Domestic abuse protection notices and protection orders: draft statutory guidance for the police flowchart (Welsh accessible version)
Updated 27 November 2024
Hysbysiad a gorchymyn gwarchod rhag cam-drin domestig (DAPN/DAPO) – map proses
Sylwch mai bwriad y map proses hwn yw bod yn drosolwg lefel-uchel o’r broses DAPN/DAPO. Dylai hyn gael ei ystyried a’i adolygu ar y cyd â’r Canllaw statudol llawn.
Cam-drin domestig yn cael ei nodi gan yr heddlu:
- Troseddwr (T) 18 oed neu’n hŷn
- Dioddefwr (D) yn 16 oed neu’n hŷn
- (T) yn gam-driniol neu’n fygythiol tuag at rywun sydd “â chysylltiad personol”
Ymwneud yr heddlu:
Yr heddlu’n bresennol ac yn arestio T. Cwblhau asesiad risg gyda D. Ystyriaeth gynnar i addasrwydd DAPN. Casglu tystiolaeth.
WASTAD yn ystyried nodi ac erlyn am droseddau gwirioneddol.
Ymgynghori a cheisio awdurdod am DAPN gan gwnstabl sydd â rheng arolygydd o leiaf, a hynny’n gynnar.
Rhaid cyfiawnhau fod DAPN yn gymesur ac angenrheidiol i warchod yr unigolyn rhag camdriniaeth neu fygythiad o gamdriniaeth gan T. Ystyried hawliau dynol y D a’r T, a barn D.
Ni ellir cadw T yn y ddalfa at ddibenion cyflwyno DAPN.
-DGP ar yr achos -Rhybuddio T -T ar fechnïaeth gydag amodau heb roi gwarchodaeth ddigonol i D |
Oes |
A oes angen DAPN?
Na | -Erlyn am drosedd(au) gwirioneddol -Amodau mechnïaeth sy’n gwarchod D -Ystyried DAPO arunig i warchod D |
Cyhoeddi DAPN
Awdurdodwyd gan uwch-swyddog heddlu (rheng Arolygydd o leiaf) a’i roi i T yn ysgrifenedig gan gwnstabl yn bersonol.
- Ystyriaethau – lles unrhyw un dan 18, barn pawb dan sylw, sylwadau gan T, NID oes angen cydsyniad D.
- Amodau –peidio ag ymyrryd. Gall ymyrryd gynnwys mynd yn agos neu i mewn i eiddo D, hyd yn oed mewn achosion lle nad yw T a D yn cyd-fyw.
- Hysbysiadau – yn ysgrifenedig ac yn bersonol, seiliau cyhoeddi. Cyfrifoldeb T am gydymffurfio ag amodau, pwerau arestio am dorri, clywir cais am DAPO ymhen 48 awr.
- Rhybudd o Wrandawiad – Wedi i DAPN gael ei roi, rhaid i heddwas ofyn am gyfeiriad i (T) i gyflwyno Rhybudd o Wrandawiad o gais am DAPO. Caiff y Rhybudd o Wrandawiad hwn dan Adran 27 (5) ei drin fel gwŷs. Rhaid rhoi hwn i T ym mhob achos ac y mae ar wahân i’r DAPN. Swyddog yn hysbysu’r Adrannau a’r Asiantaethau perthnasol fod DAPN wedi ei roi.
Torri DAPN
Angen gweithredu BRYS – ystyriwch nodi ac erlyn am droseddau gwirioneddol.
- Hysbysu D am y torri
- Hysbysu’r asiantaethau perthnasol am y torri Gall swyddog arestio
- Cadw yn y ddalfa
- Llys ymhen 24 awr neu os yn gynt, gwrando ar y cais.
- Casglu tystiolaeth/paratoi papurau llys.
Amserlen – uchafswm o 48 awr
Gwrandewir ar gais am DAPO ymhen 48 awr o amser rhoi’r DAPN.
Cais am DAPO yn dilyn DAPN
Rhaid gwneud cais trwy gŵyn. Y DAPN yw’r gŵyn. Rhaid ei gyflwyno i’r llys ynadon a heb fod yn hwyrach na 48 awr wedi cyflwyno’r DAPN (ac eithrio Suliau a Gwyliau Banc Cyhoeddus)
Rhaid rhoi rhybudd am wrandawiad y cais i T a thybir ei fod wedi ei roi os gadawyd yn y cyfeiriad a roddwyd gan T. Os na roddodd T gyfeiriad yna rhaid i’r llys fod yn fodlon y gwnaed ymdrechion rhesymol i gyflwyno’r rhybudd.
Cais am DAPO arunig
Gellir gwneud cais amdano gyda phenderfyniad i gyhuddo os oes angen gwarchod D rhag T yn ystod achos troseddol neu na fydd canlyniad achos troseddol yn rhoi digon o warchodaeth.
Gwneud cais gan yr heddlu heb neu gyda rhybudd i T, trwy osod cwyn yn y llys ynadon a gwneud cais am wŷs. Os gwnaed heb rybudd, rhaid rhoi tystiolaeth i’r llys ynglŷn â pham y gwnaed cais heb rybudd am DAPO.
Cais am DAPO mewn achosion llys troseddol sy’n dal ymlaen:
Cafwyd P yn euog o drosedd.
Rhybudd ar y diffynnydd a’r llys ymlaen llaw gyda gorchymyn drafft.
Rhaid i’r heddlu weithio’n agos gyda GEG ar y cais a’r argymhellion.
Cais DAPO
- Amodau - Bu P yn cam-drin neu yn bygwth cam-drin D a bod DAPO yn angenrheidiol a chymesur er mwyn gwarchod D.
- Ystyried - Lles unrhyw un dan 18, barn pawb dan sylw (nid oes angen cydsyniad D), sylwadau gan T, cofnodion perthnasol yr heddlu i ganfod a yw T eisoes yn destun gorchymyn llys arall neu waharddeb. Ymwneud ag asiantaethau eraill ynghylch yr amodau, gan gynnwys gwasanaethau CD. Ystyried nodweddion gwarchodedig.
- Cais – Ystyried pa ofynion fyddai fwyaf effeithiol i ddiogelu’r person a warchodir ac i ymdrin ag ymddygiad camdriniaethol T a theilwrio’r cais yn unol â hynny.
- Nodi hyd y gorchymyn (dim isafswm nac uchafswm)
- Nodi hyd yr amodau
Enghreifftiau o amodau y gellid eu cynnwys, ond nid y rhain yn unig:
- Gwahardd cysylltu â D
- Gwahardd rhag dod o fewn pellter penodol i eiddo (e.e., cartref D, man gwaith, ysgol plentyn, etc.)
- Gwahardd o eiddo.
- Gofynion cadarnhaol (rhaglen troseddwyr, rhaglen cam-ddefnyddio sylweddau, rhaglen iechyd meddwl). Os ystyrir PR, ymwneud â sefydliadau brysbennu i asesu fel rhan o’r cais.
- Monitro electronig (cyrffiw neu barth eithrio)
Caniatáu DAPO
- Heddlu i roi DAPO i T.
- Cysylltu â D i roi gwybod am y penderfyniad.
- Hysbysu D am waharddiadau a hyd y DAPO a chamau i’w cymryd os torrir y gorchymyn.
- Adolygu Asesiad Risg i D ac unigolion eraill.
- Hysbysu’r adrannau a’r asiantaethau perthnasol fod DAPO wedi ei wneud.
Gwrthod DAPO
- Cysylltu â’r person sydd yn bersonol gysylltiedig i’w hysbysu am y penderfyniad
- Ystyried cyfeirio ar wasanaeth CD
- Cyfoesi asesiad risg DASH/DARA – sicrhau bod mesurau diogelu yn ddigonol.
- Hysbysu’r adrannau a’r asiantaethau perthnasol.
- Ymwneud ag asiantaethau eraill, cyfeirio posib i MARAC a chynllunio diogelwch.
- Tynnu marciwr DAPN o’r PNC.
Ymwneud amlasiantaethol
- Bydd IDVA yn rhoi cefnogaeth annibynnol a chyfarwyddyd yn uniongyrchol i’r dioddefwr.
- Efallai y bydd angen gweithredu brys cyn MARAC yn dibynnu ar yr amserlen
- Asiantaethau MARAC i nodi a gosod mesurau/camau diogelwch i gefnogi a diogelu’r D ac unrhyw blant.
Torri DAPO
Angen gweithredu BRYS
- Cysylltu â T ac ymchwilio i’r torri
- Gall swyddog arestio T.
- Gall llys gadw yn y ddalfa neu ar fechniaeth
- Hysbysu’r D am y torri.
- Hysbysu adrannau ac asiantaethau perthnasol am y torri
- Casglu tystiolaeth/paratoi papurau llys
- Siarad â GEG am benderfyniad ynghylch cyhuddo.
DAPO yn dod i ben
- Dal i ganoli ar y dioddefwr, ystyried anghenion, gofynion a diogelwch D.
- Ystyried a oes angen cais i ymestyn y DAPO
- Gofalu bod yr holl wybodaeth yn cael ei gofnodi a bod modd ei adfer ar PND/systemau’r llu lleol.