Consultation outcome

Government response document (Welsh)

Updated 2 May 2023

CYFLWYNIAD

Dyma ddogfen ymateb y Llywodraeth i ymgynghoriad cyhoeddus y Ddyletswydd Diogelu.

Mae’r ddogfen ymateb yn manylu ar y canlynol:

  • Braslun o pam y cynhaliwyd yr ymgynghoriad;
  • Adroddiadau ystadegol ar ymatebion a chrynodebau’r themâu allweddol; a
  • Syniad o sut y bydd ymatebion i’r ymgynghoriad yn bwydo i ystyriaethau’r Dyletswydd Diogelu

Os hoffech roi unrhyw sylwadau ynghylch y ddogfen ymateb hon, yr ymgynghoriad cyhoeddus neu’r Ddyletswydd Diogelu, cysylltwch â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad canlynol:

Ymgynghoriad y Ddyletswydd Diogelu,
Diogelu a Pharatoi,
5ed Llawr NE,
Adeilad Peel,
Homeland Security Group,
Swyddfa Gartref,
2 Stryd Marsham,
Llundain
SW1P 4DF

E-bost: ProtectDuty@homeoffice.gov.uk

RHAGAIR Y GWEINIDOG

Dyletswydd gyntaf y Llywodraeth o hyd yw diogelu’r cyhoedd. Ers cyhoeddi dogfen ymgynghori’r Ddyletswydd Diogelu ym mis Chwefror, yr ydym wedi gweld ymosodiadau terfysgol pellach yn y DU, gyda marwolaeth drasig Syr David Amess, a’r ymosodiad yn Lerpwl. Mae heddlu a gwasanaethau diogelwch y DU wedi tarfu ar bedwar cynllwyn arall. Gall ymosodiadau terfysgol ddigwydd yn unrhyw le, mewn lleoliadau mawr neu fach, mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn parhau i ystyried sut a ble y gellir gwneud gwelliannau i fynd i’r afael â bygythiad terfysgaeth a gwella diogelwch y cyhoedd ymhellach.

Cafodd yr ymgynghoriad ar y Ddyletswydd Diogelu nifer sylweddol o ymatebion, ac mae’r safbwyntiau a fynegir ac a gyflwynir yn y ddogfen hon, a thrwy ddigwyddiadau ymgynghori, wedi darparu sylfaen dystiolaeth fanwl o farn y cyhoedd a’r sefydliadau hynny sy’n gweithredu mewn mannau cyhoeddus, o ran yr hyn y gallai gofyniad deddfwriaethol ei gyflawni a’r ffordd orau o’i ddatblygu.

Byddai’r Ddyletswydd Diogelu yn un ffordd o wella diogelwch y cyhoedd ymhellach, gan eistedd ochr yn ochr â’n rhaglenni gwaith presennol a pharhaus i gyflawni’r nod hwn. Yr wyf wedi nodi cryfder y safbwyntiau a fynegwyd mewn ymateb i nifer o gwestiynau ymgynghori, ei bod yn iawn i’r rhai sy’n gyfrifol am leoedd cyhoeddus gymryd camau i ddiogelu’r cyhoedd a pharatoi eu staff i ymateb yn briodol. Yn fyr, mae cymryd camau i sicrhau bod dull priodol a chyson o ymdrin â diogelwch a pharodrwydd amddiffynnol mewn mannau cyhoeddus yn gais rhesymol. Fodd bynnag, fe wnaeth yr ymatebion hefyd amlygu’r her ynghylch pa sefydliadau a ddylai fod o fewn ei gwmpas, a beth fyddai’n gyfystyr â mesurau diogelwch cymesur. Mae hyn yn cynnwys sicrhau nad oes baich gormodol ar sefydliadau, yn enwedig y rhai sy’n llai o ran maint neu sy’n cael eu staffio gan wirfoddolwyr, megis addoldai. Mae’r rhain yn faterion yr wyf yn eu hystyried yn ofalus. Bydd asesiad effaith y Llywodraeth ar gyfer y Ddyletswydd a’i gofynion hefyd yn asesu’n gadarn y cwestiwn o gostau a beichiau ymhellach.

Rwyf hefyd wedi nodi barn ymatebwyr i’r ymgynghoriad, sydd wedi cwestiynu a ddylai’r rhai sy’n gyfrifol am fannau cyhoeddus chwarae rhan mewn diogelwch cyhoeddus o gwbl - yn hytrach na’r gwasanaethau diogelwch, yr heddlu a gwasanaethau brys eraill. Gwaith y sefydliadau hyn yw sylfaen ein hymdrechion gwrth-derfysgaeth o hyd, ac mae’r Llywodraeth yn parhau i ystyried sut y gellir gwella a datblygu eu heffeithiolrwydd ymhellach. Byddai’r Ddyletswydd Diogelu yn sail i geisio cyfraniad mwy diffiniedig gan bartneriaid eraill sydd â rôl hanfodol bwysig i’w chwarae. Fel y gwyddom o’n hymdrechion parhaus ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i fynd i’r afael â therfysgaeth, drwy bartneriaethau effeithiol y cyflawnir y canlyniadau mwyaf. Fel y nodwyd hefyd yn yr ymgynghoriad, mae’n hanfodol bod amrywiaeth o offer, arweiniad a chymorth yn cael eu darparu i sicrhau bod yr hyn a geisir gan y rhai sydd o fewn cwmpas y Ddyletswydd Diogelu yn ddealladwy ac yn gyflawnadwy.

Cyfarfûm yn ddiweddar â Figen Murray, mam Martyn Hett, a fu farw yn ymosodiad Arena Manceinion, a chynrychiolwyr eraill o Dîm yr Ymgyrch Goroeswyr yn Erbyn Terfysg, sydd wedi ymgyrchu dros ‘Gyfraith Martyn’, i sicrhau bod gofyniad deddfwriaethol penodol yn cael ei ddatblygu.Yr wyf hefyd wedi ymgysylltu â’r Rhwydwaith Cynghori Gwrthderfysgaeth, fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol, y mae ei aelodaeth yn cynnwys goroeswyr terfysgaeth.Mae gwrando ar brofiad goroeswyr a myfyrio arno wedi ailddatgan fy ymrwymiad i fwrw ymlaen â deddfwriaeth y Ddyletswydd Diogelu.

Bydd y safbwyntiau a’r barnau a amlinellir yn y ddogfen hon yn bwysig iawn i lywio ein syniadau wrth ddatblygu dull deddfwriaethol, y mae’r Llywodraeth yn ei ddatblygu’n awr.

DAMIAN HINDS AS

Y GWEINIDOG DROS DDIOGELWCH A’R FFINIAU

CEFNDIR

Mae’r Deyrnas Unedig wedi dioddef nifer o ymosodiadau terfysgol soffistigedigrwydd isel diweddar mewn mannau cyhoeddus, yn ogystal â dinistr erchyllterau ar raddfa fwy fel yr un yn Arena Manceinion. Mae targedu lleoliadau o’r fath fel arfer yn ddewis unigol na ellir ei ragweld bob amser. Gallai ymosodiadau ddigwydd mewn unrhyw leoliad, a gall eu hatal fod yn heriol, gan amlygu penderfyniad y Llywodraeth i ystyried beth arall y gellid ei wneud i wella diogelwch y cyhoedd.

Ar hyn o bryd, nid oes gofyniad deddfwriaethol i sefydliadau ystyried neu ddefnyddio mesurau diogelwch yn y mwyafrif llethol o fannau cyhoeddus. Mae llawer o sefydliadau’n dewis gweithredu eu mesurau diogelwch eu hunain, yn amrywio o ystyried asesiadau risg sy’n arwain at sefydlu amrywiaeth o gynlluniau a gweithdrefnau argyfwng, ymgymryd â hyfforddiant staff a chodi ymwybyddiaeth, a defnyddio systemau, prosesau a mesurau diogelwch i liniaru bygythiadau.Er bod pob ymdrech o’r fath yn cael ei chroesawu a’i hannog, byddai’r Ddyletswydd Diogelu arfaethedig yn anelu at greu diwylliant o ddiogelwch, gyda chysondeb o ran gweithredu a mwy o sicrwydd o effaith.

Diben yr ymgynghoriad oedd ymgynghori â phartneriaid yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus ynghylch sut y gallai ystyriaethau priodol o ddiogelwch ddigwydd, gan arwain at fesurau diogelwch cymesur mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd, a pha gymorth fyddai ei angen gan y Llywodraeth. lleoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd yn cael ei ddiffinio fel unrhyw fan y mae gan y cyhoedd neu unrhyw ran o’r cyhoedd fynediad iddo, trwy dalu neu fel arall, fel hawl neu yn rhinwedd caniatâd datganedig neu ymhlyg.Er eglurder, mae lleoedd/lleoliadau cyhoeddus yn adeiladau parhaol (e.e. lleoliadau adloniant a chwaraeon) neu leoliadau digwyddiadau dros dro (fel gwyliau awyr agored) lle mae ffin ddiffiniedig a mynediad agored i’r cyhoedd. Mae mannau cyhoeddus yn lleoliadau cyhoeddus agored nad oes ganddynt ffiniau clir fel arfer na mynedfeydd / mannau ymadael wedi’u diffinio’n dda (e.e. sgwariau canol y ddinas, pontydd neu dramwyfeydd, parciau a thraethau prysur).

Roedd yr ymgynghoriad yn agored i’r cyhoedd, ond roedd yn arbennig yn annog ymatebion gan y rhai sy’n berchen ar leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd neu’n eu gweithredu. Ein prif amcan oedd defnyddio adborth gan aelodau ymroddedig o’r cyhoedd i ddatblygu a llunio cynigion deddfwriaethol ymhellach ac o ganlyniad, creu mannau a gofodau mwy diogel. Rydym yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ac adrannau eraill y Llywodraeth i lunio cynigion polisi ac i gynghori am gynigion deddfwriaethol ynghylch y Ddyletswydd Diogelu.

RYNODEB GWEITHREDOL

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y Dyletswydd Diogelu o 26fed Chwefror 2021 i 2il Gorffennaf 2021 ac fe wnaeth cyfanswm o 2755 o unigolion neu sefydliadau ymateb i’r ymgynghoriad drwy arolwg ar-lein neu e-bost. Ceir dadansoddiad o sut y gwnaethant gyflwyno eu hymatebion isod.

Dull Ymateb Ymateb Rhanddeiliad Ymateb y rhai nad yw’n rhanddeiliaid Ymatebion i’r Ymgyrch Cyfanswm
Ffurflen ar-lein 479 1785 0 2264
E-bost 0 195 296 491
Cyfanswm 479 1980 296 2755

Ni dderbyniwyd unrhyw ymatebion drwy’r post.

Cafodd yr ymatebwyr gyfle i ateb 58 o gwestiynau a ledaenwyd ar draws pedair adran thematig. Rhannwyd yr adrannau fel a ganlyn:

  • Adran 1: I bwy (neu ble) y dylai deddfwriaeth fod yn gymwys?
  • Adran 2: Beth ddylai’r gofynion fod?
  • Adran 3: Sut y dylai cydymffurfedd weithio?
  • Adran 4: Sut y dylai’r Llywodraeth gefnogi a gweithio gyda phartneriaid orau?

Adran 1: I bwy (neu ble) y dylai deddfwriaeth fod yn gymwys?

Gofynnodd adran un am farn ar i bwy (neu ble) y dylai deddfwriaeth fod yn gymwys iddi.

Roedd mwyafrif (saith o bob deg) o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r cysyniad y dylai’r rhai sy’n gyfrifol am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd gymryd camau priodol a chymesur i ddiogelu’r cyhoedd rhag ymosodiadau yn y lleoliadau hyn. Roedd saith o bob deg ymatebydd hefyd yn cytuno y dylai lleoliadau a sefydliadau cyfrifol baratoi eu staff i ymateb yn briodol pe bai ymosodiad terfysgol.

Wrth ystyried pa leoliadau ddylai fod o fewn cwmpas y Ddyletswydd, roedd yr ymatebion mwyaf poblogaidd o fewn y cwestiynau testun rhydd drwy gydol yr ymgynghoriad i gyd yn lleoliadau hygyrch i’r cyhoedd (a grybwyllir 53 gwaith), ac yna pob lleoliad yn gyffredinol (32), yna cynulleidfaoedd mawr (31).Yn ychwanegol at hyn, roedd cyfranogwyr yn gyffredinol yn tueddu i gytuno y dylid cynnwys sefydliadau mwy (250+ o weithwyr) o’u cymharu â sefydliadau llai, gydag ond ychydig iawn yn ystyried bod micro-sefydliadau (1-9 o weithwyr) o fewn y cwmpas.

Roedd pum deg wyth y cant o’r ymatebwyr o’r farn na ddylid cael unrhyw eithriadau o’r Ddyletswydd (ac eithrio’r rhai a gynigiwyd ar gyfer rhai sectorau trafnidiaeth lle mae deddfwriaeth debyg eisoes yn berthnasol). I’r rhai a oedd o’r farn y dylid cael ethriadau, yr ystyriaethau mwyaf poblogaidd oedd: lleoliadau mewn lleoliadau risg isel (yn enwedig gwledig); seiliedig ar sgôr asesiad risg; ar gyfer elusennau a lleoliadau sy’n cael eu rhedeg yn bennaf gan wirfoddolwyr neu gan wirfoddolwyr yn unig; ar gyfer grwpiau cymunedol a neuaddau pentref; a mannau addoli, yn enwedig os ydynt yn fach.

Pan ofynnwyd pa feini prawf fyddai’n penderfynu orau pa leoliadau y dylai Dyletswydd fod yn berthnasol iddynt, capasiti lleoliad oedd y maen prawf mwyaf poblogaidd. Fodd bynnag, roedd ystod eang o gynigion eraill hefyd, ac roedd y rhai mwyaf poblogaidd yn seiliedig ar risg a werthuswyd o leoliad; capasiti cyfartalog, yn hytrach nag uchafswm capasiti lleoliad; ardal ddaearyddol lleoliad; a’r math o ddigwyddiad a gynhelir mewn lleoliad.

I’r rhai a ystyriodd gapasiti oedd y maen prawf gorau, roedd dros hanner o’r farn y dylai trothwy o 100 o bobl neu fwy bennu lleoliadau o ran cwmpas y Ddyletswydd. Cymedr yr holl drothwyon capasiti a awgrymwyd oedd 303 o bersonau.

Adran 2: Beth ddylai’r gofynion fod?

Gofynnodd adran dau am farn ar yr hyn y dylai fod yn ofynnol i’r partïon o fewn cwmpas y Ddyletswydd Diogelu ei wneud, a hefyd asesu ystyriaethau diogelwch a pharodrwydd amddiffynnol a wneir ar hyn o bryd gan y rhai sy’n gyfrifol am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd.

Yn gyffredinol, mynegwyd safbwyntiau cryf iawn ar yr angen am atebolrwydd o fewn y Ddyletswydd. Roedd hyn yn cyfeirio’n bennaf at yr angen am rolau a chyfrifoldebau clir, yn enwedig ymhlith trefnwyr digwyddiadau, a’r bobl ar lefel uwch mewn lleoliadau a sefydliadau.

Mae hanner yr ymatebwyr sy’n gweithredu neu’n berchen ar leoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd yn cynnal asesiad risg ar hyn o bryd i ystyried bygythiad ymosodiad terfysgol. Caiff y rhain eu hadolygu amlaf sawl gwaith neu unwaith y flwyddyn. Gweithgareddau lliniaru a mesurau a ddatblygwyd amlaf i fynd i’r afael â bygythiadau terfysgol oedd: cysylltu â’r heddlu neu adnodd arall (e.e., ymgynghorydd diogelwch) ar fygythiadau a mesurau diogelwch priodol; gwaith i sicrhau bod ymddygiadau diogelwch yn cael eu mabwysiadu gan y gweithlu; a hyfforddiant staff i godi ymwybyddiaeth o’r bygythiad a beth i’w wneud.

Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar sut y mae ystyriaethau diogelwch yn cael eu cynnal ar hyn o bryd a sut y gellid eu cynnal yn y dyfodol mewn mannau cyhoeddus (lleoliadau nad oes ganddynt ffiniau clir fel arfer na phwyntiau mynediad / ymadael wedi’u diffinio’n dda e.e., sgwariau canol y ddinas, pontydd neu dramwyfeydd, parciau a thraethau prysur). Ystyriwyd bod cyrsiau codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff, ymgyrchoedd cyfathrebu, a chynhyrchion ac offer cyngor/arweiniad yn cynrychioli’r gweithgareddau a’r mecanweithiau presennol gorau i wella diogelwch amddiffynnol a chanlyniadau parodrwydd sefydliadol. O ran sut y gallai sefydliadau sy’n gweithio mewn mannau cyhoeddus ystyried bygythiadau a lliniaru yn well yn y dyfodol, ystyriodd ymatebwyr y gallai hyn fod drwy ymgysylltu â’r heddlu, gwneud gofynion yn orfodol drwy ddeddfwriaeth, a gwella cydweithio.

O swyddogaethau presennol awdurdodau lleol sy’n helpu i wireddu canlyniadau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd sefydliadol mewn mannau cyhoeddus, iechyd a diogelwch, ystyriwyd bod prosesau diogelwch tân a rheoli adeiladu, Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch (ar gyfer digwyddiadau), a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol o’r gwerth mwyaf ar hyn o bryd.

Drwy gwestiwn testun rhydd penodol, o’r rhai a ymatebodd, roedd ychydig mwy o gyfranogwyr yn gwrthwynebu gofyniad posibl yn y dyfodol i awdurdodau lleol / cyhoeddus a phartneriaid lleol perthnasol eraill ddatblygu cynllun strategol i fynd i’r afael â therfysgaeth. Ystyriwyd mai awdurdodau lleol yw’r prif sefydliad i ddod â phartneriaethau diogelwch at ei gilydd, gan dderbyn tair gwaith cymaint o enwebiadau â’r ateb mwyaf poblogaidd nesaf, y gwasanaethau brys.

Lle mae Canllawiau presennol gan y Llywodraeth (e.e., yn ymwneud â gweithredwyr bysiau a choetsys) roedd dwy ran o dair o’r ymatebwyr o’r farn y byddai’n briodol i’r canllawiau hyn ddod yn ddeddfwriaethol o dan y Ddyletswydd Diogelu.

Pwnc dibaid drwy gydol yr ymgynghoriad a’i ymatebion oedd pryder y gallai’r Ddyletswydd effeithio’n negyddol ar sefydliadau o safbwynt ariannol. Mae’r canfyddiadau wedi’u bwydo i mewn i’n cynigion a bydd Asesiad o’r Effaith ar Ddyletswydd yn cael ei gwblhau i ystyried goblygiadau ariannol ymhellach, ochr yn ochr ag unrhyw effaith ehangach.

Adran 3: Sut y dylai cydymffurfedd weithio?

Roedd adran tri o’r ymgynghoriad yn gofyn am farn ar sut y gellid cydymffurfio â gofynion y Ddyletswydd drwy ddatblygu trefn arolygiaeth a sancsiynau priodol am beidio â chydymffurfio.

O’r rheini (385 o ymatebwyr) a oedd yn cynnig barn ar gefnogaeth neu wrthwynebiad i arolygiaeth, roedd ychydig dros 50 y cant o’r ymatebwyr (194) o blaid arolygiaeth a fyddai’n cefnogi gwelliannau i ddiwylliant ac arferion diogelwch o fewn sefydliadau sydd o fewn cwmpas.Eu rhesymau mwyaf cyffredin oedd y byddai’n nodi meysydd allweddol ar gyfer gwella neu wendidau, gweithredu fel ffordd o rannu arfer gorau, a chyflawni amcan allweddol y Ddyletswydd i wella diogelwch y cyhoedd.

Roedd yr ymatebwyr nad oeddent yn cefnogi datblygu arolygiaeth o’r farn ei fod yn ddull gweithredu llawdrwm a allai fod â goblygiadau ariannol sylweddol, gan gyfeirio at heriau a allai godi, yn enwedig o ran bwrw ymlaen â chamau gorfodi.

Roedd rhaniad cyfartal hefyd mewn ymatebwyr a oedd yn cefnogi’r defnydd o gosbau sifil (dirwyon) i sicrhau cydymffurfedd â’r Ddyletswydd. Roedd y rhai a oedd o blaid o’r farn y byddai’r rhain yn cynyddu cydymffurfeddh, cefnogaeth sefydliadol ac atebolrwydd. Awgrymodd y rhai a wrthwynebodd eu bod yn annheg, na ddylid cosbi sefydliadau yn hytrach na’r terfysgwyr, roedd cynlluniau i’w cychwyn yn amwys ar hyn o bryd, y byddai o bosibl yn gostus i sefydliadau, ac y byddai’n her i’w gorfodi.

Adran 4: Sut y dylai’r Llywodraeth gefnogi a gweithio gyda phartneriaid orau?

Gofynnodd Adran pedwar am farn ar sut y mae’r Llywodraeth yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n gyfrifol am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd ar hyn o bryd, a sut y gellid gwella’r ymdrechion hyn i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Ddyletswydd Diogelu.

Ar hyn o bryd, dim ond ychydig dros hanner yr ymatebwyr sy’n gweithredu neu’n berchen ar leoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd oedd yn cyrchu gwybodaeth am fygythiadau a mesurau lliniaru a ddarperir gan y Llywodraeth (yn bennaf o Blismona Gwrthderfysgaeth a’r Ganolfan Diogelu Seilwaith Cenedlaethol). I’r rhai sy’n ei wneud, roeddent o’r farn mai’r canlynol oedd y rhai mwyaf gwerthfawr: Cynghorwyr Diogelwch Gwrthderfysgaeth; Lefelau bygythiad, a methodolegau ymosodiadau cyffredinol, cyfredol, lleol a phenodol; a chynhyrchion hyfforddi a chyngor y Llywodraeth.

Nododd bron i bedwar o bob pump o ymatebwyr y byddent yn defnyddio’r gwasanaeth digidol newydd sy’n cael ei ddatblygu gan Blismona Gwrthderfysgaeth, y Llywodraeth a’r sector preifat i ddarparu mynediad i ddeunydd gwrth-derfysgaeth, cyngor a hyfforddiant perthnasol mewn un lle i sefydliadau sy’n gweithredu mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd. Y rhesymau mwyaf cyffredin a roddwyd oedd cael eu diweddaru ar fygythiadau terfysgol sy’n datblygu, i ddeall prosesau rheoli risg, ac i gyrchu hyfforddiant gwrth-derfysgaeth.

O ran yr hyn yr oedd ymatebwyr yn ei ystyried fyddai’r mecanweithiau a’r offer mwyaf defnyddiol i helpu i gydymffurfio â’r Ddyletswydd, yr awgrymiadau mwyaf poblogaidd oedd: un gwasanaeth digidol lle gallech gyrchu deunydd, cyngor a hyfforddiant perthnasol mewn un lle; templed asesu risg a gwybodaeth am gynnal asesiad risg ar gyfer bygythiadau terfysgaeth; gwybodaeth hawdd ei threulio ynghylch bygythiad a methodolegau ymosodiadau; cyngor ar yr hyn sy’n gyfystyr â mesurau lliniaru rhesymol ymarferol a phriodol sy’n briodol ar gyfer fy amgylchiadau; a chyrsiau hyfforddi ac ymwybyddiaeth staff.

Yn ogystal â darparu cyngor ac arweiniad gan y Llywodraeth, gofynnwyd i ymatebwyr hefyd ble y gallai’r Llywodraeth gefnogi darparu cyngor ac arweiniad o ansawdd uchel gan weithwyr diogelwch proffesiynol yn y sector preifat. Y prif awgrymiadau oedd: datblygu safonau ar gyfer asesiadau risg gwrth-derfysgaeth a chyngor; cefnogi hyfforddiant a chymwysterau achrededig ar gyfer gweithwyr diogelwch proffesiynol unigol; cefnogi rheoleiddio ymgynghorwyr gwrth-derfysgaeth; a chynllun contractwyr cymeradwy a reoleiddir gan y Llywodraeth.

Y themâu a godwyd amlaf ynglŷn â’r cymorth sy’n gysylltiedig â’r Ddyletswydd oedd: angen i sicrhau bod cyngor a chymorth yn bwrpasol ac nid yn ‘un maint sy’n addas i bawb’; ymgymryd â gweithgareddau ymgysylltu a chyfathrebu effeithiol; a’r angen i gynnwys arbenigwyr diogelwch o ran darparu cyngor ac arweiniad.

DIGWYDDIADAU YMGYNGHORI

Ym mis Chwefror 2021 dechreuodd swyddogion y Swyddfa Gartref raglen ymgysylltu wedi’i thargedu gydag ystod eang o sefydliadau, cynrychiolwyr y diwydiant a phartneriaid gweithredol sydd â buddiant yn y Ddyletswydd.

Canolbwyntiodd ymgysylltu cychwynnol ar hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad drwy amrywiaeth o gyfathrebu ac ymrwymiadau ar draws y Llywodraeth a’i phartneriaid.Datblygodd hyn yn ddiweddarach yn weithdai gyda grwpiau a sectorau penodol â buddiant, gan roi cyfle i roi sylwadau uniongyrchol ar y dull strategol a manylion y cynigion, gan annog sylwadau pellach drwy’r sianeli ymgynghori swyddogol, gan gydweithio yn y pen draw i adeiladu gweledigaeth ar gyfer y Ddyletswydd yn y dyfodol a’i model gweithredu.

Cynhaliwyd cyfanswm o dros 80 o ddigwyddiadau ymgysylltu rhithwir ar y cynigion ar Ddyletswydd.Mae rhestr nad yw’n gynhwysfawr o’r rhai yr ymgysylltwyd â hwy yn cynnwys:

  • Cynrychiolwyr sector o fanwerthu, adloniant, chwaraeon, iechyd, lletygarwch, addysg, yswiriant a bancio, digwyddiadau mawr, diogelwch, twristiaeth, cymunedau ffydd, a thrafnidiaeth;
  • Adrannau’r Llywodraeth;
  • Awdurdodau lleol, cynghorau a chymdeithasau;
  • Yr Heddlu;
  • Arbenigwyr ac awdurdodau diogelwch;
  • Tîm Ymgyrch Cyfraith Martyn;
  • Gweinyddiaethau Datganoledig; a
  • Grwpiau a fforymau cynghori amrywiol eraill

Cafodd egwyddorion deddfwriaethol, gan gynnwys trothwyon i’w cynnwys o fewn y Ddyletswydd, eu hadolygu a’u hail-asesu yn seiliedig ar drafodaeth ac adborth drwyddi draw. Roedd ystyriaeth drylwyr hefyd o weithredu deddfwriaeth a chyfundrefnau tebyg, megis diogelwch tân ac iechyd a diogelwch, a lle y gellid cymryd dysgu o’r rhain.

Yn seiliedig ar sylwadau a safbwyntiau a gafwyd o ddigwyddiadau ymgynghori cynnar, trefnwyd digwyddiadau pellach gyda chynrychiolwyr o sectorau penodol, er enghraifft y sector ffydd, gwirfoddol ac elusennol, i ystyried effaith bosibl cynigion y Ddyletswydd ar y grwpiau hyn.

Er bod llawer o’r sylwadau a wnaed a’r materion a godwyd yn y digwyddiadau hyn wedi’u hailadrodd mewn ffurflenni ymgynghori, gwnaed rhai pwyntiau ychwanegol hefyd, a cheir amlinelliad o’r rhain yn Atodiad A.

DEHONGLI CANFYDDIADAU

Yn bennaf, ceisiodd y Swyddfa Gartref gyfranogiad gan y rhai sy’n berchen ar leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd neu’n eu gweithredu, ond roedd yr ymgynghoriad hefyd yn agored i bawb, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd a oedd â diddordeb arbennig yn y pwnc.

O’r 58 cwestiwn a ofynnwyd yn yr ymgynghoriad:

  • Roedd 24 yn ymatebion sefydlog;
  • Roedd 31 yn agored i ymateb ansoddol testun rhydd; ac
  • Roedd 3 yn agored i ymateb meintiol testun rhydd.

Er mwyn dadansoddi’r ymatebion testun rhydd, defnyddiwyd system godio lle mae geiriau neu themâu penodol yn cael eu grwpio gyda’i gilydd. Roedd y codio’n cynnwys agweddau dadansoddi pellach, megis a oedd ymateb yn gadarnhaol neu’n negyddol.

Roedd hyn yn ein galluogi i graffu ar y canlyniadau yn y ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad hon a’u cyflwyno wedyn, gan ddarparu canllawiau ychwanegol i ddatblygu fframwaith ar gyfer polisi y tu ôl i’r Ddyletswydd.

Diweddarwyd y codio drwy gydol cyfnod dadansoddi’r ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod themâu newydd yn cael eu nodi a’u cwmpasu drwy gydol y broses.

Roedd ymatebion sefydlog yn aml yn cael eu defnyddio ar ddechrau adran fel llinell sylfaenmeintiol , ond roedd y rhan fwyaf o gwestiynau hefyd yn rhoi cyfle i ddewis ymateb testun rhydd os oedd angen.

Mae’r dadansoddiad canlynol, mewn trefn ddisgynnol, yn rhoi syniad o’r demograffeg a nodwyd gan y rhai a ddewisodd ymateb ar-lein gyda:

  • Roedd 33% yn aelodau o’r cyhoedd, 33% yn berchen ar un PAL neu fwy, roedd 30% yn gyfrifol am ddiogelwch ar un PAL neu fwy, roedd 17% yn cynrychioli barn un PAL neu fwy, dywedodd 17% “sefydliad arall”, mae 13% yn gweithio mewn busnes o fewn PAL ac mae gan 11% fusnes yn delio ag un PAL neu fwy.
  • Roedd 32% yn gweithio i sefydliad mawr (250+ o weithwyr), roedd 29% yn gweithio i ficro-sefydliad (1-9 o weithwyr), dywedodd 12% “ddim yn berthnasol”, roedd 11% yn gweithio i sefydliad bach (10-49 o weithwyr), ac roedd 11% yn gweithio i sefydliad canolig (50-249 o weithwyr).Nid oedd 5% yn gwybod maint eu sefydliad.
  • Mae 23% yn gweithio i gwmni, 17% yn gweithio i gorff di-elw neu sefydliad cydfuddiannol, 13% yn gweithio i awdurdod lleol, 4% yn gweithio i gorfforaeth gyhoeddus, 3% yn unig berchenogion, 2% yn gweithio o fewn Llywodraeth ganolog ac 1% yn gweithio i bartneriaeth.37% wedi’u nodi “arall” ar gyfer eu busnes neu eu sefydliad.
  • Roedd 34% o’r ymatebion yn dod o Addoldai, roedd 25% yn dod o Ddigwyddiadau, roedd 21% yn dod o Adloniant, 19% yn dod o Letygarwch ac roedd 18% yn dod o Addysg.
  • Roedd 17% o’r ymatebion yn dod o Dde-ddwyrain Lloegr, roedd 17% yn dod o Lundain Fwyaf, 13% wedi’u nodi gyda “lleoliadau lluosog”, roedd 10% yn dod o Ogledd-orllewin Lloegr, a dywedodd 9% “arall”.
  • Mae 72% o’r ymatebwyr yn gweithredu neu wedi’u lleoli mewn ardaloedd trefol tra bod 28% yn dweud ardal wledig.

Asesir bod y rhai a ymatebodd yn debygol o gael diddordeb mawr mewn neu gael eu heffeithio o bosibl gan unrhyw Ddyletswydd orfodol, gan roi canlyniad dadansoddol mwy pegynol na phe bai pob aelod o’r cyhoedd neu bob busnes wedi ymateb.

Amlygir y syniad hwn ymhellach wrth ystyried ymatebion i’r ymgyrch.Gallai ymatebwyr sydd â buddiant breintiedig fod yn rhan o grwpiau mwy sy’n cyfathrebuu ymatebion tebyg neu union yr un fath mewn ymdrech i ddylanwadu ar ganlyniadau, ac wedi hynny, cyfeiriad unrhyw Ddyletswydd newydd.Gellir trefnu gweithgarwch o’r fath drwy arweinwyr sefydliad a darperir testun awgrymedig penodol drwy amrywiaeth o ddulliau.

Oherwydd yr atgynhyrchu o fewn rhai ymatebion, sefydlwyd bod 296 o ymatebion i’r ymgyrch wedi’u cyflwyno fel rhan o’r ymgynghoriad, yn bennaf o’r sector ffydd.

Mae’r canrannau a amlygwyd drwy gydol y ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad wedi’u talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf. Efallai fod pob cwestiwn wedi derbyn nifer wahanol o ymatebion, yn seiliedig ar y math o gwestiwn a dewis yr ymatebydd o ran a ddylid ateb.

Dim ond i gofnodi barn amrywiol aelodau’r rhanddeiliaid a’r rhai nad ydynt yn rhanddeiliaid sydd wedi dewis ymateb i’r cynigion yn y Ddogfen Ymgynghori y gellir defnyddio canfyddiadau’r ymgynghoriad, fel yr adlewyrchir drwy’r Dogfennau Ymateb i’r Ymgynghoriad. Oherwydd natur hunan-ddethol y dull, ni ddylid cyfuno’r canfyddiadau i fod yn gynrychioliadol o unrhyw fath o gyfranogwr, na’u defnyddio i gynrychioli barn ehangach unrhyw sectorau penodol.

Bydd y ddogfen yn awr yn cyflwyno’r ystadegau a’r themâu allweddol o bedair adran yr ymgynghoriad.

ADRAN 1: I PWY (NEU BLE) Y DYLAI DEDDFWRIAETH FOD YN GYMWYS?

Roedd Adran 1 o’r ymgynghoriad yn canolbwyntio’n bennaf ar i pwy, a ble, y dylai’r Ddyletswydd fod yn gymwys i geisio barn ymatebwyr drwy ddeunaw cwestiwn.

Cefnogi gofyniad deddfwriaethol ar gyfer y Ddyletswydd

Mae’r cwestiwn cyntaf yn gofyn am yr awydd i gael mesurau diogelwch priodol yn erbyn ymosodiadau terfysgol mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd.

C1. Dylai lleoliadau a sefydliadau sy’n berchen ar, gweithredu neu sy’n gyfrifol am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd, gymryd camau priodol a chymesur i ddiogelu’r cyhoedd rhag ymosodiadau yn y lleoliadau hyn

Cyfanswm yr ymatebwyr: 2345

Cytuno/Cytuno’n gryf Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno/anghytuno’n gryf
71% 11% 18%

Yn y bôn, awgrymodd adborth y byddai mesurau o’r fath yn cael eu croesawu, gan fod mwyafrif o 71% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod yn cefnogi mesurau priodol a chymesur i ddiogelu’r cyhoedd mewn lleoliadau cyhoeddus.

Rhoddwyd cyfle hefyd i ymatebwyr yn adran un amlinellu pa leoedd penodol yr oeddent yn teimlo y dylai’r Ddyletswydd Diogelu fod yn berthnasol iddynt drwy ymatebion testun rhydd.Yn hytrach nag un lle penodol, pob lleoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd oedd yr opsiwn mwyaf poblogaidd a soniwyd amdano 53 o weithiau. Dilynwyd hyn gan bob lleoliad yn gyffredinol a ddewiswyd gan 32 o bobl a chynulliadau mawr yn gyffredinol gan 31 o bobl.Derbyniodd lleoliadau preifat 20 o grybwyllion.

I’r gwrthwyneb, wrth ystyried mannau a ddylai aros allan o gwmpas y Ddyletswydd Diogelu, teimlai 128 o bobl y dylid eithrio addoldai. Dilynwyd hyn gan 84 o awgrymiadau ar gyfer elusennau neu sefydliadau gwirfoddol, a 40 ar gyfer sefydliadau bach cyffredin.

Meini Prawf, Metrigau a Throthwyon Sefydliadol y Ddyletswydd

O’r tri maen prawf arfaethedig ar gyfer lleoliadau y dylai’r Ddyletswydd Dogelu fod yn berthnasol iddynt, roedd capasiti’n cael ei ffafrio’n llawer mwy na’r ddau gynnig arall, gyda 39% o’r holl ymatebion.

C3.Cynigiwn fod Dyletswydd Diogelu wedi’i thargedu yn berthnasol i leoliadau cyhoeddus penodol yn unig. Pa feini prawf fyddai’n penderfynu orau pa leoliadau y dylai Dyletswydd fod yn berthnasol iddynt?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 2388

Capasiti Refeniw Blynyddol Lefelau Staffio Arall
39% 9% 5% 47%

Caniatawyd i ymatebwyr ddewis meini prawf lluosog a/neu roi sylwadau pellach.O’r rhai a ddewisodd arall, roedd y pedwar maen prawf canlynol a awgrymwyd yn ymddangos yn fwyaf amlwg:

  • Gwerthuso risg o leoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd;
  • Capasiti cyfartalog, yn hytrach nag uchafswm, lleoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd;
  • Ardal ddaearyddol lleoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd; a
  • Math o ddigwyddiad a gynhelir mewn lleoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd

Wrth ystyried y potensial i gapasiti fod yn faen prawf allweddol ar gyfer lleoliadau o fewn cwmpas y Ddyletswydd Diogelu, fe wnaethom awgrymu capasiti lleoliad o 100 o bobl fel trothwy priodol gan geisio adborth.

C4. Pa lefel capasiti, yn eich barn chi, fyddai’n briodol i bennu lleoliadau o fewn cwmpas y Ddyletswydd?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 806

100 o bersonau Mwy na 100 o bersonau Is na 100 o bersonau
53% 31% 16%

Er bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr i’r cwestiwn hwn yn teimlo bod capasiti lleoliad 100 person yn drothwy priodol i’w gynnwys, rhoddwyd cyfle hefyd i ymatebwyr roi eu barn ar yr union nifer ar gyfer capasiti; Darparodd 806 o gyfranogwyr ymateb testun rhydd.

C5. Pa drothwy fyddech yn ei gynnig i’w gynnwys yng nghwmpas y Ddyletswydd Diogelu ar gyfer y maen prawf hwn?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 1582

Cyfartaledd cymedrig yr holl ymatebion Capasiti cymedrig ymatebwyr sy’n awgrymu y dylai’r trothwy fod yn uwch na 100 o bobl Capasiti cymedrig ymatebwyr sy’n awgrymu y dylai’r trothwy fod yn is na 100 o bobl
303 824 47

Yn ogystal, fe wnaethom gynnig y dylid ystyried nifer y staff a gyflogir gan sefydliadau fel maen prawf ar gyfer y Ddyletswydd, ac awgrymwyd y dylai sefydliadau gyda 250 neu fwy o weithwyr fod o fewn cwmpas.

C10. Rydym yn cynnig y byddai Dyletswydd Diogelu hefyd yn berthnasol i sefydliadau penodol sy’n gweithredu mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd. Pe bai maint sefydliad yn faen prawf i’w gynnwys yng nghwmpas y Ddyletswydd, beth fyddai trothwy priodol?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 2348

Pob un Micro(1-9) Bach(10-49) Canolig(50-249) Mawr(250+) Arall
28% 2% 8% 16% 21% 25%

Ochr yn ochr â’r ymatebion testun rhydd o gwestiwn un, awgrymodd 28% o’r ymatebwyr i gwestiwn deg y dylid cynnwys pob sefydliad (gydag unrhyw nifer o gyflogeion) o fewn y Ddyletswydd.

Gofynnwyd hefyd i ymatebwyr roi rhagor o fanylion am y rhesymu y tu ôl i’w metrig a ddewiswyd.Dywedodd y rhai a awgrymodd y dylai pob sefydliad fod o fewn cwmpas yn fwyaf cyffredin fod hyn oherwydd y gred y gall y risg o ymosodiad ddigwydd yn unrhyw le ac y dylid diogelu pob bywyd. Roedd ymatebwyr hefyd o’r farn bod gan bob sefydliad ddyletswydd gofal ac y dylai pawb ymdrechu ar y cyd i gefnogi mesurau amddiffynnol yn y gweithle.

Teimlai’r rhai a ddewisodd i’r trothwy ar gyfer cynnwys ganolbwyntio ar sefydliadau canolig neu fawr y byddai sefydliadau o’r fath mewn gwell lle i reoli unrhyw gofynion dilynol y Ddyletswydd o ran eu hadnoddau a’u profiad. Mynegodd ymatebwyr eraill farn y byddai unrhyw fesurau a awgrymwyd yn faich ar sefydliadau bach neu ficro-sefydliadau, y dylid diogelu pob bywyd waeth beth fo maint y sefydliad, a bod angen diffinio’r term “sefydliad” yn glir.

Cyfrifoldeb a Chydweithio

Cyflwynodd yr ymgynghoriad nifer o gwestiynau ynghylch pwy ddylai fod yn gyfrifol am fesurau diogelwch mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd a’r ffordd orau y gall sefydliadau gydweithio i gyflawni nodau diogelu a rennir.

C2. Dylai lleoliadau a sefydliadau sy’n berchen ar, gweithredu neu sy’n gyfrifol am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd, baratoi eu staff i ymateb yn briodol pe byddai ymosodiad terfysgol i ddiogelu eu hunain ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd sy’n bresennol yn y ffordd orau

Cyfanswm yr ymatebwyr: 2345

Cytuno/Cytuno’n gryf Ddim yn cytuno nac yn anghytuno Anghytuno/anghytuno’n gryf
71% 11% 18%

Teimlai 71% o’r ymatebwyr i gwestiwn dau y dylai fod gan sefydliadau rwymedigaeth i baratoi eu gweithwyr yn briodol i ymateb yn briodol i ymosodiad.

C6. Rydym yn cynnig y dylai gofyniad i ystyried diogelwch a gweithredu mesurau lliniaru priodol mewn lleoliad fod yn eiddo i berchennog a/neu weithredwr y lleoliad. Ydych chi o’r farn bod hyn yn briodol?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 2349

Ydw Nac ydw
67% 33%

Wrth ystyried pwy ddylai fod yn berchen ar ofynion y Ddyletswydd mewn lleoliad, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr o’r farn ei bod yn briodol i berchnogion neu weithredwyr lleoliad fod yn berchen arnynt.

I’r rhai a ymatebodd “nac ydw”, rhoddwyd cyfle iddynt yng nghwestiwn saith i ddarparu gwybodaeth atodol i esbonio pam. Y farn fwyaf poblogaidd, gyda 136 o grybwyllion, oedd mai’r Heddlu sydd â’r cyfrifoldeb. Roedd yr ymatebion mwyaf cyffredin nesaf yn canolbwyntio ar adnoddau sefydliad a’u heffeithiau cyfyngol - yn ariannol (122) a thrwy beidio â chael digon o staff i reoli’r cyfrifoldeb ychwanegol (116).

C8. Rydym yn cynnig, os oes cyfrifoldeb sefydliadol a rennir am leoliad, neu sefydliadau lluosog sy’n gweithredu mewn lleoliad o fewn y cwmpas, y byddai’n rhaid i’r partïon gydweithio i fodloni’r gofynion. Ydych chi o’r farn bod hyn yn briodol?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 1198

Ydw Nac ydw
82% 18%

Roedd nifer nodedig o ymatebwyr i gwestiwn wyth, 82%, yn teimlo y dylai partïon orfod cydweithio i ystyried gofynion diogelwch lle mae cyfrifoldeb ar y cyd am leoliad. O’r 18% o’r ymatebion a deimlai na ddylai sefydliadau lluosog gydweithio i fodloni gofynion y Ddyletswydd, rhoddodd cwestiwn naw gyfle i amlinellu pam. Nododd ymatebwyr y gallai hyn fod yn broblem i lawer o sefydliadau, yn enwedig y rhai mewn sectorau gwirfoddol neu gymunedol.Safbwyntiau eraill a gyflwynwyd yn llai cyffredin oedd y gallai cyfrifoldeb a rennir arwain at ddryswch ynghylch neilltuo cyfrifoldeb ac osgoi atebolrwydd, gan arwain at yr awgrym y dylai un parti arwain, pwy bynnag fyddai hwnnw.  

Eithriadau o’r Ddyletswydd

Disgrifiodd Atodiad 1 yr ymgynghoriad cyhoeddus feysydd y gellid eu heithrio o ofynion o dan y Ddyletswydd, gan fod gofynion deddfwriaethol eisoes ar waith sy’n debygol o gyflawni canlyniadau tebyg i’r rhai a gynigir gan y Ddyletswydd.Roedd y rhain yn ymwneud â thrafnidiaeth yn bennaf ac roeddent yn cynnwys elfennau o’r sectorau rheilffyrdd, awyrennau a morol. I ategu’r cynigion hyn, gofynnodd yr ymgynghoriad am farn y cyhoedd ynghylch a oeddent yn teimlo y dylid cael unrhyw eithriadau neu waharddiadau ychwanegol o’r Ddyletswydd.

C16. Gan gyfeirio at Atodiad 1, a ydych o’r farn y dylid cael eithriadau eraill o Ddyletswydd Diogelu?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 2340

Ydw Nac ydw
42% 58%

I’r rhai a awgrymodd y dylid cael eithriadau pellach i’r rhai a amlinellir yn atodiad 1 yr ymgynghoriad cyhoeddus, roedd yr ymatebion mwyaf cyffredin yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Eithriadau yn seiliedig ar asesiadau risg;
  • Eithriadau yn seiliedig ar leoliadau gwledig; a
  • Eithriadau sy’n seiliedig ar weithgarwch yn canolbwyntio’n benodol ar leoliadau cymunedol, gwirfoddol a ffydd.

Wrth ystyried mathau penodol o leoliadau, cafwyd ymateb cryf i’r ymgynghoriad gan Addoldai. Roeddent, ymhlith sefydliadau gwirfoddol a llai, yn ceisio cael eu heithrio oherwydd pryderon ynghylch goblygiadau ariannol, y baich ar weithrediadau ac mewn rhai achosion, lleoliadau gwledig.

Ystyriaethau Eraill

Ar gyfer cwestiwn pedwar ar ddeg, cadarnhaodd 93% o’r ymatebwyr ddealltwriaeth o’r diffiniad o leoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd a sut mae eu sefydliad yn dod o’i fewn. Er bod hon yn gyfran uchel, mae’n hanfodol bod yr holl wybodaeth am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd, a’r Ddyletswydd yn gyffredinol, mor gryno a dealladwy â phosibl i bawb o fewn y cwmpas.

ADRAN 2: BETH DDYLAI’R GOFYNION FOD?

Cyflwynodd Adran 2 o’r ymgynghoriad dri ar hugain o gwestiynau a oedd yn gofyn am adborth ynghylch ystyriaethau diogelwch a pharodrwydd amddiffynnol posibl a gynhelir ar hyn o bryd gan randdeiliaid a gofynion posibl ar gyfer sefydliadau o dan y Ddyletswydd.

DiogelwchAmddiffynnol a Pharodrwydd

Prif ffocws y Ddyletswydd yw gwella mesurau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd. Byddai mesurau priodol yn cael eu nodi mewn ymateb i asesiadau risg, a gofynnwyd y canlynol i’r rhai a ymatebodd i’r arolwg:

C19. A yw eich sefydliad yn cynnal asesiad risg ar gyfer terfysgaeth ar hyn o bryd?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 1083

Ydy Nac ydy
50% 50%

I’r 50% o’r ymatebwyr i gwestiwn pedwar ar bymtheg sy’n cynnal asesiadau risg ar hyn o bryd, darparodd eu mewnbwn i’r ymgynghoriad y data canlynol:

  • mae 83% yn cynhyrchu’r asesiad risg o fewn eu sefydliad tra bod yr 17% sy’n weddill yn rhoi’r broses ar gontract allanol; a
  • Mae’r rhai sy’n cynhyrchu asesiadau risg yn treulio pedwar diwrnod y flwyddyn ar gyfartaledd ar y dasg hon

Cyflwynir dadansoddiad o ba mor aml y caiff asesiadau risg eu hadolygu gan y rhai a ymatebodd isod.

C22. Pa mor aml y mae eich sefydliad fel arfer yn adolygu’r asesiad risg hwn?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 977

Sawl gwaith y flwyddyn Tuag unwaith y flwyddyn Tuag unwaith bob dwy flynedd Tuag unwaith bob tair blynedd neu fwy Arall
41% 37% 6% 4% 12%

Rhoddwyd cyfle i ymatebwyr, drwy gwestiwn tri ar hugain, fanylu ar y mesurau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd y maent yn eu defnyddio ar hyn o bryd i fynd i’r afael â bygythiadau terfysgol o restr a ddarparwyd. Mae’r canlyniadau hyn yn rhoi syniad o ba fesurau y mae sefydliadau’n eu cael fwyaf defnyddiol neu hawdd eu defnyddio ar hyn o bryd.Y tri mesur diogelwch a ddewiswyd fwyaf a ddefnyddir gan ymatebwyr oedd:

C23. Pa fesurau lliniaru yn erbyn risgiau terfysgaeth y mae eich sefydliad yn ymgymryd â hwy ar hyn o bryd?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 1083

Cysylltu â’r heddlu neu adnodd arall (e.e., ymgynghorydd diogelwch) ar fygythiadau a mesurau diogelwch priodol Gweithio i sicrhau bod ymddygiadau diogelwch yn cael eu mabwysiadu gan y gweithlu Cynhelir hyfforddiant staff i godi ymwybyddiaeth o’r bygythiad a beth i’w wneud
529 502 498

Fe wnaeth cwestiwn pedwar ar hugain ofyn i ymatebwyr am yr adnoddau ariannol a ddarperir gan eu sefydliad bob blwyddyn ar gyfer mesurau lliniaru yn erbyn ymosodiadau terfysgol; Darparodd 25% o’r ymatebwyr i’r cwestiwn hwn ffigur a arweiniodd at gyfartaledd canolrifol cyffredinol o £20,000 a chyfartaledd cymedrig o £9,640,000. Y ddau ymateb testun rhydd mwyaf cyffredin a amlygwyd oedd nad oedd sefydliadau’n gwario llawer iawn yn ariannol, neu fod unrhyw arian a wariwyd yn benodol i ddigwyddiadau.

Mesurau cyfredol i ddarparu diogelwch mewn mannau cyhoeddus

Ystyriodd yr ymgynghoriad y potensial ar gyfer gofynion penodol o dan Ddyletswydd Diogelu i wella diogelwch mewn mannau cyhoeddus agored. Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa weithgareddau a mecanweithiau presennol a oedd yn gwireddu’r mesurau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd sefydliadol gorau mewn mannau cyhoeddus.

C25. Beth yw’r gweithgareddau a’r mecanweithiau presennol sydd, yn eich barn chi, yn arwain at y canlyniadau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd sefydliadol gorau mewn mannau cyhoeddus?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 1083

Cyrsiau codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff Ymgyrchoedd cyfathrebu e.e., Action Counters Terrorism a “See ItSay It.Sorted.” Cynhyrchion ac offer cyngor ac arweiniad
698 642 476

Mae’r canlyniadau’n amlygu gwerth clir a osodir gan ymatebwyr ar offer addysgol, deunydd hyfforddi, ac ymgyrchoedd cyfathrebu a negeseua cynhwysfawr a hygyrch.

Rhoddodd cwestiynau pellach yn yr ymgynghoriad gyfle i ni geisio syniadau ychwanegol am swyddogaethau presennol Awdurdodau Lleol sy’n gwireddu canlyniadau sy’n fuddiol ar gyfer lliniaru bygythiadau terfysgol:

C26. Beth yw swyddogaethau presennol awdurdodau lleol sy’n arwain ar hyn o bryd at y canlyniadau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd sefydliadol gorau mewn mannau cyhoeddus?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 1083

Iechyd a Diogelwch, Diogelwch Tân a phrosesau rheoli adeiladu Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch (ar gyfer digwyddiadau) Partneriaethau Diogelwch Cymunedol Pwyllgor Trwyddedu (gwerthu alcohol ac adloniant hwyr y nos) Trwyddedu ar gyfer Diogelwch Meysydd Chwaraeon
643 477 442 382 345

Gweithio gyda’n gilydd i wella diogelwch mewn mannau cyhoeddus

Er mwyn gwireddu’r Ddyletswydd, mae’n allweddol bod sefydliadau dan fandad yn deall y risgiau a achosir ac yn cydweithio i’w lliniaru lle bo hynny’n briodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer mannau cyhoeddus, lle y gallai sawl parti fod yn gyfrifol am ystyried diogelwch sy’n gysylltiedig â digwyddiad mawr, neu leoliad gyda defnydd rheolaidd a rhagweladwy gan y cyhoedd.

Roedd cwestiwn naw ar hugain yn canolbwyntio ar sut y gellid annog y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau o’r fath i ymgysylltu â sefydliadau partner i ystyried a lliniaru bygythiadau orau.Roedd hwn yn gwestiwn testun rhydd, ac roedd y deg ymateb grŵp dibaid uchaf fel a ganlyn:

C29. Sut y gallai sefydliadau sy’n gweithio mewn mannau cyhoeddus gael eu hannog neu eu gorfodi i ymgysylltu â sefydliadau partner (e.e., yr heddlu) i sicrhau bod gwell dealltwriaeth o fygythiad terfysgol, rheoli risg a mesurau lliniaru?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 1397

Nifer yr ymatebwyr
Ymgysylltu â’r heddlu 195
Gwneud ymgysylltu’n orfodol a’i ddeddfu 180
Gwella cydweithio 130
Cynnull cyfarfodydd a fforymau lleol 129
Hyfforddiant 118
Gwneud ymgysylltu yn amod trwyddedu 96
Darparu canllawiau clir 85
Mwy o ymweliadau a gwiriadau gan yr heddlu 80
Darparu cyllid ac adnoddau 76
Darparu cyngor a gwybodaeth 73

Amlygodd yr ymatebion yr angen am ddeddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol i bob parti ystyried bygythiadau a mesurau lliniaru, a hefyd ymgysylltu a chyfathrebu effeithiol rhwng sefydliadau partner, gan ddefnyddio ystod eang o ddulliau i wneud hynny.

Roedd cydweithio a rhannu arfer gorau yn nodweddion allweddol o’r ymatebion, yn ymwneud â chwestiynau o’r safonau disgwyliedig ar gyfer diogelwch y cyhoedd drwy gydol yr ymgynghoriad. Gofynnodd cwestiwn tri deg am farn ar y potensial ar gyfer gofyniad deddfwriaethol i awdurdodau lleol a phartneriaid ymroddedig eraill ddatblygu amrywiaeth o gynlluniau i fynd i’r afael â therfysgaeth a sicrhau diogelwch y cyhoedd; Rhoddodd 35% o’r ymatebwyr ymateb cadarnhaol i’r cysyniad hwn tra bod 41% yn gwrthwynebu a 24% yn ymateb heb unrhyw farn ynghylch cymorth.Awgrymiadau allweddol a gymerwyd o’r cwestiwn hwn oedd y dylai unrhyw gynlluniau fod yn gymesur â’r risg, gyda chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n glir a digon o adnoddau i’w gweithredu.

Gofynnodd cwestiwn tri deg dau i ymatebwyr pa sefydliadau yr oeddent yn eu hystyried oedd yn y sefyllfa orau i arwain ar adeiladu perthnasoedd o’r fath i ystyried bygythiad yn ymwneud â mannau cyhoeddus.

C32. Pa sefydliad/sefydliadau a allai chwarae rhan flaenllaw wrth ddod â phartneriaethau o’r fath at ei gilydd a’u cynnull?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 1631
Awdurdodau Lleol 20%
Gwasanaethau Brys 7%
Busnesau a Pherchnogion Busnes 6%
Adrannau’r Llywodraeth, gan gynnwys y Swyddfa Gartref 6%
Cynlluniau Cymunedol 4%
Cymuned Cudd-wybodaeth y DU 3%
Heddlu CT, gan gynnwys. NaCTSO 3%
Awdurdod y Diwydiant Diogelwch 3%
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch 2%
Arall 46%

Mae’r canlyniadau a gyflwynwyd yn tanlinellu bod ymatebwyr o’r farn y gallai Awdurdodau Lleol, ac wedi hynny’r Gwasanaethau Brys, busnesau a’r Llywodraeth, chwarae rhan bwysig wrth ddod â phartneriaethau at ei gilydd a allai ystyried materion yn ymwneud â diogelwch mewn mannau cyhoeddus.

Wrth archwilio gwaith partneriaeth ar draws safleoedd sydd eisoes â, neu a allai fod â gofyniad deddfwriaethol i ystyried diogelwch, roedd 77% o’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn yn cefnogi’r cynnig yng nghwestiwn tri deg pump ei fod yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau perthnasol (er enghraifft y rhai sy’n ymwneud â safle lle mae deddfwriaeth diogelwch trafnidiaeth yn berthnasol) weithio mewn partneriaeth i sicrhau canlyniadau diogelwch. Ychwanegodd y rhai sy’n darparu cymorth y byddai gweithio mewn partneriaeth yn lleihau gwendidau safleoedd ac yn y pen draw y byddai o fudd i bob parti yn gyfannol, gan gynnwys y rhai o gwmpas safleoedd cyhoeddus.

Cyngor diogelwchcyfredol gan y Llywodraeth

Fe wnaeth cwestiwn tri deg chwech ofyn i’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad os oeddent yn teimlo ei bod yn briodol i ganllawiau diogelwch cyfredol y Llywodraeth (e.e., mewn perthynas â gweithredwyr bysiau a choetsys) ddod yn ganllawiau deddfwriaethol o dan y Ddyletswydd Diogelu i sicrhau mwy o sicrwydd o ystyriaethau diogelwch mewn lleoliadau yr effeithir arnynt. O’r rhai a ymatebodd i’r cwestiwn hwn, cefnogodd 65% y mesur hwn, yn bennaf yn y gred y byddai’n sicrhau bod sefydliadau’n cydymffurfio ac yn creu dull cyson, gan gyfrannu at y thema gyffredin i wella diogelwch y cyhoedd yn gyffredinol, fel y gwelir drwy gydol yr ymatebion i’r ymgynghoriad.O’r rhai a wrthwynebodd, y farn allweddol oedd bod y canllawiau presennol yn ddigonol, na fyddai deddfwriaeth o’r fath yn caniatáu hyblygrwydd ac y gallai ychwanegu costau ychwanegol.

Cafwyd ymateb tebyg ar gyfer cwestiwn tri deg saith wrth ystyried canllawiau diogelwch ar gyfer cynhyrchion y gellid eu defnyddio fel arf ac a ddylai sefydliadau gael rhwymedigaeth i gydymffurfio o dan y Ddyletswydd; roedd 62% o’r ymatebwyr i’r cwestiwn hwn yn cefnogi gofyniad o’r fath gyda’r un esboniadau cyffredin o’r cymorth a roddwyd i gwestiwn tri deg chwech. Cododd y rhai a oedd yn cefnogi ac yn gwrthwynebu’r ddau y mater y byddai angen i unrhyw ganllawiau fod yn bendant iawn ynghylch y math o arfau dan sylw, yn bennaf oherwydd y gellir trin unrhyw wrthrych fel arf.

Goblygiadauariannol y Ddyletswydd

Pwnc dibaid drwy gydol yr ymgynghoriad a’i ymatebion oedd pryder y gallai’r Ddyletswydd effeithio’n negyddol ar sefydliadau o safbwynt ariannol. Cefnogwyd yr ymgynghoriad gan Atodiad 3 a oedd yn amlygu’r costau posibl sy’n gysylltiedig â’r ddyletswydd, ynghyd â’r manteision dilynol i’r rhai yr effeithir arnynt. Fe wnaeth cwestiwn deugain gynnig cyfle i’r rhai a ymatebodd roi sylwadau ar nodyn effaith Atodiad 3.

Dangosodd dadansoddiad fod 66% o’r ymatebwyr i’r cwestiwn hwn yn anghytuno â’r amcangyfrifon cost a budd. Mae’r prif resymau dros anghymeradwyo yn cynnwys:

  • Costau ychwanegol cyffredinol, nid yn unig i fusnesau ond i’r pwrs cyhoeddus, megis gofynion plismona ychwanegol oherwydd y mesurau gorfodi.
  • Posibilrwydd o gau sefydliadau oherwydd costau ychwanegol. Yn benodol, barnwyd bod busnesau bach, elusennau, mudiadau gwirfoddol a mannau addoli yn wynebu’r risg fwyaf.
  • Y cynnydd posibl mewn costau yswiriant.
  • Amhendantrwydd cost a gorddatgan buddion.

Nodwyd llawer o’r rhesymau uchod hefyd drwy ymatebion i gwestiynau eraill yn yr ymgynghoriad. Mae’r canfyddiadau wedi’u bwydo i mewn i’n cynigion a bydd Asesiad o’r Effaith ar Ddyletswydd yn cael ei gwblhau i ystyried goblygiadau ariannol ymhellach, ochr yn ochr ag unrhyw effaith ehangach.

ADRAN 3: SUT Y DYLAI CYDYMFFURFEDD WEITHIO?

Gofynnodd Adran 3 o’r ymgynghoriad am farn drwy dri chwestiwn ynghylch sut y gellid cydymffurfio â gofynion y Ddyletswydd drwy ddatblygu trefn arolygiaeth a sancsiynau priodol am beidio â chydymffurfio.Byddai arolygiaeth effeithiol yn elfen allweddol i oruchwylio effeithiolrwydd y Ddyletswydd o ran gwella diogelwch y cyhoedd ymhellach, darparu cyngor ac addysg briodol, a, lle bo angen, cymryd sancsiynau priodol.

Rhagolwg ar gyfer Arolygiaeth Dyletswydd Diogelu

Fe wnaeth cwestiwn pedwar deg dau ofyn am farn ynghylch sut y gellid defnyddio swyddogaeth arolygiaeth i wella diwylliant diogelwch sefydliadol, yn unol â nod ragweledig y Ddyletswydd Diogelu.Fe wnaethom ofyn am ymateb testun rhydd ac ar y dechrau dadansoddwyd data gan y 385 o gyfranogwyr a ddarparodd ymatebion i gefnogi neu wrthwynebu trefn arolygu. O’r ymatebwyr hynny, roedd rhaniad cyfartal o blaid (194) ac yn erbyn (191).

I’r rhai sy’n cefnogi, mae’r themâu mwyaf cyffredin yn canolbwyntio ar allu arolygiaeth i nodi meysydd allweddol ar gyfer gwella neu wendidau, gweithredu fel modd o rannu arfer gorau, a chyflawni un o amcanion allweddol y Ddyletswydd - sef gwella diogelwch y cyhoedd.Yn ogystal, barn boblogaidd oedd bod y mesurau a gynigiwyd fel rhan o arolygiaeth y Ddyletswydd yn hir-ddisgwyliedig ac yn angenrheidiol.

I’r gwrthwyneb, awgrymodd y rhai a oedd yn anghytuno â swyddogaeth arolygu ei fod yn ddull gweithredu llawdrwm a allai fod â goblygiadau ariannol sylweddol a nodwyd heriau a allai godi, yn enwedig o ran bwrw ymlaen â chamau gorfodi.

Cyflwyniad a Mecanweithiau Gweithredu’r Arolygiaeth

Yng nghwestiwn pedwar deg pedwar, rhoddwyd cyfle i’r cyfranogwyr roi sylwadau atodol ynghylch sut y gallai trefn arolygu a gorfodi weithredu orau.Cafwyd ystod eang o ymatebion, a llawer o fesurau penodol manwl a allai sicrhau cydymffurfedd â’r Ddyletswydd yn unol â’r tabl isod.

C44. Mesurau cydymffurfio a awgrymwyd gan ymatebwyr

Cyfanswm yr ymatebwyr: 1780

Nifer yr ymatebwyr
Hyfforddiant 115
Ymweliadau neu arolygiadau rheolaidd 104
Archwiliadau 65
Cosbau neu gosbedigaethau 64
Gwiriadau neu hapwiriadau 56
Atgynhyrchu mesurau Iechyd a Diogelwch 56
Ymweliadau neu arolygiadau dirybudd rheolaidd 46
Ymweliadau neu arolygiadau blynyddol 44
System achredu 44
Hunanasesiadau 43

Rhoddodd ymatebwyr eraill farn fwy strategol, gan amlinellu ystyriaethau i’w gwneud cyn cyflwyno unrhyw system.Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd bod angen i unrhyw arolygiaeth addysgu’r rhai yr effeithir arnynt yn ddigonol drwy ddarparu cyngor cynhwysfawr o’r dechrau a defnyddio arfer gorau o fodelau tebyg. Themâu rheolaidd eraill mewn perthynas â swyddogaeth Arolygu a gorfodi y Ddyletswydd oedd y dylai:

  • Gael ei seilio ar ddull syml a hyblyg, wedi’i deilwra i wahanol sefydliadau
  • Ymgymryd â chyfathrebu, ymgysylltu a chydweithredu effeithiol
  • Datblygu system gyson a thryloyw
  • Cyfuno ag arolygiaethau eraill, megis Iechyd a Diogelwch neu gyfundrefn drwyddedu
  • Rhoi cyfle i sefydliadau roi adborth i’r broses arolygu a gorfodi; a
  • Dylai fod gan sefydliadau o fewn cwmpas rolau a chyfrifoldebau clir

Er mwyn sicrhau cyfranogiad gan y rhai sy’n dod o dan gwmpas y Ddyletswydd, rhaid ystyried sut y caiff diffyg cydymffurfio ei asesu, a chymryd camau gorfodi. Amlinellodd yr ymgynghoriad y potensial ar gyfer defnyddio cosbau sifil (dirwyon) i’r rhai sy’n methu ag ystyried a bwrw ymlaen â mesurau diogelwch rhesymol.Roedd cwestiwn pedwar deg tri yn ceisio barn ar ddefnyddio dirwyon, gan ofyn barn y rhai a oedd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ynghylch a oeddent o’r farn ei fod yn sancsiwn rhesymol.

O’r rhai a ddewisodd ddarparu sylw testun rhydd, roedd 29% yn cefnogi, roedd 31% yn gwrthwynebu’r cysyniad, a rhoddodd y 40% arall ymatebion gyda sylwadau eraill.Nododd y rhai a oedd yn cefnogi y byddai defnyddio cosbau sifil yn cynyddu cydymffurfedd, derbyniad ac atebolrwydd sefydliadol. Roedd rhai’n teimlo bod angen mesurau o’r fath er mwyn i gyfundrefn o’r fath weithredu’n briodol ac y byddent, yn y pen draw, yn helpu i wella diogelwch y cyhoedd.Awgrymodd y rhai a wrthwynebodd fod cosbau sifil yn annheg, na ddylid cosbi sefydliadau yn hytrach na’r terfysgwyr, roedd cynlluniau i’w cychwyn yn amwys ar hyn o bryd, y byddai’n gostus i sefydliadau, y gallai arwain yn y pen draw at gau busnesau, ac y byddai’n her i’w gorfodi.

Gwnaeth rhai ymatebwyr awgrymiadau yr oeddent yn ystyried y byddent yn gwella’r cynigion ynghylch arolygu a gorfodi fel y’u cyflwynwyd yn yr ymgynghoriad. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Dim ond defnyddio cosbau sifil fel opsiwn olaf mewn achosion o fethu’n barhaus â chydymffurfio
  • Addysgu’r rhai sydd o fewn cwmpas y Ddyletswydd yn hytrach na gorfodi cosbau sifil
  • Datblygu graddfa raddol o gosbau sifil i’r rhai sy’n anwybyddu gofynion yn barhaus fel rhan o’r Ddyletswydd; ac
  • Alinio cosbau sifil â’r rhai mewn rheoliadau Iechyd a Diogelwch.

Yn ogystal, cynigiwyd dewisiadau eraill hefyd i’r defnydd o sancsiynau sifil gan gynnwys:

  • Cymellarfer gorau drwy wobrau neu grantiau;
  • System sgorio gyhoeddus;
  • Cau sefydliadau dros dro neu’n barhaol; ac
  • Erlyniad troseddol.

Ystyriaethau Eraill

O ran cosbau sifil o fewn cwestiwn pedwar deg tri, gwelwyd bod y derminoleg o “gamau rhesymol” yn cael ei hystyried yn aneglur i rai, a nodwyd y byddai diffiniad mwy cynhwysfawr yn werthfawr fel rhan o unrhyw ddeddfwriaeth. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i’r term “rhesymol ymarferol”, ac unrhyw ofynion tebyg eraill a ddiffinnir mewn deddfwriaeth a Chanllawiau sy’n rhan o fodel gorfodi.

ADRAN 4: SUT Y DYLAI’R LLYWODRAETH GEFNOGI A GWEITHIO GYDA PHARTNERIAID ORAU?

Roedd Adran 4 yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar sut y mae’r Llywodraeth ar hyn o bryd yn rhoi cyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n gyfrifol am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd, a sut y gallai’r ymdrechion hyn gael eu gwella a chynyddu mecanweithiau newydd i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Ddyletswydd Diogelu; cyflwynwyd pedwar ar ddeg o gwestiynau i archwilio’r themâu hyn.

Cyngor, arweiniad a chymorth

Roedd cwestiwn pedwar deg wyth yn darparu amrywiaeth o fecanweithiau i ddarparu cyngor, mathau o wybodaeth ac offer a allai gynorthwyo sefydliadau i gydymffurfio â’r Ddyletswydd Diogelu a gofynnodd pa rai a fyddai fwyaf defnyddiol yn eu barn hwy.

C48. Beth fyddech chi’n ei gael fwyaf defnyddiol i’ch helpu i gydymffurfio â Dyletswydd Diogelu? (Cyfanswm yr ymatebwyr: 1083)

Canran yr ymatebwyr a oedd yn teimlo y byddai mesur yn ddefnyddiol o ran cynorthwyo cydymffurfedd (%)
Un gwasanaeth digidol lle gallech gyrchu deunydd, cyngor a hyfforddiant perthnasol mewn un lle 74%
Templed asesu risg 73%
Gwybodaeth am gynnal asesiad risg ar gyfer bygythiadau terfysgaeth 62%
Gwybodaeth hawdd ei dreulio ynglŷn â bygythiad a methodolegau ymosod 62%
Cyngor ar yr hyn sy’n gyfystyr â mesurau lliniaru rhesymol ymarferol a phriodol sy’n briodol ar gyfer fy amgylchiadau 61%
Cyrsiau hyfforddi ac ymwybyddiaeth staff 60%
Cyngor yn ymwneud â sut y gall sefydliad baratoi ar gyfer ymosodiad terfysgol 55%
Cyngor yn ymwneud â mesurau lliniaru ar gyfer diogelwch amddiffynnol 54%
Cynhyrchion e-ddysgu 54%
Cyngor yn ymwneud â diogelwch personél a phobl 53%

Yn ogystal, roedd opsiwn i ddarparu ymateb drwy destun rhydd. Y canlynol oedd yr ymatebion wedi’u grwpio fwyaf cyson a ystyriwyd yn ddefnyddiol i gynorthwyo cydymffurfedd:

  • Canllawiau sy’n benodol i sefydliad
  • Cymorth gan yr Heddlu lleol; a
  • Cyllid i weithredu’r Ddyletswydd

Roedd cwestiynau hanner cant a chwech a hanner cant a saith yn gofyn i’r cyfranogwyr pa gyngor a chymorth fyddai eu hangen ar gyfer y rhai sy’n gyfrifol am sefydliadau a lleoliadau o fewn cwmpas y Ddyletswydd Diogelu, a’r rhai a allai fod yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth mewn mannau cyhoeddus.

Roedd rhai o’r themâu mwyaf cyffredin yn cynnwys:

Sicrhau bod cyngor yn benodol i’r sector ac nad yw wedi’i gynllunio i gynnwys pawb. Amlygwyd addoldai, mudiadau gwirfoddol a busnesau llai sy’n gweithredu o fewn yr un lleoliad fel enghreifftiau arbennig o bwysig o ble y byddai angen cyngor penodol i ddefnyddwyr.

Ffocws cryf ar eglurder, gyda chanllawiau manwl clir ar gael i bawb. Mae hyn hefyd yn ymestyn i rolau a chyfrifoldebau, gan sicrhau bod disgwyliadau ar gyfer pobl gyfrifol wedi’u diffinio’n dda, yn enwedig mewn perthynas â’r rhai sy’n gweithredu ar draws mannau cyhoeddus neu gyda phartïon lluosog.Cyfeiriodd rhai at bwy ddylai fod yn darparu cyngor diogelwch arbenigol a’r rhai y cyfeiriwyd atynt fwyaf oedd arbenigwyr yn y diwydiant diogelwch, Cynghorwyr Diogelwch Gwrthderfysgaeth a’r Heddlu.

Ystyriwyd bod cyfathrebu’n fater o arwyddocâd cryf, gyda’r awgrym y dylid cael pwyntiau cyswllt penodol ar gyfer y rhai sydd o fewn cwmpas. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymateb cryf ynghylch pwysigrwydd ymgysylltu ar lefel leol â phartïon ymroddedig gan gynnwys yr Heddlu, Awdurdodau Lleol a’r sector diogelwch preifat.

Datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddiogelwch drwy amrywiaeth o fformatau hawdd eu cyrraedd megis ymgyrchoedd hysbysebu, posteri, sesiynau briffio, cylchlythyrau a fforymau ar-lein.

Profi cyllid ac adnoddau digonol lle mae effaith bosibl ar sefydliadau sy’n benodol i’r sector megis Addoldai neu sefydliadau gwirfoddol a hefyd i’r rhai a allai gefnogi’r Ddyletswydd, megis yr Heddlu ac Awdurdodau Lleol.

Amlygwyd pwysigrwydd rhannu gwybodaeth, gan gynnwys dosbarthu arfer gorau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gofynnodd yr ymatebwyr i unrhyw wybodaeth a ddarperir gael ei hadolygu a’i diweddaru’n rheolaidd. Rhoddwyd arwyddocâd ychwanegol ar lefel leol o ran manteision Ardaloedd Gwella Busnes a Fforymau Cydnerthedd Lleol.

Ystyried hyfforddiant hyblyg fel ystafell ddosbarth, ymarferol ac ar-lein, yn enwedig wedi’i gyfeirio at safleoedd neu leoliadau y gallai fod angen deunydd pwrpasol arnynt, megis Addoldai a sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol. Asesiadau risg oedd y cynnyrch a grybwyllwyd fwyaf a oedd yn gofyn am hyfforddiant a chymorth ychwanegol.

Roedd ystyriaethau eraill llai a grybwyllwyd yn cynnwys:

  • Canllawiau ynghylch mesurau diogelwch ffisegol, yn arbennig teledu cylch cyfyng
  • Gweithlu ychwanegol i gefnogi’r rhai sydd o fewn cwmpas, Cynghorwyr Diogelwch Gwrthderfysgaeth a’r Heddlu yn bennaf
  • Cymorth pellach gydag asesiadau risg a’r broses gydymffurfio, gan sicrhau bod digon o amser yn cael ei roi i sefydliadau weithredu polisïau a chynlluniau; a
  • Sicrhau bod cyngor yn rheolaidd, yn gyson ac yn realistig (gan gynnwys gwybodaeth am lefelau bygythiad).

Er mwyn asesu’r defnydd a gwerth y cyngor a ddarperir ar hyn o bryd gan y Llywodraeth ar ddiogelwch amddiffynnol, parodrwydd a bygythiadau, gofynnodd cwestiwn pedwar deg pump i ymatebwyr sy’n gweithredu neu’n berchen ar sefydliadau neu leoliadau a oeddent yn cyrchu deunydd o’r fath.

A ydych ar hyn o bryd yn cyrchu cyngor gan y Llywodraeth (yn bennaf o Blismona Gwrthderfysgaeth a’r Ganolfan Diogelu Seilwaith Cenedlaethol) ynghylch bygythiad, diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd?

Cyfanswm yr ymatebwyr: 1083

Ydw Nac ydw
55% 45%

I’r 55% o’r ymatebwyr i gwestiwn pedwar deg pump a nododd eu bod yn cyrchu cyngor gan y Llywodraeth, nodwyd mai’r canlynol oedd yr agweddau mwyaf gwerthfawr a ddarperir ac a ddefnyddir:

  • Cynghorwyr Diogelwch Gwrthderfysgaeth
  • Lefelau bygythiad, a methodolegau ymosodiadau cyffredinol, cyfredol, lleol a phenodol
  • Amlygwyd cynhyrchion hyfforddi a chyngor y Llywodraeth gydag ACT, “Run Hide Tell” a PREVENT; a
  • Adrannau’r Llywodraeth gan gynnwys CPNI a NaCTSO

Ystyriaethau eraill a werthfawrogwyd oedd:

  • Cylchredeg cudd-wybodaeth
  • Hygyrchedd gwybodaeth
  • Lleoliad a chefnogaeth i ddigwyddiadau
  • Diweddariadau uniongyrchol drwy negeseuon neu’r rhyngrwyd; a
  • Canllawiau Lleoliadau sy’n Hygyrch i’r Cyhoedd, canllawiau Lleoedd Gorlawn gynt.

I’r rhai nad ydynt yn cael cyngor gan y llywodraeth ar hyn o bryd, dywedodd 26% nad oeddent yn gwybod ei fod yn bodoli, nid oedd 24% yn teimlo bod angen iddynt fynd i’r afael â’r bygythiad, nid oedd gan 9% yr amser i gyrchu’r deunydd a 4% yn ei chael yn rhy ddryslyd.O’r rhai a ddewisodd ddarparu eu hymateb eu hunain, y meddyliau mwyaf cyffredin oedd bod y risgiau’n cael eu hystyried yn fach iawn, eu bod yn defnyddio ffynonellau eraill yn lle hynny, neu nad oeddent yn teimlo bod y cyngor a’r arweiniad a ddarparwyd ar hyn o bryd yn ddefnyddiol.

Cydweithio

Roedd cwestiwn pum deg wyth yn rhoi cyfle i gyfranogwyr yn yr ymgynghoriad roi eu mewnbwn ynghylch sut y gallai’r Llywodraeth gefnogi cydymffurfiedd â’r Ddyletswydd orau.Roedd y brif thema mewn ymateb i’r cwestiwn hwn yn canolbwyntio ar adnoddau a lle y dylid cyfeirio cyllid. Y sefydliadau a grybwyllwyd fwyaf oedd y Gwasanaethau Brys, Awdurdodau Lleol, Fforymau Cydnerthedd Lleol, Gwasanaethau Diogelwch a’r Heddlu.

Roedd themâu eraill a oedd yn codi dro ar ôl tro drwy gydol yr ymatebion o Adran 4 yn cynnwys yr angen am:

  • Cyngor ac arweiniad clir, personol o un ffynhonnell
  • Hyfforddiant i’r rhai o fewn y cwmpas, a’r rhai sy’n gorfodi’r Ddyletswydd, drwy weithwyr proffesiynol cymwysedig o asiantaethau lluosog am ddim cost; a
  • Rhoi cyfle i sefydliadau lleol gael eu clywed gyda digon o amser a chefnogaeth i gwblhau asesiadau risg yn briodol.

Gan ehangu ar y pwnc o gydweithio, gofynnodd yr ymgynghoriad am farn ar y rôl y gallai partneriaethau busnes lleol (fel Ardaloedd Gwella Busnes, partneriaethau Menter Leol, ac ati) ei chwarae wrth gefnogi sefydliadau a lleoliadau i sicrhau gwell diogelwch drwy gwestiwn pum deg tri ; roedd 83% o’r ymatebwyr i’r cwestiwn hwn yn hyrwyddo rôl partneriaethau busnes lleol yn y rôl hon, gyda phwysigrwydd cydweithio rhwng partïon ymroddedig yn cael ei amlygu fel yr ymateb amlycaf.Roedd awgrymiadau eraill ynghylch pa rôl y gallai partneriaethau busnes lleol ei chwarae o ran cymorth yn cynnwys:

  • Cydlynu rheoli risg
  • Trefnu cyfarfodydd a fforymau
  • Darparu gwybodaeth leol
  • Cefnogi ac annog sefydliadau o fewn a thu allan i gwmpas y Ddyletswydd Diogelu
  • Cyfathrebu a chysylltu, yn enwedig ar-lein, â’r holl randdeiliaid lleol ymroddedig; a
  • Datblygu polisïau a chynlluniau gweithredu lleol.

Am y 17% a oedd yn anghytuno y gallai partneriaethau busnes lleol chwarae rôl gefnogol, diffyg arbenigedd awgrymedig oedd y prif reswm a roddwyd.Yn ogystal, roedd rhai ymatebwyr o’r farn nad oedd hon yn rôl briodol i bartneriaethau o’r fath o ran cyfrifoldeb ac y dylai fod yn aelod o’r Heddlu neu Awdurdodau Lleol.

Gwelliannau i ymwybyddiaeth a diwylliant diogelwch

Roedd cwestiwn pum deg dau yn gofyn i ymatebwyr roi eu barn ar sut yr hoffent gyrchu gwybodaeth am fynd i’r afael â therfysgaeth a gweithio gyda phartneriaid lleol eraill yn y dyfodol.

Roedd yr ymateb allweddol i’r cwestiwn hwn yn ymwneud ag ymgysylltu â grwpiau, cyfarfodydd neu fforymau perthnasol, a all gael effaith ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, a’r rhai a awgrymwyd fwyaf oedd:

  • Fforymau Lleol Cymru Gydnerth
  • Partneriaethau Diogelwch Cymunedol
  • Parthau Diogelwch Cymunedol; a
  • Byrddau CONTEST.

Nodwyd mai’r camau canlynol oedd y rhai mwyaf buddiol i ddatblygu a gwella grwpiau o’r fath yn gyffredinol:

  • Mwy o ymgysylltu a chydweithio â’r rhai sy’n cymryd rhan, yn enwedig gan yr Heddlu
  • Ymarferion efelychedig gwrthderfysgaeth
  • Cynnydd mewn cyllid cyffredinol; a
  • Heddlu a staff diogelwch ychwanegol.

Mewn ymatebion eraill i gwestiwn pum deg dau, nododd llawer o ymatebwyr bwysigrwydd cyrchu gwybodaeth, sy’n hawdd ei defnyddio, yn gyfredol, ar-lein ac a geir mewn un lleoliad. Roedd cynigion ychwanegol a ddarparwyd gan grwpiau llai o ymatebwyr yn cynnwys gallu cyrchu:

  • Porth sy’n cynnig asesiadau risg
  • Cais, gan gyfeirio at ACT
  • Dulliau cyfathrebu traddodiadol gan gynnwys hysbysebion, negeseuon e-bost, fideos addysgol, llinell gymorth ffôn; a
  • Pwynt cyswllt ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau, o bosibl o fewn asiantaeth orfodi.

Mae gwasanaeth digidol newydd yn cael ei ddatblygu gan Blismona Gwrthderfysgaeth, y Llywodraeth a’r Sector Preifat i ddarparu mynediad i ddeunydd, cyngor a hyfforddiant perthnasol ar gyfer gwrthderfysgaeth mewn un lle i sefydliadau sy’n gweithredu mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd.Roedd cwestiwn pedwar deg naw yn gofyn am farn ynghylch a fyddai ymatebwyr yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, ac roedd 78% o’r holl ymatebwyr i’r cwestiwn hwn (ac 82% o’r rhai sy’n gyfrifol am ddiogelwch mewn lleoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd) yn rhagweld y byddent yn gwneud hynny.Roedd y rhai a ddywedodd na fyddent yn defnyddio’r gwasanaeth yn teimlo bod y risg yn fach iawn ar hyn o bryd ac yn llai perthnasol wrth ystyried ardaloedd gwledig.

I’r rhai a ddywedodd y byddent yn defnyddio’r gwasanaeth ac sy’n gyfrifol am ddiogelwch ar gyfer lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd:

  • Byddai 73% yn gwneud hynny i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y bygythiadau terfysgol sy’n dod i’r amlwg
  • Byddai 65% yn gwneud hynny i ddeall pa weithgareddau rheoli risg sydd eu hangen
  • Byddai 55% yn gwneud hynny i gyrchu hyfforddiant gwrthderfysgaeth
  • Byddai 53% yn gwneud hynny i adrodd am weithgarwch terfysgol tybiedig neu bryderon; a
  • Byddai 49% yn gwneud hynny i ddeall beth i’w wneud ar ôl digwyddiad.

Roedd cwestiwn pum deg pump yn gofyn am adborth gan ymatebwyr ynglŷn â mesurau y gallai’r Llywodraeth eu hystyried i gefnogi’r gwaith o ddarparu cyngor ac arweiniad o ansawdd uchel gan weithwyr diogelwch proffesiynol yn y sector preifat. Y prif awgrymiadau oedd:

  • Mae 57% yn cefnogi safonau’r llywodraeth ar gyfer asesiadau risg a chyngor gwrthderfysgaeth
  • Mae 53% yn cefnogi hyfforddiant a chymwysterau achrededig ar gyfer gweithwyr diogelwch proffesiynol unigol
  • Mae 46% yn cefnogi rheoleiddio ymgynghorwyr gwrth-derfysgaeth; a
  • Mae 44% yn cefnogi cynllun “contractwyr cymeradwy” a reoleiddir gan y Llywodraeth.

Rhoddwyd cyfle i ymatebwyr roi sylw testun rhydd drwy gwestiwn pum deg pedwar ynghylch pa fesurau y gallai’r Llywodraeth eu hystyried i gymell ac annog ystyriaethau diogelwch pellach o fewn sefydliadau. Roedd y themâu cyffredin (yn gyson ag ymatebion eraill drwy gydol yr ymgynghoriad) yn ymwneud â darparu cyngor a gwybodaeth, gwell ymgysylltu a chyfathrebu, a mwy o gydweithio a chydlynu.O ran cymhellion penodol a diriaethol, y canlynol oedd y rhai mwyaf poblogaidd gyda’r rhai a ymatebodd:

  • Cyllid ac adnoddau ychwanegol, gan gynnwys ar gyfer CTSAs, Gwasanaethau Brys ac Awdurdodau Lleol fel derbynwyr
  • Cynllun achredu neu system wobrwyo
  • Gostyngiadau ar ardrethi busnes, trethi ac yswiriant
  • Cymorth heb dâl, ar gael yn lleol
  • Hyfforddiant cost isel, wedi’i dargedu, gan gynnwys staff diogelwch, Awdurdod y Diwydiant Diogelwch a’r Heddlu fel derbynwyr; a
  • System sgorio sydd ar gael i’r cyhoedd ei hadolygu.

ATODIAD A – MATERION YCHWANEGOL AR GYFER DIGWYDDIADAU YMGYNGHORI

Roedd y pwyntiau ychwanegol a godwyd mewn digwyddiadau ymgynghori yn cynnwys:

  • A ddylai’r Ddyletswydd fod yn berthnasol nid yn unig i’r lleoliad (o fewn y trothwy), ond hefyd i’r ardal ychydig y tu allan i’r lleoliad?
  • Sut y byddai’r Ddyletswydd yn berthnasol i ganolfannau masnachol aml-ddefnydd (e.e., manwerthu, swyddfeydd a phreswyl)?
  • Sut y byddai’r Ddyletswydd yn ymwneud â digwyddiadau mewn mannau cyhoeddus a drefnir gan drydydd partïon, a lle nad oes tocynnau neu fodd i reoli mynediad?
  • Lle mae lleoliadau’n cynnwys nifer o bartïon â buddiant, sut y bydd deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i’r partïon hynny gydweithio, a delio â safbwyntiau gwahanol ar fesurau liniaru sy’n rhesymol ymarferol?
  • Sut y byddai’r Ddyletswydd yn ymdrin â masnachfreintiau, consesiynau i staff, a thenantiaid/lesddeiliaid?
  • A fyddai elfen sefydliadol (sefydliadau sy’n cyflogi 250 o staff neu fwy) yn deg ac yn cyflawni’r cysondeb a’r canlyniadau effeithiol a ddymunir (e.e., yn perthyn i siop goffi cadwyn fawr, ond nid y siop annibynnol o’r un maint y drws nesaf)?
  • A fyddai gofynion yn cael eu gosod ar sefydliadau’r DU sy’n gweithredu dramor?
  • A allai Dyletswydd arwain at lai o barodrwydd i agor lleoliadau a mannau i’r cyhoedd eu defnyddio?
  • A fyddai’r Ddyletswydd yn diffinio terfysgaeth a gweithredoedd terfysgaeth, a beth fyddai hyn yn ei olygu i ddigwyddiadau a ysgogir gan achosion eraill, ond a oedd â chanlyniadau tebyg ac a allai ddatgelu diffygion mewn ystyriaethau diogelwch?
  • A oes perygl o ddadleoli targedau ymosod gan y rhai sydd o fewn cwmpas i’r rhai sydd allan o gwmpas?
  • A fydd y Ddyletswydd yn cael ei mandadu fel rhan o’r gwaith o ddylunio a chynllunio ar gyfer datblygiadau tir y cyhoedd newydd a gwaith adnewyddu sylweddol?
  • A ddylai’r Ddyletswydd fod yn gysylltiedig ag ystyriaethau ehangach na therfysgaeth, er enghraifft i annog mwy o wytnwch, seiberddiogelwch ac atal troseddu?

RHESTR TERMAU

Tabl 1: Rhestr termau a ddefnyddir yn yr Ymgynghoriad ar Ddyletswydd Diogelu

Methodolegau ymosod Gwahanol ddulliau o ymosod a ddefnyddir gan derfysgwyr. Yn ddiweddar mae’r rhain wedi cynnwys ymosodiadau yn y DU ac Ewrop a oedd yn ymwneud â defnyddio Dyfeisiau Ffrwydrol Difyfyr a Gludir gan Berson (IEDs), IEDs post, Cerbyd Fel Arf, arfau llafnog ac arfau tanio.

Action Counters Terrorism (ACT) Cynllun ymwybyddiaeth cenedlaethol i ddiogelu adeiladau, ardaloedd busnes a’u cymdogaethau cyfagos rhag bygythiad terfysgaeth.

e-Ddysgu Ymwybyddiaeth CT Cynnyrch cyfarwyddyd CT corfforaethol a gydnabyddir yn genedlaethol, a ddatblygwyd gan Blismona Gwrthderfysgaeth, i helpu pobl i ddeall a lliniaru’n well yn erbyn methodoleg derfysgol gyfredol. Mae ar gael i bob sefydliad, eu staff a’r cyhoedd. https://www.gov.uk/government/news/act-awareness-elearning

Canolfan Diogelu Seilwaith Cenedlaethol (CPNI) Awdurdod y Llywodraeth ar gyfer cyngor ar ddiogelwch amddiffynnol i seilwaith cenedlaethol y DU. Mae’n diogelu diogelwch cenedlaethol drwy helpu i leihau natur fregus y seilwaith cenedlaethol i derfysgaeth a bygythiadau eraill.

Cynghorwyr Diogelwch Gwrthderfysgaeth (CTSAs) Unigolion sy’n gweithio o fewn heddluoedd lleol fel swyddogion a staff. Eu prif rôl yw rhoi cymorth, cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar ddiogelwch amddiffynnol gwrthderfysgaeth i sectorau diwydiant ac eraill.

Sefydliadau mawr Sefydliadau sydd â 250 neu fwy o weithwyr.

Swyddfa Diogelwch Genedlaethol ar gyfer Gwrthderfysgaeth (NaCTSO) Uned heddlu sy’n cefnogi llinynnau ‘Diogelu a Pharatoi’ strategaeth gwrth-derfysgaeth y Llywodraeth.

Lleoliadau Cyhoeddus Yng nghyd-destun y Ddyletswydd Diogelu mae’r rhain yn adeiladau parhaol (e.e., lleoliadau adloniant a chwaraeon) neu leoliadau digwyddiadau dros dro (fel gwyliau awyr agored) lle mae ffin ddiffiniedig a mynediad agored i’r cyhoedd.

Mannau Cyhoeddus Mae’r rhain yn lleoliadau cyhoeddus agored nad oes ganddynt ffiniau clir fel arfer na mynedfeydd / mannau ymadael wedi’u diffinio’n dda 37 (e.e., sgwariau canol y ddinas, pontydd neu dramwyfeydd, parciau a thraethau prysur).

Lleoliad sy’n Hygyrch i’r Cyhoedd Unrhyw fan y mae gan y cyhoedd neu unrhyw ran o’r cyhoedd fynediad iddo, trwy dalu neu fel arall, fel hawl neu yn rhinwedd caniatâd datganedig neu ymhlyg. Mae lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd yn cynnwys amrywiaeth eang o leoliadau bob dydd megis: stadia chwaraeon; gwyliau a lleoliadau cerddoriaeth; gwestai; tafarndai; clybiau; bariau a casinos; strydoedd mawr; siopau manwerthu; canolfannau siopa a marchnadoedd; ysgolion a phrifysgolion; canolfannau meddygol ac ysbytai; addoldai; swyddfeydd y Llywodraeth; canolfannau gwaith; canolfannau trafnidiaeth; parciau; traethau; sgwariau cyhoeddus a mannau agored eraill. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Rhesymol ymarferol (mesurau lliniaru) Maent yn ei wneud yn ofynnol i berchnogion/gweithredwyr bwyso a mesur risg yn ôl yr ymdrech, yr amser a’r arian sydd eu hangen i’w lliniaru.

Run, Hide, Tell [Rhedeg, Cuddio, Dweud] Ymgyrch Plismona Gwrthderfysgaeth sy’n rhoi arweiniad ar gamau i gadw’n ddiogel os bydd ymosodiad ag arfau tanio neu arfau.

See, Check and Notify [Gweld, Gwirio a Hysbysu] (SCaN) Hyfforddiant sy’n ceisio helpu busnesau a sefydliadau i wneud y mwyaf o ddiogelwch gan ddefnyddio eu hadnoddau presennol. Mae’n grymuso staff i nodi gweithgarwch amheus yn gywir a gwybod beth i’w wneud pan fyddant yn dod ar ei draws. Mae’n helpu i sicrhau nad yw unigolion neu grwpiau sy’n ceisio achosi niwed i’ch sefydliad yn gallu cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gynllunio eu gweithredoedd.

See It.Say It.Sorted. Ymgyrch gan y Llywodraeth i annog teithwyr ar drenau ac ymwelwyr â gorsafoedd i roi gwybod am unrhyw eitemau neu weithgareddau anarferol