Publication

Ffioedd yswiriant a ganiateir ar gyfer landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo: ymgynghoriad

Published 2 December 2024

Applies to England and Wales

Cwmpas yr ymgynghoriad

Pwnc yr ymgynghoriad hwn

Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 wedi cyflwyno amrywiaeth o fesurau i roi mwy o bwerau ac amddiffyniadau i berchnogion tai a lesddeiliaid. Sefydlodd bwerau i ail-gydbwyso’r drefn costau cyfreithiol a chael gwared ar rwystrau a allai atal lesddeiliaid rhag herio eu landlord. Mae hefyd wedi cyflwyno pwerau i wella tryloywder taliadau gwasanaeth, gan ganiatáu i lesddeiliaid graffu ar gostau a herio costau annheg yn well. Bydd ar y pwerau hyn angen is-ddeddfwriaeth er mwyn gweithredu’r Ddeddf yn llawn.

Mae’r Ddeddf hefyd wedi creu pwerau i fynd i’r afael â phryderon hirsefydlog bod rhai lesddeiliaid yn gorfod talu costau i’w landlordiaid, rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo am drefnu a rheoli yswiriant adeiladau, er na allant gyfiawnhau na rhoi cyfrif llawn o’r gwaith a wnaed.  

Y pryder i’n llywodraethau yw bod costau yswiriant sylweddol yn cael eu codi ar y lesddeiliaid hyn ac nad oes ganddynt fawr o ddylanwad neu allu i graffu ar y costau hyn, neu herio’r costau hynny os ydynt yn afresymol. Gallai hyn gynnwys cydnabyddiaeth ariannol anghymesur am wasanaethau wrth drefnu a rheoli yswiriant, neu hyd yn oed gomisiynau – a manteision ariannol eraill – yn cael eu rhoi i landlordiaid, rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo nad ydynt yn gysylltiedig â’r gwasanaethau a ddarperir.

Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw cyflwyno cynigion i fynd i’r afael â’r materion uchod. Ein nod yw sicrhau bod unrhyw gostau mewn perthynas â rheoli a threfnu yswiriant a godir ar lesddeiliaid gan landlordiaid, rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo yn deg ac yn dryloyw.

Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn caniatáu disodli’r arfer presennol o dalu landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo am drefnu a rheoli yswiriant, sy’n digwydd fwyaf cyffredin ar hyn o bryd trwy frocer yswiriant sy’n rhannu cyfran o’u comisiwn.

Yn hytrach, mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn caniatáu ffi newydd lle byddai landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn codi tâl ar lesddeiliaid ar wahân i’r premiwm yswiriant. Byddai’r ffi hon yn deg, yn dryloyw ac yn adlewyrchu’r gwaith a gyfrannwyd. Gyda chymorth ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, rydym am ddeall pa daliadau a fydd yn cael eu caniatáu o fewn y ffi hon er mwyn llywio is-ddeddfwriaeth.

Trwy weddill y ddogfen ymgynghori, byddwn yn defnyddio’r term “rhydd-ddeiliaid” fel llaw-fer ar gyfer “rhydd-ddeiliaid a landlordiaid”. Mae hyn er mwyn adlewyrchu’r ffaith na fydd y landlord ar gyfer lesddeiliad yn rhydd-ddeiliad ar eu cyfer mewn rhai achosion, er enghraifft pan fo’r landlord yn brif lesddeiliad.

Cwmpas daearyddol

Mae’r cynigion hyn yn ymwneud â Chymru a Lloegr. Bydd yr ymgynghoriad yn hysbysu llywodraethau’r DU a Chymru a fydd yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth ar wahân.

Mae’r ddogfen yma hefyd ar gael yn Saesneg / This document is also available in English

Asesiad effaith

Cyhoeddwyd Asesiad Effaith yn flaenorol fel rhan o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 a oedd yn cwmpasu’r mesurau cyffredinol perthnasol. Bydd unrhyw reoliadau a gyflwynir o ganlyniad i’r ymgynghoriad yn destun asesiad priodol.

Mae ein llywodraethau yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i roi sylw dyledus i effaith bosibl eu cynigion ar bobl â nodweddion gwarchodedig, a’u cyfrifoldebau i ystyried egwyddorion amgylcheddol mewn unrhyw gynigion fel y nodir yn Neddf yr Amgylchedd 2021.

Roedd ystyried y dyletswyddau hyn yn sail i hynt Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024, ac rydym yn croesawu tystiolaeth a barn ar effaith y polisi hwn fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Bydd unrhyw reoliadau a gyflwynir yn dilyn yr ymgynghoriad yn destun asesiad priodol.

Gwybodaeth Sylfaenol

Corff/cyrff sy’n gyfrifol am yr ymgynghoriad

Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru.

Hyd

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para 12 wythnos o 2 December 2024 i 24 Chwefror 2025.

Ymholiadau

Am unrhyw ymholiadau am yr ymgynghoriad, cysylltwch â:  commissionsconsultation@communities.gov.uk

Sut i ymateb

Gallwch ymateb drwy gwblhau arolwg ar-lein ar Citizen Space.

Fel arall, gallwch e-bostio eich ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn i commissionsconsultation@communities.gov.uk.

Cwestiynau demograffig

A ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr?

  • Lloegr
  • Cymru
  • Arall

Os ydych chi’n byw mewn gwlad arall, nodwch pa wlad [Agored]

Enw: [Agored]

Ebost: [Agored]

A ydych chi’n ymateb ar ran sefydliad?

  • Ydw
  • Nac ydw

Os “Ydw”, beth yw enw’r sefydliad?

Os ydych chi’n ymateb ar ran sefydliad, pa un o’r datganiadau canlynol sy’n eich disgrifio orau?

  • Rwy’n ymateb fel sefydliad sy’n cynrychioli lesddeiliaid
  • Rwy’n ymateb fel sefydliad asiantiaid rheoli eiddo (preifat)
  • Rwy’n ymateb fel sefydliad asiantiaid rheoli eiddo (cymdeithas dai / awdurdod lleol)
  • Rwy’n ymateb fel sefydliad rhydd-ddeiliaid (preifat)
  • Rwy’n ymateb fel sefydliad rhydd-ddeiliaid (cymdeithas dai / awdurdod lleol) 
  • Rwy’n ymateb fel sefydliad broceriaid yswiriant
  • Rwy’n ymateb fel sefydliad yswirwyr
  • Arall

[Os Arall] Os “Arall”, manylwch [Agored]

Cefndir

Amlinelliad o arferion cydnabyddiaeth ariannol cyffredin mewn perthynas ag yswiriant ar gyfer adeiladau amlfeddiannaeth 

1.    Mae rhydd-ddeiliaid adeiladau preswyl amlfeddiannaeth fel arfer yn ymgymryd â’r dasg o yswirio’r eiddo a byddant yn adennill y costau trwy rent yswiriant ar wahân neu dâl gwasanaeth a godir ar lesddeiliaid.

2. Yn y rhan fwyaf o achosion, daw’r unig gyfyngiad ar gostau yswiriant o’r rheolaeth statudol a nodir yn adrannau 19 a 27A Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985. Mae’r Ddeddf Landlordiaid a Thenantiaid yn gosod haen o amddiffyniad statudol, ar ffurf “prawf rhesymoldeb”. Mae hyn yn golygu mai dim ond i’r graddau yr ysgwyddwyd y costau yn rhesymol a bod y gwaith neu’r gwasanaethau y maent yn ymwneud â nhw wedi cael eu cyflawni i safon resymol y gall y landlord gynnwys costau mewn tâl gwasanaeth amrywiadwy. Mewn rhai achosion, gall prydles gyfyngu ar y swm y gellir ei adennill mewn perthynas â chost yswiriant yn uniongyrchol. Gall lesddeiliad sy’n talu tâl gwasanaeth amrywiadwy herio rhesymoldeb y tâl hwnnw drwy wneud cais i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn Lloegr, neu’r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau yng Nghymru.

3. Mae rhydd-ddeiliaid yn aml yn cyflogi asiant rheoli eiddo i drefnu yswiriant adeiladau (ochr yn ochr â dyletswyddau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r ymgynghoriad hwn).  P’un a yw rhydd-ddeiliad yn defnyddio asiant rheoli eiddo ai peidio, fel arfer mae angen gwasanaethau brocer yswiriant. Mae broceriaid yn gweithio ar sail comisiwn a drafodir fel arfer rhwng yswirwyr a broceriaid.

4.    Gall partïon sy’n ymwneud â threfnu neu reoli yswiriant - fel arfer rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo - dderbyn taliadau mewn sawl ffordd gan gynnwys cymryd ffioedd atgyfeirio, comisiynau, ffioedd trosglwyddo gwaith a ffioedd gweinyddu ar leoliadau yswiriant adeiladau. Mae rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn cael cydnabyddiaeth ariannol fel arfer gan froceriaid sy’n rhannu’r comisiwn. Y rhesymeg dros y taliadau hyn yw eu bod yn digolledu rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo am eu gwaith yn trefnu a rheoli lleoliadau yswiriant.

5.    Bydd lesddeiliaid yn aml yn talu, trwy eu tâl gwasanaeth, am y premiwm yswiriant gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol am weithgareddau gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo wrth iddynt drefnu a rheoli yswiriant.

Problemau gyda chydnabyddiaeth ariannol a chomisiynau yswiriant

6. Mae’r gadwyn gyflenwi yswiriant a ddisgrifir uchod yn cymell rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo i ddewis broceriaid yswiriant sy’n sicrhau cynnyrch nad yw o reidrwydd yr opsiwn gwerth gorau i’r lesddeiliad ond sy’n cynnig y comisiwn uchaf i’r rhydd-ddeiliad neu’r asiant rheoli. Mae lesddeiliaid fel arfer yn talu am y premiymau hyn yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys unrhyw gomisiynau a rennir rhwng broceriaid ac asiantiaid rheoli eiddo neu rydd-ddeiliaid.

7. Mae’r diffyg tryloywder i lesddeiliaid o ran cydnabyddiaeth ariannol am yswiriant yn rhwystr sylweddol i lesddeiliaid allu gwybod a ydynt yn talu premiymau chwyddedig neu’n talu am gydnabyddiaeth ariannol ormodol i asiantiaid rheoli eiddo neu rydd-ddeiliaid. Mae hyn yn rhwystr i ymdrechion i wneud iawn oherwydd, heb yr wybodaeth berthnasol, nid yw lesddeiliaid mewn sefyllfa dda i ddeall yr hyn y maent yn talu amdano ac, os oes angen, a ddylent herio rhesymoldeb y costau hyn.

Adolygiadau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol a diwygio rheoleiddio

8.    Yn dilyn trychineb tŵr Grenfell yn 2017, gwelwyd cost yswiriant adeiladau i lesddeiliaid preswyl a pherchnogion eiddo eraill adeiladau amlfeddiannaeth yn cynyddu 125% rhwng 2016 a 2021. Yn sgil y cynnydd hwn mewn premiwm - a chomisiynau cysylltiedig sy’n seiliedig ar ganrannau - daeth edrych ar dryloywder a gwerth am arian mewn perthynas ag yswiriant adeiladau i lesddeiliaid yn fater o bwys.

9.    Mewn ymateb i’r premiymau cynyddol hyn, yn 2022 gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) adolygu’r cynnydd ym mhrisiau yswiriant adeiladau ac achosion cyfyngiadau yn yr hyn a gwmpesir ar gyfer adeiladau amlfeddiannaeth. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cyhoeddodd yr FCA eu hadroddiad. Cadarnhaodd fod rhannu cydnabyddiaeth ariannol - fel arfer ar ffurf comisiwn - rhwng broceriaid a rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn gyffredin (68% o’r amser).

10. Dangoswyd bod cyfrannau’r gydnabyddiaeth ariannol o ran canrannau yn sylweddol: mewn 39% o’r achosion yr arsylwyd arnynt, trosglwyddodd broceriaid fwy na hanner eu cydnabyddiaeth ariannol i’r rhydd-ddeiliad neu’r asiant rheoli eiddo. Roedd broceriaid a gyfrannodd at yr adroddiad yn cyfiawnhau hyn ar y sail mai taliad oedd hyn am wasanaethau a roddwyd mewn meysydd fel gwasanaethau caffael ac ôl-werthu a ddarperir. Fodd bynnag, cynyddodd cyfanswm y comisiwn cyfartalog a enillwyd gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo o £880 yn 2016 i £1,140 yn 2021 - cynnydd o 30%. Ni chanfu’r adroddiad unrhyw gyfiawnhad clir dros y cynnydd hwn.

11. Yn 2023 cyhoeddodd yr FCA adroddiad pellach ar gydnabyddiaeth ariannol i froceriaid mewn perthynas ag yswiriant adeiladau amlfeddiannaeth. Roedd yr adroddiad hwn yn cadarnhau canfyddiadau’r adroddiad blaenorol, bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol absoliwt (gan gynnwys comisiynau) wedi codi bron i 40% rhwng 2019 a 2022, a hynny wedi’i yrru’n rhannol gan gynnydd mewn premiymau yn cael ei adlewyrchu mewn comisiynau sy’n seiliedig ar ganrannau. Yn aml nid oedd broceriaid yn gallu mynegi pa wasanaethau neu fuddion o werth yn gysylltiedig ag yswiriant oedd yn cael eu darparu gan y partïon yr oeddent yn rhannu comisiwn â nhw - gan gynnwys rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo.

12. Cydnabu’r FCA hefyd y potensial i froceriaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo gael eu cymell i ddewis cynhyrchion yswiriant sy’n rhoi’r gydnabyddiaeth ariannol uchaf iddyn nhw eu hunain yn hytrach na pha gynhyrchion sy’n cynnig y gwerth gorau i lesddeiliaid.

13. Mae’r pryderon a fynegir gan grwpiau lesddeiliaid, achosion gohebiaeth ar draws ein llywodraethau a’r data o adroddiadau’r FCA yn gyson o ran tynnu sylw at bryderon sylweddol am degwch a thryloywder cydnabyddiaeth ariannol a chomisiynau, yn enwedig gan eu bod wedi gwaethygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sgil codiadau mewn premiymau. Er mai nhw sy’n talu am y premiwm yswiriant cyffredinol yn y pen draw - gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol i gyfryngwyr fel broceriaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo - yn aml nid yw lesddeiliaid yn ymwybodol o fanylion eu costau yswiriant. Yn aml nid ydynt yn ymwybodol o lefel neu hyd yn oed fodolaeth comisiynau, ac mae hynny’n cyfyngu ar eu gallu i graffu ar gostau a’u herio.

14. Mewn ymateb i’r pryderon a’r canfyddiadau hyn, ym mis Ionawr 2024 fe wnaeth yr FCA ddiweddaru eu rheoliadau i gryfhau amddiffyniadau a thryloywder i lesddeiliaid. Roedd y diweddariad yn sicrhau y bydd cwmnïau yswiriant yn cael eu gorfodi i weithredu er budd gorau’r lesddeiliaid, trin lesddeiliaid fel cwsmeriaid wrth ddylunio cynhyrchion ac y byddant yn cael eu gwahardd rhag argymell polisi yswiriant yn seiliedig ar lefelau comisiwn neu gydnabyddiaeth ariannol. Mae’n ofynnol i gwmnïau ddatgelu gwybodaeth am y polisi i’w cwsmer (fel arfer y rhydd-ddeiliad neu’r asiant rheoli eiddo) a rhaid iddynt ofyn i’r cwsmer drosglwyddo’r wybodaeth hon i lesddeiliaid. Mae gan lesddeiliaid yr hawl i ofyn yn uniongyrchol i gwmnïau am wybodaeth am eu polisi os nad yw hyn yn digwydd.

15.  Rhaid i gwmnïau hefyd sicrhau bod eu polisïau yswiriant yn darparu gwerth teg, ac mae unrhyw gomisiwn sy’n cael ei rannu gyda thrydydd partïon - fel rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo - bellach yn gofyn am gyfiawnhad a thystiolaeth yn unol â rheolau gwerth teg.

Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024

16. Croesewir y diwygiadau hyn a wnaed gan yr FCA ac maent yn gwella prosesau rheoleiddio yswirwyr a broceriaid a reoleiddir gan yr FCA yn sylweddol. Fodd bynnag, erys problemau:

a.    Mae asiantiaid rheoli eiddo a rhydd-ddeiliaid yn amrywio o ran y graddau y mae eu gweithgareddau’n cael eu hystyried yn weithgareddau a reoleiddir ac felly angen eu rheoleiddio gan yr FCA neu gan gynllun cyfatebol Corff Proffesiynol Dynodedig Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, efallai na fydd yn ofynnol i asiantiaid rheoli eiddo neu rydd-ddeiliaid ddangos ystyriaethau gwerth teg ar gyfer eu gwasanaethau.

b.    Er bod rheolau’r FCA yn gwella prosesau datgelu gwybodaeth am yswiriant gan froceriaid ac yswirwyr, nid yw’n ofynnol i asiantiaid rheoli eiddo a rhydd-ddeiliaid - nad yw llawer ohonynt yn cael eu rheoleiddio gan yr FCA - ddarparu gwybodaeth am bolisi yswiriant i lesddeiliaid i’r un lefel o fanylder.

c.     Mae rheolau’r FCA yn ei gwneud yn ofynnol i froceriaid ac yswirwyr ddarparu gwybodaeth ychwanegol am bolisi yswiriant, ond nid ydynt yn ymestyn i bob asiant rheoli eiddo a rhydd-ddeiliad.

17. Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn sy’n weddill – a phryderon lesddeiliaid yn ehangach - cyflwynodd Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 becyn eang o fesurau a roddodd bwerau i gynyddu tegwch a thryloywder mewn perthynas â chostau i lesddeiliaid. Mae hyn yn cynnwys gwell tryloywder ar daliadau gwasanaeth a mynd i’r afael â chostau cyfreithiol fel rhwystr i wneud iawn.

18. Ar gyfer yswiriant yn benodol, mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn cynnwys mesurau i wahardd codi tâl llawn ar lesddeiliaid am y taliadau a wneir i rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo - fel arfer ar ffurf comisiynau. Yn hytrach, dim ond ffi deg a thryloyw y byddent yn gallu ei chodi’n uniongyrchol ar lesddeiliad, a byddai hynny’n cael ei nodi mewn is-ddeddfwriaeth fel ffi yswiriant a ganiateir. Byddai hyn yn sicrhau na fyddai cydnabyddiaeth ariannol yn uniongyrchol gysylltiedig â phremiymau, ac na fyddai rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo bellach yn cael eu cymell i ddewis broceriaid yswiriant ar sail trefniadau comisiwn. Byddai hefyd yn gwella tryloywder, wrth i gostau gael eu mynegi fel ffi a ganiateir ar wahân yn uniongyrchol i’r lesddeiliad i adlewyrchu gwasanaethau gwirioneddol sy’n cael eu darparu. Yn olaf, bydd y Ddeddf hefyd yn sicrhau bod rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn mynd ati’n rhagweithiol i ddarparu gwybodaeth fanylach am bolisi yswiriant i lesddeiliaid.

19. Mae’r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y mesurau yn Adran 59 Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 a fydd yn eithrio ystod o gostau yswiriant ar gyfer rheoli a threfnu yswiriant, gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol am waith a wneir mewn perthynas â chontract yswiriant ac yswiriant yn gyffredinol. Yn hytrach, bydd is-ddeddfwriaeth yn nodi’n glir pa gostau a ganiateir drwy ffi yswiriant a ganiateir.

20. Rydym am glywed gan yr holl randdeiliaid â diddordeb am y ffi yswiriant yma a ganiateir. Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw meithrin gwell dealltwriaeth o arferion ar hyn o bryd a safbwyntiau ar ba fath o weithgareddau y dylid eu caniatáu fel rhan o ffi yswiriant a ganiateir. Byddem yn croesawu’n arbennig farn lesddeiliaid, rhydd-ddeiliaid, asiantiaid rheoli eiddo a phartïon sy’n rhan o hyn yn y gadwyn cyflenwi yswiriant drwyddi draw, fel broceriaid a chwmnïau yswiriant.

Rhan 1: Arferion ar Hyn o Bryd

21. Rydym yn awyddus i ddeall profiadau gan y rhai y mae’r trefniadau cydnabyddiaeth ariannol presennol ar gyfer asiantiaid rheoli eiddo a rhydd-ddeiliaid yn effeithio arnynt. Mae hynny’n cynnwys partïon ar draws y gadwyn gyflenwi fel rhydd-ddeiliaid, asiantiaid rheoli eiddo, broceriaid ac yswirwyr yn ogystal â lesddeiliaid eu hunain.

22. Gall taliadau am weithgareddau sy’n ymwneud â threfnu a rheoli yswiriant adeiladau mewn adeiladau amlfeddiannaeth fod ar sawl ffurf, gan amlaf gan froceriaid yswiriant i rydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo.

23. Gallai taliadau yn y cyd-destun hwn gynnwys:

a. Taliadau a wneir i ddarparu cymhelliant i ymrwymo i gontractau yswiriant; a

b. Taliadau fel cydnabyddiaeth ariannol am waith a wneir mewn perthynas ag yswiriant, naill ai fel rhan o gontract yswiriant penodol neu’n ehangach. Mae hyn yn aml ar ffurf comisiynau sy’n cael eu rhannu gan froceriaid yswiriant.

24. Yn ehangach, gellid gwneud taliadau ar ystyr ehangach hefyd trwy beidio â throsglwyddo buddion neu ostyngiadau. Er enghraifft, gallai rhydd-ddeiliad gadw’r arian o ostyngiad teyrngarwch nad ydynt yn ei drosglwyddo i lesddeiliaid.

25. Rydym yn awyddus i ddeall fel rhan o’r ymgynghoriad hwn pa enghreifftiau o daliadau i rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Cwestiwn 1

I ba raddau ydych chi’n adnabod y disgrifiad uchod o sut mae rhydd-ddeiliaid, asiantiaid rheoli eiddo, broceriaid ac yswirwyr yn rheoli ac yn trefnu yswiriant a sut maen nhw’n cael eu cydnabod yn ariannol amdano? Er enghraifft – pa gyfryngwyr eraill sy’n rhan o gadwyn gyflenwi yswiriant adeiladau ar gyfer adeiladau amlfeddiannaeth, sut maen nhw’n cael cydnabyddiaeth ariannol ac am beth? [Agored]

Cwestiwn 2

Naill ai o’ch profiad personol, neu wybodaeth am arferion yn ehangach, i ba raddau ydych chi’n credu bod y system bresennol o gydnabyddiaeth ariannol i asiantiaid rheoli eiddo a rhydd-ddeiliaid am eu gweithgareddau rheoli a threfnu yswiriant yn rhoi canlyniadau teg i lesddeiliaid a’r rhai sy’n cyflenwi’r gwasanaethau hyn? Oes gennych chi enghreifftiau neu astudiaethau achos i ddangos hyn? [Agored]

Cwestiwn 3

Os ydych chi’n lesddeiliad, a ydych chi’n ymwybodol o ba daliadau - os oes unrhyw rai – y mae eich rhydd-ddeiliad neu asiant rheoli eiddo yn eu cael am drefnu neu reoli yswiriant? Gallai’r taliadau fod ar ffurf cydnabyddiaeth ariannol uniongyrchol - fel rhannu comisiwn - neu fod yn fwy anuniongyrchol megis drwy gadw arian o ostyngiadau neu daliadau nad ydynt yn ariannol. [Ydw / Nac Ydw]

[Os ydw] Rhowch fwy o fanylion os gwelwch yn dda. Er enghraifft – a yw’r taliadau hyn ar gyfer gwasanaethau penodol mewn perthynas â rheoli a threfnu yswiriant? Os felly, pa weithgareddau? A ydych chi’n gwybod pa ganran o’ch costau yswiriant yw’r taliadau hyn? [Agored]

Cwestiwn 4

Os ydych chi’n lesddeiliad, a ydych chi wedi ceisio herio taliad eich rhydd-ddeiliad neu asiant rheoli eiddo am drefnu neu reoli yswiriant? [Ydw / Nac Ydw]

[Os ydw] Sut wnaethoch chi herio hyn? Pa wybodaeth a gawsoch i gefnogi’ch her, a sut wnaethoch chi gael gafael ar yr wybodaeth? Beth oedd y canlyniad? [Agored]

Cwestiwn 5

Os ydych chi’n asiant rheoli eiddo neu’n rhydd-ddeiliad, pa fath o daliadau - os oes unrhyw rai - ydych chi wedi’u cael am drefnu a rheoli yswiriant? Gallai’r taliadau fod ar ffurf cydnabyddiaeth ariannol uniongyrchol - fel rhannu comisiwn - neu fod yn fwy anuniongyrchol megis drwy gadw arian o ostyngiadau neu daliadau nad ydynt yn ariannol. [Agored]

Cwestiwn 6

Os ydych chi’n asiant rheoli eiddo neu’n rhydd-ddeiliad, pa weithgareddau rydych chi wedi cael cydnabyddiaeth ariannol amdanynt ar ffurf taliadau - fel comisiwn gan y brocer? [Agored]

O’r rhain, pa rai o’r rhain sy’n weithgareddau a reoleiddir fel y’u diffinnir yn y Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol, megis drwy’r FCA neu gynllun Corff Proffesiynol Dynodedig RICS, a pha rai sydd ddim? [Agored]

Rhan 2:  Cynigion ar gyfer Ffioedd Yswiriant a Ganiateir

26. Bydd Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn atal yr holl gostau yswiriant sydd wedi’u heithrio sy’n ymwneud â threfnu a rheoli yswiriant rhag cael eu codi ar lesddeiliaid trwy dâl gwasanaeth amrywiadwy, ac eithrio’r hyn a ddiffinnir fel ffi yswiriant a ganiateir.

27. Diffinnir costau yswiriant sydd wedi’u heithrio yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 fel unrhyw gostau a briodolir i daliadau a wneir i drefnu neu reoli yswiriant, gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol am unrhyw waith a wneir mewn perthynas â chontract yswiriant cyn neu ar ôl iddo gael ei drefnu neu mewn perthynas ag yswiriant yn gyffredinol.

28. Mae Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad 2024 yn nodi y gellir defnyddio is-ddeddfwriaeth i ddiffinio pa daliadau y gellid eu codi, ar ffurf ffi yswiriant a ganiateir. Rydym yn cynnig y gellid defnyddio’r is-ddeddfwriaeth hon i sicrhau mai’r unig beth y gallai asiantiaid rheoli eiddo a rhydd-ddeiliaid ei wneud fyddai codi ffi ar wahân am eu gwasanaethau yn uniongyrchol i lesddeiliaid, yn hytrach na’r arfer presennol o rannu comisiwn gan froceriaid. Byddai hyn yn gwella tryloywder, gan fod taliadau o’r fath ar hyn o bryd yn aml yn rhan gudd o gostau yswiriant ehangach.

29. Rydym yn cynnig y dylid targedu gwahardd codi tâl ar lesddeiliaid am daliadau yswiriant - ac eithrio’r ffi a ganiateir - at rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo. Fel y nodir yn y cefndir uchod, mae gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn aml gymhellion sy’n gwrthdaro â’u lesddeiliaid a all ddylanwadu arnynt wrth ddewis cynnyrch a brocer. Er bod amrywiaeth o gyfryngwyr yswiriant eraill yn y gadwyn cyflenwi yswiriant sy’n cael cydnabyddiaeth ariannol am eu gwasanaethau, fel broceriaid yswiriant ac ailyswirwyr, nid oes ganddynt y rôl unigryw hon o gaffael ar ran lesddeiliaid. Ar ben hynny, mae cyfryngwyr eraill yng nghadwyn gyflenwi yswiriant adeiladau yn ddarostyngedig i brosesau rheoleiddio gan yr FCA, ac nid yw hynny’n wir am bob asiant rheoli eiddo neu rydd-ddeiliad.

30. Bydd y ffi yswiriant a ganiateir yn rhan o’r tâl gwasanaeth amrywiadwy, sy’n golygu y gall lesddeiliaid herio ei rhesymoldeb o dan ddarpariaethau Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985.

31. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar beth ddylai’r paramedrau fod mewn perthynas â’r ffi yswiriant hon a ganiateir ac a godir gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo ar lesddeiliaid. Bydd meini prawf y ffi yswiriant hon a ganiateir yn cael eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth.

Cwestiwn 7

Byddai ffi yswiriant a ganiateir yn cael ei diffinio fel mai dim ond ar gyfer gweithgareddau penodol y caniateir cydnabyddiaeth ariannol i rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo, ac i atal codi tâl ar lesddeiliaid am unrhyw daliadau eraill i rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo sy’n ymwneud â rheoli a threfnu yswiriant. A ydych chi’n cytuno â’r dull hwn? [Ydw / Nac Ydw]

[Os ydw neu nac Ydw] Esboniwch eich ateb [Agored]

Cwestiwn 8

Pa weithgareddau penodol sy’n ymwneud â rheoli a threfnu yswiriant y mae rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn eu cyflawni ac yn cael cydnabyddiaeth ariannol amdanynt ar hyn o bryd? Diffiniwch y gweithgareddau hyn mor llawn â phosibl. [Agored]

Cwestiwn 9

Pa weithgareddau penodol sy’n ymwneud â rheoli a threfnu yswiriant y dylid caniatáu i rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo eu cyflawni a chael cydnabyddiaeth ariannol amdanynt drwy dâl gwasanaeth i lesddeiliad? [Agored]

Cwestiwn 10

A oes unrhyw weithgareddau penodol sy’n ymwneud â rheoli a threfnu yswiriant na ddylid caniatáu i rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo eu cyflawni a chael cydnabyddiaeth ariannol amdanynt drwy dâl gwasanaeth i lesddeiliad? [Agored]

Cwestiwn 11

A ydych yn credu y dylid cyfrifo’r ffi a ganiateir mewn ffyrdd rhagnodedig – megis canrannau penodol, uchafswm ffioedd a / neu ffioedd sefydlog ar gyfer trefnu a rheoli yswiriant neu weithgareddau sy’n rhan o hynny – neu a fyddai ffi dryloyw yn ddarostyngedig i’r mesurau rhesymoldeb yn Neddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985 yn ddigonol? [Agored]

Cwestiwn 12

A oes unrhyw achosion neu amgylchiadau eithriadol y byddech yn awgrymu eu bod yn haeddu cael eu trin yn wahanol o ran yr hyn a ganiateir neu na chaniateir? [Agored]

Rhan 3: Meini Prawf Ychwanegol ar gyfer Ffioedd Yswiriant a Ganiateir

32. Byddai pa bynnag daliadau y caniateir iddynt gael eu codi ar lesddeiliaid am weithgareddau sy’n ymwneud â rheoli neu drefnu yswiriant gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo - fel holl gydrannau tâl gwasanaeth amrywiadwy - yn ddarostyngedig i adrannau 19 a 27A o Ddeddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985.

33. Mae Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985 yn cymhwyso amddiffyniadau statudol ar ffurf “prawf rhesymoldeb” sy’n golygu bod yn rhaid bod costau yn y tâl gwasanaeth yn rhai a gafwyd yn rhesymol a bod y gwaith neu’r gwasanaethau y maent yn ymwneud â hwy yn cael eu gwneud i safon resymol.

34. Mae lesddeiliaid wedi defnyddio’r prawf hwn i herio costau yswiriant - gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol a chomisiwn - drwy Dribiwnlysoedd yr Haen Gyntaf yn Lloegr a’r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau yng Nghymru.

35. Mae rheolau’r FCA yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau asesu eu cynhyrchion a sicrhau eu bod yn darparu gwerth teg i gwsmeriaid (gan gynnwys lesddeiliaid). Rhaid bod perthynas resymol rhwng pris y cynnyrch a’r buddion a ddarperir, gan ystyried y costau yr eir iddynt wrth ei ddarparu. Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i gwmnïau sy’n cynhyrchu cynhyrchion yswiriant, sy’n cynnwys yr holl yswirwyr a hefyd rhai broceriaid sy’n gyfrifol am ddylunio cynhyrchion.

36. Os yw broceriaid yn gyfrifol am ddosbarthu cynhyrchion, rhaid iddynt sicrhau bod y comisiwn a thaliadau eraill y maent yn eu cael yn rhoi gwerth teg i gwsmeriaid (h.y. mae perthynas resymol rhwng y taliadau y maent yn eu cael a’r buddion y maent yn eu rhoi i gwsmeriaid).

37. Ar hyn o bryd mae hyn yn berthnasol i froceriaid yn y DU, ond nid i’r holl rydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo, ac nid i’r holl weithgareddau sy’n gysylltiedig ag yswiriant y bydd rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo yn cael cydnabyddiaeth ariannol amdanynt.

38. Mae’r cwestiynau isod yn gofyn am farn ynghylch a ddylai’r diffiniad o ffioedd yswiriant a ganiateir a nodir mewn is-ddeddfwriaeth gynnwys meini prawf sy’n ymwneud â gwerth teg.

Cwestiwn 13

A ydych chi’n ystyried bod y fframwaith presennol ar gyfer herio taliadau gwasanaeth afresymol - fel Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985 - yn ddigonol i sicrhau, os yw rhydd-ddeiliaid neu asiantiaid rheoli eiddo yn codi costau yswiriant sydd wedi’u heithrio ar lesddeiliaid, y gellid eu herio ac y byddai unrhyw ffioedd yswiriant a ganiateir yn gymesur? [Ydw / Nac Ydw]

Rhowch eich rhesymau os gwelwch yn dda [Agored]

Cwestiwn 14

A ydych chi’n credu y dylai ffi yswiriant a ganiateir - sut bynnag y’i cyfrifir - fod yn destun meini prawf ychwanegol i sicrhau ei bod yn gymesur ac yn deg, ynteu a fyddai’r “prawf rhesymoldeb” a nodir yn Neddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985 yn ddigonol? [Ydw / Nac Ydw]

Cwestiwn 15

Pe byddai meini prawf ychwanegol yn cael eu cynnwys yn y diffiniad o ffioedd a ganiateir i sicrhau cydnabyddiaeth ariannol deg a chymesur ar gyfer gweithgareddau gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo, pa feini prawf ydych chi’n meddwl fyddai’n fwyaf effeithiol a sut y gellid eu cyfrifo?

  • Dylai pris ffioedd a ganiateir am wasanaethau a delir gan y lesddeiliad roi gwerth teg i lesddeiliaid [Agored]
  • Dylai pris ffioedd a ganiateir am wasanaethau a delir gan y lesddeiliad fod â pherthynas resymol â’r buddion a ddarperir, gan ystyried y costau yr eir iddynt wrth eu darparu [Agored]
  • Gellir dangos bod unrhyw wrthdaro buddiannau gyda phartïon cysylltiedig yn y gadwyn cyflenwi yswiriant, megis y brocer, wedi cael ei ystyried [Agored]
  • Arall: nodwch feini prawf amgen / ychwanegol [Agored]

Cwestiwn 16

Pe byddai’r meini prawf ychwanegol y cyfeiriwyd atynt uchod yn cael eu gosod ar ffioedd a ganiateir i sicrhau cydnabyddiaeth ariannol deg a chymesur ar gyfer gweithgareddau gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo, pa dystiolaeth ddylai fod ei hangen i brofi hyn? Pa gostau neu heriau fyddai’n codi wrth gasglu a darparu’r dystiolaeth honno? Pa rai sy’n gostau gweithredu unigol a pha rai fyddai’n codi dro ar ôl tro? [Agored]

Rhan 4: Ystyriaethau Gweithredu

Effaith y pontio

39. Byddai ffi yswiriant a ganiateir, waeth sut y caiff ei diffinio, yn cynrychioli newid sylweddol yn y ffordd y mae rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn cael eu talu am eu gwasanaethau wrth reoli a threfnu yswiriant. Byddai’n golygu codi ffi benodol yn uniongyrchol ar lesddeiliaid.

Cwestiwn 17

Pa newidiadau, heriau a/neu gostau gweithredu ydych chi’n rhagweld y bydd landlordiaid, rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn eu hwynebu wrth symud o’r arferion presennol o ran cael cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer rheoli a threfnu yswiriant – fel rhannu comisiwn – i strwythur newydd o ffioedd a ganiateir ac a godir yn uniongyrchol ar lesddeiliaid? [Agored]

Effaith ar bremiymau a chostau yswiriant

40. Fel arfer, codir Treth Premiwm Yswiriant o 12% ar gomisiynau sy’n deillio o gaffael (h.y. trefnu a rheoli) yswiriant ar ran parti arall. Cynigir y byddai’n ofynnol i reolwyr eiddo a rhydd-ddeiliaid gynnwys y gwasanaeth o drefnu a rheoli yswiriant fel rhan o gyflenwi eu gwasanaethau rheoli yn hytrach na chael comisiwn ar gyfer y gwasanaeth hwn. Os ydynt wedi’u cofrestru at ddibenion TAW, gallai’r gwaith hwn o gyflenwi gwasanaethau rheoli fod yn ddarostyngedig i’r gyfradd TAW safonol (ar 20%), yn amodol ar reolau arferol.

41. Mae lesddeiliaid wedi mynegi pryderon am ddulliau eraill a ddefnyddir gan rydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo i gipio elw mewn cadwyni cyflenwi yswiriant. Er enghraifft, trwy ddefnyddio cwmnïau yswiriant a chwmnïau ailyswirio “caeth”.

Cwestiwn 18

A ydych yn rhagweld y bydd ffi yswiriant a ganiateir i dalu cydnabyddiaeth ariannol i asiantiaid rheoli eiddo a rhydd-ddeiliaid yn arwain at gostau yswiriant uwch neu is i lesddeiliaid? [Agored]

Cwestiwn 19

Pa effaith y bydd dileu’r gallu i rannu comisiwn gyda rhydd-ddeiliaid ac asiantiaid rheoli eiddo yn ei chael ar y comisiynau cyffredinol y mae broceriaid yn eu cael? [Agored]

Cwestiwn 20

Pa effaith y bydd dileu rhannu comisiwn yn ei chael ar bremiymau yswiriant yn ehangach? [Agored]

Cwestiwn 21

Os ydych chi’n rhydd-ddeiliad neu’n asiant rheoli eiddo, sut ydych chi ar hyn o bryd yn strwythuro eich gwasanaethau sy’n ymwneud â threfnu a rheoli yswiriant? [Agored]

Cwestiwn 22

A ydych yn rhagweld y gallai rhoi’r gorau i gomisiynau ar sail canrannau fel cydnabyddiaeth ariannol arwain at ffyrdd amgen o sicrhau elw mewn perthynas â threfnu a rheoli yswiriant? [Ydw / Nac Ydw]

Os ydych – beth ydyn nhw? [Agored]

Effaith ar yr amgylchedd a nodweddion gwarchodedig

42. Yn ogystal â’r cwestiynau dylunio polisi mwy penodol uchod, rydym yn awyddus i ddeall yr effaith ganfyddedig mewn amrywiaeth o feysydd.

43. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi sylw dyladwy i’r angen i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng gwahanol grwpiau. Mae’r cwestiynau canlynol yn gofyn am farn ynghylch effeithiau posibl ar y grwpiau hynny.

Cwestiwn 23

A ydych yn credu y gallai unrhyw un o’r cynigion a gyflwynwyd effeithio’n negyddol neu’n gadarnhaol ar unigolion sydd â nodwedd warchodedig? Esboniwch eich rhesymeg, a rhowch dystiolaeth o’ch safbwynt lle bo hynny’n bosibl.

[Ydw/Nac ydw] Oed

[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg

[Ydw / Nac Ydw] Anabledd

[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg

[Ydw / Nac Ydw] Rhyw

[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg

[Ydw / Nac Ydw] Ailbennu rhywedd

[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg

[Ydw / Nac Ydw] Priodas neu bartneriaeth sifil

[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg

[Ydw / Nac Ydw] Beichiogrwydd a mamolaeth

[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg

[Ydw / Nac Ydw] Hil (lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol)

[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg

[Ydw / Nac Ydw] Crefydd neu Gred

[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg

[Ydw / Nac Ydw] Cyfeiriadedd rhywiol

[Os Ydw] Esboniwch eich rhesymeg

44. Sefydlodd Deddf yr Amgylchedd 2021 ddyletswydd gyfreithiol i roi sylw dyledus hefyd i bum Egwyddor Amgylcheddol. Eu pwrpas yw atal difrod amgylcheddol a gwella’r amgylchedd. Rydym yn awyddus i glywed barn am unrhyw effeithiau amgylcheddol canfyddedig yn sgil y polisi hwn.

Cwestiwn 24

A ydych yn rhagweld unrhyw effeithiau amgylcheddol yn sgil y polisi hwn, naill ai’n gadarnhaol neu’n negyddol? [Ydw / Nac Ydw]

[Os ydw] Ymhelaethwch, os gwelwch yn dda. Sut y gellid manteisio i’r eithaf ar effeithiau cadarnhaol neu liniaru neu leihau effeithiau negyddol?

45. Rydym yn awyddus i ddeall unrhyw effeithiau disgwyliedig ar y system gyfiawnder o ganlyniad i’r polisi hwn. Mae’n bwysig ystyried yr effeithiau hyn er mwyn sicrhau na cheir effaith negyddol ar ddarpariaeth gwasanaeth o fewn y system gyfiawnder.

Cwestiwn 25

A ydych yn rhagweld y byddai’r polisi hwn yn debygol o effeithio ar y system farnwrol? Gallai’r enghreifftiau gynnwys cynnydd neu ostyngiad mewn ceisiadau i’r llysoedd neu dribiwnlysoedd, cynyddu hyd neu gymhlethdod achosion, a gofynion newydd ar recriwtio neu hyfforddi barnwrol. [Ydw / Nac Ydw]

[Os Ydw] Ymhelaethwch, os gwelwch yn dda

Cwestiwn 26

A ydych yn rhagweld y byddai’r polisi hwn yn effeithio’n anghymesur ar awdurdodau lleol? [Ydw / Nac Ydw]

[Os felly] Ymhelaethwch, os gwelwch yn dda.

Gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr

46. Mae’r pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth yn yr ymgynghoriad hwn yn cael eu harfer gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr a chan Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru. Mae gan ein llywodraethau ddiddordeb mewn deall a oes gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr a allai olygu bod gwerth mewn cael dull gwahanol o wneud rheolau newydd ynghylch y ffioedd yswiriant a ganiateir ym mhob gwlad. Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn ein cynorthwyo i ddeall pa arferion a allai fod yn wahanol ym mhob gwlad, ac felly a oes angen dull gweithredu gwahanol.

Cwestiwn 27

Os ydych chi’n lesddeiliad, lle mae eich eiddo wedi’i leoli? [Cymru / Lloegr / Rwy’n berchen ar eiddo yn y ddwy wlad]

Cwestiwn 28

Os ydych chi’n asiant rheoli eiddo, rhydd-ddeiliad, brocer, yswiriwr neu barti arall â diddordeb, ble mae’r eiddo rydych chi’n delio ag ef wedi’i leoli? [Cymru / Lloegr / Y ddwy wlad]

Cwestiwn 29

A ydych chi’n ymwybodol o unrhyw wahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr o ran gweithrediad yswiriant adeiladau ar gyfer adeiladau preswyl amlfeddiannaeth? [Ydw / Nac Ydw]

[Os Ydw] Ymhelaethwch, os gwelwch yn dda [Agored]

Cwestiwn 30

Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y cynigion hyn ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. [Agored]

A ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol? [Agored]

A ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol? [Agored]

Cwestiwn 31

Yn eich barn chi, a oes modd llunio’r cynigion hyn neu eu newid er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu ragor o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg? [Oes / Nac oes]

[Os Oes] Ymhelaethwch os gwelwch yn dda [Agored]

Cwestiwn 32

Yn eich barn chi, a oes modd llunio’r cynigion hyn neu eu newid er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg? [Oes / Nac oes]

[Os Oes] Ymhelaethwch, os gwelwch yn dda [Agored]

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

Cynlluniwyd y ddogfen ymgynghori a’r broses ymgynghori hon i gadw at yr Egwyddorion Ymgynghori a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Cabinet.

Gofynnir i grwpiau cynrychioliadol roi crynodeb o’r bobl a’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli a, lle bo’n berthnasol, pwy arall y maent wedi ymgynghori â nhw wrth ddod i’w casgliadau pan fyddant yn ymateb.

Gall gwybodaeth a ddarperir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn gael ei chyhoeddi neu ei datgelu yn unol â’r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (sef, yn bennaf, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a deddfwriaeth diogelu data’r DU). Mewn rhai amgylchiadau, gall hyn felly gynnwys data personol, lle bo hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Os ydych chi am i’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol fod yr Adran, fel awdurdod cyhoeddus, wedi’i rhwymo gan y cyfundrefnau mynediad at wybodaeth ac felly efallai y bydd yn ofynnol iddi ddatgelu’r holl wybodaeth neu rywfaint o’r wybodaeth a roddwch. O ystyried hyn, byddai’n ddefnyddiol pe gallech esbonio wrthym pam eich bod yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn gyfrinachol. Os byddwn yn cael cais i ddatgelu’r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cynnal cyfrinachedd o dan bob amgylchiad. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ynddo’i hun, yn cael ei ystyried yn rhwymol ar yr Adran.

Bydd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol bob amser yn prosesu eich data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data’r DU ac, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon. Mae hysbysiad preifatrwydd llawn wedi’i gynnwys isod.

Ni fydd ymatebion unigol yn cael eu cydnabod oni bai y gofynnir am hynny yn benodol.

Mae eich barn yn werthfawr i ni. Diolch am gymryd yr amser i ddarllen y ddogfen hon ac ymateb.

A ydych chi’n fodlon bod yr ymgynghoriad hwn wedi dilyn yr Egwyddorion Ymgynghori?   Os nad ydych yn fodlon, neu os oes gennych unrhyw sylwadau eraill am sut y gallwn wella’r broses, cysylltwch â ni drwy’r weithdrefn gwyno.

Data personol

Mae’r paragraffau canlynol yn egluro’ch hawliau ac yn rhoi’r wybodaeth y mae gennych hawl iddi o dan ddeddfwriaeth diogelu data’r DU.

Noder bod yr adran hon yn cyfeirio at ddata personol yn unig (eich enw, manylion cyswllt ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud yn bersonol â chi neu unigolyn arall a enwir neu sy’n adnabyddadwy), nid at gynnwys eich ymateb i’r ymgynghoriad fel arall.

1. Manylion y rheolydd data a manylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data   

Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol  yw’r rheolydd data. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data yn dataprotection@communities.gov.uk neu drwy ysgrifennu i’r cyfeiriad canlynol:

Data Protection Officer
Ministry of Housing, Communities and Local Government
Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

2. Pam rydyn ni’n casglu eich data personol  

Mae eich data personol yn cael ei gasglu fel rhan hanfodol o’r broses ymgynghori, fel y gallwn gysylltu â chi ynghylch eich ymateb ac at ddibenion ystadegol. Efallai y byddwn hefyd yn ei ddefnyddio i gysylltu â chi am faterion cysylltiedig.

Byddwn yn casglu eich cyfeiriad IP os byddwch yn cwblhau ymgynghoriad ar-lein. Efallai y byddwn yn defnyddio hwn i sicrhau mai dim ond unwaith y bydd pob person yn cwblhau arolwg. Ni fyddwn yn defnyddio’r data hwn at unrhyw ddiben arall.

Mathau sensitif o ddata personol

Peidiwch â rhannu data personol categori arbennig neu ddata troseddau os nad ydym wedi gofyn am hyn oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol at ddibenion eich ymateb i’r ymgynghoriad. Wrth gyfeirio at ‘ddata personol categori arbennig’ rydym yn golygu gwybodaeth am:

  • hil
  • tarddiad ethnig
  • barn wleidyddol
  • credoau crefyddol neu athronyddol
  • aelodaeth undeb llafur
  • geneteg
  • biometreg  
  • iechyd (gan gynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag anabledd)
  • bywyd rhywiol; neu
  • gyfeiriadedd rhywiol

unigolyn byw.

Wrth gyfeirio at ‘ddata troseddau’ rydym yn golygu gwybodaeth sy’n ymwneud ag euogfarnau neu droseddau unigolyn byw neu fesurau diogelwch cysylltiedig.

3. Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Mae casglu eich data personol yn gyfreithlon o dan erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gan ei fod yn angenrheidiol er mwyn i MHCLG gyflawni tasg er budd y cyhoedd/wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd data. Mae Adran 8(d) Deddf Diogelu Data 2018 yn datgan y bydd hyn yn cynnwys prosesu data personol sy’n angenrheidiol ar gyfer arfer swyddogaeth y Goron, Gweinidog y Goron neu un o adrannau’r llywodraeth h.y. ymgynghoriad yn yr achos hwn.

4. Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data personol

Gall MHCLG benodi ‘prosesydd data’, yn gweithredu ar ran yr Adran ac o dan ein cyfarwyddyd, i helpu i ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn. Lle byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn sicrhau bod y gwaith prosesu ar eich data personol yn parhau i fod yn gwbl unol â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data.

5. Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol, neu’r meini prawf a ddefnyddir i benderfynu ar y cyfnod cadw

Caiff eich data personol ei gadw am ddwy flynedd ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, oni bai ein bod yn canfod cyn hynny nad oes angen parhau i’w gadw.

6. Eich hawliau, e.e. cyrchu, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu

Eich data personol yw’r data rydym yn ei gasglu, ac mae gennych lais sylweddol o ran yr hyn sy’n digwydd iddo. Mae gennych yr hawliau canlynol:

a. gweld pa ddata sydd gennym amdanoch chi

b. gofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio’ch data, ond i gadw cofnod ohono

c. gofyn i’ch data gael ei gywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn

d. gwrthwynebu ein defnydd o’ch data personol o dan rai amgylchiadau

e. cyflwyno cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth annibynnol (ICO) os ydych yn meddwl nad ydym yn trin eich data yn deg neu’n unol â’r gyfraith.  Gallwch gysylltu â’r ICO trwy https://ico.org.uk/, neu trwy ffonio 0303 123 1113.

Cysylltwch â ni yn y cyfeiriad canlynol os hoffech arfer yr hawliau a restrir uchod, ac eithrio’r hawl i gyflwyno cwyn i’r ICO: dataprotection@communities.gov.uk neu’r

Knowledge and Information Access Team
Ministry of Housing, Communities and Local Government
Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

7. Ni fydd eich data personol yn cael ei anfon dramor

8. Ni fydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw benderfyniadau awtomataidd

9. Caiff eich data personol ei storio yn system TG ddiogel y llywodraeth

Rydym yn defnyddio prosesydd trydydd parti, Citizen Space, i gasglu ymatebion i’r ymgynghoriad. Yn y lle cyntaf, bydd eich data personol yn cael ei storio ar eu gweinydd diogel yn y DU. Bydd eich data personol yn cael ei drosglwyddo i system TG ddiogel y llywodraeth cyn gynted â phosibl, a chaiff ei storio yno am ddwy flynedd cyn ei ddileu.