Gofynnwch gwestiwn gwirion...
Heddiw, mae DVLA wedi rhyddhau rhestr o rai o’r cwestiynau anarferol y mae cwsmeriaid wedi gofyn wrth geisio cael gwybod os yw eu car wedi’i drethu.
Mae gwasanaethau DVLA ar Google Assistant ac Amazon Alexa yn galluogi modurwyr i ofyn DVLA pryd mae eu treth cerbyd yn ddyledus gan ddarparu’r rhif cofrestru. Mae’r gwasanaethau hyn wedi cael eu defnyddio dros 47,000 o weithiau gan dros 20,000 o ddefnyddwyr unigryw ers iddynt gael eu lansio 2 flynedd yn ôl.
Tra bod y nifer helaeth o bobl wedi gofyn pryd mae eu treth yn ddyledus, mae rhai wedi gofyn rhai cwestiynau mwy anarferol, gan gynnwys:
- sut i gael gwm cnoi oddi ar soffa lledr?
- sut gallaf wneud cais am Love Island?
- wyt ti’n gwybod rysáit fegan dda am gyw iâr?
- ydy ceir coch yn gyflymach?
- pa amser mae cinio?
- a fydd hi’n bwrw glaw yn Ellesmere Port heddiw?
- beth oeddet ti’n meddwl o’r ffilm Bumblebee?
- sut allaf stopio fy nghydletywr rhag yfed fy llaeth?
- ble mae fy hosanau?
- ydy’r frech hon yn normal?
Dywedodd Prif Weithredwr DVLA Julie Lennard:
Rydym am i fodurwyr allu ddefnyddio ein gwasanaethau yn gyflym ac yn hawdd ac mae cynorthwywyr llais yn dod yn fwy-fwy poblogaidd. Tra bod rhai o’r cwestiynau y mae cwsmeriaid wedi gofyn i ni ychydig allan o’n hardal o arbenigedd, byddwn yn parhau i wneud ein gwasanaethau yn syml, gwell a diogel.
Mae bron i 98% o ryngweithiadau gyda DVLA nawr yn cael eu gwneud drwy ddefnyddio gwasanaethau digidol DVLA.
Gall unrhyw un sy’n dymuno rhoi cynnig ar yr Alexa Skill ei lawrlwytho, neu os oes ganddynt Google Home neu Google Assistant ar ei ffôn neu lechen gallent ofyn iddo “Talk to DVLA” neu “Ask DVLA”.
Nodiadau i olygyddion
Mae’r Google Assistant ac Amazon Alexa Skill yn galluogi cwsmeriaid i gadarnhau manylion am eu cerbyd yn yr un modd ag y gallent drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth Ymholiad Cerbyd ar GOV.UK.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
E-bost press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407