Summary of responses (Welsh version)
Updated 5 April 2022
Crynodeb gweithredol
Mae’r crynodeb gweithredol hwn yn rhoi crynodeb byr o’r ymatebion i’r Ymgynghoriad ar y Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion (PBS). Ceir crynodeb manylach ym mhrif gorff yr adroddiad. I gael manylion llawn a thablau’r ymgynghoriad hwn, gweler Adroddiad Technegol Ymgynghoriad y Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion, a baratowyd gan ddadansoddwyr yn Fera a Defra ac a gyhoeddir ochr yn ochr â’r crynodeb hwn. Gellir gweld testun llawn y ddogfen ymgynghori wreiddiol yn: Ymgynghoriad Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion Prydain Fawr.
Canlyniad 1: Trefn bioddiogelwch o’r radd flaenaf
Bernir yn eang fod gwybodaeth glir, hwylus a chryno oddi wrth y llywodraeth, gan gynnwys diweddariadau a rhybuddion pan welir bod plâu planhigion newydd yn risg uchel, yn hanfodol er mwyn cael trefn bioddiogelwch o’r radd flaenaf. Roedd y galw mwyaf am wybodaeth yn ymwneud â materion sy’n effeithio ar y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, megis plâu a chlefydau sy’n dod i’r amlwg, a’r mesurau sy’n cael eu cymryd yn eu herbyn. Nodir ‘Gov.uk’ fel y ffynhonnell wybodaeth fwyaf arwyddocaol o bell ffordd ar ofynion a chyfyngiadau mewnforio, ac wedyn y Porth Iechyd Planhigion.
Galwodd sawl ymateb penagored yn yr ymgynghoriad, yn enwedig gan aelodau o’r cyhoedd a Sefydliadau Anllywodraethol (NGOs) amgylcheddol, am gynnydd mewn mesurau gorfodol, megis cyfnodau cwarantin hirach neu wahardd mewnforio planhigion penodol, a chosbau llymach i’r rhai sy’n torri’r mesurau hyn. Er hynny, cyfeiriodd eraill hefyd at faich cydymffurfio a’r effaith y gallai hyn ei chael ar gystadleurwydd, ar gyfer busnesau domestig mwy, mentrau bach a chanolig (SMEs) a mentrau a arweinir gan wirfoddolwyr.
Roedd y mwyafrif llethol o’r ymatebwyr yn y fasnach o’r farn bod ganddyn nhw ddigon o wybodaeth i fasnachu’n gyfrifol ac yn unol â’r rheoliadau, er bod rhai ymatebwyr yn tynnu sylw at fylchau mewn hyfforddiant a bylchau o ran cyfleu gofynion yn glir.
Canlyniad 2: Cymdeithas sy’n gwerthfawrogi planhigion iach
Roedd bron pob ymatebydd o’r farn bod annog y gymdeithas i chwarae rhan fwy gweithredol mewn iechyd planhigion yn allweddol ar gyfer gwella safonau bioddiogelwch planhigion. Tynnodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr sylw at fanteision cynyddu ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad y cyhoedd, o ran lleihau digwyddiadau unigol gydag effeithiau ar gyfer bioddiogelwch planhigion, yn ogystal â siapio arferion prynu defnyddwyr ac agweddau ehangach y rhanddeiliaid.
Yn gyffredinol, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn ffafrio mesurau i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, megis gwell adnoddau dysgu a negeseuon wedi’u targedu (er enghraifft ar ffin y Deyrnas Unedig, neu wrth brynu planhigion).
Pan ofynnwyd sut y gall y llywodraeth wella cyfraniadau cadarnhaol gwyddoniaeth dinasyddion at iechyd planhigion, dywedodd 47 y cant y dylid hwyluso cyfranogiad ehangach gan y cyhoedd. Dywedodd 42 y cant o’r ymatebwyr mai hyfforddiant anffurfiol, gan gynnwys gweminarau ar fioddiogelwch a phatholeg planhigion, a gâi’r effaith fwyaf ar feithrin gwybodaeth am fioddiogelwch planhigion.
Canlyniad 3: Cadwyn cyflenwi planhigion bioddiogel
Dim ond grŵp bach o ymatebwyr o’r sector masnach a oedd yn gymwys i ymuno â chynllun sicrwydd a ddywedodd eu bod yn aelodau o gynllun. I’r cyflenwyr, y ffactorau mwyaf o bell ffordd wrth ddewis ymgysylltu â chynlluniau sicrwydd oedd enw da brand a’r gallu i ddangos ymrwymiadau amgylcheddol. Nid oedd y gallu i godi premiwm yn bwysig iawn i’r ymatebwyr.
Rôl cynhyrchu domestig o ran gwella bioddiogelwch Prydain Fawr oedd un o’r materion a godwyd amlaf yn yr ymgynghoriad. Awgrymwyd ystod eang o ddulliau gweithredu, gyda rhai’n dadlau o blaid diddymu mewnforion yn llwyr yn raddol. Pwysleisiodd eraill fod natur fyd-eang y systemau presennol yn golygu y gallai ffocws ar gynhyrchu domestig fod yn rhy gul i gyflawni’r nodau bioddiogelwch a nodwyd. Cystadleuaeth gan gyflenwyr tramor oedd y rhwystr mwyaf arwyddocaol a nodwyd, ac wedyn dibynadwyedd argaeledd llafur.
Canlyniad 4: Gallu technegol gwell
Dangosodd y blaenoriaethau ar gyfer ariannu ymchwil y byddai’n well cael ymchwil hirdymor strategol yn hytrach na dulliau adweithiol, gyda’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn dweud y dylai 50-70 y cant o’r buddsoddiad fod mewn ymchwil hirdymor strategol.
Nodir archwiliadau, diagnosteg a gwyliadwriaeth fel y maes buddsoddi mewn ymchwil a datblygu sydd o’r pwys cyffredinol mwyaf ymhlith yr ymatebwyr. Dilynir hyn gan asesu risgiau a sganio’r gorwel.
O ran yr hyn y gellir ei ddysgu o sectorau eraill, roedd y sectorau y cyfeiriwyd atynt yn cynnwys iechyd y cyhoedd ac epidemioleg, iechyd anifeiliaid, modelu tywydd a chyfathrebu. O ran technolegau newydd a allai helpu ymchwil a datblygu, nodwyd mai cost oedd y rhwystr mwyaf.
Mesurau Bioddiogelwch Ychwanegol ar gyfer Coed Risg Uchel (Atodiad A)
Wrth roi eu sgôr ar gyfer ymwybyddiaeth o’r mesurau presennol ar gyfer coed risg uchel a boddhad â’u heffeithlonrwydd, roedd yr ymatebwyr wedi’u rhannu’n weddol deg. Roedd llawer a ymatebodd yn dadlau bod terfynau’r mesurau presennol yn amlwg, boed hynny oherwydd eu bod yn annigonol neu oherwydd ymlyniad gwael, er bod yna eithriadau. Y pryderon mwyaf a nodwyd gan yr ymatebwyr ynghylch mewnforio coed risg uchel oedd cadernid y gwaith archwilio ar y ffin ac yn y gwledydd sy’n allforio.
O’r mesurau arfaethedig a oedd yn cael eu rhoi ar waith cyn cyrraedd y ffin, nodwyd yn gyffredinol mai gwahardd mynediad i blanhigion penodol oedd yr ymateb mwyaf effeithiol, a oedd yn cael ei ffafrio’n arbennig gan dirfeddianwyr ac aelodau o’r fasnach. Wrth y ffin, tynhau’r cyfyngiadau ar goed mwy â phridd oedd y mesur y bernid ei fod yn fwyaf effeithiol yn gyffredinol, ac wedyn cynnydd yn y drefn archwilio.
Rhagymadrodd
Sylwch: Mae’r ddogfen hon yn rhoi crynodeb lefel uchel o’r canfyddiadau allweddol, ynghyd â chanlyniadau cwestiynau allweddol, o’r dadansoddiad o’r Ymgynghoriad ar y Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion. Cyhoeddir yr adroddiad llawn ar y dystiolaeth dechnegol, a luniwyd gan ddadansoddwyr yn Fera a Defra, ochr yn ochr â’r ddogfen hon, ac mae’n cynnwys y graffiau a’r dadansoddiad o’r holl gwestiynau a gynhwyswyd yn yr ymgynghoriad.
Lansiwyd yr ymgynghoriad hwn gan Defra, y Comisiwn Coedwigaeth, llywodraethau Cymru a’r Alban, a’n hasiantaethau a’n partneriaid cyflawni, i lywio dull Prydain Fawr o ymdrin â bioddiogelwch planhigion dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y dull newydd yn adeiladu ar y Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion flaenorol ar gyfer Prydain Fawr a gyhoeddwyd yn 2014[footnote 1]. Bydd ein[footnote 2] hymagwedd ddiwygiedig at fioddiogelwch yn cael ei datblygu mewn cydweithrediad â’n partneriaid drwy fforymau sefydledig, ac ar sail barn y cyhoedd drwy’r ymgynghoriad hwn.
Cyhoeddir Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion newydd Prydain Fawr yn nes ymlaen eleni a bydd yn gosod gweledigaeth newydd ar gyfer bioddiogelwch planhigion rhwng 2022 a 2027. Gan gydnabod nad yw plâu a phathogenau yn parchu ffiniau cenedlaethol, mae ein tair gwlad wedi cytuno i barhau i gyd-fynd â’n gweledigaeth bioddiogelwch gyffredin a gweithredu gyda’n gilydd. Caiff y gwaith o gyflawni’r strategaeth ei gydgysylltu ledled Prydain Fawr drwy’r Fframwaith Cyffredin Iechyd Planhigion. Mae’r Fframwaith hwn yn nodi ymrwymiad i barhau i gydweithio er mwyn sefydlu dull gweithredu cyffredin, lle mae cymhwysedd datganoledig yn cyd-fynd â phwerau sydd wedi’u dychwelyd o’r UE (Yr Undeb Ewropeaidd)[footnote 3]. Mae rhychwant yr ymgynghoriad hwn wedi’i gyfyngu i fioddiogelwch planhigion a chynhyrchion planhigion (gan gynnwys ymysg pethau eraill coed, llysiau, hadau, ffrwythau yn yr ystyr botanegol, deunydd pecynnu pren, blodau wedi’u torri, etc)[footnote 4]. Mae’n bwysig nodi bod y llywodraeth wedi amlinellu dull newydd o ymdrin â threfniadau mewn perthynas â Gogledd Iwerddon yn y Papur Gorchymyn ‘Northern Ireland Protocol: the way forward’, a gyhoeddwyd ar 21 Gorffennaf 2021.
Lansiwyd yr ymgynghoriad hwn ar 21 Medi 2021 ac roedd ar agor am ddeg wythnos tan 30 Tachwedd 2021. Ategwyd yr ymgynghoriad gan ddogfen ymgynghori ac atodiad technegol. Gwahoddodd yr ymgynghoriad ymatebion i 33 o gwestiynau, a 6 chwestiwn pellach fel rhan o ymgynghoriad technegol ar wahân ar fesurau bioddiogelwch ychwanegol ar gyfer coed risg uchel.
Cynigiodd y ddogfen ymgynghori y weledigaeth a ganlyn i gryfhau ymagwedd Prydain Fawr at fioddiogelwch planhigion: ‘Diogelu planhigion Prydain drwy bartneriaeth gadarn rhwng y Llywodraeth, diwydiant a’r cyhoedd, gyda’r nod o leihau a rheoli’r risgiau a achosir gan blâu a phathogenau planhigion a hwyluso masnach ddiogel’. Rhannwyd y cwestiynau yn y prif ymgynghoriad o dan y pedwar ‘canlyniad’ a ganlyn a fydd yn helpu i gyflawni’r weledigaeth ar gyfer y Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion, ac sy’n nodi cyfres o gamau gweithredu i ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol:
Canlyniad 1: Trefn bioddiogelwch o’r radd flaenaf
Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i deilwra a chryfhau ein hymateb i atal a rheoli plâu a phathogenau sy’n fygythiad i iechyd planhigion Prydain rhag cael eu cyflwyno a’u lledaenu.
Canlyniad 2: Cymdeithas sy’n gwerthfawrogi planhigion iach
Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd planhigion a choed iach ac annog pobl i fabwysiadu ymddygiad cyfrifol ar draws cymdeithas.
Canlyniad 3: Cadwyn gyflenwi planhigion bioddiogel
Y Llywodraeth a diwydiant yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi cadwyn gyflenwi planhigion bioddiogel.
Canlyniad 4: Gallu technegol well
Meithrin galluogrwydd ar sail iechyd planhigion a defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg arloesol a datblygol i ddal i fyny â bygythiadau sy’n newid a sicrhau ein bod yn barod ar gyfer y dyfodol.
Coed risg uchel
Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad ar y strategaeth gyffredinol, lansiwyd ymgynghoriad technegol manylach ar fesurau bioddiogelwch ychwanegol ar gyfer rhywogaethau coed sy’n peri risg benodol o gyflwyno plâu drwy fewnforion. Edrychodd yr ymgynghoriad technegol hwn (Atodiad A) ar risgiau bioddiogelwch penodol sy’n gysylltiedig â mewnforio coed ac a ddylid cyflwyno mesurau pellach yn y dyfodol i gryfhau’n cyfundrefn bioddiogelwch.
Yr ymatebwyr
Cafwyd cyfanswm o 1,192 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Roedd hyn yn cynnwys 139 o ymatebion i’r holiadur ymgynghori ar Citizen Space, 6 ymateb ebost unigol, a 1,047 o ymatebion drwy ymgyrch ysgrifennu llythyrau. Mae’r adrannau a ganlyn yn rhoi rhagor o fanylion am y dadansoddiad o’r ymatebion a’r ymatebwyr.
Ymatebion i’r holiadur ymgynghori
Gwahoddwyd rhanddeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd i ymateb i 39 o gwestiynau a ofynnwyd yn y ddogfen ymgynghori (gan gynnwys yr atodiad technegol) – roedd y rhain yn cynnwys cymysgedd o gwestiynau caeedig (meintiol) a phenagored (ansoddol).
Cafwyd cyfanswm o 145 o ymatebion i’r holiadur ymgynghori, naill ai’n uniongyrchol drwy’r porth ar-lein (Citizen Space) neu ar wahân drwy’r ebost/ar bapur. Cafwyd cyfanswm o 144 o ymatebwyr y gellid tynnu data meintiol ystyrlon ohonynt naill ai o borth yr arolwg neu o ddogfennau a ddarparwyd mewn fformatau amgen.
Ffigur 1. Dadansoddiad o’r ymatebion i’r holiadur ymgynghori fesul sianel
Sianel | Ymatebion a gafwyd |
---|---|
Citizen Space | 139 |
Ebost | 6 |
Cyfanswm | 145 |
Yn yr holiadur, gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa gategori o ymatebwyr oedd yn eu cynrychioli orau, yn eu barn nhw. Rydym wedi defnyddio’r mathau ymatebwyr hyn drwy’r adroddiad hwn i gyd, gan gynnwys wrth briodoli dyfyniadau ac mae’n bwysig nodi mai’r ymatebwyr sydd wedi dweud eu bod yn perthyn i bob un o’r categorïau hyn, ac nad oes gwaith gwirio wedi’i wneud.
Ffigur 2. Dadansoddiad o’r ymatebion i’r holiadur yn ôl y math o ymatebydd
Math o ymatebydd | Nifer yr ymatebwyr | Cyfran o’r sampl feintiol gyffredinol |
---|---|---|
Aelod o’r cyhoedd | 48 | 33 y cant |
Tirfeddiannwr neu reolwr tir | 6 | 4 y cant |
Coedwigwr | 3 | 2 y cant |
Coedyddwr neu weithiwr coed proffesiynol arall | 7 | 5 y cant |
Ffermwr | 0 | 0 y cant |
Busnes sy’n tyfu ac yn gwerthu planhigion neu gynhyrchion planhigion i’w masnachu | 10 | 7 y cant |
Busnes sy’n tyfu ac yn gwerthu planhigion neu gynhyrchion planhigion i’r cyhoedd | 7 | 5 y cant |
Busnes sy’n gwerthu neu’n masnachu planhigion ar-lein yn unig, heb unrhyw fangre ffisegol | 3 | 2 y cant |
Aelod o’r sector tirlunio | 3 | 2 y cant |
Aelod o’r sector addysg | 4 | 3 y cant |
Ymwneud ag ymchwil neu wyddor iechyd planhigion | 19 | 13 y cant |
Llywodraeth leol | 4 | 3 y cant |
Corff anllywodraethol amgylcheddol | 13 | 9 y cant |
Corff proffesiynol | 17 | 12 y cant |
Yn yr holiadur, gofynnwyd hefyd i’r ymatebwyr nodi’r rhanbarth daearyddol yr oeddent yn dod ohono. Roedd y mwyafrif llethol o’r ymatebwyr yn rhestru eu hunain fel rhai a oedd yn dod o Loegr, gyda lleiafrif o bob un o’r gwledydd cartref eraill gan gynnwys un ymatebydd o Ogledd Iwerddon. O’r ymatebwyr hynny a restrodd eu hunain fel ‘Arall’, roedd y mwyafrif (9 allan o 10) yn cynrychioli sefydliadau sy’n rhychwantu’r Deyrnas Unedig gyfan.
Ffigur 3. Dadansoddiad o’r ymatebion i’r holiadur yn ôl rhanbarth daearyddol
Rhanbarth daearyddol | Nifer yr ymatebwyr | Cyfran o’r sampl feintiol gyffredinol |
---|---|---|
Lloegr | 111 | 77 y cant |
Yr Alban | 13 | 9 y cant |
Cymru | 9 | 6 y cant |
Gogledd Iwerddon | 1 | <1 y cant |
Arall | 10 | 7 y cant |
Ymatebion ychwanegol i’r ymgynghoriad
Ar ben yr ymatebion a gyflwynwyd ar Citizen Space, darparodd 6 sefydliad ymatebion i’r ymgynghoriad ar wahân drwy’r ebost.
Ymgyrch ysgrifennu llythyrau
Cafwyd 1,047 o ymatebion i’r ymgynghoriad hefyd fel rhan o ymgyrch ysgrifennu llythyrau gan Coed Cadw, a anogodd eu haelodau i ymateb gan ddefnyddio geiriad a awgrymwyd drwy borth ar eu gwefan. Ceir rhagor o fanylion am yr ymgyrch isod, ac mae’r ymateb wedi’i ddadansoddi ar wahân i weddill yr ymatebion i’r ymgynghoriad.
Crynodeb o’r ymatebion
C8: Pa un o’r materion canlynol ydych chi’n meddwl sy’n peri’r risg fwyaf i iechyd planhigion?
Y risg dybiedig fwyaf i iechyd planhigion yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol oedd symud deunydd wrth fasnachu, a restrwyd gan dros ddwy ran o dair o’r sampl fel un o’u dau bryder mwyaf. Newid yn yr hinsawdd oedd yr ail risg fwyaf ar hyn o bryd yn gyffredinol, gyda’r nodweddion eraill yn cynnwys diffyg cymhellion, mewnforio deunydd yn bersonol, ymwybyddiaeth wael o risgiau a diffyg gwybodaeth am arferion, a gafodd tua’r un lefelau o gydnabyddiaeth. Roedd ymwybyddiaeth a gwybodaeth am arferion ar gyfartaledd ychydig yn uwch eu sgôr na diffyg cymhellion, a oedd yn ei dro yn uwch na mewnforion personol, ond mae effaith hyn yn fach iawn ac o ganlyniad nid yw’n cael ei ystyried yn fanwl yma.
Canlyniad 1: Trefn bioddiogelwch o’r radd flaenaf
Crynodeb o’r prif themâu
Mesurau gorfodol
Cafwyd sawl galwad am gynnydd mewn mesurau gorfodol, megis cyfnodau cwarantin hirach neu wahardd mewnforion penodol, yn ogystal â chosbau llymach (yn enwedig o du aelodau o’r cyhoedd a chyrff anllywodraethol amgylcheddol). Er hynny, cyfeiriodd ymatebwyr eraill hefyd at faich cydymffurfio a’r effaith y gallai hyn ei chael ar gystadleurwydd, dramor ac ar gyfer y busnesau domestig mwyaf, ac at heriau penodol i fentrau bach a chanolig a mentrau a arweinir gan wirfoddolwyr.
Teimlai llawer o’r ymatebwyr na fyddai eu trefniadau bioddiogelwch dewisol nhw, yn enwedig o ran archwilio a gorfodi, yn bosibl gyda maint presennol yr arolygiaeth iechyd planhigion.
Ffynonellau gwybodaeth am blâu a chlefydau planhigion
Pwysleisiodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yr angen am wybodaeth glir, hwylus a chryno gan y llywodraeth, gan gynnwys diweddariadau a rhybuddion pan welir bod plâu newydd yn risg uchel. Roedd y galw mwyaf am wybodaeth yn ymwneud â materion sy’n effeithio ar y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, megis plâu a chlefydau sy’n dod i’r amlwg, a’r mesurau sy’n cael eu cymryd yn eu herbyn. Roedd hyn yn gyson ar draws y rhan fwyaf o fathau o ymatebwyr, er bod ymatebwyr yn y fasnach hefyd yn blaenoriaethu’r angen am fwy o wybodaeth gefndir yn ymwneud â chyflwyno mesurau, yn ogystal â chanllawiau a gwybodaeth yn ymwneud ag arferion da (cafodd yr olaf flaenoriaeth hefyd gan y tirfeddianwyr).
Pan ofynnwyd iddynt ddweud ble y byddent yn chwilio am wybodaeth am ofynion mewnforio a chyfyngiadau ar fewnforio planhigion yn bersonol, nodir mai ‘Gov.uk’ yw’r ffynhonnell wybodaeth fwyaf arwyddocaol o bell ffordd, ac wedyn y Porth Iechyd Planhigion.
Stoc fioddiogel
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr mewn masnach o’r farn bod ganddyn nhw ddigon o wybodaeth i fasnachu’n gyfrifol ac yn unol â’r rheoliadau, er bod rhai’n tynnu sylw at fylchau mewn hyfforddiant a bylchau o ran cyfleu gofynion.
Pan ofynnwyd iddynt am eu pryderon ynghylch dewis cyflenwyr bioddiogel, tynnodd llawer o’r ymatebwyr sylw at hygyrchedd cymharol gwybodaeth gan ofyn am ehangu cynlluniau achredu neu farcwyr swyddogol eraill yn dryloyw i gefnogi nodau bioddiogelwch (yn enwedig o ran adnabod ac olrhain stoc a fewnforiwyd).
Canlyniad 2: Cymdeithas sy’n gwerthfawrogi planhigion iach
Crynodeb o’r prif themâu
Rôl y gymdeithas
Cafwyd cefnogaeth unfrydol, bron, i’r bwriad i annog y gymdeithas i chwarae rhan fwy gweithredol mewn iechyd planhigion. Tynnodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr sylw at fanteision cynyddu ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad y cyhoedd, o ran lleihau digwyddiadau unigol gydag effeithiau ar gyfer bioddiogelwch, ond hefyd wrth siapio arferion prynu defnyddwyr ac agweddau ehangach y rhanddeiliaid. I hwyluso hyn, pwysleisiwyd datblygu atebion amlweddog dro ar ôl tro yn yr ymatebion. Er enghraifft, roedd llawer o’r ymatebwyr o’r farn bod defnyddio dull cymysg o ymdrin â’r holl bwyntiau negeseua arfaethedig yn bwysig, er bod 44 y cant o’r ymatebwyr yn dweud mai wrth i bobl brynu planhigion y byddai negeseuon ar ddiogelu iechyd planhigion yn fwyaf effeithiol.
Gwyddoniaeth Dinasyddion
Pan ofynnwyd sut y gallwn ni wella cyfraniad cadarnhaol gwyddoniaeth dinasyddion at iechyd planhigion, dywedodd 47 y cant o’r ymatebwyr y dylid hwyluso cyfranogiad ehangach gan y cyhoedd, ac yna dywedodd 20 y cant y dylid defnyddio data i gefnogi gweithredu ar lawr gwlad. Roedd aelodau o’r cyhoedd yn hoffi’r syniad o wyddoniaeth dinasyddion fel arf ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd.
Targedu negeseuon
Yn gyffredinol, roedd awydd am welliannau cyffredinol mewn negeseuon cyhoeddus ynghylch prynu neu fewnforio deunydd risg uchel. Pan ofynnwyd beth fyddai’r neges fwyaf effeithiol ar gyfer ymgyrch hyrwyddo, dywedodd 45 y cant o’r ymatebwyr ymgyrchoedd yn codi ymwybyddiaeth o’r bygythiadau i iechyd planhigion, a dywedodd 33 y cant ymgyrchoedd ynghylch ymddygiad a allai fod yn beryglus.
Canlyniad 3: Cadwyn cyflenwi planhigion bioddiogel
Nodyn cyffredinol
Nododd yr adborth ar yr adran hon fod y cwestiynau a ofynnwyd yn tueddu i ganolbwyntio ar safbwynt y fasnach, gan arwain at lawer o ymatebion anghymwys neu wag yn ogystal ag awydd ymysg rhai o’r ymatebwyr i gael yr opsiwn o hepgor yr adran hon.
Crynodeb o’r prif themâu
Cynlluniau sicrwydd
Dim ond grŵp bach o ymatebwyr o’r sector masnach a oedd yn gymwys i ymuno â chynllun sicrwydd a ddywedodd eu bod yn aelodau o gynllun. I’r cyflenwyr, y ffactorau mwyaf o bell ffordd wrth ddewis ymgysylltu â chynlluniau sicrwydd oedd enw da brand a’r gallu i ddangos ymrwymiadau amgylcheddol. Ar y llaw arall, prin roedd y gallu i godi premiwm yn ystyriaeth i’r ymatebwyr.
Cynhyrchu domestig
Rôl cynhyrchu domestig o ran gwella bioddiogelwch y Deyrnas Unedig oedd un o’r materion a godwyd amlaf yn yr ymgynghoriad. Awgrymwyd ystod eang o ddulliau gweithredu, gyda rhai’n dadlau o blaid diddymu mewnforion yn llwyr yn raddol. Pwysleisiodd eraill fod natur fyd-eang y systemau presennol yn golygu y gallai ffocws ar gynhyrchu domestig fod yn rhy gul i gyflawni’r nodau bioddiogelwch a nodwyd.
Cystadleuaeth gan gyflenwyr tramor oedd y rhwystr mwyaf arwyddocaol a nodwyd, ac wedyn dibynadwyedd argaeledd llafur. Cyfeiriwyd yn aml at themâu megis ansicrwydd parhaus ynghylch y galw yn y dyfodol a baich risg newidiadau posibl yn y rheolau ynglŷn â mewnforion fel ffactorau arwyddocaol wrth gyfyngu ar fuddsoddiad yn y sector (yn enwedig lle mae costau ymlaen llaw yn parhau’n uchel a lle mae argaeledd staff wedi’u hyfforddi yn gyfyngedig).
O ran ffyrdd i fynd i’r afael â’r prif rwystrau sy’n atal cynhyrchu domestig, yr opsiwn mwyaf poblogaidd oedd gweithgareddau hyrwyddo i gynyddu’r galw am gynhyrchion a gynhyrchir gartref, ac wedyn gwella argaeledd llafur ac ymchwil i gynyddu cynhyrchu domestig.
Canlyniad 4: Gallu technegol gwell
Crynodeb o’r prif themâu
Dangosodd y blaenoriaethau ar gyfer ariannu ymchwil y byddai’n well cael ymchwil hirdymor strategol yn hytrach na dulliau adweithiol, gyda’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn dweud y dylai 50-70 y cant o’r buddsoddiad fod mewn ymchwil hirdymor strategol.
Nodir archwiliadau, diagnosteg a gwyliadwriaeth fel y maes buddsoddi mewn ymchwil a datblygu sydd o’r pwys cyffredinol mwyaf ymhlith yr ymatebwyr. Dilynir hyn gan asesu risgiau a sganio’r gorwel.
O ran yr hyn y gellir ei ddysgu o sectorau eraill, roedd y sectorau y cyfeiriwyd atynt yn cynnwys iechyd y cyhoedd ac epidemioleg, iechyd anifeiliaid, modelu tywydd a chyfathrebu. O ran technolegau newydd a allai helpu ymchwil a datblygu, nodwyd mai cost oedd y rhwystr mwyaf. Yn ychwanegol, awgrymwyd amrywiaeth mawr o bartneriaid cydweithredol, gan gynnwys prifysgolion a sefydliadau ymchwil, meithrinfeydd a phartneriaid yn y diwydiant, gwledydd tramor sydd â pholisïau bioddiogelwch effeithiol, a grwpiau lleol a gwirfoddol, megis rhwydweithiau gwyddoniaeth dinasyddion.
Awgrymodd llawer o’r ymatebwyr gwestiynau ymchwil penodol hefyd, sydd wedi’u categoreiddio ac wedi’u rhestru yn yr adroddiad technegol cysylltiedig. Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys:
- Effaith colli bioamrywiaeth
- Modelu bygythiadau sy’n dod i’r amlwg a rhagfynegi effeithiau
- Strategaethau gwrthsefyll naturiol a strategaethau adnewyddu
- Mynediad at wybodaeth a chefnogaeth
Mesurau bioddiogelwch ychwanegol ar gyfer coed risg uchel (Atodiad i’r ymgynghoriad)
Crynodeb o’r prif themâu
Mesurau presennol
Wrth roi eu sgôr ar gyfer ymwybyddiaeth o’r mesurau presennol a boddhad â’u heffeithlonrwydd, roedd yr ymatebwyr wedi’u rhannu’n weddol deg. Roedd llawer a ymatebodd yn dadlau bod terfynau’r mesurau presennol yn amlwg, boed hynny oherwydd eu bod yn annigonol neu oherwydd ymlyniad gwael, er bod yna eithriadau.
Y pryderon mwyaf a nodwyd gan yr ymatebwyr ynghylch mewnforio coed risg uchel oedd cadernid y gwaith archwilio ar y ffin ac yn y gwledydd sy’n allforio. Tueddai aelodau o’r cyhoedd (ac NGOs amgylcheddol), i ganolbwyntio fwy ar ganlyniadau posibl mewnforion a oedd yn wynebu risg (h.y. sefydlu plâu newydd yn y dirwedd), tra oedd aelodau o’r fasnach yn aml yn canolbwyntio fwy ar ymarferoldeb a materion sy’n ymwneud â gweithredu’r system bresennol.
Mesurau arfaethedig
O’r mesurau arfaethedig a fyddai’n cael eu rhoi ar waith cyn cyrraedd y ffin, nodwyd yn gyffredinol mai gwahardd mynediad i blanhigion penodol oedd yr ymateb mwyaf effeithiol, a oedd yn cael ei ffafrio’n arbennig gan dirfeddianwyr ac aelodau o’r fasnach. Wrth y ffin, tynhau’r cyfyngiadau ar goed mwy â phridd oedd y mesur y bernid ei fod yn fwyaf effeithiol yn gyffredinol, ac wedyn cynnydd yn y drefn archwilio.
Yn gyffredinol, mesurau mewndirol a gafodd y sgoriau isaf ar gyfer effeithiolrwydd o’u hystyried ar draws y sampl. Cwarantin absoliwt a welwyd fel y mesur mwyaf effeithiol (yn enwedig gan dirfeddianwyr a’r sector ymchwil), ond hefyd fel yr un â’r dichonoldeb isaf o ran ei roi ar waith.
Ymgyrch ysgrifennu llythyrau
Yn ystod cyfnod ymgynghori’r Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion (PBS) cafodd Defra ymatebion a oedd yn gysylltiedig ag ymgyrch ysgrifennu llythyrau gan y corff anllywodraethol amgylcheddol, Coed Cadw. Anogodd Coed Cadw eu haelodau a’u cefnogwyr i gyflwyno ymatebion drwy borth Coed Cadw a drosglwyddodd y negeseuon ebost hyn wedyn i flwch post ymgynghoriad y PBS.
Cafodd Defra 1,047 o negeseuon ebost yn gysylltiedig â’r ymgyrch. Cafodd yr Aelodau a gyflwynodd negeseuon ebost dempledi ac awgrym ar gyfer geiriad. Roedd y negeseuon ebost a ddaeth i flwch post ymgynghoriad y PBS yn gysylltiedig ag ymgyrch Coed Cadw i gyd wedi’u geirio’n union yr un fath. Roedd yr ymatebion yn canolbwyntio ar nifer o bryderon allweddol mewn perthynas â diogelu coed rhag bygythiadau a achosir gan blâu a chlefydau newydd.
1. Mewnforio coed a phlanhigion newydd
Dadleuai’r ymatebwyr fod y Deyrnas Unedig yn rhy ddibynnol ar fewnforio coed a phlanhigion awyr agored, a bod rhaid lleihau’r ddibyniaeth hon. Dadleuwyd mai mewnforion masnach sy’n peri’r risg fwyaf i iechyd coed, o’i gymharu â materion eraill. Er mwyn lleihau’r risg y bydd plâu neu glefydau newydd yn cyrraedd y Deyrnas Unedig, a lleihau’r ddibyniaeth ar fewnforio coed, dadleuai’r ymatebwyr fod rhaid i’r strategaeth bioddiogelwch gefnogi meithrinfeydd coed y Deyrnas Unedig a chynhyrchu domestig yn y Deyrnas Unedig. Roedd y llythyrau hefyd yn annog y llywodraeth i weithredu proses lle nodir rhywogaethau lletyol risg uchel newydd cyn gynted â phosibl ac yna eu rhoi mewn cwarantin neu eu gwahardd yn gyfan gwbl. Pan fernir bod y rhywogaeth yn beryglus o’i mewnforio, a’i bod yn cael ei rhoi o dan fesurau cwarantin gorfodol, dywedodd yr ymatebion fod rhaid i’r cyfnod cwarantin hwn ganiatáu digon o amser i symptomau’r clefyd ddatblygu a chael eu hadnabod.
2. Buddsoddi yn sector methrinfeydd y Deyrnas Unedig
Dadleuai’r ymatebwyr fod mwy o fuddsoddiad yn sector meithrinfeydd y Deyrnas Unedig yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â lleihau mewnforion coed. Dadleuai’r ymatebwyr mai’r prif rwystrau i dyfu mwy o goed yn y Deyrnas Unedig yw cystadleuaeth o dramor, a’r diffyg cyllid a ddarperir yn y Deyrnas Unedig, a bod rhaid i’r llywodraeth ddarparu cymorth uniongyrchol drwy grantiau i feithrinfeydd y Deyrnas Unedig. Er mwyn rhoi hwb i argaeledd coed sy’n dod o’r Deyrnas Unedig ac yn cael eu tyfu yn y Deyrnas Unedig, maent yn awgrymu y gellid codi arian ar gyfer y grantiau hyn drwy dariffau ar fewnforion risg uchel. Maen nhw’n dadlau y dylai’r llywodraeth hefyd ddarparu cynnydd yn y cymorth grant ar gyfer cynlluniau plannu coed lle defnyddir coed sydd wedi’u prynu ac wedi’u tyfu yn y Deyrnas Unedig.
3. Ymwybyddiaeth a gwybodaeth gyhoeddus
Roedd yr ymatebwyr yn cefnogi’r angen i’r gymdeithas chwarae rhan fwy gweithredol yn y gwaith o ddiogelu iechyd planhigion. Dadleuai’r ymatebwyr, er mwyn gwneud hyn, fod rhaid i’r llywodraeth wneud mwy i wella’r galw am blanhigion bioddiogel wedi’u tyfu yn y Deyrnas Unedig a hybu ymwybyddiaeth drwy ymgyrchoedd pellgyrhaeddol sy’n ceisio creu newid ystyrlon yn nealltwriaeth ac agweddau’r cyhoedd. Dywedwyd y dylai effaith y gwaith hwn gael ei hadrodd yn gyhoeddus. Dadleuai’r ymatebwyr hefyd, er mwyn cynyddu cynhyrchiant domestig, y dylai’r cyhoedd allu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus wrth brynu planhigion. Er enghraifft, dywedwyd bod angen cryfhau cynllun pasbortau planhigion y Deyrnas Unedig fel nad yw planhigion ‘a dyfir yn y Deyrnas Unedig’ yn cynnwys planhigion sydd wedi’u hail-botio yn y Deyrnas Unedig yn unig. Er bod yr ymatebwyr yn cytuno bod ymwybyddiaeth y cyhoedd yn bwysig ar gyfer creu newid ystyrlon, maent yn mynnu bod rhaid i’r llywodraeth weithio i godi’r ymwybyddiaeth hon a bod rhaid iddi gymryd camau newydd fel cwarantin digonol ar gyfer mewnforion.
Y camau nesaf
Byddwn yn defnyddio’r ymatebion o’r ymgynghoriad, ochr yn ochr ag adborth gan y rhanddeiliaid, i lywio’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion newydd ar gyfer Prydain Fawr. Bydd y strategaeth hon yn cael ei chyhoeddi yn 2022 a bydd yn nodi gweledigaeth ar gyfer bioddiogelwch planhigion dros y pum mlynedd nesaf yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Caiff y gwaith o ddatblygu’r strategaeth ei gydgysylltu drwy’r Fframwaith Cyffredin Iechyd Planhigion (ymrwymiad i barhau i gydweithio er mwyn sefydlu dull cyffredin lle mae cymhwysedd datganoledig yn cyd-fynd â phwerau sydd wedi’u dychwelyd o’r UE). Mae rhychwant y strategaeth, fel yr ymgynghoriad, wedi’i gyfyngu i fioddiogelwch planhigion a chynhyrchion planhigion (gan gynnwys ymysg pethau eraill coed, llysiau, ffrwythau yn yr ystyr fotanegol, deunydd pecynnu pren, blodau wedi’u torri etc).
-
Protecting Plant Health - A Plant Biosecurity Strategy for Great Britain (publishing.service.gov.uk) ↩
-
Defnyddir y termau ‘ni’ ac ‘ein’ drwy’r ymgynghoriad i gyd. Ym mhob achos bron, mae’n cyfeirio at Defra, y Comisiwn Coedwigaeth, Llywodraeth Cymru a/neu Lywodraeth yr Alban. ↩
-
Bydd y fframwaith hwn, ynghyd â rheoliadau Prydain Fawr sydd ar waith ar draws y gweinyddiaethau, yn ceisio parhau i fabwysiadu rheolau iechyd planhigion cyffredin ledled Prydain Fawr/y Deyrnas Unedig, tra’n parchu’r potensial ar gyfer ymwahanu a rheoli gallu un weinyddiaeth i fabwysiadu dull gwahanol lle ceir cyfiawnhad technegol. ↩
-
Rheoliad (UE) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar 26 Hydref 2016 ynghylch mesurau amddiffynnol yn erbyn plâu planhigion, yn diwygio Rheoliadau (UE) Rhif 228/2013, (UE) Rhif 652/2014 ac (UE) Rhif 1143/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac y diddymu Cyfarwyddebau’r Cyngor 69/464/EEC, 74/647/EEC, 93/85/EEC, 98/57/EC, 2000/29/EC, 2006/91/EC a 2007/33/EC (legislation.gov.uk) ↩