6 wythnos hyd nes bydd y bunt yn newid ei siâp
Gyda dim ond 6 wythnos hyd nes bydd y bunt newydd, hanesyddol â 12 ochr yn cael ei chyflwyno, dyma Ysgrifennydd Masnachol y Trysorlys yn ymweld â'r Bathdy Brenhinol.
Bydd y Farwnes Neville-Rolfe yn talu teyrnged i rôl y Bathdy Brenhinol fel arweinydd byd-eang yn y broses o gynhyrchu darnau arian a medalau - gan allforio i 60 o wledydd bob blwyddyn, ar gyfartaledd.
Mae’r ymweliad wedi’i drefnu cyn cynhadledd allforio bwysig yng Nghaerdydd a gaiff ei chynnal fis nesaf, i ddathlu’r ffaith bod Cymru yn brif allforiwr nwyddau a gwasanaethau ledled y byd.
Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yn cadw cwmni i’r gweinidog ar yr ymweliad â’r ffatri yn Llantrisant, Cymru.
Dywedodd y Farwnes Neville-Rolfe, Ysgrifennydd Masnachol y Trysorlys:
Mae cyflwyno darn punt newydd, y darn arian mwyaf diogel yn y byd, yn ddigwyddiad hanesyddol. Mae’r ffaith bod y darn arian yma’n cael ei greu yng Nghymru yn ei wneud yn ddigwyddiad mwy arbennig byth gan ei fod yn tanlinellu pwysigrwydd yr Undeb.
Mae ein neges ni’n glir: os oes gennych chi ddarn punt crwn gartref neu yn eich pwrs, mae angen i chi ei wario neu fynd ag ef i’ch banc cyn 15 Hydref.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’n hynod gyffrous cael cipolwg o hanes ar waith heddiw yn y Bathdy Brenhinol wrth i’r darn punt newydd gael ei baratoi i’w gylchredeg.
Mae presenoldeb y Bathdy Brenhinol yng Nghymru fel creawdwr ein harian cyfred ni - yn ogystal â bod yn gyflogwr o bwys - yn tanlinellu pa mor ganolog yw Cymru i’r undeb.
Mae’r Bathdy Brenhinol hefyd yn torri tir newydd fel allforiwr. Bydd llywodraeth y DU yn cynnal cynhadledd i allforwyr yng Nghymru maes o law, ac mae cwmnïau fel y Bathdy Brenhinol yn enghraifft wych i’w dilyn.
Dyma’r tro cyntaf i’r darn £1 gael ei newid ers 30 o flynyddoedd.
Caiff gwerth tua £1.3 biliwn o ddarnau arian eu storio mewn blychau cynilo ledled y wlad, ac mae’r darn £1 presennol yn cyfrif am bron i draean o’r rhain.
Felly, mae gweinidogion yn atgoffa’r cyhoedd o bwysigrwydd mynd â hen ddarnau £1 i’r banc cyn 15 Hydref 2017 pan fyddant yn colli eu statws tendro cyfreithiol.
Y darn £1 newydd â 12 ochr fydd y darn arian mwyaf diogel yn y byd. Mae ganddo nifer o nodweddion diogelwch newydd, yn cynnwys hologram, i atal pobl rhag gwneud arian ffug, sy’n costio miliynau bob blwyddyn i drethdalwyr a busnesau.