Crynodeb o'r ymatebion ac ymateb y llywodraeth
Updated 14 December 2023
Cyflwyniad
Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad cyhoeddus i gynllun rheoli pysgodfeydd (FMP) draenogiaid môr (Dicentrarchus labrax) Cymru a Lloegr ar y cyd, a gynhaliwyd rhwng 17 Gorffennaf a 1 Hydref 2023, ac mae’n nodi ymateb y llywodraeth.
Cynhaliwyd ymgynghoriadau ar yr un pryd ar 5 FMP arall, a phedwar cynllun Lloegr yn unig. Mae nifer o themâu eang, trawsbynciol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, sy’n berthnasol i bob FMP, hefyd yn cael sylw yn y ddogfen hon.
Mae tair prif ran i’r ddogfen hon:
- Cyflwyniad – cyd-destun a throsolwg lefel uchel o’r ymgynghoriad
- Crynodeb o’r ymatebion – crynodebau o themâu a sylwadau a gafwyd fel rhan o’r ymgynghoriad
- Ymateb y Llywodraeth – yn nodi ymateb a bwriadau’r llywodraeth
Rhennir crynodeb o’r ymatebion ac ymateb y llywodraeth yn adrannau ar wahân sy’n cwmpasu’r FMP a’r adroddiad amgylcheddol cysylltiedig.
Fel y nodwyd yn yr ymgynghoriad, mae gan y DU rai o’r adnoddau bwyd môr gwyllt gorau yn y byd. Mae ein stociau pysgod yn ased cyhoeddus sy’n cynhyrchu bwyd, mwynhad hamdden ac yn creu swyddi mewn sector sydd ag ymdeimlad cryf o hunaniaeth a balchder yn ei gymunedau. Mae’r stociau hyn yn rhan hanfodol o’n ecosystemau morol a’n cyfalaf naturiol.
Mae llawer o’n stociau pysgod o dan bwysau o bysgota a newid yn yr hinsawdd. Gall pysgota hefyd gael effaith negyddol ar yr ecosystem forol, er enghraifft trwy sgil-ddalfa ddamweiniol neu effeithiau offer pysgota ar wely’r môr. Felly, mae’n bwysig ystyried holl effeithiau pysgota fel rhan o’n gwaith rheoli cyffredinol ar yr amgylchedd morol.
Mae FMPs ymhlith gofynion Deddf Pysgodfeydd 2020 (‘y Ddeddf’). Mae’r Cynllun Gwella Amgylcheddol (EIP) ar gyfer Lloegr 2023 hefyd yn nodi rôl bwysig FMPs wrth reoli ein stociau pysgod a physgod cregyn yn gynaliadwy. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy’n darparu fframwaith ailadroddol i sicrhau bod rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ystyriaeth graidd wrth wneud penderfyniadau. Yn ganolog i Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) mae’r angen i fabwysiadu dull newydd, mwy integredig o reoli adnoddau naturiol Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.
Mae FMPs yn asesu statws stociau ac yn nodi polisïau a chamau gweithredu i adfer stociau i lefelau cynaliadwy neu eu cadw ar lefelau cynaliadwy. Fel y nodir yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd (JFS), lle bo’n briodol, bydd y cynlluniau hyn yn cyfrannu at amcanion ehangach o dan y Ddeddf.
Mae’r FMP draenogiaid y môr wedi’i baratoi a’i gyhoeddi i gydymffurfio â gofynion y JFS ac
adran 6 y Ddeddf. Wrth ei baratoi, rhoddwyd sylw i’r canlynol:
- y Cynlluniau Morol presennol (yn unol â’r gofyn yn adran 58(3) MCAA)
- yr Egwyddorion Amgylcheddol (yn unol â’r gofyn yn adran 17(5)(a-e) ac 19(1) Deddf yr Amgylchedd 2021)
- y gofyn am asesiad amgylcheddol strategol o dan Reoliadau
Mae’r cynllun yn gynllun ar y cyd â Llywodraeth Cymru; y mae felly wedi’i baratoi a’i gyhoeddi i gydymffurfio â:
- Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (adran 6(1))
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (adrannau 3-5)
- Rheoliadau Asesiad Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004
Cefndir yr ymgynghoriad
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar yr FMP draenogiaid y môr a’r adroddiad amgylcheddol am 11 wythnos rhwng 17 Gorffennaf a 1 Hydref 2023.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad gan ddefnyddio Citizen Space (un o offer ymgynghori ar-lein llywodraethlywodraeth y DU), drwy e-bost a thrwy gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ar- lein ac wyneb yn wyneb. Mae’r dadansoddiad a roddir yn y crynodeb hwn yn seiliedig ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad a ddarparwyd trwy’r holl sianeli hyn.
Trosolwg o’r ymatebion
Cafwyd 255 o ymatebion uniongyrchol i gyd i’r ymgynghoriad; cyflwynwyd 188 trwy arolwg
ar-lein Citizen Space a 67 drwy e-bost. Roedd yr ymatebion yn cynnwys:
- 137 (54%) o’r sector pysgota môr hamdden
- 44 (17%) o gynrychiolwyr o’r sector dal a chynhyrchu
- 28 (11%) gan unigolion
- 29 (11%) o sectorau eraill
- 8 (3%) o grwpiau buddiant
- 2 (1%) o’r sector gwyddoniaeth acymchwil
- 1 (1%) o’r sector diwydiant morol
- 6 (2%) sector heb ei ddatgan
Allan o 255 o ymatebion, roedd 108 yn rhan o ddau wahanol ymateb cydlynol. Er bod ymatebion unigol wedi’u cofnodi, rydym wedi dileu dyblygu o’r dadansoddiad cyffredinol.
Roedd rhanddeiliaid a ddewisodd ‘Sectorau eraill’ yn cynnwys Awdurdodau Pysgodfeydd a Chadwraeth y Glannau (IFCAs), cyrff cyhoeddus, llywodraethau eraill, a chyrff anllywodraethol amgylcheddol (eNGOs). Fodd bynnag, roedd rhywfaint o groesi gyda’r categori ‘grŵp buddiant’, gyda rhai o’r un grwpiau rhanddeiliaid yn dewis yr opsiwn hwn yn lle. Nodir rhestr o sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn Atodiad 1.
Buom hefyd yn ymgysylltu â thros 300 o bobl mewn 23 o gyfarfodydd wyneb yn wyneb lle cafodd rhanddeiliaid y cyfle i drafod yr FMP draenogiaid y môr drafft. Mae rhestr o leoliadau cyfarfod wedi’i chynnwys yn Atodiad 2.
Defnyddiwyd cyfarfodydd ar-lein hefyd i gasglu barn gan ystod eang o sectorau a rhanddeiliaid gan gynnwys y sector dal, y gadwyn gyflenwi ehangach, cyrff anllywodraethol, gwyddonwyr, y byd academaidd, swyddogion yr UE i’r DU, ac eraill â buddiant mewn rheoli pysgodfeydd.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddau ddigwyddiad ar-lein ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghymru.
Defnyddiwyd y digwyddiadau ymgysylltu hyn fel dull ychwanegol ar gyfer ceisio a chofnodi barn ar yr FMP. Roedd y mewnbwn hwn yn arbennig o bwysig o ystyried yr adeg o’r flwyddyn (tymor pysgota’r haf) a nifer yr ymgynghoriadau pysgodfeydd domestig a gynhaliwyd. Cafodd safbwyntiau a sylwadau o’r cyfarfodydd hyn eu trin fel rhan o’r ymgynghoriad ac fe’u crynhoir isod.
Methodoleg
Oherwydd cwmpas eang yr FMP a natur ansoddol ymatebion, cynhaliwyd dadansoddiad yn seiliedig ar themâu’r ymatebion. Gan ddefnyddio dull ailadroddol, dadansoddwyd pob ymateb ddwywaith i nodi’r pynciau a godwyd gan randdeiliaid ac argymhellion polisi a gyflwynwyd. Rydym wedi crynhoi pob ymateb, a ddefnyddiwyd i gynhyrchu’r crynodeb cyffredinol o’r ymatebion a amlinellir isod.
Nodwyd sylwadau a safbwyntiau mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein. Croeswiriwyd y nodiadau hyn ac yna fe’u dadansoddwyd gan ddefnyddio’r un broses ailadroddol. Mae safbwyntiau o’r digwyddiadau ymgysylltu hyn wedi’u cynnwys yn y crynodeb isod ac fe’u hystyriwyd yn gyfartal ochr yn ochr â’r ymatebion e-bost ac ar-lein.
Y prif negeseuon
Mae’r ffaith y cafwyd cynifer o ymatebion i ymgynghoriad yr FMP draenogiaid y môr yn dangos pwysigrwydd y rhywogaeth hon i amrywiaeth eang o randdeiliaid ledled Cymru a Lloegr, ac yn adleisio’r lefelau uchel o ymgysylltu â cham y rhanddeiliaid ym mhroses datblygu FMP draenogiaid y môr o dan ofal Policy Lab amlddisgyblaethol yr Adran Addysg. Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn adlewyrchu gwahaniaeth barn ac weithiau blaenoriaethau croes y rhai sydd â buddiant mewn pysgota draenogiaid môr.
Mae’r FMP draenogiaid y môr yn ceisio cydbwyso’r pryderon a’r blaenoriaethau hyn drwy amlinellu cynllun i ddatblygu dull rheoli gwell sy’n cyflawni ar gyfer rhanddeiliaid gan sicrhau cynaliadwyedd stociau. Er bod y stoc draenogiaid môr wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf a’i bod ar hyn o bryd yn cael ei physgota o fewn terfynau cynaliadwy, rydym yn cydnabod ei bod yn parhau i fod yn stoc fregus gyda recriwtio yn dal i fod yn isel a llai o gyngor y Cyngor Rhyngwladol ar gyfer Archwilio’r Môr (ICES) ar gyfer 2024. Mae’r FMP draenogiaid y môr yn ymrwymo i sicrhau bod pwysau pysgota yn parhau i fod o fewn terfynau cynaliadwy sy’n cyd-fynd â chyngor gwyddonol ICES (o fewn cyfyngau hyder o 95%).
Mae’r FMP draenogiaid y môr yn rhoi mwy o ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth wraidd ein dull o reoli stoc yn y dyfodol gyda sefydlu grŵp (neu grwpiau) rheoli draenogiaid môr, fel y gall rhanddeiliaid barhau i gymryd rhan wrth ddechrau cyfnod gweithredu’r FMP. Byddwn yn ceisio sicrhau bod y rhai sydd â buddiant yn y bysgodfa draenogiaid môr yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y grŵp rheoli, ac rydym yn croesawu parodrwydd llawer o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad i fod yn rhan o’r broses. Fodd bynnag, bydd hefyd yn bwysig cadw’r grŵp (neu grwpiau) i faint hydrin, er mwyn cefnogi cydweithio effeithiol.
Bydd llawer o’r safbwyntiau a fynegwyd gan randdeiliaid i’r ymgynghoriad hwn yn cael eu crisialu o fewn yr adolygiadau amrywiol o fesurau rheoli yn yr FMP draenogiaid y môr.
Bydd hyn yn cynnwys adolygiadau o’r canlynol:
- y terfynau maint mwyaf priodol (megis maint cyfeirio cadwraeth lleiaf (MCRS) neu feintiau slot
- tymhorau cau ar gyfer y stoc, o reoliad rhwydo ar y tir a’r lan ’
- y system awdurdodi gyfredol
Er enghraifft, bydd yr adolygiad o’r system awdurdodi yn ystyried pwy ddylai allu glanio draenogiaid môr, pa fathau o offer y dylid eu defnyddio, ac a oes angen gwelliannau i’r ffordd y mae’r broses awdurdodi yn gweithio ac yn cael ei gorfodi.
I gydnabod pwysigrwydd y mater hwn i lawer o randdeiliaid, bydd yr adolygiad rhwydo yn cael ei ddwyn ymlaen i fod yn flaenoriaeth tymor byr. Bydd yn ceisio sicrhau bod mesurau amddiffyn digonol ar waith i leihau sgil-ddalfa rhywogaethau sensitif a physgod mudol sy’n gysylltiedig â rhwydo, gan gwtogi ar sgil-ddal a thaflu draenogiaid môr marw.
Byddwn hefyd yn cyflwyno camau gweithredu ar ddatblygu addasiadau offer ar gyfer rhwydi a threillrwydi i gwtogi ar sgil-ddalfa a physgod a daflir, a allai gynnwys ystyried meintiau rhwyll priodol yn ogystal â defnyddio technolegau priodol eraill i leihau sgil-ddalfa. Er bod llawer o randdeiliaid wedi galw am gyflwyno isafswm maint rhwyll i wella detholusrwydd offer, nodwn fod maint rhwyll lleiaf 100mm eisoes ar waith ar gyfer pysgotwyr sy’n glanio sgil-ddalfa draenogiaid môr. Byddwn yn diweddaru canllawiau priodol i adlewyrchu hyn yn well.
Ymhellach, byddwn yn cyflwyno camau gweithredu ar gynhyrchu canllawiau trin pysgod ac ar sicrhau mwy o gysondeb ac eglurder o ran y dull gweithredu rhwng rheoleiddwyr er mwyn cydymffurfio’n well â rheoliadau draenogiaid môr.
Rydym yn nodi galwadau gan y sector hamdden am strategaeth gynaeafu amgen ar gyfer draenogiaid môr i gymryd lle cynnyrch cynaliadwy mwyaf (MSY). Mae adolygu strategaethau amgen ymhlith y nodau tymor canolig i hir yn yr FMP o hyd. Mae angen mwy o dystiolaeth i benderfynu sut y byddai strategaethau cynaeafu amgen yn gweithio ar gyfer y stoc draenogiaid môr yn ymarferol, a sut y byddai unrhyw newidiadau posibl yn effeithio ar bysgotwyr. Ymhellach, bydd ymarfer meincnodi draenogiaid môr parhaus ICES yn diweddaru’r modelau sy’n sail i asesiadau stoc draenogiaid môr a gall newid sut y cynhyrchir cyngor gwyddonol. Fel stoc a rennir, byddai angen cydweithio rhyngwladol parhaus ar strategaethau cynaeafu hefyd i gyflawni’r manteision llawn.
Mae llawer o bysgotwyr hamdden wedi galw am gyflwyno cyfnodau cau amser real fel blaenoriaeth tymor byr i ddiogelu’r stoc draenogiaid môr. Ond ni chafwyd esboniad clir sut y dylai hyn weithio ar lefel ymarferol na thystiolaeth o beth fyddai’r effeithiau ar wahanol bysgotwyr. Byddai cyflwyno cyfnodau cau amser real yn gofyn am y sail dystiolaeth hon er mwyn diwygio’r fframwaith gorfodi, felly mae’n fwy priodol eu hystyried yn y tymor canolig i hir.
Bydd y Datganiad Tystiolaeth (Atodiad 1) a gyhoeddir gyda FMP drafft yr ymgynghoriad yn cael ei ddiweddaru a’i ailgyhoeddi tua dechrau 2024. Bydd yn cynnwys y bwlch tystiolaeth a nodwyd yn yr ymgynghoriad ar ddeall proffil oedran neu faint y stoc draenogiaid môr.
Rydym yn cydnabod bod angen rhagor o waith i ddeall pwysigrwydd a chyfraniadau ardaloedd meithrin draenogiaid môr i’r boblogaeth llawn dwf, a fyddai’n helpu i lywio penderfyniadau ar fesurau rheoli yn y dyfodol.
Crynodeb o’r ymatebion i gwestiynau’r FMP
Fel rhan o’r ymgynghoriad, gofynnwyd saith cwestiwn i randdeiliaid trwy Citizen Space a oedd yn caniatáu iddynt fynegi eu barn ar gynnwys yr FMP draenogiaid y môr arfaethedig. Dangosir crynodeb o’r ymatebion i’r saith cwestiwn hyn isod. Mae ymatebion e-bost a safbwyntiau o gyfarfodydd arfordirol hefyd wedi llywio’r adran hon.
Cwestiwn 1: A oes gennych unrhyw sylwadau ar y broses ar gyfer datblygu’r FMP draenogiaid y môr?
Croesawodd rhanddeiliaid broses ddatblygu FMP draenogiaid y môr, gan gynnwys y dull newydd a ddefnyddiwyd gan Policy Lab a’r digwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Fodd bynnag, codwyd pryderon ynghylch hyd, maint a chymhlethdod y deunydd yr ymgynghorwyd yn ei gylch, yn ogystal â rhai o’r lleoliadau a ddewiswyd ar gyfer digwyddiadau ymgysylltu. Cafwyd cryn gefnogaeth gan randdeiliaid pysgota hamdden ar gyfer camau cychwynnol y broses ymgysylltu â rhanddeiliaid, ond roedd llawer yn teimlo nad oedd yr allbynnau o’r cam hwn wedi’u hadlewyrchu yn y FMP terfynol, gan gredu ei fod yn canolbwyntio gormod ar y sector masnachol. Awgrymodd eraill y buasai dull mwy lleol a rhanbarthol o gasglu tystiolaeth ac ymgysylltu yn fuddiol.
Defnyddiodd llawer o randdeiliaid y cwestiwn hwn i gyflwyno eu barn ar ddulliau rheoli posibl y dyfodol. Er bod rhai yn cefnogi’r dull rheoli draenogiaid môr presennol, roedd awgrymiadau eraill a gyflwynwyd yn cynnwys, er enghraifft, cefnu ar ddefnyddio’r MSY o blaid y cynnyrch economaidd mwyaf (MEY), cynyddu’r MCRS, cyflwyno meintiau slot, newid y system hawlio a chyflwyno system gwota (gweler cwestiwn 4 a 5 am drafodaeth bellach ar fesurau rheoli). Roedd galwadau hefyd am orfodi cryfach i fynd i’r afael â physgota Anghyfreithlon ac Anrheoleiddiedig nas Hysbysir amdano (IUU).
Cwestiwn 2: Beth yw eich barn ar y dystiolaeth a gyflwynwyd ar gyflwr presennol stociau draenogiaid môr yn nyfroedd Cymru a Lloegr ac a allwch chi ddarparu unrhyw dystiolaeth ychwanegol sy’n cefnogi ein tystiolaeth ni neu sy’n wahanol iddi?
Nododd nifer fach o randdeiliaid fod y dull seiliedig ar dystiolaeth wedi’i gyflwyno’n dda ac wedi tynnu sylw’n briodol at hyd a lled y bylchau mewn tystiolaeth o ran gwneud asesiad cywir o gyflwr presennol stociau draenogiaid môr yn nyfroedd Cymru a Lloegr.
Roedd barn gymysg gan y rhanddeiliaid ar draws pob sector a fynegodd eu profiad a sylwadau personol ar gyflwr stoc draenogiaid môr, gan awgrymu cynnydd a gostyngiad fel ei gilydd yn helaethrwydd y stoc. Awgrymodd rhai rhanddeiliaid o’r sector masnachol fod mwy o ddraenogiaid môr erbyn hyn ymhellach i’r gogledd, sef bwlch tystiolaeth yr oedd angen mynd i’r afael ag ef, a bod angen adolygiad pellach o reoli draenogiaid môr ar gyfer yr ardal hon. Awgrymwyd hefyd y dylid monitro pysgota hamdden yn well er mwyn gwella dealltwriaeth o’r niferoedd y mae’n eu tynnu o’r stoc yn gyffredinol.
Roedd llawer o randdeiliaid pysgota hamdden yn teimlo’n gryf nad oedd yr FMP yn cynrychioli’n gywir y dystiolaeth yn 2024 gan ICES fod biomas stoc silio yn isel, yn fregus ac islaw’r terfynau diogel. Nododd y rhanddeiliaid hyn hefyd fod ICES yn cynghori y dylai’r niferoedd a dynnir yn 2024 gael eu lleihau am fod niferoedd isel cyson o bysgod ifainc yn cael eu recriwtio i’r stoc llawn dwf mewn unrhyw flwyddyn benodol. Dywedon nhw hefyd fod yr MCRS 42cm wedi’i osod yn rhy isel i alluogi digon o bysgod i silio cyn eu tynnu.
Dywedon nhw hefyd nad yw’r FMP yn adlewyrchu’r corff sylweddol o dystiolaeth economaidd ar gyfer rheoli pysgodfa ar gyfer amcanion hamdden.
Cwestiwn 3: A ydych yn cytuno bod y nodau’n briodol ar gyfer blaenoriaethau rheoli domestig o fewn yr FMP draenogiaid y môr?
Er bod rhai rhanddeiliaid yn cytuno â’r nodau a gynigiwyd heb sylw pellach, awgrymodd llawer o randdeiliaid ddewisiadau amgen neu addasiadau. Roedd rhai awgrymiadau y dylai nodau’r FMP fod yn fwy uchelgeisiol a defnyddio iaith fwy penodol, yn enwedig Nod 4 ar gydymffurfiaeth.
Awgrymodd rhai rhanddeiliaid fod Nod 1 (strwythurau ymgysylltu â rhanddeiliaid cynhwysol i lywio’r gwaith o reoli’r bysgodfa draenogiaid môr) yn bwysig a bod angen iddo gynnwys pawb sydd â buddiant mewn draenogiaid môr, a phetai’n gytbwys ac effeithiol mai hwn fyddai’r ffordd ymlaen. Awgrymodd eraill, yn enwedig o’r sector hamdden, y dylai cynaliadwyedd fod yn ganolbwynt i’r FMP a’n nodau a bod angen gweithredu cryfach ar sgil-ddalfa i gynyddu detholusrwydd a lleihau dalfeydd diangen. Gwnaed awgrym am fwy o esboniad o’r data a sut y caiff ei ddefnyddio i lywio polisi, megis darparu rhesymeg dros y terfynau maint mwyaf priodol, tymhorau cau a mesurau detholusrwydd offer ac ati.
Nododd y rhan fwyaf o randdeiliaid pysgota hamdden nad oedd nod ar wahân i gefnogi datblygiad pysgodfa draenogiaid môr hamdden ‘o’r radd flaenaf’ ac i adfer y stoc i gynnal hyn, nac unrhyw gyfeiriad at hyn yn Nod 2 sy’n cyfeirio at fynediad teg. Dywedodd y
rhanddeiliaid hyn hefyd nad oedd yr FMP yn cynnwys gwybodaeth o arolygon blaenorol i gefnogi MEY a bod angen blaenoriaethu strategaethau cynaeafu amgen. Dywedodd yr un rhanddeiliaid eu bod yn teimlo bod yr FMP wedi tanseilio’r nodau ar gynaeafu cynaliadwy drwy anwybyddu cyngor ICES ar gyfer 2024. Dywedon nhw hefyd eu bod yn teimlo ei fod yn tanseilio’r nodau o amddiffyn draenogiaid môr ifainc a silio trwy ganiatáu i bysgotwyr masnachol dargedu heigiau silio a thrwy bheidio â mabwysiadu cyfnodau cau dros dro a meintiau rhwyll lleiaf.
Unwaith eto, defnyddiodd llawer o randdeiliaid y cwestiwn hwn hefyd i gyflwyno eu barn ar ddulliau rheoli posibl yn y dyfodol, megis cyfyngiadau rhwydo, cynyddu MCRS, newidiadau cau tymhorol i amddiffyn cydgasgliadau cyn-silio a gorfodi defnyddio monitro electronig o bell (REM) (gweler cwestiynau 4 a 5 i gael ymatebion pellach ar gamau gweithredu). Mynegwyd pryderon gan y sector dal ynglŷn â hyfywedd busnesau pysgota pe bai mwy o gyfyngiadau yn cael eu cyflwyno.
Cwestiwn 4: A ydych yn cytuno bod y camau gweithredu yn flaenoriaethau tymor byr priodol ar gyfer yr FMP draenogiaid y môr?
Roedd llawer o randdeiliaid yn gyffredinol gefnogol i’r camau tymor byr arfaethedig i gyflawni nodau’r FMP draenogiaid y môr. Yn benodol, roedd cefnogaeth i’r grŵp rheoli draenogiaid y môr (BMG), er bod nifer o randdeiliaid wedi nodi’r her o sicrhau bod buddiannau’n cael eu cynrychioli’n ddigonol a galw am fwy o eglurder ar sut y byddai’r grŵp (neu’r grwpiau) yn gweithredu. Nododd rhai rhanddeiliaid y dylai’r BMG gynnwys cynrychiolwyr amgylcheddol, fel cyrff anllywodraethol amgylcheddol, yn ogystal â’r rhai o’r diwydiant a rheoleiddwyr a gwyddonwyr. Awgrymodd nifer o randdeiliaid o’r sector dal y dylid rhoi blaenoriaeth i’r rhai y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar bysgota am ddraenogiaid môr yn y grŵp rheoli, tra bod eraill wedi amlygu pwysigrwydd cael y gynrychiolaeth yn gywir o fewn sectorau a rhyngddynt.
Cafwyd cefnogaeth gyffredinol i gynigion i wella’r sylfaen dystiolaeth, adolygu’r tymhorau cau mwyaf priodol a datblygu dulliau rheoli addasol yn y tymor byr. Fodd bynnag, awgrymodd un ymatebydd y dylid dad-flaenoriaethu casglu tystiolaeth gan roi’r ffocws tymor byr yn hytrach ar weithredu ar unwaith, ac y dylid peidio â blaenoriaethu symud cyfyngiadau dal i amodau trwydded. Nododd un arall fod angen mecanwaith deddfwriaethol cyfatebol ar gyfer y sector hamdden i alluogi addasu terfynau bagiau hamdden yn hyblyg yn unol â therfynau masnachol.
Roedd cefnogaeth i ymchwilio i ffyrdd posibl o leihau sgil-ddalfa a thafliadau draenogiaid môr fel blaenoriaeth tymor byr. Crybwyllodd nifer o randdeiliaid o’r sector dal, yn enwedig y rhai sy’n defnyddio cychod llai o faint, fod angen ailystyried y terfyn o 5% fesul taith ar gyfer treill-longau. Pwysleisiodd yr un rhanddeiliaid bod angen datblygu cysylltiadau tynnach agFMP rhywogaethau di-gwota dyfnfor Sianel Lloegr lle awgrymwyd bod pysgotwyr wedi glanio nifer fwy o rywogaethau di-gwota gwerth isel i aros o fewn terfyn 5% draenogiaid môr. Awgrymwyd hefyd gorfodi defnyddio’r ap Record Your Catch i gofnodi data taflu, ac estyn ei ddefnydd i bysgotwyr hamdden yn ogystal â rhai masnachol. Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid blaenoriaethu archwilio datblygiadau offer ar gyfer rhwydo a threillio i wella detholusrwydd, gan gynnwys cynyddu meintiau rhwyll, yn y tymor byr.
Bu nifer o randdeiliaid yn rhoi barn ar bwy ddylai gael eu hawdurdodi i bysgota’n fasnachol ar gyfer draenogiaid môr, ac roedd cefnogaeth i adolygu hyn yn y tymor byr. Ymhlith yr awgrymiadau roedd caniatáu i holl gychod y glannau lanio ychydig bach o ddraenogiaid môr i gwtogi ar daflu, a blaenoriaethu dulliau pysgota mwy cynaliadwy. Awgrymodd rhai rhanddeiliaid o’r sector hamdden y dylid gwahardd neu gyfyngu ar weithgarwch pysgota masnachol nes bod stociau draenogiaid môr wedi cynyddu’n sylweddol, gan awgrymu bod yr FMP a’r camau tymor byr yn canolbwyntio gormod ar fuddiannau masnachol. Roedd rhanddeiliaid eraill o’r sector dal yn credu bod yr FMP a’r camau gweithredu tymor byr wedi blaenoriaethu buddiannau hamdden yn annheg, ac yn lle hynny y dylai’r FMP hwyluso newidiadau rheoleiddio i gefnogi cychod y glannau a sicrhau eu hyfywedd economaidd.
Roedd galwadau gan y sector hamdden i ddwyn ymlaen yr adolygiad o gyfyngiadau maint priodol i’r tymor byr i hwyluso cynyddu’r MCRS neu gyflwyno meintiau slot. Roedd galwadau hefyd gan yr un rhanddeiliaid i ddwyn ymlaen cynhyrchu canllawiau trin ar gyfer pysgotwyr a defnyddio cyfnodau cau amser real i ddiogelu’r stoc. Bu rhai rhanddeiliaid, e.e. cyrff anllywodraethol amgylcheddol, yn annog y dylai’r ymrwymiadau ar REM gael eu dwyn ymlaen a’u cadarnhau i leihau risg sgil-ddal rhywogaethau sensitif. Roedd nifer o randdeiliaid hefyd yn teimlo bod angen ymrwymiad mwy pendant a therfyn amser i symud tuag at ddulliau pysgota mwy cynaliadwy (fel bachyn a lein). Roedd y rhain yn adlewyrchu galwadau cyffredinol o wahanol sectorau i gynyddu llinell amser cyflenwi’r FMP ac i gadarnhau ymrwymiadau lle bynnag y bo modd.
Codwyd nifer o bryderon ynghylch rheoleiddio rhwydo am ddraenogiaid môr. Mynegwyd y pryderon hynny ar yr un llaw gan y rhai o fewn y sector dal a oedd yn credu bod rhwydo eisoes wedi’i reoleiddio’n ormodol ac y dylid cynyddu’r terfynau sgil-ddal draenogiaid môr ar gyfer rhwydwyr, ac ar y llaw arall gan y rheini yn y sector hamdden a oedd yn credu bod angen mesurau diogelu ychwanegol ar salmonidau a sewin ac yn teimlo y dylid unioni mannau gwan yn y drefn gorfodi rhwydo. Soniodd llawer o’r ail grŵp hwn hefyd am ardaloedd meithrin draenogiaid môr (BNA). Cafwyd awgrymiadau, ymhlith pethau eraill, i wahardd rhwydo yn yr ardaloedd hyn ac i wella’r ymchwil i’r mannau lle mae draenogiaid môr yn silio yn ogystal ag ystyried gwelliannau i’r BNA presennol i amddiffyn pysgod ifainc yn well.
Cwestiwn 5: A ydych yn cytuno bod y camau gweithredu yn flaenoriaethau tymor canolig addas ar gyfer yr FMP draenogiaid y môr?
Er bod rhai ymatebwyr yn cytuno â’r camau gweithredu fel y’u cynigiwyd heb sylw pellach, roedd llawer mwy o randdeiliaid yn awgrymu addasiadau i’r camau gweithredu neu’n credu y dylai’r camau hyn fod yn gamau tymor byr. Mynegwyd pryderon am yr iaith a ddefnyddiwyd fel ‘ystyriwch’ a ‘posibl’, ac awgrymwyd bod angen cryfhau’r rhain a’u gwneud yn gliriach, neu efallai na fyddant yn cael eu cwblhau.
Awgrymodd llawer o randdeiliaid pysgota hamdden y dylai’r canlynol i gyd fod yn gynigion tymor byr:
- meintiau slot
- gwahardd rhwydi sefydlog mewn BNA (dan rith pysgota hyrddiaid)
- adolygu’r MCRS
- datblygiadau offer
- rhwydo o’r lan
- strategaethau cynaeafu amgen
- terfyn cyfansoddiad dalfa canran (%)
- canllawiau gofal / trin pysgod
Mynegwyd pryderon am y diffyg ffocws ar atal disbyddiad stoc lleol, rheoli dalfeydd alltraeth, a pheidio â chlustnodi digon o dunnelledd (gan gynnwys pysgod o feintiau mwy) ar gyfer pysgotwyr môr hamdden.
Fodd bynnag, mynegwyd pryderon hefyd am effaith bosibl rhai camau gweithredu a awgrymwyd ar hyfywedd y sector pysgota masnachol, megis cynyddu’r MCRS, cyflwyno meintiau slot a chyfyngiadau cyfansoddiad dal %, nad oeddent yn cael eu cefnogi.
Rhai pwyntiau eraill a wnaed oedd:
- nid yw’r tymor cau presennol yn amddiffyn draenogiaid môr sy’n silio ac ar fin silio yn ddigonol, a dylid estyn cyfnod cau’r bysgodfa draenogiaid môr rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth yn gynhwysol.
- dylai IFCAs gael eu hariannu’n well i gynyddu patrolau gorfodi ledled Lloegr a dylent fod â nifer cyfartal o gynrychiolwyr rhanddeiliaid anfasnachol yn hytrach na’r strwythur presennol sy’n cynnwys rhanddeiliaid masnachol yn bennaf.
- dylid gwneud ymchwil pellach yn y tymor byr i gynyddu gwybodaeth am fudiadau a symudiadau sewin ar y môr, gan gynnwys ardaloedd lle maent yn ymgynnull ac yn bwydo a nifer y sewin ac eogiaid sy’n cael eu dal fel sgil-ddalfa gan y bysgodfa draenogiaid môr fasnachol. Dylid cymryd camau pendant i ddiogelu’r rhywogaethau hyn.
- dylid annog cyfranogiad mewn rhaglenni mabwysiadu cynnar REM lle bo hynny’n briodol i gasglu data’n well ar niferoedd a daflir.
- dylid sicrhau bod mwy o awdurdodiadau ar gael i gefnogi arallgyfeirio pysgodfeydd ar y glannau mewn ardaloedd lle nad oes draenogiaid môr wedi’u canfod yn draddodiadol os bydd lefelau stoc yn newid ac y gellid eu rheoli’n dda.
Cwestiwn 6: Sut hoffech chi fod yn rhan o’r gwaith o gyflawni’r cynllun a rheoli pysgodfeydd draenogiaid môr Cymru a Lloegr yn y dyfodol?
Yn fras, roedd yr ymatebion i’r cwestiwn hwn ar draws pob sector yn gadarnhaol. Mynegodd y rhan fwyaf o randdeiliaid barodrwydd i ymgysylltu ymhellach wrth gyflawni’r cynllun a rheoli’r bysgodfa draenogiaid môr yn y dyfodol.
Roedd llawer o randdeiliaid am weld pysgotwyr hamdden yn cael eu cynrychioli wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y dyfodol, naill ai fel unigolion neu drwy gyrff a sefydliadau cynrychioliadol. Roedd rhai rhanddeiliaid hamdden yn teimlo bod ymddieithrio a difaterwch ymhlith y sector ac roeddent yn chwilio am sicrwydd y byddai pryderon hamdden yn cael eu hadlewyrchu yn yr FMP. Fodd bynnag, roedd nifer o’r rhanddeiliaid hyn yn awyddus i ymgysylltu a rhoi cymorth trwy arolygon stoc, casglu data, gweithdai a thrafodaethau ar- lein.
Yn yr un modd, roedd rhanddeiliaid o’r sector dal yn awyddus i ymgysylltu trwy gasglu data a thystiolaeth, rhannu profiad byw a chymryd rhan naill ai fel unigolion neu drwy sefydliadau cynrychioliadol.
Roedd rhanddeiliaid eraill am gael eu sicrhau am gyfranogiad cyrff amgylcheddol a chadwraeth, cydraddoldeb cynrychiolaeth a chynwysoldeb ac ymagwedd gydweithredol agored a thryloyw tuag at gyflawni’r FMP a rheoli’r bysgodfa.
Ar draws y sectorau roedd cefnogaeth i ymgysylltu cydweithredol drwy’r BMG arfaethedig. Cyfeiriodd rhanddeiliaid Cymru at Grŵp Cynghori Gweinidogol strategol ar gyfer Pysgodfeydd Cymru, a grwpiau cynghori sy’n benodol i rywogaethau sy’n eistedd oddi tano, gan awgrymu mai’r grwpiau hyn yw’r strwythurau priodol o hyd i ddatblygu a chyflawni nodau’r FMP draenogiaid y môr yng Nghymru mewn cydweithrediad â’r Grwpiau Rheoli Draenogiaid Môr arfaethedig.
Cwestiwn 7: A oes unrhyw gysylltiadau pwysig â physgodfeydd eraill y dylem eu hystyried wrth gwblhau’r FMP hwn neu yn ystod ei broses weithredu?
Dewisodd nifer o randdeiliaid a nododd eu bod yn bysgotwyr hamdden beidio ag ymateb i’r cwestiwn hwn. O’r rhai a ymatebodd, mynegodd llawer fod angen amddiffyn stociau a rhywogaethau eraill, gan gynnwys salmonidau, rhywogaethau abwyd, mamaliaid môr, morfilod, ac adar y môr. Roedd yna awydd cyffredinol i’r FMP edrych ar bysgodfeydd gwladol arfordirol eraill am enghreifftiau o arfer gorau a chyflawni pysgodfa o’r radd flaenaf.
Roedd yr ymatebion gan y sector dal yn fwy amrywiol. Awgrymodd rhai rhanddeiliaid y dylid ystyried y bysgodfa tiwna asgell las a’i heffaith ar y bysgodfa draenogiaid môr, tra bod eraill yn awgrymu y dylid hefyd ystyried cywerthoedd gyda’r UE a mynediad i’r stoc a rennir gan gychod tramor a’r UE. Fodd bynnag, cyfeiriodd y rhan fwyaf o randdeiliaid at gamau a gynigiwyd eisoes yn yr FMP drafft, megis tymhorau cau a diogelu stoc ifanc a meithrin yn hytrach na chysylltiadau â physgodfeydd eraill.
Awgrymodd rhanddeiliaid eraill gyfeirio at FMPs eraill, megis FMP rhywogaethau di-gwota dyfnfor Sianel Lloegr, a mentrau eraill gan gynnwys Cynllun Cadwraeth ac Adfer Adar Môr Lloegr, Rhaglen Monitro Sgil-ddalfa a gweithgor ICES ar gyfer eogiaid Gogledd yr Iwerydd.
Crynodeb o’r ymatebion i gwestiynau’r adroddiad amgylcheddol
Gofynnwyd pedwar cwestiwn i randdeiliaid a oedd yn caniatáu iddynt fynegi eu barn am gynnwys yr adroddiad amgylcheddol (ER) ar yr FMP draenogiaid y môr. Mae crynodeb o’r ymatebion i’r pedwar cwestiwn hyn i’w weld isod.
Cwestiwn 1: A oes unrhyw dystiolaeth ychwanegol y gallem ei hystyried i lywio ein llinell sylfaen amgylcheddol?
Gwnaeth nifer o randdeiliaid sylwadau ar y bylchau data o fewn y sylfaen dystiolaeth ar gyfer y bysgodfa draenogiaid môr, megis o fewn data silio, data hanesyddol ar lefelau stoc draenogiaid môr, ac effeithiau offer pysgota fel rhwydi drysu ar stociau pysgod a’r amgylchedd ehangach.
Er bod rhai rhanddeiliaid yn awgrymu y dylid gwneud rhagor o ymchwil, argymhellodd eraill ddefnyddio gwybodaeth leol a data anecdotaidd gan bysgotwyr i lenwi’r bylchau data hyn. Roedd rhai’n awgrymu llwybrau ymchwil bellach, gan gynnwys:
- Effaith morloi ar y llinell sylfaen amgylcheddol
- Effaith sgil-ddalfa ar forfilod
- Ailgyflwyno arolygon draenogiaid môr fel y’u cynhaliwyd gan Cefas
- Dogfennu draenogiaid môr wedi’u dal a’u rhyddhau gan bysgotwyr hamdden
- Effeithiau rhywogaethau eraill ar y bysgodfa offer sefydlog
- Effeithiau’r bysgodfa offer sefydlog ar yr amgylchedd ehangach
Nododd rhai rhanddeiliaid eu bod yn teimlo nad oedd cyngor ICES wedi’i ymgorffori na’i ystyried yn llawn gan yr FMP drafft, tra dywedodd eraill eu bod yn gweld bod diffyg data pysgodfeydd hamdden wedi’i gynnwys.
Nododd nifer o randdeiliaid effaith y newid yn yr hinsawdd ar y bysgodfa. Gwnaed sylwadau am effaith stociau tiwna’n symud i ddyfroedd draenogiaid môr oherwydd tymereddau’r môr yn codi, y newid yn dosbarthiad stociau draenogiaid môr wrth i ddyfroedd y gogledd gynhesu, effaith cynhesu tymheredd y môr ar weithgaredd silio draenogiaid môr, yn ogystal â phwyntiau ehangach ynghgylch allyriadau carbon llongau’r UE a sut mae hyn yn cyfrannu at newidiadau pellach o fewn y bysgodfa.
Tynnwyd sylw at adfywio stociau draenogiaid môr Americanaidd gan nifer o randdeiliaid fel enghraifft o bysgodfa hamdden a reolir yn dda, gydag awgrymiadau i ystyried canllawiau UDA wrth ddylunio mesurau rheoli’r DU.
Codwyd pryderon gan rai rhanddeiliaid ar faterion amgylcheddol ehangach, megis dirywiad stociau eogiaid a sewin o ganlyniad i sgil-ddalfa o’r bysgodfa draenogiaid môr, effaith rhyddhau carthion anawdurdodedig ar iechyd stoc pysgod, effeithiau rhwydi drysu ar rywogaethau sgil-ddalfa o fewn dyfroedd y glannau, ac effaith ffermydd gwynt ar ddadleoli stociau draenogiaid môr a physgotwyr.
Roedd pryder hefyd bod biomas y stoc silio’n is na therfynau diogel, gyda’r ymatebydd yn teimlo y dylai rheolaeth bellach gyfrif am hyn o fewn y FMP, megis trwy fwy o ddulliau amddiffyn ar gyfer stociau silio a physgod mwy o faint i adfywio’r stoc. Roedd rhai yn teimlo bod yr MCRS presennol yn rhy isel i ganiatáu i bysgod silio cyn cael eu tynnu o’r stoc. Teimlwyd bod MSY hefyd yn fodel annigonol ar gyfer rheoli pysgodfeydd sy’n ystyried yr holl bryderon amgylcheddol.
Crybwyllwyd amddiffyn stociau draenogiaid môr ifainc, megis trwy reolaethau ar ymdrech bysgota ger y lan, neu trwy feintiau rhwyll lleiaf. Yn yr un modd, ystyriwyd bod defnyddio llongau mwy o faint yn nyfroedd y glannau yn effeithio’n negyddol ar iechyd stoc gan ddefnyddwyr cychod llai o faint y glannau.
Roedd awgrym y dylai Atodiad B yr Adroddiad Amgylcheddol gynnwys asesiad o ddangosydd E9 y Cynllun Gwella Amgylcheddol (EIP) sef Canran o’n bwyd môr sy’n dod o ecosystemau iach a gynhyrchir yn gynaliadwy.
Cyflwynodd nifer o randdeiliaid dystiolaeth ychwanegol i’w hystyried ar bysgodfeydd effaith isel, tirio creaduriaid morol, effaith pysgota draenogiaid môr ar salmonidau mudol ac adar môr, ansawdd dŵr mewn aberoedd a bioleg ac ecoleg draenogiaid môr.
Cwestiwn 2: A oes unrhyw effeithiau amgylcheddol cadarnhaol neu negyddol eraill sy’n gysylltiedig â pholisïau a chamau gweithredu’r FMP Draenogiaid Môr drafft y gallem eu hystyried?
Nodwyd rhai effeithiau amgylcheddol cadarnhaol gan randdeiliaid, megis manteision iechyd meddwl pysgodfa draenogiaid môr hamdden ac effeithiau rheolau llymach ar gyfer diffyg cydymffurfio.
Roedd llawer o randdeiliaid o’r farn bod y dull rheoli arfaethedig yn rhy wan, a nodwyd effeithiau negyddol posibl a achoswyd gan y bysgodfa draenogiaid môr fasnachol, megis risgiau sgil-ddalfa i stociau pysgod a morfilod oherwydd offer sefydlog, a’r ddibyniaeth ar MSY yn atal stoc rhag adfer yn gyflym.
I’r gwrthwyneb, nododd rhai rhanddeiliaid y gallai terfynau is ar sgil-ddalfa dderbyniadwy ar gyfer y bysgodfa draenogiaid môr arwain at dargedu a gorbysgota stociau eraill, yn enwedig o fewn y fflyd fasnachol. Gallai’r goblygiadau ecosystem ehangach leihau’r stoc draenogiaid môr ymhellach. Roedd rhai yn teimlo y byddai cyfyngiadau rhwydo yn arwain at ddefnyddio mwy o offer llusgrwydo neu dreillio, sy’n cael mwy o effaith negyddol ar yr amgylchedd morol. Efallai y bydd gan y mathau hyn o offer gyfraddau uwch o sgil-ddal hefyd.
Er nad yw’n deillio o fesurau rheoli draenogiaid môr sydd wedi’u cynnwys yn yr FMP, dywedodd rhai rhanddeiliaid sut y gallai rhyddhau carthion heb awdurdod effeithio ar iechyd stoc pysgod a chynefinoedd benthig pwysig.
Cwestiwn 3: A oes gennych unrhyw sylwadau ar y camau arfaethedig a nodir yn yr Adroddiad Amgylcheddol i fonitro a/neu liniaru unrhyw effeithiau (negyddol) arwyddocaol tebygol ar amgylchedd yr FMPs?
Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo y dylid casglu tystiolaeth fwy cadarn i fesur effeithiau mesurau rheoli arfaethedig yn briodol, gyda chymorth technoleg fonitro fel REM. Dylai’r monitro hwn gael adnoddau effeithiol, a dylai’r canlyniadau fod ar gael i’r cyhoedd. Ar hyd llinellau tebyg, dywedodd rhai rhanddeiliaid y dylai’r dystiolaeth a ddefnyddir i hysbysu’r FMP fod yn fwy penodol, megis tystiolaeth ynghylch effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd ar iechyd a dosbarthiad stoc draenogiaid môr.
Awgrymodd rhanddeiliaid y dylid monitro effaith y sector pysgota hamdden, ochr yn ochr â’r sector masnachol i bennu ei effaith ar y stoc bysgod a’r amgylchedd ehangach.
I’r gwrthwyneb, dywedodd rhanddeiliaid nad yw rhwydo’n cael unrhyw effaith ar gynefinoedd benthig tra nododd un arall y gallai cyfyngu cychod y glannau rhag defnyddio offer statig fel rhwydi i ddal draenogiaid môr arwain at ddefnyddio offer pysgota wedi’u halio, a allai gael mwy o effaith amgylcheddol negyddol.
Dywedodd rhanddeiliaid fod y mesurau rheoli presennol o fewn yr FMP yn cynyddu niferoedd y pysgod a daflir, tra bod un arall wedi canfod bod cyllido a gorfodi’r mesurau i reoli effeithiau yn aneglur.
Teimlai rhanddeiliaid eraill y dylid diogelu’r stoc draenogiaid môr. Os na chaiff ymdrech pysgota fasnachol ei lleihau, gellid lleihau stociau draenogiaid môr ymhellach.
Roedd pryder ynghylch a allai terfynau dal cynyddol allai arwain at ddifrod amgylcheddol pellach, a ddylid cyflwyno Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPA) pellach i leihau gweithgarwch pysgota, a sut y gellid gwella ansawdd dŵr i wella iechyd stoc draenogiaid môr.
Awgrymodd rhanddeiliaid y dylid asesu a gwerthuso’n llwyr raddau, maint ac effaith amgylcheddol rhwydo drysu mewn rhai rhannau o Loegr, yn enwedig yn ne-orllewin Lloegr. Yn fwy cyffredinol, roedd barn nad yw’r FMP yn cynnig unrhyw gamau unioni neu reoli cadarn i fynd i’r afael ag effeithiau negyddol pysgota.
Cwestiwn 4: A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol mewn perthynas â’r Adroddiad Amgylcheddol nad ydych wedi gallu eu darparu mewn ymateb i’r cwestiynau blaenorol?
Roedd rhai ymatebion yn ystyried y bylchau data yn yr FMP drafft a’r Adroddiad Amgylcheddol. Dywedodd un ymatebydd nad yw draenogiaid môr ifainc yn cael eu monitro’n dda o fewn dyfroedd Lloegr ac y byddai hynny’n effeithio ar effeithiolrwydd y mesurau rheoli sy’n cael eu cynnig.
Fodd bynnag, roedd rhanddeiliaid eraill yn teimlo y dylid blaenoriaethu iechyd stoc draenogiaid môr dros hyfywedd economaidd y sector dal masnachol, ac y dylid defnyddio’r ystod is o MSY o gael opsiynau tynnu cynaliadwy gan ICES.
Yn fwy cyffredinol, roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo bod angen rheoli’r ecosystem ehangach yn ofalus i gynnal stociau draenogiaid môr.
Er eu bod yn cefnogi’r broses ar gyfer yr SEA, roedd gan nifer o randdeiliaid sylwadau ar lefel yr asesiad ac awgrymasant y dylid cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd manylach ar fesurau rheoli draenogiaid môr.
Nododd rhanddeiliaid y ffyrdd canlynol y gellid gwella’r Adroddiad Amgylcheddol;
- nodi’r materion a derbynyddion SEA y gallai polisïau’r FMP effeithio arnynt.
- nodi sut y gellid effeithio’n gadarnhaol neu’n negyddol ar faterion aderbynyddion SEA.
- nodi a yw’r effeithiau hyn yn sylweddol neu a oes angen newidiadau polisi neu gamau lliniaru.
- cynnwys cysylltiad cliriach rhwng y materion a godwyd gan yr asesiad a’r camau sy’n cael eu cymryd i’w lliniaru yn yr FMP.
- argymell bod yr FMP yn ystyried nodi sut y bydd amcanion yr FMP yn cyfrannu at gyflawni statws amgylcheddol da (GES) ar gyfer dangosyddion perthnasol Strategaeth Forol y DU.
Roedd rhanddeiliaid yn teimlo y dylai’r adroddiad amgylcheddol draenogiaid y môr gael cysylltiadau cryfach ag adroddiadau a rheoliadau eraill gan gynnwys;
- cynlluniau rheoli basnau afon
- rhan 3 Strategaeth Forol y DU i’w diwygio a’i mabwysiadu.
- Adroddiad Statws Ansawdd OSPAR.
- dyletswydd o ran bioamrywiaeth.
- HPMAs wedi’u diffinio o’r newydd.
- Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) 2006 - Mae eogiaid yr Iwerydd, sewin a herlod yn cael eu cydnabod fel rhywogaethau o werth a diddordeb cadwraeth uchel sy’n adlewyrchu eu cynnwys yn Adran 41.
- Rheoliadau Cynefinoedd (2017 fel y’u diwygiwyd) - rhestrir eogiaid yr Iwerydd a herlod o dan Atodiad 11 ac Atodiad V.
Yn olaf, awgrymwyd y dylid diffinio’r data cyfyngedig ynghylch rhyngweithio rhwng treftadaeth ddiwylliannol ac effeithiau pysgodfeydd o fewn dyfroedd Lloegr fel bwlch data. Croesawyd y cynnig i ystyried y bysgodfa draenogiaid môr fel mabwysiadwr cynnar ar gyfer y rhaglen REM i ddeall a rheoli’r risg a achosir gan y bysgodfa hon i rywogaethau sensitif yn well.
Ymateb y llywodraeth - FMP
Trosolwg
Bydd yr FMP yn rheoli’r ffordd y byddwn yn pysgota ein stoc draenogiaid y môr yn nyfroedd Cymru a Lloegr fel bod cymunedau arfordirol yn cael manteision llawn hynny.
Byddwn yn gwella’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth er mwyn deall ein pysgodfeydd yn well. Byddwn yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid i nodi sut i gau’r prif fylchau yn y data sy’n effeithio ar ein gallu i reoli pysgodfa draenogiaid y môr. Er enghraifft, mae angen data arnon ni ynghylch faint sy’n cael ei daflu’n farw yn ôl i’r môr ac sy’n cael ei ddal gan bysgotwyr hamdden a ffordd well o fesur manteision cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd pysgota am ddraenogiaid y môr i gymunedau arfordirol.
Dros y 1-2 flwyddyn nesaf, byddwn yn creu Grŵp Rheoli Draenogiaid Môr newydd gyda physgotwyr masnachol, pysgotwyr hamdden, eNGOs, rheoleiddwyr a gwyddonwyr i’n helpu i roi’r FMP ar waith. Byddwn hefyd yn dechrau meddwl pa gyfnodau cau fyddai orau i’r stoc, am y system awdurdodi bresennol a sut i reoleiddio gweithgareddau rhwydo o’r glannau ac yn nyfroedd bas y glannau. Byddwn yn sicrhau eglurder a chysondeb rhwng rheoleiddwyr i wella ymdrechion gorfodi ac yn ceisio datblygu systemau rheoli haws eu haddasu.
O fewn 3-5 mlynedd, byddwn yn edrych ar derfynau maint a strategaethau cynaeafu’r stoc, yn annog bod mwy’n cymryd rhan yn fuan yn y rhaglenni monitro electronig o bell, yn ymchwilio i ymarferoldeb diffinio cyfansoddiad sgil-ddalfa rhwydwyr draenogiaid y môr ac yn ystyried model posibl lle caiff yr holl ddraenogiaid y môr a ddelir eu glanio er mwyn lleihau’r hyn a deflir.
Cyflwyniad
Mae’r adran hon yn nodi ymateb y llywodraeth i ymgynghoriad yr FMP draenogiaid y môr. Mae’n egluro ein penderfyniadau ar gyfer yr FMP hwn yn gyntaf ac unrhyw newidiadau rydym yn bwriadu eu gwneud i’r cynllun, ac yna ymateb mwy cyffredinol am faterion trawsbynciol yr FMP.
Rydym yn ddiolchgar iawn am yr amser y mae’r holl randdeiliaid wedi’i roi i ddarparu mewnbwn adeiladol i’n helpu i wella a chwblhau’r FMP hwn. Roedd y safbwyntiau a ddarparwyd yn amrywiol gyda barn amrywiol iawn o fewn grwpiau buddiant a rhyngddynt. Mae pob un wedi’i ystyried ac wedi ein helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o farn rhanddeiliaid a’r materion pwysig. Mae rhai wedi arwain at newidiadau i’r FMPs. Nid yw eraill, oherwydd eu bod yn fwy priodol i gael eu hadlewyrchu yn y camau gweithredu, neu mewn lleiafrif o achosion oherwydd eu bod yn afresymol neu’n anymarferol. Yn yr adran hon, rydym yn esbonio pam rydym wedi gwneud penderfyniadau penodol. O ystyried hyd a lled a manylder yr ymatebion, ni allwn ddarparu esboniadau manwl ar yr holl bwyntiau a godwyd.
Dyma’r fersiwn gyntaf o’r FMP draenogiaid y môr sy’n nodi’r camau cyntaf a’r weledigaeth fwy hirdymor sy’n angenrheidiol ar gyfer rheoli’r bysgodfa hon yn gynaliadwy. Bydd y cynlluniau hyn yn cymryd amser i’w datblygu a’u gweithredu. Eu bwriad yw caniatáu dull addasol a byddant yn cael eu hadolygu a’u gwella dros amser wrth i ni gydweithio â’r sector pysgota a buddiannau ehangach ar reoli’r pysgodfeydd hyn yn gynaliadwy.
Er bod yr FMPs yn nodi polisïau, mesurau a chamau gweithredu penodol fydd yn cyfrannu at reoli’r pysgodfeydd perthnasol neu’r ecosystem a’r amgylchedd morol yn fwy cynaliadwy, mae corff ehangach o waith yn cael ei wneud gan lywodraethau a fydd hefyd yn cyfrannu at hyn. Er enghraifft, creu Ardaloedd Morol Gwarchodedig Iawn (HPMAs), rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs) yn well, gweithio i gyflwyno mwy o ddefnydd o REM, diwygio polisi taflu a gwaith parhaus i leihau sgil-ddalfa.
Newidiadau i’r FMP draenogiaid y môr yn dilyn ymgynghoriad
- Gan gydnabod pwysigrwydd y mater hwn i randdeiliaid, byddwn yn dwyn ymlaen yr adolygiad o reoleiddio rhwydo ar y tir a’r lan i ddod yn flaenoriaeth tymor byr. Bydd yn ceisio sicrhau bod mesurau diogelu digonol ar waith i leihau sgil-ddalfa rhywogaethau sensitif a physgod mudol sy’n gysylltiedig â rhwydo, gan gwtogi ar sgil-ddal a thaflu draenogiaid môr marw.
- Byddwn yn cyflwyno camau gweithredu i gefnogi datblygu addasiadau offer ar gyfer rhwydi a threillrwydi i gwtogi ar sgil-ddalfa a thaflu pysgod, a allai gynnwys ystyried meintiau rhwyll yn ogystal â defnyddio technolegau priodol eraill. Er bod llawer o randdeiliaid wedi galw am gyflwyno maint rhwyll lleiaf i wella detholusrwydd offer, nodwn fod maint rhwyll lleiaf 100mm eisoes ar waith ar gyfer pysgotwyr sy’n glanio sgil-ddalfa draenogiaid môr. Byddwn yn diweddaru canllawiau priodol i adlewyrchu hyn yn well.
- Byddwn hefyd yn cyflwyno camau gweithredu ar gynhyrchu canllawiau trin pysgod ac ar sicrhau dull gweithredu cyson ac eglur rhwng rheoleiddwyr i wella cydymffurfiaeth â rheoliadau draenogiaid môr.
- Rydym wedi cryfhau’r cysylltiad rhwng amcanion a nodau’r FMP a thargedau perthnasol GES Strategaeth Forol y DU y byddant yn cyfrannu at eu cyflawni.
Darllenwch fersiwn derfynolcynllun rheoli pysgodfeydd draenogiaid y môr.
Trosolwg o ymatebion a chwestiynau trawsbynciol neu gyffredin ar draws FMPs yn yr ymgynghoriad
Ymgysylltu a chydweithio
Roedd mwyafrif yr ymatebwyr ar draws yr holl ymgynghoriadau yn gadarnhaol am y dull cydweithredol a fabwysiadwyd i ddatblygu’r FMPs a’r ymdrechion a wnaed gan Defra a’i bartneriaid cyflawni i ymgysylltu â phobl yn y broses.
Mae llawer am i’r dull hwn barhau trwy’r camau gweithredu i sicrhau y gellir ystyried arbenigedd rhanddeiliaid. Nododd nifer o randdeiliaid fod angen mabwysiadu dull cydgysylltiedig o weithredu FMPs a helpu i wella gallu busnesau pysgota i gynllunio ymlaen llaw. Byddwn yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid yng ngham gweithredu’r FMPs.
Fodd bynnag, er gwaethaf yr ymgysylltu helaeth a’r cyfleoedd i roi mewnbwn cyn drafftio’r FMPs, ac yn ystod y broses ymgynghori ffurfiol, rydym yn cydnabod nad oedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo eu bod wedi’u cynnwys cymaint ag eraill ym mharatoadau’r FMPs. Roedd yna hefyd ychydig o sylwadau amdanom yn gwahaniaethu yn erbyn sectorau penodol, yr ydym yn eu gwrthbrofi.
Rydym yn parhau i adolygu ein hymgysylltiad. Mewn llawer o feysydd, nid oedd llawer o dir cyffredin o fewn buddiannau neu sectorau neu rhyngddynt. Roedd hyn yn gwneud datblygu atebion sy’n dderbyniol i bawb yn hynod heriol. Yr hyn yr ydym felly wedi ceisio’i wneud yw olrhain cwrs rhesymol o ran ymateb i’r ymatebion adeiladol a gafwyd (yn anffodus, nid oedd llond dwrn ohonynt yn adeiladol) a sicrhau ein bod yn cadw at ein hymrwymiadau cyfreithiol a rhyngwladol ac yn cydbwyso cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
Yn nechrau 2024, rydym yn bwriadu cychwyn ar fwy o waith ar draws y rhaglen ac mewn perthynas â FMPs penodol, byddwn yn ystyried sut y gall llywodraeth, rheoleiddwyr, gwyddonwyr, diwydiant, pysgotwyr hamdden a rhanddeiliaid eraill gydweithio’n well mewn ffordd barchus ac adeiladol. Ystyrir hyn o ran datblygu FMPs pellach a sut i’w rhoi ar waith’. Bydd yn cynnwys datblygu iaith gyffredin am y dulliau a gymerir, ystyried a mynegi rolau a chyfrifoldebau a ffyrdd o weithio’n well ac yn gynharach mewn prosesau, a gwella cyfathrebu. Rydym hefyd yn awyddus i weithio’n agosach gyda mentrau fel Fishing Into the Future i wella dealltwriaeth.
Swmp y deunydd ac amseru’r ymgynghoriad
Cododd llawer o randdeiliaid fater swmp y deunydd y buom yn ymgynghori yn ei gylch ac amseru’r ymgynghoriad.
Roeddem o’r farn ein bod am fod yn dryloyw a darparu tystiolaeth a deunydd ategol i helpu rhanddeiliaid i ddarparu ymatebion gwybodus. Bu ymgysylltu helaeth hefyd ac ymgynghori anffurfiol cyn i’r drafftiau gael eu datblygu, a oedd yn cynnwys ymgyfarwyddo â FMPs. Gwnaethom geisio sicrhau bod crynodebau mwy hygyrch yn cael eu paratoi a
chynhalion ni 23 o ddigwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb a chyfres o gyfarfodydd ar- lein lle nodwyd safbwyntiau a’u bwydo i’r broses ddadansoddi.
Roedd y digwyddiadau hyn yn cwmpasu’r ystod eang o sectorau a rhanddeiliaid â buddiant gan gynnwys sector dal amrywiol, y gadwyn gyflenwi ehangach, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, gwyddonwyr, y byd academaidd, Comisiwn yr UE ac aelod-wladwriaethau, ac eraill â buddiant mewn rheoli pysgodfeydd.
Byddwn yn ystyried gwahanol ddulliau yn y dyfodol (gan gydnabod hefyd y canllawiau ar gyfer ymgynghoriadau cyhoeddus a’n gofynion statudol) yn ogystal â faint o wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi ar wahanol gyfnodau.
Cyflymder y gweithredu a’r newid
Mae yna awydd cryf am gyflawni llawer cyflymach ac am gael ymrwymiad cliriach i wneud hynny. Rydym wedi gwneud rhai addasiadau i’r FMPs i gyflawni rhai newidiadau yn gyflymach. Bu’n rhaid i ni gydbwyso hyn yn erbyn adnoddau a chydnabyddiaeth na fyddai modd cyflawni gormod o newid neu y gallai greu beichiau afresymol ar y diwydiant pysgota.
Trywydd rhagofalus
Mae rhanddeiliaid o fewn y sector pysgota a’r tu allan iddo wedi sôn am bwysigrwydd y trywydd rhagofalus o ran rheoli pysgodfeydd, er y mynegwyd pryderon yr un pryd am effeithiau cymdeithasol ac economaidd posibl dilyn y trywydd hwnnw. Mae’r Ddeddf Pysgodfeydd yn cydnabod bod angen rheoli pysgodfeydd mewn ffordd sy’n sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol ac o ran cyflogaeth, a bod y trywydd rhagofalus hefyd yn amcan. Bydd angen i reoleiddwyr pysgodfeydd ystyried ystod o ffactorau mewn ffordd gytbwys a chymesur os ydym am wireddu’r uchelgeisiau yn y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd ar gyfer stociau cynaliadwy, gydag amgylchedd morol iach yn sail iddynt sy’n cynnal sector pysgota proffidiol a chymunedau arfordirol ffyniannus. Byddwn yn parhau i gadw’r cydbwysedd hwn mewn cof wrth roi’r FMPs ar waith, yn enwedig wrth i ni ddod i ddeall yn well y risg o orbysgota stociau mewn pysgodfeydd sy’n brin o ddata a sut y byddwn yn gweithio gyda’r sector pysgota a rhanddeiliaid eraill i helpu i reoli’r pysgodfeydd hynny’n well.
Ffiniau rheoli
Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bydd y mesurau yn gweithio ar draws ffiniau awdurdodau polisi pysgodfeydd y DU. Bydd mwy o fanylion yn cael eu nodi wrth i ni weithredu’r FMPs - er enghraifft ar yr ardaloedd lle bydd y mesurau yn berthnasol a’r llongau yr effeithir arnynt.
Mae’r rhan fwyaf o fesurau rheoli pysgodfeydd wedi’u datganoli. Felly mae’n bosibl ac yn debygol y bydd gwahanol fesurau a dulliau rheoli yn berthnasol mewn gwahanol weinyddiaethau pysgodfeydd. Yn wir, dyma un o fanteision FMPs – gellir cyflwyno dulliau rheoli pwrpasol sy’n ystyried y gwahanol bysgodfeydd, amodau, diwydiannau, blaenoriaethau neu bwysau. Fodd bynnag, lle bo’n briodol neu’n ddymunol, efallai y bydd gweinyddiaethau’r DU yn penderfynu cydweithredu a chysoni mesurau.
Cydweithio â’r UE a chydymffurfio â Chytundeb Masnach a Chydweithrediad y DU a’r UE (y TCA)
Cododd nifer o randdeiliaid bwysigrwydd cydweithredu rhwng gwladwriaethau arfordirol ar
reoli pysgodfeydd a’r angen i fesurau rheoli FMP dilynol gydymffurfio â’r TCA.
Fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol, rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd gweithio’n agos gyda gwladwriaethau arfordirol eraill ar reoli pysgodfeydd. Rydym yn parhau i edrych ymlaen at ddyfnhau’r berthynas gydweithredol ragorol y mae’r DU yn ei mwynhau gyda’n gwladwriaethau arfordirol cyfagos, a byddwn yn sicrhau bod ein mesurau’n cydymffurfio’n llawn â’r TCA.
Mae’r TCA yn cadw ymreolaeth reoleiddiol y DU i reoli ein pysgodfeydd (a’r UE i reoli eu rhai hwy). Ochr yn ochr â hyn, bydd y DU yn parhau i gydweithredu â’r UE ar reoli stociau a rennir, lle bo hynny’n briodol. Byddai hyn yn cael ei gyflawni trwy ddatblygu strategaeth aml-flwyddyn a byddai angen ymrwymiad gan y DU a’r UE.
Tystiolaeth a data FMP
Rydym yn cydnabod ac yn bwriadu adolygu’n drylwyr y cryn dipyn o dystiolaeth a ddarparwyd yn ystod yr ymgynghoriad, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ychwanegol a ddarperir trwy ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid FMP. Bydd datganiadau tystiolaeth FMP a gofynion tystiolaeth yn cael eu diweddaru i sicrhau bod blaenoriaethau cyflawni tystiolaeth yn cael eu hailasesu i gyflawni a gweithredu uchelgeisiau pob cynllun. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi yn 2024.
Mynegodd cyfran fawr o randdeiliaid bryder am allu’r llywodraeth i fynd i’r afael â’r bylchau yn y dystiolaeth a nodwyd yn yr FMPs. Tynnodd rhanddeiliaid sylw hefyd at bwysigrwydd mabwysiadu dull cydweithredol o ddatblygu tystiolaeth - gan weithio gyda’r sector pysgota a rhanddeiliaid ehangach i gefnogi’r gwaith o gyflawni gofynion tystiolaeth. Ni fydd yn bosibl nac yn rhesymol i’r llywodraeth ariannu’r holl fylchau tystiolaeth a nodwyd ar draws y rhaglen FMP. Bydd angen blaenoriaethu. Yn ogystal ag edrych ar ffyrdd arloesol o lenwi’r bylchau hynny, i gefnogi’r dull graddol o gyflawni a gweithredu FMP a symud ymlaen tuag at gyflawni amcanion y Ddeddf Pysgodfeydd, yn 2024 bydd Defra yn lansio
ac yn cyhoeddi dull tystiolaeth sy’n hyrwyddo cydweithio ar draws rhanddeiliaid i fynd i’r
afael â bylchau tystiolaeth a nodwyd ar gyfer FMPs.
Galwodd nifer o randdeiliaid am fwy o gydlynu ar draws awdurdodau pysgodfeydd ynghylch gofynion casglu data ar ddiwydiant.
Byddwn yn ystyried y gofynion data wrth ddatblygu mesurau newydd a byddwn yn ystyried hyn fel rhan o waith ar wahân ond cysylltiedig sydd eisoes ar y gweill i ddatblygu dull mwy cydlynol o gasglu, rheoli a defnyddio data rhwng awdurdodau pysgodfeydd.
Capasiti cudd
Codwyd mater capasiti cudd yn aml trwy’r ymgysylltiad hwn. Roedd rhai rhanddeiliaid yn awyddus i gael gwared ar drwyddedau cudd i helpu i atal cynnydd mewn ymdrech ar stociau. Cododd pobl eraill bryderon y byddai cael gwared ar drwyddedau cudd yn annheg ac yn cyfyngu ar y pysgotwyr hynny sy’n dibynnu ar allu arallgyfeirio ac addasu i amgylchiadau. Byddwn yn ystyried capasiti cudd fel rhan o ddatblygiad cyffredinol mesurau rheoli ymdrechion.
Ymateb y Llywodraeth – adroddiad amgylcheddol
Cyflwyniad
Mae’r adran hon yn nodi ymateb y llywodraeth i ymgynghoriad adroddiad amgylcheddol (ER) asesiad amgylcheddol strategol (SEA) yr FMP draenogiaid y môr.
Mae SEA yn broses ffurfiol i asesu effaith cynllun neu raglen ar yr amgylchedd. Nod SEA yw:
- darparu lefel uchel o ddiogelwch i’r amgylchedd
- hyrwyddo datblygu cynaliadwy
- integreiddio ystyriaethau amgylcheddol i baratoi a mabwysiadu cynllun neu raglen
Rhaid cwblhau’r SEA cyn mabwysiadu’r cynllun neu’r rhaglen er mwyn osgoi niwed amgylcheddol diangen sy’n deillio o’i gamau gweithredu neu ganlyniadau arfaethedig. Canolbwyntiodd y SEA ar amcanion a chamau gweithredu arfaethedig yr FMP draenogiaid y môr drafft. Mae’r adroddiad amgylcheddol yn nodi canfyddiadau’r broses SEA.
Roedd ymgymryd â SEA o’r FMP draenogiaid y môr drafft yn fodd inni nodi effeithiau presennol y bysgodfa, deall yn well effeithiau amgylcheddol y polisïau a’r camau gweithredu a gynhwysir yn y cynllun, gan sicrhau ein bod yn bodloni’r gofynion o dan Reoliadau SEA 2004.
Cyflwynodd y broses SEA ystyriaethau amgylcheddol i gyfnod paratoi’r FMP draenogiaid y môr drafft, gan sicrhau ein bod yn parhau i wneud cynnydd ar ein hymrwymiad i ddarparu pysgodfeydd sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol. Helpodd yr ER lywio a dylanwadu ar ddatblygiad y cynigion a nodir yn yr FMP draenogiaid y môr drafft ac mae’n nodi argymhellion ar sut y gallai’r FMP leihau effaith amgylcheddol pysgota draenogiaid môr i’r dyfodol.
Rydym yn ddiolchgar i’r holl randdeiliaid am rannu eu barn. Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cadarnhau bod cynaliadwyedd amgylcheddol y bysgodfa draenogiaid môr yn bwysig ac yn elfen hanfodol o reoli cynaeafu i greu pysgodfa gynaliadwy. Mae’r ymatebion wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth o’r risgiau amgylcheddol y mae’r FMP draenogiaid môr yn ceisio mynd i’r afael â nhw.
Cydnabu rhanddeiliaid fod angen gwell data a thystiolaeth i asesu effaith y bysgodfa draenogiaid môr yn llawn i gyflwyno dulliau rheoli wedi’u targedu i leihau neu ddileu effeithiau negyddol. Serch hynny, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i brosesau casglu data o’r fath redeg ochr yn ochr â chamau gweithredu clir i reoli effeithiau cyfredol.
Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar dystiolaeth ac effeithiau amgylcheddol polisïau FMP a chamau lliniaru arfaethedig. Roedd rhanddeiliaid hefyd yn gallu rhoi sylwadau ar faterion eraill. Mae ein hymatebion i’r safbwyntiau a roddwyd ar y pynciau hyn i’w gweld isod.
Mae ymatebion rhanddeiliaid wedi cael eu hystyried ac mae ER yr FMP draenogiaid y môr wedi’i ddiweddaru gydag argymhellion ychwanegol. Bydd adroddiad llawn yn cael ei gyhoeddi yn 2024.
Mae’r FMP draenogiaid y môr diwygiedig wedi ystyried yr argymhellion hyn a gwnaed addasiadau lle bo hynny’n briodol.
Cwestiwn 1. Tystiolaeth
Cyflwynodd rhanddeiliaid ystod o dystiolaeth ychwanegol i’w hystyried i lywio’r llinell sylfaen amgylcheddol, gan gynnwys data tirio anifeiliaid morol, effeithiau ar adar y môr ac effeithiau ansawdd dŵr ar gynefinoedd draenogiaid môr. Roedd cefnogaeth i gynnwys mwy o dystiolaeth o effeithiau penodol o bysgota draenogiaid môr sydd wedi dylanwadu ar y llinell sylfaen amgylcheddol bresennol.
Mae’r dystiolaeth a ddarparwyd drwy’r ymgynghoriad wedi’i chrynhoi a chaiff ei hystyried wrth roi’r FMP ar waith ac mewn asesiadau yn y dyfodol.
Cwestiwn 2. Effeithiau amgylcheddol polisïau’r FMP
Cyflwynodd rhai rhanddeiliaid farn yn nodi sut y gallai newidiadau i arferion pysgota draenogiaid môr effeithio ar rywogaethau eraill trwy gynyddu sgil-ddalfa, mwy o bwysau pysgota o ddadleoli i bysgodfeydd eraill, a mwy o gasglu abwyd ar gyfer pysgota â gwialen a lein.
Mae’r effeithiau ychwanegol a ddarparwyd trwy’r ymgynghoriad wedi’u hystyried ac wedi’u cynnwys yn Adran 5. Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol fel y bo’n briodol.
Cwestiwn 3. Camau i liniaru effeithiau amgylcheddol
Roedd rhanddeiliaid am weld mesurau mwy uniongyrchol yn cael eu cyflwyno i fynd i’r afael â materion sgil-ddalfa sy’n gysylltiedig â physgota draenogiaid môr, yn enwedig o ddefnyddio rhwydi drysu, sy’n awgrymu gwell defnydd o ddull seiliedig ar ecosystem o reoli pysgodfeydd. Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd gan randdeiliaid ac felly mae’r ER wedi argymell bod yr FMP yn ystyried camau mwy uniongyrchol. Yn benodol, mewn perthynas â lliniaru effeithiau rhwydo ar rywogaethau sensitif.
Cwestiwn 4. Sylwadau ychwanegol
Croesawyd yr awgrymiadau lle gellid gwella’r ER, yn enwedig o ran cysylltu’r asesiad o bolisïau a chamau gweithredu’r FMP yn ôl â materion a derbynyddion y SEA a disgrifyddion cysylltiedig Strategaeth Forol y DU. Mae’r ER diwygiedig wedi argymell bod yr FMP yn ystyried nodi sut y bydd amcanion yr FMP yn cyfrannu at gyflawni GES ar gyfer disgrifyddion perthnasol Strategaeth Forol y DU.
Dywedodd rhanddeiliaid y dylai fod mwy o gysylltiad rhwng yr adroddiad amgylcheddol ac adroddiadau a rheoliadau eraill gan gynnwys
- cynlluniau rheoli basnau afonydd
- rhan 3 strategaeth forol y DU
- Adroddiad Statws Ansawdd OSPAR
- y ddyletswydd bioamrywiaeth
- HPMAs newydd eu dynodi
- Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) 2006
- Rheoliadau Cynefinoedd (2017 fel y’u diwygiwyd).
Rydym wedi diwygio’r adroddiad amgylcheddol i greu’r cysylltiadau hyn.
Awgrymodd nifer o randdeiliad y dylai’r ER ddarparu argymhellion cliriach i fynd i’r afael â’r effeithiau amgylcheddol presennol a achosir gan y bysgodfa draenogiaid môr. Rydym yn cytuno y dylai’r ER ddarparu eglurder yn ei argymhellion. Ondrydym yn nodi mai ei ddiben yw darparu argymhellion ar y materion strategol sy’n codi o amcanion a chamau arfaethedig yr FMP fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd. Gall yr ER dynnu sylw at faterion amgylcheddol eang eraill y gallai’r FMP fynd i’r afael â nhw (megis effaith ar rywogaethau sensitif) ond ni all gynnig mesurau penodol (megis gwahardd rhwydo o fewn 3 milltir forol i’r arfordir). Mater i’r broses FMP yw ystyried y materion a phenderfynu pa gamau y dylai eu cymryd i fynd i’r afael â nhw.
Atodiad 1 - Rhestr o sefydliadau na wnaethant ofyn am gyfrinachedd.
- Amethyst Fishing Company Limited
- Angling Cymru Sea Anglers
- Angling Trades Association
- Angling Trust
- Bass Anglers Sportfishing Society
- Bass Angling Conservation
- Blue Marine Foundation
- Brighton Inshore Fishing
- Y Comisiwn Ewropeaidd
- Cornish Fish Producer Organisation
- Cornish Federation of Sea Anglers
- Cornwall Bass Investigation Group
- Cornwall Inshore Fisheries and Conservation Authority
- Cornwall Wildlife Trust
- CSM Sport & Entertainment
- Y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cylchgrawn Sea Angler
- Cymdeithas Pysgotwyr Cymru - Welsh Fisherman’s Association
- Devon and Severn Inshore Fisheries and Conservation Authority
- Eastland Compounding
- Frontier Construction
- Gweinyddiaeth Amaeth, Natur ac Ansawdd Bwyd yr Iseldiroedd
- Historic England
- International Transport Workers Federation
- Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar
- JMR Fishing Ltd
- Kent and Essex Inshore Fisheries and Conservation Authority
- Launceston Anglers Association
- Lyme Bay Fishermen’s Community Interest Company
- Marine Conservation Society
- Mudeford and District Fishermen’s Association
- Natural England
- National Federation of Fishermen’s Organisations
- New Under Ten Fishermen’s Association Limited
- North Eastern Inshore Fisheries and Conservation Authority
- North West Fisherman’s Association
- North Western Inshore Fisheries and Conservation Authority
- Northumberland Inshore Fisheries and Conservation Authority
- Plymouth Fishing and Seafood Association
- Poole and District Sea Angling Association
- Prifysgol Caerwysg
- Prifysgol Southampton
- River Otter Fisheries Association
- Shark Trust
- Shoeburyness Waterman’s Association
- South Coast Fishermen’s Council
- South Devon and Channel Shell Fishermen
- Southern Inshore Fisheries and Conservation Authority
- South West Rivers Association
- Southwold Commercial Fishing Group
- Southwold Fishermens Group
- Sussex Inshore Fisheries and Conservation Authority
- Sportfishing Club of the British Isles
- Tamar and Tributaries Fisheries Association
- Wembury Marine Conservation Area Advisory Group
- Wildfish
- Whale and Dolphin Conservation
Atodiad 2 – Rhestr o gyfarfodydd ymgysylltu ymgynghoriad yr FMP
- Amble
- Bridlington
- Brixham
- Brwsel (hybrid yn bersonol ac ar-lein)
- Cromer
- Folkestone
- Gosport
- Hull
- Ilfracombe
- Lowestoft
- Newlyn
- North Shields
- Padstow
- Peterhead
- Plymouth
- Poole
- Rye
- Scarborough
- Shoreham