Ymgynghori ar Gynllun Iaith Gymraeg arfaethedig DECC
Read the full outcome
Detail of outcome
Original consultation
Consultation description
Mae’r Adran yn gofyn am sylwadau ar ei Gynllun Iaith Gymraeg arfaethedig. Rydyn ni am sicrhau bod y cynllun iaith yn hawdd ei ddeall ac y bydd yn ateb anghenion pobl sy’n siarad yr iaith.
O dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru baratoi Cynllun Iaith sy’n nodi sut y bydd yn darparu’r gwasanaethau hynny yn Gymraeg. Mae’r Cynllun Iaith yn disgrifio sut y bydd DECC yn gweithredu’r egwyddor a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru.
Mae’r Cynllun Iaith wedi’i baratoi yn unol a Chanllawiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg o dan y Ddeddf a’r gobaith yw y caiff ei gymeradwyo’n ffurfiol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn dilyn y broses ymgynghori. Cytunwyd ar y cyfnod ymgynghori o wyth wythnos gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Gwahoddir unrhyw unigolyn neu sefydliad sydd a diddordeb yn y materion hyn i ymateb i’r ymgynghoriad hwn.
Contact us
Email: internal.comms@decc.gsi.gov.uk
Dogfennau Ymgynghori
Ymgynghoriad ar Gynllun Iaith Gymraeg DECC: Crynodeb oa??r ymatebion
DECC Welsh Language Scheme consultation: summary of responses