11.5 miliwn yn cyflwyno Hunanasesiad erbyn dyddiad cau 31 Ionawr
Fe wnaeth miliynau o drethdalwyr cyflwyno eu Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 erbyn y dyddiad cau.

- Gwnaeth mwy na 11.5 miliwn o drethdalwyr cyflwyno’u Ffurflen Dreth Hunanasesiad erbyn hanner nos 31 Ionawr.
- Cyflwynodd 97.36% o Ffurflenni Treth ar-lein.
- Cyflwynodd 90.53% o gyflwynwyr disgwyliedig eu Ffurflenni Treth ar-lein.
Llwyddodd mwy na 11.5 miliwn o drethdalwyr i gwrdd â’r dyddiad cau Hunanasesiad i gyflwyno eu Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn dreth 2023 i 2024 erbyn 31 Ionawr ac osgoi cosb am gyflwyno’n hwyr o £100, gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) ddatgelu.
Y nifer o bobl a chyflwynodd eu Ffurflen Dreth ar y diwrnod cau oedd 732,498, gyda’r amser mwyaf cyffredin rhwng 16:00 a 16:59 pan gyflwynodd 58,517 o bobl. Gadawodd miloedd cyflwyno eu Ffurflen Dreth tan y funud olaf pan gyflwynodd 31,442 rhwng 23:00 a 23:59.
Mae CThEF yn annog unrhyw un sydd wedi methu’r dyddiad cau i gyflwyno eu Ffurflen Dreth nawr a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus. Un o’r ffyrdd cyflymaf o dalu yw trwy ap CThEF sy’n rhad ac am ddim a diogel. Mae trefniadau Amser i Dalu ar gael i’r rhai na allant dalu eu bil treth yn llawn. Codir cosbau am gyflwyno’n hwyr ac am dalu’n hwyr am fethu â bodloni’r dyddiad cau.
Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:
Diolch i’r miliynau o bobl ac asiantau a chyflwynodd eu Ffurflen Dreth Hunanasesiad ac a dalodd unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr. Rwy’n annog unrhyw un a fethodd y dyddiad cau i gyflwyno eu Ffurflen Dreth cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw gosbau pellach. Chwiliwch am ‘Self Assessment’ ar GOV.UK i ddarganfod mwy.
Dyma’r cosbau am gyflwyno Ffurflen Dreth yn hwyr:
- cosb benodol gychwynnol o £100, sy’n berthnasol hyd yn oed os nad oes treth i’w thalu, neu os yw’r dreth sy’n ddyledus yn cael ei thalu mewn pryd
- ar ôl 3 mis, cosbau ychwanegol o £10 y dydd, hyd at uchafswm o £900
- ar ôl 6 mis, cosb bellach sef 5% o’r dreth sy’n ddyledus neu £300, p’un bynnag sydd fwyaf
- ar ôl 12 mis, cosb arall sef 5% neu £300, p’un bynnag sydd fwyaf
Mae cosbau ychwanegol am dalu’n hwyr hefyd - 5% o’r dreth sydd heb ei thalu ar ôl 30 diwrnod, 6 mis a 12 mis. Codir llog hefyd ar unrhyw dreth a delir yn hwyr.
Os bydd rhywun yn gwerthu nwyddau yn rheolaidd neu’n darparu gwasanaethau drwy blatfform ar-lein, efallai y bydd angen iddynt dalu treth ar ei incwm. Gall cwsmeriaid ddysgu mwy am werthu ar-lein a thalu trethi ar GOV.UK drwy chwilio am ‘online platform income’ neu drwy lawrlwytho ap CThEF. Bydd yr arweiniad yn helpu’r bobl hyn i benderfynu a ddylid trin eu gweithgarwch fel masnach, ac a oes angen iddynt lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Rhagor o wybodaeth
Crynodeb o ffeithiau ynghylch Hunanasesiad 2025:
- Disgwylir 12,026,540 o Ffurflenni Treth Hunanasesiad
- 11,509,810 o Ffurflenni Treth wedi dod i law erbyn 31 Ionawr. Mae hyn yn cynnwys Ffurflenni Treth disgwyliedig, Ffurflenni Treth gwirfoddol a chofrestriadau hwyr
- 10,887,810 o Ffurflenni Treth disgwyliedig wedi dod i law erbyn 31 Ionawr
- Amcangyfrifir bod 1.1 miliwn o gwsmeriaid wedi methu’r dyddiad cau
- 11,205,810 o Ffurflenni Treth wedi’u cyflwyno ar-lein (97.36% o Ffurflenni Treth, yn dilyn addasiadau)
- Cyflwynodd 304,000 o Ffurflenni Treth ar bapur (2.64% o Ffurflenni Treth, yn dilyn addasiadau)
Amcangyfrif yw’r Ffurflenni Treth gwirfoddol/cofrestriadau hwyr yn seiliedig ar Ffurflenni Treth a ddaeth i law erbyn dechrau mis Ionawr ac ymddygiad ffeilio blaenorol.
Mae’r ffigurau hyn yn ddangosol a gallant fod yn destun addasiadau pellach unwaith y bydd yr holl ffigurau wedi’u cadarnhau.
Ystadegau Hunanasesiad blaenorol:
- 11,581,962 o Ffurflenni Treth wedi dod i law ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 erbyn 31 Ionawr 2024
- 11,351,289 o Ffurflenni Treth wedi dod i law ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022 erbyn 31 Ionawr 2023