Consultation outcome

Ymateb y Llywodraeth a chrynodeb o'r ymatebion

Updated 10 December 2024

Dyma ymateb y llywodraeth a chrynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar ddiwygio’r system cyfrifoldeb cynhyrchwyr ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff.

Ymgynghoriad ar y cyd oedd hwn rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) Gogledd Iwerddon. Fe’i cynhaliwyd rhwng 28 Rhagfyr 2023 a 7 Mawrth 2024.

Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar y canlynol:

  • Cyflwyno system casglu gwastraff cartrefi a ariennir gan gynhyrchydd ar gyfer eitemau bach a mawr o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff.
  • Gwella rhwymedigaethau manwerthwyr i ddarparu gwasanaeth casglu am ddim wrth ddosbarthu ar gyfer cyfarpar mawr, gwella darpariaethau cymryd yn ôl yn y siop a chryfhau rhwymedigaethau cyfathrebu cwsmeriaid.
  • Dynodi marchnadoedd ar-lein yn fath newydd o gynhyrchydd a rhoi’r un rhwymedigaethau iddynt â gweithgynhyrchwyr a mewnforwyr yn y DU o ran cofrestru, adrodd ar ddata a rhannu cost casglu a thrin offer a roddir ar farchnad y DU pan ddaw’n wastraff.
  • Creu categori newydd o gyfarpar ar gyfer fêps, er mwyn sicrhau bod costau casglu a thrin yr eitemau hyn yn cael eu hysgwyddo ar y rhai sy’n eu rhoi ar y farchnad yn unig.
  • Sefydlu Gweinyddwr Cynllun Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff newydd i ymgymryd â swyddogaethau penodol mewn perthynas â rhoi’r system ar waith, gan gynnwys rheoli gwasanaeth casglu newydd o gartrefi pe bai hynny’n cael ei weithredu ar ôl yr ymgynghoriad.

Ymateb y Llywodraeth

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru a DAERA yng Ngogledd Iwerddon yn ddiolchgar am yr ymatebion a ddaeth i law i’r ymgynghoriad hwn. Rydym yn parhau i ystyried yr holl gynigion a nodir yn yr ymgynghoriad a’r galwad am dystiolaeth cysylltiedig, a byddwn yn nodi ein hymateb i’r cynigion hynny yn 2025.

Yn y tymor byr, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddwyn ymlaen y mesurau canlynol i fynd i’r afael ag annhegwch yn Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013 sy’n ymwneud â dosbarthu costau cyfrifoldeb cynhyrchwyr:

Categori newydd ar gyfer fêps

Diwygio’r rheoliadau presennol i’w gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr fêps, cynhyrchion sy’n ymwneud â fêps sy’n cael eu gwerthu ar wahân (er enghraifft, coiliau cyfnewid) a chynhyrchion eraill tebyg i e-sigaréts adrodd ar bwysau’r cynhyrchion a roddir ar farchnad y DU mewn categori newydd o gyfarpar. Ar hyn o bryd, cânt eu hadrodd o dan gategori 7 o’r rheoliadau sy’n ymwneud â theganau, cyfarpar hamdden a chwaraeon. Bydd rheoliadau’n cael eu cyflwyno yn 2025 gyda newidiadau i’r gofynion adrodd fel y gall yr Ysgrifennydd Gwladol osod targed casglu ar wahân ar gyfer y categori newydd o 2026. Bydd rhwymedigaethau adrodd cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff hefyd yn cael eu diwygio i adlewyrchu cyflwyniad y categori newydd.

Rhwymedigaethau newydd ar gyfer Marchnadoedd Ar-lein

Diwygio’r rheoliadau presennol i osod rhwymedigaethau newydd ar Farchnadoedd Ar-lein fel eu bod yn cyfrannu at gost casglu, trin, ailddefnyddio ac ailgylchu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn unol â’r rhwymedigaethau hynny sy’n berthnasol ar hyn o bryd i gwmnïau a ddiffinnir fel cynhyrchwyr o fewn y rheoliadau presennol. Bydd y gofynion newydd yn berthnasol i farchnadoedd ar-lein yn unig o ran cyfarpar a roddir ar farchnad y DU gan eu gwerthwyr tramor. 

Caiff y rheoliadau eu diwygio yn 2025 i gynnwys gofyniad ar farchnadoedd ar-lein i ymuno â chynllun cydymffurfio cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff cymeradwy, talu ffi gofrestru i’r rheoleiddiwr perthnasol ac adrodd ar ddata, drwy eu cynllun cydymffurfio, ar bwysau’r offer a roddir ar farchnad y DU gan eu gwerthwyr tramor ym mhob un o’r categorïau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff. Bydd hyn yn cynnwys adrodd ar ddata o dan y categori newydd arfaethedig ar gyfer fêps. Cyflwynir rhwymedigaethau adrodd trosiannol yn 2025 er mwyn sicrhau bod marchnadoedd ar-lein dan rwymedigaeth ariannol o ran gwerthiannau gan eu gwerthwyr tramor yn 2026. Bydd rhwymedigaethau yn unol â’r rhai a roddir ar fusnesau a ddiffinnir yn y rheoliadau fel cynhyrchwyr.

Cyflwynir taliadau newydd i dalu costau monitro cydymffurfiaeth marchnadoedd ar-lein cofrestredig gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban, Cyfoeth Naturiol Cymru a DAERA yng Ngogledd Iwerddon. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn bwriadu cynnal ymgynghoriad wedi’i dargedu ar eu trefn codi ffioedd arfaethedig.

Yn fwy cyffredinol, rydym wedi ymrwymo i flaenoriaeth gyffredin i ysgogi economi gylchol ar draws pob un o’r pedair gwlad. Gall dull o’r fath ysgogi twf economaidd, amddiffyn yr amgylchedd a chreu gwerth cymdeithasol.

Mae’r ymrwymiad hwnnw i’r economi gylchol wedi’i ymgorffori’n ddwfn yn strategaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, a DAERA Gogledd Iwerddon:

Bydd llywodraeth y DU yn cyhoeddi strategaeth economi gylchol ar gyfer Lloegr y flwyddyn nesaf. Mae wedi ffurfio Tasglu Economi Gylchol, sy’n cynnwys aelodau o ddiwydiant, y byd academaidd, a’r gymdeithas sifil o bob rhan o’r DU i arwain datblygiad y strategaeth honno.

Bydd trafodaethau rhwng y pedair gwlad ar ddatblygu polisi ar adnoddau materol a gwastraff sy’n ymwneud â chyfarpar trydanol a thrydan yn parhau gyda’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’r alwad am dystiolaeth i lywio’r trafodaethau hynny. Bydd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, a DAERA Gogledd Iwerddon yn nodi cynlluniau ar gyfer diwygiadau ehangach sy’n adlewyrchu eu blaenoriaethau strategol yn yr ymgyrch tuag at economi gylchol ledled y DU y flwyddyn nesaf.

Crynodeb o’r Ymatebion

Cawsom gyfanswm o 320 o ymatebion gwahanol; nid oedd pob ymateb yn ystyried pob cwestiwn. Cawsom ymatebion gan amrywiaeth o randdeiliaid, fel y nodir yn y tabl isod.

Math o sefydliad Rhif
Llywodraeth leol 99
Cynhyrchydd Electronig 45
Unigolyn (h.y. ddim yn cynrychioli sefydliad) 45
Dosbarthwr (gan gynnwys marchnad ar-lein) 27
Corff masnach neu sefydliad arall sy’n cynrychioli busnes 20
Arall 14
Elusen neu fenter gymdeithasol 12
Cwmni rheoli gwastraff 12
Cynllun Cydymffurfio Cynhyrchwyr 11
Grŵp Cymunedol 9
Ymgynghoriaeth 7
Cyfleuster Triniaeth Awdurdodedig Cymeradwy 6
Gweithredwr ailddefnyddio neu atgyweirio 5
Sefydliad anllywodraethol 4
Academaidd neu ymchwil 3
(gwag) 1
Cyfanswm 320

Cafwyd tri ymateb yn fuan ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben. Rydym wedi ystyried y rhain ochr yn ochr â’r ymatebion eraill i’r ymgynghoriad, er nad yw’r tri wedi’u cynnwys yn y crynodebau ystadegol, gan gynnwys y tabl uchod.

Pennod 1: cynyddu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff o gartrefi

Roedd yr adran hon o’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch sefydlu system casglu o gartrefi wedi’i hariannu gan gynhyrchydd ar gyfer eitemau bach a mawr o Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE).

Cwestiwn 6: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai cynhyrchwyr (a dosbarthwyr nad ydynt yn darparu eu gwasanaethau ‘cymryd cyfarpar yn ôl’ eu hunain) ariannu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr (er enghraifft, tostwyr, offer a theganau bach) o gartrefi?

Cwestiwn 7: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 6.

Roedd 64% yn cytuno y byddai’r cynnig hwn yn gostwng lefelau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mewn gwastraff gweddilliol a gwastraff sy’n cael ei dipio’n anghyfreithlon a chynyddu lefelau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff ar gyfer ailgylchu. Darparwyd rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu y byddai hyn yn lleihau’r risg o danau batri.

Roedd 9% yn anghytuno â’r cynnig hwn.

Roedd 27% o’r ymatebwyr, cynhyrchwyr yn bennaf, yn ansicr ac yn argymell treialon i brofi dichonoldeb ac effeithiolrwydd y gwasanaeth.

Cwestiwn 8: Gan gydnabod yr angen i gydbwyso amlder gwasanaeth ag effeithlonrwydd, pa mor aml y dylid darparu cylch casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff?

Cwestiwn 9: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 8.

Roedd 47% o’r ymatebwyr yn ffafrio casgliadau bob mis, 25% yn wasanaeth ar gais, 21% bob pythefnos ac 8% o blaid cylchoedd casglu bob wythnos. Ni roddodd yr ymatebwyr dystiolaeth i gefnogi eu hatebion.

Cwestiwn 10: A fyddai’n fuddiol darparu ar gyfer gwahanol drefniadau i’w cymhwyso mewn gwahanol ardaloedd yn ôl amgylchiadau, er enghraifft, ar gais mewn rhai ardaloedd a chylch casglu rheolaidd mewn ardaloedd eraill? Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb.

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cydnabod y byddai’n fuddiol darparu ar gyfer trefniadau casglu gwahanol mewn gwahanol ardaloedd, gyda llawer yn nodi y byddai angen i gylchoedd casglu trefol fod yn amlach na’r rhai mewn ardaloedd mwy gwledig.

Cwestiwn 11: Yn ôl beth ddylai eitemau sy’n gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn gael eu diffinio:

  1. Pwysau
  2. Dimensiynau

Atebodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y dylai eitemau sy’n gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn gael eu diffinio yn ôl dimensiwn y cynnyrch. Atebodd lleiafrif y gallai’r ddau gael eu defnyddio fel meini prawf cymhwyso o bosibl

Cwestiwn 12: Nodwch unrhyw gynhyrchion a ddylai, oherwydd eu priodweddau, gael eu heithrio o wasanaeth casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach o gartrefi.

Dywedodd llawer o’r ymatebwyr, gan gynnwys cnewyllyn o gynhyrchwyr lampau, y dylid eithrio lampau o gasgliadau cartrefi oherwydd eu breuder a’r deunyddiau sydd ynddynt. Awgrymwyd hefyd y dylai deiliaid tai dynnu batris o’u cyfarpar a’u rhoi mewn cynhwysydd ar wahân, ynghyd ag eitemau sy’n cynnwys batris integredig fel fêps tafladwy.

Cwestiwn 13: Ar gyfer unrhyw gynhyrchion a restrir mewn ymateb i gwestiwn 12, pa fesurau y dylid eu rhoi ar waith i godi lefelau eu casglu ar wahân er mwyn lleihau faint o wastraff gweddilliol sy’n cael ei waredu? 

Ar gyfer lampau, awgrymwyd y dylid casglu’r eitemau hyn yn y siop gan adwerthwyr sy’n eu gwerthu yn lle.

Cwestiwn 14: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai cynhyrchwyr (a dosbarthwyr nad ydynt yn darparu eu gwasanaethau ‘cymryd cyfarpar yn ôl’ eu hunain) ariannu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr?

Cwestiwn 15: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 14.

Roedd 68% o’r ymatebwyr yn cytuno dylai cynhyrchwyr ariannu’r gwaith o gasglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr a bod hyn yn unol â’r egwyddor o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Nodwyd nad oes gan bawb fynediad i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ac y byddai’r mesur hwn yn lleihau tipio anghyfreithlon. Roedd 19% o’r ymatebwyr yn anghytuno ac roedd 13% yn ansicr.

Cwestiwn 16: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno mai Gweinyddwr Cynllun sy’n cael ei arwain gan gynhyrchwyr, ac yn cael ei gymeradwyo gan y llywodraeth, sydd yn y sefyllfa orau i bennu’r mecanwaith mwyaf ymarferol ac effeithlon i reoli rhwymedigaethau cynhyrchwyr i ariannu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig bach a mawr o gartrefi?

Cwestiwn 17: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i

gwestiwn 16.

Roedd 44% o’r ymatebwyr yn cytuno, gan ddadlau y dylai cynhyrchwyr gael rheolaeth dros Weinyddwr y Cynllun i sicrhau eu bod yn rheoli costau wrth gyflawni eu rhwymedigaethau statudol. Nodwyd hefyd y byddai’n fuddiol cael yr holl swyddogaethau i’w canoli.

Roedd 39% o’r ymatebwyr yn ansicr ac 17% yn anghytuno. Nododd llawer o’r rhain y byddai angen mwy o eglurder ynghylch rôl Gweinyddwr y Cynllun ac y byddai angen cynrychiolaeth ehangach y tu hwnt i gynhyrchwyr er mwyn sicrhau agwedd gytbwys y tu hwnt i leihau costau.

Cwestiwn 18: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno bod y gwaith mwyaf effeithlon a chost-effeithiol o gyflawni’r rhwymedigaeth i ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff o gartrefi rheolaidd ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach a chasgliadau gwastraff ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr yn debygol o gael ei gyflawni drwy bartneriaethau rhwng Gweinyddwr y Cynllun ac Awdurdodau Lleol a’u partneriaid rheoli gwastraff?

Cwestiwn 19: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 18.

Roedd 48% o’r ymatebwyr yn cytuno mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu’r gwasanaeth hwn. Roedd 40% o’r ymatebwyr yn ansicr, gyda llawer o gynhyrchwyr (ac eraill) yn awgrymu treialon wedi’u hariannu gan y diwydiant gydag awdurdodau lleol i sefydlu’n well y costau o ddarparu gwasanaeth llwyddiannus a lefel debygol y casgliadau a fyddai’n deillio o hynny.

Roedd awdurdodau lleol yn pryderu y dylai’r holl gostau a ysgwyddir fel partneriaid cyflawni posibl gael eu hariannu gan gynhyrchwyr. Hefyd, efallai na fydd gan rai awdurdodau lleol y capasiti i ymgymryd â’r rôl hon gan awgrymu y gallai fod angen darparwyr gwasanaethau eraill mewn rhai ardaloedd. Roedd 12% o ymatebwyr yn anghytuno.

Cwestiwn 20: Os ateboch ‘cytuno’ i gwestiwn 16, pa fesurau diogelu, os o gwbl, allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod costau a wynebir gan gynhyrchwyr wrth fodloni rhwymedigaeth casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff o gartrefi yn adlewyrchu gwir gostau’r ddarpariaeth drwy eu partneriaid gwasanaeth? 

Ymhlith rhai o’r mesurau diogelu a grybwyllwyd oedd y dylai Gweinyddwr y Cynllun gadarnhau prawf o wasanaeth effeithlon ac effeithiol mewn perthynas â phroffil pob awdurdod lleol ac i anghydfodau gael eu setlo gan gyflafareddwr annibynnol.

Cwestiwn 21: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r dadansoddiad o’r cynnig hwn a nodir yn yr Asesiad Effaith cysylltiedig?

Cwestiwn 22: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 21.

Roedd 15% o’r ymatebwyr yn cytuno â’r dadansoddiad a nodir yn yr Asesiad Effaith. Roedd 46% o’r ymatebwyr yn ansicr. Roedd 39% o’r ymatebwyr yn anghytuno. Roedd rhai pryderon bod y costau a amcangyfrifwyd yn yr Asesiad Effaith yn rhy uchel, yn enwedig o ran cyfathrebu a sefydlu gweinyddwr y cynllun, a bod y dystiolaeth y seiliwyd y costau hyn arni yn gyfyngedig ac wedi dyddio.

Cwestiwn 23: A oes ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaeth casglu costeffeithiol ac effeithlon o gartrefi yn unol â’r hyn a ddisgrifir yng nghwestiwn 18, gyda phartneriaid cyflenwi eraill yn hytrach nag Awdurdodau Lleol, ac os felly, sut beth fyddai hynny?

Atebodd nifer sylweddol o ymatebwyr y dylid treialu mannau gollwng cymunedol yn lle gwasanaeth casglu o gartrefi, ochr yn ochr â nifer o awgrymiadau i dreialu mwy o logisteg wrth gefn lle byddai faniau dosbarthu yn casglu ar eu llwybrau arferol.

Cwestiwn 24: Rhowch unrhyw sylwadau eraill a thystiolaeth ategol ar y cynnig i gynhyrchwyr (a dosbarthwyr nad ydynt yn darparu gwasanaethau cymryd yn ôl) ariannu system o gasglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach ar garreg y drws a chasglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr ar gais ar gyfer aelwydydd? 

Codwyd rhai pryderon ynghylch cost bosibl system o’r fath ac a ellid cyfiawnhau hyn, o gofio’r dystiolaeth sy’n awgrymu na fyddai’r gyfradd gasglu mor uchel â hynny. Dywedodd eraill y gallai system o’r fath arwain at rywfaint o gyfarpar y gellir eu hailddefnyddio yn cael eu casglu fel gwastraff yn lle hynny.

Cwestiwn 25: Mae cynhyrchwyr sy’n gosod llai na phum tunnell o gyfarpar ar farchnad y DU bob blwyddyn wedi’u heithrio o rwymedigaethau ariannol o dan y Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff. A yw’r trothwy pum tunnell hwnnw’n dal yn briodol?

Cwestiwn 26: Os ateboch ‘nac ydy’ i gwestiwn 25, pa drothwy tunelledd sy’n briodol? Rhowch dystiolaeth i gefnogi trothwy amgen.

Roedd 66% o’r ymatebwyr yn anghytuno bod y trothwy hwn yn briodol ac roedd 19% arall yn ansicr. Dim ond 15% o’r ymatebwyr oedd yn cytuno bod y trothwy tunelledd hwn yn dal i fod yn briodol.

Ni chynigiodd yr ymatebwyr drothwy tunelledd amgen.

Cwestiwn 27: A oes dulliau amgen nad ydynt yn rheoleiddiol y gellid eu sefydlu i gynyddu casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff ar wahân o gartrefi i’w ailddefnyddio a’i ailgylchu? Os felly, disgrifiwch sut bethau fyddai’r dulliau hyn. 

Awgrymodd rhai ymatebwyr rai dulliau rheoleiddio amgen megis cyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar gyfer nwyddau trydanol bach. Roedd dulliau anrheoliadol eraill yn cynnwys cynyddu ymgyrchoedd cyfathrebu dan arweiniad cynhyrchwyr i wneud defnyddwyr yn fwy ymwybodol o’u hopsiynau gwaredu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff.

Pennod 2: cynyddu seilwaith casglu dosbarthwyr

Roedd yr adran hon o’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau am ffyrdd o wella rhwymedigaethau dosbarthwyr o ran casglu mwy o wastraff trydanol gan eu cwsmeriaid.

Cwestiwn 28: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai manwerthwyr a gwerthwyr ar y rhyngrwyd ddarparu “gwasanaeth casglu wrth ddosbarthu” am ddim, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyfarpar domestig mawr fel peiriannau golchi dillad, peiriannau golchi llestri, oergelloedd, rhewgelloedd a setiau teledu gael eu dychwelyd am ddim?

Roedd 76% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylai gwerthwyr ar y rhyngrwyd a manwerthwyr ddarparu gwasanaeth casglu am ddim wrth ddosbarthu, gan nodi y byddai hyn yn arwain at lefelau uwch o gasglu ar gyfer offer mawr. Cydnabuwyd bod eitemau a ddychwelir i fanwerthwyr yn fwy tebygol o fod yn addas i’w hailddefnyddio.

Roedd 17% o’r ymatebwyr yn anghytuno y dylai’r gwasanaeth hwn fod am ddim ac y dylai manwerthwyr allu codi ffi wedi’i chapio am y gwasanaeth fel bod y gost yn amlwg i’r defnyddiwr ac nad yw wedi’i hymgorffori ym mhris y cynnyrch.

Roedd 7% o’r ymatebwyr yn ansicr.

Cwestiwn 29: Os ateboch ‘cytuno’ i gwestiwn 28, a ddylid pennu amserlen resymol ar gyfer casglu’r eitem nad oes ei hangen er mwyn caniatáu ar gyfer amgylchiadau lle nad yw ar gael i’w chasglu ar adeg dosbarthu?

Roedd 64% o’r ymatebwyr yn ansicr. Roedd 22% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylid pennu amserlen resymol ac roedd 14% o’r ymatebwyr yn anghytuno.

Cwestiwn 30: Beth ddylai’r amserlen hon fod? 

Atebodd 49% o’r ymatebwyr y dylai fod yn 10 diwrnod. Atebodd 18% o’r ymatebwyr y byddai 2 ddiwrnod yn amserlen resymol. Atebodd 26% o’r ymatebwyr y dylai fod yn 5 diwrnod. Atebodd 17% arall o’r ymatebwyr na ddylid pennu amserlen resymol.

Cwestiwn 31: A ddylid ymestyn y gwasanaeth hwn i gasglu eitemau llai pan fydd eitem fawr yn cael ei chasglu?

Roedd 66% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylid ymestyn y gwasanaeth hwn i gasglu eitemau llai. Nid oedd 18% o’r ymatebwyr yn cytuno â hyn, tra bod 16% arall yn ansicr.

Cwestiwn 32: A ddylai manwerthwyr sy’n gwerthu offer newydd i’r cartref fel rhan o gegin newydd hefyd orfod mynd â’r hen offer o’r cartref yn rhad ac am ddim?

Cwestiwn 33: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 32.

Roedd 83% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylai fod yn ofynnol hefyd i fanwerthwyr ceginau fynd â’r hen offer i ffwrdd yn rhad ac am ddim ac y dylent fod yn ddarostyngedig i’r un rhwymedigaethau â manwerthwyr eraill. Ni chynigiodd yr ymatebwyr unrhyw dystiolaeth sylweddol i gefnogi eu hymateb.

Roedd 8.5% o’r ymatebwyr yn anghytuno â hyn ac roedd 8.5% arall yn ansicr.

Cwestiwn 34: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylem ymestyn y gofynion cymryd yn ôl presennol ar gyfer manwerthwyr mawr o sail 1:1 i 0:1, hynny yw, fel nad oes yn rhaid prynu eitem er mwyn i’r rhwymedigaeth cymryd yn ôl fod yn berthnasol?

Roedd 60% o’r ymatebwyr yn cytuno â hyn i’w gwneud yn haws i gwsmeriaid gael gwared ar eu nwyddau trydanol diangen. Roedd 24% yn anghytuno, gan gynnwys llawer o ymatebion y manwerthwyr, y dylid ymestyn y rhwymedigaeth i sail 0:1 ac roedd 16% arall yn ansicr.

Cwestiwn 35: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai rhwymedigaeth o’r fath fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhesymol o ran faint o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff sy’n cael ei ddychwelyd gan bob deiliad tŷ?

Roedd 75% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylai rhwymedigaeth o’r fath fod yn amodol ar derfynau rhesymol. Roedd 14% yn ansicr ac roedd 11% arall yn anghytuno.

Cwestiwn 36: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai’r diffiniad o “fanwerthwr mawr” fod yn unrhyw fusnes sydd â throsiant blynyddol o dros £100k o gyfarpar trydanol ac electronig?

Cwestiwn 37: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 36.

Roedd 59% o’r ymatebwyr yn cytuno â’r diffiniad hwn, gan nodi mai dyma’r diffiniad a ddefnyddiwyd ers 2019.

Roedd 25% o’r ymatebwyr yn ansicr ac roedd 16% o’r ymatebwyr yn anghytuno â’r diffiniad hwn.

Cwestiwn 38: Os ateboch ‘anghytuno’ i gwestiwn 36, beth ddylai trothwy amgen fod?

Ni chafodd y cwestiwn hwn ei ateb yn helaeth. Awgrymodd 2 ymatebydd y dylid gosod y trothwy trosiant blynyddol ar nifer uwch (£0.5 miliwn ac £1 miliwn yn y drefn honno). Awgrymodd 1 ymatebydd y dylai fod yn seiliedig ar nifer y cyfarpar a werthwyd.

Cwestiwn 39: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylid cyfyngu’r rhwymedigaeth i fanwerthwyr yn cymryd eitemau sy’n debyg i’r rhai a werthir yn eu siopau’n unig?

Cwestiwn 40: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 39.

Roedd 75% o’r ymatebwyr yn cytuno â hyn, gan ddadlau y byddai’n annheg i siopau gymryd eitemau yn ôl nad ydynt yn eu gwerthu yn y siop.

Roedd 13% o’r ymatebwyr yn anghytuno, gyda rhai yn awgrymu y dylai fod yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw eitem o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn ôl.

Dywedodd 12% arall o’r ymatebwyr eu bod yn ansicr.

Cwestiwn 41: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylid defnyddio rhwymedigaeth amgen yn lle’r rhwymedigaeth i gymryd yn ôl 0:1 sydd ar gael i werthwyr ar y rhyngrwyd, fel talu i gynllun, tebyg i’r cynllun cymryd yn ôl presennol, er mwyn cefnogi lefelau uwch o gasglu ar gyfer ailddefnyddio ac ailgylchu?

Cwestiwn 42: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 41.

Roedd 59% o’r ymatebwyr yn cytuno â hyn, gan nodi oherwydd y cyfyngiadau logistaidd y gallai gwerthwyr ar y rhyngrwyd eu hwynebu wrth gynnig gwasanaeth cymryd yn ôl 0:1 y gallai fod yn fwy effeithlon iddynt dalu i gynllun yn lle hynny. Teimlai’r ymatebwyr fod yn rhaid i gynllun o’r fath gynnig dewis amgen cadarn ac effeithiol ac nid llwybr cydymffurfio amgen rhad. Roedd 27% yn ansicr ac roedd 14% arall yn anghytuno.

Cwestiwn 43: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylid gwella’r gofynion gwybodaeth presennol i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth am eu dewisiadau ailgylchu pan fydd cynnyrch yn cael ei werthu?

Roedd 89% o’r ymatebwyr yn cytuno, gan nodi nad yw’r gofyniad gwybodaeth presennol yn ddigon cryf a bod cyfathrebu’n glir i ddefnyddwyr beth yw eu hopsiynau ailgylchu yn hanfodol i gynyddu lefelau ailgylchu.

Dim ond 5.5% o’r ymatebwyr oedd yn anghytuno â hyn ac roedd 5.5% arall yn ansicr.

Cwestiwn 45: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylid symud y pwynt cyfrifoldeb cynhyrchydd i eiddo’r manwerthwr neu’r gwerthwr ar y rhyngrwyd, fel siop y manwerthwr, man storio mewn swmp, man dosbarthu?

Cwestiwn 46: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 45.

Roedd 47% o’r ymatebwyr yn cytuno â hyn, er eu bod wedi mynegi barn y dylai gwasanaeth o’r fath fod yn amodol ar y meintiau lleiaf posibl i wrthsefyll effeithiau carbon casgliadau amlach. Dywedodd 28% arall o’r ymatebwyr eu bod yn ansicr.

Roedd 25% o’r ymatebwyr, cynhyrchwyr yn bennaf, yn anghytuno, gan ddadlau bod llawer o fanwerthwyr eisoes yn trefnu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, yn aml drwy eu cynllun cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff dewisol, ac felly dylai’r ddyletswydd i gasglu o’u safleoedd fod gyda’u cynllun cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, ac nid dyletswydd sy’n disgyn ar ysgwyddau bob cynhyrchydd.

Cwestiwn 47: A oes unrhyw rwymedigaethau eraill y dylem eu gosod ar fanwerthwyr a gwerthwyr ar y rhyngrwyd i gynyddu lefelau casglu?

Cwestiwn 48: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 47.

Roedd llawer o’r ymatebion yn canolbwyntio ar ffyrdd o gynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr o’u hopsiynau ailgylchu, gan gynnwys labelu cynnyrch yn glir a mwy o gyfathrebu yn y siop. Roedd awgrymiadau eraill yn cynnwys targedau casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff gorfodol i’w gosod ar fanwerthwyr a gwerthwyr ar y rhyngrwyd.

Cwestiwn 49: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai Marchnadoedd Ar-lein a thai cyflawni gael rhwymedigaethau ‘cymryd yn ôl’ pan fyddant yn hwyluso cyflenwi’r cynnyrch i ddeiliad y tŷ?

Cwestiwn 50: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 49.

Roedd 81% o’r ymatebwyr yn cytuno, gan ddadlau y dylai rhwymedigaethau a chostau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff fod yr un fath ar draws gwahanol actorion, p’un a yw’r gwerthwr yn defnyddio sianeli dosbarthu ar-lein ai peidio. Roedd 12% arall yn ansicr, gan nodi bod angen gwneud mwy o waith i gadarnhau sut y byddai hyn yn gweithio’n ymarferol – heb ychwanegu costau sylweddol at gasglu a thrin cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff i gynhyrchwyr. Roedd 7% o’r ymatebwyr yn anghytuno.

Cwestiwn 51: Am ba hyd y bydd angen i’r diwydiant addasu i’r cynigion a nodir uchod? Dewiswch un o’r opsiynau canlynol:

a. Hyd at 12 mis

b. 12 i 18 mis

c. 18 i 24 mis

d. 24 i 48 mis

Cwestiwn 52: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 51.

Ymateb Rhif
Hyd at 12 mis 87 (33%)
12 i 18 mis 42 (16%)
18 i 24 mis 49 (19%)
24 i 48 mis 84 (32%)

Ni roddwyd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r ymatebion hyn.

Pennod 3: rhwymedigaethau ar gyfer marchnadoedd ar-lein a thai cyflawni

Roedd yr adran hon o’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch dynodi marchnadoedd ar-lein fel categori newydd o gynhyrchydd, fel eu bod yn cyfrannu at gostau casglu ar wahân a thrin cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn briodol yn unol â chyfran marchnad eu gwerthwyr tramor ym mhob categori o gyfarpar o fewn y rheoliadau.

Cwestiwn 53: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai fod yn ofynnol i Farchnadoedd Ar-lein gyflawni rhwymedigaethau’r cynhyrchydd ar ran eu gwerthwyr tramor?

Cwestiwn 54: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 53.

Roedd 87% o’r ymatebwyr yn cytuno, gan nodi bod llawer iawn o nwyddau trydanol yn cael eu rhoi ar y farchnad drwy farchnadoedd ar-lein a bod angen i ni sicrhau chwarae teg rhwng cynhyrchwyr sy’n gwerthu nwyddau trydanol drwy sianeli dosbarthu gwahanol. Roedd 7% yn ansicr a 6% arall yn anghytuno.

Cwestiwn 55: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai fod yn ofynnol i dai cyflawni fodloni rhwymedigaethau’r cynhyrchydd ar ran eu gwerthwyr tramor?

Cwestiwn 56: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 55.

Roedd 84.5% o’r ymatebwyr yn cytuno â hyn, gan ddadlau bod tai cyflawni yn darparu swyddogaeth debyg i farchnadoedd ar-lein ac felly y dylent fod yn ddarostyngedig i’r un rhwymedigaethau. Roedd 9.5% yn ansicr a dim ond 6% o’r ymatebwyr oedd yn anghytuno.

Cwestiwn 57: A ydych yn cytuno y dylai Marchnadoedd Ar-lein a thai cyflawni allu defnyddio data pwysau amcangyfrifedig gan ddefnyddio protocol y cytunwyd arno gyda’r rheoleiddwyr amgylcheddol i ddechrau?

Cwestiwn 58: Os ateboch ‘cytuno’ ar gyfer cwestiwn 57, rhowch dystiolaeth i egluro pam na ellir darparu’r union ddata.

Roedd 37% o’r ymatebwyr yn anghytuno â hyn, gan ddweud y dylent orfod defnyddio data manwl gywir, fel mathau eraill o gynhyrchwyr. Teimlwyd hefyd y dylai marchnadoedd ar-lein a thai cyflawni eisoes fod â hwylustod mynediad i ddata manwl gywir. Roedd 35% o’r ymatebwyr yn ansicr. Roedd 29% o’r ymatebwyr yn cytuno â hyn, gan ddweud y dylid caniatáu data pwysau amcangyfrifedig am gyfnod cyfyngedig o leiaf, gan y gallai fod yn anoddach i farchnadoedd ar-lein a thai cyflawni gael mynediad at y data hwn.

Cwestiwn 59: Pa gostau ychwanegol fydd yn cronni i farchnadoedd ar-lein a thai cyflawni o ganlyniad i gael eu diffinio fel cynhyrchwyr?

Cwestiwn 60: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 59.

Nododd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y byddai costau ychwanegol yn debyg i gostau cynhyrchwyr newydd sy’n gosod cyfarpar trydanol ac electronig ar y farchnad. Dywedwyd na fyddai’n rhaid iddynt gydymffurfio â rhannau o’r rheoliadau megis sicrhau bod cyfarpar trydanol ac electronig yn cael ei farcio â’r symbol bin ar olwynion wedi’i groesi allan.

Cwestiwn 61: Pa ffyrdd eraill, os o gwbl, y dylai’r llywodraeth eu hystyried i fynd i’r afael â’r broblem o werthwyr ar-lein nad ydynt yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff? 

Cwestiwn 62: Rhowch unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich ateb i gwestiwn 61.

Awgrymodd ymatebwyr fod angen mwy o gamau gorfodi i fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio ymhlith gwerthwyr ar-lein, gan gynnwys mwy o ddefnydd o sancsiynau sifil.

Pennod 4: Creu categori newydd o gyfarpar trydanol ar gyfer fêps

Roedd y rhan hon o’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch creu categori newydd o gyfarpar trydanol ar gyfer fêps. Byddai hyn yn sicrhau y byddai costau casglu a thrin fêps yn disgyn yn deg ar ysgwyddau’r rhai sy’n eu cynhyrchu.

Cwestiwn 63: A ydych yn cytuno â’r cynnig i greu categori newydd ar gyfer fêps? 

Roedd 91% o’r ymatebwyr yn cytuno â’r cynnig i greu categori newydd ar gyfer fêps, gan nodi bod costau ailgylchu anwedd yn llawer drutach na mathau eraill o gyfarpar ar hyn o bryd, ac nad yw’n cael ei dalu bob amser gan y rhai sy’n eu cynhyrchu. Roedd 6% yn ansicr a dim ond 3% o’r ymatebwyr oedd yn anghytuno.

Cwestiwn 64: Pa gostau ychwanegol fydd yn cronni i gynhyrchwyr, cynlluniau cydymffurfio a rheoleiddwyr o ganlyniad i greu categori newydd ar gyfer fêps?

Awgrymwyd y byddai costau uwch i gynhyrchwyr fêps o ran costau cynllun cydymffurfio cynhyrchwyr, casglu data, rhwymedigaethau cyfran o’r farchnad, ymgysylltu â chynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr, marcio a labelu. I’r gwrthwyneb, nodwyd hefyd y gallai fod gostyngiad mewn costau i gynhyrchwyr cynhyrchion categori 7 eraill oherwydd bod y rheoliadau presennol yn gosod fêps yn y categori hwnnw a allai olygu eu bod yn cyfrannu at y gost o gasglu a thrin fêps.

Cwestiwn 65: A oes unrhyw fesurau eraill, y tu hwnt i’r rhai ar gyfer eco-fodiwleiddio a thaflu sbwriel a nodir yn yr alwad am dystiolaeth, yn eich barn chi, y dylai’r llywodraeth eu cymryd i leihau effaith fêps ar yr amgylchedd?

Roedd llawer o’r ymatebwyr yn ffafrio gwahardd fêps untro. Nodwyd hefyd fod angen mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr ynghylch sut i gael gwared ar eu fêps gwastraff yn briodol, yn ogystal â mwy o gamau gorfodi i atal defnyddwyr rhag taflu sbwriel.

Pennod 5: Llywodraethu’r cynllun

Roedd yr adran hon o’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch sefydlu gweinyddwr cynllun newydd.

Cwestiwn 66: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r egwyddor o sefydlu Gweinyddwr Cynllun sy’n cael ei gymeradwyo gan y Llywodraeth, ac sy’n cael ei arwain gan gynhyrchwyr i gyflawni swyddogaethau penodol yn y system ddiwygiedig ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff?

Cwestiwn 67: Rhowch dystiolaeth i gefnogi eich ateb i gwestiwn 66.

Roedd 51% o’r ymatebwyr yn cytuno. Roedd y rhan fwyaf o’r rhai a gytunodd yn cydnabod gwerth yn yr arbedion o ran maint ac effeithlonrwydd mewn rhai elfennau cyfrifoldeb cynhyrchwyr sy’n cael eu cyflawni’n ganolog, yn cael eu cydlynu neu eu pennu.

Cytunwyd hefyd i raddau helaeth y dylai Gweinyddwr y Cynllun gael ei arwain gan gynhyrchwyr, er bod cydnabyddiaeth y byddai angen cynnwys rhanddeiliaid eraill hefyd. Roedd 35% o’r ymatebwyr yn ansicr, gan nodi diffyg eglurder ynghylch y diffiniad o gynllun sy’n cael ei arwain gan gynhyrchwyr ac yn codi pryderon ynghylch didueddrwydd a thryloywder cynllun o’r fath.

Roedd 14% o’r ymatebwyr yn anghytuno gan nodi y gallai Gweinyddwr y Cynllun arwain at fiwrocratiaeth ychwanegol ac felly cost ychwanegol i’r system.

Ar draws yr ymatebwyr, roedd thema bod angen i unrhyw gorff o’r fath gael ei ddwyn i gyfrif gan y llywodraeth, a ddylai osod meini prawf cymeradwyo clir.

Cwestiwn 68: Os gwnaethoch anghytuno â chwestiwn 66, nodwch fanylion dull gweithredu amgen ar gyfer swyddogaethau arfaethedig Gweinyddwr y Cynllun.

Ni chynigiodd llawer o’r ymatebwyr ddewis amgen yn lle Gweinyddwr y Cynllun, ond yn hytrach roeddent yn ystyried y dylai’r Cynllun fod yn atebol i’r llywodraeth, gyda set o ddangosyddion perfformiad clir y dylid ei werthuso yn eu herbyn. Awgrymodd lleiafrif o’r ymatebwyr y dylai Gweinyddwr y Cynllun fod yn gorff cyhoeddus, yn gweithredu er budd y cyhoedd a thrwy seilwaith cynghorau lleol, gyda rhywfaint o gyfranogiad gan gynhyrchwyr.

Cwestiwn 69: Pa rai o’r swyddogaethau canlynol ydych chi’n meddwl y dylai Gweinyddwr y Cynllun eu cyflawni? 

  • Rheoli’r system Cydbwyso Cynhyrchwyr ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff cartrefi (a rhai nad ydynt yn deillio o gartrefi os oes angen)
  • Gweinyddu Cynllun Cymryd yn ôl Dosbarthwyr (i’w ddefnyddio gan y dosbarthwyr hynny nad oes yn rhaid iddynt gynnig gwasanaeth cymryd cyfarpar yn ôl yn y siop o dan y system newydd)
  • Datblygu a gweinyddu methodoleg ffi cydymffurfio mewn ymgynghoriad â’r holl gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr, i’w chymeradwyo gan y Llywodraeth
  • Darparu tystiolaeth a rhagolygon o’r cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff o gartrefi sy’n debygol o godi – cyflwyno argymhellion i’r Llywodraeth i lywio’r gwaith o osod rhwymedigaethau ariannol blynyddol ar gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr ar gyfer casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff o gartrefi
  • Eco-fodiwleiddio – cefnogi’r llywodraeth gyda mesurau newydd posibl y gellid eu defnyddio gyda chategorïau o gynnyrch penodol, gan gynnwys datblygu methodoleg i seilio’r modiwleiddio arni
  • Asesu ac adrodd ar berfformiad amgylcheddol y system yn y dyfodol yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol gydag argymhellion i’r llywodraeth ar fesurau i wella’r perfformiad hwnnw

Roedd dros 90% o’r ymatebwyr o blaid i weinyddwr y cynllun ysgwyddo’r holl swyddogaethau hyn. Roedd cefnogaeth ar gyfer asesu perfformiad yn erbyn Dangosyddion Perfformiad Allweddol, rheoli’r PBS a rhagweld deilliannau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn 98% neu’n uwch.

Cwestiwn 70: A oes unrhyw swyddogaethau ychwanegol y dylai Gweinyddwr y Cynllun eu cyflawni, yn ogystal â’r rheini a nodir yng nghwestiwn 69? 

Dyma rai swyddogaethau ychwanegol a awgrymwyd gan yr ymatebwyr:

  • Gweithredu fel adnodd canolog ar gyfer casglu tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio ar raddfa fawr gan gynhyrchwyr cofrestredig, ac adrodd gyda thystiolaeth i reoleiddwyr;
  • Monitro costeffeithiolrwydd y system;
  • Casglu, cydgrynhoi a sicrhau bod data ar gasglu, ailddefnyddio ac ailgylchu o’r cynllun ar gael i’r cyhoedd ac yn haws ei ddefnyddio;
  • Dwyn gweithredwyr cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a chynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr i gyfrif o ran dehongli rheoliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a darparu dehongliad hygyrch i’r cyhoedd;

Cwestiwn 71: Rhowch unrhyw sylwadau eraill am rôl Gweinyddwr y Cynllun. 

Roedd pwyslais ar y corff yn cael ei werthuso’n rheolaidd yn erbyn set o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol wedi’u diffinio’n glir. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno y dylai gael ei arwain gan y diwydiant a chynnwys cynrychiolaeth ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan. Awgrymwyd hefyd y dylid cyfeirio ato fel ‘Gweinyddwr y System Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff’ er mwyn osgoi dryswch gyda Chynlluniau Cydymffurfiaeth Cynhyrchwyr.

Cwestiwn 72: Pa rai o’r dangosyddion perfformiad amgen a restrir yn yr adran uchod ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid eu cynnwys yn y system yn y dyfodol? 

Nifer neu bwysau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mewn gwastraff gweddilliol. 221 (87%)
Hwylustod ailgylchu. 198 (78)
Faint o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff sydd mewn gwastraff sy’n cael ei dipio’n anghyfreithlon ym mhob un o’r gwledydd. 161 (63%)
Lefel ymwybyddiaeth defnyddwyr o werth a’r cyfleoedd ar gyfer ailddefnyddio neu ailgylchu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff. 182 (72%)
Asesu effaith carbon y system cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn y DU yn rheolaidd. 194 (76%)
Asesu perfformiad economi gylchol y system. 195 (77%)
Gwella ansawdd prosesau trin cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff. 196 (77%)
Faint o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a gaiff ei ddargyfeirio i’w ailddefnyddio. 232 (91%)

Cwestiwn 73: A oes unrhyw fesurau llwyddiant eraill y dylai’r llywodraeth eu hystyried i asesu perfformiad y system? 

Roedd bron pob un o’r ymatebwyr o’r farn nad oedd unrhyw fesurau ychwanegol i’r rhai a gofnodwyd eisoes.

Atodiad 1: Crynodeb manylach o’r ymatebion

Pennod 1: cynyddu casgliadau o gartrefi

Roedd yr adran hon o’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch sefydlu system casglu o gartrefi wedi’i hariannu gan gynhyrchydd ar gyfer eitemau bach a mawr o Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff.

Cwestiwn 6: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai cynhyrchwyr (a dosbarthwyr nad ydynt yn darparu eu gwasanaethau ‘cymryd cyfarpar yn ôl’ eu hunain) ariannu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr (er enghraifft, tostwyr, offer a theganau bach) o gartrefi?

Ymateb Rhif
Cytuno 64%
Anghytuno 9%
Ddim yn siŵr 27%

Dim ond 20% o gynhyrchwyr oedd yn cytuno â’r cynnig hwn ac roedd 71% yn ansicr. Nodwyd y gallai costau sefydlu system casglu o gartrefi fod yn drech na’r manteision ac y dylid sefydlu treialon i brofi ei dichonoldeb. Yn yr un modd, roedd 38% o ddosbarthwyr hefyd yn ansicr ac yn adleisio’r argymhelliad ar gyfer treialon.

Mewn cyferbyniad, roedd 88% o ymatebion awdurdodau lleol yn cytuno â’r cynnig, gyda llawer yn nodi bod angen opsiynau gwaredu mwy cyfleus ar ddeiliaid tai ar gyfer eu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff.

Roedd Cwmnïau Rheoli Gwastraff a chyfleusterau trin awdurdodedig cymeradwy hefyd yn fwy tebygol o gefnogi’r cynnig hwn, gyda 92% a 67% yn y drefn honno’n cytuno y byddai’r cynnig hwn yn sbarduno mwy o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff a gesglir yn briodol, ynghyd â manteision eraill megis lleihau’r risg o danau.

Cwestiwn 8: Gan gydnabod yr angen i gydbwyso amlder gwasanaeth ag effeithlonrwydd, pa mor aml y dylid darparu cylch casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff?

Ymateb Rhif
Bob wythnos 8%
Bob pythefnos 21%
Bob mis 47%
Ar gais 25%

Dywedodd 93.5% o gynhyrchwyr mai gwasanaeth casglu misol fyddai orau, gan nodi nad yw gwaredu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mor aml â ffrydiau gwastraff eraill.

Dywedodd 45.2% o unigolion y byddai’n well ganddynt wasanaeth bob mis, o gymharu â 33.3% a oedd yn ffafrio gwasanaeth ar gais.

Cwestiwn 14: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai cynhyrchwyr (a dosbarthwyr nad ydynt yn darparu eu gwasanaethau ‘cymryd cyfarpar yn ôl’ eu hunain) ariannu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr?

Ymateb Rhif
Cytuno 68%
Anghytuno 19%
Ddim yn siŵr 13%

Roedd 83% o gyfleusterau trin awdurdodedig cymeradwy, 87% o awdurdodau lleol ac 86% o unigolion yn cytuno â’r cynnig hwn, gan nodi y byddai hyn yn lleihau’r risg o dipio anghyfreithlon ac yn sicrhau bod cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr yn mynd i mewn i’r sianeli gwaredu cywir.

Dim ond 20% o gynhyrchwyr a 39% o ddosbarthwyr oedd yn cytuno y dylai’r gwasanaeth hwn fod am ddim, ac yn dadlau y dylai casgliadau swmpus awdurdodau lleol a chasgliadau adwerthwyr wrth ddosbarthu ar gyfer offer mawr gael eu cynnig fel gwasanaeth y codir tâl amdano, yn amodol ar ffi wedi’i chapio.

Cwestiwn 16: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno mai Gweinyddwr Cynllun sy’n cael ei arwain gan gynhyrchwyr, ac yn cael ei gymeradwyo gan y llywodraeth, sydd yn y sefyllfa orau i bennu’r mecanwaith mwyaf ymarferol ac effeithlon i reoli rhwymedigaethau cynhyrchwyr i ariannu casgliadau cyfarpar trydanol ac electronig bach a mawr o gartrefi?

Ymateb Rhif
Cytuno 44%
Anghytuno 17%
Ddim yn siŵr 39%

Roedd 77.8% o gynhyrchwyr yn cytuno y dylai hyn gael ei arwain gan gynhyrchwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gallu rheoli costau cyflawni eu rhwymedigaethau statudol.

Roedd cymysgedd ehangach o safbwyntiau ymhlith awdurdodau lleol gyda 38.2% yn cytuno a 50% yn ansicr. Nodwyd y byddai angen i Weinyddwr y Cynllun fod yn atebol i’r llywodraeth ac ystyried buddiannau nid dim ond y cynhyrchwyr.

Cwestiwn 18: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno bod y gwaith mwyaf effeithlon a chosteffeithiol o gyflawni’r rhwymedigaeth i ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff o gartrefi rheolaidd ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach a chasgliadau gwastraff ar gyfer cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr yn debygol o gael ei gyflawni drwy bartneriaethau rhwng Gweinyddwr y Cynllun ac Awdurdodau Lleol a’u partneriaid rheoli gwastraff?

Ymateb Rhif
Cytuno 48%
Anghytuno 12%
Ddim yn siŵr 40%

Roedd 67.9% o gynhyrchwyr yn ansicr ac yn ffafrio treialon, y byddent yn eu comisiynu, i brofi a oedd gan awdurdodau lleol y gallu i reoli’r gwasanaeth yn effeithiol. Teimlwyd hefyd na ddylai cynhyrchwyr gael eu cyfyngu i ddefnyddio awdurdodau lleol a gallu archwilio partneriaid cyflenwi eraill.

Roedd 59.2% o awdurdodau lleol yn cytuno, ond dywedodd llawer y dylid pennu trefniadau manwl yn lleol a bod angen gwneud rhagor o waith i sefydlu sut y dylai’r trefniadau hynny gyd-fynd â chwmnïau rheoli gwastraff, cyfleusterau trin a sefydliadau ailddefnyddio.

Cwestiwn 20: Os ateboch ‘cytuno’ i gwestiwn 16, pa fesurau diogelu, os o gwbl, allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod costau a wynebir gan gynhyrchwyr wrth fodloni rhwymedigaeth casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff o gartrefi yn adlewyrchu gwir gostau’r ddarpariaeth drwy eu partneriaid gwasanaeth? 

  • Yn ogystal â Gweinyddwr y Cynllun yn sefydlu prawf o wasanaeth effeithlon ac effeithiol mewn perthynas â phroffil pob awdurdod lleol ac i anghydfodau gael eu setlo gan gyflafareddwr annibynnol, nododd ymatebwyr hefyd y canlynol, mesurau diogelu eraill, er enghraifft i gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff gael ei drosglwyddo i gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr yn rhad ac am ddim.
  • Gweithredu gwasanaeth dros gyfnod o 4 blynedd o leiaf. Mewn ardaloedd anghysbell efallai y bydd gwasanaeth dod â gwastraff (banciau casglu) yn fwy priodol. Diffiniad o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach i’w gytuno’n lleol. Gallai treialon sefydlu a yw bandio costau awdurdodau lleol yn ymarferol (gwledig neu drefol).

Cwestiwn 24: Rhowch unrhyw sylwadau eraill a thystiolaeth ategol ar y cynnig i gynhyrchwyr (a dosbarthwyr nad ydynt yn darparu gwasanaethau cymryd yn ôl) ariannu system o gasglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach ar garreg y drws a chasglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff mawr ar gais ar gyfer aelwydydd? 

Ni ddaeth unrhyw themâu cyffredin i’r amlwg o’r cwestiwn hwn. Amlygodd rhai grwpiau bryderon ynghylch y costau yn ogystal â diffyg tystiolaeth ar fanteision ymylol y cynllun. Codwyd hefyd y potensial i ddargyfeirio cynnyrch o lwybrau ailddefnyddio.

Cwestiwn 25: Mae cynhyrchwyr sy’n gosod llai na phum tunnell o gyfarpar ar farchnad y DU bob blwyddyn wedi’u heithrio o rwymedigaethau ariannol o dan y Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff. A yw’r trothwy pum tunnell hwnnw’n dal yn briodol?

Roedd 66% o’r ymatebwyr yn anghytuno bod y trothwy hwn yn briodol ac roedd 19% arall yn ansicr. Teimlai 80% o gynhyrchwyr fod y trothwy’n amhriodol i’w gymhwyso’n gyfartal ar draws pob categori a nodwyd bod 5 tunnell o fêps, neu lampau, yn wahanol iawn i 5 tunnell o oergelloedd, er enghraifft, o ran cyfeintiau a chostau i’w trin.

Dim ond 15% o’r ymatebwyr oedd yn cytuno bod y trothwy tunelledd hwn yn dal i fod yn briodol.

Ymateb Rhif
Ydy 45 (15%)
Nac ydy 193 (66%)
Ddim yn siŵr 54 (19%)

Pennod 2: cynyddu seilwaith casglu dosbarthwyr

Roedd yr adran hon o’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch ffyrdd o wella’r rhwymedigaethau a roddir ar fanwerthwyr a gwerthwyr ar y rhyngrwyd i gynyddu lefelau cyfleustra i ddeiliaid tai sy’n ceisio cael gwared ar wastraff trydanol.

Cwestiwn 28: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai manwerthwyr a gwerthwyr ar y rhyngrwyd ddarparu “gwasanaeth casglu wrth ddosbarthu” am ddim, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyfarpar domestig mawr fel peiriannau golchi dillad, peiriannau golchi llestri, oergelloedd, rhewgelloedd a setiau teledu gael eu dychwelyd am ddim?

Roedd 76% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylai gwerthwyr ar y rhyngrwyd a manwerthwyr ddarparu gwasanaeth casglu am ddim wrth ddosbarthu. Roedd 58% o gynhyrchwyr yn cytuno ac yn dweud y byddai’n arwain at lefelau uwch o gasglu ar gyfer offer mawr. Cydnabuwyd bod eitemau a ddychwelir i fanwerthwyr yn fwy tebygol o fod yn addas i’w hailddefnyddio. Fodd bynnag, roedd rhai cynhyrchwyr yn meddwl y dylai barhau i fod yn wasanaeth y codir tâl amdano, ond gyda ffi wedi’i chapio.

Roedd 48% o ddosbarthwyr yn anghytuno â’r cynnig hwn gan ddadlau y byddai dileu’r gallu i godi tâl yn arwain at orfod codi eu prisiau, fel ‘treth anweledig’ i bob cwsmer yn hytrach na dim ond y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth mewn gwirionedd. Awgrymwyd hefyd nad yw’r cynnig hwn yn angenrheidiol ochr yn ochr â’r cynnig i gynhyrchwyr ariannu casglu gwastraff swmpus o gartrefi.

Cwestiwn 29: Os ateboch ‘cytuno’ i gwestiwn 28, a ddylid pennu amserlen resymol ar gyfer casglu’r eitem nad oes ei hangen er mwyn caniatáu ar gyfer amgylchiadau lle nad yw ar gael i’w chasglu ar adeg dosbarthu?

Roedd 22% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylid pennu amserlen resymol.

Roedd 83% o gyfleusterau trin awdurdodedig cymeradwy yn cytuno â phennu amserlen resymol, ynghyd â 68% o gynhyrchwyr. Dim ond traean o’r dosbarthwyr oedd yn cytuno â hyn.

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn ansicr, gan gynnwys 89% o awdurdodau lleol a 91% o gwmnïau rheoli gwastraff.

Cwestiwn 30: Beth ddylai’r amserlen hon fod? 

Atebodd 18% o’r ymatebwyr y byddai 2 ddiwrnod yn amserlen resymol. Atebodd 26% o’r ymatebwyr y dylai fod yn 5 diwrnod. Atebodd 49% o’r ymatebwyr y dylai fod yn 10 diwrnod. Atebodd 17% arall o’r ymatebwyr na ddylid pennu amserlen resymol.

Cwestiwn 31: A ddylid ymestyn y gwasanaeth hwn i gasglu eitemau llai pan fydd eitem fawr yn cael ei chasglu?

Roedd 66% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylid ymestyn y gwasanaeth hwn i gasglu eitemau llai o faint. Roedd hyn yn cynnwys 71% o gynhyrchwyr a 74% o awdurdodau lleol. Nid oedd 18% o’r ymatebwyr yn cytuno â hyn, tra bod 16% arall yn ansicr.

Roedd rhaniad cyfartal ymhlith manwerthwyr o 41% a gytunodd y dylid ymestyn y gwasanaeth i gynnwys eitemau bach a 41% nad oeddent yn cytuno.

Cwestiwn 34: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylem ymestyn y gofynion cymryd yn ôl presennol ar gyfer manwerthwyr mawr o sail 1:1 i 0:1, hynny yw, fel nad oes yn rhaid prynu eitem er mwyn i’r rhwymedigaeth cymryd yn ôl fod yn berthnasol?

Roedd 60% o’r ymatebwyr yn cytuno â hyn i’w gwneud yn haws i gwsmeriaid gael gwared ar eu nwyddau trydanol diangen. Roedd hyn yn cynnwys yr holl ymatebion i gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr, 70% o gynhyrchwyr a 74% o awdurdodau lleol.

Roedd 24% yn anghytuno y dylid ymestyn y rhwymedigaeth i sail 0:1, gan gynnwys 53% o fanwerthwyr, a dywedodd rhai ohonynt y byddai’r rhwymedigaeth newydd hon yn gosod costau newydd ar eu busnes, yn ogystal â chreu problemau o ran storio.

Roedd 16% arall yn ansicr.

Cwestiwn 36: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai’r diffiniad o “fanwerthwr mawr” fod yn unrhyw fusnes sydd â throsiant blynyddol o dros £100k o gyfarpar trydanol ac electronig?

Roedd 59% o’r ymatebwyr yn cytuno â’r diffiniad hwn, gan gynnwys 74% o gynhyrchwyr ac 87.5% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr, a oedd yn teimlo bod y diffiniad hwn yn briodol, gan y defnyddiwyd ers 2019. Cymysg oedd barn y dosbarthwyr, gyda dim ond 29% yn cytuno â’r diffiniad presennol, 33% yn anghytuno a 38% arall yn ansicr. Dywedodd rhai dosbarthwyr y dylai’r trothwy hefyd ystyried ffactorau eraill megis maint y siop.

Cwestiwn 38: Os ateboch ‘anghytuno’ i gwestiwn 36, beth ddylai trothwy amgen fod?

Dim ond canran fach o’r rheini a ymatebodd i’r ymgynghoriad a atebodd y cwestiwn hwn. Awgrymodd 2 ymatebydd y dylid gosod y trothwy trosiant blynyddol ar nifer uwch (£0.5 miliwn ac £1 miliwn yn y drefn honno). Awgrymodd 1 ymatebydd y dylai fod yn seiliedig ar nifer y cyfarpar a werthwyd.

Cwestiwn 39: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylid cyfyngu’r rhwymedigaeth i fanwerthwyr yn cymryd eitemau sy’n debyg i’r rhai a werthir yn eu siopau’n unig?

Roedd 75% o’r ymatebwyr yn cytuno â hyn, gan ddadlau y byddai’n annheg i siopau gymryd eitemau yn ôl nad ydynt yn eu gwerthu yn y siop. Roedd hyn yn cynnwys 88% o gynhyrchwyr a 100% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr. Roedd 83.3% o gwmnïau rheoli gwastraff hefyd yn cytuno, gyda rhai yn ystyried ei bod yn bwysig bod y sgiliau a’r systemau sy’n cefnogi gwerthu eitemau penodol manwerthwyr yn cael eu defnyddio i reoli’r eitemau hynny o ddyluniad tebyg yn ddiogel pan cânt eu dychwelyd.

Roedd 92% o fanwerthwyr yn cytuno, er bod rhai yn awgrymu bod angen cynnig mwy o eglurder ynghylch beth sy’n gyfystyr â chynnyrch ‘tebyg’.

Roedd 13% o’r ymatebwyr yn anghytuno, gyda rhai yn awgrymu y dylai fod yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw eitem o gyfarpar trydanol ac electronig gwastraff yn ôl.

Dywedodd 12% arall o’r ymatebwyr eu bod yn ansicr.

Cwestiwn 41: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylid defnyddio rhwymedigaeth amgen yn lle’r rhwymedigaeth i gymryd yn ôl 0:1 sydd ar gael i werthwyr ar y rhyngrwyd, fel talu i gynllun, tebyg i’r cynllun cymryd yn ôl presennol, er mwyn cefnogi lefelau uwch o gasglu ar gyfer ailddefnyddio ac ailgylchu?

Roedd 59% o’r ymatebwyr yn cytuno â hyn, gan nodi oherwydd y cyfyngiadau logistaidd y gallai gwerthwyr ar y rhyngrwyd eu hwynebu wrth gynnig gwasanaeth cymryd yn ôl 0:1 y gallai fod yn fwy effeithlon iddynt dalu i gynllun yn lle hynny. Roedd hyn yn cynnwys 86% o gynhyrchwyr, 78% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr a 54% o awdurdodau lleol. Teimlai’r ymatebwyr fod yn rhaid i gynllun o’r fath gynnig dewis amgen cadarn ac nid llwybr cydymffurfio amgen rhad. Roedd 58% o gwmnïau rheoli gwastraff hefyd yn cytuno, gan ddweud i raddau helaeth nad yw gwerthwyr ar y rhyngrwyd yn y sefyllfa orau i gasglu yn y man dosbarthu oherwydd dibyniaeth uchel ar gludwyr ac y byddai casgliadau penodedig yn ddrud iawn. Dylid casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff cymysg bach drwy lwybrau awdurdodau lleol, wedi’u hariannu’n rhannol gan werthwyr ar y rhyngrwyd.

Cytunodd 48% o’r dosbarthwyr, gan nodi’r angen am chwarae teg.

Dim ond 14% o’r ymatebwyr oedd yn anghytuno â hyn ac roedd 27% arall yn ansicr.

Cwestiwn 43: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylid gwella’r gofynion gwybodaeth presennol i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth am eu dewisiadau ailgylchu pan fydd cynnyrch yn cael ei werthu?

Roedd 89% o’r ymatebwyr yn cytuno, gan nodi nad yw’r gofyniad gwybodaeth presennol yn ddigon cryf a bod cyfathrebu’n glir i ddefnyddwyr beth yw eu hopsiynau ailgylchu yn hanfodol i gynyddu lefelau ailgylchu. Roedd hyn yn cynnwys 93% o gynhyrchwyr, 90% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr a 98% o awdurdodau lleol. Roedd 83% o gyfleusterau trin awdurdodedig cymeradwy hefyd yn cytuno ac yn dweud bod angen gwneud defnyddwyr yn fwy ymwybodol o’u hopsiynau ailgylchu.

Roedd 67% o’r dosbarthwyr yn cytuno. Fodd bynnag, teimlai rhai ohonynt, er bod angen addysg gyhoeddus ar ailgylchu, na ddylai manwerthwyr yn unig ysgwyddo’r cyfrifoldeb o gyfathrebu hyn i’r cyhoedd.

Dim ond 5.5% o’r ymatebwyr oedd yn anghytuno â hyn ac roedd 5.5% arall yn ansicr.

Cwestiwn 45: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylid symud y pwynt cyfrifoldeb cynhyrchydd i eiddo’r manwerthwr neu’r gwerthwr ar y rhyngrwyd, fel siop y manwerthwr, man storio mewn swmp, man dosbarthu?

Roedd 47% o’r ymatebwyr yn cytuno â hyn, er eu bod wedi mynegi pryderon ynghylch y gwasanaeth hwn yn amodol ar y meintiau lleiaf posibl i leihau effeithiau carbon casgliadau amlach.

Roedd 25% o’r ymatebwyr yn anghytuno, gan ddadlau bod llawer o fanwerthwyr eisoes yn trefnu casgliad cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, yn aml drwy eu cynllun cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff dewisol, ac felly dylai’r ddyletswydd i gasglu o’u safleoedd fod gyda’u cynllun cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff, ac nid dyletswydd sy’n disgyn ar ysgwyddau bob cynhyrchydd. Dim ond 7% o gynhyrchwyr oedd yn cytuno â’r cynnig hwn.

Roedd 46% o ddosbarthwyr yn anghytuno â’r cynnig, gyda rhai ohonynt yn dweud, os yw’r Llywodraeth am symud pwynt cyfrifoldeb cynhyrchwyr i fanwerthu a’r garreg drws, byddai angen ymgorffori cysyniad EPR yn llawn, gan olygu y bydd angen i gynhyrchwyr ddigolledu’n llawn yr holl randdeiliaid sy’n gweithredu casgliadau. 

Cwestiwn 47: A oes unrhyw rwymedigaethau eraill y dylem eu gosod ar fanwerthwyr a gwerthwyr ar y rhyngrwyd i gynyddu lefelau casglu?

Roedd llawer o’r ymatebion yn canolbwyntio ar ffyrdd o gynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr o’u hopsiynau ailgylchu, gan gynnwys labelu cynnyrch yn glir a mwy o gyfathrebu yn y siop. Roedd awgrymiadau eraill yn cynnwys targedau casglu cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff gorfodol i’w gosod ar fanwerthwyr a gwerthwyr ar y rhyngrwyd.

Cwestiwn 49: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai Marchnadoedd Ar-lein a thai cyflawni gael rhwymedigaethau ‘cymryd yn ôl’ pan fyddant yn hwyluso cyflenwi’r cynnyrch i ddeiliad y tŷ?

Roedd 81% o’r ymatebwyr yn cytuno, gan ddadlau y dylai rhwymedigaethau a chostau cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff fod yr un fath ar draws gwahanol actorion, p’un a yw’r gwerthwr yn defnyddio sianeli dosbarthu ar-lein ai peidio. Roedd hyn yn cynnwys 91% o gynhyrchwyr, 89% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr a 71% o ddosbarthwyr.

Roedd 7% o’r ymatebwyr yn anghytuno a 12% arall yn ansicr, gan nodi bod angen gwneud mwy o waith i gadarnhau sut y byddai hyn yn gweithio’n ymarferol – heb ychwanegu costau sylweddol at gasglu a thrin cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff i gynhyrchwyr.

Pennod 3: rhwymedigaethau ar gyfer marchnadoedd ar-lein a thai cyflawni

Roedd yr adran hon o’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch dynodi marchnadoedd ar-lein fel categori newydd o gynhyrchydd, fel eu bod yn ariannol gyfrifol am y cyfarpar trydanol ac electronig a roddir ar y farchnad drwy eu platfformau pan ddaw’n wastraff.

Cwestiwn 53: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai fod yn ofynnol i Farchnadoedd Ar-lein gyflawni rhwymedigaethau’r cynhyrchydd ar ran eu gwerthwyr tramor?

Cafodd y cynnig hwn gefnogaeth unfrydol bron ar draws y diwydiant.

Roedd 100% o gwmnïau rheoli gwastraff, 92% o awdurdodau lleol, 98% o gynhyrchwyr a 90% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr yn cytuno â hyn, gan nodi bod llawer iawn o nwyddau trydanol yn cael eu rhoi ar y farchnad drwy farchnadoedd ar-lein a bod angen i ni sicrhau tegwch rhwng cynhyrchwyr sy’n gwerthu nwyddau trydanol drwy sianeli dosbarthu gwahanol.

Roedd 83% o ddosbarthwyr hefyd yn cytuno â’r cynnig hwn am yr un rhesymau.

Roedd 6% o’r ymatebwyr yn anghytuno â hyn ac roedd 7% arall yn ansicr.

Cwestiwn 55: A ydych yn cytuno neu’n anghytuno y dylai fod yn ofynnol i dai cyflawni fodloni rhwymedigaethau’r cynhyrchydd ar ran eu gwerthwyr tramor?

Roedd gan y cynnig hwn gefnogaeth eang ar draws y diwydiant gydag 84.5% o’r ymatebwyr yn cytuno. Roedd hyn yn cynnwys 93% o gynhyrchwyr, 78% o gynlluniau cydymffurfio cynhyrchwyr a 85.5% o ddosbarthwyr.

Roedd y rhan fwyaf yn dadlau bod tai cyflawni yn darparu swyddogaeth debyg i farchnadoedd ar-lein ac felly y dylent fod yn ddarostyngedig i’r un rhwymedigaethau.

Dim ond 6% o’r ymatebwyr oedd yn anghytuno â hyn ac roedd 9.5% arall yn ansicr. Ni roddodd y rhai a oedd yn anghytuno unrhyw sylwadau pellach.

Cwestiwn 57: A ydych yn cytuno y dylai Marchnadoedd Ar-lein a thai cyflawni allu defnyddio data pwysau amcangyfrifedig gan ddefnyddio protocol y cytunwyd arno gyda’r rheoleiddwyr amgylcheddol i ddechrau?

Roedd 29% o’r ymatebwyr yn cytuno â hyn, gan ddweud y dylid caniatáu data pwysau amcangyfrifedig am gyfnod cyfyngedig o leiaf, gan y gallai fod yn anoddach i farchnadoedd ar-lein a thai cyflawni gael mynediad at y data hwn. Roedd hyn yn cynnwys 67% o gwmnïau rheoli gwastraff.

Roedd 37% o’r ymatebwyr yn anghytuno â hyn, gan ddweud y dylent orfod defnyddio data manwl gywir, fel mathau eraill o gynhyrchwyr. Roedd llawer o’r rhai a anghytunodd yn gynhyrchwyr (81%) a oedd yn dadlau y dylent fod yn ddarostyngedig i’r un gofynion data â mathau eraill o gynhyrchwyr. Teimlwyd hefyd y dylai marchnadoedd ar-lein a thai cyflawni eisoes fod â mynediad hawdd i ddata manwl gywir.

Cwestiwn 59: Pa gostau ychwanegol fydd yn cronni i farchnadoedd ar-lein a thai cyflawni o ganlyniad i gael eu diffinio fel cynhyrchwyr?

Nododd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y byddai costau ychwanegol yn debyg i gostau cynhyrchwyr newydd sy’n gosod cyfarpar trydanol ac electronig ar y farchnad. Dywedwyd na fyddai’n rhaid iddynt gydymffurfio â rhannau o’r rheoliadau megis sicrhau bod cyfarpar trydanol ac electronig yn cael ei farcio â’r symbol bin ar olwynion wedi’i groesi allan.

Cwestiwn 61: Pa ffyrdd eraill, os o gwbl, y dylai’r llywodraeth eu hystyried i fynd i’r afael â’r broblem o werthwyr ar-lein nad ydynt yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff? 

Awgrymodd y rhai a ymatebodd fod angen mwy o gamau gorfodi i fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio ymhlith gwerthwyr ar-lein, gan gynnwys mwy o ddefnydd o sancsiynau sifil.

Pennod 4: Creu categori newydd o gyfarpar trydanol ar gyfer fêps

Roedd y rhan hon o’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch creu categori newydd o gyfarpar trydanol ar gyfer fêps. Byddai hyn yn sicrhau y byddai costau casglu a thrin fêps yn disgyn yn deg ar ysgwyddau’r rhai sy’n eu cynhyrchu.

Cwestiwn 65: A oes unrhyw fesurau eraill, y tu hwnt i’r rhai ar gyfer eco-fodiwleiddio a thaflu sbwriel a nodir yn yr alwad am dystiolaeth, yn eich barn chi, y dylai’r llywodraeth eu cymryd i leihau effaith fêps ar yr amgylchedd?

Roedd llawer o ymatebwyr, gan gynnwys cynhyrchwyr, cyfleusterau trin awdurdodedig cymeradwy , cwmnïau rheoli gwastraff ac awdurdodau lleol o blaid gwaharddiad ar fêps untro. Nodwyd hefyd fod angen mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr ynghylch sut i gael gwared ar eu fêps gwastraff yn briodol, yn ogystal â mwy o gamau gorfodi i atal defnyddwyr rhag taflu sbwriel.

Pennod 5: Llywodraethu’r cynllun

Roedd yr adran hon o’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau ynghylch sefydlu gweinyddwr cynllun newydd.

Cwestiwn 68: Os gwnaethoch anghytuno â chwestiwn 66, nodwch fanylion dull gweithredu amgen ar gyfer swyddogaethau arfaethedig Gweinyddwr y Cynllun.

Awgrymodd lleiafrif o’r ymatebwyr y dylai Gweinyddwr y Cynllun fod yn gorff cyhoeddus, yn gweithredu er budd y cyhoedd a thrwy seilwaith cynghorau lleol, gyda rhywfaint o gyfranogiad gan gynhyrchwyr.

Ni chynigiodd llawer o’r ymatebwyr ddewis amgen yn lle Gweinyddwr Cynllun, ond yn hytrach, pwysleisiwyd y dylai’r Cynllun fod yn atebol i’r llywodraeth a bod angen set glir o ddangosyddion perfformiad, y bydd yn cael ei werthuso yn eu herbyn.