Open consultation

Ymestyn Cap Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU y tu hwnt i 2030

Published 12 February 2025

Rhagair

Cynllun capio a masnachu yw Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS) y DU, sy’n gosod terfyn cyffredinol ar allyriadau ar gyfer y sectorau sy’n rhan o’r cynllun. Mae llwybr ar i lawr y cap yn sbarduno allyriadau yn y sectorau dan sylw i ostwng tuag at dargedau hinsawdd ar draws y DU.

Mae ETS y DU yn cael ei redeg ar y cyd gan Awdurdod ETS y DU, sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon.

Mae Cam I yr ETS yn rhedeg o 1 Ionawr 2021 tan 31 Rhagfyr 2030. Cafodd y llwybr hirdymor ar gyfer Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ei gyhoeddi ar 18 Rhagfyr 2023, gan nodi ymrwymiad parhaus yr Awdurdod i ddyfodol hirdymor ETS y DU. Roedd y llwybr hirdymor yn cyhoeddi bwriad yr Awdurdod, yn amodol ar ymgynghoriad, i barhau ag ETS y DU y tu hwnt i 2030, tan 2050 o leiaf.

Er mwyn sicrhau bod ETS y DU yn parhau i weithredu ar ôl 2030, mae’r Awdurdod yn gofyn am fewnbwn ar gynigion i ymestyn ETS y DU y tu hwnt i ddiwedd Cam I. Felly, mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y canlynol:

  • Ymestyn ETS y DU i ail gam, o 1 Ionawr 2031 ymlaen.
  • Hyd Cam II ar ôl 2030.
  • A ddylid caniatáu i lwfansau allyriadau (UKAs) gael eu bancio rhwng Cam I a Cham II y Cynllun ôl-2030.

Gwybodaeth Gyffredinol

Pam rydym yn ymgynghori

Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS) y DU yn gofyn am fewnbwn ar gynigion i ymestyn ETS y DU y tu hwnt i ddiwedd Cam I am hanner nos ar 31 Rhagfyr 2030. Mae hyn yn cyflawni’r ymrwymiad a wnaed ym mis Rhagfyr 2023 o fewn llwybr hirdymor Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU [footnote 1] i ymgynghori ar ymestyn y Cynllun. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig opsiynau ac yn ceisio barn ar y canlynol:

  • Ymestyn ETS y DU i ail gam, o 1 Ionawr 2031 ymlaen.
  • Hyd Cam II ar ôl 2030.
  • A ddylid caniatáu i lwfansau allyriadau (UKAs) gael eu bancio rhwng Cam I a Cham II y Cynllun ôl-2030.

Manylion yr ymgynghoriad

Cyhoeddwyd: 12 Chwefror 2025
Ymatebion erbyn: 9 Ebrill 2025

Ymholiadau i:

Emissions Trading
Department for Energy Security and Net Zero
3rd Floor
3-8 Whitehall Place
Llundain
SW1A 2EG

E-bost: emissions.trading@energysecurity.gov.uk

Cyfeirnod yr ymgynghoriad: Ymestyn Cap Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU y tu hwnt i 2030

Cynulleidfa: Disgwylir i’r ymgynghoriad hwn fod o ddiddordeb i gyrff anllywodraethol, academyddion a melinau trafod yn bennaf, yn ogystal â’r sectorau diwydiannol, ynni ac awyrennau sydd â rhwymedigaethau o dan ETS y DU. Nid yw’r ymgynghoriad hwn wedi’i gyfyngu i’r rhanddeiliaid hyn; mae croeso i unrhyw sefydliad neu unigolyn ymateb.

Rhychwant tiriogaethol: Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud ag ETS y DU sy’n gweithredu ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’n ymgynghoriad ar y cyd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon.

Sut i ymateb

Ar-lein yn:

energygovuk.citizenspace.com/energy-markets/extending-ukets-cap-beyond-2030

neu

Drwy anfon e-bost at: ukets.consultationresponses@energysecurity.gov.uk

Drwy ysgrifennu at:

Emissions Trading
Department for Energy Security and Net Zero
3rd Floor
3-8 Whitehall Place
London
SW1A 2EG

Pan fyddwch yn ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu’n cynrychioli safbwyntiau sefydliad.

Bydd eich ymateb yn ddefnyddiol iawn os byddwch yn ymateb yn uniongyrchol i’r cwestiynau a ofynnir, ond mae croeso ichi wneud sylwadau eraill a darparu tystiolaeth arall hefyd.

Cyfrinachedd a diogelu data

Gallai’r wybodaeth a ddarperir gennych pan fyddwch yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, gael ei datgelu yn unol â deddfwriaeth y DU (Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).

Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu rhannu ar draws yr Awdurdod.

Os hoffech i’r wybodaeth a ddarperir gennych gael ei thrin yn gyfrinachol, rhowch wybod inni, ond sylwch na allwn warantu cyfrinachedd ym mhob sefyllfa. Ni fyddwn yn ystyried ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG fel cais i drin eich gwybodaeth yn gyfrinachol.

Byddwn yn prosesu eich data personol yn unol â’r holl ddeddfau diogelu data perthnasol. Darllenwch ein polisi preifatrwydd.

Byddwn yn crynhoi’r holl ymatebion ac yn cyhoeddi’r crynodeb hwn ar GOV.UK. Bydd y crynodeb yn cynnwys rhestr o enwau’r sefydliadau sydd wedi ymateb, ond ni fydd yn cynnwys enwau personol, cyfeiriadau nac unrhyw fanylion cyswllt eraill.

Sicrhau ansawdd

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn yn unol ag egwyddorion ymgynghori’r llywodraeth. Os oes gennych unrhyw gwynion am y ffordd y cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn, anfonwch e-bost at bru@energysecurity.gov.uk.

Cyflwyniad

Mae’r Cynllun yn cael ei redeg ar y cyd gan Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU (‘yr Awdurdod’ o hyn ymlaen) sy’n cynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Amaethyddiaeth a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon (DAERA).

Ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddodd yr Awdurdod newidiadau sylweddol i gap y Cynllun ar gyfer 2024-2030 er mwyn iddo gyd-fynd â thargedau hinsawdd ar draws y DU, yn dilyn ymgynghoriad Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU [footnote 2]. Fodd bynnag, mae’r Awdurdod yn cydnabod y bydd angen camau gweithredu uchelgeisiol ar yr hinsawdd y tu hwnt i 2030, gan gynnwys yn y sector a fasnachir.

Ym mis Rhagfyr 2023, cyhoeddodd yr Awdurdod lwybr hirdymor ar gyfer y Cynllun ar ôl 2030, gan gadarnhau’r bwriad i ddeddfu i barhau â’r Cynllun tan o leiaf 2050, yn amodol ar ymgynghoriad. Gwnaethom ymrwymiad i sicrhau bod y Cynllun yn dal yn gyson â thrywydd sero net ac yn rhoi sicrwydd hirdymor i’r rheini sy’n cymryd rhan yn y Cynllun er mwyn cefnogi buddsoddiadau y mae mawr eu hangen ym maes datgarboneiddio.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar barhau â’r Cynllun ar ôl 2030, ac mae’n amlinellu proses yr Awdurdod ar gyfer gosod cap cam nesaf y Cynllun.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig opsiynau ac yn gofyn am farn ar y canlynol:

  • Ymestyn y Cynllun i ail gam o 1 Ionawr 2031 ymlaen.
  • Hyd Cam II ôl-2030.
  • A ddylid caniatáu bancio lwfansau allyriadau (UKAs) rhwng Cam I a Cham II.

Sero Net ar draws y DU

Mae datgarboneiddio yn rhan ganolog o bolisïau diwydiannol ar draws pedair gwlad y DU. Fel y nodir yn Neddf Newid Hinsawdd 2008, mae’r DU drwyddi draw wedi ymrwymo i’r targed cyfreithiol rwymol i leihau cyfrif carbon net y DU 100% o’i gymharu â gwaelodlin 1990 erbyn 2050 [footnote 3]. Gelwir hyn yn darged sero net. Ar sail hynny, mae Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i gyd yn targedu allyriadau sero net ar draws eu heconomïau erbyn 2050, ac mae’r Alban wedi gosod ei tharged ei hun [footnote 4] i gyrraedd sero net erbyn 2045.

O dan Adran 4 o’r Ddeddf Newid Hinsawdd [footnote 5], rhaid i Lywodraeth y DU osod a glynu wrth gyllidebau carbon pum mlynedd, sy’n cyfyngu ar gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer economi’r DU mewn cyfnod penodol o bum mlynedd. Mae’r cyllidebau carbon hyn yn lleihau allyriadau’r DU i sero net dros y cyfnod rhwng 2008 a 2050, a rhaid i bob cyllideb garbon bum mlynedd o hyd gael ei gosod 12 mlynedd ymlaen llaw.

Ar 17 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU adroddiad “Accelerating to Net Zero: Responding to the CCC Progress Report and delivering the Clean Energy Superpower Mission” [footnote 6]. Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r cyfleoedd i gyflymu tuag at sero net, gan gynnwys diogelu teuluoedd rhag siociau pris yn y dyfodol a mynd ati i greu cannoedd o filoedd o swyddi ar draws y wlad. Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn cyhoeddi Cynllun Cyflawni diwygiedig y Gyllideb Garbon erbyn mis Mai 2025, ac yn gosod Cyllideb Garbon 7 (2038-2042) erbyn y terfyn amser statudol – sef 30 Mehefin 2026 – gan nodi’r llwybr datgarboneiddio hirdymor ar gyfer economi’r DU.

Yn yr Alban, yn dilyn newidiadau a wnaed gan Ddeddf Newid Hinsawdd (Targedau Lleihau Allyriadau) (Yr Alban) 2024, mae Llywodraeth yr Alban yn gweithredu fframwaith targedau cyllideb garbon i osod trywydd tuag at allyriadau sero net erbyn 2045. Mae holl dargedau’r Alban yn cynnwys cyfran deg o allyriadau o weithgarwch hedfan a morgludiant rhyngwladol. Bydd lefelau’r gyllideb garbon yn cael eu gosod gan is-ddeddfwriaeth ar ôl i Lywodraeth yr Alban gael cyngor diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Ar ôl i’r cyllidebau carbon gael eu gosod, bydd fersiwn ddrafft gyfredol o’r Cynllun Newid Hinsawdd yn cael ei chyhoeddi, a fydd yn cynnwys y cyfnod hyd at 2040.

Deddfodd Senedd Cymru ar y targed sero net ar gyfer 2050 ym mis Mawrth 2021 (Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021) [footnote 7], yn dilyn cyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd i Weinidogion Cymru ym mis Rhagfyr 2020. Mae targedau interim ar gyfer 2030 (63% o ostyngiad) a 2040 (89% o ostyngiad) hefyd wedi cael eu gosod mewn deddfwriaeth (Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018, fel y’u diwygiwyd) yn ogystal â chyfnodau cyllidebau carbon, gan gynnwys Cyllideb Garbon 2 (37% o ostyngiad ar gyfartaledd, 2021-25) a Chyllideb Garbon 3 (58% o ostyngiad ar gyfartaledd, 2026-30) (Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018, fel y’u diwygiwyd). Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 (2021 i 2025) ar 28 Hydref 2021 [footnote 8]. Mae Cymru Sero Net yn canolbwyntio ar gyflawni ail gyllideb garbon Cymru, ac mae hefyd yn edrych ymhellach na hynny i ddechrau adeiladu’r sylfeini ar gyfer Cyllideb Garbon 3 a tharged 2030, yn ogystal â sero net erbyn 2050 [footnote 9].

Cafodd Deddf Newid Hinsawdd (Gogledd Iwerddon) 2022 (Deddf) [footnote 10] Gydsyniad Brenhinol ar 6 Mehefin 2022. Mae’n gosod targed i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o leiaf 100% erbyn 2050, a tharged interim i leihau allyriadau net o leiaf 48% erbyn 2030. Ym mis Rhagfyr 2024, deddfodd Cynulliad Gogledd Iwerddon ar y tair Cyllideb Garbon gyntaf ar gyfer Gogledd Iwerddon yn unol â chyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Yn ogystal â Tharged 2030 cytunwyd ar Darged statudol newydd ar gyfer 2040, sef lleihau allyriadau net 77%. Mae hyn yn ailddatgan ymrwymiad Gogledd Iwerddon i lwybr sero net. Bydd y Cyllidebau Carbon yn cael eu cyflawni drwy gyfres o Gynlluniau Gweithredu ar yr Hinsawdd (CAP). Bydd y Cynlluniau hynny’n amlinellu dull y llywodraeth o weithredu ar y cyd i leihau allyriadau fel y mae’n ofynnol i bob sector ei wneud er mwyn cyflawni cyllideb garbon gyntaf Gogledd Iwerddon a chyrraedd targedau mwy hirdymor ar gyfer lleihau allyriadau. Ar ben hynny, mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi datblygu Strategaeth Twf Gwyrdd ddrafft sy’n cwmpasu sawl degawd. Mae’r Strategaeth yn amlinellu gweledigaeth hirdymor i fynd i’r afael â’r her hinsawdd drwy gael cydbwysedd rhwng yr amgylchedd a’r economi yng nghyswllt gweithredu ar yr hinsawdd, a hynny mewn ffordd sydd o fudd i holl boblogaeth Gogledd Iwerddon [footnote 11]. Lansiwyd Strategaeth Ynni Gogledd Iwerddon ym mis Rhagfyr 2021 [footnote 12], cyn cyhoeddi Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Ynni ym mis Ionawr 2022 sy’n nodi’r camau y bydd llywodraeth ganolog a phartneriaid cyflawni yn eu cymryd tuag at leihau allyriadau ynni 56% erbyn 2030, ar y llwybr i gyflawni gweledigaeth 2050 o garbon sero net ac ynni fforddiadwy [footnote 13]. Mae Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Ynni yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol, gyda’r rhifyn diweddaraf yn cael ei gyhoeddi ar 28 Mawrth 2024 [footnote 14].

Masnachu Allyriadau’r DU a Chap Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Daeth Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i rym ar 1 Ionawr 2021, gan roi prisiau carbon wrth galon dull economi gyfan o ddatgarboneiddio. Mae’n allweddol er mwyn datblygu economi wedi’i datgarboneiddio ar draws y DU, gan bontio’n effeithlon o safbwynt economaidd i sero net, a dangos arweiniad y DU ar brisiau carbon. Mae’r busnesau sy’n dod o dan y Cynllun yn cael sicrwydd a hyblygrwydd sy’n eu galluogi i benderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol o ddatgarboneiddio am y gost isaf, sy’n cymell datgarboneiddio ac arloesi gwyrdd.

Cynllun capio a masnachu yw’r Cynllun hwn, sy’n gosod terfyn ar gyfanswm yr allyriadau (y cap) ac yn creu marchnad ar gyfer lwfansau. Mae trywydd am i lawr y cap yn sbarduno’r sectorau dan sylw i leihau allyriadau mewn modd sy’n arwain at dargedau uchelgeisiol ar yr hinsawdd. Y farchnad sy’n pennu pris lwfansau, ac mae’n galluogi’r rheini sy’n cymryd rhan yn y Cynllun i ddatgarboneiddio lle mae modd gwneud hynny am y gost rataf. [footnote 15]

Ers lansio’r Cynllun yn 2021, mae’r Awdurdod wedi gweithio i ddatblygu ac ehangu’r Cynllun yn unol ag ymrwymiadau sero net ar draws y DU a’r ymgyrch hirdymor tuag at economi wedi’i datgarboneiddio. Ym mis Gorffennaf 2023, roedd ymateb yr Awdurdod i ymgynghoriad ‘Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU’ yn cadarnhau’r penderfyniad i osod cap sy’n gyson â sero net ar gyfer y Cynllun [footnote 16]. Gosododd yr Awdurdod y cap ar frig yr ystod sy’n gyson â sero net, gan hwyluso’r broses o bontio i’r cap newydd hwn drwy sicrhau bod lwfansau a oedd heb eu dyrannu o’r blaen o’r cap ar gyfer diwydiant yn cael eu rhyddhau i arwerthiannau. Roedd hynny’n sicrhau bod y Cynllun yn parhau i sbarduno datgarboneiddio uchelgeisiol yn y sectorau dan sylw, gan roi amser i’r farchnad a’r cyfranogwyr addasu.

Lansiodd yr Awdurdod ragor o ymgyngoriadau ar bolisi marchnadoedd y dyfodol [footnote 17] a dyraniadau am ddim [footnote 18] ym mis Rhagfyr 2023. Ym mis Mai 2024, bu’r Awdurdod yn ymgynghori ar sut i integreiddio ynni o wastraff a llosgi gwastraff [footnote 19], yn ogystal â chynnwys yn y Cynllun [footnote 20] ddulliau wedi’u peiriannu i echdynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer. Gofynnodd hefyd am farn ar gynnwys dulliau ar sail natur i echdynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer. Yn dilyn hynny cafwyd ymgyngoriadau pellach ym mis Tachwedd 2024 ar ddulliau domestig o gludo CO2 ar y môr a chludo CO2 heb biblinell.

Roedd cam cyntaf adroddiad gwerthuso yr Awdurdod ar y Cynllun yn tynnu sylw at rôl hollbwysig y Cynllun o ran cefnogi datgarboneiddio, gan bwysleisio ar yr un pryd bwysigrwydd sicrwydd hirdymor i gyfranogwyr [footnote 21]. Cafodd y llwybr hirdymor ar gyfer y Cynllun [footnote 22] ei gyhoeddi ar 18 Rhagfyr 2023, ac roedd yn amlinellu ymrwymiad parhaus yr Awdurdod i ddyfodol hirdymor y Cynllun. Roedd y llwybr hirdymor yn datgan bwriad yr Awdurdod, yn amodol ar ymgynghoriad, i barhau â’r Cynllun y tu hwnt i 2030 tan o leiaf 2050.

1. Ymestyn Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU

Cyd-destun

Ar hyn o bryd mae Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 yn gwneud darpariaeth i Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU fod yn weithredol tan ddiwedd y cyfnod masnachu presennol (a ddechreuodd ar 1 Ionawr 2021, gan ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2030). Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn galw hyn yn Gam I. Mae’r Awdurdod yn bwriadu i’r Cynllun fod yn gonglfaen i’r broses ddatgarboneiddio dros y degawdau nesaf. I sicrhau bod y Cynllun yn parhau i weithredu ar ôl 2030, byddai angen gwneud darpariaeth ar gyfer Cam II ar ôl 2030 mewn deddfwriaeth.

Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar ôl 2030

Bydd deddfu i ymestyn Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU o 2031 ymlaen yn sicrhau bod y rheini sy’n cymryd rhan yn y Cynllun yn dal yn rhwym wrth eu rhwymedigaethau cydymffurfio, bod allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n dod o dan y Cynllun yn dal i gael eu capio, a bod modd parhau i fasnachu lwfansau allyriadau. Bydd hyn yn cynnal y cymhelliant i’r sectorau dan sylw ddatgarboneiddio eu gweithrediadau drwy fuddsoddi mewn technolegau cynaliadwy.

Ar sail hynny mae’r Awdurdod yn gryf o blaid deddfu – pan fydd amser Senedd y DU yn caniatáu – ar gyfer Cam II y Cynllun sy’n parhau i weithredu’r Cynllun o 1 Ionawr 2031 ymlaen, fel yr amlinellir yn nogfen llwybr hirdymor y Cynllun a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2023 [footnote 23]. Bydd hyn yn sicrhau y gall y Cynllun barhau i gyflawni ei rôl allweddol i sbarduno proses ddatgarboneiddio sy’n effeithlon o safbwynt economaidd, a chyrraedd targedau sero net cyfreithiol rwymol ar draws y DU.

Bydd ymestyn y Cynllun y tu hwnt i 2030 yn galluogi’r Awdurdod i barhau i gyflawni ei ymrwymiadau ar ymestyn cwmpas y Cynllun, gan ddatblygu dyluniad y Cynllun ymhellach i sicrhau proses ddatgarboneiddio uchelgeisiol a chosteffeithiol. Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, bydd yr Awdurdod wedyn yn ymgynghori ar fanylion proffil cap manwl ar gyfer Cam II (gweler yr adran amserlenni ar ddiwedd y ddogfen hon).

Cwestiynau:

C.1.1) Ydych chi’n cytuno â bwriad yr Awdurdod i gynnig, fel y cyflwynwyd uchod, y dylid ymestyn Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i Gam II a fydd yn dilyn Cam I yn syth?

(O/N) Eglurwch eich ateb os gwelwch yn dda.

2. Hyd y cam ar ôl 2030 (Cam II)

Cyd-destun

Mae systemau masnachu allyriadau yn gweithredu ar sail cyfres o gamau fel arfer. Mae cam yn golygu cyfnod o amser, a ddiffiniwyd yn y ddeddfwriaeth. Bydd y cap ar allyriadau yn cael ei osod dros y cyfnod hwnnw, a bydd fframwaith cyffredinol y Cynllun yn aros yr un fath i raddau drwy gydol y cyfnod. Mae trefnu gweithrediad y Cynllun yn gamau wedi’u rhagddiffinio yn rhoi sicrwydd y mae mawr ei angen ar y farchnad, ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu dyluniad y Cynllun. Mae hyd y cam yn pennu’r arwydd hirdymor i’r farchnad ddatgarboneiddio.

Hyd y Cam a Masnachu Allyriadau

Mae Cam I Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU ar waith o 2021 i 2030, sydd yr un fath â hyd Cam IV System Masnachu Allyriadau yr UE. Fodd bynnag, nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn gwneud darpariaeth ar gyfer Cam II y Cynllun ar ôl 2030. Mae gosod hyd cam ar ôl 2030 yn gyfle i barhau i sicrhau bod hyd camau’r Cynllun yn adlewyrchu uchelgais a blaenoriaethau hirdymor y Cynllun yn briodol.

Mae sicrwydd hirdymor ynghylch y cap yn sicrhau bod y sectorau dan sylw yn cael arwydd clir i ddatgarboneiddio, ac mae’n golygu ei bod yn haws i fusnesau sy’n dod o dan y Cynllun greu cynlluniau hirdymor mwy effeithiol i leihau allyriadau. Ond, po bellaf i’r dyfodol y gosodir y cap, y mwyaf yw’r ansicrwydd ynghylch technolegau datgarboneiddio a’r costau sy’n gysylltiedig â nhw. Mae hyn yn golygu bod mwy o ansicrwydd yn gysylltiedig ag allbynnau model llwybr allyriadau sy’n hwyluso’r broses o wneud penderfyniadau ar drywydd y cap.

Byddai angen i hyd Cam II roi’r cydbwysedd cywir rhwng y canlynol:

  • Eglurder i gyfranogwyr ar y cap hirdymor ac ar uchelgais y Cynllun.
  • Lefel ein sicrwydd wrth ddarogan trywydd allyriadau ar gyfer sectorau’r Cynllun drwy gydol y cam.
  • Yr hyblygrwydd i addasu dyluniad y Cynllun i sicrhau ei fod yn dal i weithredu’n effeithiol.

Hyd y Cam: Opsiynau

Mae cylch cydymffurfio’r Cynllun yn gylch blynyddol ac, o’r herwydd, mae hyd cam wedi’i gyfyngu’n weithredol i gynyddu ar sail blwyddyn. Felly, mewn theori, gellid gosod Cam II i ddod i ben ar 31 Rhagfyr mewn unrhyw flwyddyn ddilynol hyd at 2050. Fodd bynnag, mae’r Awdurdod wedi nodi’r hyd lleiaf posibl a’r hyd mwyaf posibl ar gyfer y cam.

Yn hollbwysig, dangosodd yr ymatebion i werthusiad 2023 y Cynllun bwysigrwydd sicrwydd hirdymor yn y Cynllun, wrth ystyried y cynlluniau buddsoddi hirdymor y mae angen eu gwneud ar gyfer ymyriadau lleihau ar raddfa fawr [footnote 24]. Mae’r Awdurdod wedi rhoi cyd-destun hirdymor ar gyfer y Cynllun drwy ymrwymo i ymestyn y Cynllun tan o leiaf 2050, yn amodol ar ymgynghoriad [footnote 25].

Byddai Cam II byrrach o 1-6 blynedd yn golygu, mewn theori, bod cyfleoedd amlach i wneud newidiadau sylweddol i gap y Cynllun yn ystod y 2030au. Ond, byddai’r cam byrrach hwn yn rhoi sicrwydd cyfyngedig iawn i’r rheini sy’n rhan o’r marchnadoedd sylfaenol ac eilaidd, ac yn yr un modd, byddai’n rhoi arwydd gwannach i’r sectorau dan sylw i ddatgarboneiddio. Gan fod yr arwydd hwn i ddatgarboneiddio yn allweddol i weithrediad y Cynllun, rydym yn argymell y dylai Cam II y Cynllun ymestyn tan ddiwedd 2037 o leiaf (diwedd Cyllideb Garbon 6).

Bydd amseroedd arwain buddsoddiadau datgarboneiddio yn amrywio rhwng sectorau a busnesau unigol, ond byddai cyfnod byrraf o 7 mlynedd o leiaf ar gyfer cam yn hwyluso ystod ehangach o fuddsoddiadau datgarboneiddio ar draws y sectorau dan sylw, fel ynni, hedfanaeth a diwydiant trwm (gweler Ffig. 1 isod).

Ffigur 1: Amserlenni Adeiladu a Chynllunio fesul Sector

Mae Ffigur 1 yn dangos brasamcan o amserlenni cyn-datblygu, adeiladu a gweithredu y prif opsiynau o ran buddsoddiadau datgarboneiddio ar gyfer y tri phrif sector sy’n dod o dan y Cynllun. Mae’r graff hwn yn dangos bod gorwelion amser buddsoddiadau datgarboneiddio yn rhai hir iawn [footnote 26]. Mae hyn yn dangos manteision posibl cyfnodau hirach ar gyfer camau, o ran gwelededd a sicrwydd, ond mae angen cydbwyso hyn â’r sicrwydd y gallwn ei ddefnyddio wrth fodelu llwybrau allyriadau hirdymor, fel y nodwyd uchod.

Fel y nodwyd ar dudalen X, rhaid i Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon osod a glynu wrth dargedau allyriadau. Gan fod y Cynllun yn bolisi ar draws y DU, yn y gorffennol mae’r cap wedi cael ei osod yn unol â Strategaeth Sero Net y DU i sicrhau cysondeb polisi ar draws y DU. Yn unol â hynny, mae ein hargymhellion yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng hyd posibl cam a Chyllidebau Carbon ar draws y DU.

Mae polisïau a phrosesau penodol i helpu i ddilyn trywydd datgarboneiddio sectoraidd y DU wedi’u hamlinellu ar gyfer cyfnod pob cyllideb garbon. Os bydd hyd Cam II yn ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod a osodwyd ar gyfer Cyllidebau Carbon, byddai angen i drywydd y cap gael ei osod y tu hwnt i’r cyfnod a ddiffinnir ar gyfer y polisïau a’r prosesau hyn mewn cyllidebau carbon a chynlluniau cyflawni. O’r herwydd, rydym yn argymell na ddylai Cam II y Cynllun ymestyn y tu hwnt i’r flwyddyn olaf a ddiffiniwyd ar gyfer Cyllidebau Carbon ar draws y DU (ar adeg gosod y cap). Gan ein bod, ar hyn o bryd, yn bwriadu ymgynghori ar broffil cap Cam II yn dilyn cyhoeddi Cyllideb Garbon 7, y flwyddyn olaf fyddai 2042. Felly, y cyfnod hiraf ar gyfer cam fyddai 12 mlynedd. Byddai hyn yn sicrhau bod y trywydd datgarboneiddio y mae’n rhaid i’r sectorau dan sylw ei ddilyn (fel y pennwyd gan gap Cam II) yn seiliedig ar y polisïau a’r prosesau angenrheidiol i helpu’r sectorau dan sylw i leihau allyriadau.

Rydym ni’n cynnig tri opsiwn ar gyfer hyd cam, sydd o fewn y terfynau byrraf a hiraf hyn. Rydym yn amlinellu’r opsiynau hyn isod. Rydym yn croesawu safbwyntiau ynghylch rhinweddau cymharol pob opsiwn, ac a oes opsiynau eraill y dylid eu hystyried. Nid ydym yn bwriadu argymell un opsiwn penodol ar hyn o bryd.

O fewn yr opsiynau hyn, gallai’r Awdurdod geisio cysoni hyd cam y Cynllun yn agosach ag amserlen 5 mlynedd cyllidebau carbon ar draws y DU (drwy gamau 7 mlynedd neu 12 mlynedd o hyd). Neu gallai’r Awdurdod barhau â’r hyd a ddefnyddiwyd yng Ngham I, sef 10 mlynedd, gan roi parhad i gyfranogwyr.

Opsiwn 1 – 2031-2037, cysoni â Chyllidebau Carbon ar draws y DU tan ddiwedd Cyllideb Garbon 6 (cam 7 mlynedd)

Gellid gosod Cam II y Cynllun i gynnwys y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2031 a 31 Rhagfyr 2037. Byddai hyn yn golygu gwyro oddi wrth yr hyd o 10 mlynedd a ddefnyddiwyd yng Ngham I, gan gysoni diwedd Cam II â diwedd Cyllideb Garbon 6 a sicrhau bod cylch cam y Cynllun yn fwy cyson â chylch 5 mlynedd Cyllidebau Carbon ar draws y DU.

Byddai hyn yn rhoi llai o sicrwydd hirdymor i gyfranogwyr na’r hyd o 10 mlynedd a ddefnyddir ar hyn o bryd. Ond, gellid darogan llwybrau allyriadau ar gyfer sectorau’r Cynllun gyda mwy o sicrwydd dros gam 7 mlynedd o hyd, wrth gymharu â cham 10 neu 12 mlynedd.

Yn amodol ar ymgyngoriadau yn nes ymlaen ar ddyfodol y Cynllun, gallai’r camau dilynol (o Gam III ymlaen) fod yn rhai 5 mlynedd yr un, er mwyn bod yn gwbl gyson â’r cylch Cyllidebau Carbon.

Opsiwn 2 – 2031-2040, parhau â chamau 10 mlynedd

Gellid gosod Cam II y Cynllun i gynnwys y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2031 a 31 Rhagfyr 2040.

Byddai Cam II 10 mlynedd o hyd yn amlinellu trywydd y cap am gyfnod hirach na cham 7 mlynedd, gan roi mwy o sicrwydd i randdeiliaid. Ond byddai lefel y sicrwydd sy’n gysylltiedig ag allbynnau model llwybr allyriadau, i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau, ychydig yn llai ym mlynyddoedd olaf cam 10 mlynedd wrth gymharu â cham 7 mlynedd.

Byddai Cam II 10 mlynedd o hyd yn gyson â’r hyn a wnaed yng Ngham I y Cynllun.

Opsiwn 3 – 2031-2042, cysoni â Chyllidebau Carbon ar draws y DU tan ddiwedd Cyllideb Garbon 7 (cam 12 mlynedd)

Gellid hefyd gosod Cam II y Cynllun i gynnwys y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2031 a 31 Rhagfyr 2042.

Yn yr un modd â cham 7 mlynedd, byddai hyn yn golygu gwyro oddi wrth yr hyd o 10 mlynedd a ddefnyddiwyd yng Ngham I. Byddai cam o 12 mlynedd yn golygu bod diwedd Cam II yn gyson â diwedd Cyllideb Garbon 7, ac yn golygu bod cylch cam y Cynllun yn fwy cyson â chylch 5 mlynedd Cyllidebau Carbon.

Byddai Cam II 12 mlynedd o hyd yn amlinellu trywydd y cap am gyfnod hirach na cham 7 neu 10 mlynedd, gan roi mwy o sicrwydd i randdeiliaid. Yn yr un modd, byddai lefel y sicrwydd sy’n gysylltiedig ag allbynnau model llwybr allyriadau, i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau, ychydig yn llai dros gam 12 mlynedd wrth gymharu â cham 7 mlynedd neu 10 mlynedd.

Cwestiynau:

C.2.1) Ydych chi’n ffafrio un opsiwn yn fwy na’r llall ar gyfer hyd cam ar ôl 2030? (O/N) Eglurwch eich ateb os gwelwch yn dda.

C.2.2) Ar wahân i’r opsiynau a amlinellwyd uchod, a oes hyd posibl arall y dylid ei ystyried ar gyfer hyd Cam II?

(O/N) Eglurwch eich ateb os gwelwch yn dda.

3. Bancio UKAs Rhwng Camau

Cyd-destun

Mae bancio’n cyfeirio at yr arfer o brynu lwfans mewn blwyddyn benodol cyn ei ildio mewn blynyddoedd dilynol. Mae hynny’n cael ei ganiatáu yng Ngham I y Cynllun. Mae hyn yn sicrhau bod modd lleihau allyriadau am y gost isaf, drwy helpu cyfranogwyr i gyflawni eu rhwymedigaethau prynu ac ildio o dan y Cynllun gan fynd ati ar yr un pryd i ddatgarboneiddio eu gweithrediadau ar yr adeg rataf.

Yn yr un modd, mae bancio rhwng camau yn cyfeirio at yr arfer o ddal lwfansau a brynwyd yn ystod un o Gamau penodol y Cynllun, cyn eu hildio neu eu masnachu mewn cam dilynol. Mae bancio lwfansau rhwng camau yn rhan o’r mwyafrif o gynlluniau aeddfed ar gyfer masnachu allyriadau, gan gynnwys y broses o bontio rhwng Cam III (2013-2020) a Cham IV (2021-2030) System Masnachu Allyriadau yr UE.

Mae bancio rhwng camau yn rhoi mwy o hyblygrwydd i gyfranogwyr gynllunio ar gyfer amgylchiadau economaidd annisgwyl neu ddatblygiadau technolegol, ac i ddatgarboneiddio ar yr adeg fwyaf costeffeithiol, beth bynnag fo hyd y camau. Mae hyn yn meithrin cadernid yn y sectorau sy’n rhan o’r Cynllun ac o fewn marchnad y Cynllun.

Mae bancio rhwng camau hefyd yn galluogi’r rheini sy’n rhan o’r farchnad i wneud penderfyniadau ar sail amserlen hirach, gan greu cymhelliant i ddefnyddio opsiynau mwy hirdymor ar gyfer lleihau allyriadau. Drwy gynorthwyo cyfranogwyr i wneud cynlluniau mwy hirdymor, mae bancio rhwng camau hefyd yn rhoi cyfle i ymddygiad y farchnad bennu’n fwy effeithiol bris priodol ar gyfer allyriadau.

Masnachu Allyriadau a Bancio Rhwng Camau

Byddai bancio rhwng camau yn ymestyn darpariaethau hyblygrwydd presennol y Cynllun drwy alluogi cyfranogwyr i drosglwyddo lwfansau o gam blaenorol i’w hildio mewn cam yn y dyfodol. Byddai cap ar gyfanswm yr allyriadau o hyd, ac ar yr un pryd byddai busnesau sy’n dod o dan y Cynllun yn gallu cynllunio’n fwy effeithiol yn ystod Cam I i gyflawni eu rhwymedigaethau cydymffurfio yng Ngham II, ac felly’n gallu manteisio ar opsiynau mwy hirdymor i leihau allyriadau.

Os nad yw cyfranogwyr yn gallu trosglwyddo lwfansau rhwng Cam I a Cham II, byddai’r UKAs a brynwyd yn ystod Cam I yn colli eu gwerth ar ôl 31 Rhagfyr 2030, gan na fyddai modd eu defnyddio i fodloni rhwymedigaethau cydymffurfio yn ystod Cam II. Byddai hyn, yn ei dro, yn cyfyngu ar allu cyfranogwyr i gynllunio ar gyfer amrywiadau yn y farchnad a datblygiadau technolegol yn eu cylchoedd cynllunio eu hunain.

Gallai bancio rhwng camau arwain at fwy o allyriadau yn ystod Cam II, gan y byddai cyfranogwyr yn gallu bancio lwfansau Cam I i’w hildio yn ystod Cam II cyn y targedau mwy heriol a ddisgwylir ar gyfer lleihau allyriadau yn ystod y 2030au a dechrau’r 2040au. Ond, yn ymarferol, bydd y cap yn tynhau’n sylweddol yn ystod Cam I, gan gyfyngu ar y lwfansau y gellid eu trosglwyddo rhwng camau. Bydd ymgynghoriad ail gam arfaethedig ar drywydd manwl y cap hefyd yn galluogi’r Awdurdod i liniaru’r risgiau gweddilliol ymhellach drwy ystyried bancio rhwng camau wrth osod cap Cam II.

Yn hollbwysig, byddai peidio â chaniatáu bancio rhwng camau yn tanseilio’n sylweddol fanteision y Cynllun, ac yn creu risgiau sylweddol i sefydlogrwydd marchnadoedd o fewn y Cynllun (gweler yr astudiaeth achos isod). Byddai peidio â chaniatáu bancio rhwng camau hefyd yn gallu creu cymhelliant i gynyddu allyriadau ar ddiwedd y 2020au, gan y gallai cyfranogwyr gynyddu allyriadau ar ddiwedd y 2020au ac yn y 2030 er mwyn defnyddio eu lwfansau Cam I cyn iddynt fynd yn annilys. Byddai hyn yn cynyddu risgiau o ran cyflawni targedau interim ar gyfer sero net ar draws y DU.

Astudiaeth Achos

Ni chaniatawyd bancio rhwng camau yn ystod y cyfnod pontio rhwng Cam I a Cham II System Masnachu Allyriadau yr UE. O ganlyniad, bu gostyngiad dramatig ym mhris marchnad lwfansau allyriadau yr UE (EUAs) ar ddiwedd Cam I, gyda’r disgwyliad y byddai EUAs Cam I yn colli eu gwerth yn fuan iawn ar ôl hynny (gweler Ffigur 2, isod). Cynyddodd pris EUA eto yn gyflym yn ystod rhan gynnar Cam II, gan fod cyfranogwyr yn gallu prynu lwfansau Cam II ar gyfer eu rhwymedigaethau prynu ac ildio. Mewn camau dilynol, mae System Masnachu Allyriadau yr UE wedi llwyddo i fynd i’r afael â’r risg hon o sioc pris drwy ganiatáu bancio rhwng camau.

Ffigurr 2. Newidiadau ym mhrisiau EUA dros y cyfnod pontio rhwng Cam I a Cham II System Masnachu Allyriadau yr UE.

Ffynonellau Data: ICE Connect

Ar sail hynny, rydym yn gryf o blaid caniatáu bancio lwfansau rhwng Cam I a Cham II y Cynllun. Byddai hyn yn cynnal manteision y Cynllun, gan sicrhau bod gan gyfranogwyr yr hyblygrwydd i fanteisio ar opsiynau mwy hirdymor ar gyfer lleihau allyriadau, i gynllunio’n effeithiol yn ystod Cam I i gyflawni eu rhwymedigaethau cydymffurfio yng Ngham II, ac i ddatgarboneiddio eu gweithrediadau am y gost isaf. Bydd yr Awdurdod yn parhau i fonitro’r effaith ar dargedau allyriadau’r DU, ac yn ystyried wrth osod cap Cam II a oes tystiolaeth o risgiau i’r gyllideb garbon wrth fancio.

Cwestiynau:

C.3.1) Ydych chi’n cytuno â bwriad yr Awdurdod i ganiatáu bancio lwfansau rhwng camau’r Cynllun?

(O/N) Eglurwch eich ateb os gwelwch yn dda.

Cwestiynau ymgynghori

C.1.1) Ydych chi’n cytuno â bwriad yr Awdurdod i gynnig, fel y cyflwynwyd uchod, y dylid ymestyn Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU i Gam II a fydd yn dilyn Cam I yn syth?

(O/N) Eglurwch eich ateb os gwelwch yn dda

C.2.1) Ydych chi’n ffafrio un opsiwn yn fwy na’r llall ar gyfer hyd cam ar ôl 2030?

(O/N) Eglurwch eich ateb os gwelwch yn dda.

C.2.2) Ar wahân i’r opsiynau a amlinellwyd uchod, a oes hyd posibl arall y dylid ei ystyried ar gyfer hyd Cam II?

(O/N) Eglurwch eich ateb os gwelwch yn dda.

C.3.1) Ydych chi’n cytuno â bwriad yr Awdurdod i ganiatáu bancio lwfansau rhwng camau’r Cynllun?

(O/N) Eglurwch eich ateb os gwelwch yn dda.

4. Amserlenni Cyhoeddiadau yn y Dyfodol ar Gam II

Mae cael safbwyntiau polisi pendant yn bwysig iawn i gyfranogwyr er mwyn gallu gwneud cynlluniau a phenderfyniadau buddsoddi, ac felly rydym yn bwriadu darparu ymateb yr Awdurdod i’r ymgynghoriad hwn erbyn diwedd 2025. Rydym yn cydnabod bod cwestiynau polisi pwysig i’w hateb y tu hwnt i gynigion yr ymgynghoriad hwn ar gyfer sylfeini Cam II y Cynllun. Yn amodol ar yr ymateb i’r ymgynghoriad hwn, byddem yn ceisio ymgynghori ar broffil y cap ar ôl 2030 cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi sylw i’r angen i roi sicrwydd ac arwydd hirdymor o ddatgarboneiddio i gyfranogwyr.

Byddai angen i’r gwaith ymgynghori ar drywydd cap arfaethedig y tu hwnt i 2030 gael ei gyd-drefnu â chynlluniau datgarboneiddio traws-economi ar draws y pedair gwlad. Bydd yn bwysig ystyried Cyllidebau Carbon a Strategaeth Sero Net y DU wrth osod y cap ar ôl 2030 gan fod y cap yn berthnasol i’r DU drwyddi draw, ac wrth gofio eu rôl yn y broses o osod cap Cam I. O ystyried y gwahanol hyd ar gyfer camau a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad hwn, efallai y bydd y cyfnod y byddwn yn ei osod ar gyfer y cap ar ôl 2030 yn gorgyffwrdd â Chyllideb Garbon 7 y DU (2038-2042). Y dyddiad cau statudol ar gyfer gosod Cyllideb Garbon 7 yw 30 Mehefin 2026.

Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, byddem yn ceisio ymgynghori ar broffil y cap ar ôl 2030 ar yr un pryd ag y bydd Cyllideb Garbon 7 yn cael ei chyhoeddi, neu’n fuan ar ôl hynny. Byddai hyn yn ein galluogi i ystyried yn ein cynigion drywydd y sector a fasnachir a ddefnyddiwyd wrth osod Cyllideb Garbon 7. Yn achos cam saith mlynedd o hyd, byddem yn ymgynghori cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl ar ôl yr ymateb i’r cam cyntaf. Byddem yn ceisio darparu ymateb gan yr Awdurdod o fewn 12 mis i’r ymgynghoriad ail gam hwn ac, yn amodol ar ymgynghoriad, yn deddfu ar gyfer unrhyw benderfyniadau cyn gynted ag y bydd amser Senedd y DU yn caniatáu, ar ôl yr ymateb hwnnw gan yr Awdurdod. Byddem hefyd yn ymgynghori ar agweddau eraill ar ddyluniad cynllun Cam II pan fydd angen ar ôl yr ymgynghoriad ar y cap, ond ddigon ymlaen llaw cyn dechrau Cam II arfaethedig ar 1 Ionawr 2031 er mwyn rhoi’r sicrwydd angenrheidiol i gyfranogwyr.

Fel rhan o’r ymgyngoriadau yn y dyfodol ac ymatebion y llywodraeth ar Gam II y Cynllun, byddwn yn ceisio cynnwys dadansoddiad ychwanegol i gefnogi ymatebion i’r ymgyngoriadau a phenderfyniad terfynol ar gap Cam II y Cynllun. Ar gyfer ymgynghoriad ail gam i amlinellu’r opsiynau rydym yn eu hystyried ar gyfer y cap, byddem yn ceisio cynnwys atodiad dadansoddol ar wahân i egluro pa gapiau rydym yn eu hystyried a’r effeithiau sy’n dod i’r amlwg yn sgil y trywyddau hynny. Ar gyfer ymateb terfynol y llywodraeth ar gap y Cynllun, byddem yn cynnal asesiad effaith i amlinellu manteision yr opsiwn a ddewiswyd o’i gymharu â’r rhestr fer o opsiynau a ystyriwyd.

  1. https://www.gov.uk/government/publications/uk-emissions-trading-scheme-long-term-pathway 

  2. https://www.gov.uk/government/consultations/developing-the-uk-emissions-trading-scheme-uk-ets 

  3. https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2008/27/contents 

  4. https://www.legislation.gov.uk/asp/2009/12/contents 

  5. https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2008/27/section/4 

  6. https://www.gov.uk/government/publications/committee-on-climate-change-2024-progress-report-government-response/accelerating-to-net-zero-responding-to-the-ccc-progress-report-and-delivering-the-clean-energy-superpower-mission-accessible-webpage 

  7. https://www.legislation.gov.uk/wsi/2021/332/contents/made/welsh 

  8. https://www.llyw.cymru/cymru-sero-net-cyllideb-garbon-2-2021-i-2025 

  9. https://www.llyw.cymru/cymru-sero-net-cyllideb-garbon-2-2021-i-2025 

  10. https://www.legislation.gov.uk/nia/2022/31/contents/enacted 

  11. https://www.daera-ni.gov.uk/consultations/consultation-draft-green-growth-strategy-northern-ireland 

  12. https://www.economy-ni.gov.uk/publications/energy-strategy-path-net-zero-energy 

  13. https://www.economy-ni.gov.uk/publications/energy-strategy-path-net-zero-energy-action-plan 

  14. https://www.economy-ni.gov.uk/publications/energy-strategy-action-plan-2024 

  15. I gael rhagor o wybodaeth am ddyluniad presennol y Cynllun, ewch i’n tudalen Participating in the UK ETS 

  16. https://www.gov.uk/government/consultations/developing-the-uk-emissions-trading-scheme-uk-ets

  17. https://www.gov.uk/government/consultations/uk-emissions-trading-scheme-future-markets-policy 

  18. https://www.gov.uk/government/consultations/uk-emissions-trading-scheme-free-allocation-review 

  19. https://www.gov.uk/government/consultations/uk-emissions-trading-scheme-scope-expansion-waste 

  20. https://www.gov.uk/government/consultations/integrating-greenhouse-gas-removals-in-the-uk-emissions-trading-scheme 

  21. https://www.gov.uk/government/publications/evaluation-of-the-uk-emissions-trading-scheme-phase-1 – gweler tudalen 102 ar bwysigrwydd rhoi sicrwydd y tu hwnt i 2030. 

  22. https://www.gov.uk/government/publications/uk-emissions-trading-scheme-long-term-pathway/the-long-term-pathway-for-the-uk-emissions-trading-scheme 

  23. https://www.gov.uk/government/publications/uk-emissions-trading-scheme-long-term-pathway/the-long-term-pathway-for-the-uk-emissions-trading-scheme 

  24. https://www.gov.uk/government/publications/evaluation-of-the-uk-emissions-trading-scheme-phase-1 – gweler tudalen 102 ar bwysigrwydd rhoi sicrwydd y tu hwnt i 2030. 

  25. https://www.gov.uk/government/publications/uk-emissions-trading-scheme-long-term-pathway/the-long-term-pathway-for-the-uk-emissions-trading-scheme

  26. Daw’r data a’r dystiolaeth ar gyfer y graff hwn o nifer o ffynonellau. Daw amserlenni’r sector ynni o www.gov.uk/government/publications/electricity-generation-costs-2023 – ‘Annex A Technical and cost assumptions (medium scenario)’. I weld amserlenni datblygu tanwydd cynaliadwy ar gyfer hedfanaeth, ewch i https://publications.jrc.ec.europa.eu/repository/handle/JRC118309. Daw’r amserlenni diwydiant o gasgliad o ffynonellau llywodraeth y DU, fel dadansoddiad o ddiwydiant a model Llwybrau Diwydiannol Sero Net. Rhwng 20 a 30 mlynedd yw oes llong fel arfer, gyda data gan Clarksons yn awgrymu mai 29 oed oedd yr oedran cyfartalog yn 2024 ar gyfer dymchwel llongau cludo swmp a llongau cynwysyddion – dadansoddiad yr Adran Trafnidiaeth o ddata SIN Clarksons.