Labelu effeithlonrwydd dŵr gorfodol yn y DU
Llwytho'r canlyniad llawn i lawr
Manylion am y canlyniad
Cafwyd cyfanswm o 98 o ymatebion. Roedd hyn yn cynnwys 80 o ymatebion a ddaeth i law drwy CitizenSpace a 18 o ymatebion a ddaeth i law drwy’r ebost. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 2 Medi a 25 Tachwedd 2022.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd Defra yn gweithio gyda’r sefydliadau a gymerodd ran yn ein gweithdai cyn-ymgynghori a’n grŵp llywio i gwblhau dyluniad y label a’r safonau ar gyfer pob cynnyrch. Byddwn hefyd yn cwblhau’n polisi a’n dull gweithredu. Rydyn ni’n anelu at osod yr is-ddeddfwriaeth yn 2024 a byddwn yn datblygu:
- y gronfa ddata cynhyrchion
- y dull labelu cyffredinol
- system gofrestru
- gwefan
- dull o hyrwyddo a marchnata’r label
Ein nod yw lansio’r label newydd yn 2025.
Gallwch hefyd ddarllen am yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn bwriadu labelu cynhyrchion sy’n defnyddio dŵr fel tapiau, cawodydd, toiledau, peiriannau golchi llestri a pheiriannau golchi dillad. Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi:
- ein dull gweithredu arfaethedig
- y cynhyrchion a gwmpesir gan y label
- dyluniad a nodweddion y label
- sut y dangosir y label
- safonau i ategu’r label
Bydd eich ymatebion yn siapio datblygiad prosesau, canllawiau ac is-ddeddfwriaeth.
Gallwch hefyd ddarllen am yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg.