Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru: Bydd ail-leoli canolfannau’r Fyddin yn arwain at “fuddsoddiad o £100 miliwn y mae gwir ei angen” yng Nghymru

Heddiw, mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, wedi ymateb i Gynllun Lleoli Canolfannau’r Weinyddiaeth Amddiffyn a fydd yn arwain at fuddsoddiad…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, mae Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, wedi ymateb i Gynllun Lleoli Canolfannau’r Weinyddiaeth Amddiffyn a fydd yn arwain at fuddsoddiad o £100 miliwn yng Nghymru wrth i uned 14eg Catrawd y Signalau (EW) symud i Sain Tathan. 

Roedd manylion am y buddsoddi yn y canolfannau a’r llety newydd wedi’u nodi yn y cynllun lleoli canolfannau sy’n nodi lleoliadau parhaol y Fyddin yn y dyfodol yn y DU yn glir am y tro cyntaf. Mae’r Llywodraeth yn buddsoddi £1.8 biliwn yn y cynllun lleoli canolfannau newydd ar draws y DU gyda £100 miliwn yn cael ei wario yng Nghymru. 

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau y bydd Barics Cawdor, Breudeth, Sir Benfro yn cau, gyda 14eg Catrawd y Signalau (EW) yn symud i Sain Tathan ar ol 2018.  

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru sydd a chyfrifoldeb dros Amddiffyn, Stephen Crabb: 

“Mae cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Amddiffyn heddiw ynghylch Cynllun Lleoli Canolfannau’r Fyddin yn nodi dyfodol y Fyddin yn glir ac yn nodi ble bydd ei chanolfannau parhaol yn y DU.  

“Er mor siomedig yw clywed y bydd Barics Cawdor ym Mreudeth, Sir Benfro yn cau, mae’r newidiadau hyn yn hanfodol ar gyfer dyfodol ein Lluoedd Arfog.  

Rwy’n falch bod ol-troed amddiffyn yn cael ei gynnal i raddau helaeth, ac y bydd 14eg Catrawd y Signalau yn cael ei ail-leoli yng Nghymru, yn Sain Tathan.  

“Disgwylir hefyd y bydd Cymru yn benodol yn derbyn buddsoddiad o tua £100m yn y seilwaith, sydd ei wir angen, er mwyn cefnogi’r broses o ail-leoli canolfannau.” 

Nodyn i Olygyddion: 

  • Bydd y cynllun lleoli canolfannau newydd, yn ogystal a lleihau maint y Fyddin, yn golygu na fydd angen saith safle ar y Fyddin reolaidd mwyach, a byddant ar gael i’w gwaredu:  Barics Claro yn Ripon, Gogledd Swydd Efrog; Barics Howe yng Nghaergaint; Barics Craigiehall yng Nghaeredin a Barics Cawdor ym Mreudeth, Sir Benfro; yn ogystal ag elfennau o Farics Redford yng Nghaeredin. Barics Forthside yn Stirling a Barics Copthorne yn Amwythig. 

  • Bydd y Fyddin wedi dychwelyd yn ol o’r Almaen erbyn 2020 - a disgwylir y bydd hyn yn arwain at arbedion o £240 miliwn y flwyddyn yn y pen draw - a bydd ganddi ganolfannau ledled y DU, gyda chrynodiadau sylweddol yng nghyffiniau Salisbury Plain, Caeredin a Leuchars yn yr Alban, Catterick yng Ngogledd Swydd Efrog, Aldershot, Caer Colun, Stafford a Dwyrain Canoldir Lloegr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 March 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 April 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.