Welsh language executive summary (accessible version)
Updated 9 August 2021
Crynodeb gweithredol
Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus ar ymestyn grymoedd ‘seiliau rhesymol’ ar gyfer stopio a chwilio dan adran 1 Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) i gwmpasu’r drosedd arfaethedig o gario sylwedd rhydol dan y Bil Arfau Ymosodol, y camddefnydd o ffyn laser i gyflawni troseddau dan Ddeddf Camddefnyddio Laser (Cerbydau) 2018 a’r camddefnydd o awyrennau dibeilot i gyflawni trosedd dan Orchymyn Llywio Awyr a Deddf Carchardai 1952.
Mae Adran 1 PACE yn rhoi grym i’r heddlu stopio a chwilio person neu gerbyd pan fydd ganddynt seiliau rhesymol dros dybio y byddant yn canfod eitemau gwaharddedig, gan gynnwys arfau ymosod (e.e. cyllyll), eitemau wedi’u dwyn, offer perthnasol i gyflawni troseddau neilltuol a thân gwyllt. Mae Adran 23 Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn darparu’r un grymoedd mewn perthynas â chyffuriau a reolir.
Nid yw’r ddeddfwriaeth gyfredol yn darparu grym penodol i stopio a chwilio pobl mewn achosion o fod â sylweddau rhydol yn eu meddiant mewn lle cyhoeddus heb reswm da, ffyn laser lle maent wedi eu defnyddio yn erbyn dulliau trafnidiaeth, neu awyrennau dibeilot ac offer awyrennau dibeilot wrth gyflawni troseddau dan Orchymyn Llywio Awyr 2016 a throsglwyddo eitemau anghyfreithlon trwy eu cludo dros ffiniau carchar. Mae’r ymgynghoriad yn hel barnau ynghylch pa mor effeithlon a chymesur fyddai ymestyn ‘seiliau rhesymol’ stopio a chwilio i fynd i’r afael â’r materion hyn.
Sylweddau rhydol
Mae’r Bil Arfau Ymosodol yn cynnwys mesurau fydd yn ei gwneud yn drosedd i werthu rhai cynhyrchion rhydol i bobl dan 18 oed a’i gwneud yn drosedd i fod ym meddiant sylweddau rhydol mewn man cyhoeddus heb reswm da. Bydd y mesurau hyn yn atgyfnerthu’r ymateb cyfiawnder troseddol i’r broblem hon, ac roedd yr ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus blaenorol yn dangos cefnogaeth eang i’r troseddau newydd hyn oddi wrth ystod o bartneriaid gan gynnwys busnesau. Bydd y drosedd o fod ym meddiant sylweddau rhydol mewn man cyhoeddus yn atgyfnerthu’r grymoedd fydd ar gael i’r heddlu i weithredu er mwyn atal ymosodiadau yn defnyddio sylweddau rhydol. Er ei bod yn bosibl ar hyn o bryd i stopio a chwilio personau y tybir eu bod ym meddiant arf ymosodol, a allai gynnwys sylwedd rhydol mewn rhai amgylchiadau, mae yna anawsterau penodol wrth geisio sefydlu bwriad treisgar. Mae’r ymgynghoriad yn gwahodd barnau ynghylch p’un a fyddai ymestyn stopio a chwilio i gwmpasu’r drosedd arfaethedig o fod ym meddiant sylwedd rhydol mewn man cyhoeddus heb reswm da yn briodol ac effeithiol.
Ffyn laser
Teclynnau bychain yw ffyn laser sy’n lledu pelydryn cul o olau ac fe’u defnyddir am nifer o resymau cyfreithiol a phroffesiynol. Maent yn gymharol rad a hawdd eu canfod yn y DU o siopau a manwerthwyr ar-lein. Dros y degawd diwethaf bu pryder cynyddol ynghylch y defnydd maleisus o ffyn laser, yn erbyn awyrennau yn benodol a’r peryglon i ddiogelwch a ddaw yn sgil hyn. Nodwyd pryderon hefyd ynghylch eu camddefnyddio yn erbyn dulliau trafnidiaeth eraill, a all arwain ar niwed difrifol neu farwolaeth aelodau o’r cyhoedd.
Roedd Deddf Camddefnyddio Laser (Cerbydau) 2018, a ddaeth i rym ar 10 Gorffennaf 2018, wedi creu trosedd newydd o gyfeirio laser at gerbyd a dallu neu dynnu sylw’r person sy’n gyrru’r cerbyd. Fodd bynnag, nid yw’r Ddeddf yn cynnwys grym i’r heddlu stopio a chwilio unigolion y tybiant sydd â ffon laser yn eu meddiant sydd wedi ei defnyddio, neu sydd i gael ei defnyddio, i gyflawni’r drosedd hon. Mae’r heddlu o’r farn y byddai ymestyn grymoedd stopio a chwilio i ymdrin â’r drosedd hon yn gwella eu gallu i fynd i’r afael â gweithgarwch troseddol o’r math hwn. Mae’r ymgynghoriad yn gwahodd barnau ynghylch p’un a fyddai ymestyn stopio a chwilio i gwmpasu’r camddefnydd o ffyn laser yn briodol ac effeithiol.
Awyrennau dibeilot ac offer dibeilot
Mae awyrennau dibeilot ar gael yn gyffredin yn y DU ac mae ganddynt ystod eang o ddefnyddiau cyfreithiol. Wrth i adroddiadau am gamddefnyddio awyrennau dibeilot gynyddu, daeth heriau i’r amlwg wrth geisio gorfodaeth ac ymchwiliad effeithlon. Mae cyflymder twf y dechnoleg a’r defnydd o awyrennau dibeilot i gyflawni troseddau yn golygu bod swyddogion yr heddlu yn methu delio’n effeithiol gydag adroddiad neu ddigwyddiad i sicrhau erlyniad.
Dan Orchymyn Llywio Awyr 2016 mae eisoes yn drosedd i awyrennau dibeilot gael eu defnyddio mewn rhai amgylchiadau. Dan Ddeddf Carchardai 1952 mae eisoes yn drosedd i ddefnyddio awyrennau dibeilot i gludo eitemau anghyfreithlon dros ffiniau carchar. Er hyn, nid yw grymoedd cyfredol stopio a chwilio yn berthnasol i’r troseddau hyn ac felly ni fedr swyddogion stopio rhywun ar sail resymol os ydynt yn tybio bod unigolyn yn berchen ar offer dibeilot sydd wedi ei ddefnyddio, neu y bwriedir ei ddefnyddio i gyflawni’r troseddau hyn.
Byddai grym newydd i stopio a chwilio yn galluogi swyddogion yr heddlu i stopio a chwilio person neu gerbyd mewn man cyhoeddus os oes gan y swyddog sail resymol dros dybio y byddant yn dod o hyd i offer dibeilot a/neu unrhyw eitem gysylltiedig ag awyren ddibeilot sydd wedi ei defnyddio, neu y bwriedir ei defnyddio i gyflawni troseddau dan Orchymyn Llywio Awyr 2016 a throseddau dan Ddeddf Carchardai 1952.
Mae’r ymgynghoriad yn gwahodd barnau ynghylch p’un a fyddai ymestyn stopio a chwilio i gwmpasu’r camddefnydd o awyrennau dibeilot yn briodol ac effeithiol. Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth y bwriad o ddatblygu Bil Drafft Awyrennau Dibeilot a fyddai’n cynnwys grymoedd ychwanegol i’r heddlu. Ar 26 Gorffennaf 2018, cyhoeddwyd ymgynghoriad ehangach ar yr hyn y dylai’r grymoedd eraill hyn fod, yn ogystal â chynnwys ehangach y Bil a mesurau polisi awyrennau dibeilot eraill; mae’n agored i ymatebion hyd at 17 Medi 17 2018. Canolbwynt yr ymgynghoriad hwn yw grymoedd arfaethedig stopio a chwilio, yn enwedig yn benodol i droseddau dan Orchymyn Llywio Awyr 2016 y gellir eu cyflawni trwy ddefnyddio awyrennau dibeilot, ac yn cwmpasu troseddau dan Ddeddf Carchardai 1952 sy’n gwahardd cludo eitemau anghyfreithlon i mewn i garchar. Ar hyn o bryd nid yw grymoedd stopio a chwilio yn berthnasol i’r mathau hyn o droseddau.
Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad chwe wythnos yn dechrau ar 9 Awst 2018 ac yn gorffen ar 22 Hydref 2018. Cyhoeddwyd manylion llawn yr ymgynghoriad, yn ogystal â fersiwn ar-lein, ar GOV.UK a cheir mynediad atynt ar: www.gov.uk/government/consultations/police-stop-and-search-powers.
Dylid anfon unrhyw ymatebion papur neu electronig at stopandsearch123@homeoffice.gov.uk i gyrraedd cyn 22 Hydref 2018.