Llywodraeth y DU yn sefydlu Bwrdd Masnach newydd i sicrhau bod manteision masnach rydd yn cael eu lledaenu i bob rhan o’r Undeb
Ysgrifennydd Cymru: Dyma’r amser gorau erioed i Gymru allforio dramor
- Ysgrifennydd Cymru yn ymuno â Llywydd y Bwrdd Masnach, Dr Liam Fox, yng nghyfarfod cyntaf y Bwrdd Masnach newydd heddiw ym Mryste
- Cynrychiolwyr o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf
- Cynghorwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn bresennol, ac yn darparu gwybodaeth arbenigol leol i roi arweiniad i’r Bwrdd ar faterion masnach a buddsoddi
Heddiw (12 Hydref) bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yng nghyfarfod y Bwrdd Masnach newydd a sefydlwyd er mwyn helpu i hybu allforion, denu mewnfuddsoddwyr a sicrhau bod manteision masnach rydd yn cael eu lledaenu’n gyfartal ar draws y wlad.
Yna bydd y Bwrdd Masnach newydd yn dod â phobl sydd wedi gwneud enw iddynt eu hunain ym myd busnes a gwleidyddiaeth, o bob rhan o’r DU, at ei gilydd i ddarparu gwybodaeth arbenigol leol a rhoi arweiniad i’r Bwrdd ar faterion masnach a buddsoddi.
Bydd dau gynghorydd busnes o Gymru, sy’n arbenigwyr yn y maes, yn ymuno ag Alun Cairns, sef yr Arglwydd Rowe Beddoe a Heather Stevens CBE.
Mae’r Arglwydd Rowe Beddoe wedi cael gyrfa arbennig ym myd busnes ar lefel ryngwladol ac mae ganddo ddegawdau o brofiad ar ôl treulio blynyddoedd fel Cadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru a Maes Awyr Caerdydd.
Roedd Heather Stevens CBE yn rhan o’r tîm bach a sefydlodd grŵp yswiriant Admiral yng Nghaerdydd yn 1993. Ers ei sefydlu mae Admiral wedi tyfu i fod yn un o’r cyflogwyr sector preifat mwyaf yng Nghymru â throsiant o dros £2bn. Hi hefyd yw cadeirydd presennol, ac un o aelodau cyntaf, The Waterloo Foundation, sefydliad dyrannu grantiau annibynnol, sy’n ymwneud yn bennaf â phrosiectau sy’n cynnig cymorth byd-eang, er enghraifft prosiectau sy’n cefnogi datblygiad plant ac yn diogelu’r amgylchedd.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:
Bob diwrnod, ym mhob gwlad yn y byd, mae cyfleoedd busnes i gynnyrch a gwasanaethau cwmnïau o Gymru. Ond gwyddom fod mentro i farchnadoedd newydd ac anghyfarwydd yn gallu bod yn frawychus – yn enwedig y dyddiau hyn wrth i’r DU baratoi i adael yr UE.
Bydd y Bwrdd Masnach yn cysylltu â phob rhan o’r DU ynglŷn â’n hagenda masnach a buddsoddi fyd-eang ac yn ceisio dangos mai dyma’r amser gorau erioed i gwmnïau o Gymru allforio dramor.
Rwy’n falch iawn y bydd yr Arglwydd Rowe Beddoe a Heather Stevens yn ymuno â mi yn yr ymdrech hon. Gyda’n gilydd, byddwn yn llais cryf i Gymru wrth i ni geisio helpu rhagor o fusnesau ym mhob cwr o’r wlad i ddatblygu eu brand dramor ac annog mwy o fewnfuddsoddiad i’r wlad.
Mae Cymru eisoes yn wlad sy’n allforio. Ar hyn o bryd mae dros 3,800 o fusnesau yng Nghymru sy’n allforio, â gwerth cyfunol o £13 biliwn yn chwarter cyntaf 2017. Mae Cymru hefyd yn lle deniadol ar gyfer mewnfuddsoddiad, ac mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 85 o brosiectau buddsoddiad uniongyrchol o dramor wedi’u sicrhau yng Nghymru, gan greu 2,581 o swyddi newydd a diogelu bron i 9,000 yn rhagor.
I nodi bod y Bwrdd Masnach yn ailymgynnull, bydd Mr Cairns yn ymweld â busnes Concrete Canvas ym Mhontypridd sy’n dathlu blwyddyn arall o gynnydd cyson mewn allforion, ag 85 y cant o’r trosiant yn deillio’n uniongyrchol o allforion. (Gweler yr astudiaeth achos isod). Mae’r cwmni wedi elwa o gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i gael mynediad i farchnadoedd rhyngwladol newydd, ac mae bellach yn edrych ar gyfleoedd i allforio i Rwsia, Kazakhstan, Azerbaijan a gwledydd eraill yn y rhanbarth.
Dywedodd Darren Hughes, Rheolwr Datblygu Busnes Rhyngwladol Concrete Canvas:
Pan wnaethon ni ddechrau allforio, fe gawson ni gefnogaeth amhrisiadwy gan yr Adran Masnach Ryngwladol - cyngor penodol ynglŷn â’r farchnad a chyllid ar gyfer teithiau masnach a phrosiectau yn y farchnad. Roedd cael ymweld â’r marchnadoedd roedden ni’n eu targedu, a chyfarfod cysylltiadau lleol tra roedden ni yno, yn fuddiol iawn.
Rhoddodd yr Adran Masnach Ryngwladol gyngor pwysig i ni ynglŷn ag ymuno â marchnadoedd newydd a’r risgiau posibl, gan ein helpu i gynyddu ein ffrydiau refeniw, a diogelu ein heiddo deallusol yr un pryd, sef sylfaen ein busnes.
Bydd y Bwrdd Masnach yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn a bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn gwahanol rannau o’r DU bob tro fel bod pob rhan o’r DU yn cael cyfle i godi’r materion sydd fwyaf pwysig iddyn nhw.
Cynhelir y cyfarfod cyntaf heddiw yn Labordy Roboteg Bryste. Y labordy hwn, lle mae dros 200 o academyddion, ymchwilwyr ac ymarferwyr mewn diwydiant yn dod at ei gilydd, yw’r ganolfan academaidd fwyaf cynhwysfawr ar gyfer ymchwil roboteg amlddisgyblaethol yn y DU, ac mae’n arwain ymdrechion Prydain i fod ar flaen y gad yn fyd-eang ym maes roboteg uwch fodern.
Bydd agenda’r cyfarfod yn cynnwys cyflwyniad gan Faes Awyr Bryste ar Fynediad at Drafnidiaeth Ranbarthol, maes a fydd yn allweddol wrth hybu allforion y DU yn y dyfodol i bob rhan o’r DU.
Bydd y Llywydd hefyd yn gwahodd trafodaeth ynglŷn â sut y bydd y Bwrdd yn hybu diwylliant o allforio a buddsoddi ar hyd a lled y DU ac yn dathlu busnesau gorau Prydain sydd eisoes yn creu swyddi ac yn hybu ffyniant o ganlyniad i’w hagwedd ryngwladol.
Astudiaeth Achos
Concrete Canvas
Mae Concrete Canvas, busnes sydd wedi’i leoli yng Nghymru, yn dathlu blwyddyn arall o gynnydd cyson mewn allforion, ag 85 y cant o’r trosiant yn deillio’n uniongyrchol o allforion.
Sefydlwyd Concrete Canvas gan Peter Brewin a Will Crawford, ac mae’r cwmni’n gwneud cynnyrch arloesol amrywiol gan ddefnyddio technegau adeiladu gwahanol i’r rhai traddodiadol. Ffabrig concrid trwythedig hyblyg yw’r deunydd. Mae’n caledu pan ychwanegir dŵr ato ac yn ffurfio haen denau ond gwydn o goncrid, sy’n dal dŵr ac sy’n gallu gwrthsefyll tân. Dyfeisiodd y ddau eu deunydd technoleg unigryw tra’n astudio cwrs Arloesi, Dylunio a Pheirianneg y Coleg Imperial a’r Coleg Celf Brenhinol.
Eu cysyniad cyntaf oedd lloches o gynfas goncrid - lloches galed y gellid ei hadeiladu’n gyflym gan ddefnyddio dim ond aer a dŵr. Yn y bôn, “adeilad mewn bag” yw’r lloches. Enillodd y cynnyrch hwn nifer o wobrau, gan gynnwys gwobr Saatchi a Saatchi am Syniadau sy’n Newid y Byd. Edrychwyd ar fideo byr National Geographic am y cynnyrch dros 10 miliwn o weithiau a chafodd y cynnyrch lawer iawn o sylw ar hyd a lled y byd.
Er bod y farchnad gartref yn bwysig iawn er mwyn profi’r model busnes a sicrhau twf yn nyddiau cynnar y cwmni, canfuwyd yn fuan y gallai marchnadoedd rhyngwladol gynnig llawer iawn o gyfleoedd a bod yn allweddol i lwyddiant hirdymor y busnes. Yn y chwe blynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi bod ar nifer o deithiau masnach, a phrosiectau OMIS ac ITO, i Dde-ddwyrain Asia, Ynysoedd y De, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, a chanlyniad hynny yw’r rhwydwaith dosbarthu cryf sydd gan Concrete Canvas bellach fel ei brif lwybr i’r farchnad.
Erbyn hyn mae’r cwmni wedi allforio i 85 o wledydd ar hyd a lled y byd, ac mae wedi gweld twf cyson, mewn digidau dwbl, y naill flwyddyn ar ôl y llall. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd 85 y cant o’r trosiant yn dod o allforion.
Bellach mae Concrete Canvas yn ystyried archwilio cyfleoedd i allforio i Rwsia, Kazakhstan, Azerbaijan a gwledydd eraill yn y rhanbarth. Aeth y cwmni ar daith fasnach i Kazakhstan yn ddiweddar, â chefnogaeth gan yr Adran Masnach Ryngwladol. Roedd Cynghorwyr Masnach Ryngwladol yr Adran Masnach Ryngwladol yn y wlad wrth law i roi cyngor arbenigol am ymchwil i’r farchnad ryngwladol, asesu cynnyrch a dod o hyd i bartneriaid lleol i weithio gyda nhw.
Mae’r cwmni wedi tyfu’n gyflym ac mae bellach yn cyflogi dros 40 o weithwyr. Mae 4 ohonynt wedi’u lleoli dramor mewn swyddfeydd hyb rhanbarthol yn Sydney, Kuala Lumpur, Durban a Brwsel.
Nodiadau i Olygyddion
Rhagor o wybodaeth
-
Mae aelodaeth o’r Bwrdd Masnach wedi’i chyfyngu i aelodau o’r Cyfrin Gyngor.
-
Yr unig aelod yw:
(i) Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach Ryngwladol a Llywydd y Bwrdd Masnach (Cadeirydd)
- Cynghorwyr y Bwrdd
(i) Ysgrifennydd Gwladol yr Alban
(ii) Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon
(iii) Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Lloegr (6)
(i) Patricia Hewitt – Cadeirydd ymadawol UK India Business Council
(ii) Andrew Mills – Prif Weithredwr Virtualstock
(iii) Collette Roche – Pennaeth Staff, Maes Awyr Manceinion
(iv) Marnie Millard – Prif Weithredwr Nichols PLC
(v) Iqbal Ahmed – Cadeirydd, Prif Weithredwr a Sylfaenydd Seamark Group
(vi) Edward Timpson – cyn Weinidog Gwladol dros Blant a Theuluoedd
Yr Alban (2)
(vii) Brian Wilson – cyn Weinidog Masnach
(viii) Ian Curle – Prif Weithredwr Edrington Group
Cymru (2)
(ix) Yr Arglwydd Rowe-Beddoe – cyn Gadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru
(x) Heather Stevens – Cadeirydd ac un o aelodau cyntaf The Waterloo Foundation
Gogledd Iwerddon (1)
(i) Mark Nodder (Prif Weithredwr Wrights Group)
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 October 2017 + show all updates
-
Translation added
-
First published.