Consultation outcome

Gwerthuso Safleoedd - Sut byddwn yn gwerthuso safleoedd - Nghymru

This consultation has concluded

Detail of outcome

Cafodd y ddogfen derfynol: Gwerthuso Safleoedd - Sut byddwn yn gwerthuso safleoedd yng Nghymru ei chyhoeddi ar 18 Chwefror 2020.

Mae’r ddogfen Gwerthuso Safleoedd yn egluro’r fframweithiau polisi perthnasol, ac mae’n dangos sut bydd Radioactive Waste Management (RWM) yn defnyddio’r fframweithiau hyn yn gyson ac yn dryloyw. Mae’r ddogfen Gwerthuso Safleoedd hefyd yn esbonio sut byddwn yn strwythuro gwerthusiadau drwy ddefnyddio cyfres o Ffactorau Lleoli ac Ystyriaethau Gwerthuso. Bydd ein gwerthusiadau’n canolbwyntio ar a yw’r ardaloedd a’r safleoedd a nodwyd yn addas i gynnig lleoliad ar gyfer Cyfleuster Gwaredu Daearegol.

Mae’r ddogfen Gwerthuso Safleoedd wedi cael ei dylunio i grynhoi, mewn termau syml a hygyrch, yr hyn bydd yn rhaid i RWM ei ystyried yn ystod y broses leoli er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn bodloni ac yn cwrdd â’r holl ofynion perthnasol a’r hyn fydd yn galluogi RWM i gasglu’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn gwneud ceisiadau am y cydsyniadau y bydd eu hangen i ymchwilio i ardal ac, wedi hynny, i adeiladu, i weithredu ac i gau cyfleuster gwaredu daearegol.

Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn roedd RWM wedi cynnal ymgynghoriad ynghylch Sut byddwn yn gwerthuso safleoedd yn Lloegr.

Mae’r ymgynghoriad yng Nghymru hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’r ddogfen derfynol: Gwerthuso Safleoedd – Sut byddwn yn gwerthuso safleoedd yng Nghymru hefyd ar gael yn Saesneg.

Feedback received

Detail of feedback received

Ar draws y ddau ymgynghoriad cawsom 90 o ymatebion gan amrywiaeth o randdeiliaid gan gynnwys:

  • academyddion
  • awdurdodau lleol
  • cynghorau plwyf
  • rheoleiddwyr amgylcheddol
  • cyrff anllywodraethol
  • unigolion sydd â diddordeb.

Mae ein dogfen Ymateb i’r Ymgynghoriad yn cynnwys crynodeb o’r ymatebion a gawsom, ynghyd â’r prif negeseuon a ddaeth o’r ymgynghoriad a’r camau rydym wedi’u cymryd.


Original consultation

Summary

Ymgynghoriad cyhoeddus yng nghyswllt y gwaith o chwilio am safle addas ar gyfer Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF)

This consultation ran from
to

Consultation description

Yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd heddiw gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru, a chyhoeddi Gwaredu Gwastraff Ymbelydrol Uwch ei Actifedd yn Ddaearegol: Gweithio gyda Chymunedau gan Lywodraeth Cymru, bydd Radioactive Waste Management (RWM), un o is-gwmnïau Nuclear Decommissioning Authority, nawr yn dechrau ar y gwaith o chwilio am gymuned sydd â safle addas ac sy’n barod i gynnig lleoliad i adeiladu Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF). 

I ategu datganiad polisi Llywodraeth Cymru, mae’r wybodaeth am yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Werthuso Safleoedd wedi’i hatodi ac mae hi’n cynnwys manylion pwysig ynghylch sut y bydd safleoedd yn cael eu hasesu yng Nghymru.

Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiadau cyhoeddus ac ymateb i’r ymgynghoriad. Fe gawsom 90 set o ymatebion ac fe fyddwn yn cyhoeddi ein hymateb yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan ein hymgyrch.

Documents

Gwerthuso Safleoedd

Published 16 January 2019
Last updated 18 February 2020 + show all updates
  1. Mae’r dudalen wedi cael ei diweddaru i gynnwys: adborth gan y cyhoedd a’r canlyniad terfynol.

  2. First published.