Closed consultation

Swift, Certain, Tough: New Consequences for Drug Possession - Welsh language version (accessible version)

Updated 22 August 2022

This was published under the 2019 to 2022 Johnson Conservative government
  • Cyflwynwyd i’r Senedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref ar Orchymyn Ei Mawrhydi - Gorffennaf 2022

  • CP 723

  • © Hawlfraint y Goron 2022

  • ISBN 978-1-5286-3615-5

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn drugswhitepaper@homeoffice.gov.uk.

Rhagair y Gweinidog

Mae cyffuriau anghyfreithlon wrth wraidd niwed a gofid aruthrol ym mhob rhan o’n cymdeithas. Mae’r ystadegau’n ddychrynllyd. Bydd mwy o bobl yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau nag o ganlyniad i droseddau sy’n ymwneud â chyllyll a damweiniau traffig ar y ffyrdd gyda’i gilydd.

Hefyd, mae cyffuriau’n achosi niwed enfawr i blant a phobl ifanc, gan effeithio ar eu hiechyd a’u gallu i weithio a dysgu. Mae cyfanswm y gost i gymdeithas ac i drethdalwyr yn anferth hefyd, gan gyrraedd yn agos at £22 biliwn y flwyddyn yn Lloegr yn unig.[footnote 1]

Ni all y niferoedd brawychus hyn, hyd yn oed, gyfleu graddfa’r drasiedi ddynol yn llawn, gyda bywydau a theuluoedd di-rif wedi’u difetha. Ein cenhadaeth yw troi’r llanw.

Mae mynd i’r afael â phroblem cyffuriau anghyfreithlon yn flaenoriaeth bwysig i mi ac i’r llywodraeth hon. Ym mis Gorffennaf 2021, roedd ein Cynllun Gorchfygu Troseddu yn nodi sut rydym yn gweithio i wneud ein cymunedau a’n strydoedd yn fwy diogel. Dilynwyd hyn ym mis Rhagfyr 2021 gan y strategaeth cyffuriau 10 mlynedd, ‘O niwed i obaith’, a oedd yn amlinellu ein cynllun i gwtogi ar droseddau sy’n ymwneud â chyffuriau ac achub bywydau. Mae ein strategaeth gyffuriau yn llym ond yn glyfar. Rydym wedi ymrwymo i leihau’r galw am gyffuriau a’r cyflenwad ohonynt drwy ymateb yn llymach i gadwyni cyflenwi troseddol, ynghyd â’r cynnydd mwyaf erioed mewn cyllid ar gyfer triniaeth cyffuriau. Mae £780 miliwn ychwanegol dros dair blynedd wedi’i ymrwymo’n benodol i ailadeiladu gwasanaethau trin ac adfer.

Ffocws y papur gwyn hwn yw lleihau’r galw am gyffuriau. Mae ein strategaeth cyffuriau yn ymrwymo i sicrhau newid cenedliadol yn y galw. Bydd hyn yn golygu lleihau’r defnydd cyffredinol o gyffuriau i’r lefel isaf ers 30 mlynedd o fewn cylch oes y strategaeth.

Mae’r papur gwyn hwn yn gam sylweddol tuag at gyflawni’r nod hwnnw. Rydym yn cynnig trefn newydd ar gyfer y ffordd y bydd y system cyfiawnder troseddol yn delio â throseddau meddiant cyffuriau ar gyfer defnyddwyr adloniadol, fel y’u gelwir. Adloniadol, achlysurol, heb fod yn gaeth – pa derminoleg bynnag a ddefnyddir – yn rhy aml caiff yr unigolion hyn eu gwarchod rhag cost ddynol y fasnach gyffuriau. Maent yn rhoi arian ym mhocedi gangiau cyffuriau peryglus, gan hybu trais ac achosi niwed cymdeithasol ehangach, gan gynnwys dinistr amgylcheddol a masnachu pobl.

Hanfod y drefn newydd hon yw sicrhau bod defnyddwyr cyffuriau’n fwy tebygol o gael eu dal, ac y byddant yn wynebu canlyniadau llymach a mwy ystyrlon na heddiw. Rydym am weld ymyriadau cyflym a sicr yn cael eu rhoi ar waith sy’n gallu atal pobl rhag defnyddio cyffuriau ac, ochr yn ochr â mesurau eraill, yn gallu lleihau’r galw am gyffuriau.

Y Gwir Anrhydeddus Priti Patel AS, Ysgrifennydd Cartref

Crynodeb gweithredol

1. Mae cyffuriau’n anghyfreithlon am reswm. Maent yn niweidiol, gan effeithio ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl, perthnasoedd, rhagolygon gyrfa, a chymdeithas yn ehangach. Rhaid i unigolion sy’n defnyddio sylweddau anghyfreithlon adloniadol, fel y’u gelwir, ddeall eu bod nid yn unig yn peryglu eu hiechyd, ond hefyd yn ariannu troseddwyr peryglus sy’n dibynnu ar ofn, camfanteisio a thrais.

2. Mae’r papur gwyn hwn yn cyflwyno fframwaith cynyddol, llym sydd wedi’i anelu at oedolion a gaiff eu dal â lefelau isel o gyffuriau adloniadol, fel y’u gelwir, yn eu meddiant. Mae’n cynnwys cyfuniad o gynigion ar gyfer deddfwriaeth, yn ogystal â meysydd ehangach i’w diwygio. Rydym yn gwahodd ystyriaeth ac ymateb drwy ymgynghoriad cyhoeddus sydd ar gael yn Atodiad A neu drwy’r ymgynghoriad ar-lein. Mae’r ymgynghoriad ar-lein ar gael yma.

3. Yn ei hanfod, mae’r papur gwyn hwn yn ymwneud â lleihau’r galw am gyffuriau a gwrthdroi’r cynnydd yn y defnydd o gyffuriau fel y bydd y defnydd cyffredinol ar ei isaf ers 30 mlynedd o fewn degawd. Mae’r papur gwyn hwn yn rhan bwysig o waith y llywodraeth i gyflawni’r nod hwn ond nid yw’n cynrychioli’r cyfan ohono.

4. Rydym yn cynnig diwygiadau i gryfhau ymateb plismona a’r system cyfiawnder troseddol i droseddau meddiant cyffuriau. Bydd fframwaith tair haen newydd yn berthnasol i bawb sy’n defnyddio cyffuriau, ac eithrio pan fydd gan ddefnyddwyr ddibyniaeth ar gyffuriau (a ddisgrifir gan y Fonesig Carol Black fel cyflwr iechyd cronig), sy’n golygu mai triniaeth yw’r ymyriad mwyaf perthnasol. Ein huchelgais yw sicrhau newid ymddygiad ar raddfa fawr a’n gweledigaeth yw gweithredu’r fframwaith ar raddfa fawr gyda chanlyniadau cyflym, clir a sicr.

5. Dylai canlyniadau fod yn llym, ond dylent hefyd fod yn deg ac yn ystyrlon. Lle y bo’n briodol, dylai pawb sy’n cyflawni trosedd meddiant cyffuriau am y tro cyntaf dderbyn ymyriad haen 1. Bydd ail drosedd meddiant cyffuriau yn arwain at ymyriad haen 2, a bydd trydydd trosedd yn arwain at ymyriad haen 3. Maent fel a ganlyn:

  • Haen 1: Dylid rhoi hysbysiad cosb benodedig i unigolyn yn hytrach na’i erlyn, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo fynd ar gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau a thalu amdano. Os na fydd yn mynd ar y cwrs, bydd yn talu cosb ariannol uwch. Os na fydd yn talu, caiff y ddirwy ei chofrestru yn y llys ar gyfer camau gorfodi neu erlyn am y drosedd wreiddiol.

  • Haen 2: Yn hytrach na chael ei gyhuddo, byddai unigolyn yn cael cynnig rhybuddiad a fyddai’n cynnwys cyfnod o brofion cyffuriau gorfodol yn ogystal â mynd ar gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau ar gam pellach, lle bo hynny’n gymesur.

  • Haen 3: Mae’n debygol y byddai unigolyn yn cael ei gyhuddo am ei drosedd. Os ceir euogfarn, gellid gwneud cais am orchymyn llys sifil newydd a fyddai’n galluogi’r llys i osod yr amodau canlynol: (i) gorchymyn gwahardd; (ii) tag cyffuriau; (iii) atafaelu pasbort; a (iv) anghymhwyso trwydded yrru.

6. Hefyd, mae’r papur gwyn hwn yn cynnig rhai newidiadau pwysig i’r pwerau ar gyfer profi am gyffuriau ar ôl arestio er mwyn sicrhau y gall yr heddlu gynnal profion cyffuriau ar amrywiaeth ehangach o unigolion.

Pennod 1: Cyflwyniad a dull gweithredu cyffredinol

Cyflwyniad

7. Mae’r papur hwn yn nodi cynigion y llywodraeth ar gyfer newidiadau pwysig i’r ffordd y mae’r system cyfiawnder troseddol yn mynd i’r afael â throseddau meddiant cyffuriau a gyflawnir gan oedolion yng Nghymru a Lloegr. Mae’n bosibl y bydd Haenau 1 a 3 yn berthnasol i’r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, a chaiff hynny ei benderfynu maes o law. Rydym yn croesawu ymgysylltu parhaus gan lywodraethau datganoledig a rhanddeiliaid ledled y DU.

8. Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd y llywodraeth ei strategaeth cyffuriau 10 mlynedd, ‘O niwed i obaith’. Roedd y strategaeth yn cynnwys tair blaenoriaeth strategol: torri cadwyni cyflenwi cyffuriau; cyflwyno system trin ac adfer o’r radd flaenaf; a lleihau’r galw am gyffuriau anghyfreithlon yn sylweddol.

9. Mae’r papur gwyn hwn yn canolbwyntio ar y flaenoriaeth olaf ac mae’n seiliedig ar ymrwymiad i wrthdroi’r cynnydd yn y defnydd o gyffuriau o fewn degawd, tuag at y lefel isaf ers 30 mlynedd. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen newid cenedliadol yn yr agweddau at gyffuriau a’r galw amdanynt fel bod llai o bobl yn cymryd cyffuriau neu’n cael eu denu i’w cymryd, a bod plant a phobl ifanc heddiw’n tyfu i fyny mewn amgylchedd iachach a mwy diogel.

Beth yw’r broblem?

Defnydd adloniadol o gyffuriau, fel y’i gelwir

10. Yn 2019/20, dywedodd dros dair miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr eu bod wedi defnyddio cyffuriau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf[footnote 2], gan roi eu hunain mewn perygl, gwneud ein cymunedau’n llai diogel a rhoi elw proffidiol i droseddwyr sy’n ysgogi cadwyn gyflenwi dreisgar a chamfanteisiol.

11. Yn gyson, canabis yw’r cyffur sydd wedi cael ei ddefnyddio fwyaf, wedyn cocên powdwr. Canfu Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr fod tua 2% o ddefnyddwyr cyffuriau yn ddefnyddwyr mynych yn 2019/20, gyda’r gyfran o ddefnyddwyr mynych yn uwch ymhlith carfannau iau.[footnote 3]

12. Y carfannau hyn o ddefnyddwyr adloniadol, fel y’u gelwir, sef y rhai nad ydynt wedi mynd yn ddibynnol ar gyffuriau eto, yw’r rhai y mae’r papur hwn yn canolbwyntio arnynt. Nid ydym yn ceisio mynd i’r afael â’r defnydd o gyffuriau anghyfreithlon gan blant yn y ddogfen hon, ac nid yw’r papur hwn ychwaith yn ceisio delio ag oedolion sy’n gaeth i gyffuriau a fyddai’n cael gwell sylw drwy driniaeth (er enghraifft, y 300,000 o unigolion yr amcangyfrif eu bod yn ddibynnol ar heroin a chrac chocên yn Lloegr).[footnote 4]

13. Mae’r llywodraeth yn pryderu am ddefnydd adloniadol o gyffuriau, fel y’i gelwir, am y rhesymau canlynol:

  • Mae’r defnydd cyffredinol o gyffuriau wedi cynyddu ers 2012/13[footnote 5], gan arwain at ganlyniadau trychinebus. Gwelsom gynnydd o 72% mewn marwolaethau cysylltiedig â gwenwyno gan gyffuriau rhwng 2011 (2,652 o farwolaethau) a 2020 (4,561 o farwolaethau).[footnote 6]

  • Bu cynnydd yn y defnydd o gyffuriau penodol gan oedolion ifanc a phlant[footnote 7], sy’n dangos y posibilrwydd o ‘normaleiddio’r’ defnydd o gyffuriau ymhlith carfannau iau. Mae hyn yn peri pryder arbennig mewn perthynas â chanabis o ystyried y dystiolaeth o gysylltiad rhwng defnyddio canabis cryf a phroblemau iechyd meddwl, gan gynnwys seicosis.

  • Gwyddom fod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y cynnydd hwn yn y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon, fel y nodwyd yn ymateb y llywodraeth i’r adolygiad annibynnol o gyffuriau gan y Fonesig Carol Black. Mae hyn yn cynnwys dirywiad mewn gwasanaethau trin a bygythiadau sylweddol gan fodelau cyflenwi gan gynnwys llinellau cyffuriau, sydd wedi cynyddu bedair gwaith ers 2017.[footnote 8]

  • Gwyddom hefyd o adolygiad pwysig y Fonesig Carol Black fod cysylltiadau clir rhwng y fasnach mewn cyffuriau adloniadol a thrais a chamfanteisio. Mae tua 70% o’r holl gangiau troseddu cyfundrefnol sy’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn tueddu i gyflenwi sawl math o gyffuriau gyda’r hyn a elwir yn gyffuriau adloniadol (megis ecstasi, canabis, a chocên powdwr) a chyffuriau sy’n achosi mwy o niwed (gan gynnwys heroin a chrac) yn aml yn cael eu cyflenwi gyda’i gilydd.[footnote 9]

  • Mae cyffuriau’n gwneud cyfraniad allweddol at hybu troseddu. Credir bod tua 50% o ddynladdiadau’n gysylltiedig â chyffuriau mewn rhyw ffordd, a chredir bod bron hanner y troseddau meddiangar yn cael eu cyflawni gan bobl sy’n defnyddio cyffuriau.[footnote 10]

  • Mae defnydd o gyffuriau anghyfreithlon yn gwneud cymunedau’n llai diogel, gyda chysylltiadau ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus.

14. Yn rhy aml, caiff unigolion sy’n dewis defnyddio cyffuriau’n achlysurol eu gwarchod rhag cost ddynol y fasnach gyffuriau sydd o’u cwmpas, neu byddant yn ei hanwybyddu’n fwriadol. Maent yn rhoi arian ym mhocedi gangiau cyffuriau peryglus ac yn hybu trais, yn y DU ac ym mhob cwr o’r byd. Rydym am i hyn newid.

Y drefn bresennol ar gyfer troseddau meddiant cyffuriau

15. Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2021, cofnododd yr heddlu 166,618 o droseddau meddiant cyffuriau. Mae hyn yn cyfrif am 80% o’r troseddau cyffuriau a gofnodwyd gan yr heddlu, a 3% o’r holl droseddau.[footnote 11] Rydym wedi gweld cynnydd bach yng nghyfran y troseddau meddiant cyffuriau a gofnodwyd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

16. Bydd y canlyniadau a bennir gan yr heddlu ar gyfer troseddau meddiant cyffuriau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Fodd bynnag, rydym wedi gweld gostyngiad yng nghyfran y cyhuddiadau dros y blynyddoedd diwethaf a chynnydd bach mewn canlyniadau Dim Camau Pellach (DCP) ers 2014/15.

17. Yn 2021, cafodd 25,836 o unigolion eu cyhuddo[footnote 12] o droseddau meddiant cyffuriau. Cafodd 22,255 o unigolion eu dedfrydu[footnote 13], a chafodd 60% o’r bobl hynny ddirwy. Er nad ydym yn cwestiynu priodoldeb unrhyw ddedfryd benodol, nid yw’r drefn gyffredinol bresennol ar gyfer troseddau meddiant cyffuriau yn arwain at ganlyniadau digon sicr na chyson.

18. Rydym hefyd yn pryderu ynghylch a yw’r system bresennol yn atal aildroseddu’n ddigonol. Gwyddom fod tua un o bob pump o oedolion sy’n cyflawni troseddau cyffuriau yn aildroseddu o fewn blwyddyn.[footnote 14] O’r rhai sy’n aildroseddu, mae tua un o bob pedwar yn gysylltiedig â chyffuriau. Hefyd, gwyddom fod aildroseddu sy’n ymwneud â chyffuriau yn aml yn fwy problemus na mathau eraill o droseddau. Er enghraifft, mae ffigurau 2020 yn dweud wrthym fod 59% o’r rhai a gafodd rybuddiad am drosedd yn ymwneud â chyffuriau yn aildroseddwyr, o gymharu â’r rhai a gafodd rybuddiad am bob math arall o drosedd (45%).[footnote 15] Yn olaf, rydym yn pryderu bod y gyfradd aildroseddu ar gyfer troseddau sy’n ymwneud â chyffuriau wedi aros yn ystyfnig o sefydlog dros y degawd diwethaf, gan awgrymu bod angen diwygio.

Ein gweledigaeth ar gyfer diwygio

19. Mae’r papur hwn yn nodi cyfuniad o gynigion ar gyfer deddfwriaeth, yn ogystal â meysydd ehangach ar gyfer diwygio yr ydym yn gwahodd pobl i’w hystyried. Rydym am greu fframwaith tair haen newydd ar gyfer troseddau meddiant cyffuriau sy’n seiliedig ar yr egwyddorion allweddol canlynol:

  • Cyflymder a sicrwydd: dylai pob unigolyn wybod pa ganlyniadau y bydd yn eu hwynebu, ac mae asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn cael eu cymell i ddefnyddio’r fframwaith, gan y gallant weithredu’n gyflym.

  • Cysondeb: ni ddylai fod loteri cod post o ran y ffordd yr ymdrinnir â throseddau meddiant cyffuriau.

  • Newid ymddygiad: dylai unigolion gael cyfle i newid eu hymddygiad ar bob cam o’r fframwaith newydd hwn.

  • Canlyniadau llym, teg ac ystyrlon: dylai’r rhai sy’n dewis parhau i ddefnyddio cyffuriau wynebu canlyniadau cryfach a ddylai gynyddu i’r rhai sy’n parhau i droseddu a herio’r gyfraith. Ceir tystiolaeth gadarnhaol o effaith rhaglenni cyflym, sicr a theg ar y defnydd o gyffuriau ac aildroseddu ymhlith y boblogaeth brawf, a gallwn ddysgu gwersi o hyn a’u cymhwyso at y drefn newydd hon. Ni ddylai ychwaith fod unrhyw wahaniaeth yn y ffordd y caiff unigolion eu trin ar sail oed, rhywedd, ethnigrwydd a nodweddion gwarchodedig eraill.

  • Seiliedig ar dystiolaeth a datblygu tystiolaeth: dylai ymyriadau fod yn gadarn, ac yn seiliedig ar dystiolaeth, ond ni fyddwn yn osgoi cynnig syniadau newydd ac arloesol. Os bydd hyn yn golygu mai ni fydd y wlad gyntaf i ddatblygu sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriad penodol, dyna a wnawn.

Dull gweithredu cyffredinol

20. Rydym yn cynnig fframwaith tair haen newydd ar gyfer troseddau meddiant cyffuriau a gyflawnir gan oedolion. At ddibenion y papur hwn, caiff trosedd meddiant cyffur rheoledig ei hystyried yn “Drosedd Berthnasol”.[footnote 16] Bydd y fframwaith hwn yn berthnasol i bawb sydd â chyffur rheoledig yn eu meddiant, ac eithrio lle mae gan yr unigolyn ddibyniaeth ar gyffuriau (a ddisgrifir gan y Fonesig Carol Black fel cyflwr iechyd cronig) a lle mai triniaeth yw’r ymyriad mwyaf perthnasol.

21. Rydym yn cynnig, lle bo hynny’n briodol, y dylid defnyddio’r un ymyriad haen 1 i ymdrin â phob Trosedd Berthnasol tro cyntaf. Os bydd rhywun yn cyflawni ail Drosedd Berthnasol, bydd yn symud i ymyriad haen 2. Bydd trydydd Trosedd Berthnasol yn arwain at ymyriad haen 3. Dylai’r rhai a gaiff eu dal fwy na thair gwaith wynebu erlyniad troseddol. Rydym yn cynnig y dylid strwythuro’r haenau fel a ganlyn:

  • Haen 1: Byddai’n ofynnol i unigolyn fynd ar gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau, a thalu amdano, a fyddai’n ei annog i ddeall effaith ei ddefnydd o gyffuriau arno ef ei hun, ar ei anwyliaid ac ar gymdeithas, ac i newid ei ymddygiad. Byddai methu â bodloni’r gofyniad hwn yn arwain at gosb ariannol fwy na chost cwrs ymwybyddiaeth. Os na fydd yn talu, caiff y ddirwy ei chofrestru yn y llys ar gyfer camau gorfodi neu erlyn am y drosedd wreiddiol.

  • Haen 2: Byddai unigolyn yn cael cynnig rhybuddiad a fyddai’n cynnwys, lle y bo’n gymesur, unigolyn yn gorfod cydymffurfio â chyfnod o brofion cyffuriau gorfodol a gynhelir ar hap. Hefyd, byddai disgwyl i unigolyn fynd ar gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau, ac rydym yn cynnig y dylai’r cwrs hwnnw fod yn fwy dwys na’r cwrs a gyflwynir ar haen 1 er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod trosedd wedi’i chyflawni fwy nag unwaith. Os na fydd yr unigolyn yn cydymffurfio, dylai gael ei erlyn am y drosedd wreiddiol.

  • Haen 3: Byddem yn disgwyl i drydydd Trosedd Berthnasol arwain at gyhuddiad. Rydym hefyd yn cynnig y dylid cyflwyno Gorchymyn Lleihau Cyffuriau, y gellid gwneud cais amdano yn dilyn euogfarn, a byddem unwaith eto’n gorfodi troseddwr i fynd ar gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau. Byddai un neu fwy o’r pedwar ymyriad canlynol yn gysylltiedig â’r Gorchymyn Lleihau Cyffuriau: gorchymyn gwahardd, tag cyffuriau, atafaelu pasbort, ac anghymhwyso trwydded yrru.

22. Mae sawl ffactor arall sy’n sail i’r fframwaith hwn:

  • Dylid symud drwy’r haenau mewn modd llinol, sy’n golygu na fyddai unigolyn yn dechrau ar ymyriad haen 2 na haen 3 nac yn ‘neidio’ o haen 1 i haen 3. Mae’n bwysig bod gan unigolion a chydweithwyr ym maes plismona sicrwydd ynghylch ymyriadau os bydd aildroseddu. Mae hyn hefyd yn mynd i’r afael â phryderon ynghylch y nifer anghymesur o bobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol sy’n ymuno â’r system cyfiawnder troseddol o ganlyniad i droseddau meddiant cyffuriau tro cyntaf neu eildro.

  • Ar bob cam o’r fframwaith tair haen hwn, gall yr heddlu ddewis cyhuddo’r troseddwr os bydd yn teimlo bod hynny’n gosb fwy addas. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl gweld y rhan fwyaf o ddefnyddwyr cyffuriau adloniadol, fel y’u gelwir, yn symud drwy’r fframwaith tair haen.

  • Ni ddylai unigolyn allu ailadrodd haen.

  • Bydd methu â bodloni’r amodau a bennir o fewn haen yn arwain at ganlyniadau.

Ein huchelgais ar gyfer y diwygiadau hyn

23. Rydym eisoes wedi nodi’r egwyddorion y mae’r diwygiadau hyn yn seiliedig arnynt. Fodd bynnag, bydd eu llwyddiant hefyd yn dibynnu ar sicrhau canlyniadau cyfiawnder troseddol gwell. Rydym yn cynnig mesur dau faen prawf llwyddiant allweddol:

  • Lleihau’r defnydd o gyffuriau: mae creu darlun cyfoethocach o ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon ledled y wlad yn her. Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn dal yn fesur defnyddiol o nifer yr achosion o ddefnyddio cyffuriau y byddwn yn parhau i’w fonitro, ond rydym hefyd yn bwriadu archwilio casgliadau data newydd i fesur effeithiau unrhyw sancsiynau newydd ar ddefnyddio cyffuriau ac adfer.

  • Lleihau aildroseddu: rydym am weld gostyngiad yn y gyfradd aildroseddu gyffredinol ar gyfer troseddau meddiant cyffuriau a gyflawnir gan oedolion. Mae gennym ddiddordeb arbennig yng nghyfraddau aildroseddu’r rhai sy’n cyflawni trosedd sy’n ymwneud â chyffuriau, ond byddem yn monitro aildroseddu o unrhyw fath, hyd yn oed os nad yw’n gysylltiedig â chyffuriau.

24. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar feini prawf llwyddiant eilaidd y gellid eu monitro. Yn benodol, hoffem ystyried ffyrdd gwell o asesu effaith ar niwed ac ar grwpiau nodweddion gwarchodedig, yn enwedig hil.

Ledled y DU

25. Mae’r papur hwn yn cynnig newidiadau i’r ffordd y mae’r system cyfiawnder troseddol yn mynd i’r afael â throseddau meddiant cyffuriau a gyflawnir gan oedolion yng Nghymru a Lloegr. Gallai’r cynigion ar haenau 1 a 3 fod yn berthnasol ledled y DU gyfan.

26. Mae pwnc Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 wedi’i gadw yn yr Alban o dan gadwad B1 yn Atodlen 5 i Ddeddf yr Alban 1998 ac wedi’i gadw yng Ngogledd Iwerddon o dan baragraff 9(1)(f) o Atodlen 3 i Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998. Cedwir camddefnyddio cyffuriau neu sylweddau seicoweithredol yng Nghymru o dan adran B14 o Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

27. Dim ond yng Nghymru a Lloegr y byddai’r cynigion ar haen 2 yn berthnasol am fod cyfiawnder troseddol a phlismona yn faterion datganoledig yn yr Alban ac yn faterion a drosglwyddwyd yng Ngogledd Iwerddon. Felly, byddwn yn parhau i drafod hyd a lled daearyddol y cynigion gyda’r llywodraethau datganoledig, yn enwedig eu defnydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a’u rhyngweithio â gwasanaethau datganoledig, drwy gydol ein cyfnod ymgynghori.

Pennod 2: Haen 1

Cyflwyniad

28. Bydd Haen 1 y fframwaith newydd hwn yn berthnasol y tro cyntaf i’r heddlu ddod ar draws unigolyn mewn perthynas â Throsedd Berthnasol. Gwyddom fod gweithredu cyflym a sicr yn cael mwy o effaith, ac mae angen i ni ddefnyddio’r cyfle hwn i sbarduno newid mewn ymddygiad. O’r herwydd, rydym yn cynnig, oni chredir bod erlyn yn fwy priodol, y bydd yn ofynnol i bob unigolyn fynd ar gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau yn hytrach na chael ei erlyn. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r unigolyn ddeall niwed cyffuriau anghyfreithlon ac effaith niweidiol ei ymddygiad arno ef ei hun ac ar gymdeithas yn ehangach.

29. Rydym hefyd yn cynnig y bydd yn ofynnol i unigolion dalu am eu cwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau er mwyn sicrhau eu bod yn ysgwyddo costau darparu’r ymyriad hwn, yn hytrach na’r trethdalwr. Telir am y cwrs ‘am bris cost’, ond hoffem archwilio pa mor ymarferol a dymunol fyddai i unigolyn dalu amdano ‘uwchlaw pris cost’.

30. Pe na bai unigolyn yn mynd ar y cwrs, byddai’n ofynnol iddo dalu cosb benodedig fwy na chost cwrs ymwybyddiaeth. Caiff y gosb ei phennu ar lefel a fydd yn cymell unigolyn i fynd ar y cwrs. Os na fydd yn talu, caiff y ddirwy ei chofrestru yn y llys ar gyfer camau gorfodi neu erlyn am y drosedd wreiddiol.

Cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau

31. Mae llawer o heddluoedd eisoes yn atgyfeirio unigolion at gyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau, yn bennaf drwy ddarparwyr trydydd parti. Ceir tystiolaeth gadarnhaol bod cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau yn effeithiol o ran lleihau’r defnydd o gyffuriau ac aildroseddu yn y tymor byr ac maent yn ddefnydd cadarnhaol o adnoddau i ddelio â throseddu ar lefel is. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod cymaint am ansawdd ac effeithiolrwydd cyffredinol y cyrsiau sydd ar gael yn y farchnad ar hyn o bryd ac felly hoffem adeiladu ar y sylfaen dystiolaeth hon er mwyn deall yn well pa mor effeithiol yw cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau a arweinir gan yr heddlu yn y DU. Rydym hefyd yn awyddus i glywed safbwyntiau ynghylch i ba raddau y gellir neu y dylid teilwra’r cyrsiau hyn i wahanol grwpiau o ddefnyddwyr cyffuriau (er enghraifft, yn ôl math o gyffur, ffactorau sy’n annog pobl i ddefnyddio cyffuriau, a throseddwyr tro cyntaf neu aildroseddwyr).[footnote 17]

32. Byddai gennym hefyd ddiddordeb mewn ceisio safbwyntiau ar y rhan y gallai’r llywodraeth ei chwarae i hwyluso cynnig cenedlaethol neu gyfres o safonau ar gyfer cwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau y gellid ei gyflwyno i bob heddlu. Rydym yn gwahodd ymatebion i’n hymgynghoriad yn unol â hynny.

Cynnal cyrsiau

33. Mae heddluoedd sydd eisoes yn cynnal cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau yn gwneud hynny drwy’r drefn sydd eisoes yn bodoli ar gyfer datrysiadau y tu allan i’r llys ac yn benodol drwy benderfyniadau cymunedol. Fodd bynnag, rydym yn pryderu nad yw hyn yn cynnig digon o gyfle i sicrhau canlyniadau ystyrlon, yn enwedig os bydd yr unigolyn yn dewis peidio â mynd ar gwrs ymwybyddiaeth.

34. O’r herwydd, rydym am gyflwyno cwrs ymwybyddiaeth haen 1 drwy hysbysiad cosb benodedig newydd a phwrpasol o’r enw Hysbysiad Gorfodi Cyffuriau. Rydym yn disgrifio’r cynigion ar gyfer hyn isod a hoffem wahodd sylwadau drwy ein hymgynghoriad.

Hysbysiad Gorfodi Cyffuriau

35. Gan adeiladu ar y trefniadau presennol ar gyfer hysbysiadau cosb benodedig, byddai Hysbysiad Gorfodi Cyffuriau yn rhoi swm cosb benodedig i unigolyn. Drwy dalu am gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau a’i gwblhau’n llwyddiannus, ni fyddai angen i unigolyn dalu’r gosb. Er mwyn rhoi Hysbysiad Gorfodi Cyffuriau, byddai angen bod gan swyddog heddlu reswm dros gredu bod yr unigolyn wedi cyflawni Trosedd Berthnasol, gan gynnwys digon o dystiolaeth i ategu erlyniad llwyddiannus.

36. Pe na bai unigolyn yn mynd ar y cwrs, byddai’n rhaid iddo dalu swm llawn y gosb. Os na chaiff y gosb benodedig ei thalu, byddai’r swm yn cael ei gofrestru’n awtomatig â’r llys a byddai modd ei orfodi fel dirwy. Byddai’r heddlu hefyd yn cadw’r disgresiwn i arestio a chyhuddo unigolyn am y drosedd wreiddiol. Rydym yn cynnig, lle mai opsiwn arall unigolyn fyddai wynebu cael ei arestio a’i gyhuddo, y bydd cymhelliad i dalu am gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau a’i gwblhau.

37. Ni fyddai angen i’r unigolyn gyfaddef ei fod yn euog er mwyn i’r heddlu roi Hysbysiad Gorfodi Cyffuriau ac ni fyddai mynd ar y cwrs na thalu’r gosb benodedig yn gyfystyr â chyfaddef ei fod yn euog. Gallai unigolyn ddewis cael ei roi ar brawf am y drosedd yn hytrach na mynd ar y cwrs neu dalu’r gosb benodedig.

38. Ni fyddai’r Hysbysiad Gorfodi Cyffuriau yn rhan o gofnod troseddol unigolyn. Ond gan fod Trosedd Berthnasol yn drosedd gofnodadwy, byddai cofnod yn cael ei wneud ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu a gallai gael ei datgelu fel rhan o archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Pennod 3: Haen 2

Cyflwyniad

39. Bydd unigolion na fyddant yn newid eu hymddygiad ac a gaiff eu dal yn cyflawni Trosedd Berthnasol am yr ail waith yn symud ymlaen i Haen 2 ac yn wynebu canlyniadau pellach.

40. Bydd Haen 2 yn cael ei chyflwyno drwy’r fframwaith datrysiadau y tu allan i’r llys o dan Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 (Deddf yr Heddlu a Throseddu). Fodd bynnag, er mwyn cefnogi’r drefn bresennol o dan Ddeddf yr Heddlu a Throseddu, rydym yn cynnig y caiff pwerau newydd eu cyflwyno i’r heddlu a fydd yn galluogi cynnal profion cyffuriau ar unigolion.

41. O dan haen 2, bydd yn ofynnol i’r unigolyn gael o leiaf un ymyriad newid ymddygiad adsefydlol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld isod.

Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 a rhybuddiadau

42. Mae’r llywodraeth wedi bod yn ymrwymedig ers tro i sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol yn cynnig ymatebion effeithiol a chyflym sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gamau cynnar troseddu. Mae datrysiadau y tu allan i’r llys yn dal yn offeryn pwysig yn hyn o beth. Er mwyn cael rhybuddiad o dan drefn Deddf yr Heddlu a Throseddu, rhaid i nifer o amodau gael eu bodloni, gan gynnwys bod digon o dystiolaeth i gyhuddo’r unigolyn o’r drosedd, bod yr unigolyn wedi cyfaddef iddo gyflawni’r drosedd, a chydsyniad yr unigolyn i roi’r rhybuddiad iddo. Mae hyn yn caniatáu i’r heddlu ddelio’n brydlon â throseddau lefel isel heb fynd i’r llysoedd, sy’n golygu y gall swyddogion dreulio mwy o amser ar ddyletswyddau rheng flaen yn mynd i’r afael â throseddau difrifol eraill.

43. Mae defnyddio datrysiadau y tu allan i’r llys hefyd yn rhan bwysig o ymateb y llywodraeth i fynd i’r afael â gwahaniaethau yn y system cyfiawnder troseddol. Mae cynllun gweithredu Prydain Gynhwysol, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022 mewn ymateb i adroddiad y Comisiwn ar Wahaniaethau ar sail Hil ac Ethnigrwydd, yn ymrwymo i ehangu datrysiadau y tu allan i’r llys drwy ddarparu £9 miliwn o gyllid, a fydd yn parhau eleni.

44. Ddiwedd 2017, cyhoeddodd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu strategaeth er mwyn helpu heddluoedd i newid i strwythur dwy haen ar gyfer datrysiadau y tu allan i’r llys. Mae Deddf yr Heddlu a Throseddu yn rhoi’r strwythur dwy haen ar gyfer datrysiadau y tu allan i’r llys ar sail ddeddfwriaethol gyda rhybuddiadau cymunedol a rhybuddion dargyfeiriol.

45. Gall yr heddlu hefyd roi datrysiad ar wahân am drosedd drwy benderfyniad cymunedol. Mae’r rhain yn anstatudol a dylid eu defnyddio ar gyfer troseddau lefel is. Fodd bynnag, ni fyddem yn ystyried bod penderfyniadau cymunedol yn briodol i’w defnyddio yn haen 2 y fframwaith newydd arfaethedig hwn, o gofio y byddai unigolyn wedi cael ymyriad haen 1 o’r blaen.

Cynigion newydd ar brofion cyffuriau gorfodol

46. Bydd haen 2 ein fframwaith newydd arfaethedig yn cael ei chyflwyno drwy’r drefn rhybuddiadau fel y nodir yn Neddf yr Heddlu a Throseddu.

47. O dan haen 2, rydym yn cynnig y caiff unigolion gynnig rhybuddiad dargyfeiriol gyda phrofion cyffuriau gorfodol. Byddai angen i unigolyn fynd i leoliad penodol a chael prawf cyffuriau ar nifer o achlysuron gwahanol dros gyfnod penodedig o amser. Byddai lleoliad profi yn lleol i’r unigolyn, gan olygu i bob pwrpas na fyddai modd iddo deithio dramor yn ystod y cyfnod hwn. Ein nod yw hwyluso’r broses o adsefydlu’r unigolyn drwy fonitro a yw wedi parhau i ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon, gan gyfuno profion cyffuriau ag o leiaf un ymyriad newid ymddygiad ar yr un pryd.

48. Byddai’r amod profi gorfodol ar waith am gyfnod penodol, heb fod yn hwy na thri mis. Er y bydd yr apwyntiadau ar gyfer profion cyffuriau yn cael eu gwneud ar hap, er mwyn sicrhau na fydd unigolion yn osgoi cyffuriau am y diwrnodau cyn y prawf yn unig, byddai’r unigolyn yn cael tua 24 awr o rybudd ymlaen llaw.

Ymyriadau ychwanegol

49. Ceir rhywfaint o dystiolaeth gadarnhaol bod profion cyffuriau yn fwy tebygol o arwain at lai o ddefnydd o gyffuriau neu aildroseddu os cânt eu cynnal ochr yn ochr ag ymyriadau iechyd ehangach ac mewn amgylchedd cadarnhaol. O ystyried hyn, rydym yn cynnig cyfuno gofyniad profion cyffuriau ag ymyriad newid ymddygiad. Gallai hyn olygu ailadrodd cwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau byrdymor arall y bydd yr unigolyn yn talu amdano (fel o dan haen 1), neu ymyriad newid ymddygiad tymor hwy. Nifer cymharol fach o astudiaethau cadarn o brofion cyffuriau gorfodol sydd ar gael, felly hoffem adeiladu ar y sylfaen dystiolaeth bresennol.[footnote 18]

50. Rydym yn ymwybodol bod sawl heddlu yn cynnal ymyriadau newid ymddygiad tymor canolig i hirdymor ar hyn o bryd, fel Checkpoint (Durham), Turning Point (Metropolitan), a DIVERT (Gorllewin Canolbarth Lloegr). Mae gennym ddiddordeb mawr o hyd yn yr ymdrechion y mae heddluoedd eisoes yn eu gwneud i ddatblygu’r dystiolaeth ar effeithiolrwydd y cynlluniau hyn. Rydym yn gofyn am safbwyntiau drwy’r ymgynghoriad ynghylch sut y gellid defnyddio cynlluniau o’r fath o dan haen 2, gan gynnwys cyfuno â gofyniad profion cyffuriau.

Sancsiynau am beidio â chydymffurfio

51. Os bydd unigolyn yn methu â bodloni amodau rhybuddiad dargyfeiriol a roddwyd fel rhan o haen 2, a fyddai’n cynnwys prawf positif yn ystod cyfnod o brofion cyffuriau gorfodol, dylai fod yn agored i gael ei arestio a’i gyhuddo o’r Drosedd Berthnasol wreiddiol.

Pennod 4: Haen 3

Cyflwyniad

52. Haen 3 yw’r haen olaf yn y fframwaith newydd hwn. Yn gyffredinol, bydd yn berthnasol pan fydd unigolion eisoes wedi cael ymyriad drwy haen 1 a haen 2.

53. Yn haen 3, dylid cyhuddo’r unigolyn o’r Drosedd Berthnasol gan mai dyma’r trydydd tro iddo ddod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol am fod â chyffuriau yn ei feddiant, fwy na thebyg.

54. Yn ogystal â hynny, byddem hefyd yn cynnig cyflwyno gorchymyn llys sifil newydd ar haen 3, a elwir yn Orchymyn Lleihau Cyffuriau.

Gorchymyn Lleihau Cyffuriau

55. Erbyn i unigolyn gyrraedd haen 3, bydd y ffaith ei fod wedi dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol dro ar ôl tro am fod â chyffuriau yn ei feddiant yn awgrymu y gall fod angen ymyriad mwy sylweddol. Dyna pam rydym yn cynnig cyflwyno Gorchymyn Lleihau Cyffuriau.

56. Byddai gan y llys y pŵer i roi Gorchymyn Lleihau Cyffuriau i rywun pan fydd wedi’i gael yn euog o Drosedd Berthnasol. Dylai fod gan y llys ddisgresiwn i allu rhoi Gorchymyn Lleihau Cyffuriau os bydd sail resymol dros gredu y byddai’r gorchymyn yn helpu i atal yr unigolyn rhag cyflawni rhagor o droseddau meddiant cyffuriau a/neu atal y risg o niwed sy’n gysylltiedig â throseddu pellach o’r fath.

57. Fel yn haen 1 a haen 2, byddai disgwyl i unigolion unwaith eto fynd ar gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau, a thalu amdano, fel rhan o’r gorchymyn. Yn ogystal â hynny, byddai un neu fwy o’r pedwar ymyriad canlynol ynghlwm wrth Orchymyn Lleihau Cyffuriau, yn amodol ar farn y llys ynghylch y ffordd orau o atal rhagor o droseddu:

  • Gorchymyn Gwahardd

  • Tag Cyffuriau

  • Atafaelu Pasbort

  • Anghymhwyso Trwydded Yrru

Gorchymyn Gwahardd

58. Gallai’r cyfyngiad hwn wahardd unigolyn rhag mynd i ardal benodol am gyfnod penodedig, er enghraifft, lleoliad penodol yn yr economi liw nos neu ardal ddaearyddol ehangach yn ystod cyfnodau penodedig. Gellid defnyddio’r cyfyngiad, lle bo hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur, i atal rhagor o droseddau meddiant cyffuriau os, er enghraifft, bydd tystiolaeth bod cyfyngu ar bresenoldeb troseddwr mewn lleoliadau penodol yn ystod adegau penodol yn debygol o’i atal rhag defnyddio cyffuriau yn y dyfodol.

59. Rydym yn awyddus i ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth ar orchmynion gwahardd er mwyn deall eu heffaith yn well. Nifer cymharol fach o astudiaethau o effeithiolrwydd gorchmynion gwahardd neu waharddiadau tebyg ar gyfer troseddau sy’n ymwneud â chyffuriau sydd wedi cael eu cwblhau, yn enwedig ar gyfer defnyddwyr adloniadol fel y’u gelwir. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn cyflwyno darlun cymysg, gyda rhai astudiaethau’n dangos canlyniadau cadarnhaol, ac eraill yn nodi cynnydd mewn troseddu ar ôl cael gwaharddiad. Mae rhai astudiaethau hefyd yn awgrymu y gall gorchmynion gwahardd arwain at effaith dadleoli lle y bydd troseddwyr yn mynd i rywle arall i droseddu.[footnote 19]

Tag Cyffuriau

60. Gallai fod yn ofynnol i unigolyn wisgo monitor cyffuriau am gyfnod a bennir gan y llys a fyddai’n rhoi gwybod a yw’r unigolyn wedi cymryd cyffuriau. Gellid defnyddio’r cyfyngiad, lle bo hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur, i atal rhagor o droseddau meddiant cyffuriau os, er enghraifft, bydd tystiolaeth bod monitro rheolaidd yn debygol o’i atal rhag defnyddio cyffuriau yn y dyfodol.

61. Mae synwyryddion monitro cyffuriau y gellir eu gwisgo yn amrywio o ran aeddfedrwydd technolegol a pharodrwydd ar gyfer y farchnad. Mae technolegau y gellir eu gwisgo ar gyfer monitro gweithrediadau ffisiolegol, cyffuriau a’u metabolynnau wedi cynyddu’n gyflym i’w defnyddio ym meysydd gofal iechyd a pherfformiad mewn chwaraeon. Fodd bynnag, mae technolegau sy’n mesur cyffuriau eu hunain mewn ffordd fwy cywir yn gemegol yn llai datblygedig o lawer ar hyn o bryd. Mae’r llywodraeth yn awyddus i asesu’r awydd masnachol i arloesi mewn synwyryddion cyffuriau y gellir eu gwisgo a byddai’n croesawu rhagor o safbwyntiau, gan gynnwys enghreifftiau o wledydd tramor.

62. O ystyried sefyllfa dechnolegol monitorau cyffuriau, nid yw’n syndod nad oes astudiaethau mawr o dagiau cyffuriau. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i newid hyn. Ceir tystiolaeth gymharol a chadarnhaol sy’n dangos y gall monitro alcohol helpu i leihau’r defnydd o alcohol ac aildroseddu, gyda chyfraddau cydymffurfio uchel iawn wrth i’r tag gael ei wisgo. Fodd bynnag, ceir rhywfaint o dystiolaeth sy’n awgrymu mai cyfyngedig yw effaith tagiau alcohol ar aildroseddu yn y tymor hwy.[footnote 20]

Atafaelu Pasbort

63. Gallai pasbort unigolyn o’r DU gael ei atafaelu am gyfnod a bennir gan y llys. Gellir defnyddio’r cyfyngiad hwn lle bo hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur.

64. Byddai llys yn gorchymyn i unigolyn ildio ei basbort mewn gorsaf heddlu briodol. Byddai’r heddlu wedyn yn hysbysu Swyddfa Basbort Ei Mawrhydi i sicrhau na ellid gwneud cais am basbort newydd er mwyn osgoi’r Gorchymyn Lleihau Cyffuriau.

Anghymhwyso Trwydded Yrru

65. Gallai person gael ei anghymhwyso rhag meddu ar drwydded yrru yn y DU. Gellid defnyddio’r cyfyngiad hwn, lle bo hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur, i atal troseddau meddiant cyffuriau yn y dyfodol os, er enghraifft, bydd tystiolaeth bod gyrru’n debygol o arwain at ddefnyddio cyffuriau yn y dyfodol ac y byddai anghymhwyso yn atal hynny.

66. O ganlyniad i’r amod hwn, byddai’r drwydded yrru yn cael ei thrin fel pe bai wedi’i diddymu. Ar ddiwedd y cyfnod anghymhwyso, fel y’i pennir gan y llys, byddai angen i unigolyn adnewyddu ei drwydded.

Cyfnodau amser

67. Y llys a fyddai’n penderfynu am ba hyd y byddai unigolyn yn ddarostyngedig i amod a osodwyd gan Orchymyn Lleihau Cyffuriau, a hynny ar sail amgylchiadau’r achos. Fodd bynnag, rydym yn cynnig y dylid pennu cyfnod byrraf a chyfnod hwyaf statudol fel a ganlyn, yn seiliedig ar bwerau tebyg sydd eisoes ar gael yn y system cyfiawnder troseddol.

Amod Gorchymyn Lleihau Cyffuriau Cyfnod Byrraf Cyfnod Hwyaf
Gorchymyn Gwahardd Dim cyfnod byrraf 12 mis
Tag Cyffuriau Dim cyfnod byrraf 4 mis
Atafaelu Pasbort 3 mis 24 mis
Anghymhwyso Trwydded Yrru 3 mis 24 mis

Canlyniadau am dorri Gorchymyn Lleihau Cyffuriau

68. Dylid ystyried bod torri Gorchymyn Lleihau Cyffuriau, fel torri unrhyw orchymyn llys, yn fater difrifol. Felly, yn hytrach na thrin y mater fel dirmyg llys, rydym yn cynnig y dylid ystyried bod torri gorchymyn yn drosedd ar wahân a all arwain at ddedfryd o garchar.

Pennod 5: Arferion gorau gweithredol a diwygiadau newydd ar gyfer Profion Cyffuriau ar ôl Arestio neu Gyhuddo

Cyflwyniad

69. Gan symud y tu hwnt i’r fframwaith tair haen, mae’r Bennod hon yn edrych ar heriau gweithredol ehangach.

70. Mae canlyniadau llymach i ddefnyddwyr cyffuriau adloniadol yn elfen allweddol o’n gwaith i leihau’r galw am gyffuriau. Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn golygu cynyddu nifer yr unigolion a gaiff eu dal am fod â chyffuriau yn eu meddiant a gwella ein dealltwriaeth o’r ffordd orau o ddelio â’r unigolion hynny sy’n defnyddio cyffuriau yn breifat o bosibl, gan olygu y gallant fod yn llai tebygol o ddod ar draws yr heddlu. Yn ogystal â’r mesurau yn y papur gwyn hwn, rydym hefyd yn cynnig uwchgynhadledd sy’n dod â phlismona, diwydiant a chymdeithas yn ehangach at ei gilydd i archwilio beth arall y gellir ei wneud i fynd i’r afael â defnydd adloniadol o gyffuriau.

71. Rydym eisoes wedi dechrau sicrhau bod gan yr heddlu ddigon o bwerau i ganfod defnyddwyr cyffuriau adloniadol, fel y’u gelwir, a mynd i’r afael â nhw. Er enghraifft, yn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi newidiadau i’r drefn Gorchymyn Gwaharddiad Pêl- droed, ac rydym hefyd yn cynnig diwygiadau newydd i bwerau ar gyfer profion cyffuriau ar ôl arestio. Manylir ar y ddau isod.

Gorchmynion Gwaharddiad Pêl-droed

72. Mae Gorchmynion Gwaharddiad Pêl-droed yn offeryn pwysig sy’n helpu i atal ac anghymell anhrefn sy’n gysylltiedig â phêl-droed. Mae gweithgarwch gweithredol diweddar gan bartneriaid gorfodi’r gyfraith wedi datgelu bod defnyddio cocên mewn gemau pêl-droed yn hybu ymddygiad treisgar yn gynyddol. Rydym ni a’r heddlu’n glir bod yn rhaid i ni wrthdroi’r duedd sy’n golygu bod defnyddio cyffuriau’n dod yn dderbyniol yn y lleoliadau hyn, i bob golwg.

73. Yn ddiweddar, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd cwmpas Gorchmynion Gwaharddiad Pêl-droed yn cael ei ehangu i gynnwys pobl mewn gemau pêl-droed a gaiff eu dal â chyffuriau dosbarth A yn eu meddiant. Pan fyddwn wedi gwneud y newid hwn, bydd modd gwahardd cefnogwyr a gaiff eu dal yn cymryd cyffuriau mewn gemau pêl-droed rhag mynd i gemau yn y dyfodol, gan anfon neges glir y bydd yr heddlu’n mynd i’r afael â’r hyn a elwir yn ddefnyddio cyffuriau adloniadol ble bynnag y bydd yn digwydd.

Profion Cyffuriau ar ôl Arestio

74. Mae Profion Cyffuriau ar ôl Arestio yn ffordd o adnabod defnyddwyr heroin, cocên a chrac cocên o blith y rhai a gaiff eu harestio am amrywiaeth o droseddau meddiangar yn bennaf (megis dwyn neu ladrata).[footnote 21] Yn dilyn prawf cyffuriau positif, gellid ei gwneud yn ofynnol i’r unigolyn gael asesiad cyffuriau cychwynnol a, phe na bai’n gwneud hynny, byddai’n cael ei arestio. Byddai’r system cyfiawnder troseddol yn parhau i ddelio â’r unigolyn mewn perthynas â’r drosedd y cafodd ei arestio mewn cysylltiad â hi yn y lle cyntaf. Mae Profion Cyffuriau ar ôl Arestio yn helpu i ganfod pobl y gall eu defnydd o gyffuriau gyfrannu at eu hymddygiad troseddol. Felly, mae’n gyfle i drin a lleihau eu defnydd o gyffuriau, a lleihau troseddu yn y dyfodol o bosibl, drwy eu helpu i newid eu hymddygiad. Bydd hyn yn parhau i fod wrth wraidd ein dull gweithredu mewn perthynas â Phrofion Cyffuriau ar ôl Arestio yn y dyfodol.

75. Mae gwybodaeth weithredol yn awgrymu bod cyfraddau’r Profion Cyffuriau ar ôl Arestio a/neu gyhuddiadau y rhoddir gwybod i’r Swyddfa Gartref amdanynt wedi gostwng yn sylweddol dros gyfnod o 10 mlynedd neu fwy, a bod rhai heddluoedd wedi rhoi’r gorau i brofi’n gyfan gwbl. Ers y llynedd, rydym wedi dechrau ailfuddsoddi mewn Profion Cyffuriau ar ôl Arestio ac rydym yn gweld yr arwyddion cyntaf o newid, gyda mwy o heddluoedd yn dweud eu bod yn cynnal profion. Bydd ein buddsoddiad o £5 miliwn y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf yn golygu y bydd y duedd hon yn parhau, a bydd pob heddlu’n cael o leiaf £50,000 i roi hwb i’w raglenni profi am gyffuriau.

76. Gan ein bod yn canolbwyntio ar leihau’r galw am gyffuriau, rhaid i ni achub ar unrhyw gyfle i gyrraedd unigolion a rhoi’r ymyriadau cywir ar waith. Felly, mae’n bwysig ystyried Profion Cyffuriau ar ôl Arestio ochr yn ochr â’r diwygiadau eraill a amlinellir yn y papur hwn, oherwydd byddwn yn gweld gwahanol fathau o ddefnyddwyr yn ymuno â’r system. O’r herwydd, rydym yn cynnig y diwygiadau canlynol a ddisgrifir isod:

  • Ehangu’r mathau o gyffuriau y gellir profi amdanynt i gynnwys ystod ehangach o gyffuriau dosbarth A.

  • Ehangu’r mathau o gyffuriau y gellir profi amdanynt i gynnwys cyffuriau mewn dosbarthiadau eraill lle bo hynny’n berthnasol.

  • Ehangu nifer y troseddau sbardun sy’n gallu arwain at brofion cyffuriau ar ôl arestio.

Diwygiadau i Brofion Cyffuriau ar ôl Arestio

Ehangu cyffuriau dosbarth A

77. Byddwn yn ystyried ehangu’r ystod o gyffuriau dosbarth A y gellir profi amdanynt o dan ddeddfwriaeth Profion Cyffuriau ar ôl Arestio[footnote 22], er mwyn sicrhau y gellir cyfeirio unigolion at driniaeth, neu ymyriad perthnasol arall, ni waeth pa sylwedd sy’n cael ei ddefnyddio. Bydd hyn yn galw am is-ddeddfwriaeth.

78. Mae Gorchymyn Cyfiawnder Troseddol (Cyffuriau Dosbarth A Penodedig) 2001 (OS 2001/1816) yn nodi’r cyffuriau dosbarth A penodedig presennol. Mae hyn yn golygu y gellir profi am gocên, crac cocên a rhai opiadau (heroin). Drwy is-ddeddfwriaeth, byddem yn ehangu’r darpariaethau er mwyn galluogi heddluoedd i brofi am fwy o gyffuriau dosbarth A ar ôl arestio a/neu gyhuddo unigolion. Rydym yn ystyried a ellid pennu pob cyffur dosbarth A. Byddai hyn yn gwella ein dealltwriaeth o faint o gyffuriau sy’n hybu troseddu. Drwy gynnwys cyffuriau a elwir yn gyffuriau parti fel MDMA ac LSD, byddem yn deall yn well sut maent yn hybu troseddau yn yr economi liw nos. Byddem hefyd yn gallu dargyfeirio defnyddwyr at driniaeth lle y gall eu defnydd o gyffuriau fod wedi achosi eu hymddygiad troseddol.

79. Mae’n bosibl y bydd galluoedd technolegol presennol yn rhwystr i ddechrau, ond byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant i ddeall yr heriau a’r cyfleoedd a wynebir yn well.

Ehangu i gynnwys cyffuriau dosbarth B

80. Drwy ddeddfwriaeth sylfaenol, rydym yn cynnig ehangu Profion Cyffuriau ar ôl Arestio i brofi am ganabis.

81. Ar hyn o bryd, nid yw Adran 63B o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) yn caniatáu profion y tu hwnt i gyffuriau dosbarth A penodedig. Byddai angen deddfwriaeth sylfaenol i gynnwys profi am gyffuriau dosbarth B. Byddai hyn yn gwneud Profion Cyffuriau ar ôl Arestio yn fwy cyson â deddfwriaeth arall sy’n bodoli eisoes a byddai’n ein galluogi i wella’r darlun o’r ffordd y mae defnyddio canabis, a chyffuriau dosbarth B eraill, yn hybu ymddygiad troseddol. Byddai hefyd yn cynyddu ein gallu i ddargyfeirio mwy o unigolion at driniaeth, gyda’r nod o fynd i’r afael ag ymddygiad troseddol o’r fath.

82. Mae’n bosibl y bydd galluoedd technolegol presennol yn rhwystr i ddechrau, ond byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant i ddeall yr heriau a’r cyfleoedd a wynebir yn well, ac yn cynnig atebion priodol i’w cyflwyno ar y cyd â’r newid deddfwriaethol.

Ehangu Troseddau Sbardun

83. Diffinnir troseddau sbardun yn Atodlen 6 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 fel troseddau y mae unigolyn wedi cael ei arestio neu ei gyhuddo mewn cysylltiad â nhw, ac mae’r heddlu’n gallu profi am bresenoldeb cyffur dosbarth A penodedig fel mater o drefn o dan adran 63B o PACE, i benderfynu a all defnydd o gyffuriau fod wedi achosi ei ymddygiad troseddol. Pan ganfyddir bod cyffuriau wedi cael eu defnyddio, gellir dargyfeirio’r unigolyn at driniaeth briodol drwy asesiad, i’w helpu i fynd i’r afael â’i ddefnydd o gyffuriau, a lleihau’r ymddygiad troseddol cysylltiedig.

84. Mae adran 70(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio’r Atodlen honno. Rydym yn cynnig y dylid

defnyddio’r pŵer hwn i ehangu’r rhestr o droseddau sbardun ar gyfer profion cyffuriau ar ôl arestio, er mwyn darganfod yr effaith y mae defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn ei chael ar ymddygiad troseddol y tu hwnt i droseddau meddiangar. Dylai troseddau ychwanegol gynnwys y rhai a restrir dan dermau cyffredinol cam-drin domestig, troseddau trais yn erbyn menywod a merched gan gynnwys treisio a throseddau rhywiol eraill, stelcio, a cham-drin/esgeuluso plant, yn ogystal â llawer o rai eraill. Mae troseddau eraill yn cael eu hystyried, a bydd tystiolaeth yn cael ei chasglu i’w chynnwys yn y rhestr.

85. Mae Adran 63B o PACE yn caniatáu i’r heddlu brofi unigolyn a gafodd ei arestio neu ei gyhuddo mewn cysylltiad â throsedd nad yw’n drosedd sbardun, ond dim ond pan fydd swyddog ar reng Arolygydd neu uwch yn awdurdodi hynny. Rhaid bod gan y swyddog hwn sail resymol dros amau bod yr unigolyn wedi camddefnyddio unrhyw gyffur dosbarth A penodedig a achosodd y drosedd neu a gyfrannodd ati.

86. Bydd ehangu’r rhestr o droseddau sbardun yn dileu’r angen am seiliau rhesymol o’r fath ac am awdurdodiad Arolygydd neu swyddog ar reng uwch am unrhyw drosedd a ychwanegir at y rhestr hon.

Atodiad A: Cwestiynau’r Ymgynghoriad

Dyma eich cyfle chi i rannu eich safbwyntiau ar ein papur gwyn, ‘Cyflym, Sicr, Llym. Canlyniadau newydd am feddiant cyffuriau’. Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad hwn yn llywio’r ffordd y bydd y llywodraeth yn mynd ati i ddiwygio’r ffordd y mae’r system cyfiawnder troseddol yn delio â throseddau meddiant cyffuriau a gyflawnir gan oedolion a newid y pwerau ar gyfer profion cyffuriau ar ôl arestio.

Mae’r cwestiynau wedi’u nodi yn yr Atodiad hwn mewn saith adran (gweler isod). Byddem yn eich annog yn gryf i ateb y cwestiynau hyn drwy ein harolwg ar-lein sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen hon. Fodd bynnag, gallwch hefyd anfon eich atebion i drugswhitepaper@homeoffice.gov.uk.

1. Cwestiynau cefndir Haen 1

2. Haen 1

3. Haen 2

4. Haen 3

5. Effeithiau ehangach

6. Arferion gorau gweithredol a diwygiadau newydd ar gyfer Profion Cyffuriau ar ôl Arestio

7. Cwestiynau terfynol

Er mwyn ein helpu i sicrhau eich bod yn aros yn ddienw, peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych chi nac eraill oni ofynnir yn benodol i chi wneud hynny. Os byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol, er enghraifft eich enw, eich cyfeiriad e- bost neu enw eich sefydliad, caiff ei chadw a’i phrosesu yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd.

Daw’r ymgynghoriad hwn i ben am 11:59pm ar 10 Hydref 2022.

Adran 1 – Cefndir

Cyflwyniad

Mae’r adran hon yn gofyn am wybodaeth amdanoch chi neu eich sefydliad, gan gynnwys nodweddion personol. Caiff ei defnyddio i sicrhau ein bod wedi cael ymatebion gan ein holl gynulleidfaoedd targed a’n helpu i ystyried gwahanol safbwyntiau personol ac effeithiau ar gydraddoldeb wrth wneud unrhyw benderfyniadau polisi yn y dyfodol.

Cwestiynau Cefndir

1. Ydych chi’n ymateb i’r arolwg hwn fel unigolyn neu fel cynrychiolydd sefydliad? Dewiswch un opsiwn.

a. Unigolyn

b. Sefydliad

c. Arall

Os gwnaethoch chi ddewis a. Unigolyn, ewch i gwestiwn 2. Os gwnaethoch chi ddewis b. Sefydliad, ewch i gwestiwn 5. Os gwnaethoch chi ddewis c. Arall, ewch i gwestiwn 12.

2. Beth yw eich oed? Dewiswch un opsiwn.

a. Dan 16

b. 16-17

c. 18-24

d. 25-34

e. 35-44

f. 45-54

g. 55-64

h. 65-74

i. 75-84

j. 85+

k. Mae’n well gen i beidio â dweud

Os gwnaethoch chi ddewis a. Dan 16 ar gyfer cwestiwn 2, mae’r arolwg hwn ar gyfer pobl 16 oed a hŷn yn unig. Peidiwch â pharhau â’r arolwg hwn.

3. Beth yw eich rhywedd? Dewiswch un opsiwn.

a. Benyw

b. Gwryw

c. Arall, rhowch fanylion

d. Mae’n well gen i beidio â dweud

4. Beth yw eich ethnigrwydd? Dewiswch un opsiwn.

a. Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig

b. Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd

c. Grwpiau cymysg neu aml-ethnig

d. Gwyn

e. Grŵp ethnig arall

f. Mae’n well gen i beidio â dweud

5. Ble rydych chi neu eich sefydliad wedi eich lleoli? Dewiswch un opsiwn.

a. Lloegr

b. Yr Alban

c. Cymru

d. Gogledd Iwerddon

e. Arall, rhowch fanylion

f. Ddim yn gwybod

g. Mae’n well gen i beidio â dweud

Os gwnaethoch chi ddewis a. Unigolyn, ar gyfer cwestiwn 1, ewch i adran 2.

6. Ar ran pa fath o sefydliad rydych chi’n ymateb?

a. Academia

b. Busnes/Diwydiant

c. Llywodraeth Ganolog/Gwasanaeth Sifil

d. Gorfodi’r Gyfraith

e. Cyfreithiol

f. Awdurdod Lleol

g. Trydydd Sector/Gwirfoddol

h. Gwasanaeth Cyhoeddus/Corff Cyhoeddus Arall

i. Arall, rhowch fanylion

j. Mae’n well gen i beidio â dweud

7. Dywedwch fwy wrthym am eich sefydliad. Faint o weithwyr sydd gan eich sefydliad? Dewiswch un opsiwn.

a. <10

b. 10-19

c. 20-49

d. 50-99

e. 100-249

f. 250+

k. Ddim yn gwybod

8. Os ydych chi’n fodlon rhannu, beth yw enw eich sefydliad? Noder: os byddwch yn rhoi’r wybodaeth hon, ni fydd eich ymateb yn ddienw mwyach, a bydd yn cael ei gadw a’i brosesu yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd yr ymgynghoriad.

a. Rhowch enw eich sefydliad

b. Mae’n well gen i beidio â dweud

9. A yw eich sefydliad yn cynnig/gweithio gydag unrhyw rai o’r canlynol? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.

a. Cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau

b. Gwaith di-dâl i droseddwyr

c. Profion cyffuriau

d. Tagiau cyffuriau

e. Dim un o’r uchod

f. Mae’n well gen i beidio â dweud

Os gwnaethoch chi ddewis a. Cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau ar gyfer cwestiwn 9, ewch i gwestiwn 10.

Os gwnaethoch chi ddewis b. Gwaith di-dâl i droseddwyr, c. Profion cyffuriau neu d. Tagiau cyffuriau ar gyfer cwestiwn 9, ewch i gwestiwn 11.

Os gwnaethoch chi ddewis e. Dim un o’r uchod neu f. Mae’n well gen i beidio â dweud ar gyfer cwestiwn 10, ewch i adran 2.

10. Sawl cwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau y mae eich sefydliad yn eu cynnal bob blwyddyn ar gyfartaledd?

a. Nid ydym yn cynnal cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau

b. Nodwch nifer y cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau y mae eich sefydliad yn eu cynnal bob blwyddyn

11. Mae’r Swyddfa Gartref yn awyddus i ddysgu mwy am y cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau sydd eisoes yn cael eu cynnal, y defnydd o waith di-dâl fel un o amodau datrysiad y tu allan i’r llys, rhaglenni profion cyffuriau sydd eisoes ar waith a’r awydd masnachol i arloesi ym maes tagiau cyffuriau. Os byddech yn fodlon i’r Swyddfa Gartref gysylltu â chi ynghylch eich gwaith, rhowch eich manylion isod. Noder: os byddwch yn rhoi eich cyfeiriad e-bost, ni fydd eich ymateb yn ddienw mwyach, a bydd yn cael ei gadw a’i brosesu yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd.

a. Rhowch eich manylion

12. Rhowch ragor o wybodaeth. (Noder: os byddwch yn rhoi eich enw, enw eich sefydliad neu unrhyw wybodaeth arall a allai ddatgelu pwy ydych chi, ni fydd eich ymateb yn ddienw mwyach, a bydd yn cael ei gadw a’i brosesu yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd).

a. Rhowch unrhyw wybodaeth bellach

Adran 2 – Haen 1

Cyflwyniad

Bydd yr adran hon yn gofyn am eich safbwyntiau ar Haen 1 y fframwaith tair haen newydd arfaethedig ar gyfer mynd i’r afael â throseddau meddiant cyffuriau a gyflawnir gan oedolion. Yn Haen 1, fel opsiwn arall yn lle erlyn am gyflawni trosedd meddu ar gyffur rheoledig, byddai’n ofynnol i unigolyn fynd ar gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau a byddai’n cael ei annog i ddeall effaith ei ddefnydd o gyffuriau arno ef ei hun, ar ei anwyliaid ac ar gymdeithas, ac i newid ei ymddygiad. Rydym yn cynnig y byddai’r unigolyn yn talu am y cwrs hwn. Pe na bai unigolyn yn cydymffurfio â’r gofyniad hwn, byddai’n agored i gosb ariannol o fwy o werth na chost cwrs ymwybyddiaeth fel opsiwn arall yn lle erlyn am y drosedd.

Cwestiynau Haen 1

13. Ydych chi’n cytuno â’n cynigion y dylai fod yn ofynnol i unigolyn sydd wedi cael ei ddal â chyffur rheoledig yn ei feddiant am y tro cyntaf fynd ar gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau sydd â’r nod o’i helpu i ystyried ei ymddygiad? Dewiswch un opsiwn.

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno

e. Anghytuno’n gryf

f. Ddim yn gwybod

Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol.

14. Ydych chi’n cytuno y dylai’r unigolyn dalu am gost y cwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau? Dewiswch un opsiwn.

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno

e. Anghytuno’n gryf

f. Ddim yn gwybod

Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol.

15. Ydych chi’n cytuno y dylai fod canlyniad ar ffurf cosb ariannol i’r rhai sy’n gwrthod mynd ar y cwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau? Dewiswch un opsiwn.

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno

e. Anghytuno’n gryf

f. Ddim yn gwybod

Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol.

16. Ydych chi’n credu bod y cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau y mae’r heddlu’n atgyfeirio pobl atynt ar hyn o bryd yn cael effaith gadarnhaol, effaith negyddol neu ddim effaith o gwbl ar y defnydd o gyffuriau anghyfreithlon a chyfraddau aildroseddu? Dewiswch un opsiwn ar gyfer pob ateb.

Defnydd o gyffuriau anghyfreithlon

a. Cadarnhaol (yn lleihau’r defnydd o gyffuriau)

b. Negyddol (yn cynyddu’r defnydd o gyffuriau)

c. Dim effaith

d. Ddim yn gwybod

Aildroseddu

a. Cadarnhaol (yn lleihau aildroseddu)

b. Negyddol (yn cynyddu aildroseddu)

c. Dim effaith

d. Ddim yn gwybod

17. Ydych chi’n gwybod am dystiolaeth sydd ar gael o gyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau y mae’r heddlu’n atgyfeirio pobl atynt (nid mewn lleoliadau addysgol) a’u heffeithiolrwydd o ran lleihau’r defnydd o gyffuriau ac aildroseddu? Os ydych, rhannwch unrhyw dystiolaeth.

a. Ydw, rhannwch unrhyw dystiolaeth

b. Nac ydw

18. Ydych chi’n credu y dylai’r cwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau fod yn gynnig cenedlaethol safonol ar draws pob heddlu? Dewiswch un opsiwn.

a. Ydw

b. Nac ydw

c. Ddim yn gwybod

19. Hyd eithaf eich gwybodaeth, faint o ddarparwyr sy’n cynnal cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau yn eich gweinyddiaeth? Ystyr gweinyddiaeth yw Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban.

a. Nodwch nifer y darparwyr

Os na wnaethoch ateb cwestiwn 6 NEU os gwnaethoch chi dewis a. Academia, b. Busnes/Diwydiannol, c. Llywodraeth Ganolog/Gwasanaeth Sifil, e. Cyfreithiol, f.

Awdurdod Lleol, g. Trydydd Sector/Gwirfoddol, h. Gwasanaeth Cyhoeddus/Corff Cyhoeddus Arall, i. Arall neu j. Mae’n well gen i beidio â dweud ar gyfer cwestiwn 6, ewch i adran 3.

Os gwnaethoch chi ddewis d. Gorfodi’r gyfraith ar gyfer cwestiwn 6, ewch ymlaen i gwestiwn 20.

20. O’ch profiad chi, ar gyfartaledd, pa gyfran o droseddwyr y profwyd iddynt gyflawni troseddau meddiant cyffuriau sy’n cael eu hatgyfeirio at gyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau ar hyn o bryd, yn eich barn chi?

a. 0%

b. 1-25%

c. 26-50%

d. 51-75%

e. 76-100%

f. Ddim yn gwybod

Os gwnaethoch chi ddewis a. 0% ar gyfer cwestiwn 20, ewch i adran 3.

Os gwnaethoch chi ddewis b. 1-25%, c. 26-50%, d. 51-75%, e. 76-100% neu f. Ddim yn gwybod ar gyfer cwestiwn 20, ewch ymlaen i gwestiwn 21.

21. Ym mha achosion y mae troseddwyr meddiant cyffuriau yn fwyaf tebygol o gael eu hatgyfeirio at gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau? Dewis bob un sy’n berthnasol. Drwy:

a. Penderfyniad cymunedol

b. Rhybudd canabis/khat

c. Rhybuddiad amodol

d. Hysbysiad cosb

e. Gweithgaredd dargyfeiriol

f. Cyhuddo o drosedd meddiant cyffuriau

g. Atgyfeiriad gwirfoddol

h. Arall, rhowch fanylion

22. Faint o gyfranogwyr sy’n mynd ar gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau bob blwyddyn ar gyfartaledd?

a. Nifer y cyfranogwyr

Adran 3 – Haen 2

Cyflwyniad

Bydd yr adran hon yn gofyn am eich safbwyntiau ar Haen 2 y fframwaith tair haen newydd arfaethedig ar gyfer mynd i’r afael â meddiant cyffuriau ymhlith oedolion. Yn Haen 2, fel dewis arall yn lle erlyn am drosedd meddu ar gyffur rheoledig, byddai unigolyn yn cael cynnig rhybuddiad a fyddai’n cynnwys amod o fynd ar gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau arall mwy dwys, a fydd yn adlewyrchu’r ffaith bod yr unigolyn wedi aildroseddu. Ochr yn ochr â hyn, byddai disgwyl i unigolyn, lle y bo’n gymesur, gydymffurfio â chyfnod o brofion cyffuriau gorfodol.

Cwestiynau Haen 2

23. Ydych chi’n cytuno y dylid cynnig rhybuddiad ag amodau adsefydlol i’r rhai a gaiff eu dal â chyffuriau yn eu meddiant am yr ail dro (lle mai eu dewis arall yw wynebu cael eu harestio a’u cyhuddo)? Dewiswch un opsiwn.

a. Cytuno’n gryf b. Cytuno c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno d. Anghytuno e. Anghytuno’n gryf f. Ddim yn gwybod

Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol.

24. Ydych chi’n cytuno, lle y bo’n gymesur, y dylai amodau Haen 2 gynnwys:

i. Gofyniad profion cyffuriau gorfodol?

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno

e. Anghytuno’n gryf

f. Ddim yn gwybod

Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol.

ii. Mynd ar gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau arall?

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno

e. Anghytuno’n gryf

f. Ddim yn gwybod

Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol.

25. Ydych chi’n cytuno y dylai cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau fod yn wahanol ar gyfer troseddwyr tro cyntaf ac aildroseddwyr? Dewiswch un opsiwn

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno

e. Anghytuno’n gryf

f. Ddim yn gwybod

Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol.

Os gwnaethoch chi ddewis b. Sefydliad ar gyfer cwestiwn 1, ewch ymlaen i gwestiwn 26.

Os gwnaethoch chi ddewis a. Unigolyn neu c. Arall ar gyfer cwestiwn 1, ewch i gwestiwn 28.

26. A fydd y cynigion ar gyfer cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau yn Haenau 1 a 2 yn effeithio ar eich sefydliad?

a. Bydd, esboniwch pam a sut

b. Na fydd

c. Ddim yn gwybod

27. Ydych chi’n credu y bydd angen unrhyw gymorth ar eich sefydliad i gynyddu ei ddarpariaeth o gyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau o dan Haenau 1 a 2?

a. Ydw, esboniwch

b. Nac ydw, ni fydd angen cymorth ar fy sefydliad

c. Nac ydw, nid yw fy sefydliad yn cynnig cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau

d. Ddim yn gwybod

28. Ydych chi’n credu y gallai profion cyffuriau gorfodol gael effaith gadarnhaol, effaith negyddol neu ddim effaith o gwbl ar leihau’r defnydd o gyffuriau anghyfreithlon ac aildroseddu?

Defnydd o Gyffuriau

a. Cadarnhaol (lleihad yn y defnydd o gyffuriau)

b. Negyddol (cynnydd yn y defnydd o gyffuriau)

c. Dim effaith

d. Ddim yn gwybod

Aildroseddu

a. Cadarnhaol (lleihad mewn aildroseddu)

b. Negyddol (cynnydd mewn aildroseddu)

c. Dim effaith

d. Ddim yn gwybod

29. Ydych chi’n gwybod am dystiolaeth sydd ar gael o brofion cyffuriau gorfodol a’u gallu i leihau’r defnydd o gyffuriau anghyfreithlon neu aildroseddu? Os ydych, rhannwch unrhyw dystiolaeth.

a. Nac ydw

b. Ydw, rhannwch unrhyw dystiolaeth

Adran 4 – Haen 3

Cyflwyniad

Bydd yr adran hon yn gofyn am eich sylwadau ar Haen 3 y fframwaith tair haen newydd arfaethedig ar gyfer mynd i’r afael â meddiant cyffuriau ymhlith oedolion. Yn Haen 3, byddem yn disgwyl i unigolyn sy’n cyflawni trosedd meddu ar gyffur rheoledig gael ei gyhuddo lle bo hynny’n briodol. Rydym hefyd yn cynnig y dylid cyflwyno Gorchymyn Llys Cyffuriau newydd y gellid gwneud cais amdano ar ôl i’r troseddwr gael ei farnu’n euog.

Byddai’r gorchymyn llys newydd hwn yn gorfodi troseddwr i fynd ar gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau eto. Yn ogystal â hynny, rydym yn rhagweld y byddai un o’r pedwar ymyriad canlynol ynghlwm wrth Orchymyn Llys Cyffuriau:

i. gorchymyn gwahardd ii. tag cyffuriau iii. atafaelu pasbort; neu iv. anghymhwyso trwydded yrru

Cwestiynau Haen 3

30. Ydych chi’n cytuno y dylai’r rhai a gaiff eu dal â chyffuriau yn eu meddiant am y trydydd tro fynd ar gwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau? Dewiswch un opsiwn.

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno

e. Anghytuno’n gryf

f. Ddim yn gwybod

Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol.

31. Ydych chi’n cytuno â’r cynnig i gynnwys cwrs ymwybyddiaeth o gyffuriau ym mhob haen? Dewiswch un opsiwn.

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno

e. Anghytuno’n gryf

f. Ddim yn gwybod

Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol.

32. Ydych chi’n cytuno y dylai’r rhai a gaiff eu dal â chyffuriau yn eu meddiant am y trydydd tro gael Gorchymyn Llys Cyffuriau, sy’n cynnwys un o’r ymyriadau canlynol:

gorchymyn gwahardd, sy’n gwahardd unigolyn rhag mynd i mewn i ardal benodol am gyfnod penodedig o amser:

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno

e. Anghytuno’n gryf

f. Ddim yn gwybod

neu dag cyffuriau, sef monitor y byddai’n ofynnol i’r unigolyn ei wisgo, ac sy’n rhoi gwybod a yw’r unigolyn wedi cymryd cyffuriau:

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno

e. Anghytuno’n gryf

f. Ddim yn gwybod

neu atafaelu pasbort:

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno

e. Anghytuno’n gryf

f. Ddim yn gwybod

neu anghymhwyso trwydded yrru:

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno

e. Anghytuno’n gryf

f. Ddim yn gwybod

Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol.

33. A ddylai fod amgylchiadau lle y bydd troseddwr yn cael Gorchymyn Llys Cyffuriau heb iddo fod wedi cael ymyriad Haen 1 a Haen 2 yn gyntaf? (yn syml, neidio i Haen 3 ar unwaith) Os dylai, amlinellwch beth y dylai’r amgylchiadau hynny fod yn eich barn chi.

a. Dylai, rhowch ragor o fanylion

b. Na ddylai

c. Ddim yn gwybod

34. Ydych chi’n credu bod y cyfnod byrraf a’r cyfnod hwyaf a gynigir ar gyfer pob ymyriad Gorchymyn Llys Cyffuriau yn briodol? Dewiswch un opsiwn ar gyfer pob ateb.

i. Gorchymyn gwahardd am gyfnod o 12 mis ar y mwyaf

a. Ydw

b. Nac ydw, rhy fyr

c. Nac ydw, rhy hir

d. Ddim yn gwybod

ii. Tag cyffuriau am gyfnod o 12 mis ar y mwyaf

a. Ydw

b. Nac ydw, rhy fyr

c. Nac ydw, rhy hir

d. Ddim yn gwybod

iii. Atafaelu pasbort am gyfnod o 3 mis o leiaf

a. Ydw

b. Nac ydw, rhy fyr

c. Nac ydw, rhy hir

d. Ddim yn gwybod

iv. Atafaelu pasbort am gyfnod o 24 mis ar y mwyaf

a. Ydw

b. Nac ydw, rhy fyr

c. Nac ydw, rhy hir

d. Ddim yn gwybod

v. Anghymhwyso trwydded yrru am gyfnod o 3 mis o leiaf

a. Ydw

b. Nac ydw, rhy fyr

c. Nac ydw, rhy hir

d. Ddim yn gwybod

vi. Anghymhwyso trwydded yrru am gyfnod o 24 mis ar y mwyaf

a. Ydw

b. Nac ydw, rhy fyr

c. Nac ydw, rhy hir

d. Ddim yn gwybod

35. Ydych chi’n credu y dylai amodau eraill fod ar gael i’r llys eu cynnwys fel rhan o Orchymyn Llys Cyffuriau? Os ydych, rhowch fanylion

a. Ydw, rhowch fanylion

b. Nac ydw

c. Ddim yn gwybod

36. Ydych chi’n cytuno bod y canlyniadau am dorri Gorchymyn Llys Cyffuriau yn briodol? Y canlyniadau rydym yn eu cynnig yw ystyried bod torri’r Gorchymyn yn drosedd ar wahân a allai arwain at ddedfryd o garchar.

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno

e. Anghytuno’n gryf

f. Ddim yn gwybod

Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol.

Adran 5: Effeithiau ehangach

Mae’r adran hon yn gofyn am eich barn ar effeithiau ehangach cyflwyno trefn haenog i fynd i’r afael â throseddau meddiant cyffuriau a gyflawnir gan oedolion.

37. Ydych chi’n credu y bydd y newidiadau arfaethedig yn effeithio arnoch chi/eich sefydliad?

a. Ydw

b. Nac ydw

c. Ddim yn gwybod

38. Yn eich barn chi, pa mor arwyddocaol fydd effaith y newidiadau arfaethedig arnoch chi/eich sefydliad? Rhowch fanylion ac, os oes modd, nodwch a yw’r rhain yn cyfeirio at Haen neu sancsiwn penodol.

a. Arwyddocaol

b. Ddim yn Arwyddocaol Iawn

c. Dim Effaith

d. Ddim yn gwybod Rhowch fanylion

39. Pa effeithiau, os o gwbl, rydych chi’n credu y bydd y drefn newydd hon yn eu cael ar:

a. Yr Heddlu

b. Llysoedd

c. Cyflogwyr

d. Y trydydd sector

e. Arall

f. Ddim yn gwybod

g. Dim effeithiau Disgrifiwch yr effeithiau hyn

40. Ydych chi’n credu y bydd ein cynigion i greu trefn haenog ar gyfer troseddau meddiant cyffuriau yn cael effaith (boed yn gadarnhaol neu’n negyddol) ar unigolion sydd â nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010? Os ydych, disgrifiwch yr effaith bosibl. Y nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf yw anabledd, ailbennu rhywedd, oedran, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, priodas a phartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd neu gred.

a. Ydw, disgrifiwch yr effaith bosibl

b. Nac ydw

c. Ddim yn gwybod

Os gwnaethoch chi ddewis a. Ydw ar gyfer cwestiwn 40, ewch ymlaen i gwestiwn 41.

Os gwnaethoch chi ddewis b. Nac ydw neu c. Ddim yn gwybod ar gyfer cwestiwn 40, ewch i adran 6.

41. Os ydych chi wedi nodi effeithiau negyddol posibl, a allwch awgrymu ffyrdd o’u lliniaru?

a. Gallaf, awgrymwch fesurau lliniaru posibl

b. Na allaf

c. Ddim yn gwybod

d. Ddim yn berthnasol (ni nodwyd effeithiau negyddol)

Adran 6 – Arferion gorau gweithredol a diwygiadau newydd ar gyfer Profion Cyffuriau ar ôl Arestio

Cyflwyniad

Bydd yr adran hon yn gofyn am eich safbwyntiau ar gynigion i newid pwerau ar gyfer Profion Cyffuriau ar ôl Arestio er mwyn caniatáu i’r heddlu brofi amrywiaeth ehangach o unigolion nag a brofir heddiw. Mae hyn yn cynnwys ehangu’r ystod o gyffuriau anghyfreithlon y gellir profi amdanynt ac ehangu’r ystod o droseddau y gall yr heddlu gynnal profion cyffuriau ar eu cyfer fel rhan o Brofion Cyffuriau ar ôl Arestio (“troseddau sbardun”).

Cwestiynau am arferion gorau gweithredol a diwygiadau newydd ar gyfer Profion Cyffuriau ar ôl Arestio

42. Ydych chi’n cytuno â’n cynnig i ehangu’r ystod o gyffuriau anghyfreithlon y gellir profi amdanynt o dan ddeddfwriaeth Profion Cyffuriau ar ôl Arestio? Dewiswch un opsiwn.

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno

e. Anghytuno’n gryf

f. Ddim yn gwybod

Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol.

43. Pa gyffuriau rydych chi’n credu ei bod yn bwysig gallu profi amdanynt fel rhan o Brofion Cyffuriau ar ôl Arestio? Gallwch ddewis mwy nag un opsiwn.

a. Canabis

b. Cocên

c. Heroin

d. Ecstasi

e. GHB

f Cyffuriau presgripsiwn, rhowch fanylion

g. Arall, rhowch fanylion

h. Ddim yn gwybod

Rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol.

44. Ydych chi’n cytuno â’n cynnig i ehangu’r ystod o droseddau y gall yr heddlu gynnal profion cyffuriau ar eu cyfer o dan ddeddfwriaeth Profion Cyffuriau ar ôl Arestio (“troseddau sbardun”)?

a. Cytuno’n gryf

b. Cytuno

c. Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

d. Anghytuno’n gryf

e. Ddim yn gwybod

45. Y troseddau sbardun cyfredol yw: dwyn ac ymgais i ddwyn, lladrata ac ymgais i ladrata, bwrgleriaeth, ceisio a gwaethygu bwrgleriaeth, trin nwyddau wedi’u dwyn ac ymgais i wneud hynny, cymryd cludiant heb ganiatâd/awdurdod y perchennog ac achos gwaethygedig o’r fath, mynd â chyfarpar ar gyfer bwrgleriaeth neu ddwyn, twyll ac ymgais i dwyllo, meddu ar eitemau i’w defnyddio mewn twyll, cardota a chardota mynych, meddu ar gyffur rheoledig dosbarth A penodedig, cynhyrchu neu gyflenwi cyffur rheoledig dosbarth A penodedig neu feddu ar gyffur o’r fath gyda’r bwriad o’i gyflenwi.

A oes unrhyw droseddau eraill rydych chi’n credu y dylid eu cynnwys fel trosedd sbardun?

a. Oes, rhowch fanylion

b. Nac oes

c. Ddim yn gwybod

46. Ydych chi’n credu y bydd ein cynigion i ehangu’r rhaglen Profion Cyffuriau ar ôl Arestio yn cael effaith (boed yn gadarnhaol neu’n negyddol) ar unigolion sydd â nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010? Os ydych, disgrifiwch yr effaith bosibl. Y nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf yw anabledd, ailbennu rhywedd, oedran, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, priodas a phartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd neu gred.

a. Ydw, disgrifiwch yr effaith bosibl

b. Nac ydw

c. Ddim yn gwybod

Os gwnaethoch chi ddewis a. Ydw ar gyfer cwestiwn 46, ewch ymlaen i gwestiwn 47.

Os gwnaethoch chi ddewis b. Nac ydw neu c. Ddim yn gwybod ar gyfer cwestiwn 46, ewch i gwestiwn 48.

47. Os ydych chi wedi nodi effeithiau negyddol posibl, a allwch gynnig ffyrdd o’u lliniaru?

a. Gallaf, awgrymwch fesurau lliniaru posibl

b. Na allaf

c. Ddim yn gwybod

d. Ddim yn berthnasol (ni nodwyd effeithiau negyddol)

48. Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill ar ein newidiadau arfaethedig i Brofion Cyffuriau ar ôl Arestio?

a. Oes, rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol

b. Nac oes

c. Ddim yn gwybod

Cwestiwn terfynol

49. Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill ar y papur gwyn yr hoffech eu rhannu â ni?

a. Oes, rhowch unrhyw sylwadau ychwanegol

b. Nac oes

c. Ddim yn gwybod

Diolch am gymryd rhan yn ymgynghoriad Cyflym. Sicr. Llym. Canlyniadau newydd am feddiant cyffuriau.

Os bydd gennych unrhyw gwynion neu sylwadau ynghylch y broses ymgynghori, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn drugswhitepaper@homeoffice.gov.uk.

Manylion cyswllt a sut i ymateb

Ymatebwch i’r ymgynghoriad hwn ar-lein.

Fel arall, gallwch anfon copïau electronig i: drugswhitepaper@homeoffice.gov.uk.

Neu, gallwch anfon copïau papur i:

Drug Misuse Unit
5th Floor, Peel Building 2 Marsham Street, London
SW1P 4DF

Cwynion neu sylwadau

Os bydd gennych unrhyw gwynion neu sylwadau ynghylch y broses ymgynghori, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn drugswhitepaper@homeoffice.gov.uk.

Atodiad B: Llyfryddiaeth

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol i ddeall y sylfaen dystiolaeth ar gyfer y cynnig polisi yn y papur gwyn hwn.

Cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau

Baker, A., Lee, N.K., Claire, M., Lewin, T.J., Grant, T., Pohlman, S., Saunders, J.B., Kay-Lambkin, F., Constable, P., Jenner, L. a Carr, V.J. (2005), Brief cognitive behavioural interventions for regular amphetamine users: a step in the right direction. Addiction, 100: 367-378.

Boumparis, N., Karyotaki, E., Schaub, M. P., Cuijpers, P., a Riper, H. (2017) Internet interventions for adult illicit substance users: a meta-analysis. Addiction, 112: 1521– 1532.

Darcy C. Drug education best practice for health, community and youth workers: A practical and accessible tool-kit. Health Education Journal. 2021;80(1):28-39.

Halladay, J., Scherer, J., MacKillop, J., Woock, R., Petker, T., Linton, V., a Munn, C. (2019). Brief interventions for cannabis use in emerging adults: A systematic review, meta- analysis, and evidence map. Drug and alcohol dependence, 204, 107565. European Monitoring Centre for Drugs and Drug Addiction (2015), Alternatives to punishment for drug-using offenders, Papurau Canolfan Monitro Cyffuriau a Chaethiwed i Gyffuriau Ewrop (EMCDDA), Swyddfa Gyhoeddiadau’r Undeb Ewropeaidd, Lwcsembwrg.

Hoch, E., Preuss, U. W., Ferri, M., a Simon, R. (2016). Digital interventions for problematic cannabis users in non-clinical settings: findings from a systematic review and meta- analysis. European addiction research, 22(5), 233-242.

Luckwell, J. 2017. Drug Education Programme Pilot: Evaluation Report. Cwnstabliaeth Avon a Gwlad yr Haf.

Marsden, J., Stillwell, G., Barlow, H., Boys, A., Taylor, C., Hunt, N. a Farrell, M. (2006), An evaluation of a brief motivational intervention among young ecstasy and cocaine users: no effect on substance and alcohol use outcomes. Addiction, 101: 1014-1026.

McCambridge, J. a Strang, J. (2004), The efficacy of single-session motivational interviewing in reducing drug consumption and perceptions of drug-related risk and harm among young people: results from a multi-site cluster randomized trial. Addiction, 99: 39-52.

Obradovic (2012), Évaluation Des Stages De Sensibilisation Aux Dangers De L’usage De Produits Stupéfiants, Ofdt, St Denis (Drwy EMCDDA Tdau14007enn.Pdf (Europa.Eu)).

Shanahan, M., Hughes, C., a McSweeney, T. (2016). Australian police diversion for cannabis offences: Assessing program outcomes and cost-effectiveness. Canberra: National Drug Law Enforcement Fund.

Torrance, J. (2017) The Drugs Education Programme: A New Strategy for Drugs Diversion

Young, M.M., Stevens, A., Galipeau, J. et al. Effectiveness of brief interventions as part of the Screening, Brief Intervention and Referral to Treatment (SBIRT) model for reducing the nonmedical use of psychoactive substances: a systematic review. Syst Rev 3, 50 (2014).

Zahradnik, A., Otto, C., Crackau, B., Löhrmann, I., Bischof, G., John, U. a Rumpf, H.-J. (2009), Randomized controlled trial of a brief intervention for problematic prescription drug use in non-treatment-seeking patients. Addiction, 104: 109-117.

Profion cyffuriau gorfodol

Barnett, G. D., a Fitzalan Howard, F. (2018). What doesn’t work to reduce reoffending? A review of reviews of ineffective interventions for adults convicted of crimes. European Psychologist, 23(2), 111.

Bennett, R. (2005). Alcohol and drug related offences: Determining predictive factors for reducing re-offending.

Brady, J. E., Baker, S. P., DiMaggio, C., McCarthy, M. L., Rebok, G. W., a Li, G. (2009). Effectiveness of mandatory alcohol testing programs in reducing alcohol involvement in fatal motor carrier crashes. American journal of epidemiology, 170(6), 775-782.

EMCDDA (2017) Drug testing in schools.

Gerada, C., a Gilvarry, E. (2005). Random drug testing in schools. British Journal of General Practice, 55(516), 499-501.

Hawken a Kleiman (2009) Managing Drug Involved Probationers with Swift and Certain Sanctions: Evaluating Hawaii’s HOPE (ojp.gov).

Hawken et al (2016) HOPE II: A Follow-up to Hawaii’s HOPE Evaluation.

Koehler, J. A., Humphreys, D. K., Akoensi, T. D., Sánchez de Ribera, O., a Lösel, F. (2014). A systematic review and meta-analysis on the effects of European drug treatment programmes on reoffending. Psychology, Crime & Law, 20(6), 584-602.

Marques, P. H., Jesus, V., Olea, S. A., Vairinhos, V., a Jacinto, C. (2014). The effect of alcohol and drug testing at the workplace on individual’s occupational accident risk. Safety science, 68, 108-120.

McSweeney, T., Hughes, C., a Ritter, A. (2018). The impact of compliance with a compulsory model of drug diversion on treatment engagement and reoffending. Drugs: Education, Prevention and Policy, 25(1), 56-66.

Snowden, C. B., Miller, T. R., Waehrer, G. M., a Spicer, R. S. (2007). Random alcohol testing reduced alcohol-involved fatal crashes of drivers of large trucks. Journal of studies on alcohol and drugs, 68(5), 634-640.

Uned Allgáu Cymdeithasol. (2002). Reducing re-offending by ex-prisoners.

Sznitman, S. R., a Romer, D. (2014). Student drug testing and positive school climates: Testing the relation between two school characteristics and drug use behavior in a longitudinal study. Journal of studies on alcohol and drugs, 75(1), 65-73.

Comisiwn Polisi Cyffuriau y DU. (2008). Reducing Drug Use, Reducing Reoffending: Are programmes for problem drug-using offenders in the UK supported by the evidence. Llundain: UKDPC.

Tagiau cyffuriau

Bian, S., Zhu, B., Rong, G., a Sawan, M. (2021). Towards wearable and implantable continuous drug monitoring: A review. Journal of pharmaceutical analysis, 11(1), 1-14.

Carreiro, S., Chintha, K. K., Shrestha, S., Chapman, B., Smelson, D., ac Indic, P. (2020). Wearable sensor-based detection of stress and craving in patients during treatment for substance use disorder: A mixed methods pilot study. Drug and alcohol dependence, 209, 107929.

Fell, J. C., a Scolese, J. (2021). The effectiveness of alcohol monitoring as a treatment for driving-while-intoxicated (DWI) offenders: A literature review and synthesis. Traffic Injury Prevention, 22(atodiad1), A1-A7.

Howell, J., Nag, A., McKnight, M., Narsipur, S., ac Adelegan, O. (2015, Mawrth). A low- power wearable substance monitoring device. Yn 2015 IEEE Virtual Conference on Applications of Commercial Sensors (VCACS) (tt. 1-9). IEEE.

Koh, E. H., Lee, W. C., Choi, Y. J., Moon, J. I., Jang, J., Park, S. G., … a Jung, H. S. (2021). A wearable surface-enhanced Raman scattering sensor for label-free molecular detection. ACS Applied Materials & Interfaces, 13(2), 3024-3032.

Mahmud, M. S., Fang, H., Carreiro, S., Wang, H., a Boyer, E. W. (2019). Wearables technology for drug abuse detection: A survey of recent advancement. Smart Health, 13, 100062.

MOPAC (2020) Alcohol Abstinence Monitoring Requirement - Final Impact Evaluation.

Neville, F. G., Williams, D. J., Goodall, C. A., Murer, J. S., a Donnelly, P. D. (2013). An experimental trial exploring the impact of continuous transdermal alcohol monitoring upon alcohol consumption in a cohort of male students. PLoS One, 8(6), e67386.

Teymourian, H., Parrilla, M., Sempionatto, J. R., Montiel, N. F., Barfidokht, A., Van Echelpoel, R., … a Wang, J. (2020). Wearable electrochemical sensors for the monitoring and screening of drugs. ACS sensors, 5(9), 2679-2700.

Tison, J., Nichols, J. L., Casanova, T., Chaudhary, N. K., a Preusser Research Group. (2015). Comparative study and evaluation of SCRAM use, recidivism rates, and characteristics (Rhif DTNH22-09-D-00133, Tasg 1). Preusser Research Group, Inc.

Wen, F., He, T., Liu, H., Chen, H. Y., Zhang, T., a Lee, C. (2020). Advances in chemical sensing technology for enabling the next-generation self-sustainable integrated wearable system in the IoT era. Nano Energy, 78, 105155.

Gorchmynion gwahardd

Curtis, A., Farmer, C., Harries, T., Mayshak, R., Coomber, K., Guadagno, B., a Miller, P. (2022). Do patron bans act as a deterrent to future anti-social offending? An analysis of banning and offending data from Victoria, Australia. Policing and Society, 32(2), 234-247.

Farmer, C. (2022). A civilianised summary power to exclude: perceptual deterrence, compliance and legitimacy. International Journal for Crime, Justice and Social Democracy, 11(2), 143-158.

Farmer, C., Clifford, R., a Miller, P. (2021). Australia’s discretionary police-imposed banning powers: oversight, scrutiny and accountability. Police practice and research, 22(1), 57-73.

Hamilton-Smith, N., Bradford, B., Hopkins, M., Kurland, J., Lightowler, C., McArdle, D., a Tilley, N. (2011). An evaluation of football banning orders in Scotland. Adroddiad ymchwil gan Lywodraeth yr Alben, ar gael yn: http://www.scotland.gov.uk/Resource/Doc/354566/0119713.pdf.

Hopkins, M. (2014). Ten seasons of the football banning order: police officer narratives on the operation of banning orders and the impact on the behaviour of ‘risk supporters’. Policing and society, 24(3), 285-301.

Kenyon et al (2013) National Pubwatch partnerships.

Miller, P., Curtis, A., Palmer, D., Warren, I., a McFarlane, E. (2016). Patron banning in the nightlife entertainment districts: a key informant perspective. Journal of studies on alcohol and drugs, 77(4), 606-611.

Nielsen, J., Slothower, M., a Sherman, L. W. (2018). Tracking the Use of Exclusion Zone Orders in Denmark: Individual and Place-Based Crime Trends Before and After 161 Individual Orders. Cambridge Journal of Evidence-Based Policing, 2(3), 164-180.

Sogaard, T. F. (2018). Voices of the banned: Emergent causality and the unforeseen consequences of patron banning policies. Contemp. Drug Probs., 45, 15.

Stafford, A. B. (2021). Examining offending behaviour following receipt of a business crime reduction partnership’s place-based exclusion sanction. Criminology & criminal justice, 21(4), 489-507.

Profion cyffuriau ar ôl arestio

Beynon, C. M., Bellis, M. A., a McVeigh, J. (2006). Trends in drop out, drug free discharge and rates of re-presentation: a retrospective cohort study of drug treatment clients in the North West of England. BMC Public Health, 6(1), 1-9.

Collins, B. J., Cuddy, K., a Martin, A. P. (2017). Assessing the effectiveness and cost- effectiveness of drug intervention programs: UK case study. Journal of Addictive Diseases, 36(1), 5-13.

Collins, P., Critchley, K., a Whitfield, M. (2017). Criminal Justice Project: Drug Interventions Programme. Re-offending of clients testing positive for class A drugs across Merseyside.

Connor, M., Green, G., Thomas, N., Sondhi, A., a Pevalin, D. (2020). Drug testing on arrest–who benefits?. Health & Justice, 8(1), 1-9.

Dewa et al. Impact of Test on Arrest: An examination of drug testing and drug intervention data.

McSweeney, T. (2015). Review of a ‘test on arrest’ pilot and core criminal justice provision for drug-using offenders in Hertfordshire.

McSweeney, T., Hughes, C., a Ritter, A. (2018). The impact of compliance with a compulsory model of drug diversion on treatment engagement and reoffending. Drugs: Education, Prevention and Policy, 25(1), 56-66.

McSweeney, T., Turnbull, P. J., a Hough, M. (2008). The treatment and supervision of drug-dependent offenders: A review of the literature prepared for the UK Drug Policy Commission.

Skellington, O. K., McCoard, S., a McCartney, P. (2009). Evaluation of the mandatory drug testing of arrestees pilot. Caeredin: Llywodraeth yr Alban, Argraffydd y Frenhines yn yr Alban.

Sondhi, A., ac Eastwood, B. (2021). Assessing diversionary approaches for drug misusers in police custody in London: engagement and treatment outcomes as part of the Drug Intervention Programme. Addiction Research & Theory, 29(3), 223-230.

Atafaelu pasbortau ac anghymhwyso trwyddedau gyrru

Scarscelli, D., Altopiedi, R., Dameno, R. a Verga, M., 2012. Does fear of sanctions or sanctions discourage drug use? The point of view of a sample of illegal drug users in Italy. Drugs: education, prevention and policy, 19(6), tt.484-494.

Cyffredinol

Eastwood, N., Shiner, M. a Bear, D., 2013. The numbers in black and white: Ethnic disparities in the policing and prosecution of drug offences in England and Wales.

Harrell, A. a Roman, J., 2001. Reducing drug use and crime among offenders: The impact of graduated sanctions. Journal of Drug Issues, 31(1), ptt207-231.

Y Swyddfa Gartref, 2014. Drugs: International Comparators.

Hughes, C., Stevens, A., Hulme, S. a Cassidy, R., 2019, Awst. Review of approaches taken in Ireland and in other jurisdictions to simple possession drug offences: a Report for the Irish Department of Justice and Equality and the Department of Health. Yn Irish Government response to the report-outlining proposed adoption of police diversion schemes for first and second offence involving use and possession of any illicit drug. UNSW Awstralia a Phrifysgol Caint.

Kotlaja, M.M. a Carson, J.V., 2019. Cannabis prevalence and national drug policy in 27 countries: An analysis of adolescent substance use. International journal of offender therapy and comparative criminology, 63(7), tt.1082-1099.

Lenton, S., Humeniuk, R., Heale, P. a Christie, P., 2000. Infringement versus conviction: The social impact of a minor cannabis offence in South Australia and Western Australia. Drug and Alcohol Review, 19(3), tt.257-264.

Leslie, E.M., Cherney, A., Smirnov, A., Kemp, R. a Najman, J.M., 2018. Experiences of police contact among young adult recreational drug users: A qualitative study. International Journal of Drug Policy, 56, tt.64-72.

Miller, B.L., Ellonen, N., Boman, J.H., Dorn, S., Suonpää, K., Aaltonen, O.P. ac Oksanen, A., 2021. Examining Sanction Type and Drug Offender Recidivism: A Register-Based Study in Finland. American Journal of Criminal Justice, tt.1-19.

Møller, K., 2010. Policy displacement and disparate sanctioning from policing cannabis in Denmark. Journal of Scandinavian Studies in Criminology and Crime Prevention, 11(2), tt.135-150.

O’Connell, D.J., Brent, J.J. a Visher, C.A., 2016. Decide your time: A randomized trial of a drug testing and graduated sanctions program for probationers. Criminology & Public Policy, 15(4), tt.1073-1102.

Varghese, F.P., Hardin, E.E., Bauer, R.L. a Morgan, R.D., 2010. Attitudes toward hiring offenders: The roles of criminal history, job qualifications, and race. International Journal of Offender Therapy and Comparative Criminology, 54(5), tt.769-782.

  1. Nid yw’r gost hon yn ystyried unrhyw newidiadau ers y dadansoddiad yn 2017/18, gan gynnwys nifer yr achosion. Mae hyn ym mhrisiau heddiw. Amcangyfrifwyd bod cyfanswm cost y niwed sy’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn Lloegr yn £19.3 biliwn yn 2017-18. Adolygiad y Fonesig Carol Black: Cam Un. 

  2. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, Camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru a Lloegr: y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. 

  3. Diffinnir defnyddwyr mynych fel pobl sydd wedi cymryd unrhyw gyffur fwy nag unwaith mewn mis yn y flwyddyn ddiwethaf. 

  4. Public Health England (PHE), Estimates of opiate and crack cocaine use prevalence: 2016 to 2017. 

  5. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, Camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru a Lloegr: y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. 

  6. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Marwolaethau cysylltiedig â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru a Lloegr 2020. 

  7. NHS Digital, Smoking, Drinking and Drug Use among Young People in England 2018. 

  8. Government response to the independent review of drugs by Dame Carol Black

  9. Adolygiad y Fonesig Carol Black ar Gyffuriau; Cam un. 

  10. Dynladdiadau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yw’r rhai lle mae’n hysbys bod y sawl sydd dan amheuaeth neu’r dioddefwr yn werthwr cyffuriau neu’n ddefnyddiwr cyffuriau, ei fod wedi cymryd cyffur, bod ganddo gymhelliad i gael gafael ar gyffuriau neu ddwyn elw cyffuriau neu ei fod yn ymwneud â chyffuriau mewn unrhyw ffordd. 

  11. Y Swyddfa Gartref, Troseddau a Gofnodwyd gan yr Heddlu: y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021. 

  12. Y Swyddfa Gartref, Troseddau a Gofnodwyd gan yr Heddlu: y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021. 

  13. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Ystadegau Chwarterol y System Cyfiawnder Troseddol: Rhagfyr 2021. 

  14. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: Ystadegau aildroseddu profedig: Mehefin 2020. 

  15. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: Ystadegau Chwarterol Cyfiawnder Troseddol: Mawrth 2021. 

  16. Mae’n drosedd o dan adran 5(2) o Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (“Deddf 1971”) i unigolyn fod â chyffur rheoledig (boed yn gyffur dosbarth A, dosbarth B neu ddosbarth C, fel y nodir yn Atodlen 2 i Ddeddf 1971) yn ei feddiant yn groes i adran 5(1) o’r Ddeddf honno. O dan adran 5(1) mae’n anghyfreithlon meddu ar gyffur rheoledig oni chaniateir hynny gan Reoliadau Camddefnyddio Cyffuriau 2001 (fel y’u diwygiwyd). 

  17. Mae’r ffynonellau a ddefnyddiwyd i’w gweld yn Atodiad B. 

  18. Mae’r ffynonellau a ddefnyddiwyd i’w gweld yn Atodiad B. 

  19. Mae’r ffynonellau a ddefnyddiwyd i’w gweld yn Atodiad B. 

  20. Ibid. 

  21. Mae adrannau 63B a 63C o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (“PACE”) yn galluogi’r heddlu i gynnal profion cyffuriau dan amgylchiadau penodol pan gaiff unigolyn ei arestio neu ei gyhuddo. 

  22. Adrannau 63B a 63C o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (“PACE”).