Lefelau gwasanaeth gofynnol mewn achos o streic: gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
Updated 29 November 2023
Applies to England, Scotland and Wales
Rhagair gan yr Ysgrifennydd Gwladol
Fel Ysgrifennydd Gwladol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rwy’n canolbwyntio ar iechyd a llesiant y cyhoedd, ac rwy’n eu blaenoriaethu. Mae gwasanaethau ambiwlans wrth galon y system gofal brys ac argyfwng. Mae’r gwasanaeth ambiwlans yn ymgorffori enaid y GIG, a’i barodrwydd parhaus i gefnogi pobl yn ystod eu hadegau mwyaf bregus. Rwy’n ddiolchgar fod gennym staff mor ymroddedig a phroffesiynol yn gweithio yn y gwasanaeth.
Cadw pobl yn ddiogel
Ein prif flaenoriaeth yw cadw cleifion yn ddiogel yn ystod unrhyw weithredu diwydiannol. Mae’n hollbwysig sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio gwasanaethau brys pan mae’r galw yn codi, gan gynnwys yn ystod unrhyw streic. Gan gydnabod bod tarfu ar wasanaethau golau glas yn rhoi bywydau mewn risg uniongyrchol, rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol yng ngwasanaethau ambiwlans er mwyn rhoi tawelwch meddwl mawr ei angen i’r cyhoedd y bydd gofal brys ac arbed bywydau yn parhau drwy gydol streiciau.
Mae’r hawl i streicio yn rhan bwysig o berthnasoedd diwydiannol yn y DU, wedi’u hamddiffyn yn briodol drwy’r gyfraith. Wedi dweud hynny, mae angen i ni daro cydbwysedd rhesymol rhwng gallu gweithwyr i streicio ac amddiffyn bywydau ac iechyd y cyhoedd. Yn ystod streiciau ar hyn o bryd, mae disgwyl i gyflogwyr drafod gydag undebau llafur a fyddant yn cytuno i ddarparu’n wirfoddol lefel benodol o gyflenwad o ran staffio ac ym mha ardaloedd, fel bod aelodau neu grwpiau o staff penodol yn cael eu heithrio rhag y streic er mwyn cyflawni gwasanaethau hanfodol. Gelwir y trefniadau hyn yn ‘rhanddirymiadau’. Yn ogystal, gall cyflogwyr gyflwyno mesurau lliniarol yn y tymor byr, megis defnyddio milwyr, ambiwlansys preifat a gwasanaethau tacsi. Gall ysbytai hefyd weithredu i leihau amseroedd trosglwyddo, megis canslo triniaethau a drefnwyd er mwyn rhyddhau capasiti.
Hyd yn oed pan mae’r cynlluniau llym wrth gefn hyn wedi’u sefydlu, mae’r risg o weithredu diwydiannol yn peryglu bywydau ac iechyd cleifion a’r cyhoedd yn parhau os ydym am ddal ati i ddibynnu ar gymysgfa o randdirymiadau gwirfoddol wedi’u cytuno’n lleol, nad ydynt yn aml yn cael eu cadarnhau tan yn hwyr iawn yn y diwrnod, neu, yn wir, efallai na fyddant yn cael eu cyflawni ar ddiwrnodau streiciau gan mai gwirfoddol ydynt a gall staff ac undebau eu tynnu’n ôl.
Felly, rydym yn lansio’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn ar ba un ai a ddylid cyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau ambiwlans yn ystod streiciau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Bydd eich adborth yn gymorth i sicrhau os bydd lefelau gwasanaeth gofynnol yn cael eu cyflwyno yn achos gwasanaethau ambiwlans, eu bod yn gymesur ac yn deg.
Hoffem greu sicrwydd drwy gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol i alluogi darparwyr y GIG i amddiffyn cleifion a’r cyhoedd yn ystod streiciau.
Lefelau gwasanaeth gofynnol yng ngwledydd eraill
Mewn sawl gwlad yng ngorllewin Ewrop, mae deddfwriaeth yn caniatáu lefelau gwasanaeth gofynnol i sicrhau bod y cyhoedd yn parhau i dderbyn gwasanaethau hanfodol yn ystod streiciau. Mae’n briodol y dylai’r hawl i streicio fod wedi’i gydbwyso â hawliau eraill defnyddwyr gwasanaeth.
Er enghraifft, yn yr Eidal, rhaid gwarantu lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau hanfodol penodol drwy gydol streic, sy’n cynnwys y gwasanaethau iechyd, sy’n hanfodol i sicrhau yr amddiffynnir iechyd. Yn Sbaen, gall awdurdodau llywodraethol osod lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ar naill ai lefel genedlaethol neu leol. Yn Ffrainc, mae gan y llywodraeth y gallu i orfodi lefelau gwasanaeth gofynnol, sy’n golygu y byddai gwasanaethau cyhoeddus yn parhau. Ymhlith enghreifftiau eraill lle mae lefelau gwasanaeth gofynnol yn bodoli ar ryw ffurf yw’r Almaen, y Wlad Belg a’r Iseldiroedd. Yn ogystal, yng Nghanada, Awstralia a rhannau o Unol Daleithiau’r America, mae’r gallu eisoes i wahardd gwasanaethau golau glas rhag streicio.
Ble’r ydym ni’n mynd o’r fan hon?
Efallai eich bod chi’n meddwl tybed pam ein bod yn cynnig lefelau gwasanaeth gofynnol yn achos streiciau. Yn achosion mwyaf diweddar, lle mae streiciau wedi digwydd, mae cyflogwyr ac undebau wedi trafod lefel o wasanaeth i’w ddarparu er gwaethaf y streicio, fel bod gofal brys ac arbed bywydau yn parhau i gael ei ddarparu. Ond mae’r trafodaethau hyn yn cymryd amser, ac mae eu canlyniad yn ansicr, sy’n golygu nad yw darparwyr gwasanaeth yn gallu cynllunio ymlaen llaw. Rwy’n parhau i bryderu oherwydd yn rhai achosion, nid yw’r trefniadau gwirfoddol hyn yn cael eu cytuno tan y funud olaf, neu mae anghytundeb neu ansicrwydd dros beth sydd wedi’i gytuno.
Nid wyf yn credu bod ansicrwydd yn dderbyniol - i staff, i gyflogwyr, i’r cyhoedd - yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau ambiwlans. Dyma pam ein bod yn ystyried pa un ai a ddylem gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol yn y gwasanaethau ambiwlans; fel bod gennym ni i gyd y tawelwch meddwl y bydd gofal brys ac arbed bywydau yn parhau yn ystod streiciau, ac y bydd cyflogwyr yn gallu trefnu’n well ar gyfer streiciau.
Diolch am gymryd o’ch amser i ymateb i’r ymgynghoriad hwn, i sicrhau bod y GIG yn parhau’n barod i gynorthwyo bob un ohonom pan fo’r angen fwyaf.
Y Gwir Anrhydeddus Steve Barclay AS
Cyflwyniad
Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AIGC) yn awyddus am safbwyntiau wrth basio Y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) ynghylch, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth gan y Senedd, cyflwyno rheoliadau ar lefelau gwasanaeth gofynnol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i gefnogi lefelau gwasanaeth gofynnol yn y gwasanaeth iechyd yn ystod streiciau er mwyn amddiffyn diogelwch cleifion.
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i ymgynghori ar weithredu lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau’r rheilffordd, ambiwlans a thân. Yn y maes iechyd, ein bwriad yw y byddai lefelau gwasanaeth gofynnol yn amddiffyn gallu gweithwyr i streicio ac amddiffyn bywyd ac iechyd ar yr un pryd. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn gymorth i wneud penderfyniad ynglŷn â pha wasanaethau iechyd y dylid eu cynnwys yn y rheoliadau. Ein cynnig yw y dylai gwasanaethau ambiwlans fod wedi’u cynnwys yn y rheoliadau â blaenoriaeth. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn gymorth i wneud penderfyniad ynglŷn â pha wasanaethau iechyd y dylid eu cynnwys, a manylion y lefelau gwasanaeth gofynnol sydd eu hangen yn y gwasanaeth ambiwlans.
Y gynulleidfa darged yw:
- y cyhoedd
- undebau llafur
- cyflogwyr gwasanaeth ambiwlans y GIG
- cyflogwyr eraill y GIG a’r gwasanaeth iechyd
- sefydliadau cynrychiadol a chyrff cyhoeddus
- pob gweithiwr o fewn y gwasanaethau ambiwlans ac iechyd
Y gwasanaeth ambiwlans ar hyn o bryd
Galwadau 999
I ddechrau, caiff galwadau 999 eu hateb gan weithredwr BT, sy’n cyfeirio’r alwad at y gwasanaeth ambiwlans lleol priodol. Yna, mae ymgymerwr galwadau brys, wedi’i gefnogi gan feddalwedd cefnogi penderfyniadau clinigol, yn gofyn cyfres o gwestiynau i bennu’r broblem. Bydd rhai galwadau hefyd yn cael eu hasesu gan glinigwr, er enghraifft parafeddyg neu nyrs. Ar ddiwedd yr asesiad hwn, caiff yr alwad ei neilltuo i gategori yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd gan y galwr. Gall yr ymgymerwr galwadau aros ar y ffôn, a chynnig rhagor o gymorth ymarferol a chyngor yn ôl yr angen.
Yn Lloegr, ar ôl gwneud asesiad, caiff yr alwad ei chategoreiddio yn ôl un o’r canlynol:
- bygythiad i fywyd
- argyfwng
- brys
- ddim yn frys
Yng Nghymru a’r Alban, mae gwahanol gategorïau cyfwerth (gweler Atodiad A).
Pan mae angen ymateb wyneb yn wyneb, bydd anfonwyr yn ystafell reoli’r gwasanaeth ambiwlans yn neilltuo ymateb priodol i’r alwad. Caiff ymatebion i gleifion eu blaenoriaethu yn ôl difrifoldeb yr alwad, gyda’r cleifion salaf sydd â chyflyrau brys neu fygythiad i fywyd yn cael eu blaenoriaethu dros alwadau llai brys a’u neilltuo ag ymateb ambiwlans â ‘golau glas’. Gall hyn gynnwys ambiwlans brys, cerbyd ymateb cyflym, ymatebwr cyntaf gwirfoddol neu adnoddau arbenigol arall, megis ymateb gan Dimau Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus, Timau Ymateb Gweithrediadau Arbenigol neu ymatebwr cyntaf clinigol.
Gall clinigwyr yn ystafell reoli’r gwasanaeth ambiwlans adolygu galwadau sydd wedi’u dal a chynnig cyngor clinigol. Mae’n bosibl y gellir darfod rhai galwadau ar ôl rhoi cyngor dros y ffôn neu drwy atgyfeirio i wasanaeth arall heb fod yn wasanaeth golau glas, megis gofal sylfaenol, gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau cymunedol, tîm ymateb i gwympiadau a’r tîm argyfwng iechyd meddwl, ymhlith eraill. Caiff pob galwad sydd wedi’i dal, gan gynnwys galwadau brys, ei monitro a’i hail-asesu ac os yw cyflwr claf yn gwaethygu, mae’n bosibl y gellir ei ‘uwchraddio’ ar gyfer ymateb brys.
Os darperir ymateb wyneb yn wyneb, gall staff ambiwlans sydd ynghlwm â’r ymateb gynnwys parafeddygon, technegwyr meddygol brys, cynorthwywyr gofal meddygol neu eraill. Mae’n bosibl y gellir cau rhai achosion heb driniaeth yn y safle. Mae’n bosibl hefyd y caiff cleifion eu cludo mewn ambiwlans ar gyfer triniaeth bellach i adrannau brys neu ddarparwyr triniaethau eraill.
Gwasanaethau eraill
Mae gwasanaethau ambiwlans hefyd yn cynnwys darparu gwasanaethau cludo a throsglwyddo cleifion y GIG heb fod yn frys ar gyfer cleifion sydd angen triniaeth lle mae amser yn hollbwysig gyda chyflyrau megis methiant yr arennau, cancr, gofal diwedd oes a dialysis, ac sydd angen cludiant a/neu drosglwyddiad. Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu cludiant yn rhad ac am ddim i’r ysbyty ac oddi yno, gan gynnwys i bobl y mae eu cyflwr yn golygu eu bod angen cymorth meddygol ychwanegol yn ystod y siwrnai a/neu i bobl sydd â phroblemau symudedd.
Gall ymddiriedolaethau ambiwlans hefyd ddarparu gwasanaethau cludo cleifion rhwng cyfleusterau, gan gynnwys trosglwyddiadau i dderbyn triniaeth frys lle mae amser yn hollbwysig.
Gallant hefyd ddarparu gwasanaethau 111 y GIG.
Crynodeb o’n cynnig
Ein cynnig yw bod lefel gwasanaeth gofynnol yn golygu y dylid ateb pob galwad 999, hyd yn oed yn ystod streic, gan y gall tarfu ar wasanaethau golau glas roi bywydau mewn risg. Nid yw gwasanaethau ambiwlans yn ymwybodol beth yw natur neu ddifrifoldeb digwyddiad nes caiff yr alwad ei hateb.
Ein cynnig yw sicrhau bod y lefel o adnoddau sydd ar gael ar unrhyw ddiwrnod o streicio yn cael ei gosod ar lefel i sicrhau bod pob galwad 999 yn cael ei hateb a’u hasesu gan staff yn ystafell reoli’r gwasanaeth ambiwlans. Ein cynnig hefyd yw sicrhau bod pob galwad brys a bygythiad i fywyd yn cael ymateb priodol gan ambiwlans, Timau Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus, Timau Ymateb Gweithrediadau Arbenigol neu ymatebwr arall. Byddai angen cynnwys y gyfran o alwadau brys sy’n cael eu huwchraddio i alwadau brys a bygythiad i fywyd wrth asesu lefel y cyflenwad.
Ein cynnig yw y byddai’r lefel gwasanaeth gofynnol yn golygu y byddai’n ofynnol i’r cyflogwr sy’n gyfrifol am gynnal y gwasanaeth ambiwlans sicrhau’r adnoddau gofynnol i ymateb yn briodol i achosion brys a bygythiad i fywyd. Yn Lloegr, ac yn yr un modd yng Nghymru a’r Alban, yr hyn yr ydym ni’n ei olygu gyda’r term “achosion brys a bygythiad i fywyd” yw galwadau a allai gynnwys strôc, poen yn y frest, diffyg ymwybyddiaeth, problemau anadlu, clwyfau sylweddol, achos difrifol o dorri asgwrn, sepsis neu losgiadau sylweddol, ymhlith achosion difrifol eraill.
Golygai hyn, yn ystod streiciau, y byddai angen i rai gweithwyr barhau â’u gwaith er mwyn sicrhau y gellir ateb ac ymateb i’r galwadau hyn yn briodol i ddiogelu bywyd ac iechyd. Yng nghyd-destun streiciau, disgwyliwn na fyddai galwadau sydd wedi’u neilltuo’n alwadau heb fod yn rhai brys nac yn fygythiad i fywyd yn cael eu trin â blaenoriaeth gan y gwasanaeth ambiwlans gan y byddai ymatebion i ddigwyddiadau mwy difrifol yn cael eu blaenoriaethu. Mewn rhai achosion, byddem yn disgwyl y byddai gwasanaethau eraill mwy priodol, megis gwasanaethau cymunedol sy’n ymateb i unigolion sydd wedi cwympo, yn ymateb.
Mae ein cynnig hefyd yn cynnwys cyflogwyr yn cynllunio fel bod adnoddau priodol yn eu lle i ddarparu gwasanaethau cludo cleifion y GIG heb fod yn frys ar gyfer cleifion sydd â chyflyrau megis methiant yr arennau, cancr, gofal diwedd oes a dialysis, ac sydd angen cludiant a/neu drosglwyddiad. Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu cludiant yn rhad ac am ddim i’r ysbyty ac oddi yno, neu rhwng cyfleusterau’r GIG ar gyfer pobl y mae eu cyflwr yn golygu eu bod angen cymorth meddygol ychwanegol yn ystod y siwrnai a/neu i bobl sydd â phroblemau symudedd. Mae ein cynnig hefyd yn cynnwys cyflogwyr yn cynllunio fel bod adnoddau priodol ar waith i drosglwyddo cleifion rhwng cyfleusterau yng nghanolfannau arbenigol ar frys. Gall hyn gynnwys trosglwyddo oedolion, plant a babannod gyda gofal critigol ar y tir ac yn yr awyr, a’u nôl. Dylai meddyg uwch neu arbenigwr gofal iechyd uwch arall bennu ei bod yn hanfodol gwneud hyn fel trosglwyddiad oherwydd bygythiad i fywyd.
Y gwasanaeth ambiwlans yn ystod streiciau ar hyn o bryd
Mae’r GIG yn gwneud pob ymdrech drwy gynlluniau trylwyr wrth gefn i leihau’r tarfu a’i effaith ar gleifion a’r cyhoedd yn ystod gweithredu diwydiannol. Mae GIG Lloegr yn gweithio gyda darparwyr, cyrff proffesiynol, undebau llafur a chyrff eraill i gytuno ar gyflenwad cyn streicio. Yn ystod streiciau blaenorol, roedd cyflogwyr yn trafod gydag undebau llafur i bennu a fyddant yn cytuno i ddarparu’n wirfoddol lefel benodol o gyflenwad o ran staffio ac ym mha ardaloedd, fel y byddai aelodau neu grwpiau o staff penodol yn cael eu heithrio rhag y streic er mwyn cyflawni gwasanaethau hanfodol. Gelwir y trefniadau hyn yn ‘rhanddirymiadau’.
Er ein bod yn falch bod y rhanddirymiadau gwirfoddol hynny wedi’u cytuno ar gyfer streiciau hyd yn hyn, nid oes sicrwydd y bydd hyn yn digwydd yn y dyfodol, ac yn aml mae rhanddirymiadau blaenorol wedi’u cytuno ar y funud olaf. Yn rhai achosion, nid yw rhanddirymiadau gwirfoddol wedi’u cytuno nes yn syth cyn y streicio, ac mae’r cytundebau hwyr iawn hyn yn gadael cyflogwyr gydag oriau, yn hytrach na dyddiau, i weithredu cynlluniau wrth gefn llawn gan arwain at ansicrwydd i bawb ynghlwm. Mewn rhai ardaloedd, roedd peth dryswch ynghylch yr hyn sydd wedi’i gytuno, a dim sicrwydd y byddai staff yr oedd gofyn iddynt fynychu yn ystod y streicio yn mynychu yn unol â’r hyn y cytunwyd arno mewn gwirionedd.
Dan rai amgylchiadau, er enghraifft yn ystod y streicio diweddar ym mis Rhagfyr 2022, cymerodd ymgymerwyr galwadau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans ran yn y streicio, sy’n golygu bod gweithwyr sydd heb dderbyn yr hyfforddiant llawn yn cyflenwi eu swyddi gan nad yw cyflogwyr wedi cael digon o amser i ddarparu’r hyfforddiant yn llawn sydd fel arfer yn ofynnol. Yn ogystal, mewn rhai achosion mae gweithwyr y gwasanaeth ambiwlans wedi dychwelyd o’r llinell biced yn ystod streic fel rhan o ddirymiadau gwirfoddol, a allai arwain at ymateb arafach i achosion brys a bygythiad i fywyd. Mae hyn i gyd, gan gynnwys natur funud olaf rhai cytundebau, yn creu cryn dipyn o ansicrwydd a dryswch i bawb ynghlwm, gan gynnwys staff, y cyhoedd, cleifion a’u teuluoedd.
Byddai lefelau gwasanaeth gofynnol yn creu sicrwydd, gan roi mwy o allu i wasanaethau ambiwlans gadw cleifion yn ddiogel yn ystod streiciau. Byddai hefyd yn galluogi penderfyniadau cynharach mewn perthynas â mesurau eraill, megis gohirio apwyntiadau arferol, er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gleifion.
Crynodeb o’r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)
Diben lefelau gwasanaeth gofynnol
Nod lefelau gwasanaeth gofynnol (LGGau) yw cyfyngu effeithiau streiciau ar fywydau a bywoliaeth y cyhoedd a sicrhau cydbwysedd rhwng gallu undebau a’u haelodau i streicio gyda hawliau’r cyhoedd yn ehangach i geisio gwasanaethau allweddol yn ystod streiciau.
Mae cyflwyno’r ddeddfwriaeth lefel gwasanaeth gofynnol aml-sector, yn amodol ar y Senedd yn cymeradwyo’r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol), wedi’i dylunio i alluogi pobl i fynychu eu man gwaith, ceisio addysg a gofal iechyd, a byw eu bywydau bob dydd yn ystod streiciau, gan gydbwyso hyn â’r gallu i streicio. Pryd bynnag y caiff LGGau eu gweithredu, dylid cael lefel fwy cyson o wasanaeth ar gyfer y cyhoedd rhwng streic i streic, yn ogystal â lleihau’r sefyllfaoedd pan nad oes gwasanaethau o gwbl. Bydd hyn yn gymorth i warchod y cyhoedd ac amddiffyn rhag risg anghymesur i fywyd a bywoliaeth.
Trosolwg o’r bil
Bydd y bil, os caiff ei gymeradwyo gan y Senedd, yn addasu Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 i:
- orfodi amodau i ddiogelu undebau llafur rhag gweithredu cyfreithiol mewn perthynas â streiciau yn ymwneud â gwasanaethau lle mae darpariaeth ar gyfer lefelau gwasanaeth gofynnol. Bydd y gwasanaethau yn cael eu trefnu gan reoliadau, yn dilyn ymgynghoriad
- gorfodi goblygiadau ar undebau llafur ac unigolion i gydymffurfio â lefelau gwasanaeth gofynnol a galluogi cyflogwyr mewn gwasanaethau penodol i gyhoeddi hysbysiadau gwaith i restru’r gweithlu gofynnol i sicrhau’r lefel gwasanaeth gofynnol ar ddiwrnod streic
Gweithredu LGGau
Mae’r bil yn cynnwys pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol osod LGGau, ar gyfer gwasanaethau mewn sectorau allweddol penodol (categorïau), drwy reoliadau. Mae pŵer hefyd i’r Ysgrifenwyr Gwladol bennu’r ‘gwasanaethau perthnasol’ o fewn y categorïau eang sydd wedi’u rhestru yn y ddeddfwriaeth, lle allai LGGau fod yn berthnasol.
Y sectorau allweddol (categorïau), sydd wedi’u nodi yn y bil, yw:
- gwasanaethau iechyd
- gwasanaethau tân ac achub
- gwasanaethau addysg
- gwasanaethau cludo
- digomisiynu gosodiadau niwclear a rheoli gwastraff ymbelydrol a thanwydd a ddisbyddwyd
- diogelwch y ffin
Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori ag unigolion priodol yn ei dyb ef ar y rheoliadau arfaethedig a rhaid i’r ddau dŷ yn y Senedd gymeradwyo’r rheoliadau cyn y cânt eu gwneud. Mae’n bosibl y cyflawnir y gofynion ymgynghori cyn ac ar ôl i’r bil gael Cydsyniad Brenhinol.
Os caiff ei gymeradwyo gan y Senedd, bydd y bil yn dod i rym ar ôl Cydsyniad Brenhinol, ond ni chaiff ei weithredu nes bod y rheoliadau, sy’n pennu’r manylion am ba wasanaethau y bydd y LGGau yn berthnasol iddynt a beth fydd y lefelau gwasanaeth gofynnol, yn dod i rym. Ar ôl eu rhoi ar waith, mae’n bosibl y gellir cymhwyso LGGau mewn perthynas ag unrhyw streic yn y gwasanaethau penodol sy’n digwydd ar ôl i’r rheoliadau ddod i rym.
Hysbysiadau gwaith
Pan gaiff LGG ei gweithredu drwy reoliadau mewn perthynas â gwasanaeth, lle mae undeb llafur yn rhoi hysbysiad o streic i gyflogwr, gall y cyflogwr benderfynu cyhoeddi hysbysiad (a elwir yn hysbysiad gwaith) cyn y streiciau i nodi’r bobl y mae’n ofynnol iddynt weithio a’r gwaith y mae’n rhaid iddynt ei gyflawni i sicrhau bod y LGG ar gyfer y cyfnod hwnnw yn cael ei ddarparu. Rhaid cyhoeddi’r hysbysiad gwaith dim hwyrach na 7 diwrnod cyn diwrnod y streic ond mae modd ei addasu hyd at 4 diwrnod cynt (neu’n hwyrach os yw’r undeb yn cytuno).
Rhaid i’r cyflogwr ymgynghori â’r undeb ar nifer yr unigolion i’w nodi a’r gwaith i’w bennu yn yr hysbysiad gwaith ac ystyried eu safbwyntiau cyn cyhoeddi hysbysiad gwaith. Ni ddylai hysbysiad gwaith nodi mwy o bobl nag sy’n hanfodol yn rhesymol at ddiben darparu’r LGGau ac, wrth benderfynu pa un ai a ddylid nodi unigolyn yn yr hysbysiad gwaith, ni ddylai’r cyflogwr ystyried a yw’r unigolyn yn aelod o undeb ai peidio.
Gorfodi hysbysiadau gwaith
Pan gyhoeddir hysbysiad gwaith yn ddilys i’r undeb gan y cyflogwr, mae’r bil yn nodi bod undeb yn colli ei diogelwch rhag hawliadau iawndal gan y cyflogwr mewn perthynas â’r streic os nad yw’n cymryd camau rhesymol i sicrhau bod aelodau’r undeb a nodwyd ar yr hysbysiad gwaith yn cydymffurfio a’r hysbysiad gwaith.
Fel arfer, bydd diswyddo cyflogai sy’n cymryd rhan mewn streiciau swyddogol a gwarchodedig yn annheg yn awtomatig os mai cymryd rhan yn y streic yw’r rheswm dros y diswyddo. Dan ddarpariaethau’r bil, os yw gweithiwr a nodir mewn hysbysiad gwaith dilys ar gyfer diwrnod o streic yn streicio ar y diwrnod hwnnw, byddai’r cyflogai yn colli ei warchodaeth ac ni fyddai ei ddiswyddo yn annheg yn awtomatig, cyn belled â bod ei gyflogwr wedi ei hysbysu (cyn diwrnod y streic) ei fod wedi’i enwi mewn hysbysiad gwaith, ac y dylai gydymffurfio ag ef, a’r gwaith y mae angen iddo ei gyflawni. Mae’n bosibl y canfyddir y diswyddo yn annheg am resymau eraill, ond nid dyma’r achos yn awtomatig.
Mae’r ddeddfwriaeth yn galluogi cyflogwyr i reoli achosion o weithiwr yn streicio, er ei fod wedi’i enwi i weithio ar ddiwrnod streic, drwy gael gwared ar warchodaeth awtomatig y cyflogai rhag diswyddo annheg. Penderfyniad y cyflogwyr yw pa, os unrhyw, gamau disgyblu a gymerir dan yr amgylchiadau hyn, ac rydym yn disgwyl i gyflogwyr fod yn deg, yn rhesymol a chymryd camau fel hyn dim ond pan mae’n angenrheidiol gwneud hynny. Gall diswyddiad fod yn annheg pan ganfyddir nad yw’n deg dan yr holl amgylchiadau.
Mae’r dyletswyddau ar undebau mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth hon yn glir ac rydym yn sicr y byddant eisiau cydymffurfio â nhw. Os nad yw undebau yn gwneud hyn, yna gall cyflogwyr fynd ar ôl yr undeb am iawndal neu geisio gwaharddeb gan y llys i roi diwedd ar y streic fwriadol. Os yw gweithwyr yn cymryd rhan mewn streic heb ei gwarchod, penderfyniad y cyflogwyr yw pa, os unrhyw rai, gamau disgyblu a gymerir. Wedi dweud hynny, ein barn yw bod hyn yn annhebygol iawn o ddigwydd.
Cwmpas daearyddol
Mae’r bil yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban (hynny yw, Prydain Fawr). Diben a sylwedd y bil yw rheoleiddio hawliau a dyletswyddau cyflogaeth a pherthnasoedd diwydiannol mewn gwasanaethau penodol. Mae hawliau a dyletswyddau cyflogaeth a pherthnasoedd diwydiannol yn fater a gedwir yn ôl.
Mae’r bil hwn yn galluogi llywodraeth y DU i weithredu LGGau mewn sectorau allweddol ledled Prydain Fawr. Cydnabyddwn mewn rhai achosion y bydd hyn yn effeithio cyflogwyr sy’n gweithredu gwasanaethau wedi’u datganoli. Fel rhan o ddatblygu LGGau a’r ymgynghoriadau sy’n ofynnol drwy’r gyfraith i fod yn sail i’r rhain, mae llywodraeth y DU yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban mewn perthynas â chwmpas daearyddol y rheoliadau - gan gydnabod, mewn rhai achosion, y gallai gweithredu LGGau effeithio ar gyflogwyr sy’n gweithredu gwasanaethau wedi’u datganoli.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cwmpasu gwasanaethau iechyd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Diben a sylwedd y bil yw gwarchod y cyhoedd drwy sicrhau bod mynediad at wasanaethau hanfodol ac achub bywydau yn dal i fod ar gael yn ystod anghydfod diwydiannol. Mae hawliau cyflogaeth a dyletswyddau a’r gyfraith sy’n ymwneud â pherthnasoedd diwydiannol yn faterion a gedwir yn ôl yn achos Cymru a Lloegr, sy’n golygu bod penderfyniadau yn cael eu gwneud gan Senedd y DU yn San Steffan. Gan fod cyfraith cyflogaeth wedi’i datganoli yng Ngogledd Iwerddon, cyfrifoldeb Cynulliad Gogledd Iwerddon yw asesu a ddylid gweithredu lefelau gwasanaeth gofynnol mewn achos o streicio yno.
Cymariaethau rhyngwladol a chyd-destun cyfreithiol
Bydd pa un ai a yw LGGau wedi’u cyfiawnhau yn unol ag Erthygl 11 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn dibynnu ar nifer o ffactorau, megis agweddau ar gyfraith ryngwladol, sy’n cynnwys confensiynau Mudiad Llafur Rhyngwladol (MLlRh).
Mae’r MLlRh yn asiant arbenigol y Cenhedloedd Unedig sy’n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a hawliau gweithwyr. Mae’r MLlRh wedi nodi bod y lefelau gwasanaeth gofynnol yn gyfiawnadwy mewn rhai sefyllfaoedd i ddiogelu gwasanaethau hanfodol. Mae hyn yn cynnwys lle mae “gwasanaethau y byddai tarfu arnynt yn peryglu bywyd, diogelwch personol neu iechyd y boblogaeth yn llwyr neu ran ohoni (gwasanaethau hanfodol yn ystyr manylaf y term)” (Freedom of Association: Compilation of Decisions of the Committee on Freedom of Association, Chweched Rhifyn, tudalen 164).
Byddai ein cynnig i gyflwyno LGGau yn y gwasanaeth ambiwlans yn anelu at ddiogelu bywyd, diogelwch neu iechyd, ac rydym o’r farn bod y tarfu hwn yn gyfreithiol a chymesur ar yr hawl i streicio, fel y cydnabuwyd gan y MLlRh, oherwydd ei fod yn ‘wasanaeth hanfodol’, a fyddai, pe derfir arno, yn ‘peryglu bywyd, diogelwch personol neu iechyd’ y cyhoedd. Fel y cyfryw, mae’r cynnig yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng hawliau gweithwyr i streicio a diogelu rhyddid a hawliau eraill.
Yn unol â chanllawiau MLlRh a chyfraith achosion Llys Hawliau Dynol Ewrop, sy’n nodi y gellir cyfiawnhau LGGau, mae LGGau ar waith i lefelau amrywiol o ddarpariaeth ar draws Gorllewin Ewrop.
Yn yr Eidal, rhaid gwarantu LGGau ar gyfer gwasanaethau gofynnol penodol mewn perthynas â hawliau cyfansoddiadol drwy gydol y streic, dan Gyfraith 146/90. Mae’r hawliau hyn yn cynnwys bywyd, iechyd, rhyddid a diogelwch. Felly, gellir cyflwyno LGGau ar gyfer y gwasanaethau iechyd sy’n angenrheidiol er mwyn gwarantu bod iechyd yn cael ei ddiogelu.
Rhaid i gyflogwyr ac undebau drafod y trefniadau y cytunir arnynt ar gyfer LGGau yn ystod streiciau, gyda’r trefniadau y cytunir arnynt yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Comisiwn Gwarantu, corff arbenigol annibynnol sy’n pennu pa un ai a yw cynigion yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng yr hawl i streicio a hawliau cyfansoddiadol ehangach y boblogaeth. Gall cyflogeion, undebau llafur ac eraill nad ydynt yn cydymffurfio â’r LGGau fod yn destun cosbau ariannol a gweinyddol, megis dirwyon o hyd at €50,000 ar gyfer undebau, y gellir eu dyblu dan rai amgylchiadau.
Yn Sbaen, gall awdurdodau llywodraethol osod lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ar naill ai lefel genedlaethol neu leol. Mae Cyfansoddiad Sbaen 1978 yn cydnabod bod modd rheoleiddio’r hawl i streicio, drwy sefydlu’r gwarantau angenrheidiol i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cynnal a’u cadw, sydd wedi’i nodi yn Archddyfarniad Brenhinol 17/1977.
Gellir cyfiawnhau LGGau yn Sbaen pan maent yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng yr hawl i streicio a hawliau gwarchodedig cyfansoddiadol y cyhoedd. Yn groes i hynny yn yr Eidal, nid oes gofyniad cyfreithiol i ymgynghori ag undebau llafur ar LGGau. Gall cyflogwyr gymryd camau disgyblu yn erbyn cyflogeion nad ydynt yn cydymffurfio â LGG.
Yn Ffrainc, mae gan y llywodraeth ganolog y gallu rheoliadol i orfodi LGGau a chyfyngu’r hawl i streicio, lle byddai hyn yn amddiffyn diogelwch pobl neu eiddo, cynnal trefn gyhoeddus, neu gynnal parhad gwasanaethau cyhoeddus.
Ymhlith enghreifftiau eraill lle mae lefelau gwasanaeth gofynnol yn bodoli ar ryw ffurf yw’r Almaen, y Wlad Belg a’r Iseldiroedd.
Yn ogystal, yng Nghanada, Awstralia a rhannau o America, mae’r gallu eisoes i wahardd gwasanaethau golau glas rhag streicio. Yng Nghanada, mae LGGau ar waith ar lefel ffederal, i ddarparu ar gyfer amgylchiadau pan fyddai methu â bodloni’r LGG yn achosi perygl uniongyrchol a difrifol i iechyd a diogelwch y cyhoedd.
Amcan y polisi
Y brif flaenoriaeth yw cadw cleifion yn ddiogel yn ystod unrhyw streic. Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd y gallu i streicio, mae angen i ni gydbwyso hyn yn erbyn yr angen i ddiogelu iechyd a bywydau’r cyhoedd yn ystod streiciau. Mae’n hollbwysig sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio gwasanaethau brys yn ystod unrhyw streic.
Gan gydnabod y gallai tarfu ar wasanaethau golau glas roi bywydau mewn risg uniongyrchol, rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol yng ngwasanaethau ambiwlans er mwyn rhoi tawelwch meddwl mawr ei angen i’r cyhoedd y bydd gofal brys a gofal yn sgil bygythiad i fywyd yn parhau drwy gydol streiciau. Gallai’r achosion brys a bygythiad i fywyd hyn gynnwys strôc, poen yn y frest, diffyg ymwybyddiaeth, problemau anadlu, clwyfau sylweddol, achos difrifol o dorri asgwrn, sepsis neu losgiadau sylweddol, ymhlith achosion difrifol eraill.
Hyd yn oed pan mae’r cynlluniau llym wrth gefn hyn wedi’u sefydlu, mae’r risg o weithredu diwydiannol yn peryglu bywydau ac iechyd cleifion a’r cyhoedd yn parhau. Yn ystod streiciau ar hyn o bryd, mae disgwyl i gyflogwyr drafod gydag undebau llafur a fyddant yn cytuno i ddarparu’n wirfoddol lefel benodol o gyflenwad o ran staffio ac ym mha ardaloedd. Pwrpas hyn yw bod aelodau neu grwpiau o staff penodol yn cael eu heithrio rhag y streic er mwyn cyflawni gwasanaethau hanfodol. Gelwir y rhain yn rhanddirymiadau gwirfoddol.
Mewn rhai achosion, nid yw rhanddirymiadau gwirfoddol wedi’u cytuno nes yn syth cyn y streicio, gan adael cyflogwyr gydag oriau, yn hytrach na dyddiau, i weithredu cynlluniau wrth gefn llawn. Mae hyn yn creu cryn dipyn o ansicrwydd i bawb ynghlwm, gan gynnwys staff, y cyhoedd, cleifion a’u teuluoedd. Dan rai amgylchiadau, er enghraifft yn ystod y streicio diweddar ym mis Rhagfyr 2022, cymerodd ymgymerwyr galwadau sy’n gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans ran yn y streicio, sy’n golygu bod gweithwyr sydd heb dderbyn yr hyfforddiant llawn yn cyflenwi eu swyddi gan nad yw cyflogwyr wedi cael digon o amser i ddarparu’r hyfforddiant yn llawn sydd fel arfer yn ofynnol. Yn ogystal, mewn rhai achosion mae gweithwyr y gwasanaeth ambiwlans wedi dychwelyd o’r llinell biced yn ystod streic fel rhan o ddirymiadau gwirfoddol, a allai arwain at ymateb arafach i achosion brys a bygythiad i fywyd.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw rwymedigaeth i wasanaethau ambiwlans barhau yn ystod streiciau ac fel mae pethau nawr, mae’n seiliedig ar ewyllys da a chydweithio rhwng sawl undeb llafur, yn ddarostyngedig i drosedd yn unig os yw unigolyn yn torri ei gontract yn fwriadol ac yntau’n gwybod y bydd yn peryglu bywyd neu’n achosi anaf difrifol i’r corff. Golyga hyn nad oes sicrwydd y bydd nifer ddigonol o staff yn gweithio yn ystod streic i amddiffyn diogelwch cleifion, a gellid bod amrywiaeth mewn perthynas â cheisio gofal brys a bygythiad i fywyd i gleifion. Byddai rheoliadau yn pennu lefel gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau ambiwlans yn rhoi mwy o sicrwydd y bydd diogelwch cleifion yn cael ei gynnal ac yn caniatáu i gyflogwyr gynllunio eu gwasanaethau yn well ar gyfer diwrnodau o streicio.
Mae’r llywodraeth yn eglur nad yw pennu lefelau gwasanaeth gofynnol yn awgrymu y dylid ystyried y lefelau hyn yn wasanaeth derbyniol ar ddiwrnodau pan nad oes streic. Yn hytrach, dyma’r lefel gwasanaeth gofynnol isaf un sy’n rhesymol ac yn angenrheidiol er mwyn diogelu’r cyhoedd ar ddiwrnod o streic gyda chydbwysedd â pharchu hawl gweithwyr i streicio. Nid yw’n disodli ffordd arferol y gwasanaethau ambiwlans o weithio o ran sicrhau bod digon o adnoddau a chapasiti ar ddiwrnodau pan nad oes streic, ac ni ddylai ddisodli eu ffordd arferol o weithio ychwaith.
Gwasanaethau ambiwlans y GIG
Mae gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn ymateb i alwadau 999 yn unol ag anghenion cleifion. Gallai hyn gynnwys:
- trefnu ambiwlans neu gerbyd arall gyda staff clinigol priodol, megis parafeddyg, Tîm Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus, Timau Ymateb Gweithrediadau Arbenigol, ymatebwr cyntaf clinigol neu unrhyw staff priodol arall
- cynnig cyngor dros y ffôn, y cyfeirir ato yn aml fel ‘clywed a thrin’
- atgyfeirio pobl at wasanaethau priodol y gellir cyfeirio atynt fel naill ai ‘clywed a thrin’ neu ‘gweld a thrin’
Gall gwasanaethau ambiwlans hefyd ddarparu gwasanaethau eraill, megis cludo cleifion i ysbyty ac oddi yno neu rhwng ysbytai, 111 y GIG, cludo cleifion heb fod yn frys ac, yn ogystal â hynny, yn yr Alban maent yn darparu gwasanaethau adfer ar y tir ac yn yr awyr. Gall union ystod y gwasanaethau a ddarperir amrywio.
Mae gwasanaethau ambiwlans yn Lloegr yn gweithio yn ôl y Rhaglen Ymateb Ambiwlans, cyfuniad o safonau cenedlaethol a weithredwyd yn 2017 i sicrhau bod y cleifion salaf yn cael yr ymateb cyflymaf, a bod cleifion yn cael yr ymateb cywir y tro cyntaf. Mae gan Gymru a’r Alban safonau cenedlaethol ychydig yn wahanol.
Gall cerbydau ambiwlans gludo ystod eang o gyfarpar, gan gynnwys dripiau mewn gwythien, cyffuriau, ocsigen a diffibriliwr calon. Gallai’r math o weithwyr a all fod ynghlwm ag ymateb gan ambiwlans gynnwys:
- ymgymerwyr galwadau
- trefnwyr
- parafeddygon
- nyrsys
- cynorthwywyr gofal ambiwlans
- cynorthwywyr gofal brys
- technegwyr meddygol brys
- ymatebwyr cyntaf gwirfoddol
- meddygon, clinigwyr eraill, rheolwyr sy’n gweithredu fel comanderiaid neu mewn rôl arweinyddiaeth a staff cymorth eraill
Yn Lloegr, caiff y gwasanaethau ambiwlans eu darparu gan 10 ymddiriedolaeth ambiwlans y GIG, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth y GIG Ynys Wyth sydd hefyd yn darparu gwasanaethau ambiwlans ar yr ynys. Darperir gwasanaethau ambiwlans brys 999 gan ymddiriedolaethau ambiwlans y GIG yn unig. Gallant hefyd ddarparu gwasanaethau eraill y GIG, megis 111 y GIG, gwasanaethau cludo cleifion heb fod yn frys a gwasanaethau trosglwyddo rhwng cyfleusterau.
Yng Nghymru, darperir gwasanaethau ambiwlans gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Yn yr Alban, darperir gwasanaethau ambiwlans gan Wasanaeth Ambiwlans yr Alban.
Dull arfaethedig
Ein cynnig yw sicrhau bod y lefel o adnoddau sydd ar gael ar unrhyw ddiwrnod o streicio yn cael ei gosod ar lefel i sicrhau bod pob galwad 999 yn cael ei hateb a’i hasesu gan staff yn ystafell reoli’r gwasanaeth ambiwlans a bod pob galwad brys a bygythiad i fywyd yn cael ymateb priodol gan ambiwlans, Tîm Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus, Timau Ymateb Gweithrediadau Arbenigol, neu unrhyw ymatebwr cyntaf clinigol arall. Byddai angen cynnwys y gyfran o alwadau brys sy’n cael eu huwchraddio i alwadau brys a bygythiad i fywyd wrth asesu lefel y cyflenwad. Yn Lloegr, ac yn yr un modd yng Nghymru a’r Alban, yr hyn yr ydym ni’n ei olygu gyda’r term “achosion brys a bygythiad i fywyd” yw galwadau a allai gynnwys strôc, poen yn y frest, diffyg ymwybyddiaeth, problemau anadlu, clwyfau sylweddol, achos difrifol o dorri asgwrn, sepsis neu losgiadau sylweddol, ymhlith achosion difrifol eraill.
Yn seiliedig ar ddata a gedwir gan wasanaethau ambiwlans yn Lloegr am y galwadau a gafwyd yn y gorffennol, mae gan y gwasanaethau ambiwlans wybodaeth weddol gywir ynghylch y lefel o adnoddau sydd eu hangen i ymateb i alwadau ar unrhyw ddiwrnod. Mae data a gyhoeddwyd gan GIG Lloegr yn dangos bod, er yn amrywio’n fisol, digwyddiadau sydd wedi’u categoreiddio’n fygythiad uniongyrchol i fywyd yn cyfrif am hyd at oddeutu 15% o’r holl alwadau. Mae achosion sydd wedi’u categoreiddio’n argyfyngau yn cyfrif am oddeutu 65% o alwadau. Mae galwadau brys yn cyfrif am oddeutu 20% o alwadau a galwadau heb fod yn frys fel rheol yn cyfrif am lai na 1% o’r holl alwadau. Gweler data Gwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr ar ddangosyddion ansawdd ambiwlans.
Byddai ein cynnig yn cynnwys sicrhau bod, ar ddiwrnodau streic, pob galwad brys 999 i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu hateb. Mae hyn oherwydd nad yw’r gwasanaethau ambiwlans yn ymwybodol o natur neu ddifrifoldeb digwyddiad nes caiff yr alwad ei hateb.
Byddai’r ymgymerwr galwadau yn defnyddio proses yn seiliedig ar wybodaeth glinigol i benderfynu ar lefel briodol yr ymateb ar gyfer yr alwad (fel y byddai’n digwydd fel arfer ar ddiwrnod pan nad oes streic). Mae clinigwyr gwasanaeth yr ambiwlans yn cyfrannu at y broses hon gan ddefnyddio eu profiad clinigol.
Ein cynnig yw bod galwadau sydd wedi’u dosbarthu yn achosion brys a bygythiad i fywyd wastad yn cael ymateb clinigol priodol pan mae streic yn mynd rhagddo. Yn Lloegr, ar hyn o bryd, caiff y galwadau hyn eu dosbarthu yn ôl galwadau Categori 1 (bygythiad uniongyrchol i fywyd) a Chategori 2 (brys) ac mae categorïau cyfwerth yng Nghymru a’r Alban (gweler Atodiad A am ragor o fanylion). Mae penderfyniadau ynglŷn â pha alwadau y’u rhoddir ym mha gategori yn cael eu gwneud drwy broses wedi’i seilio ar wybodaeth glinigol.
Yn ystod streiciau, byddai rhai gweithwyr yn parhau â’u gwaith er mwyn sicrhau y gellir ateb ac ymateb i’r galwadau hyn yn briodol i ddiogelu bywyd ac iechyd cleifion. Golyga’r dull hwn y byddem yn disgwyl i wasanaethau’r GIG feddu ar gapasiti ac adnoddau digonol yn yr ystafell reoli yn ystod streiciau i sicrhau bod pob galwad 999 frys i’r gwasanaeth ambiwlans yn cael ei hateb.
Byddem yn disgwyl i gyflogwyr y gwasanaeth ambiwlans allu adnabod pa gyfran o’u hadnodd staffio a fyddai eu hangen yn ystod streic i sicrhau bod digon o adnoddau a chapasiti ar gyfer ymateb priodol gan glinigwyr ambiwlans, Tîm Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus, Timau Ymateb Gweithrediadau Arbenigol neu ymatebwyr arall i achosion brys a bygythiad i fywyd fel sy’n angenrheidiol.
Pryd bynnag y byddai’r dull hwn yn wahanol i ffordd arferol o weithio yn y gwasanaethau ambiwlans ar ddiwrnodau pan nad oes streic, yn y cyd-destun hwn disgwyliwn na fyddai galwadau sydd heb eu dosbarthu’n achosion brys a bygythiad i fywyd (wedi’u dosbarthu yng Nghategori 3 a 4 yn Lloegr a’u cyfwerthoedd yng Nghymru a’r Alban ar hyn o bryd) yn cael ymateb gan y gwasanaeth ambiwlans o reidrwydd. Wedi dweud hynny, efallai y byddant yn ymateb iddynt os byddai ganddynt y capasiti i ateb y galwadau hynny yn ystod streiciau. Gallai enghreifftiau o’r mathau hyn o achosion gynnwys camau hwyr esgor, llosgiadau nad ydynt yn ddifrifol, diabetes, dolur rhydd, chwydu a heintiau dŵr, ymhlith achosion eraill.
Byddai’r dull hwn hefyd yn golygu bod modd cadw galwadau nad ydynt wedi’u dosbarthu’n achosion brys a bygythiad i fywyd am lawer hirach na’r arfer, nes bod adnodd ar gael i ymateb neu gellid awgrymu ymateb arall, er enghraifft defnyddio trafnidiaeth arall i gyrraedd yr ysbyty, fel tacsi, atgyfeirio at y meddyg teulu neu gymorth gan wasanaeth iechyd cymunedol.
Gall cyflwr y claf waethygu dros amser wrth iddo aros am ymateb meddygol - gall galwad nad oedd wedi’i hasesu yn achos brys neu fygythiad i fywyd i ddechrau datblygu’n achos brys neu fygythiad i fywyd dros amser. Yn achos nifer fach o gleifion sy’n cael eu hasesu gan y gwasanaethau ambiwlans yn rhai heb fod yn frys a heb fod yn fygythiad i fywyd yn y lle cyntaf, gall eu cyflwr newid a gall uwch-glinigwr ei bennu’n ddigwyddiad brys neu’n fygythiad i fywyd. Byddem yn disgwyl i gyflogwyr sicrhau bod unrhyw asesiad o adnoddau a chapasiti digonol yn ystod streiciau yn cynnwys achosion o’r fath.
Mae ein cynnig hefyd yn cynnwys cyflogwyr yn cynllunio fel bod adnoddau priodol yn eu lle i ddarparu gwasanaethau cludo cleifion y GIG heb fod yn frys ar gyfer cleifion sydd â chyflyrau megis methiant yr arennau, cancr, gofal diwedd oes a dialysis, ac sydd angen cludiant a/neu drosglwyddiad. Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu cludiant yn rhad ac am ddim i’r ysbyty ac oddi yno, neu rhwng cyfleusterau’r GIG ar gyfer pobl y mae eu cyflwr yn golygu eu bod angen cymorth meddygol ychwanegol yn ystod y siwrnai a/neu i bobl sydd â phroblemau symudedd. Mae ein cynnig hefyd yn cynnwys cyflogwyr yn cynllunio fel bod adnoddau priodol ar waith i drosglwyddo cleifion rhwng cyfleusterau yng nghanolfannau arbenigol ar frys. Gall hyn gynnwys trosglwyddo oedolion, plant a babannod gyda gofal critigol ar y tir ac yn yr awyr, a’u nôl. Dylai meddyg uwch neu arbenigwr gofal iechyd uwch arall bennu ei bod yn hanfodol gwneud hyn fel trosglwyddiad oherwydd bygythiad i fywyd.
Byddem hefyd yn disgwyl i gyflogwyr gynllunio i sicrhau bod adnoddau priodol yn eu lle ar gyfer seilwaith critigol ac adnoddau eraill, gan gynnwys cymorth TG ar gyfer yr ystafell reoli, yn ogystal â chymorth mecanyddol i adfer a chynnal a chadw’r cerbydau petai cerbydau’r gwasanaeth ambiwlans yn torri i lawr.
Cyfrifoldeb y cyflogwr sy’n gyfrifol am redeg y gwasanaeth ambiwlans yw nodi’r nifer briodol o weithwyr ac enwau amrywiaeth o weithwyr mewn hysbysiad gwaith i sicrhau y cynhelir y lefel gwasanaeth gofynnol yn ystod streic. Disgwyliwn y gallai hyn gynnwys:
- ymgymerwyr galwadau
- trefnwyr galwadau a goruchwylwyr
- clinigwyr mewn ystafelloedd rheoli
- criwiau ambiwlans
- parafeddygon
- nyrsys
- cynorthwywyr gofal ambiwlans
- cynorthwywyr gofal brys
- technegwyr meddygol brys
- meddygon, clinigwyr, rheolwyr sy’n gweithredu fel comanderiaid neu mewn rôl arweinyddiaeth a staff cymorth eraill
- Timau Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus - yn cynnwys staff arbenigol sydd wedi derbyn hyfforddiant ac yn meddu ar y cyfarpar i ddarparu ymateb ambiwlans i sefyllfaoedd brys o risg uchel a chymhleth, megis achosion penodol ar raddfa fawr neu uchel eu proffil, naill ai rhai damweiniol neu fwriadol
- Timau Ymateb Gweithrediadau Arbenigol - yn cynnwys staff sy’n ymateb i achosion sylweddol a allai gynnwys niwclear, cemegion ac ymbelydredd. Mae gan y timau hyn gerbydau â chyfarpar arbennig arnynt a chyfarpar dadlygru wrth law
- staff arall - fodd bynnag, cyfrifoldeb cyflogwyr yw pennu’r cyfuniad priodol o staff sydd eu hangen i gynnal y lefel gwasanaeth gofynnol fel y nodwyd yn y rheoliadau
Llywodraethau datganoledig
Caiff gwasanaethau ambiwlans eu rhedeg yn wahanol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ac yn gyfrifol amdanynt yn yr ardaloedd perthnasol mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. Rydym yn awyddus i ddysgu, gan gynnwys drwy ymatebion i’r ymgynghoriad hwn ac ymgysylltu â llywodraethau datganoledig, am y gwahaniaethau rhwng gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru, Lloegr a’r Alban a goblygiadau’r gwahaniaethau hynny ar gyfer pennu lefelau gwasanaeth gofynnol. Bydd hyn yn gymorth i fod yn sail i benderfyniad ar ba un ai a oes angen rheoliadau lefel gwasanaeth gofynnol ledled Prydain Fawr ac, os felly, pa un ai a oes angen rheoliadau gwahanol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban i ystyried gwahaniaethau gweithredol.
Sut i ymateb
Y ffordd symlaf o ymateb yw drwy’r arolwg ar-lein.
Os oes angen unrhyw eglurhad arnoch ynghylch y ddogfen ymgynghori, anfonwch e-bost i mslconsultation@dhsc.gov.uk. Peidiwch ag anfon unrhyw wybodaeth bersonol i’r cyfeiriad e-bost hwn.
Bydd yr ymgynghoriad ar gael i’w lenwi am 12 wythnos. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 11:45pm ar 6 Mehefin 2023.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn
Yn fras, pa mor bell ydych chi’n byw o’ch ysbyty agosaf? Os nad ydych yn sicr, defnyddiwch wasanaeth y GIG, Dod o hyd i ysbyty, neu dewiswch ‘Ddim yn gwybod’.
- Llai na 1 milltir
- 1 i 2 filltir
- 2 i 5 milltir
- 5 i 10 milltir
- 10 i 15 milltir
- 15 neu fwy o filltiroedd
- Ddim yn gwybod neu byddai’n well gennyf beidio â dweud
Cwestiwn
A oes gennych unrhyw gyflyrau corfforol neu iechyd meddwl neu salwch sydd wedi para 12 mis neu fwy, neu salwch y mae disgwyl iddo bara 12 mis neu fwy?
Mae hwn yn ymwneud â chyflyrau iechyd, salwch neu anhwylderau a all fod gennych chi. Ystyriwch gyflyrau sy’n effeithio arnoch chi drwy’r amser a’r rheini sy’n ffyrnigo o bryd i’w gilydd. Gall y rhain gynnwys, er enghraifft, cyflyrau synhwyrol, cyflyrau datblygiadol neu anhwylderau dysgu.
- Oes
- Nac oes
- Byddai’n well gennyf beidio â dweud
Cwestiwn
A yw unrhyw rai o’ch cyflyrau neu salwch yn amharu ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd?
Mae hwn yn ymwneud ag a yw eich cyflwr iechyd neu salwch yn effeithio’n uniongyrchol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd.
- Ydy, yn sylweddol
- Ydy, ychydig
- Dim o gwbl
- Byddai’n well gennyf beidio â dweud
Cwestiwn
Mae’r cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau ambiwlans yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban (Prydain Fawr).
I ba ran o’r DU mae eich ymateb yn berthnasol? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
- Lloegr
- Yr Alban
- Cymru
- Gogledd Iwerddon
- Byddai’n well gennyf beidio â dweud
Gwasanaethau ambiwlans y GIG
Yn ystod streiciau ar hyn o bryd, mae disgwyl i gyflogwyr drafod gydag undebau llafur a fyddant yn cytuno i ddarparu’n wirfoddol lefel benodol o gyflenwad o ran staffio ac ym mha ardaloedd, fel bod aelodau neu grwpiau o staff penodol yn cael eu heithrio rhag y streic er mwyn cyflawni gwasanaethau hanfodol. Gelwir y trefniadau hyn yn ‘rhanddirymiadau’. Yn ogystal, gall cyflogwyr gyflwyno mesurau lliniarol yn y tymor byr, megis defnyddio milwyr, ambiwlansys preifat a gwasanaethau tacsi. Gall ysbytai hefyd weithredu i leihau amseroedd trosglwyddo, megis canslo triniaethau a drefnwyd er mwyn rhyddhau capasiti. Nid yw’r trafodaethau hyn yn digwydd nes bod y streic ar fin digwydd, ac efallai na chyrhaeddir cytundeb. Gall hyn arwain at ansicrwydd i bobl sy’n cynllunio gwasanaethau.
Ein barn ragarweiniol yw y bydd lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau ambiwlans yn galluogi lefel fwy cyson o wasanaeth ar gyfer y cyhoedd o’r naill streic i’r llall, yn ogystal â lleihau’r amgylchiadau pan nad oes gwasanaethau o gwbl. Byddant hefyd yn gymorth i ddarparu peth sicrwydd i gyflogwyr fel eu bod mewn sefyllfa well o ran cynllunio ar gyfer streic er mwyn sicrhau bod y lefelau gofynnol ar waith. Bydd hyn yn gymorth i warchod y cyhoedd ac amddiffyn rhag risg i fywyd.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno gyda’r cynnig arfaethedig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau ambiwlans yn y GIG?
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
Pe dymunech, eglurwch eich swydd a rhowch unrhyw dystiolaeth ategol. (Dim mwy na 500 gair)
Cwestiwn
Yn ystod streiciau ar hyn o bryd, mae cyflogwyr yn ceisio cytundeb gwirfoddol gan undebau llafur er mwyn i aelodau penodol o staff dynnu’n ôl rhag streicio, i ddarparu gwasanaethau hanfodol. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod y trefniadau presennol yn ddigonol?
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
Pe dymunech, eglurwch eich swydd a rhowch unrhyw dystiolaeth ategol. (Dim mwy na 500 gair)
Cwmpas gwasanaethau iechyd
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno ei bod hi’n bwysig cael safonau cyson mewn perthynas â lefelau gwasanaeth gofynnol yn ystod streic yn y gwasanaethau ambiwlans ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban?
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
Pe dymunech, eglurwch eich swydd a rhowch unrhyw dystiolaeth ategol. (Dim mwy na 500 gair)
Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, ein bwriad yw y byddai rheoliadau lefel gwasanaeth gofynnol yn cael eu cyflwyno i sicrhau y gall y gwasanaeth ambiwlans ymateb i achosion brys a bygythiad i fywyd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn ystod streiciau. Felly, rydym yn ystyried dynodi gwasanaethau ambiwlans yn wasanaethau perthnasol y gellid gosod lefelau gwasanaeth gofynnol ar eu cyfer.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid nodi’r gwasanaeth ambiwlans yn wasanaeth perthnasol lle allai lefelau gwasanaeth gofynnol fod yn angenrheidiol yn ystod diwrnodau o streicio?
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
Pe dymunech, eglurwch eich swydd a rhowch unrhyw dystiolaeth ategol. (Dim mwy na 500 gair)
Ein cynnig yw y byddai achosion brys a bygythiad i fywyd yn cael ymateb yn ystod streiciau. Gallai’r achosion hyn gynnwys strôc, poen yn y frest, diffyg ymwybyddiaeth, problemau anadlu, clwyfau sylweddol, achos difrifol o dorri asgwrn, sepsis neu losgiadau sylweddol, ymhlith achosion difrifol eraill. Gallai hyn olygu bod modd dal galwadau llai difrifol nes bod adnodd ar gael i ymateb neu gellid awgrymu ymateb arall, er enghraifft defnyddio trafnidiaeth arall i gyrraedd yr ysbyty, fel tacsi, atgyfeirio at y meddyg teulu neu gymorth gan wasanaeth iechyd cymunedol. O ran galwadau llai difrifol, yr hyn sydd gennym mewn golwg yw achosion fel camau hwyr esgor, llosgiadau nad ydynt yn ddifrifol, diabetes, dolur rhydd, chwydu a heintiau dŵr, ymhlith achosion eraill. Gellid ail-asesu galwadau llai difrifol fel rhai sydd angen eu blaenoriaethu os yw cyflwr yr unigolyn yn newid ac yn dod yn fygythiad i fywyd ac yn achos brys.
Cwestiwn
Pa rai o’r mathau canlynol o achosion meddygol y dylid ymateb iddynt, hyd yn oed yn ystod streiciau, os unrhyw rai? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
- Achosion sy’n bygwth bywyd neu’r rheini sydd angen ymyrraeth frys a/neu ddadebru (er enghraifft, trawma sylweddol ac ataliad y galon a resbiradol, ymhlith achosion eraill)
- Achosion brys, gan gynnwys achosion difrifol lle mae amser yn hollbwysig (er enghraifft, streiciau a thrawiadau ar y galon, ymhlith achosion eraill)
- Problemau brys nad ydynt yn bygwth bywyd ond sydd angen triniaeth i leddfu dioddefaint (er enghraifft, rheoli poen) a chludiant neu reolaeth ar y safle, megis cwympiadau, ymhlith achosion eraill
- Achosion nad ydynt yn rhai brys sydd angen eu hasesu ac, o bosibl, angen cludiant mewn amserlen briodol yn glinigol
- Dim o’r uchod
- Ddim yn gwybod neu byddai’n well gennyf beidio â dweud
Pe dymunech, eglurwch eich swydd a rhowch unrhyw dystiolaeth ategol. (Dim mwy na 500 gair)
Ein cynnig rhagarweiniol yw bod lefelau gwasanaeth gofynnol yn cyflenwi’r gwasanaethau canlynol a ddarperir gan wasanaethau ambiwlans y GIG:
- Gwasanaethau ambiwlans brys 999
- Gwasanaethau cludo cleifion heb fod yn frys
- Gwasanaethau trosglwyddo rhwng cyfleusterau
- 111 y GIG
- Timau Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus
- Timau Ymateb Gweithrediadau Arbenigol
- Genedigaethau annisgwyl yn y gymuned
- Ymarferydd gofal yn ymateb i alwadau
Cwestiwn
Pa rai o’r gwasanaethau ambiwlans hyn, os unrhyw rai, y dylid eu cynnwys yn lefelau gwasanaeth gofynnol y gwasanaethau ambiwlans? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
- Gwasanaethau ambiwlans brys 999
- Gwasanaethau cludo cleifion heb fod yn frys
- Gwasanaethau trosglwyddo rhwng cyfleusterau
- 111 y GIG
- Timau Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus
- Timau Ymateb Gweithrediadau Arbenigol
- Genedigaethau annisgwyl yn y gymuned
- Ymarferydd gofal yn ymateb i alwadau
- Arall
- Ddim yn gwybod neu byddai’n well gennyf beidio â dweud
- Dim o’r uchod
Os ateboch ‘arall’, eglurwch eich ateb os gwelwch yn dda. (Dim mwy na 500 gair)
Gweler y tablau yn Atodiad A am ddiffiniadau o gategorïau galwadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Cwestiwn
Rydym wedi amlinellu rhai opsiynau isod ar sut ellid gweithredu rheoliadau lefelau gwasanaeth gofynnol. Pa opsiynau, os unrhyw rai, ydych chi’n cytuno â nhw? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
- Ei gwneud hi’n ofynnol i ymddiriedolaethau ambiwlans ymateb i bob achos brys a bygythiad i fywyd, darparu gwasanaethau trosglwyddo cleifion y GIG, gwasanaethau trosglwyddo cleifion rhwng cyfleusterau, gan gynnwys trosglwyddiadau lle mae amser yn hollbwysig ar gyfer triniaethau brys a seilwaith hollbwysig angenrheidiol, er enghraifft cymorth TG
- Ei gwneud hi’n ofynnol i ymddiriedolaethau ambiwlans ymateb i restr benodol o faterion iechyd, darparu gwasanaethau trosglwyddo cleifion y GIG, gwasanaethau trosglwyddo cleifion rhwng cyfleusterau, gan gynnwys trosglwyddiadau lle mae amser yn hollbwysig ar gyfer triniaethau brys a seilwaith hollbwysig angenrheidiol, er enghraifft cymorth TG
- Ei gwneud hi’n ofynnol i ymddiriedolaethau ambiwlans ymateb i alwadau dan gategorïau cenedlaethol amser ymateb ambiwlans (er enghraifft yn Lloegr, bob un neu is-set o alwadau Categori 1, Categori 2, Categori 3 neu Gategori 4 a’r cyfwerth yng Nghymru a’r Alban - gweler Atodiad A am ddiffiniadau o’r categorïau, darparu gwasanaethau trosglwyddo cleifion y GIG, gwasanaethau trosglwyddo cleifion rhwng cyfleusterau, gan gynnwys trosglwyddiadau lle mae amser yn hollbwysig ar gyfer triniaethau brys a seilwaith hollbwysig angenrheidiol, er enghraifft cymorth TG
- Ei gwneud hi’n ofynnol i ganran o gapasiti’r gwasanaeth ymateb i alwadau 999, darparu gwasanaethau trosglwyddo cleifion y GIG, gwasanaethau trosglwyddo cleifion rhwng cyfleusterau, gan gynnwys trosglwyddiadau lle mae amser yn hollbwysig ar gyfer triniaethau brys a seilwaith hollbwysig angenrheidiol, er enghraifft cymorth TG
- Ei gwneud hi’n ofynnol i ganran o’r staff ymateb i alwadau 999, darparu gwasanaethau trosglwyddo cleifion y GIG, gwasanaethau trosglwyddo cleifion rhwng cyfleusterau, gan gynnwys trosglwyddiadau lle mae amser yn hollbwysig ar gyfer triniaethau brys a seilwaith hollbwysig angenrheidiol, er enghraifft cymorth TG
- Dim o’r uchod
- Arall
- Ddim yn gwybod neu byddai’n well gennyf beidio â dweud
Pe dymunech, eglurwch eich swydd a rhowch unrhyw dystiolaeth ategol. (Dim mwy na 500 gair)
Ar waith, pan mae lefelau gwasanaeth gofynnol wedi’u gosod mewn rheoliadau, bydd cyflogwyr yn gallu rhoi hysbysiad gwaith, ac mae’n rhaid i hwnnw nodi pwy fydd yn ofynnol iddynt weithio yn ystod streiciau a pha waith yr ymgymerir ag ef. Felly, mae’r hysbysiad gwaith yn fecanwaith lle all y cyflogwr gynllunio lefel gwasanaeth gofynnol yn ystod streiciau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y lefel gwasanaeth gofynnol sydd wedi’i gosod mewn rheoliadau, megis ambiwlansys yn ymateb i alwadau brys a bygythiadau i fywyd, ar waith yn ystod unrhyw streic.
Cwestiwn
Os wneir rheoliadau lefel gwasanaeth gofynnol, yn seiliedig ar y gofyniad i enwi staff mewn hysbysiadau gwaith, pa grwpiau staff y dylid eu cynnwys mewn lefel gwasanaeth gofynnol ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
- Staff canolfan gweithrediadau brys, gan gynnwys ymgymerwyr galwadau, clinigwyr, goruchwylwyr, staff anfon ambiwlans a chyfeirwyr
- Parafeddygon (yn cynnwys parafeddygon arbenigol, parafeddygon uwch, parafeddygon ymgynghorol)
- Criwiau ambiwlans
- Cynorthwywyr gofal brys
- Cynorthwywyr gofal ambiwlans
- Technegwyr meddygol brys
- Meddygon, clinigwyr eraill, rheolwyr sy’n gweithredu fel comanderiaid neu mewn rôl arweinyddiaeth a staff cymorth eraill
- Timau Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus
- Timau Ymateb Gweithrediadau Arbenigol
- Ddim yn gwybod neu byddai’n well gennyf beidio â dweud
- Dim o’r uchod
- Arall
Pe dymunech, eglurwch eich swydd a rhowch unrhyw dystiolaeth ategol. (Dim mwy na 500 gair)
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â gwasanaethau ambiwlans. Nid yw gwasanaethau iechyd eraill wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn. Gall y llywodraeth ymgynghori ar lefelau gwasanaeth gofynnol yn y dyfodol petai streiciau ar gyfer gwasanaethau iechyd eraill.
Cwestiwn
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylid cynnwys gwasanaethau iechyd eraill yn y rheoliadau lefelau gwasanaeth gofynnol?
- Cytuno’n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno’n gryf
Os ydych chi’n credu y dylid cynnwys gwasanaethau iechyd eraill, pa wasanaethau iechyd y dylai’r rhain fod? Eglurwch eich swydd a rhowch unrhyw dystiolaeth ategol. (Dim mwy na 500 gair)
Effaith a goblygiadau’r polisi
Cwestiwn
A oes grwpiau penodol o bobl, megis (ond yn cynnwys eraill) y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, a fyddai’n elwa yn arbennig o’r cynnig arfaethedig o lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau ambiwlans?
Gweler diffiniad o nodweddion gwarchodedig gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
- Oes
- Nac oes
- Ddim yn gwybod
Os ateboch ‘oes’, pa grwpiau penodol y gellir effeithio’n gadarnhaol arnynt a pham? (Dim mwy na 500 gair)
Cwestiwn
A oes grwpiau penodol o bobl, megis y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, yr effeithir yn negyddol arnynt yn sgil y cynnig arfaethedig o lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau ambiwlans?
Gweler diffiniad o nodweddion gwarchodedig gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
- Oes
- Nac oes
- Ddim yn gwybod
Os ateboch ‘oes’, pa grwpiau penodol y gellir effeithio’n negyddol arnynt a pham? (Dim mwy na 500 gair)
Asesiad effaith ar gydraddoldeb
Canlyniad bwriadedig
Rydym yn ymgynghori ar gwmpas a gweithredu’r lefelau gwasanaeth gofynnol yn y gwasanaeth iechyd, yn ystod streiciau. Yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Senedd, bydd y pŵer i osod y rhain ar lefel genedlaethol yn cael ei drafod fel rhan o’r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol), a roddwyd gerbron y Senedd fis Ionawr 2023.
Bydd y ddeddfwriaeth yn addasu’r fframwaith cyfreithiol mewn perthynas â gweithredu diwydiannol drwy roi pŵer i’r llywodraeth gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol yn y gwasanaeth iechyd yn ystod streic i sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael ei amddiffyn. Bydd y lefelau gwasanaeth gofynnol hyn yn taro’r cydbwysedd cywir o weithwyr a fydd yn streicio gan sicrhau hefyd bod y cyhoedd wedi’u hamddiffyn rhag lefel anghymesur o darfu.
Ffafriaeth gref y llywodraeth yw cytundebau gwirfoddol, megis y rheini a gytunwyd arnynt yn achos streiciau diweddar y GIG. Wedi dweud hynny, nid oes sicrwydd y bydd hyn yn digwydd yn y dyfodol. Byddai’r ddeddfwriaeth hon yn rhoi mwy o sicrwydd y bydd gwasanaethau hanfodol yn parhau i fynd rhagddynt hyd yn oed yn ystod streiciau.
Dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus
Wrth gyflwyno rheoliadau lefel gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau ambiwlans neu iechyd eraill, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol roi sylw dyledus i’r dyletswyddau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i:
- gael gwared ar wahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu oddi tani
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig berthnasol yn gyffredin a phobl nad oes ganddynt nodwedd warchodedig berthnasol yn gyffredin
- magu perthnasoedd da rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig berthnasol yn gyffredin a phobl nad oes ganddynt nodwedd warchodedig berthnasol yn gyffredin
Gweler yr ystyriaeth gychwynnol isod. Bydd angen rhagor o ystyriaeth yng ngoleuni tystiolaeth a gasglwyd fel rhan o’r ymgynghoriad hwn.
Data
Mae’r data ar gyfer yr ystyriaeth gychwynnol hon wedi’i dynnu o gyhoeddiad NHS Digital ym mis Medi 2022 yn canolbwyntio ar staff sy’n gweithio yn ymddiriedolaethau’r GIG a sefydliadau craidd yn Lloegr, gweler ystadegau gweithlu’r GIG - Medi 2022 (yn cynnwys ystadegau penodol dros dro ar gyfer mis Hydref 2022).
Mae ystyriaeth o ddata demograffig arall ar grwpiau wedi’u heffeithio wedi’i gynllunio i fod yn sail i asesiad wedi’i ddiweddaru a fydd yn cael ei wneud ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.
Rydym wedi adnabod bod y grwpiau canlynol o bobl yn fwyaf tebygol o gael eu heffeithio:
- y rheini sy’n gweithio i’r gwasanaethau ambiwlans
- aelodau’r cyhoedd a all fod angen defnyddio gwasanaethau’r ambiwlans
Effaith ar staff ambiwlans
Mae staff ambiwlans sydd wedi’u cymhwyso’n broffesiynol yn fwy tebygol o fod yn wrywod (54%) na staff heb fod yn feddygol yng ngwasanaethau iechyd eraill (20%). Felly, gall cyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol ar staff ambiwlans effeithio’n anghymesur ar y grwpiau hyn, gan eu bod yn fwy tebygol o fod mewn swydd lle allant fod yn ddarostyngedig i hysbysiad gwaith, ac felly mae eu gallu i gymryd rhan mewn streic ar ddiwrnod penodol wedi’i gyfyngu.
Effaith ar y cyhoedd
Ein rhagdybiaeth yw bod yr henoed a phobl anabl neu bobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn fwy tebygol o fod angen gofal gan y gwasanaethau iechyd. Gan mai bwriad rheoliadau lefelau gwasanaeth gofynnol yw helpu i sicrhau y gellir cynnal lefel gwasanaeth gofynnol petai streic, gallai’r polisi hwn gael effaith gadarnhaol ar y grwpiau hyn.
Trafodaeth
Mae ein hasesiad cychwynnol yn dynodi y byddai effaith rheoliadau lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau ambiwlans yn gymysg ac y byddai angen cydbwysedd rhwng effaith negyddol bosibl lefelau gwasanaeth gofynnol ar grwpiau penodol a manteision posibl lefelau gwasanaeth gofynnol ar eraill.
Mae angen i ni daro cydbwysedd rhesymol rhwng gallu gweithwyr i streicio a hawliau’r cyhoedd, sy’n gweithio’n galed ac yn disgwyl bod y gwasanaethau hanfodol maent yn talu amdanynt ar gael pan fyddant eu hangen. Mae’r cyhoedd a’r gweithwyr eu hunain yn disgwyl yn rhesymol i’r llywodraeth ymyrryd ac amddiffyn bywydau a bywoliaeth pobl, a dyma beth ydym ni’n ei wneud drwy sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau hyd yn oed pan mae gweithwyr yn defnyddio eu hawl i streicio.
Ffafriaeth gref y llywodraeth yw cytundebau gwirfoddol, megis y rheini a gytunwyd arnynt yn achos streiciau diweddar y GIG. Wedi dweud hynny, nid oes sicrwydd y bydd hyn yn digwydd yn y dyfodol. Byddai’r ddeddfwriaeth hon yn rhoi mwy o sicrwydd y bydd gwasanaethau hanfodol yn parhau i fynd rhagddynt hyd yn oed yn ystod streiciau.
Safbwynt cychwynnol yw hwn y byddwn yn ei addasu wrth i’r ymgynghoriad fynd rhagddo.
Atodiad A: disgrifiad o wasanaethau categorïau galwadau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
Lloegr
Categori | Disgrifiad |
---|---|
Categori 1 | Galwadau ambiwlans sydd fwyaf difrifol, wedi’u categoreiddio fel ‘bygythiad i fywyd’, gan gynnwys trawma difrifol, ataliad y galon ac ataliad resbiradol |
Categori 2 | Galwadau yn alwadau ‘argyfwng’, gan gynnwys achosion difrifol lle mae amser yn hollbwysig, fel strôc a thrawiad ar y galon |
Categori 3 | Galwadau ambiwlans yn ‘frys’, achosion nad ydynt yn achosi bygythiad uniongyrchol i fywyd ond sydd angen triniaeth i leddfu dioddefaint (rheoli poen, er enghraifft) a chludiant neu reolaeth yn y safle, megis cwympiadau |
Categori 4 | Galwadau nad ydynt yn rhai brys |
Yr Alban
Term brysbennu | Disgrifiad |
---|---|
Bygythiad uniongyrchol i fywyd | Cleifion y mae eu cyflwr o bosibl yn fygythiad i fywyd ac mae ymateb cyflym yn hollbwysig. Mae hyn yn cyfrif am lai na 10% o alwadau 999 a geir. Caiff y cleifion hyn ymateb gan barafeddygon medrus ac fel arfer cânt eu cludo i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys neu ofal arbenigol. Er enghraifft, claf mewn ataliad y galon |
Argyfwng a brys | Bydd rhai galwadau argyfwng a brys hefyd yn gofyn ymateb cyflym a chludiant i’r ysbyty, hynny yw, galwadau i Feddyg Teulu ac argyfyngau nad ydynt yn fygythiad i fywyd |
Clywed, trin ac atgyfeirio | Cleifion nad yw eu cyflwr yn ddigon drwg i fod angen ambiwlans i fynychu neu sy’n debygol o beidio â bod angen mynd i’r ysbyty. Gellir rhoi cyngor dros y ffôn i’r cleifion hyn gan barafeddyg, eu cyfeirio at NHS 24 am ragor o gyngor neu eu cyfeirio at wasanaeth arall, fel Meddyg Teulu. Er enghraifft, pobl sydd â symptomau ffliw |
Gweld, trin ac atgyfeirio | Cleifion y mae eu cyflwr yn gofyn asesiad wyneb yn wyneb gan barafeddyg medrus ond, yn nifer o achosion, gall y parafeddyg eu trin yn ddiogel ac yn effeithiol yn y safle heb fod angen mynd i’r ysbyty. Fel arall, gellir atgyfeirio’r cleifion hyn yn uniongyrchol at wasanaethau mwy priodol. Er enghraifft, unigolyn oedrannus sydd wedi cwympo ond nad ydyw wedi’i anafu y gellid ei atgyfeirio at dîm cymunedol arbenigol ac y gellid rheoli ei ofal gartref |
Rhag-gynllunio gofal | Cleifion sy’n byw gydag un neu fwy o gyflyrau hirdymor y gellir rheoli eu gofal yn rhagweithiol gartref, lle mae pecyn gofalu wedi’i roi ar waith i gefnogi cleifion i aros gartref. Gall Parafeddygon Arbenigol gynorthwyo i ddarparu’r pecyn gofal hwn gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Er enghraifft, claf yn byw gyda chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint sydd angen gofal brys oherwydd bod ei gyflwr wedi gwaethygu’n ddifrifol |
Gofal heb fod yn frys (gofal wedi’i drefnu) | Cleifion y mae gofyn eu derbyn i’r ysbyty neu eu rhyddhau oddi yno, neu eu trosglwyddo rhwng ysbytai am ragor o driniaeth a chleifion sy’n mynd i’r ysbyty am apwyntiad claf allanol wedi’i drefnu. Mae’r cleifion hyn angen cymorth clinigol neu symudedd o ryw fath ond mewn cyflwr sefydlog. Er enghraifft, claf wedi’i dderbyn ar gyfer llawdriniaeth ddewisol neu’n mynd i apwyntiad fel claf allanol, ac sydd angen cludiant mewn ambiwlans |
Cymru
Categori | Disgrifiad |
---|---|
Coch | Bygythiad uniongyrchol i fywyd (rhywun mewn perygl o farwolaeth, megis ataliad y galon) |
Oren | Difrifol ond heb fod yn fygythiad uniongyrchol i fywyd (cleifion sydd yn aml angen triniaeth yn y safle, ac angen mynd i’r ysbyty o bosibl) |
Gwyrdd | Heb fod yn frys (gellir ei reoli gan wasanaethau iechyd eraill yn aml) ac asesiad clinigol dros y ffôn |
Hysbysiad preifatrwydd
Crynodeb o’r fenter
Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AIGC) yn awyddus am safbwyntiau wrth basio Y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol), yn ddibynnol ar gymeradwyaeth gan y Senedd, ynghylch cyflwyno rheoliadau ar lefelau gwasanaeth gofynnol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i gefnogi lefelau gwasanaeth gofynnol yn y gwasanaeth iechyd yn ystod streiciau er mwyn amddiffyn diogelwch cleifion.
Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i ymgynghori ar weithredu lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau’r rheilffordd, ambiwlans a thân. Yn y maes iechyd, ein bwriad yw y byddai lefelau gwasanaeth gofynnol yn amddiffyn gallu gweithwyr i streicio ac amddiffyn diogelwch cleifion ar yr un pryd. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn gymorth i wneud penderfyniad ynglŷn â pha wasanaethau iechyd y dylid eu cynnwys yn y rheoliadau. Ein cynnig yw y dylai gwasanaethau ambiwlans fod wedi’u cynnwys yn y rheoliadau â blaenoriaeth. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn gymorth i wneud penderfyniad ynglŷn â pha wasanaethau iechyd y dylid eu cynnwys, a manylion y lefelau gwasanaeth gofynnol sydd eu hangen yn y gwasanaeth ambiwlans.
Y gynulleidfa darged yw:
- y cyhoedd
- undebau llafur
- cyflogwyr gwasanaeth ambiwlans y GIG
- cyflogwyr eraill y GIG a’r gwasanaeth iechyd
- sefydliadau cynrychiadol a chyrff cyhoeddus
- pob gweithiwr o fewn y gwasanaethau ambiwlans ac iechyd
Bydd y bil, os caiff ei gymeradwyo gan y Senedd, yn addasu Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 i:
-
orfodi amodau i ddiogelu undebau llafur rhag gweithredu cyfreithiol mewn perthynas â streiciau yn ymwneud â gwasanaethau lle mae darpariaeth ar gyfer lefelau gwasanaeth gofynnol. Bydd y gwasanaethau yn cael eu trefnu gan reoliadau, yn dilyn ymgynghoriad
-
gorfodi goblygiadau ar undebau llafur ac unigolion i gydymffurfio â lefelau gwasanaeth gofynnol a galluogi cyflogwyr mewn gwasanaethau penodol i gyhoeddi hysbysiadau gwaith i restru’r gweithlu gofynnol i sicrhau’r lefel gwasanaeth gofynnol ar ddiwrnod streic
Rheolydd data
Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw’r rheolydd data.
Pa ddata personol ydym ni’n ei gasglu
Mae’r data sydd i’w gasglu yn cynnwys oedran (ar ffurf categori), rhyw, rhywedd, cyfeiriad IP a lleoliad daearyddol.
Sut ydym yn defnyddio’ch data (dibenion)
Mae’r ymgynghoriad yn cadarnhau ym mha achosion gellir cysylltu â chi drwy eich cyfeiriad e-bost.
Mae prosesu data personol (fel gwybodaeth ddemograffig ynghylch ymatebwyr) yn hanfodol i sicrhau bod y llywodraeth yn cydymffurfio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ac yn magu dealltwriaeth am a ellir, a sut ellir, effeithio ar grwpiau penodol, megis y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, yn gadarnhaol neu’n negyddol gan y polisi.
Caiff ei ddefnyddio i gymharu sut all cefnogaeth neu wrthwynebiad i’r polisi, neu safbwyntiau ar ei gwmpas, wahaniaethu yn ôl nodweddion, ac mewn rhai achosion (megis oedran) yn debyg o gael eu heffeithio gan y polisi.
Sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu data personol
Dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, y sylfeini cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:
- Erthygl 9(i) amodau ar gyfer prosesu data categori arbennig (iechyd cyhoeddus)
- Erthygl 6(e) rydym ei angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus
Proseswyr data a derbynwyr data personol eraill
Nid ydym yn disgwyl y bydd y data yn cael ei rannu â thrydydd parti.
Trosglwyddo data yn rhyngwladol a lleoliadau storio
Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw yn systemau diogel yr AIGC yn y DU.
Polisi cadw a gwaredu
Rydym yn disgwyl cadw’r data am 12 mis er mwyn galluogi amser i ddadansoddi ymatebion. Yna, bydd y data yn cael ei ddinistrio neu ei waredu’n ddiogel.
Sut ydym yn cadw’ch data yn ddiogel
Bydd y wybodaeth yn cael ei storio ar weinyddion diogel yr AIGC.
Eich hawliau fel gwrthrych data
Drwy’r gyfraith, mae gan wrthrychau data nifer o hawliau ac nid yw’r gwaith prosesu hwn yn effeithio ar yr hawliau hyn dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yr UE (2016/679), nac yn eu lleihau ychwaith, ac mae Deddf Diogelu Data y DU 2018 yn berthnasol.
Mae’r hawliau fel a ganlyn:
- yr hawl i gael copïau o wybodaeth - mae gan unigolion yr hawl i ofyn am gopi o unrhyw wybodaeth yn eu cylch sy’n cael ei defnyddio
- yr hawl i gywiro gwybodaeth - mae gan unigolion yr hawl i ofyn am gywiro unrhyw wybodaeth yn eu cylch sy’n cael ei chadw a gredant sy’n anghywir
- yr hawl i gyfyngu sut caiff y wybodaeth ei defnyddio - mae gan unigolion yr hawl i ofyn am gyfyngu unrhyw wybodaeth yn eu cylch a gedwir, er enghraifft, os credant fod gwybodaeth anghywir yn cael ei defnyddio
- yr hawl i wrthwynebu’r wybodaeth a ddefnyddir - gall unigolion ofyn am roi’r gorau i ddefnyddio unrhyw wybodaeth yn eu cylch a gedwir. Wedi dweud hynny, nid hawl absoliwt mo hon, ac efallai y bydd angen parhau i ddefnyddio’r wybodaeth. Caiff unigolion eu hysbysu am hyn os mai dyma’r achos
- yr hawl i ddileu gwybodaeth - nid hawl absoliwt mo hon, ac efallai y bydd angen parhau i ddefnyddio’r wybodaeth. Caiff unigolion eu hysbysu am hyn os mai dyma’r achos
Sylwadau neu gwynion
Dylai unrhyw un sy’n anfodlon neu sydd eisiau cyflwyno cwyn ynghylch sut caiff data personol ei ddefnyddio fel rhan o’r rhaglen hon, gysylltu â data_protection@dhsc.gov.uk yn y lle cyntaf neu ysgrifennu at:
Data Protection Officer
1st Floor North
39 Victoria Street
London
SW1H 0EU
Gall unrhyw un sy’n parhau i fod yn anfodlon gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Dyma’r wefan: www.ico.org.uk a’r cyfeiriad yw:
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Gwneud penderfyniadau neu broffilio awtomatig
Ni wneir unrhyw benderfyniad ynghylch unigolion yn seiliedig ar broses gwneud penderfyniadau awtomatig yn unig (lle gwneir penderfyniad yn eu cylch gan ddefnyddio system electronig heb gyfraniad dynol) sy’n cael effaith sylweddol arnynt.
Newidiadau i’r polisi hwn
Caiff yr hysbysiad preifatrwydd hwn ei gadw dan adolygiad rheolaidd, a bydd fersiynau newydd ar gael ar dudalen ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan. Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn diwethaf ar 9 Chwefror 2023.