Ymrwymiad o £8 miliwn i brosiect twf ac adfywio Port Talbot
Bydd cynlluniau’n cynnal mwy na 100 o swyddi ac yn y pen draw yn cynhyrchu mwy nag £87 miliwn i economi De Cymru.
- Bydd y cyntaf o’r prosiectau twf ac adfywio ym Mhort Talbot yn cael £8.2 miliwn gan Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot.
- Bydd cynlluniau’n cynnal mwy na 100 o swyddi ac yn y pen draw yn cynhyrchu mwy nag £87 miliwn i economi De Cymru.
- Mae Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot bellach wedi dyrannu £51 miliwn i’r gymuned leol.
Mae disgwyl i fwy na 100 o swyddi gael eu creu a’u cynnal gyda chyhoeddiad Llywodraeth y DU o £8.2 miliwn o gyllid ar gyfer y prosiect adfywio cyntaf ym Mhort Talbot, gyda phrosiectau eraill i ddilyn.
Wrth gadeirio cyfarfod diweddaraf Bwrdd Pontio Tata Steel Port Talbot heddiw (6 Chwefror) bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, yn cyhoeddi buddsoddiad o £8.2 miliwn ar gyfer Canolfan Pontio Diwydiannol o Garbon De Cymru (SWITCH) i gynnal mwy na 100 o swyddi.
Bydd prosiect Canolfan Pontio Diwydiannol o Garbon De Cymru yn ailddatblygu safle pedair erw yng Nglannau’r Harbwr, Port Talbot, a fydd yn cynnwys adeiladu gofod ychwanegol a rennir, gwaith lliniaru llifogydd a darparu offer arbenigol. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sefydlu Ardal Arloesi ym Mhort Talbot.
Bydd hyn yn caniatáu datblygu cyfleuster newydd sy’n anelu at gefnogi’r diwydiant dur a metel a’r gadwyn gyflenwi i leihau allyriadau carbon wrth gynhyrchu. Disgwylir i’r cyfleuster greu a chynnal mwy na 100 o swyddi ac yn y pen draw bydd yn cynhyrchu £87 miliwn i economi De Cymru.
Daw’r cyllid diweddaraf o gronfa £80 miliwn Tata Steel / Bwrdd Pontio Port Talbot Llywodraeth y DU sydd, ers mis Gorffennaf diwethaf, wedi cyhoeddi buddsoddiad o £51 miliwn i gefnogi gweithwyr dur unigol a busnesau yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel i ddiogelu swyddi a thyfu’r economi leol. Y cyhoeddiad diweddaraf yw’r prosiect cyntaf i gefnogi twf ac adfywio’r rhanbarth. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd hyd at £30 miliwn (fel rhan o’r £80 miliwn cyflawn) yn cael ei roi i brosiectau twf ac adfywio eraill.
Mae’r cyllid hwn yn cefnogi cenhadaeth Llywodraeth y DU i sbarduno twf economaidd a bydd yn helpu i gyflawni’r uchelgais i godi safonau byw ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig fel y nodir yn ei Chynllun ar gyfer Newid.
Meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Fe ddywedon ni y byddem ni’n cefnogi cymuned Port Talbot trwy gydol cyfnod pontio Tata Steel ac rydyn ni’n parhau i wneud yn union hynny.
Mewn chwe mis yn unig mae’r Bwrdd Pontio wedi cyhoeddi buddsoddiad o dros £50 miliwn i gefnogi gweithwyr dur unigol a’u teuluoedd, busnesau yn y gadwyn gyflenwi a bellach ar brosiect adfywio mawr ar gyfer y dref.
Bydd rhagor o filiynau o bunnoedd yn dilyn a thra bod hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i weithwyr Tata, eu teuluoedd a’r gymuned, rydym yn benderfynol o gefnogi ein cymunedau dur beth bynnag sy’n digwydd.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo’n gyflym i ddatblygu ystod o ymyriadau llesiant ac iechyd meddwl. Bydd y gwaith hwn yn blaenoriaethu darparu cymorth iechyd meddwl, yn helpu i adeiladu cydlyniant cymunedol, yn cefnogi’r gwaith o gyflawni mentrau llesiant a chymorth gan gymheiriaid yn y gymuned leol gan gynnwys yr hyn a ddarperir ar hyn o bryd drwy’r gymuned leol a grwpiau cymorth eraill. Bydd cyllid i gefnogi’r gwaith hwn yn cael ei chyhoeddi yng nghyfarfod nesaf y bwrdd pontio.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Mae’r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar y buddsoddiad a fydd yn cael ei ddatgloi drwy’r Porthladd Rhydd Celtaidd a buddsoddiadau ac arloesedd eraill yr ydym yn eu cefnogi ym Mhort Talbot a’r cyffiniau.
Gan weithio ochr yn ochr â’n partneriaid ar y Bwrdd Pontio, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu cyfleoedd ar gyfer twf lle bynnag y maent yn codi yn ogystal â gwneud yn siŵr bod y cymorth a’r gefnogaeth gywir yn eu lle ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan y newidiadau yn Tata.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt:
Rydym yn croesawu’r gyfran ychwanegol hon o gyllid gan y bydd y prosiect SWITCH yn denu swyddi a buddsoddiad i Gastell-nedd Port Talbot wrth iddo ddatblygu dros y blynyddoedd nesaf. Mae hefyd yn golygu y gall yr ardal hon adeiladu ar ei hanes hir yn y diwydiannau dur a metelau wrth fynd i’r afael â heriau ein hoes.
Dywedodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe:
Bydd SWITCH yn trosoli hanes Prifysgol Abertawe o uno academia, diwydiant, awdurdodau lleol, a llywodraeth. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn gwneud arbenigedd ymchwil ac arloesi Cymru hyd yn oed yn fwy hygyrch i fusnes a diwydiant, ac yn helpu i ysgogi twf economaidd, darparu cyflogaeth hirdymor a meithrin cymuned lewyrchus.
Mae Canolfan Pontio Diwydiannol o Garbon De Cymru (SWITCH) yn cynnal gwaith ymchwil i gefnogi’r broses o bontio datgarboneiddio diwydiannol. Bydd y cyhoeddiad hwn am gyllid y Bwrdd Pontio ar gyfer prosiect Glannau’r Harbwr SWITCH yn creu prif leoliad newydd ar gyfer SWITCH. Bydd hyn yn ychwanegu at gyllid o £20 miliwn i’r cyfleuster o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd hefyd yn cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU.