Datganiad i'r wasg

Hwb o £8 miliwn i brosiectau gwres carbon isel yn ne Cymru

Rhwydweithiau gwres a ariennir gan Lywodraeth y DU i ddarparu gwres carbon isel fforddiadwy i adeiladau megis canolfannau hamdden a swyddfeydd cynghorau lleol yn ne Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
  • Rhwydweithiau gwres a ariennir gan Lywodraeth y DU i ddarparu gwres carbon isel fforddiadwy i adeiladau megis canolfannau hamdden a swyddfeydd cynghorau lleol yn ne Cymru
  • Gwneud yr adeiladau yn wyrddach yw’r cam nesaf yng nghynlluniau’r llywodraeth i gyrraedd gollyngiadau sero-net erbyn 2050
  • Gall rwydweithiau Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd helpu cannoedd o dai ac adeiladau dorri eu gollyngiadau o hyd at 80% - sy’n cyfateb i blannu 7,000 o goed

Bydd cannoedd o gartrefi ar draws Caerdydd a Phen-y-bont yn derbyn ynni carbon isel o brosiectau rhwydwaith gwres newydd, diolch i hwb o £8 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU heddiw (12 Awst).

Bydd y cyllid yn datblygu system newydd o bibellau dosbarthu sy’n cymryd gwres gormodol o ffynhonnell ganolog, megis ynni a gynhyrchir gan wastraff yng Nghaerdydd, a gorsaf Gwres a Phŵer Cyfunedig gyda chyfleuster storio thermol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd ffynonellau hyn wedyn yn darparu gwres i adeiladau cyhoeddus o fewn y dre a chanol y ddinas ac yn gallu cysylltu’n hawdd â ffynonellau gwres carbon is newydd yn y dyfodol.

Mae rhwydweithiau gwres wedi’i profi yn gost effeithiol i ddarparu gwres carbon isel dibynadwy am bris teg i gwsmeriaid. Bydd y rhwydweithiau newydd yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr yn cael eu defnyddio yn y dyfodol i sicrhau gall busnesau a chartrefi ar draws de Cymru gysylltu â’r system am flynyddoedd i ddod, i helpu i ddarparu ynni sy’n rhatach a gwyrddach.

Mae’r prosiectau newydd yn rhan o Brosiect Buddsoddi Mewn Rhwydweithio Gwres Llywodraeth y DU, cronfa o £320 miliwn i gefnogi adeiladu o rwydweithiau gwres ar draws Lloegr a Chymru.

Yn ôl Kwasi Kwarteng, Gweinidog Gwladol dros Ynni a Thwf Glan:

Bydd y prosiectau yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd yn helpu i gysylltu cymaint o dai lleol a busnesau i wres carbon isel fforddiadwy a fydd yn helpu pobl i arbed arian ar eu costau ynni.

Drwy gysylltu adeiladau cyhoeddus i’r rhwydweithiau gwres, gall cynghorau a chanolfannau hamdden ail fuddsoddi’r arian a arbedir ar gostau ynni mewn gwasanaethau hanfodol mewn ffordd sy’n cyflawni ein nod o gyrraedd allyriadau net di-garbon erbyn 2050.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae rhwydweithiau gwres yn rhan o gynllun Llywodraeth y DU i leihau allyriadau carbon a lleihau costau gwresogi i ddefnyddwyr.

Bydd y buddsoddiad o £8 miliwn yn helpu i wresogi cannoedd o dai a busnesau drwy ddefnyddio ynni rhatach a gwyrddach ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Mae hefyd yn nodi cam ymlaen yn ein Strategaeth Twf Glân uchelgeisiol ac yn ein symud yn nes at ein targed o sero-net o ollyngiadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.

Gyda 9% o ollyngiadau yng Nghymru yn tarddu o gartrefi a busnesau, bydd y prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd yn gam ymlaen tuag at wres gwyrddach a chostau llai ar draws y DU. Drwy ail ddefnyddio gwres o orsafoedd gwastraff lleol, gall y sawl sydd wedi eu cysylltu â rhwydwaith Caerdydd leihau eu gollyngiadau carbon o hyd at 80%. Gall hyn arbed 18,000 tunnell o CO2 dros y ddeng mlynedd nesaf - sy’n cyfateb i blannu 7,000 o goed.

Bydd y ddau brosiect yn derbyn arian drwy’r Triple Point Heat Networks Investment Management, partner darparu Llywodraeth y DU sydd wedi dyfarnu cyllid yn llwyddiannus i gyfanswm o 18 prosiect fel rhan o’r Prosiect Buddsoddi Mewn Rhwydweithiau Gwres.

Meddai Ken Hunnisett, Cyfarwyddwr Prosiect yn Triple Point Heat Networks Investment Management:

Un o amcanion HNIP yw darparu gwres carbon isel fforddiadwy a dibynadwy, ac felly mae cyhoeddi’r rhwydweithiau gwres cyntaf sydd wedi eu hariannu gan HNIP yn garreg filltir bwysig. Bydd y prosiect hwn o fudd sylweddol i ddefnyddwyr ac i’r amgylchedd a byddent yn dangos y rôl gall cynlluniau rhwydwaith gwres ei chwarae wrth gyrraedd targedau carbon drwy leihau allyriadau o adeiladau.

Ar hyn o bryd, mae llai na 5% o’r ynni a ddefnyddir i wresogi tai ac adeiladau yn dod o ffynonellau carbon isel. Mae cynyddu’r nifer o gartrefi a busnesau sydd ar y rhwydweithiau gwres yn rhan bwysig o gynlluniau Llywodraeth y DU i wella’r niferoedd sy’n manteisio ar wres carbon isel wrth i’r DU geisio dod a’i chyfraniad tuag at newid hinsawdd i ben yn gyfan gwbl erbyn 2050.

Rhwydweithiau gwres yw un o’r ffyrdd mwyaf cost effeithiol o leihau allyriadau carbon o wresogi, mae eu heffeithlonrwydd a’u potensial o arbed carbon yn cynyddu wrth iddynt dyfu a chysylltu â’i gilydd. Mae’r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn amcangyfrif bydd 18% o wres y DU yn dod o rwydweithiau gwres erbyn 2050 os yw’r DU yn cyrraedd ei tharged sero net.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Mwy am y Prosiect Buddsoddi Mewn Rhwydweithiau Gwres

  • Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn buddsoddi £320 miliwn mewn rhwydweithiau gwres yn Lloegr a Chymru hyd at fis Mawrth 2022 drwy’r Prosiect Buddsoddi Mewn Rhwydweithiau Gwres (HNIP), sydd wedi ei gynllunio i gyflymu twf y farchnad.
  • Mae Triple Point Heat Network Investment Management yn rhedeg HNIP dan gytundeb
  • Gweler rhestr o brosiectau llwyddiannus yma.
  • Gall prosiectau sy’n awyddus i gyflwyno cais am gyllid wneud hynny yma.
  • Dysgwch fwy am y Prosiect Buddsoddi Mewn Rhwydweithiau Gwres

Manylion am y prosiectau HNIP llwyddiannus

Rhwydwaith gwres tref Pen-y-bont ar Ogwr: grant masnacheiddio ac adeiladu o £1,241,000

I ddechrau, bydd y cynllun yn gwasanaethu adeiladau’r sector gyhoeddus yng nghanol y dref, gan gynnwys y Neuadd Bowls, swyddfeydd y Ganolfan Ddinesig, Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr (Y Ganolfan Hamdden) a’r datblygiad preswyl newydd. Bydd y rhwydwaith yn caniatáu i ehangu i adeiladau eraill yn yr ardal gyfagos gan gynnwys busnesau lleol ac unedau preswyl. Bydd y ganolfan egni wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr ac yn defnyddio Gwres a Phŵer Cyfyngedig (CHP) a bwerir gan nwy gyda boeleri nwy wrth gefn. Bydd y rhain yn cael eu disodli gan unedau Gwres a Phŵer Cyfyngedig mwy gyda boeleri wrth gefn a thanc storio thermol ychwanegol yng nghefn Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr wrth i’r cynllun ddatblygu. Amcanion allweddol y cynllun yw parhau i ddarparu llai o gostau ynni i gwsmeriaid, sicrhau arbedion o ran allyriadau carbon o gymharu â strategaethau eraill a, dros amser i ddatgarboneiddio cyflenwadau gwres ymhellach.

Rhwydwaith gwres Caerdydd: grant adeiladu o £6,628,000

Bydd Rhwydwaith Gwres arfaethedig Caerdydd yn dechrau yng ngorsaf Cyfleuster Adfer Ynni Parc Trident Trident Park Energy Recovery Facility (ERF) plant) ym Mae Caerdydd gan ledu ar draws ardal y Bae cyn croesi ar y brif reilffordd o Gaerdydd i Lundain fel rhan o’r cam pellach. Bydd arian o’r Prosiect Buddsoddi Mewn Rhwydwaith Gwres yn cefnogi Cam 1 o’r rhwydwaith a fydd yn cyrraedd yr ardal sy’n union i’r de o’r rheilffordd. Bydd defnyddio’r orsaf Cyfleuster Adfer Ynni yn caniatáu i’r rhwydwaith gwrdd â’i galw o 12 GWh o wres y flwyddyn i gwsmeriaid yng Ngham 1 tra bydd canolfan egni ar wahân sy’n cynnwys boeleri nwy wrth gefn yn darparu mwy o allu gan sicrhau’r gallu i’r rhwydwaith. Ar ôl ei hadeiladu’n llawn, (Cam 1 a 2). Bydd gan y cysylltiadau alw o 34GWh o wres yn flynyddol gyda galw cyfunol o tua 22GWh o wres yn flynyddol i adeiladau’r sector breifat. Bydd rhan o arian yr HNIP yn cefnogi costau diogelwch parhaol y rhwydwaith a thwf posib yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd ar 13 August 2020