Datganiad i'r wasg

Y Farwnes Jenny Randerson: “Mae Dylan Thomas yn llysgennad diwylliannol gwych i Gymru.”

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru’n dathlu’r awduron blaenllaw sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Pictured with Baroness Randerson (left to right): Joshua Ferris, Kseniya Melnik, Naomi Wood and Kei Miller.

Mae saith darn o waith cyffrous ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dylan Thomas, ac roedd y Farwnes Randerson yn falch iawn o gwrdd â rhai o’r awduron mewn derbyniad yn Swyddfa Cymru, Llundain.

Daw’r awduron rhyngwladol o fri sydd ar y rhestr fer o wahanol gefndiroedd: Cymru, Lloegr, Iwerddon, Jamaica, yr Unol Daleithiau, Rwsia a Seland Newydd.

Roedd Joshua Ferris, Naomi Wood, Kseniya Melnik a Kei Miller yn falch o gwrdd â’r Gweinidog cyn rhaglen o ddigwyddiadau y bydd yr awduron o dan sylw’n bresennol ar eu cyfer, yn Llundain ac yng Nghymru, yn ystod y cyfnod cyn y seremoni wobrwyo ar 6 Tachwedd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson:

Rwy’n falch o fod wedi cwrdd â rhai o’r awduron sydd ar y rhestr fer cyn seremoni wobrwyo Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, a gynhelir eleni ar ganmlwyddiant ei enedigaeth.

Mae Dylan Thomas yn llysgennad diwylliannol gwych i Gymru, a dros hanner can mlynedd ar ôl ei farwolaeth, mae’n dal i fod yn un o awduron mwyaf cyffrous a gwreiddiol yr ugeinfed ganrif.

Mae’r ffaith fod Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn dal i ddathlu a meithrin awduron heddiw’n dangos pa mor bwysig yw e o hyd, gan mlynedd ers ei enedigaeth.

Dywedodd yr Athro John Spurr, Pennaeth Coleg y Celfyddydau a Dyniaethau, Prifysgol Abertawe:

Mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas a’i phrif noddwr, Prifysgol Abertawe, yn falch bod y Farwnes Randerson wedi croesawu’r beirdd a’r awduron sydd ar y rhestr fer i Swyddfa Cymru.

Bydd yr awduron yn treulio’r wythnos yn Abertawe, ble cafodd Dylan Thomas ei eni, yn cwrdd â myfyrwyr a’r gymuned, yn gweld ble cafodd Dylan ei eni gan mlynedd yn ôl ac yn ystyried ei waddol.

Cyflwynir y wobr mewn seremoni ddisglair yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 6 Tachwedd.

Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, a lansiwyd yn 2006 ac a gynhelir yn flynyddol, yw un o’r gwobrau mwyaf mawreddog ar gyfer awduron ifanc, gyda’r nod o annog doniau creadigol crai ledled y byd. Mae’n dathlu ac yn meithrin rhagoriaeth lenyddol ryngwladol.

Dyfernir y wobr o £30,000 i’r darn llenyddol gorau sydd wedi’i gyhoeddi neu ei gynhyrchu yn y Saesneg, ac sydd wedi’i ysgrifennu gan awdur 39 oed neu iau.

Dywedodd Peter Stead, Sylfaenydd a Llywydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas:

Dylan Thomas oedd y bardd a aned yn Abertawe, a llwyddodd ei berfformiadau a’i eiriau hudolus i goncro Llundain a Gogledd America, gan sicrhau ei le fel un o awduron mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif.

Mae’r wobr, a sefydlwyd yn ei enw, wedi dal dychymyg awduron yn rhyngwladol ac yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae deg ar hugain o awduron sydd wedi bod ar y rhestr fer, o bob cyfandir, wedi dod draw i Gymru i siarad â myfyrwyr a dosbarthiadau ysgrifennu.

Mae awduron o Gymru a Gogledd Iwerddon wedi ennill y wobr yn y gorffennol, yn ogystal ag awdur o Awstralia sydd o dras Fietnamaidd a thri Americanwr. Prifysgol Abertawe yw prif noddwr y wobr, ac mae’n falch o fod yn gysylltiedig â chystadleuaeth sy’n gwahodd ceisiadau gan awduron ifanc o bob cwr o’r byd.

Cyhoeddwyd ar 4 November 2014