Extraction of information from electronic devices: code of practice (Welsh accessible version)
Updated 16 March 2023
Echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiau electronig: cod ymarfer
Hydref 2022
Cyflwynwyd i Senedd y DU yn unol ag Adran 42(5) o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022
Rhan 1: Cyflwyniad
Rhaglith
1. Mae’r cod ymarfer hwn yn ymwneud ag arfer pwerau ym Mhennod 3 o Ran 2 o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (“y Ddeddf”). Dylid ei ddarllen ochr yn ochr â’r nodiadau esboniadol ar gyfer Pennod 3 o Ran 2. Cyhoeddir y cod hwn yn unol ag Adran 42 o’r Ddeddf, sy’n darparu bod yn rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol baratoi cod ymarfer sy’n cynnwys canllawiau ar arfer y pwerau yn Adrannau 37(1) a 41(1). Mae’r pwerau hyn yn caniatáu i bersonau awdurdodedig echdynnu gwybodaeth sy’n cael ei storio ar ddyfeisiau electronig o dan amgylchiadau penodol.
2. Mae’r cod hwn yn gymwys i bob person awdurdodedig a enwir yn Atodlen 3 i’r Ddeddf. Mae’n ddogfen sydd ar gael yn gyhoeddus a dylai fod yn hawdd i unrhyw bersonau awdurdodedig sy’n dymuno bwrw golwg dros y ddogfen gael gafael arni.[footnote 1]
Cyflwyniad
3. Mae’r cod ymarfer hwn yn rhoi canllaw ymarferol i bersonau awdurdodedig ar ddefnyddio’r pwerau, gan gynnwys sut y dylent benderfynu ar y pŵer cyfreithiol cywir i’w ddefnyddio o dan yr amgylchiadau a sut y dylent gadarnhau bod echdynnu gwybodaeth yn angenrheidiol ac yn gymesur. Mae angen gwneud hyn er mwyn sicrhau bod awdurdodau yn arfer eu swyddogaethau yn unol â’r gyfraith ac yn diogelu preifatrwydd y rhai y mae eu gwybodaeth yn cael ei hechdynnu. Bydd y cod hwn yn sicrhau gwell dealltwriaeth o’r defnydd o’r pwerau a bydd eu cymhwyso yn cefnogi’r nodau cyffredinol o ennyn mwy o ymddiriedaeth a hyder ymhlith y cyhoedd a chynnal hynny.
4. Nid yw’r cod hwn yn disodli canllawiau/codau a gyhoeddwyd ar y cyd â darnau eraill o ddeddfwriaeth, a dim ond mewn perthynas â’r pwerau ym Mhennod 3 o Ran 2 o’r Ddeddf y bydd yn gymwys. Os defnyddir pŵer arall fel y sail dros echdynnu gwybodaeth o ddyfais electronig, y canllawiau/cod ar gyfer y pŵer hwnnw fydd yn gymwys.
5. Mae’r pŵer o dan Adran 37 o’r Ddeddf yn caniatáu i bersonau awdurdodedig echdynnu gwybodaeth sy’n cael ei storio ar ddyfais electronig os yw defnyddiwr y ddyfais wedi darparu’r ddyfais yn wirfoddol ac wedi cytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni.[footnote 2] Gellir arfer y pŵer at ddibenion atal, canfod, ymchwilio neu erlyn troseddau[footnote 3]; helpu i ddod o hyd i berson coll, neu amddiffyn plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg[footnote 4] rhag esgeulustod neu niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol.
6. Mae Adran 38 yn ymdrin â chymhwyso Adran 37 mewn achosion lle mae defnyddiwr dyfais yn blentyn, neu’n oedolyn heb alluedd.
7. Mae Adran 40 yn ymdrin â chymhwyso Adran 37 mewn tri achos arbennig, gan gynnwys:
i. pan fo defnyddiwr y ddyfais wedi marw, a’i fod yn defnyddio’r ddyfais yn union cyn ei farwolaeth, neu
ii. pan fo defnyddiwr y ddyfais yn blentyn neu’n oedolyn heb alluedd a bod y person awdurdodedig yn credu’n rhesymol bod ei fywyd mewn perygl, neu fod risg o niwed difrifol iddo, neu
iii.. pan fo defnyddiwr y ddyfais ar goll, a’i fod yn defnyddio’r ddyfais yn union cyn mynd ar goll a bod y person awdurdodedig yn credu’n rhesymol bod ei fywyd mewn perygl neu fod risg o niwed difrifol iddo
8. Mae’r pŵer o dan Adran 41 o’r Ddeddf yn caniatáu i bersonau awdurdodedig echdynnu gwybodaeth sy’n cael ei storio ar ddyfais electronig os yw person a fu’n ddefnyddiwr y ddyfais wedi marw ac, yn union cyn marw, ei fod yn defnyddio’r ddyfais. Gellir arfer y pŵer hwn at ddibenion ymchwiliadau neu gwestau penodol ynglŷn â marwolaeth y person.[footnote 5]
9. Mae’r Ddeddf yn diffinio dyfais electronig fel ‘any device on which information is capable of being stored electronically and includes any component of such a device.’ Gall hyn gynnwys dyfeisiau megis ffonau symudol, llechennau, gliniaduron a chyfrifiaduron, a chydrannau megis dyfeisiau USB storio symudol neu ddyfeisiau storio eraill, a gallant gynnwys dyfeisiau ‘clyfar’ megis watshis clyfar neu seinyddion a ysgogir gan lais. Nid yw’r rhestr hon yn un gynhwysfawr. Mae’r diffiniad yn un eang o anghenraid er mwyn sicrhau nad yw’n mynd yn afraid oherwydd newidiadau technolegol. Mae’n rhaid bod y ddyfais yn gallu storio gwybodaeth ac nad yw’n fodd i gael mynediad at wybodaeth yn unig.
10. Mae echdynnu gwybodaeth hefyd yn cynnwys ei hatgynhyrchu ar unrhyw ffurf ac felly mae gweithgareddau megis copïo ffisegol a phob ffurf ar atgynhyrchu electronig neu ddigidol, er enghraifft sgrin luniau (yn dibynnu ar y dechnoleg a ddefnyddir), o fewn cwmpas y cod hwn a’r pwerau yn y Ddeddf. Ceir rhagor o wybodaeth am y mathau o ddyfeisiau ac echdynnu technoleg yn Rhan 3 o’r cod hwn.
11. Mae Adran 44 o’r Ddeddf, ac Atodlen 3 iddi, yn nodi pwy yw person awdurdodedig:
-
mae Rhan 1 yn Atodlen 3 yn enwi’r personau awdurdodedig a gaiff arfer y naill bŵer neu’r llall at unrhyw ddiben penodedig
-
mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn enwi’r personau awdurdodedig a gaiff arfer y pŵer o dan Adran 37 at unrhyw ddiben penodedig (ni chaiff y personau awdurdodedig hyn arfer y pŵer o dan Adran 41)
-
mae Rhan 3 o Atodlen 3 yn enwi’r personau awdurdodedig hynny a gaiff arfer y pŵer o dan Adran 37 at ddibenion atal, canfod, ymchwilio neu erlyn troseddau yn unig (ni chaiff y personau awdurdodedig hyn arfer y pŵer o dan Adran 37 at ddibenion eraill na’r pŵer o dan Adran 41)
12. Gall person awdurdodedig gyfeirio at y person sy’n rhyngweithio â defnyddiwr y ddyfais a’r person sy’n cytuno (lle y bo’n wahanol), y person sy’n awdurdodi cwmpas y wybodaeth i’w hechdynnu, a’r person sy’n cwblhau’r broses o echdynnu gwybodaeth o’r ddyfais electronig.
13. Dim ond unwaith y bydd angen cytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ar gyfer pob cais er mwyn i wybodaeth gael ei hechdynnu. Er enghraifft, y person awdurdodedig cyntaf yw swyddog yr heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i honiad o drosedd. Mae’n gyfrifol am gadarnhau llwybrau ymholi rhesymol, am fodloni holl ofynion eraill y Ddeddf (rheidrwydd a chymesuredd ac ati) ac am geisio awdurdodiad i ddefnyddio’r pwerau. Bydd y person awdurdodedig hwn yn rhyngweithio â defnyddiwr y ddyfais ac, os yw’n wahanol, y person sy’n cytuno (pan fo hyn yn ofynnol o dan y Ddeddf, megis os mai plentyn, neu oedolyn heb alluedd yw defnyddiwr y ddyfais) a bydd yn sicrhau bod y ddyfais yn cael ei darparu’n wirfoddol, ac y ceir cytundeb. Efallai ei fod wedi cael hyfforddiant addas a bod technoleg ar gael iddo echdynnu’r wybodaeth ei hun, neu efallai y bydd yn rhoi’r ddyfais i ail berson awdurdodedig i echdynnu’r wybodaeth, er enghraifft Uned Fforensig Ddigidol neu ddarparwr gwasanaeth fforensig digidol allanol. Yna, bydd yr ail berson awdurdodedig hwn yn echdynnu’r wybodaeth yn unol â’r manylion ar y cytundeb ysgrifenedig. Nid oes angen iddo geisio cytundeb pellach i echdynnu gwybodaeth.
14. Dim ond at ddibenion atal, canfod, ymchwilio neu erlyn troseddau os cred yn rhesymol bod gwybodaeth sydd wedi’i storio ar y ddyfais yn berthnasol i lwybr ymholi perthnasol[^6] sy’n cael ei ddilyn, neu y bydd yn cael ei ddilyn, gan berson awdurdodedig y caniateir i berson awdurdodedig arfer y pŵer o dan Adran 37.[footnote 7]
15. Mewn achos pan fo’r person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer o dan Adran 37 i helpu i ddod o hyd i berson coll, neu er mwyn amddiffyn plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg rhag esgeulustod neu niwed ffisegol, meddyliol neu emosiynol, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig gredu’n rhesymol bod y wybodaeth sy’n cael ei storio ar y ddyfais yn berthnasol i’r diben hwnnw.[footnote 8]
16. Sut bynnag, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig fodloni ei hun ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur arfer y pŵer o dan Adran 37 neu Adran 41 er mwyn cyflawni’r diben y mae’n bwriadu arfer y pŵer ar ei gyfer. Pan fo person awdurdodedig yn meddwl bod risg o gael gormod o wybodaeth, ni fydd arfer y pŵer yn gymesur oni bai ei fod wedi’i fodloni:
(i) nad oes ffordd arall o gael y wybodaeth a geisir sy’n osgoi’r risg honno, neu
(ii) bod ffyrdd eraill o gael y wybodaeth, ond nad yw’n rhesymol ymarferol eu defnyddio
17. Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig ddefnyddio’r ffordd leiaf ymwthiol bosibl o brosesu’r wybodaeth. Gellir gwneud hyn drwy ddethol y wybodaeth berthnasol i’w hechdynnu, neu pan na fydd hynny’n bosibl yn dechnegol, drwy gyfyngu ar y broses o adolygu’r wybodaeth ormodol.
18. Mae Adran 39 yn nodi’r gofynion y bydd yn rhaid eu bodloni er mwyn i unigolyn gael ei drin fel person sydd wedi darparu dyfais yn wirfoddol ac sydd wedi cytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni (at ddibenion Adran 37 neu Adran 38). Mae’r gofynion hyn yn sicrhau na fydd unigolion yn cael eu rhoi o dan bwysau amhriodol a’u bod yn cael eu hysbysu’n ysgrifenedig am eu hawl i wrthod, ac am y rheswm dros y cais, a manylion y cais.
Effaith y cod
19. Wrth ddefnyddio neu benderfynu a ddylid defnyddio’r pŵer o dan Adran 37 neu’r pŵer o dan Adran 41, mae’n rhaid i berson awdurdodedig roi sylw i’r cod hwn.[footnote 9]
20. Gallai methiant i gydymffurfio â’r cod arwain at brosesu gwybodaeth bersonol yn anghywir a mynd yn groes i Ddeddf Diogelu Data 2018 ac felly at fod yn ddarostyngedig i reoliadau gorfodi pellach, megis dirwyon a roddir gan y Comisiynydd Gwybodaeth.[footnote 10] Nid yw methiant ar ran person awdurdodedig i weithredu yn unol â’r cod ynddo’i hun yn peri i’r person fod yn agored i unrhyw weithrediadau troseddol neu sifil. Fodd bynnag, gall penderfyniad i arfer (neu beidio ag arfer) y pŵer o dan Adrannau 37 a 41 o Bennod 3 o Ran 2 o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (“y Ddeddf”) fod yn agored i her gyfreithiol.
21. Bydd y cod yn dystiolaeth dderbyniol mewn gweithrediadau troseddol neu sifil, a gall llys ystyried methiant i weithredu’n unol â’r cod wrth benderfynu ar unrhyw gwestiwn yn y gweithrediadau (e.e., a yw’r dystiolaeth a echdynnwyd o ddyfais electronig yn dderbyniol).[footnote 11] Bydd unrhyw gamddefnydd o’r pwerau hyn neu fethiant i ddilyn y cod hwn yn debygol o arwain at ganlyniadau negyddol difrifol i achwynwyr, boed hynny drwy geisiadau diangen i rannu gwybodaeth bersonol, neu drwy rannu gwybodaeth y bernir yn ddiweddarach ei bod yn annerbyniol. Gallai methiant i gydymffurfio â’r cod hefyd gael ei ystyried mewn gwrandawiadau disgyblu proffesiynol. Dylai personau awdurdodedig weithredu’n unol ag unrhyw ganllawiau megis codau ymddygiad neu godau moeseg a gyhoeddir gan eu sefydliad. Os mai swyddog yr heddlu neu aelod o staff yr heddlu yw’r person awdurdodedig, gall y canlynol fod yn gymwys:
-
Yng Nghymru a Lloegr – Gallai methiant i ddilyn y cod a defnyddio’r pwerau’n gyfreithlon arwain at dorri Cod Moeseg y Coleg Plismona, er enghraifft yr ail safon i ddefnyddio pwerau ac awdurdod yn gyfreithlon ac yn gymesur, a bydd yn parchu hawliau pob unigolyn.[footnote 12]
-
Yn yr Alban – Gallai methiant i ddilyn y cod a defnyddio’r pwerau yn gyfreithlon arwain at dorri Cod Moeseg Plismona yn yr Alban, er enghraifft yr ymrwymiad ‘In carrying out my duties I shall respect everyone’s fundamental rights. I will only interfere with privacy or family life when I am legally authorised to do so’.[footnote 13]
-
Yng Ngogledd Iwerddon – Gallai methiant i ddilyn y cod a defnyddio’r pwerau’n gyfreithlon arwain at dorri Cod Moeseg Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, er enghraifft erthygl 3.1 ar breifatrwydd a chyfrinachedd sy’n nodi ‘Police officers shall gather, retain, use and disclose information or data in accordance with the right to respect for private and family life contained in Article 8 of the European Convention on Human Rights and shall comply with all relevant legislation and Police Service policy and procedure governing the gathering, retention, use and disclosure of information or data’.[footnote 14]
Yr hyn nad yw’r cod hwn yn ei gwmpasu
22. Nid yw’r cod hwn yn cynnwys canllawiau ar y canlynol:
-
adrannau eraill o’r Ddeddf (h.y., adrannau heblaw’r rhai ym Mhennod 3 o Ran 2)
-
echdynnu gwybodaeth o ddyfais drwy ddefnyddio pwerau gorfodi neu orfodol, megis gwarant chwilio, gorchymyn cyflwyno neu hysbysiad statudol
-
echdynnu gwybodaeth o ddyfais drwy ddulliau cudd – er enghraifft, pan fo’n angenrheidiol cael tystiolaeth o ddyfais fel rhan o’r ymchwiliad heb yn wybod i ddefnyddiwr
-
echdynnu gwybodaeth nad yw’n cael ei storio ar y ddyfais ond sy’n cael ei dal mewn man arall, megis storio ‘cwmwl’.[footnote 15]
Rhan 2: Hawliau dynol a diogelu data
23. Mae’n rhaid i’r pŵer o dan Adran 37 a’r pŵer o dan Adran 41 gael eu harfer yn unol â rhwymedigaethau a dyletswyddau cyfreithiol eraill, gan gynnwys y canlynol:
-
Deddf Hawliau Dynol 1998, sy’n sicrhau cydymffurfiaeth â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
-
Deddf Cydraddoldeb 2010[footnote 16]
-
Deddf Diogelu Data 2018
-
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (‘GDPR y DU’)
Deddf Hawliau Dynol 1998
24. Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn gweithredu’r hawliau a nodwyd yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yng nghyfraith y DU. Mae Adran 6 o’r Ddeddf Hawliau Dynol yn ei gwneud yn anghyfreithlon i unrhyw awdurdod cyhoeddus weithredu mewn ffordd sy’n anghyson ag un o hawliau’r Confensiwn.
25. Mae Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn amlinellu’r hawl i barch am fywyd preifat, bywyd teuluol, cartref a gohebiaeth unigolion. Mae’n darparu na fydd awdurdod cyhoeddus yn ymyrryd ag arfer yr hawl hon mewn unrhyw ffordd oni fydd yn unol â’r gyfraith ac yn angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, pan fo’n angenrheidiol ymyrryd er mwyn atal anhrefn neu droseddu ac er mwyn diogelu hawliau a rhyddidau unigolion eraill.[footnote 17]
26. Mae’n rhaid i’r person awdurdodedig ystyried yn ofalus (i) a fydd echdynnu gwybodaeth yn unol â’r pwerau yn gyfystyr ag ymyrryd ag arfer hawliau person o dan Erthygl 8, a (ii) os felly, a oes modd cyfiawnhau ymyrryd (o gofio’r prawf a nodir yn Erthygl 8 ac a grynhoir uchod).
27. Mae bron yn sicr y bydd dyfeisiau electronig megis ffonau symudol yn cynnwys gwybodaeth sensitif am ddefnyddiwr y ddyfais unigol a’i deulu a’i ffrindiau. Dylai’r person awdurdodedig ystyried effaith ymwthio i fywyd preifat yr unigolyn a’i gysylltiadau ar bob adeg yn ystod y broses gwneud penderfyniadau – wrth benderfynu pa wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi llwybr ymholi rhesymol (lle y bo hynny’n gymwys), ac wrth benderfynu a yw’r defnydd o’r pwerau hyn yn angenrheidiol, yn gymesur ac nad oes ffyrdd eraill, llai ymwthiol o gael y wybodaeth sydd ei hangen. Ceir rhagor o fanylion am y rhwymedigaethau i ddiogelu preifatrwydd defnyddwyr dyfeisiau y mae’n rhaid eu hystyried cyn defnyddio’r pwerau yn Rhan 3 o’r cod hwn.
- Wrth ystyried Erthygl 8, mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig hefyd ystyried cydymffurfiaeth â hawliau eraill y Confensiwn, gan gynnwys Erthygl 6 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae Erthygl 6 o’r Confensiwn yn amlinellu’r hawl i gael treial teg, felly mae’n angenrheidiol i bersonau awdurdodedig ystyried sut y gall y wybodaeth a geisir effeithio ar yr hawl honno. Mae Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol wedi paratoi canllawiau ar gydbwyso hawliau Erthygl 8 ac Erthygl 6.
29. Mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig sicrhau eu bod yn gweithredu’n unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus[footnote 19] i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cydberthnasau da rhwng pobl wrth gyflawni eu dyletswyddau.
30. Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei baratoi ar gyfer Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd sy’n dangos cydymffurfiaeth â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.[footnote 20]
Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
31. Dylid ystyried yn ofalus pa gyfundrefn diogelu data sy’n gymwys i brosesu data personol wrth ddefnyddio’r pwerau, gan sicrhau y cydymffurfir â’r gyfundrefn berthnasol. Wrth benderfynu pa gyfundrefn sy’n gymwys, dylid ystyried prif ddiben prosesu’r data. Os mai gorfodi’r gyfraith yw prif ddiben prosesu’r data,[footnote 21] yna bydd Rhan 3 o’r Ddeddf Diogelu Data yn gymwys, fel arall bydd Rhan 2 o’r Ddeddf Diogelu Data, i’w darllen ar y cyd â GDPR y DU, yn gymwys.
32. Mae Erthygl 4 o GDPR y DU ac Adran 3 o’r Ddeddf Diogelu Data yn diffinio ‘processing’ fel “any operation or set of operations which is performed on personal data or on sets of personal data, whether or not by automated means, such as collection, recording, organisation, structuring, storage, adaptation or alteration, retrieval, consultation, use, disclosure by transmission, dissemination or otherwise making available, alignment or combination, restriction, erasure or destruction”.
33. Mae’n rhaid i unrhyw brosesu gwybodaeth a wneir yn unol â Deddf Diogelu Data 2018/GDPR y DU sicrhau, wrth echdynnu unrhyw wybodaeth, fod cyn lleied o wybodaeth â phosibl yn cael ei hechdynnu, ac mai dim ond y data sydd eu hangen at y diben y’u hechdynnir sy’n cael eu casglu a’u cadw.[footnote 22]
34. Dylai awdurdodau a enwyd yn Atodlen 3 ystyried a oes angen iddynt gwblhau Asesiad o Effaith ar Ddiogelu Data mewn perthynas â’r defnydd o’r pwerau hyn gan eu sefydliad neu ddiweddaru Asesiad o Effaith sy’n bodoli eisoes.
35. Nid yw gwybodaeth am berson ymadawedig yn gyfystyr â data personol ac felly nid yw’n ddarostyngedig i GDPR y DU na’r Ddeddf Diogelu Data, sydd ond yn gymwys i ddata personol sy’n ymwneud ag unigolion byw. Fodd bynnag, gall prosesu data o ddyfais a gafwyd oddi wrth berson ymadawedig sy’n cynnwys data sy’n ymwneud â phersonau byw adnabyddadwy eraill fod yn gyfystyr â phrosesu data personol o dan y Ddeddf Diogelu Data neu GDPR y DU. Mae hyn yn golygu ym mhob achos pan ddefnyddir y pŵer o dan Adran 37 ac Adran 41 lle mae defnyddiwr y ddyfais wedi marw, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig ystyried a yw’r ddyfais yr echdynnir gwybodaeth ohoni yn debygol o gynnwys gwybodaeth am bersonau byw adnabyddadwy. Mae bron yn sicr yn achos dyfeisiau megis ffonau symudol, llechi, a gliniaduron y byddant yn cynnwys gwybodaeth o’r fath ac felly mae’r canllawiau canlynol ar gymhwyso rheoliadau diogelu data yn gymwys.
36. Er mwyn i’r defnydd o’r pŵer o dan Adran 37(2)(a) fod yn gyfreithlon, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig fodloni holl ofynion y Ddeddf er mwyn sicrhau bod y ddyfais yn cael ei darparu’n wirfoddol, bod cytundeb yn cael ei roi ac ati ac mae’n rhaid i’r wybodaeth a brosesir fod yn gwbl angenrheidiol at ddiben gorfodi’r gyfraith.
37. Er mwyn i’r defnydd o’r pŵer o dan Adran 37(2)(b), 37(2)(c) ac Adran 41 fod yn gyfreithlon, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig fodloni holl ofynion y Ddeddf ac mae’n rhaid i’r wybodaeth a brosesir fod yn angenrheidiol at unrhyw rai o’r dibenion yn GDPR y DU, Erthygl 6, 2-6.
Prosesu data at ddibenion gorfodi’r gyfraith
Trosolwg cyffredinol o gyfrifoldebau’r Ddeddf Diogelu Data
38. Mae Rhan 3 o’r Ddeddf Diogelu Data yn gymwys i brosesu data gan awdurdodau cymwys at ddibenion gorfodi’r gyfraith. Mae Rhan 3 yn amlinellu chwe egwyddor diogelu data y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw wrth brosesu data at ddibenion gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys wrth arfer y pwerau hyn, a grynhoir isod.
1. Mae’n rhaid i brosesu data personol at unrhyw rai o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon ac yn deg.
2. Mae’n rhaid i ddiben gorfodi’r gyfraith y bydd data personol yn cael eu casglu ar ei gyfer ar unrhyw adeg fod yn benodedig, yn benodol ac yn ddilys, ac ni chaniateir i ddata personol a gesglir yn y fath fodd gael eu prosesu mewn modd sy’n anghyson â’r diben y’u casglwyd ar ei gyfer.
3. Mae’n rhaid i ddata personol a brosesir at unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn ddigonol, yn berthnasol a pheidio â bod yn ormodol mewn perthynas â’r diben y’u prosesir ar ei gyfer.
4. Mae’n rhaid i ddata personol a brosesir at unrhyw rai o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gywir a, lle y bo angen, yn gyfredol, ac mae’n rhaid cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod data personol sy’n anghywir, o ystyried at ba ddiben gorfodi’r gyfraith y maent yn cael eu prosesu, yn cael eu dileu neu eu hunioni heb oedi.
5. Mae’n rhaid i ddata personol a brosesir at unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith beidio â chael eu cadw am gyfnod hwy nag sy’n angenrheidiol at y diben y’u prosesir ar ei gyfer.
6. Mae’n rhaid i ddata personol a brosesir at unrhyw rai o’r dibenion gorfodi’r gyfraith gael eu prosesu mewn modd sy’n sicrhau bod y data personol yn cael eu diogelu’n briodol, gan ddefnyddio mesurau technegol neu sefydliadol priodol (ac, o dan yr egwyddor hon, mae “diogelwch priodol” yn cynnwys diogelu data rhag cael eu prosesu heb awdurdod neu eu prosesu’n anghyfreithlon a’u diogelu rhag cael eu colli’n ddamweiniol, eu dinistrio neu eu difrodi).
39. Dylai personau awdurdodedig gyfeirio at eu canllawiau eu hunain ar gyfrifoldebau o dan y Ddeddf Diogelu Data.
40. Pan ddefnyddir y pŵer o dan Adran 37 o’r Ddeddf i echdynnu gwybodaeth at ddibenion gorfodi’r gyfraith, er enghraifft atal, canfod, ymchwilio neu erlyn troseddau, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig gydymffurfio â Rhan 3 o’r Ddeddf Diogelu Data.[footnote 23]
41. Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn nodi bod prosesu data personol at unrhyw rai o’r dibenion gorfodi’r gyfraith ond yn gyfreithlon os yw’n seiliedig ar y gyfraith a’r graddau y mae’n seiliedig ar y gyfraith, a naill ai;
(a) mae testun y data wedi cydsynio i brosesu data at y diben hwnnw, neu
(b) mae prosesu’r data yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir at y diben hwnnw gan awdurdod cymwys.[footnote 24]
42. Mae Adran 35 o’r Ddeddf Diogelu Data hefyd yn gymwys pan fydd prosesu at ddibenion gorfodi’r gyfraith yn brosesu sensitif.[footnote 25] O dan yr amgylchiadau hyn, dim ond yn y ddau achos a nodwyd yn is-adrannau (4) a (5) y caniateir prosesu data.
(4) Yr achos cyntaf yw—
(a) pan fydd testun y data wedi cydsynio i brosesu’r data at y diben o orfodi’r gyfraith, a
(b) ar adeg prosesu’r data, mae gan y rheolydd ddogfen bolisi briodol ar waith[footnote 26]
(5) Yr ail achos yw—
(a) pan fydd prosesu’r data yn gwbl angenrheidiol at y ddiben o orfodi’r gyfraith,
(b) pan fydd prosesu’r data yn bodloni o leiaf un o’r amodau yn Atodlen 8, ac
(c) ar adeg prosesu’r data, mae gan y rheolydd ddogfen bolisi briodol ar waith[footnote 27]
43. Daw adroddiad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar Mobile phone data extraction by police forces,[^28] i’r casgliad bod cydsyniad o dan y Ddeddf Diogelu Data yn annhebygol iawn o fod yn amod priodol ar gyfer prosesu data personol, y cyfeirir ato fel prosesu sensitif[footnote 29] at ddibenion gorfodi’r gyfraith oherwydd y safonau y mae angen eu cyrraedd, ac y byddai’n fwy priodol dibynnu ar yr amod bod echdynnu gwybodaeth yn gwbl angenrheidiol at ddibenion gorfodi’r gyfraith. Nid yw darparu dyfais yn wirfoddol yn Neddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn gyfystyr â chydsyniad fel y’i diffiniwyd o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.[footnote 30] Mae’n annhebygol, oherwydd y diffyg cydbwysedd pŵer rhwng yr heddlu ac unigolyn, y gellir cyrraedd y trothwy uchel o fod wedi cael gwybodaeth lawn ac wedi cydsynio o wirfodd. Hefyd, un o ofynion rhoi cydsyniad yw y gellir ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg. Ni fyddai hyn yn bosibl bob amser pan fydd data wedi cael eu hechdynnu oherwydd y gofyniad cyfreithiol ar yr ymchwilydd i ddatgelu’r deunydd i Erlynwyr y Goron pan fydd y deunydd yn gallu tanseilio achos yr erlyniad, neu ei wanhau mewn ffordd berthnasol, neu gynorthwyo achos yr amddiffyniad. At hynny, mae’n annhebygol y byddai pob un o’r rhai y mae’n rhaid iddynt gydsynio o dan ddeddfwriaeth diogelu data’r DU yn gallu gwneud hynny, gan y gall deunydd ar y ddyfais ymwneud â llawer o unigolion. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n bosibl na fyddai modd adnabod testunau’r data yn hawdd neu y byddai’n anymarferol gwneud hynny am fod cymaint o ddeunydd.
44. O ran prosesu sensitif at ddibenion gorfodi’r gyfraith, fel y’i diffiniwyd yn y Ddeddf Diogelu Data, mae’n rhaid eich bod yn gallu dangos bod y broses yn gwbl angenrheidiol a’ch bod yn gallu bodloni un o’r amodau yn Atodlen 8[footnote 31] (dibenion statudol, gweinyddu cyfiawnder, diogelu buddiannau sy’n allweddol i fywyd unigolyn, diogelu plant ac unigolion sy’n wynebu risg, mae’r data personol eisoes yn gyhoeddus, hawliadau cyfreithiol, gweithredoedd barnwrol, atal twyll, archifo ac ati). Ni fydd y gofyniad hwn yn cael ei fodloni os gallwch gyflawni’r diben drwy ffordd resymol arall.
Canllawiau perthnasol sy’n bodoli eisoes
45. Wrth arfer y pŵer o dan Adran 37 at ddibenion atal, canfod, ymchwilio neu erlyn troseddau, dylai personau awdurdodedig ystyried y cyfrifoldebau am ddatgelu a all godi a dylent fod yn gyfarwydd â’r ddogfennaeth a restrir isod.
Yng Nghymru a Lloegr
-
Canllawiau’r Twrnai Cyffredinol ar Ddatgelu Gorffennaf 2022 (PDF, 571KB) (Atodiad A, Deunydd Digidol) a’r canllawiau ar gydbwyso Erthygl 6 ac Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol[footnote 32]
-
Cod Ymarfer y Ddeddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol, Chwefror 2015
Yn yr Alban
-
Llawlyfr Swyddfa’r Goron a Gwasanaeth y Procuradur Ffisgal ar Ddatgelu
-
Cod Ymarfer ar Ddiogelu Tystiolaeth mewn Achosion Troseddol
Yng Ngogledd Iwerddon
-
Cod Ymarfer Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 ar gyfer Gogledd Iwerddon (Diwygiedig) 2005
-
[Cod yr Erlynwyr Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus Gogledd Iwerddon](https://www.ppsni.gov.uk/publications/code-prosecutors)
Prosesu data at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â gorfodi’r gyfraith
46. Pan ddefnyddir y pŵer o dan Adran 37 neu Adran 41 o’r Ddeddf at ddibenion nad ydynt ymwneud â gorfodi’r gyfraith – er enghraifft, er mwyn helpu i ddod o hyd i berson coll neu amddiffyn plentyn neu oedolyn sy’n wyneb risg rhag esgeulustod neu niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol (pan na fydd elfen droseddol yn bodoli), neu at ddibenion rhai ymchwiliadau neu gwestau i farwolaeth person nad ydynt yn rhai troseddol[footnote 33], – mae’n rhaid i’r person awdurdodedig gydymffurfio â GDPR y DU[footnote 34] (i’w ddarllen ar y cyd â Rhan 2 o’r Ddeddf Diogelu Data). Wrth echdynnu gwybodaeth at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â gorfodi’r gyfraith, bydd angen cydymffurfio â’r saith egwyddor o dan Erthygl 5[footnote 35] o GDPR y DU ac mae Erthygl 6[footnote 36] o GDPR y DU yn diffinio ar ba sail gyfreithlon y gallwch brosesu’r data. Mae Erthygl 9 o GDPR y DU hefyd yn gymwys wrth brosesu data categori newydd.[footnote 37]
47. Ym mhob achos wrth asesu a yw’n angenrheidiol ac yn gymesur defnyddio’r pwerau a phrosesu gwybodaeth at ddiben nad yw’n ymwneud â gorfodi’r gyfraith, dylai personau awdurdodedig gydbwyso’r asesiad o risg i ddefnyddiwr y ddyfais â’r ymwthiad tebygol i’w breifatrwydd a phreifatrwydd eraill y mae eu gwybodaeth yn cael eu storio ar ei ddyfais. Ceir manylion llawn rhwymedigaethau ac amodau ar gyfer prosesu at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â gorfodi’r gyfraith yn Atodiad C i’r cod hwn.
Rhan 3: Arfer y pwerau hyn
Adran 37: y pŵer ac at ba ddibenion y gellir ei arfer
48. Gellir defnyddio’r pwerau o dan Adran 37 er mwyn
-
37(2)(a) atal, canfod, ymchwilio neu erlyn troseddau,
-
37(2)(b) helpu i ddod o hyd i berson coll, neu
-
37(2)(c) amddiffyn plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg rhag esgeulustod neu niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol
49. O dan y pŵer yn Adran 37(2)(a) mae’n rhaid bod defnyddiwr y ddyfais wedi darparu ei ddyfais yn wirfoddol i berson awdurdodedig ac wedi cytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni.[footnote 38] Ceir canllawiau manwl ynglŷn â sut i gael cytundeb a sicrhau bod y ddyfais wedi cael ei darparu’n wirfoddol yn Rhan 4 o’r cod hwn.
50. Pan gaiff y pŵer ei arfer er mwyn atal, canfod, ymchwilio, neu erlyn trosedd, dioddefwr neu dyst i drosedd fydd y person hwnnw fel arfer (ond nid bob tro o reidrwydd). Pan fydd canllawiau a pholisïau sefydliad y person awdurdodedig yn caniatáu ar gyfer hynny, nid yw’r Ddeddf yn gwahardd gofyn i unigolyn dan amheuaeth ddarparu dyfais yn wirfoddol a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni. Yn y rhan fwyaf o achosion os mai unigolyn dan amheuaeth yw defnyddiwr y ddyfais mae’n debygol y caiff unrhyw ddyfais ei hatafaelu drwy ddefnyddio pwerau cyfreithiol eraill, megis y rhai o dan PACE, er mwyn atal tystiolaeth rhag cael ei cholli neu ei dinistrio a sicrhau cydymffurfiaeth â’r Ddeddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol ac egwyddorion datgelu. Ym mhob achos, y person awdurdodedig fydd yn penderfynu ar y pŵer priodol, yn dibynnu ar yr amgylchiadau – nid dim ond pan fydd y person yn unigolyn dan amheuaeth.
51. Os caiff dyfais ei defnyddio gan sawl defnyddiwr, er enghraifft gliniadur neu lechen a rennir, cyfrifoldeb y person awdurdodedig yw sicrhau mai person sy’n defnyddio’r ddyfais fel arfer yw’r person sy’n darparu’r ddyfais yn wirfoddol ac yn cytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni.
52. Nid yw’r ymadrodd ‘defnyddio fel arfer’ yn golygu mai prynwr gwreiddiol y ddyfais oedd y person hwn o reidrwydd na bod yn rhaid ei fod yn berchen arni ar ei ben ei hun. Er enghraifft, efallai y bydd gan berson ffôn symudol neu liniadur y mae’n ei ddefnyddio’n rheolaidd sydd wedi cael ei ddarparu gan ei gyflogwr neu sefydliad arall. Os credir bod y ddyfais yn cynnwys gwybodaeth berthnasol at y diben y’i ceisir ar ei gyfer, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig ystyried y ffaith bod sawl un yn defnyddio’r ddyfais wrth asesu rheidrwydd, cymesuredd a’r risg o gael gwybodaeth arall, gan gynnwys gwybodaeth gyfrinachol.
53. Os bydd un o ddefnyddwyr eraill y ddyfais yn gwrthwynebu’r cais i echdynnu gwybodaeth ohoni, y person awdurdodedig fydd yn ystyried y cam gweithredu mwyaf priodol nesaf. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig gydbwyso hawliau ac anghenion y ddau unigolyn â rheidrwydd a chymesuredd parhau i echdynnu gwybodaeth.
54. Gellir defnyddio’r pŵer o dan Adran 37 hefyd er mwyn helpu i ddod o hyd i berson coll neu amddiffyn plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg rhag esgeulustod neu niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol. Bydd oedolyn yn wynebu risg os cred y person awdurdodedig yn rhesymol fod yr oedolyn yn profi esgeulustod neu niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol neu’n wynebu risg o hynny ac na all amddiffyn ei hun rhag yr esgeulustod na’r niwed hwnnw (na’r risg ohono).[footnote 39] Gall niwed hefyd gynnwys cam-drin ariannol neu reolaeth drwy orfodaeth. Nid oes angen i berson awdurdodedig gael cytundeb yn yr achosion hyn ond mae’n rhaid iddo fodloni amodau perthnasol yn Adran 40. Mae hon yn nodi y gellir arfer y pwerau pan fydd person ar goll a phan oedd y person hwnnw yn defnyddio’r ddyfais yn union cyn mynd ar goll. Bydd angen i berson awdurdodedig gredu’n rhesymol bod bywyd y person mewn perygl neu fod risg o niwed difrifol i’r person er mwyn arfer y pwerau hyn.
55. Ystyr yr ymadrodd ‘yn union cyn mynd ar goll’ yw ei fod yn defnyddio’r ddyfais yn weithredol hyd at yr adeg y rhoddwyd gwybod ei bod ar goll. Er enghraifft, os deuir o hyd i ddwy ddyfais wrth chwilio cartref person ar goll a bod un yn cyfateb i’r disgrifiad o’r ddyfais y mae’r person sydd wedi rhoi gwybod bod y person ar goll yn credu bod yr unigolyn yn ei defnyddio, yna byddai’n rhesymol i’r person awdurdodedig gredu mai hon oedd y ddyfais oedd yn cael ei defnyddio “yn union cyn mynd ar goll” ac mai’r ddyfais hon sydd fwyaf tebygol o gynnwys gwybodaeth sy’n berthnasol i helpu i ddod o hyd i’r person coll.
56. Pan fo person ar goll a chredir ei fod yn wynebu risg o niwed ond nad oes unrhyw dystion i helpu i gadarnhau pa ddyfais/dyfeisiau a ddefnyddir ganddo, os caiff ei gartref, ei gerbyd neu leoliad arwyddocaol arall ei chwilio, dylai’r person awdurdodedig asesu unrhyw ddyfeisiau y deuir o hyd iddynt. Dylai’r person sy’n cymeradwyo’r defnydd o’r pwerau nodi’r cyfiawnhad dros y gred resymol bod unrhyw ddyfais yn cael ei defnyddio gan y person coll ar yr adeg yr aeth ar goll ynghyd ag ystyriaethau sy’n ofynnol o dan y Ddeddf, megis rheidrwydd, cymesuredd, a’r risg o gael gwybodaeth arall ac ati.
57. Cyn arfer y pŵer o dan Adran 37 er mwyn helpu i ddod o hyd i berson coll, dylai person awdurdodedig ddarllen canllawiau ei sefydliad ei hun ar ymchwiliadau i bobl goll ac os oes angen, geisio arweiniad gan berson a all gymeradwyo defnyddio’r pwerau er mwyn helpu i benderfynu o ba ddyfais y gellir echdynnu gwybodaeth a phenderfynu a yw’r amodau ynglŷn ag echdynnu gwybodaeth wedi’u bodloni.
Adran 38: Darpariaethau a chytundeb gwirfoddol os mai plentyn neu oedolyn heb alluedd yw defnyddiwr dyfais
58. Os na all plentyn[footnote 40] / oedolyn heb alluedd ddarparu dyfais yn wirfoddol na chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni at ddibenion Adran 37 o’r Ddeddf.
59. Bydd unigolyn amgen yn gyfrifol am wneud y penderfyniadau hyn ar ran y plentyn neu’r oedolyn heb alluedd. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae hyn yn golygu sicrhau yr ystyrir buddiannau pennaf y plentyn yn ei benderfyniad neu, i bersonau awdurdodedig yn yr Alban, fod y plentyn yn cael budd o’r ymyriad.
60. Nodir canllawiau manwl ar ddefnyddio’r pwerau hyn yn achos plant ac oedolion heb alluedd, gan gynnwys pwy sy’n gallu gweithredu fel unigolyn amgen i wneud penderfyniadau ar ran plentyn neu oedolyn heb alluedd, yn Rhan 6 o’r cod hwn.
Adran 40: Echdynnu gwybodaeth o dan Adran 37 heb ddarpariaeth na chytundeb gwirfoddol:achosion arbennig
61. Dim ond yn yr achosion isod y mae’r canllaw canlynol yn gymwys:
-
pan fo defnyddiwr y ddyfais wedi marw, a’i fod yn defnyddio’r ddyfais yn union cyn ei farwolaeth
-
os mai plentyn neu oedolyn heb alluedd oedd defnyddiwr y ddyfais a bod y person awdurdodedig yn credu’n rhesymol fod ei fywyd mewn perygl, neu fod risg o niwed difrifol iddo
-
pan fo defnyddiwr y ddyfais ar goll, a’i fod yn defnyddio’r ddyfais yn union cyn mynd ar goll a bod y person awdurdodedig yn credu’n rhesymol bod ei fywyd mewn perygl neu fod risg o niwed difrifol iddo
62. Yn yr achosion hyn, gall y person awdurdodedig echdynnu gwybodaeth o’r ddyfais er nad yw wedi cael ei darparu’n wirfoddol ac er na chafwyd cytundeb gwirfoddol i echdynnu gwybodaeth ohoni. Fodd bynnag, mae darpariaethau eraill Adran 37 yn gymwys o hyd (e.e., mae’n rhaid i’r person awdurdodedig gredu’n rhesymol fod y wybodaeth sy’n cael ei storio ar y ddyfais yn berthnasol at ddiben y gall arfer y pŵer ar ei gyfer).
63. Er enghraifft, efallai y bydd heddlu yn ceisio dod o hyd i berson coll y cred ei fod yn wynebu risg o niwed difrifol. Os bydd yr heddlu, wrth geisio dod o hyd i’r person, yn dod o hyd i ddyfais y person coll neu y rhoddir dyfais y person coll i’r heddlu, gall yr heddlu arfer y pŵer o dan Adran 37 i echdynnu gwybodaeth o’r ddyfais, heb geisio cytundeb gan ddefnyddiwr y ddyfais neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os mai plentyn neu oedolyn heb alluedd yw’r person coll, lle y byddai’n ofynnol i unigolyn amgen, o dan amgylchiadau eraill, gytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu.
Adran 41: Echdynnu Gwybodaeth:ymchwiliadau i farwolaethau
64. Yn achos Adran 41 (echdynnu at ddibenion ymchwiliad neu gwest i farwolaeth), caiff y person awdurdodedig echdynnu gwybodaeth o’r ddyfais er nad yw wedi cael ei darparu’n wirfoddol ac er na chafwyd cytundeb i echdynnu gwybodaeth ohoni. Fodd bynnag, mae darpariaethau eraill Adran 41 yn gymwys o hyd (e.e., mae’n rhaid i’r person awdurdodedig gredu’n rhesymol o hyd fod y wybodaeth sy’n cael ei storio ar y ddyfais yn berthnasol i’r ymchwiliad neu’r cwêst).
Adran 41: y pŵer ac at ba ddibenion y gellir ei arfer
65. Gellir defnyddio’r pŵer o dan Adran 41 pan fo person a oedd yn defnyddio’r ddyfais wedi marw ac, yn union cyn ei farwolaeth, ei fod yn defnyddio’r ddyfais. Gellir arfer y pŵer at ddibenion:
-
41(2)(a) ymchwiliad i farwolaeth person o dan Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 (Cymru a Lloegr),
-
41(2)(b) cwêst i farwolaeth person o dan Ddeddf Crwneriaid (Gogledd Iwerddon) 1959 neu,
-
41(2)(c) ymchwiliad i farwolaeth y person gan yr Arglwydd Adfocad (yr Alban)
66. Mae hyn yn cynnwys penderfynu a ddylai ymchwiliad neu gwêst o’r fath gael ei gynnal.
67. Mae’r pŵer hwn ar wahân i unrhyw bŵer arall i atafaelu dyfeisiau, megis y rhai a geir yn Neddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009. Nid oes angen i bersonau awdurdodedig gael cytundeb i arfer y pŵer at y diben hwn, ond mae’n rhaid iddynt sicrhau bod y gofynion ynglŷn â rheidrwydd, cymesuredd, ac asesu’r risg o gael gwybodaeth arall neu wybodaeth gyfrinachol wedi cael eu bodloni.
68. Mae hyn ar wahân i’r pŵer o dan Adran 37 a all hefyd gael ei ddefnyddio pan fo person wedi marw os ceisir gwybodaeth er mwyn canfod, ymchwilio neu erlyn trosedd sy’n ymwneud â’i farwolaeth.
69. Ystyr yr ymadrodd ‘yn union cyn ei farwolaeth’ yw mai’r person hwnnw oedd defnyddiwr y ddyfais tua adeg ei farwolaeth, ond nad oedd o reidrwydd wrthi’n ei defnyddio pan fu farw. Er nad yw gwybodaeth am bobl ymadawedig yn gyfystyr â data personol o dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig o hyd ystyried gwybodaeth trydydd parti a geir yn y ddyfais electronig wrth asesu rheidrwydd, cymesuredd a’r risg o gael gwybodaeth arall a gwybodaeth gyfrinachol.
Cred resymol bod y wybodaeth ar y ddyfais yn berthnasol
70. Mae’r prawf ynglŷn â chred resymol yn un gwrthrychol. Dylai unrhyw benderfyniad i echdynnu gwybodaeth o ddyfais gael ei wneud ar ôl ystyried yr holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael ar y pryd, gan ystyried ffynhonnell y wybodaeth sydd ar gael a’i chywirdeb a dylai fod yn seiliedig ar fwy nag amheuaeth neu ddyfalu yn unig ar ran y person awdurdodedig.
Yn berthnasol i lwybr ymholi rhesymol
71. Dim ond os cred yn rhesymol fod gwybodaeth ar y ddyfais yn berthnasol i lwybr ymholi rhesymol y mae’n rhaid i berson awdurdodedig arfer y pŵer o dan Adran 37 er mwyn atal, canfod, ymchwilio neu erlyn trosedd ac mae rhwymedigaeth ar bersonau awdurdodedig i ddilyn y canllawiau perthnasol canlynol:
- Yng Nghymru a Lloegr, y cod ymarfer a luniwyd o dan Adran 23 o Ddeddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996. Mae’n gosod dyletswydd ar ymchwilwyr yng Nghymru a Lloegr i ddilyn pob llwybr ymholi rhesymol p’un a yw’n arwain at yr unigolyn dan amheuaeth neu oddi wrtho.
72. Fel y nodwyd yng Nghanllawiau Datgelu 2022 y Twrnai Cyffredinol, “Investigators should ensure that all reasonable lines of inquiry are investigated, whether they point towards or away from the suspect. What is ‘reasonable’ will depend on the context of the case. A fair investigation does not mean an endless investigation. Investigators and disclosure officers must give thought to defining and articulating the limits of the scope of their investigations. When assessing what is reasonable, thought should be given to what is likely to be obtained as a result of the line of enquiry and how it can be obtained. An investigator may seek the advice of the prosecutor when considering which lines of inquiry should be pursued where appropriate”.[footnote 41]
- Yn yr Alban, mae Deddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 yn gymwys. Mae cod ymarfer statudol wedi cael ei gyhoeddi o dan Adran 164 o’r Ddeddf honno.
Noda’r cod ymarfer, “An essential element of the duty of disclosure is the obligation on the police or other investigating agency to pursue all reasonable lines of enquiry, including any line of enquiry that might point away from the accused as the perpetrator of the offence. What constitutes a reasonable line of enquiry will be dependent upon the circumstances of each individual investigation”.
- Yng Ngogledd Iwerddon, mae Cod Ymarfer Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 ar gyfer Gogledd Iwerddon (Diwygiedig) 2005 yn gymwys.
Yn berthnasol i ddiben yn y Ddeddf – Personau coll ac ati
73. Yn yr achos pan fo’r person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer o dan Adran 37 i helpu i ddod o hyd i berson coll, neu er mwyn amddiffyn plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg rhag esgeulustod neu niwed ffisegol, meddyliol neu emosiynol, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig gredu’n rhesymol bod y wybodaeth sy’n cael ei storio ar y ddyfais yn berthnasol i’r diben hwnnw.[footnote 42]
74. Bydd cred resymol bod gwybodaeth yn berthnasol yn cael ei llywio gan amgylchiadau’r ymchwiliad i’r person coll neu pam y credir ei fod yn wynebu risg o niwed. Gall hyn gynnwys manylion megis ei oedran, neu bryderon ynglŷn â’i iechyd meddwl neu ei iechyd corfforol. Gan fod cymaint o wybodaeth ar ddyfais, megis ffôn symudol, mae’n rhesymol tybio y gall y ddyfais gynnwys gwybodaeth sy’n berthnasol. Gall hyn gynnwys:
-
unrhyw arwydd bod y person wedi lladd ei hun neu wedi niweidio ei hun,
-
unrhyw arwydd bod rhywun wedi meithrin perthynas amhriodol â’r person neu fod y person yn wynebu risg o gamfanteisio,
-
unrhyw gysylltiadau anhysbys a all wybod ble mae’r person coll ar y pryd, neu
-
unrhyw arwydd o ble y gallai’r person coll fod wedi mynd
75. Ym mhob achos pan ddefnyddir y pŵer i ddod o hyd i berson coll neu i amddiffyn plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg rhag niwed, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig o hyd ystyried a yw’r defnydd o’r pŵer yn angenrheidiol ac yn gymesur ac a oes ffyrdd eraill o gael y wybodaeth berthnasol sy’n llai ymwthiol na’i hechdynnu o’i ddyfais.
76. Pan fo’r person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer o dan Adran 41 at ddibenion ymchwiliad i farwolaeth y person o dan Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 (Cymru a Lloegr), cwest i farwolaeth y person o dan Ddeddf Crwneriaid (Gogledd Iwerddon) 1959, neu ymchwiliad i farwolaeth y person gan yr Arglwydd Adfocad (yr Alban), neu i benderfynu a ddylai ymchwiliad neu gwêst o’r fath gael ei gynnal, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig gredu’n rhesymol bod y wybodaeth sy’n cael ei storio ar y ddyfais yn berthnasol i ddiben o dan Adran 41(2) (a)-(c) o’r Ddeddf.
Rheidrwydd a chymesuredd
77. Ni waeth at ba ddiben y mae’r pwerau yn cael eu hystyried, mae’n rhaid peidio â rhagdybio y bydd y wybodaeth yn cael ei hechdynnu o ddyfais.
78. Os oes ffyrdd llai ymwthiol o gael y wybodaeth ar gael, mae’n rhaid eu hystyried, a’u defnyddio lle y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn sicrhau bod y cais i echdynnu gwybodaeth yn bodloni’r prawf o reidrwydd a chymesuredd llwyr.
79. Yr ystyriaethau allweddol wrth benderfynu a yw’r defnydd o’r pwerau yn angenrheidiol ac yn gymesur yw’r effaith ar hawl defnyddiwr y ddyfais i breifatrwydd ac ymwthio anuniongyrchol i hawl trydydd partïon i breifatrwydd y gall eu gwybodaeth hwythau hefyd gael ei hechdynnu. Cyn defnyddio’r pwerau hyn, mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig ystyried a oes unrhyw ffyrdd llai ymwthiol o gael y wybodaeth sydd ei hangen a fyddai’n osgoi ymwthio i hawl defnyddiwr y ddyfais i breifatrwydd neu breifatrwydd unrhyw drydydd parti y gall ei wybodaeth fod yn weladwy.
80. Er bod yn rhaid i bob achos gael ei ystyried yn ofalus, mae’n annhebygol iawn y bydd echdynnu’r holl wybodaeth o ddyfais megis ffôn symudol, llechen, gliniadur neu gyfrifiadur arall ac adolygu’r holl gynnwys yn bodloni’r prawf ynglŷn â rheidrwydd a chymesuredd yn y rhan fwyaf o achosion, a hynny am fod modd storio cymaint o wybodaeth ar ddyfeisiau o’r fath a’i bod yn annhebygol y bydd yr holl wybodaeth o’r fath yn berthnasol i lwybr ymholi.
81. O dan Adrannau 37(5)(c) a 41(4)(b) mae’n rhaid i’r person awdurdodedig, hyd yn oed pan fydd yn credu’n rhesymol bod y wybodaeth sy’n cael ei storio ar y ddyfais yn berthnasol i lwybr ymholi rhesymol neu ddiben fel uchod, hefyd fodloni ei hun bod y defnydd o’r pŵer o dan Adran 37 neu Adran 41 yn angenrheidiol ac yn gymesur er cyflawni’r diben.
82. Er mwyn i arfer y naill bŵer a’r llall fod yn angenrheidiol ac yn gymesur, bydd yn rhaid i’r person awdurdodedig fodloni ei hun bod angen y wybodaeth a geisir er mwyn cyflawni’r diben perthnasol, e.e., atal trosedd, ac nad oes modd cyflawni’r diben drwy ffyrdd eraill, llai ymwthiol. Er mwyn arfer y pŵer yn gymesur, mae’n rhaid ystyried a yw’r diben yn cyfiawnhau’r ymwthiad i breifatrwydd y person, a’i fod wedi cael cyn lleied o wybodaeth â phosibl. Er enghraifft, gall fod yn gymesur echdynnu gwybodaeth benodol ar gyfer troseddau difrifol, megis llofruddiaeth neu herwgipio, ond nid ar gyfer troseddau lefel is, megis ymddygiad gwrthgymdeithasol neu fân ddifrod. Mae’n rhaid i bob achos gael ei ystyried yn ofalus yn ôl ei deilyngdod ei hun ac mae’n rhaid peidio â rhagdybio y bydd gwybodaeth yn cael ei hechdynnu o ddyfais oni fydd yr holl amodau a nodir yn Adran 37 ac Adran 41 a’r cyfundrefnau prosesu data perthnasol yn cael eu bodloni.
83. Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig gydbwyso’n ofalus yr angen am yr holl wybodaeth ag ymyrryd â hawl unigolyn (neu unigolion) i breifatrwydd a hawl ddiamod diffynnydd i gael treial teg.
84. Os penderfynir ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur echdynnu gwybodaeth, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig gofnodi ei resymeg dros wneud y cais yn yr hysbysiad ysgrifenedig, sydd i’w gyflwyno i ddefnyddiwr y ddyfais. Ceir rhagor o wybodaeth am beth arall y gall yr hysbysiad ysgrifenedig hwn ei gynnwys a sut y dylid ei rannu â defnyddiwr y ddyfais yn yr adran o’r cod hwn ynglŷn â’r Hysbysiad ysgrifenedig.
85. Er nad oes dim yn y cod hwn sy’n atal y defnydd cyfreithlon o bwerau amgen i gael dyfais neu echdynnu gwybodaeth ohoni, nid argymhellir y dylid defnyddio pwerau gorfodol i gael dyfeisiau sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif oddi wrth ddioddefwyr na thystion, er enghraifft pwerau atafaelu o dan PACE.[footnote 43] Anaml y dylid cael gwybodaeth o ddyfais dioddefwr neu dyst sy’n cynnwys gwybodaeth sensitif neu bersonol heblaw drwy gytundeb.
Y risg o gael gwybodaeth arall
86. O dan Adran 37(6) a (7) ac Adran 41(5) a (6), mae’n rhaid i berson awdurdodedig, sy’n arfer y naill bŵer neu’r llall, ystyried a oes risg o gael gwybodaeth heblaw’r wybodaeth sy’n angenrheidiol at ddiben y gall arfer y pŵer ar ei gyfer. Os yw’r risg hon yn bodoli, er mwyn i’r defnydd o’r naill bŵer a’r llall fod yn gymesur, mae’n rhaid i berson awdurdodedig fodloni ei hun nad oes unrhyw ffordd arall o gael y wybodaeth sy’n osgoi’r risg honno, neu os oes ffordd o’r fath, nad yw’n rhesymol ymarferol i’w defnyddio.
87. Er mwyn bodloni eu hunain nad oes ffordd arall o gael y wybodaeth, dylai personau awdurdodedig ystyried y math o wybodaeth sydd ei hangen ac a oes dulliau eraill ar gael i’w chael. Er enghraifft, efallai y bydd darparwyr systemau cyfathrebu yn dal gwybodaeth am ddeiliaid cyfrifon i adnabod defnyddwyr cyfrifon ar-lein, cyfeiriadau e-bost, neu rifau ffôn. Dylid bob amser ystyried echdynnu gwybodaeth o ddyfais unigolyn dan amheuaeth yn gyntaf. Pan fo gofyniad i gael nifer cyfyngedig o negeseuon rhwng dioddefwr ac unigolyn dan amheuaeth, dylid ystyried cofnodi delweddau o’r negeseuon drwy sgrin luniau.
88. Mae’r dyfarniad yn achos Bater-James yn cyfeirio’n benodol at yr amgylchiadau pan fyddai’n briodol defnyddio dulliau amgen yn lle lawrlwytho digidol ac yn awgrymu y gall sgrin luniau neu ryw gofnod addas arall, ddiwallu anghenion yr achos.[footnote 44] Pan nodir ffyrdd amgen o gael y wybodaeth, os bydd y rhain yn lleihau’r risg o gael gwybodaeth arall, dylai’r rhain gael eu defnyddio oni bai bod rheswm pam na fydd yn rhesymol ymarferol gwneud hynny. Mae’r prawf ynglŷn â’r hyn sy’n rhesymol ymarferol yn wrthrychol. Mae’n rhaid i’r person awdurdodedig asesu a fyddai’n rhesymol ymarferol defnyddio’r ffordd eraill o dan yr amgylchiadau. Bwriedir i’r eithriad o ran yr hyn nad yw’n rhesymol ymarferol sicrhau mewn achosion penodol, er enghraifft pan fo’n hollbwysig cael y wybodaeth o fewn cyfnod penodol er mwyn diogelu bywyd neu atal niwed, fod personau awdurdodedig yn gallu ceisio cytundeb yn hytrach na gwneud cais am orchymyn llys neu oedi arall. Pan ddefnyddir dulliau amgen i gael y wybodaeth, bydd angen bodloni gofynion perthnasol yr awdurdodaeth honno ran tystiolaeth o hyd. Ni fyddai oedi ar ei ben ei hun yn ddigon o gyfiawnhad dros beidio â defnyddio dull amgen oni bai bod risg wirioneddol ac uniongyrchol o niwed. Ym mhob achos, dim ond pan fetho popeth arall y dylid echdynnu gwybodaeth o ddyfais (heblaw am ddyfais unigolyn dan amheuaeth) a dim ond pan fydd dulliau eraill, llai ymwthiol o gael y wybodaeth a geisir wedi methu neu y tybir nad yw’n rhesymol ymarferol rhoi cynnig arnynt y dylid ystyried gwneud hynny.
89. Gallai gwybodaeth arall gynnwys:
-
gwybodaeth bersonol ar y ddyfais sy’n ymwneud â’r defnyddiwr ond nad yw’n angenrheidiol at y diben, megis ffotograffau, cynnwys negeseuon neu fanylion eu cysylltiadau
-
gwybodaeth ar y ddyfais sy’n ymwneud â thrydydd parti ac nad yw’n angenrheidiol at y diben – er enghraifft, ffotograffau a anfonwyd at ddefnyddiwr y ddyfais a dynnwyd gan rywun arall, cynnwys negeseuon, neu wybodaeth gyswllt megis cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn
90. Os yw’r person awdurdodedig, ar ôl ystyried rheidrwydd a chymesuredd (gan gynnwys y risg o gael gwybodaeth arall), wedi’i fodloni bod modd cyfiawnhau defnyddio un o’r pwerau hyn, gall weithredu, ond dylai leihau’r risg o gael gwybodaeth arall hyd y gellir. Dylai hyn gynnwys defnyddio technolegau priodol i gefnogi proses echdynnu dethol a defnyddio allweddeiriau wedi’u targedu, amrediadau dyddiadau neu fanylion penodol eraill i nodi’r wybodaeth angenrheidiol. Mae gallu technolegol yn gwella o hyd a dylai personau awdurdodedig fod yn ymwybodol o’r opsiynau technolegol sydd ar gael yn eu sefydliadau a chael y wybodaeth ddiweddaraf amdanynt a sicrhau eu bod yn defnyddio’r rhai sy’n cynnig y broses echdynnu gwybodaeth fwyaf dethol.
Gwybodaeth gyfrinachol
91. Mae’r paragraffau canlynol yn rhoi arweiniad ar arfer y pwerau yn Adran 37 ac Adran 41 o’r Ddeddf mewn perthynas â gwybodaeth gyfrinachol. Mae hyn yn cynnwys beth yw gwybodaeth gyfrinachol, sut y dylai personau awdurdodedig ystyried y risg o gael gwybodaeth gyfrinachol, a sut y dylent weithredu os credant fod risg o gael gwybodaeth gyfrinachol.
92. Diffinnir gwybodaeth gyfrinachol yn Adran 43 o’r Ddeddf. Mae gwybodaeth gyfrinachol yn cyfeirio at y canlynol:
-
Deunydd newyddiadurol cyfrinachol - fel y’i diffiniwyd yn Neddf Pwerau Ymchwilio 2016.[footnote 45] Dyma ddefnydd a grëir neu a geir at ddibenion newyddiaduraeth a ddelir yn gyfrinachol (neu sydd, yn achos deunydd mewn gohebiaeth, y mae’r anfonwr yn ei ddal yn gyfrinachol neu y bwriedir i’r derbynnydd ei ddal yn gyfrinachol).
-
Deunydd a ddiogelir - fel y’i diffiniwyd yn Adran 43(2) o’r Ddeddf, sy’n cynnwys:
i. Gohebiaeth benodol rhwng cynghorwr cyfreithiol proffesiynol a’i gleient (neu rhwng person o’r fath ac eraill).
ii. Cofnodion personol a deunydd arall a grëir neu a geir wrth ymgymryd â masnach, busnes, proffesiwn neu alwedigaeth (neu at ddibenion unrhyw swydd) a ddelir yn gyfrinachol.
93. Mae’n rhaid i’r pwerau hyn beidio â chael eu defnyddio pan fo bwriad i echdynnu gwybodaeth gyfrinachol. Os yw’r person awdurdodedig yn ceisio gwybodaeth gyfrinachol ar y ddyfais sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, mae’n rhaid defnyddio pŵer gwahanol megis, yng Nghymru a Lloegr, Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001, i’w chael. Dylai personau awdurdodedig edrych ar bolisi lleol i gadarnhau’r pŵer cyfreithiol priodol os ceisir gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth a ddiogelir.
94. Os bydd y person awdurdodedig yn credu y gall fod gwybodaeth gyfrinachol ar y ddyfais, ond nad yw’n ei cheisio, yna mae’r adrannau canlynol yn gymwys.
95. Os bydd person yn nodi bod gwybodaeth gyfrinachol ar ei ddyfais, dylai’r person awdurdodedig benderfynu a yw’n debygol o fod yn berthnasol i’r llwybr ymholi.
96. Ni ddylai person awdurdodedig o dan unrhyw amgylchiadau ofyn i ddefnyddiwr y ddyfais ildio ei hawl i gyfrinachedd at ddibenion cael gwybodaeth gyfrinachol. Os bydd defnyddiwr dyfais yn mynegi ei ddymuniad i wneud hynny, dylai’r person awdurdodedig ei gynghori mai dim ond ar ôl i ddefnyddiwr y ddyfais gael cyngor cyfreithiol y dylid gwneud y penderfyniad hwn.
97. Dylai personau awdurdodedig ymgyfarwyddo â chanllawiau a pholisïau sefydliadol a cenedlaethol ynglŷn â deunydd digidol, gwybodaeth gyfrinachol a deunydd a ddiogelir, yn ychwanegol at y cod ymarfer hwn.[footnote 46]
Asesu a oes risg o gael gwybodaeth gyfrinachol
98. Ym mhob achos pan fo person awdurdodedig yn ystyried defnyddio’r pŵer o dan Adran 37 neu Adran 41, mae’n rhaid iddo asesu a oes risg o gael gwybodaeth gyfrinachol. Am fod rhai dyfeisiau megis ffonau clyfar yn dal cymaint o wybodaeth, mae’n rhesymol tybio ei bod yn debygol y bydd gan lawer o bobl rywfaint o wybodaeth ar y ddyfais y gellid ei hystyried yn wybodaeth gyfrinachol at ddibenion y Ddeddf. Mewn rhai achosion, efallai na fydd y wybodaeth gyfrinachol yn berthnasol i’r achos, er enghraifft, pan fydd gan ddioddefwr ymosodiad rhywiol ohebiaeth â chyfreithiwr ynglŷn â gwerthu eiddo ar ei ddyfais. Fodd bynnag, mewn achosion eraill, mae’n bosibl y bydd y ddyfais yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a all fod yn berthnasol i’r ymchwiliad gan y person awdurdodedig, er enghraifft, gohebiaeth rhwng defnyddiwr y ddyfais a gweithiwr proffesiynol cyfreithiol ynglŷn â honiad troseddol a wnaed gan y dioddefwr y mae’r heddlu yn ymchwilio iddo.
99. Dylai personau awdurdodedig arfer eu barn broffesiynol i asesu a oes risg o gael gwybodaeth gyfrinachol. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl na fydd defnyddiwr y ddyfais yn gwybod a oes gwybodaeth gyfrinachol ar ei ddyfais ond dylai person awdurdodedig ystyried gofyn i bob person sy’n rhoi cytundeb ynghylch a yw’n debygol bod gwybodaeth gyfrinachol ar ei ddyfais.
100. Os mai cyfreithiwr neu newyddiadurwr yw defnyddiwr y ddyfais a bod y ddyfais sydd i’w harchwilio yn cael ei defnyddio ar gyfer ei waith, gall fod yn rhesymol tybio y bydd ei ddyfais yn cynnwys cryn dipyn o wybodaeth gyfrinachol. Yn y senario hwn, cynghorir yn gryf fod y person awdurdodedig yn gofyn a oes gwybodaeth gyfrinachol wedi’i storio ar ei ddyfais.
101. Dylai personau awdurdodedig ddefnyddio ffeithiau’r achos, a gwybodaeth gan ddefnyddiwr y ddyfais i lunio barn ar sail gwybodaeth ynghylch a oes risg o gael gwybodaeth gyfrinachol.
102. Dylai’r person awdurdodedig gofnodi ei asesiad risg a’i benderfyniad ynglŷn â sut mae’n bwriadu gweithredu.
Sut i weithredu ar ôl asesu a oes risg o gael gwybodaeth gyfrinachol
103. Os yw’r person awdurdodedig o’r farn nad oes risg o gael gwybodaeth gyfrinachol, gall ddefnyddio’r pwerau hyn (ar yr amod ei fod yn bodloni gofynion eraill y Ddeddf a’r cod hwn).
104. Os bydd y person awdurdodedig o’r farn bod risg o gael gwybodaeth gyfrinachol, mae’n rhaid ystyried pob un o’r canlynol:
(a) y math o wybodaeth gyfrinachol sy’n debygol o gael ei storio ar y ddyfais
(b) faint o wybodaeth gyfrinachol sy’n debygol o gael ei storio ar y ddyfais
(c) perthnasedd posibl y wybodaeth honno at y diben(ïon) y gellir echdynnu gwybodaeth ar ei gyfer/ar eu cyfer
(d) a oes ffyrdd eraill o gael y wybodaeth a geisir nad ydynt yn achosi’r risg o gael gwybodaeth gyfrinachol a bodloni ei hun (i) nad oes rhai neu (ii) neu os oes rhai, nad yw’n rhesymol ymarferol eu defnyddio.
105. Dim ond os yw’r person awdurdodedig wedi ystyried y materion yn (a), (b) ac (c) uchod ac wedi bodloni ei hun yn unol â (d) uchod y bydd arfer y pŵer o dan Adran 37 neu Adran 41 yn gymesur.
106. Mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig ystyried y math o wybodaeth gyfrinachol sy’n debygol o gael ei storio ar y ddyfais ac a oes cyfyngiadau neu ystyriaethau ychwanegol o ran ymdrin â’r math hwnnw o wybodaeth.
107. Os yw’n debygol mai ychydig iawn o wybodaeth gyfrinachol a gaiff ei hechdynnu, a bod y wybodaeth yn debygol o fod yn amherthnasol i’r achos, gall y person awdurdodedig fwrw ymlaen i’w hechdynnu. Ym mhob achos pan fo technoleg echdynnu dethol ar gael mae’n rhaid ei defnyddio i leihau’r risg o gael unrhyw wybodaeth amherthnasol, gan gynnwys gwybodaeth gyfrinachol, i’r eithaf.
108. Os yw’n debygol bod cymaint o wybodaeth gyfrinachol ar y ddyfais nes ei bod bron yn sicr y bydd yn cael ei hechdynnu wrth echdynnu gwybodaeth, dylai’r person awdurdodedig ystyried defnyddio pŵer gwahanol os bydd amgylchiadau’r diben yn caniatáu hynny. Os yw’n debygol bod gwybodaeth gyfrinachol ar y ddyfais a’i bod yn debygol o fod yn berthnasol i’r achos, yna mae’n rhaid i’r person awdurdodedig ddefnyddio pŵer arall i’w chael.
Beth i’w wneud os ceir gwybodaeth gyfrinachol yn anfwriadol
109. Weithiau, efallai y bydd gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei hechdynnu’n anfwriadol a’i hadolygu wrth echdynnu gwybodaeth. Yn dibynnu ar y wybodaeth dan sylw, dylai’r person awdurdodedig weithredu fel a ganlyn:
-
os yw’r wybodaeth gyfrinachol a echdynnir yn anfwriadol yn amherthnasol i’r achos, mae’n rhaid ei dileu neu ei golygu mor fuan ag y bo’n ymarferol
-
os yw’r wybodaeth gyfrinachol yn berthnasol i’r achos, i ddechrau, dylai’r person awdurdodedig edrych ar ganllawiau eraill sydd ar gael ynglŷn â’r hyn y dylid ei wneud o dan y senario hwn. Er enghraifft, ar gyfer rhai mathau o wybodaeth gyfrinachol, efallai y bydd angen anfon yr holl ddeunydd a echdynnwyd i’w adolygu gan gyfreithiwr sy’n annibynnol ar yr awdurdod cyhoeddus
110. Ym mhob achos pan fydd yn hysbys bod gwybodaeth gyfrinachol wedi cael ei hechdynnu o’r ddyfais heb yn wybod i ddefnyddiwr y ddyfais, dylai’r person awdurdodedig ei hysbysu ar y cyfle cyntaf posibl am yr hyn a echdynnwyd a pha gamau a gymerwyd i ddiogelu ei wybodaeth, oni bai bod sail gyfreithlon dros beidio â gwneud hynny.
Cymeradwyo’r defnydd o’r pwerau
111. Dylai fod gan bob awdurdod sy’n defnyddio’r pwerau hyn weithdrefn sy’n nodi’n glir pwy ddylai gymeradwyo’r defnydd o’r pwerau a’r broses y dylid ei dilyn.
112. Dylai’r weithdrefn hon gynnwys gwybodaeth am y canlynol:
-
gradd neu reng yr unigolyn a ddylai gymeradwyo unrhyw ddefnydd o’r pwerau (‘y Swyddog Cymeradwyo’)
-
y ddogfennaeth y dylai’r Swyddog Cymeradwyo ei chwblhau er mwyn caniatáu i wybodaeth gael ei hechdynnu, gan gynnwys y cofnod o sut mae’r cais yn bodloni’r gofynion ar gyfer defnyddio’r pŵer a nodwyd yn Adran 37 ac Adran 41
-
y weithdrefn y dylai’r Swyddog Cymeradwyo ei dilyn yn achos awdurdodiad brys ar lafar i ddefnyddio’r pwerau
113. Dylai’r Swyddog Cymeradwyo fod o leiaf un radd neu reng yn uwch na gradd neu reng yr unigolyn sy’n gwneud cais i wybodaeth gael ei hechdynnu, ond efallai y bydd rhai asiantaethau yn pennu gradd neu reng benodol. Dylai pob person awdurdodedig gyfeirio at ganllawiau ei sefydliad ei hun ynglŷn â rheng y Swyddog Cymeradwyo.
114. Dylai’r Swyddog Cymeradwyo gyfeirio at yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer y Ddeddf wrth benderfynu ar y camau priodol i’w cymryd.[footnote 47]
115. Gall awdurdodiad brys ar lafar gael ei roi gan berson o leiaf un radd neu reng yn uwch na’r person sy’n ceisio’r awdurdodiad pan fo risg wirioneddol ac uniongyrchol o niwed difrifol i berson a bod y gofynion ynglŷn â defnyddio’r pŵer yn Adran 37 yn cael eu bodloni. Dylai’r person sy’n cymeradwyo’r pŵer lunio cofnod ysgrifenedig o’i awdurdod a’r rheswm drosto cyn gynted ag y bo modd.
116. Dim ond at y broses fewnol o awdurdodi defnyddio’r pwerau y mae awdurdodiad brys yn cyfeirio. Ni waeth beth yw natur frys achos, os bydd angen darparu dyfais yn wirfoddol a chytundeb h.y., er mwyn atal trosedd ac ati, yna mae’n rhaid i holl rwymedigaethau Adran 37 ac Adran 39 gael eu bodloni.
117. Dylai’r awdurdodiad fod wedi’i gyfyngu i echdynnu’r wybodaeth benodol sydd ei hangen at y dibenion y’i ceisir neu i ymdrin â llwybr ymholi rhesymol.
Cofnodi’r defnydd o’r pwerau hyn
118. Dylai personau awdurdodedig gofnodi’n ysgrifenedig eu rhesymeg dros eu penderfyniadau i ddefnyddio’r pwerau hyn, i gynnwys y pwyntiau a nodir uchod – y wybodaeth berthnasol a geisir, pam mae’r defnydd o’r pwerau hyn yn angenrheidiol ac yn gymesur, pa opsiynau amgen i gael y wybodaeth a ystyriwyd ac, os nodwyd unrhyw rai, pam nad oedd yn rhesymol ymarferol eu defnyddio.
119. Mae Rhan 4 o’r cod yn rhoi mwy o fanylion am y gofynion ynglŷn â chofnodi gwybodaeth.
Echdynnu gwybodaeth
120. Dim ond personau sydd wedi cael hyfforddiant priodol mewn unrhyw dechneg echdynnu a ddefnyddir ganddynt a gaiff echdynnu gwybodaeth. Yng Nghymru a Lloegr, dylai gwybodaeth gael ei hechdynnu’n unol â’r safonau ansawdd a nodwyd yng Nghod Ymarfer y Rheoleiddiwr Gwyddoniaeth Fforensig ac mewn unrhyw ganllawiau ychwanegol a gyhoeddir gan y Rheoleiddiwr. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gellir echdynnu gwybodaeth yn unol â’r safonau ansawdd a nodwyd yng Nghod Ymarfer y Rheoleiddiwr Gwyddoniaeth Fforensig ac mewn unrhyw ganllawiau ychwanegol a gyhoeddir gan yr awdurdod perthnasol yn y gwledydd hynny. Mae hyn yn cynnwys ennill achrediad pan fo hyn yn ofynnol o dan y Cod neu’r ddogfen ganllaw. Yr awdurdodau perthnasol yw:
-
Yng Nghymru a Lloegr – Cod Ymarfer y Rheoleiddiwr Gwyddoniaeth Fforensig[footnote 48]
-
Yn yr Alban – Gwasanaethau Fforensig Awdurdod Heddlu’r Alban[footnote 49]
-
Yng Ngogledd Iwerddon – Gwyddoniaeth Fforensig Gogledd Iwerddon[^50]
121. O dan rai amgylchiadau, gall fod yn bosibl i’r person awdurdodedig echdynnu gwybodaeth ym mhresenoldeb defnyddiwr y ddyfais er mwyn iddo weld y broses echdynnu. Os yw defnyddiwr y ddyfais wedi gofyn am hyn, argymhellir bod hyn yn cael ei hwyluso oni fydd yn anymarferol neu’n amhriodol gwneud hynny.
122. Mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig sicrhau bod echdynnu gwybodaeth yn cael ei awdurdodi’n briodol cyn dechrau, a phan fo’r pwerau o dan Adran 37 wedi’u defnyddio er mwyn atal, canfod troseddau ac ati, fod ganddynt y cytundeb ysgrifenedig priodol sy’n nodi’r wybodaeth a geisir.
123. Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig ystyried y pŵer a ddefnyddiwyd i gael y ddyfais a’r pŵer a ddefnyddiwyd i echdynnu’r wybodaeth. Pan fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei hechdynnu a’i phrosesu, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig hefyd fodloni gofynion deddfwriaeth diogelu data.[footnote 51] Ni ddylai’r wybodaeth a echdynnir fod yn fwy na’r hyn sy’n berthnasol ac ni ddylid blaenoriaethu cyflymder echdynnu gwybodaeth dros y gallu i echdynnu gwybodaeth yn ddethol.
124. Nid yw’r pwerau hyn yn caniatáu cael gwybodaeth a ddelir oddi ar y ddyfais, y cyfeirir ati weithiau fel gwybodaeth a ddelir yn y ‘cwmwl’.[footnote 52]
125. Mae pwerau Adran 37 ac Adran 41 yn caniatáu i berson awdurdodedig echdynnu gwybodaeth sy’n cael ei storio ar ddyfais electronig pan fydd yr amodau wedi’u bodloni. Fel y nodir yn Rhan 3 o’r cod hwn, (cymesuredd a’r risg o gael gwybodaeth arall), mae’n rhaid i berson awdurdodedig ystyried y risg o gael gwybodaeth arall a dylai ddewis y dull echdynnu mwyaf dethol sydd ar gael i leihau’r risg o gael gwybodaeth arall neu ormod o wybodaeth.
126. At ddibenion y pwerau hyn, mae’r term ‘echdynnu’ yn cynnwys atgynhyrchu gwybodaeth neu ddata digidol o ddyfais ar unrhyw ffurf.[footnote 53] Mae hyn yn cynnwys tynnu sgrin luniau drwy unrhyw ddull ond nid yw’n cyfyngu ar allu personau awdurdodedig i gael copïau o wybodaeth ddigidol, megis sgrin lun a dynnir gan ddefnyddiwr y ddyfais ac a rennir â’r person awdurdodedig mewn ffordd arall megis ei atodi i e-bost.
127. Ym mhob achos, y person awdurdodedig fydd yn penderfynu ar y sail gyfreithlon dros echdynnu’r wybodaeth sydd ei hangen. Yn achos cael gwybodaeth ar ffurf sgrin lun neu giplun, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig ystyried yn ofalus a yw’n ofynnol defnyddio’r pwerau hyn, neu bŵer arall, er mwyn cael y sgrin lun. Pan fo’r ddelwedd yn cynnwys data personol fel y’i diffiniwyd yn Neddf Diogelu Data 2018[footnote 54], bydd angen hefyd iddo fodloni gofynion y Ddeddf i brosesu’r wybodaeth. Dylai personau awdurdodedig gyfeirio at ganllawiau eu sefydliad eu hunain ar gofnodi gwybodaeth ar ffurf sgrin lun, a all gynnwys gofyniad i’r copïau gael eu hardystio.[footnote 55]
128. Mae gwybodaeth yn cynnwys delweddau symudol neu lonydd a seiniau[footnote 56], negeseuon testun neu ddogfennau sy’n cael eu storio ar y ddyfais, yn ogystal â data eraill megis cyfeiriaduron ffeiliau a gwybodaeth am leoliad.
Dyfeisiau cymwys
129. At ddibenion y pwerau hyn, ystyr dyfais electronig yw unrhyw ddyfais y gellir storio gwybodaeth yn electronig arni ac mae’n cynnwys unrhyw gydran o unrhyw ddyfais o’r fath.[footnote 57] Er mai prif ddiben y pwerau yw galluogi’r person awdurdodedig i gael gwybodaeth berthnasol o ddyfeisiau electronig personol, sef ffonau symudol, llechennau a gliniaduron fel arfer, mae’r diffiniad yn fwriadol eang fel y gellir defnyddio’r pwerau yn gyfreithlon i gael gwybodaeth o unrhyw ddyfais neu eitem sy’n storio gwybodaeth yn electronig pan fo amodau Adran 37 neu Adran 41 yn cael eu bodloni.
Teledu Cylch Cyfyng
130. Gellir defnyddio pwerau Adran 37 ac Adran 41 i gael unrhyw fath o wybodaeth ddigidol neu electronig, gan gynnwys deunydd teledu cylch cyfyng pan fydd y wybodaeth yn cael ei storio’n lleol ar ddyfais.
131. Efallai y bydd yn fwy priodol defnyddio pwerau eraill i gael a phrosesu deunydd teledu cylch cyfyng. Mae ymholiadau ynglŷn â ffilm teledu cylch cyfyng yn aml o natur ddamcaniaethol ac felly gall fod yn anodd bodloni gofynion pwerau Adran 37 neu 41, a hynny am na fydd y person awdurdodedig, heb ei hadolygu, yn gallu dangos o bosibl ei fod yn credu’n rhesymol bod gwybodaeth sy’n cael ei storio ar y system teledu cylch cyfyng yn berthnasol i lwybr ymholi rhesymol neu’n berthnasol i’r diben y’i ceisir ar ei gyfer. Dylai personau awdurdodedig gyfeirio at eu canllawiau sefydliadol neu genedlaethol eu hunain ar gael a rheoli deunydd teledu cylch cyfyng.[footnote 58]
Math o echdynnu
132. Gall galluoedd technegol amrywio rhwng personau awdurdodedig. Y person awdurdodedig a’r ymarferydd fforensig (os defnyddir un) fydd yn penderfynu ar y dull echdynnu mwyaf priodol i gael y wybodaeth sydd ei hangen sy’n cyfyngu ar echdynnu gwybodaeth arall, o gofio’r galluoedd technegol sydd ar gael. Bydd rhai mathau o dechnoleg yn hwyluso’r broses o echdynnu a dargedir, bydd eraill yn gofyn am adfer set ddata fwy o faint i gael y wybodaeth sydd ei hangen.
133. Ym mhob achos, mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig sicrhau nad ydynt yn echdynnu gormod o wybodaeth, gan leihau’r ymwthiad i breifatrwydd defnyddiwr y ddyfais a phreifatrwydd eraill i’r eithaf.
134. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn angenrheidiol echdynnu is-set fwy o wybodaeth i ddeall ei chyd-destun. Er enghraifft, gweld y sgwrs yn union cyn ac ar ôl sylw perthnasol.
135\ Dylai personau awdurdodedig wneud pob ymdrech i gyfyngu ar faint o amser y bydd defnyddiwr dyfais heb ei ddyfais. Gall colli’r ddyfais beri gofid meddwl, ac mae hyn yn arbennig o wir am ddioddefwyr sy’n agored i niwed a fydd yn dibynnu arni i gyfathrebu â’u rhwydwaith cymorth. Bydd colli’r ddyfais am unrhyw gyfnod estynedig o amser yn effeithio’n andwyol ar ddefnyddwyr dyfeisiau sy’n dibynnu arnynt fel eu prif ffordd o gyfathrebu neu i drefnu eu bywyd o ddydd i ddydd.
136. Pan ddefnyddir y pŵer o dan Adran 37, dylid rhoi cyfle i ddefnyddiwr y ddyfais, neu’r person sy’n rhoi cytundeb os yw’n wahanol, fod yn bresennol pan fydd gwybodaeth yn cael ei hechdynnu. Yr eithriadau i hyn yw pan fydd y person awdurdodedig o’r farn ei bod yn anymarferol neu’n amhriodol gwneud hynny, neu pan fydd cyfyngiadau technegol sy’n atal hynny.
137. Mae cyngor a gwybodaeth am archwilio dyfeisiau cyfryngau digidol ar gael i bersonau awdurdodedig yng Nghymru a Lloegr yng Nghanllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron a gymeradwywyd gan y llys apêl.[footnote 59] Mae canllawiau i bersonau awdurdodedig yn yr Alban ar gael yn Llawlyfr Swyddfa’r Goron a’r Procuradur Ffisgal ar Ddatgelu. Dylai personau awdurdodedig yng Ngogledd Iwerddon gyfeirio at God y Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus i Erlynwyr.
Cadw a dileu gwybodaeth a echdynnwyd
138. Mae’n rhaid i wybodaeth a echdynnir ac y tybir nad yw’n berthnasol gael ei dileu oni bai bod sail gyfreithlon dros ei chadw. Dylai unrhyw benderfyniadau ynglŷn â chadw neu ddileu gwybodaeth gael eu hystyried yn unol â chanllawiau perthnasol ar ddatgelu.[footnote 60]
139. Pan geir gormod o wybodaeth neu wybodaeth arall am na fu modd cyfyngu’r broses echdynnu i’r deunydd perthnasol am resymau technolegol, neu ar ôl adolygiad, y tybir nad yw’r wybodaeth a gafwyd yn berthnasol mwyach, oni bai bod sail gyfreithlon dros ei chadw, mae’n rhaid ei dileu.
140. Wrth ystyried a ddylid cadw neu ddileu gwybodaeth a echdynnwyd, mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig gydymffurfio â gofynion datgelu perthnasol, gofynion deddfwriaethol eraill, er enghraifft Deddf Diogelu Data 2018, a chanllawiau rheoli gwybodaeth eu sefydliad eu hunain.[footnote 61]
Rhan 4: Darparu dyfais yn wirfoddol a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu
Gofynion ar gyfer darparu dyfais yn wirfoddol a chytundeb
141. Mae Adran 39 yn nodi’r gofynion y bydd yn rhaid eu bodloni er mwyn i unigolyn gael ei drin fel person sydd wedi darparu dyfais yn wirfoddol ac sydd wedi cytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni (at ddibenion Adran 37 neu Adran 38).
142. Mae’r rhan hon o’r cod yn cynnwys canllawiau ar y canlynol:
-
y meini prawf y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i berson gael ei drin fel person sydd wedi darparu dyfais electronig yn wirfoddol, ac wedi cytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni
-
y gwahaniaeth rhwng darparu’r ddyfais yn wirfoddol a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni
-
beth yw ystyr cytundeb
-
sut i gael cytundeb
-
sut i sicrhau bod cytundeb yn cael ei roi o wirfodd person heb bwysau amhriodol
-
manylion yr hysbysiad ysgrifenedig, gan gynnwys yr hyn y dylai ei gynnwys a sut y dylid ei esbonio i ddefnyddiwr y ddyfais
-
cofnodi cadarnhad o ddarparu dyfais yn wirfoddol a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni
-
hawl unigolyn i wrthod darparu dyfais neu gytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni beth i’w wneud pan nodir llwybr ymholi rhesymol newydd ar ôl i’r broses echdynnu gychwynnol ddigwydd
-
beth i’w wneud pan na all defnyddiwr y ddyfais ddarparu’r ddyfais yn wirfoddol na chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni (os mai plentyn neu oedolyn heb alluedd ydyw)
-
beth i’w wneud pan na all defnyddiwr y ddyfais gadarnhau ei fod yn darparu dyfais yn wirfoddol na rhoi cytundeb yn ysgrifenedig oherwydd namau corfforol neu ddiffyg sgiliau llythrennedd
Darparu dyfais yn wirfoddol, cytundeb a phwysau amhriodol
143. Pan fydd defnyddio’r pŵer o dan Adran 37 yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddiwr dyfais, neu ei gynrychiolydd (yn achos plentyn neu oedolyn heb alluedd), ddarparu’r ddyfais yn wirfoddol a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni, mae’n rhaid i’r cytundeb hwn gael ei roi ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig cyn dechrau echdynnu gwybodaeth. Os na ellir rhoi cytundeb yn ysgrifenedig oherwydd nam corfforol neu ddiffyg sgiliau llythrennedd y person, yna gellir rhoi cytundeb ar lafar. Yn yr achos hwn, dylid gofyn i ddefnyddiwr y ddyfais a yw’n dymuno bod person arall yn bresennol, megis aelod o’r teulu neu ffrind, er mwyn sicrhau bod y drafodaeth lafar yn adlewyrchu’n gywir yr hyn sydd yn yr hysbysiad ysgrifenedig. Mae’n rhaid i’r person awdurdodedig gofnodi’r cytundeb yn ysgrifenedig.
144. Mae’n rhaid bod yr unigolyn wedi gwneud penderfyniad ymwybodol ac yn gyfan gwbl ar sail gwybodaeth i ddarparu’r ddyfais yn wirfoddol ac wedi cytuno o’i wirfodd i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni.
145. Mae’n rhaid sicrhau nad yw’r unigolyn wedi cael ei osod o dan bwysau amhriodol na’i orfodi gan unrhyw un (gan gynnwys person awdurdodedig) i ddarparu’r ddyfais neu gytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni.
146. Ystyr pwysau amhriodol yw gwneud i’r person deimlo fel nad oes ganddo ddewis o ran darparu’r ddyfais yn wirfoddol a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni. Er enghraifft, os gwneir i’r unigolyn deimlo y bydd ymchwiliad yn dod i ben yn gynamserol, neu na fydd llwybrau ymholi rhesymol eraill yn cael eu dilyn os nad yw’n cytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu. Efallai y bydd achosion pan mai’r wybodaeth ar y ddyfais yw’r unig lwybr ymholi rhesymol sy’n weddill, a dylid esbonio hyn yn glir i’r unigolyn. Cydnabyddir y bydd amgylchiadau yn codi pan fydd y weithred ei hun o ofyn am ddyfais ac am i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni, yn gwneud i’r dioddefwr neu’r tyst deimlo rhywfaint o bwysau o bosibl. Dylai’r person awdurdodedig ystyried hyn wrth gyfleu’r rheswm dros y cais.
Hysbysiad ysgrifenedig
147. Er mwyn sicrhau bod dyfais wedi cael ei darparu’n wirfoddol a bod cytundeb wedi cael ei roi, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig (copi caled neu ar ffurf electronig) i ddefnyddiwr y ddyfais, neu os yw’n wahanol, y person sy’n rhoi cytundeb, sy’n nodi:
a. y wybodaeth a geisir
b. y rheswm dros geisio’r wybodaeth, er enghraifft sut y gall ateb llwybr ymholi rhesymol, a sut mae hyn yn bodloni’r gofynion o ran rheidrwydd a chymesuredd
c. sut yr ymdrinnir â’r wybodaeth unwaith y bydd wedi’i hechdynnu, er enghraifft gyda phwy y caiff ei rhannu ac am faint o amser y caiff ei chadw d. y caiff y person wrthod darparu’r ddyfais neu gytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni
e. ac na fydd yr ymholiad yn dod i ben oherwydd y gwrthodiad hwn yn unig[footnote 62]
148. Hefyd, dylai personau awdurdodedig gynnwys y wybodaeth ychwanegol ganlynol yn yr hysbysiad ysgrifenedig a fydd yn helpu’r person sy’n rhoi cytundeb ac yn rhoi sicrwydd ynglŷn â’r broses a’i hawliau:
-
y caiff y person dynnu ei gytundeb yn ôl ar unrhyw adeg cyn bod gwybodaeth yn cael ei hechdynnu, ond pan fydd gwybodaeth eisoes wedi cael ei hechdynnu, mae’r gofynion datgelu yn golygu y caiff rhywfaint o’r wybodaeth a gafwyd ei ddatgelu, gyda’i gytundeb, i Wasanaeth Erlyn y Goron neu’r amddiffyniad lle y bo’n berthnasol
-
am faint o amser y bydd disgwyl i ddefnyddiwr y ddyfais fod heb ei ddyfais
-
os bydd angen echdynnu gwybodaeth ychwanegol, pa gamau a gymerir i gael cytundeb pellach
-
y dulliau eraill, llai ymwthiol y mae’r person awdurdodedig wedi eu hystyried er mwyn cael y wybodaeth hon ac os nodwyd unrhyw rai, pam nad ydynt wedi cael eu dilyn
-
sut y caiff unrhyw wybodaeth ychwanegol a gafwyd ei rheoli
-
sut i herio cais, ar yr adeg y’i gwneir, ac yn ddiweddarach
149. Dylid esbonio’r wybodaeth a geir yn yr hysbysiad ysgrifenedig i geisio cytundeb yn ofalus i’r unigolyn er mwyn sicrhau ei fod wedi’i deall. Os oes amheuaeth ynglŷn â’i ddealltwriaeth, dylid rhoi cymorth ychwanegol i ddefnyddiwr y ddyfais i’w helpu i wneud penderfyniad.[footnote 63]
150. Disgwylir i heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ddefnyddio Hysbysiadau Prosesu Digidol a gymeradwywyd gan Gyngor Prif Swyddogion yr Heddlu ar gyfer yr hysbysiad ysgrifenedig a’r cytundeb.[footnote 64] Ceir copi ohono yn Atodiad D o’r cod hwn. Anogir awdurdodau eraill i ddefnyddio’r Hysbysiad Prosesu Digidol ond gallant benderfynu defnyddio ei ffurflen ei hun ar yr amod ei bod yn bodloni gofynion y Ddeddf. Ym mhob achos, mae’n rhaid bod cysylltiad clir ac amlwg rhwng y wybodaeth sydd angen ei rhoi i ddefnyddiwr dyfais yn ysgrifenedig a’r cytundeb i’w lofnodi. Mae’n rhaid ei bod yn hollol glir o ran pa wybodaeth y mae wedi cytuno y gellir ei hechdynnu ac at ba ddiben. Dylai personau awdurdodedig ystyried adolygu eu hysbysiad ysgrifenedig o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau ei fod yn dal i fod yn addas at y diben.
Cadarnhau bod dyfais wedi cael ei darparu’n wirfoddol a bod cytundeb wedi cael ei roi
151. Cyn y gellir echdynnu gwybodaeth, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig gael cadarnhad yn ysgrifenedig drwy’r hysbysiad ysgrifenedig[footnote 65] bod y ddyfais wedi cael ei darparu’n wirfoddol a bod cytundeb ynglŷn â pha wybodaeth y gellir ei hechdynnu ohoni. Yna, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig roi copi o’r cytundeb i’r person.
152. Os nad oes modd cael cytundeb ysgrifenedig oherwydd nam corfforol neu ddiffyg sgiliau llythrennedd defnyddiwr y ddyfais neu’r person sy’n rhoi cytundeb, yna gellir cael cadarnhad ar lafar. Dylai’r Swyddog Cymeradwyo gytuno ar unrhyw gais i gael cytundeb ar lafar a dylai’r rhesymau drosto gael eu cofnodi. Ni ddylai fod unrhyw dybiaeth awtomatig na all person roi cytundeb ysgrifenedig. Mae’n rhaid i’r person awdurdodedig gofnodi’r cadarnhad ar lafar a rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol.
153. Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig ystyried anghenion yr unigolyn a’r ffactorau sy’n ei wneud yn agored i niwed[footnote 66] a chymryd camau i roi’r cymorth sydd ei angen er mwyn iddo ddeall beth y gofynnir iddo gytuno arno a pham. Gall defnyddiwr y ddyfais gael ei gynorthwyo gan nifer o weithwyr proffesiynol gwahanol yn ystod y broses hon, er enghraifft, cyfieithydd, cyfryngwr, Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA), neu Gynghorydd Annibynol ar Drais Rhywiol.
154. Ni ddylid ceisio cytundeb o dan unrhyw amgylchiadau heb roi’r wybodaeth angenrheidiol yn ysgrifenedig i ddefnyddiwr y ddyfais neu’r person sy’n rhoi cytundeb (os yw’n wahanol).
155. Mae’n rhaid cadw cofnod o gadarnhad, hyd yn oed os mai ar lafar y rhoddwyd cadarnhad,[footnote 67] oherwydd efallai y gofynnir amdano’n ddiweddarach er mwyn dangos i’r ddyfais gael ei darparu’n wirfoddol gyda chytundeb.
156. Os nodir llwybr neu lwybrau ymholiad ychwanegol sydd y tu hwnt i gwmpas yr hyn y cytunwyd arno â defnyddiwr y ddyfais, neu’r person sy’n rhoi cytundeb ar ei ran, bydd angen i’r person awdurdodedig ystyried rhwymedigaethau’r Ddeddf unwaith eto. Ar yr amod bod y rhwymedigaethau hyn yn cael eu bodloni, dylai’r person awdurdodedig roi hysbysiad ysgrifenedig newydd i ddefnyddiwr y ddyfais a gofyn iddo ddarparu’r ddyfais yn wirfoddol a rhoi cytundeb unwaith eto.
157. Esbonnir y canllawiau pellach ar gael barn y rhai heblaw’r person sy’n rhoi cytundeb, er enghraifft os mai plentyn neu oedolyn heb alluedd yw defnyddiwr y ddyfais, yn Rhan 5 o’r cod hwn.
Tynnu cytundeb yn ôl
158. Mae gan ddefnyddiwr y ddyfais, neu’r person sydd wedi darparu’r ddyfais yn wirfoddol ac wedi cytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni yn unol ag Adran 38 yr hawl i dynnu’n ôl ei gytundeb i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni. Yr unigolyn hwnnw biau’r penderfyniad i roi’r ddyfais i’r person awdurdodedig a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni, a chaiff newid ei feddwl. Yn achos dyfais a ddefnyddir gan nifer o ddefnyddwyr, dim ond y person a ddarparodd y ddyfais yn wirfoddol ac a gytunodd i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni a all dynnu’r cytundeb hwnnw yn ôl.
159. Dylid nodi’n glir y bydd tynnu cytundeb yn ôl yn golygu bod y ddyfais yn cael ei dychwelyd, ac os nad oes gwybodaeth wedi cael ei hechdynnu’n barod, yna na chaiff y wybodaeth ei hechdynnu o’r ddyfais. Fodd bynnag, os tynnir cytundeb yn ôl ar ôl i wybodaeth gael ei hechdynnu, efallai na fydd modd ei dileu na’i dychwelyd, a hynny oherwydd y dyletswyddau ar asiantaethau ymchwilio a gwasanaethau erlyn i ddatgelu gwybodaeth i’r amddiffyniad. Fodd bynnag, ym mhob achos, dim ond pan fo sail gyfreithlon dros wneud hynny a chyhyd â bod hynny’n angenrheidiol yn unol â pholisïau cadw data pob awdurdod a chanllawiau perthnasol eraill y mae’n rhaid i’r wybodaeth a echdynnwyd a’r ddyfais gael eu cadw.
160. Mae hyn yn bwysig er mwyn helpu’r unigolyn wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynglŷn â beth i’w wneud, yn enwedig os yw’n caniatáu i’r person awdurdodedig gael mynediad at gryn dipyn o wybodaeth bersonol. Dylai gwybodaeth am hawliau i dynnu cytundeb yn ôl gael ei chynnwys yn fersiwn eich sefydliad o Hysbysiad Prosesu Digidol fel y bo’n briodol.
Rhan 5: Defnyddio’r pŵer o dan Adran 37 yn achos pobl sy’n agored i niwed
Pobl sy’n agored i niwed / dioddefwyr troseddau
161. Diben y rhan hon yw cynnig arweiniad ar yr hyn y dylai personau awdurdodedig ei ystyried yn ofalus wrth ddefnyddio’r pŵer o dan Adran 37 mewn achosion pan fo defnyddiwr y ddyfais yn agored i niwed.
162. Yn y rhan hon, byddwn yn canolbwyntio ar ddioddefwyr troseddau sy’n agored i niwed, sydd wedi profi trawma ac y mae angen mwy o gymorth arnynt o bosibl i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch a ddylent ddarparu eu dyfais yn wirfoddol a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni. Fodd bynnag, ym mhob achos pan fo person awdurdodedig yn ystyried arfer y pŵer o dan Adran 37, dylai ystyried a yw person yn agored i niwed ac a oes angen mwy o gymorth arno o bosibl i benderfynu a ddylai ddarparu ei ddyfais yn wirfoddol a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni.
163. Er enghraifft, mae’r Cod Dioddefwyr[footnote 68] ar gyfer Cymru a Lloegr[footnote 69] yn diffinio dioddefwr fel:
-
person sydd wedi dioddef niwed, gan gynnwys niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol neu golled economaidd, a achoswyd yn uniongyrchol gan drosedd
-
perthynas agos (neu leferydd a enwebwyd gan y teulu) i berson yr achoswyd ei farwolaeth yn uniongyrchol gan drosedd
164. Ni all plant nac oedolion heb alluedd, er eu bod yn agored i niwed, ddarparu eu dyfais yn wirfoddol na chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni at ddibenion Adran 37. Os mai plentyn neu oedolyn heb alluedd yw’r defnyddiwr, dylai personau awdurdodedig ddilyn y canllawiau a nodwyd yn Rhan 6: Adran 38: Plant ac oedolion heb alluedd.
165. Dylai pob person awdurdodedig fod yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau i ddiogelu hawliau dioddefwyr. Ceir canllawiau ar y cyfrifoldebau hyn yn y canlynol:
Beth yw ystyr bod yn agored i niwed?
166. Nid oes un diffiniad cyfreithiol penodol o fod yn agored i niwed. At ddibenion y pŵer o dan Adran 37, gellir ystyried bod unigolyn yn agored i niwed os oes angen rhyw lefel o gymorth ychwanegol arno i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth i ddarparu ei ddyfais a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni.
167. Dylai personau awdurdodedig fod yn ymwybodol y gall rhywun geisio celu’r ffaith ei fod yn agored i niwed. Mae llawer o resymau dros wneud hyn megis ofn, cywilydd, profiadau blaenorol o ddod i gysylltiad â’r heddlu neu asiantaethau eraill[^70] neu am nad yw’n ystyried ei fod yn agored i niwed. Dylai personau awdurdodedig ystyried a all person fod yn agored i niwed ym mhob achos wrth benderfynu a yw’n briodol defnyddio’r pŵer o dan Adran 37.
168. Mae’r Coleg Plismona wedi dweud “a person is vulnerable if as a result of their situation or circumstances, they are unable to take care of or protect themselves, or others, from harm or exploitation”.[footnote 71]
169. Hefyd, dylai person awdurdodedig ystyried a yw person yn agored i niwed o ganlyniad i nodwedd warchodedig, megis hil neu anabledd lle y gall statws lleiafrifol beri i rywun deimlo’n llai abl i ymgysylltu â’r heddlu neu awdurdod arall sy’n gorfodi’r gyfraith.
170. Mae llawer o ddioddefwyr a thystion yn teimlo straen ac ofn yn ystod yr ymchwiliad i drosedd. Gall straen effeithio ar gyfathrebu â’r unigolyn dan sylw a chan yr unigolyn dan sylw, o ran graddau ac ansawdd. Dylai’r person awdurdodedig fod yn ystyriol o ffactorau cudd sy’n gwneud i rywun fod yn agored i niwed, a achosir gan anabledd, sioc neu drawma.
171. Pan dybir bod unigolyn yn agored i niwed, dylai personau awdurdodedig ei hysbysu bod modd cael cymorth ychwanegol i’w helpu i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch a fydd yn darparu ei ddyfais yn wirfoddol a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni. Dylai’r person awdurdodedig gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y cymorth hwn ar gael. Gall y cymorth gael ei roi gan nifer o unigolion neu wasanaethau cymorth arbenigol – er enghraifft, gan aelod o’r teulu, ffrind, neu, yn achos trosedd rywiol, Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol[footnote 72] neu weithiwr eiriolaeth trais arall, os yw’r gwasanaeth ar gael. Yn yr Alban, gall dioddefwyr a thystion hefyd gael cymorth gan Oedolyn Priodol[footnote 73] sydd â’r rôl o hwyluso cyfathrebu dros oedolion sy’n agored i niwed yn ystod ymchwiliadau troseddol. Yng Ngogledd Iwerddon, gall plant hefyd gael cymorth gan Warcheidwad Annibynnol.
172. Pan fydd dioddefwr yn dod o gymuned leiafrifol, dylid cynnig ei atgyfeirio at sefydliad arbenigol sy’n cael ei redeg gan neu dros y gymuned leiafrifol honno, lle mae’r gwasanaeth neu’r cymorth ar gael.
173. Os nad yw’r person yn siarad Saesneg, mae’n rhaid darparu gwasanaeth cyfieithydd. Os yw’r person yn fyddar, efallai y bydd angen cael gwasanaeth dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain os nad oes unrhyw gymorth arall ar gael ar y pryd. Os oes unrhyw amheuaeth a all y cymorth sydd ar gael hwyluso cyfathrebu i’r safon ofynnol, mae’n rhaid darparu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.
174. Gellir defnyddio’r rhestr ganlynol yn ganllaw wrth benderfynu a yw person yn agored i niwed o bosibl ac a oes angen cymorth annibynnol, ychwanegol arno i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth lawn ynghylch a ddylai ddarparu ei ddyfais yn wirfoddol a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr. Mae’n rhaid i anghenion yr unigolyn gael eu hystyried yn ofalus ar sail achos unigol, gan ystyried natur yr ymchwiliad a’i ran ynddo. Os nad ydych yn siŵr a yw person yn agored i niwed, efallai y bydd yn briodol tybio ei fod yn agored i niwed ar ryw lefel, yn enwedig i ddioddefwyr troseddau rhywiol neu mewn achos lle mae rhywun wedi cael ei niweidio’n gorfforol neu’n feddyliol.
175. Dylai personau awdurdodedig gydnabod y gall unigolyn fod yn agored i niwed oherwydd sawl ffactor gwahanol ac wrth fynd i ati i ymgysylltu â’r unigolyn dylent ystyried sut mae’r ffactorau hyn yn gorgyffwrdd ac yn rhyngweithio â’i gilydd er mwyn rhoi’r cymorth cywir. Er enghraifft, bydd y ffordd yr ymgysylltir â rhywun sy’n agored i drawma ac sy’n ofni sgil-effeithiau, yn wahanol i rywun sy’n agored i niwed o ganlyniad i drawma ac sydd ag anawsterau dysgu.
176. Enghreifftiau o bobl a all fod yn agored i niwed:
-
rhywun sydd wedi dioddef trosedd drawmatig, megis treisio neu ymosodiad rhywiol neu fath arall o drosedd dreisgar
-
rhywun sydd wedi dioddef cam-drin domestig
-
rhywun sydd wedi dioddef stelcio
-
rhywun sydd wedi bod yn ddioddefwr masnachu pobl
-
rhywun sy’n geisiwr lloches neu berson heb ddogfennaeth
-
rhywun sy’n ofni’r hyn a all ddigwydd drwy weithio gyda pherson awdurdodedig i gynorthwyo ymchwiliad – er enghraifft, chwythwr chwiban
-
rhywun sy’n ofnus neu mewn trallod
-
rhywun sy’n dioddef o anhwylder meddyliol
-
rhywun sy’n cael anhawster gweithredu’n gymdeithasol
-
rhywun ag anabledd corfforol
-
rhywun ar y sbectrwm awtistig
-
rhywun ag anawsterau dysgu
-
rhywun sy’n cael anhawster deall beth sy’n cael ei ddweud wrtho (gan gynnwys rhwystrau iaith)
-
rhywun sy’n cael anhawster darllen neu ysgrifennu
177. Mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig ddilyn unrhyw ddeddfwriaeth gyfredol a chanllawiau lleol o ran pobl sy’n agored i niwed fel y bo’n briodol i’r achos penodol, yn ogystal â’r cod ymarfer hwn.
Darparu dyfais yn wirfoddol a rhoi cytundeb a phobl sy’n agored i niwed
178. Efallai y bydd dioddefwyr troseddau megis treisio a throseddau rhywiol eraill fod yn arbennig o bryderus ynglŷn â chytuno i rannu gwybodaeth. Canfuwyd mai’r posibilrwydd y bydd gofyn iddynt drosglwyddo gwybodaeth bersonol a sensitif oedd un o’r prif resymau pam y gall dioddefwyr treisio dynnu’n ôl o broses yr ymchwiliad troseddol neu ddewis peidio â rhoi gwybod am y drosedd o gwbl.
179. Ceir arweiniad manwl ar ba wybodaeth i’w rhoi i unigolion er mwyn sicrhau eu bod yn gallu darparu eu dyfais yn wirfoddol a rhoi cytundeb diamwys o’u gwirfodd i wybodaeth gae ei hechdynnu ohoni yn Rhan 4: Darparu dyfais yn wirfoddol a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu.
180. Efallai y bydd angen i berson awdurdodedig fynd ymhellach i gefnogi person/dioddefwr sy’n agored i niwed a chyfrif am ei anghenion yn briodol wrth arfer y pŵer hwn. Er enghraifft, pan fydd unigolyn wedi cael sioc, fel na all ddeall beth y gofynnir iddo ei wneud o ran darparu ei ddyfais a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni, efallai y bydd angen i’r person awdurdodedig aros nes bod y sioc neu ei heffeithiau wedi lleihau digon er mwyn i’r person wneud penderfyniad. Bwriedir i’r pwerau a’r prosesau ar gyfer oedolyn heb alluedd gael eu defnyddio’n bennaf pan fydd oedolyn heb alluedd yn yr hirdymor o ganlyniad i anabledd yn hytrach nag mewn achosion lle mae galluedd yn amrywio pan fyddai rhywun a fyddai fel arfer yn gallu gwneud penderfyniad ei hun yn methu â gwneud hynny dros dro.
181. Gall trawma effeithio ar y gallu i wneud penderfyniadau, felly mae’n bwysig bod personau awdurdodedig yn ymgyfarwyddo â chanllawiau eu sefydliad ynglŷn â sut i adnabod tystion a dioddefwyr sy’n dioddef o drawma ac ymgysylltu â nhw.
182. Dylai’r person awdurdodedig ystyried a ddylai geisio cymorth gan gynghorydd annibynnol i’r person sy’n agored i niwed, er enghraifft Gwarcheidwad Annibynnol, Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA), Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA), eiriolwr anabledd dysgu neu Gynghorydd Annibynnol ar Iechyd Meddwl (IMHA) os bydd ar gael i gefnogi’r unigolyn. Ym mhob achos, dylai’r person awdurdodedig sicrhau mai person a rôl y mae’r person yn ymddiried ynddynt ydyw. Ni all ffrind teuluol gynnig yr un lefel o gymorth â chynghorydd annibynnol proffesiynol a’r rhain y dylid eu ceisio’n gyntaf.
183. Yn yr Alban, dylai’r person awdurdodedig ofyn am gymorth Oedolyn Priodol i ddioddefwyr a thystion na allant ddeall gweithrediadau na chyfathrebu’n effeithiol oherwydd anhwylder meddyliol.
184. Er y gall unigolyn geisio cymorth ar y penderfyniad i ddarparu ei ddyfais yn wirfoddol a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni, yr unigolyn sy’n gorfod gwneud y penderfyniad. Dim ond os mai plentyn neu oedolyn heb alluedd yw defnyddiwr y ddyfais y gall person arall (yn wir, mae’n rhaid i berson arall) wneud y penderfyniadau hynny.
185. Lle bynnag y bo modd, dylai’r person awdurdodedig sicrhau bod yr unigolyn yn cael digon o amser i wneud y penderfyniadau hyn.
186. Os na all yr unigolyn ddeall yr Hysbysiad Prosesu Digidol am ei fod yn agored i niwed, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig gynnig y dewis i ddefnyddiwr y ddyfais o gael y person sy’n rhoi cymorth annibynnol (person y cyfeirir ato ym mharagraff 183 uchod) i ddarllen yr Hysbysiad Prosesu Digidol yn uchel iddo os na all ddarllen na deall y deunydd ar ei ben ei hun a’i esbonio iddo mewn iaith syml. Os nad yw’r person sy’n rhoi cymorth ar gael i wneud hynny, yna efallai y bydd angen i’r person awdurdodedig esbonio cynnwys y ffurflen a’i darllen yn uchel i ddefnyddiwr y ddyfais.
187. Os yw iaith yn rhwystr ychwanegol i ddeall yr hyn y gofynnir i’r unigolyn ei wneud, dylai cyfieithydd/dehonglydd fod ar gael. Os bydd rhywun yn rhoi cymorth annibynnol i ddefnyddiwr y ddyfais, efallai y gall helpu yn hyn o beth.
188. Ym mhob achos sy’n cynnwys dioddefwr sy’n agored i niwed, dylid bod yn sensitif tu hwnt a rhoi cymaint o gymorth â phosibl er mwyn sicrhau bod y dioddefwr sy’n agored i niwed yn deall yr hyn y gofynnir iddo ei wneud a sicrhau na fydd ei drawma yn mynd yn waeth drwy gymryd rhan mewn proses ymchwilio.
189. Os nad ydych yn siŵr am lefel y cymorth sydd ei hangen ar unigolyn dylech ymgynghori â goruchwyliwr neu ddarllen arweiniad priodol yn eich sefydliad.
Effaith ar breifatrwydd a phobl/dioddefwyr sy’n agored i niwed
190. Mae’n debygol iawn y bydd dyfais electronig person yn cynnwys gwybodaeth bersonol sensitif am y person hwnnw neu bobl eraill ac mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig ystyried hawl unigolyn i barch tuag at ei fywyd preifat o dan Erthygl 8 cyn i unrhyw wybodaeth sensitif gael ei hechdynnu (gweler Rhan 2 o’r cod hwn). Dylai personau awdurdodedig weithredu gan wybod y bydd cytuno i wybodaeth o’r fath gael ei hechdynnu yn brofiad anodd dros ben i bob defnyddiwr dyfais ac yn enwedig pan fo’r person yn agored i niwed. Efallai y bydd dioddefwyr treisio a throseddau rhywiol yn llai parod i fod yn rhan o broses ymchwiliad troseddol os byddant yn pryderu am orfod rhannu gwybodaeth sensitif.
191. Ym mhob achos, cyn arfer y pŵer o dan Adran 37, mae’n rhaid i berson awdurdodedig ystyried dulliau eraill o gael y wybodaeth sydd ei hangen nad ydynt mor ymwthiol. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fo effaith fawr o bosibl ar breifatrwydd dioddefwr sy’n agored i niwed.
Diogelu a dioddefwyr sy’n agored i niwed
192. Wrth arfer y pŵer o dan Adran 37 mewn perthynas â dioddefwyr sy’n agored i niwed, mae rhai camau penodol y dylid eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu’n ddigonol. Mae’r paragraffau canlynol yn rhoi enghreifftiau.
193. Efallai y bydd achosion yn codi pan fydd dioddefwyr sy’n agored i niwed yn rhan o weithgarwch lle maent yn ddioddefwyr ond nad ydynt yn ystyried eu hunain yn ddioddefwyr – er enghraifft, os ydynt wedi cael eu cam-drin yn rhywiol, os oes rhywun wedi meithrin perthynas amhriodol â nhw at ddibenion rhyw, neu os ydynt wedi dioddef cam-drin domestig, ond eu bod yn credu eu bod mewn perthynas gydsyniol â’r sawl sy’n eu cam-drin. Mewn achosion o’r fath, bydd angen i’r person awdurdodedig weithio’n ofalus gyda’r dioddefwr sy’n agored i niwed ac unrhyw gynrychiolydd sy’n rhoi cymorth iddo (megis gwarcheidwad annibynnol, Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA) neu Gynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA) er mwyn penderfynu ar y camau priodol i’w cymryd. Os mai’r unig opsiwn yn yr achos dan sylw yw archwilio dyfais sy’n eiddo i rywun nad yw’n credu ei fod yn ddioddefwr; efallai y bydd angen defnyddio pŵer gwahanol i gael y ddyfais nad yw’n dibynnu ar gytundeb yr unigolyn. Dylai unrhyw ddefnydd o bŵer amgen o dan yr amgylchiadau hyn gael ei ystyried yn ofalus a dim ond pan fetho popeth arall y dylid ei ddefnyddio yn achos dioddefwr.
194. Gall fod yn rhan o ymchwiliad fod yn brofiad trawmatig iawn i ddioddefwyr sy’n agored i niwed. Er mwyn cyfrif am hyn, dylai personau awdurdodedig wneud addasiadau priodol ac ystyried anghenion y dioddefwr a ble y bydd fwyaf cyfforddus ac yn gallu gwneud y penderfyniadau gorau drosto’i hun. Efallai y bydd gorsaf heddlu yn codi ofn ar rywun ond, yn yr un modd, efallai na fydd unigolyn am i’r heddlu ddod i gyfeiriad ei gartref am lawer o resymau gwahanol. Ym mhob achos, mae’n rhaid i anghenion yr unigolyn gael eu hystyried yn ofalus.
195. Ym mhob achos, pan fo person wedi cytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu, dylai personau awdurdodedig geisio dychwelyd dyfais mor gyflym â phosibl. Yn achos dioddefwyr sydd wedi cael eu treisio, yn ddelfrydol, dylai’r ddyfais gael ei dychwelyd o fewn 24 awr. Mae’r cyfnod hwn o 24 awr yn dechrau o adeg trosglwyddo’r ddyfais yn ffisegol i’r awdurdod er mwyn echdynnu gwybodaeth.[footnote 74]
196. O ran dioddefwyr sy’n agored i niwed, mae’n bwysig dros ben bod eu dyfais yn cael ei harchwilio fel mater o flaenoriaeth fel y gellir ei dychwelyd iddynt mor fuan â phosibl. Os oes modd rhoi blaenoriaeth i’r archwiliad o ddyfais dioddefwr sy’n agored i niwed neu ganiatáu i’r unigolyn wneud apwyntiad ar gyfer archwiliad o’i ddyfais, a thrwy hynny sicrhau ei bod yn ei feddiant o hyd nes ei bod yn barod i’w phrosesu, dylai person awdurdodedig wneud hynny.
197. Pan fydd angen mynd â dyfais electronig dioddefwyr sydd wedi cael eu treisio i’w harchwilio ac nad oes modd ei dychwelyd o fewn 24 awr, dylid rhoi dyfais arall yn ei lle iddynt neu eu helpu i gael un arall.
198. O ran dioddefwyr sy’n agored i niwed nad ydynt wedi cael eu treisio a lle y gall gymryd mwy na 24 awr i archwilio eu dyfais a’i dychwelyd iddynt, dylai personau awdurdodedig edrych ar ganllawiau diogelu lleol a rhoi dyfais arall iddynt fel y bo’n briodol yn unol ag arferion gorau eu sefydliad.
199. Gall pob unigolyn fod yn gymwys i gael cymorth gan ddarparwr ei ffôn symudol, yn unol â chanllawiau Ofcom ar gwsmeriaid sy’n agored i niwed.[footnote 75]
200. Dylid atgyfeirio dioddefwr sy’n agored i niwed ac, os yw’n briodol, ei gynrychiolydd sy’n rhoi cymorth (cynghorydd annibynnol, gwarcheidwad annibynnol, ffrind teuluol ac ati) at y gwasanaethau perthnasol (gwasanaethau cymdeithasol, cwnsela, gwasanaeth gwarcheidwad annibynnol ac ati) os bydd angen cymorth proffesiynol parhaus.
Rhan 6: Adran 38: Plant ac oedolion heb alluedd
201. Mae’r rhan hon o’r cod yn rhoi arweiniad ar achosion pan mai plentyn neu oedolyn heb alluedd yw defnyddiwr dyfais. Ni all plant nac oedolion heb alluedd wneud y penderfyniadau yn Adran 37 eu hunain. Mae’r rhan hon yn nodi pwy all wneud y penderfyniadau hynny ar eu rhan (yr unigolyn amgen) a’r hyn y mae’n rhaid i’r person awdurdodedig a’r unigolyn amgen ei ystyried.
202. Mae’n bwysig cydnabod bydd gan lawer o blant ac oedolion heb alluedd sy’n gallu defnyddio dyfais electronig rywfaint o alluedd i ddeall a rhoi eu barn ar b’un a ydynt yn dymuno i’w dyfais gael ei harchwilio.[footnote 76]
Plant
203. At ddibenion Pennod 3 o Ran 2 o’r Ddeddf, mae plentyn yn berson o dan 18 oed.[footnote 77]
204. Hyd yn oed os tybir bod gan blentyn alluedd, bydd angen unigolyn amgen o hyd i benderfynu a ddylid darparu’r ddyfais a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ar ran y plentyn.
Pwy all, a phwy na all, wneud penderfyniadau ar ran plentyn?
205. Gall y bobl y cyfeirir atynt yn yr adrannau isod weithredu fel unigolyn amgen os mai plentyn yw defnyddiwr y ddyfais ac na all roi cytundeb i wybodaeth gael ei hechdynnu o’i ddyfais ei hun. Wrth wneud hynny, mae’n rhaid i’r unigolyn amgen weithredu er budd pennaf y plentyn hwnnw (i’r rhai yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) neu er budd y plentyn hwnnw (i’r rhai yn yr Alban).
Rhiant neu warcheidwad y plentyn
206. Mae “rhiant” yn cynnwys rhiant biolegol, rhiant sy’n mabwysiadu, llys-riant y rhoddwyd cyfrifoldeb rhiant cyfreithiol iddo a rhiant yn rhinwedd Deddf Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol 2008 (er enghraifft, ail riant benyw).
207. Ystyr ”gwarcheidwad” yw person arall y rhoddwyd cyfrifoldeb rhiant cyfreithiol iddo, person a benodwyd yn warcheidwad drwy orchymyn llys neu drwy ewyllys (pan fydd y rhieni wedi marw), neu berson sydd, yn ymarferol yn gofalu am blentyn o ddydd i ddydd, megis perthynas a gymeradwywyd gan awdurdod lleol neu ofalwr maeth. Dylai personau awdurdodedig fod yn glir ynglŷn â statws y rhiant neu’r gwarcheidwad sy’n gwneud y penderfyniadau a’i gofnodi. Am ragor o ddiffiniadau o bwy y gellir ei ystyried yn rhiant neu’n warcheidwad gweler yr adrannau isod.
208. Yng Ngogledd Iwerddon, gall hyn hefyd gynnwys rhiant neu warcheidwad neu bersonau neu gyrff eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn. Dylai’r term ‘Gwarcheidwad’ gael ei ddehongli yn unol â Gorchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995. Mae Erthygl 2 yn nodi mai ystyr gwarcheidwad plentyn yw gwarcheidwad (heblaw am warcheidwad ffortiwn neu ystad plentyn) a benodir yn unol â darpariaethau Erthygl 159 (Penodiad gan Lys) neu Erthygl 160 (Penodiad gan riant neu warcheidwad). Yng Ngogledd Iwerddon, bydd hyn hefyd yn cynnwys Gwarcheidwaid Annibynnol a benodir ar gyfer unrhyw blentyn o dan ddarpariaethau Adran 21 o Ddeddf Masnachu mewn Pobl a Chamfanteisio (Cyfiawnder Troseddol a Chymorth i Ddioddefwyr) (Gogledd Iwerddon) 2015. Caiff Gwarcheidwaid Annibynnol barhau i gefnogi a chynrychioli’r plentyn y’u penodwyd ar ei gyfer (gyda’i gydsyniad) ar ôl i’r person hwnnw gael ei ben-blwydd yn 18 oed ond sydd o dan 21 oed.
209. Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae’r term ‘Gwarcheidwad’ yn cynnwys oedolion a benodwyd i rôl gwarcheidwad gan lys.
Person sy’n cynrychioli awdurdod perthnasol neu sefydliad gwirfoddol
210. Os yw’r plentyn mewn gofal ac nad yw’n briodol ceisio cytundeb rhiant na gwarcheidwad, yna gall person sy’n cynrychioli’r awdurdod perthnasol neu’r sefydliad gwirfoddol sy’n gofalu am y plentyn hwnnw roi cytundeb yn ei le. Dylai fod yn berson y mae’r plentyn yn ei adnabod, oni fydd hynny’n amhosibl o dan yr amgylchiadau.
211. Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig fodloni ei hun nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau i’r person y mae’n ofynnol iddo gynrychioli budd pennaf y plentyn, neu weithredu er budd y plentyn. Pan fo’r unigolyn dan amheuaeth yn rhywun o fewn yr un sefydliad ag sy’n cefnogi’r plentyn, er enghraifft ei weithiwr cymdeithasol, argymhellir y dylid ceisio cymorth gan berson nad yw’n gysylltiedig â’r sefydliad hwnnw. Mae’n rhaid ystyried statws y person sy’n rhoi cytundeb ar ran y plentyn yn ofalus bob amser ynghyd â’i rôl yn yr ymchwiliad.
212. Dim ond pan na fydd rhiant na gwarcheidwad, na pherson sy’n cynrychioli awdurdod perthnasol neu sefydliad gwirfoddol ar gael i wneud y penderfyniadau ar ran y plentyn y dylid defnyddio person cyfrifol, y mae’n rhaid iddo fod yn 18 oed neu’n hŷn. Oni fydd yn amhriodol gwneud hynny, mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig gysylltu â rhiant, gwarcheidwad neu berson sy’n cynrychioli awdurdod perthnasol neu sefydliad gwirfoddol sy’n gyfrifol am y plentyn cyn troi at berson cyfrifol arall. Yr arfer orau yw aros nes bod person o’r fath ar gael i wneud y penderfyniadau.
213. Os bydd unrhyw amheuaeth ynglŷn ag addasrwydd person cyfrifol, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig oedi cyn echdynnu gwybodaeth nes bod modd dod o hyd i riant, gwarcheidwad, neu gynrychiolydd yr awdurdod perthnasol neu berson cyfrifol addas arall i roi cytundeb yn ei le.
214. Pan fydd y penderfyniadau wedi cael eu gwneud ar ran y plentyn gan berson cyfrifol, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig, oni bai ei bod yn amhriodol gwneud hynny yn nhyb y person awdurdodedig, hysbysu rhiant neu warcheidwad bod y pŵer wedi cael ei ddefnyddio ac at ba ddiben. Dylid ei hysbysu cyn gynted ag y bo modd. Pan na fydd yn briodol hysbysu rhiant neu warcheidwad am ei fod yn unigolyn dan amheuaeth yn yr ymchwiliad, neu os cred y person awdurdodedig y bydd datgelu bod gwybodaeth wedi cael ei hechdynnu yn peryglu diogelwch y plentyn, dylai’r person awdurdodedig ystyried hysbysu rhiant neu warcheidwad arall.
215. Ni chaiff person awdurdodedig a gaiff arfer y pŵer o dan Adran 37 at y diben y ceisir gwybodaeth ar ei gyfer weithredu fel person cyfrifol.
216. Ni ddylai’r person cyfrifol fod yn unigolyn dan amheuaeth mewn perthynas â’r ymholiad y defnyddir y pŵer ar ei gyfer ac, yn ddelfrydol, dylai fod ganddo berthynas gofal â’r plentyn eisoes.
217. Caiff person sy’n berson awdurdodedig ond na chaiff arfer y pŵer o dan Adran 37 at y diben y ceisir gwybodaeth ar ei gyfer, weithredu fel person cyfrifol arall. Felly, er enghraifft, gallai aelod o’r Swyddfa Twyll Difrifol weithredu fel person cyfrifol mewn achos lle mae angen gwybodaeth i helpu i ddod o hyd i berson coll, a hynny am na all aelodau o’r Swyddfa Twyll Difrifol arfer y pŵer o dan Adran 37 at y diben hwnnw – dim ond er mwyn atal, canfod, ymchwilio neu erlyn trosedd y gallant wneud hynny.
Ceisio barn y plentyn
218. Cyn arfer y pŵer o dan Adran 37, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, gadarnhau beth yw barn y plentyn a rhoi sylw i unrhyw farn a gadarnhawyd yn y fath fodd, gan ystyried oedran ac aeddfedrwydd y plentyn.[footnote 78]
219. Efallai na all plant ifanc iawn na’r rhai ag anghenion dysgu neu iechyd meddwl sylweddol fynegi unrhyw farn ar sail gwybodaeth am echdynnu gwybodaeth o’u dyfais. Efallai na fydd bob amser yn amlwg a all y plentyn fynegi ei farn neu ddeall yr hyn y gofynnir iddo ei wneud ac felly, mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig ragdybio ym mhob achos fod dioddefwr neu dyst sy’n blentyn yn gallu rhoi barn. Mae hyn yn golygu, pan fydd y plentyn yn rhesymol leoladwy, fod yn rhaid ceisio ei farn. Dylai oedran ac aeddfedrwydd y plentyn gael eu hystyried wrth roi sylw i’r farn a gadarnhawyd.
220. Dylai personau awdurdodedig sicrhau bod esboniad wedi cael ei roi i’r plentyn ynglŷn â’r hyn a fydd yn digwydd i’w wybodaeth a’i ddyfais ac mai dim ond oedolyn a all wneud penderfyniadau ar ei ran, er y caiff ei farn ei hystyried. Dylai’r person awdurdodedig gadarnhau bod y person sy’n gwneud y penderfyniadau ar ran y plentyn yn ymwybodol o farn y plentyn. Gall yr oedolion, o hyd, benderfynu darparu (neu beidio â darparu) y ddyfais a chytuno (neu beidio â chytuno) i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni ar ôl rhoi sylw i farn y plentyn.
221. Dylai person awdurdodedig ystyried a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol ar y plentyn neu’r person sy’n rhoi cytundeb megis cymorth gan aelod o’r teulu, gweithiwr cymdeithasol, Gwarcheidwad Annibynnol, Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA), Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig IDVA), eiriolwr anabledd dysgu neu Gynghorydd Annibynnol ar Iechyd Meddwl (IMHA).
222. Mae’n rhaid i’r person sy’n penderfynu a ddylid rhoi cytundeb ar ran y plentyn ystyried barn y plentyn ar y mater hwn. Os bydd barn y plentyn yn wahanol i farn y person sy’n penderfynu a ddylid rhoi cytundeb, mae’n rhaid i’r person sy’n rhoi cytundeb sicrhau ei fod yn gofyn am eglurder ynglŷn â pham mae’r plentyn wedi mynegi’r farn hon. Mae’n rhaid iddo sicrhau ei fod wedi ystyried barn y plentyn ond, yn y pen draw, y person sy’n cynrychioli’r plentyn fydd yn penderfynu a ddylid darparu’r ddyfais a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu
223. Os mai plentyn yw’r defnyddiwr yn yr achos dan sylw, dylai personau awdurdodedig gofnodi’r holl wybodaeth berthnasol, gan gynnwys:
-
os gofynnwyd i’r plentyn am ei farn, beth oedd y farn honno
-
os oedd barn y plentyn yn wahanol i farn y person a oedd yn darparu’r ddyfais ac yn cytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni
-
os na ofynnwyd am farn y plentyn, y rheswm dros hynny
-
penderfyniad y person awdurdodedig ynglŷn â defnyddio’r pŵer a’r rheswm drosto
Oedolion heb alluedd
224. Mewn perthynas â Chymru a Lloegr, mae person yn oedolyn heb alluedd os nad oes ganddo alluedd, o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol 2005, i ddarparu ei ddyfais yn wirfoddol nac i gytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni. Yn hyn o beth, mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig ystyried yr egwyddorion a nodwyd yn Adran 1 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
225. Mewn perthynas â’r Alban, mae person yn oedolyn heb alluedd os nad oes ganddo alluedd, o fewn ystyr Deddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000, mewn perthynas â darparu ei ddyfais yn wirfoddol a rhoi cytundeb i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni. Yn hyn o beth, mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig ystyried yr egwyddorion a nodwyd yn Adran 1 o Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000 a’r codau ymarfer a gyhoeddwyd o dan y ddeddf honno.[footnote 79]
226. Mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, mae person yn oedolyn heb alluedd os nad oes ganddo alluedd, o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol (Gogledd Iwerddon) 2016, i ddarparu ei ddyfais yn wirfoddol nac i gytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni. Pan fydd angen penderfynu a yw defnyddiwr dyfais yn oedolyn heb alluedd, mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig wneud y penderfyniad hwnnw yn unol â’r egwyddorion yn Adran 1 o Ddeddf Galluedd Meddyliol (Gogledd Iwerddon) 2016.
Pwy all, a phwy na all, wneud penderfyniadau ar ran oedolyn heb alluedd?
227. Gall y bobl y cyfeirir atynt yn yr adrannau isod weithredu fel unigolyn amgen os mai oedolyn heb alluedd yw defnyddiwr y ddyfais ac na all roi cytundeb i wybodaeth gael ei hechdynnu o’i ddyfais ei hun. Wrth wneud hynny, mae’n rhaid iddo weithredu er budd pennaf yr oedolyn hwnnw (i’r rhai yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) ac er budd yr unigolyn (i’r rhai yn yr Alban).
Rhiant neu warcheidwad yr oedolyn heb alluedd
228. Mae “rhiant” yn cynnwys rhiant biolegol, rhiant sy’n mabwysiadu, llys-riant y rhoddwyd cyfrifoldeb rhiant iddo a rhiant yn rhinwedd Deddf Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol 2008[footnote 80] (er enghraifft, ail riant benyw).
229. Ystyr ”gwarcheidwad” yw person arall y rhoddwyd cyfrifoldeb rhiant cyfreithiol iddo, person a benodwyd yn warcheidwad drwy orchymyn llys neu drwy ewyllys (pan fydd y rhieni wedi marw), neu berson sydd, yn ymarferol yn gofalu am yr oedolyn heb alluedd o ddydd i ddydd. Dylai personau awdurdodedig fod yn glir ynglŷn â statws y rhiant neu’r gwarcheidwad sy’n gwneud y penderfyniadau a’i gofnodi. Am ragor o ddiffiniadau o bwy y gellir ei ystyried yn rhiant neu’n warcheidwad gweler yr adrannau isod.
230. Mewn perthynas â Chymru a Lloegr, mae’r term ‘Gwarcheidwad’ yn cynnwys oedolion a benodwyd i rôl gwarcheidwad gan lys.
231. Mewn perthynas â’r Alban, dylid dehongli’r term ‘Gwarcheidwad’ yn unol â’r canlynol:
-
Adran 64 o Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000, sy’n diffinio gwarcheidwaid lles a gwarcheidwaid ariannol
-
Adran 58(1A) o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995, sy’n cyfeirio at warcheidwaid â phwerau sy’n ymwneud â lles personol oedolyn
232. Mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, dylid dehongli’r term ‘Gwarcheidwad’ yn unol â Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gogledd Iwerddon) 1986.
233. Mae’r term gwarcheidwad hefyd yn cynnwys personau a benodir yn Warcheidwaid Annibynnol o dan Adran 21 o Ddeddf Masnachu mewn Pobl a Chamfanteisio (Cyfiawnder Troseddol a Chymorth i Ddioddefwyr) (Gogledd Iwerddon) 2015.
Person sy’n cynrychioli awdurdod perthnasol neu sefydliad gwirfoddol
234. Os yw’r oedolyn heb alluedd yng ngofal awdurdod perthnasol neu sefydliad gwirfoddol ac nad yw’n briodol ceisio cytundeb rhiant na gwarcheidwad, yna gall person sy’n cynrychioli’r awdurdod perthnasol neu’r sefydliad gwirfoddol sy’n darparu’r gofal hwnnw roi cytundeb yn ei le.
235. Dylai fod yn berson y mae’r oedolyn heb alluedd yn ei adnabod oni fydd hynny’n amhosibl.
236. Ym mhob achos, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig fodloni ei hun nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau i’r person y mae’n ofynnol iddo gynrychioli budd pennaf defnyddiwr y ddyfais, neu weithredu er budd defnyddiwr y ddyfais os yw’n oedolyn heb alluedd. Pan fo’r unigolyn dan amheuaeth yn rhywun o fewn y sefydliad sy’n cefnogi’r oedolyn heb alluedd, er enghraifft gweithiwr gofal, argymhellir y dylid ceisio cymorth gan berson nad yw’n gysylltiedig â’r sefydliad hwnnw. Ym mhob achos, mae’n rhaid hefyd ystyried yn ofalus statws y person sy’n cynrychioli’r oedolyn heb alluedd a’i ran yn yr ymchwiliad.
Gweithiwr cymdeithasol cofrestredig
237. Mewn perthynas â Lloegr, ystyr “gweithiwr cymdeithasol cofrestredig” yw person sydd wedi’i gofrestru’n weithiwr cymdeithasol mewn cofrestr a gynhelir gan Social Work England.
238. Mewn perthynas â Chymru, ystyr “gweithiwr cymdeithasol cofrestredig” yw person sydd wedi’i gofrestru’n weithiwr cymdeithasol mewn cofrestr a gynhelir gan Gofal Cymdeithasol Cymru (a elwir yn Gyngor Gofal Cymru gynt).
239. Mewn perthynas â’r Alban, ystyr “gweithiwr cymdeithasol cofrestredig” yw person sydd wedi’i gofrestru’n weithiwr cymdeithasol mewn cofrestr a gynhelir gan Gyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban. Dylid dehongli’r term gweithiwr cymdeithasol yn unol ag Adran 77 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001. Dylai personau awdurdodedig ddilyn canllawiau ar rôl y gweithiwr cymdeithasol cofrestredig mewn ymyriadau statudol.
240. Mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, ystyr “gweithiwr cymdeithasol cofrestredig” yw person sydd wedi’i gofrestru’n weithiwr cymdeithasol mewn cofrestr a gynhelir gan Gyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon. Dylid dehongli’r term gweithiwr cymdeithasol yn unol â Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 2001.
Person a all wneud y penderfyniadau perthnasol o dan atwrneiaeth
241. Mewn perthynas â Chymru a Lloegr, mae hyn yn golygu person ag atwrneiaeth barhaus sy’n rhoi’r pwerau iddo wneud penderfyniadau ar ran unigolyn heb alluedd. Dylai personau awdurdodedig ddilyn y canllawiau perthnasol yma.
242. Mewn perthynas â’r Alban, mae hyn yn golygu twrneiod lles a thwrneiod parhaus sydd â phwerau cyfunol i wneud penderfyniadau ynglŷn â lles a materion ariannol unigolyn heb alluedd. Dylai personau awdurdodedig ddilyn Continuing and welfare attorneys: code of practice.
243. Mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, mae hyn yn golygu personau a benodir o dan atwrneiaeth barhaus, o fewn ystyr Gorchymyn Atwrneiaeth Barhaus (Gogledd Iwerddon) 1987; a dilyn cychwyn Rhan 5 o Ddeddf Galluedd Meddyliol (Gogledd Iwerddon) 2016, personau a benodir o dan atwrneiaeth barhaus, o fewn ystyr y Rhan honno.
Dirprwy a all wneud y penderfyniadau perthnasol (nid yr Alban)
244. Yng Nghymru a Lloegr, gellir penodi dirprwy o dan Adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Ceir rhagor o ganllawiau ar rôl dirprwy yng Nghymru a Lloegr yn Mental Capacity Act Code of Practice.
245. Yng Ngogledd Iwerddon, gellir penodi dirprwy o dan Adran 113 o Ddeddf Galluedd Meddyliol (Gogledd Iwerddon) 2016.[footnote 81]
Gall person o dan orchymyn ymyrryd wneud y penderfyniadau perthnasol (Yr Alban yn unig)
246. Mae Adran 53 o Ddeddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000 yn ymdrin â gorchmynion ymyrryd
Person cyfrifol
247. Dim ond os nad oes unrhyw berson arall (fel y’u rhestrir uchod) ar gael i wneud y penderfyniadau ar ei ran y dylid defnyddio person cyfrifol, mae’n rhaid iddo fod yn 18 oed neu drosodd. Oni fydd yn amhriodol gwneud hynny, mae’n rhaid i bersonau awdurdodedig gysylltu â rhiant neu warcheidwad, neu berson addas arall, cyn troi at berson cyfrifol i’w hysbysu am yr angen i arfer y pŵer ac at ba ddiben. Yn ôl yr arfer orau dylid aros i berson o’r fath fod ar gael i wneud y penderfyniadau. Os nad yw’n briodol hysbysu rhiant neu warcheidwad am ei fod yn unigolyn dan amheuaeth yn yr ymchwiliad, neu os cred y person awdurdodedig y bydd datgelu bod gwybodaeth wedi cael ei hechdynnu yn peryglu diogelwch yr oedolyn heb alluedd, dylai’r person awdurdodedig ystyried hysbysu rhiant neu warcheidwad arall.
248. Os bydd unrhyw amheuaeth ynglŷn ag addasrwydd person cyfrifol, mae’n rhaid i’r person awdurdodedig oedi cyn echdynnu gwybodaeth nes bod modd dod o hyd i berson cyfrifol addas i roi cytundeb yn ei le.
249. Ni chaiff person awdurdodedig a gaiff arfer y pŵer o dan Adran 37 at y diben y ceisir gwybodaeth ar ei gyfer weithredu fel person cyfrifol.
250. Ni ddylai’r person cyfrifol fod yn unigolyn dan amheuaeth mewn perthynas â’r ymholiad y defnyddir y pŵer ar ei gyfer ac, yn ddelfrydol, dylai fod ganddo berthynas gofal â’r oedolyn heb alluedd eisoes.
251. Caiff person sy’n berson awdurdodedig ond na chaiff arfer y pŵer o dan Adran 37 at y diben y ceisir gwybodaeth ar ei gyfer, weithredu fel person cyfrifol arall.
Cael barn yr oedolyn heb alluedd
252. Pan fydd person awdurdodedig yn asesu mai oedolyn heb alluedd yw defnyddiwr dyfais, mae’n rhaid i’r penderfyniadau ynglŷn â darparu’r ddyfais yn wirfoddol a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni gael eu gwneud gan berson arall (fel y nodir uchod).
253. Cyn arfer y pŵer o dan Adran 37, dylai’r person awdurdodedig, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, gadarnhau beth yw barn yr oedolyn heb alluedd a rhoi sylw i unrhyw farn a gadarnhawyd yn y fath fodd, gan ystyried yr amodau sy’n effeithio ar ei alluedd.Mae’n rhaid i’r rhai sy’n gweithredu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ystyried budd pennaf yr unigolyn ac mae’n rhaid i’r rhai yn yr Alban weithredu er ei fudd.
254. Dylai personau awdurdodedig ystyried a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol ar yr oedolyn heb alluedd neu’r person sy’n rhoi cytundeb megis cymorth gan aelod o’r teulu, gweithiwr cymdeithasol, Gwarcheidwad Annibynnol, Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA), Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig IDVA), eiriolwr anabledd dysgu neu Gynghorydd Annibynnol ar Iechyd Meddwl (IMHA).
255. Dylai personau awdurdodedig sicrhau bod esboniad wedi cael ei roi i’r oedolyn heb alluedd ynglŷn â’r hyn a fydd yn digwydd i’w wybodaeth a’i ddyfais ac mai dim ond ei riant, ei warcheidwad neu berson cyfrifol arall a all wneud penderfyniadau ar ei ran, er y caiff ei farn ei hystyried. Dylai’r person awdurdodedig gadarnhau bod y person sy’n gwneud y penderfyniadau ar ran yr unigolyn yn ymwybodol o’i farn. Yn y pen draw, gall yr oedolyn fydd yn cynrychioli’r unigolyn benderfynu darparu (neu beidio â darparu) y ddyfais a chytuno (neu beidio â chytuno) i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni o hyd, ar ôl rhoi sylw i farn yr unigolyn.
256. Mae gallu rhai pobl i wneud penderfyniadau’n amrywio oherwydd eu cyflwr. Mewn achosion o’r fath, os oes modd, dylai’r penderfyniadau ynghylch a ddylid darparu’r ddyfais yn wirfoddol a chytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni gael eu gwneud gan ddefnyddiwr y ddyfais pan fydd gan y person alluedd i benderfynu ei hun. Efallai y byddai hefyd yn ddefnyddiol trafod a chofnodi’r hyn y byddai’r person yn ei ddymuno pe bai’n colli galluedd i wneud penderfyniadau tebyg yn y dyfodol, er enghraifft os rhagwelir y bydd cyflwr neu salwch yn cyrraedd cam yn ei ddatblygiad a fydd yn ei atal rhag mynegi barn pe bai angen echdynnu gwybodaeth ychwanegol o’i ddyfais yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu, os bydd angen gwneud penderfyniadau pellach er budd pennaf neu er budd y person, y gall y person awdurdodedig ystyried dymuniadau’r person.
257. Os mai oedolyn heb alluedd yw’r defnyddiwr yn yr achos dan sylw, dylai personau awdurdodedig gofnodi’r holl wybodaeth berthnasol, gan gynnwys:
-
sail yr asesiad bod yr oedolyn heb alluedd
-
os gofynnwyd i’r oedolyn heb alluedd am ei farn, beth oedd y farn honno
-
os oedd barn yr oedolyn heb alluedd yn wahanol i farn y person sy’n darparu’r ddyfais ac yn cytuno i wybodaeth gael ei hechdynnu ohoni
-
os na ofynnwyd am farn yr oedolyn heb alluedd, pam
-
penderfyniad y person awdurdodedig ynglŷn â defnyddio’r pŵer a’r rheswm drosto
Diffiniadau
Oedolyn
Person 18 oed neu’n hŷn
Oedolyn heb alluedd
Unigolyn heb alluedd os yw’n 18 oed neu’n hŷn a;
(a) mewn perthynas â Chymru a Lloegr, mae’r person yn oedolyn heb alluedd, o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol 2005, i wneud y pethau a grybwyllwyd yn Adran 1(1)(a) a (b);
(b) mewn perthynas â’r Alban, mae’r person yn oedolyn heb alluedd o fewn ystyr Deddf Oedolion ag Analluedd (Yr Alban) 2000 mewn perthynas â’r materion a grybwyllwyd yn Adran 1(1)(a) a (b);
(c) mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, mae’r person yn oedolyn heb alluedd, o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol (Gogledd Iwerddon) 2016, i wneud y pethau a grybwyllwyd yn Adran 1(1)(a) a (b).
Ystyr Oedolyn Priodol (yr Alban)
Person a benodir i roi cymorth i oedolyn sy’n 16 oed neu’n hŷn ac yr ymddengys nad yw’n gallu deall yn ddigonol yr hyn sy’n digwydd na chyfathrebu’n effeithiol yn ystod ymchwiliad troseddol oherwydd anhwylder meddyliol (fel y’i diffiniwyd yn Adran 328 o Ddeddf Iechyd Meddwl (Deddf Gofal a Thriniaeth) (Yr Alban) 2003). Mae Rheoliadau Deddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2016 (Cymorth i Bersonau Hyglwyf) 2019 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau Oedolyn Priodol.
Oedolyn sy’n wynebu risg
Unigolyn y mae’r person awdurdodedig yn credu’n rhesymol:
(a) ei fod yn profi esgeulustod neu niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol neu’n wynebu risg o hynny,
(b) nad yw’n gallu diogelu ei hun rhag yr esgeulustod na’r niwed na’r risg ohono.
Person awdurdodedig
Gall person awdurdodedig gyfeirio at y person sy’n rhyngweithio â defnyddiwr y ddyfais neu’r person sy’n rhoi cytundeb (lle y bo’n wahanol), y person sy’n awdurdodi cwmpas y wybodaeth i’w hechdynnu, a’r person sy’n cwblhau’r broses o echdynnu gwybodaeth o’r ddyfais electronig.
Plentyn
Person o dan 18 oed
Gwybodaeth gyfrinachol
Gwybodaeth sy’n gyfystyr neu a all fod yn gyfystyr â’r canlynol;
(a) deunydd newyddiadurol cyfrinachol o fewn ystyr Deddf Pwerau Ymchwilio 2016 (gweler Adran 264(6) a (7) o’r Ddeddf honno), neu
(b) deunydd a ddiogelir. (3) Yn is-adran (2)(b)
Dirprwy
Unigolyn a benodir o dan Adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu Adran 113 o Ddeddf Galluedd Meddyliol (Gogledd Iwerddon) 2016 a all wneud penderfyniadau at ddibenion is-adran (7)(a) a (b) o’r pŵer ar ran yr oedolyn heb alluedd yn rhinwedd y penodiad hwnnw.
Defnyddiwr dyfais
Person sydd fel arfer yn defnyddio’r ddyfais electronig
Dyfais electronig
Unrhyw ddyfais y gellir storio gwybodaeth yn electronig arni ac mae’n cynnwys unrhyw gydran o unrhyw ddyfais o’r fath.
Deddfiad
Yn cynnwys;
(a) deddfiad a geir mewn is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978,
(b) deddfiad a geir yn un o Ddeddfau Senedd yr Alban, neu mewn offeryn a wnaed o dan un o Ddeddfau Senedd yr Alban,
(c) deddfiad a geir yn un o Ddeddfau neu Fesurau Senedd Cymru, neu mewn offeryn a wnaed o dan un o Ddeddfau neu Fesurau Senedd Cymru, a (d) deddfiad a geir yn neddfwriaeth Gogledd Iwerddon, neu mewn offeryn a wnaed o dan ddeddfwriaeth Gogledd Iwerddon.
Gwybodaeth
Mae’n cynnwys delweddau symudol neu lonydd a seiniau.
Awdurdod lleol
Ystyr awdurdod lleol yw:
(a) mewn perthynas â Lloegr, cyngor sir, cyngor dosbarth dros ardal lle nad oes cyngor sir, un o gynghorau bwrdeistref Llundain neu Gyngor Cyffredin Dinas Llundain;
(b) mewn perthynas â Chymru, cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
(c) mewn perthynas â’r Alban, cyngor a sefydlir o dan Adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc (Yr Alban) 1994.
Gweithiwr cymdeithasol cofrestredig
Person sydd wedi’i gofrestru’n weithiwr cymdeithasol mewn cofrestr a gynhelir gan;
(a) Social Work England,
(b) Gofal Cymdeithasol Cymru (a elwid yn Gyngor Gofal Cymru gynt),
(c) Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, neu
(d) Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon; ystyr “person awdurdodedig perthnasol”, mewn perthynas ag echdynnu gwybodaeth o ddyfais electronig at ddiben penodol, yw person awdurdodedig a gaiff echdynnu’r wybodaeth o’r ddyfais at y diben hwnnw.
Awdurdod perthnasol
Ystyr awdurdod perthnasol yw;
(a) mewn perthynas â Chymru a Lloegr a’r Alban, awdurdod lleol;
(b) mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, awdurdod o fewn ystyr Gorchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (O.S. 1995/755 (N.I. 2)).
Deunydd a ddiogelir
Ystyr deunydd a ddiogelir yw;
(a) mewn perthynas â Chymru a Lloegr
(i) eitemau sy’n ddarostyngedig i fraint gyfreithiol, o fewn ystyr Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (gweler Adran 10 o’r Ddeddf honno),
(ii) deunydd sy’n dod o dan Adran 11(1)(a) o’r Ddeddf honno (cofnodion personol penodol a ddelir yn gyfrinachol), neu
(iii) deunydd y mae Adran 14(2) o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo (deunydd arall a geir yn ystod masnach ac ati a ddelir yn gyfrinachol);
(b) mewn perthynas â’r Alban;
(i) eitemau y gellid cyflwyno hawliad cyfrinachedd cyfathrebiadau yn ei gylch mewn gweithrediadau cyfreithiol, neu
(ii) deunydd arall o’r fath a grybwyllir ym mharagraff (a)(ii) neu
(c) mewn perthynas â Gogledd Iwerddon;
(i) eitemau sy’n ddarostyngedig i fraint gyfreithiol, o fewn ystyr Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (Gogledd Iwerddon) 1989 (O.S. 1989/1341 (N.I. 12)) (gweler Erthygl 12 o’r Gorchymyn hwnnw),
(ii) deunydd sy’n dod o dan Erthygl 13(1)(a) o’r Gorchymyn hwnnw (cofnodion personol penodol a ddelir yn gyfrinachol), neu
(iii) deunydd y mae Erthygl 16(2) o’r Gorchymyn hwnnw yn gymwys iddo (deunydd arall a geir yn ystod masnach ac ati a ddelir yn gyfrinachol).
Sefydliad gwirfoddol
Ystyr sefydliad gwirfoddol yw:
(a) mewn perthynas â Chymru a Lloegr, mae iddo’r un ystyr ag sydd yn Neddf Plant 1989;
(b) mewn perthynas â’r Alban, mae iddo’r un ystyr ag sydd yn Rhan 2 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995;
(c) mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, mae iddo’r un ystyr ag sydd yng Ngorchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.
Atodiadau
Atodiad A – Atodlen 3 Personau Awdurdodedig
Gall person awdurdodedig gyfeirio at y person sy’n rhyngweithio â’r dioddefwr neu’r tyst, y person sy’n awdurdodi cwmpas y wybodaeth i’w hechdynnu, a’r person sy’n cwblhau’r broses o echdynnu gwybodaeth o’r ddyfais electronig.
Rhestrir y personau awdurdodedig sy’n gallu defnyddio’r pwerau yn Adran 37 ac Adran 41 o’r Ddeddf yn Atodlen 3 i’r Ddeddf. Gall yr atodlen hon gael ei diweddaru gan is-ddeddfwriaeth. I weld y rhestr fwyaf diweddar o bersonau awdurdodedig edrychwch ar y fersiwn fwyaf diweddar o’r Ddeddf.[footnote 82]
Mae Atodlen 3 wedi’i rhannu’n dair rhan.
Caiff awdurdodau a restrir yn Rhan 1 o’r Atodlen arfer y naill bŵer a’r llall at unrhyw ddiben penodedig, hynny yw:
-
yn achos y pŵer o dan Adran 37:
-
atal, canfod, ymchwilio, neu erlyn trosedd,
-
helpu i ddod o hyd i berson coll, neu
-
amddiffyn plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg rhag esgeulustod neu niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol,
-
-
yn achos y pŵer o dan Adran 41, ymchwiliad neu gwêst i farwolaeth
Caiff awdurdodau a restrir yn Rhan 2 o’r Atodlen arfer y pŵer o dan Adran 37 at unrhyw ddiben penodedig (ni chaiff y personau awdurdodedig hyn arfer y pŵer o dan Adran 41);
-
atal, canfod, ymchwilio, neu erlyn trosedd,
-
helpu i ddod o hyd i berson coll, neu
-
amddiffyn plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg rhag esgeulustod neu niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol
Caiff awdurdodau a restrir yn Rhan 3 o’r Atodlen arfer y pŵer o dan Adran 37 at y diben penodedig canlynol (ni chaiff y personau awdurdodedig hyn arfer y pŵer o dan Adran 37 at ddibenion eraill na’r pŵer o dan Adran 41):
- atal, canfod, ymchwilio, neu erlyn trosedd
Dylai personau awdurdodedig hefyd gyfeirio at eu canllawiau mewnol penodol eu hunain er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni unrhyw gyfrifoldebau sy’n benodol i’w sefydliad.
Atodlen 3 Rhan 1
Personau awdurdodedig mewn perthynas â’r holl ddibenion o fewn adran 37 neu 41
-
Cwnstabl mewn heddlu yng Nghymru a Lloegr
-
Aelod o staff a benodir gan brif swyddog heddlu yng Nghymru a Lloegr
-
Cyflogai yng Nghyngor Cyffredin Dinas Llundain sydd o dan gyfarwyddyd a rheolaeth prif swyddog heddlu
-
Cwnstabl o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Thân (Yr Alban) 2012 (Deddf Senedd yr Alban 8) (gweler Adran 99 o’r Ddeddf honno)
-
Aelod o staff a benodir gan Awdurdod Heddlu’r Alban o dan Adran 26(1) o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Thân (Yr Alban) 2012
-
Swyddog heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (gweler Adran 77(1) o’r Ddeddf honno)
-
Cwnstabl yn yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
-
Cyflogai yn Awdurdod yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a benodir o dan Adran 27 o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2003.
-
Cwnstabl yn heddlu’r Weinyddiaeth Amddiffyn
-
Swyddog yn yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
-
Person sydd wedi cael ei benodi i ddarparu gwasanaethau sy’n cynnwys echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiau electronig at ddibenion arfer swyddogaethau gan berson a restrir yn y rhan hon o’r Atodlen hon
Atodlen 3 Rhan 2
Personau awdurdodedig mewn perthynas â’r holl ddibenion o fewn adran 37 yn unig
-
Aelod o Heddlu’r Llynges Frenhinol, yr Heddlu Milwrol Brenhinol neu Heddlu’r Awyrlu Brenhinol
-
Person a benodir yn swyddog mewnfudo o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 1971
-
Person sy’n swyddog gorfodi yn rhinwedd Adran 15 o Ddeddf Meistri Gangiau (Trwyddedu) 2004
-
Person sydd wedi cael ei benodi i ddarparu gwasanaethau sy’n cynnwys echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiau electronig at ddibenion arfer swyddogaethau gan berson a restrir yn y rhan hon o’r Atodlen hon
Atodlen 3 Rhan 3
Personau awdurdodedig mewn perthynas ag adran 37 atal troseddau etc yn unig
-
Swyddog Cyllid a Thollau
-
Person sydd wedi’i ddynodi’n swyddog tollau cyffredinol neu’n swyddog cyllid tollau o dan Deddf Ffiniau, Dinasyddion a Mewnfudo 2009 (gweler Adrannau 3 ac 11 o’r Ddeddf honno)
-
Swyddog yn adran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol
-
Aelod o’r Swyddfa Twyll Difrifol
-
Person a benodir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol o dan Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i gynnal ymchwilad
-
Swyddog yn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
-
Person a awdurdodir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd i weithredu mewn materion sy’n codi o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 neu yn rhinwedd y Ddeddf honno
-
Person a awdurdodir at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992
-
Arolygydd a benodir o dan Adran 15 o Ddeddf Cynnal Plant 1991
-
Person sydd wedi’i ddynodi gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu o dan baragraff 19(2) o Atodlen 3 i Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002
-
Comisiynydd Ymchwiliadau ac Adolygiadau’r Heddlu
-
Person sydd wedi’i ddynodi gan Gomisiynydd Ymchwiliadau ac Adolygiadau’r Heddlu o dan baragraff 7B(1) o Atodlen 4 i Ddeddf yr Heddlu, Trefn Gyhoeddus a Chyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2006 (Deddf Senedd yr Alban 10)
-
Swyddog a benodir gan Ombwdsmon Heddlu Gogledd Iwerddon o dan Adran 56(1) neu (1A) o Ddeddf yr Heddlu (Gogledd Iwerddon) 1998
-
Person sy’n swyddog gorfodi yn rhinwedd Adran 303 o Ddeddf Gamblo 2005
-
Person sydd wedi cael ei benodi i ddarparu gwasanaethau sy’n cynnwys echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiau electronig at ddibenion arfer swyddogaethau gan berson a restrir yn y rhan hon o’r Atodlen hon
Atodiad B – Trosolwg o egwyddorion Bater-James
Egwyddorion yn R V Bater-James a Mohammed [2020] EWCA Crim 970
Ar gyfer personau awdurdodedig yng Nghymru a Lloegr mae dyfarniad Bater-James yn cynnwys pedair egwyddor mewn perthynas ag echdynnu a defnyddio deunydd digidol, a grynhoir isod. Er bod hwn yn achos troseddol a oedd yn canolbwyntio ar adolygu cyfathrebiadau electronig tystion, mae’r egwyddorion yn berthnasol mewn unrhyw achos, ymholiad neu ymchwiliad pan fo’n angenrheidiol ac yn gymesur archwilio dyfais.
Mae’r mater cyntaf o egwyddor yn ymwneud â nodi’r amgylchiadau pan ddaw’n angenrheidiol i ymchwilwyr geisio manylion cyfathrebiadau digidol ac yn nodi na ddylid tybio ei bod yn angenrheidiol archwilio deunydd digidol ym mhob achos ac mai dim ond fel rhan o lwybr ymholi rhesymol y dylid cynnal archwiliad.
Mae’r ail fater o egwyddor yn ymwneud â chanllawiau ynglŷn â sut y dylid cynnal ymchwiliad i ddyfais yn gymesur a thrwy roi sylw i’r effaith ar breifatrwydd y dioddefwr.
Mae’r trydydd mater o egwyddor yn ymwneud â’r wybodaeth y dylid ei rhoi i’r person y mae ei ddyfais yn cael ei harchwilio, gan sicrhau ei fod yn cael digon o wybodaeth ynglŷn â chwmpas yr adolygiad.
Mae’r pedwerydd mater o egwyddor yn ymwneud â’r goblygiadau i’r achos os bydd y person yn gwrthod rhoi mynediad i ddyfais sy’n berthnasol o bosibl.
Atodiad C – Y Ddeddf Diogelu Data a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Mae swyddogaethau a chyfrifoldebau penodol o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 a GDPR y DU i bersonau sy’n gweithredu yn rhinwedd eu swydd fel rheolydd neu brosesydd.[footnote 83]
Mae rheolyddion yn arfer rheolaeth gyffredinol dros ddibenion prosesu data personol a ffyrdd o brosesu data personol h.y., byddant yn penderfynu pa ddata i’w prosesu a pham.
Mae prosesydd yn gweithredu ar ran y rheolydd i brosesu’r data. Rydych yn debygol o fod yn gweithredu fel prosesydd os ydych yn echdynnu ac yn adolygu’r data yn unol â chyfarwyddyd uniongyrchol gan y rheolydd, hyd yn oed os ydych yn gwneud rhai penderfynidau technegol am sut i brosesu’r data.
‘Prosesu sensitif’ o dan Ran 3 o’r Ddeddf Diogelu Data
Mae Adran 35 o’r Ddeddf Diogelu Data yn amlinellu’r gofynion wrth brosesu data sensitif. Cyfeirio ato fel prosesu sensitif. Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y caniateir gwneud hynny:
-
pan fydd testun y data wedi cydsynio i brosesu data at y diben o orfodi’r gyfraith ac ar adeg prosesu’r data, mae gan y rheolydd ddogfen bolisi briodol[footnote 84] ar waith.
-
pan fydd prosesu’r data yn gwbl angenrheidiol at y diben o orfodi’r gyfraith, bod prosesu’r data yn bodloni o leiaf un o’r amodau yn Atodlen 8, ac ar adeg prosesu’r data, mae gan y rheolydd ddogfen bolisi briodol[footnote 85] ar waith.
Mae Rhan 3 o’r Ddeddf Diogelu Data yn diffinio prosesu sensitif fel a ganlyn:
a) prosesu data personol sy’n datgelu tarddiad hil neu ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol neu aelodaeth o undeb llafur.
(b) prosesu data genetig, neu ddata biometrig, er mwyn adnabod unigolyn yn unigryw.
(c) prosesu data sy’n ymwneud ag iechyd.
(d) prosesu data sy’n ymwneud â bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol unigolyn.
Mae’r amodau ar gyfer prosesu sensitif yn Atodlen 8 i’r Ddeddf fel a ganlyn:
1. mae’n angenrheidiol at ddibenion barnwrol a statudol – am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol
2. mae’n angenrheidiol er mwyn gweinyddu cyfiawnder
3. mae’n angenrheidiol er mwyn diogelu buddiannau sy’n allweddol i fywyd testun y data neu unigolyn arall
4. mae’n angenrheidiol er mwyn diogelu plant ac unigolion sy’n wynebu risg
5. mae’r data personol eisoes yn gyhoeddus (yn amlwg wedi’u cyhoeddi)
6. mae’n angenrheidiol ar gyfer hawliadau cyfreithiol
7. mae’n angenrheidiol pan fydd llys yn gweithredu yn rhinwedd ei rôl farnwrol
8. mae’n angenrheidiol er mwyn atal twyll
9. mae’n angenrheidiol at ddibenion archifo, ymchwil neu ystadegau
Mae’n rhaid eich bod yn gallu dangos bod prosesu’r data yn gwbl angenrheidiol ac yn bodloni un o’r amodau yn Atodlen 8. Ystyr cwbl angenrheidiol yn y cyd-destun hwn yw bod yn rhaid i brosesu’r data ymwneud ag angen cymdeithasol dybryd, ac na allwch ei gyflawni’n rhesymol drwy ffyrdd llai ymwthiol.
Bydd gan unigolion sy’n rhoi cytundeb ddisgwyliad rhesymol y bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei rheoli i safon uchel pan fo’n ymwneud â nodweddion gwarchodedig neu fel arall yn ddata categori arbennig o fewn ystyr y Ddeddf Diogelu Data.
Trosolwg cyffredinol o gyfrifoldebau GDPR y DU
Mae Erthygl 5 o GDPR y DU yn nodi saith egwyddor allweddol y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw wrth brosesu data personol at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys wrth arfer y pwerau hyn
Crynhoir y saith egwyddor isod:
1. Cyfreithlondeb, tegwch, a thryloywder
4. Cywirdeb
6. Cyfanrwydd a chyfrinachedd (diogelwch)
7. Atebolrwydd
1) mae’r data’n cael eu prosesu mewn modd cyfreithlon, teg a thryloyw mewn perthynas ag unigolion (cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder);
2) mae’r data’n cael eu casglu at ddibenion penodedig, penodol a dilys ac nad ydynt yn cael eu prosesu ymhellach mewn modd sy’n anghyson â’r dibenion hynny; nid ystyrir bod prosesu ymhellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, dibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu ddibenion ystadegol yn gyson â’r dibenion cychwynnol (cyfyngu ar ddiben);
3) mae’r data yn ddigonol, yn berthnasol ac wedi’u cyfyngu i’r hyn sy’n angenrheidiol mewn perthynas â’r dibenion y’u prosesir ar eu cyfer (lleihau data i’r eithaf);
4) mae’r data yn gywir a, lle y bo’n angenrheidiol, yn gyfredol; mae’n rhaid i bob cam rhesymol gael ei gymryd i sicrhau bod data personol sy’n anghywir, wedi rhoi sylw i’r dibenion y’u prosesir ar eu cyfer, yn cael eu dileu neu eu hunioni heb oedi (cywirdeb);
5) mae’r data yn cael eu cadw ar ffurf sy’n caniatáu i destunau’r data gael eu hadnabod am gyfnod nad yw’n hwy na’r hyn sy’n angenrheidiol at y dibenion y prosesir y data personol ar eu cyfer; gellir storio data personol am gyfnodau hwy i’r graddau y bydd y data personol yn cael eu prosesu at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu at ddibenion ystadegol yn unig ar yr amod bod y mesurau technegol a sefydliadol priodol sy’n ofynnol o dan y GDPR i ddiogelu hawliau a rhyddidau unigolion yn cael eu rhoi ar waith (cyfyngu ar storio);
6) mae’r data yn cael eu prosesu mewn modd sy’n sicrhau diogelwch priodol y data personol, gan gynnwys diogelwch rhag prosesu anawdurdodedig neu anghyfreithlon a rhag cael eu colli’n ddamweiniol, eu dinistrio neu eu difrodi, gan ddefnyddio mesurau technegol neu sefydliadol priodol (cyfanrwydd a chyfrinachedd).
7) Mae Erthygl 5(2) yn ychwanegu mai’r rheolydd fydd yn gyfrifol am gydymffurfiaeth â pharagraff 1 ac yn gallu ei ddangos (atebolrwydd). Mae’n rhaid eich bod wedi rhoi mesurau a chofnodion priodol ar waith fel prawf o’ch cydymffurfiaeth â’r egwyddorion prosesu data. Gall awdurdodau goruchwylio ofyn am y dystiolaeth hon ar unrhyw adeg. Mae dogfennaeth yn allweddol yn hyn o beth. Mae’n creu trywydd archwilio y gallwch chi a’r awdurdodau ei ddilyn os bydd angen i chi brofi cyfrifoldeb.
Mae Erthygl 9 o GDPR y DU yn diffinio’r sail gyfreithlon y gallwch brosesu data categori arbennig yn unol â hi ac mae Erthygl 9 yn diffinio’r amodau ar gyfer prosesu.[footnote 86]
‘data categori arbennig’ – amodau ar gyfer prosesu o dan GDPR y DU
Mae GDPR y DU yn diffinio data categori arbennig fel:
1. data personol sy’n datgelu tarddiad hil neu ethnig
2. data personol sy’n datgelu safbwyntiau gwleidyddol
3. data personol sy’n datgelu credoau crefyddol neu athronyddol
4. data personol sy’n datgelu aelodaeth o undeb llafur
5. data genetig
6. data biometrig (pan gânt eu defnyddio at ddibenion adnabod)
7. data sy’n ymwneud ag iechyd
8. data sy’n ymwneud â bywyd rhywiol person
9. data sy’n ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol
Mae Erthygl 6 yn nodi mai dim ond os bydd o leiaf un o’r canlynol yn gymwys ac i’r graddau y mae o leiaf un o’r canlynol yn gymwys:
1. mae testun y data wedi cydsynio i’w ddata neu ei data personol gael eu prosesu at un neu fwy o’r dibenion penodedig
2. mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni contract y mae testun y data yn barti ynddo neu er mwyn cymryd camau ar gais testun y data cyn ymrwymo i gontract
3. mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae’r rheolydd yn ddarostyngedig iddi
4. mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn diogelu buddiannau allweddol i fywyd testun y data neu berson naturiol arall
5. mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd
6. mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion y buddiannau dilys a ddilynir gan y rheolydd neu drydydd parti, oni fydd buddiannau neu hawliau sylfaenol a rhyddidau testun y data sy’n gofyn am ddiogelu data personol, yn enwedig os mai plentyn yw testun y data, yn drech na buddiannau o’r fath
Mae Erthygl 9 yn diffinio’r amodau ar gyfer prosesu:
-
Gwaherddir prosesu data personol sy’n datgelu tarddiad hil neu ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, neu aelodaeth o undeb llafur, a phrosesu data genetig, data biometrig at ddiben adnabod person naturiol yn unigryw, data sy’n ymwneud ag iechyd neu ddata sy’n ymwneud â bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol person naturiol.
-
Ni fydd paragraff 1 yn gymwys os yw un o’r canlynol yn gymwys:
-
mae testun y data wedi rhoi cydsyniad penodol am i’r data personol hynny gael eu prosesu at un neu fwy o’r dibenion penodedig, ac eithrio pan fo cyfraith yr Undeb neu Aelod-wladwriaeth yn darparu na chaiff testun y data godi’r gwaharddiad y cyfeirir ato ym mharagraff 1
-
mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni rhwymedigaethau ac arfer hawliau penodol y rheolydd neu destun y data ym maes cyflogaeth a nawdd cymdeithasol a chyfraith diogelwch cymdeithasol i’r graddau y mae wedi’i awdurdodi gan gyfraith yr Undeb neu Aelod-wladwriaeth neu gytundeb ar y cyd yn unol â chyfraith Aelod-wladwriaeth sy’n darparu ar gyfer camau priodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddiannau testun y data
-
mae prosesu yn angenrheidiol i ddiogelu buddiannau sy’n allweddol i fywyd testun y data neu berson naturiol arall pan na fydd testun y data yn gallu rhoi cydsyniad yn gorfforol nac yn gyfreithiol
-
prosesir data gan sefydliad, cymdeithas neu unrhyw gorff nid er elw arall sydd â nod gwleidyddol, athronyddol, crefyddol neu undeb llafur wrth ymgymryd â’i (g)weithgareddau dilys drwy gymryd camau diogelu priodol ac ar yr amod bod y data a brosesir yn ymwneud yn unig ag aelodau neu gyn-aelodau’r corff neu bersonau sy’n cael cysylltiad rheolaidd ag ef mewn perthynas â’i ddibenion ac nad yw’r data personol yn cael eu datgelu y tu allan i’r corff hwnnw heb gydsyniad testunau’r data
-
mae prosesu yn ymwneud â data personol sydd yn amlwg wedi cael eu cyhoeddi gan destun y data
-
mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cadarnhau, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol neu pryd bynnag y bydd llysoedd yn gweithredu yn rhinwedd eu rôl farnwrol
-
mae prosesu yn angenrheidiol am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol ar sail cyfraith yr Uneb neu Aelod-wladwriaeth a fydd yn gymesur â’r nod a hyrwyddir, yn parchu hanfod yr hawl i ddiogelwch data ac yn darparu ar gyfer mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddiannau testun y data
-
mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, asesu gallu’r cyflogai i weithio, diagnosis meddygol, rhoi gwasanaeth iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol ar sail cyfraith yr Undeb neu Aelod-wladwriaeth neu’n unol â chontract â gweithiwr iechyd proffesiynol ac yn ddarostyngedig i’r amodau a’r camau diogelu y cyfeirir atynt ym mharagraff 3
-
mae prosesu yn angenrheidiol am resymau budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd, megis diogelu rhag bygythiadau trawsffiniol difrifol i iechyd neu sicrhau safonau uchel ansawdd a diogelwch gofal iechyd a chynhyrchion meddygol neu ddyfeisiau meddygol, ar sail cyfraith yr Undeb neu Aelod-wladwriaeth sy’n darparu ar gyfer mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau a rhyddidau testun y data, yn enwedig cyfrinachedd proffesiynol
-
mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu at ddibenion ystadegol yn unol ag Erthygl 89(1) yn seiliedig ar gyfraith yr Undeb neu Aelod-wladwriaeth a fydd yn gymesur â’r nod a hyrwyddir, yn parhau hanfod yr hawl i ddiogelwch data ac yn darparu ar gyfer mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddiannau testun y data
-
Nid yw gwybodaeth am berson ymadawedig yn gyfystyr â data personol ac felly nid yw’n ddarostyngedig i GDPR y DU. Fodd bynnag, gall prosesu data o ddyfais a gafwyd oddi wrth berson ymadawedig sy’n cynnwys data sy’n ymwneud â phersonau byw adnabyddadwy eraill fod yn gyfystyr â phrosesu data personol o dan gyfundrefn GDPR y DU.
Atodiad D – Enghraifft o Hysbysiad Prosesu Digidol i gael cytundeb ysgrifenedig
Ceir isod samplau o Hysbysiadau Prosesu Digidol Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu I weld y ffurflenni diweddaraf defnyddiwch y ddolen hon: Tudalen we Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu sy’n cynnwys y dogfennau Prosesu Digidol diweddaraf.
[^6]: [Canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron i Gymru a Lloegr - Datgelu - A guide to “reasonable lines of enquiry” and communications evidence | Gwasanaeth Erlyn y Goron (PDF, 459KB](https://www.cps.gov.uk/sites/default/files/documents/legal_guidance/Disclosure-reasonable-lines-of-enquiry-and-communications-evidence.pdf). |
[^28]: [ICO investigation into mobile phone data extraction by police in the UK | Swyddfa’r Comisiynydd](https://ico.org.uk/about-the-ico/what-we-do/ico-investigation-into-mobile-phone-data-extraction-by-police-in-the-uk/). |
[^50] [About Forensic Science Northern Ireland | Yr Adran Gyfiawnder](https://www.justice-ni.gov.uk/articles/about-forensic-science-northern-ireland). |
[^70]: [Vulnerability-related risks | Y Coleg Plismona](https://www.college.police.uk/guidance/vulnerability-related-risks). |
-
Gweler Atodiad A am restr o bersonau awdurdodedig yn Atodlen 3 i’r Ddeddf a diffiniad o berson awdurdodedig. ↩
-
Mae adran 37(10) diffinio dyfais elctronig, gwybodaeth a defnyddiwr. Mae Adran 37(11) yn nodi’n glir bod y cyfeiriadau at echdynnu gwybodaeth yn cynnwys ei hatgynhyrchu ar unrhyw ffurf. ↩
-
Mae Adran 37(3) yn esbonio bod y cyfeiriad at drosedd yn gyfeiriad at (i) ymddygiad sy’n gyfystyr ag un neu fwy o droseddau mewn unrhyw ran o’r DU, neu (ii) ymddygiad a fyddai’n gyfystyr ag un neu fwy o droseddau pe bai’n digwyddd mewn unrhyw ran o’r DU. ↩
-
Mae Adran 37(10) yn diffinio oedolyn a phlentyn, ac mae Adran 37(4) yn nodi pryd y bydd oedolyn yn oedolyn sy’n wynebu risg. ↩
-
Mae Adran 41(2) yn rhestru’r ymchwiliadau a’r cwestau perthnasol, ac mae Adran 41(3) yn egluro y gellir arfer y pŵer er mwyn penderfynu a ddylai ymchwiliad neu gwêst o’r fath gael ei gynnal. ↩
-
Adran 37(2)(a) ac Adran 37(5)(a) a 37(5)(c) o’r Ddeddf. ↩
-
Adran 37(2)(b) ac (c) ac Adran 37(5)(b) a 37(5)(c) o’r Ddeddf. ↩
-
Adrannau 37(11) a 41(10) o’r Ddeddf. ↩
-
Mae Adran 67 o Ran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 yn cyflwyno dyletswydd ar bob sefydliad i roi gwybod i’r Comisiynydd Gwybodaeth am fathau penodol o dor diogelwch data personol. Report a breach - Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. ↩
-
Adran 42(9) a (10) o’r Ddeddf. ↩
-
[Police Service of Northern Ireland Code of Ethics 2008 (PDF, 299KB)(https://cain.ulster.ac.uk/issues/police/policingboard/nipb08ethics-2.pdf). ↩
-
Cyfeirir at y ‘cwmwl’ weithiau fel y system o storio data o bell neu rannu data drwy rwydwaith cyfrifiadurol neu delathrebu. ↩
-
Dolen i’r Canllaw ar Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (PDF, 2.13MB). ↩
-
Home Office measures in the Police, Crime, Sentencing and Courts Bill: Equalities Impact Assessment. ↩
-
Mae Adran 31 o’r Ddeddf Diogelu Data yn diffinio “law enforcement purposes’ fel “the prevention, investigation, detection or prosecution of criminal offences or the execution of criminal penalties, including the safeguarding against and the prevention of threats to public security”. ↩
-
Am ragor o wybodaeth: Deddf Diogelu Data 2018. ↩
-
Gweler Rhan 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 wrth brosesu data personol at ddibenion gorfodi’r gyfraith. ↩
-
Gweler Adran 30 o Ddeddf Diogelu Data 2018 am ystyr awdurdod cymwys. ↩
-
Gweler Adran 35(8) am ddiffiniad o brosesu sensitif ac Atodiad C am esboniad o brosesu sensitif o dan Ddeddf Diogelu Data 2018. ↩
-
Er enghraifft, Hysbysiad Prosesu Digidol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu. ↩
-
Am ragor o wybodaeth: Deddf Diogelu Data 2018. ↩
-
Gweler Adran 35(8) am ddiffiniad o brosesu sensitif ac Atodiad C am esboniad o brosesu sensitif o dan Ddeddf Diogelu Data 2018. ↩
-
Gweler Rhan 4, Pennod 1, Paragraff 84 o Ddeddf Diogelu Data 2018 am ddiffiniad o gydsyniad. ↩
-
Mae’r Ddeddf Diogelu Data ond yn gymwys i brosesu data ar gyfer personau byw, ond pan fydd prosesu data o ddyfais person ymadawedig yn golygu prosesu data person arall, mae’n rhaid i chi gydymffurfio â GDPR y DU a Rhan 2 o’r Ddeddf Diogelu Data. Ar gyfer ymchwiliadau troseddol yn y senario hwn, mae’n rhaid i chi gydymffurfio â Rhan 3 o’r Ddeddf Diogelu Data. ↩
-
Gweler Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) wrth brosesu data personol at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â gorfodi’r gyfraith. ↩
-
Gweler Atodiad C am saith egwyddor GDPR y DU yn Erthygl 5. ↩
-
Gweler Atodiad C am yr amodau y mae’n rhaid eu bodloni o dan Erthygl 6. ↩
-
Gweler Atodiad C am esboniad o ddata categori arbennig o dan GDPR y DU. ↩
-
Yr unig eithriadau i hyn yw pan fo defnyddiwr yn blentyn neu’n oedolyn heb alluedd (os felly, bydd Adran 38 yn gymwys) neu pan fo un o’r amodau yn Adran 40 yn gymwys. ↩
-
Gweler Rhan 5 Defnyddio’r pŵer o dan Adran 37 yn achos pobl sy’n agored i niwed. ↩
-
Mae Adran 37(13), Pennod 3 o Adran 2 yn diffinio beth yw plentyn at ddibenion y Ddeddf. ↩
-
Mae Adrannau 37(5)(a-c) o’r Ddeddf yn nodi’r amodau ynglŷn â defnyddio pwerau o dan Adran 37. ↩
-
Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 neu Orchymyn yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (Gogledd Iwerddon) 1989. ↩
-
Gweler y dyfarniad yn R V Bater-James a Mohammed [2020] EWCA Crim 970 ac Atodiad B i’r cod hwn. ↩
-
Rhan 2, Pennod 1, paragraff 28 Deddf Pwerau Ymchwilio 2016. ↩
-
Er enghraifft, Attorney General’s Guidelines on Disclosure. ↩
-
Home Office measures in the Police, Crime, Sentencing and Courts Bill: Equalities Impact Assessment. ↩
-
Gwasanaethau Fforensig Plismona - Awdurdod Heddlu’r Alban. ↩
-
Cyfeirir at y ‘cwmwl’ weithiau fel y system o storio data o bell neu rannu data drwy rwydwaith cyfrifiadurol neu delathrebu. ↩
-
Adran 37(14). ↩
-
Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 a Deddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995. ↩
-
Adran 37(13). ↩
-
Adran 37(13). ↩
-
Enghreifftiau o ganllawiau cenedlaethol: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), Diweddariad i’r Cod Ymarfer ar Gamerâu Gwyliadwriaeth. ↩
-
Canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar Reasonable lines of Enquiry and Communications Evidence and ‘Disclosure – Guidance on Communications Evidence, a gymeradwywyd yn achos R v E [2018] EWCA 2426 (Crim). ↩
-
Ar gyfer Cymru a Lloegr: Canllawiau’r Twrnai Cyffredinol ar Ddatgenlu, ar gyfer Gogledd Iwerddon: Cod y Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus i Erlynwyr ac ar gyfer yr Alban: Llawlyfr Swyddfa’r Goron a’r Procuradur Ffisgal ar Ddatgelu - Tudalen 3. ↩
-
Er enghraifft, mae Canllawiau Rheoli Cadw Deunydd Ffisegol a Digidol 2021 Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu, APP y Coleg Plismona Management of Police Information, Cod Ymarfer CPIA (PDF, 122KB), Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010, Ar gyfer Cymru a Lloegr: Canllawiau’r Twrnai Cyffredinol ar Ddatgelu, ar gyfer Gogledd Iwerddon: Cod y Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus i Erlynwyr ac ar gyfer yr Alban: Llawlyfr Swyddfa’r Goron a’r Procuradur Ffisgal ar Ddatgelu - Tudalen 3. ↩
-
Adran 39(3)(a-e) o’r Ddeddf. ↩
-
Gweler Rhan 5: Defnyddio’r pŵer o dan Adran 37 yn achos pobl sy’n agored i niwed am fwy o wybodaeth am roi cymorth. ↩
-
Ar gyfer ffurflenni Hysbysiad Prosesu Digidol Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu: Tudalen we Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu sy’n cynnwys y dogfennau Prosesu Digidol diweddaraf. ↩
-
Er enghraifft, Hysbysiad Prosesu Digidol Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu. ↩
-
Gweler Adran 5 Defnyddio Adran 37 yn achos pobl sy’n agored i niwed am ragor o wybodaeth. ↩
-
Adran 39(5) o’r Ddeddf. ↩
-
Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau yng Nghymru a Lloegr (y Cod Dioddefwyr). ↩
-
Gweler hefyd God Dioddefwyr yr Alban ac mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, y Siarter i Ddioddefwyr sy’n berthnasol. ↩
-
O hyfforddiant Vulnerability-Look Beyond the Obvious y Coleg Plismona (i Gymru, Lloegr). ↩
-
The role of the Independent Sexual Violence Adviser (ISVA). ↩
-
Dylai personau awdurdodedig hefyd gyfeirio at eu harweiniad eu hunain ar broses, er enghraifft, APP y Coleg Plismona ar gyfer echdynnu deunydd o ddyfeisiau digidol. ↩
-
Treating vulnerable customers fairly: A guide for phone, broadband and pay-tv providers (PDF, 1.01MB). ↩
-
Gweler yr adrannau ar Geisio Barn y plentyn a Cheisio barn yr oedolyn heb alluedd am ragor o wybodaeth. ↩
-
Adran 37(13). ↩
-
Adran 38(4). ↩
-
Mae’r chwe phrif God Ymarfer ar gael yn Adults with incapacity: forms and guidance. ↩
-
Ar adeg paratoi’r cod hwn, nid yw Adran 113 wedi’i chychwyn eto. ↩
-
Am ragor o arweiniad ar gymhwyso’r Ddeddf Diogelu Data a GDPR y DU gweler Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. ↩
-
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Amodau ar gyfer prosesu sensitif. ↩
-
Er enghraifft, Hysbysiad Prosesu Digidol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu. ↩
-
Gweler Atodiad D am diffiniad GDPR y DU o ddata categori arbennig a’r amodau ar gyfer prosesu. ↩