Penodi Ymwelwyr Cyffredinol y Llys Gwarchod
Dau ddeg dau ymwelydd cyffredinol newydd yn cefnogi gwaith sy’n cael ei gyflawni gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5e59279b86650c53b2cefbfe/placeholder.jpg)
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) wedi cyhoeddi eu bod wedi penodi 22 o Ymwelwyr Cyffredinol newydd y Llys Gwarchod ac wedi ailbenodi chwech arall.
Penodeion cyhoeddus yw’r ymwelwyr cyffredinol, sy’n cefnogi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i oruchwylio dirprwyon a benodir gan y llys. Maen nhw hefyd yn chwarae rhan allweddol yn ymchwiliadau’r Swyddfa drwy gynnal asesiadau galluedd meddyliol.
Mae’r penodiadau wedi cael cymeradwyaeth weinidogol, a dechreuodd y penodiadau newydd sydd ar y rhestr ganlynol ym mis Ebrill 2022, am gyfnod o 10 mlynedd:
- Annie Smith
- Barry Purdell
- Clarah Abange
- Debbie Parker
- Elaine Bowden
- Elizabeth Rees
- Hilary Travis
- Janyce Quigley
- Katie Barker
- Katie Smith-Palomeque
- Kimberley Barrett
- Leah Austin
- Louise Ahrens
- Nicholas Rosenfeld
- Olumide Odubawo
- Saka Awokoya
- Sarah Flaxman
- Sarah Woodford
- Sughra Nazir
- Sullay Adekulay
- Suzanne Ryan
- William Walton
Cafodd yr ymwelwyr presennol sydd ar y rhestr ganlynol eu hailbenodi ym mis Ebrill 2022 am gyfnod pellach o 10 mlynedd:
- Barry Whitmore
- Beverley Blythe
- Graeme Currie
- Mark Farnsworth
- Stephen Gray
- Sue Joyce
Penodiadau statudol yw’r rhain dan adran 61 Deddf Galluedd Meddyliol 2005 ac maen nhw wedi eu gwneud yn unol â Chod Llywodraethu Swyddfa’r Cabinet ar Benodiadau Cyhoeddus.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 December 2022 + show all updates
-
Added translation
-
First published.