Stori newyddion

Dathlu cyflogwyr ERS Arian 2024

Mae 19 o gyflogwyr gorau Cymru, sy'n ystyriol o’r lluoedd arfog, wedi cael eu cydnabod gyda gwobr fawreddog.

Group of Silver ERS winners. Copyright: Wales RFCA.

Cafodd y pedwar sefydliad ar bymtheg o bob cwr o Gymru Wobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) ar gyfer 2024.

Dyfarnwyd cynrychiolwyr o’r sefydliadau oedd yn derbyn gwobrau mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, lle’r oedden nhw’n westeion anrhydeddus yn y Saliwt 21 Gwn Brenhinol i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi’r Frenhines.

Croesawyd gwesteion gan Darren Millar, AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a’r Cadetiaid a rhoddwyd yr anerchiad agoriadol gan y Brigadydd Nick Thomas CBE, Cadlywydd 160fed Brigâd (Cymru), Pennaeth y Fyddin yng Nghymru.

Cyflwynwyd y seremoni wobrwyo gan Sian Lloyd a rhoddwyd y cloc gan y Brigadydd Russ Wardle OBE DL, cadeirydd Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru.

Y derbynwyr oedd:

  • ArbCulture Limited
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Dŵr Cymru
  • Edwin C. Farrall (Transport) Limited
  • Gentium International Limited
  • Hafren Forest Hideaway Limited
  • ITSUS Consulting Ltd
  • LINKS-Mental Health Charity
  • Llanion Cove Ltd
  • Mercateo UK Limited
  • Cyngor Sir Powys
  • Ysgol Rydal Penrhos
  • SC Safety Training Ltd
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • SPTS Technologies UK Limited
  • SudoCyber Limited
  • The Veteran Building Company Ltd
  • Prifysgol Wrecsam
  • Zip World Limited

Cyflwynwyd y gwobrau ar y cyd gan y Brigadydd Nick Thomas CBE, y Cadlywydd Steve Henaghen Pennaeth Staff / Dirprwy Llyngesol Rhanbarthol Cymru a Gorllewin Lloegr a Swyddog Awyr Cymru, Rob Wood OBE.

O dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, mae’r Wobr Arian ERS yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth yn weithredol i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle.

Er mwyn ennill y wobr Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o’u polisïau recriwtio. Rhaid iddyn nhw hefyd sicrhau bod eu gweithlu’n ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol tuag at faterion gweithwyr Amddiffyn ar gyfer Milwyr wrth gefn, Cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr Oedolion y Lluoedd Cadetiaid, a phriod a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Cafodd y cyflogwyr eu cydnabod am y gefnogaeth maen nhw’n ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog yn y digwyddiad ddydd Mercher 17 Gorffennaf.

Meddai Pete Gibbs, Cyfarwyddwr Gweithredol AD ym Mhrifysgol Wrecsam:

Mae Prifysgol Wrecsam yn falch iawn o fod wedi ennill Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn 2024 i gydnabod ein hymdrechion i gefnogi cymuned y lluoedd arfog.

Mae Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn arddangos cyflogwyr sydd wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ac sy’n mynd ati i gefnogi cymuned y lluoedd arfog, gan gynnwys y rhai sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin diwylliant cynhwysol a chefnogol sy’n gyfeillgar i’r lluoedd arfog i staff sydd wedi gwasanaethu o’r blaen neu sy’n parhau i wneud hynny fel milwyr wrth gefn neu gadetiaid.

Meddai Mr Tony Fish, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogwyr Rhanbarthol y Weinyddiaeth Amddiffyn yn y Gogledd:

Rydyn ni wrth ein bodd bod cymaint o gyflogwyr yng Nghymru wedi cael eu cydnabod gyda’r Wobr Arian.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 July 2024