Datganiad i'r wasg

671,000 o bobl ifanc yn cael eu hannog i elwa o’u cronfa cynilo’r llywodraeth

Crynodeb ar gyfer GOV:UK: Gallai miloedd o bobl ifanc gael £2,200 yn eistedd heb ei hawlio yn eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

  • Anogir pobl ifanc i hawlio eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
  • Mae £2,200 ar gyfartaledd yn aros mewn cyfrifon heb eu hawlio

Atgoffir mwy na 670,000 o bobl ifanc 18-22 oed sydd eto i hawlio eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i elwa o’u cronfa wrth i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ddatgelu bod y gronfa cynilo cyfartalog yn werth £2,212.

Mae Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrifon cynilo rhydd o dreth hirdymor a sefydlwyd gyda’r llywodraeth yn adneuo £250 ar gyfer pob plentyn a anwyd rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011. Gall pobl ifanc gymryd rheolaeth o’u Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn 16 oed a chodi arian pan fyddant yn troi’n 18 oed ac mae’r cyfrif yn aeddfedu.

Nid yw’r cynilion yn cael eu dal gan y llywodraeth ond fe’u delir mewn banciau, cymdeithasau adeiladu neu ddarparwyr cynilo eraill. Mae’r arian yn aros yn y cyfrif nes iddo gael ei dynnu’n ôl neu ei ail-fuddsoddi.

Gall person ifanc, neu riant a gwarcheidwad sy’n gwybod pwy yw ei darparwr Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, gysylltu ag ef yn uniongyrchol. Os nad ydynt yn gwybod ble mae eu cyfrif, gallant ddefnyddio’r offeryn ar-lein ar GOV.UK i ddod o hyd i ddarparwr eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Bydd angen eu rhif Yswiriant Gwladol ar bobl ifanc - sydd i’w weld yn hawdd gan ddefnyddio ap CThEF -  a’u dyddiad geni i gael mynediad at yr wybodaeth.

Dywedodd Angela MacDonald, Dirprwy Brif Weithredwr ac Ail Ysgrifennydd Parhaol CThEF:

Mae miloedd o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn sefyll heb eu hawlio - rydym am aduno pobl ifanc gyda’u harian ac rydym yn gwneud y broses mor syml â phosibl.

Nid oes angen i chi dalu unrhyw un i ddod o hyd i’ch Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ar eich rhan, dewch o hyd i’ch un chi heddiw trwy chwilio am ‘find your Child Trust Fund’ ar GOV.UK.

Mae asiantau trydydd parti yn hysbysebu eu gwasanaethau yn cynnig chwilio am Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant a bydd asiantau bob amser yn codi tâl - gydag un yn codi hyd at £350 neu 25% o werth y cyfrif cynilo.

Gall defnyddio asiant leihau’r swm sy’n dod i law yn sylweddol, mae’n debygol o gymryd mwy o amser ac mae angen i gwsmeriaid ddarparu’r un wybodaeth sydd ei hangen arnynt o hyd i wneud y chwiliad eu hunain.

Meddai Gavin Oldham, Share Foundation:

Os ydych rhwng 18 a 21 oed, byddai’r llywodraeth wedi rhoi arian o’r neilltu i chi yn fuan ar ôl genedigaeth. Byddai’r buddsoddiad hwn wedi tyfu cryn dipyn ac mae yn eich enw chi. Mae’r Share Foundation wedi cysylltu dros 65,000 o bobl ifanc â’u cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Mae’n hawdd ac yn rhad ac am ddim i ddarganfod ble mae’ch arian. Ewch i findCTF.sharefound.org neu GOV.UK i ddod o hyd iddo heddiw.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, defnyddiodd mwy na 450,000 o gwsmeriaid, gyda’u rhif Yswiriant Gwladol a’u dyddiad geni yn unig, yr offeryn GOV.UK rhad ac am ddim i ddod o hyd i’w Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.

Mae rhagor o wybodaeth am Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant a sut i gael gafael ar eich cynilion ar gael ar GOV.UK.

FRhagor o wybodaeth

Cyhoeddwyd y ffigurau diweddaraf ar gyfer Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant sydd wedi’u cynnwys yn yr Ystadegau Cynilo Blynyddol  ar 19 Medi 2024, ac maent yn cynnwys ffigurau hyd at fis Ebrill 2024.

Daeth y cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant i ben ym mis Ionawr 2011, a chafodd ei ddisodli gan y Cyfrif Cynilo Unigol Iau.

Os nad oedd modd i riant neu warcheidwad drefnu cyfrif ar gyfer ei blentyn, gwnaeth y llywodraeth agor cyfrif cynilo ar ei ran.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 September 2024