Datganiad i'r wasg

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Ebrill

Data Tueddiadau'r Farchnad mis Ebrill gan y Gofrestrfa Tir.

Heat map for HPI April 2015 report

Mae data mis Ebrill yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 5.1 y cant sy’n dod â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £179,817 o’i gymharu â’r brig o £181,014 ym mis Tachwedd 2007. Mae prisiau tai wedi codi 0.9 y cant oddi ar fis Mawrth.

Mae’r data rhanbarthol yn dangos mai:

  • Llundain welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf gyda symudiad o 10.9 y cant
  • yn Swydd Gaerefrog a’r Humber y gwelwyd y cynnydd misol mwyaf gyda symudiad o 2.7 y cant
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd yr unig ostyngiad prisiau blynyddol gyda gostyngiad o 0.6 y cant
  • Cymru welodd y gostyngiad misol mwyaf mewn prisiau gyda gostyngiad o 1.1 y cant

Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol ar gyfer gwerthiannau ac adfeddiannau yn ystod mis Chwefror 2015 yn dangos:

  • i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ostwng 17 y cant i 54,103 o’i gymharu â 64,994 ym mis Chwefror 2014
  • y bu gostyngiad o 18 y cant yn nifer yr eiddo a werthwyd am fwy nag £1 filiwn yng Nghymru a Lloegr i 722 o 882 flwyddyn yn gynharach
  • i niferoedd yr adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr ostwng 37 y cant i 638 o’i gymharu â 1,016 ym mis Chwefror 2014
  • yn Llundain, De Ddwyrain Lloegr a Swydd Gaerefrog a’r Humber, cwympodd gwerthiannau adfeddiannau 45 y cant

Mynediad i adroddiad llawn y Mynegai ar gyfer mis Ebrill

Rhanbarth Newid misol oddi ar fis Mawrth 2015 Newid blynyddol oddi ar fis Ebrill 2014 Pris cyfartalog Ebrill 2015
Swydd Gaerefrog a’r Humber 2.7% 3.1% £123,471
Llundain 2.3% 10.9% £474,544
Gogledd Orllewin Lloegr 2.1% 2.3% £113,301
Dwyrain Canolbarth Lloegr 1.4% 5.1% £135,033
De Orllewin Lloegr 1.4% 5.9% £189,447
Cymru a Lloegr 0.9% 5.1% £179,817
De Ddwyrain Lloegr 0.8% 8.8% £244,238
Dwyrain Lloegr 0.3% 7.8% £201,465
Gorllewin Canolbarth Lloegr 0.2% 2.3% £137,121
Gogledd Ddwyrain Lloegr -0.5% -0.6% £98,374
Cymru -1.1% 0.3% £117,032

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo 2015 i 2014

Cyfartaledd prisiau yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) Ebrill 2015 Ebrill 2014 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £282,706 £268,869 5.1%
Tŷ pâr £170,470 £161,431 5.6%
Tŷ teras £135,069 £129,154 4.6%
Fflat/Fflat deulawr £172,719 £163,947 5.4%
Holl £179,817 £171,052 5.1%

Nifer y gwerthiannau 2014 i 2013

Mis Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2013 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 65,184 43,404 50.2%
Chwefror 64,994 45,280 43.5%
Mawrth 67,313 54,745 23.0%
Ebrill 70,203 51,057 37.5%
Mai 77,429 66,368 16.7%
Mehefin 80,666 66,165 21.9%
Gorffennaf 84,494 73,745 14.6%
Awst 87,594 79,481 10.2%
Medi 78,431 69,717 12.5%
Hydref 85,723 76,655 11.8%
Tachwedd 72,158 82,841 -12.9%
Rhagfyr 75,832 79,604 -4.7%
Cyfanswm 910,021 789,062 15.3%

Nifer y gwerthiannau 2015 i 2014

Mis Gwerthiannau 2015 Cymru a Lloegr Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr Gwahaniaeth
Ionawr 54,689 65,184 -16.1%
Chwefror 54,103 64,994 -16.8%

Adfeddiannau fesul rhanbarth 2015 i 2014

Adfeddiannau fesul rhanbarth Chwefror 2015 Chwefror 2014 Gwahaniaeth
Dwyrain Lloegr 55 67 -18%
Dwyrain Canolbarth Lloegr 57 88 -35%
Llundain 56 101 -45%
Gogledd Ddwyrain Lloegr 26 37 -30%
Gogledd Orllewin Lloegr 145 238 -39%
De Ddwyrain Lloegr 66 121 -45%
De Orllewin Lloegr 44 51 -14%
Cymru 48 86 -44%
Gorllewin Canolbarth Lloegr 66 91 -27%
Swydd Gaerefrog a’r Humber 75 136 -45%
Holl 638 1,016 -37%

Mae’r Data Pris a Dalwyd yn cynnwys manylion dros 65,840 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i’w cofrestru ym mis Ebrill 2015. Roedd y gwerthiant drutaf yn ystod mis Ebrill 2015 (£15.6 miliwn) yn Llundain W2. Yn Bishop Auckland, Swydd Durham y cafwyd y gwerthiant rhataf ym mis Ebrill 2015 (£18,500).

Mynediad i’r set lawn o ddata

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir Data Tueddiadau’r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir y Mynegai Prisiau Tai ar gyfer mis Mai am 9.30 y bore ar ddydd Gwener 26 Mehefin 2015. Cyhoeddir y data pris a dalwyd am 11 y bore ar yr un diwrnod.

  2. Mae calendr gyda’r dyddiadau rhyddhau’r prif ffigur a’r Mynegai llawn ar gael.

  3. Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995 yn amodol ar eithrio.

  4. Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion am dros 19 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros 7 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechnoleg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.

  5. Mae’r prif ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.

  6. Mae’r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i’r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy’n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi’r trafodion hyn, rydym yn tynnu’r wybodaeth pris a dalwyd o’r cofnod perthnasol yn y gofrestr.

  7. Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau’n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler data adfeddiannau i gael rhagor o wybodaeth.

  8. Mae tablau cefndir y Mynegai ar gael fel Data Agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen gan beiriant fel data cysylltiedig. Maent ar gael i’w defnyddio a’i hail-ddefnyddio o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA).

  9. Mae Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i’w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae’r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo: * y cyfeiriad llawn * y pris a dalwyd * dyddiad y trosglwyddiad * y math o eiddo * ai adeilad newydd yw’r eiddo ai peidio * ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r eiddo

  10. Gellir llwytho Data Pris a Dalwyd i lawr am ddim ar ffurf txt, csv ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig. Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.

  11. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r gofrestr wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.

  12. Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.

  13. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.gov.uk/land-registry

  14. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov, ein blog, LinkedIn a Facebook

Cysylltu

Swyddfa'r wasg

Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk

Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565

Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 June 2015