Adolygiad o Ffioedd a Thaliadau APHA Diweddariad 2022/2023
Mae adolygiad ar y gweill o’r ffioedd presennol y mae APHA yn eu codi am wasanaethau statudol
Ym mis Awst, gwnaethom gyhoeddi bod APHA yn ymrwymedig i weithio tuag at adennill costau llawn am y gwasanaethau statudol mae’n eu darparu a bod adolygiad o’r holl ffioedd yn cael ei gynnal.
Newidiadau Arfaethedig i Ffioedd
Mae’r adolygiad bellach wedi’i gynnal ar gyfer 5 cynllun arall ac mae APHA a Thîm Cyllid Defra wedi diwygio rhestrau’r ffioedd ar gyfer y gwasanaethau taladwy canlynol:
- Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid
- Rheolaethau Bridio Artiffisial
- Safleoedd Rheoli Ffiniau
- Cynllun Iechyd Dofednod
- Rhaglen Reoli Genedlaethol Salmonela (NCP).
Mae manylion am y newidiadau newydd i ffioedd ar gael yn Atodiad 1 isod. Caiff mwyafrif y ffioedd eu cynyddu’n raddol.
Mae disgwyl i’r newidiadau hyn ddod i rym o 1 Gorffennaf 2023 ymlaen yn Lloegr. Gall y dyddiad uchod newid, felly ewch i GOV.UK i weld newidiadau i’r dyddiad gweithredu.
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn ymrwymedig i newid ffioedd yn unol ag APHA hefyd ac maent yn gweithio’n agos i gyflwyno deddfwriaeth ar yr un pryd.
Mae’r ffioedd ar gyfer y Confensiwn ar y Fasnach mewn Rhywogaethau Mewn Perygl (CITES) yn parhau i gael eu hadolygu.
Rhestr-Ffioedd
Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid
Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr sefydliad neu safle ar gyfer cais am gymeradwyaeth neu gymeradwyaeth amodol o dan Erthygla 20 o Reoliad Rheolaethau Swyddogol
Gweithgaredd | Ffioedd Presennol | Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 | Ffioedd o 01/07/24 |
---|---|---|---|
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol yn teithio i safle ac oddi yno at ddiben cwblhau’r gweithgareddau a nodir yn y Tabl hwn a Thabl 2 | £21 | £22 | £22 |
Amser a dreuliwyd gan swyddog a gyflogir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (heblaw swyddog milfeddygol) yn teithio i safle ac oddi yno at ddiben cwblhau’r gweithgareddau a nodir yn y Tabl hwn a Thabl 2 | £14 | £12 | £12 |
Ystyried cais i gymeradwyo safle toddi sy’n cynnwys ymweliad o’r safle o hyd at 60 munud | £1785 | £2134.50 | £2484 |
Ystyried cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n trawsffurfio sgîl-gynhyrchion anifeiliaid a/neu gynhyrchion anifeiliaid i mewn i gompost sy’n cynnwys ymweliad o’r safle o hyd at 60 munud | £951 | £1147 | £1343 |
Ystyried cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n trawsffurfio sgîl-gynhyrchion anifeiliaid a/neu gynhyrchion anifeiliaid i mewn i fio-nwy sy’n cynnwys ymweliad o’r safle o hyd at 60 munud | £951 | £1147 | £1343 |
Ystyried cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n ymdrin â sgîl-gynhyrchion anifeiliaid ar ôl eu casglu, drwy weithrediadau megis didoli, torri, oeri, rhewi, halltu, tynnu crwyn neu dynnu deunydd sy’n peri risg, sy’n cynnwys ymweliad o’r safle o hyd at 60 munud | £485 | £586 | £687 |
Ystyried cais i gymeradwyo sefydliad neu safle sy’n storio sgîl-gynhyrchion anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid sy’n cynnwys ymweliad o’r safle o hyd at 60 munud | £485 | £586 | £687 |
Ystyried cais i gymeradwyo safle llosgydd sy’n cynnwys ymweliad o’r safle o hyd at 60 munud | £395 | £476 | £557 |
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol at ddiben cwblhau’r gweithgareddau a nodir yn y Tabl hwn ar ôl 60 munud cyntaf yr ymweliad o’r safle i asesu ei addasrwydd am gymeradwyaeth | £395 | £476 | £557 |
Amser a dreuliwyd gan swyddog a gyflogir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (heblaw swyddog milfeddygol) at ddiben gweinyddu ymweliadau ychwanegol a gweithgareddau cysylltiedig | £6 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | £11 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | £11 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
Ffi weinyddol ychwanegol ar gyfer cynhyrchu anfonebau ar gyfer ymweliadau ychwanegol a gweithgareddau cysylltiedig | £13 bob anfoneb | £21 bob anfoneb | £21 bob anfoneb |
Ffi sy’n daladwy gan weithredwr sefydliad neu safle ar gyfer ymweliadau archwilio safle a gwblheir o dan Erthygl 20 Rheoliad Rheolaethau Swyddogol
Gweithgaredd | Ffioedd Presennol | Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 | Ffioedd o 01/07/24 |
---|---|---|---|
Amser a dreuliwyd gan swyddog milfeddygol a gyflogir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddiben ymweliad archwilio safle sy’n para’n hirach na 30 munud | £16 | £22 | £22 |
Amser a dreuliwyd gan swyddog a gyflogir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (heblaw swyddog milfeddygol) at ddiben ymweliad archwilio safle sy’n para’n hirach na 30 munud | £8 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | £12 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | £12 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
Amser a dreuliwyd yn trefnu ymweliad archwilio safle ac ymdrin ag unrhyw gamau gweithredu sy’n codi o’r ymweliad gan swyddog yr Ysgrifennydd Gwladol (heblaw swyddog milfeddygol) | £6 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | £11 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | £11 bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir |
Ffioedd ar gyfer cwblhau 30 munud cyntaf ymweliad archwilio safle lle mae cynnal naill ai archwiliad blynyddol neu archwiliad bob dwy flynedd o sefydliad neu safle cymeradwy neu gofrestredig yn ofynnol o dan Reoliad Rheolaethau Swyddogol | £157 bob ymweliad | £188 bob ymweliad | £219 bob ymweliad |
Ffi flynyddol ar gyfer cwblhau 30 munud cyntaf o bob un o’r pedwar ymweliad archwilio safle i archwilio sefydliad neu safle cymeradwy neu gofrestredig lle mae archwiliadau chwarterol yn ofynnol o dan Reoliad Rheolaethau Swyddogol | £561 y flwyddyn | £752 y flwyddyn | £876 y flwyddyn |
Ffi ar gyfer cwblhau 30 munud cyntaf o bob un o’r deuddeg ymweliad archwilio safle i archwilio sefydliad neu safle cymeradwy neu gofrestredig lle mae archwiliadau misol yn ofynnol o dan Reoliad Rheolaethau Swyddogol | £1658 y flwyddyn | £2256 y flwyddyn | £2628 y flwyddyn |
Rheolaethau Bridio Artiffisial - Semen Buchol: Ffioedd
Ffioedd sy’n daladwy gan ymgeiswyr a gweithredwyr o dan Reoliadau 2007
Gweithgaredd | Ffioedd Presennol | Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 | Ffioedd o 01/07/24 |
---|---|---|---|
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn cynnal y gweithgareddau a nodir yn y tabl hwn (yn ychwanegol at bob un o’r ffioedd a nodir isod) - mae’r ffioedd am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | £16 | £22 | £22 |
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i safle ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau a nodir isod – mae’r ffioedd am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 6 gwaith y ffi | £21 | £22 | £22 |
Ystyried cais am gymeradwyaeth o dan reoliadau 7 a 10 o Reoliadau 2007 ar gyfer defnydd mewn canolfan gasglu ddomestig neu ar safle didrwydded | £20 | £27 | £33 |
Ystyried cais o dan reoliad 7 o Reoliadau 2007 i gymeradwyo anifail buchol i’w ddefnyddio mewn canolfan gasglu drwyddedig | £26 | £35 | £44 |
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gwarantîn drwyddedig o dan reoliad 4 o Reoliadau 2007 | £29 | £39 | £48 |
Ystyried cais am drwydded i weithredu canolfan gasglu drwyddedig o dan reoliad 4 o Reoliadau 2007 | £27 | £37 | £46 |
Cynnal archwiliad o ganolfan semen buchol o dan reoliad 40 o Reoliadau 2007 | £17 | £23 | £28 |
Archwiliad rheolaidd o anifeiliaid buchol cymeradwy ar gyfer defnydd domestig | £23 | £31 | £38 |
Archwiliad rheolaidd o anifeiliaid buchol cymeradwy i’w masnachu i aelod Wladwriaeth | £23 | £31 | £38 |
Rheolaethau Bridio Artiffisial - Semen Moch: Ffioedd
Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau 1964 a Rheoliadau 1992
Gweithgaredd | Ffioedd Presennol | Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 | Ffioedd o 01/07/24 |
---|---|---|---|
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn cynnal y gweithgareddau a nodir yn y tabl hwn (yn ychwanegol at bob un o’r ffioedd a nodir isod) - mae’r ffioedd am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | £16 | £22 | £22 |
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i safle ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau a nodir isod – mae’r ffioedd am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 6 gwaith y ffi | £21 | £22 | £22 |
Cais i gymeradwyo baedd i ddarparu semen at ddiben ffrwythloni artiffisial
Gweithgaredd | Ffioedd Presennol | Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 | Ffioedd o 01/07/24 |
---|---|---|---|
Ystyried cais i gymeradwyo baedd o dan reoliad 2(1) o Reoliadau 1964 at ddiben casglu semen - fesul baedd | £31 | £42 | £53 |
Profi baedd yn rheolaidd
Gweithgaredd | Ffioedd Presennol | Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 | Ffioedd o 01/07/24 |
---|---|---|---|
Profi baeddod yn rheolaidd adeg ffrwythloni artiffisial - fesul baedd | £23 | £31 | £38 |
Gweithredu canolfan ffrwythloni artiffisial
Gweithgaredd | Ffioedd Presennol | Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 | Ffioedd o 01/07/24 |
---|---|---|---|
Ystyried cais gan weithredwr am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer canolfan ffrwythloni artiffisial | £27 | £37 | £46 |
Ystyried cais i gymeradwyo newid safle trwyddedig (yn unol ag amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded) | £25 | £34 | £42 |
Archwiliad rheolaidd o ganolfan ffrwythloni artiffisial | £17 | £23 | £28 |
Rheolaethau Bridio Artiffisial – Embryonau Buchol (casglu, cynhyrchu a throsglwyddo) : Ffioedd
Ffioedd sy’n daladwy o dan Reoliadau 1995
Gweithgaredd | Ffioedd Presennol | Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 | Ffioedd o 01/07/24 |
---|---|---|---|
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn cynnal y gweithgareddau a nodir yn y tabl hwn (yn ychwanegol at bob un o’r ffioedd a nodir isod) - mae’r ffioedd am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | £16 | £22 | £22 |
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i safle ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau a nodir isod – mae’r ffioedd am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at uchafswm o 6 gwaith y ffi | £21 | £22 | £22 |
Cais i gymeradwyo tîm trosglwyddo embryonau: domestig, neu at ddefnydd masnachu i aelod Wladwriaeth neu ar storfa fferm | £28 | £38 | £47 |
Cais i gymeradwyo tîm casglu neu gynhyrchu embryonau heb archwilio labordy | £28 | £38 | £47 |
Cais i gymeradwyo tîm casglu neu gynhyrchu embryonau lle yr archwilir labordy | £28 | £38 | £47 |
Cais i ail-gymeradwyo labordy neu storfa yn dilyn unrhyw newidiadau | £9 | £34 | £42 |
Cymeradwyo storfa neu labordy tîm embryonau ychwanegol, llai na 8 km i ffwrdd, yr un diwrnod | £9 | £13 | £16 |
Cymeradwyo storfa neu labordy tîm embryonau ychwanegol, mwy na 8 km i ffwrdd | £25 | £13 | £16 |
Cynnal archwiliad rheolaidd o dimau a safleoedd ychwanegol | £4 | £6 | £7 |
Cynnal archwiliad rheolaidd o dimau a safleoedd | £17 | £23 | £28 |
Safleoedd Rheoli Ffiniau - Gwirio llwythi o anifeiliaid byw o drydydd gwledydd mewn mannau rheoli ar y ffin: ffioedd
Ffioedd am archwilio llwythi o anifeiliaid o drydydd gwledydd a gwirio dogfennaeth fewnforio mewn safleoedd archwilio ar y ffin yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau 2011
Archwilio’r math o anifail a gwirio dogfennau | Ffioedd Presennol | Ffioedd (£) o 01/07/23 |
---|---|---|
Dofednod ac adar hela bach | £65 | £53 |
Dofednod - wyau rheolaidd a gaiff eu mewnforio | £38 | £53 |
Ratidau | £65 | £53 |
Adar caeth | £64 | £61 |
Pysgod byw, anifeiliaid dyfrol | £32 | £48 |
Gwenyn | £32 | £40 |
Cwningod | £29 | £44 |
Cnofilod | £29 | £44 |
Pryfed eraill, infertebratau | £26 | £40 |
Ymlusgiaid | £26 | £48 |
Anifeiliaid anwes heb ddatganiad gyda nhw | £57 | £63 |
Ceffylau | £62 | £79 |
Anifeiliaid fferm, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt | £146 | £190 |
Anifeiliaid nas cwmpesir gan unrhyw gategori arall | £55 | £50 |
Gwirio dogfennau trawslwytho | £52 | £79 |
Ffioedd ychwanegol ar gyfer archwiliadau a gwiriadau penodol
Cyfnod y cwblhawyd yr archwiliadau a’r gwiriad | Ffioedd Presennol | Ffioedd (£) o 01/07/23 |
---|---|---|
Archwiliad a gwiriad y tu allan i oriau | £140 | £261 |
Archwiliad neu wiriad yn ystod y penwythnos neu wyliau’r banc | £185 | £346 |
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i safle ac oddi yno | £16 | £16 |
Ffioedd ar gyfer archwiliadau a gwiriadau ychwanegol oherwydd diffyg cydymffurfiaeth neu fesurau rheoli ychwanegol
Unigolyn sy’n cwblhau’r archwiliadau a’r gwiriadau ychwanegol | Ffioedd Presennol | Ffioedd o 01/07/23 |
---|---|---|
Y tu allan i oriau ychwanegol GYDA’R NOS - 1/4 awr Uwch-arolygydd Milfeddygol | £17 | £21 |
Y tu allan i oriau ychwanegol AR Y PENWYTHNOS - 1/4 awr Uwch-arolygydd Milfeddygol | £23 | £28 |
Oriau Safonol Ychwanegol - 1/4 awr Uwch-arolygydd Milfeddygol | £11 | £14 |
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i safle ac oddi yno | £16 | £16 |
Cynllun Iechyd Dofednod : Ffioedd
Ffioedd am gofrestru a chymeradwyo sefydliad at ddibenion cynllun iechyd dofednod
Gweithgaredd | Ffioedd Presennol | Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 | Ffioedd o 01/07/24 |
---|---|---|---|
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn cynnal y gweithgareddau a nodir yn y Tabl hwn (yn y tabl hwn, y “ffi amser”) (yn ychwanegol at y ffioedd a nodir isod oni nodir fel arall yng ngholofn 2) - am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | £16 | £22 | £22 |
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i safleoedd aelod o’r cynllun iechyd dofednod ac oddi yno (“aelod o’r cynllun’ yn y tabl hwn) at ddiben y gweithgareddau isod – am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir hyd at 6 uned | £21 | £22 | £22 |
Cofrestriad blynyddol fel aelod o’r cynllun | £55 | £82 | £108 |
Cymeradwyaeth blwyddyn gyntaf o haid neu ddeorfa, neu haid a deorfa gyfunol aelod o’r cynllun ar un safle lle y cynhelir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol | £27 | £49 | £71 |
Ailgymeradwyaeth flynyddol o haid neu ddeorfa, neu haid a deorfa gyfunol aelod o’r cynllun ar un safle, lle y cynhelir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol | £56 | £62 | £67 |
Ailgymeradwyaeth safle ychwanegol o haid neu ddeorfa aelod o’r cynllun, lle mae aelod o’r cynllun yn gwneud cais am nifer o safleoedd ar yr un pryd, a lle y cynhelir yr archwiliad gan swyddog milfeddygol | £31 | £35 | £39 |
Ailgymeradwyaeth flynyddol o haid neu ddeorfa, neu haid a deorfa gyfunol aelod o’r cynllun ar un safle, lle y cynhelir yr archwiliad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol – nid yw’r ffi amser yn gymwys | £54 | £61 | £67 |
Ailgymeradwyaeth safle ychwanegol lle mae aelod o’r cynllun yn gwneud cais am nifer o safleoedd ar yr un pryd, a lle y cynhelir yr archwiliad gan filfeddyg nad yw’n swyddog milfeddygol - nid yw’r ffi amser yn gymwys | £29 | £34 | £39 |
Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy mewn perthynas â chymeradwyaeth at ddiben y cynllun iechyd dofednod
Gweithgaredd | Ffioedd Presennol | Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 | Ffioedd o 01/07/24 |
---|---|---|---|
Prosesu cais am gymeradwyaeth labordy gychwynnol neu adnewyddiad bob dwy flynedd o gymeradwyaeth labordy | £73 | £86 | £86 |
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â bacterioleg Salmonela (clefyd y cywennod, galinarwm ac arisone) – fesul prawf | £131 | £158 | £158 |
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â seroleg Salmonela (clefyd y cywennod, galinarwm) – fesul prawf | £321 | £310 | £310 |
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â seroleg ieir Mycoplasma (galisepticwm) – fesul prawf | £321 | £310 | £310 |
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â meithriniadau Mycoplasma (galisepticwm a meleagridis) fesul prawf | £281 | £280 | £280 |
Prawf medrusrwydd mewn perthynas â seroleg tyrcwn Mycoplasma (galisepticwm a meleagridis) - fesul prawf | £336 | £310 | £310 |
Rhaglen Reoli Genedlaethol Salmonela (NCP): Ffioedd
Ffioedd sy’n daladwy gan yr unigolyn sy’n gyfrifol am y daliad ieir neu dyrcwn y caiff sampl swyddogol eu cymryd, eu prosesu a’u harchwilio ohono at ddibenion Rheoliad (CE) Rhif 2160/2003
Gweithgaredd | Ffioedd Presennol | Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 | Ffioedd o 01/07/24 |
---|---|---|---|
Amser a dreulir yn cael sampl rheoli swyddogol i’w harchwilio mewn labordy (y “ffi amser” yn y tabl hwn) (yn ychwanegol at y ffioedd a nodir isod, oni nodir fel arall yng ngholofn 2) – fesul chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir | £9 | £12 | £12 |
Amser a dreulir gan swyddog iechyd anifeiliaid yn teithio i safleoedd ac oddi yno at ddiben y gweithgareddau isod - fesul chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at 6 uned | £14 | £12 | £12 |
Cymryd sampl rheoli swyddogol oddi wrth haid o ieir dodwy | £32 | £41 | £49 |
Cymryd sampl rheoli swyddogol oddi wrth haid o ieir neu dyrcwn magu | £52 | £68 | £83 |
Cymryd sampl rheoli swyddogol oddi wrth haid o frwyliaid, neu haid o dyrcwn pesgi | £72 | £95 | £117 |
Archwilio sampl rheoli swyddogol mewn labordy - fesul sampl a brofir (nid yw’r ffi amser yn gymwys) | £14 | £18 | £21 |
Ffioedd sy’n daladwy gan weithredwr labordy mewn perthynas â chymeradwyaeth o dan Erthygl 12 Rheoliad (CE) Rhif 2160/2003
Gweithgaredd | Ffioedd Presennol | Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 | Ffioedd o 01/07/24 |
---|---|---|---|
Prosesu cais am gymeradwyaeth labordy gychwynnol neu adnewyddiad bob dwy flynedd o gymeradwyaeth labordy | £73 | £86 | £86 |
Cynnal archwiliadau a phrosesau sicrhau ansawdd yn seiliedig ar nifer y profion y cymeradwyir y labordy ar eu cyfer - un, dau, tri a phedwar prawf | £350 | £688 | £1,025 |
Cynnal archwiliadau a phrosesau sicrhau ansawdd yn seiliedig ar nifer y profion y cymeradwyir y labordy ar eu cyfer - un, dau, tri a phedwar prawf | £361 | £688 | £1,025 |
Cynnal archwiliadau a phrosesau sicrhau ansawdd yn seiliedig ar nifer y profion y cymeradwyir y labordy ar eu cyfer - un, dau, tri a phedwar prawf | £372 | £688 | £1,025 |
Cynnal archwiliadau a phrosesau sicrhau ansawdd yn seiliedig ar nifer y profion y cymeradwyir y labordy ar eu cyfer - un, dau, tri a phedwar prawf | £384 | £688 | £1,025 |
Ffioedd sy’n daladwy gan yr unigolyn sy’n gyfrifol am heidiau o ddofednod am gynnal profion o dan bwynt 4(b) o Ran D o Atodiad II i Reoliad (CE) Rhif. 2160/2003
Gweithgaredd | Ffioedd Presennol | Ffioedd Graddol o 01/07/23 i 30/06/24 | Ffioedd o 01/07/24 |
---|---|---|---|
Cynnal profion ar saith sampl o lwch a charthion a gymerwyd o bob haid | £99 | £123 | £146 |
Cynnal gwaith samplu a phrofi bacteriolegol o goluddion ac wyffosydd 300 o adar o bob haid | £2,470 | £3,203 | £3,936 |
Cynnal gwaith samplu a phrofi bacteriolegol o blisgyn a chynnwys 4,000 o wyau o bob haid | £3,080 | £3,517 | £3,954 |
Rhagor o wybodaeth
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost i APHAChargingEnquiries@apha.gov.uk mailbox.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 June 2023 + show all updates
-
ABP - Consideration of an application for approval of an establishment or plant manufacturing pet food that includes a site visit of up to 60 minutes fees updated.
-
Updates made to the Border Control charges
-
Minor changes to fees listed for Artificial Breeding Controls: Bovine Embryo (Collection, production and transfer)
-
First published.