Stori newyddion

19 Enillydd Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod 19 sefydliad anhygoel yng Nghymru wedi ennill Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) Amddiffyn ar gyfer 2024.

Bilingual Employer Recognition Scheme logo.

19 Enillydd Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru 

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod 19 sefydliad anhygoel yng Nghymru wedi ennill Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) Amddiffyn ar gyfer 2024.

Mae’r Wobr Arian ERS Amddiffyn arobryn yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog trwy roi polisïau ymarferol ar waith yn y gweithle.

Bydd y 19 enillydd yn cael eu gwahodd i dderbyn eu gwobr mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd ar 17 Gorffennaf.

Llongyfarchiadau i:

  • ArbCulture Limited
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Dŵr Cymru
  • Edwin C. Farrall (Transport) Limited
  • Gentium International Limited
  • Hafren Forest Hideaway Limited
  • ITSUS Consulting Ltd
  • LINKS-Mental Health Charity
  • Llanion Cove Ltd
  • Mercateo UK Limited
  • Cyngor Sir Powys
  • Ysgol Rydal Penrhos
  • SC Safety Training Ltd
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • SPTS Technologies UK Limited
  • SudoCyber Limited
  • The Veteran Building Company Ltd
  • Prifysgol Wrecsam
  • Zip World Limited

O dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, mae cyflogwyr yn cefnogi personél amddiffyn ac yn annog eraill i wneud yr un peth. Mae tair lefel i’r cynllun, Efydd, Arian ac Aur ar gyfer sefydliadau sy’n addo, yn dangos ac yn eirioli dros gefnogi amddiffyn a chymuned y Lluoedd Arfog.

Er mwyn ennill y wobr Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o’u polisïau recriwtio. Rhaid iddyn nhw hefyd sicrhau bod eu gweithlu’n ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol tuag at faterion Amddiffyn ar gyfer milwyr wrth gefn, Cyn-filwyr, Oedolion sy’n gwirfoddoli gyda Lluoedd Cadetiaid, a phriod a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Meddai Mr Tony Fish, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarthol y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer Gogledd Cymru:

Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu cyhoeddi 19 o enillwyr gwobrau Arian ERS 2024 i Gymru.

I gael gwybod mwy am yr ERS a sut y gallai’ch sefydliad gefnogi personél amddiffyn yn y gweithle drwy Gyfamod y Lluoedd Arfog, cysylltwch â:

  • Tony Fish, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarthol Gogledd Cymru, wa-reed2@rfca.mod.uk Swyddfa’r Wyddgrug. Ffôn: 07508 193902.
  • Craig Middle, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarthol De Cymru, wa-reed@rfca.mod.uk Swyddfa Caerdydd. Ffôn: 07970 493086

I gael gwybod mwy am y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr

Cyhoeddwyd ar 3 July 2024