeirio at bob prosiect o fewn cwmpas EN-7, sy’n cael ei ddiffinio gan EN-7 fel a ganlyn:
- “seilwaith sy’n defnyddio ymholltiad niwclear i gynhyrchu ynni, yn ogystal ag unrhyw seilwaith sy’n ategol i hyn (yn unol â pharagraff 1.3.13 o EN-1) sef:
- A. yn cael ei ddiffinio fel Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol gan Ddeddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd), neu
- B. yn cael ei drin fel datblygiad y mae angen Cydsyniad Datblygu ar ei gyfer yn unol ag Adran 35 a 35ZA o Ddeddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd)”
- “seilwaith sy’n defnyddio ymholltiad niwclear i gynhyrchu ynni, yn ogystal ag unrhyw seilwaith sy’n ategol i hyn (yn unol â pharagraff 1.3.13 o EN-1) sef:
- Pan fyddwn yn cyfeirio at fath penodol o seilwaith niwclear, neu at orsafoedd cynhyrchu ynni niwclear nad ydynt yn dod o fewn diffiniad EN-7 o Seilwaith Niwclear yn ail rownd yr ymgynghoriad, rydym yn defnyddio iaith fwy penodol.
- ii. Mae gan y term ‘datblygiad’ yr un ystyr yn ail rownd yr ymgynghoriad ag yn Neddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd), a nodir yn Adran 32 o’r Ddeddf honno.
- iii. Defnyddir y term ‘datblygwr’ yn ail rownd yr ymgynghoriad i gyfeirio at y sawl sydd heb wneud cais am Ganiatâd Datblygu eto, ac sydd â’r un ystyr ag yn Neddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd):
- “unigolyn sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol gyfrifol am gyflawni datblygiad”
- iv. Defnyddir y term ‘ymgeisydd’ yn ail rownd yr ymgynghoriad, ac EN-7 ei hun, i gyfeirio at ddatblygwr (fel y’i diffinnir uchod) sydd wedi gwneud cais am Ganiatâd Datblygu, ac mae’n rhaid iddo fodloni’r meini prawf a nodir yn EN-7 i sicrhau Caniatâd Datblygu ar gyfer ei seilwaith niwclear arfaethedig.
- v. Wrth symud ymlaen, ni fyddwn yn parhau i ddefnyddio’r termau ‘Gwaharddol’ ac ‘Yn ôl Disgresiwn’ i wahannu’r meini prawf yn EN-7. Byddwn ond yn defnyddio’r termau hyn yn yr ymgynghoriad ail gylch hwn wrth gyfeirio at gynnwys yr ymgynghoriad cylch cyntaf, neu ymatebion rhanddeiliaid i’r cynnwys hwnnw. Rydym yn cynnig y newidiadau hyn oherwydd yn y drafft EN-7, mae methu â bodloni unrhyw un Ffactor sy’n Dylanwadu ar Ddewis Safleoedd, Ystyriaethau Technegol a/neu feini prawf Effaith yn sail ar gyfer cais i’r Ysgrifennydd Gwladol wrthod Cydsyniad Datblygu.
Yn fras, y meini prawf y cyfeirir atynt fel rhai ‘Gwaharddol’ yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad yw’r rhai lle nad oes ond un ffordd y gall ymgeisydd ddangos ei fod yn bodloni’r safonau a nodir yn y Datganiad Polisi Cenedlaethol; er enghraifft ar gyfer Dwysedd y Boblogaeth, rhaid i’r datblygiad arfaethedig fodloni gofynion y Meini Prawf ar gyfer Dwysedd Poblogaeth Lled-Drefol neu bydd Cydsyniad Datblygu yn cael ei wrthod. Y meini prawf y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol fel ‘Dewisol’ yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad yw’r rheini lle gallai fod gan yr ymgeisydd fwy o opsiynau ynghylch sut i fodloni gofynion EN-7, ond rhaid iddo wneud hynny serch hynny. Er enghraifft, ar gyfer Perygl Llifogydd, mae’n bosibl y bydd yr ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf drwy osod y datblygiad arfaethedig mewn lleoliad lle nad oes risg sylweddol o lifogydd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, neu drwy amddiffynfeydd peirianyddol sy’n ddigonol i warchod y seilwaith ar hyn o bryd ac yn y dyfodol heb gynyddu’r risg llifogydd mewn mannau eraill.
- i. ‘Seilwaith niwclear’ yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio yn EN-7 yn ogystal ag ail rownd yr ymgynghoriad i gyfeirio at bob prosiect o fewn cwmpas EN-7, sy’n cael ei ddiffinio gan EN-7 fel a ganlyn:
1.2 Strwythur y ddogfen hon
1.2.1 Mae’r ddogfen hon yn cyfuno ymateb y llywodraeth i rownd gyntaf yr ymgynghoriad a lansiwyd ym mis Ionawr 2024 ac ail rownd yr ymgynghoriad newydd ar y Datganiad Polisi Cenedlaethol drafft, EN-7:
- Mae Adran 2 yn nodi dadansoddiad y llywodraeth o safbwyntiau ac ymatebion i rownd gyntaf yr ymgynghoriad yn fwy manwl
- Adran 3 yw ymateb y llywodraeth i’r safbwyntiau a ddarparwyd drwy rownd gyntaf yr ymgynghoriad, ynghyd ag ail rownd yr ymgynghoriad newydd ar y Datganiad Polisi Cenedlaethol drafft, EN-7. Mae’r adran hon yn ymdrin â’r canlynol:
- Ein dull gweithredu cyffredinol ar gyfer EN-7, gan gynnwys sut mae ein dull gweithredu yn wahanol i EN-6
- Elfennau penodol o’r meini prawf asesu sy’n sail i’r achos dros leoli seilwaith niwclear. Mae hyn yn cynnwys Ffactorau sy’n Dylanwadu ar Ddewis Safleoedd, Ystyriaethau Technegol ac Effeithiau
- Mae Adran 4 yn rhoi crynodeb o gwestiynau’r ail rownd yr ymgynghoriad
- Mae Adran 5 yn nodi’r broses a’r amserlen ar gyfer dynodi EN-7
2. Dadansoddiad y Llywodraeth o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ‘A National Policy Statement for new nuclear power generation: new approach to siting beyond 2025’
2.1 Cyflwyniad
2.1.1 Mae Adran 2 yn rhoi dadansoddiad o’r ymatebion a gafwyd i rownd gyntaf yr ymgynghoriad a lansiwyd ym mis Ionawr 2024, o’r enw ‘A National Policy Statement for new nuclear power generation: new approach to siting beyond 2025.’[footnote 1]
2.2 Cwmpas yr ymgynghoriad
2.2.1 Roedd rownd gyntaf yr ymgynghoriad, a lansiwyd ym mis Ionawr 2024, yn canolbwyntio ar newidiadau posibl i’r dull lleoli gorsaf niwclear i lywio’r gwaith o ddrafftio’r Datganiad Polisi Cenedlaethol newydd, EN-7. Rydym wedi ystyried yr holl ymatebion a dderbyniwyd yn ofalus, ac rydym yn gwerthfawrogi’r amser a’r ymdrech a fuddsoddwyd gan yr holl ymatebwyr. Mae’r mewnbwn hwn wedi bod yn allweddol wrth lunio ein camau nesaf. Er ein bod yn bwriadu bwrw ymlaen â llawer o’n cynigion cychwynnol, rydym wedi addasu rhai eraill ar sail yr ymatebion a roddwyd. Amlinellir yr addasiadau hyn yn Adran 3. Mae’r Adran hon hefyd yn rhoi ymatebion y llywodraeth i’r cwestiynau a ofynnwyd yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad.
2.2.2 Nid yw materion sydd y tu hwnt i gwmpas rownd gyntaf yr ymgynghoriad, fel polisi’r llywodraeth ar gyfer lleoli gorsaf niwclear ar y môr, rôl Great British Nuclear (GBN) neu rôl ynni niwclear yng nghymysgedd ynni’r dyfodol, wedi’u cynnwys yn yr ymateb hwn gan y llywodraeth. Rydym hefyd yn cydnabod bod nifer o ymatebwyr wedi mynegi pryderon ynghylch diogelwch niwclear, effaith amgylcheddol a chost. Nid yw’r materion hyn yn cael sylw yma oherwydd bod y Datganiad Polisi Cenedlaethol cyffredinol ar ynni, EN-1, yn nodi casgliad y llywodraeth bod angen brys am ynni niwclear newydd, sy’n ffynhonnell ynni ddiogel a charbon isel.
2.2.3 Mewn rhai achosion, roedd yr ymatebion a gafwyd yn berthnasol i gwestiwn gwahanol yn yr ymgynghoriad. Yn y sefyllfaoedd hyn, rhoddwyd sylw i’r pwyntiau a godwyd dan y cwestiwn mwyaf priodol.
2.3 Methodoleg
2.3.1 Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad rownd gyntaf ar-lein gyda dolen i’r arolwg cysylltiedig, a oedd yn caniatáu i ymatebwyr gymryd rhan drwy Citizen Space neu drwy e-bost. Cafodd yr holl ymatebion a gyflwynwyd eu hadolygu a’u categoreiddio yn ôl y cwestiynau perthnasol er mwyn sicrhau cysondeb. Yn gyffredinol, cafwyd 141 o ymatebion i’r ymgynghoriad, 113 (80%) drwy Citizen Space a 28 (20%) drwy e-bost.
2.3.2 Roedd ymatebwyr yn gallu dewis nifer o fuddiannau a oedd yn berthnasol iddynt yn eu barn nhw, ac o’r herwydd, roedd cyfanswm o dros 141 o ymatebwyr a ymatebodd i’r ymgynghoriad. Er enghraifft, efallai fod unigolyn wedi dewis ei fod yn ‘aelod o’r cyhoedd’ ac yn ‘aelod o’r gymuned leol yng nghyffiniau gosodiad niwclear presennol’. Felly, drwy gydol y ddogfen hon, efallai na fydd unrhyw ddata sy’n cael ei ddadansoddi yn ôl math o ymatebydd yn cyfateb i 141.
2.3.3 Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys cwestiynau caeedig, lle gallai ymatebwyr ddewis o atebion wedi’u diffinio ymlaen llaw (‘Cytuno’n Gryf’, ‘Cytuno’, ‘Heb benderfynu’, ‘Anghytuno’, ‘Anghytuno’n gryf’, ‘Dim Digon o Wybodaeth’), a chwestiynau penagored gyda blychau testun rhydd. Cafodd cwestiynau heb eu hateb eu cofnodi fel rhai ‘Heb eu Hateb’.
2.3.4 Casglwyd data meintiol o’r atebion a ddiffiniwyd ymlaen llaw ac fe’u hadlewyrchir gan nifer yr ymatebwyr a’r ganran gyfatebol o’r rhai a oedd yn cytuno neu’n anghytuno; sylwer efallai na fydd y gwerthoedd yn cyfateb i 100% oherwydd talgrynnu. Nid oedd pob ymatebydd wedi ateb pob cwestiwn, felly mae cyfanswm yr ymatebion i rai cwestiynau yn llai na chyfanswm yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad.
2.3.5 Cafodd ymatebion penagored eu hadolygu’n bersonol, gydag ymatebion wedi’u grwpio’n themâu. Roedd y dadansoddiad yn ansoddol ac felly nid oes ganddo ddata rhifiadol diffiniedig. Gallai pob ymateb berthyn i fwy nag un thema, gan arwain at nifer uwch o ymatebion thematig na chyfanswm yr ymatebion. Cafodd ymatebion nad oeddent yn ffitio i unrhyw thema eu categoreiddio fel ‘Arall’ ac fe’u hadolygwyd yn rheolaidd i benderfynu a oedd angen themâu newydd, er na nodwyd unrhyw rai. Cafodd yr ymatebion eu dadansoddi’n feintiol ac yn ansoddol. Adolygwyd pob ymateb ddwywaith i nodi themâu ac argymhellion polisi, gan wirio cysondeb ar ôl hynny. Mesurwyd y dadansoddiad lle bo’n bosibl, ond ni roddwyd pwysoliad oherwydd maint bach y sampl ac aelodaeth sy’n gorgyffwrdd.
2.4 Y prif gynigion polisi (cwestiynau 1–4 yr ymgynghoriad)
2.4.1 Cwestiwn 1: Mae EN-6 yn berthnasol i brosiectau ar raddfa GW yn unig. Yn yr ymgynghoriad hwn rydym yn cynnig bod EN-7 yn berthnasol i brosiectau ar raddfa GW, yn ogystal ag Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch. Beth yw eich barn am gynnig y llywodraeth i ehangu’r amrywiaeth o dechnolegau sy’n cael sylw yn y Datganiad Polisi Cenedlaethol niwclear newydd?
Roedd 75 (59%) o’r 128 o ymatebwyr, gan gynnwys datblygwyr niwclear ac arbenigwyr yn y diwydiant, yn cefnogi cynnwys Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch yn EN-7, gan gyfeirio at fwy o gyfleoedd, amrywiaeth a chyfraniadau at ddiogelwch ynni a nodau sero net. Ar y llaw arall, roedd 52 (41%) o ymatebwyr, yn bennaf o blith aelodau unigol o’r cyhoedd a grwpiau ymgyrchu amgylcheddol, yn anghytuno â’r cynnig oherwydd pryderon am wastraff ymbelydrol a rheoli tanwydd niwclear a ddisbyddwyd, diogelwch, effeithiau ecolegol, a gwrthwynebiad mewn egwyddor i ynni niwclear. Pwysleisiodd ymatebwyr o blaid yr angen am ddull cynllunio safonol ar draws pob prosiect niwclear i sicrhau cysondeb ac eglurder.
2.4.2 Cwestiwn 2: Mae EN-6 yn cynnwys safleoedd posibl a aseswyd gan y llywodraeth. Yn yr ymgynghoriad hwn rydym yn cynnig bod EN-7 yn grymuso datblygwyr i asesu a nodi safleoedd posibl gan ddefnyddio meini prawf cadarn. Beth yw eich barn am gynnig y llywodraeth i newid ei pholisi lleoli niwclear yn ddull seiliedig ar feini prawf?
2.4.3 Roedd 60 (47%) o’r 129 o ymatebwyr, o’r diwydiant niwclear yn bennaf, yn cefnogi’r dull seiliedig ar feini prawf, gan nodi mwy o gyfleoedd, hyblygrwydd a chysondeb ag anghenion y diwydiant. Mynegodd 56 (43%) o ymatebwyr, gan gynnwys nifer o aelodau unigol o grwpiau ymgyrchu cyhoeddus ac amgylcheddol, bryderon ynghylch y risg y byddai ymgeiswyr yn cael gormod o ryddid wrth ddewis safleoedd, effeithiau ecolegol posibl, a cholli amddiffyniadau ar gyfer safleoedd a ddynodwyd yn EN-6. Mynegodd rhai bryderon hefyd y gallai dull sy’n seiliedig ar feini prawf ehangu’r amrywiaeth o safleoedd eraill y mae’n rhaid i ymgeiswyr eu hystyried.
2.4.4 Cwestiwn 3: Mae EN-6 yn cynnwys terfyn amser ar gyfer gosod gorsafoedd pŵer niwclear newydd. Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn cynnig nad yw EN-7 yn cael ei gyfyngu o ran amser i gefnogi cynllunio hirdymor. Beth yw eich barn am gynnig y llywodraeth i newid ei pholisi lleoli gorsafoedd niwclear i ddull gweithredu sy’n seiliedig ar amserlen heb gyfyngiadau?
2.4.5 Roedd 63 (50%) o’r 123 o ymatebwyr o blaid dileu’r terfyn amser ar gyfer lleoli gorsaf, gan nodi mwy o hyblygrwydd a’r potensial i gyflymu datblygiad niwclear. Roedd y rheini a oedd o blaid yn cynnwys ymatebwyr o’r diwydiant niwclear ac awdurdodau lleol. Ar y llaw arall, mynegodd 50 (40%) o ymatebwyr, yn bennaf gan aelodau unigol o grwpiau cymunedol a chyhoeddus, bryderon am ddiffyg amserlen. Roeddent yn awgrymu bod terfynau amser yn helpu i sicrhau datblygiad amserol ac yn rhoi sicrwydd. Tynnodd rhanddeiliaid yn y diwydiant sylw hefyd at bwysigrwydd cynnal momentwm wrth gyflawni prosiectau niwclear.
2.4.6 Cwestiwn 4: Nod y Datganiad Polisi Cenedlaethol yw rhoi mwy o hyblygrwydd i amrywio safleoedd niwclear er mwyn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau sero net, gan sicrhau bod lleoli gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn cael ei gyfyngu gan feini prawf priodol. I ba raddau ydych chi’n cytuno bod y prif gynigion polisi a amlinellir yn yr adran hon (sy’n ymestyn y Datganiad Polisi Cenedlaethol i dechnolegau newydd, yn mabwysiadu dull seiliedig ar feini prawf o leoli datblygiadau newydd, a dileu’r terfyn amser gosod gorsafoedd i alluogi mwy o leoliadau) yn cyflawni’r nodau hyn?
2.4.7 Fel y nodwyd ym mharagraff 2.2.3, mae rhai ymatebion yn berthnasol i gwestiynau eraill. Rhoddir sylw i’r ymatebion i’r cwestiwn hwn mewn man arall yn Adran 2.4.
2.5 Ehangu cwmpas cyfundrefn y Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (cwestiynau 5-6 yr ymgynghoriad)
2.5.1 Cwestiwn 5: Ydych chi’n cytuno y dylid cyflwyno deddfwriaeth i gynnwys pob prosiect ymholltiad niwclear o fewn cyfundrefn y Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn Lloegr, gan gynnwys adweithyddion sydd ag allbwn cynhyrchu o lai na 50 MW ac adweithyddion sydd ond yn cynhyrchu gwres neu danwydd synthetig fel hydrogen?
2.5.2 Fel y nodwyd ym mharagraff 2.2.3, mae rhai ymatebion yn berthnasol i gwestiynau eraill. Rhoddir sylw i’r ymatebion i’r cwestiwn hwn ym mharagraff 2.5.4.
2.5.3 Cwestiwn 6: Oes gennych chi unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth dechnegol am adweithyddion ymholltiad sydd ond yn cynhyrchu gwres neu danwydd synthetig a allai fod yn ddefnyddiol i helpu i lywio a ddylid eu cynnwys yn y Datganiad Polisi Cenedlaethol niwclear ar ôl 2025?
2.5.4 Roedd 94 (76%) o’r 123 o ymatebion yn cefnogi cynnwys pob prosiect ymholltiad niwclear yng nghyfundrefn y Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, gan dynnu sylw at fanteision fel mwy o gyfleoedd a chysondeb wrth gynllunio. Fodd bynnag, codwyd pryderon gan 12 (10%) o ymatebwyr ynghylch cost a dwysedd adnoddau posibl y broses gynllunio ar gyfer prosiectau llai. Awgrymodd rhai rhanddeiliaid ddull mwy hyblyg ar gyfer adweithyddion llai, arloesol gan alw am ddiffiniadau cyfreithiol cliriach.
2.6 Meini prawf asesu safle yr effeithir arnynt o ganlyniad i’n prif gynigion polisi (cwestiynau 7–7d yr ymgynghoriad)
2.6.1 Cwestiwn 7: Ydych chi’n cytuno ein bod wedi nodi’n gywir y meini prawf y mae ein prif newidiadau polisi arfaethedig yn effeithio arnynt?
Fel y nodwyd ym mharagraff 2.2.3, mae rhai ymatebion yn berthnasol i gwestiynau eraill. Roedd yr ymatebion i’r cwestiwn hwn yn cynnwys pynciau fel cryfhau’r maen prawf llifogydd, gan gynnwys meini prawf ychwanegol fel newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd morol, effaith gymdeithasol a bywyd gwyllt a chynefinoedd gwarchodedig, ystyried meini prawf gwahanol ar gyfer gwahanol dechnolegau a’r posibilrwydd o ddull gweithredu sy’n seiliedig ar risg o ymdrin â meini prawf penodol ar gyfer pŵer niwclear uwch. Ymdrinnir â’r pynciau hyn mewn rhannau eraill o’r ddogfen hon: gweler cwestiwn 7a a 7b ar gyfer asesu a risg llifogydd; cwestiwn 7c ar gyfer nodweddion lleoliad a dwysedd poblogaeth; a chwestiwn 8a ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Rhoddir sylw i geisiadau am feini prawf ychwanegol yn yr ymateb i gwestiynau 7c, 7d ac 8.
2.6.2 Cwestiwn 7a: Rhagor o sylwadau ynghylch llifogydd, tswnami, hyrddiau storm a phrosesau arfordirol
2.6.3 Roedd y 27 o ymatebion yn gymysg, gyda phryderon ynghylch risg llifogydd ar safleoedd arfordirol a mewndirol. Roedd rhai rhanddeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus, yn awgrymu gwneud llifogydd yn faen prawf gwaharddol ac yn argymell y dylid defnyddio modelu lleol mewn asesiadau risg llifogydd. Roedd nifer o ymatebion yn cydnabod y gallai cynnwys llifogydd mewndirol fel ystyriaeth yn y maen prawf hwn fod yn berthnasol i dechnolegau niwclear newydd, ond cafwyd nifer fechan iawn o sylwadau am elfennau tswnami neu hyrddiadau stormydd y maen prawf llifogydd, tswnami a hyrddiau storm, neu’r maen prawf ar gyfer prosesau arfordirol. Roedd un ymateb yn cwestiynu perthnasedd tswnamïau i’r DU, ac awgrymodd un arall y dylid gwneud ardaloedd sydd mewn perygl o tswnamïau yn waharddol.
2.6.4 Cwestiwn 7b: Tystiolaeth i’r llywodraeth ei hystyried fel rhan o ystyriaethau ynghylch a ddylid cyfyngu ar gwmpas asesiadau risg llifogydd
2.6.5 O’r 27 ymateb a gafwyd i’r cwestiwn hwn, rhoddodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr farn bellach ar y maen prawf risg llifogydd. Ychydig o dystiolaeth a gafwyd am yr asesiadau risg llifogydd. Nododd rhai o’r ymatebwyr yn y diwydiant fanteision lleihau cwmpas yr asesiad risg llifogydd er mwyn canolbwyntio’r ystyriaeth o safleoedd amgen i’r lefelau rhanbarthol a lleol, yn enwedig ar gyfer Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch. Fodd bynnag, roedd eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn dadlau y dylai risg llifogydd fod yn faen prawf gwaharddol a mynegodd bryderon ynghylch hyfywedd hirdymor asesiadau risg llifogydd. Roedd rhai rhanddeiliaid hefyd yn cwestiynu a allai’r dull newydd sy’n seiliedig ar feini prawf greu beichiau ychwanegol ar ymgeiswyr sy’n cynnal yr asesiad risg llifogydd neu a allai ymgeiswyr beidio â chynnal asesiadau’n drylwyr.
2.6.6 Cwestiwn 7c: Rhagor o sylwadau ynghylch nodweddion lleoliad a dwysedd poblogaeth
2.6.7 O’r 37 o ymatebion a gafwyd, roedd y rhan fwyaf o’r 31 (84%) o’r ymatebwyr wedi gofyn am newidiadau i’r maen prawf dwysedd poblogaeth. Roedd rhanddeiliaid yn y diwydiant niwclear yn dadlau nad oedd y maen prawf gwaharddol lled-drefol yn addas ar gyfer Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch, a allai ddarparu ynni a gwres yn nes at ardaloedd poblog a chlystyrau diwydiannol. Roeddent yn awgrymu dull mwy seiliedig ar risg, gan gyfeirio at arferion rhyngwladol. Ar y llaw arall, roedd ymatebion gan rai grwpiau cymunedol ac aelodau unigol o’r cyhoedd yn mynegi pryderon ynghylch diogelwch, gan deimlo efallai na fyddai’r maen prawf yn cynnig mesurau diogelu digonol.
2.6.8 Cwestiwn 7d: Rhagor o sylwadau ynghylch meini prawf eraill yr effeithir arnynt nad ydynt wedi cael eu nodi uchod
2.6.9 Fel y nodwyd ym mharagraff 2.2.3, mae rhai ymatebion yn berthnasol i gwestiynau eraill. Roedd llawer o’r ymatebion am weld newid yn yr hinsawdd yn cael ei gynnwys yn y meini prawf. Cynigiwyd meini prawf pellach: nodweddion daeareg a seismoleg, Safleoedd Treftadaeth y Byd, Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol, seilwaith presennol o amgylch safleoedd a gwarchod Ardaloedd Cadwraeth Morol. Mynegodd eraill bryderon am effaith seilwaith y safle a thrafnidiaeth ar iechyd a diogelwch y trigolion. Trafodir newid yn yr hinsawdd, a safbwynt y llywodraeth ar faen prawf newid yn yr hinsawdd, mewn ymatebion i Gwestiwn 8a. Mae Parthau Cadwraeth Morol eisoes wedi’u cofnodi o dan y maen prawf Safleoedd Dynodedig Cenedlaethol o Bwysigrwydd Ecolegol ac fe’u trafodir mewn ymatebion i Gwestiwn 9d. Mae safleoedd Treftadaeth y Byd eisoes wedi’u cynnwys yn y meini prawf Ardaloedd Amwynder a Gwerth Tirwedd a Threftadaeth Ddiwylliannol ac fe’u trafodir mewn ymatebion i Gwestiwn 9e.
2.7 Materion yr ystyriwyd eu cynnwys fel meini prawf asesu safle newydd, ond wedi’u diystyru ohonynt (cwestiynau 8-8c yr ymgynghoriad)
2.7.1 Cwestiwn 8: Ydych chi’n cytuno ein bod wedi nodi’n gywir bod y meini prawf hyn wedi’u gwreiddio yn EN-7, EN-1 ac mewn canllawiau ehangach?
2.7.2 Fel y nodwyd ym mharagraff 2.2.3, mae rhai ymatebion yn berthnasol i gwestiynau eraill. Roedd y cwestiwn hwn yn cynhyrchu ymatebion a oedd yn awgrymu cael meini prawf asesu safle penodol ar gyfer cadernid ac addasu i newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â diogelu dŵr daear. Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid ystyried effeithiau neu feini prawf newydd: meini prawf cymdeithasol ac economaidd; a rheoli dŵr. Rhoddir sylw i’r ymatebion i’r cwestiwn hwn mewn man arall yn Adran 2. Trafodir diogelu dŵr daear a newid yn yr hinsawdd yn 8a ac 8c. Trafodir risg llifogydd ymhellach mewn ymateb i gwestiynau 7a a 7b a thrafodir dwysedd poblogaeth ymhellach mewn ymateb i gwestiwn 7c. Trafodir mynediad at ffynonellau addas o ddŵr yfed yn yr ymateb i gwestiwn 8c.
2.7.3 Cwestiwn 8a: Rhagor o sylwadau ynghylch cadernid ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd
2.7.4 Rhoddodd 24 o ymatebwyr adborth ar gydnerthedd ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Roedd llawer o’r ymatebwyr hyn yn galw am gynnwys newid yn yr hinsawdd fel maen prawf asesu safle penodol, ac awgrymodd rhai y dylai fod yn waharddol. Codwyd pryderon ynghylch effaith lefelau’r môr yn codi, llifogydd a digwyddiadau tywydd eithafol ar safleoedd niwclear. Awgrymodd ymatebwyr o’r diwydiant y gallai fod angen ystyried gwahanol dechnolegau, fel Adweithyddion Modiwlaidd Bach.
2.7.5 Cwestiwn 8b: Rhagor o sylwadau ynghylch diogelu dŵr daear
2.7.6 Gwnaeth 19 o ymatebwyr sylwadau ar ddiogelu dŵr daear, gydag 13 (68%) o ymatebwyr yn dadlau dros ei gynnwys fel maen prawf asesu safle penodol. Roedd yr ymatebwyr hyn yn cynrychioli awdurdodau lleol, grwpiau ymgyrchu amgylcheddol a rheoleiddwyr yn bennaf. Roeddent yn awgrymu y dylid cynnwys parthau gwarchod ffynonellau dŵr daear fel maen prawf asesu safle. Codwyd pryderon ynghylch y risg o wastraff ymbelydrol yn halogi dŵr daear, er bod hyn yn cael sylw ar wahân o dan ystyriaethau rheoli gwastraff ymbelydrol a gweddillion tanwydd niwclear.
2.7.7 Cwestiwn 8c: Meini prawf eraill y dylid eu hystyried ar gyfer diystyru’r Datganiad Polisi Cenedlaethol gan eu bod wedi’u gwreiddio mewn mannau eraill
2.7.8 Fel y nodwyd ym mharagraff 2.2.3, mae rhai ymatebion yn berthnasol i gwestiynau eraill. Dywedodd rhai ymatebwyr y dylid cael meini prawf gwahanol ar gyfer Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch oherwydd eu bod yn cael llai o effaith; ac y dylai’r meini prawf lleoli fod yn gyson ar draws y rheoleiddwyr. Awgrymodd pum ymatebydd bedwar maen prawf pellach: amgylchedd morol; gwastraff ymbelydrol a rheoli tanwydd niwclear a ddisbyddwyd; maen prawf cymdeithasol ac economaidd; a diogelu dŵr yfed. Mae pryderon ynghylch gwastraff ymbelydrol a rheoli tanwydd niwclear a ddisbyddwyd, ac effeithiau cymdeithasol ac economaidd, yn cael sylw yng nghwestiynau 10b a chwestiwn 8 yn y drefn honno.
2.8 Meini prawf asesu safle heb ddatblygiad sylweddol (cwestiynau 9–9h yr ymgynghoriad)
2.8.1 Cwestiwn 9: Ydych chi’n cytuno ein bod wedi nodi’n gywir nad oes angen unrhyw ddatblygiad sylweddol ar y meini prawf hyn?
Fel y nodir ym mharagraff 2.2.3, mae rhai cwestiynau lle’r oedd yr ymatebion a gafwyd yn berthnasol i gwestiynau eraill ac wedi cael eu hystyried mewn cwestiynau eraill. Mae nifer o’r materion a godwyd yn cael sylw yn yr ymatebion i’r is-gwestiwn lle rydym wedi rhoi ymatebion manylach. Mae agosrwydd at weithgareddau milwrol yn cael ei drafod mewn ymatebion i gwestiwn 9a. Mae effeithiau ar gynhyrchu tanwydd hedfan yn cael eu trafod yn 9c, mae cynlluniau morol yn cael eu hintegreiddio mewn 9g ac mae newidiadau i feini prawf lleoli a meini prawf lleoli yn cael eu trafod yn fwy eang yn 9f.
2.8.2 Cwestiwn 9a: Rhagor o sylwadau ynghylch agosrwydd at weithgareddau milwrol
2.8.3 O blith 18 o ymatebwyr, roedd rhai yn cefnogi’r maen prawf presennol ac roedd rhai yn tynnu sylw at fanteision posibl lleoli seilwaith niwclear ger cyfleusterau milwrol fel gwell diogelwch ac addasrwydd gweithredol. Roeddent hefyd yn awgrymu bod llai o Dechnolegau Niwclear Uwch yn peri risgiau is o’i gymharu â mathau mwy o seilwaith. Gofynnodd rhanddeiliaid eraill am eglurhad pellach ynghylch beth yw “gweithgareddau milwrol” ac awgrymodd y gallai rhai ardaloedd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod yn addas ar gyfer datblygiadau niwclear. Roeddent hefyd yn galw am ystyried y cynlluniau morol yn ystod y cam dewis safle i liniaru gwrthdaro â gweithgareddau amddiffyn yn yr ardal forol.
2.8.4 Cwestiwn 9b: Rhagor o sylwadau ynghylch agosrwydd at safleoedd perygl mawr a phiblinellau perygl damweiniau mawr
2.8.5 O’r 12 ymatebydd i’r cwestiwn hwn, roedd y rhan fwyaf yn dod o’r sector datblygu niwclear neu weithwyr ynni proffesiynol. Roeddent yn cefnogi’r maen prawf presennol ac yn awgrymu y gallai natur lai Technolegau Niwclear Uwch a’u proffil risg is ganiatáu i’r rhain gael eu lleoli’n agosach at safleoedd peryglus. Roeddent hefyd yn awgrymu bod llai o faint a nodweddion diogelwch cynhenid Uwch Dechnolegau Niwclear yn lliniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig â safleoedd peryglus mawr, gan fod y bygythiadau i gyfleusterau niwclear yn cael sylw mewn asesiadau diogelwch, gan sicrhau bod risgiau’n cael sylw cyn cael trwydded safle niwclear. Fodd bynnag, awgrymodd rhai rhanddeiliaid y dylai’r meini prawf ganiatáu mwy o hyblygrwydd ar gyfer Adweithyddion Modiwlaidd Bach a mynd i’r afael â risgiau ychwanegol fel tyrbinau gwynt. Roeddent yn dadlau y gallai cyfyngiadau llymach rwystro lleoli cyfleusterau niwclear yn y ffordd orau bosibl.
2.8.6 Cwestiwn 9c: Rhagor o sylwadau ynghylch agosrwydd at awyrennau sifil a symudiadau llongau gofod
2.8.7 Rhoddodd 15 o ymatebwyr adborth, yn bennaf gan sefydliadau datblygu niwclear a chadwyni cyflenwi. Roedd y rhan fwyaf yn cytuno bod y maen prawf presennol yn mynd i’r afael yn ddigonol â’r risgiau a achosir gan symudiadau awyrennau, yn enwedig ar gyfer Technolegau Niwclear Uwch llai, a oedd, yn eu barn nhw, yn peri llai o risgiau. Tynnodd rhai rhanddeiliaid sylw at fanteision posibl lleoli Uwch Dechnolegau Niwclear ger meysydd awyr neu safleoedd milwrol ar gyfer cynhyrchu ynni. Fodd bynnag, galwodd lleiafrif am ddatblygu’r maen prawf ymhellach, yn enwedig o ran technolegau niwclear ar gyfer cynhyrchu tanwydd hedfan ac agosrwydd Adweithyddion Modiwlaidd Bach at gyfleusterau hedfan.
2.8.8 Cwestiwn 9d: Rhagor o sylwadau ynghylch safleoedd sydd â dynodiad cenedlaethol a rhyngwladol o bwysigrwydd ecolegol
2.8.9 Gwnaeth 18 o ymatebwyr sylwadau ar y meini prawf hyn. Roedd y rhan fwyaf yn cefnogi cadw’r meini prawf presennol, gan nodi y gallai technolegau newydd fel Adweithyddion Modiwlaidd Uwch leihau’r effaith ar yr amgylchedd. Roedd rhai, fodd bynnag, yn galw am ddatblygiad pellach, gan ddadlau dros ddull mwy gwaharddol, gan gynnwys ehangu’r meini prawf i gynnwys ardaloedd cyfagos a morol. Roedd eraill yn pwysleisio’r angen am warchodaeth fwy llym ar gyfer Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, a Safleoedd Treftadaeth y Byd.
2.8.10 Cwestiwn 9e: Rhagor o sylwadau ynghylch ardaloedd o werth amwynder a thirwedd a threftadaeth ddiwylliannol
2.8.11 Cafwyd adborth gan gyfanswm o 18 o ymatebwyr, gyda llawer yn galw am ddatblygu’r meini prawf ymhellach. Awgrymodd rhai y dylid gwneud y meini prawf yn waharddol, yn enwedig ar gyfer ardaloedd fel Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, a Safleoedd Treftadaeth y Byd. Roedd eraill yn cefnogi’r meini prawf presennol ond yn argymell adolygu’r geiriad i sicrhau eu bod yn ddigon cadarn, gyda mwy o eglurder ynghylch categoreiddio a diogelu tirweddau, yn enwedig o ystyried dyletswyddau newydd Deddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023.
2.8.12 Cwestiwn 9f: Rhagor o sylwadau ynghylch maint y safle er mwyn gallu gweithredu
2.8.13 Soniodd 15 o ymatebwyr am faint y safle, gyda llawer yn awgrymu y dylai’r meini prawf fod yn fwy cynhwysfawr, gan gynnwys tirweddu a gofod ar gyfer adeiladu, gwasanaethu a chludiant. Roedd rhai rhanddeiliaid yn cefnogi’r meini prawf, yn enwedig ar gyfer Adweithyddion Modiwlaidd Bach oherwydd eu hôl troed llai. Roedd eraill yn galw am ddiwygiadau i ystyried cyfleusterau storio wedi’u dosbarthu a gwastraff ymbelydrol tymor hir a rheoli tanwydd niwclear a ddisbyddwyd yn fwy penodol.
2.8.14 Cwestiwn 9g: Rhagor o sylwadau ynghylch mynediad at ffynonellau addas o oeri
2.8.15 Rhoddodd 25 o ymatebwyr adborth. Roedd rhai rhanddeiliaid yn cytuno bod y maen prawf presennol yn ddigonol, ac roedd eraill yn galw am wahaniaethau cliriach rhwng prosiectau ar raddfa GW a phrosiectau llai. Roedd rhai Sefydliadau Anllywodraethol o’r farn bod dŵr oeri yn faen prawf gwaharddol. Pwysleisiodd ymatebwyr eraill y gallai Technolegau Niwclear Uwch ddefnyddio dulliau oeri amgen. Codwyd pryderon ynghylch yr effaith amgylcheddol ar fywyd morol a’r angen i wahaniaethu rhwng anghenion oeri ar sail maint y prosiect niwclear.
2.8.16 Cwestiwn 9h: Rhagor o sylwadau ynghylch meini prawf eraill heb ddatblygiad arwyddocaol ond nad ydynt wedi cael eu nodi uchod
2.8.17 Fel y nodwyd ym mharagraff 2.2.3, mae rhai ymatebion yn berthnasol i gwestiynau eraill. Trafodwyd gwastraff ymbelydrol a rheoli gweddillion tanwydd niwclear yma ac awgrymodd rhai ymatebion y dylai EN-7 adlewyrchu dull EN-6 ond ymestyn i gynnwys Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch. Trafodir hyn ymhellach mewn ymatebion i gwestiwn 10b. Trafodwyd effeithiau Nifer o Adweithyddion ac Enillion Net Bioamrywiaeth hefyd wrth i ymatebwyr gefnogi’r gwaith o ystyried effeithiau cronnus o sawl adweithydd arfaethedig ar un safle, gan annog EN-7 i fod yn berthnasol i bob graddfa ddatblygu. Trafodir hyn ymhellach mewn ymatebion i gwestiwn 10c a 10e yn y drefn honno.
2.9 Materion eraill a ystyriwyd yn EN-6 (cwestiynau 10–10f yr ymgynghoriad)
2.9.1 Cwestiwn 10: Ydych chi’n cytuno â’r dull gweithredu rydym wedi’i gynnig ynglŷn â’r materion eraill a gafodd eu hystyried yn EN-6 ac y bydd angen eu hystyried yn EN-7?
2.9.2 Fel y nodwyd ym mharagraff 2.2.3, mae rhai ymatebion yn berthnasol i gwestiynau eraill. Roedd yr ymatebion yn amlinellu bod y materion hyn yr oedd angen eu hystyried yn EN-6 yn bwysig er mwyn parhau i ddatblygu o ran cynllunio, polisi a rheoleiddio, ac y byddai’r dull gweithredu sy’n seiliedig ar feini prawf yn gyffredinol yn cefnogi’r diwydiant niwclear. Mae nifer o’r materion a godwyd yn cael sylw yn yr ymatebion i’r is-gwestiwn lle rydym wedi rhoi ymatebion manylach. Trafodir teilyngdod safle a enwebir o’i gymharu ag atebion amgen yn yr ymateb i 10a ac mae gwastraff ymbelydrol a rheoli tanwydd niwclear a ddisbyddwyd yn cael eu trafod yn yr ymateb i 10b. Ymdrinnir â safoni ac effeithlonrwydd yn y broses gynllunio a’r adran weithredu yn ehangach yn ymateb 10a. Mae’r gwaith o eithrio safleoedd EN-6 a phryderon ynghylch y llywodraeth yn newid o nodi safleoedd posibl i ddull gweithredu sy’n seiliedig ar feini prawf yn cael sylw yn yr ymateb i gwestiwn 2.
2.9.3 Cwestiwn 10a: Rhagor o sylwadau ynghylch rhinweddau safle a enwebir o’i gymharu ag atebion amgen eraill
2.9.4 Cafwyd sylwadau gan 33 o ymatebwyr ar rinweddau safle a enwebwyd o’i gymharu ag atebion amgen. Dadleuodd rhai y gallai gofyn am asesiadau safle amgen fod yn gostus ac yn adnodd-ddwys i ymgeiswyr, tra credai eraill y dylid dewis safleoedd ar sail eu rhinweddau. Roedd awdurdodau lleol o blaid parhau i ddefnyddio safleoedd EN-6 heb ailasesiad. Galwodd rhai rhanddeiliaid am gydweithio rhwng diwydiant a’r llywodraeth i sicrhau dewis safle addas, gan bwysleisio’r angen am hyblygrwydd i gyrraedd targedau capasiti niwclear.
2.9.5 Cwestiwn 10b: Rhagor o sylwadau ynghylch gwastraff ymbelydrol a thanwydd niwclear a ddisbyddwyd
2.9.6 Mynegodd 26 o ymatebwyr bryderon nad oes Cyfleuster Gwaredu Daearegol yn y DU ar hyn o bryd, gan greu ansicrwydd ar gyfer gwastraff ymbelydrol tymor hir a rheoli a gwaredu tanwydd niwclear a ddisbyddwyd ar gyfer prosiectau niwclear newydd. Pwysleisiodd rhanddeiliaid yr angen am fframweithiau rheoleiddio hyblyg i fynd i’r afael â heriau sy’n dod i’r amlwg, datblygiadau technolegol, a’r posibilrwydd ar gyfer ailddefnyddio tanwydd a ddisbyddwyd. Roedd pryderon eraill yn cynnwys storio tanwydd a ddisbyddwyd ar y safle yn yr hirdymor, addasrwydd Cyfleuster Gwaredu Daearegol, a lleoli Cyfleuster Gwaredu Daearegol, sydd wedi’i gynnwys mewn dogfennau polisi ar wahân. Tynnwyd sylw hefyd at ddiogelwch y cyhoedd a manteision cymunedol.
2.9.7 Cwestiwn 10c: Rhagor o sylwadau ynghylch effeithiau nifer o adweithyddion
2.9.8 Rhoddodd 30 o ymatebwyr adborth ar effaith defnyddio mwy nag un adweithydd ar un safle. Pwysleisiodd rhai rhanddeiliaid bwysigrwydd pennu uchafswm yr adweithyddion yn gynnar, yn enwedig o ystyried natur fodiwlaidd technolegau newydd. Nododd eraill y gallai safleoedd niwclear gael eu datblygu fesul cam, gan ei gwneud yn anodd penderfynu ar y nifer terfynol o adweithyddion ar y dechrau. Codwyd pryderon ynghylch heriau rheoleiddiol, effeithiau cronnus ar adnoddau, a risgiau ehangu heb ei gynllunio. Galwodd ymatebwyr am asesiadau strategol o ddefnydd tir, anghenion oeri, gwastraff ymbelydrol a rheoli tanwydd niwclear a ddisbyddwyd, yn ogystal ag effeithiau amgylcheddol ar gyfer safleoedd sydd â mwy nag un adweithydd.
2.9.9 Cwestiwn 10d: Rhagor o sylwadau ynghylch perchnogaeth safleoedd
2.9.10 Soniodd 15 o ymatebwyr am berchnogaeth ar y safle. Roedd y rhan fwyaf yn cytuno na ddylai perchnogaeth tir fod yn faen prawf ar gyfer dewis safle. Roedd rhanddeiliaid yn dadlau y dylai addasrwydd safle fod yn seiliedig ar ffactorau technegol ac amgylcheddol, nid a yw’r tirfeddiannwr yn fodlon gwerthu. Codwyd pryderon ganddynt hefyd ynghylch newid perchnogaeth a phwysleisiwyd yr angen am brosesau rheoli tir clir a thryloyw. Tynnwyd sylw hefyd at ystyriaethau hirdymor, fel datgomisiynu.
2.9.11 Cwestiwn 10e: Rhagor o sylwadau ynghylch Elw Net Bioamrywiaeth
2.9.12 Rhoddodd 19 o ymatebwyr fewnbwn ar Enillion Net Bioamrywiaeth. Cytunai’r rhan fwyaf y dylai fod yn ystyriaeth ar gyfer prosiectau niwclear, er bod rhai o’r ymatebwyr yn cwestiynu’r ganran briodol ar gyfer enillion net. Codwyd pryderon ynghylch cost yr Enillion Net Bioamrywiaeth a’r heriau wrth eu sicrhau. Pwysleisiodd rhanddeiliaid yr angen am ganllawiau clir, dull gweithredu strategol ar gyfer prosiectau ar raddfa fawr, a metrigau amgylcheddol a fframweithiau rheoleiddio cadarn.
2.9.13 Cwestiwn 10f: Rhagor o sylwadau ynghylch materion eraill y dylid eu hystyried ymhellach fel rhan o’r dull gweithredu sy’n seiliedig ar feini prawf
2.9.14 Fel y nodwyd ym mharagraff 2.2.3, mae rhai ymatebion yn berthnasol i gwestiynau eraill. Cafwyd amrywiaeth o ymatebion i’r cwestiwn hwn, gan ymdrin â gwahanol faterion yr oedd ymatebwyr yn teimlo y dylid eu hystyried ymhellach. Roedd rhai sylwadau cyffredin ynghylch ffactorau economaidd-gymdeithasol yn cael eu cynnwys yn y dull gweithredu sy’n seiliedig ar feini prawf, ac y gallai maen prawf ynghylch argaeledd y seilwaith presennol ar safle fod yn ddefnyddiol. Awgrymodd rheoleiddiwr y byddai gofyniad am faen prawf ar gyfer adnoddau dŵr sy’n ymwneud ag adeiladu a gweithredu (nid at ddibenion oeri yn unig). Rhoddir sylw i’r ymatebion i’r cwestiwn hwn yng nghwestiynau 10 – 10e.
2.10 Gweithredu’r prif gynigion polisi (cwestiynau 11–12 yr ymgynghoriad)
2.10.1 Cwestiwn 11: Mae’r adran ‘Gweithredu’ yn disgrifio sut y bydd y dull polisi newydd yn cael ei roi ar waith. Beth yw eich barn am y model gweithredu arfaethedig?
2.10.2 Roedd 52 (43%) o’r 120 o ymatebwyr yn cytuno â’r model gweithredu arfaethedig, yn enwedig datblygwyr a rheoleiddwyr niwclear newydd, oherwydd ei gefnogaeth i ddiogelwch ynni ac amrywiaeth o ran cynhyrchu niwclear. Fodd bynnag, roedd rhai ymatebwyr yn gofyn am fwy o eglurder ynghylch mynediad rheoleiddiol, rôl Great British Nuclear, a’r angen am ddull gweithredu cydgysylltiedig gan y llywodraeth. Codwyd pryderon gan aelodau o’r cyhoedd, eiriolwyr amgylcheddol, a rhai yn y diwydiant niwclear am risgiau sy’n ymwneud ag addasrwydd safle a diffyg cynllun gofodol strategol. Tynnodd rhai rhanddeiliaid sylw hefyd at bwysigrwydd ymgysylltu’n gynnar ag awdurdodau lleol a chymunedau.
2.10.3 Cwestiwn 12: Pa gymorth, os o gwbl, gan y llywodraeth neu Great British Nuclear fyddech chi’n disgwyl ei weld i gefnogi datblygwyr i nodi safleoedd?
2.10.4 O’r 65 o ymatebwyr, roedd llawer yn galw am fwy o eglurder ynghylch rôl Great British Nuclear, gyda’r rhan fwyaf yn awgrymu mwy o gefnogaeth i ddatblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Gydsyniad Datblygu. Roedd y cynigion yn cynnwys Great British Nuclear yn gweithredu fel cydlynydd rhwng datblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Gydsyniad Datblygu, adrannau’r llywodraeth a rheoleiddwyr i symleiddio prosesau rheoleiddio a helpu i nodi safleoedd. Pwysleisiodd ymatebwyr hefyd yr angen i Great British Nuclear ymgysylltu’n gynnar ag awdurdodau lleol, gweithredu fel ystorfa o wybodaeth, a chefnogi cadwyni cyflenwi a datblygu sgiliau.
2.11 Unrhyw wybodaeth ychwanegol (cwestiwn 13 yr ymgynghoriad)
2.11.1 Cwestiwn 13: A oes unrhyw wybodaeth, persbectif neu ystyriaeth ychwanegol sy’n bwysig yn eich barn chi i ddatblygiad y Datganiad Polisi Cenedlaethol niwclear, nad yw efallai wedi cael sylw digonol neu sydd ar goll o’r ddogfen ymgynghori? Rhannwch eich gwybodaeth a’ch awgrymiadau
2.11.2 Fel y nodwyd ym mharagraff 2.2.3, mae rhai ymatebion yn berthnasol i gwestiynau eraill. Y brif thema ymateb ar gyfer Cwestiwn 13 oedd dull gweithredu gwahanol i’r meini prawf sydd wedi’u cynnwys yn y dull lleoli. Roedd llawer o’r ymatebion hyn yn galw am gynnwys meini prawf cymdeithasol ac amgylcheddol. Roedd pryderon ynghylch ecoleg y safle, diogelwch a gwastraff ymbelydrol a rheoli tanwydd niwclear a ddisbyddwyd yn parhau i fod yn themâu cyffredin, fel yr oedd yr angen am ymgysylltu â rhanddeiliaid yn gynnar ac yn eang fel rhan o’r gweithredu. Rhoddir sylw i’r ymatebion i’r cwestiwn hwn mewn man arall yn Adrannau 2.4 - 2.10.
3. Ymateb y Llywodraeth i rownd gyntaf yr ymgynghoriad a’r ail rownd o ymgynghori ar y Datganiad Polisi Cenedlaethol drafft ar Gynhyrchu Ynni Niwclear EN-7
3.1 Cyflwyniad
3.1.1 Mae Adran 3 yn cynnwys ail rownd ein hymgynghoriad, sy’n amlinellu dull gweithredu’r llywodraeth ar gyfer y drafft EN-7 yng ngoleuni’r ymatebion i rownd gyntaf yr ymgynghoriad. O ystyried yr ymatebion i’r dull gweithredu yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad, mae’r Llywodraeth yn bwriadu mabwysiadu’r cynigion a amlinellir i raddau helaeth. Felly, bydd yr ail rownd o ymgynghori yn canolbwyntio ar fireinio’r drafft EN-7 drwy fynd i’r afael ag unrhyw faterion sydd heb eu datrys i sicrhau bod y fframwaith polisi yn gadarn ac yn addas i’r diben.
3.1.2 Dyma strwythur yr adran hon:
- ein dull cyffredinol o ymdrin ag EN-7
- y meini prawf asesu a fydd yn sail i benderfyniad ynghylch a ddylid rhoi Caniatâd Datblygu ar gyfer seilwaith niwclear, gan gynnwys Ffactorau sy’n Dylanwadu ar Ddewis Safle, Effeithiau ac Ystyriaethau Technegol
3.1.3 Roedd yr ymgynghoriad yn y rownd gyntaf yn canolbwyntio ar agweddau Ffactorau sy’n Dylanwadu ar Ddewis Safle EN-7, sydd wedi cael eu mireinio ar sail yr adborth a gafwyd. Er nad ymgynghorwyd ar yr Effeithiau a’r Ystyriaethau Technegol yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad, maent yn rhoi sylw i ystyriaethau tebyg i’r meysydd hynny sy’n dod o dan y Ffactorau sy’n Dylanwadu ar Ddewis Safle. O’r herwydd, roedd yr ymatebion i’r rownd gyntaf o ymgynghori wedi llywio a siapio’r gwaith o ddatblygu’r meini prawf Effaith ac Ystyriaethau Technegol a amlinellir yn y drafft EN-7.
3.1.4 Roedd EN-6 yn cynnwys amrywiaeth o feini prawf i lywio penderfyniadau ar leoli seilwaith niwclear newydd. Defnyddiwyd y meini prawf hyn i asesu’r safleoedd posibl a enwebwyd gan y diwydiant fel rhan o’r Asesiad Lleoli Strategol a gynhaliwyd gan y llywodraeth. Yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad, cynigiwyd y byddai’r Datganiad Polisi Cenedlaethol newydd yn seiliedig ar feini prawf gan ddefnyddio’r un meini prawf yn bennaf ag EN-6, ond y byddai’r meini prawf hyn ar gyfer asesu safleoedd yn cael eu defnyddio gan ddatblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Ganiatâd Datblygu i ddewis safleoedd addas.
3.1.5 O ystyried maint, ehangder a manylder yr ymatebion, nid yw’n ymarferol mynd i’r afael â phob pwynt a godwyd mewn ymateb i rownd gyntaf yr ymgynghoriad yn fanwl. Rydym wedi canolbwyntio ar ymateb i brif feysydd adborth, gan sicrhau bod y prif faterion a godwyd gan ymatebwyr yn cael sylw, ac rydym yn nodi sut mae ein cynigion wedi newid, neu beidio, o ganlyniad i’r adborth.
3.2 Dull cyffredinol o ymdrin ag EN-7
3.2.1 Pan gafodd EN-6 ei ddynodi yn 2011, yr unig dechnoleg ymarferol oedd ar gael oedd seilwaith ar raddfa fawr a oedd yn gallu cynhyrchu mwy na GW o drydan, a oedd yn golygu mai dim ond er mwyn hwyluso’r math hwn o seilwaith y bwriadwyd EN-6. Yn y ddogfen, cafodd amrywiaeth o safleoedd eu rhestru hefyd, lle’r oedd defnyddio seilwaith niwclear ar raddfa fawr yn cael ei ystyried yn bosibl erbyn 2025. Cynhyrchwyd y rhestr hon o safleoedd a allai fod yn addas drwy enwebiadau ar gyfer safleoedd datblygwyr ac Asesiad Lleoli Strategol dan arweiniad y llywodraeth.
3.2.2 Rydym nawr yn dechrau ar gyfnod lle mae gan y DU gyfleoedd i ddefnyddio ystod fwy amrywiol o dechnolegau ynni niwclear. O ganlyniad, mae’n hanfodol sicrhau bod y fframwaith cynllunio’n parhau i esblygu i adlewyrchu’r amrywiaeth o dechnolegau niwclear sydd ar gael ac uchelgeisiau diogelwch ynni’r llywodraeth.
3.2.3 Mae’r adran hon yn ymdrin â’r tri newid yn y dull gweithredu a gynigir ar gyfer EN-7, o’i gymharu ag EN-6.
3.2.4 Cynnwys Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch ochr yn ochr â thechnolegau Gigawat mawr. Fel y nodwyd yn adran 2, roedd 75 (59%) o’r 128 o ymatebwyr i’r cynnig hwn yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad, gan gynnwys datblygwyr niwclear ac arbenigwyr yn y diwydiant, yn cefnogi cynnwys Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch yn EN-7. Gan ystyried yr ymatebion i rownd gyntaf yr ymgynghoriad a’r ymrwymiad parhaus i leoli gorsaf niwclear, bydd y llywodraeth yn dylunio EN-7 i ddarparu ar gyfer y mathau hyn o seilwaith, ochr yn ochr â seilwaith ar raddfa GW. Bydd hyn yn cefnogi twf ac arloesedd y diwydiant niwclear, arallgyfeirio defnyddiau posibl niwclear, ac yn cydnabod y cyfleoedd cynyddol ar gyfer cyd-gynhyrchu (er enghraifft darparu gwres ardal, cefnogi cymwysiadau diwydiannol, cynhyrchu hydrogen, a galluogi dihalltu). Bydd y polisi cynllunio unedig hwn ar gyfer Adweithyddion Modiwlaidd Bach, Adweithyddion Modiwlaidd Uwch, a seilwaith ar raddfa GW yn cynnig hyblygrwydd i ddatblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Ganiatâd Datblygu i ddefnyddio’r dechnoleg gywir ar gyfer eu defnydd a’u safle arfaethedig.
3.2.5 Er ei fod yn cydnabod pryderon a fynegwyd gan ymatebwyr am effeithiau posibl ar ddiogelwch ac ar yr amgylchedd, mae’r llywodraeth yn credu bod trefn reoleiddio gaeth y DU yn sicrhau bod y rhain yn cael eu rheoli’n briodol. Bydd EN-7 yn mynnu bod penderfyniadau ar y ceisiadau ar gyfer safleoedd niwclear yn cael eu llywio gan ei feini prawf, ei gynaliadwyedd a’i asesiadau amgylcheddol. Cyn eu defnyddio, bydd yn rhaid i Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Uwch fodloni’r un safonau diogelwch â’r seilwaith niwclear sy’n gweithredu nawr, gan gynnwys unrhyw systemau diogelwch goddefol newydd. Bydd polisïau penodol y llywodraeth ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol a thanwydd niwclear a ddisbyddwyd yn sicrhau bod modd rheoli’r gwastraff o Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch yn ddiogel ac yn effeithiol, yn debyg i sut mae gwastraff ymbelydrol a rheoli tanwydd niwclear a ddisbyddwyd o seilwaith niwclear yn gweithredu nawr yn cael ei storio a’i waredu’n ddiogel heb unrhyw niwed i’r cyhoedd nac i’r amgylchedd.
3.2.6 Dull sy’n seiliedig ar feini prawf. Fel y nodwyd yn adran 2, roedd 60 (47%) o 129 o ymatebwyr, o’r diwydiant niwclear yn bennaf, yn cefnogi’r dull sy’n seiliedig ar feini prawf. Bydd y llywodraeth yn gweithredu dull sy’n seiliedig ar feini prawf yn EN-7, gan symud oddi wrth ddull EN-6 lle caiff lleoliadau a allai fod yn addas i’w datblygu eu nodi erbyn dyddiad penodol. Wrth symud i’r dull hwn, bydd y meini prawf yn darparu ar gyfer gwahanol dechnolegau niwclear a phrosiectau o bob maint, gan sgrinio lleoliadau anaddas a sicrhau bod ynni niwclear yn cael ei ddatblygu mewn ardaloedd addas. Mae’r hyblygrwydd cynyddol hwn, sy’n adlewyrchu anghenion amrywiol technolegau niwclear newydd, hefyd yn cynnig ffordd o nodi a datblygu safleoedd addas newydd yn y tymor hir. Bydd EN-7 yn darparu fframwaith o feini prawf cadarn i arwain ymgeiswyr i ddewis a datblygu safleoedd addas, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch, diogeledd a rheoli effeithiau amgylcheddol ac effeithiau eraill ar y lleoliadau a’r cymunedau sy’n cynnal y prosiectau. O ystyried y parhad yn y meini prawf rhwng EN-6 ac EN-7, mae’r safleoedd a restrir yn EN-6 yn debygol o gadw priodoleddau cadarnhaol cynhenid sy’n eu gwneud yn ddeniadol i’w hystyried ar gyfer datblygu o fewn y gyfundrefn a bennwyd gan EN-7. Ochr yn ochr â dull newydd sy’n seiliedig ar feini prawf, bydd EN-7 yn ceisio annog datblygiad y safleoedd hynny a restrir yn EN-6 er nad EN-6 yw’r prif Ddatganiad Polisi Cenedlaethol mwyach.
3.2.7 Dileu’r terfyn amser ar gyfer lleoli. Fel y nodwyd yn Adran 2, roedd 63 (50%) o’r 126 o ymatebwyr o blaid dileu’r terfyn amser ar gyfer lleoli. Ni fydd y llywodraeth yn cynnwys terfyn amser ar gyfer lleoli yn EN-7, sy’n adlewyrchu’r gefnogaeth sylweddol i’r dull hyblyg hwn. Nid oedd defnyddio terfyn amser yn y tymor cymharol agos (o ran lleoli niwclear) yn EN-6, a ddynodwyd yn 2011 ac a oedd yn cynnwys terfyn amser o 2025, yn ymddangos fel pe bai’n cyflymu prosiectau niwclear. Bydd dileu’r terfyn amser hwn yn rhoi sicrwydd cynllunio ac yn osgoi llesteirio datblygiadau sydd megis cychwyn yn y broses gynllunio ac sydd o bosibl heb gyflawni o fewn terfyn amser penodol ar gyfer lleoli.
3.3 Ehangu cwmpas prosiectau sy’n ymuno â chyfundrefn y Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol
3.3.1 Roedd rownd gyntaf yr ymgynghoriad yn cynnig cynnwys gorsafoedd cynhyrchu ynni niwclear gyda chapasiti cynhyrchu o dan 50 MW (trydan), yn ogystal â gorsafoedd cynhyrchu ynni sy’n cynhyrchu gwres, yng nghyfundrefn y Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae’r trefniadau presennol sy’n rheoli’r trothwy 50 MW (trydan) ar gyfer prosiectau niwclear wedi’u nodi yn Neddf Cynllunio 2008. Mae’r Ddeddf hon yn nodi bod datblygiadau dros 50 MW (trydan) yn cael eu trin fel Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn Lloegr a’u bod yn ddarostyngedig i’r broses Cydsyniad Datblygu. Ar hyn o bryd nid oes trothwy ar gyfer seilwaith cynhyrchu gwres.
3.3.2 Fel y nodwyd yn Adran 2.5.4, roedd 94 (76%) o’r 123 o ymatebion yn cefnogi cynnwys pob prosiect ymholltiad niwclear yng nghyfundrefn y Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, gan dynnu sylw at fanteision fel mwy o gyfleoedd a chysondeb wrth gynllunio. Gan ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad, bydd y llywodraeth yn bwrw ymlaen i ehangu cwmpas y Ddeddf Cynllunio i gynnwys gorsafoedd cynhyrchu ynni sy’n cynhyrchu gwres, er efallai na fydd newidiadau deddfwriaethol ar waith cyn i EN-7 gael ei ddynodi yn 2025. Tan hynny, bydd EN-7 yn arwain penderfyniadau cynllunio, a bydd llwybrau presennol o dan Ddeddf Cynllunio 2008 ar gael ar gyfer prosiectau.
3.3.3 Ar ôl ystyried ymhellach yr hyblygrwydd presennol yn y fframwaith cynllunio ac ystyried yr adborth i’r ymgynghoriad, mae’r llywodraeth wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen ar hyn o bryd â’r newidiadau arfaethedig i’r trothwy cynhyrchu (trydan) 50 MW. Ar gyfer y dyfodol agos, rydym o’r farn y bydd cadw’r trothwy 50 MW (trydan) yn y gyfundrefn gynllunio a’r Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu technolegau niwclear uwch ac yn sicrhau bod y gofynion cynllunio yn gymesur â graddfa ac effaith gwahanol brosiectau. Mae’n bosibl y bydd prosiectau o dan 50 MW (trydan) yn dal i fod angen cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer datblygu o dan y darpariaethau statudol canlynol:
- Adran 77 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 – gall yr Ysgrifennydd Gwladol Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ‘alw prosiectau i mewn’.
- Adran 35 ac Adran 35ZA o Ddeddf Cynllunio 2008 – gall datblygwyr ofyn i’w prosiectau gael eu trin fel Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, sy’n gofyn am gais Cydsyniad Datblygu, y gall yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol gytuno iddo os yw’n fodlon bod y prosiect yn bodloni’r meini prawf perthnasol.
3.3.4 Mae Llywodraeth Cymru wedi creu Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 ar gyfer cydsynio i brosiectau seilwaith ar raddfa fawr. Bydd hyn yn cynnwys prosiectau yng Nghymru sydd â throthwy cynhyrchu rhwng 50 a 350 MW (trydan) (ac eithrio Gwynt sydd heb drothwy uchaf). Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar ei chynigion (Rhoi Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 ar waith),[footnote 2] ar gyfer rhoi’r Ddeddf ar waith. Mae’n bosibl y bydd angen i brosiectau o dan 50 MW (trydan) gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru i’w datblygu o hyd, ond:
- Adran 77 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 – gall Gweinidogion Cymru ‘alw prosiectau i mewn’
- Adran 22 ac Adran 23 o Ddeddf 2024 – gall datblygwyr ofyn i’w prosiectau gael eu trin fel Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, neu gall Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod datblygiad yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol os ydynt yn fodlon bod y prosiect yn bodloni meini prawf perthnasol (mae’r manylion wedi’u nodi yn y papur ymgynghori ar brosiectau y gellir eu cyfarwyddo, a byddant yn ystyried cynnwys seilwaith sydd â chapasiti cynhyrchu o dan 50 MW (trydan), yn ogystal â seilwaith sy’n cynhyrchu gwres).
3.3.5 Yng Nghymru, mae prosiectau sydd ag allbwn wedi’i osod o fwy na 350 MW (trydan) yn cael eu harchwilio gan yr Arolygiaeth Gynllunio a bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net yn penderfynu arnynt.
Cwestiwn 1: I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylid addasu’r dull hwn yng ngoleuni’r adborth i’r ymgynghoriad:
Cadw’r trothwy < 50 MW (trydan) yn y fframwaith cynllunio presennol ac adolygu ein sefyllfa yn y dyfodol?
Nodwch i ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cwestiwn
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Heb benderfynu
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
- Dim digon o wybodaeth
Cwestiwn 1a (DEWISOL): Os hoffech chi egluro eich ymateb, defnyddiwch y blwch testun (testun rhydd, dim mwy na 150 o eiriau)
3.4 Dull cyffredinol o ymdrin ag EN-7: Gweithredu a chymorth ychwanegol cyn gwneud cais
3.4.1 Lansiwyd rownd gyntaf yr ymgynghoriad ym mis Ionawr 2024. Roedd yn cynnig y dylai datblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Gydsyniad Datblygu ddefnyddio’r meini prawf ar gyfer dwysedd poblogaeth ac agosrwydd at weithgareddau milwrol, a nodir yn EN-7, i sgrinio a nodi safleoedd a allai fod yn addas, cyn parhau i nodweddu safle i benderfynu a yw’n bodloni’r meini prawf eraill. Mae hyn yn wahanol i’r broses EN-6 lle byddai’r llywodraeth yn asesu safleoedd a enwebwyd yn erbyn y meini prawf hyn. Roedd rownd gyntaf yr ymgynghoriad yn argymell bod datblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Gydsyniad Datblygu yn ymgysylltu’n gynnar â’r rheoleiddwyr perthnasol i helpu gyda cheisiadau am drwyddedau amgylcheddol a chaniatâd cynllunio. Gall y datblygwr wedyn ystyried a fyddai’n briodol gwneud cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu.
3.4.2 Gan ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn y rownd gyntaf, bydd y llywodraeth yn bwrw ymlaen gyda’r dull gweithredu hwn, gan ganolbwyntio ar wella ymgysylltiad cynnar ag awdurdodau lleol a rheoleiddwyr. Nod diwygiadau cynllunio diweddar yw symleiddio’r broses, gan gynnwys opsiwn llwybr carlam ar gyfer prosiectau pwysig a gwell gwasanaethau cyn gwneud cais. Mae’r llywodraeth yn paratoi dogfen wybodaeth atodol a bydd yn ymgysylltu â’r diwydiant i lywio’r gwaith o’i datblygu.
3.5 Ystyriaethau ac egwyddorion eraill
Addasu i effeithiau newid hinsawdd a’u lliniaru
3.5.1 Bydd addasu i effeithiau newid hinsawdd a’u lliniaru yn rhan greiddiol o EN-7, ac mae’r llywodraeth yn cydnabod y galwadau am gynnwys newid hinsawdd fel maen prawf asesu safle penodol, yn ogystal â’r pryderon ynghylch effaith tywydd eithafol ar seilwaith niwclear. Fodd bynnag, rydym yn fodlon bod EN-1, y meini prawf perthnasol yn EN-7 a’r canllawiau ehangach[footnote 3] yn mynd i’r afael yn ddigonol â’r materion a godwyd drwy fynd i’r afael ag addasu i effeithiau newid hinsawdd a’u lliniaru mewn pennod gyffredinol ac fel rhan o’r meini prawf perthnasol, fel risg llifogydd. Felly, bydd y llywodraeth yn bwrw ymlaen â’r dull arfaethedig o beidio ag ychwanegu maen prawf penodol ar gyfer newid hinsawdd, ond bydd yn sicrhau bod effeithiau newid hinsawdd yn cael eu cyfeirio’n amlwg yn yr adrannau perthnasol o EN-7.
Effeithiau nifer o adweithyddion
3.5.2 Mae’r llywodraeth yn cydnabod y safbwyntiau a godwyd mewn ymateb i’r cynnig a wnaed yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad i alluogi datblygu nifer o adweithyddion yn raddol ar safle. Gan ystyried yr ymatebion cefnogol i’r cynigion yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad, bydd EN-7 yn galluogi defnyddio nifer o adweithyddion a/neu nifer o fathau o adweithyddion ar safle.
3.5.3 Mae seilwaith niwclear fel arfer wedi cael ei ddatblygu ar safle fel un prosiect mawr, yn hytrach na rhywbeth sy’n cael ei ehangu dros amser fesul ‘cam’, sy’n fwy cyffredin yn y maes cynhyrchu ynni adnewyddadwy a mathau eraill o brosiectau datblygu, fel tai. Fodd bynnag, gall Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch gefnogi patrwm lleoli lle mae seilwaith niwclear yn ehangu dros amser, naill ai fel rhan o gamau y darperir ar eu cyfer mewn un Gorchymyn Cydsyniad Datblygu (ynghyd â mesurau lliniaru ar gyfer effeithiau pob cam), neu fel Gorchmynion Cydsyniad Datblygu ar wahân os nad oedd yr ymgeisydd wedi cynllunio ar gyfer datblygiad fesul cam o’r cychwyn.
3.5.4 Ymdrinnir â hyn yn glir yn EN-7, lle nodir y gall ymgeiswyr wneud cais am un Gorchymyn Cydsyniad Datblygu sy’n darparu ar gyfer datblygu fesul cam, neu wneud cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu ar gyfer pob cam datblygu ar wahân wrth i’w cynlluniau ar gyfer y safle esblygu dros amser. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod pob cam o ddatblygu seilwaith niwclear yn gorfod dilyn y safonau diogelwch a chynaliadwyedd priodol y darperir ar eu cyfer yn EN-7, EN-1 a gofynion cyfreithiol, cynllunio a rheoleiddio perthnasol eraill.
Rheoli gwastraff ymbelydrol a thanwydd niwclear a ddisbyddwyd
3.5.5 Mae’r llywodraeth yn cydnabod y pryderon a godwyd mewn ymateb i rownd gyntaf yr ymgynghoriad ynghylch gwastraff ymbelydrol a thanwydd niwclear a ddisbyddwyd o seilwaith niwclear, gan gynnwys o dechnolegau niwclear uwch a allai gynhyrchu mathau newydd o wastraff.
3.5.6 Mae EN-7 yn ymateb i’r pryderon hyn drwy nodi’n glir sut mae’r cynigion a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn darparu’n gynhwysfawr ar gyfer storio gwastraff ymbelydrol a thanwydd niwclear a ddisbyddwyd mewn modd diogel, gan gynnwys gwarchod seilwaith perthnasol rhag bygythiadau fel llifogydd. Mae EN-7 hefyd yn datgan yn glir drwy asesiad amgylcheddol, trwyddedu safleoedd niwclear a thrwyddedu amgylcheddol, y bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddangos bod modd rheoli tanwydd a ddisbyddwyd a’r gwastraff ymbelydrol mwyaf peryglus sy’n deillio o weithredu’r seilwaith niwclear, o fewn Cyfleuster Gwaredu Daearegol arfaethedig y DU. Bydd hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr, o dan asesiad amgylcheddol, trwyddedu amgylcheddol a thrwyddedu safleoedd niwclear, ddangos y bydd trefniadau storio interim diogel ac amgylcheddol dderbyniol ar waith nes bydd Cyfleuster Gwaredu Daearegol yn gallu derbyn y gwastraff.
Diogelwch y safle
3.5.7 Mae sicrhau bod seilwaith niwclear newydd yn cael ei ddiogelu’n briodol yn hanfodol. Mae EN-7 yn cyfeirio at Adran 4.16 o EN-1, sy’n rhoi sylw manwl i hyn. Mae’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear yn rheoleiddio diogelwch yn annibynnol ar gyfer diwydiant niwclear sifil y DU, gan sicrhau bod diogelwch yn cael ei gynnal ar gyfer cylch bywyd cyfan y cyfleuster niwclear. Mae EN-7 yn datgan y dylai ymgeiswyr ymgynghori â’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear i sicrhau bod mesurau diogelwch a’r gwaith o reoli risgiau diogelwch wedi cael eu hystyried yn ddigonol.
Addasrwydd posibl safleoedd a restrir yn EN-6 ar gyfer datblygiad niwclear
3.5.8 Mae’r llywodraeth wedi ystyried awgrymiadau i gynnwys datganiad ar addasrwydd y safleoedd a restrir yn EN-6 ar gyfer datblygiad niwclear.
3.5.9 Roedd EN-6 yn rhestru wyth safle a enwir a allai fod yn addas ar gyfer datblygu seilwaith niwclear ar raddfa GW erbyn 2025, yn seiliedig ar Asesiad Lleoli Strategol. Roedd angen i ddatblygwyr sicrhau Gorchymyn Cydsyniad Datblygu o hyd cyn y gallai’r datblygiad ddechrau ar y safleoedd hynny.
3.5.10 Roedd y casgliadau ar addasrwydd posibl safleoedd yn EN-6 o reidrwydd yn dibynnu ar asesiad manwl a phrydlon o’r safleoedd, ac er mwyn dod i gasgliad tebyg, byddai EN-7 yn gofyn am yr un sylfaen dystiolaeth gadarn. Roedd proses yr Asesiad Lleoli Strategol ac Enwebiadau Safle a oedd yn sail i EN-6 wedi cymryd tua thair blynedd.
3.5.11 Mae’r safleoedd a restrir yn EN-6 yn cadw priodoleddau cadarnhaol sy’n eu gwneud yn addas ar gyfer prosiectau niwclear yn y dyfodol. Mae’r cysondeb yn y meini prawf rhwng EN-6 ac EN-7 yn caniatáu i’r priodoleddau hyn, a nodir yn yr Asesiad Lleoli Strategol, gael eu hystyried mewn unrhyw gais am Gydsyniad Datblygu, oni bai nad ydynt yn berthnasol mwyach. Ochr yn ochr â dull newydd sy’n seiliedig ar feini prawf, bydd EN-7 yn ceisio annog datblygiad y safleoedd hynny a restrir yn EN-6 er nad EN-6 yw’r prif Ddatganiad Polisi Cenedlaethol mwyach.
3.5.12 Drwy’r dull newydd sy’n seiliedig ar feini prawf, bydd y llywodraeth yn grymuso datblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Gydsyniad Datblygu i ddod o hyd i’r safleoedd gorau ar gyfer eu prosiect, gan sicrhau bod niwclear yn cyd-fynd â thechnolegau ynni eraill.
Rhinweddau safle a enwebir o’i gymharu ag atebion amgen eraill
3.5.13 Mae’r llywodraeth yn cydnabod y safbwyntiau a godwyd mewn ymateb i’r cynnig a wnaed yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad a bydd yn defnyddio’r cynigion a amlinellir yn yr ymgynghoriad. Bydd angen i ddatblygwyr weithio gyda’r Arolygiaeth Gynllunio i ystyried atebion amgen a/neu safleoedd amgen ar lefel y prosiect yn yr un ffordd ag ar gyfer prosiectau seilwaith eraill.
Cwestiwn 2: I ba raddau ydych chi’n credu bod y Datganiad Polisi Cenedlaethol drafft wedi’i baratoi’n ddigonol ar gyfer y dyfodol i ddarparu ar gyfer datblygiadau mewn technolegau niwclear?
Nodwch i ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cwestiwn
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Heb benderfynu
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
- Dim digon o wybodaeth
Cwestiwn 2a (DEWISOL): Os hoffech chi egluro eich ymateb, defnyddiwch y blwch testun (testun rhydd, 100 o eiriau)
Cwestiwn 3: A oes ystyriaethau cynllunio neu leoli penodol y dylid rhoi sylw iddynt er mwyn sicrhau bod y Datganiad Polisi Cenedlaethol yn parhau i fod yn hyblyg o ran defnyddio ynni niwclear mewn lleoliadau amrywiol?
- Oes
- Nac oes
- Ddim yn siŵr
- Dim digon o wybodaeth
- Arall
Cwestiwn 3a (DEWISOL): Os hoffech chi egluro eich ymateb, defnyddiwch y blwch testun (testun rhydd, dim mwy na 150 o eiriau)
3.6 Meini prawf penodol: Ffactorau sy’n dylanwadu ar ddewis safle
3.6.1 Bydd Ffactorau sy’n Dylanwadu ar Ddewis Safle yn helpu ymgeiswyr i asesu lleoliadau i nodi nodweddion sy’n helpu i leihau cost a chymhlethdod cynllunio, cymeradwyaeth reoleiddiol, adeiladu, gweithredu, datgomisiynu, a rheoli gwastraff ymbelydrol a thanwydd niwclear a ddisbyddwyd.
3.6.2 Mae llawer o’r meini prawf hyn yn cael sylw yn yr adran hon ac yn yr adrannau Ystyriaethau Technegol ac Effeithiau, sy’n adlewyrchu’r ffaith y bydd ymgeiswyr yn eu hystyried yn ystod yr asesiad o’r safle ac wrth ddylunio’r seilwaith ar y safle.
3.6.3 Rhaid bodloni’r meini prawf Dwysedd Poblogaeth ac Agosrwydd at Weithgareddau Milwrol yn y modd a ragnodir yn EN-7 neu ystyrir bod safle yn amhriodol ar gyfer datblygu seilwaith niwclear.
Cwestiwn 4: I ba raddau ydych chi’n cytuno â’r cynnig i ddileu’r gwahaniaeth rhwng meini prawf gwaharddol a dewisol blaenorol (gweler paragraff 1.1.7 (v) am ragor o wybodaeth)?
Nodwch i ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Heb benderfynu
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
- Dim digon o wybodaeth
Cwestiwn 4a (DEWISOL): Os hoffech chi egluro eich ymateb, defnyddiwch y blwch testun (testun rhydd, dim mwy na 150 o eiriau)
Dwysedd poblogaeth
3.6.4 Mae’r Maen Prawf Dwysedd Poblogaeth Lled-drefol yn ategu system reoleiddio niwclear flaenllaw’r DU drwy reoli’r risg bosibl i ardaloedd poblog yn sgil seilwaith niwclear. Mae’n gwneud hyn drwy gyfyngu ar ba mor agos at ardaloedd poblog y gellir datblygu seilwaith o’r fath, gan liniaru’r effaith os bydd digwyddiad eithriadol o annhebygol yn peri risg y tu hwnt i ffin y safle niwclear. Mae’r Maen Prawf Dwysedd Poblogaeth Lled-drefol yn seiliedig ar risgiau posibl seilwaith sy’n defnyddio ymholltiad niwclear i gynhyrchu ynni.
3.6.5 Roedd lleiafrif o’r ymatebwyr cyffredinol (37 o’r 141 o ymatebwyr) wedi ateb y cwestiwn hwn, ond roedd y rhan fwyaf o’r rhain (84%), yn bennaf o’r diwydiant, wedi awgrymu adolygu neu dynnu’r Maen Prawf Dwysedd Poblogaeth Lled-drefol am eu bod yn credu y gallai technolegau niwclear newydd gael eu lleoli’n ddiogel yn nes at ardaloedd poblog.
3.6.6 Mae gan dechnolegau Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch rôl bwysig i’w chwarae o ran cyflenwi ynni carbon isel, i’r grid trydan cenedlaethol ac i ddefnyddwyr lleol galw mawr fel canolfannau data, gigaffatrïoedd, safleoedd cynhyrchu hydrogen a thanwydd synthetig a/neu glystyrau diwydiannol. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant i wireddu’r potensial hwn, er enghraifft drwy gystadleuaeth Adweithydd Modiwlaidd Bach Niwclear Prydain Fawr.
3.6.7 O ystyried y cam cynnar o ddatblygu llawer o ddyluniadau Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch, prin yw’r dystiolaeth sydd ar gael i ddangos bod technolegau ymhollti niwclear newydd yn peri risg wahanol iawn i dechnolegau ymhollti niwclear presennol. Nid oes llawer o dystiolaeth ychwaith i ddangos y bydd Maen Prawf Dwysedd Poblogaeth Lled-drefol yn atal y dechnoleg hon rhag cael ei lleoli mewn lleoliadau sy’n economaidd effeithlon. Felly, mae’r llywodraeth yn credu ei bod yn ddoeth parhau i ddefnyddio’r Maen Prawf Dwysedd Poblogaeth Lled-drefol yn EN-7.
3.6.8 Unwaith y bydd mwy o brofiad gweithredol a rhagor o dystiolaeth sylfaenol ar gael ynghylch technolegau niwclear uwch, efallai y bydd achos dros addasu’r maen prawf. Bydd EN-7, gan gynnwys y Maen Prawf Dwysedd Poblogaeth Lled-Drefol, yn cael ei adolygu bob 5 mlynedd i sicrhau ei fod yn dal yn berthnasol ac yn effeithiol. Bydd unrhyw adolygiad o EN-7 neu feini prawf penodol yn seiliedig ar dystiolaeth o’r sector a safonau rhyngwladol. Bydd fframwaith rheoleiddio llym y DU yn parhau i sicrhau diogelwch y cyhoedd mewn unrhyw addasiadau i’r maen prawf yn y dyfodol.
Cwestiwn 5: Bwriad y llywodraeth ar hyn o bryd yw cadw’r Maen Prawf Dwysedd Poblogaeth Lled-drefol yn EN-7. Nodwch i ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r penderfyniad i’w gynnwys:
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Heb benderfynu
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
- Dim digon o wybodaeth
Cwestiwn 5a (DEWISOL): Os hoffech chi egluro eich ymateb, defnyddiwch y blwch testun (testun rhydd, 150 o eiriau)
Cwestiwn 6: Rydym yn barod i ystyried diwygio’r Maen Prawf Dwysedd Poblogaeth Lled-drefol yn y dyfodol. Sut dylai’r maen prawf hwn newid yn y dyfodol er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno technolegau niwclear uwch yn well, a pha dystiolaeth sydd yna i gefnogi eich awgrym? Cyfeiriwch at eich ffynonellau. Defnyddiwch y blwch testun i ateb (dim mwy na 500 o eiriau).
Agosrwydd at weithgareddau milwrol
3.6.9 Cafwyd 18 ymateb i’r maen prawf hwn; roedd rhai yn gefnogol ac roedd rhai yn gofyn am ragor o eglurhad a chefnogaeth. Felly, mae’r llywodraeth yn bwriadu cynnal maen prawf ar agosrwydd at weithgareddau milwrol sy’n amlwg yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn fod yn fodlon na fyddai’r seilwaith arfaethedig yn effeithio’n annerbyniol ar fuddiannau amddiffyn, ond ar yr un pryd yn caniatáu seilwaith niwclear a allai elwa o fod yn agos at safleoedd milwrol.
3.6.10 Roedd rhai ymatebion i rownd gyntaf yr ymgynghoriad yn gofyn am ragor o eglurhad a chefnogaeth o ran bodloni’r maen prawf hwn. I fynd i’r afael â hyn, mae’r llywodraeth wedi darparu rhagor o arweiniad yn EN-7 ynghylch sut mae’r maen prawf hwn yn berthnasol, sut gall datblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Gydsyniad Datblygu asesu a allai safle arfaethedig effeithio ar fuddiannau amddiffyn a sut gallant gysylltu â’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Llifogydd
3.6.11 Mae’r llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen ag un o feini prawf y Ffactorau sy’n Dylanwadu ar Ddewis Safle ar gyfer llifogydd. Ar sail yr adborth o rownd gyntaf yr ymgynghoriad a oedd yn galw am fwy o amddiffyniad rhag risg llifogydd ac ehangu’r maen prawf i gynnwys mwy o fathau o lifogydd, rydym wedi cryfhau geiriad y maen prawf er mwyn mynd i’r afael yn well â phob risg o lifogydd, gan gynnwys llifogydd arfordirol, llynnol ac afonol. Mae’n amlwg hefyd bod disgwyl i ddatblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Gydsyniad Datblygu ymgysylltu’n gynnar â rheoleiddwyr a bod yn rhaid iddynt barhau i ddangos cadernid y safle yn erbyn senarios hinsawdd gwaethaf drwy gydol oes y safle arfaethedig.
3.6.12 Mae maen prawf Llifogydd y Ffactorau sy’n Dylanwadu ar Ddewis Safle yn canolbwyntio ar ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd asesu potensial y safle ar gyfer bodloni’r gofynion llifogydd llym a nodir ym maen prawf Llifogydd yr Ystyriaethau Technegol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad yw datblygwyr yn bwrw ymlaen â gwaith dylunio manwl ar safle nad oes modd ei ddiogelu rhag llifogydd ar gyfer ei gylch bywyd cyfan, neu ar safle y gellir dim ond ei ddiogelu am gost neu drwy darfu anghymesur.
3.6.13 O ystyried yr ymateb prin yn yr ymgynghoriad ar y maen prawf prosesau arfordirol, bydd y llywodraeth yn bwrw ymlaen i gynnal y maen prawf presennol. Fodd bynnag, gan ystyried y safbwyntiau ar ehangu’r maen prawf llifogydd fel uchod, mae’r llywodraeth wedi ehangu’r maen prawf i ystyried prosesau newid tirffurfiau eraill, gan gynnwys prosesau aberol, afonol a llynnol.
Agosrwydd at safleoedd perygl mawr a phiblinellau perygl damweiniau mawr
3.6.14 Roedd y rhan fwyaf o’r 12 a ymatebodd i’r mater hwn yn cefnogi cadw’r maen prawf hwn, a oedd yn mynnu bod agosrwydd safleoedd niwclear posibl at safleoedd perygl mawr a phiblinellau perygl damweiniau mawr yn cael ei asesu. Felly, bydd EN-7 yn cynnwys y maen prawf hwn. Mae’r maen prawf hwn yn gwarchod seilwaith niwclear a lleoliadau eraill gan ganiatáu hyblygrwydd mewn asesiadau safle lle bo hynny’n ddiogel ac yn briodol.
3.6.15 Bydd adolygiadau rheolaidd o EN-7 yn parhau i sicrhau bod y maen prawf yn berthnasol ac yn effeithiol o hyd. Mae materion penodol a godir mewn ymatebion, megis risgiau tyrbinau gwynt, eisoes yn cael sylw mewn asesiadau diogelwch safleoedd, felly nid yw’r llywodraeth yn credu bod angen newidiadau ychwanegol. Os oes angen caniatâd sylweddau peryglus mewn perthynas â’r seilwaith niwclear, rhaid ymgysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear fel rhan o’r broses o Drwyddedu Safleoedd Niwclear.
Agosrwydd at symudiadau llongau gofod ac awyrennau sifil
3.6.16 Roedd y rhan fwyaf o’r 15 a ymatebodd i’r maen prawf hwn yn cytuno ei fod yn mynd i’r afael yn ddigonol â’r risgiau a achosir gan symudiadau awyrennau. Nid yw’r llywodraeth yn gweld bod angen diwygio’r maen prawf ac mae’n tybio bod y protocolau diogelwch presennol yn ddigonol.
3.6.17 Mae’r rheoliadau presennol sy’n rheoli lleoliad cyfleusterau niwclear eisoes yn cynnwys mesurau diogelwch llym i fynd i’r afael ag unrhyw risgiau posibl sy’n deillio o weithgareddau awyrennau neu feysydd rocedi cyfagos. Bydd lleoli ger cyfleusterau hedfan yn cael ei ystyried fesul achos drwy ymgynghori’n agos â’r rheoleiddwyr perthnasol, a fydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch y seilwaith ar draws ei gylch bywyd cyfan.
Cadwraeth Ddaearegol a Bioamrywiaeth
3.6.18 Roedd y rhan fwyaf o’r 18 a ymatebodd i’r mater hwn yn cefnogi cadw meini prawf sy’n ymgorffori safleoedd rhyngwladol a chenedlaethol o bwysigrwydd ecolegol, gyda rhai’n dadlau y gallai Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch gael llai o effaith ar yr amgylchedd. Roedd rhai ymatebwyr yn dadlau y dylai’r maen prawf fod yn fwy cyfyngol ac ymgorffori nodweddion a thirweddau gwarchodedig eraill fel Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Safleoedd Treftadaeth y Byd.
3.6.19 Mae’r canllawiau yn EN-1 yn pwysleisio pwysigrwydd cadwraeth ddaearegol, bioamrywiaeth a Manteision Net Bioamrywiaeth wrth ddatblygu seilwaith niwclear. Rhaid i ddatblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Gydsyniad Datblygu ymrwymo i weithredu’r hierarchaeth lliniaru, chwilio am gyfleoedd ar gyfer gwella’r amgylchedd, a chydymffurfio â’r gofynion ar Fanteision Net Bioamrywiaeth ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol pan fyddant yn dod i rym, yn unol â Deddf yr Amgylchedd 2021. Rhaid cynnal asesiad amgylcheddol ar gynigion a rhaid iddynt ddiogelu safleoedd ecolegol a daearegol dynodedig, cyd-fynd â strategaethau cenedlaethol, ac ystyried effeithiau ar draws cylch bywyd cyfan y prosiect, gan sicrhau cynaliadwyedd ochr yn ochr ag anghenion ynni. Mae’r EN-7 drafft yn cyfeirio’n glir at y gofynion hyn ar ddatblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Gydsyniad Datblygu ac mae’n mynnu eu bod yn cael eu hystyried yng nghamau asesu’r safle a dylunio’r seilwaith.
3.6.20 Er bod gan EN-6 un maen prawf ar gyfer safleoedd sydd wedi’u dynodi’n genedlaethol ac ail faen prawf ar gyfer safleoedd sydd wedi’u dynodi’n rhyngwladol, mae EN-7 wedi cyfuno’r ddau faen prawf hyn i greu un maen prawf “Cadwraeth Ddaearegol a Bioamrywiaeth”. Mae hyn yn cyd-fynd â’r dull a fabwysiadwyd yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol ynni eraill. Nid yw’r maen prawf cyfun yn EN-7 yn lleihau unrhyw warchodaeth ar gyfer safleoedd dynodedig.
3.6.21 Nodir awgrymiadau ar gyfer y maen prawf hwn i ymgorffori tirweddau gwarchodedig eraill. Mae’r rhain eisoes yn cael sylw o dan feini prawf eraill yn EN-1, fel “Gwerth Tirwedd” a “Treftadaeth Ddiwylliannol”. Er bod gan EN-6 un maen prawf ar gyfer safleoedd sydd wedi’u dynodi’n genedlaethol ac ail faen prawf ar gyfer safleoedd sydd wedi’u dynodi’n rhyngwladol, mae EN-7 wedi cyfuno’r ddau faen prawf hyn i greu un maen prawf “Cadwraeth Ddaearegol a Bioamrywiaeth”. Mae hyn yn cyd-fynd â’r dull a fabwysiadwyd yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol ynni eraill. Nid yw’r maen prawf cyfun yn EN-7 yn lleihau unrhyw warchodaeth ar gyfer safleoedd dynodedig.
Ardaloedd o werth tirwedd ac amwynder ac arwyddocâd treftadaeth
3.6.22 Yn gyffredinol, roedd y 18 ymatebydd a soniodd am y mater hwn yn chwilio am faen prawf mwy cyfyngol yn EN-7.
3.6.23 Mae’r maen prawf hwn yng nghyswllt y Ffactorau sy’n Dylanwadu ar Ddewis Safle yn EN-7 yn gofyn i ymgeiswyr asesu’r effeithiau posibl ar amwynder, gwerth tirwedd ac arwyddocâd treftadaeth yn ystod y cam asesu safle, er mwyn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch a yw’r ffaith bod angen lliniaru effeithiau o’r fath yn golygu nad yw’r safle’n ddeniadol o safbwynt datblygu. Mae EN-7 yn mynnu bod yr ystod lawn o effeithiau posibl yn cael eu hystyried, gan gynnwys dros gylch bywyd cyfan y seilwaith sy’n dechrau gydag adeiladu. Mae’r maen prawf hwn hefyd yn cynghori ymgeiswyr i ymgysylltu’n gynnar â Historic England a Cadw i gael cyngor ynghylch y tebygolrwydd y bydd adeiladu’r seilwaith yn effeithio ar asedau archaeolegol y gallai fod angen eu hadfer neu’n datgelu asedau archaeolegol o’r fath.
3.6.24 Mae’r maen prawf Effaith perthnasol ar ardaloedd o arwyddocâd treftadaeth a gwerth tirwedd ac amwynder yn EN-7 yn rhoi sylw i’r gofynion ar yr ymgeisydd i fynd i’r afael â’r effeithiau hyn wrth ddylunio’r seilwaith ar ôl dewis y safle arfaethedig. Rhoddir sylw i hyn ym mharagraffau 3.8.12–14 yr ymgynghoriad ail rownd.
Maint safle
3.6.25 Roedd y 15 ymatebydd a wnaeth sylwadau ar y maen prawf ar gyfer maint y safle yn awgrymu’n bennaf y dylai fod yn gynhwysfawr, gan gynnwys y gofod sydd ei angen ar gyfer tirweddu, gwasanaethu, cludo a storio a rheoli gwastraff.
3.6.26 Yn unol ag ymatebion i’r ymgynghoriad, mae’r llywodraeth wedi cynnwys maen prawf cynhwysfawr o ran maint safle yn EN-7 sy’n cynnwys tir ar gyfer adeiladu, gweithredu a datgomisiynu, gan gynnwys man storio gwastraff ymbelydrol a thanwydd a ddisbyddwyd ar y safle, ac o ran gweithredu’r hierarchaeth lliniaru ar gyfer effeithiau. Gall tir ar gyfer gweithredu’r hierarchaeth lliniaru fod ar wahân i ardaloedd cynhyrchu a thrawsyrru ynni, ac mae gan ymgeiswyr ganllawiau clir i ymgysylltu’n gynnar â chyrff perthnasol i gydgysylltu’r gwaith o liniaru effeithiau’r broses Cydsyniad Datblygu a’r camau a gymerwyd i sicrhau trwyddedau rheoleiddio perthnasol. Rhaid i ddatblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Gydsyniad Datblygu dybio bod man storio ar gael ar y safle ar gyfer gwastraff ymbelydrol a thanwydd a ddisbyddwyd. Dylent hefyd ystyried safleoedd i’w hehangu yn y dyfodol i ddarparu ar gyfer uwchraddio neu ehangu yn y dyfodol neu hyd yn oed newidiadau mewn technoleg.
Mynediad at ffynonellau oeri addas
3.6.27 O’r 25 o ymatebwyr a wnaeth sylwadau ar y maen prawf hwn yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad, cytunodd rhai fod y maen prawf presennol yn ddigonol, tra bod eraill yn galw am wahaniaethu clir rhwng anghenion oeri seilwaith niwclear graddfa GW o’i gymharu ag Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch.
3.6.28 Mae’r llywodraeth wedi cynnwys maen prawf ar fynediad at ffynonellau oeri addas, gan gydnabod y gwahaniaethau rhwng anghenion oeri technolegau adweithyddion mwy a llai o faint drwy nodi’r ystod o dechnolegau oeri y gellir eu defnyddio. O ystyried y gall unrhyw un o’r dulliau oeri a nodir, neu gyfuniad ohonynt, gael eu defnyddio gan dechnolegau ar raddfa GW, Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Adweithyddion Modiwlaidd Uwch, mae’r llywodraeth o’r farn mai’r peth gorau yw pennu gofynion clir ar gyfer mynediad digonol at oeri heb nodi pa ddull oeri fyddai fwyaf priodol ar gyfer unrhyw dechnolegau niwclear penodol.
Perchnogaeth safleoedd
3.6.29 Roedd yr ymatebwyr yn cytuno’n gyffredinol na ddylai perchnogaeth safleoedd fod yn faen prawf sy’n effeithio ar addasrwydd safle.
3.6.30 Felly, mae’r llywodraeth yn mynnu y bydd EN-7 yn cyd-fynd â’r polisïau defnydd tir a nodir yn EN-1 yn hytrach nag ymgorffori perchnogaeth safle fel maen prawf asesu safle. Bydd datblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Gydsyniad Datblygu yn cael eu hannog i ymgysylltu â chymunedau lleol ar gam cynnar ac ymgynghori’n ffurfiol ar eu cynigion datblygu.
3.7 Meini prawf penodol: Ystyriaethau Technegol
3.7.1 Mae Ystyriaethau Technegol yn feini prawf sy’n gosod gofynion ar ymgeiswyr am Gydsyniad Datblygu i fynd i’r afael â materion sy’n berthnasol i adeiladu, gweithredu a datgomisiynu seilwaith niwclear mewn modd diogel, effeithlon ac effeithiol. Mae Ffactorau sy’n Dylanwadu ar Ddewis Safle (adran 3.6) yn mynd i’r afael ag asesu safleoedd tra bod Ystyriaethau Technegol yn mynd i’r afael â dyluniad y seilwaith ei hun ar ôl i’r ymgeisydd benderfynu ar safle’r seilwaith arfaethedig.
Agosrwydd at symudiadau llongau gofod ac awyrennau sifil
3.7.2 Fel y nodir ym mharagraff 3.6.16, nid yw’r llywodraeth yn gweld bod angen diwygio’r maen prawf ar agosrwydd at symudiadau llongau gofod ac awyrennau gan fod y protocolau diogelwch presennol yn ddigonol. Gellir ystyried lleoli ger cyfleusterau hedfan fesul achos.
3.7.3 Bydd y llywodraeth yn adolygu’r maen prawf hwn wrth i ragor o ddata am ddiogelwch Adweithyddion Modiwlaidd Bach ac Uwch ddod i’r amlwg, o ystyried bod rhai ymatebion i’r ymgynghoriad yn awgrymu y dylid mabwysiadu dull gweithredu gwahanol ar gyfer y mathau hyn o seilwaith niwclear.
Mynediad at seilwaith trawsyrru
3.7.4 Bydd mynediad at seilwaith trawsyrru yn hanfodol wrth ddatblygu seilwaith niwclear, i drawsyrru’r symiau mawr o ynni a gynhyrchir i ddefnyddwyr. Mae EN-7 yn cynnwys maen prawf sy’n mynnu bod ymgeiswyr yn sicrhau y bydd unrhyw seilwaith arfaethedig yn gallu cyflenwi’r ynni y mae’n ei gynhyrchu i ddefnyddwyr ac mae’n cyfeirio at y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar seilwaith rhwydweithiau trydan, EN-5.
3.7.5 Nid oedd mynediad at seilwaith trawsyrru wedi’i gynnwys yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad, ond mae’r llywodraeth yn rhagweld bod y maen prawf hwn yn annhebygol o fod yn ddadleuol.
Maint safle
3.7.6 Fel y nodir ym mharagraff 3.6.26, mae’r llywodraeth wedi mynd i’r afael ag ymatebion i rownd gyntaf yr ymgynghoriad drwy fabwysiadu maen prawf cynhwysfawr o ran maint safle yn EN-7 sy’n cynnwys yr ystod lawn o anghenion tir, ar draws cylch bywyd cyfan y seilwaith.
3.7.7 Er bod maen prawf y Ffactorau sy’n Dylanwadu ar Ddewis Safle ar gyfer maint safle yn gofyn i ymgeiswyr asesu faint o dir fydd ei angen ar gyfer yr ystod lawn o anghenion ar gam asesu’r safle, mae maen prawf yr Ystyriaeth Dechnegol ar faint safle yn mynnu bod yr ymgeisydd yn parhau i ddatblygu ei asesiad o faint o dir sydd ei angen wrth iddo ddylunio’r seilwaith arfaethedig.
Peryglon seismig a sefydlogrwydd y tir
3.7.8 Mae EN-7 yn cynnwys maen prawf sy’n mynnu bod ymgeiswyr yn lliniaru’n llwyr unrhyw risgiau a achosir gan beryglon seismig ac ansefydlogrwydd y tir er mwyn osgoi niwed sylweddol i’r prosiect yn ystod y camau adeiladu, gweithredu, datgomisiynu a rheoli gwastraff ymbelydrol a thanwydd niwclear a ddisbyddwyd sy’n ymwneud â’r seilwaith niwclear arfaethedig.
3.7.9 Nid oedd gofynion i ymgeiswyr liniaru’r risgiau a achosir gan beryglon seismig ac ansefydlogrwydd y tir wedi’u cynnwys yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad, ond mae’r llywodraeth yn rhagweld bod y maen prawf hwn yn annhebygol o fod yn ddadleuol.
Cynllunio at argyfyngau
3.7.10 Mae’r ystyriaeth hon yn mynd i’r afael â chynllunio at argyfyngau ar gyfer digwyddiadau sy’n effeithio neu’n ymestyn y tu hwnt i’r safle. Rhaid i ymgeiswyr ddilyn Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd am Argyfwng) 2019 a chynnwys asesiadau a mesurau lliniaru yn eu ceisiadau am Orchymyn Cydsyniad Datblygu. Bydd y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear yn adolygu’r cynlluniau hyn ac yn rhoi cyngor i lywio penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, ond nid yw’n gwneud penderfyniadau nac yn cyfateb i’r Arolygiaeth Gynllunio.
3.7.11 Nid oedd rownd gyntaf yr ymgynghoriad yn cynnwys y broses ar gyfer cynllunio at argyfyngau, gan gynnwys rôl y cyrff rheoleiddio, ond mae’r llywodraeth yn rhagweld ei bod yn annhebyg y bydd y maen prawf hwn yn un dadleuol.
Amodau meteorolegol
3.7.12 Mae EN-7 yn cynnwys maen prawf sy’n mynnu bod ymgeiswyr yn sicrhau y bydd eu dyluniad arfaethedig yn gallu gwrthsefyll effeithiau posibl amodau meteorolegol yn ystod y camau adeiladu, gweithredu, datgomisiynu a storio gwastraff a thanwydd a ddisbyddwyd sy’n ymwneud â’r seilwaith niwclear arfaethedig. Mae hyn yn cynnwys ystyried effeithiau posibl newid hinsawdd ar amodau meteorolegol.
3.7.13 Nid oedd gofynion i ymgeiswyr liniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig ag amodau meteorolegol wedi’u cynnwys yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad, ond mae’r llywodraeth yn rhagweld bod y maen prawf hwn yn annhebygol o fod yn ddadleuol.
3.8 Meini prawf penodol: Effeithiau
3.8.1 Mae’r effeithiau yn feini prawf sy’n mynnu bod yr ymgeisydd yn gweithredu’r hierarchaeth lliniaru ar gyfer unrhyw effeithiau y gall adeiladu, gweithredu a datgomisiynu seilwaith niwclear eu cael ar gymunedau, tirweddau a chynefinoedd cyfagos. Mae’r Ffactorau sy’n Dylanwadu ar Ddewis Safle (adran 3.6) yn mynd i’r afael â’r asesiad o’r effeithiau a awgrymir drwy ddatblygu safle penodol, tra bod yr Effeithiau’n mynnu bod yr ymgeisydd yn ystyried sut mae rhoi’r hierarchaeth lliniaru ar waith ar y safle mae’r ymgeisydd wedi’i ddewis ar gyfer y seilwaith arfaethedig.
Risg Llifogydd
3.8.2 Fel y nodwyd ym mharagraff 2.6.5, roedd yr ymatebion i rownd gyntaf yr ymgynghoriad yn galw am gryfhau’r maen prawf risg llifogydd ac i’r llywodraeth ystyried camau i sicrhau bod ymgeiswyr yn gallu cwblhau’r Prawf Dilyniannol yn ystod yr Asesiad Risg Llifogydd.
3.8.3 Mae’r maen prawf Ystyriaeth Dechnegol ar Risg Llifogydd yn EN-7 yn mynnu bod ymgeiswyr yn dangos y bydd y seilwaith arfaethedig yn ddiogel rhag llifogydd ar gyfer ei gylch bywyd cyfan. Pan fyddai’r seilwaith arfaethedig yn cael ei adeiladu ar dir sy’n wynebu risg llifogydd, rhaid i’r ymgeisydd gwblhau Asesiad Risg Llifogydd sy’n cynnwys Prawf Dilyniannol a Phrawf Eithriadau, gan ddangos gyda’i gilydd nad oes safle risg is arall ar gael, ac y bydd y seilwaith yn cael ei ddiogelu rhag risg llifogydd yn ystod ei gylch bywyd ac na fydd yn cynyddu’r risg llifogydd mewn mannau eraill. Bydd EN-7 yn mynnu bod ymgeiswyr yn dangos y gellid diogelu’r seilwaith arfaethedig rhag risg llifogydd yn y dyfodol os bydd y rhagolygon ar gyfer newid hinsawdd yn gywir, gan gynnwys sut byddai’r dull addasol hwn yn cael ei ariannu. Mae’r llywodraeth yn fodlon bod y gofynion hyn, ar y cyd â’r gyfundrefn reoleiddio a fydd yn parhau i sicrhau bod seilwaith niwclear yn cael ei gadw’n ddiogel rhag llifogydd yn barhaus, yn sicrhau y bydd seilwaith niwclear yn cael ei wneud yn gwbl ddiogel rhag risg llifogydd hyd yn oed wrth i’r hinsawdd newid.
3.8.4 Mynegodd rhai o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad bryderon ynghylch ymarferoldeb cwblhau’r Prawf Dilyniannol ar gyfer seilwaith niwclear. Rydym yn nodi’r awgrymiadau i gyfyngu ar gwmpas dewisiadau amgen ar gyfer y Prawf Dilyniannol ar sail ffactorau fel defnydd yn y pen draw. Fodd bynnag, rydym wedi diystyru hynny gan fod modd i seilwaith niwclear sy’n cyflenwi trydan i’r grid trydan cenedlaethol a/neu sy’n cynhyrchu hydrogen ar gyfer trafnidiaeth i ddefnyddwyr ar y ffordd gael ei leoli’n gymharol hyblyg o’i gymharu â mathau eraill o seilwaith ynni, o gofio nad oes angen ei leoli’n agos at ei gadwyn gyflenwi tanwydd nac at ei ddefnyddwyr. Mae’r llywodraeth wedi dewis peidio â chyfyngu ar gwmpas dewisiadau amgen wrth ddefnyddio’r Prawf Dilyniannol mewn lleoliad safle posibl ond mae wedi rhoi rhywfaint o arweiniad yn EN-7 i ymgeiswyr ar sut mae cynnal y Prawf Dilyniannol, ynghyd ag enghreifftiau o’r hyn y gellid ei ystyried wrth ddewis opsiynau eraill rhesymol ar gyfer yr asesiad risg llifogydd.
Adnoddau ac ansawdd dŵr
3.8.5 Roedd rownd gyntaf yr ymgynghoriad yn cynnig peidio â chael maen prawf penodol ar ddiogelu dŵr daear. Roedd 68% o’r 19 ymatebydd a wnaeth sylwadau ar y mater hwn yn galw am gynnwys diogelu dŵr daear fel maen prawf asesu safle.
3.8.6 Mae’r llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd diogelu dŵr daear, ochr yn ochr â materion ehangach sy’n ymwneud ag adnoddau ac ansawdd dŵr, at ddefnydd pobl a diwydiannau ac ar gyfer adfer byd natur. Mae’r Llywodraeth o’r farn bod y materion hyn yn cael sylw digonol yn y canllawiau presennol, yn enwedig EN-1 a’r gyfundrefn trwyddedu amgylcheddol, ac felly nad oes angen maen prawf penodol ar ddŵr daear yn EN-7.
3.8.7 Yn hytrach, mae EN-7 yn cynnwys maen prawf Effaith adnoddau ar ansawdd dŵr yn fwy cyffredinol, sy’n cynnwys canllawiau sy’n annog ymgynghori cynnar â rheoleiddwyr ac sy’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio’r hierarchaeth lliniaru fel y nodir yn EN-1. Mae’r maen prawf Effaith hwn yn cwmpasu’r ystod o effeithiau posibl ar adnoddau ac ansawdd dŵr, gan gynnwys rhyddhau dŵr, defnyddio dŵr, effeithiau ar bysgod a bioamrywiaeth ddyfrol arall, ac effeithiau o ran dŵr daear, yn ogystal â mesurau lliniaru. Mae’r penderfyniad yn adlewyrchu’r prosesau cadarn presennol sydd eisoes yn atal datblygiadau mewn ardaloedd lle gallai’r gwaith o ddiogelu dŵr daear fod yn y fantol.
Newidiadau i’r Arfordir a Thirffurfiau eraill
3.8.8 Ni chafwyd unrhyw ymatebion i’r ymgynghoriad a oedd yn cynnwys awgrymiadau manwl ar gyfer unrhyw newidiadau i’r maen prawf Prosesau Arfordirol.
3.8.9 O ganlyniad, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu cadw’r maen prawf ond gwella’r geiriad er mwyn ystyried newidiadau eraill i dirffurfiau yn ogystal â phrosesau arfordirol drwy gynnwys technolegau newydd a allai arwain at safleoedd mewndirol, ger afonydd, llynnoedd a mathau eraill o gyrff dŵr. Yn benodol, mae EN-7 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddilyn y gofynion Erydu Arfordirol a amlinellir ym mharagraffau 5.6.16 i 5.6.23 o EN-1 mewn lleoliadau aberol, afonol a llynnol yn ogystal â lleoliadau arfordirol.
Effeithiau daearegol a bioamrywiaeth
3.8.10 Fel y nodir ym mharagraff 2.8.9, roedd y rhan fwyaf o’r 18 ymatebydd ar y mater hwn yn galw am faen prawf mwy cyfyngol ar gyfer effeithiau daearegol a bioamrywiaeth.
3.8.11 Fel y nodir ym mharagraff 3.6.19, mae’r llywodraeth yn fodlon bod EN-1 yn gosod gofynion priodol ar ymgeiswyr i weithredu’r hierarchaeth lliniaru mewn perthynas ag effeithiau daearegol a bioamrywiaeth ac i fynd y tu hwnt i ddigolledu i sicrhau manteision net yn unol â pholisi Manteision Net Bioamrywiaeth y llywodraeth. Felly mae EN-7 yn cynnwys maen prawf Effaith sy’n cyfeirio ymgeiswyr yn glir at ofynion perthnasol yn EN-1, ac at ddyletswyddau perthnasol eraill o dan Ddeddf yr Amgylchedd 2021 mewn perthynas â thargedau amgylcheddol ac sy’n rhoi sylw i’r polisïau a nodir yng Nghynllun Gwella’r Amgylchedd y llywodraeth. Mae EN-7 hefyd yn croesgyfeirio at y maen prawf Adnoddau ac Ansawdd Dŵr, sy’n adlewyrchu rôl hanfodol adnoddau ac ansawdd dŵr o ran galluogi byd natur i adfer.
Effeithiau gweledol ac o ran tirwedd a threftadaeth
3.8.12 Fel y nodir ym mharagraff 2.8.11, roedd y rhan fwyaf o’r 18 ymatebydd a soniodd am y mater hwn yn chwilio am faen prawf mwy cyfyngol yn EN-7.
3.8.13 Mae’r llywodraeth yn gwerthfawrogi bod angen parchu treftadaeth gyfoethog a thirweddau unigryw a gwerthfawr y DU. Fodd bynnag, mae graddfa’r seilwaith niwclear yn debygol iawn o olygu ei bod yn amhosibl dileu unrhyw ymyrraeth weledol yn llwyr. Mae’n bosibl na fydd eithrio datblygiadau niwclear o’r tirweddau hyn yn briodol o ystyried bod angen dybryd am ynni carbon isel o ffynonellau diogel. Felly, mae’r llywodraeth wedi canolbwyntio ar sicrhau bod EN-7 yn pennu gofynion clir a chynhwysfawr i ymgeiswyr liniaru unrhyw effaith ar ardaloedd o amwynder, tirweddau a threftadaeth, a dylunio seilwaith fel ei fod yn cyfrannu at ymdeimlad o le a hunaniaeth y dirwedd a’r gymuned sy’n ei gynnal, yn hytrach na lleihau’r ymdeimlad hwnnw. Mae’r dull hwn yn adlewyrchu’r cyfraniad enfawr y mae seilwaith ynni wedi’i wneud yn y gorffennol at gymeriad a hunaniaeth cymunedau sydd wedi gweithio’n falch i gyflenwi’r ynni sy’n hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd i’w cymdogion a’r DU yn ehangach.
3.8.14 Yn ymarferol, mae EN-7 yn cyfeirio ymgeiswyr yn glir at y gofynion a amlinellir yn EN-1, yn enwedig o ran tirweddau sydd wedi’u dynodi’n genedlaethol a gwarchod asedau treftadaeth. Felly, bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos sut gellir lliniaru unrhyw effeithiau gweledol ac effeithiau o ran tirwedd a threftadaeth sy’n deillio o’r datblygiad niwclear drwy sgrinio, tirlunio a/neu ddylunio da. Mae EN-7 hefyd yn cynnwys canllawiau clir i ymgeiswyr ymgysylltu â chyrff statudol perthnasol i nodi’r ffordd orau o liniaru effeithiau. Felly, mae’r llywodraeth yn fodlon y bydd y maen prawf arfaethedig yn sicrhau bod ymgeiswyr yn rheoli’r effeithiau gweledol a’r effeithiau o ran tirwedd a threftadaeth yn briodol.
Effeithiau Economaidd-gymdeithasol
3.8.15 Gall seilwaith niwclear gael effeithiau economaidd-gymdeithasol lleol sylweddol, yn enwedig yn ystod y cyfnod adeiladu, gydag effeithiau cadarnhaol a negyddol. Gall datblygiadau mewn lleoliadau arfordirol effeithio ar hawliau tramwy, a disgwylir i ymgeiswyr liniaru’r effeithiau hyn ac ystyried gwelliannau mynediad, fel yr amlinellir yn Adrannau 5.11 a 5.13 o EN-1.
3.8.16 Nid oedd gofynion i ymgeiswyr reoli effeithiau economaidd-gymdeithasol eu prosiectau wedi’u cynnwys yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad, ond mae’r llywodraeth yn rhagweld bod y maen prawf hwn yn annhebygol o fod yn ddadleuol.
Iechyd a llesiant pobl
3.8.17 Gall seilwaith niwclear effeithio ar dir gwledig a hamdden, fel y nodir yn Adran 5.11 o EN-1. Er bod problemau sŵn, dirgryniadau neu ansawdd aer sylweddol yn annhebygol yn ystod y cam gweithredu, mae’n bosibl y bydd trafnidiaeth sy’n gysylltiedig ag adeiladu yn cael effeithiau lleol. Mae manteision iechyd posibl yn deillio o’r manteision economaidd-gymdeithasol sy’n gysylltiedig â phrosiectau niwclear newydd; fodd bynnag, gallai fod mwy o alw am wasanaethau iechyd oherwydd bod mwy o bobl yn symud i’r ardal gyfagos yn sgil y cyfleoedd swyddi a ddarperir gan seilwaith niwclear.
3.8.18 Ni chafodd gofynion ar ymgeiswyr i reoli effeithiau eu prosiectau ar iechyd a llesiant pobl, y tu hwnt i’r gofynion amlwg i sicrhau nad yw’r seilwaith yn peri unrhyw fygythiad sylweddol i weithwyr na’r cyhoedd, eu cynnwys yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad.
Traffig a Thrafnidiaeth
3.8.19 Mae seilwaith niwclear yn gofyn am lwybrau cludo diogel ar gyfer darparu cydrannau a staff yn ystod y gwaith adeiladu, yn ogystal â symud tanwydd, deunyddiau, gwastraff ymbelydrol a thanwydd niwclear a ddisbyddwyd, ac offer yn ystod y cam gweithredu a’r cam datgomisiynu. Mae seilwaith trafnidiaeth allweddol yn cynnwys traffyrdd, priffyrdd, y rhwydwaith rheilffyrdd strategol, meysydd awyr a phorthladdoedd. Mae EN-7 yn mynnu bod ymgeiswyr yn lliniaru effaith traffig a thrafnidiaeth a ddefnyddir i adeiladu’r seilwaith niwclear. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau i leihau’r defnydd o seilwaith trafnidiaeth at ddibenion sy’n ymwneud â phrosiectau ar adegau pan fydd defnyddwyr eraill ei angen, ac i nodi cynefinoedd bywyd gwyllt a allai gael eu niweidio gan allyriadau traffig a sŵn.
3.8.20 Ni chafodd gofynion ar ymgeiswyr i reoli effaith eu prosiectau ar draffig a thrafnidiaeth eu cynnwys yn rownd gyntaf yr ymgynghoriad.
Cwestiwn 7: Os nad yw eisoes wedi cael sylw mewn mannau eraill (er enghraifft yn EN-1 a Chanllawiau Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yr Arolygiaeth Gynllunio), a oes unrhyw feysydd penodol yn EN-7 (drafft) lle mae angen rhagor o eglurder neu arweiniad i helpu i sicrhau bod datblygwyr, cynllunwyr a rheoleiddwyr yn gweithredu’n llwyddiannus?
- Oes
- Nac oes
- Ddim yn siŵr
- Dim digon o wybodaeth
- Arall
Cwestiwn 7a (DEWISOL): Os hoffech chi egluro eich ymateb, defnyddiwch y blwch testun (testun rhydd, dim mwy na 150 o eiriau)
3.9 Gweithredu
3.9.1 Mae’r llywodraeth yn deall cymhlethdodau’r cyfundrefnau trwyddedu safleoedd a chynllunio niwclear ac felly mae’n ceisio datblygu dull galluogi sy’n mynd i’r afael â’r angen am bŵer niwclear newydd heb effeithio ar y mesurau cadarn ar gyfer gwarchod yr amgylchedd a diogelwch sy’n cael eu cynnig gan gyfundrefnau rheoleiddio’r DU. Mae’r llywodraeth yn bwriadu darparu gwybodaeth atodol ochr yn ochr ag EN-7 i helpu datblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Gydsyniad Datblygu i ddefnyddio EN-7 yn eu prosiectau. Gallai hyn nodi sut mae mynd ati i lywio’r broses cyn gwneud cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu; tynnu sylw at gyfundrefnau a phrosesau rheoleiddio eraill y dylid eu dilyn; a chyfeirio at ganllawiau presennol. Felly, byddai’r llywodraeth yn croesawu mewnbwn gan yr holl randdeiliaid ynghylch pa wybodaeth ychwanegol fyddai ei hangen i ddatblygu dull gweithredu sy’n galluogi mwy, gan gynnal y cyfundrefnau rheoleiddio cadarn ar yr un pryd.
Cwestiwn 8: A fyddai cymorth neu wybodaeth ychwanegol gan y llywodraeth yn fuddiol ac yn helpu datblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Gydsyniad Datblygu i roi EN-7 ar waith a dilyn y broses cyn gwneud cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu?
- Byddai
- Na fyddai
- Ddim yn siŵr
- Dim digon o wybodaeth
- Arall
Cwestiwn 8a (DEWISOL): Os hoffech chi egluro eich ymateb, defnyddiwch y blwch testun (testun rhydd, dim mwy na 150 o eiriau)
Cwestiwn 9 (DEWISOL): Os hoffech gael gwybod am ddatblygiad yr wybodaeth atodol i’r Datganiad Polisi Cenedlaethol, rhannwch eich manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost yn ddelfrydol) yn y blwch testun a ddarperir (dim mwy na 150 o eiriau) er mwyn i ni allu cael eich barn.
4. Crynodeb o gwestiynau ail rownd yr ymgynghoriad
Cwestiwn 1: I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylid addasu’r dull hwn yng ngoleuni’r adborth i’r ymgynghoriad:
Cadw’r trothwy < 50 MW (trydan) yn y fframwaith cynllunio presennol ac adolygu ein sefyllfa yn y dyfodol?
Nodwch i ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cwestiwn
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Heb benderfynu
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
- Dim digon o wybodaeth
Cwestiwn 1a (DEWISOL): Os hoffech chi egluro eich ymateb, defnyddiwch y blwch testun (testun rhydd, dim mwy na 150 o eiriau)
Cwestiwn 2: I ba raddau ydych chi’n credu bod y Datganiad Polisi Cenedlaethol drafft wedi’i baratoi’n ddigonol ar gyfer y dyfodol i ddarparu ar gyfer datblygiadau mewn technolegau niwclear? Nodwch i ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cwestiwn
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Heb benderfynu
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
- Dim digon o wybodaeth
Cwestiwn 2a (DEWISOL): Os hoffech chi egluro eich ymateb, defnyddiwch y blwch testun (testun rhydd, dim mwy na 150 o eiriau)
Cwestiwn 3: A oes ystyriaethau cynllunio neu leoli penodol y dylid rhoi sylw iddynt er mwyn sicrhau bod y Datganiad Polisi Cenedlaethol yn parhau i fod yn hyblyg o ran defnyddio ynni niwclear mewn lleoliadau amrywiol?
- Oes
- Nac oes
- Ddim yn siŵr
- Dim digon o wybodaeth
- Arall
Cwestiwn 3a (DEWISOL): Os hoffech chi egluro eich ymateb, defnyddiwch y blwch testun (testun rhydd, dim mwy na 150 o eiriau)
Cwestiwn 4: I ba raddau ydych chi’n cytuno â’r cynnig i ddileu’r gwahaniaeth rhwng meini prawf gwaharddol a dewisol blaenorol (gweler paragraff 1.1.7 (v) am ragor o wybodaeth)?
Nodwch i ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Heb benderfynu
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
- Dim digon o wybodaeth
Cwestiwn 4a (DEWISOL): Os hoffech chi egluro eich ymateb, defnyddiwch y blwch testun (testun rhydd, 150 o eiriau)
Cwestiwn 5: Bwriad y llywodraeth ar hyn o bryd yw cadw’r Maen Prawf Dwysedd Poblogaeth Lled-drefol yn EN-7. Nodwch i ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r penderfyniad i’w gynnwys:
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Heb benderfynu
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
- Dim digon o wybodaeth
Cwestiwn 5a (DEWISOL): Os hoffech chi egluro eich ymateb, defnyddiwch y blwch testun (testun rhydd, 150 o eiriau)
Cwestiwn 6: Rydym yn barod i ystyried diwygio’r Maen Prawf Dwysedd Poblogaeth Lled-drefol yn y dyfodol. Sut dylai’r maen prawf hwn newid yn y dyfodol er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno technolegau niwclear uwch yn well, a pha dystiolaeth sydd yna i gefnogi eich awgrym? Cyfeiriwch at eich ffynonellau. Defnyddiwch y blwch testun i ateb (testun rhydd, dim mwy na 500 o eiriau).
Cwestiwn 7: Os nad yw eisoes wedi cael sylw mewn mannau eraill (er enghraifft yn EN-1 a Chanllawiau Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yr Arolygiaeth Gynllunio), a oes unrhyw feysydd penodol yn EN-7 (drafft) lle mae angen rhagor o eglurder neu arweiniad i helpu i sicrhau bod datblygwyr, cynllunwyr a rheoleiddwyr yn gweithredu’n llwyddiannus?
- Oes
- Nac oes
- Ddim yn siŵr
- Dim digon o wybodaeth
- Arall
Cwestiwn 7a (DEWISOL): Os hoffech chi egluro eich ymateb, defnyddiwch y blwch testun (testun rhydd, dim mwy na 150 o eiriau)
Cwestiwn 8: A fyddai cymorth neu wybodaeth ychwanegol gan y llywodraeth yn fuddiol ac yn helpu datblygwyr sy’n bwriadu gwneud cais am Gydsyniad Datblygu i roi EN-7 ar waith a dilyn y broses cyn gwneud cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu?
- Byddai
- Na fyddai
- Ddim yn siŵr
- Dim digon o wybodaeth
- Arall
Cwestiwn 8a (DEWISOL): Os hoffech chi egluro eich ymateb, defnyddiwch y blwch testun (testun rhydd, dim mwy na 150 o eiriau)
Cwestiwn 9 (DEWISOL): Os hoffech gael gwybod am ddatblygiad yr wybodaeth atodol i’r Datganiad Polisi Cenedlaethol, rhannwch eich manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost yn ddelfrydol) yn y blwch testun a ddarperir (dim mwy na 150 o eiriau) er mwyn i ni allu cael eich barn.
Cwestiwn 10: Nodwch yr un prif sector neu fuddiant rydych chi’n ei gynrychioli mewn perthynas â lleoli gorsafoedd pŵer niwclear newydd
- Aelod o’r cyhoedd
- Aelod o’r gymuned leol yng nghyffiniau gosodiad niwclear posibl neu bresennol
- Sefydliad sy’n gyfrifol am/sydd â diddordeb mewn datblygiadau niwclear newydd.
- Sefydliad newydd yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer datblygiadau niwclear
- Eiriolwr amgylcheddol
- Busnes ynni neu ddiwydiant, gweithiwr proffesiynol neu arbenigwr
- Rheoleiddiwr
- Arbenigwr neu weithiwr proffesiynol ym maes ynni niwclear
- Academydd neu ymchwilydd
- Cynrychiolydd llywodraeth/awdurdod lleol
- Cynrychiolydd o’r llywodraeth genedlaethol
- Sefydliad Anllywodraethol
Cwestiwn 10a (DEWISOL): Defnyddiwch y blwch testun isod i nodi unrhyw sectorau neu fuddiannau eraill rydych chi’n eu cynrychioli (testun rhydd, dim mwy na 150 o eiriau)
5. Y camau nesaf: Y broses a’r amserlen ar gyfer dynodi Datganiad Polisi Cenedlaethol newydd EN-7
5.1 Cyflwyniad
5.1.1 Mae Adran 5 yn nodi’r broses a’r amserlen ar gyfer dynodi Datganiad Polisi Cenedlaethol newydd ar Gynhyrchu Ynni Niwclear EN-7.
5.2 Y broses a’r amserlen
Gaeaf, diwedd 2024 - dechrau 2025
Dadansoddiad o’r ymatebion i rownd gyntaf yr ymgynghoriad (Ionawr 2024) ac ymateb y llywodraeth. Wedi’i gwblhau yn sgil cyhoeddi’r ddogfen hon.
Craffu Seneddol:
- Cyflwyno’r Datganiad Polisi Cenedlaethol drafft i bwyllgorau seneddol perthnasol i’w adolygu’n gychwynnol
- Cynnal gwrandawiadau pwyllgor seneddol a chasglu adborth gan ASau a rhanddeiliaid
Gwanwyn 2025
Dadansoddiad o’r ymatebion i ail rownd yr ymgynghoriad:
- Dechrau dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn i gasglu gwybodaeth ac adborth
- Cwblhau’r dadansoddiad a chrynhoi’r prif ganfyddiadau
- Datblygu gwybodaeth atodol
Gwanwyn/Haf 2025
Paratoi a chwblhau’r Datganiad Polisi Cenedlaethol drafft ac ymateb y llywodraeth:
- Ymgorffori adborth o’r dadansoddiad ymgynghori yn y Datganiad Polisi Cenedlaethol drafft
- Cwblhau’r Datganiad Polisi Cenedlaethol drafft a pharatoi dogfennau ategol ar gyfer craffu seneddol
Haf 2025
Adolygu’r Datganiad Polisi Cenedlaethol drafft ar sail adborth seneddol a pharatoi’r fersiwn derfynol i’w chyflwyno gerbron y Senedd.
Hydref 2025
Cyflwyno’r ddogfen gerbron y senedd:
- Cyflwyno dogfen derfynol y Datganiad Polisi Cenedlaethol gerbron y Senedd i’w hystyried yn ffurfiol
- Cynnal trafodaethau seneddol a sicrhau cymeradwyaeth ar gyfer y Datganiad Polisi Cenedlaethol
Diwedd 2025
Dynodi a chyhoeddi’n derfynol:
- Cael cymeradwyaeth y Gweinidog ar gyfer y Datganiad Polisi Cenedlaethol terfynol
- Paratoi Datganiad Polisi Cenedlaethol i’w gyhoeddi, gan gynnwys fformatio ac argraffu
- Dynodi Datganiad Polisi Cenedlaethol yn swyddogol a’i gyhoeddi ar wefan y llywodraeth
-
Ymgynghoriad ar Ddatganiad Polisi Cenedlaethol newydd: Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer cynhyrchu ynni niwclear newydd: ymgynghoriad ar y dull newydd o leoli ar ôl 2025 ↩ ↩2
-
Llywodraeth Cymru (2024), Rhoi Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 ar waith ↩
-
Y deunydd mwyaf diweddar o’r fath adeg eu cyhoeddi: Addasu i newid hinsawdd: gwybodaeth polisi (2022) ↩