Knives and offensive weapons: personal liability measures on senior executives of online platforms or marketplaces (Welsh accessible version)
Updated 15 November 2024
Dechrau’r Ymgynghoriad: Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024 Diwedd yr Ymgynghoriad: Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2024
Crynodeb
Pwnc Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar gyflwyno mesurau atebolrwydd personol ar uwch weithredwyr llwyfannau a marchnadoedd ar-lein sy’n methu â gweithredu ar gynnwys anghyfreithlon sy’n ymwneud â chyllyll ac arfau ymosodol.
I Mae hwn yn ymgynghoriad sy’n agored i’r cyhoedd ac wedi’i dargedu at bartïon yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, gan gynnwys yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, grwpiau cymunedol, busnesau, adwerthwyr a sefydliadau sydd â diddordeb uniongyrchol yn y cynigion.
Hyd 4 wythnos o 13 Tachwedd 2024 i 11 Rhagfyr 2024.
Ymholiadau Uned Polisi Arfau (Firearms and Weapons Policy Unit)
5ed llawr, Adeilad Frygg
Swyddfa Gartref
2 Stryd Marsham
Llundain SW1P 4DF
E-bost:Personal-Liability-Online-Execs-Consultation@homeoffice.gov.uk
Sut i ymateb Cyflwynwch erbyn 11.59 11/12 2024 trwy:
- Cwblhewch y ffurflen ar-lein yma neu drwy ddefnyddio’r ddolen:
- https://www.homeofficesurveys.homeoffice.gov.uk/s/ZUSJ88/
- E-bostat:Personal-Liability-Online-Execs-Consultation@homeoffice.gov.uk Personal-Liability-Online-Execs-Consultation@homeoffice.gov.uk
Cwmpas daearyddol Rydym yn ceisio cael safbwyntiau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae’r cynigion yn ymdrin â materion sydd wedi’u datganoli, ac sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig, ond byddwn yn gweithio’n agos gyda’r gweinyddiaethau datganoledig ar sut y gallai cynigion penodol fod yn berthnasol i’r Alban a Gogledd Iwerddon neu’n effeithio arnynt.
Pan fo cynigion yn delio â materion datganoledig a bod angen deddfwriaeth, cytunir ar hyn gyda’r gweinyddiaethau datganoledig yn unol â’r setliadau datganoli.
Ffyrdd ychwanegol o ymateb Os na allwch ddefnyddio’r system ar-lein, er enghraifft oherwydd eich bod yn defnyddio meddalwedd hygyrchedd arbenigol nad yw’n gydnaws â’r system, gallwch lawrlwytho fersiwn PDF o’r ffurflen ar-lein a’i e-bostio neu ei phostio i’r manylion cyswllt uchod.
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod hefyd os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat arall, fel “hawdd ei ddarllen”, print bras, Braille neu sain.
Efallai na fyddwn yn gallu dadansoddi ymatebion na chyflwynir yn y fformatau hyn a ddarparwyd.
Asesiad Opsynau Ymgynghori Mae’r Asesiad Opsiynau, a elwid gynt yn ‘Asesiad Effaith’ wedi’i gyhoeddi ochr yn ochr â’r papur ymgynghori hwn.
Ynghylch
Mae’r ddogfen ymgynghori hon a’r broses ymgynghori wedi’i seilio ar yr Egwyddorion Ymgynghori[footnote 1], fel y’u cyhoeddwyd gan Swyddfa’r Cabinet.
Os ydych chi’n ymateb fel cynrychiolydd grŵp, rhowch grynodeb o’r bobl a/neu’r sefydliadau rydych chi’n eu cynrychioli. Os yn bosibl, rhowch grynodeb pellach ar sut rydych wedi dod i’r casgliadau a nodwyd.
Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â’r ceisiadau mynediad at wybodaeth, megis Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a deddfwriaeth diogelu data’r DU. Dylech nodi y gall hyn gynnwys data personol, lle bo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Os ydych chi am i’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fod yna God Ymarfer statudol y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus, fel y Swyddfa Gartref, gydymffurfio ac sy’n ymdrin, ymhlith pethau eraill, â rhwymedigaethau cyfrinachedd.
O ystyried hyn, byddai’n ddefnyddiol pe gallech esbonio pam eich bod yn ystyried bod y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gyfrinachol. Os byddwn yn derbyn cais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd o dan bob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo’i hun, yn cael ei ystyried yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref.
Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data ac, yn y mwyafrif o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon.
Wrth ymateb i’r ymgynghoriad gan yr Alban, fodd bynnag, rydych yn cydsynio i’ch ymateb gael ei rannu â Llywodraeth yr Alban.
Mae eich barn yn werthfawr i ni – a diolchwn ichi am gymryd yr amser i ddarllen ac ymateb i’r ymgynghoriad hwn.
1. Crynodeb Gweithredol
1.1. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo yn ei maniffesto i gyflwyno sancsiynau llym ar weithredwyr cwmnïau sy’n torri’r gyfraith ar gyllyll. Bydd hyn yn golygu cyflwyno mesurau atebolrwydd personol ar gyfer uwch weithredwyr llwyfannau ar-lein a marchnadoedd sy’n methu â chymryd camau i atal neu ddileu cynnwys anghyfreithlon sy’n ymwneud â chyllyll ac arfau ymosodol ar eu llwyfan neu eu marchnad.
1.2 Mae troseddau cyllyll yn dinistrio teuluoedd a chymunedau ar draws y wlad ac mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i haneru troseddau cyllyll o fewn degawd. Er bod pandemig COVID-19 wedi gweld gostyngiad mewn troseddoldeb a alluogwyd gan gyllyll, mae data wedi dangos bod y troseddau hyn wedi cynyddu ers hynny. O’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024, cofnododd yr heddlu gynnydd o 4% mewn troseddau cyllyll o droseddau treisgar o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Nawr mae 50,973 o droseddau wedi’u cofnodi yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2024 o gymharu â 49,187 o droseddau wedi’u cofnodi yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2023[footnote 2].
1.3 Mae’r Llywodraeth yn cymryd agwedd eang ei chwmpas, gyda chamau pendant yn cael eu cymryd ar y rhai sy’n troseddu, ond hefyd yn canolbwyntio’n gryfach ar atal. Rydym wedi comisynu adolygiad o werthu cyllyll ar-lein i asesu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth sy’n gwahardd gwerthu a danfon cyllyll i rai dan 18 ed a gwerthu arfau ymosodol gwaharddedig yn gyffredinol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhan o’r pecyn ehangach o fesurau y mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo iddynt, gan gynnwys gwaharddiad ar gleddyfau Ninja. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg ochr-yn-ochr â’r ymgynghoriad - Gwahardd Cleddyfau Ninja - Disgriifiad Cyfreithiol ac Amddiffynfeydd. Mae hyn yn canolbwyntion ar y ddiffiniad cyfreithiol o gleddyfau Ninja sydd i fod o fewn cwmpas gwaharddiad ac a ddylai amddiffynfeydd fod yn berthnasol.
1.4 Rydym yn ymwybodol bod gwerthwyr preifat neu ailwerthwyr yn defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a marchnadoedd i werthu cyllyll ac arfau eraill yn anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys gwerthu arfau ymosodol gwaharddedig a marchnata cyllyll mewn ffyrdd sy’n annog trais neu’n hyrwyddo eu haddasrwydd i’w defnyddio mewn ymosodiadau treisgar. Mae rhai o’r cyllyll hyn wedi cael eu gwerthu i rai dan 18 oed ac yna eu defnyddio mewn ymosodiadau cyllyll a lladdiadau. Dywed yr heddlu wrthym y bu sawl achos lle mae unigolion wedi prynu cyllyll mewn swmp gan werthwyr cyllyll cyfreithlon a’u hailwerthu trwy gyfryngau cymdeithasol. Prynodd un unigolyn 261 o gyllyll ar-lein a gafodd eu dosbarthu i’w gyfeiriad cartref. Yna cafodd yr arfau, a oedd yn machetes yn bennaf, yn gyllyll hela ac arddull ymladd, eu hailwerthu i rwydwaith troseddol a nifer o unigolion yn gysylltiedig gyda gwerthu cyffuriau llinellau sirol.
1.5 Er bod y gwerthwyr hyn eisoes yn cyflawni troseddau o dan adran 141 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988, Deddf Cyfyngu Arfau Ymosodol 1959 a Deddf Cyllyll 1997, mae angen i gwmnïau ar-lein weithredu’n gyflymach i ddileu’r cynnwys penodol a bostiwyd gan y gwerthwyr i atal pobl rhag gallu prynu arf neu gyllell ymosodol waharddedig, gan gynnwys rhai o dan 18 oed.
1.6 Dyma pam ein bod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i roi’r grym i’r heddlu orfodi llwyfannau a marchnadoedd ar-lein i dynnu cynnwys i lawr a chyflwyno mesurau atebolrwydd personol ar gyfer uwch swyddogion gweithredol y cwmnïau hyn os nad yw’r cwmnïau’n cydymffurfio. Rydym yn ceisio barn ar y cynnig hwn.
2. Cefndir
2.1 Mae yna droseddau eisoes i werthwyr mewn perthynas ag arfau ymosodol. Mae’n drosedd i berson weithgynhyrchu, gwerthu neu logi neu gynnig gwerthu neu logi neu fod yn ei feddiant at ddiben gwerthu neu logi, neu roi benthyg neu roi arf ymosodol gwaharddedig i unrhyw berson arall heb amddiffyniad rhesymol. Mae meddiant hefyd yn drosedd. Mae’r darpariaethau wedi’u nodi yn adran 141 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 a’r Ddeddf Cyfyngu Arfau Ymosodol 1959 o ran cyllyll fflicio a chyllyll disgyrchiant.
2.2 Mae yna hefyd droseddau ar waith ar gyfer marchnata cyllyll yn Neddf Cyllyll 1997. Mae’n drosedd:
- (i) marchnata cyllell neu gyhoeddi deunydd marchnata mewn perthynas â chyllell sy’n nodi ei bod yn addas ar gyfer ymladd ac achosi anaf neu’n debygol o ysgogi ac annog ymddygiad treisgar sy’n cynnwys defnyddio’r gyllell fel arf.
- (ii) cyhoeddi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig, darluniadol neu ddeunydd arall mewn cysylltiad â marchnata unrhyw gyllell a bod y deunydd hwnnw’n nodi bod y gyllell yn addas ar gyfer ymladd neu’n annog ymddygiad treisgar.
Er i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno cyn datblygu marchnadoedd ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a negeseuon mae’r darpariaethau hyn yn dal yn berthnasol.
2.3 Mae fframwaith deddfwriaethol trosfwaol eisoes ar waith mewn perthynas â diogelwch ar-lein. Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn gosod ystod o ddyletswyddau ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau chwilio ar-lein i’w gwneud yn gyfrifol am ddiogelwch eu defnyddwyr ar eu llwyfannau. Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswyddau i ddarparwyr roi systemau a phrosesau ar waith i leihau’r risgiau bod eu gwasanaethau’n cael eu defnyddio ar gyfer gweithgarwch anghyfreithlon ac i ddileu cynnwys anghyfreithlon pan fydd yn ymddangos. Mae angen i’r llwyfannau hyn hefyd atal plant rhag cael mynediad at gynnwys niweidiol sy’n amhriodol i’w hoedran. Ofcom yw rheoleiddiwr diogelwch ar-lein. Unwaith y daw’r dyletswyddau newydd i rym, yn dilyn cyhoeddiad Ofcom o’r codau a’r canllawiau terfynol, bydd yn rhaid i lwyfannau ddangos bod ganddynt brosesau yn eu lle i fodloni gofynion y Ddeddf. Bydd Ofcom yn monitro pa mor effeithiol yw’r prosesau hynny o ran diogelu defnyddwyr rhyngrwyd rhan niwed. Bydd gan Ofcom bwerau i gymryd camau yn erbyn cwmnïau nad ydynt yn dilyn eu dyletswyddau newydd. Gall cwmnïau gael dirwy o hyd at £18 miliwn neu 10 y cant o’u refeniw byd-eang cymwys, pa un bynnag sydd fwyaf. Gellir cymryd camau troseddol yn erbyn uwch reolwyr sy’n methu â sicrhau bod cwmnïau’n dilyn ceisiadau am wybodaeth gan Ofcom.
2.4 Fodd bynnag, rydym am sicrhau bod marchnadoedd a llwyfannau ar-lein hefyd yn rhoi blaenoriaeth i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chyllyll ac arfau bygythiol. Byddwn yn gwneud uwch swyddogion gweithredol yn bersonol atebol os nad yw eu cwmnïau yn cydymffurfio â cheisiadau i gael gwared ar gynnwys anghyfreithlon yn ymwneud â chyllyll ac arfau bygythiol. Tra bydd Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn gosod dyletswyddau ar gwmnïau ar-lein i gael systemau a phrosesau yn eu lle i adnabod a dileu cynnwys anghyfreithlon, a gall yr heddlu eisoes gyflwyno cyfeiriadau i lwyfannau ar-lein i gael gwared ar gynnwys anghyfreithlon, credwn, mewn perthynas â’r cynnig ar gyfer gwerthu arfau ymosodol gwaharddedig a marchnata cyllyll yn anghyfreithlon, bod angen gweithredu cryfach. Rydym am sicrhau y gall yr heddlu fynnu bod llwyfan neu farchnad yn cymryd camau cyflym. Os bydd cwmnïau a gwasanaethau ar-lein yn methu â chael gwared ar gynnwys sy’n ymwneud â chyllyll neu arfau ymosodol yn gyflym yna mae’r Llywodraeth yn credu y dylai uwch weithredwyr fod yn bersonol atebol am fethiant y llwyfan neu’r farchnad i ymateb a gweithredu.
3. Cynigion
Hysbysiad Dileu Cynnwys
3.1 Byddai ein cynnig yn rhoi’r grym i’r heddlu roi hysbysiad dileu cynnwys i’r cwmni perthnasol sy’n gyfrifol am y llwyfan neu’r farchnad gydag hysbysiad dileu cynnwys yn gosod manylion am gynigion anghyfreithlon ar gyfer gwerthu neu farchnata cyllyll yn anghyfreithlon sydd wedi’u postio sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r cwmni ddileu’r cynnwys anghyfreithlon hwn. Gellir cyhoeddi’r hysbysiad hwn cyn gynted ag y daw’r heddlu’n ymwybodol o’r cynnwys anghyfreithlon ac ni fyddai’n dibynnu ar yr heddlu fod eisoes wedi cymryd camau yn erbyn e.e. y gwerthwr neu’r ailwerthwr. Amcan y cynnig hwn yw tynnu’r cynnwys anghyfreithlon o’r llwyfan neu farchnad ar-lein cyn gynted â phosibl. Gellir cymryd camau yn erbyn gwerthwr neu ailwerthwr ar wahân ac yn annibynnol i’r grym hwn.
3.2 Byddai’r hysbysiad yn cael ei anfon i’r llwyfan neu farchnad ar-lein yn gyntaf ac yn ei gwneud yn ofynnol iddo dynnu’r cynnwys i lawr o fewn cyfnod amser penodol. Bydd yr hysbysiad yn nodi i’r llwyfan neu farchnad, os bydd yn methu â thynnu’r cynnwys, yna bydd yr atebolrwydd yn disgyn ar yr uwch weithredwr.
3.3 Byddai angen i ni ddiffinio’r union gyfnod amser o fewn deddfwriaeth a hefyd sicrhau bod eithriadau mewn lle, er enghraifft penwythnosau a Gwyliau Banc. Rydym yn cynnig rhoi i lwyfan neu farchnad berthnasol uchafswm o ddau ddiwrnod gwaith o gyhoeddi’r hysbysiad dileu cynnwys i dynnu’r cynnwys penodol i lawr, ond rydym yn ceisio barn ynghylch ai dyma’r amserlen gywir. Byddai angen i’r cwmnïau ddynodi uwch swyddog gweithredol â chyfrifoldeb a fyddai’n debyg i’r diffiniad a ddefnyddir o dan adran 103(4) o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023. Byddai hwn yn uwch reolwr a chanddo awdurdod neu gyfrifoldeb perthnasol dros wneud penderfyniadau ynghylch sut mae gweithgareddau’r cwmni yn cael eu rheoli neu eu trefnu neu mewn gwirionedd yn rheoli neu drefnu’r gweithgareddau hynny.
3.4 Rydym yn darparu hawl i ofyn i’r heddlu adolygu’r hysbysiad ac a yw’r cynnwys yn anghyfreithlon, gyda dyletswydd i’r heddlu ystyried y rhesymau dros ei symud a dyletswydd ar yr heddlu i ymateb. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r hysbysiad dileu cynnwys yn dal i gael ei ystyried i fod wedi ei gyhoeddi ac yn ddilys, ond nid oes angen tynnu’r cynnwys nes bod yr heddlu wedi cynnal yr adolygiad ac wedi ymateb. Os, yn dilyn yr adolygiad, y bydd yr heddlu yn dewis sefyll wrth eu penderfyniad, rhaid tynnu’r cynnwys o fewn 2 ddiwrnod gwaith i’w hymateb.
3.5 Pe bai’r llwyfan neu farchnad yn methu â thynnu’r cynnwys o fewn dau ddiwrnod gwaith byddai ail hysbysiad dileu cynnwys yn cael ei anfon at yr uwch weithredwr perthnasol i’w wneud yn ymwybodol o’r gofyniad i ddileu’r cynnwys a’i rybuddio am ganlyniadau posibl o beidio â chydymffurfio.
Sancsiynau ar gyfer uwch swyddogion gweithredol
3.6 Pe bai llwyfannau yn methu â thynnu’r cynnwys penodol o fewn dau ddiwrnod gwaith yn dilyn y rhybudd a roddwyd i’r uwch weithredwr perthnasol, byddai’r heddlu yn rhoi hysbysiad o fwriad i’r swyddog perthnasol, gan nodi y byddai camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn ei erbyn am fethu â chydymffurf io â’r hysbysiad. Byddai gan yr uwch weithredwr perthnasol 28 diwrnod i godi gwrthwynebiad o’r dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad o fwriad. Rydym yn gwahodd barn ynghylch ai dau fethiant i gael gwared ar y cynnwys anghyfreithlon yw’r trothwy cywir i gychwyn achos cyfreithiol yn erbyn yr uwch weithredwr.
Gweithredu Sifil yn erbyn yr uwch swyddog gweithredu
3.7 Rydym yn ystyried ai achos sifil yn erbyn yr uwch weithredwr yw’r dull cywir os na cheir gwared ar y cynnwys anghyfreithlon. Nid yw gweithredu sifil yn dibynnu ar fod wedi profi y tu hwnt i’r rhesymol a oedd y cynnwys a bostiwyd yn anghyfreithlon. Byddai’n ddigon bod wedi profi, i’r safon sifil o brawf, bod y cynnwys a bostiwyd yn groes i’r gyfraith ar arfau ymosodol a marchnata cyllyll. Byddai hyn yn sicrhau y gallai’r heddlu gychwyn camau yn erbyn yr uwch weithredwr yn annibynnol ar unrhyw gamau troseddol yn erbyn e.e. y gwerthwr neu’r ailwerthwr.
3.8 Diben ein cynnig yw sicrhau bod camau cyflyn yn cael eu cymryd, ac atal gwerthu a/neu farchnata cyllyll. Dylai hyn arwain at newid sylweddol yn y ffordd y mae llwyfannau ar-lein a marchnadoedd yn ymateb i werthwyr ac ailwerthwyr yn gwerthu a/neu farchnata cyllyll yn anghyfreithlon. Ein hasesiad yw mai’r llwybr mwyaf effeithiol yw drwy gymryd camau gweithredu sifil. Rydym yn gwahodd safbwyntiau ynghylch ai dyma’r dull cywir.
4. Amddiffyniadau
4.1 Rydym yn cydnabod yr angen i ddarparu amddiffynfeydd ar gyfer llwyfannau ar- lein a marchnadoedd. Er enghraifft, efallai y byddwn yn dymuno cael amddiffynfeydd tebyg i’r rhai a roddir i uwch weithredwyr o dan adrannau 109 a 110 Deddf Diogelwch ar- lein 2023. Byddai hyn yn cynnwys amddiffyniad sy’n cwmpasu achosion lle mae’r uwch weithredwr wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio â’r rhybudd dileu’r hysbysiad ac wedyn dileu’r cynnwys anghyfreithlon. Byddem hefyd yn dymuno cael amddiffyniad ar gyfer pan oedd yr uwch weithredwr yn rhy newydd yn ei swydd i gael ei ystyried yn gyfrifol am fethu â chydymffurfio â’r hysbysiadau dileu cynnwys neu nad oedd ganddo unrhyw wybodaeth o gael ei enwi fel yr uwch weithredwr â chyfrifoldeb am sicrhau bod yr hysbysiad dileu cynnwys wedi’i weithredu.
4.2 Rydym yn croesawu barn ynghylch a oes angen inni gymhwyso unrhyw amddiffynfeydd ychwanegol am unrhyw fethiant i gydymffurfio â hysbysiadau dileu cynnwys.
5. Cosbau
5.1 Rydym yn cynnig y byddai’r ddirwy am beisio â chydymffurfio â’r hysbysiad dileu cynnwys o leiaf yn £10,000, a bennir gan y llys. Credwn fod dirwy ar y lefel hon yn ddigon o rwystr ac y byddai’n newid ymddygiad, tra’n cadw cymesuredd. Rydym yn gwahodd safbwyntiau ynghylch ai dyma’r lefel gywir.