Consultation outcome

Protect Duty consultation document (Welsh) (accessible version)

Updated 2 May 2023

This was published under the 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

I: Mae’r ymgynghoriad hwn yn agored i’r cyhoedd, ac mae wedi’i dargedu at leoliadau, sefydliadau, busnesau, awdurdodau lleol a chyhoeddus, a/neu unigolion sy’n berchen ar neu’n gweithredu mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd neu eraill y gallai ‘Dyletswydd Diogelu’ effeithio arnynt o bosibl.

Diffinnir lleoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd fel unrhyw le y mae gan y cyhoedd neu unrhyw ran o’r cyhoedd fynediad iddo, trwy dalu neu fel arall, fel hawl neu yn rhinwedd caniatâd penodol neu ymhlyg. Mae lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd yn cynnwys amrywiaeth eang o leoliadau bob dydd megis: stadia chwaraeon; gwyliau a lleoliadau cerdd; gwestai; tafarndai; clybiau; bariau a chasinos; strydoedd mawr; siopau manwerthu; canolfannau siopa a marchnadoedd; ysgolion a phrifysgolion; canolfannau meddygol ac ysbytai; addoldai; swyddfeydd y Llywodraeth; canolfannau gwaith; hybiau trafnidiaeth; parciau; traethau; sgwariau cyhoeddus a mannau agored eraill. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr o bell ffordd, ond mae’n dangos natur amrywiol lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd.

Rydym yn croesawu ymatebion gan unrhyw un sydd â diddordeb neu brofiad yn y meysydd yr ymgynghorir â hwy yn yr ymgynghoriad hwn.

Mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn unig.

Hyd:

Ymholiadau (gan gynnwys ceisiadau am y papur mewn fformat arall) i:

E-bost: ProtectDuty@homeoffice.gov.uk

Neu

Ymgynghoriad y Ddyletswydd Diogelu
Diogelu a Pharatoi
5th Floor NE, Peel Building,
Swyddfa Diogelwch a Gwrthderfysgaeth
Y Swyddfa Gartref
2 Marsham Street,
Llundain, SW1P 4DF

Sut i ymateb: Mae pedair adran thematig yn yr ymgynghoriad hwn. Gall ymatebwyr ateb cynifer neu gyn lleied o gwestiynau ag y dymunant. Nid oes rhaid i chi wneud sylwadau ar bob adran nac ymateb i bob cwestiwn ar bob adran ond gallwch ganolbwyntio ar ble mae gennych farn a thystiolaeth berthnasol i’w rhannu. Os ydych am ymateb i bob cwestiwn, nid oes rhaid i chi lenwi’r ffurflen gyfan ar unwaith.

Ymatebwch i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn ar-lein.

Fel arall, gallwch anfon copïau electronig at: ProtectDuty@homeoffice.gov.uk; neu,

Fel arall, gallwch anfon copïau papur at:

Ymgynghoriad y Ddyletswydd Diogelu
Diogelu a Pharatoi
5th Floor NE, Peel Building,
Swyddfa Diogelwch a Gwrthderfysgaeth
Y Swyddfa Gartref
2 Marsham Street,
Llundain, SW1P 4DF

Dulliau ychwanegol o ymateb:

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth arall, neu ymateb ffurf hir, gwnewch hynny trwy ei hanfon i’r cyfeiriad e-bost neu’r cyfeiriad post uchod.

Papur ymateb: Cyhoeddir ymateb i’r ymgynghoriad hwn ac Asesiad Effaith Rheoleiddio ar-lein yn: Protect Duty.

Rhagair gan y gweinidog

Dyletswydd gyntaf y Llywodraeth yw diogelu’r cyhoedd. Mae’r bygythiad terfysgol sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd yn amlochrog, yn amrywiol ac yn esblygu’n barhaus. Mae’r heddlu, gwasanaethau diogelwch, a phartneriaid eraill yn gwneud popeth o fewn eu gallu i frwydro yn erbyn y bygythiad hwn: ers mis Mawrth 2017 mae heddlu a gwasanaethau diogelwch y DU wedi rhwystr 27 cynllwyn, gan gynnwys wyth wedi’u cymell gan ideolegau Asgell Dde. Fodd bynnag, er gwaethaf eu hymdrechion gorau, ni fydd byth yn bosibl atal pob ymosodiad. Mae’r ymosodiadau rydym wedi’u gweld yn y DU, yn arbennig ers 2017, wedi achosi marwolaethau ac anafusion ymhlith pobl sy’n mynd o gwmpas eu busnes bob dydd, yn aml mewn mannau agored, cyhoeddus; ac wedi newid bywydau llawer o bobl.

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i wella diogelwch lleoliadau cyhoeddus, fel yr amlinellwyd yn ei maniffesto yn 2019. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ystyried sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i ddatblygu mesurau diogelwch cymesur i wella diogelwch y cyhoedd. Mae hefyd yn ystyried sut y byddai’r rhai sy’n gyfrifol am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd yn barod ac wedi’u paratoi i gymryd camau priodol, pe byddai ymosodiad terfysgol yn digwydd.

Yn bwysig, rydym hefyd yn gobeithio bod y cynigion hyn yn parchu ac yn cydnabod gwaith pwysig pawb sydd wedi ymgyrchu dros ddeddfwriaeth. Yn benodol, hoffwn ddiolch i Figen Murray, y cafodd ei mab Martyn ei ladd yn ymosodiad Arena Manceinion, am y cyfraniad sylweddol y mae hi wedi’i wneud trwy ei hymgyrch ddiflino i gyflwyno ‘Martyn’s Law’ [‘Deddf Martyn’]. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw trwy gydol y cyfnod ymgynghori i helpu i gasglu eu barn ac annog eraill i gyfrannu hefyd.

Mae llawer o waith da eisoes yn cael ei wneud gan lawer o sefydliadau, ac rwyf yn croesawu’r ymdrechion parhaus hyn. Fodd bynnag, yn absenoldeb gofyniad deddfwriaethol, nid oes sicrwydd yr ymgymerir ag ystyriaethau diogelwch gan y rhai sy’n gweithredu’r amrywiaeth eang o safleoedd a lleoedd sy’n agored i’r cyhoedd, neu, lle maent yn cael eu gwneud, pa ganlyniadau a gyflawnir. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ystyried sut y gallem wella’r sefyllfa hon, trwy fesurau diogelwch rhesymol nad ydynt yn rhy feichus.

Mae’r Llywodraeth yn hynod ymwybodol o’r effeithiau difrifol y mae COVID-19 wedi’u cael, ac yn parhau i gael, ar lawer o fusnesau a sefydliadau. Mae’r trothwyon ar gyfer lleoliadau a sefydliadau a allai fod o fewn y cwmpas wedi’u dewis yn ofalus ar hyn o bryd i gydnabod hyn.

Rhagwelir y byddai gofynion Dyletswydd Diogelu yn golygu cyn lleied o gostau newydd â phosibl i lawer o sefydliadau a lleoliadau. Mae llawer eisoes wedi ymgymryd neu’n gwneud gwaith sylweddol parhaus i ystyried mesurau, systemau a phrosesau diogelwch, gan gynnwys trwy ystyried mesurau iechyd COVID-19 yn ddiweddar a sicrhau gofynion diogelwch priodol fel rhan o’r rhain.

Dim ond un rhan o ymagwedd y Llywodraeth o wella diogelwch a pharodrwydd amddiffynnol mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd yw’r Ddyletswydd Diogelu arfaethedig. Rydym yn parhau i geisio ymgysylltu a darparu cyngor a chanllawiau i bawb sy’n gweithredu ym maes diogelwch cyhoeddus neu sydd â diddordeb ynddo. Rydym hefyd yn parhau i ehangu a gwella’r adnoddau hyn, a, lle mae’n bosibl, eu teilwra i anghenion gwahanol grwpiau defnyddwyr. Byddwn yn annog holl ddarllenwyr yr ymgynghoriad hwn i ystyried y cyngor syml ac i gyrchu’r ffynonellau cyfeirio pellach a ddarperir ar dudalennau 9-11, yn yr adran o’r enw ‘Cyflwyniad i ddiogelwch diogelu ar gyfer perchnogion a gweithredwyr lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd’. Rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i weithio gyda chi i amddiffyn y cyhoedd ac achub bywydau.

Y GWIR ANRHYDEDDUS JAMES BROKENSHIRE AS

GWEINIDOG DIOGELWCH

Cyflwyniad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ystyried sut y gallem ddefnyddio deddfwriaeth i wella diogelwch lleoliadau cyhoeddus ledled y DU rhag ymosodiadau terfysgol a sicrhau parodrwydd sefydliadol.

 rhai eithriadau (e.e. ar ddiogelwch trafnidiaeth ac ar gyfer rhai meysydd chwaraeon), nid oes unrhyw ofyniad deddfwriaethol i ystyried na gweithredu mesurau diogelwch mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd. Fodd bynnag, mae llawer o fesurau rhesymol a phriodol y gellir eu cyflawni - ac yn aml y’i cyflawnir eisoes - gan sefydliadau sy’n gweithredu mewn lleoliadau o’r fath. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cael cynlluniau a gweithdrefnau diogelwch i adweithio ac ymateb i wahanol fygythiadau y mae’r holl staff yn eu deall ac yn eu harfer yn rheolaidd;
  • Cael cyrsiau hyfforddi ac ymwybyddiaeth syml sydd ar gael yn rhwydd fel rhan o raglenni ar gyfer staff newydd a rhaglenni hyfforddi gloywi; a
  • Defnyddio mesurau diogelwch syml (megis cloeon drysau, caeadau rholer) ar gyfer atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, y gellir eu defnyddio hefyd mewn ymateb i fygythiadau diogelwch eraill.

I lawer o randdeiliaid a allai fod o fewn y cwmpas, mae’r rhain yn ofynion y maent eisoes wedi’u cyflawni, neu sy’n galw am gostau isel neu ddim costau newydd i’w symud ymlaen. Rydym yn gwybod bod parodrwydd i wneud mwy gan lawer o fusnesau ac eraill sydd â gweithrediadau sy’n wynebu’r cyhoedd, a byddai llawer o sefydliadau sy’n gweithredu mewn mannau sy’n hygyrch i’r cyhoedd yn croesawu gofyniad gorfodol i ystyried a lliniaru bygythiadau i ddiogelwch.

Rydym yn deall o’r un ymchwil bod ymwybyddiaeth isel yn aml o’r wybodaeth a’r offer presennol sydd ar gael, ond pan yw sefydliadau wedi ymgysylltu, mae tystiolaeth eu bod yn mynd ymlaen i weithredu newidiadau. Mae’r adran nesaf, ‘Cyflwyniad i ddiogelwch amddiffynnol i berchnogion a gweithredwyr lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd’ yn darparu rhywfaint o gyngor syml am ddiogelwch a ffynonellau cyfeirio pellach y gall pawb eu dilyn.

Rydym yn ymwybodol o’r effaith y gallai newid deddfwriaethol ei chael ar rai sefydliadau. Fodd bynnag, rhaid cydbwyso hyn yn ofalus yn erbyn yr angen i sicrhau ystyriaeth effeithiol o ddiogelwch y cyhoedd, a gweithredu mesurau diogelwch rhesymol, er mwyn gwella diogelwch y cyhoedd.

Rydym yn cydnabod bod diogelwch effeithiol yn galw am ymagwedd partneriaeth, gyda’r Llywodraeth, yr heddlu, gwasanaethau diogelwch, y sector cyhoeddus ehangach, busnesau, a’r cyhoedd i gyd â rôl i’w chwarae. Pe byddai Dyletswydd Diogelu ddeddfwriaethol yn cael ei chyflwyno, rydym yn cydnabod yr angen i wella cymorth y Llywodraeth i bob sefydliad sydd o fewn y cwmpas.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn gan bob parti y gallai ‘Dyletswydd Diogelu’ effeithio arno o bosibl - yn benodol, sefydliadau sy’n berchen ar leoliadau neu sy’n gweithredu mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd. Rydym yn ceisio barn o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, gan fod diogelwch cenedlaethol yn fater a gadwyd yn ôl, ond rydym yn cydnabod y byddai datblygu proses a chymorth effeithiol i weithredu deddfwriaeth o’r fath yn tynnu ar fecanweithiau a chyfrifoldebau cyflenwi o fewn y Gweinyddiaethau Datganoledig.

Defnyddir yr ymatebion i gwestiynau’r ymgynghoriad ac ymchwil a dadansoddiad ychwanegol i ddatblygu Asesiad Effaith Rheoleiddio a gyhoeddir maes o law.

Rhennir y cynigion a’r materion trafod yn yr adrannau dilynol:

  • Adran 1: I bwy (neu ble) y dylai deddfwriaeth fod yn berthnasol?
  • Adran 2: Beth ddylai’r gofynion fod?
  • Adran 3: Sut ddylai cydymffurfedd weithio?
  • Adran 4: Sut ddylai’r Llywodraeth gefnogi a gweithio orau gyda phartneriaid?

Cyflwyniad i ddiogelwch amddiffynol ar gyfer Perchnogion a gweithredwyr lleoliadau sy’n Hygyrch i’r cyhoedd

Yn ystod y blynyddoedd diweddar gwelwyd cynnydd o ran ymosodiadau terfysgol mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd, h.y. lleoliadau y mae pobl yn ymweld â nhw, yn ymgynnull ynddynt, neu’n symud trwyddynt. Nodwedd ddiffiniol ymosodiadau o’r fath yw targedu pobl, boed ar hap, neu fel cynrychiolwyr grwpiau penodol (e.e. yn ymwneud â hil, credau crefyddol, ac ati).

Mae unrhyw leoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd yn darged posib, ac felly mae’n hanfodol bod perchnogion a gweithredwyr pob lleoliad o’r fath yn deall y risgiau sy’n eu hwynebu ac yn ystyried mesurau lliniaru priodol.

Bwriad yr adran hon yw cyflwyno diogelwch amddiffynnol i berchnogion a gweithredwyr lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd - p’un a ydynt yn fusnesau, neu’n sefydliadau eraill sy’n gweithredu mewn safleoedd parhaol neu’n drefnwyr digwyddiadau dros dro, neu’r rheini sydd â diddordebau ehangach mewn diogelwch y cyhoedd megis awdurdodau cyhoeddus.

Mae’n werth nodi bod gwelliannau a wneir i ddiogelwch o safbwynt gwrthderfysgaeth (CT) yn debygol o gyflwyno buddion ehangach, gan leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol arall o bosibl. Yn yr un modd, gall mesurau diogelwch presennol neu newydd a weithredir at ddibenion eraill gyflwyno budd gwrthderfysgaeth.

Un egwyddor bwysig o ddiogelwch amddiffynnol yw y dylai, lle bynnag y bo modd, ddefnyddio ymyriadau syml, fforddiadwy sy’n amddiffyn ac yn tawelu meddwl y cyhoedd ac yn atal darpar ymosodwyr, heb unrhyw effaith andwyol (neu’r effaith leiaf) ar weithrediad y wefan na phrofiad pobl. Er bod casgliad helaeth o wrthfesurau ar gael, bydd llawer o’r rhai mwy cymhleth a chostus - yn arbennig cynhyrchion diogelwch corfforol arbenigol - yn fwy perthnasol i safleoedd mwy sy’n debygol o gynnal ôl-troed uwch o ymwelwyr a/neu dyrfaoedd uwch.

Mae’n bwysig ystyried diogelwch fel system, cyfuniad o ymyriadau corfforol a/neu ymddygiadol a ddefnyddir mewn modd cyflenwol i liniaru risgiau allweddol. Mae cael yr agweddau “pobl” yn gywir (e.e. datblygu a chynnal diwylliant diogelwch, annog gwyliadwriaeth, a darparu hyfforddiant priodol ac effeithiol) o leiaf yr un mor bwysig â dewis (a gosod yn gywir) mesurau diogelwch corfforol (megis drysau diogelwch, gwydro sy’n gwrthsefyll ffrwydrad, ffensys, bolardiau, teledu cylch cyfyng, systemau electronig i reoli mynediad a chanfod tresmaswyr). Mae cyngor a chanllawiau pellach ar gael ar wefan NaCTSO neu gan eich Cynghorydd Diogelwch Gwrthderfysgaeth (CTSA) lleol.Lle credwch, yn seiliedig ar eich asesiad risg, y gallai fod angen mesurau o’r fath arnoch, efallai yr hoffech ofyn am gyngor arbenigol annibynnol hefyd. Hyd yn oed lle dewisir mesurau priodol sy’n ymddangos eu bod yn cyd-fynd ag anghenion safle, mae’n hanfodol sicrhau eu bod yn cael eu gosod a’u gweithredu i ddarparu gallu effeithiol (ac ategu mesurau diogelwch eraill yn briodol).

Y camau cychwynnol allweddol yw deall bygythiad a risg:

  • Deall y bygythiad terfysgol - nodi y gall grwpiau terfysgol, eu cymhellion a’u dewisiadau targed a’u methodolegau ymosod fod yn wahanol ac yn tueddu i newid dros amser.
  • Deall y risgiau penodol y mae’r bygythiad yn eu peri i’ch safle a/neu sefydliad - sut a pham y gallai eich safle/sefydliad gael ei effeithio, naill ai trwy gael ei dargedu’n uniongyrchol; neu drwy effeithiau anuniongyrchol, oherwydd ei leoliad mewn ardal benodol neu oherwydd ei agosrwydd at safleoedd, busnesau neu sefydliadau cyfagos y gellid eu targedu.
    • Dylech gynnal asesiad risg i nodi a chofnodi risgiau terfysgaeth a mesurau lliniaru priodol. Dylai hyn gael ei alinio ag asesiad ehangach eich sefydliad/safle o risgiau a’u rheolaeth.

Er mwyn mwyafu eu tebygolrwydd o lwyddo, mae terfysgwyr yn debygol o ymgymryd â gweithgareddau ymchwil a chynllunio i baratoi ar gyfer ymosodiad; gall hyn gynnwys ymweld â lleoliadau targed posib (“rhagchwilio gelyniaethus”), yn ogystal â chynnal ymchwil ar-lein.

Ystyriwch yr hyn y gallwch chi a’ch cydweithwyr (p’un a ydynt yn gyflogeion, contractwyr neu wirfoddolwyr) ei wneud i’w gwneud hi’n anoddach i ddarpar derfysgwr gynnal ymosodiad llwyddiannus, er enghraifft trwy:

  • Bod yn effro i ymddygiadau a gweithgarwch amheus yn eich safle ac o’i gwmpas, megis pobl yn loetran neu’n arddangos lefel anarferol o ddiddordeb mewn gofyn cwestiynau, neu ffilmio neu dynnu ffotograffau. Sylwch eich bod chi a’ch staff mewn sefyllfa dda i wybod beth sy’n “normal” yn eich amgylchedd, ac felly beth all fod yn amheus. Lle mae’n teimlo’n ddiogel gwneud hynny, ystyriwch ymgysylltu â’r unigolyn mewn modd croesawgar a chymwynasgar; os oes gennych unrhyw bryderon, ystyriwch eu riportio i’r heddlu. Yn yr un modd, dylech chi a’ch cydweithwyr fod yn effro i fagiau ac eitemau eraill sydd wedi’u gadael, a rhoi gwybod i’r heddlu am unrhyw rai yr ydych yn eu hystyried yn rhai amheus.
  • Bod â meddwl diogelwch yn eich cyfathrebiadau, yn arbennig ar-lein. Lle bynnag y bo modd, cynhwyswch negeseuon cyffredinol cadarnhaol sy’n arddangos eich ymrwymiad i sicrhau diogelwch ymwelwyr a staff. Osgowch ddarparu gwybodaeth benodol a allai helpu terfysgwr i gynllunio ymosodiad, er enghraifft cynlluniau llawr sy’n cynnwys mwy o fanylion nag sy’n angenrheidiol i gynorthwyo cwsmeriaid i gynllunio eu hymweliad, neu fanylion ynghylch ble a phryd y mae patrolau diogelwch yn digwydd (ac yn peidio â digwydd).
  • Annog a galluogi diwylliant diogelwch yn y gweithle, er enghraifft sicrhau y gellir riportio unrhyw bryderon yn hawdd ac y gweithredir arnynt a sicrhau bod rheolwyr yn arwain trwy esiampl ac yn osgoi rhoi negeseuon cymysg.

Ystyriwch sut y byddech chi a’ch staff yn ymateb i ddigwyddiad terfysgol sy’n digwydd y tu allan neu’n agos at eich adeilad neu’ch safle, neu y tu mewn iddo. Cofiwch fod pob eiliad yn cyfrif

  • Pa mor gyflym fyddech chi’n dod yn ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd?
  • Sut fyddech chi’n ymateb?
  • A fyddech chi a’ch staff yn gallu gweithredu’n ddigon cyflym i symud eich hun ac ymwelwyr i ddiogelwch?
  • Beth allwch chi ei wneud i baratoi ar gyfer digwyddiad o’r fath?

Mae e-Ddysgu Ymwybyddiaeth ACT (Action Counters Terrorism), wedi’i ddatblygu gan Blismona Gwrthderfysgaeth i ddarparu canllawiau CT corfforaethol a gydnabyddir yn genedlaethol i helpu pobl i ddeall, a lliniaru yn erbyn y fethodoleg derfysgol gyfredol yn well. Mae ar gael i bob sefydliad, eu staff a’r cyhoedd.

Ar gyfer lawer o sefydliadau, bydd trefniadau diogelwch yn cael eu gwella trwy ddatblygu perthnasoedd â busnesau a sefydliadau cyfagos, er enghraifft gweithio gyda’i gilydd i wneud yr amgylchedd lleol yn anoddach i ddarpar derfysgwyr weithredu ynddo, gan gynnwys galluogi cyfnewid gwybodaeth yn gyflym am weithgareddau amheus a digwyddiadau posibl. Mae’n ddoeth hefyd i ymgysylltu â’chCTSA lleol a’chtîm plismona cymdogaeth.

Cymerwch ofal i sicrhau nad yw unrhyw fesurau / cynlluniau diogelwch yn gwrthdaro â gofynion iechyd a diogelwch a rheoliadau tân.

Cofiwch adolygu ac adnewyddu (lle mae hynny’n briodol) eich asesiad risg, eich cynlluniau a’ch mesurau lliniaru, gan gynnwys ymwybyddiaeth eich staff o’r bygythiad a sut i ymateb. Dylid cynnal adolygiadau arferol yn rheolaidd, a dylid cynnal adolygiadau hefyd os oes newidiadau i’r bygythiad - naill ai o ran y lefel bygythiad genedlaethol (gan nodi’r tebygolrwydd o ymosodiad) neu o ganlyniad i ddigwyddiadau sy’n arddangos newid yn y fethodoleg ymosod.

Gwybodaeth bellach

Adran 1: i bwy (neu ble) y dylai deddfwriaeth fod yn berthnasol?

Gallai’r Ddyletswydd Diogelu arfaethedig fod yn berthnasol mewn tri phrif faes (ond gallai hefyd fod yn berthnasol i leoliadau, partïon a phrosesau eraill trwy eithriad):

  1. Lleoliadau cyhoeddus (e.e. lleoliadau adloniant a chwaraeon, atyniadau i dwristiaid, canolfannau siopa)

  2. Sefydliadau mawr (e.e. cadwyni manwerthu, neu adloniant)

  3. Mannau cyhoeddus (e.e. parciau cyhoeddus, traethau, tramwyfeydd, pontydd, sgwariau tref / dinas ac ardaloedd i gerddwyr)

Mae ein cynigion yn canolbwyntio ar ystyriaethau deddfwriaethol o ddiogelwch yn cael ei wneud mewn lleoliadau penodol sy’n hygyrch i’r cyhoedd (unrhyw le y mae gan y cyhoedd neu unrhyw ran o’r cyhoedd fynediad iddo, trwy dalu neu fel arall, fel hawl neu yn rhinwedd caniatâd penodol neu ymhlyg), ond nid lleoliadau preifat, megis lleoedd cyflogaeth, neu leoliadau eraill lle nad oes mynediad arferol i’r cyhoedd.

Rydym yn cydnabod bod rhaid i ystyriaethau diogelwch, er eu bod yn bwysig o hyd, fod yn gymesur â’r bygythiad o ymosodiad terfysgol. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r effaith enfawr y mae COVID19 wedi’i chael, ac yn dal i’w chael, ar lawer o sefydliadau.

Fodd bynnag, rydym am bwysleisio bod ystyriaethau priodol a chymesur ynghylch diogelwch yn bwysig ym mhob lleoliad - gan gynnwys y rhai sydd y tu allan i gwmpas y Ddyletswydd arfaethedig - ac rydym yn argymell y dylai pob sefydliad ystyried y cyngor gan y Llywodraeth a amlinellir ar dudalennau 9-11.

1. Cynnig: Dylai’r Ddyletswydd fod yn berthnasol i berchnogion a/neu weithredwyr lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd sydd â lle i 100 o bobl neu fwy

Rydym o’r farn bod capasiti lleoliad yn sail glir a syml i ddiffinio lleoliadau a ddylai ddod o fewn cwmpas Dyletswydd bosibl. Mae capasiti’n faen prawf a ddefnyddir eisoes yn gyffredin mewn asesiadau risg diogelwch tân. Rydym yn ystyried ei bod yn rhesymol i leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd a sy’n gallu cynnal cynulliadau o 100 o bobl neu fwy gynnal asesiad o fygythiadau a gweithredu mesurau lliniaru priodol yn eu hadeiladau. Mae’r trothwy hwn wedi’i osod, gan ystyried yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael, ac y mae’n dal i’w chael, ar lawer o sefydliadau, yn arbennig busnesau sy’n wynebu’r cyhoedd. Yn y dyfodol, a phan fydd yn briodol gwneud hynny, efallai y byddwn yn ceisio ymgynghori eto ar drothwy is.

Bydd ymatebion yn cael eu hystyried yn ofalus wrth benderfynu a yw trothwy capasiti yn faen prawf priodol, ac, os felly, ar ba lefel y caiff ei osod.

Mae defnyddio capasiti fel maen prawf yn cipio llawer o leoliadau cyhoeddus; adeiladau parhaol neu leoliadau digwyddiadau dros dro (megis gwyliau awyr agored) lle mae ffin ddiffiniedig.

Byddai gofyniad Dyletswydd Diogelu’n berthnasol i’r partïon sy’n gyfrifol am y lleoliad, a fyddai fel arfer yn berchnogion neu’n weithredwyr, sydd â rheolaeth a pherchnogaeth ar systemau a phrosesau. Lle mae cyfrifoldeb sefydliadol a rennir am leoliad o fewn y gwmpas, byddai’n ofynnol i’r partïon weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gofynion y Ddyletswydd yn cael eu bodloni.

2. Cynnig: Dylai’r Ddyletswydd fod yn berthnasol i sefydliadau mawr (sy’n cyflogi 250 o staff neu fwy) sy’n gweithredu mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd

Yn ogystal â lleoliadau cyhoeddus, mae llawer o sefydliadau mawr (sy’n cyflogi 250 o staff neu fwy) sy’n gweithredu mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd, gyda staff sy’n gyfrifol am ddatblygu ystod o ofynion deddfwriaethol a gofynion eraill i’w gweithredu ar draws y sefydliad, trwy ei systemau a phrosesau. Fel arfer bydd hyfforddiant safonedig a datblygiad proffesiynol parhaus yn digwydd ar gyfer y rolau arbenigol hyn, yn ogystal â rhaglenni hyfforddi ac ymwybyddiaeth ehangach ar gyfer staff. Bydd strwythurau sefydliadol fel arfer ar waith i alluogi cyflenwi polisi, prosesau gweithredol, cynllunio, a gofynion busnes a deddfwriaethol, a gomisiynir fel arfer ar sail o’r brig i lawr, o bencadlys cwmni neu fel arall.

Gallai hyn hefyd gynnwys sefydliadau sydd â nifer o allfeydd, islaw capasiti lleoliad o 100 o bobl neu fwy, ar draws ôl troed daearyddol (cenedlaethol yn aml), lle mae nifer sylweddol a/neu reolaidd o bobl yn ymweld a lle mae ymgysylltiad sylweddol â’r cyhoedd, ar sylfaen arferol ac yn aml ddyddiol e.e. manwerthwyr y stryd fawr, archfarchnadoedd, siopau betio, siopau papurau newydd, fferyllwyr a gorsafoedd petrol.

Rydym yn ystyried ei bod yn rhesymol y dylai Dyletswydd Diogelu fod yn berthnasol i sefydliadau mawr sy’n cyflogi 250 o bobl neu fwy, sy’n gweithredu mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd.

3. Cynnig: Dylid defnyddio Dyletswydd Diogelu i wella ystyriaethau a chanlyniadau diogelwch mewn mannau cyhoeddus

Mae natur amrywiol bygythiadau a thargedu yn golygu na allwn ragweld ble na phryd y bydd ymosodiad yn digwydd. Mae llawer o’r ymosodiadau a welwyd yn ddiweddar, yn y DU ac mewn mannau eraill, wedi digwydd mewn mannau cyhoeddus. Mae’r rhain yn lleoliadau cyhoeddus agored nad oes ganddynt ffiniau clir na phwyntiau mynediad/allanfeydd wedi’u diffinio’n dda fel arfer (e.e. sgwariau canol dinas, pontydd neu dramwyfeydd prysur, parciau a thraethau).

Mae’r lleoliadau hyn yn aml yn agored i fethodoleg soffistigedigrwydd isel megis ymosodiadau â chyllyll neu ddefnyddio cerbyd fel arf. Fodd bynnag, fel arfer aelodau diniwed o’r cyhoedd yw’r targed, yn hytrach na’r lleoliad ei hun. Er ei bod yn anodd brwydro yn erbyn y mathau hyn o ymosodiadau, mae’r Llywodraeth am ystyried sut y gall wneud mwy i weithio gyda’r partïon sy’n gyfrifol am leoliadau o’r fath i ystyried a chyflawni mesurau diogelwch priodol. Mae hwn yn fater a godwyd yng Nghwestau San Steffan a Phont Llundain, ac Ymchwiliad Manceinion.

Rydym am ystyried ymhellach y cwestiynau ynghylch sut y gallai cyfrifoldebau am fannau cyhoeddus gael eu sefydlu, beth sy’n rhesymol ac yn briodol disgwyl i’r rhai sy’n gyfrifol am fannau cyhoeddus ei wneud i wella diogelwch mewn lleoliadau o’r fath, a’r rôl bosibl y mae deddfwriaeth yn ei chwarae yn y materion hyn. Rydym yn cydnabod bod y rhain yn faterion cymhleth i’w datrys, ac rydym yn awyddus i glywed barn yr ystod o sefydliadau sydd â pherchnogaeth neu gyfrifoldeb am leoliadau o’r fath. Hoffem iddynt ystyried a allai deddfwriaeth, ac os felly sut y gallai, fod yn ddefnyddiol i ddarparu mwy o eglurder a sicrwydd ynghylch cyfrifoldebau a gofynion partïon sy’n berchen ar a/neu’n gweithredu yn y mathau hyn o leoliadau, a pha ystyriaethau a mesurau lliniaru diogelwch y gellid eu cyflawni ganddynt i gyflawni mwy o ddiogelwch i’r cyhoedd. Yn benodol, hoffem geisio barn tirfeddianwyr, awdurdodau lleol a chyhoeddus, ac eraill a allai gydlynu neu arwain gwaith i helpu i wella diogelwch a pharodrwydd amddiffynnol mewn mannau cyhoeddus.

4. Agweddau eraill ar Ddyletswydd Diogelu

Rydym hefyd am ystyried a ddylid cynnwys lleoliadau, partïon neu brosesau eraill o fewn cwmpas Dyletswydd Diogelu er mwyn sicrhau gwell amddiffyniad i’r cyhoedd a gwell parodrwydd sefydliadol.

Mae hyn yn cynnwys ystyried y potensial i’r Ddyletswydd fynnu:

  • Gweithio mewn partneriaeth gyda phartïon sydd eisoes yn cydymffurfio â deddfwriaeth ddiogelwch, er enghraifft i sicrhau cydgysylltiad effeithiol rhwng sectorau trafnidiaeth (lle mae deddfwriaeth ddiogelwch eisoes mewn grym) a gweithredwyr sy’n gyfrifol am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd gerllaw canolfannau trafnidiaeth;
  • Rhoddir effaith ddeddfwriaethol i ganllawiau diogelwch presennol (e.e. ar gyfer gweithredwyr bysiau a choetsys) ar gyfer lleoliadau neu sectorau penodol; a
  • Cwmnïau a sefydliadau eraill sy’n gyfrifol am ddal, gwerthu neu logi cynhyrchion y gallai terfysgwyr eu defnyddio fel arf mewn ymosodiad mewn lleoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd i gadw at ganllawiau diogelwch.

Esemptiadau ac eithriadau

Mae rhywfaint o ddeddfwriaeth, (sydd ar hyn o bryd yn gyfyngedig yng nghwmpas ei gweithredu), eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i randdeiliaid a/neu leoliadau penodol ystyried bygythiadau terfysgol a bwrw ymlaen â mesurau diogelwch priodol i liniaru’r rhain (e.e. rheoliadau diogelwch trafnidiaeth). Lle mae hyn yn wir, rydym yn cynnig y byddai’r rhanddeiliaid a’r lleoliadau hyn wedi’u hesemptio rhag Dyletswydd Diogelu, gan fod yr effaith sydd eisoes yn cael ei chyflawni gan y rheoliadau hyn yn cyfateb i ofynion y Ddyletswydd Diogelu arfaethedig.

Mae enghreifftiau o leoliadau/rhanddeiliaid yr ydym yn cynnig y dylid eu hesemptio o’r Ddyletswydd yn Atodiad 1.

Cwestiynau

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiad dilynol:

1. Dylai lleoliadau a sefydliadau sy’n berchen ar, yn gweithredu neu’n gyfrifol am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd baratoi eu staff i ymateb yn briodol pe byddai ymosodiad terfysgol i amddiffyn eu hunain ac unrhyw aelodau’r cyhoedd sy’n bresennol

Anghytuno’n Gryf (SD) - Anghytuno (D) - Ddim yn Cytuno nac yn Anghytuno (NAND) - Cytuno (A) - Cytuno’n Gryf (SA) [graddfa]

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiad dilynol:

2. Dylai lleoliadau a sefydliadau sy’n berchen ar, yn gweithredu neu’n gyfrifol am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd baratoi eu staff i ymateb yn briodol pe byddai ymosodiad terfysgol er mwyn amddiffyn eu hunain ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd sy’n bresennol orau

SD – D – NAND – A – SA [graddfa]

3. Rydym yn cynnig y bydd Dyletswydd Diogelu sydd wedi’i thargedu yn berthnasol i leoliadau cyhoeddus penodol yn unig. Pa feini prawf fyddai’n penderfynu orau pa leoliadau y dylai Dyletswydd fod yn berthnasol iddynt?

a. Capasiti (fel y’i defnyddir ar hyn o bryd yn y Rheoliadau Diogelwch Tân)

b. Refeniw blynyddol

c. Lefelau staffio

d. Arall: (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Lle mai 3 yw a]

4. Rydym wedi cynnig capasiti I leoliad o 100 o bobl neu fwy fel trothwy. Pa lefel capasiti ydych yn credu a fyddai’n briodol i’w phennu ar gyfer lleoliadau yng nghwmpas y Ddyletswydd Diogelu ar gyfer y maen prawf hwn?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Lle mai 3 yw b-d]

5. Pa drothwy fyddech chi’n cynnig ei gynnwys yng nghwmpas y Ddyletswydd Diogelu ar gyfer y maen prawf hwn?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

6. Rydym yn cynnig y dylai gofyniad i ystyried diogelwch a gweithredu mesurau lliniaru priodol mewn lleoliad fod yn gyfrifoldeb i berchennog a/neu weithredwr y lleoliad. Ydych chi’n ystyried bod hyn yn briodol?

Y/N

[Os yw 6 = N]

7. Os na, pam lai:

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

8. Rydym yn cynnig, lle mae cyfrifoldeb sefydliadol a rennir ar gyfer lleoliad, neu sefydliadau lluosog sy’n gweithredu mewn lleoliad sydd o fewn y cwmpas, y byddai’n rhaid i’r partïon weithio gyda’i gilydd i ddiwallu’r gofynion. Ydych chi’n ystyried bod hyn yn briodol?

Y/N

[Os yw 8 = N]

9. Os na, pam lai:

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

10.Rydym yn cynnig y byddai Dyletswydd Diogelu hefyd yn berthnasol i sefydliadau penodol sy’n gweithredu mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd. Pe byddai maint sefydliad yn faen prawf ar gyfer ei gynnwys yng nghwmpas y Ddyletswydd, beth fyddai trothwy priodol?

a. Pob sefydliad

b. Micro (1-9 o gyflogeion)

c. Bach (10-49 o gyflogeion)

d. Canolig (50-249 o gyflogeion)

e. Mawr (250+ o gyflogeion)

f. Arall (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Wedi’i gysylltu â C10)

11.Beth yw eich rhesymeg dros yr ateb hwn?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

12.Rydym wedi cynnig y byddai Dyletswydd Diogelu yn berthnasol i sefydliadau sydd â 250 neu fwy o gyflogeion. A yw’n glir a yw’ch sefydliad yn dod o fewn y meini prawf hyn?

Y/N

[Os yw 12 = N]

13.Os na, pam lai?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

14.A ydych yn glir a yw eich sefydliad yn dod o fewn cwmpas y diffiniad o ‘leoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd’ (lleoliad y mae gan y cyhoedd neu unrhyw ran o’r cyhoedd fynediad iddo, trwy dalu neu fel arall, fel hawl neu yn rhinwedd caniatâd pendant neu ymhlyg)?

Y/N

[Os yw 14 yn N]

15.Os na, pam lai?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

16.Gan gyfeirio at Atodiad 1, a ydych chi’n ystyried y dylid cael esemptiadau eraill rhag Dyletswydd Diogelu?

Y/N

[os yw 16 yn Y]

17.Os felly beth neu pwy a pham?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

18.A oes unrhyw faterion eraill ynghylch i pwy y dylai deddfwriaeth fod yn berthnasol yr hoffech gynnig barn arnynt?

(Testun rhydd, 200 gair ar y mwyaf)

Adran 2: beth ddylai’r gofynion fod?

Mae’r adran hon yn ymwneud â’rhyny dylai fod yn ofynnol i bartïon sydd o fewn cwmpas Dyletswydd Diogelu (gweler Adran 1) ei wneud. Eto, byddem yn pwysleisio y byddem yn annog pob sefydliad i ystyried diogelwch eu staff a’r cyhoedd sy’n defnyddio eu cyfleusterau.

Wrth ystyried yr hyn a ddylai fod yn ofynnol gan Ddyletswydd Diogelu, rydym yn cydnabod:

  • Mae natur lleoliadau a sefydliadau’n amrywio’n fawr, er enghraifft o ran y math o fusnes neu fenter, maint sefydliadol, a phroffil staffio.
  • Mae gan wahanol leoliadau a sefydliadau sgiliau ac adnoddau diogelwch gwahanol sydd ar gael iddynt - o’r rhai sydd â staff diogelwch, cyllidebau, hyfforddiant a gweithdrefnau penodedig, i’r rhai sydd ag ychydig neu ddim.
  • Dylai asesiadau risg a mesurau lliniaru fod yn gymesur ag amgylchiadau penodol y lleoliad/sefydliad a’i amgylchedd, yn ogystal â natur y bygythiad terfysgol ar unrhyw adeg benodol.
  • Yn yr hinsawdd ariannol anodd y mae llawer o leoliadau a sefydliadau yn eu chael eu hunain ynddi, yn arbennig oherwydd effeithiau COVID-19, mae atebion diogelwch cost isel a dim cost yn ddymunol a, mewn llawer o achosion, byddant yn ymateb cymesur i’r risg.

Nod Dyletswydd fyddai sicrhau ystyriaeth o fygythiad, gan arwain at ystyried a bwrw ymlaen â mesurau lliniaru priodol a chymesur. Rhagwelir y byddai’r gofynion hyn yn newidiadau syml i systemau a phrosesau presennol i lawer o sefydliadau a lleoliadau, gan olygu dim costau neu gostau newydd isel. I lawer, bydd y rhain yn adlewyrchu gwaith sydd eisoes wedi’i wneud, gan gynnwys ystyriaethau diweddar o fesurau iechyd COVID-19 a sicrhau gofynion diogelwch priodol trwy’r rhain.

Lleoliadau a sefydliadau mawr

Ar gyfer lleoliadau cyhoeddus a sefydliadau mawr sydd â chwmpas Dyletswydd Diogelu, rydym o’r farn y dylid ei gwneud yn ofynnol i’r perchnogion/gweithredwyr:

  • Defnyddio’r wybodaeth a’r canllawiau sydd ar gael a ddarperir gan y Llywodraeth (gan gynnwys yr heddlu) i ystyried bygythiadau terfysgol i’r cyhoedd a staff mewn lleoliadau y maent yn berchen arnynt neu’n eu gweithredu;
  • Asesu effaith bosibl y risgiau hyn ar draws eu swyddogaethau a’u hystad, a thrwy eu systemau a’u prosesau;
  • Ystyried a symud ymlaen mesurau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd sefydliadol ‘rhesymol ymarferol’ (er enghraifft hyfforddi staff a chynllunio ar gyfer sut i ymateb pe byddai ymosodiad).

Mae’rterm ‘rhesymol ymarferol’ eisoes yn gysyniad sydd wedi’i hen sefydlu a’i ddeall ar gyfer sefydliadau trwy ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a rheoliadau diogelwch tân, sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchnogion/gweithredwyr bwyso a mesur risg yn erbyn yr ymdrech, yr amser a’r arian sydd eu hangen i’w lliniaru.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd gweithredu’r cysyniad hwn mewn cyd-destun diogelwch yn newydd i lawer o leoliadau a sefydliadau sydd o fewn cwmpas arfaethedig y Ddyletswydd, a fydd o bosibl heb lawer o brofiad o ystyried a lliniaru bygythiadau terfysgol.

Mae’r Llywodraeth am sicrhau bod y gofynion a wneir i gydymffurfio â’r Ddyletswydd arfaethedig, yn rhesymol ac yn briodol i sefydliadau sydd o fewn y cwmpas - ac yn gymesur â natur y bygythiad. Byddai canllawiau ategol y Llywodraeth yn darparu manylion ynghylch yr ystod o fesurau priodol ar gyfer sefydliadau sydd o fewn y cwmpas.

I’r rhan fwyaf o sefydliadau sydd o fewn cwmpas Dyletswydd Diogelu, rydym yn cynnig y byddai cydymffurfedd yn cael ei ddangos trwy roi sicrwydd bod yr effeithiau bygythiad a risg wedi’u hystyried, a bod mesurau lliniaru priodol wedi’u hystyried a’u symud ymlaen (wedi’u gweithredu neu gynlluniau ar waith ar gyfer eu dilyniant). Ar gyfer sefydliadau ar ben isaf trothwyon meini prawf, byddai hyn yn golygu mesurau parodrwydd syml â chost isel - neu ddim cost megis sicrhau:

  • Mae staff wedi’u hyfforddi ac yn ymwybodol o natur bygythiadau, methodolegau ymosod tebygol a sut i ymateb;
  • Mae staff wedi’u hyfforddi i nodi arwyddion rhagchwilio gelyniaethus ac i gymryd camau priodol; a
  • Mae cynlluniau ar waith ar gyfer ymateb sefydliad i wahanol fathau o ymosodiadau, sy’n cael eu hyfforddi a’u hymarfer yn rheolaidd.

Lle byddai mesurau diogelwch cymesur yn golygu gofynion lliniaru mwy sylweddol, byddai amser rhesymol yn cael ei ganiatáu i gynllunio a datblygu mesurau o fewn prosesau a chylchoedd cynllunio busnes. Er enghraifft, bydd mesurau lliniaru mwy cymhleth megis gweithredu mesurau ar gyfer rheoli mynediad yn briodol neu leihau’r risg o gerbyd fel ymosodiad ag arfyn golygu costau ariannol i gynllunio, dylunio a gweithredu, ac i hyfforddi staff yn eu defnydd. Mae’r rhain yn faterion y byddai canllawiau ategol yn darparu manylion pellach ar eu cyfer.

Er mwyn helpu’r rhai a allai fod o fewn cwmpas y Ddyletswydd arfaethedig i ddeall yr hyn y bydd mesurau diogelwch ‘rhesymol ymarferol’ a ‘phriodol’ yn ei olygu iddynt - gan gynnwys o ran goblygiadau cost ac adnoddau - rydym wedi datblygu nifer o enghreifftiau dangosol o arfer da ar gyfer gwahanol fathau a meintiau o sefydliadau i arddangos cydymffurfedd (Atodiad 2). Byddwn yn defnyddio’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a thystiolaeth a gasglwyd yn uniongyrchol gan randdeiliaid eraill i ddatblygu a chyhoeddi Asesiad Effaith Rheoleiddio.

Byddai’r Llywodraeth yn sicrhau bod ystod o adnoddau ar gael i gynorthwyo sefydliadau i gydymffurfio â’r Ddyletswydd, gan gynnwys darparu canllawiau ar ddeall methodolegau bygythiad, sut i gynnal asesiadau risg, a gwybodaeth a chyngor ar yr ystod o fesurau diogelwch sydd ar gael i liniaru’r risgiau a nodwyd. Ystyrir yr hyn sy’n ofynnol i gefnogi sefydliadau i gyflawni’r Ddyletswydd Diogelu ymhellach yn Adran 4.

Mannau cyhoeddus

Mae’r adran hon yn ystyried y potensial ar gyfer gofynion penodol o dan Ddyletswydd Diogelu i wella diogelwch mewn mannau cyhoeddus agored.Fe wnaeth Adran 1 godi’r mater o bartïon sydd â buddiant mewn lliniaru ymosodiadau mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys tirfeddianwyr, awdurdodau lleol a rhai awdurdodau cyhoeddus, a sefydliadau eraill sy’n gyfrifol am neu sy’n gweithredu mewn lleoliadau o’r fath.Mae eisoes ystod o ymdrechion parhaus i ddarparu cyngor a chanllawiau diogelwch i’r partïon hyn. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau codi ymwybyddiaeth a hyfforddi, megis y modiwlau Action Counters Terrorism (ACT) a See Check and Notify (SCaN) a gyflenwir gan Blismona Gwrthderfysgaeth, sy’n anelu at wella ymwybyddiaeth, cynllunio a phrosesau sefydliadol ac unigol ar gyfer beth i’w wneud os bydd ymosodiad.

Hoffem ddeall sut mae mecanweithiau a strwythurau llywodraethu eraill eisoes yn cael eu defnyddio i ystyried a lliniaru bygythiadau terfysgaeth, p’un a ellid cyflawni mwy drwyddynt, a’r potensial i’w defnyddio, neu drwy sefydlu gofynion newydd i gyflawni Dyletswydd Diogelu mewn mannau cyhoeddus.

Mae llawer o awdurdodau lleol, ac awdurdodau cyhoeddus eraill (megis Asiantaethau Priffyrdd) eisoes yn cyflawni ystod o swyddogaethau yn eu hawdurdodaethau i ystyried agweddau ar atal troseddau, diogelwch y cyhoedd a diogeledd. Mae’r mecanweithiau hyn[footnote 1] yn cynnwys:

  • CONTEST a Byrddau Diogelu;
  • Partneriaethau Diogelwch Cymunedol;
  • Trwyddedu ar gyfer diogelwch meysydd chwaraeon;
  • Prosesau cynllunio;
  • Fforymau Gwydnwch Lleol;
  • Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch (ar gyfer digwyddiadau);
  • Ardaloedd Gwella Busnes (y gellir eu sefydlu gan Awdurdodau Lleol, busnesau neu unigolion er budd busnesau lleol);
  • Pwyllgorau Trwyddedu (ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol, darparu adloniant a lluniaeth yn hwyr y nos); a
  • Prosesau Iechyd a Diogelwch, diogelwch tân a rheoli adeiladau.

Rydym yn ymwybodol o gyfyngiadau’r mecanweithiau hyn yng nghyd-destun y Ddyletswydd arfaethedig: nid yw’r mwyafrif wedi’u cynllunio i sicrhau canlyniadau diogelwch; ac nid yw llawer o’r swyddogaethau y maent yn eu cyflawni yn ofyniad deddfwriaethol, sy’n golygu eu bod yn gallu lliniaru bygythiadau i raddau amrywiol, ac mae’n anodd cael sicrwydd o’r lefel o ddiogelwch i’r cyhoedd a gyflawnir. Nid beirniadaeth o awdurdodau yw hon, dim ond adlewyrchiad o’r diffyg cyfredol o ofyniad diogelwch deddfwriaethol penodedig.

Yn y meysydd hyn ac eraill, mae awdurdodau lleol a chyhoeddus eisoes yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnull partïon â buddiant o bob rhan o’u hardaloedd, i drafod materion ynghylch pryder a rennir, ac i weithio gyda’i gilydd i helpu i ddatrys a lliniaru risgiau, gan gynnwys gweithredoedd troseddol. O drafodaethau blaenorol ag awdurdodau lleol, rydym yn ymwybodol bod gwahanol awdurdodau’n defnyddio gwahanol fecanweithiau mewn gwahanol ffyrdd i ystyried risgiau diogelwch a gweithredu mesurau lliniaru priodol. Hoffem geisio barn ynghylch a ellid defnyddio, neu addasu mecanweithiau presennol (er enghraifft y rhai a restrir uchod) i sicrhau canlyniadau diogelwch mwy effeithiol.

Yn ogystal, gallai sefydliadau diogelwch sy’n gyfrifol am, neu’n gweithredu mewn mannau cyhoeddus, weithio gyda phartneriaid (e.e. yr heddlu) i wella canlyniadau diogelwch o bosibl i sicrhau bod gwell dealltwriaeth o:

  • Fygythiad;
  • Methodolegau ymosod;
  • Prosesau lle gall sefydliadau asesu a rheoli risg; a
  • Mesurau a phrosesau diogelwch syml, fel y rhai a nodwyd yn yr adran “cyflwyniad i ddiogelwch amddiffynnol i berchnogion a gweithredwyr lleoliadau sydd yn hygyrch i’r cyhoedd.”

Hoffem ystyried dulliau cost-effeithiol y gallai ymdrechion o’r fath ddod yn fwy cyffredin a chydlynol trwyddynt, megis trwy grwpiau busnes lleol a mecanweithiau eraill sy’n bodoli eisoes (e.e. Ardaloedd Gwella Busnes).

Gellid gwella canlyniadau diogelwch yn fwy sylfaenol hefyd trwy ofyniad i awdurdodau lleol a phartneriaid lleol perthnasol eraill ystyried risgiau diogelwch a gweithredu mesurau lliniaru priodol ar gyfer mannau cyhoeddus. Gallai gofynion gynnwys:

  • Datblygu cynlluniau lleol, strategol i liniaru risgiau ac effeithiau terfysgaeth;
  • Gweithredu mesurau cymesur trwy systemau, prosesau a swyddogaethau perthnasol i wella diogelwch y cyhoedd;
  • Sefydlu rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer partneriaid lleol; a
  • Gweithio gyda phartneriaid allweddol (e.e. yr heddlu) i ystyried sut y byddai cynllun diogelwch yn gweithredu mewn ardaloedd lleol â blaenoriaeth.

Cydnabyddir y bydd cyflawni canlyniadau diogelwch effeithiol mewn mannau cyhoeddus fel arfer yn cael ei gyflawni trwy weithio mewn partneriaeth gan sawl sefydliad sy’n berchen ar leoliadau o’r fath neu sy’n gweithredu ynddynt. Fel rheol ni fydd un sefydliad yn gyfrifol am sicrhau canlyniadau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd. Byddai hefyd angen cydlyniad rhwng gofynion mannau cyhoeddus a’r rhai ar gyfer lleoliadau a sefydliadau o fewn trothwyon Dyletswydd Diogelu. Mae’r rhain yn faterion anodd y bydd angen eu hystyried ymhellach trwy’r broses ymgynghori.

O ran y gofynion arfaethedig ar gyfer lleoliadau a sefydliadau, byddai angen i’r Llywodraeth gefnogi partneriaid lleol i gydymffurfio ag unrhyw ofynion ar gyfer mannau cyhoeddus, er enghraifft trwy ddarparu canllawiau i’w galluogi i ddeall methodolegau bygythiad yn well, asesu risgiau, a deall yr ystod o fesurau diogelwch sydd ar gael i liniaru’r rhain. O ystyried cymhlethdod mannau cyhoeddus, efallai y bydd angen ystyried sut y gellid darparu cymorth ac arbenigedd pwrpasol. Ystyrir yr hyn sy’n ofynnol i gefnogi sefydliadau i gyflawni’r Ddyletswydd Diogelu ymhellach yn Adran 4.

Agweddau eraill ar Ddyletswydd Diogelu

Lle mae deddfwriaeth ddiogelwch yn bodoli eisoes, gallem o bosibl geisio sicrhau canlyniadau diogelwch mwy effeithiol trwy ofyniad ar gyfer gweithio mewn partneriaeth. Er enghraifft, o dan ganllaw’r Awdurdod Diogelwch Meysydd Chwaraeon, ‘Canllaw i Ddiogelwch mewn Meysydd Chwaraeon (Canllaw Gwyrdd) a Rheoli Diogelwch’, mae’n ofynnol i bartneriaid weithio gyda’i gilydd i ystyried diogelwch gwylwyr, gan gynnwys ar gyfer bygythiadau terfysgol, ar gyfer y daith i feysydd chwaraeon (y cyfeirir atynt fel ‘Zone Ex’ neu’r ‘Filltir Olaf’), er enghraifft o feysydd parcio cyhoeddus, gorsafoedd trên lleol, arosfannau bysiau ac ati.

Gellid mabwysiadu dulliau partneriaeth tebyg lle mae gofynion deddfwriaethol eraill eisoes yn berthnasol (e.e. lleoliadau sy’n ddarostyngedig i reoleiddio diogelwch trafnidiaeth); neu lle mae lleoliadau a/neu sefydliadau eraill sydd o fewn cwmpas Dyletswydd Diogelu yn gyfrifol am ddigwyddiadau neu weithgareddau a allai effeithio ar ardaloedd y tu allan i ffiniau eu saflen eu hunain (er enghraifft lle mae disgwyl i nifer fawr o bobl fynychu digwyddiad).

Gellid defnyddio canllawiau (a allai fod yn ddeddfwriaethol) i sefydlu sut y byddai’n ofynnol i bartneriaid weithio gyda’i gilydd i sicrhau canlyniadau diogelwch, er enghraifft, i helpu i reoli ciwiau yn y mannau cyhoeddus y tu allan i leoliad lle mae gan bartneriaid lluosog fuddiant, neu i ddatblygu mecanweithiau cyfathrebu a dulliau o weithio rhwng sefydliadau mewn ymateb i ddigwyddiadau.

Rydym yn ymwybodol o enghreifftiau o sefydliadau sydd eisoes yn gweithio gyda’i gilydd yn wirfoddol i wella diogelwch y mannau cyhoeddus a rennir y maent yn gweithredu ynddynt, er enghraifft trwy fentrau gwyliadwriaeth a phatrolio ar y cyd, rhannu gwybodaeth, neu rwydweithiau cyfathrebu. Rydym yn awyddus i archwilio sut y gellid lledaenu mecanweithiau, rhwydweithiau ac arferion da presennol i wireddu canlyniadau diogelwch gwell, ac a ellid defnyddio Dyletswydd Diogelu i gefnogi cydgysylltu a darparu canlyniadau diogelwch yn well ymhlith sefydliadau sy’n gweithredu ar draws mannau cyhoeddus a lleoliadau a rennir.

Mae sectorau penodol eraill y gellid eu dwyn o fewn cwmpas y Ddyletswydd Diogelu i ysgogi gwelliannau diogelwch ychwanegol. Er enghraifft, yn y sector trafnidiaeth:

  • Gallai fod yn ofynnol i weithredwyr bysiau a choetsiau gydymffurfio â chanllawiau diogelwch arfer gorau presennolyr Adran Drafnidiaeth (DfT) er mwyn cyflawni’r Ddyletswydd Diogelu; a
  • Gellid gofyn i borthladdoedd masnachol a llongau â baner y DU, sydd eisoes yn derbyncanllawiau DfT, gydymffurfio â’r canllawiau hyn er mwyn cyflawni’r Ddyletswydd Diogelu.

Gellid weithredu Dyletswydd Diogelu hefyd i gwmnïau a sefydliadau eraill sy’n gyfrifol am ddal, gwerthu neu logi cynhyrchion y gallai terfysgwyr eu defnyddio fel arfau mewn ymosodiad mewn lleoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd, megis - cerbydau, cyllyll a ffrwydron. Mae’r Llywodraeth eisoes yn deddfu neu’n cyhoeddi canllawiau diogelwch ar gyfer rhai sectorau sy’n anelu at liniaru’r defnydd o gynhyrchion a gwrthrychau penodol fel arfau mewn ymosodiadau terfysgol. Mae gwerthu, prynu a chario cyllyll yn cael ei reoleiddio, ynghyd â phrynu ffrwydron a rhagflaenwyr ffrwydrol. Mae Cynllun Diogelwch Cerbydau Rhentu DfT yn cynnwys cod ymarfer deg pwynt, ac mae Canllawiau Diogelwch Cerbydau Nwyddau DfT yn nodi camau syml y gall gweithredwyr a gyrwyr cerbydau masnachol eu cymryd i wella diogelwch. Gallai Dyletswydd Diogelu o bosibl ei gwneud yn ofynnol i’r cwmnïau a’r sefydliadau hyn gadw at ganllawiau diogelwch o’r math hwn.

Cwestiynau

19. A yw’ch sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal asesiad risg ar gyfer terfysgaeth?

Y/N

[Wedi’i gysylltu â Chwestiwn 19]

20. A yw’r broses hon yn cael ei chyflawni gan unigolyn mewnol neu unigolyn a benodir yn allanol?

Mewnol/Allanol

[Lle mai 19 = Y]

21.Pan fyddwch yn cynnal asesiad o risg terfysgaeth, sawl diwrnod gwaith ydych yn amcangyfrif bod eich sefydliad yn eu treulio ar y dasg hon fel rheol? (Lle mae nifer o staff yn ymgymryd â hyn, cofiwch gynnwys cyfanswm y diwrnodau a dreulir gan yr holl staff)?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

22.Pa mor aml y mae eich sefydliad fel arfer yn adolygu’r asesiad risg hwn?

a. Sawl gwaith y flwyddyn

b. Tuag unwaith y flwyddyn

c. Tuag unwaith bob 2 flynedd

d. Tuag unwaith bob 3 blynedd neu fwy

e. Arall (nodwch)

23.Pa fesurau lliniaru yn erbyn risgiau terfysgaeth y mae eich sefydliad yn ymgymryd â nhw ar hyn o bryd (dewiswch bob un sy’n berthnasol)?

a. Protocolau a gweithdrefnau diogelwch sefydliadol sydd wedi’u diffinio’n dda, gan gynnwys ymateb i ymosodiad terfysgol

b. Mae mesurau ar waith i nodi ac amharu ar ragchwilio gelyniaethus

c. Gweithio i sicrhau bod ymddygiadau diogelwch yn cael eu mabwysiadu gan y gweithlu

d. Mae polisïau a gweithdrefnau diogelwch personél yn ystyried risgiau diogelwch

e. Ystyrir gwendidau safle/lleoliad (i fygythiadau terfysgol) a mesurau lliniaru ffisegol priodol

f. Mae gweithdrefnau gwacáu, symud i le mewnol diogel, cloi i lawr ar waith ac mae staff yn eu deall a’u harfer

g. Gwneir hyfforddiant staff i godi ymwybyddiaeth o’r bygythiad a beth i’w wneud

h. Mae gweithdrefnau neu ap parhad busnes (e.e. ap ACT) yn cynnwys gwybodaeth ar sut i ymateb i ymosodiadau

i. Cydgysylltu â’r heddlu neu adnoddau eraill (e.e. ymgynghorydd diogelwch) ar fygythiadau a mesurau diogelwch priodol

j. Cymryd rhan mewn mentrau diogelwch lleol

k. Arall (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

24.Faint o arian y mae eich sefydliad fel arfer yn ei wario ar fesurau diogelwch newydd neu ddiwygiedig a fyddai’n lliniaru yn erbyn risgiau terfysgol mewn un flwyddyn ariannol?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

25.Beth yw’r gweithgareddau a’r mecanweithiau presennol yr ydych yn ystyried sy’n arwain at y canlyniadau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd sefydliadol gorau mewn mannau cyhoeddus (dewiswch bob un sy’n berthnasol)?

a. Ymgyrchoedd cyfathrebu e.e. Action Counters Terrorism (ACT) a See It, Say It, Sorted

b. Cyrsiau codi ymwybyddiaeth a hyfforddi i staff

c. Cynhyrchion ac offer ar gyfer cyngor a chanllawiau

d. Mecanweithiau a phrosesau awdurdodau lleol (fel yr amlinellir ar dudalen 19)

e. Arall (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

26.Beth yw’r swyddogaethau presennol ar gyfer awdurdodau lleol sydd ar hyn o bryd yn arwain at y canlyniadau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd sefydliadol gorau mewn mannau cyhoeddus (dewiswch bob un sy’n berthnasol)?

a. CONTEST a Byrddau Diogelu

b. Partneriaethau Diogelwch Cymunedol

c. Trwyddedu ar gyfer diogelwch meysydd chwaraeon

d. Prosesau cynllunio

e. Fforymau Gwydnwch Lleol

f. Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch (ar gyfer digwyddiadau)

g. Ardaloedd Gwella Busnes (y gellir eu sefydlu gan Awdurdodau Lleol, busnesau neu unigolion er budd busnesau lleol)

h. Pwyllgorau Trwyddedu (ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol, darparu adloniant a lluniaeth yn hwyr y nos)

i. Prosesau Iechyd a Diogelwch, diogelwch tân a rheoli adeiladau.

j. Arall (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

27.Beth yw’r swyddogaethau presennol ar gyfer awdurdod lleol sydd â’r potensial i arwain at y canlyniadau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd sefydliadol gorau mewn mannau cyhoeddus (dewiswch bob un sy’n berthnasol)?

a. CONTEST a Byrddau Diogelu

b. Partneriaethau Diogelwch Cymunedol

c. Trwyddedu ar gyfer diogelwch meysydd chwaraeon

d. Prosesau cynllunio

e. Fforymau Gwydnwch Lleol

f. Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch (ar gyfer digwyddiadau)

g. Ardaloedd Gwella Busnes (y gellir eu sefydlu gan Awdurdodau Lleol, busnesau neu unigolion er budd busnesau lleol)

h. Pwyllgorau Trwyddedu (ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol, darparu adloniant a lluniaeth yn hwyr y nos)

i. Prosesau Iechyd a Diogelwch, diogelwch tân a rheoli adeiladau.

j. Arall (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Wedi’i gysylltu â Chwestiwn 27]

28.Wedi’i gysylltu â chwestiwn 9, ar gyfer yr opsiwn/au o’ch dewis, beth fyddai’n ofynnol i wella neu gefnogi hyn/y rhain i sicrhau canlyniadau diogelwch mwy effeithiol?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

29.Sut y gallai sefydliadau sy’n gweithio mewn mannau cyhoeddus gael eu hannog neu eu gorfodi i ymgysylltu âsefydliadau partner (e.e. yr heddlu) i sicrhau bod gwell dealltwriaeth o fygythiad terfysgol, rheoli risg a mesurau lliniaru?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

30.Beth yw eich barn ar ofyniad deddfwriaethol posibl i awdurdodau lleol (ac awdurdodau cyhoeddus perthnasol megis Asiantaethau Priffyrdd) a phartneriaid lleol perthnasol eraill ddatblygu cynllun strategol i frwydro yn erbyn terfysgaeth, er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, trwy weithio mewn partneriaeth?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Wedi’i gysylltu â Chwestiwn 30]

31.Beth yn eich barn chi fyddai cydrannau allweddol darpariaeth ddeddfwriaethol o’r fath a chanllawiau cysylltiedig?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Wedi’i gysylltu â Chwestiwn 30]

32.Pa sefydliad/au a allai chwarae rhan flaenllaw wrth ddod â phartneriaethau o’r fath ynghyd a’u cynull?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Wedi’i gysylltu â Chwestiwn 30]

33.Pa ofynion i wella diogelwch a pharodrwydd amddiffynnol y gallai partneriaethau o’r fath eu cyflawni’n realistig?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

34.A oes gennych unrhyw gynigion ychwanegol i’w cyflwyno a allai wella diogelwch mewn mannau cyhoeddus?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

35.Lle mae gofyniad deddfwriaethol ar gyfer diogelwch (e.e. mewn rhai meysydd chwaraeon a safleoedd trafnidiaeth, neu yn y dyfodol y sefydliadau a’r lleoliadau hynny sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Diogelu), a yw’n rhesymol ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau perthnasol (er enghraifft y rhai sy’n amgylchynu’r safle) weithio mewnt partneriaethi gyflawni canlyniadau diogelwch?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

36.Lle mae canllawiau diogelwch y Llywodraeth ar hyn o bryd (e.e. gweithredwyr bysiau a choetsys a phorthladdoedd masnachol a llongau â baner y DU) a fyddai’nbriodol i’r canllawiau hyn ddod yn ganllawiau deddfwriaethol o dan y Ddyletswydd Diogelui sicrhau mwy o sicrwydd ar ystyriaethau a chanlyniadau diogelwch?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

37.Lle mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau diogelwch (e.e. gweithredwyr bysiau a choetsys a phorthladdoedd masnachol a llongau â baneri yn y DU) neu wedi rhoi cynlluniau gwirfoddol ar waith ar gyfer cynhyrchion y gellid eu defnyddio fel arfau,a fyddai’n rhesymol i fusnesau a gweithredwyr eraill sy’n gyfrifol gael eu gorfodi i ddilyn y canllawiau hynny o dan Ddyletswydd Diogelu?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

I ba raddau ydych chi’n cytuno â’r datganiad dilynol:

38.Byddai cydymffurfio â Dyletswydd Diogelu’n galw am fwy o ymdrech (e.e. amser, adnodd staff) na chydymffurfio ar gyfer rhwymedigaethau cyfreithiol a rhwymedigaethau eraill tebyg? (e.e. diogelwch tân, iechyd a diogelwch, canllawiau Deddf Trwyddedu 2003, trwyddedu ar gyfer meysydd chwaraeon, Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch) ?

SD – D – NAND – A – SA [graddfa]

39.Sut ydych chi’n credu y bydd y gofynion/mesurau lliniaru newydd hyn yn effeithio ar:

a. Nifer y cwsmeriaid/ymwelwyr sy’n ymweld â lleoliadau yng nghwmpas y ddyletswydd (dim o gwbl, cynyddu, gostwng)

b. Canfyddiad y cyhoedd o’r bygythiad terfysgol (dim o gwbl, cynyddu, gostwng)

c. Gwyliadwriaeth y gweithlu/defnydd o ymddygiadau diogelwch da gan staff (dim o gwbl, cynyddu, gostwng)

40.Mae Atodiad 3 yn nodi costau a buddion disgwyliedig ymyrraeth ar ffurf Dyletswydd Diogelu. Darparwch sylwadau ar yr Atodiad hwn.

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

41.A oes unrhyw faterion eraill yn ymwneud â’rhyny dylai fod yn ofynnol i bartïon o fewn cwmpas Dyletswydd Diogelu ei wneud yr hoffech gynnig barn arnynt?

(Testun rhydd, 200 gair ar y mwyaf)

Adran 3: sut ddylai cydymffurfio weithio?

Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio’r Ddyletswydd Diogelu arfaethedig i helpu ystod eang o fusnesau a sefydliadau eraill i wella eu parodrwydd ar gyfer ymosodiad terfysgol a’u hamddiffyn rhag ymosodiad terfysgol. Fodd bynnag, yn unol â’r ‘Fframwaith Rheoleiddio Gwell’, rydym hefyd am sicrhau nad yw’r Ddyletswydd yn creu costau na beichiau diangen ar adnoddau nac amser staff. Ar gyfer llawer o sefydliadau sy’n dod o dan y Ddyletswydd, rydym yn rhagweld y bydd costau ariannol a dynnirt yn fach iawn, a gellir sicrhau cydymffurfedd cymesur trwy ymgymryd â mesurau syml megis asesu risg a gweithgareddau parodrwydd yn rheolaidd, er enghraifft hyfforddiant rheolaidd i staff. Mae nodyn effaith wedi’i ddarparu yn Atodiad 3 i nodi’r mathau disgwyliedig o gostau a buddion. Yn ychwanegol at hyn, bydd Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cael ei ddatblygu a’i gyhoeddi, wedi’i lywio gan yr ymatebion i’rcwestiynau ymgynghori hyn ac ymchwil a dadansoddiad ychwanegol.

Un o amcanion allweddol y Ddyletswydd Diogelu arfaethedig yw gyrru ymlaen ddiwylliant gwell o ddiogelwch, lle gall perchnogion/gweithredwyr ymgymryd ag ystyriaethau diogelwch gwybodus, a gweithredu mesurau diogelwch rhesymol a chymesur, a fydd gyda’i gilydd yn arwain at ganlyniadau diogelwch gwell o lawer. Byddai Dyletswydd yn rhan o ymdrechion helaeth, ehangach y Llywodraeth iwella diogelwch a pharodrwydd amddiffynnol trwy fecanweithiau gwirfoddol a mentrau codi ymwybyddiaeth eraill.

Yn yr adran hon, rydym yn ystyried ymhellach sut y gallai’r rheini sydd o fewn cwmpas Dyletswydd Diogelu arddangos cydymffurfedd yn y ffordd fwyaf effeithlon. Rydym hefyd yn ystyried ar ba sail y byddai’r Llywodraeth yn goruchwylio ac yn ceisio sicrwydd ar gyflawni Dyletswydd Diogelu.

Lleoliadau a sefydliadau mawr

Ar gyfer lleoliadau cyhoeddus, a sefydliadau mawr, cynigiodd adran 2 y dylid ei gwneud yn ofynnol i berchnogion/gweithredwyr cyfrifol:

  • Ystyried bygythiadau terfysgol i’r cyhoedd a staff mewn lleoliadau y maent yn berchen arnynt neu’n eu gweithredu;
  • Asesu’r risgiau hynny ar draws eu swyddogaethau a’u hystad; ac
  • Ystyried a symud ymlaen fesurau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd sefydliadol ‘rhesymol ymarferol’.

Rydym yn argymell y dylai asesiadau risg sy’n ofynnol gan y Ddyletswydd arddangos:

  • Yr ystod o fygythiadau sydd wedi’u hystyried;
  • Y camau a gymerwyd wedi hynny i liniaru’r bygythiadau hyn;
  • Y camau a gymerwyd i baratoi ar gyfer a/neu ymateb pe byddai ymosodiad; a
  • Lle na chymerwyd camau, y rhesymau pam.

Bydd angen i’r lleoliadau hyn gael eu cofnodi a’u cadw gan leoliadau a sefydliadau o fewn y cwmpas, fel rhan o dystiolaeth i arddangos rhan o’r broses o gydymffurfio â’r Ddyletswydd os bydd angen gwneud hynny. Bydd angen iddynt gael eu hadolygu gan eu perchennog, o leiaf unwaith y flwyddyn, ac wrth i amgylchiadau newid, er enghraifft yn dilyn newidiadau i’r:

  • Cyd-destun risg allanol - er enghraifft ymosodiad terfysgol sylweddol yn y DU, newid yn asesiad lefel bygythiad terfysgaeth genedlaethol y Llywodraeth, neu newid i’r tebygolrwydd o fethodolegau bygythiad);
  • Cyd-destun risg fewnol - er enghraifft yn dilyn ehangu safle a/neu niferoedd staff sefydliad, neu newid yn y model busnes, megis bwyty’n dechrau gwasanaethu cwsmeriaid yn yr awyr agored.

I’r rhan fwyaf o sefydliadau, byddai cyflawni a gweithredu mesurau lliniaru priodol yn syml, yn gyflym ac yn tynnuo’r gost leiaf. Byddai canllawiau manwl ar gael i egluro natur bygythiadau a methodolegau terfysgol, cyngor ar sut i asesu effeithiau posibl ymosodiad ar safle neu fan cyhoeddus penodol, a’r ystod o fesurau lliniarol a allai fod ynbriodol ac yn gymesur ar gyfer yr ystod sefydliadau sydd o fewn y cwmpas.

Ni all mesurau o’r fath atal pob ymosodiad maleisus, ond dylent fynd yn bell i leihau’r effaith ar staff ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd sy’n bresennol, heb arwain at feichiau afresymol o ran cost nac adnoddau staff. Efallai y bydd angen i sefydliadau a lleoliadau mwy sydd â risgiau mwy neu fwy cymhleth sicrhau bod mesurau lliniaru ychwanegol neu fwy soffistigedig yn cael eu rhoi ar waith, ond byddai hyn yn gymesur â’r risg.

Bydd datblygu sylfaen dystiolaeth i gefnogi’r asesiadau risg hyn hefyd yn cynorthwyo trefn arolygu. Gallai tystiolaeth ategol briodol gynnwys: crynodeb byr o’r risgiau a’r camau a ystyriwyd ac a gymerwyd wedi hynny; tystysgrifau cwblhau o gyrsiau hyfforddi priodol i staff; tystiolaeth o fesurau diogelwch ffisegol a weithredwyd, megis cloeon drysau, caeadau rholer a gatiau; neu dystiolaeth o gynlluniau ymateb i ymosodiad a’u profi gyda staff.

Eraill sy’n destun Dyletswydd

Yn Adran 2 fe wnaethom hefyd ystyried lleoliadau a phartïon eraill a allai o bosibl gael eu cynnwys mewn Dyletswydd, yn arbennig ar gyfer gwella diogelwch mewn mannau cyhoeddus a gofynion ar gyfer gweithio mewn partneriaeth. Bydd gofynion cydymffurfio ar gyfer y partïon hyn yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau i benderfynu beth fyddai’n golygu gofynion deddfwriaethol priodol yn y meysydd hyn. Byddwn yn parhau i ddatblygu meddwl ac opsiynau ar y mater hwn ymhellach i ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol fel rhan o’r broses ymgynghori.

Arolygu a gorfodi

Rydym yn ystyried y byddai angen trefn arolygu i ddarparu’r sicrwydd angenrheidiol bod y rhai sydd o fewn cwmpas Dyletswydd Diogelu’n diwallu ei gofynion.

Rydym yn awyddus i ddatblygu trefn arolygu â chyffyrddiad ysgafn, a byddwn yn ystyried a ellid, a pha mor bell, y gellid asesu cydymffurfedd o bell a neu drwy asiantaethau trydydd parti priodol. Rydym yn rhagweld y byddai trefn arolygu’n defnyddio asesiadau risg ar sail tystiolaeth a dulliau cymesur eraill i bennu sut a ble mae arolygiadau’n cael eu cynnal. Byddai hyn yn ystyried natur benodol y bygythiad, ynghyd â gwybodaeth ynghylch lefelau cydymffurfedd a phryder.

Byddai arolygiadau’n cynnig cyfle i ddarparu cymorth a chyngor penodol i leoliadau a sefydliadau i’w helpu i wella eu diogelwch a’u parodrwydd, cynystyried unrhyw gamau pellach. Lle bynnag y bydd yn bosibl, byddem am annog cydymffurfedd â’r Ddyletswydd trwy gymhellion ac ystod o gymorth sydd ar gael.

Mae gwaith pellach yn digwydd i nodi’r awdurdod cyflenwi a’r mecanweithiau mwyaf priodol a chost-effeithiol ar gyfer cynnal arolygiadau. Mae ystyriaeth hefyd yn parhau ynghylch pa bwerau y dylid eu rhoi i arolygwyr i’w galluogi i asesu cydymffurfiad yn effeithiol lle bo angen.

Fel y manylir uchod, un o amcanion allweddol y Ddyletswydd yw annog datblygu diwylliant diogelwch gwell, ond er mwyn sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud, rhaid i’r Ddyletswydd fod yn ddigon cadarn i ddwyn y rhai sydd o fewn ei chwmpas i gyfrif os oes angen. Felly, rydym yn cynnig y dylid datblygu model gorfodi cymesur lle bydd problemau ynghylch diffyg cydymffurfio.

Rydym yn rhagweld datblygu model gorfodi sy’n rhoi gallu i arolygwyr ddarparu cyngor ac arweiniad ar asesu risg a mesurau lliniaru priodol ar gyfer sefydliadau sydd o fewn cwmpas y ddyletswydd; lle ystyriwyd bod y rhain yn annigonol, gallai arolygwyr ofyn am i’r gwelliannau angenrheidiol gael eu gwneud. Pe na byddai’r rhain yn cael eu symud ymlaen, gallai camau pellach gynnwys hysbysiadau o ddiffyg a chamau gorfodi.

O ystyried yr effeithiau difrifol a allai ddigwydd o ganlyniad i dorri’r Ddyletswydd arfaethedig, rydym yn argymell bod trosedd newydd yn cael ei chreu ar gyfer sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio a sy’n methu’n barhausâ chymryd camau rhesymol i leihau effaith bosibl ymosodiadau. Rydym yn argymell bod trefn orfodi’n cael ei datblygu, â chosbau yn seiliedig yn bennaf ar sancsiynau sifil (megis dirwyon) i sefydliadau sy’n torri’r Ddyletswydd. Rydym yn ystyried bod hwn yn fframwaith mwy priodol ar gyfer cyfundrefn sy’n ceisio annog diwylliannau diogelwch sefydliadol mwy effeithiol, yn hytrach na system o sancsiynau troseddol a allai arwain at garcharu unigolion sy’n gyfrifol am ddiogelwch mewn lleoliadau a sefydliadau.

Bydd gwaith pellach yn digwydd i ddatblygu opsiynau manwl ar gyfer model gorfodi, troseddau perthnasol, a fframwaith cosbau cysylltiedig.

Cwestiynau

42.Beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio cyfundrefn arolygu i gefnogi gwelliannau i ddiwylliant ac arferion diogelwch?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

43. Beth yw eich barn ar ddefnyddio cosbau sifil (dirwyon) ar gyfer sefydliadau sy’n methu’n gyson â chymryd camau rhesymol i leihau effaith bosibl ymosodiadau sy’n gysylltiedig â sicrhau cydymffurfedd â Dyletswydd Diogelu?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

44.A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ynglŷn â sut y gallai trefn gydymffurfio (arolygu a gorfodi) weithredu?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

Adran 4: sut ddylai’r llywodraeth gefnogi a gweithio â phartneriaid am y gorau?

Ar hyn o bryd mae’r Llywodraeth yn gwneud ymdrechion sylweddol i sicrhau y gellir cynghori partïon sy’n gyfrifol am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd yn briodol ar:

  • Ddeall y bygythiad terfysgol a methodolegau ymosod;
  • Beth yw mesurau diogelwch a pharodrwydd amddiffynnol priodol a chymesur;
  • Deall pwysigrwydd gwyliadwriaeth, riportio ymddygiad neu weithgareddau amheus, a beth yw camau priodol i’w cymryd yn dilyn ymosodiad terfysgol; a
  • Sut i gynllunio a pharatoi ar gyfer ymosodiadau terfysgol posib, er enghraifft trwy hyfforddi staff a chodi ymwybyddiaeth a phrofi ac ymarfer gweithdrefnau brys.

Mae amrywiaeth o fecanweithiau i ddarparu’r cyngor a chanllawiiiau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ymgysylltu gan Gynghorwyr Diogelwch Gwrthderfysgaeth (‘CTSAs’) sy’n darparu cyngor pwrpasol i berchnogion a gweithredwyr safleoedd, awdurdodau lleol ac eraill;
  • Sesiynau codi ymwybyddiaeth wedi’u targedu a chyrsiau hyfforddi a ddarperir gan NaCTSO, CTSAs a Chynghorwyr Ymwybyddiaeth Gwrthderfysgaeth i reolwyr, staff blaen tŷ a staff eraill mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd;
  • Ymgysylltu â chynrychiolwyr sectorau blaenllaw (e.e. meysydd chwaraeon, canolfannau siopa, canolfannau adloniant), aelod-gymdeithasau a sefydliadau sy’n berchen ar neu’n gyfrifol am neu’n gweithredu mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd;
  • Cyngor a ddarperir i awdurdodau lleol, cynllunwyr, datblygwyr a phenseiri gan CTSAs, y Ganolfan Diogelu Seilwaith Genedlaethol (‘CPNI’), a chan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol trwy’r Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol a’r Canllawiau cysylltiedig, a ddyluniwyd i sicrhau bod mesurau diogelwch cymesur yn cael eu hystyried ar gyfer adeiladau ac adnewyddiadau newydd priodol;
  • Mae cyngor a chanllawiau ar-lein yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd, ar gyfer partïon cyfrifol o Blismona Gwrthderfysgaeth a CPNI; a
  • Chyfathrebiadau wedi’u targedu at randdeiliaid a’r cyhoedd gan Blismona Gwrthderfysgaeth.

Rydym hefyd wedi bod yn datblygu mecanweithiau newydd i gynyddu ystod ein hymgysylltiad ac i ddatblygu offer a chynhyrchion wedi’u teilwra i anghenion defnyddwyr, gan gynnwys:

  • Gwasanaeth digidol newydd, sydd ar gael yn rhwydd lle gellir cyrchu cynnwys, cyngor a hyfforddiant diogelwch trwy un platfform (i’w lansio yn 2021);
  • Diwrnodau ymgysylltu sectoraidd a rhanbarthol (Action Counter Terrorism Corporate) a gychwynnir gan Blismona Gwrthderfysgaeth i ddarparu cyngor a chanllawiau i grwpiau sectoraidd a rhanbarthol o randdeiliaid cyfrifol;
  • Cynhyrchion hyfforddi ac ymwybyddiaeth newydd a diwygiedig ar gyfer rheolwyr, staff blaen tŷ a staff eraill mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd;
  • Rhaglen hyfforddi ymwybyddiaeth e-ddysgu (sy’n cynnwys sylwi ar arwyddion ymddygiad amheus a beth i’w wneud pe byddai ymosodiad yn digwydd) sydd ar gael yn rhwydd i bawb;
  • Ap Action Counters Terrorism (ACT) (a lansiwyd ym mis Mawrth 2020) sy’n darparu mynediad hawdd at ystod o gyngor a chanllawiau, offer a chynhyrchion rhanddeiliaid;
  • Amrywiaeth o gyngor a chanllawiau newydd a adolygir yn rheolaidd a ddarperir gan Blismona Gwrthderfysgaeth a CPNI; a
  • Cyfathrebiadau mwy helaeth ynghylch bygythiad, methodolegau a mesurau lliniaru gan Blismona CT i fusnesau a’r cyhoedd.

Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod y nifer sy’n manteisio arno’n wirfoddol, ac mae ymchwil wedi dangos nad yw’r rhai sy’n gyfrifol am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd bob amser yn ymwybodol o’r offer hyn. Oherwydd hynny, os datblygir Dyletswydd Diogelu, bydd angen gwella ymdrechion i gefnogi sefydliadau sydd o fewn cwmpas y Ddyletswydd. Gallai cyngor a chanllawiau pwrpasol gynnwys:

  • Gwybodaeth hawdd ei deall ynghylch methodolegau bygythiad ac ymosodiadau;
  • Cyngor ar ddeall asesu risg a rheoli risgiau;
  • Amlinellu’r ystyriaethau a’r offer sy’n caniatáu ar gyfer lliniaru bygythiadau trwy systemau a phrosesau; a
  • Canllawiau manwl ar liniaru diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd.

Bydd angen i ganllawiau ategol adlewyrchu cyngor clir a syml ar gyfer ystod eang o ddefnyddwyr (o ran maint sefydliad, math/busnes, ac arbenigedd diogelwch).

Mewn rhai achosion, fel y nodwyd yn adran 2 ynghylch gofyniad deddfwriaethol posibl ar gyfer mannau cyhoeddus, bydd angen i’r Llywodraeth weithio gyda phartneriaid i ystyried cymorth pwrpasol ar gyfer bwrw ymlaen ag agweddau ar Ddyletswydd Diogelu, er mwyn sicrhau bod canlyniadau diogelwch effeithiol yn cael eu gwireddu.

Yn ogystal, mae rôl i bartneriaid ehangach o ran cefnogi’r Ddyletswydd. Bydd cymdeithasau sy’n aelodau a sy’n cynrychiolu (e.e. ar gyfer sectorau busnes, ac ardaloedd lleol) yn bwysig er mwyn codi ymwybyddiaeth o ofynion newydd, i gefnogi dealltwriaeth ac ymdrechion cyflenwi, yn ogystal ag ystyried sianeli cyflenwi a chyfathrebu newydd.

Byddai hefyd angen ymgysylltu â’r diwydiant diogelwch a sefydliadau eraill sydd â rôl wrth gyflenwi a chefnogi atebion diogelwch (gwasanaethau a chynhyrchion) sy’n helpu perchnogion a gweithredwyr i gydymffurfio â’r Ddyletswydd. Bydd yn bwysig sicrhau bod y farchnad yn gallu darparu digon o gyngor, cynhyrchion a gwasanaethau o ansawdd uchel i bawb sydd o fewn y cwmpas. I wneud hyn, gall y Llywodraeth ystyried cyflwyno neu gefnogi mentrau newydd a phresennol a all helpu i hyrwyddo a chynnal safonau priodol megis hyfforddiant achrededig, cynlluniau contractwyr cymeradwy, neu reoleiddio.

Rydym hefyd am ystyried sut a ble y gellid defnyddio Dyletswydd i gymell, yn hytrach na gorfodi, cydymffurfedd. Defnyddir cymhellion eisoes i annog ymddygiadau a gweithgareddau diogelwch. Er enghraifft, mae PoolRe, yr ailyswiriwr terfysgaeth a gefnogir gan y Llywodraeth, yn annog busnesau i ystyried y risgiau o derfysgaeth ac i weithredu mesurau diogelwch a pharodrwydd amddiffynnol. Yn gyfnewid am hyn, gall sefydliadau fod yn gymwys i gael gostyngiad ar eu premiwm yswiriant, fel arfer wedi’i osod ar 5%. Er mwyn annog cydymffurfedd eang â Dyletswydd Diogelu, rydym yn awyddus i sicrhau bod ystod eang o gymhellion yn cael eu hystyried a’u datblygu, o fewn y diwydiant yswiriant a thu hwnt. Gallai hyn gynnwys datblygu a defnyddio ardystiadau neu safonau cynnyrch lle bydd hynny’n berthnasol i agweddau ar y Ddyletswydd.

Yn yr holl ymdrechion hyn, rydymhefyd yn ymwybodol o sicrhau nad yw’r Ddyletswydd yn creu unrhyw ganlyniadau neu gostau anfwriadol trwy amryfusedd.

Cwestiynau

45.A ydych yn cyrchu cyngor y Llywodraeth ar hyn o bryd (yn bennaf gan Blismona CT a’r Ganolfan Diogelu Seilwaith Genedlaethol) ynghylch bygythiad, diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd?

Y/N

[Os yw 45 = Y]

46.Beth, os unrhyw beth, sydd fwyaf gwerthfawr yn eich cyngor a chanllawiau cyfredol?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Os yw 45 = N]

47. Pam nad ydych yn cyrchu’r cyngor a chanllawiau hyn ar hyn o bryd?

a. Nid oeddwn yn gwybod eu bod yn bodoli

b. Nid wyf yn credu bod angen i mi fynd i’r afael â’r bygythiad

c. Nid oes gennyf yr amser i gyrchu hyn

d. Mae’n rhy ddryslyd canfod yr hyn yr wyf am ei gael

e. Arall (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

48. Beth fyddai fwyaf defnyddiol i chi i’ch helpu i gydymffurfio â Dyletswydd Diogelu (dewiswch bob un sy’n berthnasol)?

a. Gwasanaeth digidol sengl lle gallech gyrchu deunydd, cyngor a hyfforddiant perthnasol mewn un lle

b. Gwybodaeth hawdd ei hamgyffred am fygythiad a methodolegau ymosod

c. Templed asesiad risg

d. Gwybodaeth am gynnal asesiad risg ar gyfer bygythiadau terfysgaeth

e. Cyngor yn ymwneud â mesurau lliniaru diogelwch amddiffynnol

f. Cyngor yn ymwneud â diogelwch personél a phobl

g. Cyngor yn ymwneud â sut y gall sefydliad baratoi ar gyfer ymosodiad terfysgol

h. Cyngor ar yr hyn sy’n golygu lliniaru rhesymol ymarferol a phriodol sy’n briodol i’m hamgylchiadau

i. Datblygu ardystiadau neu safonau cynnyrch ar gyfer agweddau ar yr ymagwedd

j. Cyrsiau hyfforddi ac ymwybyddiaeth i staff

k. Cynhyrchion e-ddysgu

l. Ap

m.Cyfarfod sector lle gallaf siarad am y Ddyletswydd ag arbenigwyr a sefydliadau tebyg eraill

n. Cyfarfod lleol lle gallaf siarad am y Ddyletswydd ag arbenigwyr a sefydliadau tebyg eraill

o. Arall: (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

49. Mae Plismona Gwrthderfysgaeth yn gweithio gyda’r Llywodraeth a’r Sector Preifat i ddylunio gwasanaeth digidol i ddarparu mynediad at ddeunydd, cyngor a hyfforddiant gwrthderfysgaeth perthnasol mewn un lle ar gyfer sefydliadau sy’n gweithredu mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd. A ydych yn rhagweld y byddech yn cyrchu gwybodaeth gwrthderfysgaeth trwy’r gwasanaeth hwn pe byddai ar gael i chi?

Y/N

[Os yw 49= N]

50. Pam lai?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Os yw 49 = Y]

51. Ar gyfer beth fyddech yn fwyaf tebygol o ddefnyddio’r math hwn o wasanaeth (ticiwch bob un sy’n berthnasol)?

a. Cael diweddariadau cyffredinol ar sut mae’r risg derfysgaeth yn newid

b. Cefnogi gweithgareddau cynllunio busnes

c. Deall pa weithgareddau rheoli risg y mae angen i chi eu gwneud

d. Cyrchu hyfforddiant CT

e. Cysylltu â sefydliadau eraill i drafod gwrthderfysgaeth

f. Deall beth i’w wneud ar ôl digwyddiad

g. Riportio gweithgareddau terfysgol a amheuir/pryderon

52. A oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau pellach ar sut yr hoffech gyrchu gwybodaeth gwrthderfysgaeth a gweithio gyda phartneriaid lleol ar faterion gwrthderfysgaeth yn y dyfodol?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

53. Pa rôl ddylai fod gan bartneriaethau busnes lleol (megis Ardaloedd Gwella Busnes, partneriaethau Menter Leol, ac ati) wrth gefnogi sefydliadau a lleoliadau i sicrhau gwell diogelwch?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

54. Gan weithio ag eraill, beth allai’r Llywodraeth ei wneud orau i gymell gwell arferion diogelwch?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

55. Er mwyn cefnogi darpariaeth cyngor a canllawiau o ansawdd uchel gan weithwyr proffesiynol diogelwch y sector preifat sy’n darparu cyngor ynghylch diogelwch gwrthderfysgaeth, dylai’r Llywodraeth ystyried (ticiwch bopeth sy’n berthnasol)

a. Safonau a gefnogir gan y Llywodraeth ar gyfer asesiadau risg a chyngor Gwrthderfysgaeth (CT)

b. Cymwysterau / Hyfforddiant achrededig ar gyfer gweithwyr proffesiynol unigol

c. ‘Cynllun contractwyr cymeradwy’ a gefnogir gan y Llywodraeth

d. Rheoleiddio ymgynghorwyr CT

e. Dim un

f. Arall (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

g. Nid wyf yn gwybod

56. Pa gyngor a chymorth fyddai eu hangen ar sefydliadau a lleoliadau sydd o fewn cwmpas Dyletswydd Diogelu?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

57. O ystyried cymhlethdod mannau cyhoeddus, a’r angen posibl i weithio mewn partneriaeth i gyflawni ffyrdd effeithiol o weithio gan arwain at welliannau mewn diogelwch a pharodrwydd amddiffynnol, pa gefnogaeth ac arbenigedd pwrpasol ychwanegol y gellid eu darparu?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

58. A oes gennych unrhyw gynigion eraill ar yr hyn y gallai’r Llywodraeth ei wneud i gefnogi partneriaid i gyflawni Dyletswydd Diogelu?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

Ymateb i’r ymgynghoriad hwn

Ymateb ar-lein

Ymatebwch ar-lein i’r ymgynghoriad hwn gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Grwpiau cynrychiadol

Gofynnir i grwpiau cynrychiadol roi crynodeb o’r bobl a’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli pan ydynt yn ymateb.

Ffyrdd amgen i ymateb a chopïau ychwanegol

Er mwyn ein helpu i ddadansoddi’r ymatebion, defnyddiwch y system ar-lein lle bynnag y bydd modd. Os na allwch, am resymau eithriadol, ddefnyddio’r system ar-lein, er enghraifft oherwydd eich bod yn defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad yw’n gydnaws, gallwch lawrlwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen a’i hanfon trwy e-bost, neu ei phostio at:

Diogelu a Pharatoi
Swyddfa Diogelwch a Gwrthderfysgaeth
5th Floor NE, Peel Building,
Y Swyddfa Gartref
2 Marsham Street,
Llundain, SW1P 4DF

Gellir cael copïau papur pellach o’r ymgynghoriad hwn o’r cyfeiriad hwn ac maent hefyd ar gael ar-lein.

Gellir gofyn am fersiynau fformat amgen o’r cyhoeddiad hwn gan ProtectDuty@homeoffice.gov.uk.

Sylwadau a chwynion

Os oes gennych unrhyw gŵynion neu sylwadau am y broses ymgynghori dylech gysylltu â’r Swyddfa Gartref gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost neu’r cyfeiriad post uchod.

Cyhoeddi ymatebion ac asesiad effaith

Cyhoeddir papur sy’n crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn [mewnosodwch y dyddiad cyhoeddi, a ddylai, cyn belled ag y bo modd, fod o fewn tri mis i ddyddiad cau’r ymgynghoriad]. Bydd y papur ymateb ar gael ar-lein yn [cyfeiriad gwe]. Ynghyd â hyn bydd Asesiad Effaith o’r cynigion yn tynnu o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn a gwaith ymchwil a dadansoddi ychwanegol.

Cyfrinachedd

Gellir cyhoeddi neu datgelu gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn unol â’r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), Deddf Diogelu Data 2018 (DPA) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yw’r rhain yn bennaf).

Os ydych am i’r wybodaeth rydych yn ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol, o dan y FOIA, bod Cod Ymarfer statudol y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef ac sy’n delio, ymhlith pethau eraill, â rhwymedigaethau hyder. O ystyried hyn, byddai’n ddefnyddiol pe gallech egluro i ni pam eich bod yn ystyried bod y wybodaeth rydych wedi’i darparu yn gyfrinachol.

Os derbyniwn gais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd ym mhob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG ynddo’i hun yn cael ei ystyried yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref.

Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu’ch data personol yn unol â’r DPA ac yn y mwyafrif o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael eu datgelu i drydydd partïon.

Geirfa

Tabl 1: Rhestr termau a ddefnyddir yn yr Ymgynghoriad Diogelu Dyletswydd.

Methodolegau ymosod Gwahanol ddulliau ymosod a ddefnyddir gan derfysgwyr. Yn ddiweddar, mae’r rhain wedi cynnwys ymosodiadau yn y DU ac Ewrop yn ymwneud â defnyddio Dyfeisiau Ffrwydron Byrfyfyr a Gludir gan Berson, IEDs post, Cerbyd Fel Arf, arfau llafnog ac arfau tanio.
Action Counters Terrorism (ACT) Cynllun ymwybyddiaeth cenedlaethol i amddiffyn adeiladau, ardaloedd busnes a’u cymdogaethau cyfagos rhag bygythiad terfysgaeth.
E-Ddysgu Ymwybyddiaeth ACT Cynnyrch canllawiau CT corfforaethol a gydnabyddir yn genedlaethol, a ddatblygwyd gan Blismona Gwrthderfysgaeth, i helpu pobl i ddeall, a lliniaru yn erbyn, y fethodoleg derfysgol gyfredol yn well. Mae ar gael i bob sefydliad, eu staff a’r cyhoedd.
Canolfan Diogelu Seilwaith Cenedlaethol (CPNI) Awdurdod y Llywodraeth am gyngor diogelwch amddiffynnol i seilwaith cenedlaethol y DU. Mae’n amddiffyn diogelwch cenedlaethol trwy helpu i leihau bregusrwydd y seilwaith cenedlaethol i derfysgaeth a bygythiadau eraill.
Cynghorwyr Diogelwch Gwrthderfysgaeth (CTSAs) Unigolion sy’n gweithio o fewn heddluoedd lleol fel swyddogion a staff. Eu prif rôl yw darparu help, cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar ddiogelwch amddiffynnol gwrthderfysgaeth i sectorau diwydiant ac eraill.
Rhagchwilio gelyniaethus Y cam casglu gwybodaeth a gynhelir gan yr unigolion neu’r grwpiau hynny sydd â bwriad maleisus.
Sefydliadau mawr Sefydliadau gyda 250 neu fwy o weithwyr
Y Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol (NaCTSO) Uned heddlu sy’n cefnogi llinynnau ‘Amddiffyn a Pharatoi’ strategaeth gwrthderfysgaeth y Llywodraeth.
Lleoliadau Cyhoeddus Yng nghyd-destun y Ddyletswydd Diogelu mae’r rhain yn adeiladau parhaol (e.e. lleoliadau adloniant a chwaraeon) neu leoliadau digwyddiadau dros dro (megis gwyliau awyr agored) lle mae ffin ddiffiniedig a mynediad agored i’r cyhoedd.
Mannau cyhoeddus Mae’r rhain yn lleoliadau cyhoeddus agored sydd fel arfer heb ffiniau clir na mynedfeydd / allanfeydd wedi’u diffinio’n dda (e.e. sgwariau canol dinas, pontydd neu dramwyfeydd prysur, parciau a thraethau).
Lleoliad Hygyrch i’r Cyhoedd Unrhyw le y mae gan y cyhoedd neu unrhyw ran o’r cyhoedd fynediad iddo, trwy dalu neu fel arall, fel hawl neu yn rhinwedd caniatâd penodol neu ymhlyg. Mae lleoliadau hygyrch i’r cyhoedd yn cynnwys amrywiaeth eang o leoliadau bob dydd fel: stadia chwaraeon; gwyliau a lleoliadau cerdd; gwestai; tafarndai; clybiau; bariau a chasinos; strydoedd mawr; siopau adwerthu; canolfannau siopa a marchnadoedd; ysgolion a phrifysgolion; canolfannau meddygol ac ysbytai; addoldai; swyddfeydd y Llywodraeth; canolfannau gwaith;hybiau trafnidiaeth; parciau; traethau; sgwariau cyhoeddus a mannau agored eraill. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.
Yn rhesymol ymarferol (mesurau lliniaru) Yn ei gwneud yn ofynnol i berchnogion/gweithredwyr bwyso a mesur risg yn erbyn yr ymdrech, yr amser a’r arian sydd eu hangen i’w liniaru.
Gweld, Gwirio a Hysbysu (SCaN) Hyfforddiant sy’n anelu at helpu busnesau a sefydliadau i wneud y mwyaf o ddiogelwch a diogeledd gan ddefnyddio eu hadnoddau presennol. Mae’n grymuso staff i nodi gweithgareddau amheus yn gywir a gwybod beth i’w wneud pan ydynt yn dod ar eu traws. Mae’n helpu i sicrhau nad yw unigolion neu grwpiau sy’n ceisio achosi niwed i’ch sefydliad yn gallu cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gynllunio eu gweithredoedd.

Atodiad 1 - esemptiadau ac eithriadau

Mae gan y sectorau dilynol ofynion deddfwriaethol eisoes i ystyried bygythiadau terfysgol a symud mesurau lliniaru priodol ymlaen. Gan fod y canlyniadau hyn yn debyg iawn i’r rhai a ragwelir o dan Ddyletswydd Diogelu bosibl, rydym yn argymell eu bod yn cael eu hystyried yn esempt rhag unrhyw ofynion deddfwriaethol newydd.

Rheilffyrdd

  • Rheilffyrdd trwm domestig (Network Rail, cwmnïau gweithredu trenau a chludo nwyddau a gweithredwyr depo). Nid gweithredwyr rheilffyrdd treftadaeth.
  • Rheilffyrdd ysgafn domestig (ar hyn o bryd dim ond London Underground, Docklands Light Railway a Glasgow Underground sy’n cael eu rheoleiddio, ond mae adolygiad (Tramiau) ar y gweill, sy’n ceisio dod â phob gweithredwr rheilffordd ysgafn i gwmpas rheoleiddio diogelwch rheilffyrdd DfT erbyn Haf 2021).
  • Rheilffyrdd rhyngwladol (gweithredwyr Twnnel y Sianel).
  • Cludo nwyddau peryglus ar y ffordd a’r rheilffordd.

Hedfanaeth

  • Mae ardaloedd hygyrch i’r cyhoedd ar ochr y tir yn 50 maes awyr y DU eisoes yn dilyn canllawiau a gipiwyd o dan y Rhaglen Diogelwch Hedfanaeth Genedlaethol (NASP).
  • Mae meysydd awyr nad ydynt yn dod o dan yr NASP yn cael eu hadolygu ar wahân er mwyn dod â hwy i’r rhaglen o bosibl.

Nid ydym yn rhagweld y bydd y sector dilynol o fewn cwmpas Dyletswydd:

Morol

  • Porthladdoedd Cemegolion Olew Nwy (COG) a Chynhwysydd Ro-Ro (CRR) a phorthladdoedd Cargo Swmp Eraill (OBC) - gan nad yw’r rhain yn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd.

Atodiad 2 - enghreifftiau ymarfer gorau o ystyriaethau diogelwch a mesurau lliniaru mewn sefydliadau gwahanol

Disgrifiad Lleoliad/Sefydliad Mesurau Lliniaru Rhesymol Ymarferol
1. Busnes bach

- Er enghraifft siop fanwerthu
- Safle sengl wedi’i rentu (lleoliad canol tref).
- 10-15 o staff.
- Hyd at 100 o gwsmeriaid ar y tro.
Asesiad risg:

- Cynnal asesiad risg wedi’i gofnodi yn seiliedig ar wybodaeth am ymosodiadau terfysgol sydd ar gael trwy wefannau’r llywodraeth y gellir eu cyrchu’n rhwydd (CPNI a NaCTSO).
- Ystyried nifer gyfyngedig o risgiau - e.e. ymosodiad ag arf ysbeilgar, a dyfais ffrwydrol wedi’i gwneud yn ddifyfyr.

Diogelwch Gweithredol:

- Dylai’r staff wybod sut i nodi a riportio gweithgareddau amheus ac efallai eu bod wedi derbyn rhywfaint o ymwybyddiaeth ymddygiad gelyniaethus (e.e. fel y darperir gan yr e-ddysgu Action Counters Terrorism am ddim ac y gellir ei ddatblygu ar gyfer staff sy’n wynebu cwsmeriaid trwy’r cyrsiauGwirio a Hysbysu).
- Gallai’r busnes gydlynu ei fesurau diogelwch gweithredol â busnesau eraill yn yr ardal, a gydlynir o bosibl gan yr Ardal Gwella Busnes neu’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol leol.

Diogelwch Ffisegol:

- Ni fyddai unrhyw ddisgwyliad y byddai’r busnes yn buddsoddi mewn mesurau diogelwch ffisegol penodol.
- Fodd bynnag, byddai disgwyl y byddai’r mesurau diogelwch presennol (megis caeadau rholer neu gloeon ar ddrysau) yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau ar sut i ymateb i ymosodiad.

Ymateb:

- Byddai disgwyl i’r busnes gael cynllun ar gyfer pob un o’r mathau o ymosodiadau a nodir fel risg. Byddai’r staff yn gyfarwydd â’r rhain, mewn modd tebyg i gynllun tân.
- Disgwylid y byddai staff wedi cael hyfforddiant mewn ymateb priodol i risgiau a nodwyd yn yr asesiad risg ac y byddent yn gwybod pwy sydd â’r awdurdod i weithredu elfennau penodol o gynllun (er enghraifft gweithdrefn cloi i lawr).
- Mae’r hyfforddiant sy’n ofynnol ar gyfer hyn ar gael am ddim trwy gynnyrch e-ddysgu ACT ac mae’r canllawiau ar fesurau priodol ar gael ar-lein gan NaCTSO.
- Dylai’r busnes weithio gyda’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a’r Fforwm Cadernid Lleol i sicrhau bod eu cynlluniau’n gyson

Ymyrraeth:

- Ni fyddai disgwyl i fusnes bach fel hwn fod ag unrhyw fesurau ar waith i gefnogi ymyriadau’r heddlu.

Adfer:

- Ni fyddai disgwyl i un safle fel hwn gael cynllun parhad busnes.
2. Digwyddiad mawr lleol

- Dim cyflogeion, 20-40 gwirfoddolwr,
- Rhwng 250-500 o bobl yn mynychu.
- Rhywfaint o ymgysylltu gan yr heddlu trwy Dimau Plismona Cymdogaeth. Ddim yn destun asesiadau’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch.
Asesiad risg:

- Asesiad risg wedi’i gofnodi yn seiliedig ar wybodaeth sydd ar gael trwy wefannau hygyrch y llywodraeth (CPNI a NaCTSO).
- Gallai’r wybodaeth a ddefnyddir i greu’r asesiad risg hwn gael ei chefnogi gan wybodaeth gan y Tîm Plismona Cymdogaeth.
- Byddai’r asesiad risg yn cwmpasu’r risgiau mwyaf cymwys - e.e. ymosodiad ysbeilgar â chyllell, dyfais ffrwydrol ddifyfyr, ymosodiad ysbeilgar â gwn a cherbyd fel arf.

Diogelwch Gweithredol:

Gellir gweithredu lefelau is oddiogelwch gweithredol gan gynnwys:
- Gwneud staff gwirfoddol yn weladwy ac yn broffesiynol gan geisio sefydlu ystum ataliol (nid yw hyn yn disgwyl i wirfoddolwyr lleol ymgymryd â rôl ddiogelwch, ondmae’n adlewyrchu’r effaith y mae staff gwyliadwrus, proffesiynol a gweladwy yn ei chael ar y rhai sydd â meddylfryd gelyniaethus)
- Darparu rhyw fath o hyfforddiant ymwybyddiaeth i’r gwirfoddolwyr (er enghraifft cwrs e-ddysgu ACT, a ddarperir am ddim gan NaCTSO ac sy’n ymgorffori lefel sylfaenol o ganfod a riportio ymddygiad gelyniaethus).

Diogelwch Ffisegol:

- Yn dibynnu ar y mesurau lliniaru priodol a nodir yn yr asesiad risg.
- Efallai y bydd yn briodol ystyried (a chofnodi penderfyniadau ar) fesurau rheoli traffig (e.e. cau ffyrdd yn lleol) neu fesurau lliniaru cerbydau dros dro.
- Mewn man agored, mae’n annhebygol y byddai mesurau diogelwch corfforol eraill yn effeithiol neu’n gymesur.

Ymateb:

Byddai disgwyl i drefnwyr digwyddiadau:
- Gael gynllun ar gyfer pob un o’r mathau o ymosodiadau a nodir fel risg (yn hysbys i bob gwirfoddolwr yn yr un modd ag y byddai cynlluniau ar gyfer plant coll, cymorth cyntaf neu dân yn cael eu rhannu).
- Darparu cofiannau cynorthwyol i staff gwirfoddol er mwyn cefnogi’r ymateb i ddigwyddiadau posibl, mae enghreifftiau ar gael trwy’r Tîm Plismona Cymdogaeth gan Blismona Gwrthderfysgaeth sy’n caniatáu i’r rhain gael eu darparu am gost argraffu’n unig.
- Ymgysylltu â’r hyfforddiant ymwybyddiaeth sydd ar gael (e.e. e-ddysgu ACT) i adeiladu eu gallu ar gyfer yr elfennau diogelwch gweithredol ac ymateb am gost isel neu heb unrhyw gost.

Ymyrraeth

- Ni fyddai disgwyl i ddigwyddiad untro fel hwn gael unrhyw fesurau ar waith i gefnogi ymyriadau’r heddlu.

Adfer:

- Ni fyddai disgwyl i ddigwyddiad untro fel hwn gael cynllun parhad busnes.
3. Lleoliad busnes maint canolig, rhan o gadwyn genedlaethol

- Er enghraifft, sinema neu archfarchnad.
- O bosib gannoedd o gyflogeion (yn genedlaethol)
- Mae cannoedd o ymwelwyr (ym mhob lleoliad ar unrhyw un adeg) a channoedd o filoedd o fynychwyr (ym mhob lleoliad yn genedlaethol mewn blwyddyn).
- Cyswllt parhaus gan yr heddlu trwy bartneriaethau atal troseddu neu’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.
Asesiad Risg:

- Asesiad risg wedi’i dynnu o dîm diogelwch y gadwyn genedlaethol (gallai fynychu ACT Corfforaethol: Digwyddiadau cenedlaethol neu fforymau ymgysylltu eraill y sector) Disgwylir y bydd ganddo bolisi corfforaethol ar gyfer cynnal asesiadau risg; efallai wedi cyhoeddi cyfarwyddyd ar yr hyn sy’n ofynnol gan staff.
- Er efallai na fydd yr asesiad risg yn sgorio rhai bygythiadau mor uchel (oherwydd tebygolrwydd isel), byddai disgwyl iddo gynnwys asesiadau ar gyfer y mwyafrif o fathau o ymosodiadau a chyfiawnhad dros beidio â gweithredu mesurau lliniaru lle nad yw’n briodol.
- Dylai’r asesiad risg gynnwys cynllun a ysgrifennwyd ymlaen llaw ar gyfer camau lliniaru a gymerir ar gyfer codiadau i’r Lefel Bygythiad Genedlaethol.

Diogelwch Gweithredol:

- Gan adeiladu ar yr ystum gorfforaethol, a ddylai gynnwys negeseuon cyfathrebu â meddwl diogelwch, dylai’r safle gynnwys ystod o fesurau diogelwch gweithredol sy’n cyd-fynd â’r risgiau a nodwyd.
- Mae hyn yn debygol o gynnwys staff diogelwch amlwg, staff hyfforddedig i ganfod ymddygiad gelyniaethus (sydd ar gael ar y lefel isaf trwy e-ddysgu ACT ac Ymwybyddiaeth ACT, ond a all adeiladu trwy SCaNWynebu Cwsmeriaid) a theledu cylchcyfyng.
- Dylai’r mesurau hyn gael eu hintegreiddio â busnesau cyfagos a’u cysylltu â’r cynlluniau a ddatblygwyd gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol lleol neu fforwm lleol priodol arall.

Diogelwch Ffisegol:

- Gyda’r ymwybyddiaeth uwch o risg a’r adnoddau sydd ar gael, byddai disgwyl gweld ystod o fesurau diogelwch ffisegol addas.
- Gallai’r rhain ategu’r mesurau lliniaru presennol ar gyfer lleihau troseddau a cholledion. Maent yn debygol o gynnwys mecanweithiau megis rheoli mynediad i fannau wedi’u diogelu, amddiffyniad ffisegol mewn ardaloedd y gall cerbydau eu cyrchu a’r gallu i ddiogelu’r safle yn ystod cyfnod cloi i lawr.

Ymateb:

- Yn seiliedig ar yr asesiad risg, byddai disgwyl i’r busnes gael cynllun ar gyfer pob un o’r mathau o ymosodiadau a nodwyd fel risg.
- Lle mae risgiau y mae’r busnes yn teimlo y byddai’n anghymesur cynnal cynllun ar eu cyfer yn ymarferol, rhaid cyfiawnhau hyn yn yr asesiad risg.
- Mae angen i’r staff fod yn gyfarwydd â’r cynlluniau hyn a nodi rolau allweddol.
- Dylai’r holl staff dderbyn rhyw fath o hyfforddiant ymwybyddiaeth sy’n caniatáu iddynt ymateb yn briodol ar lefel bersonol.
- Dylai staff allweddol gael eu hyfforddi a’u hymarfer yn eu rolau a’r penderfyniadau y gellir disgwyl iddynt eu gwneud.
- Dylai fod yn glir pwy yw’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol i alluogi gweithredoedd fel gwacáu neu symud i le diogel mewnol.

Ymyrraeth:

- Dylai busnes ar y raddfa hon ystyried sut y gallant gefnogi ymyrraeth gan yr heddlu.
- Dylai hyn gynnwys nodi safleoedd cyfarfod yr heddlu mewn cynlluniau a gallai gynnwys ystyried sut maent yn trosglwyddo ymwybyddiaeth sefyllfaol i swyddogion sy’n ymateb.
- Ar y lefel hon gallai’r busnes ystyried gosod arwyddion swyddfa gefn i gefnogi ymyrraeth a gallai gefnogi swyddogion arfau tanio’ryr heddlu lleol i ddatblygu pecyn gwybodaeth tactegol.

Adfer:

- Dylai fod cynllun parhad busnes corfforaethol, gyda chysylltiad rheolaethol â’r Fforwm Cadernid Lleol.
4. Safle mawr gyda nifer o fusnesau unigol yn rhentu unedau

- Erenghraifft, canolfan siopau y tu allan i’r dref.
- Nifer fach o gyflogeion yn darparu seilwaith a diogelwch, nifer fawr o gyflogeion o fusnesau unigol.
- Miloedd o ymwelwyr yn ddyddiol.
Asesiad risg:

- Byddai’r asesiad risg yn cwmpasu’rholl sbectrwm bygythiadau cyfredol, er efallai na fyddai angen mesurau diogelwch ar gyfer y risgiau lleiaf credadwy?
- Mae angen cofnodi’r asesiad risg hwn ac iddo fod ar gael i’r hollfusnesau sy’n meddiannu unedau ar y safle.
- Mae’n debygol y byddai safle mawr yn gweithio gyda’u hawdurdod lleol i ganiatáu iddynt seilio eu hasesiad risg ar y Proffil Lleol Gwrthderfysgaeth, a rennir gyda phob awdurdod lleol.

Diogelwch Gweithredol:

- Dylai’r busnes ddarparu ar gyfer integreiddio personél atal colledion a diogelwch y cyhoedd yn eu hystum diogelwch (gan ystyried lefel yr hyfforddiant sy’n ofynnol gan eu staff) er mwyn sicrhauy gallant gyflawni’reffaith a ddymunir.
- Dylai perchennog y safle osod y safonau sy’n ofynnol ar gyfer diogelwch gweithredol yn yr unedau, gan weithio gyda’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol leol i sicrhau bod hyn yn gyson.
- O leiaf, dylai’r safle fod yn ystyried modd atal amlwg ar gyfer gwarchod, rhyw fath o fodd canfod ymddygiad gelyniaethus a dylai fod yn defnyddio technegau cyfathrebu â meddwl diogelwch.

Diogelwch Ffisegol:

- Gyda’r ymwybyddiaeth uwch o risg a’r adnoddau sydd ar gael, byddai disgwyl mesurau diogelwch ffisegol addas.
- Dylai’r safle fod â diogelwch ffisegol sy’n rheoli mynediad i leoliadau diogel yn annibynnol.
- Dylai’r amddiffyniad hwn fod o safon addas, gan ddefnyddio cymysgedd o fesurau lliniaru yn erbyn cerbydau gelyniaethus, mesurau rheoli traffig, modd atal a’r gallu i ddiogelu’r safle yn ystod cyfnod cloii lawr.
- Mae angen cofnodi’r penderfyniadau ynghylch hyn yn yr asesiad risg.

Ymateb:

- Trwyddullsy’n seiliedig ar risg, byddai disgwyl i’r safle gael cynllun ar gyfer pob un o’r mathau o ymosodiadau a nodwyd fel risg.
- Lle mae risgiau y mae’r busnes yn teimlo y byddai’n anghymesur cynnal cynllun ar eu cyfer yn ymarferol, rhaid cyfiawnhau hyn yn yr asesiad risg.
- Dylai perchennog y safle roi cyfarwyddyd clir ar yr ymatebion sy’n ofynnol gan eu staff. O fewn y cyfarwyddyd hwn, dylai fod yn ofynnol bod gan yr holl staff a gyflogir ryw fath o hyfforddiant ymwybyddiaeth.
- Dylai’r safle ddarparu cynlluniau clir ar gyfer pob digwyddiad posib, dylai hyfforddi eu staff yn briodol a chynnal ymarferion gyda’r Fforwm Cadernid Lleol.
- Dylid ystyried paciau cymorth cyntaf gwell a gellid darparu hyfforddiant ar gymorth cyntaf i staff er mwyn caniatáu iddynt ddelio â chanlyniadau digwyddiad. Dylid ystyried modd cyfathrebu yn ystod argyfwng.

Ymyrraeth:

- Dylai’r safle fod â chynllun i ddangos sut y gallant gefnogi ymyrraeth gan yr heddlu.
- Rhaid i’r cynllun hwn gynnwys safleoedd cyfarfod a nodir gan yr heddlu, a dylai gynnwys cyfarwyddyd clir ar sut y byddant yn trosglwyddo ymwybyddiaeth sefyllfaol i swyddogion sy’n ymateb.
- Dylai fod arwyddion swyddfa gefn i gefnogi ymyrraeth a dylai perchnogion y safle weithio gyda swyddogion arfau tanio’r heddlu lleol i ddatblygu pecyn gwybodaeth tactegol.

Adfer:

- Dylai’r busnes fod â chynllun parhad busnes cynhwysfawr, gan gynnwys sut y cynigir cymorth i’r busnesau sy’n gweithredu o’r unedau.
5. Lleoliad mawr

- Erenghraifft, parc thema.
- Llawer o gyflogeion.
- Miloedd o ymwelwyr yn ddyddiol.
Asesiad Risg:

- Byddent yn cael eu cefnogi gan eu hawdurdod lleol a byddai ganddynt fynediad i is sectorau Cyfnewidfa Gwybodaeth Busnes Gwrthderfysgaeth a gallent fynychu digwyddiadau ACT Corfforaethol: Cenedlaethol.
- Byddant yn cael eu briffio’n rheolaidd ganCTSA pwrpasol ac mae’n debygol y caiff gwybodaeth ei rhyddhau iddynt o unrhyw ymchwiliad gwrthderfysgaeth sy’n nodi eu bod yn cael eu targedu.
- O hyn, nid oes unrhyw reswm iddynt beidio â gwneud asesiadau risg priodol yn seiliedig ar yr hollwybodaeth sydd ar gael.
- Byddai’r asesiad risg yn cwmpasu’rholl sbectrwm bygythiadau cyfredol, er efallai na fydd angen mesurau diogelwch ar gyfer y risgiau lleiaf difrifol, byddai disgwyl iddo gynnwys asesiadau ar gyfer y mwyafrif o fathau o ymosodiadau a chyfiawnhad dros beidio â gweithredu mesurau lliniaru penodol neu argymhellion CTSA.
- Dylai’r asesiad risg hwn gynnwys cynllun a ysgrifennwyd ymlaen llaw ar gyfer camau lliniaru a dylid cael ei ddeall gan yr holl staff allweddol ledled y safle, er enghraifft pe byddai’r lefel bygythiad derfysgol yn symud i fod yn feirniadol.

Diogelwch Gweithredol:

- Mae natur y math hwn o leoliad yn ei gwneud yn bosibl haenu mesurau gweithredol.
- Fel busnes sy’n wynebu’r cyhoedd ac sy’n ymgysylltu’n weithredol â’u cwsmeriaid, gallai’r safle ddefnyddio negeseuon atal yn eu cyfathrebiadau.
- Yn y pwyntiau mynediad, gellid gweithredu proses chwilio a sgrinio, er enghraifft trwy ddefnyddio dull sgrinio modern, cymesur ar gyfer nifer uchel o ymwelwyr.
- Os oes ystafell reoli weithredol gyda phorthiant teledu cylch cyfyng byw, gellir lledaenu’r cyfle i ganfod ymddygiad gelyniaethus yn ehangach nag mewn safleoedd eraill.
- Mae’r hollfesurau gweithredol yn ei gwneud yn ofynnol i staff gyflenwi, a fydd yn galw am ddatblygu diwylliant diogelwch a gweithredu mesurau (e.e. trwy sgrinio cyflogaeth) i leihau’r bygythiad mewnol.

Diogelwch Ffisegol:

- Dylai’r safle fod â mesurau ffisegol a pholisïau a phrosesau cysylltiedig ar waith i reoli mynediad i’r safle gan gerbydau a cherddwyr.
- Lle mae asedau allweddol, dylid cymryd mesurau i leihau eu bregusrwydd, yn nodweddiadol trwy ychwanegu haenau ychwanegol priodol o ddiogelwch.
- Dylai fod mesurau i leihau’r risg o ddefnyddio cerbyd fel ymosodiad arf o fewn y safle ac ar y ffordd i mewn i’r safle Dylai’r modd amddiffyn hwn gynnwys cymysgedd briodol o fesurau lliniaru yn erbyn cerbydau gelyniaethus, mesurau rheoli traffig ac ataliaeth.

Ymateb:

- Dylai cynlluniau manwl gyda chyfarwyddyd clir i’r holl staff fod ar gael, gan ddirprwyo cyfrifoldebau’n glir. Dylid ystyried sut mae hyn yn ymestyn i gontractwyr a phartneriaid eraill sy’n gweithio ar y safle (e.e. darparwyr diogelwch ar gontractau preifat, personél consesiwn arlwyo).
- Dylid ymgymryd â hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth generig a rolau penodol ar gyfer yr holl staff a dylid defnyddio ymarferion i baratoi ar gyfer unrhyw ddigwyddiad.
- Gallai’r cynlluniau hyn gynnwys cefnogaeth bwrpasol ar gyfer cymorth cyntaf a dylent fod â phaciau cymorth cyntaf datblygedig mewn lleoliadau allweddol a chynllun ynghylch trin anafiadau.
- Dylai’r safle fod â chynllun cyfathrebu manwl i’w ddefnyddio pe byddai argyfwng.

Ymyrraeth

- Dylai’r safle fod â chynllun ar gyfer sut y gallant gefnogi ymyrraeth gan yr heddlu.
- Rhaid i’r cynllun hwn gynnwys safleoedd cyfarfod a nodir gan yr heddlu, a dylai gynnwys cyfarwyddyd clir ar sut y byddant yn trosglwyddo ymwybyddiaeth sefyllfaol i swyddogion sy’n ymateb.
- Dylai fod arwyddion swyddfa gefn i gefnogi ymyrraeth a dylai perchnogion y safle weithio gyda swyddogion arfau tanio’r heddlu lleol i ddatblygu pecyn gwybodaeth tactegol.

Adfer:

- Dylai’r busnes fod â chynllun cynhwysfawr ar gyfer parhad busnes, sydd yn hyblyg ac yn dibynnu ar raddfa neu hyd y digwyddiadau, gan gynnwys adfer gwasanaethau hanfodol/swyddogaeth, y cymorth i staff ac ymgysylltu rhagweithiol â’r Fforwm Cadernid Lleol, Plismona a’r gymuned.

Atodiad 3 - pa fathau o gostau a buddion a ddisgwylir?

Pe byddai’r dystiolaeth a gafwyd o’r ymgynghoriad yn cefnogi ymyrraeth neu newid pellach, yna bydd cynigion manwl yn cael eu nodi’n llawn yn ddiweddarach, wedi’u cefnogi fel sy’n ofynnol gan Asesiad Effaith Rheoleiddio a dadansoddiad o’r effeithiau disgwyliedig. Ar y cam hwn bydd costau a buddion yn cael eu nodi a’u hasesu ar gyfer y prif opsiynau, gan dynnu ar y wybodaeth a gafwyd trwy’r ymgynghoriad.

Y disgwyl yw y bydd y sefyllfa bresennol yn cael ei defnyddio fel llinell sylfaen neu un gwrthffeithiol Bydd y Swyddfa Gartref yn ceisio mesur y newid ymylol mewn costau a/neu fuddion sy’n deillio o unrhyw newid i’r argymhellion cyfredol. Bydd effeithiau uniongyrchol, anuniongyrchol ac ehangach yn cael eu hystyried. Bydd yr asesiad hefyd yn archwilio risgiau, unrhyw ganlyniadau anfwriadol ac unrhyw effeithiau posibl ar grwpiau penodol. Defnyddir tystiolaeth feintiol ac ansoddol.

Gellir gweld y costau a buddion dilynol ynghylch ymyrraeth bellach:

Grŵp rhanddeiliaid Buddion posib
Sefydliadau sy’n berchen ar / yn gweithredu Lleoliadau sy’n Hygyrch i’r Cyhoedd (Gan gynnwys Busnesau, dan berchnogaeth gyhoeddus a’r trydydd sector) Llai o risg i sefydliadau oherwydd amharu (uniongyrchol ac anuniongyrchol) a achosir gan ddigwyddiadau terfysgol

Llai o effaith oherwydd digwyddiadau terfysgol ar sefydliadau (e.e. costau is yn sgil difrod i eiddo)

Gwell sicrwydd/teimlad o ddiogelwch ymysg cyflogeion/gwirfoddolwyr yn sgil ystyriaethau cynyddol o ddiogelwch rhag bygythiadau terfysgol a mesurau lliniaru

Posibilrwydd o gynyddu refeniw i ddarparwyr diogelwch

Posibilrwydd o bremiwm yswiriant gostyngedig i fusnesau sy’n gweithredu mesurau lliniaru

Buddion ehangach ynghylch gostyngiad canfyddedig mewn risg (e.e. mwy o ymwelwyr/refeniw)

Yn dibynnu ar natur y ddyletswydd, mwy o gydlyniant rhwng y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a busnesau
Cymdeithas Mae gan wyliadwriaeth well, mesurau diogelwch, systemau a phrosesau y potensial i amharu ar, atal neu ganfod digwyddiadau terfysgol

Llai o effaith oherwydd digwyddiadau terfysgol (e.e. colli bywyd, anafiadau, effaith seicolegol)

Buddion ehangach yn sgil gostyngiad gwirioneddol a chanfyddedig mewn risg (e.e. mwy o ymwelwyr/refeniw)

Gwell sicrwydd/teimlad o ddiogelwch i aelodau’r cyhoedd

Effeithiau mesurau diogelwch yn trosglwyddo gan fod o fudd wrth atal neu leihau mathau o niwed uchel neu fathau eraill o droseddau
Grŵp rhanddeiliaid Costau posibl
Sefydliadau sy’n berchen ar / yn gweithredu Lleoliadau sy’n Hygyrch i’r Cyhoedd (Gan gynnwys Busnesau, dan berchnogaeth gyhoeddus a’r trydydd sector) Amser ymgyfarwyddo â newidiadau i ofynion y Ddyletswydd Diogelu

Cost cynnal asesiadau risg

Cost datblygu a diweddaru cynlluniau gweithredu

Cost cyflwyno mesurau i liniaru’r risgiau a nodwyd (e.e. costau hyfforddi, ystod o fesurau lliniaru, costau staff)

Costau posibl arolygiad/cyfundrefn reoleiddio neu hunan-adrodd

Cost sancsiynau/cosbau os nad yw rhywun yn cydymffurfio

Costau staff i gadw cyfarwyddyd mewnol, prosesau staff a gweithdrefnau yn gyfredol

O bosibl dadleoli bygythiad tuag at sefydliadau llai sydd y tu allan i gwmpas y ddyletswydd.

Bydd gan gwmnïau sydd o fewn cwmpas y ddyletswydd hon gost ymylol uwch yn erbyn y rhai sy’n gweithredu ar-lein yn unig (er enghraifft siopau adwerthu yn erbyn ar-lein

Gallai mwy o ymwybyddiaeth o risgiau terfysgaeth arwain at rai cyflogeion unigol yn goramcangyfrif y tebygolrwydd o ymosodiad, a allai gael effeithiau seicolegol posibl
Y Sector Cyhoeddus Costau gorfodi
Cymdeithas O bosibl dadleoli bygythiad terfysgol o ardaloedd yn y cwmpas i ardaloedd y tu allan i’r cwmpas

Atodiad 4 - rhestr o gwestiynau’r ymgynghoriad

Adran 1: I bwy (neu ble) y dylai deddfwriaeth fod yn berthnasol?

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiad dilynol:

1. Dylai lleoliadau a sefydliadau sy’n berchen ar, yn gweithredu neu’n gyfrifol am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd gymryd mesurau priodol a chymesur i amddiffyn y cyhoedd rhag ymosodiadau yn y lleoliadau hyn

Anghytuno’n Gryf (SD) - Anghytuno (D) - Ddim yn Cytuno nac yn Anghytuno (NAND) - Cytuno (A) - Cytuno’n Gryf (SA) [graddfa]

I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiad dilynol:

2. Dylai lleoliadau a sefydliadau sy’n berchen ar, yn gweithredu neu’n gyfrifol am leoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd baratoi eu staff i ymateb yn briodol pe bai ymosodiad terfysgol er mwyn amddiffyn eu hunain ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd sy’n bresennol orau

Anghytuno’n Gryf (SD) - Anghytuno (D) - Ddim yn Cytuno nac yn Anghytuno (NAND) - Cytuno (A) - Cytuno’n Gryf (SA) [graddfa]

3. Rydym yn cynnig bod Dyletswydd Diogelu wedi’i thargedu yn berthnasol i rai lleoliadau cyhoeddus yn unig. Pa feini prawf fyddai’n penderfynu orau pa leoliadau y dylai Dyletswydd fod yn berthnasol iddynt?

a. Capasiti (fel y’i defnyddir ar hyn o bryd yn y Rheoliadau Diogelwch Tân)

b. Refeniw blynyddol

c. Lefelau staffio

d. Arall: (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Lle mae 3 yn a]

4. Rydym wedi cynnig capasiti lleoliad o 100 o bobl neu fwy fel trothwy. Yn eich barn chi, pa lefel capasiti a fyddai’n briodol i bennu lleoliadau sydd yng nghwmpas y Ddyletswydd?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Lle mae 3 yn b-d]

5. Pa drothwy fyddech chi’n cynnig ei gynnwys yng nghwmpas y Ddyletswydd Diogelu ar gyfer y maen prawf hwn?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

6. Rydym yn cynnig y dylai gofyniad i ystyried diogelwch a gweithredu lliniaru priodol mewn lleoliad fod yn eiddo i berchennog a / neu weithredwr y lleoliad. Ydych chi’n ystyried hyn yn briodol?

Y/N.

[Os 6 = N]

7. Os na, pam lai:

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

8. Rydym yn cynnig, lle mae cyfrifoldeb sefydliadol a rennir am leoliad, neu sefydliadau lluosog sy’n gweithredu mewn lleoliad sydd o fewn ei gwmpas, y byddai’n rhaid i’r partïon weithio gyda’i gilydd i fodloni’r gofynion. Ydych chi’n ystyried bod hyn yn briodol?

Y/N.

[Os 8 = N]

9. Os na, pam lai:

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

10.Rydym yn cynnig y byddai Dyletswydd Amddiffyn hefyd yn berthnasol i rai sefydliadau sy’n gweithredu mewn lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd. Pe byddai maint sefydliad yn faen prawf ar gyfer ei gynnwys yng nghwmpas y Ddyletswydd, beth fyddai trothwy priodol? [dewiswch bopeth sy’n berthnasol]

a. Pob sefydliad

b. Micro (1-9 o weithwyr)

c. Bach (10-49 o weithwyr)

d. Canolig (50-249 o weithwyr)

e. Mawr (250+ o weithwyr)

f. Arall (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Wedi’i gysylltu â Chwestiwn 10]

11.Beth yw eich rhesymeg dros yr ateb hwn?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

12.Rydym wedi cynnig y byddai Dyletswydd Amddiffyn yn berthnasol i sefydliadau sydd â 250 neu fwy o weithwyr. A yw’n glir a yw’ch sefydliad yn dod o fewn y meini prawf hyn?

Y/N.

[Os 12 = N]

13.Os na, pam lai?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

14.A ydych yn glir a yw eich sefydliad yn dod o fewn cwmpas y diffiniad o ‘leoliad sy’n hygyrch i’r cyhoedd’ (man y mae gan y cyhoedd neu unrhyw ran o’r cyhoedd fynediad iddo, ar daliad neu fel arall, fel hawl neu rinwedd o ganiatâd penodol neu ymhlyg)?

Y/N.

[Os yw 14 yn N]

15.Os na, pam lai?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

16.Gan gyfeirio at Atodiad 1, a ydych chi’n ystyried y dylid cael eithriadau eraill rhag Dyletswydd Diogelu?

Y/N.

[os yw 16 yn Y]

17.Os felly beth neu bwy a pham?

(Testun rhydd, 200 gair ar y mwyaf)

18.A oes unrhyw faterion eraill o ran pwy ddylai deddfwriaeth fod yn berthnasol iddynt yr hoffech gynnig barn arnynt?

(Testun rhydd, 200 gair ar y mwyaf)

Adran 2: Beth ddylai’r gofynion fod?

19.A yw’ch sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal asesiad risg ar gyfer terfysgaeth?

Y/N.

[Wedi’i gysylltu â Chwestiwn 19]

20.A yw’r broses hon yn cael ei chyflawni gan unigolyn mewnol neu unigolyn a benodir yn allanol?

Yn fewnol / Allanol

[Lle 19 = Y]

21.Pan ydych yn cynnal asesiad risg terfysgaeth, faint o ddiwrnodau gwaith y flwyddyn ydych chi’n amcangyfrif bod eich sefydliad yn ei wario ar y dasg hon fel rheol? (Lle mae nifer o staff yn ymgymryd â hyn, cofiwch gynnwys cyfanswm y diwrnodau a dreuliwyd gan yr holl staff)?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

22.Pa mor aml y mae eich sefydliad fel arfer yn adolygu’r asesiad risg hwn?

a. Sawl gwaith y flwyddyn

b. Tuag unwaith y flwyddyn

c. Tuag unwaith bob 2 flynedd

d. Tuag unwaith bob 3 blynedd neu fwy

e. Arall (nodwch)

23.Pa fesurau lliniaru yn erbyn risgiau terfysgaeth y mae eich sefydliad yn ymgymryd â nhw ar hyn o bryd (dewiswch bob un sy’n berthnasol)?

a. Protocolau a gweithdrefnau diogelwch sefydliadol wedi’u diffinio’n dda, gan gynnwys ymateb i ymosodiad terfysgol

b. Mae mesurau ar waith i nodi a tharfu ar ragchwilio gelyniaethus 55

c. Gweithio i sicrhau bod ymddygiadau diogelwch yn cael eu mabwysiadu gan y gweithlu

d. Mae polisïau a gweithdrefnau diogelwch personél yn ystyried risgiau diogelwch

e. Ystyrir gwendidau safle/lleoliad (i fygythiadau terfysgol) a mesurau lliniaru ffisegol priodol

f. Mae gweithdrefnau gwacáu, cynnull mewnol, cloi i lawr ar waith ac mae staff yn eu deall a’u harfer

g. Gwneir hyfforddiant staff i godi ymwybyddiaeth o’r bygythiad a beth i’w wneud

h. Mae gweithdrefnau neu ap parhad busnes (e.e. ap ACT) yn cynnwys gwybodaeth ar sut i ymateb i ymosodiadau

i. Cydgysylltu â’r heddlu neu adnoddau eraill (e.e. ymgynghorydd diogelwch) ar fygythiadau a mesurau diogelwch priodol

j. Cymryd rhan mewn mentrau diogelwch lleol

k. Arall (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

24.Faint o arian mae eich sefydliad fel arfer yn ei wario ar fesurau diogelwch newydd neu ddiwygiedig a fyddai’n lliniaru yn erbyn risgiau terfysgol mewn un flwyddyn ariannol?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

25.Beth yw’r gweithgareddau a’r mecanweithiau presennol rydych chi’n ystyried sy’n arwain at y canlyniadau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd sefydliadol gorau mewn mannau cyhoeddus (dewiswch bob un sy’n berthnasol)?

a. Ymgyrchoedd cyfathrebu e.e. Action Counters Terrorism a See It, Say It, Sorted

b. Cyrsiau codi ymwybyddiaeth a hyfforddi staff

c. Cynhyrchion ac offer cyngor ac arweiniad

d. Mecanweithiau a phrosesau awdurdodau lleol (fel yr amlinellir ar dudalen 19)

e. arall (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

26.Beth yw’r swyddogaethau awdurdod lleol presennol sy’n arwain at y canlyniadau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd sefydliadol gorau mewn mannau cyhoeddus ar hyn o bryd (dewiswch bob un sy’n berthnasol)?

a. CONTEST a Byrddau Diogelu

b. Partneriaethau Diogelwch Cymunedol

c. Trwyddedu ar gyfer diogelwch meysydd chwaraeon

d. Prosesau cynllunio

e. Fforymau Cydnerthedd Lleol

f. Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch (ar gyfer digwyddiadau)

g. Ardaloedd Gwella Busnes (y gellir eu sefydlu gan Awdurdodau Lleol, busnesau neu unigolion er budd busnesau lleol)

h. Pwyllgorau Trwyddedu (ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol, darparu adloniant a lluniaeth yn hwyr y nos)

i. Prosesau Iechyd a Diogelwch, diogelwch tân a rheoli adeiladau.

j. Arall (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

27.Beth yw’r swyddogaethau awdurdod lleol presennol sydd â’r potensial i arwain at y canlyniadau diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd sefydliadol gorau mewn mannau cyhoeddus (dewiswch bob un sy’n berthnasol)?

a. CONTEST a Byrddau Diogelu

b. Partneriaethau Diogelwch Cymunedol

c. Trwyddedu ar gyfer diogelwch meysydd chwaraeon

d. Prosesau cynllunio

e. Fforymau Cydnerthedd Lleol

f. Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch (ar gyfer digwyddiadau)

g. Ardaloedd Gwella Busnes (y gellir eu sefydlu gan Awdurdodau Lleol, busnesau neu unigolion er budd busnesau lleol)

h. Pwyllgorau Trwyddedu (ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol, darparu adloniant a lluniaeth yn hwyr y nos)

i. Prosesau Iechyd a Diogelwch, diogelwch tân a rheoli adeiladau.

j. Arall (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Wedi’i gysylltu â Chwestiwn 27]

28.Ar gyfer yr opsiwn/ynau o’ch dewis, beth fyddai ei angen i wella neu gefnogi hyn / y rhain i sicrhau canlyniadau diogelwch mwy effeithiol?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

29.Sut y gallai sefydliadau sy’n gweithio mewn mannau cyhoeddus gael eu hannog neu eu gorfodi i ymgysylltu â sefydliadau partner (e.e. yr heddlu) i sicrhau bod gwell dealltwriaeth o fygythiad terfysgol, rheoli risg a mesurau lliniaru?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

30.Beth yw eich barn ar ofyniad deddfwriaethol posibl i awdurdodau lleol (ac awdurdodau cyhoeddus perthnasol megis Asiantaethau Priffyrdd) a phartneriaid lleol perthnasol eraill ddatblygu cynllun strategol i frwydro yn erbyn terfysgaeth, er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, trwy weithio mewn partneriaeth?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Wedi’i gysylltu â Chwestiwn 30]

31.Beth yn eich barn chi fyddai cydrannau allweddol darpariaeth ddeddfwriaethol o’r fath a chanllawiau cysylltiedig?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Wedi’i gysylltu â Chwestiwn 30]

32.Pa sefydliad/au a allai chwarae rhan flaenllaw wrth ddod â phartneriaethau o’r fath ynghyd a’u cynnull?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Wedi’i gysylltu â Chwestiwn 30]

33.Pa ofynion i wella diogelwch a pharodrwydd amddiffynnol y gallai partneriaethau o’r fath eu cyflawni’n realistig?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

34.A oes gennych unrhyw gynigion ychwanegol i’w cyflwyno a allai wella diogelwch mewn mannau cyhoeddus?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

35.Lle mae gofyniad deddfwriaethol yn bodoli eisoes ar gyfer diogelwch (e.e. mewn rhai meysydd chwaraeon a safleoedd trafnidiaeth, neu yn y dyfodol y sefydliadau a’r lleoliadau hynny sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Diogelu), a yw’n rhesymol mynnu bod sefydliadau perthnasol (er enghraifft y rhai sy’n amgylchynu’r safle) yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau canlyniadau diogelwch?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

36.Lle mae canllawiau diogelwch y Llywodraeth ar hyn o bryd (e.e. gweithredwyr bysiau a choetsys a phorthladdoedd masnachol a llongau â baner y DU) a fyddai’n briodol i’r canllawiau hyn ddod yn ganllawiau deddfwriaethol o dan y Ddyletswydd Diogelu i sicrhau mwy o sicrwydd ar ystyriaethau a chanlyniadau diogelwch?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

37.Lle mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau diogelwch (e.e. gweithredwyr bysiau a choetsys a phorthladdoedd masnachol a llongau â baneri yn y DU) neu wedi rhoi cynlluniau gwirfoddol ar waith ar gyfer cynhyrchion y gellid eu defnyddio fel arfau, a fyddai’n rhesymol i orfodi busnesau a gweithredwyr eraill sy’n gyfrifol i ddilyn y canllawiau hynny o dan Ddyletswydd Diogelu?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

I ba raddau ydych chi’n cytuno â’r datganiad dilynol:

38.Byddai cydymffurfio â Dyletswydd Diogelu yn galw am fwy o ymdrech (e.e. amser, adnoddau staff) na chydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a rhwymedigaethau eraill tebyg (e.e. diogelwch tân, iechyd a diogelwch, canllawiau Deddf Trwyddedu 2003, trwyddedu ar gyfer meysydd chwaraeon, Grwpiau Cynghori ar Ddiogelwch)?

Anghytuno’n Gryf (SD) - Anghytuno (D) - Ddim yn Cytuno nac yn Anghytuno (NAND) - Cytuno (A) - Cytuno’n Gryf (SA) [graddfa]

39.Sut ydych chi’n credu y bydd y gofynion/mesurau lliniaru newydd hyn yn effeithio ar:

a. Nifer y cwsmeriaid/ymwelwyr sy’n ymweld â lleoliadau yng nghwmpas y ddyletswydd (dim o gwbl, cynyddu, gostwng)

b. Canfyddiad y cyhoedd o’r bygythiad terfysgol (dim o gwbl, cynyddu, gostwng)

c. Gwyliadwriaeth y gweithlu/defnydd o ymddygiadau diogelwch da gan staff (dim o gwbl, cynyddu, gostwng)

40.Mae Atodiad 3 yn nodi’r costau a’r buddion a ragwelir o ymyrraeth ar ffurf Dyletswydd Diogelu. Nodwch unrhyw sylwadau sydd gennych ar yr Atodiad hwn.

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

41.A oes unrhyw faterion eraill yn ymwneud â’r hyn y dylai fod yn ofynnol i bartïon o fewn cwmpas Dyletswydd Diogelu ei wneud yr hoffech gynnig barn arnynt?

(Testun rhydd, 200 gair ar y mwyaf)

Adran 3: Sut ddylai cydymffurfedd weithio?

42.Beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio cyfundrefn arolygu i gefnogi gwelliannau i ddiwylliant ac arferion diogelwch?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

43.Beth yw eich barn ar ddefnyddio cosbau sifil (dirwyon) ar gyfer sefydliadau sy’n methu â chymryd camau rhesymol yn gyson i leihau effaith bosibl ymosodiadau sy’n gysylltiedig â sicrhau cydymffurfiad â Dyletswydd Diogelu

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

44.A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ynglŷn â sut y gallai trefn gydymffurfio (arolygu a gorfodi) weithredu?

(Testun rhydd, 200 gair ar y mwyaf)

Adran 4: Sut ddylai’r Llywodraeth gefnogi a gweithio orau gyda phartneriaid?

45.A ydych chi’n cyrchu cyngor y Llywodraeth ar hyn o bryd (yn bennaf gan Blismona Gwrthderfysgaeth a’r Ganolfan Diogelu Seilwaith Cenedlaethol) ynghylch bygythiad, diogelwch amddiffynnol a pharodrwydd?

Y/N.

[Os 45 = Y]

46.Beth, os unrhyw beth, sydd fwyaf gwerthfawr yn eich cyngor a’ch canllawiau cyfredol?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Os 45 = N]

47.Pam nad ydych chi’n cyrchu’r cyngor a’r canllawiau hyn ar hyn o bryd?

a. Nid oeddwn yn gwybod ei fod yn bodoli

b. Nid wyf yn credu bod angen i mi fynd i’r afael â’r bygythiad

c. Nid oes gennyf yr amser i gyrchu hyn

d. d Mae’n rhy ddryslyd dod o hyd i’r hyn yr wyf yn ei ddymuno

e. Arall (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

48.Beth fyddai fwyaf defnyddiol i’ch helpu i gydymffurfio â Dyletswydd Diogelu (dewiswch bob un sy’n berthnasol)?

a. Gwasanaeth digidol sengl lle gallech gyrchu deunydd, cyngor a hyfforddiant perthnasol mewn un lle

b. Gwybodaeth hawdd ei hamgyffred am fethodolegau bygythiad ac ymosodiad

c. Templed asesu risg

d. Gwybodaeth am gynnal asesiad risg ar gyfer bygythiadau terfysgaeth

e. Cyngor yn ymwneud â mesurau lliniaru diogelwch amddiffynnol

f. Cyngor yn ymwneud â diogelwch personél a phobl

g. Cyngor yn ymwneud â sut y gall sefydliad baratoi ar gyfer ymosodiad terfysgaeth

h. Cyngor ar yr hyn sy’n gyfystyr â mesurau lliniaru rhesymol ymarferol a phriodol sy’n briodol i’m hamgylchiadau

i. Datblygu ardystiadau neu safonau cynnyrch ar gyfer agweddau ar y dull

j. Cyrsiau hyfforddi ac ymwybyddiaeth staff

k. Cynhyrchion e-ddysgu

l. Ap

m. Cyfarfod sector lle gallaf siarad am y Ddyletswydd gydag arbenigwyr a sefydliadau tebyg eraill

n. Cyfarfod lleol lle gallaf siarad am y Ddyletswydd gydag arbenigwyr a sefydliadau tebyg eraill

o. Arall: (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

49.Mae Plismona Gwrthderfysgaeth yn gweithio gyda’r Llywodraeth a’r Sector Preifat i ddylunio gwasanaeth digidol i ddarparu mynediad at ddeunydd, cyngor a hyfforddiant gwrthderfysgaeth perthnasol mewn un man ar gyfer sefydliadau sy’n gweithredu mewn lleoliadau cyhoeddus hygyrch. A ydych yn rhagweld y byddech yn cyrchu gwybodaeth gwrthderfysgaeth trwy’r gwasanaeth hwn pe byddai ar gael i chi?

Y/N.

[Os 49 = N]

50.Pam lai?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

[Os 49 = Y]

51.Am beth fyddech chi’n fwyaf tebygol o ddefnyddio’r math hwn o wasanaeth (ticiwch bob un sy’n berthnasol)?

a. I gael diweddariadau cyffredinol ar sut mae’r risg derfysgaeth yn newid

b. Cefnogi gweithgareddau cynllunio busnes

c. Deall pa weithgareddau rheoli risg y mae angen i chi eu gwneud

d. Cyrchu hyfforddiant CT

e. Cysylltu â sefydliadau eraill i drafod gwrthderfysgaeth

f. Deall beth i’w wneud ar ôl digwyddiad

g. Adrodd am weithgareddau terfysgol a amheuir/pryderon

52.A oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau pellach ar sut yr hoffech gyrchu gwybodaeth gwrthderfysgaeth a gweithio gyda phartneriaid lleol ar faterion gwrthderfysgaeth yn y dyfodol?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

53.Pa rôl ddylai fod gan bartneriaethau busnes lleol (megis Ardaloedd Gwella Busnes, partneriaethau Menter Leol, ac ati) wrth gefnogi sefydliadau a lleoliadau i sicrhau gwell diogelwch?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

54.Gan weithio gydag eraill, beth allai’r Llywodraeth ei wneud orau i gymell gwell arferion diogelwch?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

55.Er mwyn cefnogi’r ddarpariaeth o gyngor a chanllawiau o ansawdd uchel gan weithwyr proffesiynol diogelwch y sector preifat sy’n darparu cyngor diogelwch gwrthderfysgaeth, dylai’r Llywodraeth ystyried (ticiwch bopeth sy’n berthnasol)

a. Safonau a gefnogir gan y Llywodraeth ar gyfer asesiadau risg a chyngor Gwrthderfysgaeth (CT)

b. Cymwysterau/Hyfforddiant achrededig ar gyfer gweithwyr proffesiynol unigol

c. ‘Cynllun contractwyr cymeradwy’ a gefnogir gan y Llywodraeth

d. Rheoleiddio ymgynghorwyr CT

e. Dim

f. Arall (Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

g. Dydw i ddim yn gwybod

56.Pa gyngor a chefnogaeth fyddai eu hangen ar sefydliadau a lleoliadau sydd o fewn cwmpas y Ddyletswydd Diogelu?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

57.O ystyried cymhlethdod mannau cyhoeddus, a’r angen posibl am weithio mewn partneriaeth i gyflawni ffyrdd effeithiol o weithio sy’n arwain at welliannau mewn diogelwch a pharodrwydd amddiffynnol, pa gefnogaeth ac arbenigedd pwrpasol ychwanegol y gellid eu darparu?

(Testun rhydd, 100 gair ar y mwyaf)

58.A oes gennych unrhyw gynigion eraill ar yr hyn y gallai’r Llywodraeth ei wneud i gefnogi partneriaid i gyflawni Dyletswydd Diogelu?

(Testun rhydd, 200 gair ar y mwyaf)

  1. Mae’r mecanweithiau hyn yn amrywio ledled y DU, ac mewn sawl achos mae gwahanol fecanweithiau tebyg yng Ngweinyddiaethau Datganoledig Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru.