Ymgynghoriad ar y Cynllun Rheoli Pysgodfa arfaethedig ar gyfer Cregyn y Brenin
Llwytho'r canlyniad llawn i lawr
Manylion am y canlyniad
Cawsom 43 o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymateb i’r safbwyntiau a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad.
Rydym bellach wedi cyhoeddi’r cynllun rheoli pysgodfeydd cregyn y brenin, fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Pysgodfeydd 2020 ac fel y nodir yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym eisiau gwybod beth yw eich barn chi am y polisïau a’r mesurau rheoli arfaethedig a nodir yng Nghynllun Rheoli Pysgodfa (FMP) ar gyfer Cregyn y Brenin yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Mae’r Cynllun Rheoli Pysgodfa arfaethedig wedi cael ei ddatblygu gan Defra a Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Gweithgor Grŵp Ymgynghori’r Diwydiant Cregyn Bylchog (SICGWG).
Mae’r FMP hwn yn nodi cynlluniau ar gyfer rheoli stociau cregyn y brenin yn gynaliadwy yn nyfroedd Cymru a Lloegr. Mae hefyd yn ceisio sicrhau bod manteision pysgota Cregyn bylchog yn y tymor hir yn gallu cael eu gwireddu gan y cymunedau sy’n dibynnu arnynt.
Rydym hefyd yn gofyn am farn ar adroddiad amgylcheddol, sy’n disgrifio effeithiau amgylcheddol tebygol Cynllun Rheoli Pysgodfa ar gyfer Cregyn y Brenin.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 December 2023 + show all updates
-
Ychwanegwyd crynodeb o'r ymatebion ac ymateb y llywodraeth.
-
First published.