Mynediad at gyfiawnder wedi gwella gyda gwasanaeth cymorth digidol cenedlaethol GLlTEM
Mae gwasanaeth cymorth digidol cenedlaethol newydd gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi yn rhoi cymorth pwrpasol i bobl sy’n ei chael hi’n anodd cael mynediad at wasanaethau ar-lein.
Rhan fawr o wella a moderneiddio mynediad at gyfiawnder yw symud gwasanaethau GLlTEM ar-lein. Ond gwyddom fod nifer fach o bobl yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at wasanaethau ar-lein. Mae anghenion pobl yn amrywio; hwyrach bod angen cymorth arnynt o ddechrau’r siwrnai i’w diwedd wrth ddefnyddio gwasanaethau GLlTEM, neu efallai bod angen cymorth arnynt i lenwi ffurflen ar-lein.
Wedi cynnal trefn dendro gystadleuol, dewiswyd We are Digital i reoli gwasanaeth cenedlaethol newydd, i ddarparu cymorth ledled Lloegr, Cymru (yn cynnwys cymorth yn Gymraeg) a’r Alban (ar gyfer Tribiwnlysoedd materion a gadwyd yn ôl yn unig). Bydd hyn yn dechrau ym mis Hydref.
Rhoddir cymorth wyneb yn wyneb mewn canolfannau cymunedol a chynghori fel Cyngor ar Bopeth a chanolfannau’r gyfraith. Bydd hefyd ar gael dros y ffôn neu drwy gyfrwng meddalwedd ar-lein, fel Skype. Yn gyfochrog â hyn, bydd staff yn ein Canolfannau Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yn parhau i roi cymorth digidol dros y ffôn.
Bu i’r gwersi pwysig a ddysgwyd o roi cynllun peilot llwyddiannus ar waith lywio’r gwasanaeth cymorth cenedlaethol newydd. Yn cael ei gynnal gan Good Things Foundation, cefnogodd y cynllun peilot 1,221 o bobl, gan sefydlu’r hyn mae defnyddwyr ei angen i’w cefnogi wrth geisio cael mynediad at ein gwasanaethau ar-lein. Darparwyd cymorth drwy rwydwaith bychan o ganolfannau cymunedol a chynghori a llwyddodd hyn i’n helpu i ddeall sut olwg fyddai ar wasanaeth cymorth cenedlaethol mwy. Ar gyfartaledd, rhoddwyd sgôr o 9.5 allan o 10 gan ddefnyddwyr y gwasanaeth. Dywedodd un person a elwodd: “Anhygoel. Nid wyf yn teimlo dan gymaint o bwysau nawr.”
Rydym yn buddsoddi dros £10m yn ystod cyfnod y contract i gyflwyno’r gwasanaeth pwysig hwn. Yn ystod y chwe mis cyntaf, bydd y gwasanaeth yn cael ei gynllunio a’i brofi, gan ddatblygu’n wasanaeth cenedlaethol llawn erbyn gwanwyn 2022.
Dywedodd Mike Brazier, Pennaeth Cynhwysiant Digidol:
Mae hwn yn wasanaeth gwych fydd yn helpu pobl gael mynediad at y gwasanaethau cyfiawnder sydd arnynt eu hangen. Rwy’n falch iawn o waith y tîm. Rydym yn ddiolchgar iawn i Good Things Foundation am roi cynllun peilot ein gwasanaeth cymorth digidol ar waith, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda We are Digital i barhau ein hymrwymiad yn cefnogi pobl sydd angen cymorth i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein.
Darllenwch yr adroddiad diwedd y cynllun peilot ar wefan Good Things Foundation
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 October 2021 + show all updates
-
Added translation
-
First published.